– Senedd Cymru ar 18 Medi 2019.
Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar gyfiawnder hinsawdd. Rwy'n galw ar Llyr Gruffydd i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7137 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu'r alwad gan Greta Thunberg ac ymgyrchwyr ieuenctid o Fridays for Future, i oedolion ymuno â myfyrwyr a phobl ifanc sydd ar streic ar 20 Medi 2019 i fynnu cyfiawnder hinsawdd.
2. Yn cymeradwyo'r rôl y mae myfyrwyr a phobl ifanc wedi'i chwarae yng Nghymru ac ar draws y byd o ran dod ag argyfwng yr hinsawdd i sylw llunwyr polisi a'r cyhoedd.
3. Yn cefnogi'r streiciau a'r gwrthdystiadau a drefnwyd gan bobl ifanc ac oedolion ar 20 Medi 2019.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch am y cyfle i siarad i'r cynnig yma gan Blaid Cymru i ddatgan cefnogaeth y Cynulliad yma i'r streiciau ysgol dros yr hinsawdd. Fridays for future, youth for climate, youth strike for climate—beth bynnag neu pa bynnag fathodyn ŷch chi eisiau rhoi arno fe, nid oes amheuaeth ei fod e nawr yn fudiad rhyngwladol o bobl ifanc sydd wedi penderfynu bod yr amser wedi dod i'w llais nhw gael ei glywed yn y drafodaeth a'r gwrthsafiad sydd ei angen i fynnu gweithredu i atal cynhesu byd eang ac i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd rŷm ni yn ei brofi ar hyn o bryd.
Nawr, rŷm ni'n gwybod y stori, wrth gwrs, yn dyddio yn ôl i weithred Greta Thunberg, pan gynhaliodd hi'r brotest yn Awst 2018—dim ond 12 mis yn ôl—y tu allan i'r Riksdag yn Sweden, yn dal arwydd 'school strike for the climate', a hithau wedyn yn penderfynu ei bod hi'n teimlo ei bod hi'n gorfod gwneud hyn bob dydd Gwener tan y byddai Llywodraeth Sweden yn alinio â chytundeb Paris. Hi fathodd y slogan 'Fridays for future', ac, fel rwy'n dweud, mewn cwta 12 mis rŷm ni wedi gweld y mudiad yma yn ymledu i bob rhan o'r byd.
Mi fydd hi, wrth gwrs, yn cymryd rhan mewn streiciau ysgol yn yr Unol Daleithiau ddydd Gwener yma, 20 Medi, ac mi fydd yna streiciau nawr yn digwydd ar bob cyfandir ar draws y byd, o Wlad yr Iâ i Gyprus yn Ewrop, i India a Phacistan, i Awstralia, Japan, y Philippines, De Affrica, gwledydd De America, yr Unol Daleithiau, fel yr oeddwn i'n ei ddweud, a Chanada. Yma yng Nghymru, wrth gwrs, mi fydda i'n ymuno â chriw o bobl ifanc o sir Conwy a fydd yn dod at ei gilydd ym Mae Colwyn. Rwy'n gwybod y bydd yna weithredu hefyd yn Wrecsam, fel y bydd mewn sawl tref a rhan o Gymru. Mae'r amseru yr wythnos yma yn arwyddocaol hefyd, wrth gwrs, o gofio bod yna uwchgynhadledd ar yr hinsawdd yn cael ei chynnal gan y Cenhedloedd Unedig yr wythnos nesaf.
Nawr, mae'r streiciau yma wedi bod yn hynod, hynod o effeithiol, nid yn unig yn troi pennau ac yn denu sylw ac yn ennyn trafodaeth o gwmpas yr argyfwng hinsawdd mewn ystafelloedd dosbarth ac ar fuarthau ysgol, ie, ac mewn cartrefi, mewn tafarndai ac mewn senedd-dai, wrth gwrs, fel rŷm ni yn ei wneud heddiw ac fel rŷm ni wedi'i wneud lawer tro cyn heddiw. Ond, ar y cyd â'r hyn y mae Extinction Rebellion wedi bod yn ei wneud dros y cyfnod diwethaf, mae'r naratif gwleidyddol, wrth gwrs, o gwmpas newid hinsawdd wedi newid yn llwyr. Yn wir, mae'r derminoleg wedi newid. Dŷn ni ddim yn dweud 'newid hinsawdd' bellach—rŷm ni'n cydnabod mai argyfwng hinsawdd sydd gennym. Ac roeddwn yn falch iawn, wrth gwrs, fod y Senedd yma wedi cefnogi cynnig Plaid Cymru i ddatgan argyfwng hinsawdd, sef y Senedd gyntaf, o beth rwy'n ddeall, yn y byd i wneud hynny. Roedd hi'n dda hefyd gweld Llywodraeth Cymru yn datgan yr un peth yn ogystal.
Mae'r momentwm sydd wedi cael ei adeiladu gan y bobl ifanc yma, ac eraill, wrth gwrs, wedi creu yr amgylchfyd newydd yna o safbwynt gwell dealltwriaeth ynglŷn â'r hyn sydd angen ei gyflawni. Nawr, dwi yn deall y bydd rhai pobl efallai'n meddwl dŷn ni ddim eisiau annog pobl ifanc i beidio â bod yn y dosbarth—i fod yn colli ychydig oriau neu ddiwrnod o addysg bob hyn a hyn—a bod yna risg i addysg y plant yn sgil hynny. Ond, wrth gwrs, nid yw hynny'n ddim byd o'i gymharu â'r risg sy'n dod yn sgil goblygiadau'r newid hinsawdd y maen nhw yn ei wynebu llawer mwy nag y bydd nifer ohonom ni yn ei wynebu.
