– Senedd Cymru am 3:28 pm ar 20 Chwefror 2019.
Sy'n dod â ni at y ddadl ar yr adroddiad ar berthynas Cymru â Phwyllgor y Rhanbarthau yn y dyfodol. Dwi'n galw ar Mick Antoniw i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6942 Mick Antoniw, Bethan Sayed
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r adroddiad ac argymhellion yn ymwneud â pherthynas Cymru â Phwyllgor y Rhanbarthau yn y dyfodol.
2. Yn cydnabod pwysigrwydd perthynas barhaus rhwng Cymru a Phwyllgor y Rhanbarthau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi sefydlu Comisiwn ar y cyd rhwng Pwyllgor y Rhanbarthau a'r Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau deialog barhaus a chydweithredu rhwng Pwyllgor y Rhanbarthau a'r Cynulliad ac awdurdodau lleol Cymru ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.
Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a chyfeiriaf hefyd at y ddogfen a baratowyd gennyf fi a Bethan Sayed ar berthynas Cymru gyda Phwyllgor y Rhanbarthau yn y dyfodol. Lywydd, erbyn diwedd y mis nesaf, mae'n debygol y byddwn wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, nid oes dim yn sicr. Mae'n bosibl y bydd estyniad i erthygl 50, mae'n bosibl y bydd etholiad cyffredinol, mae'n bosibl y bydd refferendwm neu gadarnhad o ryw fath. Nid oes neb yn gwybod i sicrwydd, yn enwedig y Llywodraeth. Mae hyn yn golygu y bydd ein cynrychiolaeth ar nifer o gyrff Ewropeaidd yn dod i ben. Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud yn bennaf â'n cynrychiolaeth ar Bwyllgor y Rhanbarthau. Fodd bynnag, nid yw'n ymwneud â'r pwyllgor hwnnw'n unig, a dyna pam fod Bethan Sayed a minnau wedi cyfeirio at nifer o gyrff UE cysylltiedig yr ydym ni, fel Cynulliad, yn ymwneud â hwy neu'n gysylltiedig â hwy i ryw raddau neu'i gilydd.
Rwyf am fod yn onest a dweud nad wyf yn credu ein bod erioed wedi meddu ar strategaeth ddigon clir mewn perthynas â strwythurau is-genedlaethol yr Undeb Ewropeaidd, ac nid ydym wedi manteisio i'r eithaf ar y budd posibl y gallem fod wedi'i gael i Gymru. Serch hynny, mae'r ffaith ein bod yn gadael yr UE yn rhoi ffocws llym i ganlyniadau ymadael a'r partneriaethau, y cysylltiadau a'r cyfleoedd posibl ar gyfer ymgysylltu â gwledydd a sefydliadau Ewropeaidd eraill yr ydym yn debygol o'u colli oni bai ein bod yn mynd ati'n rhagweithiol i roi camau ar waith i sefydlu fframweithiau ôl-Brexit newydd.
Roeddwn yn aelod o Bwyllgor y Rhanbarthau am ddwy flynedd o'r blaen yn y Cynulliad diwethaf, gyda Rhodri Glyn fel eilydd. Roeddem yn gweithio'n dda gyda'n gilydd, gan ymdrin â chynifer o'r meysydd allweddol o ddylanwad sy'n berthnasol i Gymru ag y gallem, o'r polisi economaidd a chymdeithasol yn yr UE i'r polisi amgylcheddol. Cafodd y ddau ohonom nifer o lwyddiannau'n ymwneud yn uniongyrchol â materion neu bolisïau Cymreig. Yn fy marn i, nid yw Pwyllgor y Rhanbarthau wedi cael ei werthfawrogi agos digon, oherwydd mae'n galluogi trefi a dinasoedd, gwladwriaethau ffederal, llywodraethau a threfniadau llywodraethu is-genedlaethol i ddod at ei gilydd, ac mae'n darparu fframwaith ar gyfer datblygu polisi yr UE, mynediad at Gomisiwn yr UE, Senedd a Chyngor yr UE ac mae wedi chwarae rhan enfawr yn y gwaith o gynllunio systemau trafnidiaeth metro rhanbarthol, dinasoedd clyfar, cynllunio amgylcheddol, ailgylchu, llywodraethu rhanbarthol, prosiectau economaidd ac adfywio rhanbarthol, ac mae llawer o'r hyn a weithredwyd gennym yma â'i wreiddiau mewn datblygiadau mewn gwledydd Ewropeaidd eraill, ac yna wedi'i hyrwyddo a'i ddatblygu'n strategaethau drwy Bwyllgor y Rhanbarthau.
Ar hyn o bryd, er enghraifft, rwy'n aelod o dasglu Pwyllgor y Rhanbarthau ar Ukrain, ac mae Pwyllgor y Rhanbarthau yn chwarae rôl sylweddol yn y broses o ddatganoli a democrateiddio yn Ukrain, gan efeillio mentora rhanbarthau ledled Ewrop â rhanbarthau Ukrain. Mae sefydlogrwydd economaidd a chymdeithasol a diogelwch yn Ukrain yn hanfodol i sefydlogrwydd a ffyniant economaidd Ewrop yn y dyfodol. Ni ellir gorbwysleisio gwerth geowleidyddol y math hwn o waith.
