– Senedd Cymru am 5:01 pm ar 15 Hydref 2019.
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: y wybodaeth ddiweddaraf am gynllunio'r GIG. A galwaf eto ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd sy'n cael ei wneud i gryfhau cynllunio integredig ar draws GIG Cymru. Rydym i gyd yn ymwybodol o'r heriau sy'n wynebu ein GIG nawr ac yn y dyfodol. Rydym yn parhau i weld galwadau a phwysau cynyddol ar wasanaethau sy'n cael eu rheoli o ddydd i ddydd gan ein staff rheng flaen ymroddedig. Mae hyn, wrth gwrs, yng nghyd-destun ansicrwydd mawr mewn cysylltiad â Brexit, 10 mlynedd o gyni, a'r angen i ni sicrhau bod ansawdd, tegwch a ffyniant yn parhau i ysgogi pa bynnag gwell ganlyniadau a fydd yn deillio o hynny i'r boblogaeth.
Credaf yn gryf fod GIG Cymru sy'n gydweithredol, sy'n cynllunio mewn modd integredig gyda'i bartneriaid, yn enwedig ar lefel byrddau partneriaeth ranbarthol a gwasanaethau cyhoeddus, mewn sefyllfa dda i ymateb i'r heriau sydd o'n blaenau. Mae Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014 bellach yn bum mlwydd oed. Ers ei gweithredu, rydym ni wedi gweld esblygiad y system gynllunio yma yng Nghymru. Heddiw, mae'r system honno'n fwy aeddfed a chadarn. Dangoswyd hyn gan nifer y cynlluniau sefydliadol y gellais eu cymeradwyo eleni, a gynyddodd i saith yn y cylch cynllunio diwethaf. Roedd hyn yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a gafodd gymeradwyaeth cynllun am y tro cyntaf mewn tair blynedd, ac yna cafodd y sefydliad ei isgyfeirio o ymyrraeth wedi'i thargedu yn dilyn gwelliannau parhaus mewn perfformiad a chyllid.
Wrth edrych ymlaen at y cylch nesaf, rwy'n edrych ymlaen at weld cynlluniau tymor canolig integredig ar lefel clwstwr yn llywio cynlluniau tymor canolig integredig sefydliadol cynhwysfawr. Bydd hyn yn cryfhau ac yn gwella dealltwriaeth ar y cyd o iechyd y boblogaeth a'r ddarpariaeth gwasanaeth angenrheidiol hyd yn oed ymhellach. Mae'r cynlluniau hynny—dylwn i ddweud cynlluniau tymor canolig integredig—yn ganolog i'n dull o ddarparu gwasanaethau mewn system iechyd a gofal wedi'i chynllunio. Cynlluniau treigl tair blynedd yw'r rhain sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau gynllunio a darparu gwasanaethau ar gyfer eu poblogaethau sydd o ansawdd uchel, yn gynaliadwy, yn gytbwys yn ariannol ac y gellir eu cyflawni. Mae'r system yn gymhleth a dylem gydnabod y cynnydd a wnaed o ran cynllunio mewn modd integredig ledled Cymru.
Rydym ni wedi gwneud camau breision ymlaen, ond rydym ni'n dal i weld amrywiadau o ran aeddfedrwydd y cynlluniau. Yn arbennig, rydym ni wedi gweld bod y sefydliadau hynny sydd â chynlluniau a gymeradwywyd yn gallu ymateb yn well. Eleni, gwelsom fwy o bwyslais mewn cynlluniau ar nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys darparu gofal yn agosach at y cartref a gweithredu'r model gofal sylfaenol ar gyfer Cymru, cydweithredu a meithrin perthynas â byrddau partneriaeth ranbarthol sy'n sbarduno integreiddio a phrosiectau trawsnewidiol, a sefydliadau yn dangos eu hymrwymiad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Rwyf wedi fy nghalonogi'n arbennig gan yr ymrwymiad cynllunio integredig gan sefydliadau cefnogi yng Nghymru, gan gynnwys EASC, WHSSC, partneriaeth cydwasanaethau y GIG ac NWIS—dylwn i ddweud o ran yr holl fyrfoddau gwahanol yn y maes iechyd, y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Nid oes dyletswydd statudol arnyn nhw i ddatblygu cynllun tymor canolig integredig, ond er hynny maen nhw wedi cofleidio gofynion ac ysbryd y Ddeddf yn llwyr. Maen nhw'n chwarae rhan allweddol o ran galluogi a chydgysylltu'r system. Nid oes dyletswydd ar hyn o bryd ar Addysg a Gwella Iechyd Cymru, fel awdurdod iechyd strategol newydd, ond dewisodd ddangos ei ymrwymiad i gynllunio drwy gyflwyno cynllun integredig yn ei flwyddyn gyntaf. Felly, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru'n chwarae rhan allweddol wrth weithio gyda byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau mewn partneriaeth ac ar y cyd i fynd i'r afael â heriau allweddol o ran y gweithlu a hyfforddiant. Mae hyn yn allweddol er mwyn sicrhau y gall ein gwasanaethau ddarparu gofal a thriniaeth effeithiol pan fo angen.
Edrychaf ymlaen, nawr, at y cylch cynllunio nesaf, ar gyfer y cyfnod 2020-23, pan ddisgwyliaf weld cynnydd pellach i wella ein hymagwedd at gynllunio integredig. I gefnogi'r nod hwn, rwyf wedi dwyn cyhoeddi'r cynllun tymor canolig integredig cenedlaethol ymlaen bedwar mis. Roedd datblygu cynllun tymor canolig integredig cenedlaethol yn un o 40 o ymrwymiadau a wneuthum wrth gyhoeddi 'Cymru Iachach'. Bydd y cynllun tymor canolig integredig cenedlaethol yn helpu i wneud cyfraniad pellach at gryfhau ein system gynllunio integredig. Bwriad y ddogfen gychwynnol hon yw edrych yn ôl ac ystyried canlyniad ac effaith y cylch cynllunio diwethaf. Rwyf hefyd yn glir mai fy mwriad ar gyfer y ddogfen oedd gosod y cywair a'r cyfeiriad ar gyfer y cylch nesaf. Mae cyhoeddi'r cynllun tymor canolig integredig cenedlaethol yn gynnar wedi golygu ein bod yn dechrau'r cylch cynllunio nesaf gyda mwy o eglurder a chyfeiriad, sydd wedi cael ei groesawu gan y gwasanaeth.
