1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 5 Mawrth 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Sero yw targedau eich Llywodraeth ar gyfer y bobl sy'n aros mwy na 12 awr am driniaeth mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae ganddyn nhw'r un targed yn yr Alban ac maen nhw wedi llwyddo i ddod yn agos iawn ato. Gyda mwy o boblogaeth, sicrhawyd ffigur o lai na 200 gydag amseroedd aros annerbyniol o hir ganddynt yn y ffigurau diweddaraf. Ond, yng Nghymru, mae'n rhaid cyfrif yr un ystadegyn hwnnw mewn miloedd. 1,277 oedd y nifer ym mis Ionawr 2014, ac mae wedi bod yn dirywio'n raddol ers hynny: 3,006 yn 2015; 4,048 yn 2017; 5,099 y llynedd. Yn y ffigurau diweddaraf, ar gyfer mis Ionawr eleni, mae'n waeth eto: 5,264—yr ail ffigur gwaethaf ar gyfer Cymru ers dechrau cadw cofnodion. A dylwn i nodi bod dros 700 o'r achosion hyn yn Ysbyty Maelor Wrecsam, yn eich etholaeth chi. Felly, mae fy nghwestiwn yn syml, Gweinidog: a ydych chi'n derbyn bod yr amseroedd aros annerbyniol o hir hyn sydd bron yn ddigynsail mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn argyfwng gwirioneddol erbyn hyn? Byddwn yn ddiolchgar hefyd pe gallech chi, yn eich ymateb, ddweud ar goedd y rheswm pam yr ydych chi'n dirprwyo dros y Prif Weinidog heddiw.
Y rheswm yr wyf i'r dirprwyo dros y Prif Weinidog heddiw yw ei fod yn Llundain yn cynrychioli Cymru mewn digwyddiad yno.
O ran amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, rwy'n ymwybodol o nifer yr achosion yn fy etholaeth fy hun, yn amlwg. Y broblem yw ein bod ni wedi gweld nifer nad ydym wedi gweld ei debyg o'r blaen o bobl yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, ac rwy'n credu bod angen i ni edrych ar y rheswm am hynny. Ac rwy'n credu bod mwy o waith i'w wneud o ran gwasanaethau y tu allan i oriau hefyd. Ond yn sicr dylem ni dderbyn hefyd ein bod ni'n gweld lefelau uchel iawn o foddhad yn cael eu nodi o fewn y GIG ac mae gwaith yn cael ei wneud mewn adrannau achosion brys ledled Cymru. Dylwn i ddweud bod mwy na miliwn o gleifion wedi mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru y llynedd.
Gwn fod y Prif Weinidog wedi dweud nad yw'n edrych ymlaen at gwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'n debyg ei fod unwaith wedi methu â chyfarfod Prif Weinidog y DU er mwyn mynd i barti, ond a ydych chi'n credu ei bod hi'n briodol iddo flaenoriaethu derbyniad ym Mhalas Buckingham yn hytrach nag ateb cwestiynau yma yn y Senedd?
Yr hyn y byddwn i wedi ei ofyn iddo, ac y byddaf yn ei ofyn i chi nawr yn hytrach, yw a ydych chi'n rhedeg allan o esgusodion am yr argyfwng mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Er enghraifft, ar 12 Chwefror, dywedodd y Gweinidog iechyd, Vaughan Gething, wrthym ein bod ni wedi gweld, dros y misoedd diwethaf, y nifer fwyaf o achosion o ffliw mewn ysbytai ers pandemig 2009, ac eto mae adroddiad cadw golwg ar y ffliw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod ffliw yn cylchredeg ar lefelau canolig sy'n is na'r rhai ar gyfer y flwyddyn flaenorol. Honnodd Vaughan Gething hefyd bod bygiau stumog y gaeaf yn rhoi straen ychwanegol ar y GIG. Wel, rwyf i wedi ymchwilio i hyn trwy geisiadau rhyddid gwybodaeth. Dywedodd rhai byrddau iechyd lleol wrthym nad oedd yr wybodaeth hon ar gael ar gyfer y gaeaf hwn hyd yn hyn, ond mae'r rhai sydd wedi darparu data i ni wedi dangos nad yw niferoedd eleni yn arbennig o wahanol i'r llynedd. Yn wir, mae Betsi Cadwaladr, y bwrdd iechyd sy'n perfformio waethaf o ran adrannau damweiniau ac achosion brys, yn trin llai o achosion o fygiau stumog y gaeaf eleni nag y mae wedi ei wneud yn y ddwy flynedd flaenorol.
