2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Trown at gwestiynau'r llefarwyr, ac unwaith eto y prynhawn yma, llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A fyddech yn cytuno, Weinidog, yn dilyn eich cyhuddiad fod y diwydiant adeiladu tai preifat yn creu 'slymiau'r dyfodol'—sylwadau a wnaethoch yn gynharach eleni—fod Llywodraeth Cymru wedi creu amgylchedd braidd yn ddigroeso ar gyfer adeiladwyr tai yng Nghymru?
Na, ni fyddwn yn cytuno â hynny o gwbl. Rwy'n glynu wrth yr hyn a ddywedais. Dywedais eu bod mewn perygl o greu slymiau'r dyfodol. Os oes gennych ystâd o dai nad oes seilwaith ar gael ar ei chyfer, lle mae'n rhaid i bobl yrru i'r gwaith, lle mae'r tai wedi'u hadeiladu'n wael, ac a dweud y gwir, rydym wedi gweld enghreifftiau o hynny gan yr adeiladwyr tai mawr ledled Cymru, lle na chafwyd y breciau rhag tân mwyaf sylfaenol hyd yn oed, lle nad oes fawr o seilwaith gwyrdd, lle mae'r tai yn rhy agos at ei gilydd a lle nad oes lle i chwarae, mae—. Gwn ei fod yn cytuno â mi: nid yw'n enghraifft o ddatblygu da.
Ar y llaw arall, ceir llawer o ddatblygwyr sector preifat ledled Cymru, yn enwedig ym mhen BBaCh y farchnad, sy'n adeiladu cartrefi hyfryd iawn yn y sector preifat mewn datblygiadau cymysg gyda seilwaith gwyrdd da ac yn y blaen. Gallaf roi rhestr iddo o adeiladwyr BBaCh da o'r fath. Felly, nid wyf yn sôn am y sector preifat yn gyffredinol. Mae problemau wedi bod mewn perthynas â rhai o'r adeiladwyr mwy yn adeiladu'n rhy gyflym o lawer mewn ystadau un math o ddeiliadaeth ymhell o unrhyw seilwaith, ac yn adeiladu, rwy'n credu, er mwyn cynhyrchu elw i'r adeiladwr yn hytrach nag adeiladu'r cymunedau rydym eu hangen ar gyfer y dyfodol.
Wel, rwy'n falch eich bod wedi goleddfu'r sylwadau hynny ac wedi ychwanegu rhywfaint o ganmoliaeth i'ch gwerthfawrogiad o'r sector, oherwydd rwy'n credu eich bod wedi achosi llawer o ofid pan ddefnyddioch chi'r rhethreg honno am slymiau yn gynharach eleni.
A'r pwynt yw, mae'n amlwg fod arnom angen marchnad dai sy'n dod â'r sector cyhoeddus a'r sector preifat, adeiladwyr tai mawr a bach, a llywodraeth genedlaethol a lleol at ei gilydd mewn partneriaeth sy'n llawn o ysbryd cyhoeddus cadarnhaol. Ac mae strategaeth dai gadarn i gynyddu'r cyflenwad yn galw am fwy na'r cynnydd angenrheidiol iawn mewn tai cymdeithasol; mae'n galw am adeiladwyr tai preifat hefyd i gynyddu nifer y tai ar y farchnad agored yn sylweddol er mwyn rhoi hwb i ddarpariaeth fforddiadwy yn gyffredinol, deiliadaethau cymysg, a phopeth arall sy'n mynd law yn llaw â hynny. Ac mewn gwirionedd roedd llawer o'r hyn a ddywedoch yn gynharach eleni yn ymwneud â chyfraith gynllunio wael, gorfodaeth reoleiddio wael, ac nid yw'n fater y gellir ei feio ar y rhan fwyaf o adeiladwyr tai sy'n gwneud gwaith rhagorol dros y wlad hon ac sydd â llawer o allu wrth gefn. Ac os gallwn eu hannog, gallent fod yn ganolog i'r broses o ddatrys ein hargyfwng tai.
Wel, unwaith eto, gallwn ddod o hyd i bethau y buaswn yn cytuno â hwy a phethau y buaswn yn anghytuno â hwy yn y sylwadau hynny, David Melding.
