– Senedd Cymru am 2:51 pm ar 3 Rhagfyr 2019.
Felly, y datganiad nesaf fydd y datganiad hynny gan y Gweinidog addysg ar ganlyniadau PISA, a dwi'n galw ar Kirsty Williams i wneud y datganiad.
Llywydd, mae canlyniadau 2018 PISA yn cael eu cyhoeddi heddiw, ac am y tro cyntaf erioed, mae Cymru yn y brif ffrwd ryngwladol, ac i ymdrechion ein hathrawon ni a'n myfyrwyr ni y mae'r diolch am hynny. Rwy'n awyddus i roi gwybod i bob athro, pob myfyriwr, pob rhiant, a phob cyflogwr ein bod ni wedi dal i fyny. Rydym wedi gwella ym mhob maes ac mae gennym fwy o berfformwyr uchel nag erioed o'r blaen. Mae newyddion heddiw yn gadarnhaol i bob un o'r rheini sydd wedi buddsoddi yn llwyddiant ein pobl ifanc a'n system addysg ni. Ydy, mae'n gadarnhaol, ond nid yw'n berffaith.
Dair blynedd yn ôl, roeddwn wedi egluro'n groyw nad oeddem mewn sefyllfa foddhaol a bod PISA yn ddangosydd pwysig i gyflogwyr, buddsoddwyr a rhieni. Fe gymerais i gyngor y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, OECD, ynglŷn â'n diwygiadau ni. Fe ddywedon nhw wrthym am ddyfalbarhau, a bod yn ddewr, a bod yr hyn yr oeddem ni'n ei wneud yn gywir. Fe wrandewais i ar y cyngor hwnnw. Yn dilyn hynny, aethom ymlaen i gyflawni'r buddsoddiad mwyaf erioed yn ein hathrawon, y rhaglen dysgu proffesiynol fwyaf erioed, ac rydym wedi parhau i ddiwygio ein cwricwlwm.
Nawr, am y tro cyntaf erioed, rydym yn perfformio ar gyfartaledd yr OECD ym mhob un o'r tri maes: sef darllen, gwyddoniaeth, a mathemateg. Am y tro cyntaf erioed, mae ein sgoriau ni wedi codi ym mhob maes a gafodd ei brofi ac ymhlith criw dethol iawn o wledydd ledled y byd sydd wedi gwneud hyn yng nghanlyniadau 2018. Rydym hefyd wedi cyrraedd ein sgôr grai orau erioed ar gyfer darllen ac ar gyfer mathemateg. Felly, ydym, rydym wedi dal i fyny â'r rhelyw. Rydym wedi treulio llawer gormod o amser yn llusgo y tu ôl i wledydd fel yr Iseldiroedd neu'r Swistir, neu'r Alban a Gogledd Iwerddon o ran hynny, ac rydym bellach wedi ymuno â nhw ym mhrif ffrwd yr OECD. Ac, yn hollbwysig yn fy marn i, rydym wedi gwneud hynny ar yr un pryd â chau'r bwlch cyrhaeddiad. Ond gadewch imi fod yn gwbl glir: nid dyma'r amser i godi ein troed ni oddi ar y sbardun. Fel isafswm lleiaf, mae angen inni fynd yr un mor gyflym. Rwyf eisiau ein gweld ni'n cynnal y momentwm hwn ac yn parhau i symud ymlaen.
Felly, gadewch i mi droi nawr at faterion a datblygiadau penodol. Mae'r sampl PISA ym mhob gwlad yn adlewyrchu pob system genedlaethol unigol. Felly, wrth gwrs, i ni, mae hynny'n gymysgedd o ysgolion cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg a dwyieithog o fewn addysg gwasanaeth cyhoeddus annetholus. Mae'r sampl mewn systemau eraill yn wahanol iawn, ac yn adlewyrchu ysgolion detholus a rhai nad ydyn nhw'n perthyn i'r wladwriaeth, fel y mae hi dros y ffin. Ond nid dyna'r dull yng Nghymru. Fe fyddwn ni—fe fyddaf i—yn parhau i gefnogi ein system ni, gan ddisgwyl llawer gan bob un, heb ystyried cefndir unrhyw un; gan weithio gyda'n gilydd i godi safonau ar gyfer pawb a sicrhau ein bod ni'n cyplysu tegwch â rhagoriaeth. Felly, fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda'r OECD a systemau y tu hwnt i Gymru a thu hwnt i'r Deyrnas Unedig. Wedi'r cyfan, fe gymerodd 79 o wledydd ran yn PISA, ac rydym yn ein meincnodi ein hunain yn erbyn pob un ohonyn nhw.
Mae canfyddiadau'r OECD yn rhoi cyfres gyfoethog o wybodaeth a rhai naratifau diddorol iawn i ni. Pryder cyffredin ym mhob gwlad sy'n cymryd rhan yw'r bwlch mewn perfformiad ar gyfer darllen rhwng bechgyn a merched. Mae merched yn perfformio'n well na bechgyn ym mhob gwlad unigol, ac yng Nghymru, yr un yw'r stori.
Mae cyllid ar gyfer addysg yn bwysig, ond mae'r OECD yn dweud bod sut rydych chi'n gwario'r arian yn bwysicach. Mae Estonia yn gwario 30 y cant yn llai na'r cyfartaledd, ond mae'r OECD yn nodi'r wlad honno'n un o'r rhai sy'n perfformio orau. Ac maen nhw'n gallu dangos yr hyn y gall cenedl fach a medrus ei gyflawni. Felly gadewch inni beidio â rhoi unrhyw gyfyngiadau ar ein huchelgeisiau i Gymru. Fe wn i fod athrawon ledled Cymru yn rhannu'r uchelgeisiau hynny. Fe fyddwn ni'n dymuno i ganlyniadau heddiw wneud i bob athro unigol fod yn fwy sionc yn ei gerddediad. Mae gwelliant yn bosibl ac rydym wedi dangos hynny. Rydym yn mynd i'r cyfeiriad iawn, ond, unwaith eto, gadewch imi fod yn glir: mae llawer mwy y mae angen ei wneud eto.
Mae ein cenhadaeth genedlaethol wedi mapio'r llwybr cywir ac fe allwn ni, ac mae'n rhaid inni, ddal ati i wella. Er enghraifft, Llywydd, ystyriwch fy her i, dair blynedd yn ôl, i wella ein cyfran ni o ddysgwyr sy'n perfformio orau yn PISA o'r lefelau affwysol o isel a welsom ni yn 2015. O ran darllen, mae gennym 7 y cant o berfformwyr uchel erbyn hyn, o'i gymharu â 3 y cant yn y rownd ddiwethaf, ac rydym wedi cynyddu'r gyfran yn y ddau faes arall. Cafwyd cynnydd tebyg o ran mathemateg, ac ychydig yn llai o ran gwyddoniaeth.
Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen, ond mae'n rhaid inni wneud mwy. Yn wahanol i'r sgorau yn gyffredinol, nid ydym eto wedi cyrraedd cyfartaledd yr OECD ar gyfer y grwpiau hyn o ddysgwyr. Ond, rwy'n credu bod ein cynllun gweithredu priodol cyntaf ni ar gyfer disgyblion sy'n fwy galluog a thalentog, ac ehangu ein rhaglen Seren i ddisgyblion o flwyddyn 8 i fyny, a gosod disgwyliadau uchel ar bawb yn gwneud gwahaniaeth ac fe fydd yn parhau i wneud gwahaniaeth.
Gan weithio gyda busnesau blaenllaw yng Nghymru, yn ogystal â'n colegau a'n prifysgolion, rydym yn gosod safon uchel. Ac mae hynny'n golygu bod ein myfyrwyr yn gwneud argraff fawr pan fyddan nhw'n astudio am gyfnod mewn prifysgolion fel Rhydychen a Chaergrawnt, Yale, Harvard a'r Massachusetts Institute of Technology. Nawr, un o'm blaenoriaethau i erioed fel Gweinidog fu edrych ar ein diwygiadau ni o'r safbwynt rhyngwladol hwnnw. Ac, fel y dywedais i, dyna pam y byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r OECD wrth inni fwrw ymlaen â'n rhaglen ni o ddiwygio. Y tro diwethaf, eu negeseuon allweddol i mi oedd y dylem barhau â'r ymdrechion i ddiwygio'r cwricwlwm a chodi safonau addysgu.
Wel, fe fydd fframwaith diwygiedig y cwricwlwm yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr. Fe gaiff ei ategu gan gefnogaeth, adnoddau a chyngor uniongyrchol i ysgolion ac athrawon. Fe fyddwn ni'n parhau i fuddsoddi yn y grant datblygu disgyblion ac i ddiwygio'r anghenion dysgu ychwanegol, gan roi'r gefnogaeth ychwanegol sydd ei hangen i'r dysgwyr hynny lwyddo yn ein system ni. Ac fe fyddwn ni'n parhau i wyrdroi'r blynyddoedd o esgeulustod o ran arweinyddiaeth i fod yn brif ysgogydd ein rhaglen ddiwygio ni, ac fe fyddwn ni'n parhau i roi'r adnoddau sydd eu hangen ar athrawon i gyflawni ar eu gorau.
I gloi, Llywydd, yn ein cynllun gweithredu cenhadaeth genedlaethol ni, fe wnes i nodi tri amcan: codi safonau; mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad; a sicrhau system sy'n destun balchder cenedlaethol ac y bydd y cyhoedd yn ymddiried ynddi. Mae canlyniadau heddiw yn dangos llwyddiant yn erbyn pob un o'r amcanion hynny. Sgoriau uwch ym mhob maes; gostyngiad yn y bwlch rhwng ein dysgwyr mwyaf difreintiedig a'u cyfoedion; Cymru yn y brif ffrwd ryngwladol am y tro cyntaf yn ystod oes PISA; y sgoriau gorau erioed mewn mathemateg a darllen; a'r unig genedl yn y DU a welodd welliant ym mhob maes.
Unwaith eto, hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'n hathrawon a'n myfyrwyr ni. Mae'r canlyniadau hyn yn tystio i'w gwaith caled a'u hymroddiad nhw, ac maen nhw'n dechrau dangos yr hyn y gall Cymru ei gyflawni.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad hi, yn enwedig y rhan olaf, yn sôn am yr hyn yr ydych chi'n bwriadu ei wneud nesaf, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n destun i ddadl rywbryd eto? Yr adeg hon dair blynedd yn ôl, Gweinidog, fe ddywedoch chi wrth fy rhagflaenydd i
ni all dim a ddywedwch chi yma heddiw yn y Siambr hon wneud i mi deimlo'n waeth yn bersonol ynglŷn â'r canlyniadau hyn.
