1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 18 Medi 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Ddoe, cawsom y wybodaeth ddiweddaraf gennych ar oblygiadau cylch gwario Llywodraeth y DU a'ch blaenoriaethau ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru. Clywaf yr hyn rydych newydd ei ddweud yn ateb i gwestiwn blaenorol ynghylch yr awydd i gael amcanestyniad cynaliadwy o wariant bob tair blynedd yng Nghymru, a chredaf fod hynny'n rhywbeth yr hoffai pob un ohonom ei weld yn y pen draw.
Fodd bynnag, a allech roi ychydig rhagor o fanylion inni ynglŷn â sut y bwriadwch fanteisio i'r eithaf ar y cyllid ychwanegol o £600 miliwn neu fwy, gan fod hwnnw i'w groesawu, sy'n dod i Gymru yn sgil y cylch gwario hwn?
Diolch. Yn gyntaf, byddaf yn cwblhau fy rownd gyfredol o gyfarfodydd dwyochrog gyda fy Ngweinidogion. Felly, rwy'n cael trafodaethau yn gynnar yn y flwyddyn—felly ym mis Mawrth—pan fyddwn yn edrych ar beth allai ein blaenoriaethau cyffredinol fod, ein blaenoriaethau strategol ar gyfer y Llywodraeth. Ac unwaith eto, byddech yn dychmygu bod iechyd yn rhan bwysig o'r trafodaethau hynny, yn ogystal â chefnogaeth i lywodraeth leol. Fodd bynnag, drwy'r flwyddyn, rydym yn cael ystod a chyfres o gyfarfodydd dwyochrog gyda Gweinidogion lle maent yn siarad am y blaenoriaethau yn eu portffolio, cyflawniad yn erbyn ein rhaglen lywodraethu, y pwysau sy'n dod i'r amlwg o fewn y cyllidebau hynny, ond hefyd, yn hanfodol, cyfleoedd newydd i ymateb i faterion cyfredol. Felly, mae gennym yr argyfwng hinsawdd a ddatganwyd gan Lywodraeth Cymru, felly rydym wedi cael trafodaethau da gyda phob Gweinidog o ran y ffordd orau o ymateb i hynny.
Diolch, Weinidog. Mae'r Gweinidog addysg wedi ymuno â ni yn y Siambr. Yn amlwg, mae ganddi chweched synnwyr, gan fy mod ar fin canolbwyntio ychydig ar rai o'r cyhoeddiadau a wnaeth ddoe mewn perthynas â gwariant ar addysg. Nid yw cyllid ysgolion yn arbennig, fel y dywedais ddoe, wedi cadw i fyny â chwyddiant yng Nghymru. Rhwng 2010-11 a 2018-19, mae gwariant gros y gyllideb ar ysgolion wedi wynebu toriad mewn gwirionedd o 2.9 y cant mewn termau real—rwy'n sôn am dermau real nawr, nid yn nhermau arian parod—ac mae cyllid ysgolion y disgybl wedi ehangu i £645 y disgybl yn 2017-18. Sut y defnyddiwch y dyraniad cyllid newydd i fynd i'r afael â hyn?
Mae'n braf fod Nick Ramsay wedi ymuno â ni oherwydd wrth ateb y cwestiwn cyntaf y prynhawn yma wrth gwrs, roeddwn yn gallu siarad â Lynne Neagle am ein hymagwedd tuag at addysg a'r flaenoriaeth a roddwn i hynny. Mae'r Gweinidog addysg yn llygad ei lle fod y bwlch yn cau mewn gwirionedd, a chredaf fod hynny'n rhywbeth i'w groesawu. Gallais amlinellu ar y cychwyn fod gwariant addysg y pen yng Nghymru wedi cynyddu i fod 5 y cant yn uwch bellach na gwariant addysg y pen yn Lloegr, a chredaf fod hynny'n bwysig.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi darparu mwy na £265 miliwn drwy grantiau addysg uniongyrchol i awdurdodau lleol, ac mae hynny'n cynnwys grantiau gwella ysgolion rhanbarthol, y grant amddifadedd disgyblion, a grant addysg awdurdodau lleol, sy'n cynnwys mynediad at y grant amddifadedd disgyblion ac yn y blaen. O ran gwariant cyfalaf, rydym yn gwneud cryn dipyn o waith drwy ein rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac mae cannoedd o filiynau o bunnoedd wedi'i fuddsoddi yn y rhaglen honno hefyd.
