– Senedd Cymru am 4:08 pm ar 22 Ionawr 2019.
Eitem 10, felly, yw Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn ag effaith Brexit heb gytundeb ar ein gwasanaethau iechyd a gofal. A galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Pan amlinellais am y tro cyntaf effaith bosib Brexit heb gytundeb ar y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru ym mis Mehefin y llynedd, roedd rhai Aelodau yn y Siambr hon yn fy nghyhuddo o godi bwganod a gwneud drygau gwleidyddol. Eto i gyd, dwy flynedd a hanner ar ôl refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, a llai na 70 diwrnod cyn y mae'r DU i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'r posibilrwydd o beidio â chael cytundeb bellach yn fwy nag erioed. Prin fod carreg sylfaen o gwbl wedi ei gosod ar gyfer y berthynas fydd gennym ni yn y dyfodol gyda'n partneriaid masnachu agosaf a phwysicaf. Yn hytrach, dim ond yr wythnos ddiwethaf, roeddem ni'n clywed adroddiadau am nifer cynyddol o feddyginiaethau yr effeithir arnyn nhw gan faterion cyflenwi ledled y DU yn wyneb Brexit heb gytundeb.
Mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol am sicrhau bod y cyflenwad o feddyginiaethau yn parhau, fel gyda chynifer o feysydd a fydd o bosib yn effeithio ar bobl Cymru. Er bod nifer a math y meddyginiaethau yr effeithir arnyn nhw yn gymharol isel, mae'n amlwg na all Llywodraeth y DU roi sicrwydd llawn na fydd Brexit heb gytundeb yn effeithio ar oruchwylion busnes beunyddiol. O safbwynt iechyd a gofal cymdeithasol, mae'n bwysicach nag erioed y caiff Brexit heb gytundeb ei ddiystyru fel isafswm.
Rwy'n parhau i fod yn bryderus ynghylch cyflenwi radioisotopau i Gymru yn y dyfodol pe byddai sefyllfa o ddim cytundeb. Mae radioisotopau yn hanfodol ar gyfer defnydd diagnostig a therapiwtig gan ein gwasanaeth iechyd gwladol. Nid oes unrhyw ffynonellau yn y DU, ac fe gaiff cyflenwadau eu mewnforio'n gyson o wledydd eraill yr UE drwy'r prif borthladdoedd traws-sianel. Mae'n debygol y bydd y tarfu a fydd yn deillio o archwiliadau yn ein porthladdoedd yn golygu y bydd radioisotopau yn ddiwerth ar gyfer triniaeth gofal iechyd. Rydym yn dibynnu ar sicrwydd Llywodraeth y DU, er bod y DU yn dal i fwriadu gadael Euratom, na fydd unrhyw rwystr rheoleiddiol i barhau i fewnforio radioisotopau ar ôl Brexit. Fodd bynnag, gallai Brexit heb gytundeb arwain at wahanol safonau a threfniadau rheoleiddio rhwng cenhedloedd a allai effeithio ar fewnforio radioisotopau. Ac, wrth gwrs, union ddymuniad y rhan fwyaf o'r rhai sy'n eiriol dros beidio â chael cytundeb yw bod gwahaniaeth mewn safonau a threfniadau rheoleiddio.
Ni ddylai unrhyw un danbrisio effaith Brexit heb gytundeb—yr effaith y bydd Brexit heb gytundeb yn ei chael ar ddinasyddion unigol a theuluoedd. Mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, wladolion yr Undeb Ewropeaidd sy'n byw ac yn gweithio yn y DU, neu ddinasyddion y DU, gan gynnwys llawer o ddinasyddion Cymru, sydd wedi manteisio ar ryddid i symud er mwyn byw a gweithio yn yr Undeb Ewropeaidd. Bydd pawb yn cael eu heffeithio.
Heblaw am yr ansicrwydd ynghylch trefniadau gofal iechyd cyfatebol a statws preswylydd sefydlog, bydd Brexit heb gytundeb yn anochel yn arwain at farchnad lafur dynnach o ran iechyd a gofal cymdeithasol ledled y DU. Bydd hynny'n ei gwneud hi'n fwy anodd byth inni gystadlu am staff, ac wrth gwrs, yn golygu cynnydd tebygol mewn costau. Bydd Brexit heb gytundeb yn cael effaith bellgyrhaeddol ar bob proffesiwn a holl staff iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y newidiadau i bolisïau ymfudo, yn enwedig polisi sy'n ffafrio sgiliau a chyflogau uchel, yn effeithio fwyaf ar y rhannau hynny o'r sector iechyd a gofal cymdeithasol sy'n dibynnu ar weithwyr ar gyflogau cymharol isel, megis gweithwyr sy'n darparu gofal cartref neu breswyl, sydd â swyddogaeth ganolog yn cefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Felly, gadewch inni fod yn glir: byddai amharu ar ein sector gofal cymdeithasol nid yn unig yn effeithio ar ddinasyddion sy'n agored i niwed yn y byd gofal cymdeithasol, ond byddai'n anochel yn arwain at oedi wrth ryddhau cleifion o ysbytai ac at gynyddu pwysau ar ein hysbytai. Mae hynny'n golygu pwysau ar ein staff ac ar y dinasyddion eu hunain sy'n dal i fod angen iechyd a gofal cymdeithasol arnynt.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir y byddai Brexit heb gytundeb yn achosi niwed difrifol ac anochel i'n gwasanaethau iechyd a gofal, ac y byddai'r niwed hwnnw'n ymestyn i bob sector, gan gynnwys, wrth gwrs, y 1,400 o leiaf o wladolion yr Undeb Ewropeaidd y gwyddom sy'n gweithio yn ein gwasanaeth iechyd gwladol. Os ydym yn mynd i adael yr Undeb Ewropeaidd gyda'r niwed lleiaf posib i'n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yna mae'n rhaid cael sicrwydd y ceir cytundeb a fydd yn sicrhau mynediad llawn a pharhaus a dilyffethair i'r farchnad sengl, a datblygiad system fudo newydd lle bydd mwy o gysylltiad rhwng mudo a chyflogaeth, gan sicrhau na fydd neb yn manteisio ar y gweithwyr hynny.
Hoffwn i ganolbwyntio nawr ar y gwaith yr ydym ni wedi bod yn ei wneud i liniaru rhai o'r peryglon sylweddol a hysbys o Brexit heb gytundeb. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r GIG, awdurdodau lleol, cyrff proffesiynol a chynrychioliadol i gynllunio a pharatoi lle bo hynny'n bosib. I gefnogi darparwyr gofal cymdeithasol, mae gennym y comisiynydd Ipsos MORI i asesu cyfansoddiad y gweithlu gofal plant a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru. Bydd yr ymchwil honno yn ein helpu ni i ddarganfod faint o weithwyr yr Undeb Ewropeaidd sy'n cael eu cyflogi yn y sector, fel y gallwn ni eu cefnogi nhw a'u cyflogwyr. Bydd hefyd yn hwyluso cynllunio cost-effeithiol ar gyfer ardaloedd neu swyddogaethau lle canfyddir gwendidau.