Rwy'n credu bod yn rhaid i ni osod colli diwrnod o ysgol yn achlysurol mewn persbectif. O'r blaen, ers llawer dydd—gallaf weld y Gweinidog addysg yn ei sedd yno yn edrych arnaf yn ofalus ac yn pendroni beth rwy'n mynd i'w ddweud nesaf. Ond cyn i mi gael fy ethol i'r Cynulliad hwn, ers llawer dydd, roeddwn i'n arfer bod yn weithiwr ieuenctid. Wrth gwrs, fe wyddom fod yna gwricwlwm gwaith ieuenctid, a bod addysg ffurfiol yn bwysig iawn—wrth gwrs ei bod.
Ond nid diystyru diwrnod o addysg a wnawn. Mae pobl ifanc yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol—gwyddom hynny—ac mae rhan allweddol o'r cwricwlwm gwaith ieuenctid yn sôn am roi profiadau mynegiannol, cyfleoedd cyfranogol i bobl ifanc, a'u grymuso. Pa ffordd well o gyflawni'r canlyniadau hynny na thrwy'r gweithgareddau hyn? Rydym yn gweld dinasyddiaeth weithgar ar waith gan ein pobl ifanc yma, pobl ifanc yn dod at ei gilydd, yn ysgogi, yn codi eu lleisiau ac yn sefyll dros yr hyn sy'n iawn yn eu golwg hwy. A'r lleiaf y gallwn ei wneud, rwy'n credu, fel Cynulliad Cenedlaethol, yw cynnig ein cefnogaeth iddynt yn yr ymdrechion hynny.
Nawr, un o'r placardiau mwyaf trawiadol a welais erioed mae'n debyg oedd un o'r rhai a gâi eu dal gan unigolyn ifanc yn un o'r digwyddiadau hyn, a dywedai, 'Erbyn i mi gael fy nwylo ar rym, fe fydd yn rhy hwyr'. Mae'r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi rhybuddio bod gennym 11 neu 12 mlynedd i wyrdroi hyn, a rhaid inni wrando ar leisiau'r bobl ifanc hynny. Wrth gwrs, mae'r streiciau'n amserol iawn oherwydd yr uwchgynhadledd hinsawdd sy'n digwydd yr wythnos nesaf, a chredaf y bydd Greta Thunberg yn annerch yr uwchgynhadledd honno hefyd.
Rydym ynghanol argyfwng hinsawdd. Rydym wedi'i ddweud o'r blaen: ni all fod yn fusnes fel arfer, ac mae gan bobl ifanc lawer mwy i'w golli. Byddant yn ysgwyddo baich ein methiannau. Oes, mae angen i ni weithredu. Mae angen i ni ymateb gyda chamau ymarferol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ond rwy'n credu mai'r peth lleiaf y gallwn ei wneud y prynhawn yma yn y ddadl hon yw rhoi ein cefnogaeth i'r bobl ifanc a fydd yn sefyll dros yr hyn y maent yn credu ynddo ddydd Gwener.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Rwy'n galw ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Andrew R.T. Davies.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn cymeradwyo'r rôl y mae pobl ifanc wedi'i chwarae o ran llywio'r agenda newid yn yr hinsawdd, fodd bynnag, yn credu nad streic a phobl ifanc yn colli ysgol yw'r ateb.
Yn cydnabod y pryder cyhoeddus eang ynghylch cynhesu byd-eang a bod cyfyngu ar y newid yn yr hinsawdd yn gofyn am ymdrech a chydweithrediad rhyngwladol, ac yn nodi'r camau canlynol a gymerwyd i fynd i'r afael â phryderon o'r fath:
a) y rôl flaengar y mae Llywodraeth y DU wedi'i chwarae o ran mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a symud i dwf glân;
b) bod y DU wedi lleihau allyriadau dros 40 y cant ers 1990 tra'n tyfu'r economi fwy na dwy ran o dair, sef y perfformiad gorau fesul person nag unrhyw genedl arall yn y G7;
c) bod Llywodraeth y DU wedi gosod targed sero net â rhwymedigaeth gyfreithiol i roi terfyn ar gyfraniad y DU i gynhesu byd-eang yn gyfan gwbl erbyn 2050.
Yn nodi datganiad argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru ond yn gresynu at fethiant y llywodraeth i gyflwyno cyfres gynhwysfawr o fesurau sy'n addas ar gyfer argyfwng o'r fath.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Darren Millar o'r grŵp Ceidwadol heddiw. A buaswn i'n un o gefnogwyr mwyaf pobl ifanc yn mynegi eu barn drwy weithredu, ond credaf fod yn rhaid inni oedi a meddwl pan fyddwn yn annog myfyrwyr a disgyblion i ddod allan o'r ysgol ar streic, a'r niwed y gallai ei wneud i unigolion.
