– Senedd Cymru am 1:30 pm ar 26 Mehefin 2019.
Os caf i sylw pawb, er mwyn i fi fedru croesawu, yn arbennig, 39 o Aelodau'r Senedd Ieuenctid i ymuno â ni heddiw, yn ein sesiwn gyntaf ni o'r math yma, ac, o bosib, y sesiwn gyntaf yn y byd lle mae senedd genedlaethol wedi cwrdd mewn sesiwn ffurfiol gyda senedd ieuenctid etholedig hefyd. Dyw'r Senedd Ieuenctid ddim eto yn flwydd oed, ond eisoes mae wedi aeddfedu ac wedi esblygu mewn modd y gallwn ni i gyd fod yn falch iawn ohoni, ac mae blaenoriaethau'r Senedd Ieuenctid honno yn flaengar, yn feddylgar, ac yn feiddgar. Ac rŷm ni i gyd yn edrych ymlaen, dwi'n siŵr, i glywed mwy am y Senedd Ieuenctid yn ystod y sesiwn yma y prynhawn yma. Byddwn hefyd yn trafod a phleidleisio ar gynnig arbennig, sydd yn amlinellu egwyddorion craidd y berthynas a fydd yn datblygu rhwng y Senedd Ieuenctid a'r Cynulliad yma, wrth i'r gwaith pwysig o gynrychioli buddiannau pobl ifanc Cymru fynd rhagddo.
Felly, heb oedi mwy, rwy'n cyflwyno'r cynnig, ac yn galw ar Maisy Evans, Aelod Senedd Ieuenctid Torfaen, i ddweud mwy wrthym ni am arwyddocâd y cynnig hwnnw. Maisy Evans.
Cynnig NDM7100 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y bydd gwaith Senedd Ieuenctid Cymru yn ystod ei thymor cyntaf yn canolbwyntio ar y materion a ganlyn:
a) iechyd meddwl a llesiant emosiynol;
b) sgiliau bywyd yn y cwricwlwm; ac
c) sbwriel a gwastraff plastig.
2. Yn cadarnhau ymrwymiad y Cynulliad i gefnogi’r gwaith y mae Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn ymgymryd ag ef i ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru.
3. Yn cytuno â’r datganiad ar y cyd sy’n amlinellu ymrwymiad y Cynulliad a Senedd Ieuenctid Cymru i weithio gyda’i gilydd ar ran pobl ifanc Cymru.
Diolch yn fawr, Llywydd. Braint ac anrhydedd yw sefyll yn y Siambr ar y diwrnod tyngedfennol hwn, ac mae'n wych gweld Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau'r Senedd Ieuenctid gyda'i gilydd ar ddiwrnod mor hanesyddol yng Nghymru.
Cyfarfu Senedd Ieuenctid Cymru yma, yn y Siambr hon, am y tro cyntaf ym mis Chwefror eleni, a chawsom gyfle i siarad am y materion sydd bwysicaf i ni fel pobl ifanc yng Nghymru. Roedd y cyfraniadau a gafwyd yn angerddol, yn amrywiol ac yn ddiffuant. Dewisais i siarad am sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, ac roedd y materion a godwyd yn cynnwys addysg ryw, ariannu ac, yn bennaf, addysg wleidyddol a dinasyddiaeth, gan fod barn pobl ifanc ar wleidyddiaeth wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Yng nghyd-destun Brexit a ffug newyddion, mae pobl ifanc mewn sefyllfa fwy bregus nag erioed o’r blaen, gyda materion o'r fath yn cael effaith uniongyrchol ar ein dyfodol ni. Mi fydd addysg safonol yn seiliedig ar wleidyddiaeth Prydain, ac yn ehangach, yn sicrhau bod dyfodol cenedlaethau iau wedi'i ddiogelu.
Fel y soniwyd eisoes, y materion y gwnaethom bleidleisio i'w blaenoriaethu yn ein tymor dwy flynedd cyntaf yw: iechyd emosiynol ac iechyd meddwl; sbwriel a gwastraff plastig; a sgiliau bywyd yn y cwricwlwm. Bydd fy nghyd-Aelodau yn helaethu ar y gwaith sy'n digwydd ym mhob un o'r meysydd hyn yn y man. Er mwyn i'n gwaith fod yn effeithiol, ac er mwyn i Senedd Ieuenctid Cymru allu cynrychioli holl bobl ifanc Cymru, mae'n hanfodol bod perthynas rhyngom ni a'r Cynulliad. Mae’r datganiad, a ddarllenir gennyf yn fuan, yn amlinellu’r egwyddorion i'r ddau sefydliad weithio gyda'i gilydd a'r hyn y gall pobl ifanc ei ddisgwyl gennym ni. Pleidleisiodd Senedd Ieuenctid Cymru yn ddiweddar i gytuno'r datganiad, ac rydym newydd gynnal digwyddiad yn y Pierhead i bwysleisio pwysigrwydd heddiw, o ran sicrhau bod ein gwaith yn cael ei ystyried gan y Cynulliad. Dyma ddatganiad Senedd Ieuenctid Cymru a’r Cynulliad:
Mae’r datganiad hwn yn nodi’r egwyddorion sy’n sail i’r berthynas rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd Ieuenctid Cymru, i sicrhau bod gan bobl ifanc yng Nghymru lais ar y lefel uchaf. Bydd Senedd Ieuenctid Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i: sicrhau bod materion, penderfyniadau, a gwaith Senedd Ieuenctid Cymru yn cael eu harwain gan ei Haelodau a'r bobl ifanc y maent yn eu cynrychioli; sicrhau bod gwaith Senedd Ieuenctid Cymru yn rhan annatod o'r broses gwneud penderfyniadau a strwythurau democrataidd yng Nghymru; parhau i wella'r ffyrdd y mae pobl ifanc yn cymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau yng Nghymru, yn unol ag erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sy'n datgan bod gan bobl ifanc yr hawl i ddweud eu barn yn rhydd ac i’w barn gael ei hystyried; ymrwymo i hawliau pobl ifanc i gael y gefnogaeth sydd ei hangen i ymgysylltu â gwaith Senedd Ieuenctid Cymru, a'u hannog i weithio, cyfathrebu ac ymgysylltu yn nwy iaith swyddogol y Cynulliad; sicrhau y gall pobl ifanc gyfrannu mewn amgylchedd hygyrch, cynhwysol a diogel; a gweithredu yn ôl egwyddorion didwylledd a thryloywder, gan ddarparu adborth clir, hygyrch ac o ansawdd da ar gyfraniad pobl ifanc i waith Senedd Ieuenctid Cymru a busnes y Cynulliad. [Cymeradwyaeth.]
Diolch yn fawr iawn.
Y siaradwr nesaf yw Jonathon Dawes, Aelod dros Ddyffryn Clwyd. Jonathon Dawes.
