– Senedd Cymru am 3:28 pm ar 15 Ionawr 2019.
Eitem 4 ar yr agenda'r prynhawn yma yw datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ynglŷn â chynigion presennol Llywodraeth y DU ar gyfer ymadael â’r UE, ac rwy'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth inni eistedd yma, mae ein cydweithwyr yn Senedd y Deyrnas Unedig yn cyrraedd diwedd eu trafodaeth hirfaith am gynnig y Llywodraeth ar gyfer cytundeb i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Mi fyddan nhw’n pleidleisio yn nes ymlaen ac mae'n debygol iawn y bydd cytundeb y Prif Weinidog yn cael ei drechu, yn drwm iawn, o bosib. Mae disgwyl inni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd mewn 73 o ddiwrnodau, a does dim cytundeb yn ei le.
Rydyn ni wedi cael ein harwain at y dibyn gan Lywodraeth hollol ddi-glem sydd â mwy o ddiddordeb mewn ymdrechion byrbwyll i uno'i phlaid ei hun na budd y wlad. Mae'r sefyllfa'n un gwbl warthus. Does gan fewnforwyr ac allforwyr ddim sicrwydd o gwbl o ran sut bydd eu busnesau'n gweithredu mewn ychydig wythnosau. Mae cynnyrch amaethyddol yn wynebu tariffau andwyol, ac fe allai'r peryg o ddryswch yn ein porthladdoedd effeithio ar gyflenwadau o bob math, o rannau ceir i feddyginiaethau neu ffrwythau a llysiau ffres. Gallai hyn effeithio ar bob rhan o'n cymunedau ac mae'n bygwth y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Fe fydd yn gosod pwysau ychwanegol diangen ar ein gwasanaethau cyhoeddus.
Mae dinasyddion Ewropeaidd sydd eisoes yn byw ac yn gweithio yma yn ein cymuned yn teimlo'n ansicr ac yn fregus. Nid oes gan y rhai sydd wedi cael cynigion i lenwi swyddi gwag hanfodol bwysig, er enghraifft yn ein gwasanaeth iechyd neu ein prifysgolion, ar ôl 30 Mawrth, unrhyw syniad ar ba sail y byddant yn cael hawl i weithio yma. Mae buddsoddwyr sydd wedi bod yn edrych ar y Deyrnas Unedig fel y ganolfan orau ar gyfer cyflenwi’r farchnad Ewropeaidd nawr yn ein hosgoi. Mae peryg i swyddi. Yn wir, mae rhai eisoes yn cael eu colli. Mae twf economaidd yn dod i stop a does neb yn gwybod beth a ddigwyddiff nesaf. Dirprwy Lywydd, mae Llywodraeth y Derynas Unedig yn chwarae gyda dyfodol y wlad.
Cymerodd hi ddwy flynedd i lunio cynigion Chequers, sef cynnig cyntaf y Llywodraeth i bob pwrpas ar gynllun ar gyfer perthynas hirdymor, er y dylai hynny fod wedi bod yn ei le pan gafodd erthygl 50 ei danio. Collwyd amser hanfodol yn dadlau dros linellau coch a chwarae i'r gynulleidfa yn nghynadleddau'r blaid. Ac hyd yn oed, dros yr ychydig wythnosau diwethaf, wrth gamu yn ôl, collwyd amser yn pledio am sicrwydd. Digwyddodd hyn i gyd yn hytrach na datblygu strategaeth ymarferol ac adeiladu cynghreiriau o gefnogaeth, gan gynnwys gyda'r rhai a oedd, fel Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol, yn annog perthynas ar ôl Brexit yn seiliedig ar barch i'r Undeb Ewropeaidd a buddiannau hanfodol y wlad hon.
Y canlyniad yw cytundeb sy'n cynrychioli cyfaddawdu amlwg ar safbwynt trahaus Prif Weinidog y DU a'i hesgus y gallwn ni gael yr un mynediad i'r farchnad sengl heb ymostwng i'w rheolau, ond sy'n ddiffygiol yn y datganiad gwleidyddol a daflwyd at ei gilydd ar frys i roi sicrwydd cadarn ynghylch dyfodol economaidd y wlad hon. Nid yw'r cytundeb yn cael gwared ar y bygythiad o'r ymyl dibyn peryglus; dim ond yn ei ohirio. Mae cytundeb y Prif Weinidog yn creu amwyster yn y berthynas fasnachu, ac yn eithrio gwasanaethau lle mae'r DU mewn gwirionedd yn mwynhau gwarged masnach ag Ewrop. Mae'n methu â sicrhau cydymffurfiaeth ag amddiffyniadau cymdeithasol, amgylcheddol ac yn ymwneud â'r gweithle y bydd yr UE yn eu cyflwyno yn y dyfodol. Mae'n meithrin ansicrwydd ar gyfer dinasyddion, Ewropeaid sy'n byw yma a dinasyddion y DU sy'n byw yn Ewrop. Ac o'i ystyried gyda'r cynigion cwbl gyfeiliornus yn y Papur Gwyn ar fewnfudo, mae'n bendant yn llesteirio gallu cyflogwyr i recriwtio gweithwyr yn y meysydd hynny lle mae prinder, a hynny yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. O ganlyniad i'r diffyg cydlyniad hwn, mae Llywodraeth y DU wedi gorfod derbyn yr ôl-stop astrus ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae dadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun, a rhai sefydliadau annibynnol, gan gynnwys y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ac Ysgol Economeg Llundain, yn dangos y bydd dull gweithredu Llywodraeth y DU yn niweidio'r economi. Ni phleidleisiodd neb yn y refferendwm dros fod yn dlotach.
Nawr, os ydym ni'n beirniadu safbwynt Llywodraeth y DU, mae'n gwbl resymol i ofyn beth ydym ni'n ei gynnig yn lle hynny. Yn hynny o beth, fe allwn ni fod yn glir iawn. Bron yn union ddwy flynedd yn ôl, fe wnaethom ni, ar y cyd â Phlaid Cymru, gyhoeddi ein cynigion yn ein Papur Gwyn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Ac fe wnaf i, os caf i, ategu'r sylwadau a wnaeth y Prif Weinidog yn y teyrngedau yn gynharach i Steffan Lewis, yn arbennig ei swyddogaeth annatod wrth ddatblygu'r cynigion ar y cyd hynny. Ond os oedd Llywodraeth Cymru yn gallu cyhoeddi safbwynt cynhwysfawr, strategol ar gyfer gadael yr UE ddwy flynedd yn ôl, pam na allai Llywodraeth y DU wneud yr un peth? Bu'n rhaid inni aros tan haf 2018 cyn inni gael unrhyw awgrym difrifol o safbwynt y DU mewn gwirionedd. Roedd 'Diogelu Dyfodol Cymru' yn ymdrechu hefyd i ymestyn y tu hwnt i gyfyngiadau un blaid i geisio consensws ehangach, rhywbeth y mae Prif Weinidog y DU wedi gwrthod ei wneud wrth lunio ei safbwynt ei hun.
