– Senedd Cymru am 5:03 pm ar 18 Mehefin 2019.
Diolch. Rwy'n mynd i symud ymlaen yn awr at eitem 5, datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Camau nesaf y gweithgor ar lywodraeth leol. Galwaf ar y Gweinidog i agor y ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Ymddiheuraf am fy llais craslyd heddiw.
Heddiw, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am argymhellion y gweithgor ar lywodraeth leol. Hoffwn hefyd nodi'r camau nesaf ar ôl i'r gwaith hwn ddod i ben.
Cafodd y gweithgor ei greu gan fy rhagflaenydd yn rhan o gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol i lunio a diffinio ar y cyd dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru. Ei brif orchwyl oedd datblygu agenda ar y cyd ar gyfer diwygio sy'n sicrhau cynaliadwyedd darpariaeth gwasanaethau lleol drwy strwythurau a phrosesau priodol, boed hynny drwy gydweithio, cydwasanaethau neu uno'n wirfoddol. Roedd y gweithgor hefyd yn gyfle i ni feithrin ein perthynas â llywodraeth leol o'r newydd, i archwilio a chydnabod y gwaith cadarnhaol, cydweithredol sylweddol y mae awdurdodau lleol eisoes yn ei wneud, a sut y gallwn ni symleiddio trefniadau er mwyn sicrhau sector llywodraeth leol mwy cynaliadwy yng Nghymru.
Mae ein cyfarfodydd wedi bod yn heriol ac yn gadarnhaol. Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud ar faterion sy'n bwysig i ni i gyd. Rwy'n ddiolchgar iawn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac i arweinwyr llywodraeth leol am ymwneud â'r cyfarfodydd a'r gwaith hwn gyda meddwl agored ac awydd i gytuno ar atebion ymarferol i faterion cymhleth.
Rhaid imi hefyd ddiolch i Derek Vaughan a'i longyfarch am gadeirio'r cyfarfodydd yn deg a chynhwysol. Roedd ymrwymiad Derek i'r grŵp hwn a'i gred yn yr hyn y gellid ei gyflawni yn sylfaenol i gynnydd y grŵp. Roeddwn yn falch iawn o weld ei fod wedi cael y CBE yn anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines y mis hwn am ei gyfraniad at wasanaeth gwleidyddol a chyhoeddus, sy'n haeddiannol iawn.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi argymhellion y gweithgor, sy'n ymdrin â nifer o feysydd gan gynnwys cydwasanaethau, trefniadau uno gwirfoddol, pwerau a hyblygrwydd, amrywiaeth mewn llywodraeth leol, a'r agenda o barchu'r ddwy ochr. Cafwyd llawer o ddadlau adeiladol rhwng yr holl Aelodau ac roeddwn yn falch bod y grŵp yn gallu cytuno ar gyfres glir o egwyddorion ar y cyd yn gyflym fel sail i drafodaethau ac unrhyw waith rhanbarthol a gaiff ei gyflawni yn y dyfodol.
Mae'r egwyddorion yn gosod gweithio rhanbarthol yn gadarn o fewn fframwaith o reolaeth ac atebolrwydd democrataidd, gyda chynaliadwyedd yn graidd iddo a phwyslais ar sicrhau gwasanaeth cyhoeddus yn cyflawni'n well ar gyfer dinasyddion a chymunedau. Roedd hi'n amlwg o'r sgyrsiau yn y gweithgor, a'r gwaith mapio a wnaed gan lywodraeth leol, fod cryn dipyn eisoes o gydweithio ar sail wirfoddol a statudol ledled Cymru. Rwy'n croesawu ac yn cymeradwyo hyn.
Fodd bynnag, roedd cydnabyddiaeth yn y gweithgor hefyd fod y dirwedd hon yn gymhleth, ac y gallai'r cymhlethdod hwn gyfyngu ar effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y trefniadau hyn. Rwy'n benderfynol o weithio gyda'm cyd-Aelodau yn y Cabinet i ddod o hyd i ffyrdd o leihau rhywfaint ar y cymhlethdod sy'n gysylltiedig â gweithio mewn partneriaeth yng Nghymru.
Drwy'r gweithgor, a chyfarfodydd eraill yr wyf wedi'u cael gydag arweinwyr, mae llywodraeth leol hefyd wedi tanlinellu'r angen am fwy o gysondeb yn ein hymagwedd at bartneriaeth. Rwyf wedi ymrwymo i geisio symleiddio lle bynnag y bo modd. Yn dilyn trafodaethau yn y gweithgor, mae arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a minnau wedi comisiynu adolygiad ar y cyd o'r sefyllfa o ran partneriaethau strategol i nodi'r meysydd allweddol lle y teimlir bod cymhlethdod neu ddyblygu diangen a nodi cyfleoedd ar gyfer symleiddio a rhesymoli. Bydd yr adolygiad hwn yn adrodd i'r cyngor partneriaeth ym mis Hydref eleni.
Un o brif argymhellion y gweithgor oedd yr angen am ddulliau a strwythurau mwy cyson i gefnogi gweithio a chydweithio rhanbarthol. Mae cryn dipyn o amser ac ymdrech yn mynd ar greu ac ail-greu'r trefniadau gwaith ymarferol ar gyfer gweithio ar y cyd; er enghraifft, pa awdurdod fydd yn arwain o ran y cyllid, pa awdurdod fydd y cyflogwr? Cytunodd Aelodau'r gweithgor y byddai un strwythur ar gyfer trefniadau statudol a gwirfoddol yn cadw atebolrwydd democrataidd lleol ac yn sicrhau cysondeb a symleiddio'r trefniadau cydweithio.
