3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 15 Mai 2019.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyhoeddiad nad yw'r Comisiwn Ewropeaidd yn debygol o gymeradwyo'r fenter ar y cyd rhwng Tata Steel Cyf a ThyssenKrupp AG, ac felly bydd unrhyw broses bellach ar y cyd-fenter yn cael ei hatal? 310
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'i sicrhau fy mod wedi siarad gyda Tata Steel a chyda chynrychiolwyr undebau llafur, ynghyd â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol? Mae'n rhy gynnar ar hyn o bryd i ddweud beth y gallai hyn ei olygu i Tata Steel yng Nghymru, ond wrth gwrs, Lywydd, mae Llywodraeth Cymru yn barod i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu haearn a dur yng Nghymru sy'n diogelu cyflogaeth a chymunedau dur.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw a'r ymrwymiad y mae wedi'i roi i gefnogi'r diwydiant dur yng Nghymru? Nawr, yn 2016 ar ddechrau hyn, bydd llawer yn cofio inni weld y bygythiad i gau gwaith Port Talbot. Yn dilyn y penderfyniad gan Tata wedyn i beidio â'i gau, yn yr ymrwymiad i geisio cael cyd-fenter neu uno â ThyssenKrupp, gan nodi mai'r cynnig hwnnw a fyddai'n rhoi dyfodol cryf i gynhyrchiant dur, derbyniodd yr undebau llafur hynny—yn gyndyn efallai, ond fe wnaethant ei dderbyn—a chafodd hynny ei atgyfnerthu yr wythnos hon gan gyngor gwaith Ewropeaidd Tata Steel yn y datganiad ar 10 Mai, a ddywedai eu bod yn cefnogi'r llwybr hwnnw. Nawr, mae hynny wedi mynd, ac rwy'n cytuno â'ch datganiad ddoe, a diolch i chi am y datganiad hwnnw. Mae'n amser pryderus; nid oes amheuaeth am hynny. Mae cymylau llwyd unwaith eto ar y gorwel dros Bort Talbot, gyda'r ofn eu bod yn symud i'n cyfeiriad ni. Rwy'n meddwl ei bod yn bryd cael pennau clir, fel y nodoch chi. Nid yw'n bryd eto—cymerwch amser; pwyll pia hi. Rhaid inni osod ein gweledigaethau ein hunain ar gyfer sicrhau bod gan Gymru sector dur cynaliadwy.
Cytunaf hefyd fod gan Lywodraeth y DU ran hanfodol i'w chwarae yn hyn, ac fe dynnoch chi sylw at y pwyntiau hynny, pa un a fyddant yn bwrw ymlaen â bargen ar gyfer y sector dur, neu eu bod yn ymosod ar gostau ynni uchel, rhywbeth y buom yn galw amdano ers blynyddoedd lawer er mwyn inni allu mynd i'r afael â sefyllfa ariannol cwmnïau yn y sector dur. Dyna un agenda. Ond rwyf am ofyn: beth yw bwriadau Llywodraeth Cymru i gefnogi'r sector? Rydych wedi gwneud gwaith gwych hyd yn hyn. Ni allaf wadu'r gefnogaeth y mae'r Llywodraeth hon wedi'i rhoi, yn y Cynulliad hwn ac yn y Cynulliad blaenorol, i'r diwydiant dur, ond mae angen yn awr inni weld i ble'r ydym yn mynd. Nid wyf wedi gweld strategaeth ddur benodol i Gymru, felly a gaf fi ofyn a fyddwch yn cyhoeddi strategaeth ddur benodol i Gymru ar gyfer y dyfodol?
