1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac, ar ran yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r wythnos hon yn dathlu deng mlynedd a thrigain ers sefydlu'r gwasanaeth iechyd gwladol, wrth gwrs, ac rwy'n siŵr y gwnewch ichi ymuno â mi i ddathlu'r gwasanaeth a gwaith diflino gweithwyr iechyd proffesiynol, sydd, dros y blynyddoedd, wedi parhau i ddarparu'r canlyniadau gorau posibl i gleifion ledled y DU. Prif Weinidog, yng ngoleuni'r garreg filltir bwysig hon, a oes gennych chi gywilydd o fod yr unig arweinydd o wlad yn y DU erioed sydd wedi torri cyllideb y GIG?
A gaf i yn gyntaf dalu gair o deyrnged unwaith eto i ragflaenydd yr Aelod, y gwnes i groesi cleddyfau ag ef am saith mlynedd, rwy'n credu, yn y Siambr hon? Aeth yr amser yn gyflym iawn, rwy'n amau, ond a gaf i ddymuno'r gorau iddo ar gyfer y dyfodol hefyd, a chroesawu'r Aelod dros Preseli Sir Benfro yn ôl i'r swydd yr oedd ynddi yn ôl yn 2011 am gyfnod byr o amser?
A gaf i ei sicrhau ein bod ni'n falch iawn o'r hanes sydd gennym ni o ran y GIG? Ni yw'r blaid a sefydlodd y GIG. Rydym ni'n gwario mwy y pen ar iechyd nag y mae Lloegr. Rydym ni'n gwario mwy ar iechyd a gofal cymdeithasol o lawer iawn nag y mae Lloegr. Ac os yw'n awgrymu i mi rywsut bod pethau'n well o dan ei Lywodraeth ef yn Llundain, hoffwn ailadrodd yn syml iddo arwydd a welais, a gafodd effaith arnaf i, yn Nhredegar ddydd Sul, a dyma fe: 'Mae gennym ni gerflun i Aneurin Bevan; ni fydd gennym ni fyth gerflun i Jeremy Hunt.'
Wel, wrth gwrs, dyma ni eto—y Prif Weinidog, eisiau siarad am Loegr. Nid yw eisiau siarad am Gymru. Chi yw Prif Weinidog Cymru. Nawr, wrth gwrs, efallai nad yw'r Prif Weinidog sydd ar fin gadael eisiau siarad am ariannu'r GIG yng Nghymru, ond o leiaf mae'r Prif Weinidog newydd yn dechrau derbyn camgymeriadau ei blaid yn y gorffennol. Dim ond yr wythnos diwethaf, yng nghynhadledd CLlLC yn Llandudno, fe'i gwnaed yn eglur gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod yn gamgymeriad torri'r gyllideb iechyd yn 2011, pan ddywedodd—a dyfynnaf:
Ni wnaeth y setliad cyllideb arian gwastad weithio.
Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno ag ef?
Yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod ni wedi rhoi adnoddau enfawr i mewn i'r gwasanaeth iechyd ers blynyddoedd lawer iawn erbyn hyn. Mae'n gwbl briodol i ni dynnu sylw at yr hyn y byddai ef—ei blaid—yn ei wneud pe bydden nhw mewn Llywodraeth yng Nghymru, gan ein bod ni wedi gweld yr enghraifft o'r hyn y maen nhw wedi ei wneud yn Lloegr: blaenoriaethu torfol, loteri cod post—[Torri ar draws.] Ie, gwn ei fod yn brifo, ond mae'n rhaid i chi wrando. Loteri cod post o driniaeth, blaenoriaethu, toriadau i wariant iechyd mewn termau real, peidio â gwario gymaint ar iechyd ag yr ydym ni yng Nghymru, toriadau anferth i wasanaethau cymdeithasol. Pe bydden nhw'n siarad â'u cydweithwyr—eu cydweithwyr yn eu plaid eu hunain—mewn llywodraeth leol yn Lloegr, byddwn yn gweld ganddyn nhw, ac yn clywed ganddyn nhw, effaith ddinistriol toriadau ei blaid ef yn Lloegr a diolch byth—diolch byth—rydym ni wedi gallu eu hatal yng Nghymru. Un peth yr wyf i'n ei gofio: rydym ni, dros yr wyth mlynedd diwethaf a mwy yn y Siambr hon, wedi gorfod dioddef effeithiau cyni cyllidol a orfodwyd ar bobl Cymru gan ei blaid ef ei hun. Byddwn yn derbyn ei feirniadaeth yn fwy ffafriol efallai pe byddai'n sefyll ar ei draed heddiw ac yn mynnu bod ei Brif Weinidog ei hun a'r hyn sy'n weddill o'i Llywodraeth yn rhoi terfyn ar gyni cyllidol yn y DU.