Mae Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), sydd i'w gyflwyno i'r Cynulliad hwn yn ddiweddarach eleni, yn rhoi'r cyfle i ddarparu un cyfrwng cyson, syml ac uniongyrchol ar gyfer gweithio rhanbarthol sy'n atebol yn ddemocrataidd. Rwy'n bwriadu cynnwys pwerau yn y Bil i alluogi creu math newydd o weithio ar y cyd—y cyfeirir ato ar hyn o bryd fel cydbwyllgor statudol—sef y cynllun glasbrint i awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd. Bydd hyn yn dileu'r costau sefydlu sy'n gysylltiedig â sefydlu trefniadau dyblygu lluosog ac yn galluogi awdurdodau i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n bodoli wrth gydweithio. Bydd y dull newydd hwn o weithio ar y cyd yn gorff corfforaethol sy'n gallu cyflogi staff a dal asedau a chyllid.
Bydd awdurdodau lleol yn gallu gofyn am sefydlu corff o'r fath pan fyddan nhw'n dymuno gweithio gyda'i gilydd ar sail buddiannau cyffredin a budd i'r ddwy ochr. Gall hyn fod mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaeth y mae awdurdodau lleol yn credu y gellir ei ddarparu'n fwy effeithlon ac effeithiol yn y modd hwn. Rwyf hefyd yn cynnig y bydd Gweinidogion Cymru yn gallu ei gwneud hi'n ofynnol i swyddogaethau awdurdodau lleol gael eu cyflawni'n rhanbarthol yn y modd hwn ar gyfer meysydd gwasanaeth penodol. Ein bwriad yw canolbwyntio ar y meysydd hynny lle mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi trefniadau rhanbarthol ar waith—naill ai'n statudol neu'n wirfoddol—neu lle mae darpariaeth i wneud trefniadau rhanbarthol eisoes yn bodoli.
Byddai Gweinidogion Cymru yn gallu sefydlu cyrff yn y meysydd gwasanaeth hyn, pryd y byddai gwneud hynny'n darparu ffordd fwy effeithiol, effeithlon a buddiol o gyflawni'r swyddogaethau hyn. Byddai hyn yn golygu'r posibilrwydd o sefydlu gwasanaethau mewn meysydd gwasanaeth fel cynllunio, trafnidiaeth a datblygu economaidd. Mae'r atebolrwydd democrataidd a'r tryloywder a ddaw yn sgil y trefniadau statudol newydd hyn yn hanfodol ar gyfer unrhyw gydweithio, ond yn enwedig ar gyfer gwasanaethau a gweithgareddau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar fywydau dinasyddion.
I gefnogi hyn, rwy'n falch y bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn cydgysylltu'r gwaith o ddatblygu cod ymarfer cydweithredol i'w fabwysiadu gan bob awdurdod lleol. Bydd y cod yn darparu egwyddorion clir ar gyfer gweithio rhanbarthol ehangach gyda disgwyliadau eglur o ran lle mae gweithio rhanbarthol yn bwysig, a'r hyn y gall awdurdodau lleol ei ddisgwyl gan ei gilydd wrth ystyried trefniadau newydd, neu reoli'r cyd-drefniadau presennol. Rwyf hefyd yn falch o ddweud fy mod wedi ymrwymo i gefnogi, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, swyddogaeth newydd ar gyfer gwella a chefnogi, a argymhellwyd gan y gweithgor, a fydd, rwy'n credu, yn rhoi cymorth cadarnhaol i awdurdodau i sicrhau'r arloesedd a'r trawsnewidiad yn y gwasanaeth sydd eu hangen ar gyfer dyfodol ein dinasyddion a'n cymunedau.
Rwyf wedi cytuno â llywodraeth leol y crëir is-grŵp newydd o Gyngor Partneriaeth Cymru, a fydd yn gweithredu ar rai o brif argymhellion y gweithgor. Bydd yr is-grŵp hwn yn mabwysiadu'r egwyddorion a oedd yn gwneud y gwaith grŵp mor llwyddiannus—cyd-barch ac agenda ar y cyd i sicrhau'r canlyniadau gorau posib i bobl Cymru. Diolch.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Fel y dywedwch chi, sefydlwyd y gweithgor i lunio a chyflawni dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru ar y cyd. Rwy'n hoff iawn o'r term 'llunio a chyflawni ar y cyd' oherwydd cyd-gynhyrchu yw hynny. Ymgynghorais â rhai o'm cydweithwyr ym maes llywodraeth leol i gael eu barn am hynny. Byddwch yn falch bod un ohonyn nhw wedi dod yn ôl ataf yn dweud bod y gweithgor wedi bod yn gynhyrchiol iawn. Ni fydd dim, meddai, yn eich datganiad yn dychryn cydweithwyr mewn Llywodraeth Leol. Nid yw'n rhydd i rannu canlyniadau'r gwaith hyd yn hyn, ond gall ddweud ei bod hi'n debygol y bydd is-grŵp o'r cyngor partneriaeth yn parhau â'r gwaith a ddechreuwyd drwy fisoedd yr haf, ac, wrth gwrs, mae hyn yn adlewyrchu argymhelliad cyntaf y gweithgor.
Fodd bynnag, a fyddech cystal ag ymdrin â phryder a godwyd gyda mi mewn ymateb arall gan gydweithiwr ym maes llywodraeth leol, rwy'n dyfynnu, ei bod hi'n ymddangos bod obsesiwn parhaus i ymyrryd gyda llywodraeth leol—a gawn ni lonydd i fwrw ymlaen â'r hyn y gwyddom ni y mae angen ei gyflawni i'n trigolion a gall Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â'r hyn y dylent fod yn ei wneud?
Rwy'n credu bod y ddau ymateb yn adlewyrchu'r pryderon sy'n dal i fod, efallai: ewyllys cadarnhaol i ymgysylltu, ond pryder y gallai hyn fod yn rhwystr, yn seiliedig ar adolygiadau blaenorol a deddfwriaeth arfaethedig ar wneud pethau'n well.
