6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Deiseb P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

– Senedd Cymru am 3:19 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:19, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma, sef y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: 'Deiseb P-04-682: Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gynnig y cynnig. David Rowlands.

Cynnig NDM6814 David J. Rowlands

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Ddeisebau ar Deiseb P-04-682, 'Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Gorffennaf 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:19, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl bwysig hon ar ran y Pwyllgor Deisebau. Mae amgylchiadau'r ddeiseb a drafodwn heddiw wedi bod yn hynod o emosiynol i holl aelodau'r pwyllgor. Cyflwynwyd y ddeiseb gan deulu Peter Baldwin. Yn drasig iawn, bu farw Peter, a oedd yn 13 oed ac o Gaerdydd, ym mis Ionawr 2015 o effeithiau diabetes math 1 na wnaed diagnosis ohono.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:20, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Cyflwr awto-imiwn yw diabetes math 1 lle nad yw'r pancreas yn cynhyrchu inswlin. Mae'r corff angen inswlin er mwyn troi glwcos o fwyd yn egni a hebddo, mae'r glwcos yn aros yn llif y gwaed gan arwain at lefelau siwgr uchel yn y gwaed. Er bod diabetes math 1 yn gallu digwydd ar unrhyw oedran, yn fwyaf arferol gwneir diagnosis ohono mewn plant o dan 15 oed. Mae diabetes ar oddeutu 1,400 o blant yng Nghymru, ac mae'r mwyafrif helaeth ohonynt—tua 96 y cant—yn achosion o ddiabetes math 1.

Bydd rhai ohonom yn y Siambr hon heddiw yn gwybod y gall diabetes math 1 ddatblygu'n eithriadol o gyflym, a gall hynny fod yn eithriadol o beryglus. Yn anffodus, nid oes digon o ymwybyddiaeth o ddiabetes math 1 ac nid oes proffil cyhoeddus digon uchel i symptomau mwyaf cyffredin y cyflwr, a gwella adnabyddiaeth a diagnosis o ddiabetes math 1 yw prif fyrdwn y ddeiseb hon. Gan fod effeithiau diabetes math 1 heb ddiagnosis yn gallu bod yn angheuol, mae diagnosis cynnar o'r cyflwr yn gwbl hanfodol. Fodd bynnag, mae'n wir hefyd y gellir camgymryd y symptomau cyffredin yn rhwydd am gyflyrau eraill llai peryglus. Mae'r symptomau hynny—a elwir yn 4T—yn allweddol i'r ddadl hon y prynhawn yma, sef; tŷ bach—awydd i wneud dŵr yn amlach; teimlo'n sychedig; teimlo'n flinedig; teneuach. Ac oherwydd ei bod yn bosibl fod mwy o bobl yn gwrando ar y ddadl hon na'r rhai sydd yn y Siambr, hoffwn ailadrodd y 4T: tŷ bach—awydd i wneud dŵr yn amlach; teimlo'n sychedig; teimlo'n flinedig; teneuach. O ystyried y byddem yn gobeithio y byddai gennym gynulleidfa ehangach na'r un sydd gennym yn y Siambr, rwyf am ailadrodd y pwyntiau hynny eto: tŷ bach—awydd i wneud dŵr yn amlach; teimlo'n sychedig; teimlo'n flinedig; teneuach.

Oherwydd yr anawsterau i wneud diagnosis o ddiabetes math 1, ac oherwydd ei fod yn gyflwr cymharol anghyffredin, ni wneir diagnosis o oddeutu chwarter yr achosion hyd nes y bydd y claf mewn cetoasidosis diabetig—mae'n ddrwg gennyf os nad wyf yn ynganu hwnnw'n gywir—neu fe'i gelwir yn fwy cyfarwydd yn DKA. Yn drasig, dyma'r sefyllfa a wynebodd Peter a'i deulu. Rhoddwyd diagnosis o ddiabetes math 1 a DKA yn y fan ar lle i Peter gan barafeddyg ymateb cyflym a oedd wedi defnyddio prawf gwaed pigo bys, a hynny ar Ddydd Calan 2015. Bedair awr ar hugain yn gynharach, roedd Peter wedi gweld meddyg teulu a oedd wedi gwneud diagnosis o haint ar y frest yn seiliedig ar ei symptomau, ac wedi presgripsiynu gwrthfiotigau, ond ni ddefnyddiodd y prawf gwaed pigo bys. Ffoniodd y parafeddyg am ambiwlans ar unwaith, ac aethpwyd â Peter i'r ysbyty. Er gwaethaf y driniaeth a gafodd, roedd hi'n rhy hwyr i achub ei fywyd.

Hoffwn dalu teyrnged i deulu Peter ar y pwynt hwn. Cyflwynwyd y ddeiseb gan daid Peter, Anthony, ac mae trugaredd, ysgogiad ac unplygrwydd y teulu cyfan wedi bod yn amlwg i'r Pwyllgor Deisebau drwy gydol ein trafodaethau. Yn fwyaf arbennig, mae rhieni Peter, Beth a Stuart, a'i chwaer, Lia, wedi ymdrechu'n ddewr i sicrhau bod y drasiedi a brofodd y teulu yn arwain at welliannau i eraill. Mae'n werth nodi hefyd eu bod wedi bwrw iddi gyda'u hymgyrch mewn ffordd eithriadol o gadarnhaol. Nid yw'r ddeiseb hon ond yn un agwedd ar eu hymdrechion i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddiabetes math 1, yn ogystal â chodi arian sylweddol i Diabetes UK Cymru. Rwy'n argyhoeddedig fod yr ymdrechion hyn eisoes wedi cael effaith fawr, a dylai'r teulu cyfan fod yn eithriadol o falch o bopeth y maent wedi'i gyflawni hyd yma.

Gan droi yn awr at adroddiad y pwyllgor ar y ddeiseb ac at ein hargymhellion, rydym wedi ystyried ystod eang o faterion mewn perthynas â chanfod a gwneud diagnosis o ddiabetes math 1 mewn plant a phobl ifanc. Cafodd y ddeiseb ei derbyn gyntaf ym mis Mawrth 2016. Er bod y ddeiseb yn cyfeirio at 'sgrinio rheolaidd' ar gyfer math 1 mewn plant a phobl ifanc, sefydlodd y pwyllgor mai prif ffocws y teulu Baldwin yw'r angen i wella diagnosis cynnar o ddiabetes math 1, ac ymwybyddiaeth o'r cyflwr ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol a'r cyhoedd. Mae pawb sy'n ymwneud â'r ddeiseb wedi cytuno mai'r ffordd orau o gyflawni hyn fyddai drwy sicrhau bod y profion priodol yn cael eu cynnal pan fo unigolyn yn arddangos symptomau'r 4T ar gyfer math 1.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:25, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Yn ein hadroddiad ar y ddeiseb hon, rydym wedi gwneud 10 argymhelliad i Lywodraeth Cymru. Credwn y byddai'r rhain yn helpu i wneud diagnosis a rhoi triniaeth amserol ar gyfer diabetes math 1. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi derbyn pob un o'n hargymhellion mewn egwyddor o leiaf. Rydym yn gobeithio bod hyn yn dangos ymrwymiad a rennir i wneud cynnydd yn y maes hwn, er y byddaf yn gofyn am ragor o wybodaeth ar rai agweddau ar ei ymateb yn ystod y ddadl y prynhawn yma.

