1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 19 Mehefin 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Llywydd. Weinidog, byddwch chi'n gwybod bod Plaid Cymru wedi bod yn ymgyrchu yn ddiwyd yn erbyn llwybr du yr M4, ac mi roeddem ni, wrth gwrs, yn croesawu'r penderfyniad, pan ddaeth e, i beidio bwrw ymlaen â'r cynllun penodol hwnnw. Roeddem ni'n teimlo y byddai gwario £1.5 biliwn o leiaf o gyllid cyfalaf ar greu mwy o draffig yn annoeth. Ond gan nad yw'r arian yna nawr yn mynd i gael ei wario i'r union ddiben hwnnw, gaf i ofyn pa achos rŷch chi yn ei wneud yn y Cabinet i'r pres gael ei ddefnyddio i gryfhau is-adeiledd gwyrdd yng Nghymru, i leihau allyriadau ac i daclo newid hinsawdd? Oherwydd mi fyddai £1.5 biliwn o bunnoedd, wrth gwrs, yn gallu, er enghraifft, trawsnewid y sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ac mi fyddai gan hynny hefyd botensial i gynhyrchu incwm i’r pwrs cyhoeddus mewn blynyddoedd i ddod. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni ba achos rydych chi wedi ei wneud dros ddefnyddio’r cyllid cyfalaf yma at bwrpas amgen?
Felly, bydd y trafodaethau hynny'n digwydd. Rwyf wedi cael trafodaethau ynghylch newid hinsawdd a mwy o arian ar gyfer newid hinsawdd ar draws y Llywodraeth. Rwyf wedi cael y sgwrs honno gyda'r Gweinidog Cyllid yn uniongyrchol. Y cyllid penodol y cyfeiriwch ato—yr £1.5 biliwn mewn perthynas â'r llwybr du—yn amlwg, fe fyddwch yn ymwybodol fod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi gwneud cyhoeddiad ynglŷn â'r grŵp y mae'n ei sefydlu i edrych ar ddewisiadau amgen. Felly, yn amlwg, bydd angen defnyddio rhywfaint o'r cyllid hwnnw—y rhan fwyaf o'r cyllid hwnnw; nid wyf yn gwybod beth fydd canlyniad yr adolygiad hwnnw—ar gyfer y cynlluniau amgen hynny. Ond rwy'n credu bod fy nghyd-Weinidogion i gyd, ac mae llawer ohonynt yn aelodau o grŵp gorchwyl a gorffen y Gweinidog ar ddatgarboneiddio, yn derbyn, os ydym am liniaru newid hinsawdd—ac nid ysgogi eraill i weithredu'n unig oedd diben datgan argyfwng hinsawdd—yn amlwg, fel Llywodraeth, mae angen inni edrych ar ein cynlluniau a'n polisïau. Felly, bydd y rheini'n drafodaethau sy'n mynd rhagddynt.
Iawn, ac rŷch chi’n berffaith iawn i ddweud mai holl bwrpas datgan argyfwng hinsawdd yw i weld newid trawsnewidiol, a dweud y gwir. Ac mae yna gryn amser ers ichi wneud y datganiad hwnnw fel Llywodraeth—nifer o wythnosau erbyn hyn. Rŷch chi wedi gwneud ambell i ddatganiad ysgrifenedig a chwpwl o gyfeiriadau ar lafar i’r datganiad hwnnw ond, wrth gwrs, dŷn ni ddim wedi gweld unrhyw beth trawsnewidiol eto o safbwynt eich gwaith chi a’ch cyfrifoldebau chi fel Gweinidog. Nawr, dwi’n siŵr y byddech chi’n cytuno, wrth gwrs, nad dim ond eich rôl chi yw hynny; mae’n rôl i bob aelod Cabinet, ac mi fyddwn i, fel y mae nifer eraill wedi sôn cyn nawr, yn dymuno gweld pob Gweinidog yn gwneud datganiad fan hyn yn y Siambr yn esbonio yn union sut mae eu gwaith nhw yn mynd i newid a’u blaenoriaethau nhw o fewn eu portffolios nhw yn newid yn sgil datgan argyfwng hinsawdd.