A gaf fi ddweud hefyd fod dur yn cael ei gefnogi gan incwm cynyddol? Wyddoch chi, rydym yn sôn am gostau—gostwng costau—ond gallwn sôn hefyd am gynyddu incwm. Un o'r ffyrdd o gynyddu'r incwm yw gwella buddsoddiad drwy galfaneiddio llinellau CAPL ym Mhort Talbot, er enghraifft, fel bod y cynhyrchion pen uchaf yn mynd yn ddrutach a'ch bod yn cael mwy o arian i mewn o ganlyniad i hynny. Felly, y cwestiwn rwy'n ei ofyn yw: a ydych chi'n edrych ar fuddsoddi yn y sector yn y dyfodol? A ydych yn mynd i edrych ar fwy o ddefnydd o ymchwil a datblygu? A ydych chi'n mynd i fod yn arloesol ac yn greadigol yn eich dull o gefnogi prosiectau amgylcheddol? Oherwydd rydym wedi dadlau'n aml mai rheolau'n ymwneud â chymorth gwladwriaethol ydyw, ond mae ffyrdd o amgylch rheolau cymorth gwladwriaethol er mwyn i chi allu helpu cwmnïau—gyda'r amgylchedd ac ymchwil a datblygu yn ddwy o'r ffyrdd hynny. Nawr, bydd y ddau beth, mewn gwirionedd, yn helpu nid yn unig y diwydiant ond hefyd yn helpu etholwyr yn fy nhref ar sail ehangach. Felly, unwaith eto, a wnewch chi edrych ar hynny ac a allwch ddweud wrthym beth yw eich cynlluniau ar gyfer dull gweithredu o'r fath?
A allwch chi hefyd—? Rydym wedi cael pobl yn galw am uwchgynhadledd gan y Prif Weinidog. Wel, a dweud y gwir, nid yw gweithwyr dur a'u teuluoedd yn fy etholaeth i eisiau mwy o siarad. Maent am weld gweithredu cadarnhaol a fydd yn cael gwared ar yr ansicrwydd y maent yn ei wynebu yn awr. Mae hwnnw'n bendant wedi dychwelyd. Rydym yn gwybod ei fod yno. Rydym yn ofni ei fod yno. Mae arnom eisiau ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r gefnogaeth barhaus honno, ac rwyf am sicrhau, mewn gwirionedd, y gellir atgyfnerthu hynny drwy gael rhywun i fynd i Mumbai i siarad â bwrdd Tata yn India er mwyn atgyfnerthu'r ymrwymiad y mae'r Llywodraeth hon yn ei roi i'r diwydiant dur yma yng Nghymru.
A gaf fi ddiolch i Dai Rees am ei gwestiwn ac fel arfer, am ei angerdd yn siarad dros weithfeydd dur a haearn Cymru ledled y wlad? Rwy'n mynd i sôn am nifer o bwyntiau pwysig iawn y mae wedi'u codi, gan gynnwys buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a rôl Llywodraeth y DU, ond yn gyntaf, o ran unrhyw gymylau llwyd ar y gorwel, a gaf fi ddweud ein bod mewn lle gwahanol i'r hyn roeddem ynddo yn 2016? Nid ydym yn ôl yn yr un sefyllfa ag yn 2016, ac mae hynny i raddau helaeth o ganlyniad i'r buddsoddiad a gynigiodd Llywodraeth Cymru i Tata yn syth, ac mae Tata wedi defnyddio peth ohono ac wedi darparu buddsoddiad cyfatebol gan Tata, i sicrhau bod y gwaith ym Mhort Talbot, yn bennaf, yn fwy effeithlon a chynaliadwy. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol na wneir unrhyw benderfyniadau brysiog, ac roedd hyn yn rhywbeth a bwysleisiais wrth Tor Farquhar pan siaradais ag ef ddydd Gwener. Roedd yn amlwg yn neges a ddaeth oddi wrth y cyngor gwaith Ewropeaidd hefyd, ddydd Gwener. Fy mwriad yw teithio i'r Iseldiroedd i siarad â swyddogion gweithredol i gadarnhau'r neges na wneir unrhyw benderfyniadau brysiog a hefyd fod ôl troed dur Ewrop yn ddiogel ac na chaiff ei ddileu, o ran Tata.