Diolch, Lywydd. I ddechrau, mae'n rhaid i mi ddweud ei bod yn fraint go iawn cael bod yn y Siambr heddiw i siarad am sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, sy'n fater gwirioneddol bwysig i bobl ifanc. A diolch i Senedd Ieuenctid Cymru am roi'r cyfle gwych hwn i mi. Fel y gŵyr llawer o Aelodau'r Cynulliad a Senedd Ieuenctid Cymru, ers i mi gael fy ethol, ac chyn i mi gael fy ethol hyd yn oed, rwyf wedi bod yn dadlau dros sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, ac mae'n anrhydedd i mi gael siarad â chi heddiw am waith Senedd Ieuenctid Cymru yn ogystal â fy ngwaith i'n bersonol ar y mater hynod allweddol hwn.
Ar ôl Cyfarfod Llawn cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru ym mis Chwefror, pleidleisiodd yr Aelodau o blaid sgiliau bywyd fel un o'n tri mater pwysicaf, ac roeddwn yn hapus iawn fod yr Aelodau wedi cefnogi'r mater allweddol hwn ar ôl areithiau angerddol gan Aelodau ledled Cymru. Yn gyfunol, fel senedd ieuenctid, rydym wedi cymryd camau i sicrhau newid gwirioneddol i bobl ifanc ar y mater hwn. Yn ddiweddar, rydym wedi creu pwyllgorau sgiliau bywyd, sydd â chynrychiolwyr o bob rhanbarth o Gymru. Ym mis Mai, lansiwyd ein harolwg o sgiliau bywyd ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed yn ystod Eisteddfod yr Urdd, ac rydym wedi trefnu dau ddigwyddiad ymgynghori ar sgiliau bywyd—un yng ngogledd Cymru, a'r llall yn ne Cymru. Bydd yr holl gamau rhydd hyn yn ein helpu i gael ystod eang o safbwyntiau gan bobl ifanc am yr hyn y maent eisiau ei weld yn y cwricwlwm newydd, ac yna byddwn yn trafod y rhain yng Nghyfarfod Llawn y Senedd Ieuenctid ym mis Hydref. Hoffwn annog Aelodau'r Cynulliad i rannu ein harolwg ar gyfryngau cymdeithasol, fel y mae llawer eisoes wedi'i wneud, a mynychu'r digwyddiadau ymgynghori hyn, i gael y safbwyntiau ar yr hyn a ddylai fod yn y cwricwlwm newydd o ran sgiliau bywyd, gan bobl a fydd yn cael profiad o'r cwricwlwm newydd ond sydd hefyd wedi cael profiad o'r cwricwlwm presennol a chwricwla'r gorffennol, oherwydd yn y pen draw, bydd hyn yn ein helpu i ddysgu o gamgymeriadau'r hen gwricwlwm, yn ogystal â dysgu o'r pwyntiau da wrth ddylunio un newydd.
O'm rhan i'n bersonol, rwy'n teimlo'n angerddol am y mater hwn, ond hwn yw'r mater sy'n codi amlaf o bell ffordd mewn negeseuon gan bobl ifanc ar gyfryngau cymdeithasol, a phobl ifanc sy'n byw yn fy etholaeth. Ers i mi gael fy ethol, rwyf wedi siarad â channoedd o bobl ifanc, ac maent i gyd yn cytuno â mi—dylai sgiliau bywyd chwarae rhan flaenllaw yn y cwricwlwm newydd. Er eu bod wedi treulio 13 blynedd mewn addysg amser llawn, teimlant nad oes ganddynt sgiliau digonol i'w helpu i gyflawni eu potensial yn ddiweddarach mewn bywyd, gan gynnwys addysg ariannol a gwleidyddol. Ond mae'n rhaid dweud, pan fyddaf yn siarad â phobl ifanc am y cwricwlwm—ac maent yn angerddol iawn am y mater hwn—y sgil bywyd a grybwyllir fwyaf, y sgil y mae pob un ohonynt eisiau ei weld, yw adfywio cardio-pwlmonaidd a chymorth cyntaf sylfaenol.
Mae llawer o Aelodau Cynulliad ar draws y Siambr wedi hyrwyddo'r mater hwn yn gwbl briodol, ond rwyf fi ac Aelodau eraill o Senedd Ieuenctid Cymru yn cefnogi ymgyrch barhaus Sefydliad Prydeinig y Galon i gynnwys adfywio cardio-pwlmonaidd yng nghwricwlwm 2022, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ystyried hyn ar ôl y cyfnod ymgynghori. Mae'n bwysig ein bod yn casglu amrywiaeth eang o safbwyntiau gan bobl ifanc a bod y safbwyntiau hyn yn cael eu hystyried ar y lefel uchaf, a dyna pam fod bod yma yn y Siambr heddiw, o flaen holl Aelodau'r Cynulliad, yn gam enfawr.
Mae'r cwricwlwm yn rhoi cyfle gwirioneddol i ni ei newid er gwell, ac mae rhai o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru wedi cyfarfod â'r Gweinidog addysg, Kirsty Williams, i rannu eu safbwyntiau ac i gynrychioli barn pobl ifanc yn eu hardaloedd ar y mater gwirioneddol bwysig hwn. Mae pawb ohonom wedi bod yn cyfrannu at y broses o rannu'r ymgynghoriad presennol ar y cwricwlwm newydd, ac er mwyn sicrhau cwricwlwm sy'n mynd i'r afael â'r gwaith o wella sgiliau bywyd, ymysg pethau eraill, rwy'n credu bod yn rhaid i ni weithio gyda'n gilydd yn drawsbleidiol gyda Senedd Ieuenctid Cymru, er mwyn sicrhau bod cwricwlwm newydd Cymru yn rhywbeth y gall pawb ohonom ymfalchïo ynddo. Diolch yn fawr iawn. [Cymeradwyaeth.]
Ein siaradwr nesaf yw Sandy Ibrahim, yr Aelod a etholwyd gan bartner ar gyfer Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru. Sandy Ibrahim.
Diolch, Lywydd. Sandy Ibrahim wyf fi, ac rwy'n cynrychioli'r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig yn Senedd Ieuenctid Cymru. Mae heddiw, 26 Mehefin, fel y gwn i a llawer o bobl eraill, yn ddiwrnod pwysig, nid yn unig i berson penodol, ond i Senedd Ieuenctid Cymru yn ei chyfanrwydd. Felly, yn fy araith heddiw, byddaf yn trafod gwaith y pwyllgor iechyd meddwl a llesiant emosiynol ac yn rhoi trosolwg o'n sefyllfa a'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Fel y gŵyr y rhan fwyaf ohonom heddiw, mae problemau iechyd meddwl yn effeithio ar un o bob deg person ifanc. Maent yn cynnwys dicter, iselder, unigrwydd, pyliau o banig, straen, gorbryder ac anhwylder ymddygiad, ac yn aml maent yn ymateb uniongyrchol i'r hyn sy'n digwydd yn eu bywydau. Ond er mwyn lleihau'r nifer a helpu pob person ifanc, mae angen i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd.
Rwy'n falch iawn o ddweud bod llawer iawn o waith wedi'i wneud yng Nghymru ar edrych ymhellach ar iechyd meddwl a llesiant emosiynol pobl ifanc. Ac yn bennaf, dyna y mae pawb ohonom eisiau ei weld—gwaith cadarnhaol, a chanlyniadau cadarnhaol, gobeithio. Ym mis Ebrill 2018, cyhoeddwyd yr adroddiad 'Cadernid Meddwl'. Adroddiad yw hwn yn y bôn ar y newid sylweddol sydd ei angen o ran cymorth iechyd meddwl a llesiant emosiynol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. A'r wythnos diwethaf, cynhaliodd y Cynulliad sesiwn dystiolaeth i ddilyn yr adroddiad penodol hwn.