Wel, nid wyf i'n mynd i gymryd unrhyw bregethau ar wariant gan y Prif Weinidog nac, yn wir, y Blaid Lafur. Y Blaid Lafur a adawodd ddiffyg o £150 biliwn yn ôl yn 2010—[Torri ar draws.]—ac rydym ni i gyd yn cofio—[Torri ar draws.] Rydym ni i gyd yn cofio cyn-brif Ysgrifennydd y Trysorlys Llafur, Liam Byrne, a ddywedodd nad oedd unrhyw arian ar ôl. Bu'n rhaid i'r blaid hon glirio'r llanastr hwnnw. [Torri ar draws.] Prif Weinidog—
Rwy'n credu bod angen i ni i gyd ymdawelu ychydig a gwrando ar Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae effeithiau'r toriadau yn ôl yn 2011 yn dal i gael eu teimlo gan gymunedau ledled Cymru heddiw. Mae atal cyllid GIG hanfodol yn y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd yn cael ei roi mewn mesurau arbennig, canoli ac israddio gwasanaethau ac ysbytai fel Llwynhelyg yn y gorllewin, yn fy etholaeth i, byrddau iechyd mewn trafferthion ac, mewn rhai achosion, ddim yn gallu mantoli eu cyllidebau. Mae cyfraddau boddhad gydag amseroedd aros wedi gostwng, yn ôl arolwg eich Llywodraeth eich hun, ac mae miloedd o bobl ledled Cymru yn dal i gael trafferth i gael gweld eu meddygon teulu. Prif Weinidog, mae Llywodraeth y DU wedi addo hwb ariannol o £1.2 biliwn i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn—[Torri ar draws.]—dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bob blwyddyn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. A wnewch chi ymrwymo nawr i wario pob ceiniog o'r cyllid hwnnw ar y GIG yng Nghymru a rhoi'r anrheg pen-blwydd y mae'n ei haeddu gymaint i wasanaeth iechyd Cymru?
Wel, mae'n fwy bywiog nag yr wyf i wedi ei weld ef yn ystod yr 11 mlynedd diwethaf yn y Siambr hon. Nid oes angen iddo gael clyweliad ar gyfer y swydd; does neb arall ei heisiau hi, yn y pen draw. [Chwerthin.] Ond gadewch i mi ddweud hyn wrtho: unwaith eto, mae eisiau osgoi'r cyni cyllidol y mae ei blaid ei hun wedi ei orfodi ar bobl Prydain. Oherwydd cyni cyllidol y ydym ni'n canfod ein hunain yn y sefyllfa lle byddem ni'n dymuno gwario mwy o arian, mwy o adnoddau ym maes iechyd a meysydd eraill ond nad ydym yn gallu gwneud hynny. Unwaith eto, ar ôl cael y gwahoddiad heddiw i sefyll ar ei draed a galw am derfyn ar gyni cyllidol, mae wedi methu. Ni allaf ddweud 'unwaith eto' oherwydd dyma'r tro cyntaf y mae wedi ei wneud, ond mae wedi siomi pobl Cymru o ran yr hyn y mae wedi ei wneud.
