2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru ar 22 Mai 2019.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog chwaraeon cymunedol a gweithgareddau hamdden egnïol? OAQ53914
Diolch yn fawr iawn, Jayne. Mae sicrhau bod ein cymunedau'n fwy egnïol yn gorfforol yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ac yn wir, mae'n gyfrifoldeb arnaf fel hyrwyddwr gweithgarwch corfforol ar ran Llywodraeth Cymru. Y llynedd, drwy Chwaraeon Cymru, buddsoddwyd dros £10.9 miliwn gennym mewn awdurdodau lleol ledled Cymru er mwyn cefnogi datblygiad chwaraeon cymunedol a gweithgareddau hamdden egnïol a helpu i ddiwallu anghenion lleol. Edrychaf ymlaen at ymuno â chi ddydd Sadwrn mewn lleoliad pwysig iawn, a phob dymuniad da i glwb pêl-droed Casnewydd.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n falch iawn eich bod wedi crybwyll CPD Casnewydd. Mae Cerdded Casnewydd yn fy etholaeth yn enghraifft ardderchog o fanteision iechyd a lles gweithgareddau hamdden egnïol. Wedi'u trefnu a'u harwain gan wirfoddolwyr, maent yn arwain teithiau amrywiol yng Nghasnewydd a'r ardal ehangach ddwywaith yr wythnos. Gyda dros 100 o aelodau, maent yn trefnu teithiau undydd ac maent wedi bod yn gweithredu’n llwyddiannus ers blynyddoedd lawer. Mae cyfranogiad yn y grŵp wedi cael effaith hynod gadarnhaol, gan fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol ac mae'r manteision i iechyd corfforol yn amlwg. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cyfeirio cleifion cardiaidd at y grŵp, gan gynorthwyo pobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor i gadw'n heini mewn ffordd hamddenol a phleserus. Mae grwpiau fel y rhain yn wirioneddol werthfawr ac yn rhan fawr o'r agenda ataliol. Yn anffodus, mae'r dyraniad bach o arian a gâi’r grŵp wedi’i ddiddymu, sydd wedi peri cryn bryder. A allai'r Dirprwy Weinidog ymchwilio i weld beth arall y gellir ei wneud i sicrhau bod grwpiau fel Cerdded Casnewydd yn cael cydnabyddiaeth a chyllid i barhau?
Diolch am eich cwestiwn atodol. Yn wir, rwyf wedi ymuno â nifer o grwpiau cerdded yn ddiweddar. Credaf mai rhodwyr Treorci oedd y diwethaf. Wrth gwrs, mae'n cyfuno gweithgarwch corfforol mewn amgylchedd prydferth, naturiol—ac fel rhywun a gerddodd ar hyd gwastatir Gwent y dydd Sul o'r blaen, gwn pa mor bwysig yw'r amgylchedd yng Nghasnewydd. Felly, gan fentro gwahodd fy hun i bob man, rwy’n fwy na pharod i gyfarfod â Cerdded Casnewydd i drafod. Drwy ein rhaglen heneiddio'n iach gydag Age Cymru, rydym yn darparu rhaglen i gynyddu gweithgarwch corfforol, yn enwedig ymhlith pobl hŷn ledled Cymru, ac rydym yn edrych, yn y Llywodraeth, am ganllawiau newydd gan y prif swyddog meddygol ar weithgarwch corfforol, a fydd yn nodi pwysigrwydd annog mwy o’r boblogaeth i symud. Fel y dywedais o'r blaen yn y Siambr, nid yw oddeutu 30 y cant o boblogaeth Cymru yn gwneud unrhyw beth—unrhyw weithgarwch corfforol, hynny yw—a chredaf ei bod yn bwysig inni fod yn esiampl yn ogystal ag annog pobl.
Weinidog, gobeithio y byddwch cystal ag ymuno â mi i longyfarch clwb pêl-droed Prifysgol Met Caerdydd, sy'n dathlu’r ffaith mai hwy yw’r brifysgol gyntaf i gyrraedd Cynghrair Europa UEFA ar ôl gêm ail gyfle gyffrous yn erbyn Y Bala ddydd Sul—rwy'n ymddiheuro—pan wnaethant ennill 3-1 ar giciau o’r smotyn. Golyga hyn y bydd Met Caerdydd yn mynd ymlaen i'r rowndiau rhagarweiniol, gan ymuno â chlybiau o Lwcsembwrg, San Marino, Ynysoedd Ffaro, Andorra, Kosovo, Gibraltar a Gogledd Iwerddon. Credaf mai'r pwynt pwysig yma yw bod hon yn gamp anhygoel i glwb prifysgol a bydd yn ysbrydoli llawer o'r myfyrwyr yn y brifysgol nad ydynt yn athletwyr elitaidd i gymryd rhan mewn chwaraeon egnïol. Felly, a wnewch chi longyfarch Met Caerdydd?
