– Senedd Cymru ar 25 Medi 2019.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl gan Blaid Brexit ar y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, a dwi'n galw ar Mark Reckless i wneud y cynnig. Mark Reckless.
Cynnig NDM7141 Caroline Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a'i pharhad amhenodol.
2. Yn nodi bod Cymru, fel y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.
3. Yn cefnogi datganoli pellach mewn meysydd penodol a fyddai o fudd i Gymru a lle mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn elwa o ddatganoli o'r fath, fel toll teithwyr rheilffyrdd ac awyr.
4. Yn nodi'r rhan a fu gan yr Undeb Ewropeaidd yn y gorffennol o dan erthyglau 154 i 156 o Gytuniad Rhufain mewn perthynas â rhwydweithiau traws-Ewropeaidd, gan gynnwys yr M4 a'r A55.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi gwelliannau i'r A55 a chyflenwi ffordd liniaru'r M4 drwy gronfa ffyniant a rennir y DU er budd Cymru a'r DU gyfan.
Diolch, Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn enw Caroline Jones.
Mae'r pwynt bwled cyntaf yn cefnogi aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a'i pharhad amhenodol. Nawr, buaswn wedi meddwl nad oedd hyn yn rhywbeth yr oedd angen ei ddatgan. Gwn fod gan Blaid Cymru farn wahanol, wrth gwrs, ond cyn imi gael fy ethol i'r lle hwn, roeddwn wedi derbyn maniffestos a safbwyntiau polisi'r pleidiau eraill ar eu golwg. Gwyddwn hefyd am nifer o Aelodau Seneddol o Gymru a oedd yn y Blaid Lafur a, hyd y gwyddwn, yn unoliaethwyr diwyro. Fy argraff yma, fodd bynnag, o fewn y Llywodraeth o leiaf, yn rhengoedd y Blaid Lafur yma, yw bod mwy o amrywiaeth barn am ymreolaeth, os nad annibyniaeth, yn hytrach nag unoliaetholdeb a beth ddylai trywydd datganoli fod. Credaf fod o leiaf rai o'r Aelodau ar feinciau'r Llywodraeth yn hwylio o dan faniffesto Llafur a safbwyntiau polisi Llafur, ond mae'r gwahaniaethau rhyngddynt a llawer o Aelodau Plaid Cymru yn llai nag y byddwn wedi'i ddisgwyl yn flaenorol. Felly, rydym yn datgan hynny yn ein cynnig heddiw.
Rydym hefyd, yn ein hail bwynt, yn nodi eto—nid wyf am oedi'n rhy hir gyda'r pwyntiau ar yr UE yn y ddadl hon—fod Cymru, fel y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n ddealladwy yng nghyd-destun yr Alban, lle y pleidleisiodd yr Alban o gryn dipyn dros aros, a lle mae gennych Lywodraeth Plaid Genedlaethol yr Alban sy'n cefnogi annibyniaeth yr Alban, mae'n ddealladwy sut y bydd y ddau fater yn cael eu cyfuno a Llywodraeth yr SNP yn defnyddio un i geisio symud ar y llall. Rwyf wedi fy synnu gan y graddau y mae hyn wedi digwydd yng Nghymru hefyd. Rwy'n cydnabod bod llawer o'r Aelodau wedi'u syfrdanu, eu siomi, a'u cynhyrfu gan ganlyniad y refferendwm, ond cefais fy synnu fwy gan y graddau y bu i rai Aelodau gwestiynu lle Cymru yn y Deyrnas Unedig ar y sail fod eu hochr hwy wedi colli'r refferendwm pan bleidleisiodd Cymru dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym wedi gweld rhai arolygon ac rydym wedi gweld ambell orymdaith, ac yn aml, Plaid Cymru sydd y tu ôl i'r cwestiynau a pheth o'r gwaith trefnu ar y rheini, a bu cryn dipyn o sylw yn y cyfryngau i'r rhai sy'n chwilfrydig ynglŷn ag annibyniaeth, a cheir awgrym fod rhyw fath o ymchwydd wedi bod yn y gefnogaeth i annibyniaeth. Rwy'n amheus o hynny, ac rwy'n meddwl tybed a yw'r Aelodau, yn enwedig ar feinciau Llafur, yn mynd yn rhy bell, er eu budd etholiadol eu hunain o leiaf, yn y modd y maent efallai'n cwestiynu parhad ein haelodaeth o'r undeb, neu o leiaf natur yr undeb a sut y dylai ddatblygu oherwydd yr hyn a ddigwyddodd gyda'r refferendwm.
Fe ildiaf.
Rydych chi wedi siarad am y refferendwm, mae realiti'r drafodaeth ynghylch annibyniaeth wedi digwydd oherwydd llanastr Llywodraeth y DU a Senedd San Steffan a'r ffordd y mae wedi ymddwyn ers y refferendwm hwnnw. Felly nid oedd yn fater refferendwm; mae'n edrych, mewn gwirionedd, ar sut y mae San Steffan yn ymddwyn, a methiant San Steffan i fynd i'r afael ag anghenion y gwahanol wledydd ar draws y DU sydd wedi bod yn arwain yr agenda hon.
Ac i mi, y broblem yw methiant gormod o'r bobl sydd o blaid aros, gan gynnwys ac yn enwedig efallai yn San Steffan, i dderbyn canlyniad y refferendwm. Maent wedi treulio tair blynedd a mwy yn tyfu'n fwyfwy hyderus ac yn mynd ymhellach ac ymhellach yn erbyn yr hyn a ddywedasant yn y gorffennol i geisio rhwystro canlyniad y refferendwm hwnnw, ac rwy'n credu mai'r gwrthodiad hwnnw i weithredu'r canlyniad a gwrthodiad elît sydd o blaid aros, y sefydliad efallai, i weithredu penderfyniad eu pleidleiswyr sydd wedi arwain at yr anawsterau a wynebwn yn awr.
Fodd bynnag, hoffwn ganolbwyntio ar ddatganoli a'i drywydd. Roeddwn wedi gobeithio, gyda'r hyn a ddaeth yn Ddeddf Cymru 2017, y byddem yn cyrraedd setliad sefydlog. Mae'n fy nharo bod y system yn gymharol sefydlog mewn llawer o wledydd ledled y byd lle y ceir llywodraeth ddatganoledig ac mewn rhai achosion, llywodraeth ffederal. Mae'n fy nharo bod y DU yn eithriad yn yr ystyr fod yna newidiadau cyfansoddiadol o'r fath sydd wedi parhau cyhyd ac ymddengys nad oes pen draw i'w weld. Roeddwn wedi meddwl y byddai'n gweithio'n well gyda'r modelau cadw pwerau, ac rwy'n meddwl bod rhywfaint o'r bai ar Lywodraeth y DU efallai o ran diffyg hyblygrwydd wrth ymgysylltu â sefydliadau datganoledig i ddod o hyd i setliad a fyddai'n fwy sefydlog o bosibl. Ac yn awr, rwyf i a chyd-aelodau o'm mhlaid hyd yn oed yn gweld meysydd lle byddai'n gwneud synnwyr i gael mwy o ddatganoli, ac rydym ni ein hunain yn amau a yw'r system sefydlog honno'n realistig ag ystyried y setliad a gyrhaeddwyd gennym yn 2017.