Rwy’n sicr yn cefnogi’r Gweinidog ar fater rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac rwyf wedi lleisio fy nghefnogaeth i hynny yn y Siambr hon. Mae hwnnw'n gynllun da iawn. Fe sonioch chi fod y bwlch yn cau, ond wrth gwrs, mae'r bwlch hwnnw'n dal i fod yn sylweddol, ac mae'n dal i fod yn fwlch sylweddol o gymharu â gwariant dros y ffin yn Lloegr, felly gobeithiwn y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno polisïau i gau'r bwlch hwnnw ymhellach, gan ystyried chwyddiant hefyd.
Fodd bynnag, nid mater o gyllid yn unig mohono i ysgolion yn y flwyddyn gyfredol. Mae adroddiad diweddar wedi dangos bod y cronfeydd wrth gefn sydd gan ysgolion ar hyn o bryd wedi gostwng 28 y cant ers 2016-17. Roedd gan ysgolion gyfanswm o £50 miliwn wrth gefn yn 2018, neu £111 y disgybl, ac mae hynny i lawr o £64 miliwn yn 2016. Nid wyf yn siŵr a oes gennych ffigurau eleni ar gyfer y cronfeydd wrth gefn, ond mae'n amlwg fod cyllidebau ysgolion o dan bwysau o bob cyfeiriad. Felly, Weinidog, gan roi adeiladau newydd, sydd i'w croesawu, i'r naill ochr, sut rydych yn sicrhau bod sefyllfa ariannol ysgolion yng Nghymru, sefyllfa ariannol wirioneddol ysgolion, yn cael ei diogelu?
Os caf gloi drwy ofyn i chi, nododd y Gweinidog Addysg yng nghyllideb 2019-20 fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £100 miliwn ar gyfer codi safonau ysgolion dros bumed tymor y Cynulliad, ond deallaf nad yw'r cyllid hwnnw i gael ei ddyrannu i ysgolion drwy gyllid craidd, ond drwy'r grant cynnal refeniw. A ydych yn credu ei bod yn bryd edrych ar hyn, a bod ffordd well i'w chael o ariannu ysgolion yng Nghymru er mwyn sicrhau bod cyllidebau'n cael eu gwarchod, fel ein bod yn gweld y gwelliant rydym am ei weld yn sefyllfa ariannol ysgolion, yn hytrach na bod yr arian yn diflannu i feysydd eraill y byddai'n well gennym pe na bai'n mynd iddynt?
Rwy'n cydymdeimlo'n llwyr ag angen pobl i ddeall yn well beth fydd ein cynigion yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac rwy'n deall yr awydd sydd gan bobl i gael rhai cyhoeddiadau cynnar. Ond credaf y byddai'n annheg bwrw ymlaen a gwneud cyhoeddiadau cyn i ni gael rownd arall o gyfarfodydd dwyochrog gyda fy nghyd-Weinidogion, a hefyd cyn i mi gael cyfle i gyfarfod a thrafod pethau ymhellach gyda'r comisiynydd plant, y comisiynydd pobl hŷn, Comisiynydd y Gymraeg, rownd arall o drafodaethau gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, a thrafodaethau gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Credaf fod llawer o wrando a siarad i'w wneud cyn i ni gyrraedd y pwynt lle y gallwn ddarparu'r cyllidebau dangosol hyn ar gyfer y flwyddyn nesaf. Wedi dweud hynny, gwn fod y Gweinidog addysg wedi bod yn falch o dderbyn holl argymhellion ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gyllid ysgolion, ac rwy'n siŵr y bydd ganddi fwy i'w ddweud ar hynny maes o law.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn. Ar ôl degawd o wasgu ar eu cyllidebau, all lywodraeth leol yng Nghymru ddim cymryd mwy o doriadau, neu hyd yn oed aros yn llonydd o ran eu cyllid. A allwch chi roi sicrwydd y bydd llywodraeth leol yn cael ei blaenoriaethu ar gyfer 2020-21 gyda chynnydd sylweddol termau real yn eu cyllidebau nhw?
