– Senedd Cymru am 4:50 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ar fuddsoddi mewn ymyrraeth gynnar a dulliau trawslywodraethol i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc. A galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Llywodraeth, rydym ni wedi dangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael â phob math o ddigartrefedd a'i atal, trwy fentrau polisi newydd a buddsoddiad sylweddol. Mae hyn yn cynnwys £10 miliwn ychwanegol o arian yn y flwyddyn ariannol nesaf, fel y cyhoeddwyd yn flaenorol gan y Prif Weinidog, i fynd i'r afael yn benodol â digartrefedd ymhlith pobl ifanc.
Heddiw, rwyf yn amlinellu sut y caiff yr arian hwnnw ei ddyrannu i gefnogi cyfres o fesurau traws-Lywodraethol, gan gynnig cymysgedd o esblygiad a chyfle i arloesi, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer dulliau newydd o ran atebion tai a chymorth, yn ogystal â chyfleoedd i ddatblygu'r gwasanaethau a'r dulliau presennol i nodi ac ymateb yn well i bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.
I gryfhau ein sylfaen dystiolaeth ac i lywio ein penderfyniadau polisi ac ariannu yn y dyfodol, comisiynwyd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i ddarparu adroddiad ar achosion ac atal digartrefedd ymhlith pob ifanc. Un neges gyffredinol a ddaeth o'r adroddiad oedd yr angen am weithredu traws-Lywodraethol, rhywbeth yr wyf i'n ei gydnabod yn llwyr, a dyna pam, yn gynharach eleni, y sefydlais grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol traws-sector ac ar draws portffolios i'm cynghori ynghylch digartrefedd ymhlith pobl ifanc a thai yn gyntaf. Rwy'n ddiolchgar am waith y grŵp hwnnw sydd, ochr yn ochr â thrafodaethau â chyd-Weinidogion a'r ymgysylltu ag ymgyrch End Youth Homelessness Cymru, a fy nhrafodaethau â phobl ifanc sydd â phrofiad o ddigartrefedd a'r risg o fod yn ddigartref, wedi llywio'r dyraniad yr wyf i'n ei gyhoeddi heddiw.
Mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn nodi cyfres gymhleth o ffactorau rhyng-gysylltiedig a all arwain at achosi i unigolyn ifanc fod yn ddigartref. Mae'r adroddiad wedyn yn nodi teipoleg pum rhan o atal: atal strwythurol, systemau atal, ymyrraeth gynnar, atal troi allan, a sefydlogrwydd tai. Mae adroddiad arall gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yna'n defnyddio'r deipoleg hon i fapio'r ddarpariaeth bresennol yng Nghymru, gan ddarparu sail gref ar gyfer llywio'r dyraniad cyllid yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw, yn ogystal â datblygu polisi yn y dyfodol.
Mae'r adroddiad yn ei gwneud yn glir, os ydym ni i ddileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc, mae angen inni fynd i'r afael â'r achosion gwreiddiol gan nodi'r rhai hynny sydd mewn perygl yn gynharach, a sefydlu mesurau i leihau'r ffactorau risg. Mae'n amlygu tystiolaeth gref i gefnogi dulliau aml-asiantaeth, cydgysylltiedig, gan gynnwys y prosiect Geelong, sy'n canolbwyntio ar fodel cydweithredol rhwng ysgolion a gwasanaethau ieuenctid, gan ddefnyddio offeryn sgrinio i nodi'r rhai hynny sydd mewn perygl, ac yna darparu fframwaith arfer hyblyg ac ymatebol. Mae llawer o egwyddorion Geelong eisoes yn weladwy yn y system addysg a'r gwasanaeth ieuenctid yng Nghymru, lle mae gennym ni hanes o fwrw ymlaen â'r math hwn o ymyrraeth gynnar yn llwyddiannus. Mae ein fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid wedi caniatáu inni adnabod yn gynt y rhai hynny sydd mewn perygl o beidio â bod mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant, trefnu cymorth priodol, a monitro ac olrhain y cynnydd.
Mae union nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar y lefel isaf y buon nhw erioed, ac maen nhw'n lleihau bob blwyddyn ers cyflwyno'r fframwaith. Ymwelodd y Prif Weinidog â Chanolfan Ieuenctid a Chymunedol Hanger yn Aberbargoed ddoe i weld sut y mae'n gweithio yn ymarferol. Gwyddom ni fod yr un arwyddion rhybudd y gallai pobl ifanc fod yn NEET hefyd yn ddangosyddion da y gall person ifanc fod mewn perygl o chwalfa deuluol neu ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Mae sail resymegol glir felly ar gyfer datblygu'r dull hwn a gweithio gyda phartneriaid i ystyried y potensial sylweddol i gryfhau'r fframwaith ar gyfer diben ehangach.
Rwyf felly yn falch o gyhoeddi y bydd £3.7 miliwn o gyllid yn cael ei ddyrannu i grant cymorth ieuenctid i ddatblygu a chryfhau systemau a gwasanaethau presennol, gan ganolbwyntio ar atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc, a defnyddio egwyddorion y model Geelong ymhellach a'u haddasu ar gyfer y cyd-destun Cymreig. Bydd y cyllid hefyd yn darparu ar gyfer hyfforddiant ac adnoddau i gefnogi cwnselwyr mewn ysgolion, swyddogion lles addysg, gweithwyr ieuenctid ac aelodau staff rheng flaen eraill i sicrhau eu bod yn cael gwybodaeth ehangach am ddigartrefedd a'r cysylltiadau i ffactorau risg eraill er mwyn gallu atal pobl ifanc yn well rhag bod yn ddigartref.
