1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 22 Mai 2019.
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael am yr opsiynau sydd ar gael i ddatrys y broblem fod perchnogion ail gartrefi yn osgoi talu trethi? OAQ53910
Fel yr amlinellwyd yn ein cynllun gwaith polisi trethi, mae swyddogion yn gweithio gyda chydweithwyr awdurdodau lleol i adolygu'r defnydd o'u pwerau disgresiwn i weithredu premiymau’r dreth cyngor a sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gweithredu fel y bwriadwyd.
Mi fyddwch chi'n ymwybodol bod naw o gynghorau Cymru wedi awgrymu datrysiad syml i'r broblem gynyddol o ail gartrefi yn cael eu heithrio rhag talu unrhyw fath o drethi o gwbl i'r pwrs cyhoeddus. Maen nhw'n dadlau fod gan Lywodraeth Cymru'r grym i addasu adran 66 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 drwy ddeddfwriaeth eilradd. Yn sylfaenol, mae angen cael gwared ar faen prawf presennol, sy'n cael ei nodi yn adran 66, sy'n ymwneud ag unedau hunanddarpar, gan ei ddisodli efo egwyddor fod pob eiddo sydd wedi ei ddefnyddio fel eiddo domestig yn aros yn eiddo domestig waeth beth ydy ei ddefnydd. Ydych chi'n cytuno bod angen addasu'r Ddeddf yma, ac a fydd eich Llywodraeth chi yn bwrw ymlaen yn ddiymdroi i wneud hynny?
Rwyf wedi cael yr union sgwrs hon gydag arweinwyr awdurdodau lleol yn ein his-grŵp cyllid y bore yma, lle buom yn trafod y mater penodol hwn o ran pryderon ynghylch unigolion sy'n penderfynu newid statws eu heiddo i symud eu hunain allan o'r dreth gyngor ac i mewn i ardrethi annomestig, lle gallent wedyn elwa, o bosibl, o’n cynlluniau rhyddhad ardrethi.
Felly, fel y gwyddoch, gan ein bod wedi cael rhai trafodaethau ynglŷn â hyn eisoes, a gwn y byddwch yn cyfarfod â fy swyddogion gyda Llyr Gruffydd ar 4 Mehefin i drafod y mater ymhellach, sefydlwyd gweithgor o ymarferwyr awdurdodau lleol er mwyn trafod mater premiymau a gostyngiadau’r dreth gyngor ac i ystyried y sefyllfa bresennol ledled Cymru. Cynhelir cyfarfod pellach ddechrau mis Mehefin, ac rwy’n fwy na pharod i gyfarfod â chi wedi’r cyfarfod hwnnw i drafod ei gasgliadau. Mae hwn yn fater rydym yn ymwybodol iawn ohono, ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod y rheini sy'n gallu talu’r dreth cyngor ac a ddylai fod yn talu'r dreth gyngor yn sicr yn gwneud hynny oherwydd, fel rwyf wedi’i amlinellu, mae'n eithriadol o bwysig o ran gallu cefnogi ein hawdurdodau lleol i wneud yr holl waith rydym yn gofyn iddynt ei wneud. Ond rydym yn gwbl ymwybodol o'r mater hwn a chafwyd trafodaethau mor ddiweddar â'r bore yma.
Weinidog, mae'n gyfreithlon cael ail gartref. Fodd bynnag, nid yw ond yn deg eich bod yn gwneud cyfraniad i'r gymuned rydych ynddi, yn enwedig mewn cyfnod pan fo cyllid a thai yn brin. Mae angen i ni sicrhau hefyd nad ydym yn creu cymhellion gwrthnysig i bobl ailddynodi anheddau domestig. Felly, credaf ei bod yn bryd cael golwg gynhwysfawr ar hyn a gweld sut y gallwn gael polisi mwy cyson sy'n rhoi'r negeseuon cywir i bobl, os ydynt yn ddigon breintiedig i gael ail gartref, fod rhwymedigaethau ynghlwm wrth hynny.