Yn sicr, gallaf roi'r sicrwydd, yn y trafodaethau a gawsom, y trafodaethau cynnar ynghylch blaenoriaethau, fod iechyd yn amlwg yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth, ond mae pob un ohonom wedi dweud yn glir ein bod am roi'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol. O ran beth arall y gallaf ei ddweud am hynny, ar hyn o bryd, heb gael trafodaethau manwl pellach, nid wyf yn awyddus i ddweud gormod heddiw.
Dydy 'best possible settlement', mae gen i ofyn, ddim yn rhoi i fi'r hyder dwi'n chwilio amdano fo, a dwi'n eithaf siŵr na fydd o'n rhoi'r hyder y mae llywodraeth leol yn chwilio amdano fo, chwaith. Yn y gorffennol, mae setliad fflat wedi cael ei werthu i lywodraeth leol fel bod yn newyddion da. Dydy o ddim. Gwnes i grybwyll Ynys Môn yma yn y Siambr ddoe, yn dweud eu bod nhw angen £6 miliwn. Mae'r ffigwr yn amrywio o gyngor i gyngor, wrth gwrs. Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am doriadau o £35 miliwn; mi fyddai angen cynnydd yn y dreth gyngor o dros 13 y cant er mwyn gwneud iawn am y twll yn eu cyllideb nhw. Allwn ni ddim mynd yn ôl yn 2020-21 at drethdalwyr lleol Cymru i ofyn iddyn nhw lenwi'r gap, achos mae'r pwysau yn ormod arnyn nhw. Mae'n rhaid i arian ychwanegol ddod gan Lywodraeth Cymru. Mae'r cynghorau yn wynebu pwysau o dros £0.25 biliwn y flwyddyn nesaf, ac efo cyllidebau lle mae yna ddisgresiwn arnyn nhw wedi cael eu torri cymaint, does yna nunlle i dorri erbyn hyn heb fynd i wasanaethau cwbl greiddiol a sylfaenol, fel gwasanaethau plant, ac allwn ni ddim fforddio torri'r rheini. Felly, dwi'n gofyn eto: a gaf i sicrwydd na fyddwch chi’n dathlu rhyw fath o setliad fflat fel newyddion da, ond y byddwch chi, y tro yma, yn chwilio am gynnydd i gyfateb i’r hyn y mae llywodraeth leol yng Nghymru yn ei ddweud sydd ei angen arnyn nhw dim ond i sefyll yn llonydd?
Felly, rydym yn cael y trafodaethau clir hynny gyda llywodraeth leol, o ran yr hyn y maent wedi'i nodi yw'r pwysau arnynt yn eu cyllideb, ond hefyd eu huchelgeisiau i wneud mwy yn y blynyddoedd i ddod. Mae gennyf gyfarfod gyda'r Gweinidog llywodraeth leol gyda'r is-grŵp cyllid llywodraeth leol, sef y grŵp lle mae gan holl arweinwyr a phrif weithredwyr yr awdurdodau lleol gyfle i siarad â mi a'r Gweinidog llywodraeth leol am faterion cyllid. Felly, byddwn yn siarad yn ein cyfarfod nesaf, yr wythnos nesaf rwy'n credu, ac yn cael trafodaethau cynnar am y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Oddeutu pythefnos yn unig sydd wedi bod ers ein cyhoeddiad ar gyllid y cylch gwariant, felly, ar hyn o bryd, ni allaf wneud y math o gyhoeddiadau y mae pob un ohonom yn awyddus i'w clywed, ond fe geisiaf roi'r math hwnnw o sicrwydd cyn gynted â phosibl.
