– Senedd Cymru am 5:02 pm ar 16 Ionawr 2019.
Eitem 7 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ddiogelwch tân mewn adeiladau preswyl uchel iawn yn y sector preifat. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad. Gallwn i gyd gytuno bod diogelwch y lle rydych yn ei alw 'gartref' yn un o'r sylfeini mwyaf pwysig i fywyd hapus ac iach. Cafodd pawb eu harswydo gan ddigwyddiadau trasig Tŵr Grenfell ym mis Mehefin 2017. Ers hynny, rydym ni fel pwyllgor wedi bod yn ystyried diogelwch adeiladau preswyl uchel iawn yng Nghymru i helpu i atal digwyddiad mor ofnadwy rhag digwydd eto.
I ddechrau, fe ganolbwyntiwyd ar y sector tai cymdeithasol. Ar ôl cymryd tystiolaeth gan y partneriaid allweddol a Llywodraeth Cymru, cawsom ein sicrhau bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd, ond wrth inni barhau i edrych ar ddiogelwch tân yn fwy manwl, daeth yn fwyfwy amlwg fod pryderon yn parhau yn y sector preifat—er enghraifft, cladin ACM ar adeiladau lai na thafliad carreg o'r Senedd—a chafwyd datblygiadau ehangach, megis cyhoeddi adolygiad Hackitt. Rydym felly wedi troi ein sylw at adeiladau preswyl uchel iawn yn y sector preifat. Cynhyrchwyd ein hadroddiad i helpu i lywio gwaith y grŵp arbenigol ar ddiogelwch adeiladau ac ymateb Llywodraeth Cymru i unrhyw argymhellion gan y grŵp hwn. Rydym yn deall bod disgwyl i'r grŵp gyhoeddi map i nodi sut y dylem ni yng Nghymru ymateb i argymhellion adolygiad Hackitt. Mae disgwyl i hwn ddod i law yn gynnar eleni, a buaswn yn gwerthfawrogi'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog heddiw ynglŷn â sut y mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo a phryd y gallwn ddisgwyl iddo gael ei gyhoeddi.
Mae'n gwbl hanfodol nad ydym yn hunanfodlon ynglŷn â materion yn ymwneud â diogelwch adeiladau a thân. Dengys tân Tŵr Grenfell a thanau blaenorol, fel y tân angheuol yn Lakanal House, y gall y pethau hyn ddigwydd, a'u bod yn digwydd, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn dysgu gwersi a bod newidiadau'n cael eu rhoi ar waith cyn gynted â phosibl.
Rwyf am symud ymlaen yn awr at rai o'r meysydd allweddol yn ein hadroddiad. Nid wyf yn bwriadu mynd drwy bob un o'n hargymhellion, ond yn hytrach, fe ganolbwyntiaf ar reoli adeiladau, yr angen i ddiweddaru'r ddeddfwriaeth diogelwch tân a'r angen am reoli adeiladau'n drylwyr. Mae rheoli adeiladau'n effeithiol yn hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch tân mewn adeiladau preswyl uchel iawn. Cawsom ein calonogi gan y dystiolaeth a gafwyd gan asiantau rheoli. Roedd hi'n amlwg fod y rhai a roddodd dystiolaeth i ni o ddifrif ynglŷn â'u cyfrifoldebau a rhoesant dystiolaeth inni ynglŷn â sut roeddent yn sicrhau diogelwch eu hadeiladau. Ond gwyddom mai gan ran o'r farchnad yn unig y clywsom. Rydym yn pryderu efallai nad oes gan rai o'r bobl sy'n rheoli adeiladau lefelau digonol o gymhwysedd a phrofiad, neu eu bod o bosibl yn torri corneli er mwyn lleihau costau. Felly, gwnaethom argymhelliad 1: mae hwn yn galw am reoleiddio asiantau sy'n rheoli adeiladau preswyl uchel iawn. Roeddem yn derbyn y gallai hyn fod yn gymhleth a gallai gyflwyno rheoliadau o'r fath gymryd peth amser. Felly, yn y cyfamser, roeddem yn awgrymu y dylid edrych i weld a allai Rhentu Doeth Cymru fabwysiadu'r rôl hon. Rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Yn eu hymateb, roeddent yn manylu ar yr adolygiadau a edrychai ar ddiwygio lesddeiliadaeth yn ehangach, ac mae disgwyl eu hadroddiad erbyn yr haf. Byddai'n dda pe bai'r Gweinidog yn gallu rhoi ymrwymiad clir heddiw y bydd gweithredu'r argymhellion sy'n deillio o'r adolygiadau yn cael blaenoriaeth fel y gallwn ddechrau gweld newidiadau'n digwydd ar y cyfle cyntaf. Cydnabûm sylwadau'r Gweinidog efallai na fydd y mesurau dros dro a awgrymwyd gennym yn gweithio'n ymarferol, ond ar y cam hwn, a all roi mwy o fanylion ynglŷn â pha gamau y gellir eu cymryd yn y cyfamser i fynd i'r afael â 'n pryderon?
Rwyf am symud yn awr at fater sy'n ymwneud â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Buom yn galw am ei ddiwygio ers inni ddechrau edrych ar y mater hwn ym mis Gorffennaf 2017. Roedd yn faes a oedd yn destun pryder sylweddol ar y pryd ac mae'n parhau i fod. Fel pwyllgor, teimlwn fod angen mwy o frys ar ran Llywodraeth Cymru. Er ein bod yn derbyn nad oedd cynnwys y Gorchymyn yn rhan o gymhwysedd y Cynulliad tan fis Ebrill 2018, mae cyfle yn awr i geisio diwygio neu gael rhywbeth yn ei le cyn gynted â phosibl.