Gan symud ymlaen, ni all Senedd Ieuenctid Cymru ar ei phen ei hun fod yn gyfrifol am waith y pwyllgor iechyd meddwl a dod o hyd i ffyrdd o wella'n gadarnhaol. Yn bennaf, bydd pob un ohonom yn gweithio'n agosach â sefydliadau, pobl neu bobl ifanc hyd yn oed, ac yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau'r newid hwn a chyflawni'r hyn rydym eisiau ei gyflawni, a diolch byth, hyd yma, rydym wedi gweld llawer o ddiddordeb gan sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys Gofal, Mind Cymru ac ambell un arall hefyd. Hefyd, rydym yn edrych ymlaen at ddechrau gweithio'n agos gyda hwy drwy ein thema waith.
Yn y pwyllgor iechyd meddwl a llesiant emosiynol, rydym wedi dechrau cymryd camau i edrych ar faterion unigol o fewn y pwynt cyffredinol hwn, ac yn y dyfodol byddwn yn gwneud mwy ar hyn ac yn dadansoddi pa feysydd rydym eisiau canolbwyntio arnynt yn benodol. Drwy ein hamser yma, mae'n amlwg y bydd angen i ni weithio gyda sefydliadau penodol, ac rydym wedi dechrau rhoi mwy o ystyriaeth i'r thema honno hefyd er mwyn dadansoddi pwy fydd y sefydliadau allweddol a fydd yn gweithio gyda ni.
Felly, yn olaf, cyn i mi gloi, roeddwn eisiau dweud, er cymaint yw fy niddordeb, rwy'n siŵr fod gan holl Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru ddiddordeb mewn dechrau clywed gan gynifer o bobl ifanc â phosibl, a sicrhau hefyd ein bod yn canolbwyntio ac yn gweithio ar y materion mewn modd cadarnhaol ac yn bwysicaf oll, mewn modd effeithiol. Diolch. [Cymeradwyaeth.]
Galwaf yn awr ar Anwen Rodaway. Anwen yw'r Aelod a etholwyd gan bartner ar gyfer Anabledd Dysgu Cymru. Anwen Rodaway i siarad.
Anwen wyf fi ac rwy'n cynrychioli Anabledd Dysgu Cymru ar Senedd Ieuenctid Cymru. Rwy'n aelod o'r pwyllgor sbwriel a gwastraff plastig a hoffwn roi trosolwg byr i chi heddiw o'n sefyllfa a'n cynlluniau ar gyfer tymor cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru.
Yn ein cyfarfod rhanbarthol diweddaraf, ffurfiwyd pwyllgorau i ystyried pob un o'r tri maes rydym wedi penderfynu gweithio arnynt. Roedd y sesiynau taflu syniadau hyn yn gynhyrchiol iawn ac maent wedi rhoi man cychwyn da i ni ar gyfer deall beth yw'r problemau, ac mae gennym rai awgrymiadau cychwynnol i fwrw ymlaen â hwy.
Bu aelodau'r pwyllgor sbwriel a gwastraff plastig yn trafod profiadau a safbwyntiau personol. Rhannwyd gwybodaeth am weithgareddau rydym wedi cymryd rhan ynddynt yn bersonol er mwyn mynd i'r afael â'r gwaith o leihau sbwriel a gwastraff plastig, yn ogystal ag enghreifftiau eraill o arferion gorau roeddem yn ymwybodol ohonynt.
Mae rhai Aelodau wedi bod yn cymryd rhan mewn sesiynau casglu sbwriel mewn ysgolion ac o fewn y cymunedau y maent yn byw ynddynt. Mae eraill wedi cymryd rhan mewn mentrau yn eu hysgolion. Er enghraifft, mae ysgol un Aelod wedi cyflwyno gorsafoedd ailgylchu o amgylch yr ysgol fel y gall disgyblion ailgylchu eu poteli plastig, eu papur, eu cardbord a'u cynwysyddion bwyd pan nad oeddent yn gallu gwneud hynny o'r blaen. Mae'n bwysig rhannu'r enghreifftiau hyn o arferion gorau ac annog ein hysgolion ein hunain i wneud newidiadau cadarnhaol.
Mae'n bwysig iawn i ni fod gennym ddealltwriaeth lawn o'r problemau y mae pobl ifanc ledled Cymru yn dymuno i ni fynd i'r afael â hwy. Rydym wedi dechrau ymgysylltu â phobl ifanc Cymru ac rydym yn dechrau cael sgyrsiau ynglŷn â pham fod sbwriel a gwastraff plastig mor bwysig iddynt a beth yw eu prif flaenoriaethau ar gyfer gweithredu yn y maes hwn.
Yn ogystal â'r blaenoriaethau hyn, mae'n bwysig iawn i ni fod ein gwaith yn Senedd Ieuenctid Cymru a'r pwyllgor sbwriel a gwastraff plastig yn ystyried ymchwil a wnaed gan gyrff a sefydliadau eraill, gan gynnwys y gwaith pwysig a wneir gan y Cynulliad. Mae'r penderfyniad i ddatgan argyfwng hinsawdd a'r ymrwymiad i ddatblygu cynllun ar gyfer dyfodol di-garbon i Gymru wedi bod yn galonogol iawn. Gobeithiwn weithio gyda chi i gynnwys llais pobl ifanc Cymru yn y cynllun hwn. Mae'r gymuned rwy'n byw ynddi wedi ymuno â chi yn ddiweddar i wneud eu datganiad eu hunain. Rwyf wedi ymuno â'r gweithgor cymunedol gyda phobl ifanc eraill yn y gymuned i sicrhau bod pryderon pobl ifanc yn cael eu clywed.
Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn ymwybodol o'r adroddiad diweddar gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol ar effeithiau llygredd microblastig a phlastig. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn mynd i'r afael â'r nifer enfawr o ficroronynnau a ffibrau na allwn eu gweld yn ogystal â'r plastig y gallwn ei weld. Cymeradwywn y pwyllgor am yr adroddiad hwn a chytunaf yn llwyr â chasgliad yr adroddiad na all Cymru wastraffu diwrnod arall yn y frwydr yn erbyn llygredd plastig. Mae'n bryd i ni weithredu yn awr. Diolch. [Cymeradwyaeth.]
Galwaf ar y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Llywydd, diolch yn fawr a diolch, wrth gwrs, i bob Aelod o'r Senedd Ieuenctid. Mae'n bleser mawr i mi gymryd rhan yn y drafodaeth bwysig yma heddiw a dwi'n ddiolchgar i'r bobl ifanc sydd yn cyfrannu. Diolch i bob un ohonoch chi am eich sylwadau meddylgar a deallus.
Mae Cymru'n arwain y ffordd gyda hawliau plant a phobl ifanc ac mae'r Senedd Ieuenctid yn enghraifft bwysig arall o sut y gallwn ni gryfhau ein democratiaeth drwy eich cynnwys chi fel pobl ifanc yn ein trafodaethau. Mae gennych chi safbwynt unigryw i'w gyfrannu ac rydym ni angen clywed eich sylwadau ar faterion mawr sy'n wynebu Cymru heddiw.
