5. Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Ganolfan Fyd-eang ar Ragoriaeth Rheilffyrdd yng Nghymru

– Senedd Cymru am 4:12 pm ar 21 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:12, 21 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw ddatganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â'r Ganolfan Fyd-eang ar Ragoriaeth Rheilffyrdd Cymru. Galwaf ar Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ym mis Mehefin 2018, dywedais wrth yr Aelodau fod yr achos strategol amlinellol dros gael canolfan fyd-eang o ragoriaeth rheilffyrdd yng Nghymru wedi'i gymeradwyo, ynghyd â chyllid ar gyfer datblygu prosiectau yn y cam nesaf. Hoffwn yn awr roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd sylweddol a fu hyd yn hyn. Rwy'n falch o ddweud y bydd sesiwn friffio dechnegol i Aelodau yn ystafell gynadledda B ar ddiwedd y datganiad hwn.

Yn unol â'r agwedd newydd tuag at ddatblygu economaidd y mae ein cynllun gweithredu economaidd yn ei nodi, mae'r prosiect hwn yn mynd â ni i gyfeiriad newydd iawn. Yn hytrach nag ymateb i anghenion busnesau unigol, mae hyn yn ateb i broblem ar draws y diwydiant. Fel yr ydym ni wedi'i wneud gyda'r Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch a gyda'r sefydliad ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd, fy nod yw creu cyfleuster a fydd yn denu hoelion wyth byd busnes ac yn eu hannog i fwrw gwreiddiau dwfn a gwerthfawr yma yng Nghymru.    

Fel yn achos yr enghreifftiau eraill yr wyf i wedi'u rhoi, dechreuwyd y prosiect hwn mewn ymateb i'r galw clir gan y diwydiant. Yn wir, mae'r angen am gyfleuster profi deinamig o safon fyd-eang i'r diwydiant rheilffyrdd, wedi ei leoli yn y Deyrnas Unedig, wedi cael ei drafod ers 15 mlynedd o leiaf, ond yn anffodus, ni fu fawr ddim datblygiad. Mae ein dadansoddiad yn awgrymu na fu cynnydd am o leiaf dri rheswm: yn gyntaf, diffyg arweinyddiaeth, diffyg safle mawr iawn gyda'r caniatâd priodol, ac yn drydydd, anawsterau a chymhlethdod cynhenid datblygu achos busnes argyhoeddiadol mewn maes lle mae cymaint o wahanol randdeiliaid.  

Mae ein hymateb i'r heriau hyn wedi dangos arweinyddiaeth glir ac effeithiol, ac rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi gwneud cynnydd gwirioneddol mewn llai na 12 mis drwy ddatblygu prosiect credadwy y gellir ei gyflawni, lleihau'r peryglon sydd ynghlwm â'r cyfle, a gosod y sylfeini ar gyfer cynnig y gellir buddsoddi ynddo mewn partneriaeth â diwydiant. Wrth gwrs, mae llawer i'w wneud eto.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:15, 21 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Mae ein prosiect bellach yn canolbwyntio'n llawn ar y safle a ffefrir yng Nghwm Dulais, sef Onllwyn/Nant Helen, ac mae wedi bod drwy sawl cam peirianyddol yn ystod y misoedd diwethaf i lywio'r prif gynllun sy'n datblygu. Mae'r cynigion presennol, a fydd yn destun ymchwil, astudiaethau asesu effaith amgylcheddol ac ymgynghori pellach, yn cynnwys: oddeutu 7 cilomedr o drac prawf wedi'i drydaneiddio, gan roi uchafswm cyflymder llinell o 110 mya; cyfleuster profi seilwaith ar wahân ac unigryw sy'n cynnwys llwyfan a gorsaf; cyfleuster cynnal a chadw mawr gyda chyfarpar; storfeydd diogel ar gyfer 400 o gerbydau rheilffordd; cyfleuster dadgomisiynu; a chanolfan ymchwil a datblygu ac addysg, a fydd yn cynnwys labordai, gofod swyddfa a chyfleusterau hyfforddi mewn awyrgylch byrlymus ar wahan i'r rhwydwaith gweithredol.

Er y gallai dull gweithredu fesul cam fod yn ddewis doeth maes o law, gyda rhai o'r nifer o elfennau integredig yn cael eu darparu ar amserlen fwy datblygedig nag eraill, byddai'r cyfleuster hwn gwerth oddeutu £100 miliwn yn cyflogi tua 400 o bobl yn ystod y cyfnod adeiladu, a thros 150 o bobl yn barhaol pan fydd yn gwbl weithredol ym mhob agwedd. Mae'n werth nodi, Dirprwy Lywydd, bod prif gyfleuster profion yr Almaen, er iddi gael ei sefydlu 20 mlynedd yn ôl, bellach yn cyflogi 500 o staff parhaol a 100 o beirianwyr achlysurol eraill sy'n gweithio ar brosiectau penodol. Yn gryno, mae'r gallu sbarduno ychwanegol a'r cyfleoedd ar gyfer y dyfodol yn sylweddol.