Yn argymhelliad 3, rydym yn galw am gyflwyno deddfwriaeth newydd i gymryd lle'r Gorchymyn diogelwch tân yn y tymor Cynulliad hwn. Rydym hefyd wedi tynnu sylw at feysydd y teimlwn y dylai'r ddeddfwriaeth newydd eu cynnwys. Mae'r Gweinidog yn cytuno â ni fod angen diwygio'r Gorchymyn yn radical neu gael rhywbeth yn ei le ond mae'n dweud bod hwn yn fater cymhleth a bod angen amser i roi ystyriaeth i sicrhau bod unrhyw system newydd yn effeithiol a chydgysylltiedig. Fodd bynnag, mae'n rhwystredig nodi efallai na fydd hyn yn digwydd yn ystod y Cynulliad hwn. Mae a wnelo hyn â sicrhau bod y rheoliadau sy'n rheoli diogelwch adeiladau lle mae pobl yn byw yn addas at y diben, ac rwy'n parhau i ddweud y dylai'r Llywodraeth wneud ymrwymiad clir i gyflawni'r newid deddfwriaethol hwn erbyn diwedd y Cynulliad hwn fel blaenoriaeth yn y rhaglen ddeddfwriaethol.
Gan symud ymlaen at rai o fanylion y Gorchymyn diogelwch tân, clywsom ym mis Gorffennaf 2017, ac roeddem yn dal i'w glywed yn yr hydref y llynedd, ei bod yn aneglur pa un a oedd drysau ffrynt fflatiau, sy'n chwarae rhan bwysig yn atal ymlediad tân, yn rhan o'i gylch gorchwyl. Roedd hyn yn peri pryder arbennig oherwydd mae preswylwyr yn aml yn gwneud addasiadau i'w drws ffrynt, gan gynnwys gosod drysau yn eu lle nad ydynt yn cynnig unrhyw ddiogelwch tân o gwbl. Yn amlwg gallai hyn gael effaith nid yn unig ar y trigolion sy'n byw yn y fflat dan sylw ond ar eu cymdogion hefyd drwy danseilio'r mesurau diogelwch tân a roddwyd ar waith. Roedd Llywodraeth Cymru yn glir eu bod yn credu bod y drysau ffrynt hyn wedi'u cynnwys yn y Gorchymyn diogelwch tân, ond roeddent yn cydnabod nad oedd hyn wedi ei brofi yn y llysoedd. Nid oedd y gwasanaethau tân eu hunain yn glir ynglŷn â hyn, a'r cyngor cyfreithiol a gawsom oedd na fyddai'r Gorchymyn yn cynnwys drysau ffrynt. Felly, roeddem yn bryderus ynglŷn â'r amwysedd sylweddol a'r diffyg eglurder mewn perthynas â'r mater pwysig hwn. Nid oedd hwn ond yn un o'r newidiadau y dymunem eu gweld pan ddisodlir y Gorchymyn.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn siarad am rôl rheoliadau adeiladu. Un o'r themâu mwyaf cyson a ddaeth i'r amlwg drwy gydol y gwaith hwn oedd y derbyniad cyffredinol y gallai fod gwahaniaeth sylweddol rhwng yr adeilad fel y'i cynlluniwyd ar bapur a'r un a adeiladir mewn gwirionedd. Gall y datgysylltiad hwn ddigwydd am nifer o resymau, gan gynnwys y ffaith y gall anawsterau a heriau annisgwyl ddigwydd wrth droi dyluniadau'n realiti. Ond yr hyn sy'n achosi mwy o bryder i ni oedd y drefn arolygu, yr ymddengys nad oes ganddi ddigon o adnoddau, ac mae'n ymddangos mai pwerau cyfyngedig a geir ar gyfer monitro beth sy'n digwydd ar safleoedd adeiladu unigol. Clywsom gan un datblygwr sut y ceisiodd leihau'r datgysylltiad drwy gyflogi'r pensaer mewn swyddogaeth sicrwydd ansawdd drwy gydol y gwaith adeiladu. Ond ni allem weld a oedd yr arfer hwn yn digwydd yn eang ledled y diwydiant ai peidio, am mai un datblygwr yn unig a roddodd dystiolaeth i ni. Roedd hyn yn siomedig a golygai nad oedd modd inni ddeall yn well beth y mae datblygwyr yn ei wneud neu beth nad ydynt yn ei wneud. Felly, fe wnaethom argymhelliad 8, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i asesu effeithiolrwydd trefniadau sicrhau ansawdd drwy gydol y cyfnod adeiladu, a pha un a ddylid gorfodi arferion gorau drwy reoleiddio. Derbyniodd y Llywodraeth yr argymhelliad hwn ond maent wedi nodi mai'r bobl sydd ynghlwm wrth ei ddylunio a'i adeiladu sy'n bennaf gyfrifol am ddiogelwch adeilad. Rydym yn deall ac yn cytuno gyda'r pwynt hwn fod rheoliadau a rheolaeth adeiladu'n chwarae rhan bwysig o ran sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Yn amlwg, mae adolygiad Hackitt wedi darparu set fanwl o argymhellion ar gyfer newidiadau i broses a system y rheoliadau adeiladu yn Lloegr, ac rydym yn edrych ymlaen at weld ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion hyn. Er ein bod yn cydnabod na all y Gweinidog ymrwymo i lawer ar y cam hwn o waith y grŵp arbenigol, byddem yn ei hannog i sicrhau, pan fydd y grŵp wedi gwneud ei argymhellion, fod ymateb y Llywodraeth a'i weithrediad yn cael ei wneud yn gyflym ac ar fyrder.
