– Senedd Cymru am 2:29 pm ar 2 Gorffennaf 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Ceir un newid i'r agenda heddiw, sef bod y datganiad ar y cynllun gweithredu economaidd a'r mesurau datblygu economaidd wedi ei dynnu'n ôl. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Doeddwn i ddim yn gallu clywed y Trefnydd yn y fan yna. Os gallwn ni gynnal ein trafodion mewn ychydig mwy o dawelwch, byddai hynny'n helpu. Ond rwy'n tybio ei bod hi wedi dweud rhywbeth digon tebyg i'r hyn a oedd yn y datganiad busnes y bore yma, felly fe awn ymlaen. Wnaf i ddim gofyn i chi ei ailadrodd. Janet Finch-Saunders.
Diolch, Llywydd. Trefnydd, ddydd Gwener diwethaf, cefais y pleser o ymweld â thri chartref gofal yn y gogledd-orllewin. Fe gadarnhaodd y profiad hwn yr hyn a ddywedais yma yn y Senedd y mis diwethaf—fod argyfwng difrifol iawn yn ein hwynebu mewn cartrefi gofal. Yr hyn a welais oedd darparwyr gofal yn gwneud eu gorau glas i sicrhau eu bod yn darparu gofal o ansawdd uchel. Fodd bynnag, maen nhw'n gorfod gwneud hyn wrth frwydro i gael dau ben llinyn ynghyd, oherwydd cyllido annheg gan awdurdodau lleol, ac yn enwedig, bwrdd iechyd gogledd Cymru. Daw hyn â mi at y ffeithiau syfrdanol yr wyf eisiau i bob un ohonoch fod yn ymwybodol ohonynt.
Ar 26 Mehefin 2019, anfonodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr e-bost at ddarparwyr gofal, yn nodi eu bod newydd gymeradwyo'r ffioedd gofal iechyd parhaus ar gyfer 2018-19. Yr hyn a olyga mewn gwirionedd yw bod cartrefi gofal yn derbyn cleifion o ysbytai, a dim ond yr wythnos diwethaf y cawsant wybod am yr hyn y cânt eu talu am ofal a ddarperir o 1 Ebrill ymlaen. Rydym bellach ym mis Gorffennaf. Felly, mewn un achos, roedd hyn yn golygu nad oedd cartref yn gwybod faint o arian a delir iddyn nhw am tua 50 y cant o'u cleientiaid. Mae'n amhosibl rheoli busnes yn iawn—a dyna mae darparwyr cartrefi gofal yn ei wneud: maen nhw'n rhedeg busnes hanfodol iawn, un y mae mawr angen amdano hefyd a hynny gyda chymaint o ansicrwydd cyllidebol. Felly, credaf yn wir ein bod yn agos iawn at golli 1,500 o welyau yng Nghymru erbyn 2024. Dyna'r ffigur y mae pobl yn y sector gofal wedi'i ddarogan. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn niweidio'r sector cartrefi gofal, sy'n gwneud cymaint i'w helpu.
A wnewch chi ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ymrwymo i wneud datganiad ar ffioedd y cynghorau iechyd cymuned, a chynnal ymchwiliad er mwyn canfod pam mai dim ond yn awr y mae darparwyr gofal yn cael eu cynghori ynghylch faint y byddant yn cael eu talu am y gwasanaethau gwych a ddarparant? Nid yw hyn yn ffordd i unrhyw gwmni redeg busnes. Mae gan gwmni sy'n gofalu ac yn darparu triniaeth, gofal a chymorth ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yr hawl i wybod sut y gallant drefnu eu gofynion ariannol eu hunain. Felly, rwy'n credu bod hyn nid yn unig yn fethiant ar ran y bwrdd i echyd, ond rwy'n credu ei fod yn wendid ar ran eich Llywodraeth. Felly, mae gennyf ddiddordeb mawr i weld eich bod yn cymryd y mater hwn o ddifrif, os gwelwch yn dda. Diolch.
Wel, Llywydd, mae'r Gweinidog iechyd wedi bod yma i wrando ar bryderon Janet Finch-Saunders, ond efallai, os bydd hi'n rhoi manylion y pryderon penodol hynny mewn gohebiaeth i'r Gweinidog iechyd, fe fydd yn gallu edrych arnynt yn fwy manwl.