Felly, rwy'n tybio eich bod chi'n rhoi caniatâd i chi eich hun roi ochenaid fach o ryddhad heddiw, ond eich bod chi'n ymwybodol iawn o'r ffaith mai rhyddhad dros dro yw hyn. Rwy'n cydnabod, fel y gwna eich swyddogion, fod gwelliant wedi digwydd, ac rwyf innau'n awyddus i ddiolch i'r athrawon a'r myfyrwyr am eu hymdrechion nhw wrth wneud hynny. Ond a yw eich swyddogion chi'n cydnabod hefyd nad yw'r rhain wedi bod yn welliannau sylweddol?
Nid yw fy nadl i gyda'r athrawon a'r bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn y profion hyn. Mae fy nadl i gyda chi yn y Llywodraeth a'r gobeithion yr ydych chi wedi eu codi, ar sail y tair blynedd diwethaf o ddiwygiadau, sy'n parhau i gael eu siomi. Felly, ie, er ein bod ni'n cydnabod y gwelliannau cymedrol ond heb fod yn sylweddol, maen nhw'n parhau i olygu mai Cymru yw'r wlad sy'n perfformio waethaf yn y DU. Mae'r canlyniadau hyn, i bob pwrpas, heb fod cyn waethed ag yr oedden nhw. Mae'n atgyfnerthu pa mor uchel yw'r mynydd y mae'n rhaid i ni ei ddringo er mwyn cyrraedd gwledydd eraill y DU, heb sôn am rai o'r gwledydd eraill.
Rydym yn parhau i fod yn brin o'r targed hwnnw o 500, a gadarnhawyd bythefnos yn unig yn ôl gan y Prif Weinidog. Rydym yn dal i fod yn is na'r cyfartaledd mewn rhai o'r meysydd a gaiff eu harchwilio, er, fel y gwyddom ni, mae cyfartaledd yr OECD wedi gostwng ynddo'i hunan, ac fe ddylem anelu at gyflawni mwy na bod ar y cyfartaledd beth bynnag. Nid yw dal i fyny gyda'r rhelyw, sy'n mynd tuag yn ôl, yn golygu ennill y ras mewn gwirionedd. Mae angen inni fod yn gwneud mwy na mynd ar yr un cyflymder. Mae angen inni fod yn gwneud yn well yn hyn o beth.
Felly, fy nghwestiwn cyntaf i ynglŷn â'r datganiad, ac rwy'n siŵr y bydd yna laweroedd ohonyn nhw, yw: fe ddywedoch chi dair blynedd yn ôl y byddech chi'n edrych ar wledydd eraill i weld beth y maen nhw'n ei wneud yn dda a chael eu syniadau da nhw. Hyd yn oed bryd hynny, roeddem yn gofidio ychydig bach am yr Alban oherwydd ei dylanwad amlwg ar y diwygiadau yr oeddech chi'n eu cyflwyno. Yn amlwg, maen nhw wedi cael canlyniad da o ran darllen y tro hwn. Er hynny, mae eu sgoriau nhw wedi parhau i fod yn isel ers cyfnod Donaldson, ac nid yw sgôr darllen heddiw hyd yn oed yn mynd â nhw'n ôl fel roedd hi cyn hynny. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym beth yr ydych chi'n ei ddysgu o hyd o brofiad yr Alban a'u gofidiau nhw, a'r hyn y byddwch chi'n ei ddysgu hefyd o brofiad Lloegr? Yn amlwg, mae eu sgoriau nhw, fel y clywsom gan Mark Reckless yn gynharach, yn llawer gwell ac yn dal i wella.
A wnewch chi roi ychydig bach o wybodaeth i ni ynglŷn â tharddle'r gwelliannau hyn yn eich barn chi? Yn 2016, yn gwbl briodol, fe wnaethoch chi gydnabod—ac rydych chi wedi crybwyll hyn heddiw—bod ein plant ni sy'n fwy galluog a thalentog yn tanberfformio. Credaf y byddai pob un ohonom ni'n anfodlon pe bai hynny ag unrhyw ran o gwbl yn ein sefyllfa ni o ran y bwlch cyrhaeddiad. Yn benodol, a yw'r newidiadau wedi effeithio ar yr hanner uchaf—y 75 canradd, os caf gyfeirio ato felly—o'i gymharu â'r 90 canradd?
Roeddech chi'n crybwyll rhaglen Seren, ac fe hoffwn i glywed ychydig mwy am hynny. Ond y rheswm yr wyf i'n gofyn y cwestiwn hwn yw: er bod ein safonau ni o ran graddau A* TGAU eleni yn uchel iawn—ac fe soniodd y Prif Weinidog am hynny'n gynharach—mae ein graddau ni o A* i C wedi gostwng eleni ym mhob un o'r pynciau hyn. Dyma'r un garfan o bobl ifanc sydd wedi sefyll y profion PISA yn y flwyddyn cyn iddyn nhw sefyll yr arholiadau TGAU. Fel yr oeddech chi'n cydnabod, mae'r TGAU hyn bellach yn cyd-fynd yn well â'r sgiliau y mae'r profion PISA wedi cael eu llunio i fynd i'r afael â nhw, ac mae eich diwygiadau chi wedi bod ar waith i drwytho'r arholiadau hynny ers peth amser erbyn hyn. Felly, pam mae gwelliant bach o ran canlyniadau PISA yn cyfateb i ostyngiad o ran graddau TGAU A* i C?
Fe fuom ni'n siarad yn y Siambr hon rai wythnosau'n ôl bellach am y gostyngiad o ran cyflawniadau ar hyn o bryd drwy flynyddoedd 7 i 9. Os cofiwch chi, roedd hyn yng nghyd-destun dileu'r gofyniad ar lywodraethwyr ysgol i bennu targedau i arweinyddion ysgol at ddibenion gwelliant disgyblion yn y Gymraeg neu'r Saesneg, a mathemateg a gwyddoniaeth. Y plant sydd ym mlwyddyn 7 eleni fydd y garfan nesaf o blant i sefyll prawf PISA. Felly, a ydych chi'n gofidio nawr fod y llwybr presennol ar gyfer y rhai sydd ym mlynyddoedd 7 i 9 yn golygu nad yw'r oedolion na'r plant sy'n rhan o'r system addysg bresennol wedi deall sut y caiff y diwygiadau hyn eu cyflawni? Ac a yw'n edifar gennych chi erbyn hyn y gall dileu'r targedau hyn ar gyfer cyflawniad cyffredinol disgyblion yn y pynciau allweddol hynny gyflwyno darlun inni y gallem i gyd fod yn weddol anfodlon yn ei gylch ymhen ychydig flynyddoedd?
Yn gynharach, wrth wrando ar eich ymateb i Mark Reckless ynglŷn â'r ffaith nad oes gan ysgolion ddigon o adnoddau, fe sylwais eich bod chi'n ei borthi ef pan oedd yn siarad â chi, ac, yn amlwg, rydych chi wedi crybwyll Estonia yn y fan hon heddiw. Beth bynnag y gallwch chi ei ddweud wrthym ni am y system addysg a'r gwariant sy'n mynd i mewn iddi, y gwir amdani yw nad yw ysgolion—ysgolion yn benodol—yn cael digon o arian, ac rwy'n gofyn tybed a wnewch chi roi rhywfaint o gysur i ni yn hynny o beth heddiw.
Tybed beth yw eich sylwadau chi, er bod y sgoriau darllen wedi gwella, ynglŷn â'r pryder difrifol sydd gan yr OECD o hyd o ran dealltwriaeth. Felly, er bod caru darllen yn dal i fod yn dipyn o her ynddo'i hunan, mae'r mater hwn o ddealltwriaeth—'darllen a deall', fel yr oeddem ni'n ei alw ers talwm—yn parhau i beri pryder sylweddol, yn fy marn i, oherwydd os na allwch chi ddeall yr hyn yr ydych chi'n ei ddarllen, go brin y gellir trosglwyddo'n ddifrifol i faes meddwl yn feirniadol. Ac wrth gwrs, dyma holl ddiben yr hyn y mae PISA yn ceisio ei brofi a'r hyn y mae ein harholiadau ni ein hunain yn gweithio tuag ato. Dyna'r cyfeiriad yr ydym ni'n mynd iddo, ac os oes yna broblem o ran dealltwriaeth, yna, yn amlwg, byddwn yn methu yn ein hamcanion.
Yna, yn olaf—gan fy mod i'n deall, yn amlwg, y bydd cwestiynau gan bobl eraill—rwyf am ofyn, yn y bôn: sut y gall ein sgoriau ni yn y meysydd hyn barhau i fod yn is nag yr oedden nhw yn 2006, pan benderfynodd Cymru gymryd rhan? Nid eich diwygiadau chi yw'r rhai cyntaf, Gweinidog, a hyd yn oed gyda nhw, rydym yn dal i fod ymhellach ar ei hôl hi nag yr oeddem ni pan wnaethom ddechrau: ar waelod y DU, yn methu'r targedau, miloedd o blant yn dal i fod y tu ôl i'w perthnasau ar draws y byd, a hynny'n ddi-angen. Felly, fy nghwestiwn olaf i yw hwn: pa sicrwydd a wnewch chi ei roi y byddwn ni, yn 2021, yn uwch na'r cyfartaledd hwn, ac y byddwn ni'n cyrraedd eich targed chi o 500—i bob pwrpas, pryd fyddwn ni yn y sefyllfa yr ydych chi'n dymuno inni fod ynddi? Diolch.
Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y gyfres honno o gwestiynau? Fe wnaf i fy ngorau i wneud yn siŵr fy mod i wedi eu cofnodi nhw i gyd ac yn ateb pob un.
Nid oes ochenaid o ryddhad o'm rhan i fy hun heddiw, Llywydd—dim ond y penderfyniad i fwrw ymlaen â'r rhaglen ddiwygio a gwneud hyd yn oed yn well. Fe ddywed yr Aelod ein bod ni wedi gostwng y targed o 500 ac yna mae hi'n dweud ar ddiwedd ei datganiad—a wyf i am gyrraedd y targed o 500? Mae'r targed o 500 yn cael ei amlinellu'n eglur yn ein cynllun gweithredu cenhadaeth genedlaethol ar gyfer y gyfres nesaf o ganlyniadau PISA. Fe osodais i darged ar gyfer y gyfres hon o ganlyniadau PISA, sef dangos gwelliant mewn tri maes, yr hyn yr ydym wedi ei wneud heddiw, a gweld cynnydd yn niferoedd y perfformwyr gorau yn ein profion PISA, yr hyn yr ydym wedi ei wneud heddiw. Yn hytrach na methu'r targed, cyflawni'r targed oedd hynny.