Fel y bydd pawb yn cytuno, Ddirprwy Lywydd, mae hyn yn rhy bwysig i ganiatáu iddo lithro, ac edrychaf ymlaen yn awr at gyfraniadau'r Aelodau.
Rwy'n credu bod cyhoeddi'r adroddiad hwn yn garreg filltir i bawb sy'n gysylltiedig i sicrhau bod pobl sy'n byw mewn adeiladau fel Tŵr Grenfell, ond yn y sector preifat, yn ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad hwn yn barhaus am y cynnydd y mae'r Llywodraeth yn ei wneud tuag at weithredu'r argymhellion. Credaf mai ymateb i'r adroddiad oedd un o'r gweithredoedd cyntaf i chi ei wneud yn eich cyfrifoldebau newydd, ac mae'n gadarnhaol ar y cyfan.
Rhywbeth a oedd yn glir iawn i mi, Ddirprwy Lywydd, drwy gydol y sesiynau tystiolaeth oedd nad yw'r system bresennol yn addas i'r diben. Ac mae'n boenus ei bod hi wedi cymryd digwyddiad fel tân Grenfell inni sylweddoli hynny, ond mae'n golygu yn fy marn i fod yn rhaid inni gael dull cynhwysfawr a chadarn o ddiwygio yn y maes hwn. Rydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig yn cytuno'n llwyr â chasgliadau'r adroddiad hwn ac yn cefnogi'r egwyddorion sy'n sail i'w argymhellion am system newydd a mwy cadarn o'r fath. Rydym yn cytuno â'r alwad am fwy o eglurder ac atebolrwydd o ran pwy sy'n gyfrifol am ddiogelwch adeiladau yn ystod y gwaith o adeiladu, adnewyddu a rheoli cartrefi mewn adeiladau uchel iawn ar sail barhaus.
Hefyd a gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl dystion a roddodd dystiolaeth i un o'r ymchwiliadau pwyllgor pwysicaf i mi gymryd rhan ynddo? Clywsom dystiolaeth o'r ansawdd uchaf yn fy marn i a chryn dipyn o gysondeb o ran yr hyn a ddywedodd y tystion wrthym.
Hoffwn ddewis rhai o'r argymhellion a chanolbwyntio ar y rheini, ac yn wir, dadleuais yn gryf dros y rhai a ddewisais yn yr adroddiad, a chredaf fod yr holl Aelodau wedi eu hargyhoeddi gan y dystiolaeth a glywsom yn eu cylch. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu dweud ychydig mwy o eiriau yn ei hymateb i'r ddadl ar y materion hyn, ac yn wir, cyfeiriodd y Cadeirydd at nifer ohonynt eisoes.
Felly, roedd argymhelliad 3 yn arbennig yn agoriad llygad go iawn i mi. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gwneud argymhelliad cryfach nag a geir yn adolygiad Hackitt. Ni chredaf y byddai llawer o bobl yn credu nad yw'r Gorchymyn diogelwch tân yn gosod unrhyw ofynion o ran cymhwysedd neu gymwysterau'r sawl sy'n cynnal asesiad risg tân, neu yn wir o ran amlder yr asesiadau hynny. Byddai argymhelliad 3 ein hadroddiad yn unioni hyn, ac mae i'w weld yn ddiwygiad amlwg a synhwyrol i sicrhau bod adeiladau'n cael eu monitro'n gyson ar gyfer risgiau tân.
Yn y pwyllgor, credwn fod diffyg gofynion sylfaenol yn y ddeddfwriaeth yn fwlch amlwg, ac nid oedd yn cyd-fynd â gwaith tebyg arall megis gwiriadau diogelwch nwy, er enghraifft, felly rwy'n falch fod y Llywodraeth yn derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, er fy mod yn nodi'r hyn a ddywedodd Llywodraeth Cymru am amserlen a chymhlethdod y gwaith hwn, ac mae'r Cadeirydd wedi cyfeirio at hyn. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ei hymateb yn amlinellu sut y mae'n bwriadu symud ymlaen ar hyn a beth yw'r amserlen y mae'n ei rhagweld ar gyfer ei gyflawni. Rwy'n credu ei fod yn un o'r newidiadau mwy ymarferol y gallwn ei roi ar waith yn gyflym, gobeithio, ac rwy'n hyderus y byddai'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i ddiogelwch tân adeiladau uchel iawn. Ac rwy'n rhannu dyhead y Cadeirydd i weld deddfwriaeth o fewn y Cynulliad hwn, a gallaf eich sicrhau y byddech yn cael cydweithrediad llawn gan Blaid Geidwadol Cymru—a'r holl bleidiau a gynrychiolir yn y Siambr hon rwy'n siŵr—os gosodwch hynny'n uchelgais ar gyfer y Cynulliad hwn.