Mewn atebion i mi ac i Aelodau Cynulliad eraill heddiw, nodaf eich bod wedi crybwyll iechyd yn gyntaf oll fel y flaenoriaeth, ac mae pob un ohonom, wrth gwrs, yn blaenoriaethu iechyd, ond a gaf fi ofyn i chi ddod ag iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd wrth i chi ystyried beth sy'n digwydd i gyllid llywodraeth leol? Oherwydd drwy bwmpio arian i mewn i iechyd, sy'n angenrheidiol ar gyfer iechyd yn nhyb rhai, mae pob perygl mai ychydig iawn o adnoddau a fydd ar ôl i'w gwario ar lywodraeth leol. Heb arian ar gyfer gofal cymdeithasol mewn llywodraeth leol, ni fyddwn byth yn datrys mater cronnol a chyfunol iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, a gawn ni sicrwydd y bydd gofal cymdeithasol a ddarperir drwy lywodraeth leol yn cael ei flaenoriaethu i'r un graddau ag iechyd yn y gyllideb ar gyfer 2020-21?
Cytunaf yn llwyr fod iechyd a gofal cymdeithasol ynghlwm wrth ei gilydd—ni allwch wahanu'r ddau beth. Mae'n anochel y bydd pwysau mewn un maes yn arwain at bwysau mewn maes arall. A gall buddsoddiad mewn un maes fod o fudd i faes arall, a dyna pam fod gennym y gronfa gofal integredig. Roeddwn yn falch, yn fy rôl flaenorol, o gyhoeddi £130 miliwn o gyllid ychwanegol, cyllid cyfalaf, i'r gronfa gofal integredig allu edrych ar atebion sy'n seiliedig ar dai ar gyfer materion iechyd a gofal cymdeithasol. Ac mae'r gronfa gofal integredig, ar y cyfan, yn gwneud gwaith gwych yn newid y llwybr hwnnw i bobl, os mynnwch, fel eu bod yn gallu osgoi mynd i'r ysbyty, neu os yw pobl yn mynd i'r ysbyty, mae'n sicrhau y gallant adael yr ysbyty yn llawer cynt a dychwelyd naill ai adref neu i wasanaeth cam-i-lawr arall. Felly, rydym eisoes wedi cydnabod y cysylltiad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn amlwg, bydd hynny'n rhan o'n hystyriaethau yn y gyllideb.
Llefarydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Weinidog, fe sonioch chi gryn dipyn am y grant bloc ar gyfer y flwyddyn nesaf a'r hyn a wyddom bellach yn dilyn yr adolygiad gwariant un flwyddyn. Ochr arall y refeniw y bydd modd i chi ei ddefnyddio i ariannu ymrwymiadau gwariant yng Nghymru yw'r refeniw o'r trethi datganoledig, a tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â'r rheini yn y gyllideb atodol. Er i ni gael hanner blwyddyn arall o ddata, ni welsom unrhyw newidiadau yn y rhagolwg. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi craffu ar y cytundeb hwn, a gefnogir gennym at ei gilydd, gyda’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ond tybed, o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd gyda Llywodraeth y DU—. Credaf ichi ddweud ddoe nad oedd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi cael y dasg o lunio rhagolwg ar gyfer y DU gyfan eto. Pa effaith a gaiff hynny ar y ffordd y maent yn eich cefnogi gyda'r rhagolwg ar gyfer trethi a ddatganolwyd i Gymru? A fyddant yn cael eu rhagfynegi ar sail annibynnol ar gyfer Cymru'n unig, neu a fydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dal i edrych ar gymhariaeth â Lloegr o ran beth fydd y trethi hynny?