Hoffwn dynnu sylw at ddwy enghraifft yma lle rwyf wedi fy mherswadio i raddau helaeth gan areithiau a wnaed gan Weinidogion y Llywodraeth a chan eraill yn y Siambr hon fod yna achos cryf dros ddatganoli pellach. Un o'r rheini yw'r doll teithwyr awyr. Rwy'n credu bod adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig o San Steffan ac arweiniad David T.C. Davies wedi dylanwadu arnaf o ran hynny, ac mae'r adroddiad unfrydol a gawsant, rwy'n credu, yn dweud bod hyn yn rhywbeth y dylid ei ddatganoli o'u goruchwyliaeth hwy i'n goruchwyliaeth ni, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn hapus i'w gefnogi.
Mae'r rheilffyrdd hefyd yn faes lle y cefais fy mherswadio o'r achos dros ragor o ddatganoli, yn rhannol oherwydd y Gweinidog, Ken Skates, sydd, yn fy marn i, yn gwneud achos da iawn dros yr angen am fuddsoddi pellach yng Nghymru. Ond nid mater o arian yn unig ydyw. Mae'n fater o drefniadaeth, ac a dweud y gwir, nid wyf yn teimlo bod strwythur y rheilffyrdd yn y Deyrnas Unedig wedi gweithio'n arbennig o dda. Yn fwyaf arbennig, buaswn yn feirniadol o Network Rail o ran ei reolaeth, ei anhyblygrwydd, ei fiwrocratiaeth, ei un model ar gyfer pawb, ac yn bennaf, ei gost. Mae darparu atebion rheilffyrdd i'w weld mor anhygoel o ddrud. Fe'm trawyd hefyd gan Transport for London a'i lwyddiant cymharol o ran integreiddio, a Mersey Rail yn yr un modd, wrth edrych ar hwnnw'n fwy diweddar. Mae'n fy nharo, o ystyried yr hyn a welsom gan Network Rail a sut y mae'r system wedi gweithio, ond hefyd, rwy'n credu, pa mor dda y gwnaeth Llywodraeth Cymru o ran negodi a chytuno ar fasnachfraint Cymru a'r gororau, rwy'n credu bod yr achos wedi'i wneud dros ddatganoli'r rheilffyrdd. Credaf ein bod wedi gweld problemau ers i Trafnidiaeth Cymru gymryd drosodd, a chredaf eu bod yn mynd yn brin o amser i'w beio ar sail y system flaenorol ac mae angen cymryd cyfrifoldeb, ond yn gyffredinol, credaf fod y cyflawniad yn un y byddem am ei gefnogi, a chredwn y byddai rhagor o ddatganoli yn y maes hwnnw o fudd i Gymru.
Symudaf yn awr at bwynt 4 yn ein cynnig lle y nodwn sefyllfa'r A55, a'r M4 yn fwy diweddar, rwy'n credu, fel rhwydweithiau traws-Ewropeaidd o dan erthyglau 154 i 156 o Gytuniad Rhufain, ac rydym wedi derbyn mesur o oruchwyliaeth yr Undeb Ewropeaidd dros y ffyrdd hynny oherwydd yr effaith y maent yn ei chael ar Iwerddon a'r graddau y maent yn mynd y tu hwnt i ffiniau'r DU. Am yr un rhesymau, a rhesymau cryfach, rwy'n credu, gallem weld achos dros fesur o ymwneud ar ran y DU i'r graddau fod yr hyn sy'n digwydd gyda'r llwybrau hynny'n bwysig iawn, nid yn unig i Gymru, ond i'r DU yn ehangach.
Nid yw yn ei sedd yn awr, ond gwnaeth pwynt a wnaeth Alun Davies yn gynharach wrth edrych ar yr M4 gryn argraff arnaf mewn gwirionedd. Edrychodd ar yr achos economaidd a'r costau a'r manteision, a gwnaeth y pwynt ynghylch pa mor gymharol fach y cyfrifwyd y manteision i'w etholwyr ym Mlaenau Gwent, a gwrthgyferbynnodd hynny â'r manteision sylweddol iawn i bobl sy'n byw ym Mryste a lleoedd gryn dipyn ymhellach na hynny yn Lloegr. Ac fe ddywedodd, yn deg efallai, 'Pam y dylai boeni am y manteision iddynt hwy? Pam y dylem wario arian trethdalwyr Cymru ar hynny?' A chan fod ganddo'r rôl hon bellach yn edrych ar strwythurau'r DU y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi iddo i wneud argymhellion, buaswn yn dweud, 'Ydy, mae'n iawn am hynny', ond os oes gennym system lle y caiff y costau i gyd eu hystyried, gan ein bod yn ysgwyddo'r holl gostau yng Nghymru, ond bod manteision sylweddol iawn i bobl eraill, er enghraifft yn Lloegr, nad ydym yn cymryd unrhyw sylw ohonynt am nad dyna yw ein mandad, onid yw hynny'n awgrymu y gallem fethu buddsoddi'n ddigonol? Ac os oes budd mawr i bobl dros y ffin yn Lloegr mewn gwirionedd, onid oes rôl i Lywodraeth y DU gefnogi'r ffyrdd hynny a thalu amdanynt o bosibl?
Gofynnwyd i'r Cwnsler Cyffredinol nos Sul gan gadeirydd y pwyllgor dethol Cymreig, pe bai ei swyddogion ac eraill yn gweithio i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn rhoi'r arian i dalu am y ffordd liniaru hon, a fyddai'n ei chyflawni. Gobeithio y bydd yn ystyried hynny, oherwydd nid ydym am gyfyngu ar economi Cymru ac ymwahanu oddi wrth Loegr, ac yn enwedig yr ardaloedd mwy ffyniannus. Mae angen inni sicrhau bod y ffordd honno'n weithredol, ac rwy'n credu bod rôl briodol hefyd i Lywodraeth y DU yn hyn o beth wrth inni geisio ymdrin â datganoli mewn modd cytbwys. Mae modd ei gyfiawnhau'n fwy mewn rhai meysydd, ond mae yna feysydd lle y gallem elwa o gymorth Llywodraeth y DU.
Rwyf wedi dewis y pum gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 4, bydd gwelliant 5 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i gyflwyno yn ffurfiol welliannau 1, 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.
Gwelliant 4—Rebecca Evans
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth y DU:
a) i gryfhau ei hymrwymiad i fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru, er enghraifft drwy drydaneiddio’r prif linellau rheilffordd yn y De a’r Gogledd a buddsoddi mewn ynni llanw yng Nghymru, sy’n gyfrifoldeb iddi;
b) i ddarparu cyllid llawn yn lle’r cyllid Ewropeaidd y bydd Cymru’n ei golli os bydd y DU yn ymadael â’r UE, a hynny heb unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth y DU o ran y ffordd orau o’i ddefnyddio.
Yn ffurfiol.
Yn ffurfiol. Felly, dwi'n galw nawr ar Darren Millar i gyflwyno gwelliant 5 a gyflwynwyd yn ei enw. Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant, a gyflwynwyd yn fy enw i.