Ddirprwy Lywydd, yn ystod y cyfnod cyn cyhoeddi strategaeth dai'r Ceidwadwyr Cymreig yn ddiweddar, cefais nifer o drafodaethau gyda'r diwydiant adeiladu mewn perthynas â'r diffyg cyfleoedd i wella sgiliau yng Nghymru fel y gall gweithwyr hŷn foderneiddio eu dulliau, a chredaf fod hwn yn fater sy'n codi ledled y DU, nid yn unig yng Nghymru. Dyma rywbeth y credaf fod y Gweinidog wedi'i grybwyll hefyd yn ei hymateb i argymhelliad 8, sy'n ymwneud â sicrhau ansawdd gwaith adeiladu. Byddai gennyf ddiddordeb mewn gweld a fyddai'r Gweinidog yn barod i ymhelaethu yn ei hymateb, yn ysgrifenedig efallai, neu'n uniongyrchol heddiw, er mwyn tynnu sylw at y sgyrsiau y mae swyddogion yn eu cael gyda Llywodraeth y DU a'r diwydiant i gael y cyfleoedd hyfforddiant hyn ar waith.
Rwy'n siomedig mai mewn egwyddor yn unig y derbyniwyd argymhelliad 6. Credaf fod y model cyd-awdurdod cymwys wedi cael cefnogaeth gyson yn y dystiolaeth. Mae'r model yn edrych ar gylch bywyd cyfan adeilad ac mae'n cynnwys awdurdodau lleol, rheolaeth adeiladu, tân ac achub a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i oruchwylio'r gwaith o reoli diogelwch, ac rwy'n credu mai'r newid mwyaf yno oedd edrych ar gylch bywyd cyfan adeiladau.
Felly, buaswn yn gwerthfawrogi ymateb llawn, os yn bosibl, o leiaf ar gyfeiriad teithio'r Gweinidog yn awr, pa mor gyflym y bydd yn cyflawni'r argymhellion, a rhagor o wybodaeth hefyd am y rhai a dderbyniwyd mewn egwyddor yn unig. Credaf y bydd hyn yn mynd yn bell i sicrhau y gall y rhai sy'n byw mewn adeiladau uchel iawn gael cartref diogel a chael y tawelwch meddwl a'r sicrwydd y maent yn ei haeddu. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n falch o allu cyfrannu at y ddadl hon, er bod yn rhaid i lawer o'r clod am y gwaith hwn fynd i fy nghyd-Aelod, Bethan Sayed, a weithiodd yn ddiflino i sicrhau bod y mater hwn yn cael ei osod yn uwch i fyny ar yr agenda, lle y mae'n haeddu bod.
Bellach mae ychydig dros 18 mis ers i drychineb Grenfell ddangos pa mor agored i niwed yw rhai unedau preswyl mewn adeiladau uchel iawn, a hefyd y graddau nad yw safonau sylfaenol o ran iechyd a diogelwch yn berthnasol i bobl sydd ar incwm isel, yn enwedig pobl sy'n perthyn i grwpiau lleiafrifol. Cefais fy syfrdanu, er enghraifft, nad oes rheoliadau statudol yn bodoli o hyd ar gyfer pobl sy'n dymuno rheoli adeiladau preswyl uchel iawn. Hefyd, cefais fy syfrdanu ein bod wedi clywed yn ystod ein sesiynau tystiolaeth fod yna ddeunyddiau yn Ffrainc a'r Almaen a waherddir yn benodol mewn adeiladau uchel iawn, ac nid yw hynny'n wir yma. Efallai mai'r rheswm am hynny yw bod gan Ffrainc a'r Almaen systemau gwleidyddol sy'n llai tebygol o roi blaenoriaeth i elw dros bobl. Cawsom enghraifft fach o hyn ddegawd yn ôl, wrth gwrs, pan wynebodd cynnig cymharol fach gan y Dirprwy Lywydd presennol i osod systemau chwistrellu mewn cartrefi lefel anhygoel o hysteria ar ran y diwydiant. Nawr, mae ein hadroddiad yn gwneud nifer o argymhellion ynglŷn â diogelwch tân a fyddai'n dechrau mynd i'r afael â'r diffyg cydbwysedd hwnnw, ac a dweud y gwir, mae angen iddynt gael eu gweithredu ar fyrder. Felly, rwy'n falch fod pob un ond un o'r argymhellion hyn wedi'u derbyn gan Lywodraeth Cymru. Nid wyf yn hollol siŵr fod ganddynt lawer o ddewis, o ystyried canlyniadau peidio â gweithredu'r argymhellion hyn. Ond hyd yn oed pan weithredir pob un o'r argymhellion, mae gwaith ehangach sy'n rhaid ei wneud o hyd i godi lefelau diogelwch ledled y sector tai preifat. Yn rhy aml yn y gorffennol, mae adeiladau uchel iawn wedi bod yn fannau lle mae pobl ar incwm isel wedi bodoli yn hytrach na byw. Maent wedi gorfod dygymod ag amodau gwael a thanfuddsoddi mewn gwasanaethau i gefnogi eu cymunedau a landlordiaid absennol. A yw'n syndod felly ein bod wedi gweld cymaint o broblemau y mae angen mynd i'r afael â hwy ar frys? Ac onid yw'n drueni bod y drasiedi hon wedi gorfod digwydd i roi cyfle i ni edrych o ddifrif ar hyn?
Roeddwn am ychwanegu un neu ddau o sylwadau at yr hyn a ddywedwyd eisoes gan y Cadeirydd ac Aelodau eraill. Yn ystod y toriad, ymwelais â safle Tŵr Grenfell, ac rwy'n credu ei fod yn parhau i fod yn dirnod torcalonnus sy'n nodi'r ffaith waradwyddus nad yw'r rhan fwyaf o'r preswylwyr heb gael cartref iawn o hyd, er mai Kensington and Chelsea yw un o'r bwrdeistrefi cyfoethocaf ym Mhrydain ac mae'n ymddangos eu bod yn rhy brysur yn gwneud cytundebau datblygu gyda phobl sydd eisiau adeiladu cartrefi gwerth miliynau o bunnoedd. Pe na bai Llywodraeth y DU mor brysur gyda Brexit, dylai fod wedi cyfarwyddo Kensington and Chelsea drwy orfodaeth i ailgartrefu'r bobl hyn.