Trefnydd, roedd datblygu astudiaeth ddichonoldeb i fetro bae Abertawe a Chymoedd y gorllewin yn rhywbeth y cytunwyd arno rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru fel rhan o gyllideb 2017. Ers hynny, gyda Chyngor Abertawe yn arwain ar y rhan o waith rhanbarthol, yr ydym wedi clywed Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei bod yn cefnogi datblygu gorsaf reilffordd parcffordd yn y gorllewin, ar dir yn Felindre, Abertawe. Fodd bynnag, rwyf wedi bod yn gyson wrth ddweud na ellir edrych ar welliannau i'r rheilffyrdd rhwng y dwyrain a'r gorllewin ar eu pen eu hunain, a bod angen i'r metro ym mae Abertawe a Chymoedd y gorllewin, yn ogystal â gweld gwasanaethau i orsafoedd Abertawe a Chastell-nedd wedi'u diogelu, ail-ddechrau defnyddio llwybrau eraill unwaith eto—llwybr rheilffordd Dyffryn Aman ac Abertawe, er enghraifft—a sicrhau cysylltiadau trafnidiaeth o safon i gymoedd Castell-nedd, Dulais ac Afan. Credaf fod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu arweiniad a gweledigaeth ar y mater hwn. Ac yn ôl ym mis Chwefror, gofynnais i'r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth gyflwyno datganiad am y modd y mae'n gweld parcffordd y gorllewin yn cyd-gysylltu â'r her ehangach o ddatblygu rhagor o seilwaith rheilffyrdd a thramiau yn y rhanbarth, fel rhan o fetro bae Abertawe. Dywedasoch y byddai'r Gweinidog yn barod i wneud hynny, ond hyd yma, ni neilltuwyd amser ar gyfer hyn. A gaf i ofyn eto, felly—bron i bum mis yn ddiweddarach—a ellir rhoi amser nawr am ddatganiad ar y mater pwysig hwn yn y Siambr hon?
Diolch ichi am godi'r mater hwn. Ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn na all unrhyw orsaf barcffordd fod ar draul canol dinas Abertawe, a chredaf fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y datganiad hwnnw'n glir iawn. Mae gennym ddadl yfory sy'n edrych ar ddyfodol Trafnidiaeth i Gymru, felly gallai hynny fod yn gyfle i godi'r pryderon penodol hyn gyda'r Gweinidog trafnidiaeth. Ond byddaf yn gofyn iddo ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am y mater penodol hwn.
Gweinidog, a gaf fi ofyn am ddau ddatganiad? Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r cyhoeddiad ynglŷn â chynllun hirdymor GIG Lloegr fod tua 14 o ganolfannau hapchwarae'r GIG i gael eu sefydlu, wedi'u hariannu'n rhannol gan y Comisiwn Hapchwarae. Ymddengys i mi fod hwn yn faes y dylem fod yn gweithredu arno ein hunain, a tybed a fyddai modd inni gael datganiad ynghylch pa geisiadau a wnaed am gyllid gan y Comisiwn Hapchwarae i sicrhau bod yr arian annigonol a godir, ar ffurf ardoll wirfoddol ar gyfer y Comisiwn Hapchwarae, hefyd yn cael ei rannu'n gyfartal ledled y DU. Byddai'r adnoddau, felly, ar gael i ni hefyd ddelio â'r mater hwn, fel y nodwyd yn adroddiad y prif swyddog meddygol y llynedd.
Ac a gaf i ofyn hefyd am ddatganiad ynglŷn â'r sefyllfa o ran gweithwyr Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr—mae 200 ohonyn nhw'n byw yn fy etholaeth i? Ysgrifennodd un etholwr ataf a dweud, 'Mae'r cwmni wedi cynnig pecyn diswyddo imi, gan gynnwys pensiwn gohiriedig i'w gymryd pan fyddaf yn 55. Rwyf yn 46 oed.' Y pwynt y mae'n ei godi yw, o ganlyniad i newidiadau Llywodraeth y DU yn yr oedran pensiwn, mae'n golygu i bob pwrpas y bydd yn colli oddeutu £50,000 i £60,000. Ymddengys i mi fod hyn yn anghysonder difrifol yn y modd y caiff gweithwyr Ford eu trin, a gwn yn sicr ei fod yn fater y bydd yr undebau'n debygol o'i godi, ond fe allem ni ei godi hefyd, o ran pa mor deg y mae gweithwyr Cymru'n cael eu trin yn y mater hwn.