A gaf i ddweud, Llywydd, nad yw'n wir o gwbl i ddweud ein bod ni ar waelod y domen yn y Deyrnas Unedig? Mae'r rhai sy'n gweinyddu profion PISA, yr OECD, yn eglur iawn bod ein perfformiad ni o ran mathemateg a gwyddoniaeth, yn ystadegol, yn gyfartal â Gogledd Iwerddon a'r Alban. Nawr, rwy'n gwybod bod y Torïaid yn ddi-hid iawn o ran ystyriaeth i ddyfodol yr undeb, ond y tro diwethaf imi edrych, roedden nhw'n dal i fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Y fi yw'r cyntaf i gydnabod bod gennym ni fwy eto i'w wneud i wella ein sgoriau darllen. Dyna oedd geiriau'r SCYA hefyd, yn dweud ein bod ni wedi cyrraedd, ac yn debyg yn ystadegol i gyfartaledd yr OECD ar draws y tri maes, tra oeddem yn sylweddol is na tharged yr OECD y tro diwethaf.
Nawr, o ran y cwricwlwm, mae'r Aelod yn gofyn i ni am gwricwlwm yr Alban. Yr hyn sy'n bwysig ei gofio yw ein bod ni'n datblygu ein cwricwlwm ein hunain yng Nghymru. Nid ydym yn efelychu cwricwlwm yr Alban yng Nghymru—rydym yn cynllunio un i ni ein hunain. Am y tro cyntaf erioed, bydd gennym gwricwlwm sydd wedi cael ei gynllunio gan bobl Cymru ar gyfer plant Cymru, ac rydym ni'n dal i ddysgu gwersi o bob rhan o'r byd ynglŷn â'r hyn y mae arfer da yn ei olygu a'r hyn y mae angen i ni ei osgoi. Mae hynny'n cynnwys dysgu'r gwersi o weithredu llwyddiannus cwricwla ym mhob rhan o'r byd, gan gynnwys yr Alban. Un enghraifft ddisglair iawn o'r hyn yr ydym wedi ei ddysgu yw nad oes raid rhuthro'r broses, a dyna pam y gwnes i'r penderfyniad anodd i oedi cyn rhoi'r cwricwlwm ar waith, gan wneud yn siŵr ein bod ni wedi paratoi ein proffesiwn.
O ran y gwersi eraill y gellir eu dysgu, fe wêl yr Aelod fod llawer o ganolbwyntio yn y cyfryngau Prydeinig heddiw—ac rwyf innau wedi sôn am hyn—ar y system yn Estonia. Mae'r system yn Estonia yn canolbwyntio llawer ar ofal ac addysg yn y blynyddoedd cynnar, gan sicrhau bod pob plentyn, pan fydd yn mynd i gael ei addysg ffurfiol, yn meddu ar yr aeddfedrwydd a'r ymdeimlad o lesiant a hyder i fanteisio i'r eithaf ar ei addysg. Dyna pam ein bod ni yn y Llywodraeth hon yn parhau i flaenoriaethu Dechrau'n Deg, rydym ni'n sicrhau bod mwy o ofal plant o safon uchel ar gael i deuluoedd, a pham y byddaf i bob amser, pan fydd adnoddau yn caniatáu, yn buddsoddi ymlaen llaw mewn addysg ar gyfer y blynyddoedd cynnar hynny. Oherwydd dyna lle y gwyddom y gallwn sicrhau y bydd ein plant yn datblygu'r sgiliau cynnar hynny—y llafaredd sydd mor bwysig i ddatblygu darllen a deall da yn ddiweddarach mewn bywyd—a thrwy fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar fe fyddwn ni'n elwa ar y buddsoddiad hwnnw.
Fe holodd yr Aelod am Seren fach. Wel, rwyf i wedi bod yn ffodus iawn i ddod y bore yma o gynhadledd Seren yn y Drenewydd, lle'r oedd prifysgolion o Gymru, y DU ac America yn cael eu cynrychioli. Mae mor gadarnhaol clywed pobl o Rydychen a Chaergrawnt yn sôn am y niferoedd uchel o gyfweliadau y maen nhw wedi eu cynnig i fyfyrwyr Cymru eleni, sydd ymhell uwchlaw'r darlun cenedlaethol. Maen nhw'n gwybod am ansawdd myfyriwr Seren Lefel-A yng Nghymru ac maen nhw'n awyddus i gael yr ansawdd hwnnw yn eu sefydliadau nhw. Ond rydym wedi gwrando ar rieni ac athrawon hefyd ynglŷn â sut y gallwn ni gludo manteision Seren yn gynharach yng ngyrfa addysg plentyn, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod gennym gynlluniau peilot Seren fach yn cael eu cynnal eleni ym mhob canolfan Seren unigol. Ac, unwaith eto, fe hoffwn i ddiolch i gydlynwyr y canolfannau a'r ysgolion sy'n cymryd rhan sydd wedi gweithio'n galed iawn i ddechrau treialu'r dull hwnnw ar gyfer myfyrwyr iau.
O ran yr hyn sydd wedi gwneud y gwahaniaeth, mae'n amhosibl cyfeirio at un ffactor unigol, ond rwy'n credu bod y gwelliant sylweddol yn y perfformwyr gorau wedi cael effaith. A phan ddywedaf 'gwelliant sylweddol', nid fy ngeiriau i mo'r rhain, ond geiriau'r OECD wrth ddisgrifio'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud. Ond gadewch imi fod yn hollol glir, fel y dywedais i yn fy natganiad, er ein bod ni wedi gweld y gwelliant sylweddol hwnnw, nid ydym ar gyfartaledd yr OECD eto o ran canran y myfyrwyr sy'n perfformio ar y lefel honno, a dyna pam mae'n rhaid i ni barhau â'n cefnogaeth i'r rhai mwy galluog a thalentog, oherwydd dyna un o'r ffyrdd y byddwn ni'n taro'r targed o 500 yn y rownd nesaf.
Materion yn ymwneud ag adnoddau—roeddwn i'n nodio fy mhen pan oedd Mark Reckless yn siarad, oherwydd roedd yn berffaith iawn yn yr hyn a ddywedodd: roedd athrawon yng Nghymru wedi mynegi teimladau cryfach am y ffaith nad oedd ganddyn nhw'r adnoddau angenrheidiol—gwerslyfrau a TGCh yn yr achos hwn. Yr hyn sy'n ddiddorol yw nad oedd athrawon yn ysgolion Cymru wedi nodi nad oedd ganddyn nhw'r niferoedd addas o staff. A dweud y gwir, roedd hynny ar gyfartaledd yr OECD. Felly, nid oedd athrawon Cymru yn teimlo nad oedd ganddyn nhw'r personél addysgu angenrheidiol. Ac rwy'n nodio fy mhen am ein bod ni wedi cydnabod y mater hwnnw yn Llywodraeth Cymru. Felly, eleni, er enghraifft, rydym wedi darparu, ar sail genedlaethol, i bob ysgol unigol yng Nghymru, Microsoft Office, fel nad oes raid i ysgolion ei brynu. Mae'n gyffredinol, mae pawb ar yr un maes chwarae, ac rydym wedi gallu gwneud hynny gan arbed cost, mewn gwirionedd, i'r gwariant cyffredinol. Ac eleni yn unig, fe fyddwn ni'n buddsoddi £50 miliwn mewn technoleg addysg. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni'n gwneud hynny mewn partneriaeth â phob un o'r 22 awdurdod lleol. Bydd gan bob awdurdod lleol gyfran o'r buddsoddiad hwnnw, ac fe ofynnwyd i bob awdurdod lleol anfon asesiad o sefyllfa bresennol eu hysgolion nhw. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl asesiadau hynny erbyn hyn, ac rydym nawr yn y broses o sicrhau y caiff y £50 miliwn ei wario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Ac rwy'n credu y bydd hynny'n mynd rhan o'r ffordd i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon y mae athrawon wedi eu codi. Mae hwnnw'n ymateb ymarferol, hyd yn oed cyn inni gael yr adroddiad hwn.
A gaf i ddweud, o ran y targedau a fethwyd, nid oes angen i'r aelod ond edrych ar y ddogfen genhadaeth genedlaethol lle'r oeddem ni'n dweud mai'r targed y tro hwn oedd gweld cynnydd ym mherfformiad y perfformwyr uchel? Rydym wedi cyflawni hynny. Mae'r genhadaeth genedlaethol yn datgan yn gwbl glir hefyd ein bod ni'n dymuno cyrraedd y targed hwnnw o 500 erbyn y gyfres nesaf o ganlyniadau PISA. Yn ddiddorol, os edrychwch chi ar ddarllen ymysg genethod, mewn gwirionedd, nid yw'r sgôr hwnnw mor bell i ffwrdd. Ond, yn amlwg, mae mwy o waith i'w wneud eto i gyrraedd y targed hwnnw, ac rwyf i, ac, yn fwy pwysig na mi, mae pawb sy'n ymwneud â'r system addysg yn benderfynol o fwrw ymlaen i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd.
Hoffwn innau dalu teyrnged i ddisgyblion Cymru am eu holl waith caled, yn ogystal â diolch i'r holl staff ac athrawon am eu hymdrechion diflino i sicrhau bod ein pobl ifanc ni yn cyflawni. Mae profion rhyngwladol PISA yn un ffordd o fesur cynnydd, ond mae'n rhaid defnyddio'r data'n ddoeth, a dwi'n edrych ymlaen at gael cyfle i ddadansoddi'r cynnwys yn ofalus dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf ac i weld beth ydy barn arbenigwyr addysgol ar y canlyniadau diweddaraf yma.
Mae yna gynnydd bychan wedi bod ar draws y tri maes—mathemateg, gwyddoniaeth a darllen—ers 2015, sy'n galonogol. O'i gymharu â 2006, cafwyd cynnydd bychan mewn mathemateg a darllen ond gostyngiad ym maes gwyddoniaeth. Rhaid cofio bod dirywiad wedi digwydd yn y tri maes yn 2009 a 2012 a dim ond megis ailgydio yn sefyllfa 2006 ydym ni rŵan. Mae'n dda gweld arwyddion y gallai'r canlyniadau fod nôl ar y trywydd cywir wedi cyfnod maith o ddirywiad, ond mae hi'n ddyddiau cynnar ac mae'r her yn fawr.