Unwaith eto, mae'n lledaenu'r chwedl hon—mae'n lledaenu'r chwedl hon am swm canlyniadol o £1.2 biliwn. Nid yw hynny'n wir. Gadewch i mi esbonio pam nad yw'n wir. Yr hyn a fydd yn digwydd yw, bydd y swm canlyniadol yn dod, ac yna bydd toriadau mewn meysydd eraill. Ni fydd £1.2 biliwn. Bydd yn llawer llai na hynny. Rydym ni'n gwybod hynny gan mai dyna sydd wedi digwydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Felly, yr hyn y byddwn yn ei ganfod yw efallai'n wir y bydd swm canlyniadol, ond bydd yn llai o lawer nag £1.2 biliwn, gan fod ei blaid yn mynd i wneud yn siŵr o hynny. Mae ei blaid yn mynd i wneud yn siŵr y bydd yn gwneud toriadau mewn llywodraeth leol, bydd yn gwneud toriadau mewn meysydd datganoledig eraill, a bydd yn trosglwyddo'r toriadau hynny i ni ac yn gostwng y ffigur hwnnw o £1.2 biliwn i lawr i rywbeth llawer, llawer llai. Felly, gadewch i ni weld, os yw ef eisiau bod yn arweinydd ei blaid, pa un a wnaiff ef ddweud heddiw y bydd yn mynnu wrth ei blaid yn Llundain y dylem ni gael £1.2 biliwn llawn a mwy, yn union fel y rhoddasant £1 biliwn i wyth o Aelodau Seneddol o blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Er bod y GIG yn ddeg a thrigain oed, mae'n dal i fod y peth gorau a ddyfeisiwyd gan Gymru, ac i'r staff, wrth gwrs, y mae arnom ni'r diolch mwyaf. Felly, rwy'n sicr fy mod i'n siarad ar ran pawb yma pan ddywedaf 'diolch o galon i chi i gyd' ar ran bob un ohonom ni.
Nawr, mae poblogaeth Cymru sy'n heneiddio yn golygu nad yw gwasanaethau gofal yn gallu ymdopi â'r pwysau sydd arnyn nhw, sy'n arwain at filoedd o atgyfeiriadau diangen i'r GIG. Mae yn eich rhodd, Prif Weinidog, i greu'r gwasanaeth gofal gwladol y mae Plaid Cymru wedi dadlau o'i blaid ers cryn amser bellach, i leddfu'r pwysau hynny. A wnewch chi hynny?
Wel, nid yw'n eglur beth fyddai gwasanaeth gofal gwladol yn ei wneud. Mae'n iawn i ddweud bod gwaith i'w wneud o hyd i gyfochri ymhellach gwaith gwasanaethau cymdeithasol gydag iechyd. Rydym ni'n gwybod na ellir ysgaru'r ddau. Mae'r ddau yn sicr yn rhedeg law yn llaw. A dyna'r ydym ni'n ei wneud, gweithio gyda'n cydweithwyr llywodraeth leol, i wneud yn siŵr bod llai o bobl sy'n cael eu hoedi yn yr ysbyty—rydym ni'n gweld nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn gostwng—a hefyd, wrth gwrs, yn gweithio gyda darparwyr gofal sylfaenol i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu darparu'r gofal sydd ei angen ar bobl er mwyn iddynt allu osgoi mynd i'r ysbyty yn y lle cyntaf.
Nid yw'n digwydd yn ddigon cyflym, Prif Weinidog, a dyna pam yr ydym ni wedi argymell y gwasanaeth gofal gwladol hwn. Mae angen newidiadau beiddgar i'n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i adlewyrchu'r ddemograffeg newidiol yn y wlad hon. Arweiniodd gweledigaeth feiddgar Bevan at greu'r GIG, ac mae angen gweledigaeth feiddgar debyg nawr ar gyfer gwasanaeth gofal gwladol. Gallwn ni i gyd gytuno bod y GIG yn sefydliad o Gymru sy'n destun eiddigedd y byd, ond mae lle Cymru yn y byd yn ei roi o dan fygythiad. Yn wahanol i'r addewidion ar ochr y bws coch mawr enwog, mae perygl Brexit i'r GIG wedi dod yn gwbl amlwg yr wythnos hon. Cadarnhaodd prif swyddog gweithredol GIG Lloegr, Simon Stevens, bod cynllunio helaeth yn cael ei wneud ar gyfer Brexit 'dim cytundeb'. Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni'n union pa waith cynllunio sydd wedi bod yn cael ei wneud yma yng Nghymru yn GIG Cymru ar gyfer sefyllfa Brexit 'dim cytundeb'?