Rwy'n mynd i symud ymlaen i grybwyll rôl Llywodraeth y DU. Roedd Dai Rees yn iawn i nodi'r angen pwysig am fargen sector ar gyfer dur. Dyma fater a godais gyda Greg Clark pan siaradais ag ef ddydd Llun. Yn amlwg, mae angen bargen sector a all arwain at fuddsoddiad sylweddol yn y sector. Mae'n galw am gyllid gan Lywodraeth y DU, ac mae hefyd yn galw am gyllid gan y sector ei hun. Drwy weithio gyda'n gilydd, rwy'n gobeithio y gallwn sicrhau bod cytundeb sector yn cael ei ddarparu. Ond ni fydd hynny'n ddigon ynddo'i hun. Ceir heriau clir ac uniongyrchol mewn perthynas â phrisiau ynni ac mae angen i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â hwy. Er fy mod yn croesawu'r cyhoeddiad yng nghyllideb 2018 ynglŷn â chronfa drawsnewid ar gyfer ynni diwydiannol, ni fydd hynny ynddo'i hun yn datrys yr anwadalrwydd o fewn y marchnadoedd ynni, ac ni fydd ychwaith yn cael gwared ar y prisiau anghymesur o uchel y mae cwmnïau ynni-ddwys yng y DU yn gorfod eu talu. Felly, rhaid i Lywodraeth y DU wneud mwy ar y mater hollbwysig hwn.
O ran y gefnogaeth a roesom ac y byddwn yn parhau i'w rhoi, gallaf sicrhau'r Aelod ein bod yn barod i helpu mewn unrhyw ffordd, yn union fel y dywedasom y byddem yn ei wneud yn ôl yn 2016. Rydym wedi cynnig £21 miliwn hyd yma i Tata, ar gyfer amrywiaeth o weithredoedd a rhaglenni moderneiddio, gan gynnwys hyfforddiant sgiliau ac yn bwysig, ymchwil ar gyfer datblygu, fel y nododd yr Aelod. Wrth symud ymlaen, mae'r strategaeth ar gyfer dur wedi'i chynnwys yn y cynllun gweithredu economaidd. Rydym am gefnogi diwydiannau yfory drwy sicrhau eu bod yn cael eu datgarboneiddio, fod buddsoddiad trymach mewn ymchwil a datblygu, a ffocws cryfach ar gyfleoedd allforio. Drwy brism y contract economaidd a'r galwadau i weithredu, byddwn yn sicrhau bod diwydiannau'r dyfodol yn rhai modern a chystadleuol. Ond er mwyn gwneud hynny yn y ffordd fwyaf effeithiol, mae angen i ni sicrhau bod y busnesau eu hunain yn barod i fuddsoddi. Dyna pam mai fy neges glir i Tata yw: parhewch â'r buddsoddiad—nid ym Mhort Talbot yn unig, lle mae ei angen yn ddirfawr, ond ar draws yr ystâd gyfan yng Nghymru, ac yn Lloegr yn wir.
A gaf fi ddweud diolch am ein sicrhau nad ydym yn ôl yn yr un sefyllfa ag yr oeddem ynddi yn 2016? Rwy'n credu bod y buddsoddiad yn y ffwrnais chwyth a diddordeb y cwmni mewn cynhyrchu mwy o'i ynni ei hun yn arwydd da o hynny. Un neu ddau o gwestiynau'n unig oedd gennyf, oherwydd mae gan fy nghyd-Aelod Russell gwestiynau hefyd. Hoffwn ailadrodd rhai o'r cwestiynau a ofynnais pan oedd hi'n edrych yn debygol iawn y byddai'r uno neu'r gyd-fenter yn digwydd. Un o'r pethau a ofynnais ar y pryd oedd: beth sy'n debygol o ddigwydd o ran ymchwil a datblygu? Credaf efallai eich bod wedi ateb y cwestiwn hwnnw wrth ymateb i David Rees. Ar y pryd—rwy'n meddwl mai ymateb i gwestiwn brys neu gwestiwn amserol gan Helen Mary a wnaethoch—fe ddywedoch chi y byddech yn dosbarthu nodyn ynglŷn ag amodoldeb y telerau sydd wedi'u cynnig i Tata eisoes. Ar y pryd, roeddem yn gofyn, 'Wel, a fyddant yn gwneud cais i gael menter ar y cyd?' Ond nid wyf yn meddwl ein bod wedi cael y nodyn hwnnw eto, ac rwy'n meddwl y byddai'n ddefnyddiol, yn bennaf oherwydd y bydd yn ein hatal rhag gofyn yr un cwestiwn drosodd a throsodd.