Fel y dywedais eisoes, mae diagnosis amserol o ddiabetes math 1 yn hollbwysig. Mae DKA yn gyflwr sy'n peryglu bywyd ac yn brofiad trawmatig i blant a'u teuluoedd. Yn wir, mae cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer diabetes yn tynnu sylw at yr angen am archwiliad brys o lefel y glwcos yn y gwaed ac atgyfeirio at wasanaethau arbenigol ar unwaith os ceir unrhyw amheuaeth o ddiabetes. Fodd bynnag, nododd ein hymchwiliadau nifer o rwystrau i ddiagnosis cynnar. Mae'r rhain yn cynnwys: lefel isel o ymwybyddiaeth a gallu i adnabod diabetes math 1 yn gyffredinol; diffygion posibl yng ngwybodaeth a hyfforddiant staff; a phryderon ynglŷn â diffyg mynediad at offer profi cyflym mewn gofal sylfaenol.

Mae ein hargymhellion yn ceisio mynd i'r afael â’r rhwystrau hyn. Mae argymhelliad 1 yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio sicrhau y gofynnir ynglŷn â'r symptomau 4T fel mater o drefn wrth weld plant sâl mewn gofal sylfaenol, a bod profion priodol yn cael eu gwneud os oes angen. Mae ein hail argymhelliad yn ymwneud â gweithredu canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal mewn perthynas â’r mater hwn. Wrth dderbyn yr argymhellion hyn, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymeradwyo canllawiau NICE ac wedi pwysleisio’r angen i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ddefnyddio eu crebwyll clinigol.

Rydym yn falch, wrth gwrs, fod y Llywodraeth wedi derbyn byrdwn ein hargymhellion. Serch hynny, rydym yn gwybod, nid yn lleiaf o achos Peter Baldwin, nad yw clinigwyr bob amser yn gofyn am y 4T yn benodol ac mae’n bosibl na fydd rhieni'n eu crybwyll heb gael eu hatgoffa. Felly, hoffwn ailadrodd barn y pwyllgor fod ymgyngoriadau meddygon teulu yn gyfle allweddol i wneud diagnosis o ddiabetes math 1. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru gymryd pob cam posibl i sicrhau bod y cwestiynau cywir yn cael eu gofyn ym maes gofal sylfaenol, er mwyn ceisio osgoi rhagor o achosion lle nad yw diabetes math 1 yn cael ei ganfod hyd nes ei bod yn rhy hwyr.

Yn hyn o beth, un cam mawr ymlaen yn ystod oes y ddeiseb hon yw datblygiad y llwybr atgyfeirio cenedlaethol ar gyfer diabetes math 1. Mae'n pwysleisio’r 4T ac y dylid trin unrhyw achos lle y ceir unrhyw amheuaeth o ddiabetes math 1 fel argyfwng meddygol. Cafodd y llwybr hwn ei ddatblygu gan Rwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc, a’i dreialu ym mwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, ac mae bellach wedi cael ei ddosbarthu i bob bwrdd iechyd. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r ffaith bod y llwybr hwn wedi cael ei gyflwyno mor gyflym.

Wrth dderbyn argymhelliad 6 yn ein hadroddiad, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi datgan y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrwydd gan y byrddau iechyd fod y llwybr yn cael ei fabwysiadu'n lleol. Rwy'n gobeithio y bydd hefyd yn gallu cadarnhau heddiw ei fod yn disgwyl i fyrddau iechyd gynnig hyfforddiant i feddygon teulu i gyd-fynd â’r llwybr newydd, gan ein bod yn deall bod hyn yn un o gryfderau'r ymarfer peilot yng Nghaerdydd a'r Fro.

Mynegwyd pryderon wrthym hefyd ynglŷn ag argaeledd offer profi mewn gofal sylfaenol. Mae’r deisebwyr wedi galw am sicrhau bod gan bob meddyg teulu fynediad ar unwaith at offer profi pigo bys ar gyfer mesur lefel y glwcos yn y gwaed, ac mae’r pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru geisio sicrwydd gan y byrddau iechyd i'r perwyl hwn. Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi datgan bod canllawiau eisoes wedi'u dosbarthu ac y bydd sicrwydd yn cael ei geisio. Byddai'r pwyllgor yn croesawu unrhyw wybodaeth newydd y gall ei rhoi am y gwaith hwn heddiw.

Roedd argymhelliad 7 yn ein hadroddiad yn cyfeirio at yr angen i fonitro cynnydd mewn perthynas â diagnosis o ddiabetes math 1. Yn ei ymateb, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at yr archwiliad diabetes pediatrig cenedlaethol a oedd eisoes yn bodoli. Mae'r pwyllgor yn deall bod hwn yn cynnwys dynodiad o nifer yr achosion lle cafwyd diagnosis pan fo DKA eisoes yn bresennol. Fodd bynnag, nid yw'n casglu manylion am y broses o wneud diagnosis ac mae ein hargymhelliad yn herio'r Llywodraeth a'r byrddau iechyd o ran sut y gellir monitro gwelliannau ar y cam hwn o'r broses. Felly, gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet fynd i'r afael â sut y gellid cyflawni'r gwaith monitro hwn. Un dull posibl fyddai drwy fonitro’r cynllun cyflawni ar gyfer diabetes bob blwyddyn. Er bod y cynllun yn amlygu pwysigrwydd canfod diabetes math 1 yn gynnar, nid oes unrhyw fanylion ynglŷn â diagnosis yn y datganiad cynnydd diweddaraf a gyhoeddwyd. Felly, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ystyried sut y gall y Llywodraeth adrodd ar gynnydd yn y maes hwn yn well wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun cyflawni ar gyfer diabetes yn y dyfodol.

Y mater olaf a godwyd gan y teulu Baldwin a’n hadroddiad yw ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddiabetes math 1 a’i symptomau. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru wneud rhagor o waith i dynnu sylw at symptomau diabetes math 1 ac i ddarparu gwybodaeth ychwanegol yn y deunydd a roddir i ddarpar rieni a rhieni newydd, megis drwy gofnod iechyd personol y plentyn, a adwaenir hefyd fel 'y llyfr coch'.

Tra bo dau o'n hargymhellion yn y cyswllt hwn wedi'u derbyn mewn egwyddor, nid yw’r naratif sy’n cefnogi hyn i'w weld yn dangos llawer o weithgarwch newydd neu wahanol. Y cyfiawnhad a roddwyd i ni yw bod symptomau diabetes math 1 yn aml yn ymddangos gryn dipyn o amser ar ôl genedigaeth. Wel, er ein bod yn cydnabod bod hyn yn wir, mae’r pwyllgor o’r farn fod rhieni'n agored iawn i negeseuon iechyd plant yn ystod y blynyddoedd cynnar ac mae'r 4T yn neges syml, hawdd ei chofio, yn yr un ffordd ag a ddigwyddodd gyda llid yr ymennydd er enghraifft. Byddem ni a’r deisebwyr yn gwerthfawrogi pe baech yn archwilio’n llawn y dulliau o ledaenu negeseuon am symptomau diabetes math 1 ymysg rhieni ac eraill sydd mewn cysylltiad â phlant a phobl ifanc. Rydym yn credu bod hyn yn eithriadol o bwysig o ystyried yr angen i weithredu'n gyflym pan fo symptomau diabetes math 1 yn ymddangos.