Lywydd, mewn perthynas â'r hyn a glywsom eisoes, credaf ei bod yn galonogol iawn gweld y ffordd y mae'r agenda a osodwyd gan Aelodau'r Senedd Ieuenctid yn cyd-fynd mor dda â diddordebau'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun: datganiad o argyfwng hinsawdd—y Senedd genedlaethol gyntaf yn unrhyw le yn y byd i gymryd y cam hwnnw; a phwysigrwydd iechyd meddwl a llesiant. Mae'n bwysig iawn ein bod ni heddiw yn clywed gan rywun sy'n cynrychioli pobl ifanc ag anableddau dysgu yma yng Nghymru. Eleni, rydym yn dathlu 100 mlynedd ers creu sylfaen nyrsio anableddau dysgu yma yng Nghymru. Fel gwlad, rydym bob amser wedi bod â diddordeb arbennig yn llesiant pobl sy'n gorfod byw eu bywydau gyda chyflwr iechyd meddwl y mae pobl eraill yn ddigon ffodus i beidio â gorfod ei ddioddef.
O ran sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, mae'n ein hatgoffa pam ein bod yn gweithredu i roi'r hawl i bobl ifanc 16 ac 17 oed yng Nghymru bleidleisio mewn etholiadau lleol ac yn etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol, oherwydd mae cymryd rhan mewn democratiaeth yn sgil bywyd ynddo'i hun—mae'n rhywbeth sy'n rhaid i chi ei ddysgu; mae'n rhywbeth sy'n rhaid i chi ddod i arfer ag ef. Ac mae'r achos dros ymestyn hawliau pleidleisio yng Nghymru wedi'i wreiddio yn y gred y bydd pobl ifanc yn ein system addysg yn cael eu paratoi'n briodol bellach ar gyfer y dyletswyddau democrataidd hynny, o gofio'r sgiliau bywyd sydd eu hangen arnynt er mwyn gallu gwneud hynny. Gwyddom y bydd rhoi llais i bobl ifanc yn ein democratiaeth yn annog arferion pleidleisio gydol oes a mwy o gyfranogiad yn ein prosesau democrataidd.
Mae presenoldeb Aelodau o'r Senedd Ieuenctid yma yn y Siambr gyda ni y prynhawn yma yn enghraifft bendant o'r ffordd rydym eisiau gweld ein democratiaeth yn datblygu yn y dyfodol, gan roi cyfran i bawb yn y dyfodol rydym yn ei greu yma yn y Siambr hon, ac rydym yn ddiolchgar iawn i bob un ohonoch am roi amser a gwneud ymdrech i fod yma gyda ni y prynhawn yma. Diolch yn fawr. [Cymeradwyaeth.]
Galwaf yn awr ar gynrychiolwyr y grwpiau gwleidyddol. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
Diolch, Llywydd, ac mae'n bleser cael y cyfle i siarad ar ran y Ceidwadwyr Cymreig ar y ddadl bwysig hon. Gaf i ddweud, Llywydd, fod creu Senedd Ieuenctid Cymru yn un o lwyddiannau mwyaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mae mor bwysig o ran cryfhau llais pobl ifanc yma yng Nghymru?
Hoffwn, yn gyntaf oll, ddiolch i Aelodau o'r Senedd Ieuenctid a agorodd y ddadl hon am eu hareithiau arbennig a deallus. Mae'n gwbl glir bod eu cyflwyniadau wedi cael eu hymchwilio a'u hystyried yn dda iawn, ac maent yn sicr wedi rhoi digon i ni feddwl am wrth ystyried sut yr ydym ni, fel Aelodau Cynulliad, yn mynd i’r afael â rhai o’r materion pwysicaf sy’n wynebu ein cymdeithas.
Wrth gwrs, y pwnc cyntaf y mae’r Senedd Ieuenctid wedi dewis canolbwyntio arno yw iechyd meddwl a lles emosiynol, sy’n fater hollbwysig i bawb yng Nghymru. Ar yr ochr hon o’r Siambr, rŷm ni’n awyddus i weld mwy o waith yn cael ei wneud i annog mesurau ataliol cryfach ac ymyriadau cynnar. Er enghraifft, rŷm ni am weld ysgolion ledled Cymru yn cymryd camau i ddatblygu ymwybyddiaeth ofalgar yn amgylchedd eu hysgolion, ac rŷm ni am i gyflogwyr edrych ar ffyrdd y gall eu busnesau ddarparu cymorth mwy cefnogol i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio gyda chyflyrau iechyd meddwl.
Rŷm ni eisoes yn gwybod bod amaethyddiaeth yn cario un o’r cyfraddau hunanladdiad uchaf, ac felly dwi’n credu ei bod hi’n deg dweud y gallai unrhyw un ohonom ni ei chael hi’n anodd ymdopi â’n hiechyd meddwl unrhyw bryd yn ein bywydau. Nid oes ots ble rŷch chi’n byw, neu ble rŷch chi’n gweithio, rŷm ni i gyd yn ddynol, ac felly gallwn ni gael trafferth gyda phryderon a phwysau unrhyw amser o’n bywydau. Felly, mae’n hanfodol bod dull Llywodraeth Cymru o ymdrin ag iechyd meddwl yn cwmpasu ei holl feysydd polisi, fel bod Llywodraeth Cymru yn ystyried yr effaith y gallai ei strategaethau eu cael ar les iechyd meddwl pobl pan fydd yn cyflwyno strategaethau ar gyfer yr economi, yr amgylchedd a thai.
Dwi’n hynod o falch bod y Senedd Ieuenctid wedi dewis sgiliau bywyd yn y cwricwlwm fel ei hail flaenoriaeth, oherwydd mae fy nghyd-Aelodau a minnau wedi bod yn ymgyrchu dros hyn ers peth amser. Mae fy nghyd-Aelod Suzy Davies, er enghraifft, wedi bod yn arwain y ffordd wrth alw am ddiffibrilwyr i gael eu rhoi mewn ysgolion ac i ddysgu sgiliau cymorth cyntaf pwysig, fel CPR, mewn ysgolion ledled y wlad. Mae fy nghyd-Aelod Mark Isherwood hefyd wedi bod yn galw am ychwanegu Iaith Arwyddion Prydain at y cwricwlwm cenedlaethol ac am fynediad gwell at wasanaethau iaith arwyddion i blant a phobl ifanc ym meysydd iechyd a thrafnidiaeth gyhoeddus. A bydd Aelodau’n ymwybodol fy mod i wedi galw am well gwasanaethau cymorth i blant a phobl ifanc sy’n cael trafferth gydag awtistiaeth, gan gynnwys hyfforddiant i athrawon a gweithwyr addysgol, fel bod dysgwyr ag awtistiaeth yn cael mynediad at y gofal a’r cymorth priodol drwy’r system addysg.