Yn ddiweddar, cyfarfûm ag un o'r adeiladwyr tai mwyaf; cawsom drafodaeth lawn a gonest. Rwyf newydd gael llythyr yn ôl ganddynt yn diolch imi am y cyfarfod cadarnhaol iawn a syniadau ynglŷn â sut y gallwn symud ymlaen gyda'n gilydd gyda'r uchelgais hwn. Ac rwy'n meddwl eich bod yn rhannu fy uchelgais i weld y tai sy'n cael eu hadeiladu yn addas i bobl fyw ynddynt, yn hawdd i'w gwresogi a'u hoeri yn yr haf, gyda seilwaith gwyrdd, da o'u hamgylch, nid tai nad yw pobl ond ynddynt am mai dyna'r cyfan y gallent ei fforddio, neu am nad oes unrhyw dai cymdeithasol ar gael, tai y mae'r datblygwr wedi'u hadeiladu er mwyn gwneud yr elw mwyaf ohonynt. Felly, rwy'n cytuno â chi fod nifer fawr o adeiladwyr bach a chanolig da o gwmpas. Nid yw rhai o'r adeiladwyr mwy wedi ymateb i'r her, er fy mod yn falch iawn o ddweud, yn fy sgyrsiau â hwy, eu bod i'w gweld yn ymateb i'r her yn awr.
Ar ôl taflu sylw roeddwn yn anghytuno'n gryf ag ef atoch, a gaf fi ofyn ichi ymhelaethu ar yr hyn y dywedwyd eich bod wedi'i ddweud wrth Sefydliad Tai Siartredig Cymru yn Abertawe yn gynharach yr wythnos hon? Mae'n rhywbeth rwy'n ei gymeradwyo. Fe ddywedoch chi:
Nid gwerthu tai cyngor oedd y 'gwendid mawr' gyda Hawl i Brynu o reidrwydd, ond yn hytrach, peidio â chaniatáu i gynghorau ddefnyddio'r elw o'r gwerthiannau hynny i adeiladu rhagor o gartrefi.
Hynny yw, rwy'n cytuno â hynny. Ond onid yw'n profi mai Plaid Geidwadol Cymru oedd yn iawn ar hyd yr amser, mai diwygio'r polisi hawl i brynu nid ei ddiddymu oedd angen ei wneud?
Rwy'n ofni bod pennawd yr erthygl rydych chi'n amlwg wedi'i darllen braidd yn gamarweiniol. Os ewch ymlaen i ddarllen yr hyn a ddywedais mewn gwirionedd, nid yw'r pennawd yn ei gyfleu yn hollol. Yr hyn a ddywedais oedd, pan fyddwn wedi adeiladu digon o gartrefi cymdeithasol yng Nghymru, pan fydd unrhyw berson yng Nghymru sydd am gael cartref rhent cymdeithasol yn gallu mynd at gyngor a dweud, 'Hoffwn rentu gennych, os gwelwch yn dda' a'u bod yn gallu dangos portffolio o lefydd addas i chi, er mwyn cael deiliadaeth gymysg mewn rhai ystadau, mae'n bosibl y bydd angen inni edrych i weld a fyddem, mewn rhai amgylchiadau, yn caniatáu i bobl brynu eu cartref rhent cymdeithasol. Felly, nid dyna'n hollol oedd y pennawd roeddech chi mor falch o'i weld. Felly, rwyf am ei ailadrodd: pan fyddwn wedi adeiladu cymaint â hynny o gartrefi cymdeithasol ledled Cymru, a'i fod yn rhywbeth y gall pobl ei ddewis am fod cyflenwad digonol ar gael, yna wrth gwrs, gallem edrych i weld sut y gallwn annog rhywfaint o ddeiliadaeth gymysg. Ond ofnaf na fydd hynny'n digwydd yn fy oes wleidyddol i nac yn eich un chi.
Llefarydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol wedi ymuno â'r rhestr faith o sefydliadau sy'n feirniadol o ymddygiad yr adran fwyaf dialgar ac anghymwys yn Ewrop, yr Adran Gwaith a Phensiynau. Yn yr achos hwn, maent yn cyfeirio at y problemau a achosir gan y credyd cynhwysol i'r rhai sy'n talu eu rhent yn wythnosol. Mae rheoliadau'r credyd cynhwysol yn datgan y bydd hawl i gredyd cynhwysol tenantiaid â thenantiaethau wythnosol yn cael ei gyfrifo ar sail uchafswm o 52 wythnos. Mae hyn yn golygu, bob pum mlynedd, y codir rhent ar denantiaid sy'n talu'n wythnosol ar yr un diwrnod ar sail 53 wythnos, ond ni fyddant ond yn gallu cael credyd cynhwysol ar gyfer 52 wythnos. Felly, dyma ddiffyg yr amcangyfrifodd Cartrefi Cymunedol Cymru y gallai effeithio ar 13,000 o bobl yng Nghymru.