Rydym ni'n credu y caiff buddiannau hanfodol Cymru eu diogelu orau drwy sicrhau bod yr holl economi yn elwa ar y farchnad sengl, gan gynnwys gwasanaethau. Dyna ddymuniad byd busnes a dyna beth sydd ei angen ar fuddsoddwyr. Fe ddylem ni aros mewn undeb tollau, sy'n hanfodol er mwyn osgoi mwy o rwystrau ar y ffin ac sy'n fodd o fasnachu'n rhydd gyda chynifer o wledydd. Dylem gadw amddiffyniadau cymdeithasol a hawliau cydfuddiannol i ddinasyddion y DU a'r UE sy'n byw yng ngwledydd ei gilydd, a pharhau i gydymffurfio â safonau amgylcheddol a hawliau cymdeithasol a llafur wrth iddyn nhw ddatblygu ar draws ein cyfandir. Dylai tegwch o ran symudiad fod â chysylltiad clir rhwng ymfudo o'r UE a chyfleoedd gwaith a dylid ychwanegu mesurau llym i atal camfanteisio ar weithwyr. Os dilynwn y mesurau hyn, fel yr amlinellwyd yn ein Papur Gwyn, fe fydd yr angen am drefniant ôl-stop ar gyfer Gogledd Iwerddon yn diflanu, ac mae uniondeb y DU, sydd wedi'i gymryd yn ganiataol yn sefyllfa negodi Llywodraeth y DU, yn cael ei amddiffyn.
Llywydd, nid oes gennyf y syniad lleiaf pa un a oes gan Brif Weinidog y DU gynllun wrth gefn. Er budd cenedlaethol, rwy'n gobeithio bod ganddi un—mae'n hanfodol. Rydym ni'n ei hannog yn awr i ymrwymo i fynd ati mewn ffordd newydd, yn seiliedig ar weithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig, ac ar sail drawsbleidiol, ac, ar yr un pryd, i ofyn i'r Undeb Ewropeaidd am estyniad i ddyddiad terfynol erthygl 50, sef 29 Mawrth. Mae'r wlad hon mewn cythrwfl dwfn, ac nid yw hi'n iawn fod penderfyniadau pwysig sylfaenol am ein dyfodol ni i gyd yn cael eu gwneud o dan yr amgylchiadau hyn. Mae angen oedi'r cloc wrth i'r Senedd ailymgynull, wrth inni i gyd ailymgynull, a meddwl yn ofalus ynghylch y ffordd orau ymlaen ar gyfer ein gwlad.
Ac rwy'n dweud hyn gyda phob parch i bob arlliw o farn. Beth bynnag yw barn pobl ynglŷn â Brexit, ni all fod yn iawn i'r wlad os wnawn ni adael yr UE heb unrhyw fath o gytundeb, yn seiliedig ar ddyddiad ar hap ar ddiwedd mis Mawrth. Ni fyddai hynny'n ddewis cyntaf i neb bron, a byddai'n warth. Ond y gwir plaen amdani yw hyn: rydym ni'n wynebu gadael heb gytundeb ar 29 Mawrth, ac mae'n rhaid inni baratoi ar gyfer hynny. Fel yr amlinellodd Prif Weinidog Cymru yr wythnos diwethaf, mae'r rhan fwyaf o'r elfennau allweddol o ran paratoi ar gyfer Brexit 'dim cytundeb' yn nwylo Llywodraeth y DU. Er gwaethaf ein hanghytuno ynglŷn â pholisi, rydym ni wedi ymrwymo i weithio'n agos â nhw, a chyda'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, a phartneriaid eraill, i baratoi.
Rydym ni wedi dweud yn gyson y byddai hi'n eithriadol o anodd lliniaru effeithiau 'dim cytundeb', ond mae gennym ni gyfrifoldeb i baratoi ar gyfer sefyllfa dywyll o'r fath. Rydym ni'n gweithio gyda sefydliadau eraill ledled Cymru i wneud popeth yn ein gallu i baratoi. Er mwyn hysbysu dinasyddion a sefydliadau, rydym ni wedi creu gwefan Paratoi Cymru, gan ddwyn ynghyd y cyngor a'r wybodaeth ddiweddaraf. Rydym ni'n rhagweld lansio'r wefan honno yn y dyddiau nesaf, gan ystyried sut bydd y sefyllfa gyfnewidiol iawn yma yn datblygu
Bydd Aelodau'n gwybod ein bod ni'n gweithio'n galed i wneud yn siŵr bod ein llyfr statud yn gyfredol. Mae gwaith mawr yn cael ei wneud, yma ac mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU, i sicrhau bod deddfwriaeth sy'n angenrheidiol i weithredu y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd ar waith cyn Mawrth 29. Mae'r gwaith hwnnw'n cael ei wneud mewn amgylchiadau eithriadol ac unigryw, ac rydym ni'n gobeithio y bydd cyd-Aelodau yma yn y Cynulliad Cenedlaethol yn gweithio ochr yn ochr â ni fel Llywodraeth. Rydym ni wedi gweithredu'r rhwydweithiau sefydledig ar gyfer rheoli argyfyngau sifil posibl yng Nghymru, ac rydym ni'n gysylltiedig â rhwydwaith argyfyngau ehangach y DU. Rydym ni hefyd yn gweithio gyda fforymau cydnerthedd lleol ledled Cymru. Mae GIG Cymru yn gweithio gyda'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol i hwyluso eu paratoadau angenrheidiol. Caiff gwybodaeth ddefnyddiol i fusnesau ei chynnwys ar borth Brexit Busnes Cymru, ac fe gaiff rhagor o wybodaeth ei chynnwys pan fydd ar gael.
Llywydd, does dim osgoi realiti difrifol y sefyllfa anodd yr ydym ni'n ei hwynebu yn awr. Mae 'dim cytundeb' yn ganlyniad posib iawn, ac, yn Llywodraeth gyfrifol, mae'n rhaid inni wneud popeth a allwn ni i weithio gydag eraill i baratoi a lliniaru lle bo'n bosib. Ond nid dyma'r canlyniad yr ydym ni'n dymuno ei weld. Hyd yn oed nawr, rydym ni'n dal yn barod i weithio gyda Llywodraeth y DU, ac eraill, i sicrhau cytundeb synhwyrol gyda'r UE. Cawn wybod cyn bo hir sut y mae Llywodraeth y DU a'r Senedd yn bwriadu datrys y sefyllfa. Rydym ni eisoes wedi galw am ymestyn dyddiad terfyn erthygl 50.
Mae Llywodraeth y DU wedi peri dryswch i'w ffrindiau, tanseilio buddiannau ein gwlad, wedi achosi pryder i bobl Ewrop yn ein cymunedau ni, a gwaethygu rhaniadau dwfn ymhlith ei dinasyddion ei hun. Os na all Llywodraeth y DU gyflwyno cytundeb y mae cefnogaeth gref iddo, yna dylai sefyll o'r neilltu. Ni all yr anhrefn presennol barhau.
A gaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol, neu'r Gweinidog Brexit—yn rhinwedd pa bynnag swyddogaeth y mae'n gwneud y datganiad heddiw—am sicrhau bod copi o'r datganiad ar gael i mi? Mae'n rhaid imi ddweud, rwyf ychydig yn siomedig ynglŷn â naws y datganiad sydd newydd ei draddodi, oherwydd wrth gwrs rydym ni i gyd yn gwybod bod Theresa May wedi bod yn gweithio'n anhygoel o galed i allu meithrin consensws o gefnogaeth yn Senedd y DU—[Torri ar draws.]—yn Senedd y DU, er mwyn sicrhau Brexit sy'n anrhydeddu canlyniad y refferendwm yn ôl ym mis Mehefin 2016. Ac eto ymddengys fod gennym ni Blaid Lafur, yn San Steffan ac yma yng Nghymru, sydd fel petai ei bod yn ceisio rhwystro Brexit a rhwystro ewyllys y bobl. Ac ni ddylem ni anghofio; pleidleisiodd pobl Cymru i adael yr UE. Rwy'n gwybod mai dyna'r gwir anghyfleus i rai pobl yn y Siambr yma, ond datganiad o ffaith ydyw. Ac, wrth gwrs, yn eich etholaeth chi, Cwnsler Cyffredinol, roedd hi'n glir iawn bod mwyafrif o bron 14 y cant o'r bobl wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Nawr, allwn ni ddim anwybyddu'r ffeithiau hynny. Mae'n rhaid inni anrhydeddu canlyniad y refferendwm pa un a bleidleisiodd pobl i adael neu i aros. Beth mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud yw ei bod hi wedi mynd i Frwsel, mae hi wedi trafod â rhanddeiliaid, mae hi wedi gwrando ar bryderon pobl ac wedi dychwelyd gyda chytundeb sy'n gytundeb cyfaddawd, nad yw pawb yn hapus ag ef. Ond mae'n gytundeb serch hynny a fydd yn osgoi'r math o anhrefn a ddisgrifiwyd gennych chi a allai ddigwydd os ydym ni'n gadael yr UE heb gytundeb ar 29 Mawrth. [Torri ar draws.]