Diolch i Mick Antoniw am godi'r ddau fater hyn. O ran y cyntaf, sy'n ymwneud â hapchwarae, gwn fod swyddogion iechyd yn cael rhai trafodaethau i archwilio pa arian, os o gwbl, a allai ddod i Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â gamblo, oherwydd, fel y nododd Mick, fe edrychodd adroddiad y prif swyddog meddygol yn benodol ar bennod am gamblo, ac ers hynny, fe wnaed rhai gwelliannau sylweddol. Felly, mae cwestiynau ar gamblo wedi cael eu hychwanegu at yr arolwg o ymddygiad iechyd plant oedran ysgol ac ymchwil rhwydwaith iechyd ysgolion yn ystod 2017-18. Hefyd, bydd cwestiynau ar amlder, cyfranogiad ac agweddau tuag at gamblo yn cael eu cynnwys yn yr arolwg cenedlaethol am y tro cyntaf yn 2020-21. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae Mick wedi bod yn gofyn amdano'n gryf iawn ers amser maith.
Mae'r prif swyddog meddygol wedi cael trafodaethau gyda GambleAware a chyfarwyddwyr iechyd y cyhoedd yng Nghymru i archwilio sut y gellir defnyddio gwasanaethau presennol, megis gwasanaethau cymorth iechyd meddwl, i gefnogi gamblwyr problemus, ac wrth gwrs, ar 1 Gorffennaf, fe lansiwyd rhaglen newydd genedlaethol Cyngor ar Bopeth, gyda dwy ganolfan gymorth newydd yn sir Ddinbych a Rhondda Cynon Taf, a bydd y rheini'n gallu darparu hyfforddiant allgymorth i drydydd parti i sicrhau bod gweithwyr rheng flaen yn meddu ar y sgiliau perthnasol i adnabod a chefnogi pobl â phroblem gamblo. Ac rwy'n gwybod bod gan Mick gwestiwn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pwnc hwn yfory, felly bydd yn gallu rhoi rhagor o fanylion am y cynnydd sydd wedi'i wneud ers adroddiad y prif swyddog meddygol.
O ran pensiynau, yn amlwg, mae'r hyn a ddisgrifiodd Mick yn destun pryder mawr, a byddem wrth reswm yn annog Ford i roi'r fargen orau posibl i'w gweithwyr ffyddlon. Mae pwynt Mick yn ein hatgoffa, wrth gwrs, fod gweithwyr Ford ar hyd a lled Cymru, yn enwedig yn y de, ac yn sicr bydd angen i Lywodraeth Cymru a'u hundebau gyflwyno neges gref bod yn rhaid cael tegwch wrth wraidd unrhyw fargen.
Bydd ffrwd waith pobl y tasglu, ar y cyd â Ford, yr undebau llafur a'r rheoleiddiwr pensiynau, yn ystyried darparu cyngor annibynnol priodol i'r gweithlu wrth iddyn nhw gynllunio eu dyfodol ariannol, ond byddaf yn sicr o ddod â'r astudiaeth achos a gyflwynwyd gan Mick i sylw'r tasglu hwnnw.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ar droseddau casineb trawsryweddol yng Nghymru? Mae ffigurau a gafwyd gan y BBC o heddluoedd yng Nghymru yn dangos bod nifer y troseddau casineb trawsryweddol a gofnodwyd wedi mwy na dyblu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'n bosib bod rhywfaint o'r cynnydd hwn o ganlyniad i dangofnodi yn y gorffennol a bod mwy o bobl bellach yn barod i ddod ymlaen i roi gwybod am eu profiadau, mae'r ffigurau hyn yn dangos yn glir bod camdriniaeth neu drais a gyfeirir at bobl ar sail trawsrywedd ar gynnydd. A gawn ni ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog ynghylch beth yn rhagor y gellir ei wneud i amddiffyn pobl drawsryweddol ac i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion trawsryweddol yn y gymuned ehangach yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Diolch.