Cafodd ei roi ar orsaf radio y bore yma—wel, gallaf glywed llais Aelod ar eu heistedd; rwy'n hapus i dderbyn ymyriad—ond roeddwn i'n gwrando ar raglen Jason Mohammad, ac roedd cyfrannwr wedi ffonio i mewn i ddweud, 'Mae'r rhai nad ydynt yn streicio ddydd Gwener yn gwadu newid hinsawdd.' Ac mae hynny'n rhoi llawer o bwysau ar bobl sy'n credu'n gyfan gwbl yn yr hyn a wneir i wella'r amgylchedd yn ôl pob tebyg, ond am ba bynnag reswm—efallai eu bod yn sefyll arholiad, papur ffug-arholiad efallai, neu wers anghenion arbennig a drefnir o fewn yr ysgol—ond oherwydd pwysau gan gyfoedion, efallai eu bod yn teimlo bod yn rhaid iddynt adael y lleoliad sefydliadol hwnnw, gan mai dyna beth yw ysgol—mae'n lleoliad sefydliadol, ac amser cyfyngedig sydd gan athrawon a'r ysgol i gyflwyno'r cwricwlwm a gweithio drwy'r cwricwlwm—ac os yw'n newid hinsawdd yr wythnos hon, ac mae pawb ohonom yn cefnogi symud ymlaen yn gadarnhaol ar hynny a chymryd camau cadarnhaol, beth fydd yr achos yr wythnos nesaf? Beth fydd yr achos yr wythnos ganlynol?
Rwyf am rymuso pobl ifanc i wneud yn siŵr eu bod yn cymryd rhan—. [Torri ar draws.] Rwy'n fodlon derbyn ymyriad gan yr Aelod dros Orllewin De Cymru, ond credaf fod angen i chi fyfyrio ar y pwynt hwnnw pan fyddwch yn galw ar bobl i ddod allan ar streic o'r ysgol, ac mae pobl yn teimlo pwysau gan eu cyfoedion i ddod allan drwy gatiau'r ysgol, oherwydd dyna beth y mae'r cynnig hwn a gyflwynwyd gennych heddiw yn ei gymeradwyo.
Ac mae'n werth myfyrio ar y daith y buom arni dros yr 20 i 30 mlynedd diwethaf, a'r gwelliannau a wnaed, yn enwedig â ninnau wedi cadw twf economaidd i fynd yn ogystal er mwyn gwneud yn siŵr fod yr economi'n cynnal lefelau cyflogaeth. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Gan eich bod wedi fy ngwahodd, a ydych chi wedi siarad â rhai o'r bobl ifanc ynglŷn â pham y maent allan ar streic, yn hytrach na dim ond eu beirniadu am eu bod 'allan ar streic', sy'n gwyro oddi wrth y broblem go iawn yn fy marn i? Maent yn ymgyrchu am fater y maent yn poeni'n fawr yn ei gylch. A ydych chi wedi gofyn iddynt pam y maent yn ei wneud?
Rwy'n digio'n fawr at yr awgrym fy mod yn beirniadu pobl ifanc. Rwy'n siarad â phobl ifanc bob dydd o'r wythnos; mae gennyf bedwar o blant fy hun. Nid wyf yn beirniadu neb. Yn wir, yn fy sylwadau agoriadol gwneuthum y pwynt fod angen inni rymuso pobl ifanc i ymgysylltu â'r broses a chyflwyno eu barn. Ond yn ôl eich cynnig chi, sy'n sôn am streiciau mewn addysg a gadael lleoliad addysg ffurfiol—
Yn erbyn streiciau ydych chi, onid e?
Na, ddim o gwbl. Yn y pen draw, pe bai hyn yn digwydd ar fater arall, rwy'n siŵr y byddai gan Leanne Wood farn wahanol ar hyn. Ond sut y gallwch chi orfodi pobl—gorfodi pobl, oherwydd dyna beth rydych chi'n ei wneud a defnyddiais yr enghraifft a oedd ar raglen Jason Mohammad y bore yma—i ddweud os nad ydych yn cymryd rhan yn y streic hon ddydd Gwener, y byddech chi'n gwadu newid hinsawdd?
Rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol ar newid yn yr hinsawdd ac mae angen inni barhau, mae angen inni barhau i wneud hynny. Ac yn arbennig, y targed carbon niwtral a osodwyd ar gyfer 2050; y gefnogaeth a roesom i'r diwydiant i newid i ynni gwyrdd. Gadewch inni beidio ag anghofio bod yr holl gynhyrchiant ynni o fewn y DU ar lawer o ddiwrnodau erbyn hyn yn ddi-lo ac yn ddi-garbon, ac ynni gwyrdd sy'n pweru hynny ac mae hwnnw'n gynnydd gwirioneddol yn yr economi go iawn.
Ac felly, yn lle galw am weithredu aflonyddgar o fewn yr ysgol, gadewch inni rymuso pobl ifanc i gymryd rhan yn y daith y mae angen i gymdeithas gyfan—y gymdeithas gyfan—ei gwneud, a sicrhau eu bod yn aros yn rhan o'r daith hon, oherwydd, yn y pen draw, bydd pob sector o gymdeithas yn elwa o amgylchedd gwell a glanach sydd â newid yn yr hinsawdd yn ganolog iddo, oherwydd gwyddom fod y cloc yn tician a gwyddom fod yr amser wedi'i gyfyngu'n fawr i 11 neu 12 mlynedd inni wneud y gwaith arwyddocaol hwnnw a'r gwelliant hwnnw yn ein hamgylchedd. Ond nid ydym yn cefnogi'r cynnig sydd ger ein bron y prynhawn yma, a gyflwynwyd gan Blaid Cymru sydd, yn ein barn ni, ond yn chwilio am bennawd.
Galwaf ar Weinidog yr amgylchedd i gynnig yn ffurfiol gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.