Roeddwn yn disgwyl i hon fod yn fwy o ddadl nôl ac ymlaen, a bod yn onest, yn ôl yr arfer ar brynhawn dydd Mercher pan fydd Plaid Brexit yn cyflwyno dadl gwrthblaid. Ond mewn gwirionedd, mae'r cyfraniadau meddylgar a wnaed gan arweinydd Plaid Brexit mewn perthynas â dyfodol y Deyrnas Unedig a'r setliad datganoli wedi gwneud cryn argraff arnaf, oherwydd credaf fod angen i ni fel Senedd drafod dyfodol datganoli yn y wlad hon, ac rwy'n sicr yn cytuno â chi fod angen setliad mwy sefydlog a chadarn. Ar hyn o bryd nid oes gennym hynny, ac mae gennym anghydbwysedd o fewn y Deyrnas Unedig o ran y setliad datganoli yng Nghymru o'i gymharu â'r Alban, ac yn yr Alban o'i gymharu â Llundain, a'r maeryddiaethau wrth gwrs, a Gogledd Iwerddon. Felly, mae gennym drefniant rhyfedd sydd, mae'n ymddangos i mi, wedi'i ddatblygu heb ystyriaeth briodol i'r hyn a allai fod yn lefelau priodol o gyfrifoldeb i bob un o'r gwledydd. Ac yn sicr, rwy'n credu bod angen ystyried hynny'n fwy gofalus yn y dyfodol er mwyn inni allu cyrraedd rhywbeth mwy synhwyrol ar gyfer y tymor hir sy'n cadw'r Deyrnas Unedig gyda'i gilydd yn hytrach na'n rhannu.
Nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am fod yn unoliaethwr angerddol—credaf ei bod yn llawer gwell i Gymru fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig na'r tu allan i'r Deyrnas Unedig, a dyna pam ei bod yn eithaf rhyfeddol fod gennym blaid genedlaetholgar sy'n beirniadu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn benderfynol o geisio cyflawni ewyllys y bobl drwy ein tynnu allan o'r UE oherwydd ei bod yn honni bod manteision economaidd sylweddol yn deillio i Gymru o wneud hynny, ac eto mae'n ceisio ein rhannu drwy annibyniaeth oddi ar weddill y Deyrnas Unedig, sydd, wrth gwrs, hyd yn oed yn fwy strategol bwysig i Gymru o ran ein heconomi. Rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.
Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Mae gwahaniaeth syml iawn yn y ddwy senario: nid yw Cymru'n wlad annibynnol o fewn Prydain; mae Prydain yn wlad annibynnol o fewn Ewrop, yn ôl unrhyw fesur.
Rwy'n deall hynny, ond nid wyf yn credu eich bod wedi ymateb i'r datganiad a wneuthum ei bod yn ymddangos yn rhyfeddol iawn i lawer o bobl eich bod yn cyflwyno dadl economaidd dros aros yn yr UE, heb wneud yr un ddadl economaidd yn fwy pwerus oherwydd pwysigrwydd ein cysylltiadau economaidd ar draws y DU.
Nawr, o ran safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig, rydym eisoes wedi cofnodi ein bod yn cefnogi datganoli'r rheilffyrdd a mwy o gyfrifoldeb dros y system reilffyrdd yma yng Nghymru, a buaswn yn cytuno'n llwyr â rhai o'r sylwadau a wnaethoch yn arbennig am ddiffyg ymatebolrwydd Network Rail i fod eisiau gwneud yn siŵr fod digon o fuddsoddi a chynnal a chadw yma ar ein rheilffyrdd ledled y wlad. Rwyf wedi'i chael yn anodd iawn ymdrin â hwy ar lefel etholaethol, ac nid oes gennyf amheuaeth nad yw honno'n farn a rennir ar draws y Siambr hon. Hefyd, wrth gwrs, rydym yn cefnogi camau—mewn ffordd wahanol ac yn arddel safbwynt gwahanol i'n plaid yn y DU—i sicrhau bod y doll teithwyr awyr yn cael ei datganoli i Gymru, gan ein bod yn credu bod cyfleoedd economaidd y gallwn eu cael o ddatganoli'r doll teithwyr awyr. Rwy'n credu bod achos posibl hefyd dros ddatganoli rhai materion telathrebu i Gymru, er enghraifft. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am gyflwyno'r cynllun band eang cyflym iawn, ac mae hwnnw wedi bod yn gymharol lwyddiannus mewn llawer ffordd, er bod rhai diffygion o hyd mewn rhannau gwledig o fy etholaeth. Ond unwaith eto, rwy'n credu bod achos da i'w wneud dros gael mwy o gyfrifoldebau i Gymru mewn perthynas â thelathrebu. Mae gennym eisoes gyfrifoldebau cynllunio am bethau megis uchder mastiau ac ati, am deleffoni symudol, ac mae'n gwneud synnwyr perffaith i mi i wneud yn siŵr fod y pethau hynny'n cael eu rhoi at ei gilydd mewn rhyw ffordd, rwy'n meddwl, o ran y sefyllfa yn y dyfodol.
Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd strategol yr M4 a'r A55 a ffyrdd eraill yng Nghymru i rwydwaith y DU, a chredaf y gallwch ddadlau'r ddwy ffordd o ran pwy sy'n gyfrifol am y rheini, ond yn sicr, rydym am weld mwy o fuddsoddi yn ein ffyrdd, oherwydd mae cysylltiadau trafnidiaeth gwell yn helpu i hybu ffyniant. Ni allwn anwybyddu'r ffaith bod cysylltiad gwell ag ardaloedd sy'n llewyrchus yn golygu eich bod yn tueddu i wneud yn well yn economaidd eich hun. Mae tystiolaeth gref iawn fod hynny'n wir, a dyna pam y credwn fod ffyrdd fel yr A55, yr A40, yr M4 a'r llwybrau strategol o'r gogledd i'r de yng Nghymru yn eithriadol o bwysig o ran yr angen i gael gwell cysylltedd ar draws y wlad.
Felly, rydym yn hapus i gydnabod y pethau hynny yn y ddadl hon, ac os gallwn gael dadl hynaws, efallai y cawn rywfaint o gonsensws er mwyn gallu datblygu rhai o'r pethau hyn yn y dyfodol.
Rwyf am ganolbwyntio ar fanteision penodol sy'n deillio o'n hundeb â Lloegr a'r ddwy wlad arall sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, ac felly rhoddaf enghraifft i chi o sut y gallwn elwa o'r undeb hwnnw.
Crëwyd y rhwydwaith traws-Ewropeaidd, TEN, gyda'r nodau datganedig o greu marchnad ryngwladol ac atgyfnerthu cydlyniant economaidd a chymdeithasol. Nid oedd yn gwneud fawr o synnwyr i siarad am farchnad fawr yr UE, gyda rhyddid i symud o'i mewn ar gyfer nwyddau a gwasanaethau oni bai fod y gwahanol ranbarthau a rhwydweithiau cenedlaethol a ffurfiai'r farchnad honno wedi'u cysylltu'n briodol â seilwaith modern ac effeithlon. Roedd adeiladu rhwydwaith traws-Ewropeaidd hefyd yn cael ei gweld yn elfen bwysig ar gyfer twf economaidd a chreu gwaith. Roedd y cytuniad a sefydlodd y gymuned Ewropeaidd yn gyntaf yn rhoi sail gyfreithiol i'r TENau o dan y telerau a gynhwyswyd yn y cytuniad, ac erthyglau 156, fel y nododd Mark Reckless yn gynharach. Mae'n rhaid i'r Undeb Ewropeaidd anelu at hyrwyddo datblygiad rhwydweithiau traws-Ewropeaidd fel elfen allweddol ar gyfer creu'r farchnad fewnol ac atgyfnerthu cydlyniant economaidd a chymdeithasol. Mae'r datblygiad hwn yn cynnwys rhyng-gysylltiad y rhwydweithiau cenedlaethol a'u gallu i ryngweithredu yn ogystal â mynediad at rwydweithiau o'r fath.