Rwyf wedi dweud erioed y bydd angen partneriaid cryf yn y sectorau cyhoeddus a phreifat i gyflwyno'r prosiect hwn, ac fe hoffwn i gyfeirio at y ddau ohonyn nhw heddiw. Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod y berthynas waith anffurfiol gref a chefnogol rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol cyfagos Powys a Chastell-nedd Port Talbot wedi'i ffurfioli mewn cytundeb menter ar y cyd. Mae'r diben yn glir: gweithio mewn partneriaeth i ddarparu dyfodol y tu hwnt i waith glo a fyddai'n fodd o adfer y safle yn briodol—gofyniad statudol a oruchwylir gan Lywodraeth Leol—ynghyd â safle a gaffaelir yn y pen draw ar y sail y caiff ei baratoi'n addas ar gyfer adeiladu cyfleuster profi. Bydd hyn yn amlwg yn gofyn am ffordd ymlaen y cytunwyd arni gyda'r tirfeddiannwr presennol, Celtic Energy. Mae trafodaethau technegol cychwynnol ar y gweill, a dywedwyd wrthyf fod y trafodaethau hynny'n gadarnhaol ac yn adeiladol ar bob ochr.

Mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn JVA hefyd yn cydweithio i ddatblygu a chyflwyno cais cynllunio ffurfiol ar gyfer y prosiect. Mae gwaith sylweddol wedi'i wneud eisoes, ac mae arolygon o'r effaith amgylcheddol wedi'u comisiynu. Rwyf wedi cael gwybod y dylai cais cynllunio ffurfiol fod yn barod i'w gyflwyno erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon neu'n gynnar yn 2020. Byddwn, wrth gwrs, yn ymgynghori'n eang â'r gymuned leol a rhanddeiliaid eraill ar y cynigion cyn cyflwyno'r cais cynllunio.

Hoffwn ddiolch i'r awdurdodau lleol yr ydym ni'n cydweithio â nhw am eu hymdrechion hyd yma, a'u hannog i ddyblu eu hymdrechion, gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru drwy'r cam nesaf yn y gwaith o ddatblygu'r prosiect.

Mewn mannau eraill yn y sector cyhoeddus mae diddordeb a chefnogaeth sylweddol i'n cynlluniau prosiect. Er enghraifft, yn Network Rail, mae'r gallu i brofi seilwaith y gellid ei ddarparu yng Nghymru yn agwedd arbennig ar drafodaethau cadarnhaol a pharhaus. Hoffwn nodi bod gan Network Rail raglen ymchwil a datblygu sylweddol ar y gweill rhwng 2019 a 2024, ac rydym ni'n ceisio ymgysylltu â Network Rail i ddod â rhan sylweddol o'r rhaglen honno yn rhan o'r ganolfan ragoriaeth.

Rwyf hefyd yn falch o nodi bod Rhwydwaith Ymchwil ac Arloesedd Rheilffyrdd y DU ac Innovate UK yn awyddus i weld ein huchelgais yn cael ei gwireddu, gyda chyfleoedd yma i gydweithio a chyd-ymwneud â phrifysgolion yng Nghymru a'r DU ehangach mewn modd fydd yn dwyn ffrwyth sylweddol. 

Dirprwy Lywydd, rwyf hefyd wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, a hefyd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yn gofyn am eu cefnogaeth. Mae'r ganolfan ragoriaeth yn cyd-fynd yn agos ag amcanion polisi Llywodraeth y DU yn ogystal â rhai Llywodraeth Cymru, yn enwedig nodau'r 'Strategaeth Ddiwydiannol: Bargen y Sector Rheilffyrdd', a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy'n anelu at:

'trawsnewid y sector rheilffyrdd drwy fynd ati i gynyddu'r defnydd o dechnoleg ddigidol, hybu cynhyrchiant, gwella'r gwasanaeth a dderbynnir gan y rhai sy'n defnyddio ein rheilffyrdd a meithrin sgiliau gweithlu'r DU er mwyn manteisio ar y cyfleoedd hynny'.

Dyma'n union yr hyn y bydd y ganolfan ragoriaeth yn ei wneud, a'r diwydiant rheilffyrdd sy'n dweud hynny.

Drwy gydol 2019, mae tîm y prosiect hefyd wedi bod yn rhan o broses eang o ymgysylltu â'r diwydiant preifat a chynnal profion marchnad cychwynnol. Mae'r ymateb gan y diwydiant rheilffyrdd wedi bod yn gadarnhaol iawn ar y cyfan. Mae nifer o gwmnïau rheilffyrdd mawr, yn y DU ac yn rhyngwladol, wedi mynegi cryn ddiddordeb mewn ymuno â'r bartneriaeth a'r prosiect fel partneriaid neu fel buddsoddwyr. Ni fydd y prosiect hwn yn cael ei wireddu heb geisio cydweithio mewn difrif calon gyda'r diwydiant. Mae swyddogion bellach yn ystyried y ffordd fwyaf priodol o ffurfioli dull o gydweithio gyda'r diwydiant rheilffyrdd yn ei gyfanrwydd a fydd yn galluogi'r prosiect i fanteisio ar yr arbenigedd gorau sydd ar gael.

Y pwyslais yn y lle cyntaf fydd y dasg angenrheidiol o fireinio ymhellach y pwyslais o gael achos busnes creiddiol a sicrhau yr achubir ar bob cyfle yn effeithiol. Os ydym yn llwyddiannus yn yr ymdrech hon, ac nid oed unrhyw sicrwydd ar hyn o bryd, bydd yr agweddau ariannol, masnachol, cyfalaf a gweithredol yn cael eu diffinio'n glir a, gobeithio, yn argyhoeddi.