Fy nghwestiwn cyntaf i felly ydy: pa mor hyderus ydych chi y byddwn ni yn cyrraedd 500 pwynt erbyn 2021? Dwi'n falch iawn o'ch clywed chi heddiw'n cadarnhau bod y targed yna yn dal yna, ond pa mor hyderus ydych chi y byddwn ni'n ei gyrraedd o a beth ydy'ch blaenoriaethau chi ynglŷn â'r gwaith sydd angen ei wneud er mwyn bod yn y sefyllfa yna yn 2021? Achos mae'n amlwg bod angen parhau efo'r cynnydd bychan yma sydd wedi digwydd rŵan ers 2015, ond mae hi yn gyfnod o newid anferth yn ein system addysg ni, ac mae'r cwricwlwm newydd angen cael cyfle i wreiddio, ac mae angen darparu adnoddau a chyfleoedd digonol ar gyfer datblygiad proffesiynol ein staff ni.
Mae'n fy mhryderu i ei bod hi'n ymddangos bod yna anghysondeb mawr ar draws Cymru o safbwynt sut mae athrawon yn ymgymryd â her y cwricwlwm newydd. Dwi'n sôn am astudiaeth mae Prifysgol Caerdydd wedi'i gwneud, sy'n dangos nad yw bron i 40 y cant o athrawon mewn ysgolion arloesi yn teimlo eu bod nhw'n rhan o ddatblygu'r cwricwlwm. Rŵan, dwi'n sôn am 40 y cant mewn ysgolion arloesi; mae'n debyg bod y ffigur yn dipyn is mewn ysgolion sydd ddim yn rhan o'r gyfundrefn o gyflwyno'r cwricwlwm newydd. A dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo fi bod anghysondeb fel yna—mae angen cael gwared ohono fo. Felly, fy ail gwestiwn i ydy: beth ydy'r cynlluniau sydd gennych chi i sicrhau bod athrawon ymhob ysgol yn rhan o'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm newydd?
Ar ben y gwaith cwricwlwm, mae trefniadau asesu a'r systemau atebolrwydd yn newid, ac yn gefndir i hyn oll mae problemau recriwtio athrawon, ac mae un mewn tri o athrawon newydd yn gadael yr ystafell ddosbarth o fewn pum mlynedd. Ac yn ogystal â'r uchelgais o gyrraedd y 500, y targed yma, yn amlwg hefyd—. A dwi'n rhannu'r uchelgais ac yn hyderus bod angen inni fod efo'r uchelgais yna, ond does bosib bod angen chwistrelliad o arian cyson i ysgolion erbyn hyn ac mae angen gwella amodau gwaith athrawon. Mae angen i athrawon fedru neilltuo eu hamser i addysgu ac ysbrydoli ein disgyblion ni, ac mae angen gwneud y proffesiwn yn ddeniadol i ddarpar athrawon, gan arwain at recriwtio mwy i mewn i'n hysgolion ni.
Mi ydym ni fel plaid wedi addo darparu £300 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn tuag at gyllido ein hysgolion ni yn sgil y gostyngiad o 8 y cant mewn termau real o wariant sydd wedi digwydd, ac, er bod rhywun yn gwybod am sefyllfaoedd fel Estonia ac yn y blaen, mae'r athrawon yn dweud wrthym ni fod y pwysau ariannol maen nhw'n eu hwynebu yn llesteirio eu gwaith nhw. Rydym ni'n gwybod bod llawer gormod o'n hathrawon mwyaf profiadol ni yn gorfod cael eu diswyddo wrth i ysgolion orfod gweithredu ar lai a llai o arian yn sgil toriadau. Ac mae hynny wedyn yn arwain at nifer fawr o blant mewn dosbarthiadau, llai o gyfle i roi sylw i anghenion unigol, a gwaith bugeiliol yn cael ei esgeuluso a'i dorri.
A dwi'n troi at y pwynt olaf yna wrth gloi. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at bryderon ynghylch llesiant disgyblion. Mae hyn yn bryderus. Maen nhw'n adrodd am lefelau o ddiflastod a phryder sy'n uwch na'r cyfartaledd rhyngwladol. Hoffwn i gael eich ymateb chi i hynny, a beth rydych chi'n mynd i'w wneud yn ei gylch o. Mae'r comisiynydd plant, a'r pwyllgor plant a phobl ifanc, wedi bod yn tynnu sylw at y broblem llesiant yn benodol ers tipyn o amser rŵan, ond mae'n ymddangos bod y cynnydd yn araf, a hoffwn weld os oes gennych chi gynlluniau penodol i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol yma ynghylch llesiant disgyblion. Diolch.
Diolch yn fawr, Siân. Ac a gaf i ddiolch am gydnabod ymdrechion athrawon i gyflawni'r canlyniadau hyn heddiw? Fel yr aethoch chi ymlaen i'w ddweud, rydym ynghanol y diwygiad mwyaf o addysg yn unman yn y Deyrnas Unedig, felly rydym yn gofyn llawer iawn gan ein proffesiwn eisoes wrth gymryd rhan yn y diwygiadau hynny, yn enwedig yn y cwricwlwm. O ganlyniad, mae gallu cyflawni'r canlyniadau hyn yn tystio'n wirioneddol i'w gallu nhw nid yn unig i gymryd rhan yn y diwygiadau hynny, ond i barhau â'r gwaith beunyddiol o addysgu ein plant ni. Ac rydym ni'n gofyn llawer iawn ganddyn nhw.
A gaf i gytuno â chi hefyd bod angen inni ddefnyddio'r data'n ddoeth? Weithiau, ar ôl cymryd rhan yn y profion PISA, mae'n teimlo fel ein bod yn aros am heddiw, pan rydym yn gweld y sgoriau crai, a dyna ddiwedd y stori. A dweud y gwir, mae toreth o wybodaeth yma y mae angen inni ei dadansoddi'n ofalus, nid yn unig o ran ein hysgolion ein hunain, ond ar gyfer edrych ar dueddiadau rhyngwladol a chymryd rhan wirioneddol yn y naratif hwnnw, fel y gallwn weld beth yn union y mae'n ei olygu i gymryd rhan yn y profion PISA.
Rydych chi yn llygad eich lle: heddiw, rydym wedi gweld y sgoriau gorau erioed ar gyfer mathemateg a darllen ers i ni gymryd rhan yn 2006. Nid yw ein sgoriau gwyddoniaeth wedi cyrraedd yno eto, ac roeddwn i'n glir iawn y tu allan i'r Llywodraeth, fel yr oeddwn i'n glir y tro diwethaf, pan gawsom ni'r canlyniadau ar gyfer 2015, na allai neb ddisgrifio'r blynyddoedd cyfamserol hynny fel blynyddoedd da na'r sgoriau'n rhai y byddai unrhyw un ohonom ni'n dymuno eu gweld. A dyna pam yr ydym ni wedi cymryd rhan yn y broses hon o ddiwygio addysg. Ond yr hyn y mae'r canlyniadau hyn yn ei ddangos yw nad yw dirywiad yn anochel—fe allwn ni wneud yn well, ac mae'n rhaid inni wneud yn well.
Sut y gallwn ni gyflawni hynny? Wel, fe wnawn ni hynny drwy ganolbwyntio ar y pedwar amcan craidd ar gyfer galluogi o fewn ein cenhadaeth genedlaethol. Ac rydym yn canolbwyntio ar y rhain nid oherwydd bod angen cyrraedd targed PISA o 500, ond oherwydd ein bod ni'n gwybod, drwy ganolbwyntio ar yr amcanion hynny, y byddwn ni'n datblygu ac yn cyflenwi safonau dyrchafedig, fe fyddwn ni'n cau'r bwlch cyrhaeddiad, ac fe fyddwn ni'n cyflwyno'r system addysg honno a fydd yn ffynhonnell balchder cenedlaethol. Felly, beth fyddwn ni'n ei wneud? Fe fyddwn ni'n parhau i fuddsoddi yn ein proffesiwn addysgu, drwy sicrhau y cânt yr adnoddau sydd eu hangen i ymgymryd ag addysg broffesiynol. Fe fyddwn ni'n canolbwyntio ar lesiant ein plant. Fe wyddom fod plant sydd â lefelau uwch o lesiant, ar gyfartaledd, yn gwneud yn well yn academaidd. Felly, fe fydd angen inni barhau i ganolbwyntio ar sicrhau y gall ein plant fanteisio i'r eithaf ar eu cyfleoedd nhw yn yr ysgol drwy fynd i'r afael â materion llesiant.
Mae angen cyfundrefn atebolrwydd ac asesu arnom sy'n ysgogi'r mathau cywir o ymddygiad yn ein hysgolion ni. Pan edrychwn ar drefn atebolrwydd sy'n rhoi'r un pwysoliad i rai cymwysterau gwyddoniaeth penodol, yn hytrach na chymwysterau gwyddoniaeth TGAU, a hynny'n ddealladwy—yn ddealladwy iawn—fe welsom ymgyrch enfawr tuag at y mathau penodol hynny o gymwysterau. Ac yna rydym ni'n edrych ar ein dirywiad ni o ran sgoriau gwyddoniaeth ac rydym ni'n gofyn tybed beth ddigwyddodd. Rydym wedi newid y marciwr atebolrwydd hwnnw, ac mae'r hyn yr ydym ni wedi ei weld yn gynnydd sylweddol, o dros 50 y cant, yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio tri phwnc gwyddoniaeth TGAU, a'r myfyrwyr hynny sy'n gwneud yn dda ynddyn nhw. Felly, mae ysgogi trefn atebolrwydd sy'n gyrru'r mathau cywir o ymddygiad mewn ysgolion, nid yn academaidd yn unig, ond gan fesur llesiant hefyd a sut mae ysgolion yn mynd i'r afael â llesiant, yn gwbl eglur.
Rydym wedi bod yn glir iawn hefyd ein bod wedi esgeuluso'r pwynt pwysig o arweinyddiaeth yn y system addysg ac, yn rhy aml o lawer, nid ydym wedi bod yno yn sefyll gyda'n harweinwyr ysgol i roi cyfle proffesiynol iddyn nhw a'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i wneud y gorau y gallan nhw. Felly, canolbwyntio—dysgu proffesiynol, llesiant, atebolrwydd ac asesu ac arweinyddiaeth yw'r meysydd y mae angen inni ganolbwyntio arnyn nhw, a dyna fydd yn sbarduno ein taith ni ymlaen o ran addysg.