Efallai fod hyn i'w weld yn nodwedd ddibwys sy'n codi o aliniad y rheoliadau a'r calendr, ond i bobl sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd ac sydd eisoes yn ddrwgdybus o'r Adran Gwaith a Phensiynau, mae'n ychwanegu problem arall a gall wthio aelwydydd dros y dibyn. Felly, pa gamau rydych yn eu cymryd i liniaru hyn?
Ie, rwy'n cytuno. A chredaf fod yna broblem wirioneddol—buom yn trafod yn y Siambr hon, y tro diwethaf roeddwn yn ateb cwestiynau, rwy’n credu, neu yn un o'r datganiadau ar dai—ynghylch yr hyn y mae'r lwfans tai lleol yn ei wneud i bobl yn y sector rhentu preifat hefyd. Oherwydd, fel y gwyddoch, mae credyd cynhwysol wedi’i gapio ar lefel y lwfans tai lleol, ac mae hwnnw wedi'i rewi ers pedair blynedd. Felly, yn amlwg, mae pobl yn gorfod ychwanegu cryn dipyn o arian at eu rhent o swm bach iawn o arian. Ac mae hynny'n arwain at ôl-ddyledion rhent, dyledion, a thipyn o ofid yn y sector. A chredaf fod yr adroddiad hwnnw, yn ôl yr hyn rwy'n ei gofio, yn dweud mai 2 y cant yn unig o'r tai sydd ar gael i'w rhentu yng Nghaerdydd sydd o fewn y lwfans tai lleol, gan ei fod wedi'i rewi ers pedair blynedd bellach. Roedd Llywodraeth y blaid gyferbyn wedi dweud, pe baent wedi aros mewn grym a heb alw’r etholiad cyffredinol hwn, y byddent yn adolygu hynny yr haf nesaf. Nid wyf yn gwybod beth y mae 'adolygu' yn ei olygu, ond yn amlwg, rydym yn gobeithio y byddent yn ei osod yn ôl lle dylai fod, sef tua thraean o rent arferol y farchnad ar gyfer ardal. Felly, y peth cyntaf y dylem fod yn ei wneud yw dweud y byddem yn gwneud hynny.
Yn ail, o ran y ffordd y caiff ei dalu, mae’r oedi mewn credyd cynhwysol, pan fyddwch yn mynd i mewn ac allan o gredyd cynhwysol, yn amlwg yn ddinistriol i bobl. Ac ni allaf gofio a wyf ar yr ail neu'r trydydd, ond beth bynnag, y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yw cytuno’n llwyr â chi y dylai pobl, yn amlwg, fod yn talu'r rhent y mae'n rhaid iddynt ei dalu. Ac os ydynt yn ei dalu'n wythnosol, dylid ei dalu'n briodol iddynt, ac os ydynt yn ei dalu'n fisol, dylent fod yn ei dalu'n briodol. Rwy'n mawr obeithio, pan fydd ein Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru), a basiwyd gennym yn y Cynulliad hwn yn ôl yn 2016, mewn grym gennym, ac rwy’n mawr obeithio gwneud hynny erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn—fel y gwyddoch, rydym yn gweithio'n galed iawn ar hyn o bryd i wneud hynny—y bydd hynny o leiaf yn lleddfu rhywfaint ar y mater, gan y bydd yn rhoi gwell sicrwydd i bobl wrth i'w deiliadaeth fynd rhagddi.
Iawn. Wel, mae Cartrefi Cymunedol Cymru wedi awgrymu defnyddio taliadau disgresiwn at gostau tai i helpu'r bobl yr effeithir arnynt. Nawr, yr opsiwn a ffafrir gennyf fyddai pe bai gan Gymru reolaeth weinyddol dros nawdd cymdeithasol fel y gallem ddatrys y broblem dros nos, ac ni fyddai’n costio unrhyw arian inni ychwaith. Nid oes pwynt gofyn i chi a ydych yn cytuno â hynny, Weinidog—rydym wedi trafod hyn lawer gwaith o'r blaen.