Mae'n hanfodol bod egwyddorion Geelong yn cael eu gwneud yn rhan annatod ar draws y gwasanaethau presennol i sicrhau y nodir yn ddi-dor y bobl ifanc sydd mewn perygl o ddigartrefedd a'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt. Bydd y cyllid gwerth £3.7 miliwn hefyd ar gael i ariannu cydlynydd digartrefedd ieuenctid ym mhob awdurdod lleol i ddatblygu'r agenda gydweithredol hon.
Mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cydnabod mai elfen hanfodol wrth fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc yw sefydlogrwydd tai, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddarparu amrywiaeth o opsiynau cymorth a llety addas i bobl ifanc. Mae'r rhaglen Cefnogi Pobl bresennol yn ariannu ystod o brosiectau i helpu pobl ifanc i gael mynediad i lety a'i gynnal, ac mae'r adolygiad tai fforddiadwy yn ystyried rhai o'r cwestiynau strwythurol ehangach.
Fodd bynnag, mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn dweud wrthyf fod angen pendant am hyrwyddo ac annog dewisiadau newydd ac arloesol i letya a chefnogi pobl ifanc. Felly, mae'n bleser gennyf gyhoeddi £4.8 miliwn o gyllid i sefydlu cronfa arloesi newydd sbon i ddatblygu opsiynau tai a chymorth addas i bobl ifanc. Gallai'r rhain, er enghraifft, gynnwys tai yn gyntaf ar gyfer pobl ifanc, neu brosiectau penodol ar gyfer pobl ifanc a ryddheir o'r carchar neu sy'n gadael gofal.
Mae'n hanfodol ein bod yn deall yr amgylchedd presennol o opsiynau tai sydd ar gael i sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn cael ei yrru gan anghenion pobl ifanc. Felly, rwyf wrthi'n comisiynu darn byr o waith i asesu'r opsiynau tai presennol ar gyfer pobl ifanc sy'n agored i niwed, gyda golwg ar ddeall y bylchau yn well, a cheisio adeiladu ar yr opsiynau sydd ar gael a'u datblygu.
Agwedd arall a amlygwyd yn adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yw'r hyn y maent yn ei ddisgrifio fel atal systemau. Gwyddom fod plant sy'n gadael y system gofal yn wynebu mwy o risg o fod yn ddigartref. Mae llawer o'r rhai sy'n gadael gofal yn dweud eu bod yn ansicr ynghylch sut i reoli cyllideb neu broblemau yr aelwyd, eu bod yn teimlo'n unig, ac, fel llawer o bobl ifanc, mae angen cymorth arnynt i wneud y trosglwyddiad i fyw'n annibynnol. I gydnabod hyn, cefnogodd Llywodraeth Cymru ddatblygiad fframwaith llety a chymorth y rhai sy'n gadael gofal, drwy Barnardo's Cymru, yn benodol ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael gofal yng Nghymru.
Mae fy adran i wedi bod yn cydweithio'n agos â'r adran gwasanaethau cymdeithasol i nodi'r rhwystrau i weithredu'r llwybr yn effeithiol a mesurau eraill a allai fod eu hangen i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal. Mae grŵp dan arweiniad gwasanaethau tai a gwasanaethau cymdeithasol ar y cyd yn cael ei sefydlu i eistedd dan y grŵp gorchwyl a gorffen digartrefedd gweinidogol a'r grŵp cynghori gweinidogol plant sy'n derbyn gofal, a gadeirir gan David Melding, er mwyn cryfhau'r trefniadau sydd ar waith i sicrhau bod pobl ifanc trosglwyddo’n llwyddiannus o ofal i fyw'n annibynnol.
Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi y caiff £1 miliwn o gyllid ei ddyrannu i'r Gronfa Dydd Gŵyl Dewi. Bydd hyn yn dyblu'r gyfradd ac yn cryfhau'r cymorth ariannol uniongyrchol sydd ar gael i'r rhai sy'n gadael gofal i'w helpu i bontio a gallu byw'n annibynnol a helpu i'w hatal rhag bod yn ddigartref. Mae'r cyllid hwn yn ceisio darparu rhywfaint o gymorth ariannol ymarferol i'r rhai sy'n gadael gofal y byddai eraill yn ei ddisgwyl gan eu rhieni, gan ganiatáu iddynt symud yn llwyddiannus i fod yn oedolion ac yn annibynnol.
Mae atal systemau llwyddiannus hefyd yn cynnwys ymwybyddiaeth ehangach ymhlith holl weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'r bobl ifanc am beryglon digartrefedd a'r gwasanaethau a'r ymyriadau sydd ar gael i gefnogi pobl ifanc. Felly, rwy'n dyrannu £0.25 miliwn ar gyfer gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu newydd, wedi'i dargedu. Bydd hyn ar ddwy ffurf, un yn benodol ar gyfer pobl ifanc a'r llall ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ifanc, i godi ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a manteisio ar wasanaethau sydd ar gael. Byddwn yn cydweithio'n agos â'r ymgyrch Dileu Digartrefedd Ieuenctid Cymru, a bydd eu harbenigedd yn amhrisiadwy i brofi a rhoi cyngor ar y dull hwn o weithredu.
Tynnodd adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru sylw at y cymhlethdod o ddeall yr wybodaeth sydd ar gael i bobl ifanc. Felly, yn ychwanegol at gyfathrebu wedi'i dargedu, rwyf hefyd yn dyrannu £0.25 miliwn i waith cymorth tenantiaeth, gan gynnwys gwaith gyda Shelter Cymru a'i llinell gymorth bresennol, i sicrhau y gall pobl ifanc gael gafael ar wasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth yn eang.