Felly, mae fy neges i'r diwydiant rheilffyrdd a'n holl randdeiliaid heddiw yn un syml. Diolch am eich ymwneud cadarnhaol hyd yn hyn. Cytunwch â mi nawr y dylai'r blynyddoedd di-ri o drafodaethau di-ben-draw ddod i ben gyda hyn. Mae'n bryd symud y tu hwnt i'r sefyllfa bresennol o gyboli a bodloni ar bethau. Cael canolfan rhagoriaeth rheilffyrdd byd-eang yma yng Nghymru yw'r cyfle gorau mewn cenhedlaeth i sicrhau ased rhyngwladol yma yn y DU a fydd yn sicrhau manteision enfawr i'r diwydiant rheilffyrdd am ddegawdau i ddod. Yn bwysig iawn, i bobl Cymru, mae hwn yn gyfle i greu swyddi o ansawdd uchel ac i adfywio'r economi leol. Parhewch i weithio gyda ni a gadewch i ni gyflawni hyn gyda'n gilydd.

Photo of Russell George Russell George Conservative 4:22, 21 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Cytunaf â chi ei fod yn brosiect uchelgeisiol, a fydd, rwy'n credu, yn creu adnodd rhagorol i'r diwydiant rheilffyrdd yma yng Nghymru ac yn cyfrannu at bwysigrwydd economaidd diwydiant rheilffyrdd y DU, yn enwedig yng nghyd-destun Brexit, o ystyried y ffaith bod y prif gyfleusterau Ewropeaidd ar gyfer profi seilwaith a cherbydau ar y cyfandir.  

Rwy'n arbennig o falch bod fy sir fy hun, Powys, yn cydweithio ar y prosiect hwn, gyda Chastell-nedd Port Talbot yn bartneriaid hefyd. Darparwyd datganiad ysgrifenedig gennych chi am hyn y llynedd. A gaf i ofyn pa gynnydd a fu gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi ac i gryfhau gwaith academaidd, ymchwil a datblygu yma yng Nghymru? Yn ail, fe wnaethoch chi ddweud eich bod am ystyried ymhellach sefydlu rhaglen ymchwil a chreu cadair newydd ar gyfer arloesi ym maes peirianneg rheilffyrdd mewn partneriaeth â'n prifysgolion yng Nghymru a phrifysgolion eraill ledled y DU, felly byddwn yn ddiolchgar clywed am y cynnydd a fu yn hynny o beth.  

O ran y cam nesaf ar ddatblygu achosion busnes, a gaf i ofyn am ragor o wybodaeth am ganfyddiadau'r achos busnes sy'n cael ei ddatblygu a'r amserlen ar gyfer cyhoeddi hynny? A allech chi hefyd ddarparu manylion am faint y buddsoddiad, ffynonellau cyllid y sector cyhoeddus a phreifat, a gwybodaeth am bartneriaid y sector cyhoeddus a'r diwydiant rheilffyrdd a fydd yn rhan o'r ganolfan ac sy'n gysylltiedig â hi? Sylwais ichi grybwyll yn eich datganiad fod nifer o gwmnïau rheilffyrdd mawr wedi mynegi cryn ddiddordeb mewn ymuno â'r prosiect fel partneriaid neu fuddsoddwyr. Felly, efallai y gallech chi ddweud ychydig yn fwy am hynny.

Ac yn olaf, a allech chi ymhelaethu ynghylch beth fydd y manteision economaidd cymdeithasol ehangach a ddisgwylir ar gyfer yr ardal a sut mae'r cynigion hynny'n berthnasol i feysydd polisi ehangach fel sgiliau, y cynllun gweithredu economaidd ac adfywio?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:24, 21 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau, a hefyd am ei gefnogaeth a'i anogaeth o ran y prosiect pwysig hwn? Rwy'n credu, mae'n deg dweud, bod cefnogaeth drawsbleidiol i'r prosiect, ac mae cryn gyffro drwy'r Siambr ac yn wir yn y rhanbarth a fydd yn elwa o'r ganolfan ragoriaeth hon a fydd gyda'r gorau yn y byd.

Soniodd Russell am y canolfannau Ewropeaidd. Wrth gwrs, mae dau gyfleuster prawf, yn y Weriniaeth Tsiec ac yn yr Almaen ar hyn o bryd. Mae'r ddau wedi bodoli am gyfnod sylweddol. Mae'r diwydiant ledled Ewrop, ond yn enwedig yn y DU, wedi dweud mai dyma'r adeg i ddatblygu cyfleuster newydd, ac mae'r safle a ddynodwyd gennym ni yng Nghymru yn gwbl addas i'r hyn a fydd y gyntaf o'i math yn y DU ac, yn ôl pob tebyg, y cyfleuster gorau o'i fath yn Ewrop, o bosib ar y blaned.

Rydym ni eisoes wedi buddsoddi £1 miliwn i ddatblygu'r cynigion. Byddwn yn gwneud cynnydd pellach yn rhan o'r cam nesaf i asesu faint y bydd y sector preifat yn ei fuddsoddi, ond ar sail ein profion marchnad cychwynnol hyd yma, credwn y bydd holl gost adeiladu'r prosiect yn dod o'r sector ei hun. Yn amlwg, bydd sefydliadau academaidd yn dangos diddordeb, a bydd creu cadair peirianneg rheilffyrdd yn rhan o elfen ymchwil a datblygu'r prosiect a amlinellais yn fy natganiad.

Gobeithio, yn ystod y sesiwn friffio sydd i ddilyn, y caiff canfyddiadau'r achos busnes amlinellol eu rhannu gydag Aelodau, ond byddaf wrth gwrs yn dilyn hyn gyda rhagor o fanylion maes o law.