Felly, rwy’n awyddus i ehangu'r pwnc. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r rhestr hirfaith o ostyngiadau i daliadau nawdd cymdeithasol dros y degawd diwethaf, a sut y mae pob un ohonynt nid yn unig wedi gwaethygu tlodi, ond hefyd wedi rhwystro gallu ein cymdeithasau tai i gefnogi pobl. Nododd Swyddfa Archwilio Cymru ychydig flynyddoedd yn ôl fod y rhan fwyaf o'r arbedion honedig yn sgil toriadau i fudd-daliadau wedi cael eu llyncu gan y ffaith bod yn rhaid i gymdeithasau tai ganolbwyntio adnoddau ar dasgau gweinyddol a achoswyd gan lawer o'r toriadau hyn, yn ychwanegol at y costau ehangach y mae’r gwasanaethau cyhoeddus wedi gorfod eu hysgwyddo o ganlyniad i ddigartrefedd, ôl-ddyledion, straen, ac ati. A yw'r Llywodraeth wedi cynnal asesiad cyfredol o faint y mae toriadau nawdd cymdeithasol San Steffan wedi’i gostio i wasanaethau cyhoeddus Cymru?
Fe siaradaf â fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, sy'n arwain ar faterion lles, ond mae'n un o'r materion rydym wedi gofyn i'r grŵp gweithredu ar ddigartrefedd edrych arnynt hefyd, gan eu bod yn mynd i wneud tri adroddiad arall. Fel y gwyddoch, maent wedi cwblhau’r adroddiad ar ddigartrefedd yn y cyfnod cyn y Nadolig ar ein cyfer. Ond mae'n un o'r pethau rydym wedi gofyn iddynt edrych arnynt hefyd. A chredaf ein bod yn dal i aros am yr ymchwil ar weinyddu lles. Nid wyf yn siŵr heb fynd i edrych—nid wyf yn gwybod a yw Hannah yn gwybod—erbyn pryd y mae hwnnw i fod i ddod i law, ond gallaf ysgrifennu at yr Aelod i roi gwybod iddi.
Weinidog, pe bai eich Llywodraeth yn cynnal asesiad, fel rwyf newydd ei awgrymu, credaf y byddai hynny o'r diwedd yn cael gwared ar y syniad fod budd ariannol i’w gael o San Steffan yn rheoli'r materion hyn. Y gwir amdani yw na allwn fforddio peidio â rheoli’r gwaith o weinyddu lles. Mae'n amlwg o dystiolaeth ryngwladol mai un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau tlodi yw rhoi mwy o arian i'r aelwydydd tlotaf. Nawr, mae Plaid Cymru yn awyddus i gael bargen deg i deuluoedd Cymru, sy'n golygu ein bod yn awr yn cynnig bod Cymru'n cyflwyno taliad newydd o £35 yr wythnos am bob plentyn mewn teulu incwm isel, gan ddod â 50,000 o blant allan o dlodi. Ar ôl bron i 20 mlynedd, mae tlodi plant yn waeth nag erioed yn y wlad hon. Onid yw'n bryd inni fabwysiadu ymagwedd wahanol, ac a fyddech yn cytuno â Phlaid Cymru mai nawr yw'r adeg i gyflwyno taliad o'r fath?
Credaf, unwaith eto, ein bod yn cytuno ar y mater sylfaenol—yn amlwg, y ffordd allan o dlodi yw rhoi mwy o arian i bobl. Yn amlwg, y ffordd orau o wneud hynny yw rhoi cyfle iddynt ei ennill mewn swyddi da a theg, fel nad yw pobl yn dibynnu ar fudd-daliadau—felly talu cyflog byw gwirioneddol, ac yn y blaen. Felly credaf ein bod yn cytuno ynglŷn â hynny. Rydym yn aros am ymchwil, ond mae arnaf ofn na allaf gofio pryd y bydd yn barod. Rydym am fod yn sicr beth fyddai'n digwydd pe baem yn gyfrifol am weinyddu budd-daliadau, beth y mae hynny'n ei olygu i ni o ran cost, ac a allwn weinyddu'r budd-daliadau yn briodol heb orfod gweinyddu rhai o'r cyfundrefnau gorfodi a chosbi echrydus sydd ar waith ar hyn o bryd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, y gwn ei bod yn anghytuno â hwy, ac rwyf innau hefyd yn anghytuno'n gryf ag atal arian i bobl am fod eu bws yn hwyr ac ati—ffordd gwbl ddideimlad o fynd o’i chwmpas hi. Felly, rydym am fod yn sicr, os byddwn yn gyfrifol am y broses weinyddu, na fyddwn yn cael cyfres o ganlyniadau anfwriadol o ganlyniad i hynny, o ran y gost i weddill pwrs y wlad, gan fy mod yn cytuno â hi ar egwyddor ei weinyddu, ond yr hyn yr hoffem ei ystyried yw sut olwg fyddai ar hynny. Rwy’n ymddiheuro—dylwn allu cofio, ond ni allaf gofio, pryd y daw'r gwaith ymchwil hwnnw i law, felly fe ysgrifennaf atoch ynglŷn â hynny.FootnoteLink