Beth bynnag, rwyf am bwysleisio'r diffyg eglurder ynghylch drysau ffrynt fflatiau oherwydd, fel y mae'r Cadeirydd eisoes wedi amlinellu, rydym wedi cael llawer o dystiolaeth sy'n gwrthdaro, a—. Gwyddom, yn anecdotaidd, gan fod pob un ohonom wedi ymweld ag eiddo, fod llwythi o bobl yn newid eu drysau ffrynt ac nid oes neb yn goruchwylio i weld a ydynt yn gwrthsefyll tân, ac yn amlwg, mae hynny'n rhoi pobl eraill, yn ogystal â hwy eu hunain, mewn perygl. Felly, mae hynny'n rhywbeth y byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallai'r Llywodraeth weithredu ar fyrder yn ei gylch.
Rwy'n credu hefyd bod yna bwynt ynglŷn â'r angen i ddefnyddio'r pensaer fel aswiriwr ansawdd, oherwydd mae'r gwaith o adeiladu adeiladau'n fusnes mor gymhleth y dyddiau hyn, ac os nad ydych ar y safle'n weddol aml, ni fydd gennych unrhyw syniad a yw'r gwaith yn cael ei wneud i'r safonau a bennwyd yn y contract. A phan gwblheir y rhan gyntaf o'r gwaith, mae'n gwbl amhosibl gweld a yw adeilad yn ddiogel rhag tân neu a yw'n creu perygl tân. A chawsom dystiolaeth dda iawn gan y gwasanaeth tân, a siaradodd yn benodol am adeilad penodol lle'r oedd ganddynt reswm dros dynnu'r hyn a oedd y tu ôl i'r paneli oddi wrth ei gilydd a gwelsant ei fod yn bendant yn berygl tân. Felly, sawl adeilad uchel iawn arall sydd mewn cyflwr tebyg? Rhaid inni—. Rôl y Llywodraeth yw sicrhau y glynir at y rheoliadau ac y gall pobl ragdybio'n rhesymol, os ydynt yn mynd i fod yn byw mewn adeilad uchel iawn, ei fod yn mynd i fodloni'r rheoliadau i'w galluogi i ddianc mewn tân.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, diolch i'r pwyllgor am ystyried yn ofalus iawn yr hyn sy'n amlwg yn bwnc allweddol ond sydd hefyd yn gymhleth iawn. Yn dilyn y tân trychinebus yn Nhŵr Grenfell y cyfeiriodd nifer o'r Aelodau ato, a'r llu o broblemau sydd wedi codi ers hynny, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymwneud yn drylwyr â'r materion hyn. Rydym wedi chwarae rhan ar lefel polisi ac ar lefel ymarferol. Drwyddi draw, ein prif ystyriaeth bob amser oedd bod yn rhaid i bobl sy'n byw mewn adeiladau preswyl uchel iawn, boed yn y sector preifat neu'r sector cymdeithasol, fod mor ddiogel ag y dylai fod hawl ganddynt hwy a ninnau ei ddisgwyl, fel y nododd nifer fawr o'r Aelodau, a Jenny Rathbone yn awr.
Mae'r adroddiad, yr ymatebais iddo yn gynharach y mis hwn—ac fel y dywedodd David Melding, dyna oedd un o'r pethau cyntaf a wneuthum pan gefais y portffolio hwn—yn ychwanegiad sydd i'w groesawu'n fawr i'r corff o wybodaeth sy'n datblygu wrth inni roi camau ar waith i wneud yn siŵr y gallwn sicrhau bod pobl yn ddiogel pan fyddant yn byw mewn adeilad uchel iawn, gan gynnwys beth yw adeilad uchel iawn mewn gwirionedd ac ar ba uchder y mae'r problemau penodol hyn yn codi. Cefais gryn dipyn o drafodaethau yn yr amser byr y bûm yn y portffolio hwn, a gwn fod fy rhagflaenydd, Rebecca Evans, wedi cael nifer o drafodaethau o'r blaen pa un ai uchder neu gyfansoddiad neu beth bynnag yr adeilad sy'n bwysig, a'r llwybrau dianc a dosbarth y meddianwyr a'r holl bethau felly. Fel y nododd y Fonesig Judith Hackitt yn ei hadroddiad, 'Building a Safer Future', system effeithiol a chydlynol yw'r allwedd i'r sicrwydd hwnnw. Comisiynwyd adroddiad y Fonesig Judith gan Lywodraeth y DU, ond rydym yn adnabod y darlun y mae'n ei baentio yn iawn. Yr hyn a wnawn yn awr yw ystyried a yw'r argymhellion yn gywir mewn cyd-destun Cymreig. Mae'n hanfodol, felly, fod ein penderfyniadau ac unrhyw newidiadau deddfwriaethol a gyflwynwn maes o law a'r system y maent yn sail iddi yn cyflawni rhywbeth real a chydlynol, rhywbeth sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ac i'w lles, fel y mae pob Aelod a gyfrannodd wedi dweud. Mae hynny'n golygu gwella dylunio mewn prosesau adeiladu, egluro cyfrifoldebau, sicrhau cydymffurfiaeth yn ystod gwaith adeiladu ac ar ôl i bobl symud i mewn, a diogelwch parhaus adeiladau uchel iawn yng Nghymru, ac mae hefyd yn golygu cyfundrefn orfodi gref lle bynnag y bo angen.