A holodd Russell George hefyd am fuddion cymdeithasol ac economaidd ehangach y prosiect hwn a sut mae'n cyd-fynd yn dda â'r cynllun gweithredu economaidd a chyda'n polisi sgiliau. Wel, yn gyntaf oll, gyda'r cynllun gweithredu economaidd, rydym ni wedi symud oddi wrth y pwyslais ar gymorth busnes unigol i edrych ar sut y gallwn ni greu ffyrdd o ddenu buddsoddiad a chyfleusterau sy'n atebion anghenion y diwydiant cyfan. Cyfeiriais at y sefydliad ymchwil gweithgynhyrchu uwch yn y gogledd-ddwyrain, a fydd yn canolbwyntio i raddau helaeth ar gyfansoddion a deunyddiau ysgafn ar gyfer y sectorau awyrofod a modurol. Dyna ichi M-SParc hefyd, sy'n cefnogi dyheadau'r ymgyrch Ynys Ynni ar Ynys Môn. Mae'r sefydliad ymchwil lled-ddargludyddion cyfansawdd yn y clwstwr yn enghraifft arall yn y de-ddwyrain. Gallwn grybwyll hefyd y cyfleuster ymchwil a datblygu dur ym Mae Abertawe, a chyfleuster arall o bwys sydd i'w chwblhau yn fuan iawn yw'r ganolfan gynadledda ryngwladol. Ac, wrth gwrs, o ran y diwydiannau creadigol, roeddem yn cefnogi datblygiad Wolf Studios, sydd eto'n un o'r cyfleusterau gorau o'i fath ar gyfer y sector arbennig hwnnw.

Mae'r cyfleusterau atyniadol hyn wedi'u cynllunio i greu buddsoddiad tymor hir yng Nghymru. Fe'u cynlluniwyd i asio'n berffaith â strategaeth ddiwydiannol y DU yn ogystal â'n polisi sgiliau. Ac, o fewn y tri rhanbarth sy'n llunio adroddiadau blynyddol partneriaethau sgiliau rhanbarthol, mae angen sicrhau bod y llif o ddarpariaeth sgiliau yn cefnogi'r prosiectau atynu hyn. Felly, wrth gwrs, mewn blynyddoedd i ddod, byddwn yn disgwyl i'r cynllun sgiliau blynyddol ar gyfer y rhanbarth a fydd yn elwa fwyaf o'r ymyriad hwn roi sylw i'r angen i sicrhau bod cynifer o bobl yn y rhanbarth hwnnw â phosib wedi dysgu'r sgiliau i weithio yn y cyfleuster prawf.

Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn werth dweud, er ein bod ni wedi amcangyfrif y bydd oddeutu 150 o swyddi parhaol, fod y nifer yn fwy o lawer yn yr Almaen, ac y bydd nifer sylweddol iawn hefyd, rydym ni'n disgwyl y bydd—cannoedd—o is-gontractwyr, gweithwyr allanol ac arbenigwyr y diwydiant yn mynychu'r safle yn rheolaidd iawn, a bydd hynny yn ei dro yn cefnogi datblygiad yr economi ymwelwyr, sydd wrth gwrs yn bwysig iawn i'r ddwy ardal awdurdod lleol sydd wedi ffurfio'r cytundeb cyd-fenter â Llywodraeth Cymru.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:29, 21 Mai 2019

A allaf i groesawu'r datganiad yma ac a allaf i hefyd ddiolch i'r Gweinidog am wneud y datganiad, a hefyd croesawu'r weledigaeth ehangach sydd yma o gael canolfan rhagoriaeth rheilffyrdd yma yng Nghymru? A dŷn ni yn sôn am botensial o fuddsoddiad enfawr yn fan hyn, os am wireddu'r dyhead yna, ac mae'r weledigaeth yna i'w chroesawu'n fawr iawn, achos dŷn ni'n sôn am Onllwyn yn fan hyn, yr Onllwyn ar dop dyffryn Dulais yn fanna, ac mae gwir angen buddsoddiad ac mae gwir angen y swyddi. Felly, yn nhermau materion craffu rŵan—a dwi'n sylweddoli bod yna gyfarfodydd i ddilyn a fydd yn olrhain manylion y prosiect yma i ni fel Aelodau'r Cynulliad, ond yn nhermau ymateb, ac yn nhermau craffu bras nawr ar y datganiad rŷch chi wedi'i gyhoeddi y prynhawn yma, a allwch chi amlinellu rhagor o fanylion ariannol? Hynny yw, yn y bôn, faint o'r risg ariannol ydych chi, fel Llywodraeth Cymru, yn ei rhoi i hyn? Faint o'r arian rydych chi'n gallu ei gyhoeddi heddiw fydd yn dod yn uniongyrchol o goffrau Llywodraeth Cymru i hyn? Dyna'r cwestiwn cyntaf.

Yn nhermau'r posibilrwydd efo Brexit o adael Ewrop heb ddim cytundeb o gwbl, ac yn dilyn y cwestiynau dŷch chi wedi'u cael eisoes gan Russell George, wrth gwrs, mae yna bartneriaeth yn fan hyn efo gwledydd ar gyfandir Ewrop. Pa fath o sgil-effeithiau ydych chi'n eu rhagweld, os bydd yna adael Ewrop heb ddim cytundeb o gwbl, ar y weledigaeth fawr yma o'n blaenau ni y prynhawn yma?