Canfu'r cynllun tymor canolig integredig cenedlaethol dystiolaeth bod sefydliadau yn gwneud cynnydd da mewn meysydd fel gofal sylfaenol a chymunedol, iechyd meddwl, arloesi, cydweithio, ac ymchwil a datblygu. Er bod gwelliannau wedi'u gwneud yn y meysydd penodol hyn, mae angen o hyd sicrhau gwell gafael ar drefniadau comisiynu, canolbwyntio ehangach ar atal ac ymagwedd gryfach at gynllunio rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau iechyd. Drwy gyhoeddi'r cynllun tymor canolig integredig cenedlaethol, rwyf wedi ailddatgan cyd-destun strategol clir ar gyfer y cylch cynllunio nesaf. Mae 'Ffyniant i Bawb', a gefnogir gan 'Cymru Iachach' a'n cyfres unigryw o ddeddfwriaeth flaengar, yn creu'r fframwaith ar gyfer y system gynllunio integredig yng Nghymru. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r cyd-destun hwn i gofleidio newid a chreu cadernid a chynaliadwyedd i gleifion ledled Cymru, lle bynnag maen nhw'n byw.
Mae ymrwymiad y Llywodraeth i gynaliadwyedd a dad-garboneiddio yn faes y mae sefydliadau'r GIG yn ei gofleidio, a gellir gweld effaith newid eisoes. Mae cynlluniau arloesol yn cael eu rhoi ar waith sy'n mynd i'r afael â heriau newid yn yr hinsawdd a hefyd yn dod â manteision iechyd a lles. Mae'r ffaith fod Bae Abertawe yn canolbwyntio ar ddad-garboneiddio a bioamrywiaeth yn golygu mai hwn yw'r bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i ddatblygu prosiect twf gwyrdd. Rwy'n awyddus i gynaliadwyedd fod yn faes y byddwn yn canolbwyntio arno yn y cylch nesaf o gynlluniau i wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau cyfyngedig. Byddwn yn mynd i'r afael â hyn fel mater o frys ac yn dangos arweiniad yn y maes hwn gan y gwasanaeth iechyd.
Wrth gwrs, mae'n ofynnol i gynlluniau fod yn gytbwys o ran eu sefyllfa ariannol. Rwy'n falch o nodi'r lleihad parhaus yn y diffygion ariannol ar draws GIG Cymru. A ninnau'n dal i orfod gwneud mwy gyda llai, rhaid i'r duedd gadarnhaol honno barhau. Disgwyliaf weld gostyngiadau pellach yn y diffyg cyffredinol yn y blynyddoedd i ddod.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda phob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth, yn enwedig y rhai sydd wedi eu huwchgyfeirio, i ddarparu'r cyngor, yr her a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw i weithio tuag at gyflawni cynlluniau cymeradwy. Mae ansawdd yn parhau i fod yn ganolog i'r system iechyd a gofal yng Nghymru. Rwyf yn benderfynol ein bod yn dal i godi'r safon i bawb er mwyn sicrhau tegwch, lleihau anghydraddoldebau iechyd a gwireddu'r weledigaeth a nodir yn 'Cymru Iachach'.
Yn olaf, hoffwn ailddatgan fy ymrwymiad i agenda gynllunio'r GIG yng Nghymru. Rwyf wedi buddsoddi mewn datblygu ac atgyfnerthu sgiliau cynllunio drwy'r academi gynllunio newydd. Mae'r diploma newydd mewn cynllunio gofal iechyd yn dechrau'r mis hwn ac mae'r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd i gymheiriaid ddysgu o'i gilydd.
Fy mhum blaenoriaeth ar gyfer ein system gofal iechyd yw: atal, lleihau anghydraddoldebau iechyd, darparu'r model gofal sylfaenol i Gymru, gofal amserol, ac iechyd meddwl. Bydd gwireddu'r weledigaeth a amlinellir yn 'Cymru Iachach' yn cyflawni'r blaenoriaethau hynny ar gyfer pobl Cymru. Gan edrych i'r dyfodol, rwyf eisiau gweld y boblogaeth wrth wraidd ein systemau cynllunio integredig. Mae rhoi pobl wrth wraidd system gynllunio integredig yn elfen allweddol hanfodol i'r cynnydd rydym ni i gyd eisiau ei weld. Yn union fel y mae'r Llywodraeth hon eisiau gweld pobl yn elwa ar Gymru werddach, fwy cyfartal a mwy ffyniannus, rwyf eisiau'r un peth i'n GIG ac i'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu. Diolch.
Diolch, Gweinidog, am gopi o'ch datganiad o flaen llaw. Roedd yn ddiddorol iawn clywed eich cyfeiriadau at lwyddiant y system cynllunio tymor canolig integredig. Rwy'n gwybod, yn sicr o ran nifer o sefydliadau'r GIG, y buont yn torri'r wisg yn ôl y brethyn a'u bod wedi llwyddo i ddatblygu cynlluniau tymor canolig tair blynedd sydd wedi bod ar y trywydd iawn ar y cyfan. Ond, wrth gwrs, ni ellir dweud hynny am nifer o fyrddau iechyd nad ydyn nhw eto, gwaetha'r modd, mewn cylch cynllunio tair blynedd, ac, wrth gwrs, mae'r rheini'n cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ac ni chytunwyd ar unrhyw gynlluniau tymor canolig integredig ar eu cyfer mewn gwirionedd.