Mae'n hi'n ddigon hawdd i chi fod yn clochdar a beirniadu'r ffaith bod erthygl 50 wedi ei sbarduno, ond gadewch inni beidio ag anghofio y sbardunwyd erthygl 50 gyda chefnogaeth y Blaid Lafur ac, yn wir, byddai wedi cael ei sbarduno hyd yn oed ynghynt pe byddai Jeremy Corbyn wedi cael ei ffordd, oherwydd ar ddiwrnod y refferendwm roedd yntau eisiau cyflwyno'n hysbysiad. Felly, yr hyn sydd gennym ni yw Prif Weinidog sy'n ceisio llywio a sefydlogi'r llong ar adeg anodd yng ngwleidyddiaeth Prydain ac fe ddylem ni fod yn gweithio ar y cyd ar sail traws-bleidiol—dyma lle rwyf yn cytuno â'r Cwnsler Cyffredinol—er mwyn cyflawni Brexit a fydd er lles pawb yma yng Nghymru.
Mae angen inni barchu ein gilydd, ac nid wyf i'n teimlo bod naws y datganiad a wnaethoch chi yn rhoi'r parch yna i Lywodraeth y DU, oherwydd fe wyddom ni, wrth gwrs, bod Llywodraeth y DU yn ceisio cynnwys Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu'r sefyllfa. Rwy'n gwybod, er enghraifft—ac fe allech fod wedi ein diweddaru ynghylch hyn, ond wnaethoch chi ddim, a byddwn yn gwerthfawrogi pe gallech chi ddweud wrthym ni beth oedd canlyniad y cyfarfod a gawsoch chi ar 19 Rhagfyr, pan aethoch chi i gyfarfod y cyngor diogelwch cenedlaethol.
Efallai y gallech chi fod wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â'r cyfarfodydd wythnosol y gwahoddwyd Prif Weinidog Cymru a Llywodraeth Cymru i gymryd rhan ynddyn nhw o ran y trefniadau newydd ynghylch pa mor barod yw'r DU i ymadael â'r UE. Fe allech chi fod wedi dweud wrthym ni am y nifer o offerynnau statudol a basiwyd gyda chytundeb y DU a Llywodraeth Cymru—75 ohonyn nhw i gyd, sydd wedi eu cyflwyno gerbron Senedd y DU. Fe allech chi fod wedi penderfynu ein hysbysu ni am y trefniadau sydd gennych chi ar waith, o dan y cynlluniau wrth gefn, ar gyfer porthladdoedd Caergybi a sir Benfro. Fe allech chi fod wedi dweud wrthym ni am y cyfathrebu beunyddiol sy'n digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran eich timau cyfathrebu, y deallaf sy'n gweithio'n dda iawn. Ond yn hytrach yr hyn yr ydych chi wedi'i wneud yw ailadrodd yr un hen rwtsh tragwyddol, a dweud y gwir, yr ydym ni wedi ei glywed dro ar ôl tro gan Lywodraeth Cymru, heb ychwanegu unrhyw beth newydd at hynny heddiw.
Felly, yr hyn yr hoffwn i ei wybod yw: sut ydych chi'n gweithio gyda Llywodraeth y DU? Ar ba agweddau ydych chi'n cydweithio? Pa sicrwydd allwch chi ei roi y byddwch chi'n parhau i drafod â Llywodraeth y DU i sicrhau Brexit llwyddiannus? Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i anrhydeddu canlyniad y refferendwm mewn ffordd wahanol i'r un sydd wedi ei disgrifio gan gytundeb Prif Weinidog y DU? Oherwydd rydym ni'n gwybod y bydd cytundeb y Prif Weinidog yn ein galluogi i adfer rheolaeth dros ein ffiniau ein hunain ac yn rhoi terfyn ar ryddid i symud. Ni fydd eich trefniadau, fel y nodir nhw yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', yn gallu gwneud hynny.
Rydym ni'n gwybod y bydd cytundeb y Prif Weinidog yn diogelu swyddi. Rydym ni'n gwybod na fydd unrhyw lastwreiddio ar amddiffyniadau amgylcheddol neu amddiffyniadau cyflogaeth. Rydych chi wedi awgrymu y dylem ni barhau i fod yn gaeth i'r UE o ran eu hamddiffyniadau amgylcheddol a chyflogaeth, hyd yn oed os cawn nhw eu gwanhau yn y dyfodol. Wel, mae'r Prif Weinidog wedi rhoi gwarant hyd yn oed yn well: dywedodd na fydd unrhyw wanhau, ac rwy'n credu y byddai'n dda cael gwybod yr hoffech chi wneud y datganiad hwnnw hefyd. At hyn, wrth gwrs, bydd cytundeb y Prif Weinidog yn ein galluogi i lunio cytundebau masnach rydd o amgylch y byd. Ni fyddai eich cynigion yn ein galluogi ni i wneud hynny drwy ein clymu i gytundeb tollau yn y dyfodol yn y ffordd y mae wedi'i nodi yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Ac, wrth gwrs, mae cytundeb Prif Weinidog y DU yn diogelu didwylledd y Deyrnas Unedig. Dyna pam fy mod i'n cefnogi Prif Weinidog y DU, ac rwy'n credu y dylai'r DU fod yn gweithio ar sail drawsbleidiol i sicrhau'r Brexit y pleidleisiodd pobl Cymru a gweddill y DU drosto.
Mae'r Aelod yn sôn am y gwir anghyfleus. Mae arnaf ofn mai'r gwir anghyfleus yw hyn: cafodd pobl yng Nghymru addewid na fyddai unrhyw effaith niweidiol ar eu rhagolygon swyddi o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd; cawsant addewid na fyddai ceiniog yn llai yn dod i Gymru o ffynonellau arian Ewropeaidd; cawsant addewid o ucheldiroedd heulog gan y rhai sy'n ymgyrchu i adael yr Undeb Ewropeaidd—ac nid yw cytundeb y Prif Weinidog yn cynnig dim o hynny. Nid yw'n cynnig dim o hynny. Mae'n cynnig dwy flynedd o geisio cadw at safbwyntiau digyfaddawd, na ellid byth mo'u hamddiffyn, a threulio'r amser y gellid ei ddefnyddio yn y math o fentrau trawsbleidiol y mae'r Aelod wedi eu disgrifio, i estyn at rannau eraill o Dŷ'r Cyffredin i geisio meithrin, mewn amgylchiadau anodd mae'n rhaid cyfaddef, consensws ynghylch y math o Brexit y mae pobl yn y DU wedi pleidleisio drosto—nid dyna'r hyn a wnaeth y Prif Weinidog. Canolbwyntiodd ei hymdrechion ar reoli ei phlaid ei hun a rheoli'r tensiynau yn ei phlaid, yn hytrach na cheisio meithrin y consensws eang hwnnw mewn cyfnod anodd rhaid cyfaddef. Nid yw'n dda i ddim, ar yr unfed awr ar ddeg, i alw ar arweinwyr yr undebau i roi'r argraff ei bod yn ceisio estyn allan; nid yw'n gredadwy ar hyn o bryd. Dylai'r gwaith hwn fod wedi cael ei wneud dros y ddwy flynedd diwethaf. Nid yr unfed awr ar ddeg yw'r adeg i wneud hynny.