Yn ffurfiol.
Ffurfiol. Hefin David.
Beth am gofio o ble y daw hyn: caiff ei gymell nid yn unig gan fater y mae pobl yn poeni yn ei gylch, ond gan rwystredigaeth enfawr ar ran pobl ifanc ac ofn—ac ofn—ynglŷn â'r dyfodol sy'n eu hwynebu. Nid unrhyw ymgyrch yw hi. Mae'n rhywbeth sy'n berthnasol iawn ac yn real i fywydau ein plant a'u dyfodol. A meddyliwch am y peth, maent yn gweld pobl fel Donald Trump yn cael eu hethol yn America; maent yn gweld Llywodraeth China; maent yn gweld beth sy'n digwydd yn Brasil; maent yn gweld David Cameron yn dweud ei fod yn mynd i arwain y Llywodraeth wyrddaf erioed ac yna'n dweud, 'Gadewch i ni gael gwared ar yr holl gachu gwyrdd yma', yn ddiweddarach—esgusodwch fi, Lywydd—yn ystod ei Lywodraeth. Mae ofn ar y bobl hyn.
Rwyf wedi siarad ag ymgyrchydd Llafur ifanc 18 oed sy'n mynd i'r brifysgol y mis hwn, Morgan Paulett, yn fy etholaeth, ynghylch pa mor o ddifrif y dylem fod ynglŷn â hyn. Credwch fi, roeddwn yn eistedd gydag ef yn y swyddfa ac nid dim ond ymgyrch yw hon; mae pobl yn teimlo'n ddwfn am eu dyfodol. Anfonodd un neu ddau o baragraffau ataf, a dywedodd, 'Pe bawn i yn eich sefyllfa chi, dyma'r hyn y buaswn yn ei ddweud.' Felly, gyda'ch caniatâd, Lywydd, hoffwn ddarllen yr hyn y byddai wedi hoffi ei ddweud.
Mae'r cynnydd yn y tymheredd byd-eang yn golygu bod miloedd o filltiroedd o rew parhaol yng nghylch yr Arctig yn toddi, a gallai hynny olygu dau beth sy'n peri pryder mawr. Bydd y carbon deuocsid sy'n cael ei storio yn y rhew parhaol hwnnw'n cael ei ryddhau i'r atmosffer pan fydd yn toddi ac mae pathogenau wedi'u cloi yn y rhew ers y cyfnod cynhanesyddol nad yw bodau dynol wedi dod i gysylltiad â hwy hyd yma. Gallai tymereddau cynyddol olygu hefyd fod afon Indus ym Mhacistan yn sychu yn ogystal â monsynau anrhagweladwy yn India, sy'n golygu y gallai dau rym niwclear gelyniaethus sy'n ffinio â'i gilydd gyda phoblogaethau sy'n tyfu'n gyflym brofi prinder bwyd dirfawr yn y dyfodol agos. Dim ond dau yw'r rhain o'r argyfyngau mawr niferus a fydd yn wynebu cenedlaethau'r dyfodol yn y degawdau i ddod ac mae llawer o bobl ifanc yn fwyfwy pryderus a rhwystredig am Lywodraethau, methiant Llywodraethau cyfunol i ymdrin â'r bygythiadau hyn o ddifrif ac ymrwymo i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.
Ei eiriau ef yw'r rheini. Dyma'r hyn y mae wedi'i ysgrifennu i mi ac eisiau i mi ei ddweud, ac nid oes gennyf unrhyw broblem yn ei ddweud. Ychwanegodd at hynny y byddai'n hoffi streic gyffredinol ymhlith ieuenctid ar draws y byd i ymdrin â hyn. Dyna yw ei farn ef.
Yn fy marn i, mae angen inni edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud yma, ac rwy'n teimlo'n gryf, ac rwyf wedi'i ddweud o'r blaen yn y Siambr hon, mae angen diwygio sylfaenol o'r bôn i'r brig ar ein democratiaeth gynrychiadol yn y wlad hon, a chredaf mai rhan ohono yw sicrhau bod gan bobl ifanc 16 oed lais, a rhan ohono yw sicrhau, pan fyddwch yn pleidleisio, fod y pleidiau y pleidleisiwch drostynt yn cael eu cynrychioli wedyn a'u bod yn gorfod gweithio ar y materion hyn neu byddant yn colli grym. Ni chafodd Donald Trump ei ethol gan system sy'n gweithio. Nid yw'n ddemocratiaeth wirioneddol gynrychioliadol, yn fy marn i, yn America. Yn sicr nid yn Tsieina a'r un fath yn Brasil. Mae angen i leisiau pobl ifanc gael eu clywed ac rwy'n credu y bydd y newidiadau hynny yn ein democratiaeth yn galluogi hynny.
Hefyd, hoffwn dynnu sylw'r Siambr at—. Rwy'n gweld bod fy amser wedi dod i ben. Tair munud sydd gennym ar gyfer yr areithiau hyn, Lywydd.
Ie.
O'r gorau. Wel, hoffwn ddweud hefyd fod Coleg y Cymoedd yn Ystrad Mynach yn cynnal protest rhwng 12.30 p.m. a 1.30 p.m. ar gampws y coleg, ac mae staff a myfyrwyr y coleg yn gweithredu'n glir iawn ynghylch y mater hwnnw hefyd. Ymddiheuriadau, roeddwn i'n meddwl fod gennyf fwy o amser. Felly, roeddwn eisiau tynnu sylw at hynny, ond mewn gwirionedd, yr hyn rwy'n ei ddweud yw: gwrandewch ar y bobl hyn a newidiwch ein system i'w helpu.
