– Senedd Cymru ar 12 Mehefin 2019.
Daw hynny â ni at ddadl Plaid Cymru ar ddewisiadau amgen i ffordd liniaru’r M4, ac mae’r ddadl yn cael ei chyflwyno a’r cynnig yn cael ei wneud gan Delyth Jewell.
Cynnig NDM7066 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw am i'r buddsoddiad gwreiddiol a glustnodwyd ar gyfer cynnig ffordd liniaru'r M4, ac a wrthodwyd gan Lywodraeth Cymru, gael ei glustnodi o'r newydd tuag at ddatblygiad cyflym gweledigaeth hirdymor ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth integredig gwyrdd a chynaliadwy yng Nghymru, sy'n cynnwys rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â phroblemau tagfeydd o amgylch Casnewydd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn chwarae rhan ganolog wrth lywio gwaith cynllunio seilwaith cenedlaethol strategol a hirdymor.
Diolch i'r Llywydd. Fel arfer buaswn yn hoffi agor dadl fel hon drwy egluro pam ei bod yn amserol, ond mewn sawl ffordd, nid yw hon yn ddadl amserol. Mae gwella'r M4 wedi bod yn destun dadl ers cyn dechrau datganoli. Fe'i cynigiwyd gyntaf yn 1981 gan y Swyddfa Gymreig, ac eto dyma ni 27 mlynedd yn ddiweddarach ac rydym yn dal i'w drafod.
Gadewch imi fod yn glir: gwrthod y llwybr du arfaethedig ar sail cost a'r amgylchedd oedd y penderfyniad cywir. Nid oedd gwario swm sy'n cyfateb i 10 y cant o gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru ar un darn o ffordd a fyddai wedi dinistrio gwastadeddau Gwent yn ffordd dderbyniol o weithredu. Yn fwy na hynny, mae astudiaethau wedi dangos bod uwchraddio ffyrdd ynddo'i hun yn arwain at fwy o geir yn defnyddio'r ffyrdd hyn. Ein Senedd ni oedd y gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd. Rwy'n falch iawn o hynny, ac mae hwn yn un o'r camau, anodd ie, ond hollol angenrheidiol yr oedd yn rhaid iddo ddeillio o'r datganiad hwnnw. Ond roeddem yn gwybod hyn i gyd cyn i Lywodraeth Cymru benderfynu gwario £114 miliwn a threulio pum mlynedd o ymdrech ar yr ymchwiliad a datblygu'r prosiect. Dyna £114 miliwn yn fwy y gellid bod wedi'i wario ar gynllun cyflawnadwy fel y llwybr glas, a gefnogwyd gan Blaid Cymru.
Felly, dyma ni'n ôl i'r dechrau. Roedd llawer ohonom yn synnu nad oedd gan Lywodraeth Cymru gynllun B yn barod i fynd, felly rydym yn gorfod dechrau o'r dechrau gyda sefydlu comisiwn arall i ystyried pa rai o'r dewisiadau eraill yn lle'r llwybr du y dylid eu dilyn. Ni fydd y problemau i Gasnewydd yn diflannu ar eu pen eu hunain. Mae'r bobl sy'n byw yng Nghasnewydd, yn cynnwys aelod o fy staff, yn daer am ateb i dagfeydd a llygredd sy'n rhy aml yn gorlifo i'w strydoedd pan fydd damweiniau yn nhwnelau Bryn-glas yn golygu bod traffig yn cael ei ailgyfeirio. Ni allwch adael iddo waethygu. Felly, rydym wedi galw'r ddadl heddiw er mwyn amlinellu dewisiadau eraill y gellid eu hystyried i helpu pobl Casnewydd gan fod yn rhaid i'w pryderon hwy fod yn ganolog yn yr ystyriaethau hyn wrth gwrs. Ond byddwn hefyd yn edrych ar ffyrdd eraill o leddfu tagfeydd ar ein ffyrdd ac uwchraddio ein seilwaith er mwyn ein gwneud yn wlad werdd, gynaliadwy sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Wedi'r cyfan, mae gennym werth £1 biliwn o bwerau benthyca ar gael inni bellach yn ogystal â chyllideb buddsoddi cyfalaf Llywodraeth Cymru.
O ran gwelliannau i ffyrdd, yn sicr dylid ystyried y llwybr glas ochr yn ochr â dewisiadau eraill, gan gynnwys uwchraddio ffyrdd presennol ac arwyddion electronig a fyddai'n cyfeirio cerbydau naill ai at y ffordd newydd neu'r M4 presennol i gadw traffig a masnach yn llifo. Yn fwy na hynny, dylem ystyried dysgu o esiampl yr Alban o dalu grantiau i gwmnïau sy'n penderfynu cludo nwyddau ar drenau. At hynny, dylai'r Llywodraeth edrych ar raglen o gydgrynhoi nwyddau, lle caiff nwyddau eu trosglwyddo o gerbydau llai i gerbydau nwyddau trwm mwy o faint er mwyn lleihau nifer y cerbydau ar y ffordd, ond rhan o'r ateb yn unig y gall hyn fod.
Felly, o ran gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus, dylai'r opsiynau gynnwys archwilio'r posibilrwydd o ddarparu bysiau cyflym i fannau cyfyng, gwella trafnidiaeth gyhoeddus o ardaloedd fel Trefynwy a Chasnewydd i Gaerdydd er mwyn lleihau'r pwysau ar y M4, a chyflwyno gwelliannau i reilffordd Glynebwy. Mewn llawer o ardaloedd, nid yw un trên yr awr yn ddigon da. A gallai Llywodraeth Cymru hyd yn oed ystyried pennu prisiau tocynnau trên lleol. Yn olaf, gallem ystyried darparu gwasanaeth bws am ddim ar lwybrau dethol am gyfnod penodedig. Dim ond pedwar mis a gymerodd i sefydlu teithiau am ddim ar y penwythnos ar holl wasanaethau TrawsCymru, cam a gynyddodd niferoedd y teithwyr. Gallai teithio am ddim neu am hanner pris gael yr un effaith yn union. Gadewch i ni fod yn fentrus yma. Mae pobl Casnewydd a'r holl gymudwyr sydd wedi cael llond bol ar eistedd mewn ciwiau ar y draffordd angen ateb i'r broblem feunyddiol sy'n eu hwynebu, ac maent yn haeddu hynny. Mae angen ateb ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain sy'n cyfuno seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus fodern â newid sylfaenol oddi wrth ddefnyddio ceir.
Rwy'n gobeithio y gall y syniadau hyn fod yn sail i'n trafodaeth ni heddiw. Bydd Plaid Cymru yn eu trafod yn fewnol—rydym eisoes yn eu trafod yn fewnol—a bwriadwn gyhoeddi ein hargymhellion manwl maes o law. Edrychaf ymlaen at glywed syniadau gan Aelodau eraill ar draws y Siambr.
Rwyf wedi dewis pum gwelliant i’r cynnig, ac os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Dwi’n galw ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.
Gwrthwynebu.
Na. Yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi’r canlynol yn ei le:
1. Yn nodi’r penderfyniad a’r datganiad llafar a wnaed gan Brif Weinidog Cymru ddydd Mawrth 4 Mehefin ynghylch prosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd.
2. Yn nodi’r camau arfaethedig nesaf fel yr amlinellwyd gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Chomisiwn arbenigol i’w arwain gan yr Arglwydd Terry Burns.
3. Yn cydnabod y problemau sylweddol o ran tagfeydd ar rwydwaith yr M4 ger Twnnelau Brynglas a’u heffaith ar Gasnewydd a’r economi ehangach.
4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac ariannu atebion cynaliadwy ac effeithiol i broblemau tagfeydd fel rhan o system drafnidiaeth integredig, aml-ddull a charbon isel.
Na, mae'n ddrwg gennyf. Yn ffurfiol.
Eich gwelliant chi oedd hwn. [Chwerthin.]
Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliannau 2, 3, 4 a 5, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Russell George.