I gloi, Lywydd, hoffwn bwysleisio bod ystyried amgylchiadau’r ddeiseb hon wedi bod yn brofiad trist a sobreiddiol iawn i’r Pwyllgor Deisebau, ond hefyd yn fraint fawr. Dylai dewrder aruthrol teulu Peter wrth iddynt geisio sicrhau bod newid cadarnhaol yn deillio o amgylchiadau mor ofnadwy ennyn parch enfawr. Rwy’n diolch i bob un ohonynt, ar ran y Pwyllgor Deisebau, am eu gwaith parhaus. Rwyf hefyd yn croesawu ymatebion cadarnhaol Ysgrifennydd y Cabinet i'n hargymhellion, ac rwy'n gobeithio y bydd yn ystyried y pwyntiau ychwanegol a godir gan y pwyllgor a chan Aelodau eraill y prynhawn yma. Diolch yn fawr.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:33, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddechrau yn gyntaf oll drwy longyfarch David Rowlands ar araith ragorol i agor y ddadl bwysig hon, sy'n crynhoi'r sefyllfa'n dda iawn, a hefyd yr ymgyrch rymus y gwyddom iddi gael ei hymladd gan y teulu Baldwin ers amser hir bellach, oherwydd mae angen newid?

Nawr, nid wyf yn gwybod a ydw i wedi sôn o'r blaen fy mod wedi bod yn feddyg teulu yn Abertawe dros y 34 o flynyddoedd diwethaf, ond os nad wyf fi, rwy'n ei ddweud eto, ac yn amlwg, mae diabetes math 1, yn enwedig mewn plant ifanc iawn mewn cetoasidosis diabetig, yn glefyd brawychus mewn gwirionedd ac rwy'n gweld achos ohono oddeutu unwaith bob saith mlynedd ar gyfartaledd. Rhaid i chi feddwl amdano fel meddyg teulu a gwirio'r siwgr yn y gwaed drwy bigiad bach yn y bys, oherwydd nid yw'r 4T clasurol bob amser yn bresennol mewn plant ifanc iawn neu mewn babanod. Y sefyllfa yno yw y gall plentyn ddod i mewn gyda haint ar ei frest pan fydd gan weddill y teulu haint ar y frest; gall y plentyn ddod ataf gyda dolur rhydd a chwydu pan fo gweddill y teulu'n dioddef o ddolur rhydd a chwydu. Beth sy'n gwneud i chi wirio'r siwgr yn y gwaed drwy brawf pigo bys? Wel, mae yna ryw deimlad greddfol yn y bol a phethau. Felly ie, mewn plant hŷn, fe welwch y 4T: mae'r plant wedi bod yn yfed galwyni, maent wedi bod yn pasio wrin wrth y galwyn, maent wedi colli pwysau, maent yn sâl ac wedi blino ac yn teimlo'n ofnadwy. Dyna'r mathau o symptomau y mae angen inni dynnu sylw atynt a'u cyhoeddi, fel y dywedodd David yn huawdl iawn, o ran codi ymwybyddiaeth.

Ond o ran ymateb meddygon teulu a gofal sylfaenol i hyn, rhaid inni gael profion pigo bys i ganfod glwcos yn y gwaed ar ein desgiau, ac yn ein bagiau meddygol pan fyddwn yn galw yng nghartrefi pobl. Oherwydd pan fo plentyn yn sâl, rydym yn edrych ar siwgr yn y gwaed—dylai fod yno'n awtomatig. Wrth feddwl am blentyn sâl—ac yn enwedig plentyn sy'n fwy sâl nag y buaswn yn credu y dylai fod gyda dolur rhydd a chwydu—gwiriwch y siwgr yn y gwaed. Ydy, unwaith ym mhob saith mlynedd mae'n mynd i fod yn getoasidosis diabetig, yn hytrach na gastroenteritis cyffredin. Ond fel y clywn, mae canlyniadau trasig ac effeithiau peidio â gwneud y diagnosis yn byw gyda'r teuluoedd a'r gweithwyr proffesiynol dan sylw am byth.

Felly, prif fyrdwn hyn yw y dylid dilyn argymhellion adroddiad rhagorol y Pwyllgor Deisebau. A dweud y gwir, o ran pigo bysedd, ac rydym yn siarad am adnoddau ar gyfer gofal sylfaenol—bydd Ysgrifennydd y Cabinet bob amser yn gwybod fy mod yn rhygnu ymlaen am symud adnoddau i ofal sylfaenol—dylai hyn fod yn digwydd ym mhobman. Felly, nid wyf am fod yn arbennig o lym ar Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma. Dylem fod yn cael offer profi glwcos yn y gwaed ar waith beth bynnag. Dylai pob meddyg teulu wneud hynny fel mesur o ragoriaeth broffesiynol. Ac mae'n ddyletswydd arnom i'n cleifion, oherwydd weithiau nid yw'r darlun clinigol yn hollol glir—dim ond plentyn sâl sydd gennych. A buaswn yn argymell i fy nghyd-feddygon teulu: gyda phlentyn sâl, os na allwch ddarganfod beth sydd o'i le—edrychwch ar siwgr yn y gwaed.

Cefnogwch y cynnig. Diolch yn fawr.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 3:37, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diabetes math 1 yw'r cyflwr cronig mwyaf cyffredin mewn plant a phobl ifanc. Fel y gwyddom, os na wneir diagnosis ohono, gall fod yn angheuol. Rwy'n canmol y Pwyllgor Deisebau am eu gwaith ar y ddeiseb hon, ac rwy'n croesawu ymateb Llywodraeth Cymru yn derbyn y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor. Un o'r pryderon a godwyd gan y teulu Baldwin a Diabetes UK Cymru oedd nad oedd digon o gyfarpar ym meddygfeydd meddygon teulu i ganiatáu iddynt chwilio am fath 1. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu ar y pwynt hwn, drwy geisio sicrwydd ynghylch argaeledd cyfarpar mewn gofal sylfaenol.

Mae'r argymhellion yn cyffwrdd ar bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o symptomau diabetes math 1. Rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i dynnu sylw at y symptomau gyda byrddau iechyd, ond rwy'n gobeithio bod hyn yn codi'n rheolaidd mewn cyfathrebiadau yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru, a hoffwn glywed rhagor gan Ysgrifennydd y Cabinet heddiw ynglŷn â sut y bwriada fonitro'r ymwybyddiaeth honno.

Yn y cyfarfodydd a gefais gyda theulu Peter Baldwin, fe welais ac fe glywais sut y gall math 1 ddinistrio teulu. Hoffwn dalu teyrnged i'r teulu Baldwin am eu hymgyrch ddewr a diflino i sicrhau nad oes unrhyw deulu arall yn dioddef yn y modd y maent hwy wedi gwneud. Yn wir, fe wyddom fod yr ymgyrch Adnabod Math 1 eisoes wedi arwain at deuluoedd yn cael diagnosis yn ddiogel o fath 1. Felly, mae eisoes wedi achub bywydau.