Dirprwy Lywydd, mae gormod o waith eisoes yn mynd rhagddo sy'n sail i'r agenda hon ar draws y Llywodraeth, gan gynnwys gwaith ar brofiadau plentyndod andwyol, agwedd ysgol gyfan at iechyd meddwl, a phwyslais ehangach ar gymorth emosiynol a llesiant ar gyfer pobl ifanc. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i ategu, unioni ac atgyfnerthu gwaith presennol drwy weithio ar y cyd, ac mae'r cyllid hwn yn fwriadol yn gymysgedd o arloesi ac esblygiad er mwyn gwneud hynny.
Mae'r dyraniadau cyllid a gyhoeddwyd gennyf heddiw yn golygu dull o weithredu ar y cyd ac ataliol o ymdrin â'r mater cymhleth hwn, ac yn dangos ein hymrwymiad trawslywodraethol i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Diolch.
Rwy'n falch iawn o groesawu'r datganiad hwn. Yn benodol, cymeradwyaf yr elfennau canlynol: credaf fod y pwyslais ar bobl ifanc NEET yn hollol briodol, mae hwnnw'n ddangosydd risg mawr. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae hon yn broblem gymhleth, ond mae angen dull sydd wirioneddol yn sicrhau bod pobl ifanc yn byw bywydau mor llawn â phosib. Felly, mae angen iddynt fod yn gwneud rhywbeth adeiladol â'u bywydau yn ogystal â chael cartref diogel. Felly, credaf fod y mater NEET yn hollol briodol fel dangosydd allweddol.
Rwy'n falch o glywed am y £4.8 miliwn sy'n mynd i gael ei fuddsoddi mewn cronfa arloesedd, a fydd yn cefnogi mesurau fel tai yn gyntaf. Rhaid imi ddweud fy mod i'n credu bod y model tai yn gyntaf yn arbennig o berthnasol o ran digartrefedd ieuenctid a galluogi pobl ifanc i gadw tenantiaethau gyda'r math hwnnw o gefnogaeth, a'r ffaith nad ydym yn troi ein cefnau arnynt. Felly, os bydd pethau'n digwydd a bod problemau i'w datrys, nid ydym yn eu troi allan ac maent yn cael ail neu drydydd cyfle, beth bynnag fydd angen. Mae'r model tai yn gyntaf, gyda chymorth cofleidiol gan asiantaethau amrywiol, yn allweddol. Felly rwy'n croesawu'r agwedd honno ar y cyhoeddiad yn benodol.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y cyfeiriad at y rhai sy'n gadael gofal? Hefyd, cymeradwyaf waith Barnardo's yn y maes hwn. Rwyf hefyd yn falch o weld dyblu'r gronfa Dydd Gŵyl Dewi i helpu byw'n annibynnol. Roedd Carl Sargeant yn benderfynol y byddai'r gronfa Dydd Gŵyl Dewi yn sefydlu'r cysyniad hwn o fanc mam a dad a'i ddefnyddio yn y maes allweddol hwn.
Credaf hefyd, i'r rhai sy'n gadael gofal, mai tai fel arfer fydd yr angen mwyaf amlwg ar eu cyfer. Rwy'n credu bod cyrhaeddiad addysgol yn beth gwirioneddol bwysig i bobl ifanc mewn gofal, ond pan fyddant yn gadael gofal—er y gallant fod mewn rhyw fath o addysg o hyd—mae tai wedyn yn fater o angen dybryd iawn, iawn. A chredaf fod rhianta corfforaethol mewn gwirionedd yn golygu rhyw fath o ddull tai yn gyntaf. Rwyf hefyd yn croesawu'r hyn a ddywedasoch am yr angen i bob asiantaeth gyhoeddus fod yn ymwybodol o'r risgiau o ddigartrefedd sy'n wynebu rhai pobl ifanc. Ac, unwaith eto, mae gennym y dull hwnnw ar gyfer plant sy'n derbyn gofal plant, y rhianta corfforaethol hwnnw, mae'n perthyn i bawb, nid gwasanaethau plant yn unig, ond mae'n mynd ar draws yr holl asiantaethau cyhoeddus. Felly, croesawaf y cyfeiriad hwnnw yn eich datganiad.
Fodd bynnag, mae un neu ddau o bethau y credaf y dylwn bwyso am ateb arnynt, dim ond i weld beth yw syniadau Llywodraeth Cymru. Nid oes targed yn eich datganiad ar gyfer dileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Nawr, gwn pan wnawn y mathau hynny o gyhoeddiadau, eu bod yn ddatganiadol, ond credaf o hyd eu bod yn gosod amcanion pwysig. Nawr, yn yr Alban, maent wedi haneru digartrefedd ieuenctid ers 2010. Yn Lloegr, ceir targed i haneru digartrefedd erbyn 2022, a'i ddileu erbyn 2027. Credaf y dylem ni osod rhai targedau hefyd. Nid wyf yn disgwyl ichi wneud hynny yn eich ateb, ond credaf y gallech ganfod bod dull gweithredu trawsbleidiol i hyn ac y byddem oll yn cytuno i'r ymrwymiad hwnnw ac i'r blaenoriaethau a'r costau ariannol y byddai'n rhaid ymrwymo iddynt wedyn. A chredaf y byddai hynny yn gosod gweledigaeth glir iawn ynghylch pa bryd yr ydym am ddileu'r pla hwn. Ond mae llawer sy'n ddefnyddiol yn y datganiad hwn, ac rwy'n n falch o'i gymeradwyo.