Gwelliant 2—Darren Millar
Dileu pwynt 1.
Gwelliant 3—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth yr £114 miliwn o arian trethdalwyr Cymru sydd wedi'i wastraffu ar ddatblygu cynigion ffordd liniaru'r M4.
Gwelliant 4—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu ymhellach at fethiant un Llywodraeth Lafur ar ôl y llall yng Nghymru i ddatrys tagfeydd ar yr M4.
Gwelliant 5—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro ar frys beth yw ei chynlluniau yn y dyfodol ar gyfer datrys y tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd.
Diolch, Lywydd. Mae'n debyg fy mod yn cytuno ag ymateb cyntaf y Gweinidog heddiw. Hoffwn ddiolch i'r Llywydd ac a gaf fi gynnig y gwelliannau yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar? Rwy'n sylweddoli na fydd y Llywodraeth yn cytuno â hyn—clywais sylwadau'r Gweinidog yn gynharach—ond mae £114 miliwn wedi'i wastraffu ar ddatblygu cynllun, yn ogystal â'r ymchwiliad cyhoeddus, a oedd eisoes wedi edrych ar 28 o ddewisiadau amgen yn lle ffordd liniaru'r M4. Ystyriwyd yr holl dystiolaeth gysylltiedig gan ymchwiliad cyhoeddus annibynnol, ond cafodd y prosiect ei wrthod, ac mae arnaf ofn fod Llywodraeth Cymru wedi gwario swm mawr o arian cyhoeddus ar baratoi ar gyfer prosiect yr M4 a'r ymchwiliad, er mwyn i'r Prif Weinidog wrthod y canfyddiadau heb fod unrhyw gynllun amgen go iawn na thargedau yn eu lle.
Nawr, fel y dywedais yn gynharach yn fy sylwadau i Weinidog yr economi a thrafnidiaeth, rwy'n amau y gall comisiwn newydd a sefydlwyd ddod i unrhyw gasgliadau gwahanol mewn cwta chwe mis i'r rhai a gafwyd gan yr ymchwiliad cyhoeddus a fu'n edrych ar y materion dan sylw am flynyddoedd lawer, ar gost o £44 miliwn i'r pwrs cyhoeddus. Ac rwy'n cytuno ag ail bwynt Plaid Cymru i'w cynnig heddiw ac yn credu bod Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru mewn sefyllfa dda i edrych ar gynllunio seilwaith yn y tymor ehangach hefyd.
Mae cynnig Plaid Cymru heddiw yn galw am ddatblygu gweledigaeth hirdymor yn gyflym ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gwyrdd, cynaliadwy, integredig yng Nghymru. Wel, hynny'n union a ddylai fod wedi bod yn digwydd dros y chwe blynedd diwethaf. Rwy'n siŵr y byddai Plaid Cymru yn cytuno â hynny hefyd. Rwyf wedi cael cyfle, fel Aelodau eraill, i edrych yn fanylach ar adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus.
Nawr, mae fy nodiadau'n eithaf helaeth ar yr adroddiad o ran tynnu sylw at gasgliadau'r arolygydd wrth ystyried elfennau amgylcheddol cynllun Llywodraeth Cymru ei hun. Mae amser yn fy nghyfyngu o ran yr hyn y gallaf ei ddweud, ond hoffwn dynnu sylw at gasgliadau'r arolygydd ar allyriadau carbon, a amlinellir ar dudalen 400 yr adroddiad. Maent yn dweud bod cyfrifiadau carbon Llywodraeth Cymru yn fanwl a thrylwyr, ond maent wedi goramcangyfrif yr allyriadau:
y byddai'r cynllun yn lliniaru tagfeydd ac yn cael gwared ar allyriadau gormodol o draffig yn stopio ac ailgychwyn.
Ni fyddai'r cynllun yn effeithio'n andwyol ar bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau carbon nac yn llesteirio'i huchelgeisiau cyhoeddus ar gyfer bodloni targedau lleihau, a byddai'r cynllun, yn wahanol i unrhyw un arall efallai, yn garbon niwtral dros amser, ac o fudd i'r amgylchedd cyffredinol.
Dyna gasgliadau'r arolygydd wrth gytuno â chynigion Llywodraeth Cymru ei hun. Daeth yr arolygydd i'r casgliad fod tystiolaeth Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â charbon yn gadarn ac yn gyson â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Ac rwy'n credu mai'r pwynt yn y fan hon—ac mae'n sefyllfa hynod anarferol i fod ynddi—yw ei bod yn ymddangos bod y Prif Weinidog, wrth wrthod y cynllun, yn gosod Llywodraeth Cymru yn gadarn yn erbyn nid yn unig argymhellion Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer ffordd liniaru'r M4, ond ei deddfwriaeth ei hun sydd ar y llyfr statud. Rhoddodd Gweinidog yr economi ei farn ar y mater yn gynharach heddiw. Yn sicr, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed gan y Prif Weinidog a'r Gweinidog Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am yr amgylchedd i weld a ydynt yn credu bod y ddeddfwriaeth yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ddigon cadarn neu a oes angen eu diwygio bellach.
Rwy'n ofni bod y tagfeydd ar draffordd yr M4 yn un o'r enghreifftiau mwyaf pryderus o reolaeth wael Llywodraeth Cymru ar rwydwaith trafnidiaeth Cymru yn fy marn i, ac er mor bwysig yw llwybr yr M4, nid oes ateb ymarferol o hyd i'r problemau tagfeydd ar y ffordd. Felly, i gloi, Lywydd, credaf y byddai datblygu gweledigaeth hirdymor yn gyflym ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth integredig, gwyrdd a chynaliadwy yng Nghymru, sy'n cynnwys rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â phroblemau tagfeydd o amgylch Casnewydd, fel y mae Plaid Cymru yn galw amdani yn y cynnig heddiw, yn rhywbeth a fyddai wedi'i gyflawni i raddau helaeth gan y cynllun a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru ei hun.
Lywydd, er bod safbwyntiau gwahanol ynghylch yr atebion gorau i'r problemau ar goridor y M4 o amgylch Casnewydd, ni chredaf fod unrhyw un yn amau difrifoldeb y problemau hynny a'r angen i weithredu ar frys yn y tymor byr, yn ogystal â chamau gweithredu yn y tymor canolig ac yn hirdymor, i ymdrin â'r problemau hynny. Ac yn amlwg, mae pobl Casnewydd wedi dioddef yn hir yn sgil y llygredd aer, y tagfeydd a'r anawsterau eraill sy'n gysylltiedig. Felly, mae angen y camau gweithredu hynny arnom.
Credaf mai'r hyn y mae'r Prif Weinidog wedi'i benderfynu yw'r ffordd briodol ymlaen. Cytunaf ag ef fod y ffactorau amgylcheddol yn llywio'r penderfyniad a wnaeth, ac mae gwerth Gwastadeddau Gwent yn arwyddocaol iawn yn hynny o beth. Mae Gwastadeddau Gwent yn unigryw, maent yn hanesyddol, maent yn werthfawr iawn i'r amgylchedd. Rwy'n hyrwyddwr rhywogaeth y llygoden ddŵr, sy'n bresennol ar Wastadeddau Gwent, Lywydd, ac un enghraifft yn unig yw honno o amrywiaeth bywyd a natur yn yr ardal honno. Roeddwn yn falch iawn o gyflwyno dadl fer yma yn y Cynulliad yn nodi gwerth Gwastadeddau Gwent yn gyffredinol.