Wrth gwrs, dŷn ni yn croesawu buddsoddiad, achos cefndir hyn i gyd, fel dŷch chi'n gwybod, achos rŷch chi wedi olrhain rhai o'r ffigurau yma eich hunan, ydy'r diffyg buddsoddiad ariannol yn isadeiledd rheilffyrdd Cymru dros y blynyddoedd—mae'r Gweinidog yn gyfarwydd iawn efo hyn. Yn enwedig rhwng 2011 a 2016, fe wnaeth rheilffyrdd Cymru dderbyn dim ond 1 y cant o'r cyllid i wella'r rheilffyrdd, er bod rheilffyrdd Cymru yn ffurfio 11 y cant o rwydwaith y Deyrnas Unedig. Hynny yw, yn y bum mlynedd yna, dim ond £198 miliwn allan o gyllideb o £12.2 biliwn—dim ond y £198 miliwn yna wnaeth rheilffyrdd Cymru dderbyn dros y bum mlynedd. Mae'r sefyllfa yna yn echrydus o wael.

Wrth gwrs, hefyd yn y cyfnod hwnnw roedd rheilffyrdd Cymru wedi cael eu tan-ariannu gan £1 biliwn, tra bod yna buddsoddi llawer mwy yn ardaloedd Lloegr—er enghraifft, £30 biliwn ar Crossrail 2 ac yn y blaen. Mae'n wir i ddweud, pe bai gwariant y pen yng Nghymru ar y rheilffyrdd yn cyd-fynd â gwariant y pen ar y rheilffyrdd yn ne-ddwyrain Lloegr, byddai £5.6 biliwn ychwanegol wedi'i fuddsoddi yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf o dan Lywodraethau Llafur a Cheidwadol y Deyrnas Unedig.

Felly, mae yna golled mewn buddsoddiad ariannol i'w wneud i fyny amdano fe, felly os ydyn ni'n gallu sicrhau canran o beth dŷn ni wedi colli allan arno fe, fel gwlad, dros y blynyddoedd diwethaf yma fel buddsoddiad i'n rheilffyrdd, bydd hynny i'w groesawu. Dyna pam, fel plaid, dŷn ni yn croesawu'r datblygiad yma, achos dŷn ni'n ei weld o fel buddsoddiad positif yn ein rheilffyrdd ni ac yn ein trenau ni, ond yn benodol yn ein rheilffyrdd ni—ein rheilffyrdd ni sydd wedi gorfod dioddef tanwariant ers blynyddoedd maith. Diolch yn fawr.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:33, 21 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i Dai Lloyd am ei gwestiynau a'i gyfraniad. Mae hi, wrth gwrs, yn weledigaeth feiddgar iawn—mae gennym ni uchelgeisiau sylweddol ar gyfer y sector rheilffyrdd yng Nghymru, ynghyd â'r daith o £5 biliwn yr ydym ni wedi dechrau arni gyda Trafnidiaeth Cymru, gan gyflwyno masnachfraint newydd ar gyfer Cymru a'r gororau, a'r rhaglen metro enfawr a thrawsnewidiol yn y de-ddwyrain, ynghyd â'r sefydliad ymchwil gweithgynhyrchu uwch a fydd yn rhoi hwb o £4 biliwn i werth ychwanegol crynswth economi Cymru, ac ar y cyd â datblygiad y ganolfan gynadledda ryngwladol a llawer o ddatblygiadau atyniadol eraill sydd naill ai'n cael eu darparu neu eu cynllunio. Rydym ni'n credu ein bod yn cyflawni amcanion y cynllun gweithredu economaidd, sy'n ymwneud â chreu'r amgylchiadau, y cyfleusterau a'r cyfleoedd i gymell y sector preifat i fuddsoddi cymaint â phosib mewn cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy hirdymor yng Nghymru. 

Gofynnodd Dai Lloyd y cwestiwn pwysig iawn am y gofyniad ariannol a'r risg ariannol i'r trethdalwr, i bwrs y wlad. Hoffwn petai'r Gweinidog Cyllid yma i allu fy nghlywed yn dweud hyn yn glir iawn, ond nid wyf yn disgwyl i'r trethdalwr dalu am y cyfleuster enfawr hwn—y cyfleuster trawsnewidiol hwn. Ar sail yr holl brofion marchnad cychwynnol yr ydym ni wedi eu gwneud hyd yn hyn mentrwn ddweud yn hyderus y bydd hwn yn gyfleuster y bydd y sector ei hun yn talu amdano. Wedi dweud hynny, mae Dai Lloyd yn gywir i nodi'r perygl o Brexit heb gytundeb. Byddai Brexit heb gytundeb, wrth gwrs, yn creu anawsterau o ran gallu cael cerbydau o gyfandir Ewrop yma ac yn ôl yn gyflym. Fodd bynnag, mae galw mawr am gyfleusterau o'r math hwn ledled yr Undeb Ewropeaidd ac, at hynny, mae digon o alw yn y sector Prydeinig, y farchnad Brydeinig ei hun, i gyfiawnhau creu cyfleuster profi o'r maint hwn. Ac felly rwy'n ffyddiog y bydd yn llwyddo, waeth beth fydd yn digwydd yn y misoedd nesaf.

