– Senedd Cymru am 4:47 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Symudwn ni ymlaen at y ddadl nesaf, y ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Russell George.
Diolch, Lywydd dros dro. Cyflwynaf y cynnig yn fy enw i.
Mae sgiliau o ansawdd uchel yn bwysig. Maent yn helpu pobl i gael swyddi o ansawdd uchel a chyflogau gwell, ac maent yn gwbl hanfodol os yw busnesau ac economi Cymru am arloesi a ffynnu. Maent yn un o'r allweddi i gynyddu ffyniant i bawb, a dyna pam rwy'n siomedig iawn, nid yn unig gyda'r ffaith bod ymateb Llywodraeth Cymru yn methu'r darlun mwy a nodwyd gennym yn ein hadroddiad, ond bod yr ymateb ei hun, yn fy marn i, wedi'i ddrafftio mewn modd arwynebol a diofal. Weinidog, fe ddywedoch chi wrthym eich bod yn mynd i ystyried argymhellion ein pwyllgor yn ofalus, ond mae arnaf ofn nad oes fawr o dystiolaeth o ystyriaeth ofalus yn ymateb Llywodraeth Cymru.
Mae ein hadroddiad yn egluro bod llawer o bobl yng Nghymru wedi'u dal mewn trap sgiliau isel. Felly, i Aelodau nad ydynt yn ymwybodol efallai o'r hyn y mae hynny'n ei olygu, cylchoedd yw trapiau sgiliau isel lle nad yw cyflogwyr eisiau neu angen sgiliau lefel uwch i fod yn broffidiol, sy'n arwain at ddiffyg galw gan bobl i ennill y sgiliau lefel uwch hynny. Gall hyn arwain at weithluoedd camgymharol sy'n cynnwys gweithwyr â sgiliau isel a gweithwyr â gormod o gymwysterau. Mae canlyniadau dynol i'r trapiau hyn hefyd, wrth i bobl gael eu dal mewn swyddi o ansawdd isel ar gyflogau isel, heb fawr o obaith o esgyn ar yr ysgol.
Rwyf wedi bod yn eithaf negyddol hyd yma, felly efallai y symudaf at rywbeth mwy cadarnhaol. Mae'n galonogol fod y pwyllgor a Llywodraeth Cymru yn cytuno ar rai o'r problemau sylfaenol y mae angen mynd i'r afael â hwy. Yn gyntaf, os yw trapiau sgiliau isel i gael eu torri, a rhaid eu torri, cytunwn fod yn rhaid inni fynd i'r afael â'r cyflenwad o sgiliau ac ysgogi'r galw am sgiliau lefel uwch ar yr un pryd. Yn ail, rydym yn cytuno ynglŷn â pha mor galed y mae partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn gweithio, ond mae angen iddynt hefyd ddiwygio a chryfhau, mae angen i ni eu cryfhau hefyd, ond gofynnir iddynt wneud gormod am y nesaf peth i ddim, ac rwy'n meddwl bod y disgwyliadau a'r rhestr 'i'w gwneud' yn llawer mwy na'r adnoddau sydd ganddynt. Ac yn drydydd, rydym hefyd yn cytuno bod yn rhaid gwella gallu casglu data a dadansoddi'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn helaeth a gwella'r ymgysylltiad â busnesau bach a chanolig eu maint. Nid oes unrhyw beth a all gymryd lle data a dadansoddi da wrth gynllunio sgiliau.
Felly, rydym yn cytuno ar yr heriau sy'n ein hwynebu, ond mae'n gwbl amlwg nad ydym yn cytuno ar y ffordd ymlaen. Yn ein hargymhellion, canolbwyntiwyd nid yn unig ar yr hyn y mae angen ei newid ond sut y dylid cyflawni'r newid hwnnw. Roeddem am gael atebion ymarferol a oedd yn cynnig y newidiadau mawr sydd eu hangen os ydym o ddifrif ynglŷn â thorri'r trapiau sgiliau isel hyn. Ein nod oedd bod yn adeiladol, gan gynnig argymhellion ymarferol, defnyddiol a chadarn i'r Gweinidog. Felly roedd yn siomedig iawn fod Llywodraeth Cymru wedi gwario £10,000 ar adolygiad annibynnol o bartneriaethau sgiliau rhanbarthol, adolygiad a gomisiynwyd ar ôl i'n hymchwiliad gychwyn. Ac os byddwch yn ei ddarllen, fe welwch ei fod hyd yn oed yn defnyddio'r dystiolaeth a gasglwyd gennym gan dystion. Felly mae'n anodd cysoni gweithredu o'r fath gan Lywodraeth Cymru a'i hymateb gyda'r parch a ddylai fod ganddi tuag at ymchwiliad gan y Cynulliad hwn.