Ac wrth gwrs, rydym wedi datgan argyfwng hinsawdd sydd, yn fy marn i, yn hollol briodol, ac mae'n rhaid inni gynnal hynny â'r camau gweithredu, y strategaeth a'r polisi priodol. Ac rwy'n credu bod yr hen fodel 'rhagweld a darparu' o broffwydo twf traffig ac yna adeiladu ffyrdd newydd i ddarparu ar gyfer y traffig a ragwelir wedi'i danseilio i raddau helaeth oherwydd, fel y gwyddom, yr hyn sy'n tueddu i ddigwydd yw bod y ffyrdd newydd hynny'n llenwi â mwy a mwy o deithiau traffig ac yna ceir galwadau am ragor o ffyrdd newydd, ac mae'n mynd ymlaen ac ymlaen. Rhaid inni dorri'r ffordd honno o wneud pethau a dod o hyd i ddychymyg newydd ac egni newydd. Felly, credaf fod angen trafnidiaeth integredig, teithio llesol, ardaloedd 20 mya yn ein hardaloedd trefol mewnol; credaf fod pob un o'r pethau hyn yn helpu i fynd i'r afael â phroblemau llygredd aer a datblygu trafnidiaeth integredig.
Yn fy ardal i, ym Magwyr, mae ganddynt gynnig ar gyfer gorsaf rodfa Magwyr y mae'r Gweinidog yn gyfarwydd ag ef a fyddai'n helpu i fynd i'r afael â'r problemau hyn, a chael y newid moddol hwnnw i drafnidiaeth gyhoeddus. A gwn y bydd y Gweinidog yn ystyried cais am £80,000 gan Lywodraeth Cymru i gyfateb i gyllid Cyngor Sir Fynwy i fwrw ymlaen â chynnig ar gyfer cronfa gorsafoedd newydd y DU i ddatblygu hwnnw i'r cam nesaf. Hefyd, mae cryn dipyn o dai newydd wedi'u hadeiladu yn ardal sir Fynwy ar hyd coridor yr M4, a bydd sawl mil yn rhagor o gartrefi newydd. Mae'r gwasanaethau rheilffyrdd yn y fan honno, ar reilffordd Cas-Gwent i Lydney, ar hyd y llwybr hwnnw, yn orlawn, yn anfynych ac yn is na'r safon o ran y dibynadwyedd sydd ei angen arnom. Credaf efallai fod cam 3 y metro'n gyfle da i fynd i'r afael â'r problemau hynny a helpu gyda'r problemau ar yr M4 a'r newid moddol.
Credaf fod llawer y gallwn ei wneud, Lywydd, o ran rhannu ceir, gan gymell hynny drwy fod cyflogwyr yn darparu lle parcio er mwyn caniatáu i rannu ceir ddigwydd o leoliadau penodol. Mae apiau newydd wedi'u hargymell, a gall technoleg newydd helpu; mae llawer y gellir ei wneud. Credaf y gallwn greu cymhellion o ran cludo nwyddau er mwyn ei dynnu oddi ar ein ffyrdd a'i roi ar y rheilffyrdd, ac mae hynny'n digwydd yn yr Alban, er enghraifft, yn eithaf effeithiol rwy'n credu.
Ym Mryste, mae ganddynt gynllun yn awr lle caiff yr holl faniau sy'n rhuthro o gwmpas yn cludo cyflenwadau i gartrefi eu lleihau'n ddirfawr drwy gael math o fan canolog y gallant fynd iddo yn hytrach na chael llawer o faniau unigol yn gyrru o gwmpas yn dosbarthu pecynnau, a'u bod i gyd yn gadael eu pecynnau mewn lleoliad penodol ac yna fe'u cludir oddi yno gan un fan yn hytrach na nifer fawr o faniau. Felly, mae yna lawer o syniadau newydd, llawer o egni newydd, ac mae angen inni edrych ar hyn, ac rwy'n siŵr y bydd y comisiwn yn gwneud hynny, i benderfynu ar y ffordd orau o gyflawni'r hyn a ddisgrifiodd y Prif Weinidog, sef llawer o fesurau unigol i greu un ateb sylweddol ac effeithiol.
Hoffwn ddweud hefyd, Lywydd, y byddai'n bwysig yn fy marn i fod y comisiwn newydd yn cynnwys pobl sydd â phrofiad a gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, trafnidiaeth integredig, sut y mae cael y newid moddol hwn, sut y mae cael y newid ymddygiad, ac rwy'n gobeithio y gallwn gael rhywfaint o sicrwydd gan y Gweinidog trafnidiaeth yn y cyswllt hwnnw hefyd. Diolch yn fawr.
Mae'n amlwg fod angen inni ddod o hyd i ateb hirdymor i'r tagfeydd o gwmpas Casnewydd, ac nid oes neb yn gwadu hynny; nid oes neb erioed wedi gwadu hynny. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â chyflawni ei nod o system drafnidiaeth gyhoeddus amlfodd, integredig a charbon isel o ansawdd uchel, yna dyma gyfle yn awr i wneud cam ystyrlon ac arwyddocaol tuag at gyflawni hynny: mae £1.4 biliwn o gyfalaf buddsoddiad wedi'i ryddhau—dychmygwch beth y gellir ei gyflawni os caiff hwnnw ei ddefnyddio'n effeithiol. Mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn gofyn i gyrff cyhoeddus feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, i weithio'n well gyda phobl a'u cymunedau ac i liniaru problemau parhaus, megis tlodi, anghydraddoldeb iechyd a newid hinsawdd. Trafnidiaeth Cymru sydd i gyfrif am 14 y cant o'r allyriadau carbon cyfredol. Os ydym o ddifrif ynghylch cyrraedd ein targedau lleihau carbon, mae bron yn amhosibl gwneud hynny heb fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus glyfar, wyrddach, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth yma ar ôl yn ei wneud.
Yn y 10 mlynedd nesaf, er mwyn sicrhau gostyngiad o 43 y cant mewn allyriadau trafnidiaeth, mae'n amlwg fod yn rhaid i ni wneud llawer mwy. Hefyd, mae angen inni ei gwneud yn llawer haws i bobl newid eu harferion. Yn 2013, cyhoeddodd y Llywodraeth ffigurau'n tynnu sylw at y ffaith bod 43 y cant o'r teithiau a wnaed ar y rhan dan sylw o'r M4 o dan 20 milltir o hyd mewn gwirionedd, neu mewn geiriau eraill, caent eu hystyried yn deithiau lleol. Dylem anelu at leihau'r nifer hwnnw i 0 y cant, ac mae hynny'n golygu creu system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n addas ar gyfer gwlad Ewropeaidd yn yr unfed ganrif ar hugain. A allwn feio pobl am ddewis defnyddio eu ceir eu hunain yn lle trafnidiaeth gyhoeddus pan fo hwnnw'n ddrud ac yn dirywio'n gyson? Ni allwn hyd yn oed warantu toiledau ar rai gwasanaethau yn awr. Nawr, mae hynny'n teimlo i mi fel mynd tuag yn ôl, nid ymlaen.
Mae'n werth nodi hefyd mai 10 y cant o'r traffig ar y darn hwn o'r M4 sy'n gyfrifol am y tagfeydd. Wrth inni chwilio am atebion i broblem tagfeydd, dylem roi blaenoriaeth i fynd i'r afael â'r teithiau lleol hyn. A gallai mynd i'r afael â'r teithiau lleol leihau'r tagfeydd mewn ffordd fawr. Mae i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus fantais ychwanegol hefyd o wneud cymdeithas yn fwy cyfartal. Nid yw buddsoddi mewn systemau trafnidiaeth ceir yn gwneud fawr ddim i drechu tlodi trafnidiaeth, gan nad yw'n cynnwys y rhai nad oes ganddynt gar at eu defnydd. Dengys data Llywodraeth Cymru ei hun nad yw 23 y cant o gartrefi yng Nghymru yn berchen ar gar preifat, a bydd hynny, yn ddiau, yn cydredeg ag incwm isel neu amddifadedd. Mae system drafnidiaeth sy'n dibynnu ar y car yn ynysu llawer o bobl dlotaf Cymru oddi wrth waith, addysg, gweithgareddau cymunedol a chymdeithasol. Felly, byddai buddsoddi mewn system drafnidiaeth integredig sy'n fforddiadwy ac yn hygyrch yn lliniaru tlodi trafnidiaeth, yn ogystal â chynyddu buddsoddiad economaidd lleol.