Dechreuais fy natganiad y prynhawn yma drwy gyfeirio at adroddiadau o brinder meddyginiaeth. Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar sicrhau bod cyflenwad o feddyginiaethau, dyfeisiau meddygol a nwyddau traul clinigol ar gael os ceir Brexit heb gytundeb. O ran meddyginiaethau, fel y dywedais, rydym i bob diben yn dibynnu ar y gwaith y mae Llywodraeth y DU a'r diwydiant fferyllol yn ei wneud i sicrhau bod stoc a llwybrau trafnidiaeth pwrpasol ar gael. Fodd bynnag, rydym yn drylwyr wrth archwilio'r data sydd ar gael gan Lywodraeth y DU am y meddyginiaethau yr effeithir arnynt yn fwyaf tebygol neu lle nad oes digon o sicrwydd gan weithgynhyrchwyr. O ran dyfeisiau meddygol a nwyddau traul clinigol—popeth o reolyddion calon i badiau anymataliaeth i fenig llawfeddygol—byddwn yn defnyddio trefniadau'r DU os mai dyna'r peth priodol i'w wneud. Ond byddwn hefyd yn gwneud pethau ychwanegol os oes yna feysydd sy'n peri pryder, neu os teimlwn y gallwn roi'r sicrwydd ychwanegol sydd ei angen arnom ni yma yng Nghymru. Wrth wneud hynny, rydym yn ystyried sut i fwrw'n golygon y tu hwnt i 29 Mawrth, a cheisio sicrhau gwerth parhaus rhai o'r mesurau y mae'n rhaid inni eu rhoi ar waith i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb.
Roeddwn yn falch o groesawu ddoe gyhoeddi dadansoddiad trylwyr ac ystyriol iawn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â sut y gallai Brexit effeithio ar bob agwedd ar iechyd a lles yng Nghymru dros y tymor byr, canolig a hir. Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar yr heriau gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd gwahanol y bydd Cymru yn eu hwynebu yn sgil Brexit. Bydd yn ffynhonnell gyfeirio a sylfaen dystiolaeth amhrisiadwy i arweinwyr gwasanaeth a'r gymuned wrth inni gamu i gyfnod hyd yn oed mwy ansicr a'r posibilrwydd o gysylltiadau rhyngwladol newydd. Dyma'r unig asesiad effaith iechyd yn ymwneud â Brexit sydd wedi'i gyhoeddi unrhyw le yn y DU. Mae'n enghraifft bellach o sut yr ydym yn defnyddio'r hyn a allwn ni o drefniadau'r DU ond hefyd yn mynd ymhellach os mai dyna'r peth cywir i'w wneud.
Mae'r ddwy fentr yn hanfodol bwysig i'n cynlluniau wrth gefn cyffredinol a byddwn yn darparu'r sicrwydd ychwanegol sy'n bosibl, oherwydd rydym mor barod ag y gallwn ni fod o fewn rheswm. Ond, hyd yn hyn, ni wyddom pa ffurf fydd i Brexit, gyda dim ond naw wythnos i fynd.
Ar 23 Mehefin 2016 pleidleisiodd pobl Cymru ac, yn wir, y Deyrnas Unedig, gan fwyafrif i adael yr Undeb Ewropeaidd—gyda'r nifer fwyaf o bobl yn pleidleisio ledled y DU erioed ers dechrau cadw cofnodion. Nawr, rwyf wedi credu erioed, fel yr wyf yn ei wneud heddiw, bod gan wleidyddion, ni waeth pa blaid, ddyletswydd sylfaenol i sicrhau y caiff ewyllys ein pobl ei wireddu. Y sefyllfa gyfreithiol ddiofyn, wrth gwrs, yw dim cytundeb.
Dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, mae wedi fy nhristáu i yma yn gweld Llywodraeth bresennol Cymru yn esgeuluso ei chyfrifoldebau datganoledig ei hun, yn osgoi craffu ac yn hytrach yn achosi anhrefn gan godi bwganod, ac yn awr yn ceisio difetha Brexit drwy wneud cyhoeddiadau dryslyd yn galw am etholiad cyffredinol ac, yn wir, am gynnal ail refferendwm neu—galwch hynny beth fynnoch chi—bleidlais y bobl. Yn hytrach, dylech fod wedi canolbwyntio ar baratoi'r meysydd datganoledig y mae gennych chi gyfrifoldeb amdanyn nhw yma, nid yn lleiaf y sector iechyd, o'r cychwyn cyntaf. Rydych chi'n gywir yn eich datganiad: mae yna nerfusrwydd yn y sector gofal iechyd yng Nghymru, ond nid ydych chi eich hun o unrhyw gymorth i hyn. Er enghraifft, mae'n ffaith syfrdanol nad yw cyfran GIG Cymru o gronfa bontio £50 miliwn yr UE sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn adlewyrchu eich rhethreg chwyddedig. Efallai y cofiwch, Gweinidog, ym mis Hydref 2018, i chi gyhoeddi mai dim ond—ie, dim ond—£210,000 o'r gronfa £50 miliwn fydd yn cael ei ddefnyddio i baratoi'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar gyfer Brexit. O ddifrif? O gofio bod iechyd a gofal cymdeithasol yn rhychwantu saith bwrdd iechyd, 22 o awdurdodau lleol, mae'n eithaf syfrdanol mewn gwirionedd eich bod mewn difrif wedi dyrannu dim ond oddeutu £7,200 i bob corff cyhoeddus.
Yn anffodus, mae diffyg parodrwydd yn thema gyffredin wrth ystyried sector iechyd a gofal cymdeithasol Cymru, fel mae un o'ch aelodau cynulliad Llafur eich hun, David Rees, wedi ei grybwyll a'i gydnabod. Er ichi sôn yn eich datganiad eich bod wedi comisiynu Ipsos MORI i asesu cyfansoddiad y gweithlu gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru, mae'n ffaith drawiadol mai dim ond nawr y mae hyn yn digwydd. Diolch byth, mae Llywodraeth y DU yn fwy trefnus ac wedi cydnabod materion fel meddyginiaeth ac wedi cynghori gweithgynhyrchwyr i bentyrru gwerth chwe wythnos o stoc yn achos sefyllfa o ddim cytundeb. Mae hefyd yn braf cael gwybod gan Brif Weinidog Cymru bod y llu diweddaraf o 140 o weithwyr—interniaid—yn yr adran honno o Lywodraeth Cymru sy'n paratoi ar gyfer Brexit, mewn gwirionedd, wedi'u hariannu gan Lywodraeth y DU. Yn fwy na hynny, nid oes gan Lywodraeth y DU unrhyw ddymuniad i atal pobl o'r tu mewn neu o'r tu allan i'r UE rhag dod i weithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae Llywodraeth y DU wedi—a pheidiwch â gwadu hynny, mae wedi rhoi sicrwydd na fydd unrhyw newid i statws staff y GIG os na cheir cytundeb. Yn olaf, mae'n ymddangos—
A ydym ar fin cael cwestiwn, os gwelwch yn dda?
Ydych, rwyf ar fin gofyn fy nghwestiynau nawr, Dirprwy Lywydd. Mae gennych chi fwy o fater i fynd i'r afael ag ef, oherwydd mae'n ymddangos bod Cymru yn parhau i gael anhawster cadw staff, beth bynnag fo'u cenedligrwydd. Yn wir, ymhlith pryderon Nick Fahy o Brifysgol Rhydychen mae yna berygl y gallai staff adleoli i Loegr. Yn bersonol, nid wyf yn credu fod hyn yn syndod, oherwydd gwn eisoes ei fod yn digwydd yn y gogledd, ac mae hynny oherwydd eich anallu chi eich hun i redeg y gwasanaeth iechyd—bwrdd sydd wedi bod mewn mesurau arbennig am dair blynedd.