Mae'r Aelod yn sôn am gydweithio. Fel partner adeiladol, rydym ni yn gweithio gyda Llywodraeth y DU o ran y gwaith paratoi ac o ran llawer o bethau eraill. Soniodd am y rhaglen ddeddfwriaethol; bu llawer iawn o gydweithredu ar agweddau o honno. Bu'n rhaid inni bwyso am lawer iawn o'r cydweithredu hwnnw, ac mae'n rhaid imi ddweud, pan wnaed hynny, arweiniodd at gynnydd i ni. Byddwch yn gwybod am y cytundeb rhynglywodraethol, y buom ni'n cydweithio arno. Y pwynt yr wyf yn ei wneud yw hyn: wrth lunio'r weledigaeth—nid dim ond y ffordd y mae'n digwydd, ond y weledigaeth—ar gyfer dyfodol perthynas y DU yn yr Undeb Ewropeaidd, roedd cyfle gan y Prif Weinidog i ffurfio consensws eang, a dewisodd beidio â dilyn y llwybr hwnnw. Rydym ni wedi bod yn glir. Mae'n gofyn beth fyddem ni yn ei wneud pe byddem ni yn ei sefyllfa hi. Rydym ni wedi bod yn glir iawn ynglŷn â hyn. Daeth yn bryd bellach i ymestyn erthygl 50 a chreu'r amgylchiadau i alluogi'r math ar drafodaeth sy'n adlewyrchu'r egwyddorion a gefnogwyd gan y Cynulliad hwn, i adlewyrchu'r egwyddorion yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Hefyd, rydym ni'n gwybod y bydd uwch arweinwyr yn yr UE yn fodlon negodi ar sail o'r fath. Mae hi wedi colli'r cyfle hwnnw hyd yma. Nid yw hi'n rhy hwyr i achub ar y cyfle hwnnw, ac rydym ni'n ei hannog hi i wneud hynny.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am y datganiad, a hefyd yn croesawu'r Llywodraeth yn fy ategu i, wrth gwrs, gyda'i apêl i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ymestyn erthygl 50 ar sail y cynnig a basiwyd cyn y Nadolig.
Jest ar hwnna, wrth gwrs, un peth ydy apelio i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, er bod yna ddim gwrandawiad ar hynny ar hyn o bryd, ond mae'n bwysig hefyd, wrth gwrs, ein bod ni'n ymestyn mas i weddill yr aelod-wladwriaethau yn yr Undeb Ewropeaidd a fyddai'n gorfod ymateb i unrhyw gais. A ydy Llywodraeth Cymru yn bwriadu cysylltu gydag aelod-wladwriaethau—megis, wrth gwrs, Gweriniaeth Iwerddon—i wneud yn siŵr eu bod nhw'n ymwybodol bod yna rai yn y Deyrnas Gyfunol yn pwyso'n galed nawr i ymestyn yr amserlen?
Un peth sydd ar goll ychydig yn y datganiad, er bod y Cwnsler Cyffredinol yn dechrau cyffwrdd ag e nawr, yw: ymestyn i ba bwrpas? Mi oedd y Cwnsler Cyffredinol newydd, wrth gwrs, efallai wedi adlewyrchu peth o'r ieithwedd rydym ni wedi'i chlywed, wrth gwrs, gan ei gyd-aelodau o'r Blaid Lafur yn San Steffan—hynny yw, ymestyn er mwyn canfod cyfle i gael ailnegodi a chael dêl well. Y gwir amdani—ac roedd hwnna yn sicr yn cael ei ategu yn y trafodaethau gaethon ni gyda Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon—yw dyw hwnna ddim yn opsiwn. Hynny yw, mae'r amser wedi mynd ar gyfer hwnna. Felly dim ond, a dweud y gwir, ymestyn er mwyn rhywbeth sylfaenol wahanol fel aelodaeth o'r farchnad sengl, neu, wrth gwrs, bleidlais y bobl.
Ac ar hyn, wrth gwrs, rydyn ni rhyw bedair awr i ffwrdd nawr o'r bleidlais heno. Bydd pethau'n cyflymu. Dwi'n deall pam mae'r Blaid Lafur wedi ceisio cadw'r opsiynau i gyd ar y ford, ond yn ystod y dyddiau nesaf rydyn ni'n debyg o gael pleidlais diffyg hyder. Y tebygrwydd yw y bydd hwnna'n cael ei golli. Yn y sefyllfa yna, fyddai Llywodraeth Cymru'n symud yn gyflym i wneud penderfyniad a gwneud datganiad ynghylch beth ddylai ddigwydd wedyn? Gallen ni fod yn sôn am ddatblygiadau erbyn diwedd yr wythnos, hynny yw nid rhywbeth yn ystod yr wythnosau nesaf—does dim llawer o wythnosau ar ôl. Felly, ydy'r Cwnsler Cyffredinol yn gallu ein cerdded ni trwy'r camau yn ystod yr wythnos nesaf fydd yn debyg o ddigwydd yn sgil colli'r bleidlais heno?
Ac, yn olaf, hefyd, un o'r pethau trafodon ni yn Nulyn oedd yr angen—beth bynnag sy'n digwydd gyda Brexit, a dweud y gwir—i ddwysáu a chryfhau'r cysylltiadau sydd gyda ni ar draws y môr Celtaidd yn y gwledydd Celtaidd, wrth gwrs, lle mae yna gymaint gyda ni yn gyffredin, cymaint o fuddiannau ar y cyd, ac efallai i ddefnyddio'r capasiti sydd yna o dan y Good Friday Agreement, o dan edefyn 3, i greu perthynas multilateral rhwng Iwerddon, yr Alban a Chymru, fel ein bod ni, beth bynnag yw'r llanast sydd yn digwydd yn San Steffan ar hyn o bryd—ein bod ni, o leiaf, gyda'n gilydd, yn gallu cydweithio i'r dyfodol, er budd, wrth gwrs, y cenhedloedd i gyd.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Ar y pwnc o ymestyn erthygl 50, rŷn ni wedi bod yn galw am hyn oherwydd ei fod e'n amlwg bod angen mwy o ofod ar gyfer cyrraedd y man iawn o ran dêl sydd yn gweithio i Gymru ac i'r Deyrnas Unedig. Buasai cyfle i gael y trafodaethau hynny'n wobr i bawb yn y sefyllfa yma, a bod gyda ni gynllun sydd yn caniatáu i fuddiannau Cymru a'r Deyrnas Unedig gael eu parchu a'u cefnogi, a hefyd berthynas sydd yn cydnabod rôl elfennol bwysig yr Undeb Ewropeaidd fel partner masnachol ac ati i ni fel gwlad. A buasai ymestyn erthygl 50 yn caniatáu inni ddatblygu'r math yna o ymateb, a fuasai lot fwy tebygol o ennill cefnogaeth ehangach na'r ddêl sydd gan y Prif Weinidog yn San Steffan ar y bwrdd ar hyn o bryd.