Ond, jest i ddod nôl at eich cyfrifoldeb chi, ac mae hwn yn rhywbeth rwyf wedi ei godi chi yn flaenorol—a dwi’n gobeithio efallai, ers i fi ei godi e'n flaenorol, eich bod chi wedi cael cyfle i bwyso a mesur—dwi eisiau gwybod pa gyfarwyddyd newydd rŷch chi wedi ei roi yn dilyn datgan argyfwng hinsawdd i’r adrannau a’r cyrff sy’n dod o dan eich adain chi. Dwi’n meddwl am Gyfoeth Naturiol Cymru, Hybu Cig Cymru—mae yna ystod o gyrff rŷch chi yn eu hariannu ac yn gyfrifol amdanyn nhw. A ydych chi’n bwriadu diwygio llythyrau cylch gorchwyl y cyrff yma, oherwydd, fel rŷch chi wedi dweud eich hunain, holl bwrpas datgan argyfwng newid hinsawdd neu argyfwng hinsawdd, yw er mwyn cael yr effaith drawsnewidiol yna? Os na wnewch chi hynny, yna mi fydd pobl yn tybio bod dim byd wedi newid a'i bod hi’n fusnes fel arfer i’r Llywodraeth yma.
Wel, yn sicr nid yw'n fusnes fel arfer. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mai'r cynllun cyflawni carbon isel a lansiwyd ym mis Mawrth, ac sy'n cynnwys 100 o bolisïau ac argymhellion, yw'r sylfaen inni allu cyrraedd ein targed ar gyfer allyriadau carbon a'n cyllideb garbon, ond rwyf wedi gofyn i swyddogion adolygu'r 100 o bolisïau ac argymhellion gan ystyried (1) y cyngor a gawsom gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, a gynhaliwyd ychydig wythnosau ar ôl i ni ddatgan yr argyfwng, rwy'n credu. Ac rydych yn llygad eich lle—credaf fod pawb, ar draws y Llywodraeth, yn gorfod edrych ar eu polisïau a'u hargymhellion a'r cynlluniau y maent yn eu cyflwyno i weld a ydynt yn cyd-fynd â'r hyn sydd angen ei newid mewn perthynas â'r argyfwng hinsawdd.
Rwy'n credu ein bod wedi gweld eraill yn cael eu symbylu i weithredu. Rwy'n credu ei bod yn galonogol iawn gweld nifer yr awdurdodau lleol a'r cynghorau tref a chymuned sydd wedi penderfynu drostynt eu hunain eu bod yn datgan argyfwng hinsawdd, felly rwy'n credu ein bod yn gweld hynny'n ysgogi'r gweithredu roeddem yn gobeithio ei weld.
Mewn perthynas â'ch cwestiynau penodol ynglŷn ag a fyddaf yn newid y llythyrau cylch gwaith, mae hynny, unwaith eto, yn rhywbeth rwy'n ei ystyried. Rwy'n cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru bob mis, felly rydym yn sicr wedi trafod yr argyfwng hinsawdd a'r hyn y maent yn ystyried ei wneud. Felly, gwn er enghraifft fod Cyfoeth Naturiol Cymru'n edrych ar ba dir ychwanegol sydd ganddynt ar gyfer plannu coed. Credaf fod ganddynt dir y maent wedi'i fancio y gellir ei ailgoedwigo, ac mae angen inni edrych ar arian ar gyfer hynny wrth gwrs. Rwyf i fod i gyfarfod â Hybu Cig Cymru yn y dyfodol agos ac unwaith eto, bydd y mater hwn ar yr agenda.
Iawn. Wel, mi arhoswn ni eto i glywed unrhyw newidiadau penodol. Fe wnaf i awgrymu un peth ichi, efallai. Dwi’n cofio pan oedd y Llywodraeth ddiwethaf yn awyddus i wrthwynebu ffracio yng Nghymru. Doedd gan y Llywodraeth bryd hynny, wrth gwrs, ddim pwerau dros yr hawl i wrthod yn benodol, ond mi ddefnyddiwyd y system gynllunio, os cofiwch chi, fel ffordd i drio creu rhyw fath o foratoriwm. Nawr, roedd rhai ohonom ni'n anghytuno ei fod e'n foratoriwm mewn gwirionedd, ond awn ni ddim ar ôl yr sgwarnog yna. Ond yn sicr mi oedd yna ewyllys gan y Llywodraeth ddiwethaf, er nad oedd ganddi'r pwerau, i drio defnyddio'r hyn oedd ganddi i atal cynlluniau ffracio.