Ond i ddychwelyd at ein hadroddiad, hoffwn sôn am dair thema allweddol y mae'r adroddiad yn eu cyflwyno, ac ymateb Llywodraeth Cymru iddynt. Yn gyntaf, roeddem am gynnig eglurder a ffocws. Roeddem yn argymell rhoi enw newydd i'r partneriaethau, byrddau cynghori ar sgiliau rhanbarthol, i adlewyrchu rôl newydd fel cynghorwyr arbenigol. Y pwynt oedd mai'r rolau cynghori fyddai'r meddylwyr, nid y rhai sy'n gwneud y gwaith mewn system sgiliau ehangach. Roeddent i fod i roi cyngor nid yn unig ar gyflenwi sgiliau, ond hefyd ar ysgogi galw gan gyflogwyr, sydd, fel y dywedais eisoes, yn gwbl sylfaenol er mwyn torri trapiau sgiliau isel. Yma, nid ydym ar ein pen ein hunain yn ein hargymhelliad. Yn ei adolygiad 'Cymru 4.0', argymhellodd yr Athro Phil Brown hefyd y dylai partneriaethau sgiliau rhanbarthol chwarae rôl yn ysgogi'r galw gan gyflogwyr am sgiliau lefel uwch.
Ond lle roeddem am gael eglurder, mae ymateb Llywodraeth Cymru wedi cynnig dryswch. Yn ei hymateb, derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad ar y rôl gynghori, ond wedyn mae'n mynd rhagddi i ddweud ei bod yn gwrthod y pwynt y dylent roi cyngor ar fynd i'r afael â'r trapiau ac nad rôl iddynt hwy oedd ysgogi'r galw gan gyflogwyr am sgiliau lefel uwch yn y dyfodol. Pwy, heblaw partneriaeth sydd eisoes yn cynnwys cyflogwyr a chynrychiolwyr darparwyr hyfforddiant, sydd mewn gwell sefyllfa i gynnig y cyngor hwnnw? Nid wyf yn credu ei bod yn gwbl glir a yw'r argymhelliad wedi'i dderbyn ai peidio. Mae arnaf ofn fod yr ymateb i'r argymhelliad yn enghraifft o'r esgeulustod sy'n amlwg yn ymateb Llywodraeth Cymru drwyddo draw.
Mae'r Llywodraeth yn egluro ei bod yn gwrthod yr ailfrandio'n 'fyrddau cynghori ar sgiliau rhanbarthol' gan ddweud bod y gair 'bwrdd' yn awgrymu pwerau gwneud penderfyniadau. Beth am Fwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru a Bwrdd Cynghori Prentisiaethau Cymru felly? Neu'n wir, fod y partneriaethau sgiliau rhanbarthol eu hunain eisoes yn bodoli fel byrddau.
Nid yw ymateb y Llywodraeth i'n hail syniad allweddol yn llawer gwell. Fe wnaethom nodi dwy ffordd o wella gallu'r partneriaethau i gasglu a defnyddio data i ymgysylltu â busnesau. Yn gyntaf, mae'r ddwy ffordd yn pwyso ar yr asedau hynod werthfawr sydd gan Gymru yn ein hymchwil o safon fyd-eang yn ein prifysgolion, ac yn ail, ar y rhwydwaith o gysylltiadau busnes sydd gan ein darparwyr prentisiaethau a ariennir yn gyhoeddus. Mae unrhyw fusnes yn gwybod gwerth rhwydwaith parod o gysylltiadau ac ymgynghoriaeth da. Ond gwrthododd y Llywodraeth yr argymhelliad am bartneriaeth fwy ffurfiol gyda phrifysgolion, ac rwy'n ofni y collwyd y darlun mwy yma eto. Ac mae arnaf ofn iddo gael ei golli i ymateb pitw'n egluro'n nawddoglyd fod prifysgolion eisoes yn cael eu cynrychioli ar y byrddau—fel y mae ymateb y Llywodraeth yn eu galw.