Mae'r economi yng ngogledd Cymru wedi dioddef llawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac un o'r rhesymau am hyn yw gallu cefnffordd yr A55 i ymdopi â'r traffig mawr sy'n teithio ar hyd-ddi, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysuraf y gwyliau. Mae'r A55 yn rhan o'r llwybr traws-Ewropeaidd sy'n cysylltu porthladd Caergybi ag Ewrop, ac eto nid yw'r Undeb Ewropeaidd wedi rhoi digon o arian tuag at ddatblygu'r llwybr hwnnw, ac mae wedi'i adael bron yn llwyr i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sicrhau ei fod yn addas i'r diben. Ac mae'r ffordd hon yn cael effaith fawr ar hyfywedd economaidd rhanbarth gogledd Cymru, o ran busnes a thwristiaeth—
A wnewch chi dderbyn ymyriad, David?
Gwnaf.
Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol fod yr Undeb Ewropeaidd yn fwy na pharod i lwybrau Cymru, yn ffyrdd a rheilffyrdd, gael statws craidd o fewn y rhwydweithiau TEN-T. Llywodraeth y DU oedd yn gyfrifol am beidio â chyflwyno'r llwybrau hynny i gael eu cysylltu o fewn TEN-T. Roedd Brwsel yn berffaith hapus.
Wel, gallwch ddadlau hynny, ond wrth gwrs, nid oedd yr arian ar gael. Dyna rwy'n ei ddweud, ac yn dod o'r Undeb Ewropeaidd, nid oedd ar gael. Ac rwy'n mynd i nodi sut y gall fod ar gael o fewn senario'r Deyrnas Unedig.
Mae'r M4 yn ne Cymru yn cael yr un effaith ar fusnes a hamdden â'r A55, ac wrth gyhoeddi'r penderfyniad i ddileu'r cynllun gwella yn nhwneli Bryn-glas, y rheswm a roddodd Prif Weinidog Cymru, oedd, yn gyntaf, ei gost gynyddol, ac yn ail, y pryderon amgylcheddol. Er mwyn lliniaru'r rhwystr cyntaf, y gost, rydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno achos cryf i Lywodraeth y DU dros ddefnyddio'r gronfa ffyniant gyffredin i roi cymhorthdal tuag at gronfeydd Llywodraeth Cymru, yng ngogledd a de Cymru. O ystyried y gydnabyddiaeth gyffredinol y bydd gwelliannau i ran Cymru o'r M4 hefyd yn cael effeithiau buddiol ar economi rhanbarth Bryste, a natur draws-Ewropeaidd yr A55, rydym ni yn Brexit yn credu y gellid gwneud achos cadarn dros gael cyllid ychwanegol.
Cyfrifoldeb y Llywodraeth yw sefydlu seilwaith i gynyddu rhagolygon economaidd rhanbarth i'r eithaf. Er mwyn hwyluso hyn, rydym yn annog Llywodraeth Lafur Cymru i foderneiddio'r A55 ac atgyfodi ffordd liniaru'r M4 drwy ofyn am gymorth ariannol gan Lywodraeth y DU yn y modd a amlinellir uchod. Ni fyddai hwn ar gael pe baem yn aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Diolch.
Mae'r cynnig hwn yn mynegi cefnogaeth i
'aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a'i pharhad amhenodol.'
Mae arnaf ofn nad ydym ni ar feinciau Plaid Cymru yn gallu cefnogi hynny. Pam? Yn gyntaf, rwy'n credu ein bod yn trafod yn ddamcaniaethol yn ôl pob tebyg. Byddai'n hynod o ffôl, yn fy marn i, i ymrwymo'n llawn am byth i wladwriaeth nad yw'n debygol efallai o fodoli ar ei ffurf bresennol am gyfnod hir iawn. Ymddengys i mi fod annibyniaeth yr Alban yn eithaf anochel yn y blynyddoedd i ddod, ac mae'r darlun sy'n prysur newid o ran undod Gwyddelig yn un sy'n debygol o gyflymu, rwy'n credu, yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Felly, nid yn unig ein bod yn siarad yn ddamcaniaethol, gofynnir inni hefyd bleidleisio ar rywbeth a allai'n hawdd fod y tu hwnt i'n rheolaeth. Wrth gwrs, gallem ddewis ymrwymo i fod yn atodiad taeogaidd i Loegr mewn byd lle bydd yr Alban yn annibynnol, ac Iwerddon yn unedig, ond mae'r ymchwydd diweddar yn y diddordeb yng nghwestiwn annibyniaeth yma yng Nghymru yn awgrymu bod hwnnw'n ddarlun sy'n mynd yn llai a llai atyniadol i boblogaeth sy'n deffro yng Nghymru.
Felly, ar bob ystyr, gadewch—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Rwy'n ei chael hi'n anodd iawn deall pam y byddai'n well gan Blaid Cymru fod yn rhanbarth mewn casgliad enfawr o ranbarthau'n ymestyn o'r Môr Baltig i'r Môr Aegeaidd, yn hytrach na bod yn genedl mewn undod o genhedloedd a alwn yn Deyrnas Unedig. Dywedwyd wrthych yn gwbl bendant na fyddech yn cael eich cydnabod yn genedl yn Ewrop.
Fel cenedl annibynnol byddem yn sicr yn cael ein cydnabod fel cenedl drwy'r byd i gyd. Fy nymuniad i yw i'r genedl Gymreig honno ddatblygu'r rhwydweithiau rhyngwladol y mae eich plaid, i bob golwg, yn benderfynol o'u difa—gan adeiladu waliau yn hytrach nag adeiladu pontydd.
Ond ar bob cyfrif, gadewch i ni siarad am ein seilwaith trafnidiaeth, gan fy mod bob amser yn awyddus i wneud hynny, a sut i wella cysylltedd er mwyn cryfhau ein heconomi, ond gadewch inni wneud hynny mewn ysbryd o uchelgais gwirioneddol i'n gwlad fel partner cyfartal wrth ochr Lloegr, yr Alban, ein ffrindiau ar draws môr Iwerddon ac yn wir ein ffrindiau ar draws y sianel. I'ch atgoffa am waddol trafnidiaeth yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig: mae wedi cymryd tan nawr i gael un filltir o reilffordd wedi'i thrydaneiddio yma yng Nghymru, a hyd yn oed wedyn, pan ddaw'n weithredol, cyn belled â Chaerdydd yn unig y bydd hynny'n digwydd, oherwydd penderfynodd Llywodraeth y DU mai dyna pa mor bell y dylai fynd. Mae ein holl briffyrdd aml-lôn yn rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin; mae'r llwybrau hynny'n bwysig iawn wrth gwrs, ond ble mae'r llwybrau rhwng y de a'r gogledd a allai, yn yr un modd, fod wedi helpu i greu economi integredig yng Nghymru? Nid oes unrhyw gysylltiad rheilffordd i lawr arfordir gorllewinol Cymru o gwbl. Rwy'n credu y gallwn feicio'n gyflymach o Flaenau Ffestiniog i Gaerfyrddin na mynd ar y trên, sy'n cymryd tua wyth awr. O ran gwariant ar y rheilffyrdd, rydym yn cael 1 y cant o'r arian sydd ar gael ar gyfer gwella ac ehangu rhwydweithiau rheilffyrdd, er bod gennym 11 y cant o'r rhwydwaith rheilffyrdd. HS2—rwy'n siŵr eich bod i gyd yn gwybod, wrth i wariant HS2 godi, fod gwariant ar y rheilffyrdd yng Nghymru yn gostwng oherwydd ei fod yn cael ei ystyried yn brosiect Cymru a Lloegr, er bod pob astudiaeth yn dangos y bydd economi Cymru yn cael ei niweidio gan HS2. Dyna waddol y DU, a Llywodraeth y DU, fel y nodais yn gynharach, a benderfynodd nad oedd Cymru'n haeddu cael un filltir o reilffordd na ffordd statws craidd o fewn y rhwydweithiau TEN-T. Cymerwch eich tro—Mark Isherwood yn gyntaf.