Mae gan bawb yn y Siambr hon ein rhan i'w chwarae, nid y rheini ohonom sy'n feddygon teulu yn unig. Gobeithio bod pawb yn y Siambr hon bellach yn ymwybodol o 4T diabetes—tŷ bach, teimlo'n sychedig, teimlo'n flinedig, teneuach. Ac rwy'n annog pob un ohonoch i ledaenu'r neges hon mor eang ag y gallwch.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 3:39, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n siarad fel aelod arall o'r Pwyllgor Deisebau a glywodd y dystiolaeth a roddwyd i ni. Hefyd, a gaf fi ddiolch i Beth Baldwin am ei hymrwymiad a'i dyfalbarhad ar y mater hwn? Mae hi a'i theulu wedi ymdrechu'n ddewr i sicrhau y dylai'r drasiedi a ddioddefodd eu teulu arwain at welliannau o ran ymwybyddiaeth a chanfod diabetes math 1 mewn plant. Hebddi, ni fyddem yn cael y ddadl hon heddiw. Am hynny, rhaid i ni ddiolch i Beth Baldwin a'i theulu. Mae'n werth nodi hefyd y modd mor eithriadol o gadarnhaol y mae'r teulu Baldwin wedi ymladd eu hymgyrch. Un agwedd yn unig ar eu hymdrechion yw'r ddeiseb, ac yn ogystal â hynny maent wedi parhau i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o symptomau diabetes math 1 ac wedi codi arian sylweddol iawn i Diabetes UK Cymru. Dylent fod yn hynod o falch ac unwaith eto, hoffwn ddiolch yn bersonol iddynt, ac rwy'n siŵr y byddai'r holl Siambr yn dymuno gwneud hynny.

Mae diabetes math 1 wedi cyffwrdd fy mywyd ddwywaith: unwaith gyda chanlyniadau angheuol ac unwaith gyda diwedd hapus. Tra'n gweithio fel darlithydd coleg cymharol ifanc, cefais fyfyriwr a oedd yn yfed dŵr yn barhaus ac yn mynd i'r toiled yn aml. At ei gilydd, roedd yn heini ac i'w weld yn iach. Aeth i ffwrdd ar ei wyliau am bythefnos un Pasg, aeth yn sâl, dioddefodd gymhlethdodau am nad oedd ei ddiabetes wedi'i ganfod—roedd yn rhy hwyr, ac yna bu farw. Roedd yr ail achos yn ymwneud â rhywun y bûm yn gweithio gydag ef a oedd hefyd yn yfed dŵr yn barhaus. Awgrymodd cydweithiwr y dylai fynd i weld y meddyg a chael prawf diabetes. Ar ôl sawl diwrnod o wasgu arno—nid yn unig gan yr un cydweithiwr, ond gan y swyddfa gyfan, daliodd y cydweithiwr gwreiddiol ati, ac fe wnaeth y gweddill ohonom yr un peth, gan fy nghynnwys i ac eraill yno—fe wnaeth apwyntiad gyda meddyg. Pan aeth at y meddyg, cafodd ei drin fel pe bai'n gwastraffu amser y meddyg—roedd yn ifanc, yn ffit ac yn heini a heb fod dros bwysau, roedd yn codi pwysau ac yn gwneud popeth y mae dynion ifanc ffit yn ei wneud. Yn y pen draw cytunodd y meddyg i roi profion diabetes iddo. Bedair awr ar hugain yn ddiweddarach, roedd yn yr ysbyty. Mae bellach yn ôl i normal a'i ddiabetes o dan reolaeth. Mae'n dal yn fyw, diolch i'w gydweithwyr a'i ddyfalbarhad ei hun.

Cyflwr gydol oes difrifol yw diabetes lle mae lefel y glwcos yn eich gwaed yn rhy uchel, er bod rhai pobl wedi dweud wrthyf—fel y mae pobl eraill wedi'i glywed rwy'n siŵr—'mae gennyf ryw ychydig o ddiabetes', fel pe baent yn dioddef o annwyd neu feirws cymharol ddiniwed. Gwyddom am yr arwyddion rhybudd cyffredin—fel rwy'n dweud, fe wyddom am y 4T—ond a yw pawb allan yno yn eu gwybod? A dyna'r her i bob un ohonom: os ydych chi'n mynd i wneud rhywbeth defnyddiol mewn cymdeithas, beth am ailadrodd mor aml ag y gallwch—teimlo'n sychedig, teimlo'n flinedig, tŷ bach, teneuach— 'Unrhyw ddau o'r pedwar, ewch i gael archwiliad.' Mwy na thebyg nad diabetes ydyw, ond gall canlyniad peidio â chael eich profi fod yn angheuol.

Rwy'n croesawu ymateb y Llywodraeth pan ddywedant fod pwysigrwydd canfod diabetes math 1 yn gynnar yn cael ei gydnabod yn eu cynllun cyflawni ar gyfer diabetes yng Nghymru. Mae canllawiau clir wedi'u sefydlu i gynorthwyo gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i archwilio pan fo amheuaeth o ddiabetes, a chaiff cymhlethdodau diabetes eu hadrodd fel rhan o'r archwiliad diabetes pediatrig cenedlaethol. Rwy'n falch hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad y dylai geisio sicrwydd gan fyrddau iechyd fod offer profi priodol ar gyfer mesur glwcos yn y gwaed ar gael ym mhob lleoliad gofal sylfaenol perthnasol, a bod gan bob meddyg teulu offer wrth law a fydd yn helpu i ganfod achosion posibl o ddiabetes math 1.

Yr allwedd yw gweithio gyda byrddau iechyd a phartneriaid allweddol eraill i sicrhau bod yr ymgyrch 4T yn cael ei hyrwyddo. Ond nid yn unig mewn ysbytai, nid yn unig ymysg gweithwyr iechyd proffesiynol—mae angen partneriaid eraill mewn ysgolion a cholegau. Mae angen i staff ysgolion a cholegau wybod am beth i chwilio. A gaf fi ddweud cymaint rwy'n dymuno pe bawn i'n gwybod am beth y chwiliwn y tro hwnnw, fel fy nghydweithwyr rwy'n siŵr? Nid wyf am i neb arall orfod siarad am achos fel yr un cyntaf a ddisgrifiais. Diolch.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:43, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r cadeirydd am gyflwyno adroddiad ein pwyllgor yn y modd a wnaeth, a diolch i'r clerc a fy nghyd-aelodau o'r Pwyllgor Deisebau am fod ag agwedd mor rhagweithiol tuag at y mater hwn. Rhaid cydnabod teulu'r diweddar Peter Baldwin am helpu ein pwyllgor ac am geisio defnyddio'u hamgylchiadau trasig eu hunain i sicrhau nad oes unrhyw deulu arall yn dioddef colled mor enbyd.

Rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru'n bwriadu derbyn y 10 argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Deisebau mewn egwyddor, ac rwy'n hyderus y gellir gwella cyfraddau canfod diabetes math 1 os caiff y rhain eu gweithredu er mwyn atal teuluoedd fel y teulu Baldwin rhag wynebu'r drasiedi o golli anwyliaid oherwydd camddiagnosis.