Rwy'n ddiolchgar iawn fod y pwynt hwn wedi cael ei godi yn y Siambr. Mae'n amlwg fod troseddau casineb yn ei holl ffurfiau yn peri pryder mawr i ni. Ac mae'n destun pryder mawr bod nifer y bobl sy'n cyflwyno'u hunain fel dioddefwyr troseddau casineb trawsryweddol wedi cynyddu. Os yw'n wir bod pobl yn teimlo'n fwy cyfforddus i fod yn agored am hyn, mae hynny ynddo'i hun yn beth cadarnhaol, ond er hynny mae unrhyw drosedd casineb o'r math hwn yn amlwg yn rhywbeth y mae'n rhaid inni weithio'n drawsbleidiol i fynd i'r afael ag ef, ond fe wnaf yn siŵr fod y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y maes penodol hwn.FootnoteLink
Y penwythnos diwethaf, treuliais y noson yn Abertawe gyda grŵp o wirfoddolwyr sy'n mynd allan bob nos Sul gyda bwyd, deunydd ymolchi, dillad cynnes ac ati ar gyfer bobl ddigartref. Doedd gan rai o'r bobl y siaradais i â hwy ddim byd o gwbl, ac roedden nhw'n ddiolchgar iawn am y bwyd a'r darpariaethau, ac fe wnaethant rannu rhai o'u profiadau â ni. Clywais gan nifer o bobl sut yr oedden nhw neu eu ffrindiau wedi cael eu harestio o dan y Ddeddf Crwydradaeth. Nawr, cyflwynwyd y Ddeddf Crwydradaeth ym 1824. Mae'n hen ffasiwn. Fe'i cyflwynwyd i fynd i'r afael â digartrefedd a achoswyd gan gyn-filwyr yn dychwelyd o'r rhyfeloedd Napoleonaidd. Yn benodol, mae'n gwneud cysgu allan a chardota yn drosedd—gallwch gael eich arestio am y naill neu'r llall. Dywedodd un fenyw ifanc wrthyf nos Sul, 'Mae'n anghyfreithlon bod yn ddigartref, eto nid yw'n anghyfreithlon gwneud rhywun yn ddigartref,' ac roeddwn yn meddwl bod hwnnw'n ddatganiad eithaf dwys. Dywedodd wrthym fod yr heddlu'n clirio'r strydoedd yn rheolaidd, yn arestio pobl ac yn symud eu heiddo, er gwaethaf y ffaith bod y Prif Weinidog wedi dweud wrthyf yr wythnos diwethaf nad oedd hyn yn bolisi gan y Llywodraeth. I raddau helaeth, nid oes gan Gymru'r pŵer i wneud unrhyw beth am y Ddeddf Crwydradaeth oherwydd ein diffyg pwerau cyfiawnder troseddol. Yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, mae'r Ddeddf eisoes wedi'i diddymu. I mi, mae hynny'n un enghraifft arall pam y mae angen i'r system cyfiawnder troseddol gael ei datganoli. Dyma enghraifft ymarferol arall eto o'r hyn y gallai'r pwerau hynny ei wneud i ni. Dylem fod yn cynnig cymorth i bobl sy'n cael eu gorfodi i fyw ar y strydoedd. Ni ddylem ni eu galw'n droseddwyr. Mae'n bryd i chi fel Llywodraeth ddweud, digon yw digon, a byddwn yn ddiolchgar petaech yn barod i ganiatáu dadl, yn amser y Llywodraeth, a fyddai'n ffafrio datganoli pwerau cyfiawnder troseddol gyda'r bwriad o ddiddymu'r Ddeddf Crwydradaeth.