Yn nhermau'r camau nesaf, rŷn ni'n darogan, wrth gwrs, y bydd y Prif Weinidog yn colli'r bleidlais heno a bydd motion of no confidence yn dod ymlaen o fewn cyfnod i hynny. Cwestiwn o ba bryd ddaw e, nid os daw e, yw hynny, ac rŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, yn sgil gwelliant Dominic Grieve i'r motion diweddar fod yn rhaid i'r Prif Weinidog ddod yn ôl i San Steffan o fewn tridiau â datganiad pellach. Felly, bydd hwnna'n rhoi moment o eglurder pellach i ni.
O ran cydweithio ag Iwerddon, er enghraifft, fel y gwnaeth e sôn yn gynharach, mae'r Prif Weinidog wedi cael cysylltiad eisoes gyda'r Taoiseach. Rwyf wedi ysgrifennu at y person sydd yn fy swydd i yn Llywodraeth Iwerddon hefyd. Mae'r cysylltiadau yma yn gysylltiadau pwysig o fewn yr Undeb Ewropeaidd a thu hwnt i aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n rhaid inni edrych ar bob cyfle gallwn ni i gryfhau'r rheini. Bues i gyda'r cyn-Brif Weinidog yn y British-Irish Council yn trafod yr union fath yma o beth ar ddiwedd llynedd, ac mae'n beth calonogol iawn, rydw i'n credu, yng nghyd-destun y cwestiwn mae'r Aelod wedi codi, fod nawr bortffolio wedi'i glustnodi ar gyfer y math yma o waith o fewn y Cabinet, o dan y Prif Weinidog.
Mae'r rhain yn amseroedd llawn pryder i'r cymunedau yr ydym ni'n eu cynrychioli, i fusnesau, ar gyfer y wlad gyfan, ac maen nhw'n disgwyl i'r Llywodraeth hon a llywodraethau eraill gynllunio ein ffordd drwy hynny. Nawr, yn natganiad prynhawn yma rwy'n ei groesawu, rydych chi wedi—mae'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit wedi—ei gwneud hi'n glir iawn os caiff pleidlais heno ei threchu, fel y mae'r rhan fwyaf o sylwebwyr, y rhan fwyaf o wleidyddion, y rhan fwyaf o'r cyhoedd, a phawb a phopeth bron iawn yn ei ddisgwyl, wedyn gan ddibynnu ar raddfa'r methiant hwnnw, gan ddibynnu ar beth fydd canlyniad y methiant hwnnw—ac mae nifer o wahanol bosibiliadau—byddai Llywodraeth Cymru yn estyn ei llaw ar gyfer trafodaethau pellach ymhlith y gweinyddiaethau datganoledig eraill, ar sail drawsbleidiol, gyda'r gobaith o gael trafodaethau yn seiliedig ar y syniad o undeb tollau, tegwch o ran symudiad gweithlu, ar fewnfudo teg ac ati. Ond mae sefyllfaoedd posib eraill hefyd, ac yn dibynnu ar raddfa methiant heno—pe bai methiant heno, oherwydd ni allwn ni ei ragweld, ond mae'r rhan fwyaf yn credu mai dyma fydd yn digwydd—fe allem ni fod yn negodi eto, fe allem ni fod mewn sefyllfa lle mae gennym ni Lywodraeth yn cwympo, fe allem ni fod mewn sefyllfa lle mae gennym ni Brif Weinidog yn cael ei diswyddo neu Lywodraeth yn camu o'r neilltu, gallai fod yn etholiad cyffredinol, ac fe allem ni fod yn edrych ar bosibiliadau gan gynnwys pleidlais gyhoeddus.
Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn y Siambr hon—nid pob un, rwy'n sylweddoli hynny—ond byddai'r rhan fwyaf o bobl yn y Siambr hon eisiau osgoi'r sefyllfa o gamu allan o'r UE, beth bynnag yr ydych chi'n ei alw, Brexit caled, 'dim cytundeb', disgyn yn bendramwnwgl o'r UE—cyfnod pontio heb ei reoli. Ond rwy'n ei chael hi'n anodd gweld sut bellach y gallwn ni osgoi hynny mewn unrhyw un o'r sefyllfaoedd hynny heb ymestyn dyddiad terfyn erthygl 50 mewn gwirionedd. Mae hi'n ymddangos bod pob un o'r trafodaethau hynny, y negodiadau hynny, etholiad cyffredinol, pleidlais gyhoeddus ac ati, ac ati, ac ati i gyd angen estyniad i erthygl 50. Felly, rwy'n gofyn i'r Gweinidog Brexit a'r Cwnsler Cyffredinol: a oes rhywbeth nad wyf i wedi sylwi arno, neu onid yw hynny'n hollol angenrheidiol, oni bai ein bod yn derbyn ein bod ni'n mynd i gamu'n syth dros ymyl y dibyn hwnnw?
Ond mae hi yn briodol, yn y cyfamser, ein bod ni'n parhau i gynllunio yn fanwl yma yng Nghymru ac ar lefel y DU am y 'dim cytundeb' hwnnw. Felly, a gaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ymhelaethu ar y gwaith y mae'n ei wneud mewn gwahanol ffyrdd, ac y mae cyd-Weinidogion yn ei wneud mewn gwahanol ffyrdd, ynglŷn â'r paratoadau 'dim cytundeb' hynny ym mhob agwedd ar waith y Llywodraeth, ond hefyd â busnesau a rhanddeiliaid eraill, ar gynllunio wrth gefn sifil a hefyd ar gyfathrebu? Oherwydd y pryder sydd gan fyd busnes, trigolion a phobl Cymru ar hyn o bryd—mae angen sicrwydd arnyn nhw fod cynllunio priodol yn mynd rhagddo ar gyfer 'dim cytundeb'.
Yn olaf, a gaf i ofyn a oes ganddo newyddion mwy diweddar a manwl inni ynghylch y defnydd o'r gronfa bontio Ewropeaidd i fynd i'r afael â blaenoriaethau pwysig pe byddai achos o 'dim cytundeb'? Rwy'n gwybod y bu'r Llywodraeth yn ystyried hyn. Mae yntau a Gweinidogion eraill wedi bod yn awyddus i fynd i'r afael â'r blaenoriaethau pwysicaf yn achos sefyllfa o 'dim cytundeb'. Sut mae'r Gronfa Bontio Ewropeaidd honno'n cael ei defnyddio? Mae hi yn briodol ein bod ni'n cynllunio ar gyfer 'dim cytundeb', ond rwy'n ei chael hi'n anodd gweld ffordd yn awr, a dweud y gwir, mewn unrhyw broses bontio wedi ei rheoli neu unrhyw bosibilrwydd nad yw'n golygu camu dros y dibyn, nad oes angen ymestyn dyddiad terfyn erthygl 50.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Yn gyntaf, o ran yr estyniad i erthygl 50, rwy'n credu ei fod yn gywir i ddweud hynny. Er mwyn dod o hyd i ddatrysiad i hyn rwy'n credu y bydd angen estyniad i erthygl 50. Dyna'n sicr yr hyn yr ydym ni wedi bod yn galw ar y Llywodraeth yn San Steffan i'w geisio gan aelodau eraill o'r Undeb Ewropeaidd.