Mae Pwyllgor y Rhanbarthau wedi gwneud cyfraniad sylweddol hefyd i bolisi rhyngranbarthol ar ddiwylliant, y celfyddydau ac ieithoedd lleiafrifol. Yn bwysig, mae ganddo hefyd swyddogaeth gyfansoddiadol sylweddol a phŵer deddfwriaethol fel gwarcheidwad sybsidiaredd. Mewn byd ôl-Brexit, bydd angen i Gymru fel gwlad, a'r Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru, ddatblygu ei pherthynas benodol ei hun ag Ewrop. Byddwn am ddiogelu'r enw da rydym wedi'i sefydlu a'i ddatblygu, a datblygu cysylltiadau newydd Cymreig mwy ffurfiol, yn enwedig ym maes arloesi ac ymchwil, a phrosiectau megis Erasmus. Bydd angen inni ddangos ein bod yn barod i wneud yr hyn sy'n angenrheidiol i oresgyn ynysu gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol sydd mewn perygl o fwrw cysgod dros ein hunaniaeth yn y dyfodol.
Yn ystod cyfarfodydd diweddar o Bwyllgor y Rhanbarthau, mae dirprwyaeth y DU wedi bod yn hyrwyddo deialog newydd, i sefydlu fformat newydd ar gyfer statws cyswllt ôl-Brexit. Mae hyn wedi'i dderbyn mewn egwyddor, ond mae'n colli ei drywydd yn sgil ansicrwydd y negodiadau Brexit. Hyd nes y ceir eglurder ynghylch safbwynt y DU a'r trefniadau terfynol ar gyfer y berthynas rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd, mae Pwyllgor y Rhanbarthau a sefydliadau eraill yr UE yn amharod, yn ddealladwy, i ddatblygu a ffurfioli trefniadau a strwythurau newydd.
Cyfyd materion allweddol mewn perthynas ag ymgysylltiad y DU yn y dyfodol. Bydd yn rhaid iddo gynrychioli buddiannau Llywodraeth ddatganoledig ac amrywiaeth wleidyddol y DU yn briodol. Byddwn eisiau hybu perthynas Gymreig benodol o fewn hynny, nad yw wedi'i chyfyngu gan drefniadau blaenorol ar gyfer y DU. Bydd yn rhaid mynd i'r afael â materion ariannu. Er enghraifft, mae'n debygol y byddwn am barhau gydag Erasmus, un o'r polisïau cymdeithasol a ddefnyddiwyd yn fwyaf llwyddiannus sy'n galluogi pobl ifanc o bob rhan o Ewrop i ymgysylltu â'i gilydd, astudio a hyfforddi mewn gwahanol wledydd yn Ewrop. Yr hyn sy'n amlwg i mi yw y bydd angen llais Ewropeaidd Cymreig. Nid ynysu a mewnblygrwydd yr eithafwyr yn y Blaid Doraidd ac UKIP yw ein ffordd ni o edrych ar bethau. Rhaid inni barhau i fod yn rhyngwladolaidd ac yn genedl sy'n edrych tuag allan. Mae'n debygol iawn y bydd cynnydd sylweddol wedi'i wneud erbyn diwedd cynhadledd nesaf Pwyllgor y Rhanbarthau ym mis Mawrth, ond bydd amlinelliad o strwythur y prototeip ar gyfer y berthynas yn y dyfodol wedi symud ymlaen. Pwrpas y cynnig heddiw yw i'r Cynulliad gymeradwyo'r dull o weithredu y mae Bethan a minnau wedi'i fabwysiadu, ac i gyfarwyddo Llywodraeth Cymru i gymryd perchnogaeth ar y broses yn awr. Ar ôl 29 Mawrth, bydd ein mewnbwn fel aelodau o Bwyllgor y Rhanbarthau wedi dod i ben. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn llenwi'r gwagle hwnnw ac yn parhau'r broses hyd nes y bydd trefniant ffurfiol ar waith. Mae'r cynnig, felly, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n uniongyrchol â Phwyllgor y Rhanbarthau a sefydliadau eraill yr UE, a hefyd i fynd ar drywydd yr amcan hwn gyda Llywodraeth y DU, fel rhan o'r negodiadau Brexit parhaus. Diolch ichi, Lywydd.
A gaf fi ddweud cymaint rwy'n croesawu'r ddadl sydd ger ein bron heddiw, ar y mater pwysig hwn o ymgysylltiad ar ôl Brexit? Nid wyf yn derbyn y darlun na allwch fod yn rhyngwladolaidd os ydych yn cefnogi Brexit, a'ch bod yn ymynysol. Yn sicr nid dyna yw fy marn i. Rwy'n rhyngwladolaidd iawn, ac mae'n bwysig iawn inni ymgysylltu ar lefel fyd-eang, ac nid o fewn Ewrop yn unig. Ac wrth gwrs mae'n gwbl hanfodol fod gennym berthynas agos barhaus gyda'r rhanbarthau gwahanol yn Ewrop ar ôl 29 Mawrth. Roeddwn yn un o'r rhai a bleidleisiodd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd wrth gwrs, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn fod yn Gynulliad sy'n edrych at y gorwelion sydd y tu hwnt i Gymru, y tu hwnt i'r DU, a thu hwnt i 29 Mawrth.