Hoffwn roi sicrwydd i David Melding fod hyn yn rhywbeth rydym yn edrych yn fanwl iawn arno. Wrth gwrs, Cymru yw'r unig ran o'r DU sydd wedi cyflwyno rheolau i ganiatáu i awdurdodau lleol godi'r premiymau hynny ar ail gartrefi. Rydym yn casglu data ar hyn o bryd i archwilio i ba raddau y mae awdurdodau lleol wedi codi premiymau neu weithredu disgowntiau, gan y gallant wneud hynny hefyd mewn perthynas ag ail gartrefi. Wrth gwrs, cafodd y pwerau disgresiwn hynny eu cyflwyno er mwyn helpu awdurdodau lleol i ddod ag eiddo nad oes digon o ddefnydd arno yn ôl i ddefnydd a mynd i'r afael â materion cyflenwad tai. Nid oeddent o reidrwydd yn bŵer codi refeniw, ond serch hynny, croesewir unrhyw refeniw a godir gan awdurdodau lleol, yn amlwg.
Mae gan CThEM set glir o reolau i sicrhau nad yw cartrefi gwyliau ond yn elwa o'u triniaeth fwy ffafriol o ran trethi pan gânt eu defnyddio o ddifrif fel busnesau, a dywed eu rheolau, sydd wedi'u profi, fod yn rhaid i'r cartref fod ar gael i'w osod am 210 diwrnod y flwyddyn ac wedi'i osod am o leiaf 105 diwrnod. A fyddai o unrhyw werth pe bai swyddogion o leiaf yn ystyried a ellid defnyddio'r diffiniad hwnnw i leihau'r osgoi trethi sy'n amlwg wedi bod yn digwydd yn y maes hwn?
Yng Nghymru, er mwyn bod yn llety hunanddarpar cymwys, mae'n rhaid i annedd fod ar gael i'w gosod am o leiaf 140 diwrnod mewn cyfnod o 12 mis, ac mae'n rhaid ei gosod am 70 diwrnod, a nodwyd y diffiniad hwnnw yng Ngorchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2010. Credaf ei bod yn bryd adolygu'r ffigurau hynny, ac yn sicr, buaswn yn edrych ar y gwaith y mae CThEM yn ei wneud yn y maes hwn yn ogystal â model posibl, ond mae hyn oll yn rhan o'r trafodaethau a gawn ynglŷn â rhyddhad ardrethi, yn enwedig mewn perthynas ag ail gartrefi, cartrefi gwyliau ac ati.
Wel, hoffwn ychwanegu trydydd awgrym, heb anghytuno â'r ddau gyntaf. Y broblem yw bod gennym gynllun rhyddhad ardrethi cyffredinol, ac ni chredaf y dylai tai fod yn rhan o gynllun rhyddhad ardrethi cyffredinol. Felly, pam na all Llywodraeth Cymru eithrio tai rhag rhyddhad ardrethi a gwrthod derbyn tai fel busnesau, ac eithrio mewn pentrefi gwyliau dynodedig, fel y byddai'n rhaid iddynt dalu'r dreth gyngor ar yr adeiladau hynny? Mae'r ffaith bod pobl yn ailddynodi eu hail gartrefi yn gartrefi gwyliau heb dalu unrhyw dreth gyngor yn rhywbeth sy'n cythruddo'r mwyafrif helaeth o bobl yn yr ystafell hon heddiw.
Rydym wedi bod yn ceisio casglu tystiolaeth fod eiddo wedi'u trosglwyddo o restr y dreth gyngor i restrau ardrethi annomestig a bod hynny wedi digwydd yn amhriodol. Hyd yma, nid ydym wedi cael unrhyw dystiolaeth o hynny, ond deallwn, yn sicr yn anecdotaidd, ei fod yn rhywbeth y mae pobl yn credu ei fod yn digwydd, ac rydym wedi gofyn i awdurdodau lleol eto mor ddiweddar â'r bore yma i roi'r dystiolaeth i ni. Cafwyd rhai ymrwymiadau yn y cyfarfod hwnnw i ddarparu tystiolaeth o'r fath. O ran dynodi pentrefi gwyliau, gallai hynny ychwanegu lefel o gymhlethdod i'r mater, ac yn sicr, credaf ei fod yn rhywbeth y byddai'n rhaid i ni ei ystyried yn iawn o ran yr hyn y gallai hynny ei olygu i dwristiaeth ac unrhyw effaith y gallai ei chael ar y farchnad wyliau.