O ran y gwaith paratoi, mae yn llygad ei le yn dweud bod hyn yn gyfrifoldeb i'r Llywodraeth i gyd. Nid oes, mewn gwirionedd, ran o'r Llywodraeth nad yw hyn yn effeithio arni, ac mae pob Aelod o'r Llywodraeth yn gyfrifol am sicrhau ein bod ni'n edrych ar oblygiadau amrywiol sefyllfaoedd gwahanol ac yn paratoi'r gorau gallwn ni ar gyfer y rheini. Mae pedair elfen i'r gwaith paratoi, os gallaf ei grynhoi fel hyn. Yn gyntaf, y math o waith lle, fel y soniais yn fy natganiad, mae Llywodraeth y DU yn arwain ar agweddau arno oherwydd mai hi sydd â'r grymoedd perthnasol, er enghraifft, ond mae gennym ni ddiddordeb mawr mewn rhai o'r agweddau hynny ac felly rydym ni'n cydweithio â nhw—mae cyflenwadau meddyginiaethau ac ati yn un enghraifft o hynny. Dyna'r gwaith y buom ni'n ei wneud ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Rydym ni wedi cydsynio yn y fan yma i oddeutu hanner y swmp y bydd angen ei basio drwy San Steffan, ac rydym ni wedi dechrau, dros yr ychydig wythnosau diwethaf, i gyflwyno rheoliadau penodol i Gymru yma yn y Cynulliad hefyd, fel y mae'n gwybod. Mae'r gwaith ar hynny yn mynd rhagddo yn ôl y disgwyl. Yn amlwg, ceir rhywfaint o waith yma sy'n dibynnu ar y gwaith sy'n mynd rhagddo yn San Steffan, ond cyn belled ag y bo hynny'n parhau i ddigwydd yn ôl yr amserlen bresennol, yna rydym ni mewn sefyllfa weddol dda i wneud yn siŵr y gwneir hynny mewn pryd. Ceir gwaith argyfyngau sifil posibl y mae'n cyfeirio ato. Mae'r rheini'n strwythurau sydd wedi hen ymsefydlu, fel y bydd yn gwybod, ac maen hynny'n ymwneud â Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig i gyd a llywodraeth leol a phartneriaid eraill hefyd. Mae'n amlwg ei bod hi'n ddyletswydd ar bob Llywodraeth yn y DU i edrych ar y gwahanol bosibiliadau ac i sicrhau bod modd gweithredu'r trefniadau argyfyngau sifil posibl hynny, mewn ffyrdd a allai fod yn gyfarwydd, pe byddai angen gwneud hynny. Yn amlwg, yr amcan yw na ddylid byth fod angen gwneud hynny, ac mae'r gwaith paratoi mewn meysydd eraill yn golygu bod y posibilrwydd o orfod gweithredu'r gweithdrefnau hynny yn cael ei leihau.
Mae hyn yn fy arwain at y pedwerydd maes lle mae gwaith paratoi yn digwydd: prosiectau sy'n benodol i Gymru sydd efallai'n adlewyrchu nodweddion sy'n benodol i Gymru—natur ein heconomi, y ffaith bod gennym ni nifer fawr o fentrau bach a chanolig, er enghraifft. Felly, y prosiectau hynny yw'r math o bethau a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru drwy gronfa bontio'r Undeb Ewropeaidd, ac y mae wedi cael effaith ar bob sector yr economi, preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector hefyd. Efallai ei fod wedi gweld y cyhoeddiad heddiw o gymorth pellach ar gyfer cyswllt yr heddlu i wasanaethau cymdeithasol ac ar gyfer cynllunio buddsoddi rhanbarthol yn y dyfodol, y bydd ganddo ddiddordeb ynddyn nhw o ystyried ei gyfrifoldebau newydd. Rydym ni hefyd yn trafod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru pa gymorth ychwanegol y gallwn ni ei roi i lywodraeth leol, a bydd cyhoeddiadau ynghylch hynny maes o law.
Diolch i'r Gweinidog Brexit am ei ddatganiad heddiw. Dyfynnaf o dudalen 3 eich datganiad:
rydym ni'n wynebu gadael heb gytundeb ar 29 Mawrth ac mae'n rhaid inni baratoi ar gyfer hynny.
Rwy'n credu bod hynny'n ymagwedd synhwyrol iawn. Rwy'n derbyn yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, bod sawl agwedd, o ran paratoi ar gyfer Brexit, yn nwylo Llywodraeth y DU. Ond rwy'n credu bod llawer o gynlluniau wrth gefn y gallwch eu gweithredu nawr, ac rwyf i yn croesawu'r ffaith eich bod chi mewn gwirionedd yn gwneud cynlluniau er mwyn i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid wyf i'n credu ei fod yn beth drwg o gwbl os gwneir cynlluniau wrth gefn ar gyfer y dyddiad yr ydym ni'n gweithio ag ef, Mawrth 29, sef ymhen dim ond naw wythnos, a gobeithio mai dyna fydd y dyddiad pan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Gwelaf ar Sky News eu bod nhw bellach yn cyfri'r dyddiau ar y sgrin, sydd heddiw yn dangos nad oes dim ond 73 diwrnod tan Brexit. O ystyried yr amserlen, ac o ystyried yr holl gynlluniau y gallech eu gwneud o bosib, ai eich bwriad yw rhoi'r newyddion diweddaraf inni am Brexit bob dydd Mawrth? Rwy'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol, gan gadw mewn cof y sylwadau a wnaeth Darren Millar am yr holl gyfarfodydd sy'n digwydd rhwng gwahanol haenau o lywodraeth nad ydym ni bob amser yn clywed amdanyn nhw yn y lle hwn. Felly, rwy'n credu y byddai hi'n syniad da pe byddem ni'n cael y newyddion diweddaraf yn wythnosol ynghylch beth yn union yw eich cynlluniau wrth gefn, gan ein bod ni'n gwybod erbyn hyn ein bod ni yn wynebu'r posibilrwydd hwn o adael ar y dyddiad cywir, 29 Mawrth, ac o ystyried y ffaith eich bod chi bellach yn derbyn hynny fel posibilrwydd tebygol iawn.
Fel rwy'n dweud, rwy'n credu bod pethau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud i gynllunio. Er enghraifft, rydych chi wedi sefydlu'r wefan. Rwy'n credu bod hynny'n syniad da. Mae gweithio gydag awdurdodau'r porthladdoedd yn bwysig iawn, felly byddai'n dda pe baech chi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch hynny wrth i amser fynd yn ei flaen, os na allwch chi ychwanegu unrhyw beth at yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud y prynhawn yma ar y mater hwnnw.
Fel rwy'n dweud, ar yr ochr yma i'r Siambr rydym ni'n ymroddedig iawn i adael ar 29 Mawrth. Rwy'n falch eich bod wedi dweud yn eich datganiad bellach bod hynny'n bosibilrwydd yr ydych chi yn ei ystyried. Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n canolbwyntio eich ymdrechion ar wneud y cynlluniau wrth gefn hyn a rhoi cyngor i bobl a busnesau, yn hytrach nag ar lobïo Llywodraeth y DU i beidio â gadael yr UE neu i ohirio'r dyddiad ymadael, sef yr hyn yr ydych chi wedi bod yn ei wneud dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf. Y peth gorau yw canolbwyntio eich ymdrechion ar wneud eich cynlluniau wrth gefn, derbyn yn gadarn mai 29 Mawrth yw'r dyddiad y bydd y DU yn gadael yr UE, oherwydd, fel yr ydych chi wedi dweud eich hun heddiw, mae hynny'n awr yn bosibilrwydd real iawn. Diolch yn fawr iawn.