Dywedwyd wrthym yn gyson yn ystod y refferendwm y byddai'n amhosibl cynnal perthynas agos gyda rhannau eraill o Ewrop ar ôl Brexit, ond wrth gwrs, nid yw hynny'n wir o gwbl, a dyna pam roedd fy mhlaid yn falch iawn o weld y Prif Weinidog newydd yn dilyn ein harweiniad drwy benodi rhywun i fod yn gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol. Ac rwy'n falch iawn o weld mai Eluned Morgan a gafodd y swydd honno, o gofio am y cyfoeth o brofiad a gafodd yn Ewrop. Ac wrth gwrs mae grwpiau eraill yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn hefyd wedi achub ar y cyfle i benodi llefarwyr cysylltiadau rhyngwladol. Ac mae'n wych fod Delyth Jewell wedi cael y fraint honno ar ran Plaid Cymru, a hoffwn ei chroesawu i'w swydd.
Credaf ei bod yn hanfodol bwysig fod Llywodraeth Cymru yn datblygu ei strategaeth cysylltiadau rhyngwladol o ran ymgysylltu o gwmpas y byd, ac mae hyn, wrth gwrs, yn rhan bwysig iawn ohono. Ond rydych yn iawn i dynnu sylw yn eich araith agoriadol, Mick, at yr angen i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, fel sefydliad, gael strategaeth cysylltiadau rhyngwladol hefyd, fel y gallwn hyrwyddo gwaith y Cynulliad Cenedlaethol y tu allan i Gymru, a dysgu hefyd gan rannau eraill o'r byd, o ran sut y gweithredwn fel deddfwrfa ddatganoledig o fewn undeb llwyddiannus y Deyrnas Unedig.
Nawr, cefais y fraint o gynrychioli'r Cynulliad Cenedlaethol fel un o aelodau'r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig. Bûm yn aelod o'r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig ers dros ddegawd bellach, ac fel rhan o waith y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig cawn gyfle hefyd i gymryd rhan, mewn fforwm gwahanol, gyda phobl o ddeddfwrfeydd eraill o fewn y DU, a Gweriniaeth Iwerddon wrth gwrs, ac yn wir, rhai o'r ynysoedd eraill sy'n ffurfio Ynysoedd Prydain. Ac i mi, dyna ffordd ddefnyddiol iawn o gydweithio gyda seneddwyr eraill, o ran ceisio ymchwilio i rai o'r heriau sy'n aml yn gyffredin iawn i bob un ohonom yn y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig.
Rwy'n cadeirio pwyllgor materion Ewropeaidd y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig, ac mewn gwirionedd, cynhaliodd y pwyllgor hwnnw ymchwiliad byr ynglŷn ag ymgysylltiad â gwahanol sefydliadau Ewropeaidd yn dilyn Brexit. Cyhoeddodd adroddiad tua 18 mis yn ôl, ac edrychodd ar werth ymgysylltiad a chydweithrediad a oedd eisoes ar waith—nid y cydweithrediad rhynglywodraethol yn unig, ond cyfarfuom hefyd â llywydd Pwyllgor y Rhanbarthau, Karl Heinz Lambertz, i gael trafodaeth gydag ef am y cyfleoedd a allai ddal i fodoli ar gyfer ymgysylltu â'r pwyllgor yn y dyfodol. Ac roedd hi'n amlwg iawn fod llu o wledydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd eisoes yn cymryd rhan mewn gwahanol fforymau a sefydlwyd ar gyfer ymgysylltu. Ac un o'r rhai y cyfeiriai atynt oedd Cymdeithas y Rhanbarthau Ffiniol Ewropeaidd, er enghraifft, sydd wrth gwrs yn mynd i fod yn fwyfwy pwysig i ni, rwy'n meddwl, o ran ein hymwneud yn y dyfodol. Mae'n gweithio'n agos iawn, fel y gŵyr Mick a Bethan, gyda Phwyllgor y Rhanbarthau, ac nid oes raid i chi fod yn aelod o'r UE er mwyn ymgysylltu â'r gymdeithas honno.
Felly, buaswn yn annog y Cynulliad Cenedlaethol hwn a Llywodraeth Cymru yn gryf i geisio ymwneud rhywfaint â'r sefydliad penodol hwnnw wrth i amser fynd yn ei flaen, oherwydd rwy'n credu bod cyfleoedd enfawr i ni o ran ymgysylltiad rhyngwladol ar ôl 29 Mawrth, a chredaf y dylem fanteisio arnynt, ond ni allwn wneud hynny heb fod gennym strategaeth briodol ar waith, fel Senedd ac fel Llywodraeth Cymru yn ogystal.