Diolch ichi am godi'r mater ac am roi'r cyfle imi hefyd i rannu eich edmygedd o'r gwaith y mae'r gwirfoddolwyr yn ei wneud yn Abertawe, ddydd ar ôl dydd, i gefnogi pobl sy'n cysgu allan. Yn ddiweddar, sefydlodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ei thasglu newydd i archwilio'r cymorth i bobl ddigartref, yn enwedig y rhai sy'n dioddef fwyaf gyda digartrefedd, ac wrth gwrs fe'i harweinir gan bennaeth Crisis. Rwy'n siŵr y byddech yn croesawu hynny, a byddaf yn gofyn i'r grŵp gorchwyl edrych yn benodol ar hyn. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn yn ein gwrthwynebiad i'r Ddeddf Crwydradaeth, sydd yn gwbl hen ffasiwn. Mae'n gwbl amhriodol i droi pobl yn droseddwyr am yr hyn sy'n aml yn fater o gael eu hunain mewn sefyllfaoedd na allwn ni hyd yn oed ddychmygu gorfod delio â hwy. Felly, gwn fod y Gweinidog hefyd yn cydweithio'n agos iawn â chomisiynwyr yr heddlu a throseddu i sicrhau eu bod yn ymdrin yn briodol ac mewn ffordd sy'n seiliedig ar drawma â phobl sy'n eu cael eu hunain mewn sefyllfa o gysgu allan.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd, os gwelwch yn dda, yng ngoleuni adroddiad yr arolygiaeth ddoe ar yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn ysbyty'r Mynydd Bychan? Nid gwleidydd sy'n dweud hyn; mae'n amlwg mai'r Arolygiaeth ei hun sy'n nodi yn eu hadroddiad sut y cafodd cleifion eu symud o welyau i gadeiriau er mwyn i'r bwrdd iechyd allu cydymffurfio â thargedau aros iechyd. Dywedodd y Prif Weinidog ei hun yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog na fydd y Llywodraeth yn ymatal rhag helpu byrddau iechyd i gyflawni'r targedau hyn. Dywedodd fod y targedau hyn o fudd clinigol amlwg a dyna pam eu bod yn bodoli. Rwy'n siŵr nad yw'r rhan fwyaf o'r cleifion a gafodd eu symud o welyau i gadeiriau ac yna aros am 20 awr yn gweld hynny fel budd clinigol, a bod yn onest gyda chi. Rydym wedi dysgu heddiw, gan un o'r un enw â mi, Andrew Davies, sef cadeirydd bwrdd iechyd Abertawe, bod tri neu bedwar o alwadau'r dydd yn mynd i fyrddau iechyd. Yn fy marn i, mae'n annealladwy i feddwl nad oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r sefyllfa hon yn yr uned asesu ac yn yr adran achosion brys, os oedd y lefel honno o ryngweithio'n digwydd ar amseroedd aros. Dyna pam rwy'n credu ei bod yn dyngedfennol fod y Gweinidog iechyd yn gwneud datganiad—datganiad llafar gobeithio—er mwyn inni gael atebion i rai o'r cwestiynau. Rwy'n cynrychioli rhanbarth sydd ond newydd gael trychineb y gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf, lle yr oedd uwch reolwyr yn honni nad oeddent yn ymwybodol o'r hyn a oedd yn digwydd yn yr adran famolaeth honno. Yma, mae'r arolygiaeth iechyd wedi nodi gweithredoedd bwriadol i geisio cydymffurfio â'r amseroedd aros y byddwn yn eu hawgrymu, ac rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o glinigwyr yn awgrymu bod hyn yn peryglu canlyniadau cleifion, ac ni ellir goddef hynny. Ni all fod yn ddigon da i ni, ymhen chwech neu ddeuddeng mis o bosibl, ymateb am na chymerwyd camau i ymdrin â hyn a chanfod pwy oedd yn gwneud y penderfyniadau hyn. Yn sicr, nid y staff a oedd dan bwysau yn yr adrannau hynny, gan ein bod yn gwybod fod yr arolygaeth wedi amlygu'r ffaith nad oedd rotâu staff yn cael eu llenwi, er bod gan Lywodraeth Cymru ddeddfwriaeth ar waith sy'n dweud y dylid llenwi rotâu staff i lefel ofynnol benodol. Mae'r gyfraith yn mynnu hynny, ac eto mae'r Arolygiaeth wedi amlygu hynny yn ei hadroddiad, ac felly credaf fod difrifoldeb yr adroddiad hwn yn cyfiawnhau o leiaf ddatganiad llafar gan y Gweinidog mewn Cyfarfod Llawn fel y gallwn ofyn y cwestiynau hynny y mae ein hetholwyr a phobl sy'n gweithio yn yr adrannau hyn, nid yn afresymol, yn eu gofyn i ni.