Mae Dai Lloyd yn gywir hefyd i fyfyrio ar yr hyn a allasai fod pe byddai Cymru wedi cael yr hyn y dylai hi fod wedi elwa arno o ran y seilwaith rheilffyrdd, ac mae £1 biliwn yn ffigur arwyddocaol iawn, buddsoddiad enfawr y gellid ac y dylid bod wedi'i wneud yn nhraciau rheilffyrdd, gorsafoedd a chroesfannau ar draws rhwydwaith Cymru a'r gororau. Dyna pam fy mod i'n gobeithio y bydd yr Ysgrifenyddion Gwladol dros drafnidiaeth a strategaeth busnes a diwydiant yn cydnabod o ddifrif manteision lleoli'r cyfleuster arbennig hwn yng Nghymru, ac yn ei dro, ac wrth wneud hynny, yn sicrhau y bydd y cyfleuster arbennig hwn yn elwa o gytundeb y sector rheilffyrdd, ac y bydd Llywodraeth y DU yn cefnogi hynny drwy sicrhau bod cyllid arloesi'n cael ei gyfeirio tuag ato. 

Photo of David Rees David Rees Labour 4:36, 21 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, ac rwy'n croesawu yn fawr y weledigaeth ar gyfer y ganolfan newydd ym mhen uchaf Cwm Dulais, fel y dywedodd Dai Lloyd, ardal sydd, yn amlwg, â hanes o fwyngloddio ac sydd bellach yn ystyried datblygu cyfeiriad newydd yr hoffech chi fynd iddi yn fy etholaeth gyfagos yng Nghastell-nedd?

Fe wnaethoch chi gyfeirio at rai pwyntiau rwy'n credu, yr hoffwn i sôn wrthych chi yn eu cylch, ac rwy'n croesawu gweledigaeth cynghorau Castell-nedd Port Talbot a Phowys hefyd wrth gydnabod y cyfleoedd a ddaw yn sgil prosiect o'r fath, a bydd cydweithio yn hyn o beth yn hollbwysig yn y dyfodol, ac rwy'n falch iawn eu bod wedi ymuno â Llywodraeth Cymru mewn cytundeb ar y cyd. Y cwestiynau yr hoffwn i eu holi: fe wnaethoch chi sôn am brifysgolion—pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda phrifysgolion er mwyn iddyn nhw fod yn ymwybodol ac fel y byddant yn cymryd rhan yn y gwaith datblygu a'r agweddau ymchwil y mae hyn yn eu cynnig? Oherwydd os ydych chi'n sôn am gadair, mae'n gyfle ledled y Deyrnas Unedig i'r prifysgolion hynny, ond a ydych chi wedi cael trafodaethau gyda phrifysgolion Cymru a'r DU o ran y cyfleoedd?  

A ydych chi wedi edrych ar gyllid ymchwil y DU? Rydych chi'n sôn am ariannu ymchwil arloesol yn y DU, ac yn amlwg bydd yn rhaid i'r DU roi rhywfaint o arian at hyn—nid wyf yn sôn am gyllid yr UE yn awr; rwy'n sôn am ariannu arloesi yn y DU—i edrych ar sut maen nhw'n mynd i ystyried y cyfle hwn, fel y gallan nhw fuddsoddi mewn gwirionedd yn hyn?

Mae sôn am Network Rail yma, ac rydych chi eisiau i Network Rail edrych mewn gwirionedd ar eu rhaglen a sut y gallwn ni fod yn rhan o hynny. Faint o drafodaeth a fu o ran sut y bydd Network Rail yn ystyried cymryd rhan yn y prosiect hwn? Ac a ydyn nhw'n mynd i ymrwymo eu hunain ar ryw adeg i ddweud mewn gwirionedd, 'byddwn, byddwn yn defnyddio'r ganolfan hon yn rhan o'n rhaglen hefyd'? Mae hynny'n mynd i fod yn hollbwysig, rwy'n credu, i'r dyfodol.

Hoffwn ofyn hefyd am fesur rheilffyrdd. Rydym ni i gyd yn meddwl mai un trac yw'r rheilffordd, ond, mewn gwirionedd, mae sawl mesur ar gael. A fydd y ganolfan yn edrych ar sawl mesur neu fesur unigol? A yw'n mynd i ystyried cludo nwyddau yn ogystal â theithwyr? A yw'n mynd i ystyried rheilffyrdd o wahanol fesuriadau, oherwydd os ydych chi'n mynd i ddenu buddsoddiad Ewropeaidd a chwmnïau o Ewrop, efallai y bydd angen ichi edrych ar wahanol fesuriadau i ddiwallu eu hanghenion hwythau hefyd? Felly, a fydd y ganolfan yn gwahaniaethu o ran y mesur a ddefnyddir, ac, o ganlyniad, a ydych chi wedi meddwl am hynny yn y cais cynllunio? Mae'n iawn dweud ein bod ni'n mynd i gael cais cynllunio, ond beth yw'r diben? Ai ar gyfer y trac yn unig y mae, ai ar gyfer y seilwaith cyfan, ai ar gyfer y ganolfan gynnal a chadw? A fydd y cais cynllunio yn un cyfan, neu a fydd yn dameidiog yn yr ystyr hwnnw hefyd?