Ni ellir hawlio ychwaith bod y GIG yn cael ei foddi gan niferoedd cleifion y gaeaf hwn. Yn ei ddatganiad ar 12 Chwefror, dywedodd Vaughan Gething,
'Mae ysbytai wedi derbyn llai o bobl dros 85 oed mewn achosion brys y gaeaf hwn, o'i gymharu â'r ddau aeaf blaenorol.'
Felly, pan fydd yr holl esgusodion hyn yn cael ei tynnu i ffwrdd, mae'n amlwg mai dim ond un o ddau reswm a all fod am eich methiant i fynd i'r afael ag amseroedd aros sy'n gwaethygu: un yw nad oes gennych chi unrhyw syniad beth i'w wneud i fynd i'r afael â nhw; a'r unig beth y gall y rheswm arall fod yw eich bod chi'n gwybod beth i'w wneud ond nad ydych chi'n ei wneud. Pa un sy'n wir?
Felly, i ddychwelyd at y Prif Weinidog, rwy'n credu y byddai pawb eisiau i'r Prif Weinidog gynrychioli Cymru yn y ffordd y mae'n ei wneud. [Torri ar draws.]
Y mis diwethaf oedd yr Ionawr prysuraf ar gyfer derbyniadau i adrannau achosion brys. Roedd derbyniadau brys 9 y cant yn uwch ym mis Ionawr 2019—[Torri ar draws.]
Gadewch i ni glywed y Gweinidog yn ymateb i'r cwestiynau os gwelwch yn dda. Dipyn o ddistawrwydd gan Blaid Cymru. Gweinidog, ewch ymlaen.
Diolch, Llywydd. Roedd derbyniadau brys 9 y cant yn uwch ym mis Ionawr 2019 nag ym mis Ionawr 2015 mewn adrannau achosion brys mawr. Hefyd, bu cynnydd o 16 y cant i bresenoldeb mewn adrannau achosion brys mawr o'u cymharu â mis Ionawr 2015. Mae'n rhaid i mi ddweud y bu'n rhaid i mi, yn anffodus, fynd i adran achosion brys yn Ysbyty'r Mynydd Bychan tua mis yn ôl, ac wrth siarad â'r staff yno, roedd gen i ddiddordeb mawr mewn cael gwybod am dderbyniadau ac ati, ac roedd un o'r meddygon ymgynghorol yn dweud wrthyf i eu bod nhw wedi cael, dros y penwythnos, 10 o bobl a oedd yn agos at eu 100 oed—dros 90 oed, ond yn nes at 100, ac roedd hi'n dweud bod hynny'n ddigynsail. Felly, yn amlwg, mae'r boblogaeth sy'n heneiddio hefyd yn cael effaith.
Mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Gweinidog—efallai fod gennym ni wahanol werthoedd, ond rwy'n credu mai'r flaenoriaeth i'r Prif Weinidog yw bod yma i ateb cwestiynau gan gynrychiolwyr etholedig Cymru. Does bosib nad dyna yw diben cael y Senedd hon yn y lle cyntaf.
Nawr, ar draws y DU, 5 y cant yw'r targed misol ar gyfer pobl sy'n aros mwy na phedair awr am driniaeth mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Unwaith eto, mae perfformiad yr Alban yn well na Chymru a Lloegr hefyd—
Nid wyf i'n gallu clywed Plaid Cymru nawr, gan fod pawb arall yn gwneud sŵn. Felly, Adam Price, os gwelwch yn dda.
Yn yr Alban fis Rhagfyr diwethaf, 10 y cant yn unig y bu'n rhaid iddyn nhw aros mwy na phedair awr. Yn Lloegr, roedd yn waeth o lawer, gyda 24 y cant yn aros mwy na phedair awr, ond yng Nghymru roedd yn waeth eto. 28 y cant oedd ein ffigur ni. Mae'n arwyddocaol bod cydweithwyr i chi—ASau Llafur yn San Steffan—o'r farn bod yr ystadegau amseroedd aros ar gyfer Lloegr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys mor wael fel eu bod nhw wedi galw am ymchwiliad annibynnol. O ystyried bod y ffigurau ar gyfer Cymru hyd yn oed yn waeth nag yn Lloegr, a wnewch chi ymuno â Jon Ashworth, Ysgrifennydd iechyd yr wrthblaid Lafur yn San Steffan, a mynnu bod ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal yng Nghymru hefyd? Oni fyddai'n rhagrithiol i fethu â dwyn eich hun i gadw'r un safon ac yr ydych chi'n dwyn Llywodraeth Prydain iddo sef yr wrthblaid yn y fan yma gartref yng Nghymru, lle mai chi yw'r Llywodraeth?