Wel, fel yr Aelod Cynulliad dros y Bala—er nad wyf yn cefnogi’r Bala yn rheolaidd, ac eithrio ar adegau—mae’r Bala wedi cael eu moment yn Ewrop, fel Bangor ac eraill. Ond mae'n gyfle gwych i glwb Met Caerdydd, ac rwy'n eu llongyfarch yn ddiffuant. Rwy'n elwa o fyw yn agos atynt pan wyf yma yng Nghaerdydd, a chredaf ei bod yn bwysig inni bwysleisio sut y mae gweithgarwch gwyddor chwaraeon a'r ysbrydoliaeth sy'n deillio o astudio chwaraeon ar sail academaidd yn treiddio drwy holl ddiwylliant y brifysgol. Ceir rhywbeth pwysig, yn fy marn i, yn y cylch bywyd yma: y bydd disgyblion o oedran ysgol, yn aml iawn, yn egnïol iawn yn gorfforol, ond dim ond y rheini sy'n ymwneud â chlybiau sy'n tueddu i barhau â'u gweithgarwch yn ystod eu harddegau ac fel myfyrwyr. A chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn dathlu diwylliant o lwyddiant mewn chwaraeon a diwylliant o glybiau llwyddiannus ym mhob rhan o’n system addysg bellach ac addysg uwch.
Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi mai un o'r heriau mwyaf yw annog menywod a merched i barhau i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, yn enwedig, fel y dywedodd yn ei ymateb i David Melding, ar ôl oedran gadael ysgol. Ymhlith y grŵp hwnnw, mae menywod o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn arbennig o agored i niwed ac yn aml wedi'u heithrio'n benodol. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo heddiw i gael trafodaethau pellach gyda'r Gweinidog cydraddoldeb i weld beth arall y gellir ei wneud i annog cyfleusterau awdurdodau lleol i fynd ati’n rhagweithiol i annog menywod a merched o gymunedau lleiafrifol i gymryd rhan? Buaswn hefyd, yn y cyd-destun hwnnw, yn awgrymu y dylid sicrhau parhad o ran darparu cyfleusterau i fenywod yn unig ar gyfer rhai gweithgareddau, fel nofio, oherwydd i rai menywod o rai o'r cymunedau hynny, nid oes modd iddynt gymryd rhan pan fydd dynion yn bresennol oherwydd eu diwylliant? Credaf fod hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun darparu cyfleusterau newid priodol hefyd, gan fod tuedd gynyddol i gael cyfleusterau agored, ac er y gallant fod o fudd i deuluoedd, efallai nad ydynt yn addas i fenywod, yn enwedig menywod â rhesymau penodol dros warchod eu preifatrwydd corfforol.
Diolch am hynny. Rwy'n fodlon iawn i gytuno'n ffurfiol y dylem gyfarfod i drafod y mater hwn yn benodol, ond rwy'n falch o ddweud, ymhlith y prif chwaraeon rydym yn eu hyrwyddo, pêl-rwyd, gweithgaredd a gyflawnir yn bennaf, ond nid yn gyfan gwbl, gan ferched a menywod, yw'r bedwaredd brif gamp rydym yn ei hariannu. Ac felly, credaf ei bod yn hanfodol ein bod bob amser yn darparu ar gyfer cydraddoldeb rhywiol hyd eithaf ein gallu mewn perthynas â chyfranogiad mewn chwaraeon. Mae hynny'n rhannol drwy annog rygbi menywod a phêl-droed menywod, ond hefyd drwy annog cyfleoedd ar wahân, yn wir, i bobl gymryd rhan ar adeg sy'n gyfleus ac yn addas ac yn dderbyniol iddynt, a byddwn yn cael y drafodaeth hon, ac yn ddiau, byddwn yn adrodd yn ôl i chi.