Yn olaf, Llywydd, dwi’n falch taw trydedd flaenoriaeth y Senedd Ieuenctid yw taclo sbwriel a gwastraff plastig. Mae’r pwnc yma’n sicr wedi ei wthio i frig yr agenda gwleidyddol yn ddiweddar oherwydd rhaglenni fel Blue Planet, sydd wedi codi ymwybyddiaeth y mater yma ymysg y cyhoedd. Mae digon o enghreifftiau o arfer da ledled Cymru sydd yn delio â sbwriel a gwastraff plastig, ond mae’n glir bod angen inni wneud mwy i hyrwyddo’r gweithgareddau hynny. Ac mae yna gyfrifoldeb gennym ni i gyd, fel unigolion, i fod yn llawer mwy cyfrifol ar fel rŷm ni’n mynd i’r afael â’r broblem enfawr yma. Rŷm ni i gyd yn ffodus iawn i fyw mewn gwlad mor brydferth, ond er mwyn cadw ei harddwch ar gyfer y bobl ifanc sydd gyda ni heddiw, ac i genedlaethau'r dyfodol, mae’n hanfodol ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i’w diogelu a’i chadw’n lân.
Felly, wrth gloi, Llywydd, gaf i, unwaith eto, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, ddiolch i Aelodau’r Senedd Ieuenctid sydd eisoes wedi siarad am eu cyfraniadau, a hefyd i holl Aelodau’r Senedd am y gwaith da y maen nhw wedi’i wneud yn barod yn yr amser byr ers iddynt gael eu hethol? Edrychaf ymlaen at glywed mwy gan y Senedd Ieuenctid ar eu blaenoriaethau yn y dyfodol ac i weithio’n agos iawn gyda nhw i ddatblygu syniadau a sicrhau bod y syniadau hynny’n cael eu gwireddu. Ac, wrth gwrs, fe fyddwn ni ar ochr hon y Siambr yn cefnogi’r cynnig hwn sydd ger ein bron ni heddiw. Diolch yn fawr iawn. [Cymeradwyaeth.]
Ar ran Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi’n gwybod fy mod i’n siarad ar ran Aelodau o bob plaid yma drwy ddweud ysbryd mor braf sydd yma yn y Senedd heddiw yma, ac y byddai hi’n dda cael teimlo’r ysbryd yna yn eich cwmni chi, fel Aelodau’r Senedd Ieuenctid, lawer tro eto yn y dyfodol.
Mae yna lawer mewn gwleidyddiaeth sy’n destun digalondid. P’un ai drwy fy ngyrfa i fel newyddiadurwr neu fel gwleidydd fy hun, mae difaterwch yn rhywbeth sydd wedi bod yn peri pryder i fi. Yn fwy diweddar, mae anoddefgarwch mewn gwleidyddiaeth yn rhywbeth y dylai ein poeni ni i gyd. Felly, mae cael rhywbeth gwirioneddol i’w ddathlu mewn gwleidyddiaeth yn braf iawn, ac mae gweld ffurfio a dilyn datblygiad cynnar ein Senedd Ieuenctid genedlaethol ni yn rhywbeth sy’n destun balchder mawr i ni gyd. Senedd Ieuenctid sy’n rhoi cyfle nid yn unig i bobl ifanc leisio barn, ond hefyd sydd yn fodd o godi ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc ledled Cymru o’r system wleidyddol, y system seneddol rydym ni'n rhan ohoni, ac sy'n cael effaith ar eich bywydau chi i gyd, ac wrth gwrs Senedd Ieuenctid sy'n blatfform i ddylanwadu go iawn ar benderfyniadau. Mae'ch Senedd chi yn llwyfan i helpu pobl ifanc, drwyddoch chi, i ddod yn rhan o wneud y penderfyniadau hynny sy'n mynd i siapio eich dyfodol chi i gyd. Dwi'n edrych ymlaen at weld hynny'n dod yn fwy a mwy amlwg wrth i'r oedran pleidleisio gael ei ymestyn i'r rhai sydd rhwng 16 a 18 oed.
Felly, mae'n wych gweld eich bod chi wedi mynd ati'n syth, wedi penderfynu rhoi ffocws clir ar dri thestun sy'n bwysig i chi. Yn wahanol i genedlaethau'r gorffennol, dwi'n meddwl, mae'ch cenhedlaeth chi wedi deall pwysigrwydd a gwerth siarad am iechyd meddwl. Mae dealltwriaeth o gyflyrau iechyd meddwl yn well nag erioed, ac mi all pwysau'r Senedd Ieuenctid sicrhau bod ymchwil a chefnogaeth a gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant yn dod yn rhan gwbl greiddiol o brofiad addysg, iechyd, gyrfaol a chymdeithasol pobl ifanc ar hyd a lled Cymru.
Mae sgiliau bywyd, wedyn, ar y cwricwlwm yn ardal bwysig iawn i roi sylw iddi hi. Mae troi o berson ifanc i oedolyn yn rhywbeth gwych, rydych chi'n amlwg yn mwynhau'r cyfnod yma yn eich bywydau a dwi'n cofio'r cyfnod efo cyffro a hapusrwydd mawr, ond, wrth gwrs, mae yna heriau yn dod yn y cyfnod yna mewn bywyd, o fod yn gyfrifol yn ariannol, gofalu am eich iechyd eich hunan neu ofalu am iechyd pobl eraill drwy CPR ac yn y blaen. Felly, ie, beth am sicrhau bod y gefnogaeth rydych chi eisiau ei chael yno i chi drwy'r system addysg?
Ac mae'r ymwybyddiaeth gynyddol wedyn sy'n tyfu o'n ffordd wastraffus ni o fyw yn galonogol iawn hefyd, a chi bobl ifanc sy'n arwain mewn cymaint o ffyrdd, yn cynnwys ar y defnydd o blastig. Felly, efo'ch help chi, mi all Cymru gael gwared ar rai o'n patrymau diog a difeddwl o fyw.
Felly bwrwch ati hi. Cofiwch y bydd cefnogaeth a phlatfform y Cynulliad yma o hyd i chi, ond mae hi hefyd yn bwysig inni beidio ag ymyrryd yn eich gwaith chi, a gadael ichi lywio’r ffordd.
Ewch amdani. Mae'r awenau yn eich dwylo chi; chi sydd wrth y llyw. Mae wedi bod yn bleser rhannu Siambr y Senedd gyda chi heddiw. Diolch am godi ein hysbryd ni i gyd heddiw, ac mae pawb ohonom yn edrych ymlaen at weld eich cyflawniadau drwy Senedd Ieuenctid Cymru ac ymhell y tu hwnt. [Cymeradwyaeth.]
Plaid Brexit, Mark Reckless.
Hoffwn innau hefyd estyn croeso cynnes i'n Haelodau o Senedd Ieuenctid Cymru. Rwy'n tybio'n gryf y bydd rhai ohonoch yma heddiw'n cael eich ethol i ymuno â ni yn y Cynulliad maes o law.
Yn anffodus, yn rhy aml, nid yw'r gwaith trawsbleidiol cadarnhaol sy'n digwydd yn y pwyllgorau, yn yr ystafelloedd wrth ymyl y Siambr hon, yn cael ei gofnodi'n eang. Caiff penawdau eu creu pan fo geiriau croes yn cael eu cyfnewid yn y Siambr hon. Fodd bynnag, rydym yn gytûn ar nifer o faterion, gan gynnwys y materion y mae'r Senedd Ieuenctid wedi tynnu sylw atynt.