Mae oddeutu 1,400 o blant yn dioddef o ddiabetes yng Nghymru, a math 1 sydd ar 96 y cant ohonynt. Nod allweddol yr adroddiad hwn yw sicrhau, pan fydd unrhyw blentyn yn dangos symptomau o'r 4T—tŷ bach, teimlo'n sychedig, teimlo'n flinedig, teneuach—eu bod yn cael y ddiagnosteg yn gywir. Drwy wneud yn siŵr fod plant a phobl ifanc yn cael diagnosis cyflym a thriniaeth gynnar, gallwn eu hatal rhag mynd yn ddifrifol sâl â chetoasidosis diabetig. Mae angen i feddygon teulu fod yn ymwybodol o'r symptomau ag ystyried bod y prawf mor rhad i brofi plant sy'n dangos unrhyw arwydd o'r symptomau hyn. Hoffwn hefyd weld Ysgrifennydd y Cabinet yn cynyddu ymwybyddiaeth ei adran ei hun o faint y broblem hon, fel nad oes unrhyw blentyn yn cael cam am na wnaed y prawf syml hwn.

Mae argymhelliad 3 yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i geisio sicrwydd ynglŷn ag argaeledd mesuryddion glwcos mewn gofal sylfaenol. Rwy'n ddiolchgar iawn fod yr argymhelliad hwn wedi'i dderbyn. Fodd bynnag, rwy'n bryderus nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gweld unrhyw oblygiadau ariannol i hyn. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod o leiaf un pecyn profi yn yr holl feddygfeydd meddygon teulu. Ceir bron 435 o bractisau meddygon teulu yng Nghymru. A heb fawr o gost, buaswn yn dweud bod y goblygiadau ariannol yn ei gwneud hi'n werth i chi sicrhau—i'ch adran sicrhau—fod un ar gael ym mhob practis. Mae pob un o'r rhain angen y pecyn profi hwn.

Mae argymhelliad 7 yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu modd o fonitro gwelliant o ran lefelau diagnosis o ddiabetes math 1. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod diagnosis o ddiabetes math 1 yn cael ei fonitro a'i adrodd drwy'r archwiliad diabetes pediatrig cenedlaethol. Fodd bynnag, noder bod y wybodaeth yn adroddiad yr archwiliad diabetes pediatrig cenedlaethol yn amlygu bod cetoasidosis diabetig wedi digwydd mewn ychydig dros 20 y cant o achosion newydd o ddiabetes math 1 yn Lloegr, ffigur sydd ond wedi codi ychydig rhwng 2012 a 2015. Fel arall, mae'r ffigurau a roddwyd ar gyfer Cymru'n amrywio o 30 y cant i 18 y cant i 24 y cant, pob un o fewn cyfnod o dair blynedd. Felly, pe bawn i yn esgidiau Ysgrifennydd y Cabinet, buaswn eisiau darganfod rhagor am hynny. Felly, mae hyn yn gwneud imi gwestiynu a oes gan yr archwiliad diabetes pediatrig cenedlaethol fynediad at y wybodaeth briodol ac a ddylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i ddarganfod pam y mae'r ffigurau hyn yn amrywio yn y ffordd y maent yn ei wneud.

Mae hyn yn digwydd yn aml drwy holl ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, lle caiff argymhellion eu derbyn 'mewn egwyddor' i gael eu trosglwyddo i sefydliadau neu elusennau eraill. Mae Diabetes UK Cymru yn honni mai Cymru sydd â'r nifer uchaf o achosion o ddiabetes yn y DU. O'r herwydd, dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy, dylai ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb a bod yn fwy rhagweithiol. Ni ddylem anghofio bod y ddeiseb hon wedi dechrau oherwydd bod teulu wedi colli mab am na wnaed diagnosis mewn pryd ac am na wnaed prawf syml a rhad lawer yn gynt. Yn gyffredinol, rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr holl argymhellion yn llwyr neu mewn egwyddor. Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn ein bod yn gwella ac yn monitro'r prosesau y dibynnwn arnynt i ganfod diabetes cyn gynted â phosibl.

Bydd gwaddol Peter yn byw o hyd drwy'r gwaith a wnaethoch, drwy godi ymwybyddiaeth yma yn y Senedd hon a ledled Cymru. Diolch yn fawr iawn. Diolch.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Ddirprwy Lywydd, diolch yn fawr iawn am alw arnaf i siarad yn y ddadl bwysig hon ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar sgrinio rheolaidd ar gyfer diabetes math 1 mewn plant a phobl ifanc. Yn gyntaf, fel pawb arall, hoffwn ddiolch i un o fy etholwyr, Beth Baldwin, am yr holl waith caled y mae wedi'i wneud yn sicrhau bod y ddeiseb hon yn cyrraedd pwynt lle rydym yn ei thrafod yn awr yma yn y Cynulliad. Gwn iddi fod yn ffordd anodd a hir iddi ei theithio, a gwn fod amgylchiadau trasig colli Peter, a oedd ond yn 13 oed pan fu farw, wedi bod—. O hynny rydym yma'n trafod y mater hwn heddiw. Gwn fod Stuart a Lia yma hefyd, oherwydd bu hon yn ymdrech enfawr ar ran y teulu cyfan. Rwyf mor falch eu bod yma yn yr oriel gyhoeddus heddiw i'n clywed ni'n trafod y materion pwysig hyn. Gobeithiaf y bydd y rhain yn ataliol—y byddwn yn helpu i atal rhywbeth rhag digwydd sydd wedi digwydd mor ofnadwy iddynt hwy. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth ymateb, yn cytuno bod Beth a'i theulu wedi dangos dewrder anhygoel yn ymgyrchu ar y mater hwn.

Roedd diabetes math 1 ar Peter, ond methodd y meddyg teulu wneud diagnosis, fel y mae eraill wedi dweud, ac erbyn i'w gyflwr ddirywio cymaint fel ei fod yn argyfwng, yn anffodus roedd hi'n rhy hwyr i'w achub. Mae'r hyn y mae Beth a'r bobl yn Diabetes Cymru a Rhwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc ei eisiau yn syml iawn: maent am i unrhyw weithiwr meddygol proffesiynol neu unrhyw un sy'n dod i gysylltiad ag unigolyn ifanc sâl i aros a meddwl, 'A yw'r symptomau'n arwydd o ddiabetes math 1?' Credaf fod Dai Lloyd wedi nodi hynny'n gryf iawn yn ei gyfraniad.

Gwn fod Beth a'r ymgyrchwyr yn falch fod y Llywodraeth wedi derbyn neu wedi derbyn mewn egwyddor yr holl argymhellion yn adroddiad y pwyllgor. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig cydnabod ei fod yn un o'r clefydau cronig mwyaf cyffredin ymhlith plant ac mae nifer yr achosion yn cynyddu. Credaf fod un plentyn ym mhob ysgol yng Nghymru yn dioddef o'r cyflwr ar gyfartaledd, ac mae'r nifer yn codi tua 4 y cant bob blwyddyn, ac yn cynyddu'n gynt ymhlith plant o dan bump oed. Hoffai Beth a'r ymgyrchwyr weld ymwelwyr iechyd, ffisiotherapyddion, meddygon teulu a nyrsys practis yn cynnal y prawf gwaed pigo bys arferol syml i weld lefelau glwcos yn y gwaed. Ar hyn o bryd, mewn argyfwng y gwneir diagnosis o 25 y cant o'r achosion o fath 1 mewn plant. Gyda mwy o brofion rheolaidd, rwy'n siŵr y byddem oll yn cytuno bod yn rhaid inni sicrhau gostyngiad yn y ffigur hwn.