Mae'r mudiad dros fwy o ymwybyddiaeth amgylcheddol yn un hir ac mae wedi bod yn adeiladu momentwm ers y 1960au a'r 1970au ar draws y byd, ac mae'r mudiad presennol y gellir dadlau ei fod yn llawer mwy wedi digwydd ar ôl blynyddoedd o godi ymwybyddiaeth a lleisio pryderon. Felly, rydym wedi cyflwyno'r cynnig hwn am fod pobl iau yn iawn i boeni am yr amgylchedd y maent yn mynd i'w etifeddu.
Pan fydd pobl ifanc yn gweld llunwyr polisi byd-eang yn peidio â gwneud digon, neu'n cytuno i fesurau a nodau rhyngwladol y mae gwyddonwyr a'r rhai sy'n gweithio yn y maes mewn swyddi o bob math yn eu beirniadu fel rhai nad ydynt yn ddigonol, neu'n rhy ychydig yn rhy hwyr, wel, gallaf ddeall pam y byddent yn teimlo rheidrwydd i weithredu'n uniongyrchol er mwyn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ac i wneud i'r lleisiau hynny gael eu clywed yn awr. Os yw plant a phobl ifanc am golli ysgol i streicio ynglŷn â'r mater hwn—. Galwch hyn yn beth bynnag a ddymunwch: yn weithredu uniongyrchol; yn brotest. Gadewch i ni beidio â gwyro oddi wrth yr hyn ydyw: pobl ifanc yn mynd allan ac yn cael llais, ac rwy'n cefnogi hynny'n llwyr.
Sawl gwaith yn y Siambr hon y buom yn eistedd yma, eisiau cael mwy o bobl ifanc i ymwneud â gwleidyddiaeth? Weithiau rydym yn cael trafferth neu nid oes ganddynt ddiddordeb neu maent wedi ymddieithrio neu ni allwn wneud iddynt ddod atom i roi eu barn, ac yna dônt allan, a bryd hynny rydym yn dweud, 'O mawredd, onid yw'n ofnadwy fod Joni bach wedi dod o'r ysgol am eu bod wedi dod allan ac wedi lleisio barn ar rywbeth? Gogoniant, sut y beiddiant gael barn ar rywbeth?' Gadewch i ni eu trin yn hynod nawddoglyd yn lle hynny a dweud, 'Wel, gadewch i ni fynd i eistedd mewn ystafell gyda hwy a gofyn iddynt beth y maent yn ei feddwl, ond na foed inni wrando mewn gwirionedd; gadewch inni fynd oddi yno a chymryd arnom ein bod wedi gwrando ac yna bydd pawb yn iawn a gallwn ddychwelyd at yr hyn y buom yn ei wneud erioed a'u hanwybyddu.' Nid ydynt yn mynd i gael eu hanwybyddu y tro hwn, ac rydym yn ffyliaid os ydynt yn mynd i gael eu hanwybyddu y tro hwn oherwydd rwy'n gobeithio y gwelwn fwy o bobl ifanc yn cael eu hethol er mwyn iddynt allu dweud wrthym, 'Wel, a dweud y gwir, rydym yn ei wneud i ddial arnoch chi am ein hanwybyddu.'
A pheth arall: sawl gwaith y gwelsom bobl ifanc o ysgolion—mae'n ddrwg gennyf, mae fy nwylo ar fy nghanol; rwy'n siŵr na fydd Elin Jones yn fy ngheryddu—yn cael eu gwthio allan i gyfarfod â'r teulu brenhinol, i chwifio eu baneri bach i'r Frenhines? Cânt ganiatâd gan eu hysgol, ond a ydych chi'n clywed pobl yn cwyno? A ydym yn clywed meinciau'r Torïaid yn cwyno eu bod wedi colli awr o ysgol? Nac ydym. Felly, mae'n iawn iddynt wneud hynny, ond nid yw'n iawn iddynt gael barn wleidyddol, un nad yw'n cyd-fynd â'u barn hwy.
Ac os ydych chi'n siarad am streiciau, wel, cefais tête-à-tête ar Twitter gydag Andrew R.T. Davies ynglŷn â'r cludwyr nwyddau a oedd yn blocio'r ffyrdd. Roeddent yn symud yn araf iawn, ond roeddent yn dal i flocio'r ffyrdd. Ac rydych chi, a Nick Bourne o'r blaen, wedi dod allan a'u cefnogi'n gyfan gwbl. Fe aethoch i orsaf betrol yr M4 a sefyll yno gyda hwy gyda deiseb, yn dweud eich bod yn eu cefnogi. Os nad yw hynny'n weithredu uniongyrchol, beth ydyw?
[Anghlywadwy.]—yn ystumio pethau, ond roeddwn yn aelod, fel chithau, o'r Pwyllgor Deisebau, ac roeddwn yn derbyn deiseb ganddynt gan fod yr heddlu wedi'u hatal rhag dod i'r Cynulliad. Fe'u corlannwyd yng Nghaerdydd—[Torri ar draws.] Gallaf glywed yr Aelod dros y Rhondda yn heclo eto, fel y mae'n arfer gwneud, ond peidiwch â cheisio ystumio'r sefyllfa. Ni allent ddod i'r Cynulliad y diwrnod hwnnw am fod yr heddlu wedi'u hatal.