Yn amlwg, oni bai y ceir estyniad i erthygl 50, 29 Mawrth yw'r dyddiad y byddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd a dyna oedd y dyddiad erioed. Y cwestiwn yw ar ba sail y bydd hynny'n digwydd? Rwy'n ofni bod y syniad o adael heb gytundeb dim ond yn un posibilrwydd o nifer y gallem ni gynllunio ar ei gyfer yn lol botes. Y gwir amdani yw bod gadael heb gytundeb yn newyddion drwg iawn i Gymru ac yn newyddion drwg iawn i'r Deyrnas Unedig. Mae hyd yn oed rhagamcanion economaidd y Llywodraeth ei hun yn dweud hynny wrthych chi, ac rydym ni'n wynebu economi sydd 10 y cant yn llai na'r hyn y byddai wedi bod mewn sefyllfa o 'dim cytundeb'. Nid ystadegyn yn unig mo hynny. Swyddi pobl, bywoliaeth pobl, busnesau pobl ac ati yw hynny. [Torri ar draws.] Nid codi bwganod mo hynny. Mae ffigurau'r Llywodraeth ei hun yn dweud wrthym ni y bydd niwed economaidd yn sgil y canlyniad hwnnw. Felly, nid yw hyn ynglŷn ag un sefyllfa fodelu pryd y bydd cynlluniau yn gallu ymdrin â hi yn ei chyfanrwydd. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw gwneud yn siŵr bod y cynlluniau yr ydym ni'n gallu eu gwneud—naill ai yma yng Nghymru ar ein pen ein hunain, neu drwy gydweithio â Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill—yn cael eu rhoi ar waith. Ac, wrth i'r tebygolrwydd o Brexit 'dim cytundeb' ddod yn fwy amlwg, mae ein paratoadau wedi dwysáu i ymdrin â hynny. Ond rwyf eisiau bod yn gwbl glir: nid yw unrhyw faint o gynllunio a pharatoi yn mynd i allu lliniaru'r niwed y byddai Brexit 'dim cytundeb' yn ei achosi i Gymru ac i'r Deyrnas Unedig. Dyna'r gwir amdani mae arna i ofn.
Ynglŷn â'r cwestiwn o gyfathrebu, bydd yn bwysig i ni yn ystod yr wythnosau nesaf i wneud yn siŵr bod y Cynulliad yn cael gwybod am ddatblygiadau ac yn cael y cyfle, yn amlwg, i ddwyn Gweinidogion i gyfrif yn hynny o beth. Mae arnaf i ofn na wnes i ymateb i'r sylw a wnaeth Huw Irranca-Davies ar ddiwedd ei gwestiwn. Felly, oherwydd ei fod yn ymwneud â chyfathrebu, fe hoffwn i gyfeirio at hynny nawr hefyd. Soniais yn fy natganiad am y porth Paratoi Cymru a fydd yn cael ei lansio dros yr ychydig ddyddiau nesaf. Amcan hynny yw darparu un ffynhonnell awdurdodol a chynhwysfawr o wybodaeth fel y gall pobl yng Nghymru ddeall beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran paratoi, a bydd yn cynnwys deunydd gan Lywodraeth y DU pan fydd hynny'n rhoi darlun llawnach. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr y caiff hynny ei ddarparu mewn ffordd amserol, ond sydd hefyd yn ystyried y cyd-destun, ac sydd mewn ffordd yn ystyried gohebiaeth gan Lywodraeth y DU ac eraill hefyd.
Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad heddiw gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit. Does dim amheuaeth fod Prif Weinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud smonach lwyr o negodi ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Pe na bai mor beryglus, byddai bron yn ddoniol, fel Boris. Ond, beth bynnag, beth bynnag am y diffyg sefydlogrwydd peryglus a achosir gan arweinwyr y Torïaid, mae'n hanfodol i fusnesau ac i'r economi ac i gymunedau ledled fy etholaeth i yn Islwyn, fod Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth posib o fewn ei gallu i ddiogelu ein ffyniant.
Ddwy flynedd yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, fel y nodwyd, ar y cyd â Phlaid Cymru ei chynigion yn y Papur Gwyn, 'Diogelu Dyfodol Cymru', ac mae hi hefyd yn briodol i sôn am gyfraniad Steffan Lewis at y ddogfen bwysig hon, a luniwyd dwy flynedd a hanner yn ôl. Drwy gydol y ddwy flynedd a hanner trofaus diwethaf, parhaodd Llywodraeth Cymru, gan barchu canlyniad refferendwm 2016, i sefyll yn gadarn dros Gymru a buddiannau gorau ein pobl. Fel y dywedwyd, a hynny’n briodol, ni phleidleisiodd neb yn y refferendwm o blaid bod yn dlotach. Yn yr un modd, pan roeddem ni'n trafod Ford yn gynharach heddiw, ni phleidleisiodd unrhyw un o blaid colli eu swyddi, colli eu cartrefi, talu mwy am fwyd, peidio â gallu cael gafael ar feddyginiaethau hanfodol, neu fod yn llai diogel rhag y bygythiad o derfysgaeth.
O ragdybio, fel y disgwylir yn eang, y bydd y Prif Weinidog yn colli pleidlais heno, mae ganddi'r dewis i wneud y peth iawn. Gallai hi ailymrwymo i weithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig, yng ngwir ystyr y gair ac ar sail draws-bleidiol, a gofyn i'r Undeb Ewropeaidd, fel y nodwyd, am estyniad i ddyddiad terfyn erthygl 50, fel yr ydym ni wedi gofyn amdano. Ond yn foesol, yn foesegol ac yn ddemocrataidd, â dim rheolaeth dros y Senedd, a yw'r Gweinidog a'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi mai'r peth nesaf y dylai Prif Weinidog y DU ei wneud, a fyddai'n helpu pobl Cymru, fyddai cyfarfod Ei Mawrhydi a gofyn am ddiddymu'r Senedd ar fyrder er mwyn cynnal etholiad cyffredinol? Nid yw ein pobl yn haeddu dim llai, ac rwyf innau'n credu ein bod ni'n haeddu llawer mwy.
Diolch i Rhianon am ei chwestiwn. Byddai'r syniad na ddylai Llywodraeth sy'n methu â llywio ei pholisi ar fater diffiniol y dydd drwy Dŷ'r Cyffredin geisio diddymu'r Senedd yn un newydd iawn yn ein cyfansoddiad ni. Dyna'n union fyddai'n dilyn, fel mae nos yn dilyn dydd, o dan unrhyw amgylchiadau. Felly, mae'n briodol y bydd y Llywodraeth yn wynebu cynnig o ddiffyg hyder. Fel yr ydym ni wedi dweud, ac fel y dywedodd ein cyd-Aelodau yn San Steffan, mae'n gwestiwn o bryd, nid os, y dylai hynny ddigwydd. Ac rydym ni wedi dweud, hyd yn oed mor hwyr â hyn yn y dydd, ei bod hi'n bosib i'r Prif Weinidog, os yw hi'n dewis, geisio gwahanol fath o gytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd ar gyfer Brexit, un sy'n adlewyrchu perthynas agosach o lawer â'r farchnad sengl a'r undeb tollau, ymrwymiadau parhaus o ariannu, polisi ymfudo teg sy'n gweithio ar gyfer y DU gyfan—nid yr egwyddorion a nodir yn y Papur Gwyn ar fewnfudo, nad ydyn nhw, yn y bôn, yn gweithio ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, y sector preifat, yma yng Nghymru na ledled y DU—ac ymrwymiad i sicrhau hawliau pobl mewn modd blaengar, fydd yn cyfateb â datblygiadau ledled Ewrop, nid yn parhau'n ddigyfnewid fel y maen nhw heddiw. Mae hi'n dal yn bosib iddi geisio'r math hwnnw o gytundeb gan yr Undeb Ewropeaidd.