Maent eisiau gwybod bod digon o becynnau profion glwcos yn y gwaed ar gyfer y bobl hyn fel mater o drefn er mwyn cynnal profion ar bobl sâl, felly mae angen inni wybod bod y pecynnau hynny yno, ac rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad 3 yr adroddiad ar y pwynt hwn. Do, cyhoeddwyd canllawiau ynghylch profion yn y pwynt gofal, ac ailddatganwyd hyn fel rhan o'r llwybr atgyfeirio, ond pwy sy'n gyfrifol am fonitro argaeledd offer profi glwcos yn y gwaed, nid un tro'n unig ond ar sail barhaus? Pwy fyddant yn adrodd iddynt, ac a fydd y wybodaeth hon ar gael i'r cyhoedd? Nid wyf yn gwybod a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu ateb y cwestiynau hynny.

A wyddom faint o bractisau meddygon teulu ar hyn o bryd sydd heb yr offer y maent ei angen i gynnal y prawf sengl a dadansoddi'r canlyniadau? Rwyf wedi clywed tystiolaeth anecdotaidd fod practisau meddygon teulu hyd yn oed yn awr weithiau'n cael anhawster i ddod o hyd i offer ar gyfer cynnal profion. Efallai ei fod yng nghefn cwpwrdd. Efallai fod y stribedi profi'n hen, neu nad yw staff wedi gwneud prawf ers cymaint o amser fel nad ydynt yn hyderus wrth ddefnyddio offer. Felly, credaf fod yn rhaid inni wneud yn hollol siŵr—rydym wedi gwneud cymaint o gynnydd, ond rhaid inni wneud yn siŵr, yn ymarferol, ei bod yn bosibl cynnal y prawf yn y modd y mae'r ymgyrchwyr ei eisiau.

Felly, y mater arall yw, os oes rhywbeth yn mynd o'i le, pwy sy'n atebol? Drwy'r ddadl hon, drwy'r adroddiad da hwn gan y Pwyllgor Deisebau, credaf ein bod wedi gallu tynnu sylw at y materion hyn sydd mor bwysig, a hoffwn ddod i ben unwaith eto mewn gwirionedd drwy ddiolch i Beth, a diolch i Stuart a Lia, am bopeth a wnaethant i hyrwyddo'r achos hwn—felly, diolch yn fawr.  

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 3:52, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddiabetes, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau a'r rhai a gymerodd ran yn nhaith y ddeiseb hon drwy'r Cynulliad. Yn fwyaf arbennig, hoffwn dalu teyrnged i'r teulu Baldwin am eu gwaith caled, eu dycnwch a'u hymroddiad i ymgyrch mor bwysig a phersonol iawn. Mae Beth a'r teulu yn gwylio o'r oriel heddiw, a gwn eu bod yn teimlo'n gryf iddi fod yn ymdrech gan dîm. Ni allwch orfesur grym rhannu eich profiadau enbyd o golli Peter. Rydych wedi dangos cymaint o nerth a dewrder drwy gydol yr ymgyrch hon. Mae pawb ohonom yn hynod falch ohonoch, a byddai Peter mor falch hefyd. Fel llawer o rai eraill, cefais fy nghyffwrdd gan straeon plant a gafodd eu hachub am eu bod wedi gallu cael diagnosis o ganlyniad i'ch gwaith, felly diolch i chi, Beth, a'ch teulu, am bopeth a wnaethoch yn enw Peter. Mae'n waddol wirioneddol hardd.   

Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb mor gadarnhaol i'r adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau, a bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi'r ystyriaeth y maent yn eu haeddu i'r argymhellion. Diabetes math 1 yw'r cyflwr awto-imiwn mwyaf cyffredin yn y DU. Amcangyfrifir bod tua 19,000 o bobl yn byw gyda diabetes math 1 yng Nghymru. Mae llawer o bobl yn byw'n dda gyda diabetes math 1 am flynyddoedd lawer. Mae nifer dirifedi o bobl hefyd wedi dangos nad yw math 1 yn rhwystr i fyw bywydau egnïol, o'r unigolion sy'n rhedeg marathonau i Team Oarstruck o Gaerllion sy'n rhwyfo Cefnfor Iwerydd, y ras rwyfo anoddaf yn y byd.

Mae rheolaeth dda ar y cyflwr yn allweddol i fyw'n dda gyda math 1, ac ni ellir cyflawni hyn oni bai bod yr unigolyn yn gwybod ei fod yn dioddef ohono. Mae diagnosis yn gwbl hanfodol. Ac eto mae un o bob pedwar plentyn yng Nghymru yn cael diagnosis o fath 1 yn ddiweddarach nag y gallai fod yn ei gael. Rwy'n siŵr y bydd pawb yma'n cytuno bod y nifer honno'n rhy uchel. Gwyddom fod gwelliannau wedi bod yn ein gwasanaeth iechyd. Clywais yn ddiweddar am waith a wneir ar system adrodd newydd a fydd yn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu o ddiagnosis hwyr. Drwy rannu gwybodaeth ar draws y timau, rwy'n gobeithio y cymerir mantais ar gyfleoedd i wneud diagnosis yn gynharach yn y dyfodol. Hefyd, clywais am waith ymchwil rhagorol sy'n cael ei wneud yma yng Nghymru ar y posibilrwydd y gallai dulliau atgoffa digidol mewn gofal sylfaenol wella cyfraddau diagnosis cynharach. Gobeithio y bydd hyn yn llwyddo i gynorthwyo meddygon i wneud diagnosis cynnar.

Gallwn hefyd fod yn falch fod llwybr newydd wedi'i gyflwyno ledled Cymru, fel y nodwyd yn yr ymateb ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru. Hoffwn gydnabod y gwaith ardderchog a wneir gan y Rhwydwaith Diabetes i Blant a Phobl Ifanc ar wireddu hyn. Bydd gweithredu'r llwybr yn allweddol i'w lwyddiant, ac rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i geisio sicrwydd gan y saith bwrdd iechyd ei fod yn cael ei fabwysiadu ac y bydd gofal sylfaenol ac eilaidd yn gweithio gyda'i gilydd ar ddarparu'r llwybr newydd.

Ond fel arfer, fe ellir gwneud mwy. Credaf y gallwn oll gytuno bod pob plentyn, pob unigolyn ifanc, yn haeddu'r cyfle i fyw bywyd hapus ac iach, gyda neu heb ddiabetes. Mae'r ymgyrch 4T—teimlo'n sychedig, teimlo'n flinedig, tŷ bach, teneuach—i godi ymwybyddiaeth o symptomau math 1, wedi cael derbyniad da gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, teuluoedd ac ysgolion, ond ni all unrhyw sefydliad, meddyg neu deulu ddatrys hyn ar eu pen eu hunain. Dyna pam rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo eto i weithio gyda byrddau iechyd a sefydliadau allweddol eraill i sicrhau bod yr ymgyrch 4T yn cael ei hyrwyddo ym mhob lleoliad priodol.