Rydych chi'n dweud yn eich datganiad fod y grŵp wedi cytuno ar gyfres glir o gyd-egwyddorion i fod yn sail i drafodaethau ac unrhyw waith rhanbarthol a gaiff ei gyflawni yn y dyfodol, gan roi gweithio rhanbarthol yn gadarn o fewn fframwaith o reolaeth ac atebolrwydd democrataidd. Sut ydych chi'n rhagweld y bydd hynny'n gweithio pan fod gan wahanol awdurdodau lleol siambrau cynghorau gwahanol, gyda gwahanol setiau o arweinwyr etholedig ac aelodau etholedig, y bydd pob un ohonyn nhw'n ceisio dwyn i gyfrif ac yn craffu ar weithrediadau posib cyrff rhanbarthol ar y cyd, ac o bosib agendâu gwahanol rhwng cynghorau gwahanol, a hyd yn oed grwpiau o fewn cynghorau, yn unol â hynny?
Rydych chi'n dweud ei bod hi'n amlwg bod cryn dipyn o waith partneriaeth gydweithredol eisoes yn cael ei gynnal ar sail wirfoddol a statudol ledled Cymru. Pan wnaethom ni gymryd tystiolaeth yn olynol ar gynigion blaenorol Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad diwethaf ar gyfer dyfodol llywodraeth leol, pwysleisiodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynrychiolwyr cynghorau, swyddogion ac aelodau etholedig wrthym eu bod yn gorfod cynnal dadansoddiad cost a budd wrth gynnig gweithio'n rhanbarthol neu gydweithio ag unrhyw un ar unrhyw brosiect, fel gydag unrhyw beth arall, ac yna cyflwyno canfyddiadau'r dadansoddiad hwnnw i'r cyngor llawn er mwyn iddyn nhw benderfynu a ddylid bwrw ymlaen ai peidio. Wrth gwrs, nid oes yn rhaid i Lywodraeth Cymru ei hun wneud hynny pan fydd yn cynnig newidiadau mewn llywodraeth leol, felly sut byddwch yn rhoi ystyriaeth i hynny? Roedd yn bryder mawr pan roedd hi'n ymddangos nad oedd rhai o'ch rhagflaenwyr yn gwneud hynny. Rwyf yn sicr y byddech chi, ond, unwaith eto, sut byddech chi'n ystyried y pryder hwnnw a oedd ganddyn nhw yn y gorffennol?
Rydych chi'n dweud, yn dilyn trafodaethau yn y gweithgor, fod arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chithau wedi comisiynu adolygiad ar y cyd o'r sefyllfa o ran partneriaethau strategol i nodi'r meysydd allweddol lle y teimlir bod hynny'n ddiangen, o ran cymhlethdod neu ddyblygu—. A bydd hwn yn adrodd i'r Cyngor Partneriaeth ym mis Hydref. Sut, felly, byddwch yn rhannu'r canfyddiadau â'r Cynulliad llawn? Pa amserlenni a pha ran a ydych chi'n rhagweld y bydd y Cynulliad yn ei chwarae o ran hynny?
Rydych chi'n dweud, neu'n cyfeirio at, greu dull gweithio ar y cyd, y cyfeirir ato ar hyn o bryd fel cydbwyllgor statudol—sef y cynllun glasbrint ar gyfer awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd. Sut y bydd hynny'n gweithio gyda byrddau partneriaeth rhanbarthol, ac yn osgoi ailadrodd gwaith byrddau partneriaeth rhanbarthol, a oedd i fod yn ffordd newydd o weithio'n rhanbarthol ar draws gwasanaethau cyhoeddus a fyddai'n orfodol ac yn systematig ac yn llywio'r gwaith strategol o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol ar lefel ranbarthol gan gydweithio'n agos ag iechyd, ond hefyd byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer pob awdurdod lleol, sydd wedi'u cynllunio i wella lles economaidd, lleol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd, gan ymgysylltu â'r holl gyrff cyhoeddus a chymunedau? Felly, a ydych chi'n cynnig disodli'r cyrff hynny, neu a yw hon yn mynd i fod yn haen arall, gyda'r un bobl o bosib yn eistedd o gwmpas bwrdd gwahanol yn trafod materion tebyg iawn a chyffredinol?
Rydych chi'n datgan eich bod yn cynnig y dylai Gweinidogion Cymru allu ei gwneud hi'n ofynnol i swyddogaethau awdurdodau lleol gael eu cyflawni'n rhanbarthol mewn rhai ardaloedd ac y byddai hyn yn golygu'r posibilrwydd o sefydlu gwasanaethau mewn meysydd gwasanaeth megis cynllunio trafnidiaeth a datblygu economaidd. Sut bydd hynny'n gyson â chyrff megis Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, bwrdd twf y gogledd, wrth iddo fwrw iddi â'r ymateb i'w gais twf gan y ddwy Lywodraeth, yn ddiweddarach eleni, gobeithio, lle mae ganddyn nhw eu hunain—ac wrth gwrs, mae gennych chi'r fargen ddinesig yng Nghaerdydd ac yn Abertawe hefyd—eu cwestiynau o ran rheolaeth a phŵer gweithredol yn rhai o'r meysydd hynny ar sail cydranbarthol gyda'i gilydd eisoes? Rydych chi'n dweud y bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru'n cydgysylltu'r gwaith o ddatblygu cod ymarfer cydweithredol. A fydd hynny'n orfodol a sut y caiff ei orfodi neu a fydd yn god gwirfoddol yn unig?
Os caf i gloi drwy ofyn y cwestiwn amlwg ynghylch cynrychiolaeth y trydydd sector, gwyddom fod Cynghrair Henoed Cymru wedi parhau i godi pryderon am gynrychiolaeth y trydydd sector ar fyrddau partneriaethau rhanbarthol, gan deimlo eu bod wedi'u heithrio, gan deimlo nad ydyn nhw'n cael eu cynnwys yn llawn, ac maen nhw wedi ailadrodd hynny eto yn ddiweddar iawn. Rydym ni wedi cael adborth, er enghraifft, gan Gynghrair Niwrolegol Cymru nad yw pobl â chyflyrau niwrolegol yn cael eu cyfeirio at wasanaethau neu'n cael llais o dan ddeddfwriaeth bresennol Cymru.