Mae'n rhwystredig gweld bod pwynt yr argymhelliad fod byrddau partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn harneisio arbenigedd ein ysgolheigion a'n hymchwilwyr yn hedfan mor bell dros ben Llywodraeth Cymru, a chredaf ei fod yn gwneud anghymwynas â'n hacademïau o ymchwilwyr sy'n gweithio yn ein prifysgolion. Gyda chronfa Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o £15 miliwn a fwriadwyd ar gyfer cefnogi cydweithio rhwng prifysgolion a busnesau, mae'n eglur i ni fod yna gyfle amlwg i helpu prifysgolion i gyfrannu eu harbenigedd ymchwil i gryfhau ymchwil partneriaethau sgiliau rhanbarthol.
Yn olaf, aethom ati i rymuso ein colegau addysg bellach i ymateb i'r heriau a nodwyd gan y byrddau newydd, gan gamu'n ôl o ficro-reoli cwricwla colegau i raddau nad oes unrhyw ddarparwr sgiliau arall yn ddarostyngedig iddynt. Yn lle hynny, roeddem am weld colegau'n cael lle i arfer eu harbenigedd a'u profiad sylweddol i ymateb i gyngor y byrddau partneriaeth mewn ffyrdd arloesol. Pan lansiwyd yr adroddiad, ymwelais â phrentisiaid yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, a chefais fy nharo a fy mhlesio gan y cysylltiadau dwfn roedd y coleg wedi'u meithrin ei hun â chyflogwyr lleol a rhanbarthol.
Denodd yr argymhelliad hwn—un o'r rhai pwysicaf yn yr adroddiad—un o'r ymatebion byrraf a mwyaf diystyriol a ddadleuai y byddai'n effeithio ar broses gyllido Llywodraeth Cymru y maent hwy eu hunain wedi'i newid sawl gwaith yn ystod y degawd diwethaf. Nid yw dweud y byddai newid yn tarfu ar un o brosesau Llywodraeth Cymru yn ddadl o unrhyw fath dros y status quo. Mae gan ein colegau gysylltiadau busnes agos a dwfn. Maent yn helpu i ddatblygu'r sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn galw amdanynt, ni waeth pa gyrsiau y mae dysgwyr yn eu dilyn. Ac mae ganddynt genhadaeth gymdeithasol sy'n rhaid ei chydbwyso â'r angen i ymateb i alw diwydiant am sgiliau. Dylem barchu eu harbenigedd a dylem ymddiried yn eu barn ac yn gyfnewid am hynny, disgwyliwn iddynt ateb yr heriau a nodir mewn cynlluniau sgiliau yn y dyfodol gan ddefnyddio'r arbenigedd a'r farn honno. Unwaith eto, y darlun mwy, y lle i arloesi, dyna a fethwyd gan Lywodraeth Cymru yn fy marn i.
Felly, mae'n flin gennyf fod hwn wedi bod yn ymateb negyddol iawn, ond roedd ymateb Llywodraeth Cymru yn negyddol i adroddiad ein pwyllgor. Ond rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu ymateb yn gadarnhaol, yn y pen draw, yn ymateb y Llywodraeth. Mae wedi argymell na fydd yn newid dim ynglŷn â'i dull o weithredu, ond rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn arddel barn wahanol yn ei sylwadau cloi yn nes ymlaen, ac edrychaf ymlaen at weld yr Aelodau'n cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma.
Mae dysgu oedolion, uwchsgilio ac ailsgilio yn allweddol i ddatblygu syniadau mewn economi amrywiol. Rydym i gyd yn cydnabod pa mor bwysig yw rhoi i bobl y sgiliau y mae ar gyflogwyr eu hangen i gael swyddi da a chynaliadwy. Mae'n ffaith drist fod economi Cymru'n wynebu prinder sgiliau difrifol. Fel rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, profodd economi Cymru lawer o aneffeithlonrwydd a chamgymhariadau sgiliau yn y gweithlu. Mae'r arolwg diweddaraf o sgiliau cyflogwyr yn dangos, lle mae'r bylchau sgiliau yn y gweithluoedd presennol wedi parhau yr un fath at ei gilydd, fod cynnydd yn nifer y swyddi gwag a oedd yn anodd eu llenwi oherwydd prinder sgiliau. O ganlyniad, mae cyflogwyr yn wynebu prinder sgiliau wrth geisio llenwi swyddi gwag, gyda bylchau sgiliau yn y gweithlu presennol a thanddefnyddio sgiliau.