Fel Aelod sy'n cynrychioli etholaeth yng ngogledd Cymru, a wnewch chi gydnabod bod yr un astudiaethau wedi dweud y byddai gogledd Cymru ar ei hennill?
Dim ond os byddant yn cael rhai penderfyniadau yn ymwneud â Crewe, cywir, mae gobaith na fydd rhannau o ogledd Cymru yn y gogledd-ddwyrain yn cael eu niweidio, ond bydd economi Cymru yn ei chyfanrwydd, y byddwn yn seilio ein sylfaen drethi arni yn y blynyddoedd i ddod, yn cael ei niweidio. Mae pob astudiaeth yn dangos hynny. Mark Reckless.
Cytunaf â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud, ac mae'n un rheswm pam ein bod yn awyddus i ganslo HS2, ond hefyd, fel y dywedodd David T.C. Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig nos Sul wrth y Gweinidog Brexit, oherwydd HS2, oherwydd yr annhegwch hwnnw, roedd arno eisiau gwthio i gael Llywodraeth y DU i dalu am ffordd liniaru'r M4.
Mae'n ddiddorol iawn—gall consensws adeiladu rhwng gwleidyddion yma yng Nghymru a gwleidyddion yn San Steffan. Digwyddodd dros y doll teithwyr awyr, er enghraifft. Ond oherwydd bod y grym yn nwylo Llywodraeth y DU, mater iddynt hwy, nid i ni fel cenedl, yw'r hyn y cawn ei benderfynu ar ddyfodol ein rhwydwaith trafnidiaeth. Felly, mae catalog o enghreifftiau y gallwn eu rhoi ynghylch pam nad yw gwaddol y DU yn un gadarnhaol i Gymru pan edrychwch ar drafnidiaeth. Os ydych am gyflwyno'r achos dros y DU, buaswn yn awgrymu bod trafnidiaeth yn ddewis eithaf gwael o ran pwnc, ac yn wir rwy'n credu ei bod hi'n mynd yn fwyfwy anodd i chi ddewis pwnc sy'n dweud mai'r DU yw ein cyfle gorau.
Credid na fyddai'r haul byth yn machlud ar yr Ymerodraeth Brydeinig—fod yr ymerodraeth ar y llwybr cywir, ac rwy'n dyfynnu Plaid Brexit, 'i barhau'n amhenodol'. Ond mae'r haul wedi machlud arni. Nawr, rydym yn edrych tuag at wawr newydd, felly rhwbiwch eich llygaid ac ymunwch gyda ni ar y daith.
Pan gefais fy ethol i'r lle hwn am y tro cyntaf, roeddwn i'n eithaf cefnogol i ddatganoli. Gwelais gyfleoedd i Gymru drwy ddatganoli pe baem yn defnyddio'r pwerau a oedd gan y Cynulliad i ryddfrydoli'r economi a bod yn lleoliad mwy deniadol ar gyfer buddsoddi, ac yn y blaen. Ond rwy'n ofni bod tair blynedd o brofiad yma wedi fy ngwthio i'r cyfeiriad arall. Rwyf wedi gweld sut y mae'r wladwriaeth un blaid yn gweithio. Pan ddechreuasom, wrth gwrs, drwy gynghreirio â Phlaid Cymru a'r Ceidwadwyr, fe wnaethom atal Llywodraeth Cymru rhag dychwelyd i rym, a byddai hynny wedi bod yn sioc enfawr i'r system pe gallem fod wedi parhau â hynny. Ond wrth gwrs—[Torri ar draws.] Gadewch i mi orffen fy mrawddeg yn gyntaf. Yn anffodus, mae Plaid Cymru bob amser yn cynnal Llywodraeth Lafur, ac mae hynny'n golygu na allwn byth weld dim heblaw Llywodraeth asgell chwith fel y mae pethau ar hyn o bryd. Felly, ni allaf weld unrhyw reswm pam y gallai unrhyw un sydd hyd yn oed yn gymedrol i'r dde o'r canol feddwl y gallai datganoli fod yn llwyddiant.
Oni bai fy mod yn camgymryd yn fawr, rwy'n cofio'r Aelod yn siarad ym mis Gorffennaf am awydd i gael mwy o ddatganoli, ac nid wyf yn credu ei fod wedi bod yn ôl yn y lle hwn cyn i mi glywed adroddiadau amdano'n siarad yng Nghasnewydd yn dweud ei fod bellach am ddiddymu'r Cynulliad. Pam y newid dros doriad yr haf?
Nid wyf yn gwybod beth y mae'r cyn-Aelod UKIP a'r cyn-aelod o'r grŵp Ceidwadol, a llawer arall yn ogystal, wedi bod yn ei wneud dros yr haf, ond rwyf i wedi bod yn gwneud ychydig o feddwl. Sylweddolaf yn awr fod unrhyw fesur o ddatganoli wedi bod yn fethiant, ac mae hynny'n rhywbeth y mae cyfran fawr iawn o bobl Cymru yn cytuno ag ef. Cafwyd arolwg ar S4C yn gynharach eleni, a gofynnwyd i bobl a oeddent yn credu bod y Cynulliad wedi newid y ffordd y llywodraethir Cymru er gwell, a dim ond 34 y cant a atebodd y cwestiwn hwnnw yn gadarnhaol. Pan ofynnwyd iddynt a oeddent yn credu ei fod wedi bod yn well i'r gwasanaeth iechyd, dim ond 23 y cant a ddywedodd 'ydy'. Felly, yn sicr nid yw wedi bod yn wir fod y Cymry wedi cael eu hargyhoeddi bod ymdrechion y lle hwn a Llywodraeth Cymru wedi bod o fudd iddynt.
Felly, ar ôl 20 mlynedd, credwn ei bod yn iawn i'r bobl gael eu holi eto i roi eu barn ynglŷn ag a ydynt am barhau â'r arbrawf hwn ai peidio. Gwn fod y Blaid Lafur yn awr yn awyddus iawn, yng Nghymru beth bynnag, i gael refferendwm arall, i gael pleidlais y bobl, ac mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi bod yn awyddus erioed i gael pleidlais y bobl ar annibyniaeth, ac felly gallem gyfuno'r ddau â chyfres o gwestiynau. Rwy'n credu y dylai pobl Cymru allu penderfynu a fu'r arbrawf datganoli hwn yn llwyddiant ai peidio, ac a oes ffordd arall ymlaen a fyddai'n well, ac efallai'n mynd y tu hwnt i ddatganoli a datganoli pwerau ymhellach.