Felly, fy nghwestiynau i chi, Gweinidog, yw: a wnewch chi gadarnhau a fyddwch chi'n cynorthwyo unrhyw gwmnïau yn ariannol gyda chostau pentyrru, ac, os felly, a fydd hynny'n dod o gronfa bontio yr UE neu o gronfa'r adran iechyd; (2) pa waith ydych chi'n ei wneud i liniaru pryderon staff gofal iechyd o ddim cytundeb, ac a ydych chi mewn gwirionedd yn ffyddiog o gadw staff GIG Cymru waeth beth fo'u cenedligrwydd gan wrthwynebu ar yr un pryd yr or-ddibyniaeth ar staff asiantaeth; a (3), yn olaf, a wnewch chi egluro a ydych chi'n ystyried sicrhau mwy o arian i helpu i baratoi'r sector iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? Ledled y DU, dyma'r unig Lywodraeth ddatganoledig lle rydym wedi gweld toriadau enfawr a llym i'n gwasanaeth iechyd. Felly, rwy'n credu y dylid cyfeirio unrhyw—[Torri ar draws.]—unrhyw feirniadaeth nawr at Lywodraeth bresennol Cymru, a gadael i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen â Brexit.
Gweinidog. [Torri ar draws.] Gweinidog. Roedd yna dri.
Hoffwn ddiolch i Janet Finch-Saunders am ei chyfraniad diddorol. Gwnaed amryw o haeriadau nad oedden nhw'n ffeithiol. Ni wnaf i ymdrin â phob un ohonyn nhw. Ond gadewch i ni ymdrin â'r tri chwestiwn tybiedig.
Arian ar gyfer cwmnïau i'w helpu gyda phentyrru: rydym yn disgwyl bod â'r un trefniadau ariannol i dalu am offer a meddyginiaethau i'w defnyddio yn y gwasanaeth iechyd. Fodd bynnag, efallai y bydd costau ychwanegol a fyddai'n cael eu trosglwyddo. Er enghraifft, os yw radioisotopau yn cael eu cludo ar awyrennau i'r Deyrnas Unedig oherwydd bod y trefniadau tollau ar ôl trefniant heb gytundeb yn golygu na allwch mewn gwirionedd ddod â radioisotopau drwy'r porthladdoedd yn y ffordd arferol, byddai cost bron yn sicr yn cael ei throsglwyddo i'r gwasanaeth iechyd, a byddai hynny'n cael effaith ar gyllidebau ym mhob un genedl o'r Deyrnas Unedig.
O ran statws preswylydd sefydlog, roedd yn gam cadarnhaol bod Prif Weinidog y DU o'r diwedd wedi gweld synnwyr a chytuno na fyddai ffi ymgeisio i bobl wneud cais am statws preswylydd sefydlog. Mae'r her yn bodoli o hyd ynglŷn â'r diffyg dealltwriaeth o ran sut fydd y broses yn gweithio ar gyfer dinasyddion sydd o bosib yn agored i niwed ac sydd wedi byw yn y wlad hon am gyfnod sylweddol o amser ac eisoes yn manteisio ar wasanaethau iechyd a gofal. Mae gan bobl, yn ddealladwy, ym mhob plaid yn y Senedd bryderon am broses yn cael ei rhedeg gan y Swyddfa Gartref, yn enwedig yng ngoleuni ei hanes diweddar gyda dinasyddion Windrush, gyda rhai ohonyn nhw, wrth gwrs, wedi cael eu halltudio o'r Deyrnas Unedig, ac y gwrthodwyd triniaeth iechyd a gofal hanfodol i rai ohonyn nhw. Mae llawer eto i'w wneud cyn y bydd pobl yn gwbl ffyddiog ynghylch statws preswylydd sefydlog, ac, wrth gwrs, os nad oes cytundeb, bydd yn rhaid i hynny fod ar waith er mwyn gallu cynnal proses o fewn ychydig wythnosau.
A dyna'r datganiad anghywir am ariannu iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn ymdrin â hyn yn rheolaidd yn y Siambr hon. Mae'r Llywodraeth hon yn ariannu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn sylweddol fwy—o leiaf 8 y cant—nag y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wneud ar gyfer Lloegr. Mae'r toriadau cymharol ym maes gofal cymdeithasol yn sylweddol. Peidiwch â derbyn fy ngair i yn hynny o beth: edrychwch ar y Gymdeithas Llywodraeth Leol yn Lloegr lle mae'r Ceidwadwyr wrth y llyw a byddant yn dweud wrthych pa mor wael yw'r fargen a gafodd gofal cymdeithasol yn Lloegr. Hefyd edrychwch ar gydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd gwladol yn Lloegr a byddant hefyd yn dweud wrthych am y fargen gawson nhw. Rydym ni'n gwneud yn well o lawer gydag iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru, a does dim modd dadlau gyda'r ffeithiau yn hynny o beth.
O ran eich honiadau ehangach ynghylch diffyg parodrwydd ac achosi anhrefn, ar ryw adeg efallai yr hoffech chi droi at y newyddion ar y teledu. Wn i ddim a ydych chi'n ymwybodol o'r ffenomenon benodol hon—mae yna rywbeth sy'n cael ei galw'n Senedd, Senedd y Deyrnas Unedig, lle mae pobl yn sôn am Brexit yn rheolaidd. Mae Gweinidogion yn ymddiswyddo'n rheolaidd o'r Llywodraeth oherwydd na allan nhw gytuno â pholisi'r Llywodraeth. Mae Gweinidogion y Llywodraeth yn rheolaidd ar y cyfryngau yn anghytuno â pholisi'r Llywodraeth. Yn wir, dywedodd y Canghellor yr wythnos ddiwethaf mewn galwad ffôn i amryw o fusnesau na fyddai Brexit heb gytundeb yn cael ei ystyried, ac mae Prif Weinidog y DU yn mynnu nad yw hynny'n mynd i ddigwydd. Felly, mae Philip Hammond yn wych am awgrymu na fydd dim cytundeb, ond mae'r Marcsydd Jeremy Corbyn gyda'i farf pigfain yn ddrwg iawn am awgrymu na ddylid ystyried dim cytundeb. Os ydych chi eisiau gweld anhrefn, yna edrychwch ar Senedd y Deyrnas Unedig, edrychwch ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n uniongyrchol gyfrifol am Brexit. Theresa May sy'n gyfrifol am ein sefyllfa ni, ar ôl, wrth gwrs, David Cameron, a ddechreuodd hyn i gyd yn y lle cyntaf.