Fel y clywsom yn gynharach—a diolch i chi—lluniodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg adroddiad ar y newidiadau sydd angen i ni eu gweld yn y ddarpariaeth o gymorth iechyd meddwl i bobl ifanc yng Nghymru. Roeddwn ar y pwyllgor hwnnw, ac roeddwn yn llawn edmygedd o waith Cadeirydd y pwyllgor, yr Aelod dros Dorfaen, Lynne Neagle. Mae Lynne yn Aelod Llafur ac mae gennym ein safbwyntiau gwahanol, yn fwyaf amlwg yn y Siambr hon ar Brexit, ond rwyf wedi treulio o leiaf yr un faint o amser yn cytuno â hi ar gymorth iechyd meddwl i bobl ifanc, ac nid oes gennyf ddim ond canmoliaeth iddi am ei gwaith yn y maes hwn, gan gynnwys ei rôl yn y grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru.
Pan oeddwn yn fy arddegau, ac rwy'n siŵr y byddai Aelodau eraill o'r Cynulliad yn cytuno, nid oedd trafod llesiant emosiynol rhywun mor gyffredin ag y mae heddiw. Rydym yn falch o weld bod Senedd Ieuenctid Cymru yn cyfrannu at awyrgylch lle gall pobl ifanc gael cymorth yn haws, oherwydd mae stigma'n bodoli o hyd, hyd yn oed os yw'n llai nag y bu, ac mae bylchau yn y cymorth o hyd. Fel y dywedodd Lynne yn ei rhagair i adroddiad 'Cadernid Meddwl':
'Amcangyfrifir y bydd gan dri phlentyn ym mhob ystafell ddosbarth gyffredin broblem iechyd meddwl. Erbyn y bydd plentyn yn 14 oed, bydd hanner yr holl broblemau iechyd meddwl wedi dechrau.'
Rydym ni i gyd yn pryderu am hyn, ac mae'n rhaid i bob un ohonom wneud mwy fel Cynulliad, fel y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei wneud, os ydym o ddifrif ynglŷn â thrin iechyd meddwl yn gydradd ag iechyd corfforol, sef yr uchelgais sydd gan bawb ohonom rwy'n credu.
Yn arbennig, buaswn yn gwerthfawrogi mewnbwn y Senedd Ieuenctid ar i ba raddau y mae'r cynnydd yn nifer yr achosion o broblemau iechyd meddwl a gofnodwyd yn adlewyrchu mwy o barodrwydd i fod yn agored am y mater hwn, ac i ba raddau y mae'n adlewyrchu mwy o bwysau ar bobl ifanc heddiw, gyda chynnydd bwlio ar-lein a phwysau cyfryngau cymdeithasol.
I gloi, a gobeithio na fydd ots ganddi, hoffwn ddyfynnu geiriau'r Aelod dros Dorfaen ar iechyd meddwl o adroddiad y pwyllgor unwaith eto:
'Mae hwn yn bwnc sy’n ein cyffwrdd i gyd, ac yn faes lle mae gennym ni oll gyfrifoldeb—a gallu—i wneud i newid ddigwydd.'
Gyd-Aelodau, gadewch i ni fyfyrio ar y daioni y gallwn ei wneud pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd, gadewch i ni ddod at ein gilydd ar y materion yn y cynnig hwn, a gadewch i ni wneud i'r newidiadau hynny ddigwydd. [Cymeradwyaeth.]
Mi fyddaf i'n galw nawr ar Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru o bob un o'r rhanbarthau. Ac yn gyntaf, Ifan Jones, Aelod Ynys Môn. Ifan Jones.
Prynhawn da, bawb. Mae bod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn y misoedd diwethaf wedi bod yn fraint, a dwi wedi cael gwneud ffrindiau efo’r bobl ifanc anhygoel yma. Yn rhanbarth y gogledd, rydym wedi bod yn gweithio efo’n gilydd ar sawl topig, yn cynnwys sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, a byddwn yn cynnal digwyddiad efo pobl ifanc eraill ym Mhrifysgol Glyndŵr yn fuan, i gael clywed eu barn nhw amdano. Mae'n hynod o bwysig bod llais pob person ifanc yn cael ei glywed, er eu pellter o'r brifddinas, ac rwyf yn falch iawn cael cynrychioli Ynys Môn a sicrhau bod lleisiau pobl ifanc fy mro yn cael eu clywed yn y Senedd.
Rydym hefyd wedi bod yn trafod iechyd meddwl, a beth fedrwn ni, fel Senedd Ieuenctid, ei wneud er mwyn helpu'r bobl ifanc sy’n gorfod wynebu hunllef wrth geisio cael y cymorth iechyd meddwl priodol. Rydym wedi cael cyfarfod sawl Aelod Cynulliad, yn cynnwys Rhun ap Iorwerth ac Ann Jones, sydd wedi bod yn ddiddorol iawn, wrth inni ddarganfod mwy am eu rôl a chael gweld eu cefnogaeth tuag at y Senedd Ieuenctid.
Er ein bod ni yma heddiw i ddathlu, rhaid cofio bod 200,000 o blant mewn tlodi yng Nghymru, cannoedd yn gorfod disgwyl misoedd am gymorth iechyd meddwl, ac mae’r byd o’n cwmpas yn cael ei ddinistrio gan newid hinsawdd. Mae’n rhaid i ni, fel cynrychiolwyr Cymru, weithio efo’n gilydd i greu gwlad well a mwy cydradd i bawb. Mae gennym ni ddyletswydd i sicrhau bod pobl ifanc Cymru yn cael y dechrau gorau posib i fywyd. Ni ddylem orfod disgwyl misoedd am gymorth iechyd meddwl. Ni ddylem orfod ddioddef mewn tlodi. Ni ddylem orfod poeni am ein dyfodol. Diolch. [Cymeradwyaeth.]
Y siaradwr nesaf yw Alys Hall, Aelod y Rhondda.
Diolch, Llywydd. Rydw i'n hynod o ddiolchgar i gael bod yma heddiw er mwyn dathlu digwyddiad mor bwysig i hanes Cymru, sef y sesiwn cyntaf ar y cyd rhwng y Senedd Ieuenctid a'r Cynulliad—y sesiwn gyntaf o'i math yn y byd—a hynny yn ystod yr ugeinfed flwyddyn o ddatganoli. Dwi yma yn cynrychioli fy nghyd-Aelodau o Orllewin De Cymru heddiw.
Ers cwrdd am y tro cyntaf ym mis Chwefror, rydym ni fel Aelodau rhanbarth Gorllewin De Cymru wedi ymgymryd mewn llawer o bethau gwahanol er mwyn cwrdd â phobl ifanc. Mae rhai Aelodau wedi cynnal gwasanaethau ysgol ar waith y Senedd Ieuenctid, tra bod rhai wedi cynnal sesiynau llai gydag unigolion, grwpiau bach, a grwpiau ieuenctid lleol. Mae'r rhan fwyaf ohonom ni hefyd wedi cwrdd â llawer ohonoch chi, Aelodau'r Cynulliad, er mwyn trafod problemau yn ein hardaloedd ni neu i sgwrsio am fudiadau ac achosion rydym ni'n eu cefnogi.