Pam na wnawn ni ddemocrateiddio'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, er enghraifft, o ystyried bod y gwasanaeth iechyd wedi'i gamreoli mor drychinebus o Gaerdydd, ac yn parhau i gael ei gamreoli'n drychinebus o Gaerdydd? Gallem fynd â datganoli ymhellach i lawr i'r bobl nag yma yng Nghaerdydd. Gallem gael datganoli pellach yn y system addysg hefyd, fel na fydd angen swydd y Gweinidog Addysg. Gallem roi mwy o bwerau i awdurdodau lleol arddel safbwynt annibynnol ar y ffordd y maent am reoli eu hysgolion eu hunain yn eu hardaloedd eu hunain. Rwy'n credu y gallai hynny fod yn iach iawn i ddemocratiaeth hefyd. Felly, gallai honno fod yn ffordd arall o ailgysylltu â'r bobl nad oes ganddynt syniad, i raddau helaeth iawn, beth yw pwerau'r lle hwn. Mae'n dal yn wir nad yw cyfran fawr iawn o'r Cymry yn gwybod bod y gwasanaeth iechyd wedi cael ei ddatganoli. Does bosibl nad yw hynny'n fethiant os bu un erioed, o ystyried ei fod yn mynd â hanner cyllideb Llywodraeth Cymru.
Nawr, pan grybwyllwyd datganoli yn gyntaf, gwnaethpwyd achos drosto ar y sail y byddai'n helpu i gadw'r undeb gyda'i gilydd—undeb y Deyrnas Unedig, hynny yw. Ac yn awr gwelwn fod y Deyrnas Unedig yn cael ei rhwygo'n ddarnau, mewn gwirionedd, er gwaethaf datganoli, yn fwyaf arbennig, yn amlwg, yn yr Alban. Yn sicr, nid yw bodolaeth Senedd yr Alban wedi gwneud dim i leddfu'r galw am annibyniaeth wleidyddol yn yr Alban, rhywbeth y byddai Plaid Cymru'n ei gefnogi'n fawr, ond mae hynny'n fy mrawychu i'n fawr, fel unoliaethwr. Ac mae bodolaeth Llywodraeth yr Alban wedi'i gwneud yn fwy tebygol y gwelwn y Deyrnas Unedig yn chwalu, yn hytrach nag yn llai tebygol. Mae rhesymau eraill dros hynny, wrth gwrs, nid yn lleiaf, fel y nodwyd yn gynharach, y dryswch a grëwyd yn sgil y ffordd y mae San Steffan wedi camreoli Brexit, lle mae gennym Senedd sydd am 'aros' a phobl sydd am 'adael', ac mae'r dryswch a achosodd hynny wedi galluogi'r Alban, wrth gwrs, i'w gwneud yn anos inni gyflawni canlyniad y refferendwm.
A gwelwn hefyd yn y Blaid Lafur fod rhai o'i haelodau hi wedi bod yn chwarae gyda'r syniad o symud tuag at fwy o annibyniaeth hefyd, a dywedodd Prif Weinidog Cymru ym mis Gorffennaf nad yw cefnogaeth Cymru i'r undeb yn y Deyrnas Unedig yn ddiamod. Felly, rwy'n dweud mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud ar ôl 20 mlynedd o brofiad o ddatganoli yw cyflwyno'r achos i'r bobl unwaith eto. Felly, mae angen inni fynd y tu hwnt i ddatganoli ac mae angen inni ailgysylltu â phobl Cymru, a chael bargen well ar ôl 20 mlynedd o fethiant llwyr.
Y Gweinidog Brexit, Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Mae'r cynnig a gyflwynwyd gan y Blaid Brexit ychydig yn rhyfedd. Gall Llywodraeth Cymru gytuno â rhywfaint ohono, ond mae'n anghytuno â llawer ohono. Gadewch imi ddechrau gyda'r hyn y gallaf i gytuno ag e, cyn tynnu sylw at ddiffygion y cynnig. Mae'n cefnogi aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain Fawr. Mae'n galw am ragor o ddatganoli, sy'n ddatblygiad i'w groesawu o ystyried hanes amheus gwleidyddion blaenorol Plaid Brexit yn UKIP a'u hagwedd tuag at ddatganoli. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw sawl tro i'r toll teithwyr awyr gael ei ddatganoli i Gymru, fel sy'n digwydd yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban, ac mae'r cynnig hwn yn cefnogi'r alwad honno. Mae'r Llywodraeth Dorïaidd, wrth gwrs, wedi rhoi veto arno dro ar ôl tro, er gwaethaf yr argymhelliad unfrydol diweddaraf ym Mhwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin.
Yn fwyaf hynod, mae'r cynnig yn cydnabod y buddsoddiad sylweddol yn ein seilwaith o'r gefnogaeth rydyn ni wedi'i derbyn gan yr Undeb Ewropeaidd dros yr 20 mlynedd diwethaf. Ac eto, roedd ochr 'gadael' y refferendwm 2016 yn amharod iawn i drafod ar y pryd y ffaith fod Cymru ar ei helw o gyllid Ewropeaidd, nid yn unig ar gyfer seilwaith ond ar gyfer rhaglenni sgiliau hanfodol megis prentisiaethau a datblygu'r gweithlu o fewn busnesau, am gyllid busnes drwy Fanc Datblygu Cymru—llwyddiant enfawr—ac am arloesi ac ymchwil a datblygu.
Yn olaf, mae'n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynyddu ei buddsoddiad mewn seilwaith. Mae hyn yn bendant yn rhywbeth rydyn ni'n galw amdano fe ein hunain. Dro ar ôl tro, mae Llywodraethau Torïaidd y ddegawd diwethaf wedi siomi Cymru o fewn y meysydd polisi hynny y mae ganddyn nhw gyfrifoldeb drostynt: trydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe, wedi'i ganslo.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf, yn wir.
Mae'n dweud bod ein cynnig yn cyfeirio at gyllid o'r Undeb Ewropeaidd. Nid yw'n gwneud hynny; mae'n cyfeirio at y pwerau a gymerodd yr Undeb Ewropeaidd dros y rhwydwaith traws-Ewropeaidd, ac nid dyna sydd dan sylw. Mewn rhai o'r rheini, maent yn eu rheoleiddio ac maent yn mynnu safonau penodol, ac yna, yn yr achos hwn, yn mynnu bod Cymru'n talu amdanynt.
Mewn gwirionedd, mae llwybrau ffyrdd TEN-T yng Nghymru wedi elwa'n aruthrol o gyllid Ewropeaidd drwy'r ERDF, ac ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd, rydym yn hyderus y byddwn yn bodloni'r safonau TEN-T. Ond os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, y pryder yw y byddai colli TEN-T yn arwain at ddadneilltuo sylweddol o ran trydaneiddio rhwydwaith rheilffyrdd Cymru yn y gogledd i Gaergybi ac yn y de i Aberdaugleddau. Mae hwnnw, wrth gwrs, yn fuddsoddiad y disgwyliwn i Lywodraeth y DU ei anrhydeddu.