Rydym yn trafod yn gyson â'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ac mae'r rhan fwyaf o'n cyllid yn dal i gael ei bennu, wrth gwrs, gan benderfyniadau gwario Llywodraeth y DU, sydd newydd gael eu cyhoeddi. Fel y dywedwch, nid oes unrhyw ragolygon ariannol newydd ynghlwm wrth y cyhoeddiad, felly nid oes diweddariad i'r rhagolwg refeniw datganoledig ar gyfer Cymru. Ond bydd y rhagolwg refeniw treth nesaf ar gyfer Llywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021. Felly, dywedais ddoe fy mod yn gobeithio symud dyddiad cyhoeddi'r gyllideb ddrafft i ddechrau mis Tachwedd, yn amodol ar gydsyniad y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Busnes. Felly, byddwn yn cyhoeddi'r manylion hynny ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft. Ac wrth gwrs, mae'r ddwy dreth a ddatganolwyd yn llawn yn dal i fod ar y trywydd iawn i ddod â dros £1 biliwn i mewn yn eu dwy flynedd gyntaf i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Dywedodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yn eu rhagolwg ym mis Mawrth, y bydd cyfraddau treth incwm yn codi oddeutu £2.2 biliwn yn eu blwyddyn gyntaf. Felly, mae gennym y rhagolygon hynny, ond rydym yn disgwyl i ragolygon manylach gael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'r gyllideb ym mis Tachwedd.
Ond os nad yw'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi cael y dasg, hyd yn hyn o leiaf, gan Lywodraeth y DU o lunio rhagolygon ar gyfer y DU, sut y byddant yn llunio'r rhagolygon hynny ar gyfer Cymru? A oes ganddynt fodel o economi Cymru ar gyfer edrych ar Gymru ar ei phen ei hun, neu a fyddant yn llunio rhagolwg ar gyfer y DU, er na chawsant y dasg o wneud hynny gan Llywodraeth y DU, ac yna'n defnyddio amrywiant ar gyfer Cymru? Ac a wnaiff y Gweinidog ddweud ychydig rhagor am yr hyn y mae ei thîm yn ei wneud a'r adnoddau sydd ganddi i gefnogi'r cysylltiad â'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol? Oherwydd Trysorlys Cymru sy'n gyfrifol am lunio'r rhagolygon hynny, ac yna bydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn eu profi a'u dilysu, ac mae hwn yn waith newydd iddi hi a'i hadran. Er enghraifft, gwelsom yn gynharach heddiw fod chwyddiant prisiau tai yng Nghymru yn uwch nag yn unrhyw un o wledydd a rhanbarthau eraill y DU. Pam hynny? A yw Llywodraeth Cymru yn disgwyl i hynny barhau, oherwydd bydd yn effeithio ar refeniw? Yn yr un modd, twf cyflogaeth yng Nghymru a thwf cyflogau yng Nghymru—sut y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i hynny gymharu â'r DU a pham, gan y bydd ein refeniw a'n gallu i gefnogi gwariant yn dibynnu ar y dyfarniadau hynny, er y byddant yn cael eu dilysu, gobeithio, gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol?
Yn y gynhadledd dreth flynyddol, a gynhaliais yn ôl ym mis Gorffennaf—ac roeddwn yn falch iawn fod Mark Reckless wedi gallu ymuno â ni ar gyfer honno—rhoddodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol gyflwyniad manwl iawn a oedd yn nodi sut y maent yn ystyried amryw o elfennau a'r hyn y maent yn ei ystyried o ran gallu darparu'r rhagolygon hynny. Felly, roeddent yn darparu rhagolygon yn benodol ar ein cyfer ni yma yng Nghymru, ond yn amlwg yn defnyddio amrywiaeth o ddata o fannau eraill. Credaf y byddant yn gwneud y gwaith manwl i ni yma yng Nghymru. Buaswn yn dychmygu, erbyn hynny, y byddent wedi'i wneud ar gyfer Llywodraeth y DU hefyd o bosibl. Mae'n rhaid i ni ragdybio y bydd datganiad yn yr hydref ac y byddant, buaswn yn tybio, yn cael y dasg o gyflawni gwaith i lywio hynny bron yn syth.
Os byddai o ddefnydd, Lywydd, gallwn drefnu briff technegol gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gyfer yr Aelodau, a allai roi cyfle i archwilio rhai o'r cwestiynau manwl a allai fod o ddiddordeb i ni ymhellach wrth i ni ddechrau symud tuag at gyhoeddi rhagolygon wedi'u diweddaru.