Ddoe ddiwethaf, bûm i a'm cydweithiwr, Darren Millar, yn bresennol mewn digwyddiad yn y gogledd, y cynllun rhannu bywydau, rhywbeth y gwn fod Llywodraeth Cymru'n awyddus i'w gefnogi. Clywsom gan gynrychiolwyr o Wynedd ac Ynys Môn ac o'r gogledd-ddwyrain, a'r pwynt allweddol a wnaethant oedd nid yn unig fod hyn yn dda iawn i unigolion ond ei fod yn dda i gynghorau a byrddau iechyd sydd eisiau arbed arian. Fe wnaethon nhw ddweud ei fod yn costio llai na mathau eraill o ofal—£26,000 y flwyddyn, ar gyfartaledd, yn rhatach i bobl, er enghraifft, gydag anableddau dysgu, ac mae pobl yn cael ansawdd bywyd llawer gwell na drwy fathau eraill o ofal.
Felly, sut bydd—yn olaf—y corff newydd hwn yn torri drwy'r rhwystr hwnnw o'r diwedd, sy'n peri i ddarparwyr y trydydd sector bryderu'n barhaus, er gwaethaf deddfwriaeth a bwriad Llywodraeth Cymru, eu bod yn dal ar y tu allan?
Diolch am y gyfres honno o gwestiynau. Rwy'n credu bod 24, felly, byddaf i'n gwneud fy ngorau i'w hateb.
Mae'r cynnig hwn wedi'i ddatblygu, ni allaf bwysleisio digon, mewn cydweithrediad llwyr â llywodraeth leol. Nid yw hwn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i lywodraeth leol, mae'n rhywbeth yr ydym ni'n ei wneud gyda'n gilydd. Mae'n deillio o'r gweithgor. Gweithiodd y gweithgor yn effeithiol iawn, oherwydd, fel y dywedais yn fy natganiad, derbynnir yn eang gan lywodraeth leol yn ei chyfanrwydd fod y system bresennol yn gymhleth ac y gallai gael ei dyblygu, ac nad yw'n dryloyw iawn i'r dinesydd sy'n edrych i weld sut y caiff ei wasanaethau eu darparu. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw creu cyfrwng symlach a fyddai'n caniatáu i awdurdodau lleol gael pŵer caniataol—gydag un neu ddau eithriad, ond pŵer caniataol ydyw sy'n caniatáu i lywodraethau lleol ddod at ei gilydd mewn diwyg arbennig, nad yw ar gael iddyn nhw ar hyn o bryd. Byddwn yn galluogi i hynny fod ar gael drwy'r Bil, a bydd yn bwyllgor sydd yn endid cyfreithiol yn ei hawl ei hun, sy'n cael ei ffurfio gan arweinwyr yr awdurdodau lleol sy'n cydweithio. Felly, mae'n ddull democrataidd syml iawn. Bydd disgwyl i'r awdurdodau lleol ddirprwyo'r pwerau i'r pwyllgor hwnnw y maen nhw am ei wneud yn rhanbarthol yn y ffordd honno, ac wedyn gall y pwyllgor hwnnw sefydlu unrhyw strwythur y mae'n ei ddymuno o dan y drefn honno, gydag unrhyw gyfethol, unrhyw un y mae'n dymuno ei gael. Dydym ni ddim mewn unrhyw ffordd—. Dydym ni ddim yn gorfodi ein hewyllys mewn unrhyw ffordd ar hynny; mae'n fater i'r awdurdodau lleol sy'n dod ynghyd i wneud y gwaith rhanbarthol hwnnw.
Rydym ni'n gwneud hynny gan fod hynny'n caniatáu i gyrff fel Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru fabwysiadu'r strwythur hwnnw. Bydd yn sicr yn caniatáu i drefniadau bargen dinas Caerdydd fabwysiadu'r strwythur hwnnw. Mae'n caniatáu cynrychiolaeth o'r trydydd sector. Mae'n caniatáu cyfethol unrhyw un sy'n bartner sy'n gweithio i awdurdodau lleol o ran darparu'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu.
Fe wnaethoch chi ofyn yn benodol am y byrddau cynllunio rhanbarthol. Nid ydym ni wedi eu cynnwys yn benodol fel rhai gorfodol nac unrhyw beth arall ar wyneb y Bil, ond bydd yn gyfrwng sy'n agored i awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Doedd gennym ni ddim amser i wneud y gwaith polisi i'w roi ar wyneb y Bil, ond, ar y cyd ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd—ac mae'r Gweinidog Iechyd a minnau wedi cael sgyrsiau cychwynnol am hyn—byddwn yn edrych i weld a ydym ni'n credu y byddai'n fuddiol, oherwydd rydych chi'n nodi'n gywir fod rhai awdurdodau lleol yn teimlo, ar hyn o bryd, eu bod yn eistedd yn yr un cyfarfod a dim ond dau o bobl sy'n newid bob awr neu ddwy. Ac rydym ni'n awyddus iawn i sicrhau bod pobl yn defnyddio'u hamser a'u harian yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon bosib.