O ran yr egwyddor fy mod yn gofyn yr un cwestiynau ag y buaswn wedi eu gofyn pe bai uno wedi digwydd, fe wnaethoch chi ddweud ar y pryd eich bod yn gobeithio y byddai'r cytundeb cyflogaeth yn cael ei ymestyn i 2026 gyda'r gyd-fenter. Os na fydd hynny'n digwydd, a fyddech yn dal i geisio'r estyniad hwnnw gan Tata fel y mae—ar yr un telerau, yn ôl pob tebyg? Fe sonioch chi hefyd am natur gystadleuol dur Cymru—mai'r hyn y chwiliwn amdano yw rhywbeth sy'n effeithlon ac yn gynhyrchiol. Mae'n debyg mai'r hyn rwy'n ei ofyn yw, a oes cynllun wrth gefn yma? Os nad yw'r uno'n digwydd, credaf mai'r hyn rwyf eisiau yw rhyw fath o sicrwydd ynglŷn â beth fyddai'n digwydd pe na bai'n digwydd, hynny yw, a oes unrhyw gytundebau esgrow wedi'u llunio ynghylch ymestyn cytundeb cyflogadwyedd? A oedd unrhyw beth arall wedi'i wneud ar ffurf ddrafft, os mynnwch, ac os na fydd yr uno'n digwydd, a oes sicrwydd na fyddwn yn cael ein taflu'n ôl ar unwaith i sefyllfa lle'r oedd pawb ohonom yn gofyn, 'Beth nesaf?' Nawr, rwy'n sylweddoli ei bod braidd yn rhy gynnar i ofyn y cwestiwn hwnnw, ond buaswn wedi hoffi bod yn siŵr fod yna gynllun wrth gefn. Mae'n debyg mai dyna rwy'n ei ofyn. Rwy'n credu mai dyna'r cyfan rwyf am ei ofyn ar hyn o bryd. Byddaf yn gwrando ar yr hyn y mae'r Aelodau eraill yn ei ddweud hefyd—yn fwyaf penodol, rwy'n tybio y gallai Trostre gael sylw yng nghwestiynau pobl eraill hefyd.
Roeddwn yn awyddus i ddeall beth fyddai'r cynllun amgen pan siaradais â Tor Farquhar ddydd Gwener, a rhoddodd sicrwydd imi mai'r un yw'r nod yn y pen draw, a bydd yn parhau yr un fath, sef sicrhau y gwneir digon o fuddsoddiad, yn enwedig ym Mhort Talbot, er mwyn rhoi dyfodol cynaliadwy a chryf i ddur a haearn o Gymru, ac wrth gwrs, mae gennym rôl i'w chwarae yn hynny. Rydym eisoes wedi chwarae rhan yn hynny; rhaid i Lywodraeth y DU chwarae rhan hefyd, a dyna'r cynllun o hyd. Felly, nid yw'n gwbl angenrheidiol cael cynllun wrth gefn ar yr adeg hon gan fod Tata yn dal i fod mewn sefyllfa i fynd ar drywydd cynhyrchiant cynaliadwy.
O ran yr amodoldeb sydd ynghlwm wrth ein cymorth, mae'n flin gennyf nad ydych wedi cael nodyn. Rwy'n eich sicrhau bod y manylion y gallwn eu darparu i chi yn cael eu rhoi mewn modd amserol, ond bydd yr amodoldeb ynglŷn â chyflogaeth yn parhau, ni waeth beth fydd yn digwydd gyda'r uno, a chredaf ei bod yn gwbl briodol ein bod yn gosod amodau llym. Ac er bod Tata wedi gallu cynnig pecyn sylweddol hyd yn hyn, mae'n iawn fod yna barodrwydd i ymrwymo i gyflogi staff ymroddgar, teyrngar a medrus am nifer dda o flynyddoedd i gyd-fynd â gweddill yr arian a gyfrannwyd gennym.