Mae hynny'n peri pryder imi, oherwydd, yn amlwg, mae nifer o flynyddoedd wedi mynd heibio ers yr adeg y cyflwynwyd y ddeddfwriaeth sy'n rhoi dyletswydd statudol arnyn nhw i sefydlu'r cynlluniau hynny, ac, wrth gwrs, yn sicr yn achos dau o'r byrddau iechyd hynny, maen nhw'n gwario llawer mwy na'u hincwm ac wedi gwneud hynny ers sawl blwyddyn. Credaf fod angen edrych ar allu rhai o'r byrddau iechyd hynny i ateb yr heriau ariannol y maen nhw'n eu hwynebu mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod eich bod wedi rhoi rhywfaint o adnoddau ychwanegol i Hywel Dda nifer o flynyddoedd yn ôl, ac roedd hynny i'w groesawu'n fawr, rwy'n credu, oherwydd y diffyg strwythurol a etifeddodd y sefydliad hwnnw pan gafodd ei sefydlu. Rwy'n credu y gellir dweud yr un peth, mewn gwirionedd, am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac efallai y gallech chi ddweud wrthym ni tybed a ydych chi'n ystyried gwneud yr un peth o ran y diffyg strwythurol sydd yn fy marn i wrth wraidd sefyllfa gyllid bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i weld a oes rhywbeth y gellir ei wneud o du Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo'r bwrdd iechyd hwnnw fel na all droi ei gefn yn llwyr ar wneud dyfarniadau ariannol priodol, ond y gall ganolbwyntio'n fwy efallai ar rai o'r materion perfformiad sydd hefyd yn rhoi'r bwrdd iechyd penodol hwnnw dan warchae.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith nad oes dyletswydd statudol ar rai o sefydliadau'r GIG eraill hynny sydd wedi bod yn datblygu eu cynlluniau eu hunain, gan gynnwys Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys. Rwy'n credu ei bod hi'n ganmoladwy iawn eu bod yn gweithio yn yr un fframwaith cynllunio â sefydliadau eraill y GIG, ond efallai y gallech chi ddweud wrthym ni a fydd gennych chi gynlluniau rywbryd yn y dyfodol i roi cyfrifoldeb statudol ar sefydliadau eraill y GIG hynny nad ydynt yn fyrddau nac yn ymddiriedolaethau, oherwydd rwy'n credu y gallai hi fod yn ddefnyddiol, mewn gwirionedd, cael y dull hwn o weithredu ar draws y GIG, fel bod pawb yn gweithio ar y cyd.
Nawr, rwy'n gwybod, yn amlwg, bod llawer o heriau o'n blaenau o hyd. Yn amlwg, rwyf wedi edrych ar y blaenoriaethau yr ydych chi wedi'u hamlinellu yn eich fframwaith cynllunio, wrth symud ymlaen. Fe wnaethoch chi sôn am weithlu'n gynharach, ac, wrth gwrs, ceir heriau enfawr o ran sicrhau bod gennym ni weithlu sy'n gallu bodloni'r gofynion a osodir arno ledled y wlad. Tybed a allech chi roi ychydig mwy o fanylion i ni am y gwaith y mae Gwella Addysg Iechyd Cymru yn ei wneud mewn gwirionedd, a sut mae hynny'n cyd-fynd â gwaith byrddau iechyd unigol i wneud yn siŵr eu bod yn cydweithio i fynd i'r afael â'r materion hyn yn ehangach.
Mae cyfalaf ac ystadau, wrth gwrs, yn bwysig iawn o ran gallu sicrhau gwelliannau ym maes gofal iechyd, ac un o'r pryderon a godir yn rheolaidd gyda mi pan fyddaf yn ymweld â gwahanol fyrddau iechyd ar draws y wlad yw'r oedi wrth wneud penderfyniadau ynghylch ystadau. Nawr, rwy'n gwybod bod gennym ni swm cyfyngedig y gallwn ei fuddsoddi mewn seilwaith cyfalaf, ond, yn amlwg, os yw llawer o'r gwelliannau mewn gofal iechyd yn gwbl gysylltiedig â buddsoddi mewn ystadau, yna rwy'n credu nad yw hi ond yn addas a phriodol bod pobl yn gallu mynd rhagddyn nhw a bwrw iddi â buddsoddi mewn adeiladau newydd, neu estyniadau, neu adnewyddu adeiladau er mwyn gwneud i'r pethau hynny ddigwydd. Efallai y gallech chi ddweud wrthym ni pa waith y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud er mwyn gwella'i phenderfyniadau ynghylch cyfalaf, yn y dyfodol, er mwyn inni allu gwneud penderfyniadau'n gyflymach.
Hefyd, fe wnaethoch chi gyfeirio yn eich dogfen at ofal amserol, sydd, wrth gwrs, yn bwysig iawn i gleifion ledled Cymru, fel y mae cydraddoldeb o ran gallu cael gofal ym mhob rhan o Gymru. Nawr, un peth rydym ni'n ei wybod yw y gall perfformiad amrywio'n sylweddol rhwng un bwrdd iechyd a'r llall, a hoffwn wybod i ba raddau yn y cynlluniau tair blynedd hynny, ydych chi'n disgwyl gweld rhywfaint o unioni, os mynnwch chi, lefel y perfformiad gorau ledled Cymru, a sut ydych chi'n disgwyl i'r cynlluniau hynny ddangos cynnydd mewn gwirionedd tuag at unioni o'r fath, fel nad ydym ni'n colli momentwm ar gyfer gwella yn y dyfodol.