Mae tri maes yr hoffem ni eu harchwilio gyda llywodraeth leol dros yr haf. Y cyntaf o'r rheini yw maes trafnidiaeth, lle ceir Papur Gwyn eisoes yn sôn am gyd-awdurdodau trafnidiaeth. Yn hytrach na chael trefniant rhanbarthol gwahanol ar yr un pryd, rydym ni'n bwriadu rhoi hynny yn y trefniant hwn. Mae gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 eisoes drefniadau cynllunio strategol ynddi. Byddwn yn rhoi'r rheini yn y trefniant hwn. A byddem yn awyddus iawn i sicrhau bod datblygu economaidd a defnydd tir ar gyfer datblygu tai cymdeithasol yn rhan o'r trefniant hwn. Byddai hynny'n creu tair mantais, mae'n ymddangos i ni: un yw y byddai'n caniatáu i'r tir gael ei ddefnyddio ar y cyd ledled Cymru er mwyn cael y gorau o'r posibiliadau ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol, rhywbeth yr ydym ni eisiau ei wneud yn gyflym ac ar raddfa fwy. Yr ail yw y byddai'n caniatáu i bobl rannu adnoddau dynol prin. Mae'n anodd iawn cael gafael ar yr holl sgiliau sydd eu hangen i adeiladu'n gyflym ac ar raddfa fwy ym mhob ardal yng Nghymru, felly byddai'n ein galluogi ni i gronni'r adnoddau dynol prin hynny. A'r trydydd yw y byddai'n caniatáu cyllidebau cyfun. Wrth gyflwyno'r cyfrwng hwn yn y Ddeddf, byddwn yn cyflwyno fframwaith perfformiad newydd i gyd-fynd ag ef a fydd yn cwmpasu'r mater sy'n ymwneud â'r dadansoddiad cost a budd a'r hyn y mae angen ei wneud er mwyn gwneud hynny ac, ar y cyd, unwaith eto, â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, byddwn yn cyhoeddi'r canllawiau y bydd disgwyl i awdurdodau lleol lynu wrthynt pan fyddant yn ymrwymo i drefniant o'r fath, neu'n tynnu eu hunain allan o drefniant o'r fath. Ond ni allaf bwysleisio digon, Llywydd, fod hyn yn cael ei wneud ar y cyd â llywodraeth leol. Mae'n rhywbeth y maen nhw'n dymuno ei gael cymaint ag y dymunwn ni, a bydd yn symleiddio i ddinasyddion Cymru y ffordd y caiff eu gwasanaethau eu darparu.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad ar y gweithgor ar lywodraeth leol? Nawr, yn amlwg, crëwyd 22 o awdurdodau lleol nôl ym 1996 ac nid oedd ganddyn nhw fawr o amser i ymsefydlu cyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddod i fodolaeth ym 1999, ac weithiau rwy'n credu ein bod yn dal i fedi'r cynhaeaf hwnnw, mewn gwirionedd, oherwydd dydw i ddim yn credu ein bod ni erioed wedi mynd i'r afael o ddifrif â'r sgwrs ynghylch pwy sy'n gwneud beth o ran darparu gwasanaethau yng Nghymru o ganlyniad i'r sefyllfa 1996/1999 honno. Ac mae'r her o sut i drefnu gwasanaethau—yr hyn sydd angen ei wneud yn genedlaethol, yr hyn sydd angen ei wneud yn rhanbarthol a'r hyn sydd angen ei wneud yn lleol, yr her o ran trefniadaeth gwasanaethau—yn parhau. Ac mae pobl bob amser yn dweud, 'Wel, dim ond 8,000 milltir sgwâr yw Cymru, 3,000,000 o bobl, dewch bobl, siawns na allwn ni drefnu rhywbeth heb ddagrau, llawer o bartneriaethau a'r gweddill'.
Nawr, sylwais fod is-grŵp newydd wedi'i greu yn hyn o beth, ac roeddech chi'n sôn yn eithaf bras yn eich araith am y gwaith sydd ar y gweill. A gaf i ofyn ichi ymhelaethu ychydig ar y gwaith, yn fwy cyffredinol, o ran sut ydym ni'n ystyried o ddifrif darparu gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol yng Nghymru, y peth cenedlaethol, rhanbarthol, lleol hwnnw—am yr holl wasanaethau cyhoeddus, nid am lywodraeth leol yn unig, nawr, yn ehangach na llywodraeth leol, ie, llywodraeth leol gyfan, ond hefyd iechyd, gofal cymdeithasol, tai, trafnidiaeth, datblygu economaidd, y gwnaethoch chi eu crybwyll, a sut y gwelwch chi hynny'n digwydd? Oherwydd mae angen i hynny ddigwydd beth bynnag—. Dydw i ddim yn mynd i gael y sgwrs 'llinellau ar fapiau', ond mae angen i ni gael trafodaeth aeddfed ynghylch sut yr ydym ni'n cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus i 3,000,000 o bobl mewn 8,000 milltir sgwâr. Fe'i gwneir mewn mannau eraill heb y graddau o gymhlethdod sydd gennym ni nawr, sy'n rhannol hanesyddol, ond mae'n amlwg weithiau mai'r cwbl y mae'n rhaid ichi ei wneud yw cydio yn y danadl ac yna mynd amdani o ran darparu gwasanaethau sydd wedi'u cydlynu'n briodol, rhywbeth y soniwch amdano, a tybed a wnewch chi ymhelaethu ar hynny, oherwydd mae hi'n amlwg bod y pwynt am graffu democrataidd yn holl bwysig ac, weithiau, yr hyn sy'n mynd ar goll nawr pan soniwn ni weithiau ychydig yn gyffredinol am gynllunio rhanbarthol, yw lle y mae'r craffu democrataidd yn digwydd, felly, gan mai dim ond i'w hawdurdod lleol y caiff pobl eu hethol, nid i fwrdd rhanbarthol, fel y cyfryw.
Ac, yn fwy penodol, mae fy unig gwestiwn arall yn ymwneud â galluogi awdurdodau lleol—y pŵer i greu math newydd o weithio ar y cyd a amlinellwyd gennych chi, dull newydd i weithio ar y cyd, corff corfforaethol newydd, os mynnwch chi. A gaiff hyn ei ymestyn i ganiatáu i awdurdodau lleol sefydlu ar y cyd, rhyngddynt, ddarparwr gwasanaeth di-elw, lle y gall awdurdodau lleol ddarparu gwell gwasanaethau ar y cyd, yn hytrach na dim ond sefydlu darpariaeth ddi-elw yn unigol? Byddwn yn gobeithio y gallen nhw gydweithio, gwasanaethau cyhoeddus, a darparu gwell gwasanaethau ar y cyd, ond disgwyliaf eich ateb. Diolch.