Ac o ran eich sylw, eich honiad, bod Llywodraeth y DU wedi gwarantu—pe na bai cytundeb, ei bod wedi gwarantu statws staff y GIG, nid yw hynny'n wir. Ar ryw adeg, hoffwn estyn croeso i Janet Finch-Saunders ymuno â'r gweddill ohonom ni ar y blaned hon a chymryd Brexit heb gytundeb o ddifrif.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Yn y datganiad, mae'n nodi rhai o'r materion a'r problemau'n glir iawn, ac mae'r pryderon hynny'n bryderon y byddem ni yn y rhan hon o'r Senedd yn hoffi eu hategu. Mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod i braidd yn siomedig bod diffyg manylder yn rhai o'i ymatebion. Ond rwyf hefyd yn cydnabod bod gennym ni lawer iawn o faterion am Brexit heb gytundeb i'w hystyried y prynhawn yma ac efallai nad oedd yn bosib iddo ymhelaethu mewn manylder am bopeth yr oedd arno o bosib eisiau eu trafod. Felly, soniaf ychydig mwy, os caf i, gyda'ch caniatâd, am rai o'r materion y mae wedi eu crybwyll.
O ran y mater radioisotopau, mae hyn mewn gwirionedd, fel mae'n dweud, yn berygl difrifol posib. Nid bod unrhyw un yn mynd i ddymuno peidio â'u gwerthu i GIG Cymru o'u gwirfodd mwyach, ond mae yna, fel y tynnodd sylw atynt yn briodol, faterion ymarferol—y gellir eu goresgyn, ond ar gost sylweddol—ac wrth gwrs mae materion cyfreithiol. Nawr, mae'r Athro Wyn Owen wedi ein rhybuddio bod perygl, os nad oes unrhyw gytundeb, y bydd cyflenwyr naill ai'n penderfynu y byddan nhw'n parhau i gyflenwi'r DU nes y dywedir wrthyn nhw am beidio â gwneud hynny, a fyddai'n iawn yn y tymor byr, neu ni fyddan nhw'n cyflenwi hyd nes y cânt gadarnhad cyfreithiol y caniateir iddyn nhw wneud hynny. Felly, rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog roi ychydig mwy o fanylion am y trafodaethau a gafodd gyda'r bobl berthnasol yn Llywodraeth y DU i sicrhau y caiff y sefyllfa gyfreithiol hon ei hegluro os bydd Brexit heb gytundeb. Ac rwy'n ei annog i ystyried, o gofio cyflwr Llywodraeth y DU ar hyn o bryd, yr ymddengys na all drefnu i gael ei hun allan o fag papur gwlyb—rwy'n gofyn iddo ystyried bod yn barod i ymdrin yn uniongyrchol â Brwsel ar y mater penodol hwn. Yn amlwg, mae angen ateb arnom ni ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd, ond, os nad yw hynny'n ymddangos yn debygol, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi na allwn fforddio i adael y bobl sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn a GIG Cymru heb y cyflenwadau angenrheidiol.
Mae'r Gweinidog yn sôn yn ei ddatganiad am y gwaith sy'n mynd rhagddo—yr ymchwil—i edrych ar gyfansoddiad y gweithlu gofal plant a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd hyn yn ddefnyddiol iawn, ond rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog roi ychydig o fanylion inni y prynhawn yma am amserlen y gwaith hwnnw, oherwydd, yn amlwg, mae'n fater o frys canfod lle mae'r bylchau hynny'n debygol o fod. Ac, os yn y pen draw y bydd gennym broblemau yn y gweithlu gofal cymdeithasol, bydd hynny'n effeithio'n anochel, wrth gwrs, ar ofal iechyd, oherwydd ni fyddwn yn gallu rhyddhau pobl o ysbytai.
O ran y pwyntiau a wnaiff ynglŷn â meddyginiaethau, ac mae'n siarad ynghylch bod yn ddibynnol yn y bôn ar waith y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud—ac nid wyf yn obeithiol, nid wyf yn ffyddiog, ynghylch hynny, er y sylweddolaf, ar rai lefelau, fod angen hynny—tybed a all y Gweinidog rannu â ni y prynhawn yma, neu efallai y gall ysgrifennu at yr Aelodau maes o law, unrhyw fanylion ynghylch meddyginiaethau yr effeithir arnyn nhw, fwy na thebyg, ac a yw'n fodlon ai peidio, fel y mae pethau, gyda'r sicrwydd y mae gweithgynhyrchwyr yn ei roi. Yn yr un modd, o ran dyfeisiau meddygol a nwyddau traul, yn natganiad y Gweinidog dywedodd y bydd yn gwneud rhagor o waith mewn meysydd sy'n achosi pryder. Tybed a yw mewn sefyllfa i roi unrhyw awgrym cynnar inni heddiw o'r hyn y gallai'r meysydd pryder hynny fod, a pha gynlluniau wrth gefn sydd ar waith.
Nawr, mae'r Gweinidog yn cyfeirio, yn briodol, at adroddiad da iawn Iechyd Cyhoeddus Cymru a ddaeth i law lawer ohonom ni heddiw neu ddoe. Rwy'n ei gymeradwyo fel darn gwerthfawr o waith, ond hoffwn anghytuno ag un agwedd. Un o ganlyniadau cadarnhaol posib Brexit heb gytundeb sy'n cael ei amlygu yw gostyngiad posib yn y defnydd o alcohol. Wel, o'm rhan i, credaf fod Brexit heb gytundeb yn fwy tebygol o fy nghymell i yfed, a bod yn onest, os gwnewch chi faddau fy ngwamalu, Dirprwy Lywydd.
Ond hoffwn i dynnu sylw'r Gweinidog at rai o'r argymhellion. Mae naw yn yr adroddiad—meysydd y mae angen rhagor o waith arnyn nhw. Mae argymhelliad 7 yn dweud bod angen ymchwil bellach i effaith Brexit ar iechyd meddwl a lles, cydnerthedd cymunedol, gyda phwyslais arbennig ar blant ac oedolion ifanc, a ffermwyr a chymunedau gwledig, ardaloedd y porthladdoedd, a phobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. A all y Gweinidog ddweud a yw eto wedi llwyddo i gael, neu a yw ei swyddogion eto wedi llwyddo i gael unrhyw drafodaethau gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru am natur yr ymchwil honno a phwy ddylai wneud hynny? Ac, yn yr un modd, o ran argymhelliad 9, lle mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod diffyg profiad a sgiliau yn y gweithlu iechyd cyhoeddus ar hyn o bryd i ddylanwadu a chyfrannu at gytundebau masnach. Maen nhw'n dweud y dylai system iechyd y cyhoedd ystyried sut i feithrin gwybodaeth, sgiliau a gallu i sicrhau bod iechyd a lles yn cael eu hystyried wrth galon prosesau o'r fath. Unwaith eto, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud wrthym ni naill ai beth sydd eisoes wedi ei wneud i ddechrau ymateb i'r argymhelliad hwnnw, neu beth arall fydd yn ei wneud, oherwydd ymddengys y gallai hynny fod yn hollbwysig.
Yn olaf, mae argymhelliad 3 yn ymwneud ag arweinyddiaeth, a'r argymhelliad yw bod angen i'r arweinyddiaeth ar holl faterion Brexit barhau i roi cyfarwyddyd cyffredinol o ran ymateb Cymru. Gobeithio y bydd y Gweinidog yn ein sicrhau y bydd yn parhau i fod â rhan glir a phersonol iawn o ran arweinyddiaeth yn hyn o beth, gyda'r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ei ddatganiad yn dangos y byddwn ni'n parhau, ar hyn o bryd, i ddibynu i raddau helaeth iawn ar drefniadau a chynlluniau'r DU. O gofio rhai o'r pethau y mae'r Gweinidog wedi eu dweud yn y gorffennol, rwy'n synnu ei fod ychydig yn fwy gobeithiol na minnau y bydd trefniadau a'r cynlluniau hyn o eiddo'r DU yn cyflawni rhywbeth. A gaf i ofyn am ei sicrwydd heddiw, o ystyried yr anhrefn llwyr ynglŷn â Brexit yn San Steffan ar hyn o bryd, ei fod yn barod i wneud yn siŵr bod unrhyw sylwadau uniongyrchol y mae angen eu gwneud ar ran Cymru ym maes iechyd a gofal yn cael eu gwneud ganddo ef?