Mae rhoi'r adnoddau priodol i ysgolion yn bwysig. Mae'r OECD yn dweud hynny, ond mae'n mynd yn ei flaen hefyd i ddweud nad yw gwario mwy a mwy o arian o reidrwydd yn cysylltu'n uniongyrchol â chanlyniadau gwell a gwell. Y ffordd yr ydych chi'n gwario'r adnoddau sydd ar gael sy'n gwneud y gwahaniaeth. A dyna pam, wrth gwrs, yr ydym wedi cyflogi Luke Sibieta i gynnal ein gwerthusiad annibynnol o wariant ar addysg yng Nghymru—ie, i edrych ar y swm cyfan yr ydym ni yn Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer addysg, ond hefyd i ystyried yn wirioneddol sut y defnyddir yr arian hwnnw yn ein system ni wedi hynny, ac a yw'n cael ei defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol. Felly, nid wyf i'n ceisio ffoi oddi wrth y sefyllfa, pan ydym yn gwbl hyderus bod pob ceiniog yn cael ei defnyddio i'r eithaf, a dyna pam mae gennym rywun o'r tu allan i'r Llywodraeth yn edrych ar y mater hwnnw.
Llesiant: mae canlyniadau adran llesiant PISA yn peri pryder i bob un ohonom ni, rwy'n siŵr. Fe fydd unrhyw un ohonom sydd â phlant, neu wyrion, nithod, neiod, neu sydd â diddordeb cyffredinol yn llesiant plant ein cenedl ni, yn awyddus i ddeall beth sydd wrth wraidd y mater hwnnw. Er gwaethaf yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn ei atebion i'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, mae angen edrych ar y canlyniadau hyn, ac mae angen gweld beth arall y gallwn ni ei wneud. Wrth gwrs, rydym yn dechrau mynd i'r afael â hynny eisoes, yn fy marn i, yn y gwaith ar ein dull ysgol gyfan, yr ydym ni wedi dechrau arno ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac addysg, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo'n dda iawn. Fe gaiff Vaughan Gething a minnau fy nal i gyfrif ym mhob cyfarfod gan Lynne Neagle—a chredwch chi fi, nid yw hi'n aros tan i'r cyfarfodydd ychwaith cyn fy nal i gyfrif ynglŷn â'r materion hynny. Felly, rydym yn dal i weld y gwaith ar y dull ysgol gyfan y mae'r Llywodraeth yn ymgymryd ag ef i fynd i'r afael â hynny.
Wrth gwrs, bydd iechyd a llesianr yn un o'r chwe maes addysg a phrofiad o fewn ein cwricwlwm newydd. Ond mae angen inni hefyd, Siân—ac rwy'n gobeithio y byddech chi'n cytuno â mi—edrych y tu allan i'n system addysg ni ac ar rai o'r ffactorau sy'n gyrru hynny o bosib—felly sut gallwn ni weithio gyda'n gwasanaeth ieuenctid, yn enwedig yn y blynyddoedd allweddol hyn i bobl ifanc yn eu harddegau, sut y gallwn ni sicrhau bod ein gwasanaeth ieuenctid —. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn buddsoddiad yn y flwyddyn ariannol hon yn ein gwasanaethau ieuenctid; rwyf wedi cael trafodaethau sylweddol a hir gyda'r Gweinidog Cyllid ynghylch ein gallu ni i barhau i fuddsoddi yn y gwasanaethau ieuenctid. Ond mae'n rhaid inni edrych hefyd ar faterion, a godwyd, eto, yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ynghylch tlodi. Os ydych chi'n blentyn sy'n byw mewn tlodi, mae'n siŵr y byddwch chi'n rhoi ateb yn yr arolygon hynny eich bod chi'n teimlo'n ddigalon. Os ydych chi'n gwylio eich mam a'ch tad yn cael trafferthion, os nad ydych yn gwybod a fydd gwres yno wedi ichi gyrraedd adref, os ydych yn mynd gyda'ch rhiant i lawr i'r banc bwyd, oherwydd dyna'r unig ffordd y gwyddoch chi y bydd bwyd i'ch teulu chi'r wythnos honno, mae'n siwr y byddai hynny'n effeithio ar eich llesiant chi. Ac, felly, mae cyfrifoldeb ar draws Llywodraeth Cymru i gymryd camau i fynd i'r afael â'r materion hyn. Felly, oes, mae gan ysgolion ran i'w chwarae—wrth gwrs eu bod nhw'n gwneud hynny. Ond mae gan y Llywodraeth yn fwy eang ac, yn wir, y gymdeithas yn fwy eang, ran i'w chwarae hefyd i sicrhau bod ein plant ni'n cael ymdeimlad gwell o lesiant; nid dim ond gwaith i'r ysgolion yn unig yw hyn.
Roeddwn i'n eich llongyfarch chi, Gweinidog Addysg, mewn sylwadau cynharach, ynghyd â phawb dan sylw, am y gwelliannau yr ydym ni wedi eu gweld yng nghanlyniadau PISA y tro hwn. Wrth ddarllen eich datganiad yn gynharach, roeddwn i braidd yn bryderus y gallech chi fod ychydig yn rhy barod i ganmol eich hunain. Er enghraifft, roedd y sylwadau sy'n gadarnhaol ond nid yn mynegi perffeithrwydd, braidd yn ormodol, ac nid yw hyn cystal â gweddill y DU. Ond rwy'n credu yn yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud nawr yn yr atebion i'r ddau siaradwr blaenorol—. Ac roeddech chi'n ychwanegu ar ddiwedd eich datganiad—y fersiwn lafar ohono—mai dim ond megis dechrau yw hyn, ac rwyf innau'n cydnabod hynny. Er hynny, pan ddywedwch ein bod wedi treulio llawer gormod o amser yn llusgo'r tu ôl i wledydd eraill—fe wnaethoch chi sôn am yr Iseldiroedd a'r Swistir, ac yna roeddech chi'n dweud, 'Wel, yr Alban a Gogledd Iwerddon, o ran hynny, rydym ni'n ymuno â nhw nawr ym mhrif ffrwd yr OECD.' A ydych chi'n cydnabod bod yr Alban a Gogledd Iwerddon gryn dipyn yn uwch na'r brif ffrwd ar gyfer darllen, ac nid ydym wedi cyrraedd y fan honno eto yn y gymhariaeth gyffredinol?
A gaf i gyfeirio at y—? Fe welsom ni sleidiau yn cael eu dangos yn gynharach a oedd â bathodyn Llywodraeth Cymru ac Addysg Cymru arnyn nhw. Ac roedd un o'r rhain am berfformwyr uchel. Roeddech chi'n sôn hefyd nawr am y gwelliant ar lefel 5 neu uwch mewn darllen o 3 y cant i 7 y cant—gwelliant sylweddol, ac er bod hyn ar ei hôl hi mae'n dechrau agosáu at gyfartaledd yr OECD o 9 y cant. O ran mathemateg, ddim cystal—rydym wedi codi o 4 y cant i 7 y cant, ac mae hynny'n cymharu â chyfartaledd o 11 y cant. Roeddech chi'n dweud yn eich datganiad gynnau fach—cyfran uwch o'r perfformwyr uchel yn y ddau faes arall, sy'n cyfeirio at fathemateg a gwyddoniaeth. A gwelwn hyn hefyd yn y sleid a ddangoswyd yn gynharach. Mewn gwyddoniaeth, mae'n dweud bod hyn wedi codi o 4 y cant yn 2015 i 5 y cant yn 2018 ar lefel 5 ac uwch. Serch hynny, yn yr adroddiad canlyniadau a ddosbarthwyd inni yn gynharach hefyd, rwy'n nodi ar dudalen 194, mae'n dweud, ar gyfer gwyddoniaeth, mai dim ond 4 y cant a gafodd lefel 5 neu uwch yng Nghymru yn 2018. Felly, tybed a allem ni wirio hynny, ac os nad ydym wedi gweld y gwelliant o'i gymharu â'r 4 y cant yn 2015, pe gallem ni, o leiaf, unioni hynny gan gydnabod y gwelliannau mewn meysydd eraill ar y lefel hon, sy'n cyfateb i'r pwyslais a roddwyd gennych chi yn gynharach ar gyfran A* Lefel A.
Ers ichi ddechrau yn eich swydd, rwyf wedi holi cryn dipyn arnoch chi ynglŷn â phrosiect Seren, ac rwyf i o dan yr argraff ei fod yn rhywbeth yr ydych chi wedi bod yn ei annog yn bersonol ac wedi perswadio cydweithwyr i'w gefnogi hefyd. Efallai ein bod ni'n gweld rhai o ganlyniadau hyn yn dod i'r amlwg. Eto, er hynny, fe fyddwn i'n dweud bod gwelliannau wedi digwydd ac rwy'n barod i groesawu'r rhain, rwy'n rhybuddio rhag mynd yn rhy bell o ran ein cymharu ni â gweddill y DU ynghylch ein sefyllfa bresennol gyda Rhydychen a Chaergrawnt neu Grŵp Russell. Oes, mae gwelliannau wedi bod, ac rwy'n falch iawn bod staff derbyn yn cydnabod hynny. Ond a ydych chi'n cytuno bod ffordd bell i fynd eto, ac mae'n bwysig iawn cadw at y llwybr hwnnw os ydym am ddweud ein bod ni'n well na rhannau eraill o'r DU? Fe fyddwn i'n rhybuddio rhag awgrymu ein bod ni wedi cyrraedd y marc eto.
Un maes yr hoffwn i holi yn ei gylch yw bod gennych chi'r uchelgais i gau'r bwlch cyrhaeddiad o ran y sail economaidd-gymdeithasol a chodi safonau hefyd. Tybed a fydd yna densiwn yn dod i'r amlwg rhwng y ddau nod hyn, wrth inni ymlafnio tuag at hynny. Mae'r bwlch cyrhaeddiad yn gymharol wastad ar gyfer Cymru o'i gymharu â gweddill y DU, ond yn arbennig o ran cyfartaledd yr OECD, lle mae cynnydd serth iawn ledled y grwpiau economaidd-gymdeithasol. Ac yn rhyngwladol, fe fydd cryn dipyn o wledydd mewn gwirionedd yn gweld mwy o wariant ar blant i rieni cefnog na rai tlotach, ac efallai y byddai'n unioni hynny, i ryw raddau. Ond rydym yn anghyffredin iawn wrth fynd ymhell y tu hwnt i hynny a gwario llawer mwy ar blant rhieni llai cefnog nag ar y rhieni mwy cefnog.