Ac yn olaf, a thynnodd Russell sylw at hyn, ac rwy'n credu ei fod yn bwysig—yr agenda sgiliau. Bydd hyn, os bydd yn llwyddiannus ac yn gweithio, fel y gwnaethoch chi ddweud, yn creu 150 o swyddi parhaol yn y lle cyntaf, swyddi medrus iawn, y bydd rhai ohonyn nhw, ac, fel y gwnaethoch chi ddweud, mae gan y canolfannau cyffelyb yn Ewrop hyd at oddeutu 400. Byddan nhw eisiau cael cyfleuster mwy newydd; os oes un newydd sbon o fewn cyrraedd iddyn nhw, byddant yn rhoi ystyriaeth i hynny. Felly, yn y pen draw fe allem ni weld tipyn o ehangu o ganlyniad i hyn. A ydych chi wedi rhoi cynlluniau ar waith i ddatblygu sgiliau'r gweithlu presennol yn yr ardal, a hefyd y sgiliau i raddedigion mewn prifysgolion a fydd yn rhan o'r cynllun hwn, er mwyn sicrhau y gallwn ni nid yn unig gael cyfleusterau, ond y gallwn ni gael y bobl a fydd mewn gwirionedd yn gweithio yno?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:39, 21 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i David Rees am ei gwestiynau ac, unwaith eto, am ei gefnogaeth i'r prosiect hwn hefyd, a fydd yn dod â manteision aruthrol i Gwm Dulais? Bydd yn trawsnewid cyfleoedd i lawer o bobl, yn ifanc a heb fod mor ifanc, yng Nghwm Dulais, sy'n chwilio am swyddi o safon uchel sy'n talu cyflogau da. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r gwaith sy'n cael ei wneud ar y cyd rhwng cynghorau Powys a Chastell-nedd Port Talbot a Llywodraeth Cymru. Nid dyma'r unig fenter ar y cyd ac nid dyma'r unig bartneriaeth sydd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd gydag awdurdodau lleol ledled Cymru—mae llawer o bartneriaethau eraill, fel y bartneriaeth sy'n ymwneud â gorsaf fysiau Caerdydd, y bartneriaeth yng Nghasnewydd, lle bu Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector preifat ar y ganolfan gynadledda ryngwladol, a'r bartneriaeth yr ydym ni wedi gallu ei ffurfio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ynghylch y gyfnewidfa drafnidiaeth yn Wrecsam. Rwy'n awyddus, lle bynnag a phryd bynnag y bydd hynny'n bosib, i gydweithio ar greu cyfleusterau a chyfleoedd a sicrhau ein bod yn cynllunio'r amgylchiadau lle gall busnesau ffynnu gyda'i gilydd. Mae'r brwdfrydedd a ddangoswyd gan Gastell-nedd Port Talbot a Phowys wedi creu argraff anhygoel arnaf.

Eisoes, mae'r sector yn cydweithio'n agos iawn â llawer o brifysgolion ledled y DU ac mae trafodaethau ar y gweill rhwng y sector a phrifysgolion ynghylch sut y gallwn ni fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ymchwil, datblygu ac arloesi yn y Deyrnas Unedig. Wrth gwrs, oherwydd agosatrwydd Prifysgol Abertawe at y lleoliad penodol hwn, rwy'n credu y bydd manteision enfawr i'r sefydliad hwnnw. Ond ni fydd yn gyfyngedig i Brifysgol Abertawe yn unig. Mae arnaf eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn denu'r gorau a'r mwyaf disglair ond ein bod hefyd yn creu cynifer o gyfleoedd ar gyfer ein prifysgolion ein hunain, ac mae'n rhaid dweud hefyd, ar gyfer ein sefydliadau addysg bellach a'r cyrff hynny sy'n cynnig cynlluniau dysgu sy'n seiliedig ar waith. Rwy'n credu y bydd hi'n gwbl hanfodol i'r bartneriaeth sgiliau rhanbarthol yn y rhanbarth ystyried y prosiect penodol hwn yn flaenoriaeth er mwyn sicrhau y gall digonedd o bobl fedrus ei wasanaethu ac, yn wir, yn elwa ohono.  

Hoffwn gyfeirio Dai Rees at fy natganiad o ran y gwaith gydag Innovate UK a Network Rail, ond y cam nesaf fydd cynnal dadansoddiad hyfywedd o brosiectau technegol gyda'r diwydiant rheilffyrdd yn ei gyfanrwydd. Dyma'r ymarferiad a fydd, os yw'n llwyddiannus—ac mae pob argoel hyd yma'n dangos y bydd yn llwyddiannus—yn gwneud yr achos buddsoddi yn un grymus iawn yn wir. Rydym ni ar hyn o bryd yn ceisio cyngor cyfreithiol ar y dewisiadau caffael ar gyfer y gwaith dadansoddi hwn. Dylid dweud hefyd, Dirprwy Lywydd, fod potensial y prosiect hwn i greu swyddi cynaliadwy mewn ar hen safle glo yn hynod o ddeniadol. Ond dydym ni ddim yn mynd i orffwys ar ein rhwyfau a disgwyl i'r cyhoedd ei gefnogi'n ddifeddwl. Yn wir, bydd cam nesaf y gwaith yn cynnwys ymgynghori manwl ar bob agwedd ar y prosiectau—yr agweddau hynny a nododd David Rees—y cyfleusterau, y trac ei hun, y cyfleoedd ymchwil a datblygu, y ganolfan a fydd yn sicrhau y caiff cyfleusterau addysg eu creu. Ac felly, byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid mewn awdurdodau lleol yn ogystal â gyda'r grŵp adfywio lleol a'r gymuned leol, i sicrhau bod pawb yn gwbl ffafriol a chefnogol o'r ymyrraeth benodol hon.

Ac yna, mae cwmpas yr hyn y mae'n ei gynnig—holodd Dai Rees am fesuriadau'r trac ac am gludo nwyddau—wel, bydd cwmpas yr hyn y bydd yn ei gynnig yn dibynnu ar faint o ddiddordeb fydd gan y diwydiant rheilffyrdd ei hun. Ond rwy'n benderfynol o sicrhau, pan fyddwn ni'n cyflwyno'r cais cynllunio ar ddiwedd y flwyddyn hon neu ddechrau 2020, y bydd yn cynnwys yr holl elfennau yr wyf i wedi'u nodi yn fy natganiad ac y gobeithiaf y bydd yr holl Aelodau'n manteisio ar y cyfle i gael rhagor o wybodaeth amdanynt ar ôl y datganiad hwn.