Hoffwn sôn am eich sylwadau y byddwch yn mynd i'r Iseldiroedd i siarad â swyddogion gweithredol Tata yno ac i ofyn ichi pa drafodaethau a gawsoch hyd yma gyda gweithfeydd Tata y tu allan i'r DU, nid ar lefel Ewropeaidd yn unig, ond yn fyd-eang hefyd. Ceir erthygl ar Bloomberg lle dyfynnwyd prif swyddog cyllid Tata yn dweud y bydd Tata yn symud ei ffocws i farchnad ddur India, ac na ddylai'r gwaith Ewropeaidd dynnu adnoddau oddi wrth yr ehangu yn India, gan fynd mor bell â dweud y byddai angen gwerthu asedau er mwyn gwneud busnes yn fwy proffidiol, gan greu mwy fyth o amheuaeth ynglŷn â dyfodol dur Cymru. Yn sicr, buaswn yn disgrifio hynny fel cymylau go ddifrifol ar y gorwel.
Nawr, mae methiant yr uno wedi golygu wrth gwrs y bydd y gwaith Ewropeaidd yn fwy dibynnol mewn ffordd ar adnoddau'r gwaith yn India, sy'n golygu, yn y dyfodol agos, y gallai neu y bydd yn rhaid i Tata edrych ar ddadfuddsoddi yn Ewrop yn seiliedig ar y blaenoriaethau a nodir gan y prif swyddog ariannol. Felly, hoffwn gael eich sylwadau ar hynny. Mae Tata hefyd wedi datgan y bydd yn edrych ar bartneriaethau gyda chwmnïau nad ydynt yn rhai Ewropeaidd. A gaf fi ofyn pa drafodaethau a gawsoch ynglŷn â'r posibilrwydd hwnnw?
O ran partneriaethau â gwledydd nad ydynt yn rhai Ewropeaidd, rydym wedi holi ynglŷn ag unrhyw ddewis amgen yn lle'r gyd-fenter a'r uno arfaethedig. Mae'n fater masnachol i Tata, wrth gwrs, ond rydym yn awyddus i ddeall pa ddewisiadau eraill sydd ar gael, a pha ddiddordeb a allai fod. Dyna un o'r rhesymau pam rwy'n awyddus i fynd i'r Iseldiroedd i siarad ag uwch-swyddogion gweithredol. Mae symud y ffocws oddi ar Ewrop a thuag at India yn golygu y bydd y teulu dur yn y Gymuned Ewropeaidd yn gweithredu'n fwy gwahaniaethol yn y dyfodol o bosibl, a dyna pam rwy'n credu bod ymgysylltu ar lefel Ewropeaidd yn hollol gywir. Mae gennym gysylltiadau da eisoes â Ratan Tata a chydag uwch-swyddogion gweithredol yn India. Rydym yn barod i fynd i Mumbai os bydd angen. Am y tro y cyngor a gawsom gan Tata yw sicrhau ein bod yn ymgysylltu'n drylwyr ar lefel Ewropeaidd. Dyna a wnawn, a dyna y byddaf yn parhau i'w wneud.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod, Dai Rees, am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn? Rwyf hefyd yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i'r diwydiant dur—ymrwymiad parhaus i'r diwydiant dur. Ni allwn fforddio sefyllfa lle'r ydym yn colli swyddi yn y diwydiant dur fel y gwnaethom yn Shotton yn y 1980au. Mae wedi bod yn daith gyfnewidiol iawn i weithwyr a'u teuluoedd, felly unwaith eto rwy'n croesawu ymrwymiad y Gweinidog i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt ledled Cymru.