Ac rwy'n sylwi, wrth gymharu â Lloegr ym maes darllen, bod y rhan fwyaf o'r gwahaniaeth â Lloegr yn hanner uchaf y dosbarthiad economaidd-gymdeithasol, ac yn y fan honno, rydym ni ar gyfartaledd 30 i 40 o bwyntiau yn is yn y profion darllen nag yn Lloegr. Os ydym yn dymuno cau'r bwlch hwnnw gyda Lloegr, efallai y bydd angen gweld gwelliannau sylweddol ar y lefel honno o'r sefyllfa economaidd-gymdeithasol, yn ogystal â'r lefel is lle, pe baech chi'n gwneud y cyfan drwy gau'r bwlch o ran cyrhaeddiad, byddech yn gweld cyrhaeddiad a fyddai i'w ryfeddu ar y lefelau is, ac rwy'n croesawu eich uchelgais yn hynny o beth. Ond rwy'n holi o ran cyllid rhai o'r ysgolion, sydd â'u cymeriant economaidd-gymdeithasol yn yr hanner uchaf, ac fe gefais i fy nharo gan y lefel gynradd, sef prin £3,000, ychydig yn uwch weithiau, y flwyddyn, fesul plentyn, ac i ryw raddau, yn yr uwchradd. Yn Lloegr, yr hyn a welir yw codi lefel yr ysgolion hynny sy'n gwario llai, ac mae'n ofid gennyf i, os na welir hynny yng Nghymru hefyd fe fydd hi'n anodd iawn cyrraedd y lefel honno o 500, ac yn arbennig felly i fod â'n lefelau ni'n agos at rai Lloegr o ran darllen yn benodol.
Yn olaf, rydych chi'n cyfeirio at gyngor gan yr OECD, ac ar ôl y canlyniadau siomedig y tro diwethaf, rydych chi'n pwysleisio'r canlyniadau hyn a'r cyngor hwn ac yn ymgysylltu â nhw. Tybed a wnewch chi egluro beth yw'r cyngor hwnnw? Mae gennym ni'r adroddiad hwn o 262 o dudalennau ar ganlyniadau. Nid wyf yn gwybod pryd y cawsoch chi hwn neu a oes gennych chi ddeunydd arall nad ydym wedi ei weld eto. Beth ydych chi'n ei wneud gyda'r OECD o ran cyngor? A yw hon yn berthynas barhaus? A oes gan ysgolion sy'n cymryd rhan ym mhrofion PISA gyfle i elwa ar hynny hefyd? A beth, hyd yn hyn, yw'r darnau allweddol o gyngor y maen nhw'n ei ddweud wrthych sy'n angenrheidiol nawr, ar ôl edrych ar y canlyniadau hyn a'r gwelliannau o'u cymharu â'r tro diwethaf, er bod hynny'n golygu llusgo ar ôl gweddill y DU ar sawl cyfrif o hyd?
A gaf i, Llywydd, ddiolch i Mark Reckless am iddo gydnabod ymdrechion y staff a'r myfyrwyr wrth ennill y canlyniadau hyn heddiw? Pe caf i ddechrau gyda'r pwynt olaf yn gyntaf, nid wyf i'n gwybod pa ysgolion a safodd y profion PISA. Mae rhai pobl yn rhyfeddu at hynny, ond mae hynny'n rhan o'r amodau. Ni allaf ddweud wrthych pa ysgolion a safodd a pha ysgolion na safodd y profion PISA. Felly, nid ydym yn hwyluso perthynas waith barhaus gydag ysgolion unigol a'r OECD. Mae'r OECD yn gweithio ar lefel system i system, ac felly, newydd gael yr adroddiad gan yr OCED yr ydw i yn ystod y dyddiau diwethaf—unwaith eto, mae hynny'n rhan o'r amodau.
Felly, rwyf wedi cael llai na—gadewch inni weld, dydd Iau, dydd Gwener—. Wel, prynhawn Mercher y gwelais i'r canlyniadau cychwynnol ac yna fe gefais i'r adroddiad ddydd Iau, felly dim ond ychydig ddyddiau a gefais i ddod yn gyfarwydd ag ef.
Ond rydym wedi gweld yr OECD yn ôl yng Nghymru yn gynharach yn nhymor yr hydref i roi asesiad annibynnol i ni, unwaith eto, o'n sefyllfa bresennol o ran ein taith ddiwygio ni, ac maen nhw'n gobeithio adrodd am hynny rywbryd yn y flwyddyn newydd. Felly, unwaith eto, rydym wedi eu comisiynu nhw, rydym wedi gofyn iddyn nhw ddod i mewn i gael golwg ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud a chraffu arnom ni fel Llywodraeth; mynd allan i ysgolion a siarad â phenaethiaid; siarad ag awdurdodau addysg lleol; siarad â gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol i ofyn iddyn nhw fynegi eu sefyllfa bresennol nhw; a siarad â rhanddeiliaid eraill, ac fe fydd yr adroddiad annibynnol hwn yn cael ei gyflwyno i ni, fel y dywedais i, yn y flwyddyn newydd. Ac mae honno'n ymdrech ddiffuant i gadw'r pwysau arnom, i gael craffu annibynol yn edrych fel hyn o'r tu allan ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud fel nad ydym yn mynd dros ben llestri, neu'n mynd yn rhy hyderus yn ein gallu ni ein hunain. Mae'r craffu hwnnw o'r tu allan yn ein cadw ni'n ddiffuant o ran cyflawniad ein rhaglenni ni, ac yna rydym yn defnyddio'r cyngor hwnnw i ddiwygio neu addasu pethau sy'n gweithio'n dda, neu os nad yw pethau'n gweithio cystal, i allu ymateb yn unol â hynny. Felly, fe ddaw hynny yn y flwyddyn newydd.
Roeddech chi'n sôn am fater y llwybr, ac rwyf i'n credu bod y llwybr yn bwysig. Yr hyn sy'n rhoi rhywfaint o foddhad i mi heddiw yw ein bod ni wedi gallu cynnal, dros ddau gylch erbyn hyn, y gwelliant hwnnw o ran mathemateg, a dyna'r hyn y mae angen inni ei weld yn digwydd yn y meysydd eraill hefyd. Er ein bod ni ar i fyny gyda darllen, mae hynny o'i gymharu â'r gwaelod isel yr oeddem ni arno'r tro diwethaf, ac er ein bod wedi codi mewn gwyddoniaeth, sy'n wahanol i weddill y DU, unwaith eto, mae hynny o sylfaen isel iawn. Dyma'r tro cyntaf erioed, mewn gwirionedd, inni allu gwella ein sgôr mewn gwyddoniaeth, ond mae'n rhaid i hynny fod yn gynaliadwy. Rydym wedi gweld hynny dros ddau gylch erbyn hyn ar gyfer mathemateg, sy'n gallu rhoi mwy o hyder inni, yn fy marn i, ac fe fydd yn rhaid inni weld hynny'n parhau yn y ddau faes arall hefyd.
O ran tegwch a rhagoriaeth, rwyf i o'r farn ei bod yn bwysig dwyn i gof bod y bwlch anfantais yng Nghymru yn sylweddol is, a bod disgyblion yng Nghymru yn gymharol fwy galluog i oresgyn anfanteision eu cefndir nhw nag yng nghyfartaledd gwledydd yr OECD. Felly, rydym ni'n cau'r bwlch cyrhaeddiad, ac rydym yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar ein pobl ifanc a'r offerynnau sydd eu hangen arnyn nhw i oresgyn anfantais y gallen nhw eu cludo gyda nhw i'r system. Yr hyn sy'n bwysig hefyd yw nad oedd disgyblion yng Nghymru sydd o gefndir mewnfudol yn wahanol iawn i ddisgyblion nad ydyn nhw'n fewnfudwyr o ran eu perfformiad darllen sydd, unwaith eto, yn uwch na chyfartaledd yr OECD. Felly, o ran dysgwyr a allai wynebu amrywiaeth o heriau wrth ymuno â'r ysgol, boed hynny o bosib o deulu nad yw'n siarad Cymraeg neu Saesneg, neu'n dod o deulu difreintiedig yn gymdeithasol, mae ein system ni'n helpu'r plant hynny i wneud yn dda.
Ond a yw hynny'n golygu bod tensiwn rhwng ein cefnogaeth ni i ddisgyblion mwy galluog a thalentog o'i gymharu â'n cefnogaeth ni i'n myfyrwyr o gefndir mwy difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol? Nid wyf i'n credu bod tensiwn yno. Ni all y Llywodraeth anwybyddu unrhyw un. Mae'n rhaid i'r system addysg fod yn system sy'n gweithio i bob disgybl unigol i'w alluogi i gyrraedd ei lawn botensial, boed yn ddisgybl ag anghenion dysgu ychwanegol dwys, fel y gwelais i yn Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod yng Nghaerffili ddoe, neu'n ddisgyblion fel y rhai y gwnes i gyfarfod â nhw heddiw sydd ar eu ffordd i brifysgolion byd enwog. Mae'n rhaid creu system addysg sy'n caniatáu i bob unigolyn gyrraedd ei lawn botensial.
Ni wnaf i ymddiheuro byth am y buddsoddiad yn y grant datblygu disgyblion. Fe wyddom ni fod y plant hynny'n llai tebygol o wneud yn dda, ac nid wyf i'n dymuno byw mewn gwlad lle mae maint cyflog eich rhieni neu gefndir eich bywyd chi'n eich dynodi ac yn dweud wrthoch chi o'r crud, 'Dyma yw eich tynged chi.' Mae'n rhaid atal hynny. Mae'n rhaid rhoi cyfle i alluoedd cynhenid pob plentyn ddisgleirio, heb ystyried eu cefndiroedd—heb ystyried eu cefndiroedd nhw. Ac nid wyf yn mynd i ymddiheuro byth am fynd ar ôl y freuddwyd honno i'r plant hynny.