A gaf fi groesawu'r adroddiad gan ein cynrychiolwyr ym Mhwyllgor y Rhanbarthau a'r cyflwyniad gan Mick Antoniw ynglŷn â phwysigrwydd Pwyllgor y Rhanbarthau a'r hyn sy'n rhaid inni ei wneud yn ei gylch? Rwyf am gyfeirio'n ôl at adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol fis Chwefror neu fis Mawrth diwethaf, 'Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol—Rhan un: safbwynt o Gymru'. Gyda llaw, awgrym cynnil oedd hwnnw—mae rhan 2 yn dod allan ddydd Iau. Argymhelliad 16 gennym oedd:
'Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn nodi yn ei ymateb i’r adroddiad hwn pa drafodaethau y mae wedi eu cael ar berthynas Cymru â Phwyllgor y Rhanbarthau yn y dyfodol ar ôl Brexit, a sut mae’r trafodaethau hynny’n mynd rhagddynt.'
A dyma'r ymateb a gawsom gan Lywodraeth Cymru—gobeithiaf y gall y Gweinidog ymhelaethu ar rai o'r sylwadau yma:
'Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r egwyddor o berthynas barhaus rhwng y DU a Phwyllgor y Rhanbarthau ac mae trafodaethau manwl eisoes wedi cael eu cynnal ynglŷn â ffurf y berthynas.'
Felly, efallai y gallwn gael cadarnhad ynglŷn â pha mor bell y maent wedi mynd bellach.
'Yn y cyfnod pontio, rydym wedi mynegi ein cefnogaeth i sefydlu Pwyllgor y Rhanbarthau-Comisiwn y DU ar y cyd, a fyddai—pe câi ei fabwysiadu gan Bwyllgor y Rhanbarthau—yn cynnwys deuddeg aelod o Bwyllgor y Rhanbarthau a deuddeg o'r DU.'
Ond eto, mae angen inni wybod ai dyna yw safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd, ac os felly, pa bwysau y mae'n ei roi ar gynrychiolaeth y DU i sicrhau bod cynrychiolaeth o Gymru yn rhan o'r ddirprwyaeth honno.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn datgan:
'Rydym hefyd yn cytuno â'r cynnig o fforwm gwleidyddol parhaol i Ogledd-orllewin Ewrop ar ôl y pontio a ddylai gynnwys cynrychiolwyr o bob un o'r Gweinyddiaethau Datganoledig.'
Felly, unwaith eto, mis Mai diwethaf oedd hyn. Pa gynnydd a wnaethpwyd ar y tri phwynt mewn ymateb i'n hadroddiad rhan 1?
Mae'n bwysig ein bod hefyd—. Rwy'n cefnogi sylw Darren Millar ynglŷn â gwahanu rhwng y Cynulliad a Llywodraeth Cymru. Nodaf y bydd gweddill fy sylwadau ar Lywodraeth Cymru, ond mae'n bwysig fod gan y Cynulliad ei safbwynt ei hun mewn sefydliadau Ewropeaidd. Ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr, Lywydd, yr ateb a roesoch i'r pwyllgor, a oedd yn tynnu sylw at rai o'r pethau hynny. Efallai fod angen inni weld faint yn fwy o waith y gallwn ei wneud a phwy arall y gallwn archwilio'r posibilrwydd o weithio gyda hwy fel Cynulliad, yn enwedig deddfwrfeydd ledled Ewrop mewn rhanbarthau penodol. Gwn eich bod wedi cael trafodaethau gyda'r Basgiaid a'r Catalaniaid, er enghraifft. Efallai y byddwn am—. A bydd hynny'n ddefnyddiol iawn i ni yn ogystal, oherwydd mae dau grŵp ar wahân yma: mae perthynas ar lefel Cynulliad ac mae perthynas ar lefel Llywodraeth Cymru, ac mae'n bwysig. Rhaid inni gofio y caiff y ddau gynrychiolydd eu penodi gan y Prif Weinidog, ond maent yn cynrychioli'r Cynulliad ym Mhwyllgor y Rhanbarthau, nid Llywodraeth Cymru. Pam? Oherwydd, unwaith eto, os darllenwch y papurau gan Bwyllgor y Rhanbarthau, a chawsom rai pan gawsom gyfarfod â llywydd Pwyllgor y Rhanbarthau ddoe mewn perthynas â Brexit, ac mae eu llais yn glir iawn eu bod eisiau i'r trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a'r UE ddod hefyd i bwynt lle gallwn gael cytundeb ar gyd-bwyllgor rhwng Pwyllgor y Rhanbarthau a'r DU. Nawr, fy mhryder i, felly, yw y dywedwyd wrthym fod rhan fwyaf o'r—[Anghlywadwy.]—â thrydydd gwledydd yn digwydd unwaith y flwyddyn. Felly, mae hynny'n golli mynediad ar un ystyr, ond cawn gysylltiadau anffurfiol o ganlyniad i hynny, ac efallai y byddwch yn edrych ar sut y gallwn gael is-bwyllgorau o ganlyniad i weithio arno. Felly, mae hynny'n bwysig—yn bwysig iawn yn wir.