Dychwelaf at rai o'r ffigurau sydd gen i o'm blaen. Ym mis Ionawr 2019, adroddodd 14 o 24 cyfleuster gofal brys welliant o fis Ionawr 2018, neu'r un lefel o berfformiad. Mae hynny'n cynnwys saith o'n 13 o brif adrannau achosion brys. Nododd pedwar o'r saith bwrdd iechyd well perfformiad ym mis Ionawr 2019 o'i gymharu â mis Ionawr 2018. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni dderbyn bod y rhan fwyaf o bobl sy'n defnyddio adrannau damweiniau ac achosion brys yn cael eu gweld o fewn yr amser, yn cael y driniaeth orau. Mae rhai nad ydynt, a nhw yw'r bobl y mae angen i ni barhau i'w cefnogi.
Arweinydd yr Wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Gweinidog, pa gynlluniau sydd ar waith yng Nghymru i ariannu gwellhad pobl sy'n camddefnyddio sylweddau sy'n derbyn triniaeth breswyl?
Mae'n ddrwg gen i, a allwch chi ailadrodd hynna?
Pa gynlluniau sydd ar waith yng Nghymru i ariannu gwellhad pobl sy'n camddefnyddio sylweddau sy'n derbyn triniaeth breswyl?
Mae'n ddrwg gen i; nid yw'r manylion hynny gen i wrth law.
Wel, gadewch i mi roi rhai ffigurau i'r Gweinidog, oherwydd mae ffigurau o'r llynedd yn dangos mai dim ond canran frawychus o fach—13.5 y cant—o bobl sy'n camddefnyddio sylweddau a gafodd driniaeth gan y GIG oedd yn rhydd o sylweddau erbyn diwedd eu cwrs. Nawr, dangosodd fy ymweliad i â chanolfan adsefydlu ragorol Brynawel, yr unig ganolfan o'i math yn y wlad, i mi yn ddiweddar pa mor ddybryd y mae angen cymorth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas gan ganolfannau fel hyn. Dim ond y mis diwethaf, gwrthododd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol alwadau i roi sylw i'r angen am ofal preswyl yma yng Nghymru, ond er gwaethaf yr addewid i neilltuo £50 miliwn i fyrddau iechyd i gynorthwyo gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, mae canolfannau tebyg i Frynawel wedi cau ar draws y wlad. A, phan gafodd ei holi ar y pwnc y mis diwethaf gan aelod o'ch plaid eich hun, methodd y Gweinidog ag ymrwymo i gynorthwyo'r hyn a ddisgrifiwyd ganddo fel dim ond 'cyfleuster defnyddiol'. A allwch chi egluro yma heddiw felly, Gweinidog, pa adnoddau penodol sy'n mynd i fod ar gael gan Lywodraeth Cymru yn y blynyddoedd i ddod i ddarparu gofal preswyl arbenigol i helpu'r rhai mewn angen i gael eu bywydau yn ôl, o gofio bod arian wedi ei neilltuo ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau?
Diolch. Rwyf innau hefyd wedi bod yng nghanolfan breswyl Brynawel; rwy'n credu bod hynny gyda rhagflaenydd Huw Irranca-Davies, Janice Gregory. Rwy'n ymwybodol iawn o'r gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud yno. Nid wyf i'n credu bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gwrthod y mater yn y modd a nodwyd gennych ac yn sicr mae'r cyllid—. Byddwch yn ymwybodol ein bod ni wedi cynyddu ein cyllid yn sylweddol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol gan bron i £0.5 biliwn yn 2019-20, ac mae hynny'n gynnydd o tua 7 y cant. Ac yna gall byrddau iechyd ddefnyddio'r cyllid hwnnw yn y ffordd y maen nhw'n dymuno, yn amlwg.