Weinidog, a gaf fi eich annog i barhau â'r gwaith a wnewch i sicrhau nad ydym yn colli buddsoddiad yma, ac eistedd gyda'r Aelodau sydd â dur yn eu hetholaethau ar ôl eich ymweliad ymgysylltu â'r Iseldiroedd efallai? Hefyd, i ganolbwyntio ar ychydig o bwyntiau a grybwyllwyd yn gynharach yn y cwestiwn hwn, mae angen i Lywodraeth y DU wneud mwy i fynd i'r afael â'r problemau sylfaenol sy'n wynebu diwydiant dur y DU, felly a fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi mai'r costau ynni uchel sy'n gadael cynhyrchwyr dur o fewn y DU a'r marchnadoedd Ewropeaidd—? Maent yn cystadlu â'r farchnad Ewropeaidd, gan adael diwydiant dur y DU gydag un llaw wedi'i chlymu y tu ôl i'w gefn.
Yn olaf, Weinidog, a gytunech fod caffael yn bwysig hefyd? Mae gennym brosiectau o fewn y DU, fel llongau cynorthwyol newydd y Llynges Frenhinol, sy'n rhoi cyfle yma i ni yng Nghymru, yma yn y DU, i ddefnyddio ein dur. Yn gyffredinol, Weinidog, mae angen inni wneud mwy. Mae angen i'r ansicrwydd i deuluoedd y gweithwyr dur ddod i ben, ac mae angen i bawb ohonom gydweithio'n agosach i sicrhau bod cynhyrchiant dur yn llwyddiant yng Nghymru, fel y gall fod, fel y bu yn y gorffennol, ac fel y mae angen iddo fod ar gyfer y dyfodol.
A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am ei gyfraniad ac am ei gwestiynau? Gallaf sicrhau'r Aelod fy mod yn parhau i fod â diddordeb brwd ym mhob un o safleoedd Tata ledled Cymru, a bore yfory, byddaf yn ymweld â Tata Shotton i gyfarfod â chynrychiolwyr undebau lleol, a swyddogion gweithredol yn y gwaith wrth gwrs. Credaf y gallai fod yn adeg amserol i'r grŵp dur trawsbleidiol ailymgynnull yma yn y Cynulliad i ystyried y gwahanol faterion sy'n cael eu trafod y prynhawn yma, a chytunaf yn llwyr â'r Aelod mai costau ynni uchel yw'r brif her, nid yn unig i weithfeydd Tata, ond i'r holl gymuned ddur ledled y Deyrnas Unedig, ac yn wir, i nifer enfawr o gwmnïau ynni-ddwys. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod y DU yn gweithredu ar gostau ynni anwadal, sy'n aml yn eithriadol o uchel, ac sy'n gosod busnesau ym Mhrydain dan anfantais gystadleuol.
Mae Jack Sargeant hefyd yn gwneud pwynt pwysig ynglŷn â chaffael ac wrth gwrs, ceir rhai prosiectau seilwaith mawr ar lefel y DU, ac ar lefel Cymru yn wir, yr hoffem eu gweld yn defnyddio dur Cymru. O'm rhan ni yma yng Nghymru, maent yn cynnwys prosiectau adeiladu ffyrdd, ac maent yn cynnwys y metro hefyd wrth gwrs. Ac yn fy marn i, ar lefel y DU, dylai prosiectau fel HS2 ddefnyddio dur a gynhyrchwyd yma yng Nghymru.
Weinidog, mae'n adeg ofidus i'r diwydiant dur ym mhob rhan o Gymru, ac yn amlwg, rydych chi'n pryderu am holl weithfeydd Tata ledled y wlad, fel y dywedoch chi. I mi, yn amlwg, mae Llan-wern a gwaith Orb yn peri pryder arbennig am eu bod yn darparu llawer o swyddi o ansawdd uchel sy'n talu'n dda yn lleol, ac mae swyddi eraill yn y gadwyn gyflenwi ac yn y blaen yn dibynnu arnynt. Mae gwaith Orb ar werth ar hyn o bryd, sy'n ei roi mewn sefyllfa benodol. Hoffwn gael sicrwydd gennych, Weinidog, y byddwch yn ystyried y gweithfeydd hynny'n llawn yn eich gwaith gyda Tata, gyda'r undebau llafur, gyda Llywodraeth y DU, gyda gwleidyddion lleol a phawb arall sydd â budd yn y materion hyn. Ac os ydych yn cyfarfod mewn gweithfeydd yng Nghymru i drafod y materion hyn, Weinidog, buaswn yn ddiolchgar iawn pe gallech gyfarfod yn fy etholaeth innau hefyd.