Yr hyn a glywsom ddoe, ac mae hyn yn eithaf clir—dywedodd y llywydd wrthym, heb amheuaeth: mater i Lywodraeth Cymru yw arwain ar yr hyn y mae'n ei ofyn. Nid oeddent hwy'n mynd i arwain; roeddent am i Lywodraeth Cymru gymryd yr awenau. Felly, ar un ystyr, os ydym o ddifrif eisiau bod yn rhan o hyn, rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos arweiniad a chyflwyno ei chynigion.
A wnewch chi ildio? A yw'n cofio'r pwyslais a roddwyd hefyd ar gael cymorth Llywodraeth y DU i'r hyn yr ydym am ei wneud? Ac a yw'r Aelod yn credu bod hynny'n rhywbeth y gallwn ei gael er mwyn sicrhau y gall Cymru gadw'r cysylltiadau y mae'n dymuno eu gweld?
Ydy, mae'n bwysig, cymorth Llywodraeth y DU, oherwydd, yn amlwg, mae Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yn dal i fod yn aelod-wladwriaeth ac yn cael ei gweld fel y prif gorff mewn un ystyr. Ond yr hyn y gwnaethant ei nodi oedd—. Ceir dau bwynt i hynny: a yw Cymru'n gallu dylanwadu o fewn y ddadl ar lefel y DU, yn yr ystyr o'r hyn yr ydym bob amser wedi siarad amdano—Cyngor y Gweinidogion neu gael rhywbeth mwy ffurfiol yn lle'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion? Ond roeddent yn nodi mai mater i'r DU oedd hynny ac nid oeddent am fod yn rhan o hynny. Ond ceir pwynt fod angen i Lywodraeth y DU gymryd rhan hefyd, oherwydd eu bod, ar hyn o bryd, ar lefel aelod-wladwriaeth a dyna pwy ydynt mewn trafodaethau ar rai o'r safbwyntiau hyn, am fod y strwythurau'n bodoli o wladwriaeth i wladwriaeth. Felly, dyna oedd y broses ffurfioli. Ond os yw Llywodraeth Cymru am ddod yn rhan o hyn, mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn dechrau gofyn amdano.
Hoffwn dynnu sylw at un peth, oherwydd mae hyn yn bwysig. Cawsom gyfarfod hefyd â swyddogion eraill, a oedd yn datgan yn glir fod Llywodraeth Cymru, yn ystod y blynyddoedd y bu'n bresennol ym Mrwsel, wedi bod yn effeithiol iawn yn yr hyn a elwir yn ddiplomyddiaeth feddal, ac maent bellach yn cael eu cydnabod am y gwaith hwnnw. Yn ogystal, mae eraill yn troi atynt fel pobl sydd wedi mynd mor bell â hynny, oherwydd, i lawer o rai eraill—. Fel aelod-wladwriaeth, rydych yn cael eich cynnwys yn awtomatig. Fel Cymru, dechreuasom weithredu fel trydedd wlad, ar un ystyr, ac adeiladwyd y ddiplomyddiaeth feddal honno. Ac roedd hwnnw'n gyfeiriad clir iawn yr oedd angen inni fynd iddo. Felly, mae'r berthynas hon gyda Phwyllgor y Rhanbarthau yn fecanwaith arall i barhau'r ddiplomyddiaeth feddal honno ac felly, buaswn yn annog Llywodraeth Cymru i fynd ar drywydd hyn ac rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn i Lywodraeth Cymru.
Rwyf innau newydd ddychwelyd o ymweliad hynod ddiddorol ac ysgogol gyda'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol â Brwsel ac fel y dywedwyd, cawsom y fraint o gyfarfod â Llywydd Pwyllgor y Rhanbarthau yno, yn ogystal â'r anhygoel Mairead Mcguinness, Aelodau o Senedd Ewrop a llysgenhadon. Mewn llawer o'r cyfarfodydd hyn, rhoddwyd darlun llwm iawn o'r dylanwad y bydd y DU, a Chymru'n fwy byth, yn ei golli gyda Brexit. Cymharodd aelod arall o'r pwyllgor y cynnydd o chwith hwn fel rhywun sy'n arfer gwneud penderfyniadau yn newid i fod yn lobïwr, ac mae perygl gwirioneddol mai felly y bydd.
Nid wyf wedi siarad yn y Siambr hon am Brexit o'r blaen ac nid wyf yn petruso rhag dweud fy mod yn bersonol yn ystyried bod y posibilrwydd y bydd Cymru yn colli ei llais mewn sgyrsiau â'i chwiorydd yn Ewrop yn hynod o ddinistriol. Felly, rhaid inni wneud cynnydd lle gallwn. Yn wir, diben ymweliad y pwyllgor â Brwsel oedd edrych ar y math o berthynas y dylai Cymru obeithio ei hadeiladu â sefydliadau a gwledydd yr UE ar ôl diwedd mis Mawrth. Ni allaf bwysleisio digon pa mor hanfodol yw hi fod Cymru'n cryfhau ac yn meithrin cynghreiriau cryf ac mae Pwyllgor y Rhanbarthau yn fecanwaith amlwg ar gyfer hyrwyddo'r nod hwnnw.