Diolch. Yn olaf, David Rees.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma ar y berthynas yn y dyfodol a'r datblygiadau o ran ein hymadawiad â'r UE? Rwyf wedi clywed lleisiau o ben arall y Siambr y prynhawn yma yn ceisio dangos fod Prif Weinidog y DU wedi dod i gytundeb gwych. Wel, y gwir amdani yw nad yw hi wedi llwyddo, ac mae'r oedi y mae hi wedi ei greu—yn groes i'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud yn eich ateb i Rhianon Passmore, yr oedi yn fy marn i—. Mae hi wedi creu pum wythnos o oedi o ganlyniad. Mae'n amser dychwelyd ac ail-negodi, ond peidiwch ag anghofio, pan rydych chi'n ailnegodi, rhaid ichi ailnegodi gyda'r 27 aelod hefyd a bydd yn rhaid iddyn nhw gymeradwyo unrhyw gytundeb newydd. Felly, mae'r amserlenni i gyflawni rhywbeth mewn gwirionedd erbyn 29 Mawrth, yn dynn iawn, iawn, felly mae estyniad yn fwy tebygol os mai dyna'r hyn y mae hi eisiau ei wneud. Mae hynny'n hollbwysig.
Gweinidog, gallaf eich sicrhau hefyd y bydd y pwyllgor yr oeddech chi'n arfer bod yn aelod ohono yn parhau i chwarae ei ran yn y broses, yn arbennig o ran deddfwriaeth, ond nid ar draul unrhyw allu i graffu ar y ddeddfwriaeth. Byddwn yn sicrhau bod y craffu hwnnw'n digwydd.
A gaf i ofyn ambell gwestiwn i'r Gweinidog? Efallai, o'ch rhan eich hun, rydym ni wedi cyflwyno adroddiadau fel pwyllgor ar y gwaith paratoi, rwy'n gwybod yr anfonwyd nhw at Brif Weinidog Cymru, ond, efallai y gallwch chi sicrhau y cawn ni'r ymatebion hynny i'r adroddiadau hynny ar fyrder oherwydd, yn amlwg, os yw pleidlais heno yn trechu cytundeb Prif Weinidog y DU yna, fel y crybwyllodd Prif Weinidog Cymru yr wythnos diwethaf, rydym ni'n debygol o gael y newyddion diweddaraf yr wythnos nesaf ynglŷn â'r gwaith paratoi, ac fe hoffem ni weld beth yw ymateb y Llywodraeth i'n hadroddiadau ni yn hynny o beth.
A yw'r Gweinidog wedi trafod gyda gwledydd eraill y DU sut y gallwn ni gydweithio mewn gwirionedd i ymdrin â sefyllfa 'dim cytundeb' a methiant yn y Senedd heno ac efallai, er hynny, fel y crybwyllodd Adam Price, gyda'n cymdogion agosaf, yn enwedig Iwerddon, i sicrhau ein bod ni'n cytuno ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i liniaru unrhyw niwed y bydd 'dim cytundeb' yn ei achosi?
Ydych chi wedi cael trafodaethau gyda'r Trysorlys, oherwydd, os oes gennym ni sefyllfa 'dim cytundeb', maen nhw wedi gwarantu—? Mae Llywodraeth y DU wedi gwarantu y bydd hi'n ariannu'r prosiectau hynny sy'n cael cyllid gan yr UE. Felly, a ydych chi wedi cael trafodaethau gyda'r Trysorlys ynghylch sut y byddai hynny'n digwydd? Beth yw'r broses? A yw trefniadau ar waith i sicrhau y bydd sefydliadau sydd ar hyn o bryd yn cael eu hariannu gan Ewrop a rhaglenni sydd ar hyn o bryd yn cael eu hariannu gan Ewrop yn gallu cael yr arian hwnnw, neu fod â hyder, er na fydd yr arian hwnnw ar gael ymhen dwy flynedd, ond y byddan nhw mewn sefyllfa lle mewn gwirionedd y gallan nhw dalu eu biliau i sicrhau y gallan nhw gyflawni'r rhaglenni hynny?
Fe wnaethoch chi gyfeirio at feddyginiaethau a'r adran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. A gaf i dynnu sylw hefyd nid dim ond at feddyginiaethau ond at offer? Ac fe roddaf i enghraifft ichi. Fe wnaeth y digwyddiad diweddar yn Gatwick greu oedi yn Gatwick nid oherwydd yr UE, ond oherwydd drôn, ond o ganlyniad i hynny, rwy'n gwybod am arholiadau ffiseg niwclear a gafodd eu canslo am nad oedd ganddyn nhw'r isotopau, gan fod yr hanner oes yn rhy fyr iddyn nhw baratoi popeth. Felly, unwaith eto, mae materion y mae'n rhaid inni eu hystyried o ran agweddau eraill.
Ac efallai y caf i ofyn un cwestiwn—
Mae amser yn brin.
—ynglŷn â'i swyddogaeth arall, sy'n cysylltu â hyn, oherwydd rydych chi'n Gwnsler Cyffredinol. Roedd llythyr Tusk a Juncker ddoe, a gafodd ei arddangos ac a ddangoswyd gan Theresa May yn ei datganiad, ac yr oedd hi'n ei gwestiynu neu fe gyfeiriodd at agweddau ar gyfreithlondeb hynny, a ydych chi wedi gwneud dadansoddiad o agweddau cyfreithiol hynny, a beth yw ei sefyllfa gyfreithiol o ran y sicrwydd a roddwyd yn y llythyr hwnnw? Ac a fydden nhw'n effeithio ar Gymru?
O ran y sylw olaf, rwyf wrthi'n ystyried cyd-destun cyfreithiol y drafodaeth honno.
A gaf i ddweud yn gyntaf, o ran yr adroddiadau y mae'r pwyllgor y mae'n ei gadeirio wedi eu cynhyrchu ar amrywiaeth o faterion ynglŷn â'r gwaith paratoi, yn enwedig yn ystod rhan olaf y flwyddyn ddiwethaf, y cefais i nhw'n fuddiol iawn? Ac rwy'n gwybod fod cyd-Aelodau yn y Llywodraeth yn eu hystyried gyda'r bwriad o gyhoeddi, yn amlwg, ymatebion ar ran y Llywodraeth.
Holodd ynglŷn â thrafodaethau gyda Gweinidogion yn Llywodraeth y DU ynghylch paratoi ar gyfer 'dim cytundeb'. Ydy, mae'r sgyrsiau hynny'n digwydd. Fel rwy'n dweud, mewn rhai meysydd, mae'r wybodaeth yn llifo, efallai'n fwy rhydd nag mewn meysydd eraill. Efallai bod yr adrannau hynny sy'n fwy cyfarwydd ag ymdrin â gweinyddiaethau datganoledig yn ei chael hi'n haws i fod yn fwy agored yn rhannu gwybodaeth, ond buom yn pwyso ar y Llywodraeth i hynny ddigwydd yn fwy cyson ledled Llywodraeth y DU. Mewn gwirionedd, lle bo hynny'n digwydd, mae'n amlwg yn arwain at ganlyniadau gwell a gwell prosesau.
O ran cyllid, wel, wyddoch chi, rydym ni'n achub ar bob cyfle i bwyso ar Lywodraeth y DU ynglŷn â'i hymrwymiad ynghylch ariannu. Ond, mewn sefyllfa 'dim cytundeb', rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn glir iawn y byddai angen i Lywodraeth y DU sicrhau bod cyllid ychwanegol sylweddol ar gael, nid yn ystyr confensiynol Barnett, ond yn gyfan gwbl ar wahân i hynny, er mwyn gallu ymdrin â goblygiadau'r canlyniad hwnnw.
Diolch yn fawr iawn, Cwnsler Cyffredinol.