Diolch am y sylwadau a'r gyfres o gwestiynau. Yn sicr ni allaf roi'r holl fanylion y gallwn i eu gwneud. Byddwn yn mynd ag amser nifer o Weinidogion eraill. Gallem dreulio'r prynhawn cyfan yn siarad dim ond am yr holl feysydd gwahanol ac amrywiol a fydd yn effeithio ar y system iechyd a gofal cymdeithasol os oes Brexit heb gytundeb.
O ran radioisotopau, rwyf wedi dweud hyn yn gyson ynghylch yr her nid yn unig o ddod â radioisotopau i mewn i'r wlad, ond heriau ynglŷn â rheoleiddio o ran a all gweithgynhyrchwyr yn gyfreithiol fewnforio radioisotopau i'r Deyrnas Unedig, yn enwedig os yw'r Deyrnas Unedig yn parhau gyda'r cynnig presennol i adael Euratom a bod Brexit heb gytundeb. Mae sgyrsiau'n digwydd am hynny. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain ei hun, er enghraifft, wedi cynhyrchu cyfarwyddyd yn crybwyll ambell her ynglŷn â hynny. Mae Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yn dweud bod ganddi—neu ei bod hi'n ffyddiog y bydd ganddi—drefniadau ar waith i wneud yn siŵr y gall y cyflenwad o radioisotopau barhau. Mae o fudd iddi hi, nid yn unig o fudd i ninnau, i hynny ddigwydd.
Daw hynny â mi at fy mhwynt i ynghylch y materion hynny y mae'r DU yn gyfrifol amdanyn nhw, a'r cwestiwn ehangach o arweinyddiaeth. Ceir rhai meysydd—er enghraifft, rheoleiddio staff a meddyginiaethau—lle mai cyfrifoldeb y DU yw'r rhain mewn gwirionedd. Yr her yw pa mor agored yw'r berthynas rhwng Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig ledled y Deyrnas Unedig, a sut caiff gwybodaeth ei rhannu a'i defnyddio. Er, bod gennym ni, wrth gwrs, safbwyntiau gwahanol ar yr hyn a ddylai ddigwydd yn ystod yr wythnosau nesaf ac ar ôl 29 Mawrth, mae o fudd i bob un ohonom fod systemau iechyd a gofal cymdeithasol ledled y DU yn rhannu cymaint o wybodaeth â phosib, gyda pha fath bynnag o Brexit a allai ddigwydd neu beidio. Felly, rwy'n awyddus nid yn unig i'r sgyrsiau hynny rhwng swyddogion barhau, ond bod cyswllt uniongyrchol rhwng Gweinidogion.
Rwyf wedi ysgrifennu o'r blaen at Matt Hancock. Rwy'n gwybod bod Jeane Freeman, Ysgrifennydd Cabinet yr Alban dros iechyd, lles a chwaraeon, wedi ysgrifennu hefyd yn gofyn am gyfarfod wyneb yn wyneb. Rwyf wedi ysgrifennu unwaith eto i ofyn hynny hefyd. Mae hynny mewn gwrthgyferbyniad i Aelodau eraill y Llywodraeth yma yng Nghymru. Mae Lesley Griffiths a Kirsty Williams wedi cael cyswllt uniongyrchol â Gweinidogion eraill. Nid pawb fydd yn eiddigeddus o Lesley Griffiths â'i chyfarfodydd uniongyrchol â Michael Gove, ond mae angen cyswllt uniongyrchol rhwng llywodraethau cenedlaethol y Deyrnas Unedig. Byddaf yn sicr yn parhau i fynd ar drywydd hynny oherwydd mae cyfrifoldeb arweinyddiaeth ar bob un ohonom ni ac, wrth gwrs, arnaf innau yma yng Nghymru.
Ynglŷn â'r sgwrs barhaus gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru a gweithredu eu hargymhellion, rydych chi'n deall y cyhoeddwyd yr adroddiad sylweddol ar ddechrau'r wythnos hon, ddydd Llun. Rwyf wedi darllen y crynodeb gweithredol. Rwyf wedi ystyried amryw o rannau'r adroddiad, ond wnaf i ddim ceisio cymryd arnaf fy mod i wedi gweithredu ar yr holl argymhellion. Wrth gwrs, mae sgwrs barhaus yn digwydd ynghylch ymateb y system iechyd a gofal yma yng Nghymru, o gofio bod argymhellion wedi'u gwneud. Ond, rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr wrth inni lunio ymateb llawnach a fydd, wrth gwrs, yn gorfod esblygu, gan fod cwestiwn Brexit ymhell o fod wedi ei ddatrys wrth inni siarad.
Ynghylch gofal cymdeithasol a heriau'r gweithlu gofal cymdeithasol, rwy'n disgwyl rhoi diweddariadau pellach i'r tasglu a fydd yn cyfarfod yn fwy rheolaidd bellach. Cafwyd cyfarfod yr wythnos diwethaf. Yn sicr bydd angen inni gyfarfod yn gynnar ym mis Chwefror, ac rydym yn ystyried dyddiad, eto nid yn unig i rannu gwybodaeth, ond i wneud dewisiadau. Byddaf yn ymrwymo i wneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr, pan fyddwn yn gallu gwneud hynny, i wneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud a'r mesurau yr ydym ni'n eu gweithredu drwy'r system gyfan. Rwyf hefyd yn gwneud yr un peth ynglŷn â rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am feddyginiaethau—materion rheoli a chyflenwi meddyginiaethau, a'r sicrwydd yr ydym ni wedi'i gael, a realiti hynny, gan gynnwys y sgyrsiau gyda chynrychiolwyr y diwydiant fferyllol yma yng Nghymru hefyd.