Wel, rwy'n gofyn i'r Gweinidog edrych ar y cofnod a gwirio dadl mis diwethaf oherwydd, yn anffodus, fe wnaeth y Gweinidog iechyd wrthod galwadau i fynd i'r afael â'r mater penodol hwn. Gadewch i mi eich atgoffa hefyd, Gweinidog, bod ffigurau blaenorol wedi dangos bod hanner y bobl a atgyfeiriwyd ar gyfer adsefydlu yn sgil camddefnyddio sylweddau yng Nghymru yn cael eu trin yn Lloegr, ac mae cleientiaid ym Mrynawel yn aros misoedd am le oherwydd y galw uchel, yn aml ar adeg pan fo'u bywydau mewn perygl ac maen nhw wedi troi at droseddu fel ffordd o gasglu arian neu hyd yn oed at geisio lloches yn y carchar. Nid am y tro cyntaf ar bwnc gofal iechyd yma yng Nghymru, rydym ni'n clywed bod loteri cod post yn bodoli ledled y wlad i bobl mewn angen. Dywedodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru y llynedd bod mynediad at wasanaethau ledled Cymru yn anghyson ac yn gyfyngedig mewn ardaloedd gwledig; roedd pobl yn ei chael hi'n anodd cael y driniaeth yr oedd ei hangen arnynt oherwydd amseroedd aros hir a diffyg capasiti mewn gwasanaethau. Ac eto mae cannoedd—cannoedd—o bobl yn marw bob blwyddyn oherwydd camddefnyddio sylweddau ac alcohol yma yng Nghymru. Gweinidog, beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i atal y loteri cod post hwn ac i atal pobl mewn angen rhag cael eu rhoi mewn perygl o gael eu hanghofio, dim ond oherwydd ble maen nhw'n byw?
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n mynd i'r afael â loterïau cod post, a soniasoch fod hanner y bobl sydd angen cefnogaeth a chymorth yn cael eu trin yn Lloegr. Byddwch yn ymwybodol bod canolfannau arbenigol nad ydyn nhw gennym ni yng Nghymru ac i'r gwrthwyneb. Gwn, wrth gynrychioli etholaeth ar y ffin, ei bod hi'n sicr yn draffig ddwyffordd rhwng Cymru a Lloegr yn llawer o'r ardaloedd hyn.
Rydych chi'n gofyn am gamddefnyddio sylweddau ac alcohol hefyd. Byddwch yn ymwybodol ein bod ni wedi dweud erioed bod isafswm pris uned ar gyfer alcohol yn rhan o'n strategaeth ehangach a'n dull o leihau camddefnydd o sylweddau a byddwn yn parhau i ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i leihau'r niwed a achosir gan yfed gormod o alcohol a chamddefnyddio sylweddau eraill.
Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. Gweinidog, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n gweithio ar gynllun newydd o daliadau i ffermwyr Cymru ar ôl Brexit. Yn amlwg, rydych chi'n gwybod llawer iawn am hyn yn eich swydd weinidogol. Nawr, rwy'n falch eich bod chi wedi mabwysiadu naws gyffredinol bod cyfleoedd y gellir eu cymryd ar ôl Brexit, ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus hefyd o beidio â cheisio gwneud newidiadau diangen a chreu anwadalrwydd diangen mewn sefyllfa lle mae gennym ni gryn dipyn o ansicrwydd eisoes.
Ceir cynnig gan Lywodraeth Cymru i symud at system daliadau newydd, lle bydd taliadau uniongyrchol i ffermwyr, fel yr ydym ni'n eu hadnabod ar hyn o bryd, yn diflannu'n gyfan gwbl. Nawr, heb anghytuno â'r angen i ddatblygu cynlluniau talu eraill, mae'n rhaid i ni wynebu'r realiti economaidd caled bod 80 y cant o incwm ffermydd yma yng Nghymru yn deillio, ar gyfartaledd, o daliadau uniongyrchol. Onid oes dadl gref bod hyn yn rhwyd ddiogelwch gwerthfawr i ffermwyr Cymru y dylid ei gadw ar waith yn ystod y dyfodol rhagweladwy o leiaf?
Nac oes. Nid wyf i'n credu bod y polisi amaethyddol cyffredin yn gwneud hynny. Yn sicr nid yw wedi gwneud ein ffermwyr yn fwy cadarn, yn fwy cynhyrchiol; nid yw'n gwobrwyo'r ffermwr gweithredol ychwaith. Byddwch yn ymwybodol ein bod ni wedi cael ymgynghoriad hir yr haf diwethaf. Rwyf i wedi ymrwymo i gyflwyno Papur Gwyn cyn sioeau amaethyddol yr haf, ond rwyf i wedi bod yn eglur iawn y bydd y cynllun taliadau sylfaenol yn diflannu. Bydd yn cael ei ddisodli gan ddau gynllun arall, ac rydym ni eisiau i bawb weithio gyda'i gilydd i gyflwyno'r cynlluniau hynny. Ond rydych chi'n sôn am—wyddoch chi, 80 y cant o gyllid, ar gyfartaledd, i ffermwyr. Nid wyf i'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylid ymfalchïo ynddo, 80 y cant. Rwy'n credu ei fod yn dangos nad yw'r PAC wedi gweithio yn y ffordd y byddem ni wedi dymuno iddo ei wneud.