Tua mis yn ôl, es i i gwrdd â Leanne Wood, lle buom ni'n trafod period poverty a diffyg cymorth i ddisgyblion a phobl ifanc sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl. Rydym yn cymryd ein rôl o gynrychioli llais pobl ifanc ein hardaloedd lleol ni o ddifrif, ac yn ddiolchgar am yr amrywiaeth o gyfleon trwy’r Senedd Ieuenctid i sicrhau bod modd i’r lleisiau yma gael eu clywed.
Fel rhanbarth, rydym ni wedi cwrdd yn ein pwyllgorau i drafod sut i symud ymlaen gyda'r achosion y dewisom ni fel Senedd Ieuenctid, sef sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, sbwriel a gwastraff plastig, a chefnogaeth iechyd meddwl ac emosiynol.
Ein prif ffocws ar hyn o bryd yw sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, gan fod y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno y flwyddyn nesaf. Er mwyn casglu barn pobl ifanc yn ein rhanbarth, rydym ni fel Senedd Ieuenctid wedi cyhoeddi holiadur ar-lein. Rydym ni hefyd yn edrych ymlaen at ein digwyddiad fis nesaf, lle mae athrawon, disgyblion a grwpiau ieuenctid wedi cael eu gwahodd, er mwyn ymgymryd mewn sesiynau holi ac ateb a llawer o weithdai gwahanol. Mi fydd y digwyddiad yma yn Abertawe yn ein galluogi ni i weld safbwyntiau pobl o dros dde Cymru i gyd ar fater sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, a hefyd yn eu galluogi nhw i siarad efo ni a llawer o bobl arall, fel Lynne Neagle, am y peth.
I gloi, hoffwn i ddiolch eto i chi am wrando arnaf i heddiw ac am yr holl gefnogaeth rydych chi, fel Aelodau Cynulliad Cymru, wedi rhoi hyd yma, ac yn parhau i roi i ni yn ystod ein tymor ni fel Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru. Diolch. [Cymeradwyaeth.]
A'r siaradwr nesaf yw Angel Ezeadum, ac Angel Ezeadum yw'r Aelod a etholwyd gan bartner ar gyfer Race Council Cymru, ac yn siarad ar ran rhanbarth y de-ddwyrain. Angel Ezeadum.
Diolch yn fawr, Lywydd. Angel Ezeadum wyf fi ac rwyf yma i gynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru. Yn gyntaf, hoffwn ailadrodd pa mor arwyddocaol yw'r diwrnod hwn wrth i bob un ohonom ddod at ein gilydd heddiw i ddathlu 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru.
O ran gwaith y rhanbarth, rydym wedi rhannu ein gobeithion a'n dyheadau am ein gwaith fel Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn ein cyfarfodydd rhanbarthol. Y prif gonsensws oedd ein bod yn gobeithio gwneud gwahaniaeth effeithiol i ieuenctid Cymru a grymuso lleisiau pobl ifanc. Yn ein cyfarfod diweddaraf, ffurfiwyd y tri phwyllgor yn seiliedig ar y tri mater allweddol y pleidleisiwyd drostynt yn ein sesiwn yn y Siambr. Yna, cyflawnwyd ymchwil i weld beth oedd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i wneud eisoes neu wrthi'n ei wneud i fynd i'r afael â'r mater, er mwyn osgoi unrhyw orgyffwrdd. Wedyn, trafodasom ein nodau a'r camau y byddai'n rhaid i ni eu cymryd er mwyn llwyddo.
Mae'r Senedd Ieuenctid wedi defnyddio digwyddiadau fel y jamborî yn y Senedd ac Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai i hyrwyddo ein gwaith ymhellach ac mae'n cael sylwadau gan amrywiaeth eang o blant a phobl ifanc. Mae'r defnydd o dechnoleg, yn enwedig mewn perthynas â'r arolwg ar sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, wedi ein galluogi i gyrraedd llawer iawn o bobl ifanc yng Nghymru, a chynyddu cyfranogiad wrth wneud hynny, gan sicrhau ein bod yn rhoi llais i'r ieuenctid mewn gwirionedd.
Fel un sy'n byw yng Nghaerdydd, rwyf wedi gweithio gyda chynrychiolwyr etholedig etholaethau Caerdydd ac Aelodau eraill a etholwyd gan bartneriaid o Gaerdydd i fynd i'r afael â'r problemau yn ein dinas. Rydym wedi cyfarfod â llawer o Aelodau Cynulliad, megis Andrew R.T. Davies, sef y cyntaf i gysylltu â ni, a Jenny Rathbone, a fu'n gymorth i ni gyda'n hareithiau ar gyfer y Siambr. Diolch i bawb a ddaeth o hyd i amser yng nghanol eu hamserlenni prysur i gyfarfod â ni.
Er bod y digwyddiad hwn yn ymwneud â dathlu pa mor bell y daethom, mae hefyd yn gyfle i edrych ymlaen at y dyfodol. Dim ond megis dechrau y mae ein gwaith ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru ac rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu dros y 18 mis nesaf, ochr yn ochr â fy nghyd-Aelodau, er mwyn llunio Cymru well ar gyfer ein cenhedlaeth ni.
Rwy'n falch o fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, a hyd yn hyn, mae wedi bod yn wych cael bod yn gynrychiolydd iddynt. Diolch. [Cymeradwyaeth.]
A'r siaradwr nesaf, felly, yw Cai Phillips. A Cai Phillips yw'r Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Cai Phillips.
Dioch, Llywydd. Prynhawn da, ac mae yn brynhawn da iawn yma yn y Senedd. Fy enw i yw Cai Phillips a dwi’n Aelod Senedd Ieuenctid dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Mae heddiw yn ddiwrnod hanesyddol a phwysig gan ei fod yn rhoi cyfle inni gwrdd a chydweithio â’r Aelodau 'hŷn'. Ar un ochr, profiad a doethineb, ac ar yr ochr arall, brwdfrydedd a syniadau newydd. Gobeithio y gallwn gydweithio i ddatrys rhai o’r problemau mawr sy’n ein hwynebu fel cenedl. Mae hefyd yn ddiwrnod i ddathlu 20 mlynedd o ddatganoli, ac, wrth gwrs, roedd canlyniad sir Gaerfyrddin wedi sicrhau 'ie' bendant i sefydlu Cynulliad i Gymru.
Rwy’n falch iawn o gynrychioli fy nghyd-Aelodau yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Dyma ardal sy’n odidog iawn, gyda thraethau, mynyddoedd a chefn gwlad. Mae yna saith Aelod yn y rhanbarth, sef Arianwen, Lois, Caleb, Emily, Rhys, Ellie a fi. Ni yw magnificent seven y rhanbarth, ac ers cael ein hethol rydym wedi cyfarfod ddwywaith, a thrafodwyd pynciau llosg sy’n bwysig i bobl ifanc, ac yn benodol y tri mater a gafodd eu dewis yn ein cyfarfod seneddol cyntaf.