Diolch yn fawr iawn i David Melding am ei gyfraniad ac am ei groeso i'r cyhoeddiadau heddiw. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i David am y gwaith y mae'n ei wneud, ac y mae wedi'i wneud ers blynyddoedd lawer, fel eiriolwr gwirioneddol ar gyfer plant a phobl ifanc mewn gofal ac sy'n gadael gofal. Rwy'n ei gymeradwyo ac, unwaith eto, yn diolch iddo am y gwaith a wna ar y grŵp cynghori gweinidogol hefyd.
Hoffwn roi sylw ar unwaith i'r mater a godwyd ynghylch targedau. Pan gyhoeddodd y Prif Weinidog y £10 miliwn ychwanegol y flwyddyn ddiwethaf, dywedodd mai ei fwriad fyddai dileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru mewn 10 mlynedd, felly byddai hynny erbyn 2027. Nid wyf dan unrhyw gamargraff o ran pa mor anodd fydd y dasg.
Yn y lle cyntaf, mae'n anodd iawn deall faint yn union o bobl ifanc sy'n ddigartref, oherwydd nid yw llawer ohonynt o anghenraid yn disgrifio eu hunain yn ddigartref. Os ydynt yn teimlo na allant aros yng nghartref y teulu ac maent yn cysgu ar soffa ffrind, er enghraifft, nid ydynt yn disgrifio eu hunain fel pobl ddigartref, ond byddem ni yn sicr yn ystyried eu bod yn ddigartref. Yn yr un modd, gall pobl ifanc gael eu hunain yn ddigartref o ganlyniad i'r teulu'n colli eu cartref. Felly, rydym yn deall yr amcangyfrif bod tua 7,000 o bobl ifanc yn ddigartref, a'r ffigur hwnnw yw'r ffigur a roddwyd i ni gan yr ymgyrch Dileu Digartrefedd Ieuenctid Cymru. Credaf fod hynny mewn gwirionedd yn rhoi syniad inni o faint y dasg sy'n ein hwynebu.
Cyfeiriodd David Melding at y gronfa Dydd Gŵyl Dewi. Rwy'n falch iawn ein bod ni'n gallu cyfrannu arian ychwanegol at hon, oherwydd rydym wedi gweld yr effaith y mae wedi'i chael eisoes. Ers ei lansio y llynedd yn unig, mae wedi helpu dros 1,900 o blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal i gael arian i gefnogi eu cyfnod pontio i fod yn oedolion. Mae'r astudiaethau achos yn dangos bod y cyllid wedi cael ei ddefnyddio yn hyblyg ac yn greadigol iawn gan awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion y bobl ifanc hynny yn yr un modd y gallai rhieni biolegol gefnogi eu plant.
Felly, er enghraifft, defnyddiwyd y gronfa i dalu am wersi gyrru i alluogi'r rhai sy'n gadael gofal i gael cyflogaeth ac addysg; taliadau pontio er mwyn galluogi parhad tenantiaeth a phreswylfa, neu oherwydd diffyg annisgwyl mewn budd-daliadau, er enghraifft; cofrestru ar gyrsiau; deunyddiau ar gyfer astudiaeth; gliniaduron ar gyfer astudiaethau addysg bellach ac uwch; a hefyd dillad a gwisgoedd ar gyfer gwaith—felly, pob math o gostau y gall pobl ifanc orfod eu hysgwyddo wrth iddynt symud ymlaen at fywyd fel oedolyn. Felly, mae'n gronfa gyffrous iawn, ac rwy'n falch o weld y gwahaniaeth y mae'n ei wneud eisoes.
Un o rannau cyffrous iawn y datganiad heddiw i mi, rwy'n credu, yw'r gronfa arloesi honno. Rwyf wirioneddol eisiau cael y gofod lle gallwn gyflwyno syniadau da. Oherwydd un peth a ddysgais yn ystod y flwyddyn y bûm yn cydweithio'n agos â'r sector hwn yw ei fod yn sector sy'n byrlymu â syniadau da ac awydd i symud ymlaen ac edrych ar atebion a chyfleoedd. Felly, rwy'n edrych ymlaen at y math o gynlluniau a fydd yn cael eu cynnig.
Er mwyn eglurder yn unig, bydd proses ymgeisio am y cyllid hwnnw, ac mae'r meini prawf yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd ar gyfer hynny. Mae'r cyllid yn eistedd o fewn y grantiau atal digartrefedd, a bydd panel o fewn Llywodraeth Cymru yn helpu i benderfynu pa rai fydd y rhaglenni llwyddiannus. Ond yn bendant, gallai tai yn gyntaf fod yn un o'r mathau hynny o raglenni.
Roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i ymweld â'r Rock Trust yn yr Alban, sef y prosiect tai yn gyntaf cyntaf erioed yn y DU. Dechreuodd yn 2017, felly mae'n ddyddiau cynnar o hyd yno, ond maent yn frwdfrydig iawn ynghylch beth sy'n cael ei gyflawni yno. Roeddwn yn hoffi pan ddefnyddiodd David Melding yr ymadrodd 'beth bynnag y mae angen ei wneud', oherwydd, mewn gwirionedd, dyna ddull Rock Trust o weithredu tai yn gyntaf— mae'n fater o beth bynnag y mae angen ei wneud.