Wel, mae'n amlwg bod y Gweinidog iechyd wedi bod yma i glywed eich cais, ac rwyf yn sicr wedi darllen yr adroddiad y cyfeiriwch ato. Gwn y bydd y Gweinidog iechyd wedi gwneud hynny hefyd. Roeddem yn siomedig i'w ddarllen, a byddem yn disgwyl wrth gwrs bod pob claf sy'n cael gofal mewn uned asesu yn cael ei drin mewn modd amserol er mwyn gwneud y gorau o'u profiad a'u canlyniadau. Ond dylid nodi hefyd, yn yr adroddiad, fod mwyafrif y cleifion a holwyd wedi canmol y staff am fod yn garedig ac yn sensitif, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n cydnabod gwaith da'r staff hefyd.
Rydym wedi dyrannu arian yn ddiweddar i fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro yn benodol i gefnogi gwelliannau o ran profiad a'r ddarpariaeth gyntaf, ac mae hyn yn cynnwys estyniad i'r gwasanaeth lles yn yr adran frys a gwasanaeth diogel yn y cartref llwyddiannus, ac i alluogi'r bwrdd iechyd i fod yn fabwysiadydd cynnar o'r fframwaith ansawdd a chyflawni cenedlaethol ar gyfer y prosiect adrannau achosion brys. Mae'r ddau brosiect hyn yn ceisio gwella'r profiad a'r canlyniadau i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal brys. Gwyddom fod AGIC bellach wedi derbyn cynllun gwella'r bwrdd iechyd ac mae'n amlwg y bydd yn monitro'r cynnydd yn ofalus.
Rwyf wedi gofyn ar dri neu bedwar achlysur erbyn hyn am ddiweddariad ar y fframwaith anhwylderau bwyta. Rwy'n falch bod y Gweinidog iechyd yma, oherwydd cynhaliwyd y grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta'r wythnos diwethaf, a dywedodd rhai o'r dioddefwyr eu bod yn teimlo nad oedden nhw'n gweld unrhyw ddiben mewn cymryd rhan yn y broses ymgynghori gan eu bod wedi bod yn aros am wyth mis bellach am syniad o'r hyn sy'n mynd i ddigwydd. Cymerodd pawb ran yn yr ymgynghoriad hwnnw gyda phob ewyllys da am eu bod eisiau helpu i newid y sefyllfa o ran anhwylderau bwyta yma yng Nghymru. Felly, rwyf yn annog y Gweinidog iechyd i gyflwyno datganiad fel y gallwn edrych ar y fframwaith o'r newydd a gweld sut y caiff gwasanaethau eu gwella gydag adfywiad o'r fframwaith. Yn y pen draw, rydym wedi gwella gwasanaethau yma, ond mae lle i wella eto, ac mae'r rhai ar y grŵp trawsbleidiol, yn ddioddefwyr, yn ofalwyr ac elusennau, am glywed bod gweithredu ar y gweill yn awr.
Diolch ichi am godi'r mater hwn. Mae'r Gweinidog iechyd, mi wn, i fod i drafod y mater hwn gyda swyddogion yr wythnos hon. Rwy'n deall ei fod yn adroddiad mawr ac mae llawer o dystiolaeth wedi ei gynnwys ynddo, ac mae'n amlwg bod angen ei ystyried yn drylwyr, ond cyn gynted ag y bydd y Gweinidog iechyd wedi derbyn cyngor, a deallaf y bydd hynny'n ystod yr wythnosau nesaf, bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi.