Iawn, Diolch am hynny. Rydych chi wedi taro'r hoelen ar ei phen yn llwyr; nid wyf yn credu nad oes rheswm o gwbl pam na allwn ni ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru fel un dull o weithredu gwasanaethau cyhoeddus i Gymru gyfan. Rydym yn trafod hynny gyda llywodraeth leol ar hyn o bryd, ond rydym ni hefyd wedi cael trafodaethau gyda'r byrddau iechyd. Roeddwn yn agored iawn wrth ddweud wrth Mark Isherwood, ac fe'i dywedaf eto: ni chawsom yr amser polisi i gynnwys iechyd yn hyn ar unwaith, ond byddwn yn ceisio, wrth inni fynd â'r Bil drwy'r Cynulliad, a thrwy'r broses o graffu ar waith pwyllgorau'r Cynulliad, cael y drafodaeth honno ac i ystyried cynnwys iechyd os yw hynny'n rhywbeth y mae iechyd a llywodraeth leol, gan weithio gyda'i gilydd yn y byrddau partneriaeth rhanbarthol, yn credu y byddai'n fuddiol. Rydym yn credu y byddant yn meddwl fel yna, ond nid ydym ni—ni allaf bwysleisio digon nad ydym ni'n gorfodi hyn.
Cytunaf yn llwyr â chi ynglŷn â'r mater craffu. Felly, unwaith eto, ni fyddwn yn haearnaidd yn y Bil; byddwn yn ystyried cyd-gynhyrchu yn unol â chanllawiau craffu llywodraeth leol. Gobeithiwn allu rhannu'r arfer da o graffu ar draws Cymru. Y trefniadau rhanbarthol—gallant gael craffu rhanbarthol os ydynt yn dymuno hynny. Gallant hefyd gael craffu unigol gan lywodraeth leol os ydynt yn dymuno, neu byddwn yn rhagweld, mewn gwirionedd, cyfuniad o'r ddau, ond nid ydym ni'n cyfyngu ar hynny mewn unrhyw ffordd. Yr hyn yr ydym eisiau ei weld yw'r hyn sy'n gweithio orau.
Bydd y gyfundrefn berfformiad newydd a fydd yn cyd-fynd â hyn yn y Bil llywodraeth leol sydd ar ddod, wrth iddo gael ei gyflwyno i'r Cynulliad, gobeithio, ym mis Hydref, hefyd yn cynnwys y trefniadau newydd ar gyfer etholiadau awdurdodau lleol ynddi a, Llywydd, bu fy swyddogion yn gweithio'n galed iawn ar rywfaint o hynny yn y Senedd, ond dyma'r darn arall. Felly, bydd dwy ran fawr i'r Bil; rhan 1 fydd newid y fasnachfraint ar gyfer llywodraeth leol, gyda'r holl gymhlethdod sy'n mynd law yn llaw â hynny ynghylch y canfasio a'r holl bethau eraill sydd ynghlwm â hynny, ac wedyn yr ail ran ohono fydd y trefniadau newydd hyn a chyfundrefn berfformiad gyfan newydd. I bob pwrpas, byddwn yn diddymu Mesur 2009 ac yn disodli hynny â chyfundrefn newydd i adolygu hunanwelliant gan gymheiriaid, y bydd cyfres gyfan o ganllawiau statudol ac anstatudol yn gysylltiedig â hi er mwyn symleiddio'r dull o wneud hyn.
Rwy'n cytuno'n llwyr mai'r hyn sydd gennym ni yw dull hanesyddol o roi trefniadau amrywiol ar waith, heb i neb erioed feddwl, 'Wel, nid dyma sut y byddech yn ei wneud petaech yn dechrau eto'. Felly, dyma lywodraeth leol yn cyflwyno'r broses hon o ddechrau eto os mynnwch chi. Ni allaf bwysleisio digon pa mor gydweithredol a llawn bwriadau da y mae'r gweithgor cyfan hwn wedi bod. Mae wedi bod yn bleser bod yn bresennol, ac mae pobl wedi ymdrin ag ef yn yr ysbryd y cyfeiriodd Dai Lloyd ato yn ei gyfraniad. Felly, edrychaf ymlaen yn fawr at fynd â'r Bil drwy'r Cynulliad, a gallu cael y sgwrs fanwl yn y pwyllgorau craffu ac ar lawr y Siambr wrth inni fynd â'r mater yn ei flaen.
Ac anghofiais ddweud wrth Mark Isherwood, mewn ymateb i un o'i gwestiynau, rwyf newydd sylweddoli hefyd, y byddwn, ar y mater hwnnw ynglŷn â chraffu, yn awyddus iawn i weld beth sydd gan bwyllgorau'r Cynulliad i'w ddweud am eu swyddogaeth hwythau wrth graffu ar swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn y math hwn o gydweithio.
Yn gyntaf, a gaf fi ddweud wrth Dai Lloyd, pe na baem ni wedi cael ad-drefnu ac uno cynghorau ardal a thref, yna ni fyddem wedi cael y Cynulliad? Gwnaeth hynny wahaniaeth enfawr, oherwydd byddai wedi ychwanegu haen arall o lywodraeth, ac os edrychwch chi ar ba mor agos oedd canlyniad yr etholiad, ni fyddai wedi digwydd.
Rwyf eisiau siarad am lywodraeth leol—rwyf bob amser eisiau siarad am lywodraeth leol. Credaf fod llywodraeth leol yn bwysig iawn. Mae'n darparu gwasanaethau i bobl ledled Cymru, ac mae'r gwasanaethau y mae'n eu darparu fel arfer o safon uchel iawn ac yn cael eu gwerthfawrogi gan y preswylwyr bob amser. A phan fydd pethau'n mynd o chwith, maen nhw'n sicr o ddweud wrthym ni Aelodau Cynulliad, ac maen nhw'n dweud wrth y cynghorwyr lleol.
Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fy mod yn croesawu'r datganiad ac mae'n rhoi cyfle i ni aildrefnu ein perthynas â llywodraeth leol, i archwilio a chydnabod y cydweithio a'r gwaith cadarnhaol sylweddol y mae awdurdodau lleol eisoes yn ei wneud. Efallai y byddai hynny'n peri syndod i lywodraeth leol, oherwydd nid ydyn nhw wedi arfer â phobl yn dweud pethau caredig amdanyn nhw yn y Siambr hon o'r fainc flaen ers sawl blwyddyn. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn gwerthfawrogi'r gwaith a wneir gan awdurdodau lleol.