Ni fydd unrhyw faint o gynllunio yn ein helpu ni i recriwtio meddygon mewn achos o Brexit 'dim cytundeb'. Mae'n drychineb. A dweud y gwir, dywedwyd wrth bobl ddwy flynedd yn ôl na fyddai'n digwydd. Nawr, maen nhw'n cael eu paratoi ar gyfer Brexit 'dim cytundeb' a fydd yn arwain at lawer o bethau, ac mae hi'n iawn i dynnu sylw at hyn. Yr hyn y byddai'n ei olygu yw y byddai'n llawer mwy anodd denu meddygon a nyrsys i'n system iechyd. Mae pob un gwasanaeth iechyd yn y byd gorllewinol yn dibynnu ar staff meddygol o wledydd eraill, gan eu bod nhw eisiau gallu denu'r gorau, o ble bynnag y maen nhw'n dod. Y neges sy'n cael ei anfon allan gan Brydain ar hyn o bryd yw: nid oes croeso i feddygon a nyrsys o wledydd eraill yma; nad dyma'r wlad i ddod iddi, rywsut; mae'n ormod o drafferth i ddod iddi; mae gormod o fiwrocratiaeth yn y dyfodol. Nid dyna yr ydym ni ei eisiau. Ni ellir cynllunio ar gyfer Brexit 'dim cytundeb', oherwydd os na allwn ni ddenu meddygon a nyrsys o wledydd eraill, ni fyddwn yn denu'r niferoedd sydd eu hangen arnom ni yng Nghymru. Dyna pam yr ydym ni'n parhau i ymladd, fel y mae hithau, dros Brexit sy'n synhwyrol ac sy'n gwneud yn siŵr nad yw pobl Cymru yn dioddef.
Rwy'n bryderus iawn nad oes gennych chi gynllun wrth gefn ar gyfer Brexit 'dim cytundeb', Prif Weinidog. Maen nhw'n cynllunio ar gyfer hyn yn Lloegr. Dylech chi fod yn cynllunio ar gyfer hyn yma yng Nghymru. Nawr, rwy'n gwybod bod y ddau ohonom ni eisiau gweld ein GIG yn dod trwy waethaf storm Brexit. Rydych chi mewn sefyllfa i wneud rhywbeth yn ei gylch, fodd bynnag. Nid oes gen i unrhyw ffydd yn San Steffan i sicrhau llaw gadarn ar y llyw. Mae angen cynllunio ar gyfer dim cytundeb, ac mae angen i'r cynllunio hwnnw ddechrau nawr, er lles cleifion ac ar gyfer staff.
Mae un o'r pethau mwyaf syfrdanol a ddatgelwyd yn ymwneud â'n mynediad at feddyginiaethau, ar ôl Brexit. Caiff 37 miliwn o becynnau meddyginiaethau i gleifion eu mewnforio i'r DU o'r UE bob un mis. Nawr, mewn sefyllfa 'dim cytundeb', nid oes unrhyw sicrwydd ynghylch yr un o'r pecynnau hynny. Nid yw rheoleiddio meddyginiaethau yn fater datganoledig, ac mae GIG Lloegr wedi cadarnhau eu bod nhw'n paratoi i bentyrru meddyginiaethau a gynhyrchir y tu allan i'r DU ar gyfer cleifion yn Lloegr. Dyna mae cynllunio yn ei wneud.
Prif Weinidog, a oes cynlluniau wrth gefn penodol i Gymru, neu a ydych chi'n mynd i'w gadael i'r adran iechyd yn Whitehall sicrhau y gall cleifion Cymru gael gafael ar y triniaethau sydd eu hangen arnynt ar ôl Brexit?
Byddwn, byddwn yn gwneud yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud er mwyn darparu ar gyfer y sefyllfa honno, ond gadewch i ni beidio ag esgus yma bod dim o hyn yn dda. Mae hi'n gwneud y pwynt bod cynllunio ar gyfer Brexit 'dim cytundeb'. Nid oes unrhyw gynllunio ar gyfer Brexit 'dim cytundeb'. Mae'n debycach i bobl yn rhedeg o amgylch mewn cylchoedd yn sgrechian. Nid oes unrhyw gynlluniau o gwbl ar ei gyfer. Gadewch i ni edrych, er enghraifft, ar y porthladdoedd. Ble mae'r cynlluniau i gyflwyno'r strwythur yn y porthladdoedd i ymdrin ag archwiliadau tollau ychwanegol, rheolaethau ffin ychwanegol o bosibl, ciwiau o lorïau a fyddai'n cael eu creu o ganlyniad, a'r parcio a fyddai'n cael ei greu o ganlyniad i hynny? Dim byd. Nid oes unrhyw gynllunio ar ei gyfer. Y rheswm pam nad oes unrhyw gynllunio wedi ei wneud ar Brexit 'dim cytundeb' yn Whitehall yw oherwydd eu bod nhw wedi argyhoeddi eu hunain y byddai'r UE yn ildio ac felly y byddai cytundeb. Byddai'n fethiant llwyr ar ran y Brexiteers pe bydden nhw, ar ôl addo i bobl Prydain yn 2016 y byddai cytundeb y byddai'r UE yn cytuno iddo, yn torri'r addewid hwnnw wedyn ddwy flynedd yn ddiweddarach. Byddai ganddyn nhw waith esbonio i'w wneud i bobl Prydain.