O ran nwyddau traul clinigol, mae yna gynhyrchion gwahanol a ddefnyddir yn rheolaidd rhwng y system iechyd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, felly bydd amrywiaeth o'r pethau hynny ar gael i'r DU gyfan. Bydd angen inni wneud yn siŵr bod pob un o'r defnyddiau traul clinigol amrywiol yr ydym ni eisiau parhau i'w defnyddio yng Nghymru ar gael. Felly, rwy'n bendant yn edrych ar y trefniadau i sicrhau bod hynny ar gael, ac i'r symiau angenrheidiol o stoc fod ar gael hefyd. Bydd gennyf fwy i'w ddweud pan fyddaf yn gallu gwneud penderfyniad terfynol ar hynny yn yr wythnosau nesaf hefyd. Felly, gallwch ddisgwyl clywed rhagor o ddiweddariadau ysgrifenedig gennyf dros yr wythnosau nesaf.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad; mae'n bwysig iawn ein bod yn dal sylw ar y materion yn ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol ac agweddau eraill. Un o'r pethau a aiff yn angof yn aml iawn yn y ddadl Brexit, oherwydd ein bod yn sôn am nwyddau—ond yma mae gennym ni wasanaethau, ac effeithir arnyn nhw'n fawr iawn, ac rwy'n gwerthfawrogi'r sylwadau yr ydych chi wedi'u gwneud eisoes. Os caf i ofyn un neu ddau gwestiwn cyflym ynglŷn â hyn, oherwydd mae hwn yn faes a fydd yn effeithio ar bob un ohonom ni—mae pob un ohonom ni'n elwa o'r gwasanaeth iechyd, un ffordd neu'r llall. Fe wnaethoch chi sôn am, ac fe wnaethoch chi dynnu sylw at, y costau cynyddol posib o ganlyniad i'r oedi a allai ddigwydd, ac fe wnaethoch chi sôn am enghraifft o radioisotopau yn cael eu cludo yma ar awyrennau. Ond dywedwyd wrthym gan Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain eu bod nhw, mewn gwirionedd, yn gwario llawer o arian ar bentyrru. Mae'n rhaid iddyn nhw fuddsoddi mewn warysau newydd, pentyrru, gwybodaeth a storio, a storfeydd oer yn benodol. Ydych chi wedi cael trafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch pwy sy'n mynd i helpu i ariannu'r gost hon? Oherwydd, yn ddiau, bydd sefydliadau yn dymuno trosglwyddo'r costau hynny, ac mae hyn yn rhywbeth sydd, yn amlwg, yn fater i Lywodraeth y DU, a amlygwyd gennych chi.
Hefyd, nid ydym wedi sôn am dreialon clinigol. Un o'r pethau na fydd efallai ar gael inni fydd treialon clinigol. Roedd Steffan Lewis yn cyfeirio cryn dipyn at hyn yn ei ddadleuon ynghylch Brexit. Ydych chi wedi cael trafodaethau ynghylch goblygiadau treialon clinigol yng Nghymru? Rydym wedi cael budd aruthrol o'r rhain, ac rydym yn debygol o fod ar ein colled yn gyflym iawn, yn enwedig mewn sefyllfa lle na fydd cytundeb. A beth fydd y goblygiadau treialon clinigol presennol a'r rhai sydd eisoes wedi eu cynllunio ar gyfer y dyfodol?
Fe wnaethoch chi sôn am eich gweithlu gofal cymdeithasol. Pan edrychodd y pwyllgor ar hyn yn ofalus iawn, roeddem yn pryderu am y diffyg data ynglŷn â'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ydych chi wedi gwneud mwy o waith yn casglu data am y gweithlu gofal cymdeithasol fel ein bod ni'n llwyr ymwybodol o ble maen nhw a lle fydd y bylchau os oes problem o ran y gweithlu yn y sefyllfa honno, ac yn enwedig o ran cymwysterau, a chyfatebiaeth rhwng cymwysterau? Rwy'n gwybod y cafwyd offeryn statudol ar hynny. Rwyf wedi ceisio edrych arno ar wefan Llywodraeth y DU, a chefais drafferth yn dod o hyd iddo, ac nid wyf yn glir yr union lle'r ydym ni arni yn hynny o beth.
Ac o ran y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol), mae hynny'n rhywbeth a ddylai fod ar waith erbyn mis 29 Mawrth, os ydym yn mynd i adael heb gytundeb. Beth yw'r sefyllfa yn hynny o beth, a beth yw'r sefyllfa gyda'r trefniadau cyfatebol os nad yw hynny ar waith?
Diolch am y cwestiynau hynny. Fe wnaf i ymdrin â'ch pwynt olaf yn gyntaf, ynglŷn â threfniadau gofal iechyd cyfatebol. Rhwng y gwahanol Lywodraethau yn y Deyrnas Unedig, rwy'n credu y ceir cytundeb ein bod ni eisiau i drefniadau gofal iechyd cyfatebol barhau. Yr her o hyd yw cael darn o ddeddfwriaeth y gall pob un ohonom ni ei chefnogi. Ar hyn o bryd—byddwch wedi gweld yr adroddiad ar hyn. Mae'n adroddiad drafft neu adroddiad terfynol gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, ac nid wyf ar hyn o bryd mewn sefyllfa i argymell i'r Cynulliad ein bod yn rhoi cydsyniad deddfwriaethol. Felly, mae hynny ynglŷn â drafftio'r darn presennol o ddeddfwriaeth a'r pwerau yr ymddengys bod Llywodraeth y DU yn eu cymryd, yr wyf yn credu eu bod ymhell y tu hwnt i'r hyn sy'n angenrheidiol i wneud yn siŵr bod y trefniadau hynny yn parhau. Os na cheir cytundeb ac os nad oes deddfwriaeth amgen ar waith, wedyn bydd y trefniadau hynny o bosib yn amherthnasol. Ac mae hynny'n amlwg yn effeithio ar wladolion yr Undeb Ewropeaidd yn y DU, yn ogystal â gwladolion y DU yn yr Undeb Ewropeaidd a'r ardal economaidd Ewropeaidd ehangach. Byddaf, wrth gwrs, yn diweddaru'r Aelodau pan fydd unrhyw gynnydd pellach ynglŷn â'r Bil, a phan, gobeithio, y cyflwynir gwelliannau yn y Senedd y gallwn ni eu cefnogi i ddatrys y mater.
O ran eich sylw ar y data a'r gweithlu gofal cymdeithasol. Rydym yn disgwyl i ymchwil Ipsos MORI roi sylw i hyn, fel ein bod yn deall yr amrywiaeth o beryglon sydd o bosib yn ein hwynebu, ond hefyd, wrth gwrs, ceir pwynt ehangach ynglŷn â dymuno gwneud yn siŵr bod dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn teimlo bod croeso iddyn nhw yma yng Nghymru a bod ganddyn nhw Lywodraeth sydd o'u plaid. Mae nifer o weithwyr ar draws y maes iechyd a gofal eisoes wedi pleidleisio â'u traed ac wedi gadael, gyda'r amgylchiadau newidiol sy'n bodoli. Rhan o'n gwaith ni yw gwneud yn siŵr bod y bobl hynny yn deall bod yna Lywodraeth yma yng Nghymru sydd eisiau iddyn nhw barhau, nid yn unig i weithio a darparu gwasanaethau, ond mewn gwirionedd i fyw yn rhan o gymunedau Cymru.
O ran eich pwynt ehangach ynghylch treialon clinigol, mae hyn yn rhywbeth sy'n cwmpasu amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys addysg uwch. Mae'n cynnwys peth o'r heriau o ran denu a chadw staff yn ein systemau addysg uwch a gofal iechyd, ond hefyd ynglŷn â rhannu data hefyd ar draws ffiniau gwahanol. A'r her yn hyn o beth yw bod llawer o'r rhannu data yr ydym yn ei wneud yn cael ei oruchwylio gan amrywiaeth o Orchmynion diogelu data. Swyddogaeth Llys Cyfiawnder Ewrop yw goruchwylio'r ystod o wybodaeth honno, gan gynnwys, wrth gwrs, ar y pwynt ehangach am rannu data am iechyd y cyhoedd hefyd, fel bod gennym mewn gwirionedd y gallu i wrthsefyll clefydau yn briodol a deallusrwydd ledled yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, mae hynny'n rhan o her y llinellau cochion, oherwydd os nad oes unrhyw swyddogaeth o gwbl i Lys Cyfiawnder Ewrop, mae effaith ehangach o lawer i hynny na chadw rhai pobl yn hapus mewn ystod gyfyngedig o feysydd; mae ganddo effaith sylweddol ar y maes iechyd, gofal cymdeithasol a llawer o feysydd ehangach hefyd.