Mae mynediad cyfartal at drafnidiaeth gyhoeddus, o safbwynt cymdeithasol a daearyddol, yn hanfodol er mwyn sicrhau symudedd effeithiol a chynaliadwy yn amgylcheddau trefol Cymru. Mae'n rhywbeth y gellir ei wneud ac mae gwledydd eraill ar draws Ewrop yn cynnig enghreifftiau gwych. Mae Lwcsembwrg yn darparu trafnidiaeth gyhoeddus o safon uchel, ac mae bellach yn bwriadu darparu trafnidiaeth am ddim i'w dinasyddion. Mae Dinas Lwcsembwrg, y brifddinas, yn dioddef o rai o'r tagfeydd traffig gwaethaf yn y byd. Mae'n gartref i tua 110,000 o bobl, ond mae 400,000 arall yn cymudo i mewn i'r ddinas i weithio, ac awgrymodd astudiaeth fod gyrwyr yn y brifddinas wedi treulio 33 awr ar gyfartaledd mewn tagfeydd traffig yn 2016. Mae'r Llywodraeth yn bwriadu buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth, ac mae eu strategaeth symudedd newydd, Modu 2.0, yn rhagweld rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy'n cludo 20 y cant yn fwy o bobl erbyn 2025, gyda llai o dagfeydd ar yr oriau brig. Mae'r cynllun yn cynnwys moderneiddio'r rhwydwaith rheilffyrdd, gwell cysylltiadau trawsffiniol a'r cyfnewidfeydd bws-tram-trên newydd, yn ogystal â mentrau'n ymwneud â ffyrdd, gyda buddsoddiad gan y wladwriaeth o €2.2 biliwn erbyn 2023. Os gellir ei wneud yno, gellir ei wneud yma, a chyda'r cyfle hwn sydd gennym yn awr, mae angen inni fuddsoddi ar frys yn ein trafnidiaeth gyhoeddus.
Diolch yn fawr am y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Er bod cynnig Plaid Cymru yn cydnabod y problemau tagfeydd o amgylch Casnewydd, rwy'n pryderu bod rhoi 'sy'n cynnwys' yn y cynnig yn golygu y bydd yr her fawr o amgylch Casnewydd yn mynd ar goll, ac y bydd yn dargyfeirio'r ffocws oddi ar ddatrys y broblem benodol hon.
Hoffwn ddweud nad yw'r llwybr glas yn ateb i bob problem ac i mi, nid oes iddo unrhyw werth, fel yr awgrymodd yr arolygydd, a gwn fod fy nghyd-Aelod John Griffiths hefyd yn teimlo'r un peth am y llwybr glas. Yr M4 o amgylch Casnewydd yw'r ffordd a ddefnyddir fwyaf yng Nghymru. Mae'n hanfodol i economi Cymru, mae'n darparu mynediad i ddiwydiant, porthladdoedd, meysydd awyr ac mae'n hanfodol i dwristiaeth. Nid traffig lleol yw'r mwyafrif llethol o'r traffig hwn. Ni allwn adael i'r arian gael ei ddargyfeirio i gannoedd o wahanol brosiectau. Os yw hynny'n digwydd, caiff ei effaith ei gwanhau, a bydd y porth Cymru i Loegr ac i Ewrop yn dal yn ffordd y dywedodd adroddiad yr arolygydd annibynnol nad yw'n bodloni safonau traffyrdd modern.
Rwy'n bendant fod yn rhaid i'r arian sydd wedi'i neilltuo ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem benodol hon gael ei wario ar wneud yn union hynny—mynd i'r afael â'r tagfeydd a'r llygredd aer a achosir gan yr M4 o amgylch Casnewydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi sicrwydd mai'r comisiwn fydd â'r hawl yn y lle cyntaf i benderfynu ynghylch yr arian a fyddai wedi'i neilltuo fel arall. Rhaid rhoi'r adnoddau iddynt allu gwireddu eu hatebion. Mae'r comisiwn i fod i adrodd mewn chwe mis, a gwn fod y Gweinidog wedi dweud y gallai adrodd yn ôl yn gynharach na hyn. Rwy'n awyddus i ddarganfod sut y bydd pobl Casnewydd a'r ardal ehangach yn gallu monitro cynnydd y comisiwn.
Mae'r draffordd yn torri drwy'r ddinas, ac mae ansawdd yr aer yn lleol yn dirywio, a hynny am nad yw'r traffig yn symud, gan achosi mwy o lygredd na thraffig sy'n llifo. Mae ystadegau Llywodraeth Cymru wedi dangos na fyddai dyblu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus ar y darn hwn o'r M4 ond yn sicrhau 6 y cant yn llai o draffig. Pan soniwn am draffig lleol, yr 20 milltir, hoffwn atgoffa'r Aelodau y gallai hynny gynnwys Bryste mewn gwirionedd, ac nid wyf yn hollol siŵr fod y bobl sy'n byw ym Mryste yn meddwl eu bod yn lleol i Gasnewydd. Rydym eisoes wedi gweld cynnydd o 10 y cant yn y traffig ers i'r tollau ar bont Hafren gael eu dileu. Mae'r cynnig a'r gwelliant heddiw yn ymwneud ag i ble yr awn o'r fan hon. Mae hwn yn gyfle i Gasnewydd fod yn fan treialu ar gyfer rhai prosiectau carbon isel cyffrous. Ond gadewch inni fod yn glir; mae angen inni weld atebion sy'n gweithio, atebion a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn a gwell i bobl sydd wedi aros yn amyneddgar, tra bo'r sefyllfa wedi gwaethygu.
Mae'r cyhoeddiad diweddar gan Newport Transport ynglŷn â 15 bws trydan i'w groesawu'n fawr—un i gyrraedd ym mis Chwefror, gydag 14 arall i ddilyn yn 2020. Mae'r nifer fach yma'n ddechrau da, ond mae ganddynt fflyd o 99 o fysiau, ac os ydym yn benderfynol o gynyddu'r nifer sy'n teithio ar fysiau, mae'n sicr y bydd angen mwy. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn cael trafodaethau gyda'r diwydiant bysiau i edrych ar sut y gall gyrraedd fflyd fysiau ddi-allyriadau erbyn 2028. Mae hyn yn ganmoladwy, ac yn sicr yn rhywbeth sy'n rhaid inni ei gyflawni. Fodd bynnag, pa gamau y gellir eu cymryd i sicrhau bob tro y byddwn yn cael bws neu dacsi newydd yn lle un sy'n llygru nad yw'n cael ei werthu ymlaen i lygru rhan arall o'r wlad? Pan fydd tagfeydd yn cronni ar y M4 o amgylch Casnewydd, mae llawer o yrwyr yn defnyddio eu systemau llywio â lloeren i geisio eu hosgoi. Mae hyn yn achosi iddynt fynd ar ffyrdd lleol, gan fynd â hwy'n nes byth at gartrefi ac ysgolion—ffyrdd nad ydynt yn addas i gynnal cerbydau mor drwm na maint y traffig. Hoffwn glywed pa drafodaethau y gall Llywodraeth Cymru eu cael gyda chwmnïau i geisio datrys hyn.
Mae llawer o syniadau eisoes wedi'u cynnig ac rwy'n siŵr y bydd y comisiwn arbenigol yn eu harchwilio. Mae'r adeg y bydd plant yn cael eu cludo i ac o ysgolion yn adeg brig ar gyfer tagfeydd. Credaf mai un awgrym fyddai edrych ar Gasnewydd i dreialu teithiau bws am ddim i bob disgybl cynradd ac uwchradd sy'n byw dros filltir o'u hysgolion. Drwy alluogi disgyblion i ddefnyddio bysiau, nid yn unig y byddwch yn meithrin arfer o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn y genhedlaeth nesaf, ond byddwch hefyd yn rhyddhau cyfleoedd gwaith i rieni. Mae pris a chymhwysedd i gael cludiant i'r ysgol yn golygu nad oes gan lawer o rieni ddewis ar hyn o bryd ond penderfynu rhwng gwaith a gyrru eu plant i'r ysgol. Ni fydd yr ateb hwn yn datrys popeth, ond gallai fod yn rhan o rwydwaith trafnidiaeth integredig gwyrdd a chynaliadwy yng Nghasnewydd.