Nid wyf yn ceisio ystumio'r sefyllfa. Fe wnaethoch chi gefnogi hynny ac rwy'n dweud bod hynny'n hollol iawn, ond peidiwch â diystyru achos arall am y bernir mai streic ydyw a rhywbeth nad ydych chi'n meddwl ei fod yn addas yn wleidyddol i bobl ifanc ei wneud.
Rwy'n brin o amser, felly yr unig beth yr hoffwn ei ddweud yw: gwrandewch ar y bobl ifanc pan fyddant yn dod â'r materion hynny atom. Dylech eu cymryd o ddifrif, eu clywed, cyfarfod â hwy a pheidio â'u trin yn nawddoglyd.
Cefais fy synnu wrth gael e-bost o un o ysgolion fy mhlant yn gynharach yn dweud, 'Rydym yn fodlon awdurdodi absenoldeb i unrhyw fyfyrwyr. Rhowch wybod i ni os bydd eich plentyn yn absennol o ganlyniad i gymryd rhan yn y streic.' Cefais fy synnu'n arbennig gan fod y plentyn dan sylw yn ddwyflwydd oed.
Ond rwy'n gwrthwynebu'r streiciau hyn; nid wyf yn cefnogi streiciau yn gyffredinol. Rwy'n credu bod streiciau'n awgrym o fethiant, boed yng nghyd-destun cyflogaeth neu yma, ac mae Plaid Cymru yn brolio sut y mae'r rhain yn digwydd ym mhobman yn y byd. Rhan o'r broblem yw eu bod yn anwahaniaethol. Fe ildiaf.
Diolch yn fawr iawn am ildio. Y cyfan y dymunwn ei wneud oedd y pwynt fod y streic hon, ydy, yn symptom o fethiant, y methiant i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yr ydym yn ei wynebu ar hyn o bryd.
Mae'r wlad hon wedi lleihau allyriadau carbon deuocsid fwy na bron unrhyw wlad yn y byd. Gostyngiad o 40 y cant mewn allyriadau carbon deuocsid ers 1990. Rydym wedi lleihau lefelau ein hallyriadau nid i rai'r 1980au ond i rai'r 1880au. Ble mae'r gydnabyddiaeth i hynny?
A wnewch chi dderbyn ymyriad? A ydych chi'n meddwl bod newid hinsawdd yn rhywbeth go iawn, neu a ydych chi'n meddwl ein bod ni'n ei ddychmygu?
Mae Rhianon Passmore hefyd yn ceisio ymyrryd, felly os caf ymdrin â'r pwynt a wnaeth hi hefyd yn gynharach, oherwydd ei fod yr un mor berthnasol—gofynnodd i un o fy nghyd-Aelodau, 'A yw Plaid Brexit bellach yn derbyn bod cysylltiad agos iawn rhwng problemau ansawdd aer a newid yn yr hinsawdd?' Ydym, rydym yn derbyn hynny. Ac un ffordd allweddol y maent wedi'u cysylltu'n agos yw polisi Llywodraethau Llafur a'r Undeb Ewropeaidd i gymell newid o betrol i ddiesel, gan mai'r lleihad ymylol mewn allyriadau carbon deuocsid mewn gwirionedd yw'r hyn sy'n arwain at lawer o'r problemau yr oeddem yn eu trafod yn ein dadl ddiwethaf ar lygredd aer a phobl yn marw na fyddent fel arall yn marw—
Felly, rydych chi bellach yn credu bod newid hinsawdd yn digwydd.
Rwyf bob amser—wel, ers imi astudio'r pwnc, ers i Margaret Thatcher roi hyn ar yr agenda am y tro cyntaf drwy siarad â'r Cenhedloedd Unedig am yr hyn a allai fod yn digwydd gyda'r hinsawdd—[Torri ar draws.] Fy marn i, byth ers i mi ddechrau edrych ar y mater hwn 20 neu 30 mlynedd yn ôl, yw ei bod hi'n debygol fod gweithgarwch dynol yn cynyddu'r hinsawdd. Yr hyn a gwestiynais yw beth y dylid ei wneud am y peth, beth yw'r polisïau a roddir ar waith? Fel y newid o betrol i ddiesel, yn llawer ohonynt, mae costau'r polisïau hynny'n fwy nag unrhyw fudd. Yn y wlad hon, rydym wedi lleihau allyriadau 40 y cant. Roedd gennym darged o doriad o 80 y cant; roedd rhywfaint o gonsensws, bron, yn datblygu o'i gwmpas. Ond erbyn hyn rydym wedi mynd i doriad o 90 neu 100 y cant ac rydym yn siarad amdano ac yn siarad yn rhinweddol, ond a ydym eisiau'r gallu i wneud yr hyn y byddai ei angen mewn gwirionedd? A ydym am gau Port Talbot? A ydym am gael gwared ar yr holl ffermio da byw yng Nghymru? Beth am pan fydd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am y biliynau y bydd yn rhaid inni eu symud o flaenoriaethau eraill i newid hinsawdd os ydym am gyrraedd y gostyngiad o 90 y cant hyd yn oed, heb sôn am sero net? O, ni allent ymdopi â hynny. [Torri ar draws.] Rwy'n ildio—na, deuaf i ben oherwydd rwyf eisoes yn y coch. Ac rwy'n dweud, a ydych am dynnu pob boeler nwy ar gyfer pob cartref yn y wlad hon? Os felly, sut ydych chi'n mynd i dalu amdano? Dechreuwch fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, dechreuwch gydnabod bod y wlad hon wedi gwneud mwy nag unrhyw wlad arall yn y byd hyd yma i leihau ei hallyriadau a chael polisi synhwyrol yn hytrach na'r holl siarad rhinweddol, a streiciau.