Mae Ivan Rogers wedi dweud, ar gyfer pob gwlad yn Ewrop, mai ei pherthynas â'r UE yw ei pherthynas strategol bwysicaf. I ni, yng Nghymru, nid yw'r ffaith honno ar fin newid. Nid yw ein daearyddiaeth ar fin newid ac yn sicr, rwy'n gobeithio ac yn hyderu na fydd ein cysylltiadau diwylliannol yn newid. Ond rydym yn gwybod na theimlir effaith Brexit yn yr un modd ar draws pob rhan o'r ynysoedd hyn. Mae hynny'n arbennig o wir yng Nghymru ac yn arbennig o wir mewn rhai rhannau o Gymru, gan gynnwys fy rhanbarth yn y de-ddwyrain. Yn wir, fel rydym eisoes wedi clywed heddiw, teimlwyd rhai o'r effeithiau hyn eisoes gyda chau ffatri Honda yn Swindon ac effaith debygol hynny ar ffatri Kasai ym Merthyr Tudful, lle mae 200 o bobl yn gweithio. Ni allwn fforddio colli'r swyddi hyn, a byddaf yn gwneud popeth a allaf i weithio gyda phartïon sydd â diddordeb er mwyn eu hachub.
Fel y noda'r adroddiad hwn, bydd Brexit yn cael effaith anghymesur. Felly, dylai ein diplomyddiaeth hefyd fod yn anghymesur mae'n debyg. Fel y saif pethau, nid yw'r mecanwaith a welwyd ym Mhwyllgor y Rhanbarthau—sef deddfwrfeydd datganoledig â llais uniongyrchol yn sgyrsiau sefydliadau'r UE—yn cael ei efelychu ar lefel y DU. Dyna pam y cymeradwyaf yr argymhelliad i sefydlu comisiwn ar y cyd rhwng y pwyllgor a'r DU i sicrhau na chollir y mecanwaith hwn, a gobeithiaf fod y Cynulliad yn cymeradwyo'r argymhelliad hwnnw hefyd.
Heb amheuaeth, dylem geisio cynnal cynrychiolaeth gyswllt ar y pwyllgor. Mae'n ofid fod cymaint o ddiplomyddiaeth wedi'i hymddiried i Lywodraeth y DU ei wneud ar ein rhan. Mae angen i Gymru gadw ein llais wedi'i glywed yn glir ac yn groyw. Ni allwn ymddiried mewn Llywodraeth arall i wneud hynny ar ein rhan. Mae hynny'n arbennig o wir am Lywodraeth a gaiff ei hystyried gyda'r fath ddryswch ac arswyd â San Steffan yn Ewrop ar hyn o bryd. Mae'r diffyg eglurder y mae San Steffan yn ei roi i Ewrop yn broblem enfawr. Fel y dywedodd un person a gyfarfuom: 'Pan ydych chi'n hwylio, rhaid ichi weld y tir er mwyn llywio'n briodol.' I gynifer o sefydliadau yr UE sydd am weithio gyda ni—ac mae parodrwydd i weld hynny—nid ydynt ond yn gallu gweld dŵr. Dyna pam y mae angen inni gadarnhau ein hymrwymiad i ddod o hyd i ffordd o barhau i weithio gyda Phwyllgor y Rhanbarthau. Ni all Cymru fforddio colli ei llais. Diolch.
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf fi yn gyntaf ddiolch i Mick Antoniw a Bethan Sayed am eu hadroddiad nhw ar y berthynas rhwng Cymru yn y dyfodol a Phwyllgor y Rhanbarthau? Ac a gaf i longyfarch Delyth Jewell hefyd ar ei phenodiad hi fel siaradwraig Plaid Cymru dros gysylltiadau rhyngwladol?
Nawr, dwi wedi bod yn ymwybodol o waith y pwyllgor dros amser hir, a dwi’n meddwl ei fod yn sefydliad o'r Undeb Ewropeaidd sy’n cynrychioli llais unigryw rhanbarthau, gwledydd fel Cymru, ac awdurdodau lleol ar draws yr Undeb Ewropeaidd, a dwi’n gwerthfawrogi’r ymrwymiad mae ein haelodau ni wedi’u gwneud i gynrychioli Cymru yna.
Ers canlyniad y refferendwm, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir: er gallai Cymru fod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, dŷn ni ddim yn gadael Ewrop. Ac felly mae’n gwneud synnwyr inni ddatblygu cysylltiadau parhaus gyda sefydliadau perthnasol yr Undeb Ewropeaidd ynghyd â rhwydweithiau a rhaglenni rhanbarthau eraill fel ein bod ni ddim yn colli ein cydweithrediad llwyddiannus, fel rŷn ni wedi clywed gan gymaint o siaradwyr dros y blynyddoedd yn y mudiadau yma.