Rwyf am ymdrin yn fyr iawn â mater y drysau ffrynt—dim ond i ddweud bod yna gwestiwn yn dal i fod ynglŷn â hynny. Rwy'n ymwybodol iawn ohono. Rwyf eisoes wedi cael trafodaethau ar hynny, ac mae'r grŵp arbenigol yn ymwybodol ohono hefyd. Ceir rhai problemau ynghylch yswiriant ac ati sydd hefyd yn gymhleth a gwn fod y pwyllgor wedi mynd ar drywydd y rheini. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o hynny. Nid oes gennyf ateb iddo ar hyn o bryd, ond rydym yn ymwybodol iawn ohono ac mae'n rhan o'r hyn rydym yn edrych arno.
Cyfarfûm â grŵp arbenigol y Gweinidog yr wythnos diwethaf am y tro cyntaf. Mae'r grŵp hwnnw'n dod ag ystod o arbenigedd ynghyd, gan gynnwys datblygwyr, cyrff rheolaeth adeiladu, penseiri, landlordiaid cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol diogelwch tân, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a chynrychiolwyr amrywiol o'r sector. Maent wedi clywed gan gynrychiolwyr o Lywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, y Sefydliad Ymchwil Adeiladu ac arbenigwyr technegol, ac o ganlyniad i fewnbwn arbenigol y grŵp rydym ar y trywydd cywir i gynhyrchu'r hyn a alwn yn fap gwaith, a fydd yn rhoi ffurf a chydlyniant i'n dulliau o weithredu ar y problemau a ddisgrifiwyd gan adroddiad y Fonesig Judith. Felly, maent wedi cael eu cyfarfod olaf ond un, sef yr un a fynychais er mwyn eu cyfarfod, ac yna byddant yn cael eu cyfarfod olaf cyn bo hir. Felly, bydd gennym fap gwaith yn fuan iawn ar ôl hynny—yn sicr erbyn diwedd tymor yr haf, ond rwy'n gobeithio erbyn yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei alw'n 'wanwyn'; gadewch inni obeithio mai mis Mai fydd hynny—cyn gynted â phosibl. Maent yn bobl ymroddedig iawn. Rhoesant lawer o'u hamser eu hunain i'r gwaith dros doriad y Nadolig i gynhyrchu'r pethau interim roeddent yn ymdrin â hwy yn eu cyfarfod olaf ond un. Felly, rwy'n hyderus y cawn hwnnw'n gyflym.
Hefyd, roeddwn am roi mwy o deimlad o ble'r ydym yn awr. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid llywodraeth leol a thrydydd sector i nodi nifer a manylion yr holl adeiladau preswyl uchel yng Nghymru. Roedd honno'n dasg anoddach o lawer nag y byddech yn ei ddisgwyl, yn enwedig yn y sector preifat, ond bellach mae gennym ddata llawer mwy cadarn a mwy dibynadwy. Rydym wedi rhannu'r wybodaeth drwy gyfrwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn sicrhau ein bod mewn sefyllfa fwy cadarn o ran y wybodaeth a gedwir ac yr adeiladir arni. Yn anecdotaidd, Ddirprwy Lywydd, dywedir wrthyf, yn y pen draw, ein bod wedi gorfod anfon pobl allan i edrych i weld lle'r oedd pethau tal am nad oedd cofrestr ar gael mewn gwirionedd. Felly, mae honno'n wybodaeth sydd gennym bellach.
Ond nid yw'r wybodaeth honno, wrth gwrs, ond yn mynd â chi beth o'r ffordd. Gwelwyd bod tri adeilad tal yn y sector cymdeithasol a 12 yn y sector preifat wedi eu gorchuddio mewn deunydd cyfansawdd alwminiwm, neu ACM, y cladin penodol a achosodd yr anhawster o ran lledaeniad cyflym y tân yn Nhŵr Grenfell. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos ac yn effeithiol gyda pherchnogion adeiladau a datblygwyr i sicrhau bod penderfyniadau cyfrifol wedi'u gwneud. Fel y mae, mae'r gwaith naill ai wedi'i gwblhau, neu mae ar y gweill ar dynnu ac ailosod cladin ar bob un ond dau o'r adeiladau hynny. Yn achos y ddau sydd ar ôl, argymhellwyd y dylid cynnal profion ar raddfa fawr ar union natur y cladin a'i berfformiad ac mae'r datblygwr wedi ymrwymo i gydymffurfio ag unrhyw argymhellion dilynol ac mae'n rhoi gwybod inni am gynnydd y broses. Felly, rydym yn falch iawn fod hynny'n digwydd yn gyflym.
Yn y trafodaethau gyda fy rhagflaenydd, Rebecca Evans, dynododd datblygwyr a pherchenogion y byddent yn gwneud y peth iawn ar gyfer y trigolion. Fe'i gwnaethom yn glir iawn nad oedd Llywodraeth Cymru am weld cost y gwaith hwnnw'n cael ei drosglwyddo i breswylwyr. Rwy'n falch o weld na ofynnir i breswylwyr ysgwyddo'r gost o dynnu ac ailosod cladin ACM. Dyna yw'r penderfyniad cywir, mae'n amlwg, ac rydym yn ei groesawu, a bydd yn rhyddhad i'r bobl sydd wedi prynu'r adeiladau penodol hynny neu sy'n byw ynddynt.