A gaf fi ddweud am gydwasanaethau, sy'n syniad rhagorol yn fy marn i—ac roeddwn yn perthyn i un a fodolai yn y gorffennol, sef consortiwm trafnidiaeth integredig de-orllewin Cymru? Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig eu bod yn digwydd mewn ardaloedd dealladwy, fel bod gan bob dinas-ranbarth yr holl wasanaethau yn cymryd rhan nid o reidrwydd ar draws y ddinas-ranbarth, ond o fewn y ddinas-ranbarth, a bod y rheini yn y canolbarth a'r gorllewin yn cymryd rhan yn y canolbarth a'r gorllewin. Y gwendid mawr yn Abertawe yw nad ydyn nhw'n gwybod pwy sydd yn mynd i ddod i'r cyfarfod nesaf, oherwydd weithiau Ceredigion oedd yn bresennol, weithiau Ceredigion a Phowys, weithiau Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'n creu anhawster wrth gydweithio pan fyddwch yn cydweithio â gwahanol bobl gan ddibynnu ar y gwasanaeth yr ydych chi'n sôn amdano. Felly, os oes modd gwneud popeth mewn un patrwm—ac rwyf wedi dadlau hyn sawl gwaith o'r blaen felly byddaf yn parhau i ddadlau hyn—yna bydd pobl yn dod i arfer ag ef ac yn meithrin perthnasoedd a bydd pobl yn dod i arfer ag ymdrin â'r peth yn y ffordd honno.
Credaf fod cyd-bwyllgorau statudol yn syniad rhagorol. Rwy'n meddwl am ddatblygu economaidd, ac mae'n debyg bod datblygu Prifysgol Abertawe yn ardal Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cael mwy o effaith ar Abertawe, ar ddwyrain Abertawe yn benodol, nag ar Gastell-nedd Port Talbot. Cofiaf hen Gyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw yn sefydlu marchnad Clydach, a oedd yn Nyffryn Lliw mewn gwirionedd, ond roedd y tai gyferbyn yn Abertawe a'r bobl yr effeithiwyd arnyn nhw fwyaf oedd y bobl yn Abertawe. Felly, credaf ei bod hi'n bwysig inni gael rhywfaint o gydweithio oherwydd bod rhai o'r ardaloedd siopa y tu allan i drefi—. Mae Trostre yn effeithio ar Lanelli ac mae Fforest-fach yn effeithio ar Abertawe. Mae hyn yn anochel mewn lleoedd sydd mor agos ac sydd â chysylltiadau ffyrdd da.
Yr unig gwestiwn arall sydd gennyf i yw: sut bydd yn wahanol, os o gwbl, i'r cydbwyllgor yng Ngogledd Iwerddon, a oedd yn cynnwys y cynghorau a oedd yn cymryd rhan ac a ffurfiwyd fel corff corfforaethol?
Wel, yr ateb syml iawn i'r cwestiwn olaf yw, 'ddim o gwbl.' Felly, yn y bôn, mae'n gydbwyllgor fel unrhyw un arall, heblaw ei fod yn gorff corfforaethol yn ei hawl ei hun. Y rheswm pam fod hynny'n bwysig yw ei fod yn golygu y gall gyflogi staff yn uniongyrchol a chael ei gyllideb ei hun, ac mae'n endid cyfreithiol yn ei hawl ei hun. Felly, pan fydd awdurdod yn dirprwyo ei swyddogaethau i gydbwyllgor sy'n cael ei alluogi yn y ffordd honno, mae'n golygu bod y dinesydd yn gwybod mai dyna'r corff sy'n gyfrifol am ei gyflawni ac os oeddech, er enghraifft, eisiau erlyn yr awdurdod hwnnw am beidio â darparu eich hawliau unigol, dyna fyddai'r corff corfforaethol y gallech chi arddel eich hawliau yn ei erbyn. Felly, sefyllfa llawer symlach na'r hyn sydd gennym ni eisoes.
Rwy'n rhannu teimladau Mike Hedges am lywodraeth leol. Rwyf innau hefyd yn gefnogwr mawr o lywodraeth leol. Bu ef a minnau yn gweithio gyda'n gilydd mewn un awdurdod lleol am amser hir iawn. Mae llywodraeth leol yn dda iawn am wneud y gorau o strwythurau a phrosesau gwael a pharhau i ddarparu ei gwasanaethau yn wyneb yr hyn a all fod yn rhwystrau diangen. Holl ddiben y gweithgor hwn yw dileu'r rhwystrau diangen hynny. Mae'n amlwg bod awdurdodau ledled Cymru yn cael effaith economaidd, y naill ar y llall. O ran addysg, er enghraifft, ymddengys bod ffin yr awdurdod lleol, i bob golwg, yn ffin haearnaidd ar gyfer dalgylchoedd rhai ysgolion, ac nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl o ran sut olwg fyddai ar yr ysgol leol ac ati. Rydym ni wedi cael llawer o sgyrsiau gyda phobl. Mae Kirsty Williams a minnau wedi cael sawl sgwrs gyda phobl ynglŷn â chael agwedd fwy synhwyrol at gynllunio seilwaith yn ymwneud â datblygiadau tai newydd ac yn y blaen am yr union reswm hwnnw.