Yn olaf, os caf i, un cwestiwn olaf, ac mae hynny'n ymwneud â'r diploma mewn cynllunio gofal iechyd. Rwy'n falch iawn o weld hynny ar gyfer y dyfodol. Yn amlwg, mae'n bwysig bod y diploma hwnnw a'r hyfforddiant yn y diploma hwnnw ar gael i bobl ym mhob rhan o Gymru. A allwch chi ddweud wrthym mi a fydd hynny'n bosib, i wneud yn siŵr y gall bobl wneud y pethau hyn ar y cyd â'u gwaith bob dydd, gan y gall hynny fod yn eithaf anodd yn aml iawn? Pa adnoddau ydych chi'n eu darparu i annog pobl i fanteisio ar y cyfle hwnnw i gael eu hyfforddi yn y modd hwnnw? Diolch.
Diolch am yr amrywiaeth o gwestiynau. Fe wnaf i ymdrin â'ch pwynt olaf yn gyntaf. Gwneuthum y penderfyniad i fuddsoddi £750,000 dros bum mlynedd i greu'r diploma ôl-raddedig newydd, a bydd yn cefnogi 25 o fyfyrwyr y flwyddyn am bum mlynedd. Dylai alluogi pobl i gwblhau'r modiwlau hynny dros gyfnod o 18 mis, felly dylai olygu bod cyfle iddyn nhw wneud eu gwaith yn ogystal â dilyn y cymhwyster newydd. Yna, dylem ni gael cenhedlaeth newydd o gynllunwyr yn y gwasanaeth er mwyn i bobl allu datblygu eu sgiliau ar wahanol lefelau yn ein sefydliadau.
O ran eich pwynt am allu cael gofal yn amserol a chydraddoldeb o ran gallu cael y gofal hwnnw, wrth gwrs ein bod yn ystyried yr agweddau perfformiad hynny yn ogystal â chyllid pan fyddwn yn ystyried a oes gan fwrdd gynllun cymeradwy, pa un a fydd yn parhau i fod â chynllun cymeradwy, a beth y mae hynny'n ei olygu o ran statws uwchgyfeirio. Felly mae perfformiad y sefydliadau hynny yn bendant yn gwneud gwahaniaeth. Byddwch wedi gweld hynny o ran y dewisiadau uwchgyfeirio yr ydym ni wedi'u gwneud ynghylch nifer o sefydliadau, oherwydd mewn rhai ohonyn nhw, heb amheuaeth, bu'r materion perfformiad yn ffactor sylweddol heb amheuaeth yn symudiad y sefydliad i gam gwahanol o uwchgyfeirio, i fyny'r ysgol, ond hefyd, yn achos Caerdydd a'r Fro, roedd yn ffactor arwyddocaol yn eu hisgyfeirio i statws normal. Roedd yr un peth yn wir am daith gwasanaeth ambiwlans Cymru. Wrth gwrs, fe wnaethoch chi ddechrau drwy sôn am y cynnydd a fu a'r cynnydd na fu.Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn stori dda yn hyn o beth, oherwydd roedden nhw mewn lle anodd iawn, perfformiad anodd iawn; maen nhw mewn sefyllfa wahanol nawr, mae eu perfformiad wedi gwella ac mae'n cael ei gynnal, ac mae ganddyn nhw gynllun cymeradwy. Bum mlynedd yn ôl, pan gefais gyfle i ymuno â'r adran hon, ni fyddech wedi dychmygu y bydden nhw'n un o'n sefydliadau sy'n perfformio orau, nid yn unig yng Nghymru, ond o fewn y teulu o ymddiriedolaethau ambiwlans ledled y DU.
Erbyn hyn mae gennym ni saith sefydliad gyda chynlluniau cymeradwy o gymharu â phedwar pan gyflwynwyd Deddf Cyllid y GIG (Cymru). Fe wnaethoch chi sôn hefyd am fformiwla ariannu'r GIG, a pha un a oedd hon yn broblem benodol yng nghyswllt Betsi Cadwaladr. Yn ystod y misoedd nesaf, byddaf yn gwneud rhai dewisiadau ynglŷn â fformiwla ariannu'r GIG yn y dyfodol. Byddwch yn ymwybodol—wel, efallai na fyddwch yn ymwybodol, oherwydd nad ydych chi ar y pwyllgor iechyd mwyach, ond rwyf wedi dweud wrth y pwyllgor iechyd ein bod yn adolygu'r fformiwla, hynny yw, yn edrych ar y gofynion ariannu presennol a'r sail anghenion ar gyfer gwneud hynny, ac felly byddaf yn gallu gwneud cyhoeddiad sicr ynglŷn â beth y mae hynny'n ei olygu i bob sefydliad unigol a sut y caiff y diwygiad hwnnw ei weithredu.
Rwy'n derbyn y pwynt am awdurdodau iechyd arbennig a chynlluniau tair blynedd, ond mae rhai o'r cyrff y sonnir amdanyn nhw, wrth gwrs, yn gasgliad o sefydliadau sy'n gweithio gyda'i gilydd. Felly, mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn gasgliad o fyrddau iechyd sy'n gweithredu gyda'i gilydd ac mae'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys mewn gwirionedd yn gasgliad o fyrddau iechyd sy'n gweithio gyda'i gilydd i gomisiynu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gyflawni ei swyddogaeth. Felly dydw i ddim yn siŵr mai cyflwyno dyletswydd statudol ar yr holl gyrff hynny yw'r peth priodol i'w wneud, ond ystyriaf y pwynt yr ydych chi'n sôn amdano o ddifrif.
O ran Addysg a Gwella Iechyd Cymru, eu trosolwg strategol yw'r gwaith y maen nhw'n ei wneud. Rwyf wedi sôn am hyn o'r blaen mewn datganiadau, a soniaf am hyn eto pan fyddwn yn siarad am strategaeth y gweithlu, ac wrth gwrs maen nhw'n gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i wneud hynny.