O ran adeiladau newydd neu yn y dyfodol, rydym wedi ymgynghori ar wahardd deunyddiau llosgadwy yn gyfan gwbl. Ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn dadansoddi'r ymatebion ac yn ymgymryd â'r gwaith asesu effaith angenrheidiol ar yr adborth ymgynghori sydd wedi dod yn ôl. Er y bwriedir gosod gwaharddiad er mwyn ychwanegu rhagor o ddiogelwch, rwy'n deall wrth gwrs fod adeiladwyr ac yswirwyr eisoes yn cymryd camau ymarferol i sicrhau nad yw adeiladau newydd yn cael eu datblygu gan ddefnyddio cladin llosgadwy, ond yn amlwg mae cwestiwn anferth yn codi ynghylch ôl-osod yn ogystal.
Wrth gwrs, fel y dywedodd llawer o bobl, ceir materion cymhleth sy'n mynd ymhell y tu hwnt i broblem cladin ACM. Mae swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda chymheiriaid llywodraeth leol a'r gwasanaethau tân ac achub i fabwysiadu dull gwaith achos o weithredu ar adeiladau y nodwyd pryderon eraill yn eu cylch. Un maes rydym yn dal i ddysgu ohono yw dod â gweithredwyr allweddol at ei gilydd, ac fel adroddiad y pwyllgor, bydd y profiad hwnnw'n deall ac yn datblygu systemau cadarn i wella eu diogelwch.
Wrth ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, rwyf wedi bod yn awyddus i dderbyn argymhellion lle bynnag y bo modd ac i sicrhau bod y rhain yn cael eu hystyried yng ngwaith y grŵp arbenigol. Roedd y Fonesig Judith yn glir iawn ynghylch yr angen am ddull sy'n gydlynol, yn hytrach na dull sy'n dewis a dethol, o gyflawni newid system gyfan, ac rydym yn awyddus iawn i wneud hynny, oherwydd gwyddom ar hyn o bryd fod yna gyfres o reoliadau ac yn amlwg, y broblem yw bod yna fylchau, a bydd rhai pethau'n disgyn i'r bylchau hynny, fel bod dull cydlynol, system gyfan yn hanfodol er mwyn dileu'r bylchau hynny. Mae'r grŵp arbenigol yn deall hynny'n iawn. Maent wedi cadarnhau bod y system bresennol yn dameidiog, yn gymhleth ac yn aneffeithiol yn eu barn hwy. Byddwn yn ei thrawsnewid. Rhaid inni wneud hynny os ydym yn mynd i gadw pobl yn ddiogel rhag y mathau o danau a welsom yn Grenfell, neu unrhyw fath o dân yn wir.
O ran yr amser, credaf ei bod yn well—. Rhaid inni gael y ddeddfwriaeth hon yn iawn, felly nid ydym am wneud rhywbeth yn gyflym a'n bod yn methu un o'r bylchau wedyn. Felly, rydym am gael y cyfuniad cywir o gymryd digon o amser i sicrhau ein bod wedi cwmpasu dull system sy'n gydlynol a'r cyflymdra angenrheidiol. Felly, hoffwn allu dweud y gallwn ei wneud o fewn tymor y Cynulliad hwn—yn sicr byddem wrth ein bodd—ond mae'n bwysig iawn inni gael y system yn iawn er mwyn gwneud yn siŵr ein bod wedi llenwi'r holl fylchau eraill sy'n bodoli yn y ddeddfwriaeth bresennol, a'n bod wedi archwilio pob un o'r posibiliadau. Felly, nid wyf am ymrwymo i hynny heblaw dweud fy mod yn rhannu'r uchelgais, ond pa un a allwn wneud hynny ai peidio, nid wyf yn gwybod. Ond mae'n bwysig iawn, ac nid wyf yn ymddiheuro, ein bod yn cael y cymhwysiad ymarferol yn iawn ac yna'n ymgorffori hynny yn y ddeddfwriaeth. Rydym am gael yr holl ymgynghoriadau priodol gyda'r gweithredwyr allweddol, wrth gwrs, gan gynnwys safbwyntiau a lleisiau preswylwyr. Rydym am fod yn glir, fel y dywedais, ynglŷn â natur yr adeiladau. Nid uchder yw'r unig broblem o reidrwydd. Ceir risgiau eraill i wahanol grwpiau. Felly, mae'n amlwg, onid yw, y bydd cartref nyrsio, er enghraifft, sydd ond yn ddau lawr, yn wynebu anawsterau penodol a gallai fod angen amddiffyniadau tân arbennig na fydd eu hangen o bosibl ar adeilad domestig preswyl cyffredin ac ati. Felly, mae'n amlwg fod yna faterion mwy cymhleth nag uchder yn unig yn codi, er bod uchder yn parhau i fod yn broblem.
Felly, fel y dywedais, rwy'n disgwyl cael yr adroddiad hwnnw yn y gwanwyn cynnar. Byddwn yn rhoi ystyriaeth drylwyr i'w argymhellion, ac rwy'n glir na fydd unrhyw oedi rhwng eu hadroddiad a'n hymateb na fydd ei angen i wneud yn siŵr fod ein tŷ mewn trefn os caf ddefnyddio'r ymadrodd.
Rwy'n hapus iawn i dderbyn argymhelliad David Melding fy mod yn rhoi gwybod i'r Aelodau am unrhyw ddatblygiadau drwy'r pwyllgor ac ar lawr y Senedd, Ddirprwy Lywydd. Bydd fy swyddogion yn datblygu cynllun rhaglen a llinell amser wrth inni ymgynghori a gweithredu argymhellion tymor byr, tymor canolig a hirdymor i ddangos ein hymrwymiad.