O ran darllen, rydych chi'n iawn; nid ydym mewn sefyllfa dderbyniol o ran ein sgoriau darllen, ac mae hynny'n arbennig o wir ar gyfer ein bechgyn. Fe fydd angen inni ystyried ein perfformiad a deall beth arall y gallwn ni ei wneud i sicrhau cynnydd yn hyn o beth. O ran darllen i ferched, mae eu sgôr nhw'n sylweddol uwch, ond mae gennym ni—a fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef hynny—her yn y fan hon, yn enwedig o ran y bechgyn, i godi'r lefel ddarllen hon. Cafwyd llawer o adroddiadau ar y ffigur o 44 y cant o bobl nad ydyn nhw'n darllen llyfrau. Nawr, nid wyf i'n gwybod a yw'n rhy hwyr yn hynny o beth, ond gwn y gellir olrhain hyn i'r blynyddoedd cynnar, a datblygu arferion darllen yn gynnar yng ngyrfa addysgol y plentyn, a datblygu cariad at ddarllen. Mae'n rhaid inni ennyn y diddordeb hwn o oedran cynnar. Mae troi'n sydyn at blentyn 15 oed—ac yn fam i blentyn 15 oed, rwy'n gwybod hyn—a dweud, 'Mae'n rhaid iti ddarllen y llyfr hwn' yn annhebygol o wneud llawer o ddaioni. Mae'n rhaid i ni ddechrau ar hynny eto yn ein blynyddoedd cynharaf a datblygu'r cariad at ddarllen a'r arfer o ddarllen. Ac, wrth gwrs, mae llawer iawn o waith i'w wneud gan y rhieni. Gall rhieni ein helpu ni'n aruthrol, a helpu ysgolion yn fawr iawn, drwy ddarllen gyda'u plant yn y cartref o oedran cynnar i wneud y plant yn gyfarwydd â'r arfer hwnnw o godi llyfr a chael difyrrwch o'i ddarllen. Ond mae'n rhaid cofleidio technoleg newydd hefyd. Efallai y gwnaiff pobl ifanc—rydym ni'n fwy tebygol o'u denu nhw i gymryd rhan mewn byd o eiriau os rhown wahanol ddewisiadau iddyn nhw, ond mae gennym ni waith i'w wneud eto yn hyn o beth, a fi a fyddai'r person cyntaf i gyfaddef ein bod ni'n is na'r DU o ran ein sgoriau darllen.
A gaf i ymuno ag eraill i longyfarch ein pobl ifanc a'u staff a'u gwaith? Rwy'n siŵr y bydd pawb ar draws y Siambr hon yn ymuno â mi i'w llongyfarch. Gweinidog, rydych chi wedi ateb llawer iawn o'r cwestiynau ar bwyntiau yr oeddwn i eisiau eu codi, oherwydd mae'n amlwg eich bod yn angerddol ynghylch hyn a gallwch chi weld yr angerdd hwnnw yn dod trwodd. Rwy'n cytuno â chi, mae'r blynyddoedd cynnar yn allweddol i fwynhau darllen oherwydd roedd gennyf i ddiddordeb mewn darllen—ac roedd Siân Gwenllian yn llygad ei lle—mae dadansoddi'r testun, nid yn unig y penawdau, yn bwysig. Mae pobl ifanc yn cael naw deg un y cant o'u deunydd darllen o sgyrsiau ar-lein, ac maen nhw'n dweud mai yn anaml, neu byth, y mae 44 y cant yn darllen llyfr. Mae angen ystyried sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â hynny ac annog pobl ifanc i ddefnyddio technoleg ar gyfer eu hymchwil a'u datblygiad. Nid oeddwn i'n gallu deall sut oedd yr elfen ddealltwriaeth o ddarllen, neu ddeall, fel y dywedodd Suzy, yn is na'r llinell ac eto i gyd, roedd ein myfyrdod a'n gwerthusiad yn uwch na'r llinell, sy'n amlwg yn bwynt hollbwysig.
Ond hefyd, rwyf eisiau atgoffa ein hunain o'r neges gadarnhaol yma: mewn gwirionedd, rydym ni wedi gwella naw lle mewn gwyddoniaeth yn y ffigurau cenedlaethol; rydym wedi gwella wyth lle mewn darllen; ac rydym wedi gwella saith lle mewn mathemateg. Felly, mewn gwirionedd, yn erbyn gwledydd eraill, yn bendant rydym wedi gwella ein hunain ac wedi codi'r llinell ac ni ddylem anwybyddu'r pwynt hwnnw. Nid mater o wella'r ffigurau unigol hynny'n unig yw hyn, rydym wedi codi yn erbyn gwledydd eraill hefyd, ac mae hynny'n hollbwysig. Sylwais hefyd fod y bwlch cyrhaeddiad wedi gostwng, er fy mod yn cydnabod nad yw'r deial 10 y cant a'r deial 90 y cant o reidrwydd ar y lefelau yr ydym ni eisiau iddyn nhw fod i allu cau'r bwlch hwnnw, ond yn rhoi gwell cyfartaleddau inni, ac mae angen gwneud rhywbeth ynglŷn â hynny.
A gaf fi ofyn y cwestiwn, yn amlwg, ynghylch sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â hyn? Mae rhai o'r pethau—. Rwy'n credu bod addysg alwedigaethol yn agwedd bwysig pan fyddwn ni'n cyrraedd rhai o'r lefelau hyn, oherwydd credaf y gall addysg alwedigaethol hefyd helpu rhai o'r disgyblion hynny i ddeall rhai o'r pwyntiau yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw. Nid yw'n ymwneud â'r agenda academaidd yn unig, ond yr agenda alwedigaethol hefyd, a gall y ddwy ddod at ei gilydd i'w cymeradwyo. Felly, sut y byddwch chi'n edrych ar sut y bydd yr agenda alwedigaethol a'r agenda academaidd yn eich cwricwlwm weithio i sicrhau y gallwn ni wella'r lefelau hynny o'r 10 y cant isaf a'r 10 y cant uchaf, sy'n rhoi'r ffigur gwell hwnnw i ni yn hynny o beth? Sut yr ydym ni'n sicrhau ein bod yn codi disgwyliadau ynghylch posibiliadau? Roeddech chi wedi sôn am gyrraedd y potensial, ond rydym ni eisiau codi'r disgwyliad a'r cyfleoedd a'r posibiliadau i'r bobl hynny gyrraedd y potensial hwnnw. Felly, beth yr ydych chi'n ei wneud i weithio tuag at hynny fel ein bod ni'n rhoi mwy o obaith iddyn nhw?
Soniodd Siân Gwenllian am athrawon. Unwaith eto, rwy'n codi cwestiwn yr athrawon hefyd. Sut mae annog mwy i mewn? Ond hefyd, ni adlewyrchwyd ein hathrawon absennol yn hynny, ond mae gennym lawer o athrawon cyflenwi'n dod i mewn. Sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â'r agenda athrawon cyflenwi i sicrhau nad yw hynny'n effeithio ar ddysgu ein pobl ifanc, fel y gallan nhw barhau i ddatblygu? Mewn llawer o ysgolion mae athrawon cyflenwi'n mynd a dod yn eithaf aml, ac mae hynny yn effeithio arnyn nhw. Rydych chi wedi sôn am fanciau bwyd a'u llesiant, ond gadewch inni beidio ag anghofio, mae llesiant yn effeithio ar ddysgu plant, ac mae hynny'n hollbwysig. Mae angen inni roi sylw i hynny.
Fe wnes i sylwi bod yr OECD yn adlewyrchu Andreas Schleicher a'i sylw: 'Rwyt ti ar y trywydd iawn.' Dyna'r hyn a ddywedodd ef: 'Rwyt ti ar y trywydd iawn. Dal ati', ond a allwch chi ein hargyhoeddi ni y bydd y newidiadau i'r cwricwlwm a gyflwynir gennych y flwyddyn nesaf yn ein cymryd ar y llwybr hwnnw'n barhaus, ac nad yw'n mynd i'n dargyfeirio oddi ar y llwybr i lwybr arall, i gyfeiriad arall? Oherwydd mae'n bwysig ein bod yn parhau â'r cynnydd a welwyd yn ystod y tair blynedd diwethaf. Rydym i gyd wedi galw am y cynnydd hwn. Ers 2015, rwy'n ei gofio—galwodd pob un ohonom ni am y cynnydd hwn. Rydym wedi'i gael nawr, gadewch inni ei ddathlu, ond gadewch inni hefyd wneud yn siŵr ei fod yn parhau, oherwydd dyna'r nod ar gyfer ein pobl ifanc, er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gallu elwa o wella ein systemau.
Hoffwn i ddiolch i David am ei ganmoliaeth i'n hathrawon a'n myfyrwyr ac am ei gwestiwn.
Nod y cwricwlwm newydd yw bod yn gwricwlwm llawer ehangach a fydd yn mynd i'r afael â'r wybodaeth y bydd ei hangen ar ein plant ni ond hefyd yn rhoi'r sgiliau a'r profiadau iddyn nhw. Ac mae hynny'n golygu, o bosib, fod mwy o botensial yn y cwricwlwm hwnnw ar gyfer ffocws mwy galwedigaethol. Ond byddwch chi hefyd yn ymwybodol bod Cymwysterau Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ar y cymwysterau, ac mae rhyw awgrym y dylid lleihau'r miloedd, yn llythrennol, o gymwysterau y gall plant eu gwneud, ond hynny, mewn gwirionedd, fydd y canllaw o ran y cymwysterau a fydd ar gael ar ôl yr amser yn yr ysgol. Ond mae'r cwricwlwm mwy eang hwn a gallu'r athrawon i gynllunio cwricwlwm sy'n diwallu anghenion y plant o'u blaenau ac anghenion cyflogwyr lleol a'r economi leol—rwy'n credu y bydd y rhyddid ehangach hwnnw yn gallu mynd i'r afael â mater hanfodol ymgysylltu.