Trefnydd, hoffwn ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—rwyf yn falch o weld ei fod yma heddiw—i ystyried gwneud datganiad ysgrifenedig efallai am y sefyllfa o ran yr uned a arweinir gan fydwragedd yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg. Fe fyddwch yn ymwybodol, ac fe fydd ef yn ymwybodol, bod pryder ein bod yn mynd i wynebu sefyllfa lle byddai disgwyl i fenywod petai nhw angen gwasanaethau yn ystod y nos, ffonio'r fydwraig gymunedol a threfnu drostynt eu hunain i'r fydwraig honno fod yn bresennol. Nawr, wrth ymateb i Paul Davies, rhoddodd y Prif Weinidog rywfaint o sicrwydd i'r Siambr hon nad yw hynny, mewn gwirionedd, yn wir. Ond bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r pryderon y byddai hyn yn digwydd pan fyddai'r gwasanaeth yn mynd o wasanaeth dan arweiniad ymgynghorydd i wasanaeth sy'n cael ei arwain gan fydwragedd, oherwydd ei fod wedi digwydd mewn mannau eraill. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog wneud datganiad, os yw'n gallu gwneud hynny, i dawelu meddyliau'r cyhoedd yn yr ardal nad yw hyn yn mynd i ddigwydd, nad ydynt yn mynd i golli eu gwasanaeth 24 awr, ac amlinellu pa drafodaethau y mae ef neu ei swyddogion wedi'u cael gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod y Prif Weinidog yn gywir ac nad yw'r gwasanaeth hwn yn mynd i gael ei leihau ymhellach.
Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei sesiwn gwestiynau'r prynhawn yma, bu trafodaethau ar y dewisiadau i wella effeithlonrwydd y model staffio drwy sicrhau mwy o integreiddio rhwng y bydwragedd a'r staff yn y gymuned sydd wedi'u lleoli yn yr uned dan arweiniad bydwragedd. Ond roedd yn glir iawn na fydd hyn yn lleihau'r gwasanaeth i gleifion, a fydd yn parhau'n agored i fenywod yn sir Benfro bedair awr ar hugain y dydd, bob dydd o'r wythnos.
Rwy'n deall bod trafodaethau ar y gweill gyda'r staff ynglŷn â sut i integreiddio staff uned dan reolaeth bydwragedd a staff bydwragedd cymunedol yn well, ac ni all y bwrdd iechyd gadarnhau ei drefniadau staffio ar gyfer y dyfodol eto oherwydd, yn amlwg, nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud. Ond mae wedi sicrhau pob darpar fam feichiog, fodd bynnag, y bydd y cymorth staffio yn parhau i fod ar gael bedair awr ar hugain y dydd, bob dydd o'r wythnos, a'r flaenoriaeth o hyd yw gofal diogel a phrofiad cyffredinol y menywod hynny.
Ac yn olaf, Llyr Gruffydd.
Diolch, Llywydd. Dwi wedi edrych ar y datganiad busnes ŷch chi wedi'i gyhoeddi heddiw, a dwi ddim yn gweld unrhyw fwriad gan y Llywodraeth i ni gael datganiad llafar gan y Gweinidog amgylchedd a materion gwledig ar fwriad y Llywodraeth yma nawr i symud ymlaen gyda chynlluniau 'Brexit a'n tir'. Byddwch chi'n gwybod cystal â fi mai dyma fydd un o'r cyhoeddiadau mwyaf arwyddocaol y bydd y Llywodraeth yma'n ei wneud. Yn sicr, bydd yn arwain at rai o'r newidiadau mwyaf pellgyrhaeddol y mae'r sector amaeth a chymunedau gwledig wedi'u gweld mewn cenedlaethau, a liciwn i ddeall pam nad ŷch chi'n teimlo bod datganiad llafar i'r Siambr yma yn angenrheidiol, oherwydd mae'r Gweinidog wedi'i gwneud hi'n gwbl glir y bydd e'n cael ei ddatgan cyn y sioe frenhinol amaethyddol ymhen ychydig wythnosau. Ydw i'n iawn i feddwl mai bwriad y Llywodraeth, felly, yw rhyddhau hwn ar ffurf datganiad ysgrifenedig? A byddai ambell sinig yn awgrymu efallai y byddwch chi'n gwneud hynny yn nyddiau ola'r tymor er mwyn osgoi'r craffu a fyddai'n dod o'i wneud e'n gynt. Allwch chi roi sicrwydd i ni ei bod hi'n fwriad i ni gael datganiad llafar fan hyn, oherwydd dyna y mae datganiad mor arwyddocaol â hyn yn ei haeddu?
Fe wnaf i, Llywydd, siarad â Gweinidog yr amgylchedd, o ran y cynlluniau ar gyfer rhyddhau'r ymgynghoriad 'Brexit â'n tir'.
Diolch i'r Trefnydd.