Nawr, byddwch chi'n ymwybodol o gais diweddar am brofion seismig ym mae Ceredigion, sy'n cael ei ddefnyddio, wrth gwrs, gan gwmnïoedd olew a nwy i ddod o hyd i'r lleoliadau gorau i ddrilio. Dyw hwnna ddim wedi ei ddatganoli; mae hwnna'n dal i fod yn gyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond, wrth gwrs, gall trwyddedau ddim ond cael eu rhoi os yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael eu boddhau. Felly, oni ddylai Llywodraeth Cymru ddatgan, yn yr un modd ag y gwnaethpwyd gyda ffracio a'r system gynllunio, na fyddai Cyfoeth Naturiol Cymru, er enghraifft, yn bodloni i drwyddedu unrhyw gynlluniau tebyg yn y dyfodol fel neges glir i'r sector nad oes croeso iddyn nhw, oherwydd, wrth gwrs, y byddai hynny'n anghydnaws â'r argyfwng hinsawdd sydd gennym ni yng Nghymru, ac, wrth gwrs, dylem ni fod yn cadw tanwydd ffosil yn y ddaear?
Yn bendant, a byddwch yn gwybod bod y drwydded benodol y cyfeirioch chi ati wedi cael ei hatal, ond yn sicr, gwneuthum fy marn yn glir iawn i Lywodraeth y DU. Rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth—ac rwy'n siŵr fy mod wedi ysgrifennu at Aelodau yn y Siambr, gan gynnwys y Llywydd, ynglŷn â hynny, i amlinellu'r union safbwynt rydych newydd ei ddisgrifio. Felly, mae angen inni—. Yn sicr, mae angen inni edrych ar sut y gallwn gryfhau hynny fel bod pobl yn ymwybodol iawn o'n barn. Ond rydych chi'n llygad eich lle: byddai'n rhaid iddo ddod atom ar ryw bwynt yn y gadwyn, er ei fod yn fater a gadwyd yn ôl, ac rwy'n credu fy mod wedi dweud hynny'n glir iawn yn fy llythyr.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, rwyf wedi gofyn i chi ynglŷn â hyn sawl gwaith, ac yn wir holais y Prif Weinidog yn ei gylch ddoe, sef eich bod wedi dweud yn eich datganiad a oedd ynghlwm wrth y cyhoeddiad ynghylch anelu i fod yn sero net erbyn 2050, mai'r daith honno fydd y newid economaidd mwyaf a gynlluniwyd erioed yn yr oes fodern, ac rydych hefyd wrth gwrs wedi gwneud datganiad ar argyfwng hinsawdd. Ond pan edrychaf ar gofnodion y cyfarfod Cabinet hwnnw ar 29 Ebrill, rhoddwyd gwybod i'r Cabinet am y datganiad o dan 'unrhyw fater arall', ac mae'n dweud:
Hysbysodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y Cabinet ei bod wedi datgan argyfwng newid hinsawdd... y diwrnod hwnnw.
Go brin fod hynny'n dangos llawer o gynllunio neu gynllunio pethau y bydd angen ichi eu gwneud er mwyn newid yr economi a diogelu swyddi a chreu swyddi o safon. A ydych chi'n credu bod honno'n ffordd briodol i'r Cabinet weithio?
Wel, rydych chi'n darllen cofnodion y Cabinet; ni fyddwch yn ymwybodol o'r holl drafodaethau a ddigwyddodd cyn datgan argyfwng hinsawdd. Mae grŵp gorchwyl a gorffen y Gweinidog ar ddatgarboneiddio a gadeirir gennyf yn cyfarfod bob chwe wythnos/dau fis. Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt drwy'r grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw. Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn aelod o'r pwyllgor hwnnw.
Y cynllun cyflawni carbon isel y cyfeiriais ato unwaith neu ddwy eisoes yn y sesiwn hon oedd lle y gwnaethom nodi ein 100 o bolisïau ac argymhellion. Unwaith eto, bu llawer o drafodaethau ar draws y Cabinet ar gyflwyno hynny, ac mae hyn i gyd yn rhan—. Fel y dywedais ddoe, mae'r holl rannau hyn: datgarboneiddio, lliniaru newid hinsawdd, ansawdd aer, i gyd yn hollbwysig—maent yn bethau ar wahân, ond maent yn hollbwysig. Felly, mae'r trafodaethau hynny—. Nid dim ond cyhoeddiad a wnaed gennyf fi ydoedd; roedd pobl yn ymwybodol iawn fod y cyhoeddiad hwnnw'n dod.