Ynghylch y pwynt olaf y mae angen i mi ymdrin ag ef rwy'n credu, sef ynglŷn â chyfalaf a'ch pwynt ynghylch a oes angen gwella prosesau Llywodraeth Cymru: mewn gwirionedd, mae angen inni edrych ar y system gyfan, oherwydd nid yw'n deg dweud bod oedi oherwydd nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud dewisiadau. Yn aml mae hynny'n broses o fynd a dod rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion y bwrdd iechyd neu'r ymddiriedolaeth gyda chynlluniau y maen nhw wedi'u cyflwyno, ac mae Aelodau yn yr ystafell hon a fydd â'u rhwystredigaethau eu hunain ynghylch y broses gynllunio honno, ac mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydym ni'n ceisio ymdrin ag ef, er mwyn gwella'r gallu i gyflwyno achosion busnes a chynllunio'n briodol ar gyfer y gwasanaeth. Felly, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod yna broblem y mae angen i ni ei datrys yn y system gyfan ac nid dim ond mewn un rhan ohoni.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad ar gynllunio'r GIG? Yn amlwg, mae cynllunio'r GIG—unrhyw gynllunio yn y GIG—yn faes enfawr sy'n ymdrin â materion ar lefel ficro ac yn amlwg, ar lefel facro, y dyfodol, meddwl heb orwelion. A gaf i ddechrau yn gyntaf—? Mae'r pwynt cyntaf sydd gennyf yn ymwneud â'r academi gynllunio newydd, sy'n gysyniad rwy'n credu, i'w groesawu'n fawr o ran gwella ansawdd y cynllunio gweinyddol sy'n digwydd. Hoffwn ofyn am ychydig mwy o fanylion. Byddai rhai ohonom yn hoffi meddwl y gallwn annog a denu mwy o nyrsys a meddygon sydd â chymwysterau clinigol i fod yn weinyddwyr yn gyffredinol, ac yn enwedig pan ddaw'n fater o gynllunio gwasanaethau, oherwydd eu bod nhw'n tueddu i fod â syniad ynghylch yr hyn sydd angen ei wneud. Ond hefyd dydyn nhw ddim yn weinyddwyr, felly mae angen iddyn nhw fod yn gymwysedig hefyd. Ond o ran sut ydym ni'n mynd i ddenu mwy o weinyddwyr sydd â chymwysterau clinigol ac efallai cysyniad newydd o'u cael i gyfuno eu cyfrifoldebau clinigol â'u cyfrifoldebau gweinyddol hefyd, fel nad ydynt yn colli golwg yn llwyr ar eu problemau staffio ac adnoddau.
Mae croeso mawr i'r hyn roeddech yn ei ddweud eto am y gallu i sicrhau gofal yn nes at y cartref. Hyd yn oed gyda'r holl declynnau newydd sydd ar gael i ni, does dim byd tebyg i'r cysylltiad personol yng nghartref rhywun. Ond mae hwnnw'n gynllun gweithlu penodol yn y cymunedau. Felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y gwaith sy'n digwydd o ran gofal sylfaenol a chefnogi'r holl bethau arloesol yr ydym ni wedi bod yn eu dweud am gael gofal yng nghartrefi pobl, yn agos at gartrefi pobl, fel y gallant aros yn y gymuned am gyhyd ag y maen nhw'n dymuno ac o bosib am byth—byth yn gorfod camu drwy ddrysau ysbyty o gwbl?
Mae'r ail bwynt yn ymwneud ag amseroedd ymateb ambiwlansys. Fel rydych chi wedi dweud, dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r sefyllfa yn y gwasanaeth ambiwlans wedi newid, gyda'r holl gynllunio a chynllunio ar gyfer y gaeaf. Serch hynny, mae etholwyr yn dal i gysylltu â mi ynghylch oedi mawr, o ran ambiwlansys unigol yn cyrraedd achosion unigol, felly mae gwaith i'w wneud o hyd. Ond o ran cynllunio'r GIG ar gyfer y gaeaf, fe wnaethoch chi gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn ddiweddar ar gynllunio ar gyfer y gaeaf o ran y gwasanaeth ambiwlans, a chadarnhau cynlluniau o ran yr adolygiad oren i gyflwyno mesurau newydd 'o'r alwad i'r drws' ar gyfer ymateb ambiwlansys i achosion o strôc yn benodol—gan siarad yn rhinwedd fy swydd yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar strôc. Fel y gwyddoch chi, ymrwymodd yr adolygiad oren i fesur yr holl gyfnod gofal i gleifion, nad yw, yn amlwg, yn dod i ben wrth ddrws yr ysbyty. Nawr, rwy'n deall mai cam 1 yn unig o gyflwyno'r mesur newydd hwn yw'r mesur 'o'r alwad i'r drws', ac y bydd cam 2 yn cynnwys mesur yr amser y mae'n ei gymryd i gleifion gael triniaeth ar ôl cyrraedd yr ysbyty, oherwydd, yn amlwg, o ran strôc, mae hynny'n rheidrwydd sylfaenol. Nid yw danfon pobl at y drws yn unig yn ddigon da, mae angen i ni eu trin hefyd. Felly, a wnewch chi gadarnhau mai bwriad Llywodraeth Cymru yw gweithredu cam 1 a cham 2 y mesur newydd yn llawn er mwyn cyflawni'r ymrwymiad a geir yn yr adolygiad oren a'r agwedd ar gynllunio'r GIG sy'n ymwneud â chynllunio ar gyfer y gaeaf?