O ran eich pwynt am arian ychwanegol ar gyfer cyflenwadau meddyginiaeth, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hynny. Rydym yn disgwyl iddyn nhw anrhydeddu'r addewidion y maen nhw eisoes wedi eu rhoi i ni am ariannu costau ychwanegol o ran cyflenwi meddyginiaethau os yw hynny'n angenrheidiol. Mae Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU, wedi dweud mai ef bellach yw'r un sy'n prynu'r mwyaf o oergelloedd yn y Deyrnas Unedig, felly maen nhw eisoes yn prynu ac yn caffael amrywiaeth o stoc. Gan fod Brexit heb gytundeb yn ymddangos yn fwyfwy tebygol, mae pob Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig nid yn unig yn defnyddio amser ac adnoddau na allwn ni mo'u defnyddio mewn meysydd eraill, ond rydym yn gwario arian, arian parod gwirioneddol ar baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb na fydd o bosib yn digwydd. Dyna ran o'r anhawster sydd gennym. Rydym yn gwario arian na fyddwn wastad yn gallu ei adennill neu ei ddefnyddio mewn ffordd wahanol. Felly, rwy'n gobeithio nod pobl yn deall difrifoldeb y mater hwn i'r wlad, ond hefyd i bob Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig a'n defnydd o arian cyhoeddus ar ran y bobl yr ydym ni'n eu gwasanaethu.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog.
Os yw'r Llywodraeth hon yn poeni gymaint am effaith Brexit ar GIG Cymru, a yw'r Gweinidog yn fodlon â'r cyfaddefiad a wnaeth Prif Weinidog Cymru i mi yn y pwyllgor yn ddiweddar nad yw Llywodraeth Cymru wedi siarad ag un cwmni fferyllol unigol am y goblygiadau i'r cyflenwad yn sgil Brexit ond, yn hytrach, wedi gadael hynny i Lywodraeth y DU? A yw'n fodlon ar y sefyllfa, oherwydd, fel fi, mae'n gwybod nad oes unrhyw reswm gwirioneddol i fod yn bryderus ynghylch y cyflenwad o gyffuriau presgripsiwn o ganlyniad i ymadawiad heb gytundeb?
Bu rhai problemau cyflenwi yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae hynny i'w briodoli i alwadau cynyddol o wledydd sy'n datblygu, cynnydd yn y gost o ddeunyddiau crai ac, o bosib, ystrywio bwriadol ar y farchnad, a dim byd i'w wneud â Brexit sydd ar fin digwydd. Cadarnhaodd un gwleidydd yn ddiweddar fod prinder yn ddim i'w wneud â Brexit pan ddywedodd,
Mae prinder wedi bod yn broblem ers rhai blynyddoedd. Mae'n broblem ansefydlog.
Nawr, nid un o'r Brexitiaid Torïaidd oedd yn dweud hynny—ond Sandra Gidley, cyn AS i'r Democratiaid Rhyddfrydol sy'n cefnogi aros, sydd hefyd yn fferyllydd. Wrth gwrs, byddai Llywodraeth Cymru yn gwybod hyn pe byddai wedi siarad â chwmnïau fferyllol, yn hytrach na gadael hynny i Lundain. Felly, pryd ydych chi'n bwriadu cael y sgyrsiau hyn, Gweinidog? Ydych chi'n mynd i'w cael nhw byth, ac ydych chi mewn gwirionedd yn mynd i hawlio rheolaeth dros y mater?
Mae rhai pobl yn dadlau bod cleifion yn cael eu temtio i bentyru cyn Brexit. Os yw hynny'n wir, yna nid oes gan y codwyr bwganod sydd eisiau aros neb i'w feio ond y nhw eu hunain am achosi pobl sâl i bryderu am eu cyflenwad yn y dyfodol, a dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwrido mewn cywilydd. Mae manteisio ar rai sy'n agored i niwed er mwyn hybu ymroddiad Llywodraeth Cymru i'r UE, gan eu bod nhw eisiau aros, a rhwystro ewyllys pobl Cymru, yn ddim llai na chamfanteisio.
Ac mae unrhyw ddadl sy'n awgrymu bod oedi mewn mewnforio yn digwydd oherwydd nad ydym mewn undeb tollau mwyach yn ffwlbri noeth. Mae cytundeb dileu tariff fferyllol Sefydliad Masnach y Byd yn gwarantu y bydd cynhyrchion meddygol yn parhau i gael eu mewnforio yn ddi-dariff, ac mae'r un cytundeb yn gwahardd cyflwyno rhwystrau tariff. Nid yn unig y byddai'r UE yn cael ei atal rhag cyflwyno rhwystrau i fewnforio neu allforio cynhyrchion meddygol, ond byddai'r DU hefyd.
At hynny, fel cenedl sofran sy'n gosod ei rheolau a'i harferion ei hun ar y ffin, yn ddamcaniaethol, gallem benderfynu gadael pob lori i mewn os ydym yn teimlo felly, yn enwedig llwythi sy'n amlwg yn llwythi fferyllol. Hyd yn oed yn yr undeb tollau, caiff rhai lorïau eu stopio a'u chwilio am fewnforion anghyfreithlon a mewnfudwyr anghyfreithlon. Ond mae'r rhan fwyaf yn cael sêl bendith i barhau, waeth ble fo'u mannau cychwyn.
Gan symud ymlaen at recriwtio a staffio, ni all y Llywodraeth hon mewn gwirionedd ddweud wrthym pa effaith y caiff gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ein staff oherwydd nad yw wedi gwneud unrhyw beth i geisio canfod beth yw cyfansoddiad rhyngwladol staff y GIG. Nid yw'n gwybod faint o staff sy'n tarddu o'r UE sy'n gweithio yn y GIG sydd wedi cael hyfforddiant clinigol. Mae ei hanwybodaeth o hyn yn amlwg o'r ffaith mai dim ond yn awr mae'n dechrau eu cyfrif. Nawr mae'n dechrau cyfrif nifer y bobl o'r UE sydd mewn gofal cymdeithasol, dim ond wythnosau cyn ein bod ni i fod i adael. Pam nad ydych chi wedi gwneud hyn o'r blaen? Cynhaliwyd y refferendwm dros ddwy flynedd yn ôl.
Sut y gall y Llywodraeth ddweud ei bod yn poeni am yr effaith ar ofal cleifion os digwydd Brexit, pan nad yw'n gwybod faint o staff sy'n glinigwyr o'r UE? A phe byddai'r Gweinidog yn gwybod y ffigur hwn, byddai wedi dweud hynny heddiw. Ar y diwrnod y mae'r gwyddonydd gwleidyddol mawr ei barch Syr John Curtice yn dweud nad oes gan y rhai a bleidleisiodd i aros well dealltwriaeth o'r UE na'r rhai sydd eisiau gadael, byddwn yn awgrymu, er lles parch y cyhoedd tuag at wleidyddion, eich bod yn rhoi taw ar godi bwganod. Gall y cyhoedd weld drwy hyn, fel y gwnaethon nhw ar ddiwrnod y refferendwm yn 2016. O'r holl wledydd yn yr Undeb, Cymru sy'n gwario lleiaf ar ei gwasanaeth iechyd a Chymru sydd â'r canlyniadau gwaethaf i gleifion. Beth ydych chi'n bwriadu ei wneud ynghylch hynny, Gweinidog, neu a ydych chi'n mynd i barhau i roi'r bai am hynny ar Brexit? Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gwyno bod Brexit ar unrhyw ffurf yn ddychrynllyd o ddrud ac yn gofyn am gardod gan San Steffan, yn gofyn am arian amhenodol ar gyfer costau amhenodol.