Hefyd, rwyf wedi bod yn glir iawn gydag awdurdodau lleol bod yn rhaid i'n deddfwriaeth tai gael ei hystyried o fewn ysbryd hynny hefyd, yn hytrach na dim ond cyflawni dyletswyddau i lythyren y gyfraith. Un enghraifft fyddai person ifanc mewn perygl o ddigartrefedd. Ceir ymyriad uniongyrchol gan yr awdurdod lleol i geisio atal y digartrefedd hwnnw, ond, am ryw reswm neu'i gilydd, nid yw'n gweithio. Wel, maent wedi cyflawni eu dyletswyddau, ond, mewn gwirionedd, byddai ysbryd y gyfraith yn golygu eu bod yn dal i fynd yn ôl i sicrhau na fydd y person ifanc hwnnw yn cael ei hun yn ddigartref. Felly, rydym wedi bod yn glir iawn gydag awdurdodau lleol ar hynny.
Unwaith eto, mae'r pwynt y mae David Melding yn ei godi ynglŷn â dealltwriaeth eang o beryglon digartrefedd ieuenctid a sut i'w nodi yn bwysig, ac y mae, unwaith eto, yn rhywbeth a nodwyd yn addas ar gyfer cyllid pellach yn fy natganiad i heddiw. Diolch i chi.
Mae digartrefedd yn ddewis gwleidyddol; mae'n ganlyniad i amryw o bolisïau a gellir ei ddatrys drwy bolisïau. Yn wir, roedd niferoedd y bobl a oedd yn cysgu ar y stryd yn llawer llai ddegawd yn ôl, diolch i bolisïau ar waith oedd yn ceisio cefnogi pobl a rhwyd ddiogelwch cymdeithasol a oedd, mewn gwirionedd, yn well nag y mae heddiw. Rwy'n gwerthfawrogi'r datganiad yr ydych wedi'i roi inni. Rydym wedi aros dros flwyddyn am yr wybodaeth hon, a dwi ddim eisiau tanseilio gwaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, ond maent yn dweud pethau wrthym yr ydym eisoes yn eu gwybod. Er enghraifft, mynd i'r afael ag achosion sylfaenol, lleihau ffactorau risg, gwaith traws-Lywodraeth—mae'r rhain yn bethau y dylid bod wedi eu rhoi ar waith cyn hyn, ac yn bethau a oedd yn hysbys inni eisoes. Felly, hoffwn lunio fy ymateb mewn cysylltiad â hynny.
Nawr, fe aethoch i gynhadledd Argyfwng, a gwn ichi siarad yn y gynhadledd honno. Roeddwn am wybod a fyddech yn cefnogi'r argymhellion a wnaed yn benodol ar gyfer eich Llywodraeth, rai ohonynt a ddarllenaf allan yma heddiw. Felly,
Gosod dyletswydd ar bob corff cyhoeddus perthnasol i atal digartrefedd ac i gydweithredu ag awdurdodau tai lleol i liniaru digartrefedd.
Cyflwyno terfynau amser llym ar y defnydd o lety dros dro o ddim mwy na saith diwrnod, a dylai hyn fod yn berthnasol i bob aelwyd ddigartref.
Ddiddymu meini prawf angen blaenoriaethol.
Cyflwyno dyletswydd i ddarparu llety brys ar unwaith i bawb sydd heb unrhyw le diogel i aros hyd nes y diddymir angen blaenoriaethol.
Diddymu meini prawf cysylltiadau lleol ar gyfer pobl sy'n cysgu allan, a sicrhau nad yw bellach yn rhwystr i gymorth ar gyfer unrhyw un sydd dan fygythiad neu sy'n profi digartrefedd. Mae'r rhain yn llawer o awgrymiadau a roddwyd ar waith gan y sector, a chredaf y dylid ymateb iddynt.
Nawr, gwn eich bod wedi dweud eich bod am roi cyllid tuag at dai yn gyntaf. Mae fy mhortffolio i wedi newid, ond wn i ddim a ydych chi wedi cyhoeddi canlyniadau'r cynlluniau peilot, neu a yw'r arian newydd hwn yn fwriad i godi'r fenter tai yn gyntaf, o gofio eich bod chi wedi dadansoddi ei bod yn beth da?
Pan ddywedwch y bydd £3.7 miliwn o gyllid ar gael i ariannu cydgysylltwyr digartrefedd ieuenctid ym mhob awdurdod lleol i ddatblygu'r agenda gydweithredol hon, pa drafodaethau ydych chi eisoes wedi'u cael â Llywodraeth Leol yn hyn o beth? Rwy'n cael negeseuon e-bost di-ri gan Lywodraeth Leol yn dweud eu bod wedi'u hymestyn i'r eithaf. A ydynt wedi cael unrhyw ymyrraeth ynghylch ble neu sut y byddent yn defnyddio'r arian hwn yn y ffordd orau?
Ac rwyf mewn penbleth braidd ynghylch beth fydd y gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu wedi'i dargedu gyda £1 miliwn yn cael ei roi tuag at hynny. Sut y byddwch yn ymgysylltu â phobl ifanc? Sut yr ydym yn mynd i allu olrhain datblygiad cynnydd yn hyn o beth, a pha waith fyddwch chi'n ei wneud wedyn gyda—? Nid ydych ond yn sôn am un sefydliad yma heddiw. Sut fyddwch chi'n gweithio gyda'r sector ehangach i sicrhau y bydd pawb yn y maes hwn yn gallu cymryd rhan ynddo?