Rwy'n glir iawn ynglŷn â phwysigrwydd y gwaith hwn i sicrhau ein bod yn ei gael yn iawn. Mae fy mhortffolio yn cynnwys tai, cynllunio a chyfrifoldeb am bolisi tân, felly rwy'n ymrwymedig i ddefnyddio hyd a lled y portffolio i oruchwylio a gweithredu'r agenda bellgyrhaeddol, gan ddwyn ynghyd y gwahanol elfennau i sicrhau bod y system yng Nghymru yn glir ac yn effeithiol ac yn gwella diogelwch yn y ffordd iawn. Yn hynny o beth, hoffwn ailadrodd fy nghroeso i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'i ran yn llywio'r penderfyniadau allweddol a'r camau a gymerwn, ac fel y dywedais wrth gwrs, byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ar y cynnydd a wnawn. Diolch yn fawr.
A gaf fi alw yn awr ar John Griffiths fel Cadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau, Ddirprwy Lywydd, ac i aelodau'r pwyllgor am eu ffocws a'u hymrwymiad i'r gwaith hwn. Fel y dywedodd pawb sydd wedi siarad heddiw, mae'n amlwg yn eithriadol o bwysig ein bod yn deall orau y gallwn y materion yn ymwneud â diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn yn gyffredinol, mewn adeiladau preifat uchel iawn yng Nghymru, yn nodi camau gweithredu angenrheidiol a rhoi'r camau hynny ar waith cyn gynted â phosibl. Rwy'n ddiolchgar iawn am y ddealltwriaeth ynglŷn â phwysigrwydd y materion hyn, y ffocws a roddodd aelodau'r pwyllgor, eu hymagwedd ddifrifol tuag at eu gwaith, a'r dystiolaeth a gawsom, sydd unwaith eto'n adlewyrchu difrifoldeb y materion hyn.
Fel y dywedodd Leanne Wood, yn amlwg, mae'n beth ofnadwy ei bod hi wedi cymryd trasiedi fel Tŵr Grenfell i ddod â'r problemau a wynebwn i'r amlwg a'r angen am y gwaith sydd bellach yn digwydd a'r camau sydd wedi digwydd ac a fydd yn dilyn. Mae gwir angen inni fynd i'r afael â'r problemau hyn a gwneud popeth a allwn i wneud yn siŵr nad yw trychinebau mor erchyll yn digwydd eto. Dyna pam y credaf, fel y dywedodd y Gweinidog—fel roedd yn gywir i ddweud—ei bod hi'n hynod o bwysig ein bod yn ei gael yn iawn. Ond yn amlwg, mae'r pwyllgor hefyd yn credu—a gwn fod y Gweinidog yn ogystal—oes, mae angen inni ei gael yn iawn, ond mae angen inni ei gael yn iawn cyn gynted â phosibl, a dyna'r ysbryd sy'n rhaid i ni symud ymlaen ynddo. Yn hynny o beth, mae'n dda clywed am ymrwymiad y grŵp arbenigol, fel y mae'r Gweinidog wedi dweud, a'r derbyniad fod angen cyhoeddi'r map gwaith cyn gynted â phosibl.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y sicrwydd a roddodd y Gweinidog mewn ymateb i'r hyn a ddywedodd David Melding am yr angen inni gael y wybodaeth ddiweddaraf mor rheolaidd â phosibl, oherwydd mae llawer o waith yn digwydd. Mae llawer o waith yn digwydd ar lefel y DU, llawer o waith ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a llawer o waith yma yng Nghymru. Felly, wyddoch chi, mae llawer o wybodaeth i'w diweddaru, ac unwaith eto, mae'n bwysig dros ben ein bod yn cadw llygad ar y datblygiadau hynny, a'u bod yn cael eu rhannu a'n bod yn deall beth sy'n digwydd a phryd y mae'n mynd i ddigwydd. Unwaith eto, roedd hi'n dda iawn clywed David Melding yn siarad am y cydweithrediad y mae'n gywir i sicrhau'r Gweinidog a fyddai'n amlwg ar draws y pleidiau gwleidyddol yma pe cyflwynid deddfwriaeth, a phe gwneid hynny yn y tymor Cynulliad hwn. Credaf inni glywed beth a ddywedodd y Gweinidog ar y pwnc hwnnw. Ond os yw'n bosibl, rwy'n siŵr ei bod yn bwysig i'r Gweinidog wybod y byddai'r un ysbryd o gydweithrediad gan y pleidiau eraill a fyddai'n hwyluso hynt y ddeddfwriaeth drwy'r Cynulliad ac yn helpu i roi tawelwch meddwl i'r Llywodraeth y gellid goresgyn rhai o'r anawsterau sy'n gysylltiedig â'r ysbryd hwn o gydweithrediad.
Felly, yn fyr, Ddirprwy Lywydd, mae'r rhain yn faterion y bydd y pwyllgor yn dychwelyd atynt. Rydym wedi gwneud hynny bellach dros gyfnod o flynyddoedd gyda'n gwaith cynnar ar y problemau tai cymdeithasol, o ran adeiladau uchel iawn yng Nghymru, ac yn awr gyda'r adroddiad dilynol hwn ar adeiladau preswyl preifat uchel iawn. Byddwn yn parhau i ddychwelyd at y materion hyn, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Gweinidog, gan wybod ei bod wedi gwneud hyn yn flaenoriaeth gynnar yn ei rôl bresennol, ac y bydd yn parhau i wneud hynny.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.