Mae’n braf adrodd nôl ein bod wedi derbyn ymateb positif gan bobl ifanc ein rhanbarth. Mae’r Aelodau wedi codi ymwybyddiaeth mewn gwleidyddiaeth ac ennyn diddordeb mewn materion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym yn sicr bod ein presenoldeb ar wefannau cymdeithasol wedi helpu i godi proffil gwaith y Senedd Ieuenctid. Er hyn, nid oes dim byd gwell na chwrdd wyneb yn wyneb â'n cyfoedion a chael sgyrsiau am yr hyn sy’n bwysig ac yn eu poeni, er enghraifft drwy waith gwych cynghorau sirol ieuenctid, fel yr un yn sir Gâr. Hefyd, mae nifer o Aelodau wedi bod i ymweld ag ysgolion a sefydliadau yn eu hetholaethau. Yn ogystal, bydd yr Aelodau yn mynychu rhai o ddigwyddiadau mwyaf yr haf, fel yr Eisteddfod Genedlaethol a'r sioe frenhinol, er mwyn casglu barn pobol ifanc, ac edrychaf ymlaen yn bersonol at glywed barn ymwelwyr ifanc yn y sioe. Mae’r ffyrdd hyn o ymgysylltu â phobol ifanc yn sicrhau bod pawb yn cael y siawns i ddweud eu dweud.
Mae’r digwyddiad a'r datganiad heddiw yn mynd i roi sylfaen gadarn i’r Senedd Ieuenctid am flynyddoedd i ddod. Mae’n rhoi sicrwydd a hyder i Aelodau'r Senedd Ieuenctid wrth wneud gwaith yn eu hardaloedd lleol, ac o fewn eu pwyllgorau. A bydd y gwaith a gynhelir i bwrpas, gan y bydd y Cynulliad yn gwrando ac yn gweithredu ar yr hyn sydd gan yr ifanc i'w ddweud. Rydym yn edrych ymlaen at yr her. Diolch. [Cymeradwyaeth.]
Dwi'n galw nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gau'r ddadl—Lynne Neagle.
Diolch, Lywydd. Mae'n anrhydedd go iawn i ddod â dadl gofiadwy heddiw i ben a chael cyfle i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â hi, dros fisoedd a blynyddoedd lawer, i'n helpu i gyrraedd y pwynt pwysig hwn yn hanes ein democratiaeth yma yng Nghymru. Mae'n amhosibl talu teyrnged i bawb yn unigol, ond mae ein diolch yn sylweddol serch hynny. Mae'n rhaid i ni ddiolch yn arbennig i Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru. Mae eich presenoldeb yma heddiw yn fraint wirioneddol i'r Cynulliad. Ac oddi wrth un o'r Aelodau Cynulliad cyntaf yn 1999 i bob un ohonoch chi fel Aelodau cyntaf eich Senedd Ieuenctid 20 mlynedd yn ddiweddarach, a gaf fi ddweud ei bod yn wych bod ymhlith y rhai cyntaf?
Mae heddiw'n garreg filltir bwysig yn ein gwaith fel Cynulliad Cenedlaethol ac fel Senedd Ieuenctid. Mae ein hymrwymiad i gydweithio fel cynrychiolwyr pobl Cymru, ar draws eu hoedrannau, yn un rwy'n ei groesawu'n fawr fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mae'n amlwg o'r trafodaethau heddiw ein bod ni, fel dau gorff etholedig, yn rhannu'r un uchelgais. Ein nod yw galluogi ein pobl, boed yn ifanc, yn hen neu'n unrhyw beth rhwng y ddau, i fyw bywydau hapus ac iach. Credaf yn gryf y bydd gweithio gyda'n gilydd yn rhoi gwell cyfle i ni wireddu'r uchelgais hwnnw i bobl Cymru. Mae gwirionedd mawr yn yr hen ddywediad fod y darlun llawn yn aml yn fwy na chyfanswm ei rannau. Wrth i ni nesáu at ben blwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn 30 oed, a phen blwydd swydd Comisiynydd Plant Cymru yn 18 oed, mae'n briodol fod ein Senedd Ieuenctid yn dechrau ar ei gwaith.
Mae gan y tri maes blaenoriaeth rydych wedi'u nodi botensial i weddnewid bywydau er gwell. Fel y gŵyr llawer o bobl, mae iechyd meddwl a llesiant emosiynol plant a phobl ifanc yn faes sy'n arbennig o agos at fy nghalon, a diolch i'r Aelodau sydd wedi cyfeirio at waith y pwyllgor ar adroddiad 'Cadernid Meddwl' heddiw.
Gwn fy mod yn siarad ar ran pob un ohonom wrth ddweud ein bod yn edrych ymlaen yn llawn cyffro a gobaith at weld eich cynnydd a chanlyniadau eich gwaith caled. Ond credaf yn bendant y dylem wneud mwy na dim ond eistedd ar y cyrion a gwylio eich cynnydd. Mae ein pwyllgor eisoes wedi elwa'n fawr o ymgysylltu â Senedd Ieuenctid Cymru ar gynigion i gael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol. Mae clywed barn plant a phobl ifanc wedi bod yn bwysig i ni ym mhob elfen o waith ein pwyllgor, ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar hyn yn ystod tymor y Senedd Ieuenctid o ddwy flynedd a thu hwnt i hynny. Buaswn yn annog yr holl bwyllgorau eraill a'r Senedd Ieuenctid i barhau â'r rhyngweithio hwn sydd o fudd i'r ddwy ochr. Mae gennym lawer i ddysgu oddi wrth ein gilydd a llawer i'w rannu â'n gilydd.
Hoffwn ddod â'r trafodion ar y cyd heddiw i ben drwy ailbwysleisio erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, y cyfeiriwyd ato eisoes gan Maisy Evans, yr Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Dorfaen, mewn modd mor huawdl yn ei hanerchiad agoriadol. Mae erthygl 12 yn datgan bod gan bobl ifanc hawl i fynegi eu safbwyntiau'n rhydd a chael eu barn wedi'i chlywed ym mhob mater sy'n effeithio arnynt. Mae sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru ac arwyddo'r datganiad ar y cyd heddiw sy'n nodi egwyddorion y modd y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd yn garreg filltir enfawr ar ein taith tuag at wireddu'r uchelgais hwnnw. Felly, rwyf am gloi drwy ddymuno'n dda i bob un ohonom yn ein hymdrechion ar y cyd.
Pob hwyl i ni oll, a diolch i chi i gyd.
Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15, mae’r Pwyllgor Busnes wedi penderfynu y cynhelir y bleidlais ar ddiwedd y ddadl yma ar y cynnig. Ac mae’r Senedd Ieuenctid eisoes wedi cytuno’r datganiad ar y cyd, a dwi nawr yn galw, felly, am bleidlais o’r Cynulliad Cenedlaethol ar y cynnig ar y datganiad ar y cyd. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 48, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r datganiad ar y cyd ar gydweithio â'r Senedd Ieuenctid wedi'i basio'n unfrydol gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Diolch yn fawr iawn i bawb ac fe fyddwn ni'n dod â'r sesiwn yma i ben ac ailgychwyn am 14:30. Diolch yn fawr. [Cymeradwyaeth.]
Galw'r Aelodau i drefn.