Dywedwch ei bod yn anodd, o bosib, gyrraedd y targed ymhen 10 mlynedd, ond rydym wedi aros yn hir iawn ar gyfer targed rhoi terfyn ar ddigartrefedd ieuenctid. Mae angen inni allu cael targedau canolraddol i ddeall sut y byddwch yn gallu cyrraedd y nod hwnnw, sut y byddwch yn cynnwys y sector a sut, yn y pen draw, y byddwch yn cynnwys pobl ifanc sy'n ddigartref mewn gwirionedd? Oherwydd dro ar ôl tro, maent yn teimlo'n ddi-fraint, maent yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnyn nhw ac maent yn teimlo'n ynysig. Sut allwn ni sicrhau eu bod yn allweddol i gyflawni yn hyn o beth?
Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau hynny. Mae'n drueni eu bod yn methu â chydnabod y gwaith mawr sydd eisoes wedi'i wneud ar hynny gyda chefnogaeth y Llywodraeth dros gyfnod hir, nid yn lleiaf drwy'r grant Cefnogi Pobl, y gwn fod gan ein dwy blaid ddiddordeb penodol ynddo. Felly, un enghraifft fyddai Prosiect Pobl Ifanc Sengl Ddigartref Abertawe. Dyna sefydliad lle mae pobl ifanc yn cael eu gwerthfawrogi am y cyfraniadau a wnânt, ac mae ganddynt wasanaethau safle sefydlog o'r enw Drws Agored, sy'n darparu gwasanaeth brys ar gyfer naw o bobl ifanc ddigartref. Felly, mae hynny'n wirioneddol yn y rheng flaen o atal pobl ifanc rhag troi i gysgu ar y stryd. Ac maent hefyd yn cynnig gwasanaethau cymorth fel y bo'r angen i bobl ifanc sy'n agored i niwed hyd at 25 oed sydd angen rhywfaint o gymorth i gynnal eu tenantiaeth. Dyna un enghraifft yn unig. Rwyf wedi bod i weld Llamau hefyd i weld y gwaith gwych y maent yn ei wneud, a ariennir hefyd gan Lywodraeth Cymru.
Felly, credaf ei bod yn annheg awgrymu, yn sydyn iawn, ein bod wedi deffro i'r her o ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Mewn gwirionedd, mae gwaith wedi digwydd ym maes digartrefedd ieuenctid ers blynyddoedd lawer, ac rydym wedi gweld fframwaith ymgysylltu a dilyniant ieuenctid bob blwyddyn, gan leihau nifer y plant a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Felly, credaf ei fod yn gwneud tro gwael â phobl sy'n gweithio ddydd ar ôl dydd yn y sector hwn i geisio sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael eu hun yn ddigartref, a'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud yn yr agenda hon dros gyfnod hir.
Felly, o ran sut y byddem eisiau mesur y targedau hynny, mewn gwirionedd credaf fod angen inni fod yn realistig a disgwyl, o bosib, gynnydd yn nifer y bobl yr ydym yn nodi eu bod yn ddigartref yn y tymor byr. Byddai hynny o ganlyniad i'r gweithgaredd cyfathrebu hwnnw y byddem yn ei wneud a'r codi ymwybyddiaeth y byddem yn ei wneud o ran helpu'r bobl hynny sy'n gweithio yn y gwasanaethau ieuenctid, mewn ysgolion ac ati, i nodi'r arwyddion risg y gallai person ifanc fod yn cysgu ar y stryd. Gwn fod llawer ohonom yn lansiad ymgyrch Dileu Digartrefedd Ieuenctid Cymru a chlywsom lawer iawn yno ac yn uniongyrchol iawn gan bobl ifanc sydd â phrofiad personol o gysgu ar y stryd sut yr oeddent yn teimlo nad oedd y bobl hynny a oedd gweithio'n fwyaf agos gyda nhw wedi sylwi hyd yn oed ar yr arwyddion y gallent fod yn cysgu ar y stryd.
Ar y mater o angen blaenoriaethol, rwyf eisoes wedi ymrwymo i gomisiynu adolygiad o angen blaenoriaethol—rwy'n deall yn iawn fod materion yno sy'n ymwneud ag angen blaenoriaethol. Fodd bynnag, byddwn yn dweud yr ystyrir bod pobl ifanc eisoes mewn angen blaenoriaethol. Felly, caiff pobl ifanc 16 neu 17 oed, drwy ddiffiniad, eu hystyried yn angen blaenoriaethol, ac ystyrir y rhai rhwng 18 a 20 oed sydd mewn perygl arbennig o gael eu hecsbloetio'n rhywiol neu'n ariannol hefyd yn angen blaenoriaethol, fel y bobl hynny hyd at 20 oed sydd wedi treulio amser mewn gofal. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn yr hyn y bydd ein hadolygiad o angen blaenoriaethol yn ei ddangos inni, ond ar hyn o bryd ystyrir y bobl ifanc hynny yn angen blaenoriaethol. A bydd y mater o gysylltiad lleol hefyd yn cael ei ystyried fel rhan o'r adolygiad ehangach hwnnw o angen blaenoriaethol, fel y dywedais eisoes wrth y Siambr o'r blaen.
O ran mewnbwn gan y sector ehangach, mae gan y grŵp cynghori gweinidogol—neu'r grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol, dylwn ddweud—gynrychiolaeth eang iawn, iawn ar draws y sector gan yr holl sefydliadau, o'r sector cyfiawnder ieuenctid i awdurdodau lleol i'r ymgyrch Dileu Digartrefedd Ieuenctid Cymru, a'r heddlu ac ati. Felly, caiff ei gynrychioli'n eang yn y sector ac mae'n ymateb yn fawr iawn i'r pwynt hwnnw bod mynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn gorfod bod yn gyfrifoldeb traws-sector.