Gan aros gyda'r ambiwlansys, ond symud ymlaen at ein hambiwlansys awyr brys sy'n arwain yn fyd-eang—ein hambiwlansys awyr sy'n hedfan yn gyson. Mae hi'n briodol iawn ein bod yn dathlu—er y byddai hi, weithiau, yn fy marn i, yn briodol inni ddathlu ychydig yn fwy—gyflawniadau rhyfeddol ein hambiwlans awyr cymharol newydd, ein hofrenyddion sydd fel adrannau damweiniau ac achosion brys yn yr awyr, mewn gwirionedd. Maen nhw'n anhygoel, yn gwbl ryfeddol ac arloesol ac maen nhw'n achub bywydau nawr yn y fan a'r lle adeg damwain fawr pan nad oedd bywydau yn cael eu hachub o'r blaen, ac roedd hynny cyn lleied â phum mlynedd yn ôl. Mae ein gwasanaeth ambiwlans awyr brys wedi trawsnewid y sefyllfa'n llwyr, yn enwedig gofal iechyd gwledig, ac mewn gofal iechyd brys, nid mewn mannau anghysbell a gwledig yn unig, ond wrth gludo pobl i'r adran orau o fewn munudau. Gall hynny, o bosib, drawsnewid yn llwyr y ffordd yr ydym ni'n meddwl am gynllunio'r GIG ar lawr gwlad, mewn cysylltiad â'r berthynas â'r ddarpariaeth, dyweder, o ysbytai cyffredinol dosbarth, canolfannau trydyddol, yr hyn sydd ei angen ym mhobman, oherwydd yn aml iawn rydym yn anghofio am ein gwasanaeth ambiwlans awyr brys sy'n arwain yn fyd-eang. Mae hynny wedi'i ymgorffori weithiau yn y print mân o holl waith cynllunio'r GIG, ond rwy'n credu bod angen inni ei ddathlu gan fod hynny'n briodol a haeddiannol.
A chyda hynny, a gaf i groesawu ymrwymiad rhyfeddol staff y GIG a staff gofal cymdeithasol ar lawr gwlad i wneud yn siŵr bod cynlluniau'r GIG sydd gennym ar waith yn dwyn ffrwyth? Diolch.
Diolch am y pwyntiau hynny. Dechreuaf gyda'ch pwynt cyntaf am yr academi gynllunio. Mae'n cael ei datblygu ar y cyd ag Ysgol Fusnes Caerdydd ac rwy'n falch o ddweud bod y rhaglen ddysgu yn ceisio cyrraedd ystod ehangach o weithwyr proffesiynol yn y gwasanaeth iechyd gwladol.
Rwy'n credu ei bod hi'n deg nodi mai eleni yw'r flwyddyn gyntaf i ni gael clystyrau gofal sylfaenol i ddatblygu eu cynlluniau eu hunain, ac mae hynny'n gam sylweddol ymlaen mewn gwirionedd, sy'n dweud rhywbeth wrthych chi am aeddfedrwydd y clystyrau hynny, sef ei fod yn datblygu. Ond hefyd rydym ni'n disgwyl y bydd cynnwys y cynlluniau hynny'n amrywio. Bydd rhywfaint o hynny yn ymwneud â deall anghenion y boblogaeth leol; bydd rhywfaint o hynny'n ymwneud â'r gwahanol raddau o aeddfedrwydd a'r gallu i ragweld a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn mai dyma oedd y cam nesaf yn natblygiad clystyrau, ond yn yr un modd byddant yn sail iddyn nhw, ac maen nhw'n cael eu darparu nawr i helpu i lywio cynlluniau tymor canolig integredig ar lefel y byrddau iechyd hefyd, yn hytrach na cheisio eu gwneud ar adegau hollol wahanol. Byddai wedi bod yn wirion beth bynnag pe byddai gennych chi gynllun tymor canolig integredig clwstwr ar ôl i'r bwrdd iechyd gyhoeddi eisoes yr hyn y dywedodd y byddai'n ei wneud dros y tair blynedd nesaf. Felly, rydym yn ceisio sicrhau bod ein system mewn trefn ddilyniannol gywir er mwyn manteisio ar hynny a gweld y gwelliant y bydd ei angen arnom ni ac yr ydym ni eisiau ei wneud.
O ran eich pwynt am yr adolygiad oren, rwyf wedi ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y cynnydd a wnaed o ran yr adolygiad oren, a bydd hynny'n cynnwys y gwaith anorffenedig sy'n digwydd gyda rhanddeiliaid ynghylch mesurau sy'n ymwneud ag unedau strôc. Nid yw'n gyflawn, ond rwy'n fodlon sicrhau fy mod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd diweddariad priodol i'w roi. Felly, yn sicr, nid yw wedi ei anghofio nac wedi ei roi o'r neilltu.