Mae fy etholwyr wedi aros yn amyneddgar ers dros 30 mlynedd i rywbeth gael ei wneud, ac maent angen sicrwydd fod camau'n cael eu cymryd ar frys. Nid yw unrhyw beth yn llai na hynny'n ddigon da i bobl Casnewydd a Chymru.
Nid wyf yn dymuno gwneud sylwadau yma am fanteision ac anfanteision penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4. Rwyf am ganolbwyntio'n syml ar oblygiadau'r penderfyniad a rhoi amlinelliad byr o'r hyn a fydd, yn fy marn ostyngedig i, yn ddewis amgen costeffeithiol—gallai rhywun ddweud 'rhad' bron iawn—a luniwyd i leddfu'r problemau yn nhwnelau Bryn-glas, a thrwy hynny, yn amlwg, dynnu pwysau enfawr oddi ar ysgwyddau'r Gweinidog Cabinet. Mae fy nghyflwyniad yn dechrau gyda'r rhagosodiad fod twnelau Bryn-glas yn 369 metr o hyd ar ei ben. Mewn geiriau eraill, mae'n dwnnel byr. Mae Llywodraeth Cymru newydd wario £42 miliwn, yn gwbl briodol, ar wella'r twnelau i'r safonau diogelwch Ewropeaidd diweddaraf. Felly, rhaid gofyn y cwestiwn sylfaenol: pam y mae'r rhwystr cymharol fach hwn yn achosi'r helbul a welwn ar ffurf y tagfeydd enfawr sy'n nodwedd feunyddiol ar y ffordd i mewn i'r twnelau, i draffig tua'r gorllewin a'r dwyrain?
Fel rhywun sy'n defnyddio'r ffordd ddynesu i'r dwyrain i'r twnelau bron bob dydd, mae gennyf ddiddordeb brwd yn y dylanwadau achosol ar lif y traffig. Mewn gwirionedd, gwneuthum arsylwadau manwl mewn perthynas â llifoedd traffig ysgafn a thrwm, sy'n fy arwain i gredu mai un o'r prif ffactorau sy'n achosi i draffig arafu, gan arwain at dagfeydd a chiwiau hir wedyn, yw'r terfynau cyflymder a osodwyd yn union cyn cyfnewidfa Parc Tredegar. Mae terfyn cyflymder o 40 mya yn aml ar waith o'r gyffordd hon hyd at y twnelau eu hunain—pellter o bron 3 milltir. Fy nadl i yw y byddai unrhyw faterion diogelwch yn deillio o newid lonydd yn hwyr yn cael eu lleddfu i raddau helaeth os nad yn llwyr pe bai'r terfynau cyflymder hyn yn cael eu diystyru a bod dangosyddion lonydd sylweddol yn cael eu gosod ar bontydd arwyddion mawr uwchben, wedi eu gosod ar adegau priodol cyn y twnelau, a phob un yn cynnwys darluniau graffig o'r ddwy lôn sy'n rhoi mynediad i'r twnelau, a'r lôn fewnol, sy'n rhoi mynediad i droad Malpas. Tybiaf mai dyna pam y mae'r terfynau cyflymder yno yn y lle cyntaf. Yn wir, gallai lôn ymadael Malpas gael ei gwneud yn llinell solet â chodau lliw o leiaf filltir cyn y twnelau, a byddai modurwyr yn cael eu rhybuddio y byddai unrhyw newid lôn ar ôl y pwynt hwnnw yn arwain at ddirwy. Byddai'r un arwyddion yn union yn gweithredu ar y ffyrdd dynesu tua'r gorllewin i'r twnelau, gyda'r allanfeydd i Gaerllion a Chwmbrân yn cael eu dangos yn glir, ac unwaith eto, gellid gosod camerâu cosb i atal gyrwyr rhag newid lôn ar ôl pwynt penodol. Byddai cyflwyno'r dangosyddion lôn newydd hyn yn caniatáu i draffig lifo'n ddirwystr drwy'r twnelau ar gyflymder safonol y draffordd, gan sicrhau na fydd traffig yn cronni.
Un broblem y byddai'n rhaid mynd i'r afael â hi yw bod yna fynediad i'r M4 o Malpas tua'r dwyrain, ychydig cyn y twnelau. Byddai hwn yn cael ei gau'n barhaol, fel yr allanfa oddi ar yr M4 yn syth ar ôl y twnnel i draffig sy'n mynd tua'r gorllewin. Bydd unrhyw un sydd wedi teithio drwy Ewrop yn gwybod am dwnelau a all fod yn rhai milltiroedd o hyd, yn aml yn cynnwys sawl tro, ac eto ceir terfynau cyflymder o 100 cya arnynt. Yn aml, mae'r twnelau hyn yn cynnal llawer iawn o draffig tebyg i'r traffig ar yr M4, ond o fy arsylwadau helaeth dros flynyddoedd lawer o deithio drwy Ewrop, nid ydynt yn profi'r rhwystrau a welwn yn nhwnelau Bryn-glas. Rwy'n annog y Llywodraeth i roi ystyriaeth ddifrifol i fy argymhellion pan fyddaf yn eu cyhoeddi'n llawn.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl hon, gan fod mater yr M4 a'r ateb i'r problemau traffig o amgylch ardaloedd Casnewydd a Bryn-glas yn rhywbeth rwyf wedi bod yn ymwneud ag ef o'r diwrnod cyntaf, ers i mi fod yn y Cynulliad hwn. A dweud y gwir, roeddwn yn aelod o'r pwyllgor amgylchedd a ystyriodd y cynigion hyn ac a arweiniodd at adroddiad yn ôl ym mis Gorffennaf 2014, adroddiad a gafodd ei gyhoeddi. Rwy'n credu ei fod yn cadarnhau'n bendant—ac yn cefnogi, rwy'n credu—y casgliad y daeth y Prif Weinidog iddo yn y pen draw. Cytunaf â'r penderfyniad hwnnw, ac rwyf hefyd yn cytuno'n fawr iawn â rhai o'r sylwadau a wnaethpwyd gan fy nghyd-Aelod John Griffiths ynglŷn â nifer o ddewisiadau eraill, felly nid wyf am drafod y rheini eto.
Un o'r casgliadau yn yr adroddiad yn 2014—. Fe'i darllenaf, a rhaid ei ddarllen yn y cyd-destun—. Ar y pryd, roeddem yn sôn am y posibilrwydd y gallai gostio rhwng £500 miliwn a £750 miliwn, ond yn awr y realiti yw ein bod yn sôn am brosiect £2 biliwn, pe bai wedi mynd rhagddo. Dywedai hyn:
Mae cyfanswm cost y cynllun gan gynnwys yr holl fesurau ategol yn parhau i fod yn aneglur ac mae'r ffynhonnell ar gyfer ariannu cyfanswm y gost yn ansicr ac
O ystyried y diffyg eglurder ar yr asesiad o opsiynau amgen, mesurau trafnidiaeth gyhoeddus ehangach, cynigion y Metro ac effeithiau posibl trydaneiddio, mae'n anodd dod i gasgliad ar sail y wybodaeth gyfredol fod achos argyhoeddiadol dros werth am arian hirdymor y buddsoddiad posibl hwn wedi'i wneud eto.
Nawr, bydd Russell George yn cofio'r adroddiad hwn oherwydd roeddech yn aelod o'r pwyllgor hwnnw ac roeddech yn cytuno â'r adroddiad ac yn wir, â'r casgliadau a ddaeth allan bryd hynny.