Roeddwn i mewn ysgol yn ddiweddar yn cael fy nghyfweld gan fyfyrwyr, ac fe wnaethon nhw ofyn i mi enwi rhywbeth yr oeddwn i wedi'i astudio yn yr ysgol nad wyf erioed wedi'i ddefnyddio eto yn fy ngyrfa broffesiynol gyfan, ac rwy'n amau y gallwn i gyd feddwl am y mathau hynny o bethau. Ac fe wnaethon nhw roi rhestr faith o bethau i mi yr oedden nhw'n teimlo eu bod wedi'u dysgu yn yr ysgol ac yr oedden nhw wedi'u hargyhoeddi na fyddent byth yn mynd i fod o ddefnydd iddyn nhw. Mae'n rhaid inni wrando a rhoi cyfle i'n plant gael lleisio barn o ran, 'beth sydd ei angen arnaf i?', ac i roi perthnasedd i'r dysgu. Felly, hyd yn oed os yw'n rhywbeth—. Mae syrdiau mewn mathemateg yn codi'n aml, felly er nad ydych chi efallai'n deall pam eich bod yn gorfod dysgu syrdiau mewn mathemateg, rydym ni'n gwneud y dysgu'n berthnasol drwy ddweud, 'iawn, efallai nad ydych chi'n hoffi hyn, ond mae angen ichi ddysgu hyn oherwydd— ', a dangos y cysylltiadau i'w sgiliau bywyd yn y dyfodol, i'w gyrfaoedd yn y dyfodol, a dyna sut yr ydym ni'n ymgysylltu â'n dysgwyr i gyd. Mae codi uchelgais yn rhan bwysig o hynny ac esbonio i blant nid yw'r hyn y maen nhw'n ei weld o'u hamgylch yw terfyn eu huchelgais o reidrwydd, a'u bod yn gallu meddwl y tu hwnt i hynny. Ac mae ein rhaglen Seren yn ymgorffori codi dyheadau ein plant i ddweud, 'rydych chi'n ddigon da. Gallwch chi gystadlu â'r goreuon. Mae lle i chi yn y prifysgolion hyn, ar y cyrsiau tariff uchel hyn.' Dyna un o'r rhesymau pam yr ydym eisiau dod â Seren yn is i lawr yr oedran ysgol er mwyn gallu mynd i'r afael â'r materion uchelgais hynny'n gynharach.
Mae athrawon, wrth gwrs, yn hollbwysig. Ni all unrhyw system addysg ragori ar ansawdd yr athrawon sy'n gweithio gyda'n plant o ddydd i ddydd. Dyna pam yr ydym ni wedi diwygio ein rhaglen addysg gychwynnol i athrawon, dyna pam yr ydym wrthi'n ystyried symud i gyfnod o ddwy flynedd i athrawon sydd newydd gymhwyso, fel bod mwy o gefnogaeth a mentora i'r rhai sy'n ymuno â'r proffesiwn am y tro cyntaf, a dyna pam mae angen inni ystyried unwaith y rhaglen Meistr eto. Ond rhaid peidio â dweud wrth athrawon yn eu blwyddyn gyntaf o addysgu fod yn rhaid iddyn nhw wneud gradd Meistr, gan fod ganddyn nhw ddigon i ymdopi ag ef, ond creu'r bwlch hwnnw mewn gwirionedd fel y gall athrawon astudio ar lefel gradd Meistr. Ond hefyd mae angen parhau â'r buddsoddiad cychwynnol y dechreuwyd arno mewn dysgu proffesiynol a gwneud yn siŵr fy mod i'n gallu sicrhau'r adnoddau hynny fel y gall dysgu proffesiynol fod yn barhaus.
Nawr, mae pennaeth yr adran addysg yn yr OECD yn wirioneddol wedi rhoi gogwydd diddorol ar daith addysg Gymraeg. Mae ef o'r farn mai'r rhaglen ddiwygio yr ydym ni'n ymwneud â hi yw'r cyfle gorau i sicrhau system addysg wych, ac mae'n gefnogol iawn o'r cwricwlwm a'r newidiadau i'r cwricwlwm. Ond yr hyn sy'n hollbwysig i mi—mae'n iawn cael cenhadaeth genedlaethol wedi'i hysgrifennu ar ddarn o bapur—ym mis Ionawr, bydd gennym ni ein cwricwlwm gorffenedig wedi'i ysgrifennu ar ddarnau o bapur. Yna, mae'n rhaid i'n sylw droi at y busnes difrifol o weithredu. Rwyf wedi bod yn y Siambr hon yn ddigon hir i weld cynlluniau gwerthfawr iawn wedi'u llunio ar bapur ac yna'n methu yn y cyfnod gweithred. Rwy'n benderfynol o ddysgu gwersi o hynny a pheidio â gadael i hynny ddigwydd o dan fy ngofal i.
Diolch. Yn olaf, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dywedodd y Gweinidog yn ei datganiad:
'am y tro cyntaf erioed, rydym yn perfformio ar gyfartaledd yr OECD ym mhob un o'r tri maes: sef darllen, gwyddoniaeth, a mathemateg.'
Ond a wnaiff hi gydnabod bod llai o reswm dros longyfarch ein hunain yma, efallai, na'r hyn sy'n ymddangos? Gan fod ei graffiau ei hun yn dangos bod cyfartaledd yr OECD ei hun yn gostwng; mae'n mynd yn is ac yn is o flwyddyn i flwyddyn. Felly, os byddwn ni'n sefyll yn llonydd, yn y pen draw bydd yr OECD yn disgyn yn is na ni, ac ni fyddai hynny'n rheswm dros longyfarch ein hunain. Wedi dweud hynny, rwy'n cydnabod, yn amlwg, fod y Gweinidog wedi cyflawni rhywbeth gwerth chweil—mae hi wedi dod â chyfnod hir o ddirywiad mewn safonau yn ysgolion Cymru i ben. Gan fod Cymru yn edwino islaw gwledydd eraill y DU ar ôl 20 mlynedd o fodolaeth y Cynulliad hwn, nid wyf i'n credu y gallai unrhyw Weinidog Addysg ddisgwyl bod yn falch o'r canlyniadau yr ydym ni wedi bod yn sôn amdanynt heddiw. Yn sicr, ni allwn ddathlu bod yn is na phob gwlad arall yn y DU o hyd. Ni allwn ddathlu bod yn is na chyfartaledd yr OECD. Yn wir, yn achos Gogledd Iwerddon, wrth gwrs, ni fu Cynulliad ar waith ganddyn nhw ers sawl blwyddyn, ac nid oes ganddyn nhw Lywodraeth sydd wedi'i rheoli'n ddemocrataidd, ond maen nhw wedi ein curo yn y canlyniadau hyn.
Tybed a wnaiff y Gweinidog gydnabod y dylem edrych ar y canlyniadau diweddaraf drwy lygaid hanes. Ac edrychwn yn ôl at 2006, yr hyn yr ydym wedi'i weld—er fy mod yn cydnabod ac yn croesawu y bu gwelliant ers iddi hi fod yn Weinidog. Nid ydym wedi symud ymlaen rhyw lawer o gwbl. O ran darllen, rydym wedi mynd o sgôr o 481 i 483. Yn fras, mae hynny'n statig. Yn achos mathemateg, rydym wedi mynd o 484 i 487, ac yn achos gwyddoniaeth, yn drychinebus, rydym wedi mynd o 505 yn ôl i 488. Mae'n rhaid inni wneud llawer yn well na hyn cyn y gallwn ni roi clod i'n hunain.
Nid wyf i o'r farn ei bod yn llawer o uchelgais mewn bywyd i geisio bod ar y cyfartaledd. Yr hyn y dylem ni fod yn ceisio'i wneud yw bod yn llawer gwell na'r cyfartaledd. Os edrychwn ni ar dablau'r holl wledydd sydd wedi bod yn cymryd rhan yng nghanlyniadau PISA, ac edrychwn ni ar Singapore—bron ar y brig, oherwydd mewn gwirionedd, mae'n Rhif 2—mae sgoriau Singapore mewn darllen yn 549, o'i gymharu â'n rhai ni ar 483, 569 mewn mathemateg, o'i gymharu â'n rhai ni ar 487, a 551 mewn gwyddoniaeth, o gymharu â'n rhai ni ar 488. Wrth gwrs, ni all pawb fod y gorau, dyna holl bwynt cyfartaleddau, ond rwy'n dal i gredu y dylai ein huchelgais fod yn fwy na hynny.
Gwn nad yw'r Gweinidog yn hoffi cael ei llongyfarch na'i chanmol gennyf i—nid oes ganddi reswm da dros fod felly—ond rwyf yn ei chanmol am yr egni, yr ymroddiad a'r brwdfrydedd a gyfrannodd at weithgaredd ei swyddfa, a chroesawaf y newid a wnaeth i'r system addysg yng Nghymru. Os yw'r atal ar y dirywio hwn i'w gynnal, ac rwy'n credu ei bod wedi rhoi rhai o'r conglfeini yn eu lle ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol, yna bydd yn cael ei chofnodi yn hanes datganoli yng Nghymru fel y Gweinidog Addysg gorau i ni ei gael, er efallai nad yw hynny'n ganmoliaeth rhy fawr.
Wel, nid wyf i'n siŵr a wnaeth yr Aelod fanteisio ar y cyfle i fynd i'r sesiwn friffio y bore yma—rwy'n ofni fy mod i yng nghynhadledd Seren—ond os oedd ef yno, byddai wedi cael dadansoddiad dwfn iawn o'r ffigurau, ac nid yw hynny'n wir o gwbl, yr hyn y mae ef wedi'i nodi. Yn ystadegol, rydym ni'n perfformio ar gyfartaledd yr OECD. A yw ar gyfartaledd yn ddigon da? Wel, fel y dywed yr hen ddywediad criced, mae cyfartaleddau ar gyfer chwaraewyr cyffredin, ac rwyf am fod yn well na'r cyffredin. Ond o ystyried mai dim ond tair blynedd yn ôl, roeddem yn is o lawer na chyfartaledd yr OECD, credaf ein bod wedi codi ein hunain ac wedi adennill rhywfaint o urddas yma yn system addysg Cymru, ac mae'n sail y gallwn ni symud ymlaen arni, ac rwy'n benderfynol o wneud hynny. Nid ydym ni'n sefyll yn ein hunfan, rydym wedi gwneud gwelliannau yn ein sgoriau ar draws yr holl rannau.
Nawr, mae'r Aelod yn gywir i ddweud ein bod wedi dod o sylfaen isel, ond rydym ni bellach wedi cofnodi heddiw y sgôr gorau erioed mewn mathemateg a'r sgôr gorau erioed mewn darllen. Mae rhagor o waith i'w wneud—rwyf i wedi bod yn glir iawn ers imi godi ar fy nhraed y prynhawn yma nad wyf yn gorffwys ar fy rhwyfau ac nad wyf yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol. Mae rhagor o waith caled i'w wneud. Ond mae heddiw yn rhywbeth y gallwn ni fod yn falch ohono. Fel y dywedais, mae'n gadarnhaol, ond nid yw'n berffaith, ac rwyf i, ac, yn bwysicach na hynny, mae athrawon Cymru yn benderfynol o wneud yn well byth. Gwelaf hynny bob dydd yr ymwelaf â nhw; mae yna uchelgais gyffredin ledled ein cenedl. Rydym wedi gwella heddiw, ond byddwn yn gwella eto, rwy'n ffyddiog o hynny.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.