Rwyf wrth fy modd eich bod wedi sôn am yr hyn a alwyd ar y dechrau, am gyfnod, yn wasanaeth meddygon awyr Cymru. Wrth gwrs, mae'n fwy na meddygon yn unig. Mae gennym ni amrywiaeth o wahanol weithwyr proffesiynol sy'n hedfan mewn hofrenyddion, ond hefyd rydym ni'n defnyddio rhai o'r cerbydau sy'n addas ar gyfer pob math o dir ar gyfer y gwasanaeth adalw meddygol brys. Ac mae wedi bod yn llwyddiant gwirioneddol. Mae wedi ein helpu i recriwtio a chadw staff yma yng Nghymru. Mae pobl wedi gwneud cam pendant i ddod yma i Gymru oherwydd y gwasanaeth hwnnw. Rwyf wedi cwrdd â nifer o'r bobl hynny na fydden nhw yma fel arall. Ac mae'n ddefnyddiol o safbwynt ymchwil a gwella beth bynnag o ran ein gallu i elwa ar ofal brys yn benodol. Ond rwy'n credu bod y pwynt a wnewch chi yn ymwneud â gallu cael gofal gwell ynghynt, oherwydd nid yw'n ymwneud â chael llawer o declynnau'n unig, mae'n ymwneud â chludo pobl i'r man lle ceir y gofal cywir, cael y gofal cywir i ddechrau ac yna eu cludo i ble mae'r gofal cywir, boed hynny'n ysbyty cyffredinol dosbarth neu'n ganolfan drydyddol, neu Treforys os oes ar rywun angen yr uned losgiadau, neu yn wir yn y dyfodol pan fydd angen cludo pobl i'r ganolfan trawma mawr sy'n cael ei datblygu yng Nghaerdydd. Felly, mae hynny'n sicr yn rhan o'r cynllunio sydd eisoes yn digwydd, ac rwyf wrth fy modd eich bod wedi crybwyll y stori o lwyddiant gwirioneddol y dylai GIG Cymru yn bendant ei dathlu.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Fe hoffwn i hefyd ddiolch i'r holl staff yn y GIG sy'n gweithio o dan amodau anodd i gyflawni eu dyletswyddau. Er mwyn sicrhau bod ein GIG yn goroesi'r heriau hirdymor y mae'n eu hwynebu, mae angen inni weithredu cynllunio tymor hir ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a bu'r cynllunio hyd yn hyn, mae'n ddrwg gennyf ddweud, yn dameidiog. Nid yw cynllunio priodol yn golygu gosod cynlluniau ariannol am flwyddyn neu ddwy yn unig, mae angen i ni graffu ar y gorwel yn fanwl i ganfod unrhyw ddatblygiadau a heriau yn y dyfodol. Mae angen inni ystyried y system gyfan wrth gynllunio'r gweithlu mewn modd sy'n rhagweld newidiadau demograffig yn y dyfodol, datblygiadau mewn meddyginiaethau a thechnoleg iechyd, ac sy'n darparu gweithlu sydd â'r sgiliau cywir i fynd i'r afael â'r holl heriau hyn.
Rwy'n croesawu'r cyfle i bobl astudio ar gyfer y diploma, oherwydd mae annog pobl sy'n cymryd rhan yn gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a bydd hyn, drwy fuddsoddi yn eu dyfodol, yn rhoi balchder iddyn nhw barhau a gobeithio, cael gyrfa hir gyda'r GIG.
Mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau nad yw atebion i fynd i'r afael â'r heriau hyn yn cymryd blynyddoedd i'w gweithredu. Er enghraifft, cynhaliwyd y gwasanaeth chwyldroadol 111 yn fy rhanbarth i, cafodd ei dreialu tua thair blynedd yn ôl bellach, ond ni chaiff ei gyflwyno ledled Cymru am ddwy flynedd arall. Rwy'n credu bod hyn yn eithaf rhwystredig gan ei fod yn drefniant llwyddiannus yma. Felly, pan fyddwn yn cynllunio gwelliannau i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ni ddylai gymryd chwe blynedd i'w gweithredu, pan fo cydnabyddiaeth eu bod eisoes yn arferion da.
Felly mae angen gwneud llawer o waith hefyd ar amseroedd ymateb ambiwlansys, gan fod llawer o bobl yn cysylltu â mi ynghylch yr amseroedd ymateb hyn a hefyd faint o amser y mae'n ei gymryd i glaf, ar ôl ei dderbyn i'r ysbyty, gael gwely ar ward yn y pen draw. Mae'n 10 i 14 awr o fod mewn ward ochr. Felly, Gweinidog, sut bydd eich academi gynllunio yn sicrhau rhagweld heriau'r dyfodol, a sut fyddwch chi'n sicrhau y bydd yr holl heriau hyn yn cael eu gwireddu hyd eithaf eu gallu?
Hefyd, pa ran fydd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru i'w chwarae o ran sicrhau bod gennym ni niferoedd digonol o bobl ifanc yn astudio ar gyfer gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol? Beth mwy gellir ei wneud i helpu byrddau iechyd hefyd sy'n tanberfformio ar hyn o bryd ac sy'n wynebu heriau ariannol? Sut gallwn ni gael y byrddau iechyd sydd ag arferion gorau i feithrin y rhai nad ydyn nhw'n cyflawni eu huchelgeisiau ar hyn o bryd? Pa mor dda y mae arferion gorau yn cael eu rhannu?
Ac yn olaf, Gweinidog, gyda'r holl elfennau amrywiol sy'n gysylltiedig â darparu'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, sut fyddwch chi'n sicrhau bod gennym ni system hyfforddi hyblyg, addasadwy sy'n cynllunio ar gyfer y dyfodol wrth wynebu, yn amlwg, heriau sylweddol y cyfnod hwn? Diolch.
Diolch am y cwestiynau yna. Yn sicr, o ran eich pwynt olaf ynghylch sut y byddwn yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, dyna ran o'r rheswm pam y gwnaethom ni greu Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae'n gorff strategol i helpu i ragweld anghenion y gweithlu ac i lunio'r cynllun gweithlu cenedlaethol hwnnw y cyfeiriais ato'n gynharach. A'r ffordd y maen nhw'n gweithio ar y cyd â Gofal Cymdeithasol Cymru—. Oherwydd bob tro y cawn ni her ynghylch pwysau ar wasanaethau yn y Siambr hon, siaradwn yn rheolaidd am y staff a'r staff sydd eu hangen arnom ni, ac mae cydnabyddiaeth gymysg o'r ffaith na allwn ni bob amser recriwtio staff, yn sicr o fewn y DU, i lenwi pob un o'r bylchau hynny. Mae'n ymwneud yn rhannol â chynllunio ar gyfer ein gweithlu yn y dyfodol, deall ble a sut y byddwn yn gallu recriwtio o fewn y DU, o fewn Ewrop a'r heriau yn sgil Brexit, a'r byd ehangach hefyd.