Un peth nad wyf yn cytuno â Mike Hedges arno yw mater y patrwm sengl. Byddwn yn siarad â'r awdurdodau am y tri maes y dymunwn ffurfio cydbwyllgor statudol ar eu cyfer ac, fel y dywedais, y rhain yw'r trefniadau trafnidiaeth ar y cyd, trefniadau'r cynllun strategol a datblygu economaidd/adeiladu tai cymdeithasol—y cronni tir, i bob pwrpas, er mwyn adeiladu tai cymdeithasol. Ond, fel arall, mae rhyddid i wneud hyn. Felly, gall yr awdurdodau lleol wneud pa drefniadau bynnag sydd eu hangen arnyn nhw, ond oherwydd ein bod yn gwneud hynny drwy'r gweithgor, mae'r gweithgor wedi gwneud map o'r hyn sy'n bodoli a'r hyn nad yw'n bodoli, ac nid yw'n gwneud synnwyr eu bod yn gorgyffwrdd. Felly, bydd awdurdodau lleol eu hunain yn feistri ar eu ffawd eu hunain yn hynny o beth. Dyma'r rhai fydd naill ai'n mynd yn rhan o drefniant o wahanol bwyllgorau sy'n gorgyffwrdd neu beidio. Ond nid yw'n ymddangos yn synhwyrol i mi y byddech yn gwneud pump lle byddai un yn gwneud y tro. Felly, credwn y byddant yn cael y sgwrs honno ymysg ei gilydd ac yn dod i'r casgliad hwnnw.
Felly, mae'n mynd law yn llaw â'r gyfundrefn berfformiad newydd, a fydd yn cymell gweithio rhanbarthol. Byddwn yn disgwyl i awdurdod lleol ystyried gweithio'n rhanbarthol wrth gynllunio ei wasanaethau, pam nad yw hynny'n anghenraid strategol a'r hyn y gallai elwa arnynt o ran effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth wneud hynny, ac yna byddwn yn ei gwneud hi'n ofynnol iddyn nhw ystyried y ffordd orau o gyflawni hynny. Ond ni fydd hi'n ofynnol sefydlu dull penodol; eu dewis nhw fydd hynny.
Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog, a diolch ichi hefyd am ddarparu copi ymlaen llaw inni o argymhellion y gweithgor. Er ei bod yn amlwg bod llawer o waith wedi'i wneud ar osod yr agenda ar gyfer diwygio, ychydig iawn o ddiwygio a fu, mewn gwirionedd. Gweinidog, a ydych chi'n derbyn nad yw'r model presennol ar gyfer llywodraeth leol yn gynaliadwy, ac o ystyried cyflwr cyllid cyhoeddus, bod angen inni ddiwygio hynny cyn gynted ag y bo modd?
Mae is-bwyllgor newydd yn cael ei sefydlu o fewn y cyngor partneriaeth. Felly, pa bryd fyddwch chi'n gallu rhannu cylch gwaith llawn yr is-grŵp, ac, yn bwysicach, beth fydd yr amserlenni, os o gwbl, y byddant yn gweithio iddyn nhw? Os ydych chi'n derbyn y rhagosodiad bod gormod o lawer o awdurdodau lleol yn gwneud pethau'n wahanol, fel y mae'n ymddangos eich bod chi, o ystyried yr ymgyrch i greu mwy o weithio rhanbarthol, rhaid ichi dderbyn y brys am newid o ystyried y toriadau i wasanaethau hanfodol a biliau treth cyngor sy'n cynyddu.
Mae'r cyhoedd, ein trigolion, yn poeni am yr hyn a gânt am eu harian. Pan fyddant yn talu eu treth gyngor, beth maen nhw'n ei gael yn ôl? Felly, Gweinidog, sut ydych chi'n ateb yr honiadau nad yw hyn ond yn ail bobiad o hen system y cynghorau sir ac na fydd hyn yn arwain at well gwasanaethau cyhoeddus ac arbedion i drethdalwyr?
Mae'r cyhoedd, ein hetholwyr, yn mynnu cael newid cyflymach. Mae'r mater hwn wedi'i drafod ers bron i ddau ddegawd, ac nid ydym ni'n llawer nes at ei ddiwygio o hyd. Felly, Gweinidog, pryd byddwn yn gweld newid mewn llywodraeth leol mewn gwirionedd? Beth yw'r amserlen? Mae angen gweithredu nawr yn hytrach na dim ond siarad. Diolch.
Wel, dydw i ddim yn cytuno gyda chynsail sylfaenol cyflwyniad Caroline Jones yno. Dydw i ddim yn bwriadu lleihau nifer y prif awdurdodau yng Nghymru. Rydym ni'n benodol yn peidio â gwneud hynny. Bydd darpariaeth yn y Bil ar gyfer trefniadau uno gwirfoddol, pryd mae awdurdodau lleol yn teimlo eu bod am ddod at ei gilydd, ond ni fydd awdurdodau lleol yn cael eu huno'n orfodol. Yn hytrach, fel y dywedais, byddwn yn ceisio cael dull systematig o weithio'n rhanbarthol, wedi'i ddatblygu'n unol â llywodraeth leol drwy'r is-grŵp, y cytunwyd ar y cylch gorchwyl ar ei gyfer yn y cyngor partneriaeth. Rwy'n fwy na pharod i ddosbarthu'r cylch gorchwyl os oes gan Aelodau ddiddordeb, ond maen nhw i edrych eto ar y trefniadau gwaith rhanbarthol ar gyfer llywodraeth leol. Bydd adroddiad cyntaf y grŵp hwnnw'n dod yn ôl erbyn mis Hydref ac fe'i defnyddir gennym ni i lywio'r ddadl ar gyfer cyfnod 1 y Bil wrth iddo fynd i'r Senedd. Rydym yn mawr obeithio, gyda chaniatâd y Llywydd, y byddwn yn cyflwyno'r Bil hwnnw ym mis Hydref er mwyn cyrraedd anghenion amserlen yr etholiad y bydd yn sicr yn ymwybodol ohoni, ac ar hyn o bryd rydym ar y trywydd iawn i wneud hynny. Yna, wrth inni fwrw ymlaen â hynny, byddwn yn cyfeirio at yr is-grŵp newydd, y trefniadau gweithio a'r gwaith craffu ar ein pwyllgorau yma er mwyn sicrhau ein bod yn bwrw ati i gydweithio i greu system newydd o weithio i lywodraeth leol.
Diolch i'r Gweinidog.