O ran tai yn gyntaf, mae'r cynlluniau peilot yn mynd rhagddynt. Rydym bellach wedi nodi arian ychwanegol, a gyhoeddais yn ddiweddar, ar gyfer rhai prosiectau blaengar sy'n mynd â'r model tai yn gyntaf hwnnw i'r lefel nesaf, gan sicrhau eu bod yn gweithio'n agos iawn â gwasanaethau iechyd meddwl, â gwasanaethau trais yn y cartref ac â gwasanaethau camddefnyddio sylweddau hefyd, i geisio cael dull mwy integredig o ddiwallu'r anghenion hynny sydd gan bobl.
I orffen ar y pwynt penodol hwn, mae'r rhwydwaith tai yn gyntaf wedi cynhyrchu dogfen safonau tai yn gyntaf, yr ydym wedi cytuno arni bellach yn Llywodraeth Cymru. Felly, er mwyn i wasanaeth allu ystyried ei hun yn wasanaeth tai yn gyntaf, rhaid iddo fodloni’r holl safonau hynny. Oherwydd un o'm pryderon oedd bod rhai prosiectau rhagorol yn galw eu hunain yn brosiectau tai yn gyntaf nad oeddent yn glynu at egwyddorion tai yn gyntaf Llywodraeth Cymru, ac roedd hynny'n destun pryder. Felly, er bod angen mawr am fodelau ailgartrefu cyflym iawn, nid yw tai yn gyntaf i bawb. Ond mae angen inni aros yn driw i'r egwyddorion hynny o dai yn gyntaf os ydym yn bwriadu galw'r prosiectau hynny yn brosiectau tai yn gyntaf.
Croesawaf yn fawr iawn y sylw yr ydych chi'n ei roi i'r pwnc pwysig hwn a'r dull gweithredu cydgysylltiedig yr ydych chi'n ei roi iddo. Cytunaf yn llwyr fod NEET yn ddangosydd gwirioneddol o ddigartrefedd ieuenctid posib, ac un o'r pethau y mae angen inni ei wneud ar y cyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yw sicrhau bod ein holl ysgolion yn rhoi sylw i les eu holl bobl ifanc—mewn rhai o'n hysgolion mae arnaf ofn eu bod yn rhy awyddus i gael gwared ar bobl sydd angen cymorth ychwanegol ac mewn gwirionedd mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei atal rhag digwydd.
Ar un lefel, rwy'n synnu eich bod yn gorfod buddsoddi cymaint o arian mewn hyfforddiant ac adnoddau i gefnogi cwnselwyr a swyddogion lles addysg mewn ysgolion, oherwydd byddwn wedi tybio eu bod eisoes yn eithaf cyfarwydd â chymhlethdodau'r broblem hon. Ond ar y llaw arall, efallai mai'r hyn sydd ei angen yw ystyried anallu rhai ysgolion i gefnogi'n briodol bobl ifanc sy'n cael anawsterau.
Ddoe ymwelais â'r prosiect Grassroots yng Nghaerdydd, sydd yn Heol Siarl yng nghanol y ddinas. Mae hwn yn brosiect ieuenctid sydd wedi bod yn mynd am bron 40 mlynedd. Cafwyd tystiolaeth glir o ragoriaeth eu gwaith—dull cydgysylltiedig, yn union gyferbyn â'r swyddfa tai ieuenctid ac yn llythrennol i lawr y ffordd o'r Ganolfan Byd Gwaith lle'r oedd yn rhaid i bobl fynd a hawlio eu budd-daliadau. Ond, yn ogystal â hynny, cyfarfûm â nifer o bobl ifanc a oedd yn amlwg wedi ymwneud â Grassroots am nifer o flynyddoedd, ac yn amlwg bellach mae hwn yn gorff y maen nhw wedi dod i ymddiried ynddo. Ac, mewn llawer o achosion, mae'n stori o lwyddiant ardderchog, ac mae ansawdd eu gwaith yn wirioneddol arbennig.
Roeddwn yn falch iawn o gwrdd â dyn ifanc sydd yn ddiweddar wedi cael diagnosis o awtistiaeth, yn 25 oed, felly mae'n amlwg nad oeddem yn gwneud y peth iawn pan oedd ef yn yr ysgol. Mae'n ei chael yn anodd ar hyn o bryd, mae rhwng swyddi, ond roeddwn yn falch iawn o glywed bod mentrau awtistiaeth yn rhoi cymorth iddo gael tŷ annibynnol. Ar hyn o bryd, mae'n byw gyda'i fam, ond mae'n amlwg nad yw'n awyddus i barhau i wneud hynny, felly mae'n wych bod sefydliad arall sy'n arbenigo mewn awtistiaeth yn lleol i'w helpu gyda'r agwedd honno.
Un arall oedd rhiant ifanc a oedd yn byw mewn tŷ sector preifat gwirioneddol arswydus. Gwn nad yw yn fy etholaeth i, a gwn fod yr Aelod Cynulliad yn ymwybodol ohono. Ac wrth gwrs roedd yn gwneud ei gorau glas i fod yn rhiant i blentyn a oedd yn edrych yn hapus iawn ac yn ffynnu, felly pob lwc iddi hi ar ôl blynyddoedd lawer o gefnogaeth gan Grassroots.