Mae hynny'n mynd law yn llaw â'n cynllunio i gynyddu ein lleoedd hyfforddi. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, rwyf wedi cymeradwyo, hyd yn oed mewn cyfnod anodd iawn, cynnydd gwirioneddol mewn hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a chlywsom yn gynharach heddiw bod mwy o leoedd hyfforddi meddygon teulu ac eraill hefyd. Ac mae hynny'n arwain at yr ail bwynt ynghylch yr heriau o ran lle mae byrddau iechyd yn gweithredu'n unigol ond lle rydym ni wedi deall bod angen i ni weithredu'n genedlaethol er mwyn cyflawni'r enillion mwyaf. Felly bu ein hymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw' yn enghraifft dda o gael dull gweithredu cenedlaethol y mae byrddau iechyd i gyd wedi'i ddefnyddio—nid dim ond y brandio cyffredin ac nid y negeseuon cyffredin yn unig, ond sut yr awn ati i wneud hynny, cael canolbwynt cenedlaethol ar gyfer amrywiaeth o'r meysydd hynny, a bu hynny'n llwyddiannus, yn enwedig o ran recriwtio meddygon teulu. Rydym hefyd wedi lansio—[Anghlywadwy.]—bydwreigiaeth i ddilyn nyrsio a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill hefyd. Felly, rydym ni'n dysgu o ble y buom ni'n llwyddiannus o ran yr ymgyrch honno'n ddiweddar ac, yn yr un modd, lle'r ydym ni'n gwybod bod mwy i ni ei wneud o hyd.
O ran eich pwynt am integreiddio cynllunio ar draws y gwasanaeth iechyd a chyda gwasanaethau eraill, eich pwynt yn arbennig am ambiwlansys a'r heriau, mae hwn yn fater ar gyfer y system yn ei chyfanrwydd—pobl y mae angen iddyn nhw fod mewn ambiwlans a phobl nad oes angen iddyn nhw fod mewn ambiwlans. Ar ôl cyrraedd drws blaen adran achosion brys, mae'n anodd iawn eu rhyddhau. Mae ambiwlansys yn cael eu cadw yno ac yn aros yn rhy hir, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i bobl sy'n abl yn feddygol yn yr ysbyty, ble bynnag y mae hwnnw, y gellid ac y dylid eu rhyddhau a'u helpu i ddychwelyd i'w cartrefi eu hunain. Mae hynny'n rhannol o fewn pŵer y gwasanaeth iechyd. Nid yw pob un person sy'n abl yn feddygol yn aros am ofal cymdeithasol, ond rydym ni yn cydnabod bod hynny, yn bwysig iawn, yn ymwneud â'r bartneriaeth rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol i wneud yn siŵr bod pobl yn cael yr un sgwrs a dull o weithredu mwy integredig. Mae hynny'n sail i'n cronfa weddnewid a'n dull o weithredu, wrth gwrs, hefyd.
Ac rwy'n credu bod hynny'n ein harwain at y pwynt a wnaethoch chi am heriau'r dyfodol. Wel, mae heriau'r dyfodol eisoes yn ein hwynebu heddiw. Nid yw teleofal a gofal sydd wedi'i alluogi gan dechnoleg yn ymwneud mewn gwirionedd â'r ffordd o ddarparu gofal iechyd yn y dyfodol—mae hynny'n digwydd eisoes heddiw. Yr her i ni yw sut y gallwn ni fanteisio arnyn nhw i ddarparu'n llawer mwy cyson ledled y wlad. Nid ydyn nhw ar gyfer rhannau gwledig o'r wlad yn unig, ond ar gyfer pob un rhan o'r wlad i wella argaeledd a phrofiad. Ac rydym ni eisoes yn ystyried, er enghraifft, sut y bydd meddygaeth fanwl yn newid y ffordd y mae angen i ni gynllunio ar gyfer y gwasanaeth. Efallai'n wir fod gennym ni feddyginiaethau newydd drud y gallwn ni eu cael i'n system drwy'r gronfa triniaethau newydd, ond er hynny, gallem gael meddyginiaethau newydd drud ar gost gychwynnol lawer mwy sylweddol a allai yn wirioneddol wella pobl, a byddai honno'n sgwrs wahanol iawn ynglŷn â rhoi mwy o bwyslais ar gamau rhagarweiniol y buddsoddiad yr ydych chi'n ei wneud i allu gwella pobl, beth bynnag fo'r amgylchiadau.
Rwy'n cydnabod eich pwynt ynglŷn â chyflwyno 111, ond mae angen imi ymateb a dweud nad oeddem ni wedi cyflwyno 111 yr un pryd â Lloegr. Bu iddyn nhw weithredu'n gyflym iawn yn genedlaethol, ac roedd ganddyn nhw lawer iawn o broblemau yn Lloegr o ganlyniad i hynny—modelau gwahanol iawn, ac roedd hi'n broblem wirioneddol fawr mewn rhannau helaeth o'r system gofal iechyd i staff a'r cyhoedd. Yn fwriadol fe wnaethom ni gymryd mwy o amser i ddeall y model sydd arnom ni ei eisiau, a'r rheswm pam nad yw'n cael ei gyflwyno ar ras wyllt ar draws y gwasanaeth iechyd yw oherwydd ein bod wedi cymryd o ddifrif y gallu i gael y staff priodol yn y lle priodol ar yr adeg briodol i gyflawni'r gwasanaeth priodol, oherwydd, fel arall, ni fyddem yn gwneud dim mwy nag ailadrodd y camgymeriadau a wnaethpwyd yn Lloegr, ac nid wyf yn barod i wneud hynny.
Felly, yn olaf, rydym yn sicr yn cymryd safbwynt hirdymor. Wrth gwrs, mae gennym ni gynllun hirdymor yng Nghymru—a elwir yn 'Cymru Iachach'. Mae'n gynllun ar y cyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn ei gyfanrwydd, a bydd cynllunio'n fwy effeithiol yn caniatáu i ni wireddu'r weledigaeth a gyflwynais ger eich bron fwy na blwyddyn yn ôl.
Diolch yn fawr iawn, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.