Buaswn yn falch o gyfarfod â'r Aelod yn y gwaith y mae'n ei gynrychioli. Gofynnais gwestiynau i Tata ddydd Gwener ynglŷn â phob un o'r safleoedd, a dywedwyd wrthyf fod gwerthiant gwaith Orb yn parhau. Mae'n sefyllfa wahanol i Drostre—nid yw'r broses o waredu'r safle penodol hwnnw'n digwydd os nad yw'r uno'n mynd yn ei flaen. Ond byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am bob un o'r safleoedd pan gaf y wybodaeth gan fy swyddogion a chan Tata, a phryd bynnag sy'n bosibl, byddaf hefyd yn ymdrechu i ymweld â gweithfeydd dur yn etholaethau unrhyw un ohonoch.
Mae'r Llywydd wedi nodi bod yn rhaid i mi fod yn fyr, ac mae nifer o gwestiynau wedi'u gofyn ynglŷn ag ynni y prynhawn yma, ond ynglŷn â'r modd y gall Llywodraeth Cymru helpu a chefnogi'r diwydiant o ran ardrethi busnes a chymorth gydag ardrethi busnes, buaswn yn ddiolchgar am unrhyw ddiweddariad ar hynny. Hefyd, a oes gennych unrhyw syniad sut y gallai'r cyhoeddiad hwn effeithio ar y buddsoddiad masnachol i sicrhau dyfodol hirdymor i safle Trostre hefyd?
Mewn perthynas ag ynni, wrth gwrs, mae gan Lywodraeth y DU rôl enfawr i'w chwarae fel y dywedwyd, ond gwn hefyd fod yr Aelodau'n awyddus inni ymateb i'r argyfwng hinsawdd y cafwyd datganiad yn ei gylch yn ddiweddar. Yn seiliedig ar yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, rwy'n credu ei bod hi'n werth dweud ei bod yn amlwg iawn y byddai o fudd inni sicrhau nad ydym yn colli cynhyrchiant dur, hyd yn oed o ystyried ei fod yn gyfrannwr carbon trwm. Pam felly? Wel, y rheswm am hyn yw bod y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yn datgan yn glir fod senarios ar gyfer lleihau allyriadau diwydiannol y DU yn ddibynnol ar gadw ein sylfaen ddiwydiannol a'i datgarboneiddio, yn hytrach na'i cholli i wlad arall lle na fyddai'n cael ei datgarboneiddio o bosibl. Ac felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn chwarae ein rhan, bob un ohonom, a sicrhau bod y diwydiannau cyfrannol trymach yn ein gwlad yn cyfrannu llai yn y dyfodol, drwy fuddsoddi.
Mae ardrethi busnes wrth gwrs yn fater sy'n perthyn i gylch gwaith fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod, y Gweinidog cyllid, ac rwy'n siŵr y bydd yn barod ac yn frwdfrydig i ymateb i gwestiynau ar y mater. Y peth pwysicaf i Tata, ac mae'r Aelod yn iawn i nodi diddordeb masnachol a hyfywedd masnachol, y peth pwysicaf i Tata yw bod Tata Steel Europe yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni'r cynllun a oedd bob amser ar waith, sef sicrhau digon o fuddsoddiad i foderneiddio'r gweithfeydd a'u gosod ar sail sefydlog, hirdymor.
Diolch i'r Gweinidog. Mae'r ail gwestiwn amserol gan Rhun ap Iorwerth.