Ond roeddwn yn rhestru'r nifer o ffyrdd y mae Llywodraeth y DU wedi methu cyflawni ei rhwymedigaethau i ni yng Nghymru: methiant morlyn llanw bae Abertawe, methiant i gynnal y diwydiant dur. A soniodd yr Aelod, yn ei araith, am yr M4 a'i gefnogaeth ymddangosiadol yn awr i'r llwybr du, er iddo ymgyrchu, a chredaf iddo ysgrifennu'r maniffesto yn 2016 a ddywedai fod llwybr du'r M4 yn rhy ddrud ac y byddai'n llyncu'r rhan fwyaf o gyllideb cyfalaf Cymru, a beirniadodd yn arbennig yr effaith andwyol ar yr amgylchedd, a dyna'n union oedd y rhesymau a roddodd Prif Weinidog Cymru dros beidio â bwrw ymlaen â'r cynllun. Felly, rwy'n credu ei bod yn dda cael rhywfaint o gysondeb mewn perthynas â hynny. [Torri ar draws.] Ie.
Credwn y dylid ei hadeiladu. Buom yn ymgyrchu dros ffordd liniaru i'r M4. Mae ei lliw neu'r union lwybr yn fater atodol i'r ffaith bod Cymru angen iddi gael ei hadeiladu.
Wel, bydd y cofnod yn dangos eich bod chi newydd ofyn am i'r llwybr du gael ei adeiladu. Felly, efallai y gallwn edrych ar y cofnod ar ôl y ddadl hon.
Nawr i droi at yr elfennau o'r cynnig na allwn eu derbyn. Yn gyntaf, mae'n anghyson ynghylch datganoli. Rwy'n methu gweld sut y mae'n bosibl galw am ddatganoli pellach a chefnogi cysyniad gwag Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin ar yr un pryd fel ffordd o sicrhau cyllid y mae Cymru wedi bod yn ei reoli ers degawdau er mwyn buddsoddi mewn materion o fewn ein cymhwysedd datganoledig. Mae'n wag oherwydd, ers dros ddwy flynedd, maent wedi methu manylu ar unrhyw syniadau pendant ynglŷn â sut y byddai'n gweithio neu beth fyddai'n ei wneud. Yr hyn sy'n glir, fodd bynnag, yw y byddai'n golygu bod Llywodraeth y DU yn cipio'r cyllid a ddeuai'n syth i Gymru o'r Undeb Ewropeaidd ac yn llyffetheirio gallu'r Cynulliad Cenedlaethol hwn a Llywodraeth Cymru i'w ddefnyddio i wireddu strategaeth ddatblygu gydlynol. Mae'n amlwg yn ymosodiad ar bwerau'r Cynulliad, a chredaf na allai plaid sydd wedi ymrwymo o ddifrif i ddatganoli gefnogi'r argymhelliad hwnnw. Rydym wedi nodi'n glir, os a phan fydd y DU yn pontio o gronfeydd strwythurol yr UE, na ddylid colli'r un geiniog ac na ddylai unrhyw bŵer gael ei gipio.
Nesaf, yr undeb. Fel Llywodraeth, rydym am i'r undeb ffynnu. Ond yn wahanol i'r cynnig, rydym yn cydnabod na all hynny ddigwydd oni cheir diwygio radical ar y cyfansoddiad, gan gynnwys cysylltiadau rhynglywodraethol—diwygio y mae'r Llywodraeth bresennol ar y gorau'n esgeulus ynglŷn â'i wneud, ac ar y gwaethaf, heb ddiddordeb mewn gwneud hynny. Lywydd, nid yw'r undeb erioed wedi bod o dan fwy o straen. Mae datganoli, neu fe ddylai datganoli fod yn elfen annatod o'n cyfansoddiad, yn hytrach na rhywbeth sy'n cael ei ystyried yn rhodd gan San Steffan a Whitehall, ac mae'r ddadl ynghylch datganoli'n ymwneud â mwy na'r cysylltiadau unigol rhwng y DU a phob un o'r gwledydd datganoledig—mae angen iddi fynd i'r afael â sut y dylid llywodraethu'r DU yn ei chyfanrwydd. Ac mae angen inni gydnabod bod grym yn y pen draw yn llifo o'r gwaelod i fyny, nid o'r brig i lawr fel athrawiaeth hen ffasiwn o sofraniaeth seneddol a'r uchelfraint frenhinol, a bod dyfodol yr undeb yn dibynnu ar gydsyniad pobloedd ac etholwyr Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Un o'r egwyddorion allweddol ar gyfer datganoli pwerau, a ddefnyddir gan gyrff annibynnol sydd wedi argymell datganoli'r doll teithwyr awyr, seilwaith rheilffyrdd, plismona a chyfiawnder i Gymru, yw sybsidiaredd. Cefnogwn yn gryf ddatganoli pwerau pellach yn y meysydd hynny, a bod pwerau'r sefydliadau datganoledig yn seiliedig ar gyfres gydlynol o gyfrifoldebau a ddyrennir yn unol ag egwyddor sybsidiaredd. Mae'r hyn y mae Prif Weinidog Cymru wedi'i alw'n fodel datganoli 'gras a ffafr' wedi methu'n ddramatig yn achos Brexit, lle mae Llywodraeth y DU dro ar ôl tro wedi methu cyflawni ei hymrwymiadau i weithio gyda'r Llywodraethau a'r sefydliadau datganoledig i gytuno ar dull negodi, ac mae'r ffaith nad yw'r Llywodraeth bresennol yn gweld unrhyw reswm—fel y dywedodd Gweinidog wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ddydd Llun—i rannu papurau a rannwyd gyda negodwyr yr UE gyda ni, nid ymlaen llaw yn unig, ond o gwbl, yn ddadlennol ac yn frawychus iawn. A Brexit, wrth gwrs, sy'n fwyaf amlwg yn bygwth dyfodol yr undeb, gyda Brexit 'heb gytundeb' yn bwrw ati i chwalu cyfansoddiad y DU, gan ei gwneud hi'n debygol y bydd yr Alban yn pleidleisio pan fydd yn cael caniatâd i wneud hynny dros annibyniaeth, ac yn hwb hefyd i'r achos dros yr hyn a fyddai bron yn sicr yn bleidlais ymrannol ar y ffin yn Iwerddon.
Felly, i orffen, gadewch i mi droi at Brexit. Rydym yn sicr yn nodi bod Cymru, fel y DU gyfan, wedi pleidleisio dros adael yn 2016, ac fel yr eglurwyd gennym yma lawer gwaith, fel Llywodraeth Cymru, fe wnaethom geisio anrhydeddu'r canlyniad hwnnw. Ond mae'n bryd i'r rhai a ymgyrchodd dros adael ddechrau anrhydeddu'r addewidion a wnaethant. [Torri ar draws.] Mae llawer o'r honiadau a wnaed gan yr ymgyrch dros adael yn deilchion, a dyna pam y mae'r Aelod yn gweiddi arnaf o'i sedd. 'Y cytundeb masnach rydd hawsaf erioed', oedd yr hyn a ddywedwyd. Gweithgynhyrchwyr ceir yr Almaen yn ymbil ar yr UE i aberthu eu gwerthoedd gwleidyddol, cael ein cacen a'i bwyta, mwy o arian i'r GIG, diwedd sydyn ar fewnfudo—ble mae'r honiadau hynny yn awr wrth inni wynebu'r posibilrwydd o Brexit 'heb gytundeb' sy'n bygwth niwed dwfn a pharhaol i'n gwlad a'n pobl? Yfory, byddwn yn cyhoeddi achos llawn yn seiliedig ar dystiolaeth dros ein penderfyniad i alw, ar ôl tair blynedd, tair blynedd a wastraffwyd o negodiadau trychinebus anhrefnus a chyda swyddi a buddsoddiad yn llifo o'n heconomi, am ail refferendwm ac yn addunedu i ymgyrchu dros aros yn yr UE. Mae'r achos gwrthrychol yn ddiymwad, ac mae ein gwelliannau, yn wahanol i'r cynnig gwreiddiol, yn rhoi'r pwyslais ar ddiwygio, democratiaeth a lles pobl Cymru, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r egwyddorion hynny wrth ddiwygio'r cynnig.