Roedd yn agoriad llygaid yr wythnos ddiwethaf pan fu'n rhaid i Brif Weinidog Cymru gyfaddef nad yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad dibynadwy o gost wirioneddol paratoi ar gyfer Brexit o unrhyw fath. Felly, nid oes unrhyw hygrededd i honiadau gan y Llywodraeth honno ynghylch cost a goblygiadau Brexit yng nghyd-destun methiant llwyr Llywodraeth Cymru i wneud ei gwaith cartref a'i phenderfyniad yn hytrach i ddibynnu ar amcangyfrifon. Pryd fyddwch chi'n gwneud dadansoddiad priodol, Gweinidog?
Ac er bod Llywodraeth Cymru eisiau inni ganu, 'Nid oes bai ar y Gweinidog, nid oes bai ar y Prif Weinidog, nid oes bai ar y Llywodraeth. Rhowch y bai ar Brexit', nid yw hynny'n tycio—[Torri ar draws.] Nid yw hynny'n tycio, gan mai Llafur sydd wedi difetha GIG Cymru, i gyd ar ei phen ei hun, ac roedd yn gwneud hynny flynyddoedd cyn y refferendwm.
Felly, cyn ichi lunio rhagor o dactegau codi bwganod, dim ond oherwydd bod arnoch chi eisiau esgus i anwybyddu penderfyniad mwyafrif pleidleiswyr Cymru i adael yr UE, rwy'n awgrymu eich bod yn gwneud rhywfaint o ymchwil, yn siarad â phobl sydd mewn gwirionedd yn mynd i fod yn gwneud y gwaith o gynnal cyflenwadau, a pheidio â cheisio dychryn pobl sâl ac agored i niwed. Pleidleisiodd pobl Cymru dros adael yr UE, y farchnad sengl, a'r undeb tollau. Rydych chi wedi cael eich cyfarwyddiadau, pryd ydych chi'n mynd i weithredu yn unol â hynny?
Gweinidog, rwy'n credu imi glywed cwestiwn yn y fan yna, felly—[torri ar draws.]
A ydych chi'n cydymdeimlo ag UKIP yn awr, Janet?
Yn amlwg iawn.
Mae'n gyfraniad diddorol iawn ond hollol ragweladwy gan Michelle Brown. Mae hawlio nad yw'r mesurau yr ydym ni'n eu gweithredu i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb a'r wybodaeth yr ydym ni'n ei darparu i'r wlad yn ddim llai na cham-fanteisio yn eithriadol hyd yn oed iddi hi. Mae'r heriau yn wirioneddol ac yn ddifrifol ac rwy'n amlinellu'r mesurau y byddwn ni'n eu gweithredu gyda phartneriaid yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Nid fy marn i yn unig yw hyn, nid barn Conffederasiwn y GIG neu Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn unig mohoni. Dylech siarad â grwpiau cynrychioli staff yn y gwasanaeth iechyd, siarad â Choleg Brenhinol y Bydwragedd, siarad â Choleg Brenhinol y Nyrsys, siarad â Chymdeithas Feddygol Prydain am eu barn nhw am Brexit. Dydyn nhw ddim yn codi bwganod, maen nhw'n wirioneddol bryderus am ddyfodol gwasanaethau iechyd a gofal lle mae eu haelodau'n gweithio, ond lle maen nhw a'u teuluoedd yn cael gofal hefyd. Ac rwy'n credu, rywbryd, fod yn rhaid i hyd yn oed aelodau UKIP dderbyn bod pryderon gwirioneddol am effaith Brexit heb gytundeb.
Nawr, wrth gwrs ein bod ni'n trafod materion cyflenwi meddyginiaeth gyda chynrychiolwyr y diwydiant yma yng Nghymru. Mae aelod o Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain yn aelod o'n grŵp tasglu yma yng Nghymru, ond cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw diogelu cyflenwad meddyginiaeth a'r broses o'i reoleiddio. Dyna pam ein bod ni'n trafod gyda nhw yr hyn y maen nhw'n ei wneud a'r sicrwydd y maen nhw'n ei roi a'r wybodaeth y credwn ni y dylen nhw ei rhannu â llywodraethau gwladol eraill yn y Deyrnas Unedig.
Dywedais yn fy natganiad fod o leiaf 1,400 o staff o'r Undeb Ewropeaidd yn y gwasanaeth iechyd. Nid yw'n amod cyflogaeth yn y gwasanaeth iechyd eich bod yn dweud wrth y cyflogwr o ba wlad yn yr Undeb Ewropeaidd neu ran arall o'r byd yr ydych chi'n dod, felly caiff pobl ddewis datgelu hynny neu beidio. Ond mae o leiaf 1,400 o wladolion yr Undeb Ewropeaidd, ac rwyf i, o'm rhan fy hun, yn ddiolchgar iawn eu bod nhw wedi dewis ymsefydlu yma gyda ni.
O ran eich pwynt olaf—wel, un o'r pwyntiau a wnaethoch chi—ynghylch nad oes dim gwir reswm dros bryderu am gyflenwad meddyginiaethau ar bresgripsiwn os bydd Brexit heb gytundeb, wel mae hynny'n anwybyddu'r gwirionedd yn llwyr. Mae hynny'n wirionedd nad oes modd ei osgoi. Rwy'n credu bod 39 miliwn o eitemau yn cyrraedd y Deyrnas Unedig yn rheolaidd o'r Undeb Ewropeaidd. Nid mater dibwys yw hynny. Yr her o ran tollau, wrth gwrs, rydych chi wedi sôn amdano, ac wedi dweud nad oes rheswm dros beidio â gwirio cyflenwadau—does dim rhithyn o wirionedd yn hynny. Mae'n un o bwyntiau sylfaenol rheolau Sefydliad Masnach y Byd—mae'n rhaid ichi gael gwiriadau tollau. Os ydych chi'n mynd i weithredu ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, dyna sy'n rhaid ichi ei wneud. Nid yw'n ddewisol. Felly, mewn gwirionedd, mae'n rhaid ichi ganiatáu amser i gynnal gwiriadau. Ac nid yw'r amharu hwnnw ar y cyflenwad yn effeithio ar y gwasanaeth iechyd yn unig, mae'n effeithio ar bob rhan arall o'r economi a gweithgarwch economaidd yn ymwneud â chyflenwi a chroesi ffiniau. Ar ryw adeg, mae'n rhaid i brosiect realiti wawrio. Mae'r Llywodraeth hon yn gwneud y peth iawn i'n dinasyddion ac yn gyfrifol wrth baratoi ar gyfer pob posibilrwydd, gan gynnwys, wrth gwrs, posibilrwydd trychinebus Brexit heb gytundeb.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.