Diolch am hynny. Nid wyf yn beirniadu'r penderfyniadau a wnaethoch; mewn gwirionedd, rwyf wedi eu cefnogi, ond yr hyn sy'n fy mhoeni yw'r gweithredu y tu ôl i rai o'r cyhoeddiadau hyn. Rhaid imi ddweud fy mod yn credu bod cofnodion y Cabinet i fod i adlewyrchu'r drafodaeth a ddigwyddodd yn y Cabinet. Ac rwy'n cytuno bod hwn yn ymateb gan y Llywodraeth gyfan. Rydym wedi clywed ers y datganiadau hynny fod y Llywodraeth yn amlwg yn gorfod ymdrin â'r holl faterion sy'n ymwneud â'u portffolio polisïau, ond nid yw'r cofnodion hynny'n dangos yn glir i mi fod y drafodaeth honno wedi digwydd. Felly, yn amlwg, rydych chi'n dweud wrthym ei bod wedi digwydd. Er enghraifft, a allwch ddweud wrthyf faint o swyddi a gollir yn economi Cymru oherwydd y trawsnewid a faint o swyddi a allai gael eu creu yn y chwyldro gwyrdd y gobeithiwn ei weld? Mae hwnnw'n gwestiwn eithaf syml, ac os yw Ken Skates wedi bod yn aelod o'ch pwyllgor, gadewch i ni ddeall y newid hwn rydych wedi'i drafod a'r hyn y gallem ei ddisgwyl neu fel arall wrth inni symud ymlaen.
Nid cofnod o drafodaeth oedd y cofnod y cyfeirioch chi ato. Fe ddywedoch eich hun mai 'unrhyw fater arall' ydoedd, felly nid oedd yn gofnod o drafodaeth yn y Cabinet. Mae'r trafodaethau hynny'n digwydd mewn mannau eraill ar draws y Llywodraeth.
O ran eich cwestiwn am nifer y swyddi, ni allaf roi ffigur i chi. Yr hyn a drafodais gyda Ken Skates yw'r cyfle i gael mwy o swyddi os byddwn yn newid i economi carbon isel a chredaf y byddwch yn gweld bod hynny'n wir mewn rhannau eraill o'r byd sydd o'n blaenau.
Sylweddolaf na allwch roi ffigur union i mi heddiw, ond yn sicr, ymysg eich trafodaethau gyda'ch cyd-Weinidogion Cabinet, byddai gennych rywfaint o ddealltwriaeth o'r goblygiadau o ran swyddi yma—y rhai a allai gael eu colli o'r hyn y gallem ei alw'n hen economi garbon a'r hyn y gellid ei greu yn yr economi werdd. Felly, roeddwn i'n gobeithio efallai y byddech yn gallu rhoi gwybod i'r Aelodau am hynny. Un o'r pethau sy'n digwydd yn San Steffan, er enghraifft, mewn perthynas â'u datganiad, yw bod y Trysorlys yno wedi darparu manylion ariannol cadarn rhai o'r ymrwymiadau y gallai'r Llywodraeth orfod eu gwneud os yw'n mynd i gyrraedd sero net erbyn 2050, a soniwyd am ffigur o £1 triliwn, a thua £70 biliwn y flwyddyn. Pa fodelu economaidd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ac sydd wedi'i ddarparu i chi pan fyddwch wedi bod yn gwneud eich penderfyniadau—ac aelodau eraill o'r Llywodraeth—fel y gallwch wneud penderfyniadau hyddysg sy'n amlwg yn ein rhoi yn y lle gorau posibl? Ac os yw'r modelu hwnnw ar gael i chi, a wnewch chi ymrwymo i sicrhau ei fod ar gael i Aelodau'r Cynulliad fel y gallwn ei weld a deall sut yn union y cafodd y penderfyniadau eu gwneud?
Dychwelaf at yr hyn a ddywedais yn fy ail ateb i chi, sef fy mod yn meddwl bod mwy o gyfleoedd yn y sector economi carbon isel—neu sectorau, mewn gwirionedd. Felly, mae'r cydbwysedd—. Ni allaf roi ffigurau i chi. Yn sicr, bydd y prif economegydd sy'n cynghori holl Aelodau'r Llywodraeth wedi rhoi cyngor i ni y byddwn wedi'i ystyried. Nid wyf yn gwybod os yw'n sensitif yn fasnachol neu os oes unrhyw resymau eraill pam na chaf ei gyhoeddi, ond fe ymchwiliaf i hynny a rhoi gwybod i'r Aelod.
Tynnwyd cwestiwn 3 [OAQ54055] yn ôl. Cwestiwn 4—David Rees.