Galwaf ar Caroline Jones i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Cyn i mi ddod at y cyfraniadau unigol, hoffwn gyflwyno'r farn fod undeb Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn un o'r undebau gorau a mwyaf hirhoedlog mewn hanes, ac ers ymhell dros 300 o flynyddoedd mae'r undeb hwn wedi parhau. Ac er gwaethaf galwadau am annibyniaeth—ac i ddechrau, pan gafodd datganoli ei roi i Gymru, ni wnaeth Llywodraeth Blair ymdrin â'r setliad datganoli yn dda iawn, a chymerodd dros ddegawd i'w ddatrys, ond mae'r undeb yn parhau o hyd. Ac ychydig dros bum mlynedd yn ôl, pleidleisiodd yr Alban gyda mwyafrif llethol dros barhau'n rhan o'r undeb, ac mae'r arolygon barn diweddaraf yn dangos bod y mwyafrif helaeth o bleidleiswyr yr Alban yn dymuno aros yn rhan o'r DU. Mae Cymru hefyd yn dal i wrthwynebu gadael y Deyrnas Unedig. Ac mae'r cynnig sydd ger eich bron heddiw yn tanlinellu'r egwyddor ein bod ni'n gryfach gyda'n gilydd, a bod pob rhan o'r undeb yn bwysig fel cyfanrwydd. Mae'r buddsoddiad yng Nghymru o fudd i'r DU gyfan, felly ni allwn droi cefn ar ein hymwneud â Llywodraeth y DU. Ac nid yw datganoli'n ddigwyddiad a wneir unwaith a'i anghofio wedyn. Felly, mae'n rhaid i ni sicrhau hefyd fod unrhyw setliad ar ôl Brexit yn deg ac yn fanteisiol i bob rhan o'r DU. Ond yn amlwg, rwy'n pryderu am Gymru; rwy'n rhan o Senedd Cymru ac rwyf am gynrychioli pobl Cymru mor llawn ag y gallaf. [Torri ar draws.] Byddwn yn—. O, dyma fe wrthi eto ynglŷn ag etholiad. A ydych chi eisiau—? Fe ddywedaf wrthych chi beth, fe gaf fi a chi drafodaeth y tu allan, iawn, os nad oes ots gennych chi.
Na, na; cynhelir y trafodaethau yma, ac wedi'u cofnodi. Ewch ymlaen, Caroline Jones.
A hoffai sefyll i wneud ymyriad, Lywydd, os gwelwch yn dda?
Nid wyf yn credu. Ewch ymlaen.
O'r gorau. Fe fyddwn—[Torri ar draws.] Felly, fe fyddwn yn pleidleisio yn erbyn holl welliannau Llywodraeth Cymru. Rydym ni, fel y mwyafrif o'r cyhoedd yng Cymru, yn credu ein bod yn well ein byd y tu allan i'r UE ac rydym yn credu'n gryf fod Llywodraeth Cymru, drwy geisio anwybyddu canlyniadau refferendwm 2016, yn cefnu ar ddemocratiaeth. Byddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig.
Ond fel y dywedais, hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl, ac mae Mark wedi siarad yn gryf dros fod yn—[Torri ar draws.] Yn sicr, David.
Diolch i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Rydych newydd ddweud y byddwch yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig, sef gwelliant i bwynt 5, sy'n sôn am y gronfa ffyniant gyffredin a sut y bwriadwch ei defnyddio i ariannu prosiectau seilwaith. A ydych yn deall mewn gwirionedd beth sy'n gwneud honno'n gronfa ffyniant gyffredin a pham y mae yno? Cronfa Gymdeithasol Ewrop, sef Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ydyw—yr arian y mae gennym hawl i'w gael ar gyfer prosiectau eraill. Nid yw'n ymwneud â'r seilwaith yr ydych am ei gyllido; mae'n ymwneud â phrosiectau ac anghenion cymdeithasol ein cymunedau.
Ni phenderfynwyd arno eto, David.
Nid ydych yn gwybod beth y mae'n ei olygu hyd yn oed.
Wrth gwrs fy mod. Ni phenderfynwyd arno eto. Felly—
O, felly nid ydych am sicrhau bod yr arian hwnnw'n dod i ni.
Felly, cawsom Mark—. Daeth y cyfraniad cyntaf gan Mark Reckless wrth gwrs, a thynnodd sylw at y ffaith y byddem yn hoffi i reilffyrdd gael eu datganoli i Gymru. Mae arnom eisiau mwy o ddatganoli. A siaradodd am bwysigrwydd seilwaith a thynnodd sylw at bwysigrwydd cysylltedd, fel y gwnaeth David Rowlands.
Mae gennyf ddiddordeb yng nghyfraniad Rhun, oherwydd fe soniodd yntau hefyd am seilwaith a sut y mae'n rhaid ei wella. Tynnodd sylw at fater trydaneiddio, y gŵyr pawb ohonom ei fod yn bwysig iawn i wahanol rannau o Gymru. Dywedodd hefyd nad oedd unrhyw gysylltiad rheilffordd ar arfordir y gorllewin.
Tynnodd Darren sylw hefyd at y ffaith ei fod o blaid datganoli a gweithio gyda'n gilydd—pob plaid, grwpiau trawsbleidiol yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod datganoli'n gweithio.
Oherwydd—. Roedd cyfraniad Neil Hamilton yn amlwg yn syndod oherwydd pan oeddech yn gweithio yn gyntaf, roeddwn yn meddwl eich bod o blaid datganoli, felly mae wedi bod yn dipyn o syndod eich bod bellach wedi penderfynu eich bod am gael refferendwm ar y Cynulliad. Yn amlwg, nid wyf yn rhannu eich barn.
Roeddech yn ei rhannu pan oeddech yn ein plaid ni.
Na, ni wnes hynny erioed. Rwyf bob amser—. Na, na, na. Roeddwn bob amser am gael datganoli, ac roeddwn bob amser o blaid—. Roeddwn bob amser o'i blaid. Felly, dyna ni. Felly, mae'n—[Torri ar draws.] Felly, mae'n anghywir ynglŷn â hynny, ond nid oedd byth yn adnabod y bobl yr oedd i fod yn eu harwain beth bynnag. Felly, fe wnawn ni adael hynny—[Torri ar draws.] Felly, fe wnawn ni adael hynny yn y fan honno.
Felly, hoffwn—[Torri ar draws.] Felly, hoffwn ddweud diolch wrth bawb am eu cyfraniadau. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn ddadl dda. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.