Mae'n glir iawn fod angen gweithredu mewn perthynas â'r sefyllfa o amgylch Casnewydd a'r seilwaith. Ond yr hyn rwyf am ei wneud yw ehangu'r ddadl ychydig gan nad problem gyda Bryn-glas yn unig yw hon. Nid yw'r traffig yn ymddangos drwy ryw wyrth am 7 o'r gloch y bore yn ardal Bryn-glas ac yna'n ailymddangos eto drwy ryw fath o hud a lledrith am 4, 5 neu 6 o'r gloch yn yr ardal arbennig honno. Mae problem y traffig yn dechrau'n bell cyn hynny, ac mae'n rhaid i unrhyw ateb edrych ar y problemau seilwaith traffig ehangach—i lawr o'r Cymoedd, i lawr o Ben-y-bont ar Ogwr, i lawr o Abertawe, i lawr o gymoedd Gwent.
Rhaid i unrhyw ateb iddo ystyried yr angen hefyd i ddarparu mecanwaith trafnidiaeth amgen yn yr ardaloedd hyn. A cheir ardaloedd hefyd lle gwelir cynnydd enfawr yn nifer y tai am fod tai'n rhatach. Yn wir, yn ardal Taf-Elái, gyda rhan ohoni yn fy etholaeth i, mae cynlluniau dros y degawd nesaf i godi 20,000 o dai. Felly, un o'r opsiynau y mae'n rhaid inni edrych arno yw'r opsiynau ehangach ar gyfer y metro, a rhaid i hynny gynnwys ailagor rheilffyrdd, ac mae llawer ohonynt yn dal i fod yno i raddau helaeth. Mae'r hen reilffordd o Gaerdydd drwy Orllewin Caerdydd, drwy Efail Isaf, Creigiau, yr holl ffordd drwodd i Lantrisant, Beddau ac yn cysylltu â Phont-y-clun, yn dal i fod yno i raddau helaeth. Os ydym yn adeiladu 20,000 o dai yn yr ardaloedd hyn, bydd llawer o'r bobl hyn sydd heb system drafnidiaeth arall ar yr M4, yn gyrru i lawr i Fryn-glas ac i lawr i ardaloedd eraill.
Felly, mae angen i ni gael cynllun seilwaith trafnidiaeth eang a chynhwysfawr iawn sy'n cwmpasu ardaloedd y Cymoedd yn ne Cymru, sy'n edrych i weld o ble y daw'r traffig, ac sydd yno i ddarparu ateb go iawn. Rwy'n gwbl sicr, pe baem wedi bwrw ymlaen â'r llwybr du, y gallai fod wedi lliniaru rhywfaint am gyfnod o flwyddyn neu ddwy, ond ymhen pum mlynedd byddem yn ôl yn union lle roeddem ar y dechrau. Yr unig ddewis arall mewn gwirionedd yw caniatáu i bobl gael y cyfle y mae'r rhan fwyaf o bobl ei eisiau yn fy marn i, sef i beidio â gorfod mynd â'u ceir ar y teithiau hyn, ond i ddefnyddio system drafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny. Rhaid inni sicrhau ein bod yn darparu'r ateb amgen hwnnw yn seiliedig ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth—Ken Skates.
Diolch, Lywydd. Mae'n bleser cael ymateb i'r ddadl hon y prynhawn yma. Mae'n bwnc anhygoel o bwysig, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Fel y cafodd yr Aelodau wybod yr wythnos diwethaf, ac fel y buom yn dadlau yma heddiw, penderfynodd y Prif Weinidog beidio â bwrw ymlaen â phrosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd, sef yr hyn a elwid fel arall yn llwybr du. Cyflwynwyd y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw a'r camau pwysig nesaf yn fy natganiad ysgrifenedig.
Mae'r Prif Weinidog a minnau wedi bod yn glir iawn yn y datganiadau a'r penderfyniadau hynny ein bod yn dal yn gwbl ymroddedig i fynd i'r afael â phroblemau tagfeydd ar y rhwydwaith yn ne-ddwyrain Cymru. Yn y tymor byr, gan weithio gyda phartneriaid ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd a Chyngor Dinas Casnewydd, gofynnais i fy swyddogion gyflwyno cyfres o fesurau i ddarparu manteision cymedrol ond uniongyrchol i'r ffordd. Fel rwyf hefyd wedi'i ddweud, rwy'n penodi comisiwn arbenigol i wneud argymhellion ar y camau nesaf ar gyfer y rhwydwaith trafnidiaeth yn ne-ddwyrain Cymru, a chyhoeddwyd cylch gorchwyl y comisiwn gyda fy natganiad—[Torri ar draws.]—rwy'n cael fy nhemtio'n fawr i wneud. Rwyf wedi ystyried yn ofalus y cwestiwn a ddylai'r comisiwn seilwaith cenedlaethol fod wedi cael y gwaith penodol hwn, ond Lywydd, bernais y gallai'r gwaith sylweddol ac uniongyrchol hwn eu hatal rhag bwrw ymlaen â gwaith hollbwysig arall sy'n rhaid ei ystyried er ein budd hirdymor. Wedi dweud hynny, rwy'n awyddus iddynt gyfrannu at waith y comisiwn arbenigol.
Rwy'n falch y bydd yr Arglwydd Terry Burns yn cadeirio'r comisiwn, a siaredais â'r Arglwydd Burns ddydd Llun yr wythnos hon a dweud wrtho y dylai'r comisiwn allu ystyried pob ateb, ond bod yn rhaid iddynt ystyried y rhesymau pam nad yw'r Prif Weinidog yn bwrw ymlaen â'r llwybr du. A byddaf yn sicrhau, Lywydd, fod y comisiwn yn ystyried yr ateb a rannwyd gyda ni heddiw gan David Rowlands, ynghyd ag unrhyw argymhellion dichonadwy eraill gan Aelodau yn y Siambr hon. Rwy'n disgwyl adroddiad interim cyn pen chwe mis ar ôl i'r comisiwn gael ei ffurfio, ond rwyf wedi dweud yn glir iawn y dylai'r cadeirydd allu cyflwyno awgrymiadau ymarferol y gellir eu cyflawni yn y tymor byr rhwng nawr a diwedd y chwe mis hwnnw os yw'n teimlo y gellid eu cyflawni.
Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi bod yn glir mai'r argymhellion a gyflwynir gan y comisiwn fydd yn cael eu hystyried gyntaf ar gyfer cyllid a neilltuir gan Lywodraeth Cymru i ddatrys y problemau a welwn ar y rhan honno o'r rhwydwaith. Ond rydym hefyd wedi bod yn glir gyda'r Aelodau fod yn rhaid i'r atebion hynny ddarparu gwerth da am arian. A mater i'r comisiwn fydd ystyried pob ateb. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw brosiectau anwes, fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig, y tu allan i waith y comisiwn. Nawr, er y bydd galwadau'n cystadlu am gyllid bob amser, rydym yn glir fod sicrhau atebion cynaliadwy i'r heriau sylweddol ar hyd y coridor trafnidiaeth hwn yn brif flaenoriaeth, a gallaf sicrhau'r Aelodau na wastreffir y buddsoddiad datblygu ers 2013 a bydd y comisiwn yn gwneud defnydd da ohono, gan sicrhau ei fod yn cael yr holl wybodaeth modelu trafnidiaeth, arolygon amgylcheddol a phob ffactor arall perthnasol ar draws y rhanbarth.