Nawr, yn y gorffennol, mae’r cysylltiad hwn wedi profi i fod yn un gwerthfawr ac wedi ein galluogi ni i ddylanwadu ar lunio polisïau Ewropeaidd, ond hefyd i ddysgu o’r rhanbarthau eraill i helpu i wella ein polisïau ni ein hunain yma yng Nghymru. Mae’n amlwg y bydd aelodaeth ffurfiol y Deyrnas Unedig o Bwyllgor y Rhanbarthau yn dod i ben ar ôl i’r Deyrnas Unedig dynnu’n ôl o’r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn wir os ydyn ni’n llwyddo i gael cytundeb neu’n gadael heb gytundeb.
Mae Llywodraeth Cymru o’r farn ei bod hi’n gwneud synnwyr i archwilio pa gyfleoedd sydd ar gael i feithrin perthynas barhaus rhwng y Deyrnas Unedig a Phwyllgor y Rhanbarthau. A dwi’n ymwybodol bod ein cynrychiolwyr wedi bod yn weithredol mewn trafodaethau ynghylch sefydlu’r comisiwn yma ar y cyd rhwng Pwyllgor y Rhanbarthau a’r Deyrnas Unedig yn ystod unrhyw gyfnod pontio a fydd yn digwydd, os bydd yna gytundeb.
Pe byddai strwythur o’r fath yn cael ei datblygu—ac, wrth gwrs, byddai’n rhaid i hwn gael ei gytuno gan Bwyllgor y Rhanbarthau—byddwn i’n awyddus iawn i sicrhau cynrychiolaeth ddatganoledig gref yn nirprwyaeth y Deyrnas Unedig, a byddwn i’n disgwyl y byddai’r tair gweinyddiaeth ddatganoledig mewn lle i enwebu un cynrychiolydd i’r pwyllgor. Rŷn ni hefyd yn cytuno bod lle i archwilio ymhellach gynnig i greu fforwm gwleidyddol parhaol ar gyfer gorllewin gogledd Ewrop ar ôl unrhyw gytundeb, a ddylai gynnwys cynrychiolwyr o bob un o’r sefydliadau datganoledig.
Nawr, deallaf fod cynnig ar hyd y llinellau o ymchwilio i sefydlu fforwm economaidd gogledd-orllewin Ewrop, a grybwyllwyd gan Mick Antoniw, o dan ystyriaeth gan Bwyllgor y Rhanbarthau ar hyn o bryd, ac edrychaf ymlaen at ganlyniad penderfyniad y pwyllgor, a fydd, wrth gwrs, yn digwydd ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Roedd yn ddiddorol iawn siarad â Syr Albert Bore mewn cyfarfod dros y ffôn a gefais ag ef yr wythnos diwethaf ar yr union fater hwn—ynglŷn â sut beth fyddai hwnnw a'r modelau sy'n bodoli ar gyfer y math hwnnw o esiampl i ni ei dilyn.
Gan droi at yr argymhellion a wnaed yn adroddiad Mick a Bethan, rwy'n falch o gadarnhau, ers y refferendwm yn 2016, fod Gweinidogion a swyddogion wedi parhau i archwilio sut y gellir datblygu cysylltiadau sefydledig er creu budd pellach i Gymru. Rwy'n llwyr ategu'r pwynt ein bod wedi adeiladu cymaint o ewyllys da dros y blynyddoedd, cymaint o bŵer meddal, fel y byddai'n gamgymeriad enfawr inni ei golli. A gallaf gadarnhau hefyd fod y Prif Weinidog yn gofyn am gyfarfod â llywydd Pwyllgor y Rhanbarthau yn ystod ei gyfarfod nesaf ym Mrwsel.
Nawr, cyhoeddais yn ddiweddar y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu strategaeth ryngwladol newydd, ac yn ystod yr ymgynghoriad hwnnw, byddwn yn ceisio penderfynu pa un o'r nifer o rwydweithiau Ewropeaidd a restrir yn atodiad A y ddogfen y byddwn eisiau ei flaenoriaethu o ran y berthynas rhwng Cymru a'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Ac wrth i'r cloc barhau i dician tuag at yr adeg y bydd y DU yn gadael yr UE, credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn anfon neges gref, hyd yn oed os ydym yn gadael yr UE a'i sefydliadau, ein bod yn gwbl benderfynol o sicrhau ein bod yn parhau ar delerau da a'n bod yn benderfynol o wella a pharhau i ddatblygu ein perthynas â'n cymdogion agosaf ar y cyfandir.
Gobeithiwn y bydd i lywodraethu o'r fath ar lefel is-aelod-wladwriaeth rôl allweddol yn sicrhau y bydd y cyfeillgarwch hwnnw'n parhau. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau y bydd llais Ewropeaidd Cymreig yn cael ei glywed yn uchel ac yn glir ar draws y cyfandir. Rwy'n falch o adrodd bod y Llywodraeth yn hapus i gefnogi'r cynnig yn llawn.