Cafwyd nifer o astudiaethau a edrychai ar effeithiolrwydd ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth, ac mae eu canfyddiadau'n awgrymu mai'r ymgyrchoedd a dargedir fwyaf sy'n cael yr effaith fwyaf. Gall negeseuon syml achub bywydau, a heddiw mae'r ddeiseb yn galw am weithredu, a gall Cymru arwain y ffordd.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:56, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ymddiheuro i'r Siambr am fod yn hwyr ar gyfer munud gyntaf y ddadl hon, ond yn arbennig i deulu Peter am golli rhan o ddadl bwysig ac emosiynol iawn am y gwaith a wnaed gan Aelodau Cynulliad sy'n ystyried eu deiseb, ac yn wir nid yn unig yr ymateb gan y Llywodraeth ond yn bwysicach ymateb ein gwasanaeth iechyd gwladol. Ac felly hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau a phob Aelod sydd wedi cyfrannu heddiw, boed yn aelodau o'r pwyllgor neu beidio. Cafodd llawer o bobl eraill eu taro nid yn unig gan stori Peter Baldwin, ond mewn gwirionedd gan y penderfyniad hwnnw wedyn i geisio gwneud yn siŵr fod penderfyniad y teulu i sicrhau ei fod yn arwain at welliant yn gyrru ymddygiad gwleidyddion yn y lle hwn a thu hwnt.

Ac mae hynny wedi cael ei helpu gan waith y deisebydd a'r teulu ehangach, ynghyd â Diabetes UK Cymru, i helpu i wella ymwybyddiaeth o ddiabetes math 1 ymhlith y cyhoedd ac yn hollbwysig, ymhlith gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yng Nghymru. A gall pob un ohonom gydymdeimlo â galar a gofid teulu Peter Baldwin, ond yn fwy na hynny, fel pob Aelod arall sydd wedi siarad a'r rhai nad ydynt wedi siarad, rwy'n edmygu'n fawr y dewrder a ddangosodd y teulu wrth sôn am eu profiad, sy'n anodd ac yn boenus ynddo'i hun, ond wrth geisio gwneud gwahaniaeth i deuluoedd eraill hefyd.

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r adroddiad a'r cynnig, a byddwn yn ei gefnogi. Ni wnaethom gefnogi'r ddeiseb wreiddiol, oherwydd diffyg tystiolaeth ynglŷn ag effeithiolrwydd y rhaglen sgrinio poblogaeth. A dyna bwynt sydd wedi cael ei gydnabod trwy gydol oes y ddeiseb a gwaith y pwyllgor gan y deisebydd a Diabetes UK Cymru. Fodd bynnag, rwy'n croesawu'r argymhellion penodol a wnaed gan y pwyllgor ar ôl eu hymchwiliad. Unwaith eto, fel Aelodau eraill, rwy'n cydnabod pwysigrwydd canfod diabetes math 1 yn gynnar ac fel y dywedwyd, mae'n cael sylw amlwg yn y cynllun cyflawni ar gyfer diabetes yng Nghymru. Felly, roeddwn yn falch o dderbyn pob un o'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor yn llwyr neu mewn egwyddor. Maent yn sicr yn cyd-fynd â gwaith sydd eisoes ar y gweill neu sydd wedi'i gwblhau gan y byrddau iechyd yng Nghymru i wella gofal diabetes.

Rydym yn derbyn argymhelliad 1 mewn egwyddor. Mae'r Llywodraeth yn cymeradwyo argymhellion y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, NICE, ac mae'r sefydliad hwnnw'n arwain gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a sefydliadau ar ganfod diabetes ac archwilio cleifion yr amheuir bod ganddynt ddiabetes. Ond nid yw eu canllawiau'n argymell y dylid gofyn i bob plentyn sâl ynghylch symptomau diabetes math 1. Fel y dywedodd y cadeirydd yn ei gyflwyniad, rhaid i glinigwyr ddefnyddio'u crebwyll clinigol, yn seiliedig ar eu hyfforddiant a'r canllawiau sydd ar gael, i arwain archwiliadau o blant sâl, ac mae hynny'n cynnwys yr hyfforddiant ychwanegol y byddwn yn ei gyflwyno drwy'r gwasanaeth. Ac mae hynny'n gyson â thystiolaeth Diabetes UK Cymru y dylid gwneud profion pigo bys os bydd unrhyw un o'r symptomau'n bresennol.

Mae gan y byrddau iechyd yng Nghymru brosesau rheolaidd ar gyfer dosbarthu canllawiau NICE, ac mae clinigwyr yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau mewn perthynas â defnyddio canllawiau o'r fath. Yn ogystal, dosbarthwyd y llwybr atgyfeirio i bob bwrdd iechyd, ac mae hwnnw'n atgyfnerthu'r meini prawf a'r dull o asesu plant a phobl ifanc yr amheuir bod ganddynt ddiabetes. Mae'r cynllun cyflawni ar gyfer diabetes yng Nghymru yn ein hymrwymo i ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus a arweinir gan Diabetes UK Cymru fel partneriaid yn y grŵp gweithredu ar ddiabetes, a chyflawnwyd hynny ar y cyd â Diabetes UK Cymru, y deisebydd a'r teulu ehangach.

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad 2, gan fod llwybr atgyfeirio cenedlaethol yn seiliedig ar arweiniad NICE, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o ddeunyddiau a ddatblygwyd gan Diabetes UK Cymru, wedi'i ddosbarthu i bob bwrdd iechyd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn derbyn argymhelliad 3, a dyma bwynt y cyfeiriodd nifer o'r Aelodau ato yn eu cyfraniadau. Dosbarthwyd y canllawiau ar brofion pwynt gofal i fyrddau iechyd eisoes, ac fe'u hailadroddwyd yn ddiweddar fel rhan o'r broses o ledaenu'r llwybr atgyfeirio. Mae Llywodraeth Cymru'n ceisio sicrwydd gan gyfarwyddwyr meddygol cynorthwyol gofal sylfaenol ynghylch argaeledd mesuryddion glwcos mewn gofal sylfaenol. Ein dealltwriaeth yw eu bod ar gael yn eang, ond mae cyfarwyddwyr meddygol cynorthwyol yn ystyried arolwg ar gyfer pob practis i gynnwys offer profion pwynt gofal o'r fath, a buaswn yn hapus i adrodd yn ôl i'r Aelodau ar y pwynt hwn er mwyn cadarnhau bod camau ar waith i ddarparu'r sicrwydd hwn, a chanlyniadau'r ymarfer hwnnw hefyd.

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion 4, 5 a 6. Rydym eisoes wedi ysgrifennu at y byrddau iechyd ynghylch y llwybr atgyfeirio cenedlaethol ac wrth wneud hynny, rydym wedi tynnu sylw at argaeledd deunyddiau codi ymwybyddiaeth ac e-ddysgu ar gyfer diabetes math 1 mewn plant a phobl ifanc. Mae hynny'n cynnwys hyfforddiant penodol ar gyfer meddygon teulu gan y Gymdeithas Diabetes Gofal Sylfaenol.

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad 7, gan fod diagnosis o ddiabetes math 1 yn cael ei fonitro a'i adrodd i'r archwiliad diabetes pediatrig cenedlaethol.