Ie. Yn sicr nid wyf i'n anghytuno â chi ar y pwynt hwnnw, a nodais bod angen i ni symud oddi wrth y cynllun hwnnw. Y cwbl yr wyf i'n ei wneud yw tynnu sylw at y posibilrwydd y gallai fod angen i ni, yn y tymor byr, ymrwymo i ryw fath o daliad uniongyrchol yn rhan o daliadau i ffermwyr Cymru yn y cyfamser, cyn i ni ddatblygu cynlluniau tymor hwy. Ac, wrth gwrs, mae'n rhaid iddyn nhw gael eu modelu'n drwyadl—[Torri ar draws.] Mae'n rhaid iddyn nhw gael eu modelu'n drwyadl cyn i ni symud at gynlluniau newydd. Felly, yn amlwg, os ydym ni o ddifrif ynglŷn â mynd tuag at gynlluniau newydd, mae'n rhaid i ni edrych ar y modelu. Bu pryderon am y cynlluniau arbrofol yr ydych chi'n mynd i'w cael, ac mae rhai ohonynt yn weithredol ar hyn o bryd. Nawr, a ydych chi'n credu bod y cynlluniau arbrofol hyn yn symud yn ddigon cyflym? A ydyn nhw'n ddigon cadarn ac a ydyn nhw mewn ardal ddigon eang o Gymru fel y gallwn ni symud ymlaen â'ch amserlen arfaethedig i'r system daliadau newydd?
Wel, mae'r Aelod yn gwybod mwy na fi, oherwydd nid wyf i'n credu bod unrhyw gynlluniau arbrofol yn weithredol. Rydym ni'n ystyried pa ffermydd fydd yn ei wneud. Yn sicr bydd gwasgariad daearyddol; bydd gwahanol fathau o ffermydd yn cael eu defnyddio. Rwy'n credu y bydd modelu ac asesiadau effaith a'r cynlluniau arbrofol hynny yn bwysig iawn wrth bennu'r cyfeiriad y byddwn ni'n ei ddilyn, ond y peth gwaethaf i'r sector amaethyddiaeth ar hyn o bryd yw'r ansicrwydd ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd. Byddwch wedi clywed undeb yr amaethwyr yn dweud y byddai gadael heb gytundeb yn drychinebus. Dylwn hefyd ddweud bod yr holl gyllid yn dod drwy'r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd ac ni allaf gael unrhyw sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd y cyllid hwnnw ar gael ar ôl 2022.
Ie. Rwy'n gwerthfawrogi'r ffactorau yr ydych chi'n sôn amdanynt; wrth gwrs bod ansicrwydd. Mae'n ymddangos i mi efallai bod union natur yr ansicrwydd yn dangos yr angen i symud tuag at gyflymder pontio arafach wrth i ni gyflwyno cynllun taliadau newydd. Mater arall sy'n codi, o dan gynigion presennol Llywodraeth Cymru, yw y gallai'r symudiad o daliadau i ffermwyr gweithredol i gategori ehangach, yr ydym ni'n ei alw'n 'rheolwyr tir', hefyd arwain at nifer o filoedd yn fwy o bobl sy'n gymwys i gael taliadau gan Lywodraeth Cymru. Felly, a ydych chi'n gwbl ffyddiog, o ystyried hefyd yr ansicrwydd yr ydych chi wedi cyfeirio ato heddiw, y bydd gennych chi ddigon o adnoddau i ymdrin â'r ceisiadau am daliadau pan fyddan nhw'n dechrau dod i mewn i'ch adran?
Rwy'n credu bod yn rhaid i chi dderbyn bod y rhan fwyaf o reolwyr tir yn ffermwyr—mae'n well gen i'r gair 'ffermwyr'—ac nid wyf i'n credu y byddwn ni'n gweld y miloedd o bobl hyn yn gwneud ceisiadau am y cyllid. Rwyf i wedi clywed y bydd pobl â rhandiroedd yn gallu gwneud cais, er enghraifft; mae hynny'n gwbl anghywir. Yr hyn yr wyf i eisiau ei sicrhau yw bod Llywodraeth y DU yn rhoi pob ceiniog i ni y byddem ni wedi ei chael fel gwlad gan yr Undeb Ewropeaidd. Dyna'r wyf i'n eu dal nhw iddo, ac yna gallwn wneud ein penderfyniadau yn dilyn yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, ac rwyf i wedi dweud o'r cychwyn bod yn rhaid i'r cynlluniau newydd fod ar waith cyn i ni ddiddymu'r cynllun taliadau sylfaenol.