Ac yn drydydd cwrddais â merch ifanc sy'n agored i niwed nad yw'n barod ar gyfer mynd i fyw mewn tŷ annibynnol. Pe byddem yn rhoi tenantiaeth iddi, byddai'n torri i lawr ar unwaith bron. Ac felly hoffwn ofyn ichi, Gweinidog, pa waith yr ydym yn ei wneud i ganolbwyntio ar dai â chymorth sydd eu hangen ar lawer o bobl ifanc sy'n cael eu hun yn ddigartref er mwyn eu galluogi wedyn i lwyddo i gael tenantiaeth? Oherwydd mae'n ymddangos i mi ein bod angen llety cyntedd, fel yr hyn a ddarperir gan St Basils yn Birmingham, lle mae ganddyn nhw 29 o hostelau gwahanol i gefnogi pobl ifanc, gan gynnwys rhai â theuluoedd, i sicrhau ein bod yn eu rhoi ar y llwybr cywir cyn iddynt fynd i'w cartrefi eu hunain, sydd wedyn yn syrthio i lawr. Maent yn union yr un egwyddorion tai yn gyntaf a ddefnyddiwn ni ar gyfer pobl sy'n gaeth i sylweddau a phobl â phroblemau iechyd meddwl o bob oedran.
Gwn fod Llamau yn gwneud rhywfaint o waith ac mae ganddynt rywfaint o lety mewn hostel, ond tybed faint o sylw a fu ar sicrhau bod hyn ar gael ledled Cymru. Mae'r gwaith a wneir gan Grassroots—eu gwaith estyn allan ar y stryd—yn nodi bod o leiaf un rhan o dair o'r bobl ifanc hyn yn dod o rywle arall y tu allan i Gaerdydd oherwydd does neb eisiau bod yr unig berson traws yn y pentref ac mae pobl sy'n wynebu agweddau beirniadol yn hytrach nag empathi yn rhwym o ddod i'n dinasoedd. Felly, credaf y dylem ganolbwyntio ar y math o dai â chymorth sydd eu hangen i sicrhau bod ein pobl ifanc mwyaf agored i niwed yn cael eu galluogi'n llwyddiannus i fynd yn ôl i fyw bywyd llwyddiannus.
Diolch yn fawr iawn i chi am y sylwadau hynny. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y prosiect Grassroots yng Nghaerdydd, felly byddaf yn siŵr o geisio ymweld ag yno i ddarganfod mwy am yr hyn sy'n digwydd ac unwaith eto byddaf yn edrych ar yr enghraifft a roddwyd gennych o St Basils yn Birmingham, oherwydd credaf ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar arfer gorau lle bynnag y gallwn ddod o hyd iddo.
Soniasoch am y dyn ifanc ag awtistiaeth a oedd yn cael ei gefnogi i fyw'n annibynnol. Rwy'n falch o weld bod yr unigolyn hwnnw bellach yn cael y cymorth sydd ei angen arno. Rwyf wedi bod yn awyddus o fewn y portffolio hwn i ystyried fy nghyfrifoldebau blaenorol, ac un o'r pethau a gyflwynwyd gennym yw rhywfaint o ganllawiau newydd ar dai sy'n ymwneud yn benodol â sut orau i gynnig cymorth i bobl ag awtistiaeth, ac mae hynny o ganlyniad i'r gwaith yr ydym wedi'i wneud yn ehangach drwy gyfrwng cynllun gweithredu strategol Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD)—unwaith eto, darn o waith yr ydym yn gweithio arno ar draws y Llywodraeth.
Cyfeiriasoch hefyd at berson ifanc nad yw'n hollol barod i symud ymlaen i fyw'n annibynnol, ac mae hynny'n adlewyrchu'n fawr iawn y math o drafodaethau yr ydym wedi'u cael o fewn y grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol, lle clywsom am bobl ifanc a oedd yn credu eu bod yn barod ond nad oeddent. Ac eto dyna'r math o enghraifft a roddais i David Melding lle mae unigolyn angen yr ail gyfle hwnnw, trydydd cyfle neu faint bynnag o gyfleoedd a gymer i gael cefnogaeth er mwyn gallu symud ymlaen i fod yn oedolyn ac i fod yn annibynnol.
Un darn o waith sy'n mynd rhagddo ar draws y Llywodraeth, unwaith eto, yw rhywfaint o waith ehangach ar y polisi 'Pan fydda i'n barod', ond nid edrych arno o ran pobl ifanc yn unig o fewn yr amgylchedd gofal maeth, ond gofal preswyl yn fwy eang. Felly, credaf y bydd hwnnw'n ddarn pwysig o waith wrth symud ymlaen hefyd. Yr enghraifft a glywsom am Llamau, rwy'n gyfarwydd iawn â hynny. Rwyf wedi ymweld â nhw yng Nghaerdydd ac wedi cael y cyfle, unwaith eto, i siarad â rhai o'r bobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio'n gadarnhaol iawn gan y gwasanaethau a gawsant yno.
Rwy'n awyddus iawn i weld sut y gallwn gysylltu'r gronfa arloesi a gyhoeddwyd gennym heddiw ag arian cyfalaf Llywodraeth Cymru. Gallai fod potensial ar gyfer rhagor o wasanaethau o'r math cyntedd hwnnw a ddisgrifiwyd gennych o bosib yn cael eu cyflwyno fel prosiectau o dan hynny. Mae'r model cyntedd yn llywio llawer o'r gwaith Cefnogi Pobl sydd eisoes yn digwydd ar hyn o bryd, ac yn sicr mae'n dwyn ymlaen yr egwyddorion Geelong hynny y cyfeiriais atynt yn gynharach yn fy natganiad.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, ac ymddiheuriadau i'r rhai a oedd eisoes ar y rhestr i siarad, ond does dim amser ar ôl.