Rwyf wedi clywed llawer o feirniadaeth yma heddiw yn erbyn ein Llywodraeth gan y Torïaid, ond rwy'n gobeithio y byddant yn beirniadu'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan am eu penderfyniad i ganslo Wythnos Prydain Fawr Werdd ym mis Tachwedd. Er bod y Torïaid yn honni bod ganddynt gymwysterau gwyrdd pan fydd hynny'n gyfleus iddynt, mae'n ein hatgoffa eto nad yw eu cefnogaeth i'r agenda newid hinsawdd yn mynd mor bell â hynny. Ond cyferbynnwch hynny â'r mis nesaf pan fydd cynhadledd newid hinsawdd Llywodraeth Lafur Cymru yn mynd rhagddi yn ôl y bwriad, ac ni fydd Brexit yn tynnu sylw'r Llywodraeth rhag canolbwyntio ar y materion y mae'n rhaid mynd i'r afael â hwy er mwyn dyfodol ein plant a chenedlaethau'r dyfodol sy'n eu dilyn.
Un o'r camau pwysicaf y mae'r Llywodraeth yn eu rhoi ar waith yw newid y ffordd y mae ffermwyr yn derbyn cymorthdaliadau gan y Llywodraeth, gyda chynigion y bydd pob ffermwr yn cael eu gwobrwyo am y cyfraniadau hanfodol y maent yn eu gwneud i ofalu am yr amgylchedd, gan warchod cynefinoedd a mynd i'r afael â newid hinsawdd. A bydd y newid hwnnw'n gweld biliynau'n cael eu buddsoddi i ddiogelu'r amgylchedd naturiol yng Nghymru. Sylwaf hefyd fod Plaid Cymru yn gwrthwynebu rhai o'r newidiadau hynny ac yn ffafrio yn lle hynny fod ffermwyr yn cael taliadau'n seiliedig ar faint o dir y maent yn ei ffermio, gyda'r taliad mwyaf yn mynd i'r ffermydd mwyaf. Os gall Plaid Cymru ymrwymo heddiw i newid y safbwynt hwnnw ar y mater hwn, rwy'n siŵr y bydd pawb yn croesawu hynny'n fawr.
Buaswn hefyd yn croesawu'n gynnes ymrwymiad gan Blaid Cymru i groesawu rhywfaint o'r gwaith sy'n cael ei wneud ar O'r Mynydd i'r Môr. Prosiect arloesol ydyw i ddad-ddofi'r ardal rhwng masiff Pumlumon, yr ardal uchaf yng nghanolbarth Cymru, i lawr drwy'r dyffrynnoedd coediog i aber afon Dyfi ac allan i fae Ceredigion. Ac o fewn pum mlynedd bydd yn dwyn ynghyd un ardal natur-gyfoethog ddi-dor sy'n cynnwys o leiaf 10,000 hectar o dir a 28,500 hectar o fôr. Dyna'r math o weithredu a fydd yn gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd.
Rwyf wedi clywed llawer o bobl yn bod yn emosiynol iawn yma heddiw, ac mewn rhai ffyrdd mae'n fater sy'n ennyn teimladau cryf, ond nid oes llawer o ddiben i neb, pwy bynnag ydynt, eistedd ar gadair heb eu bod wedi meddwl o ble y daeth y pren ar ei chyfer mewn gwirionedd. Felly, mae pobl yn mynd i siopau adrannol ac maent yn prynu nwyddau sy'n eithaf rhad, maent yn mynd â hwy adref ac yn aml iawn maent yn eistedd ar yr union seddi sydd wedi peri i fforest law Brasil gael ei chlirio, tra byddant yn eistedd yno'n crio mewn anobaith am yr hyn y mae hynny'n ei wneud i hinsawdd y byd. Felly, mae'n debyg mai fy mhwynt yma yw: er y bydd y gwleidyddion yn gwneud yr hyn a allant, bydd rhai'n gwneud mwy nag eraill, ac mae'n rhaid i'r dinasyddion hefyd edrych ar yr hyn y maent yn ei wneud a gofyn y cwestiynau go iawn pan fyddant yn mynd ati i brynu pethau at eu defnydd eu hunain.
Y Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd. Mae'n amlwg iawn o'r cynigion a'r gwelliannau heddiw fod pob un o'r prif bleidiau yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn cymeradwyo plant a phobl ifanc am y rôl y maent yn ei chwarae yn y ddadl ar y newid yn yr hinsawdd. Ni ddylai fod ganddynt unrhyw amheuaeth ynghylch y gwahaniaeth y maent wedi'i wneud eisoes, ac y byddant yn parhau i'w wneud. Rwyf fi a Gweinidogion eraill Cymru yn trafod materion newid hinsawdd yn rheolaidd gyda'r bobl ifanc yr ydym yn cyfarfod â hwy. Yn ddiweddar, derbyniais y magna carta newid hinsawdd, a gynhyrchwyd gan un disgybl ysgol gynradd, ac mae'n rhaid imi ddweud ei fod yn dangos dealltwriaeth graffach o'r problemau ac yn cynnwys set lawer mwy cynhwysfawr o fesurau na'r rhai a awgrymwyd wrthyf gan rai o Aelodau'r gwrthbleidiau yn y Cynulliad hwn.
Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel', sy'n nodi manylion ynglŷn â tharddiad yr holl allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru a'n cynlluniau i'w lleihau. Ar y diwrnod y lansiwyd y cynllun, cynhaliodd y Prif Weinidog drafodaeth bwrdd crwn gyda phlant a phobl ifanc i ateb eu cwestiynau am y cynllun a'r camau yr ydym yn eu cymryd. Credwn na allwn ddibynnu'n bennaf ar unigolion i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ar eu pennau eu hunain. Nid yw hwn yn fater y gallwn fforddio gadael iddo gael ei benderfynu gan y farchnad rydd. Credwn fod yn rhaid i Lywodraeth chwarae rôl weithredol o ran gwneud gweithredu ar y cyd yn bosibl.
Un enghraifft o hyn yw'r fenter eco-ysgolion lle mae miloedd o blant a phobl ifanc yn rhoi camau ar waith yn eu hysgolion bob wythnos sy'n cael effaith uniongyrchol ar fynd i'r afael â newid hinsawdd a materion amgylcheddol hanfodol eraill. Eleni rydym hefyd yn gweithio gyda Maint Cymru i ddarparu pum uwchgynhadledd newid hinsawdd ar ffurf cynadleddau Cynhadledd y Partïon y Cenhedloedd Unedig, a fydd yn cynnwys disgyblion o 80 o ysgolion uwchradd ledled Cymru. Mae mentrau fel hyn yn cryfhau lleisiau plant a phobl ifanc ac yn eu cynorthwyo i weithredu yn eu cymunedau.
Rhaid inni gofio bod gennym gyfrifoldeb hefyd i gynrychioli'r plant a'r bobl ifanc nad ydynt yn dewis streicio. Dyna pam y mae gwelliant ein Llywodraeth i'r cynnig yn adlewyrchu galwad ganolog ymgyrch Fridays for Future ar bob gwleidydd ac arweinydd busnes i wrando ar yr hyn sydd gan blant a phobl ifanc i'w ddweud am newid hinsawdd. Un ffordd bwysig y gallwn ychwanegu mwy o bwysau at farn plant a phobl ifanc yng Nghymru—a chyfeiriodd Hefin David at hyn—yw drwy ein hymrwymiad i ostwng yr oedran pleidleisio yng Nghymru o 18 i 16 mewn pryd ar gyfer yr etholiadau nesaf i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn 2021. Dyma'r peth iawn i'w wneud, ond mae'n gwbl angenrheidiol hefyd er mwyn i blant a phobl ifanc gyflawni'r rôl sydd angen iddynt ei chwarae er mwyn creu Cymru carbon isel.
Llyr Gruffydd i ymatab i'r ddadl.
A gaf fi ddiolch i bawb am gymryd rhan? Mae'n eironig fod Andrew R.T. Davies, mewn dadl gynharach, yn difrïo gwelliant 'dileu popeth' ac yna'n codi i siarad i gefnogi gwelliant 'dileu popeth' yn y ddadl hon, ond dyna ni.
Mae Hefin David yn llygad ei le: rhwystredigaeth ac ofn—mae pobl ifanc yn ofni canlyniadau'r argyfwng hinsawdd, a rhestrodd eich etholwr rai pethau a fyddai'n digwydd mewn degawdau i ddod. Wel, wyddoch chi, maent yn digwydd nawr. Gwelsom yr hyn a ddigwyddodd ym Mozambique, gyda seiclonau Idai a Kenneth yn ddiweddar. Symudodd yr arfordir 15 milltir i mewn i'r tir, a chafodd dinas Beira ei dinistrio—cafodd 90 y cant ohoni ei difa'n llwyr, gyda miloedd wedi'u lladd a 0.5 miliwn wedi'u dadleoli. Mae'n digwydd heddiw; nid yw'n rhywbeth a allai ddigwydd yn y dyfodol. Mark Reckless, rwy'n credu fy mod yn cytuno â chi am y tro cyntaf erioed—mae streiciau'n arwydd o fethiant. Fe restroch chi'r gost o leihau allyriadau carbon, ond ni ddywedasoch ddim wrthym am y gost o fethu ymdrin, neu o geisio ymdrin â rhai o ganlyniadau trychinebus y digwyddiadau hinsawdd a wynebwn o ganlyniad i'r argyfwng hinsawdd.
Nid wyf yn siŵr pam oedd Joyce Watson yn chwilio am ffrae gyda Phlaid Cymru, oherwydd fe gamliwioch chi ddau o'n polisïau, ond dyna ni; efallai y bydd yn rhaid inni fynd ar drywydd hynny yn nes ymlaen, oherwydd nid oes gennyf lawer o amser.
Dywedodd Greta Thunberg, ac rwy'n dyfynnu:
Gan fod ein harweinwyr yn ymddwyn fel plant, ac nid wyf i'n dweud dim—ei geiriau hi yw'r rhain—
Gan fod ein harweinwyr yn ymddwyn fel plant, bydd yn rhaid i ni ysgwyddo'r cyfrifoldeb y dylent hwy fod wedi'i ysgwyddo ymhell yn ôl.
A dyna'n union y maent yn ei wneud ddydd Gwener yma drwy gymryd rhan yn y streiciau ysgol hyn. Felly, gadewch i ni ei gwneud yn glir ein bod ni fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda'n pobl ifanc ar y daith honno, a gadewch i ni gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.