Rhaid imi ddweud wrth Aelodau na allai unrhyw un sydd wedi darllen yr adroddiad ddod i unrhyw gasgliad heblaw na ddylid ystyried y llwybr glas o gwbl. Cafodd y llwybr glas ei feirniadu'n hallt yn adroddiad yr arolygydd, ac nid wyf yn deall o gwbl sut y gallai Aelodau sy'n honni eu bod yn cefnogi argyfwng hinsawdd gefnogi'r llwybr glas, nac yn wir sut y gallai Aelodau sy'n gwrthwynebu gwario £1 biliwn ar y llwybr du gefnogi gwario £1 biliwn ar y llwybr glas. [Torri ar draws.] Fe ildiaf mewn munud, ond yn gyntaf, rwy'n dweud yn awr, er budd yr Aelod, os nad yw wedi cael cyfle i ddarllen yr adroddiad eto a phenderfyniadau'r arolygydd ynghylch y llwybr glas, ar dudalen 460 daeth i'r casgliad, am brisiau 2015, y byddai'r llwybr glas yn costio £838 miliwn yn hytrach na £350 miliwn, sy'n golygu y byddai prisiau 2019 yn sylweddol uwch. Ar yr un dudalen, mae'n amlinellu pam y byddai gan y llwybr glas gymhareb cost a budd negyddol neu isel iawn, mewn cyferbyniad â chymhareb cost a budd y llwybr du o 2:1. Ar dudalen 459, mae'n dweud y byddai'r llwybr glas yn annigonol, yn anghynaliadwy, y byddai'n parhau i losgi carbon y gellid ei osgoi a llygredd aer lleol, ac y byddai'r llwybr glas yn ddiffygiol iawn o ran lliniaru problemau'r draffordd, yn y tymor byr neu'n hirdymor, ac felly byddai'n anghynaliadwy. Dywedodd yr arolygydd hefyd am y llwybr glas y byddai wedi golygu adeiladu ar wibffordd drefol uchel yn agos at lle mae pobl yn byw a chreu baich pellach ar ffordd ddosbarthu bwysig. Byddai wedi achosi difrod ofnadwy i 3,600 o deuluoedd, ac ni ddylid bod wedi rhoi unrhyw ystyriaeth bellach i'r cynnig. Fe ildiaf.
Diolch. Cyn hynny, fe hyrwyddais o leiaf yr awydd i weld y llwybr glas yn cael ei ystyried ymhellach. Wedi darllen yr adroddiad, ar ôl mynd ar hyd y llwybr hwnnw gyda'r Athro Stuart Cole, a siarad â mwy o bobl yng Nghasnewydd ac mewn mannau eraill am y peth, caf fy narbwyllo gan lawer o'r pwyntiau y mae'r arolygydd yn eu dweud, a hoffwn gofnodi hynny.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod, a dweud y gwir, oherwydd credaf ei bod yn briodol i'r Aelodau dreulio amser yn ystyried yr hyn a ddywedodd yr arolygydd am y dewisiadau amgen hynny, oherwydd mae'n gwbl amlwg na ddylid ystyried y llwybr glas ymhellach. Ac os yw'r Aelodau'n darllen yr adroddiad, ac rwy'n gobeithio y byddant yn darllen yr adroddiad, byddant yn ailfeddwl am unrhyw gefnogaeth a roddwyd ganddynt hyd yma i'r ateb penodol hwnnw. [Torri ar draws.] Cewch, wrth gwrs.
A gawn ni gofnodi hefyd nad oes unrhyw sôn yn ein cynnig ynghylch cefnogi llwybr glas? Rwyf wedi credu ers talwm y gallai fod rhywbeth wedi'i seilio ar y llwybr glas, ond nid ar y llwybr glas ei hun, efallai y byddai'n werth ymchwilio i hynny. I mi, mae hwnnw'n dal i sefyll o ran cryfhau a datblygu cydnerthedd y rhwydwaith ffyrdd. Nid y llwybr glas fel—
Rwy'n derbyn y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ac rwy'n falch iawn o gael ei eglurhad. Roeddwn yn seilio fy sylwadau ar lawer o areithiau a datganiadau blaenorol gan eich cyd-Aelodau'n cefnogi'r llwybr sydd wedi'i feirniadu mor hallt yn adroddiad yr arolygydd. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, wrth symud ymlaen, fod angen i bawb ohonom gydnabod bod yna rwystredigaeth fawr ynglŷn â phroblemau tagfeydd ar rwydwaith yr M4, yn enwedig o amgylch twnelau Bryn-glas, a'r effaith a gafodd ar Gasnewydd ac economi de-ddwyrain Cymru. Gallaf eich sicrhau bod hon yn broblem rydym yn benderfynol o'i datrys.
Mae gennym gynlluniau hynod o gyffrous a beiddgar ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, o'r cynllun £5 biliwn a ddatblygwyd gennym drwy Trafnidiaeth Cymru ar gyfer y fasnachfraint reilffyrdd a'r metro newydd a thrawsnewidiol, i ddeddfwriaeth fawr a fydd yn helpu i ailreoleiddio'r rhwydwaith bysiau, i'r buddsoddiad mwyaf a wnaethom erioed mewn teithio llesol. Mae llawer iawn o waith cyffrous yn digwydd ledled Cymru gyfan a bydd yn ysbrydoli, bydd yn annog, a bydd yn galluogi newid moddol, sydd mor bwysig.
Credaf fod pwynt Jayne Bryant ynglŷn â'r angen i osgoi llu o fysiau sy'n allyrru lefelau uchel o garbon pan gyflwynwn fflyd newydd o gerbydau di-allyriadau yn bwysig iawn. Byddwn yn defnyddio'r grant cynnal gwasanaethau bysiau i atal hyn rhag digwydd a byddwn hefyd yn edrych ar ddatblygu cytundeb sgrapio gyda gweithredwyr bysiau.
Ddirprwy Lywydd, rydym wedi ymrwymo i ddatrys problemau'r tagfeydd o amgylch y M4 fel rhan o'n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru ac rwy'n ffyddiog y gall y comisiwn ein symud ymlaen cyn gynted ag y bo modd tuag at ddiwallu'r angen hwnnw, ond hoffwn wneud dau bwynt i orffen. Yn gyntaf oll, hoffwn ddweud hyn wrth yr Aelodau—peidiwch ag awgrymu y dylai pobl newid eu dulliau o deithio oni bai eich bod yn barod i newid eich dull chi hefyd. Ac yn olaf, am y tair blynedd y bûm yn y rôl hon, rwyf wedi bod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r model trafnidiaeth gyhoeddus am ddim y mae rhai Aelodau wedi bod yn siarad amdano'n ddiweddar, ond er mwyn cyrraedd y pwynt lle gallem gyflawni hyn, yn gyntaf mae angen i ni ddeddfu ac yn gyntaf mae angen inni gyflwyno'r diwygiadau—y diwygiadau radical a amlinellais yn y Papur Gwyn. Am y rheswm hwnnw, rwy'n gobeithio y gwnaiff yr Aelodau ar draws y Siambr fy nghynorthwyo i weithredu'r diwygiadau radical hynny a chyflwyno'r ddeddfwriaeth honno.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan.
Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Rwyf wedi synhwyro gwir rwystredigaeth y prynhawn yma ac yn wir, dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, ac rwy'n rhannu llawer o'r rhwystredigaeth honno. Rwyf wedi clywed rhwystredigaeth gan Aelod lleol fod cael gwared ar y llwybr du yn gadael problem heb ei datrys i'w chymuned. Rydym wedi clywed rhwystredigaeth ynghylch arian a wastraffwyd, am amser a wastraffwyd, diffyg penderfyniad a diffyg arweinyddiaeth. Yn sicr rwy'n rhannu'r rhwystredigaeth honno. Ond ar y pwynt hwn—ac mae'n fwy na hynny—er y gallwn edrych yn ôl, mewn ffordd, a gofyn sut a pham rydym yn y sefyllfa hon, rhaid inni symud ymlaen yn awr. Credaf fod y prynhawn yma wedi bod yn gyfle—a bydd rhagor, gan gynnwys dadl yn amser y Llywodraeth ymhen pythefnos—inni ddechrau meddwl yn greadigol am ffyrdd o fynd i'r afael â'r mater. [Torri ar draws.] Gwnaf, yn sicr.