Rydym hefyd yn derbyn argymhelliad 8. Eisoes dylai byrddau iechyd fod yn cofnodi diagnosis annigonol fel achosion diogelwch cleifion. Nid yw hynny'n ymwneud cymaint ag atebolrwydd, ond yn hytrach er mwyn hyrwyddo dysgu ymysg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae o fudd inni gael gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n agored pan fydd pethau wedi mynd o chwith, i ddysgu, ac i geisio gwneud yn siŵr ein bod yn lleihau nifer a chael gwared ar achosion o'r fath yn y dyfodol.

Rydym yn derbyn argymhelliad 9 mewn egwyddor, a rhoddwyd sylw i hyn yng nghyfraniad cychwynnol y Cadeirydd. Darparu gwybodaeth am symptomau i rieni yn ystod beichiogrwydd neu'r blynyddoedd cynnar am yr hyn y cydnabyddir ei fod yn gyflwr cymharol anghyffredin—ac fel arfer daw'n amlwg gryn dipyn ar ôl geni'r plentyn. Felly, mae'r dystiolaeth sydd ar gael yn dangos ei fod yn annhebygol o fod o gymorth i nodi diabetes math 1 yn gynharach. Fodd bynnag, mae Diabetes UK Cymru wedi cyflwyno ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus, fel yr ymrwymwyd i'w wneud yn y cynllun cyflawni ar gyfer diabetes, ac rydym am helpu i dynnu sylw rhieni at y symptomau perthnasol.

Rydym hefyd yn derbyn argymhelliad 10 mewn egwyddor. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i hyrwyddo'r 4T: teimlo'n sychedig, teimlo'n flinedig, tŷ bach, teneuach. Eisoes rydym wedi'i gynnwys yn rhan o'r llwybr atgyfeirio ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Fodd bynnag, o ran creu ymwybyddiaeth yn y blynyddoedd cynnar a lleoliadau addysg, rhaid inni gofio nad oes tystiolaeth bob amser i gefnogi honno fel ymgyrch effeithiol ar gyfer canfod cyflyrau fel diabetes math 1 yn gynnar. Mae astudiaeth ddiweddar o Seland Newydd wedi dangos nad oes unrhyw effaith yn dilyn ymgyrch wybodaeth gyhoeddus ddwy flynedd o hyd, ond byddwn yn parhau i edrych am ffyrdd o sicrhau bod staff priodol, gan gynnwys rhai sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc, fel ymwelwyr iechyd a nyrsys ysgol, yn ymwybodol o'r adnoddau allweddol a gyhoeddwyd gan Diabetes UK Cymru ac eraill, ac wrth gwrs, yr argymhellion NICE perthnasol.

Rwyf am orffen, unwaith eto, drwy gydnabod ein bod ni yma heddiw oherwydd trasiedi bersonol iawn, ond yn fwy na hynny, oherwydd penderfyniad teulu Peter Baldwin i wneud gwahaniaeth, ac eisoes maent wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol. Byddwn yn parhau i wrando ar y dystiolaeth ac i ddysgu o'r hyn yr ydym eisoes wedi ymrwymo i'w wneud, ac edrychaf ymlaen at graffu pellach ar yr hyn yr ydym ni a'n GIG yn ei wneud ac y byddwn yn ei wneud, ac yn hollbwysig, i weld pa wahaniaeth a wnaethom a beth arall y gallwn ei wneud.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:04, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, David Rowlands, i ymateb i'r ddadl?

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 4:05, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau? Rhaid imi ddweud bod un thema wedi rhedeg drwy bob un o'ch cyfraniadau sef argaeledd yr offer er mwyn gallu gwneud profion ar gyfer diabetes math 1.

Daeth Dai Lloyd â'i brofiad sylweddol fel meddyg teulu, wrth gwrs, i'r ddadl a siaradodd am yr angen i roi prawf i bob plentyn sy'n dangos rhai neu bob un o'r symptomau. Ond mae'n wir, a rhaid inni gofio hyn, mai llond llaw yn unig o gleifion diabetes math 1 y bydd unrhyw feddyg teulu yn ei weld drwy gydol ei oes, er bod hynny'n debygol o gynyddu dros y blynyddoedd nesaf wrth gwrs. Felly, rhaid imi ddweud na ddylem adael i'r ddadl hon farw neu adael i unrhyw rai o'r argymhellion ddiflannu'n araf bach. Rhaid i hon fod yn ddadl barhaus ac yn fater o addysgu'r holl feddygon teulu a'r nyrsys practis rheng flaen yn barhaus hefyd.

Siaradodd Lynne Neagle eto, wrth gwrs, am offer profi, a'i fod yno ar gyfer darparwyr gofal sylfaenol a hefyd, wrth gwrs, fel y gwnaeth yr holl gyfranwyr, talodd deyrnged i'r teulu Baldwin. Gwnaeth Mike Hedges hynny hefyd a gwnaeth y pwynt y dylem wneud yn siŵr fod yr offer a'r wybodaeth ar gael yn ein hysgolion a'n colegau yn arbennig. Roedd Janet Finch-Saunders yn falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ac wedi mabwysiadu llawer o'n hargymhellion, ond dywedodd fod yna lawer o bethau o hyd nad oedd cystal ag y dylent fod ac nad yw pethau'n gwella'n arbennig ar hyn o bryd. Siaradodd Julie Morgan, wrth gwrs, sy'n adnabod y teulu'n dda, am eu dewrder yn dwyn y mater hwn i'r amlwg a'r gwaith y maent yn parhau i'w wneud er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr ofnadwy hwn. Diolchodd Jayne Bryant i'r teulu am eu nerth a'u dewrder, a siaradodd am blant sydd eisoes wedi eu hachub gan y gwaith, ac rwy'n credu y dylid llongyfarch y teulu Baldwin am fod yr hyn y maent yn ei wneud eisoes yn achub bywydau.

Hoffwn siarad yn awr am yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i ddweud am y materion hyn, ond hoffwn ofyn iddo: a oes camau pellach ar y gweill i sicrhau y gofynnir ynglŷn â symptomau mewn gofal sylfaenol ar hyn o bryd? Ac a oedd y canllawiau NICE ar waith pan ddigwyddodd y trychineb hwn mewn gwirionedd, oherwydd mae'n ymddangos eich bod wedi rhoi llawer o bwyslais ar y canllawiau NICE? Ac a yw'n disgwyl i hyfforddiant gael ei ddarparu i feddygon teulu ochr yn ochr â'r llwybr atgyfeirio newydd ar gyfer diabetes? Pa broses sydd ar y gweill ar gyfer gwneud diagnosis o'r ddarpariaeth—y cynnydd ar ddiagnosis yn y cynllun cyflawni ar gyfer diabetes?

Lywydd, rwy'n mawr obeithio bod y ddadl hon a'r broses ddeisebau yn gyffredinol wedi bod yn brofiad cadarnhaol i Beth, Stuart, Lia a gweddill teulu a chyfeillion Peter. Rwy'n gobeithio ein bod ni fel Cynulliad wedi gallu helpu i gefnogi eu hymgyrch i wella ymwybyddiaeth o symptomau diabetes math 1 a'i ddiagnosis. Hoffwn ddymuno'r gorau i'r teulu yn eu hymdrechion parhaus i godi arian ac i godi ymwybyddiaeth o'r mater a diolch iddynt am anrhydeddu'r cof am Peter yn y ffordd hon. Diolch yn fawr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:09, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.