Arweinydd grŵp UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rhoddodd fy holl ranbarth a'i gymunedau ochenaid o ryddhad pan dorrodd y newyddion am y fargen yn cael ei tharo rhwng Tata a ThyssenKrupp. Daeth â blynyddoedd o ansicrwydd i weithwyr ym Mhort Talbot a Glannau Dyfrdwy i ben. Felly, bydd gwaith Port Talbot yn cael trwsio un o'i ffwrneisi chwyth, gan helpu i sicrhau swyddi'r miloedd o weithwyr tan 2026. Fodd bynnag, nodaf o'r cyhoeddiad mai dim ond uchelgais i osgoi diswyddiadau gorfodol tan hynny sydd gan y cwmni. Felly, mae'n amlwg bod y sector yn dal i fod angen cymorth sylweddol os yw'n mynd i lwyddo. Prif Weinidog, pa gymorth ychwanegol mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w gynnig i'r sector dur yng Nghymru yn gyffredinol, ac i waith Port Talbot yn benodol?
Y pecyn gwerth £60 miliwn yr ydym ni eisoes wedi cyfeirio ato yn y Siambr hon a'r tu allan. Nid yw Llywodraeth y DU wedi cynnig dim. Ni fu unrhyw ddiddordeb o gwbl gan Lywodraeth y DU yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd diddordeb—pan oedd David Cameron yno, roedd diddordeb, ac rwy'n cydnabod hynny. Ers hynny, dim byd.
Rwyf i yn croesawu'r cytundeb, fodd bynnag. Mae'r undebau wedi ei groesawu hefyd. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gofio bod gennym ni'r sicrwydd o ddim diswyddiadau gorfodol tan 2026. Mae gennym ni hefyd, wrth gwrs, yr addewidion ynghylch ffwrnais chwyth rhif 5. Ddwy flynedd yn ôl, roedd pethau yn llwm dros ben. Roedd marc cwestiwn gwirioneddol ynghylch pa un a allai pen trwm Port Talbot barhau yn y dyfodol. Roedd y gwaith ar werth. Rydym ni wedi dod ymhell iawn ers hynny. Mae rhan o hynny oherwydd y gwaith yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth—yr arian yr ydym ni wedi ei roi ar y bwrdd, y trafodaethau a gynhaliwyd, yr ymgysylltu yr ydym ni wedi ei gael gyda Tata. Ac yn y ddwy flynedd ers 2016, pan oedd pethau'n edrych yn anodd dros ben, mae gennym ni erbyn hyn—gadewch i ni beidio ag esgus bod pethau allan o berygl eto, ond mae gennym ni ein diwydiant dur mewn sefyllfa gryfach o lawer erbyn hyn nag yr oedd bryd hynny.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn wir, mae gan Lywodraeth y DU lawer mwy i'w wneud ar gyfer y sector hwn. Ceir strategaeth i ddefnyddio 3 miliwn tunnell o ddur yn y pum mlynedd nesaf ar brosiectau seilwaith fel HS2, Hinkley C ac uwchraddio traffyrdd y DU, ond nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell, oherwydd dylai pob un prosiect seilwaith fod yn defnyddio dur y DU, a dylai pob prosiect amddiffyn fod yn defnyddio dur Cymru a'r DU. A dylai pob prosiect sy'n cael ei ariannu a'i gefnogi yn gyhoeddus fod yn defnyddio dur y DU hefyd. Felly, a yw eich Llywodraeth chi wedi awgrymu hyn yn eich trafodaethau gyda Llywodraeth y DU? Ni allwn fforddio colli ein diwydiant dur oherwydd diffyg gweledigaeth polisi'r Llywodraeth. Mae o bwysigrwydd strategol i'n cenedl ein bod ni'n cynnal gwaith cynhyrchu dur yma yn y DU, sy'n golygu yma yng Nghymru. Prif Weinidog, a yw eich Llywodraeth yn ystyried ffyrdd eraill o gefnogi'r sector yng Nghymru, gan edrych ar forlyn llanw ym Mhort Talbot efallai, a fydd yn helpu i leihau costau ynni i'r gwaith?
Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ofalus yn y fan yma, oherwydd mae'r diwydiant dur, fel diwydiannau eraill, yn dibynnu ar farchnad allforio. Os byddwn ni'n dweud mewn gwirionedd wrth wledydd eraill, 'Dim ond dur o Brydain y caniateir iddo gael ei ddefnyddio ym Mhrydain', byddan nhw'n dweud,' 'Iawn—chewch chi ddim ymuno â'n marchnadoedd ni ychwaith.' Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud.
Yr hyn y mae angen i ni ei wneud, wrth gwrs, yw gwneud yn siŵr bod ein polisi caffael mor gryf ag y gall fod, cyn belled ag y mae defnyddio dur Cymru yn y cwestiwn. Mae angen i ni wneud yn siŵr hefyd, wrth gwrs, ein bod ni'n cynorthwyo'r diwydiant i gryfhau o ran allforio. Yn sicr, mae swm bach ond arwyddocaol o ddur yn cael ei allforio i'r Unol Daleithiau, lle mae'r tariffau bellach wedi ei gwneud hi nid yn anodd i ddur Cymru ar y cyfryw, ond yn fwy drud i'w prynwyr yn yr Unol Daleithiau. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn yn y fan yma o ddweud mai dim ond dur o Brydain sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau ym Mhrydain, gan y bydd gwledydd eraill yn cymryd yr un agwedd wedyn, ac mae'n rhaid i ni fod yn ofalus i beidio â gwahanu ein hunain o'r farchnad allforio.
Diolch, Prif Weinidog. Er bod y diwydiant dur o bwysigrwydd cenedlaethol a strategol, ni allwn anwybyddu'r effaith y mae'n ei gael ar ein hamgylchedd. A minnau'n byw yng nghysgod gwaith Port Talbot, rwy'n gweld yn feunyddiol yr effaith y mae'r gwaith dur yn ei chael ar yr amgylchedd, wrth i blu enfawr o fwg oren pigog gael eu rhyddhau i'r aer yr ydym ni'n ei anadlu a haenau trwchus o lwch yn gorchuddio popeth o'n ceir i'n ffenestri. Felly, nid yw'n syndod bod Port Talbot wedi ei nodi yn un o'r trefi mwyaf llygredig yn y DU. Nid yw cynddrwg ag yr oedd ar un adeg, gan fod dyddiau'r glaw asid wedi mynd. Fodd bynnag, mae'r effaith ar iechyd pobl yn bresennol o hyd ac yn dal i fod yn fygythiad. Felly, Prif Weinidog, pa gamau wnaiff eich Llywodraeth eu cymryd i sicrhau nad yw'r buddsoddiad hwnnw yn y gwaith yn dod ar draul bywydau pobl?
Wel, rwy'n credu, er tegwch i Tata, maen nhw'n sicr wedi gwella'r sefyllfa o ran allyriadau dros flynyddoedd lawer, gan gynnwys ystyried, wrth gwrs, ailddefnyddio'r nwy sy'n cael ei losgi ar gyfer ynni yn y gwaith. Yn anochel, lle ceir gwaith dur, bydd hwnnw'n cael effaith ar ansawdd aer, ond yr hyn sy'n allweddol, wrth gwrs, yw gwneud yn siŵr bod yr effaith honno yn cael ei chadw cyn lleied â phosibl dros y blynyddoedd.
Mae gan Bort Talbot hefyd, wrth gwrs, ddarn o draffordd lle ceir llawer o dagfeydd sydd ymhell islaw'r safon a fyddai'n cael ei adeiladu y dyddiau hyn, ac mae'n broblem nad yw'n hawdd ei datrys, gan y byddai'n cymryd swm sylweddol o arian i ddatrys y mater o edrych ar ateb sy'n gwbl gysylltiedig â'r ffordd yn unig ym Mhort Talbot. Ond rydym ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n gweithio gyda Tata—ac mae Tata wedi bod yn gwneud hyn beth bynnag dros y blynyddoedd—fel bod y gwaith dur yn lleihau ei allyriadau, ac mae wedi gwneud hynny fel y mae'r Aelod wedi ei gydnabod, ac i barhau'r duedd honno yn y dyfodol.