Yn fyr iawn, gyda'r cyfleoedd hynny i edrych ar ffyrdd arloesol y gallem ryddhau capasiti ar goridor pwysig yr M4, un ffordd yw symud y cynnydd enfawr sydd gennym bellach mewn trafnidiaeth pecynnau i fyny ac i lawr y wlad, yn dod o Fryste, Avon, ond gorllewin Cymru yn ogystal. Felly, mae datblygiadau arloesol megis y grŵp gweithrediadau rheilffyrdd, gyda'u cynigion i adnewyddu cerbydau, wedi rhoi trenau 100 mya—nid y cerbydau nwyddau diwydiannol trwm hen ffasiwn—a gosod nwyddau ar baledau ar gerbydau a'u symud ar draws y wlad. Dylem fod yn arloesi gyda phethau felly yng Nghymru.
Diolch am yr ymyriad. Byddaf yn lansio ymchwiliad i'r datgeliad answyddogol yn syth ar ôl y ddadl hon i ddarganfod pwy roddodd fy araith i chi—[Chwerthin.]—oherwydd roeddwn innau hefyd yn mynd i siarad am hynny fel cam arloesol, oherwydd y mae'n sicr yn arloesol. Clywsom awgrymiadau ynglŷn â symud llwythi o nwyddau ysgafn ar gerbydau trymach ar gyfer cludo nwyddau. Mae honno'n ffordd o'i wneud. Ffordd arall bosibl, sy'n fwy cyffrous, yw gwneud yn union hynny—symud pecynnau maint cewyll rholio ar drenau teithwyr y gellir eu dadlwytho a'u llwytho mewn gorsafoedd, ar blatfformau yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd. Felly, mae yna ddatblygiadau arloesol, ac mae llawer o'r atebion i'r hyn fydd Cymru yn 2050 yn ddyfeisiau sydd eisoes wedi'u creu—mae'r dechnoleg gennym eisoes, mae'r syniadau arloesol gennym eisoes ar waith. [Torri ar draws.] Yn sicr.
A sôn am ddatblygiadau arloesol, gwn fod gennych ddiddordeb mawr yn y chwyldro ceir trydan, ac mae'r chwyldro ceir trydan a cherbydau awtonomaidd yn rhoi cyfle i gael mwy o gapasiti ar ein rhwydwaith traffyrdd gan nad oes angen cymaint o bellter stopio ar geir sy'n gallu cyfathrebu â'i gilydd drwy gyfrifiadur. Felly, mae pob math o bethau'n digwydd gyda'r rhwydwaith ffyrdd yn ogystal â cheir yn y dyfodol a fyddai'n lliniaru rhai o'r problemau gyda thagfeydd yng Nghymru.
Yn wir, mae hon yn araith gan bwyllgor i raddau helaeth iawn, ac rwy'n falch fod pawb yn cytuno mewn perthynas ag edrych ar yr holl ddatblygiadau ac atebion arloesol sydd eisoes ar gael.
Beth am rannu ceir?
Mae rhannu ceir wedi'i restru, ac yn amlwg, mae buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus mewn ffordd lawer dyfnach na'r hyn a gynllunnir ar hyn o bryd, gan edrych ar y modd yr ymchwiliwn i drafnidiaeth gyhoeddus am ddim er mwyn defnyddio'r cymhelliad hwnnw—y cymhelliad ariannol i ddenu pobl allan o'u ceir. Rydym wedi clywed yr Athro Mark Barry yn sôn yn ddiweddar am newid amserau gwaith mewn gwahanol rannau o economi de-ddwyrain Cymru, fel bod pobl yn teithio ar wahanol adegau. Roeddwn yn Imperial Park, y parc diwydiannol ar ochr orllewinol Casnewydd y bore yma, ac fe'm trawodd, fel y mae'n gwneud mor aml pan fyddaf yn mynd i barc busnes, ei fod yn llawn o gerbydau. Roedd yn orlawn o gerbydau, nid ym meysydd parcio'r ffatrïoedd a'r unedau busnes yn unig, ond ar hyd y ffyrdd i mewn i gyd, sy'n dweud wrthyf fod rhywbeth o'i le. Nid yw pobl yn cael eu perswadio nac yn cael cynnig ffyrdd gwahanol o gyrraedd eu gweithle. Felly, mae'r datblygiadau arloesol yn bodoli.
Ac yn fy marn i mae angen i ni daro cydbwysedd gofalus iawn neu sawl cydbwysedd. Mae angen i ni symud yn gyflym ond ni allwn symud yn fyrbwyll. Bydd y comisiwn sy'n cael ei sefydlu yn awr, fel y clywsom gan y Gweinidog, yn edrych ar gamau y gellir eu cymryd ar unwaith, ond ar yr un pryd, mae angen inni gynllunio yn awr ar gyfer y tymor hwy. Rhaid inni ganolbwyntio ar ddod o hyd i ateb i'r broblem ar y ffordd sydd wedi ysgogi'r agenda hon—sef tagfeydd traffig ar yr M4 o amgylch Casnewydd—ond gan ei wneud mewn ffordd sy'n edrych yn ehangach ar yr un pryd ar y tirlun trafnidiaeth yn ardal Casnewydd, ie, fel blaenoriaeth, a gobeithio ein bod yn dweud yn glir fod hynny'n bwysig i ni fel plaid, ond hefyd ar lefel strategol ledled Cymru. Ac o gofio wrth gwrs fod gennym gyfalaf posibl bellach a oedd yn barod i'w ddefnyddio, ond y gellir ei ddefnyddio ar gynllun strategol ehangach.
Rydym yn sôn yn ein cynnig am ddatblygu strategaeth yn gyflym. Unwaith eto, datblygu strategaeth yn gyflym, ie, ond nid cynllun difeddwl nad yw'n ddim mwy na phlastr. Yn sicr, fe ildiaf.
A gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud—a gwn y bydd yr Aelod yn awyddus i mi ailadrodd y pwynt hwn—nad yw'r holl arian a ddyrannwyd i'r llwybr du ar gael ar gyfer ateb yn seiliedig ar ffyrdd nac ar gyfer ymyriadau ar yr M4 yn unig? Oherwydd, wrth gwrs, un o'r rhesymau pam y penderfynodd y Prif Weinidog beidio â chytuno i'r gorchmynion oedd oherwydd y byddai wedi tynnu cyfalaf oddi wrth seilwaith cymdeithasol arall. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod y byddai'r holl arian a fyddai wedi mynd tuag at ffordd liniaru'r M4 wedi arwain at adeiladu llai o ysbytai, adeiladu llai o dai. Ac felly mae'n bwysig ein bod yn bwrw ymlaen â'r seilwaith cymdeithasol ochr yn ochr ag unrhyw fuddsoddiad yn y ffordd.
Ie, ac mae'n bwynt teg i'w wneud, ond rhaid inni fod yn ymwybodol hefyd a chofio ein bod wedi bod yn barod i ystyried gwario swm sylweddol o arian ar un cynllun, neu fel arall byddai wedi cael ei ddiystyru amser maith yn ôl. Rhaid inni fod yn ddewr yn awr ac edrych ar ffyrdd y gallwn ddefnyddio buddsoddiad sylweddol unwaith eto wrth edrych ar y problemau yn ne-ddwyrain Cymru yn ogystal â chynllunio strategol ehangach ledled Cymru.
Rwy'n meddwl bod y rhan fwyaf o'r pwyntiau wedi eu gwneud yn barod, felly rwyf am orffen drwy ddweud, wyddoch chi, fod y cloc yn tician yn awr ac mae'n bryd bod yn greadigol. Credaf y dylem fod yn edrych ar fod yn greadigol yn awr wrth ddarparu ar gyfer Casnewydd a de-ddwyrain Cymru, ond rwy'n credu o ddifrif, drwy ddarparu ymateb i broblem yng Nghasnewydd a'r cyffiniau, y gall y ddinas honno fraenaru'r tir, torri tir newydd os mynnwch, i Gymru gyfan, a phobl Casnewydd a de-ddwyrain Cymru fydd yn elwa'n gyntaf o bosibl o ymgyrch newydd a ganiatawyd drwy ganslo'r llwybr du tuag at ffordd newydd o ddarparu trafnidiaeth a ffordd newydd o feddwl am drafnidiaeth a sut y teithiwn o amgylch ein gwlad. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb y gwelliannau. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.