Diolch. Galwaf ar Bethan Sayed i ymateb i'r ddadl. Bethan.
Diolch yn fawr iawn. Gwn fod amser yn brin. Diolch i Mick Antoniw am gyflwyno ein hadroddiad ac am gyflwyno'r trafodaethau a gawsom yn huawdl a'r casgliadau y daethom iddynt o ran y gwaith yr ydym wedi ceisio ei wneud o fewn y gallu cyfyngedig a oedd gennym mewn perthynas â'n cynrychiolaeth ar Bwyllgor y Rhanbarthau. Croesawaf gyfraniadau pawb yma heddiw, yn enwedig y gydnabyddiaeth o'r ffaith bod angen inni barhau i weithio gyda'r Undeb Ewropeaidd ym mha ffordd bynnag, a gweithio gyda gwledydd eraill hefyd ar sail fyd-eang i ddangos bod Cymru'n gymuned o gymunedau wirioneddol ryngwladolaidd.
Buaswn yn anghytuno ag un peth a ddywedodd Darren Millar o ran ein potensial i weithio gydag Ewrop. Gallwn weithio mewn gwahanol ffyrdd a rhwydweithiau gwahanol, ond mae gennym berthynas ffurfiol yn awr. Rydym yn aelodau ffurfiol ac mae gennym y gallu hwnnw, fel roedd gennyf bythefnos yn ôl, i sefyll yn y Senedd ym Mrwsel a siarad a dweud wrth bobl beth rydym yn ei wneud yma yng Nghymru i hyrwyddo ein cenedl, i hyrwyddo ein gwerthoedd. Ni chawn y cyfle hwnnw o dan strwythurau mwy anffurfiol, ond rwy'n derbyn y bydd yn rhaid i hynny ddigwydd. Sut y gwnawn hynny pan na fydd gennym y strwythurau breintiedig iawn a fu gennym yw'r cwestiwn. Gwnaf y gyfatebiaeth o sut rydym wedi gallu rhwydweithio, sut y gallasom ddod â syniadau gwerthfawr yn ôl i'r sefydliad hwn, yn ôl i fod o fudd i Gymru, a sut y bydd yn rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd newydd o wneud hynny. [Torri ar draws.]—Nid oes gennyf amser. Yn llythrennol, nid oes gennyf amser. Gallwn barhau'r trafodaethau hyn wedyn.
Mewn perthynas â'r hyn y mae'r Gweinidog wedi dweud am un aelod o unrhyw gyd-gomisiwn, hoffwn ei hannog i ystyried mwy nag un. Bu'n dda cael amrywiaeth barn gennyf fi a Mick Antoniw. Mae gennym syniadau tebyg, ond gall ein barn fod yn wahanol ar bethau eraill. Rwy'n meddwl bod cael amrywiaeth barn ar lefel ryngwladol neu Ewropeaidd yn rhywbeth y dylid ei hyrwyddo a'i gefnogi, ac efallai ei fod hyd yn oed yn fwy pwysig ar ôl Brexit fel y gallwn gael cynrychiolaeth gref ar y lefel honno. Soniasoch fod y Prif Weinidog yn gofyn am gyfarfod â llywydd Pwyllgor y Rhanbarthau. Buaswn yn eich annog i ddweud wrthym, cyn gynted ag y bydd y broses o ofyn drosodd, os ydych yn cael y cyfarfod hwnnw, oherwydd pan oeddem ym Mrwsel yn ddiweddar, roedd brys o'r mwyaf i sicrhau bod prosesau ar waith, ar ôl mis Mawrth. Ni allaf orbwysleisio pa mor werthfawr oedd gallu ymgysylltu'n gadarnhaol, er na fûm mewn llawer o gyfarfodydd.
Ar ôl i mi siarad yn Senedd Ewrop bythefnos yn ôl, cefais sgwrs Google Translate ar fy ffôn gydag un o Weinidogion yr Eidal. Nid oes gennyf unrhyw Eidaleg ac nid oes ganddo ef Saesneg na Chymraeg, a dywedodd, 'Ni wnaethom adael yr UE, chi a ddewisodd adael yr UE', a dywedais, 'Rydym am barhau i weithio gyda chi a chadw'r drysau ar agor.' Credaf mai dyna'r neges sydd angen i bawb ohonom ei chael yma heddiw: gan symud ymlaen, rydym am gadw'r drws hwnnw ar agor, rydym am ymgysylltu. Mae'r adroddiad a gyflwynasom i chi heddiw yn bwysig i sicrhau ein bod yn canfod ffyrdd gwahanol o ymgysylltu'n gadarnhaol a'n bod yn gweithio gan alw nid yn unig ar Lywodraeth Cymru, ond bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel sefydliad ei ffyrdd ei hun o ymgysylltu fel y gallwn ddod yn gryf yn y byd fel cenedl yn ein hawl ein hunain hefyd. Diolch yn fawr iawn i bawb am gyfrannu.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.