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 4:44, 21 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ategu'r gefnogaeth drawsbleidiol ac, yn wir, y brwdfrydedd a'r cyffro ar gyfer y prosiect hwn. A gaf i ofyn i'r Gweinidog fod ychydig yn gliriach ynghylch pwy sy'n bwrw ymlaen â hyn? Mae gennym ni'r fenter hon ar y cyd â Llywodraeth Cymru a'r ddau gyngor lleol, sy'n gadarnhaol iawn. Fe wnaethoch chi sôn gynnau am gyflwyno'r cais cynllunio—a allaf i gasglu o hynny mai'r cyd-fenter a fydd yn gwneud y cais cynllunio hwnnw? Pwy yn y sector fydd yn rhan o hynny? Mae'n wych clywed y byddant yn ei ariannu, ond, pan fydd y Gweinidog yn siarad am y sector, wn i ddim a yw hynny'n golygu Network Rail, Trafnidiaeth Cymru, cwmni trenau, neu eraill sy'n gysylltiedig â hynny. Pwy mae'n disgwyl iddo dalu am hyn? Ac hefyd—ac, o ran hyn, rwy'n llwyr ddeall os yw sensitifrwydd masnachol yn ei atal rhag dweud popeth y mae'n ei wybod efallai, ond beth yw rhan y tirfeddiannwr presennol, sef Celtic Energy, rwy'n credu? A ydych chi'n disgwyl iddyn nhw barhau'n bartner tymor hir yn y prosiect, neu a yw'n debygol, ar ryw adeg, y bydd rhywun arall yn prynu'r tir ac yn bwrw ymlaen â hyn?

Yn olaf, rydych chi'n dweud bod yna gyfleuster profi yn yr Almaen ar hyn o bryd, ond does gennym ni ddim byd tebyg i hyn yn y DU. I'r graddau bod angen profion, cymeraf fod rhywfaint o hynny wedi bod yn digwydd yn yr Almaen a allai ddigwydd fel arall yn y DU, ond a yw hefyd yn wir fod angen cynnal profion yn awr ar linellau byw a allai fod yn digwydd fel arall ar y trac 7 cilomedr hwn, ac a fyddwn ni o leiaf ar y cyrion yn gallu edrych ymlaen at ychydig llai o aflonyddwch peirianyddol pan fydd y cyfleuster hwn gennym ni, os bydd yn gweld golau dydd?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:46, 21 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, mae Mark Reckless yn hollol gywir y gall profion rheilffyrdd fyw fod yn drafferthus ac felly mae cael cyfleuster prawf 7 km, y gellir profi trenau i hyd at gyflymder o 120 milltir yr awr arno, yn ddymunol dros ben, nid i'r gweithredwyr a'r gweithgynhyrchwyr yn unig ond hefyd i deithwyr. Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru a minnau, y Gweinidog sy'n gyfrifol, wedi bod yn meithrin y prosiect arbennig hwn, ond bellach rydym ni wedi ffurfio'r cytundeb cyd-fenter â Phowys a Chastell-nedd Port Talbot ac, yn gyfochrog â hynny, byddwn yn gweithio ar y cyd â'r tirfeddiannwr presennol, Celtic Energy, i sicrhau'r holl ddewisiadau angenrheidiol, yr holl ffurflenni tir a'r caniatâd angenrheidiol er mwyn caniatáu i'r prosiect rheilffyrdd fynd yn ei flaen yn brydlon. Ac felly, o'r dyddiad hwn ymlaen, byddwn yn gweithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth lawn.

O ran y sector—ac wrth hynny rwy'n golygu ein bod ni wedi ymgysylltu'n helaeth â gweithredwyr rhwydwaith, â gweithgynhyrchwyr cerbydau, â gweithredwyr cerbydau—ar hyn o bryd mae'r gost o anfon cerbydau o un wlad Ewropeaidd i'r Weriniaeth Tsiec neu'r Almaen yn sylweddol iawn, a gall gostio degau o filoedd o bunnoedd dim ond i anfon trên, cerbyd, o Sbaen i'r Almaen. Gyda'r cyfle, er enghraifft, i CAF, a leolir yng Nghasnewydd, i ddefnyddio cyfleuster nid nepell i lawr y rheilffordd i'r gorllewin, gallem weld manteision economaidd enfawr i'r gweithgynhyrchwyr arbennig hynny hefyd gan y bydd yr arbedion iddyn nhw yn sylweddol yn wir. A dyna pam ein bod ni'n credu, yn y farchnad Brydeinig yn unig, fod cefnogaeth enfawr a digonol i'r prosiect fynd yn ei flaen, ond byddai'r hwb ychwanegol o allu denu gweithgynhyrchwyr a gweithredwyr o bob cwr o Ewrop yn rhywbeth, rwy'n siŵr y byddai pob Aelod yn ei groesawu.

Yn y dyfodol, o ran perchenogaeth yr ased, wel, bydd hynny'n cael ei bennu drwy'r cytundeb cyd-fenter law yn llaw â'r rhai a fydd yn talu amdano, a'r rhai a fydd yn talu amdano fydd gweithgynhyrchwyr a gweithredwyr y diwydiant eu hunain.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:48, 21 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.