Nod yr adroddiad hwn yw nodi rhai o'r problemau sy'n wynebu busnesau Cymru ac mae'n cynnig mesurau i fynd i'r afael â'r problemau hynny. Nid yw hyfforddi a gwella sgiliau pobl yn ddigon. Rhaid inni ddarparu'r math o hyfforddiant sgiliau sydd ei angen ar fusnesau yng Nghymru. Un o'r problemau a nodir yn yr adroddiad hwn yw'r trapiau sgiliau isel. Mae hyn yn cynnwys cylch o alw cyfyngedig am weithwyr medrus iawn, sy'n arwain at weithlu sgiliau isel. Mae hyn, yn ei dro, yn gosod terfynau ar arloesi a thwf, gan barhau'r galw cyfyngedig am weithwyr medrus iawn. Yr her a nodir yn yr adroddiad hwn yw ysgogi'r galw am sgiliau lefel uwch gan gyflogwyr. Os na wnawn hyn, mae perygl y daw gormodedd o sgiliau aneffeithlon i gymryd lle'r trap sgiliau isel. Os ydym am sicrhau bod y gweithlu'n bodloni anghenion busnesau, rhaid cael mwy o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, diwydiant a sefydliadau addysg.
Mae'n ofid i mi fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cynnig i ailenwi partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn 'fyrddau cynghori ar sgiliau rhanbarthol'. Byddai ailfrandio'r partneriaethau yn gwneud eu rolau yn y system sgiliau ehangach yn gliriach yn fy marn i. Byddai gan y byrddau cynghori ar sgiliau rhanbarthol ragolwg a chylch gwaith strategol clir, gan wella ymgysylltiad cyflogwyr, y broses o gasglu data a dadansoddi.
Mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector addysg uwch i ddatgloi gallu ymchwil helaeth ein prifysgolion. Mae angen mwy o ymgysylltu rhwng prifysgolion a chyflogwyr. Un o fanteision mawr prentisiaethau gradd yw eu bod yn cael eu hysgogi gan gyflogwyr ac wedi'u llunio i ddiwallu anghenion sgiliau. Mae prifysgolion yng Nghymru yn awyddus i ddatblygu ystod eang o brentisiaethau gradd. Fodd bynnag, nid yw'n ddigon i'r system sgiliau yng Nghymru wneud dim ond ceisio dal i fyny â newidiadau. Rhaid iddi ragweld newid a hyd yn oed helpu i'w lunio.
Mae hyn yn arbennig o wir ym maes sgiliau digidol. Maent yn cael effaith enfawr wrth i dechnolegau newydd gael eu mabwysiadu, ond mae newid yn symud yn gyflym. Mae'r sector digidol yn datblygu ar y fath gyflymder fel bod darparwyr addysg yn ei chael hi'n anodd dal i fyny. Rydym yn wynebu her enfawr o ran sicrhau bod hyfforddiant digidol yn gyfredol. Mae hyn yn hanfodol os ydym am ddiwallu'r galw am weithwyr â sgiliau digidol, yn enwedig mewn meysydd arbenigol, megis seiberddiogelwch.
Lywydd, rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i'r heriau a darparu'r sgiliau sydd eu hangen ar ein gweithlu er mwyn gwireddu ein potensial economaidd llawn. Credaf fod yr adroddiad hwn yn nodi'r mesurau ymarferol ac effeithiol sydd eu hangen i alluogi economi Cymru i dyfu a ffynnu. Diolch.
Yn gyntaf, hoffwn ddweud diolch wrth bawb a ddaeth i roi tystiolaeth oherwydd roeddwn yn meddwl ei fod yn groestoriad da o gymdeithas ac roedd yn ddiddorol clywed eu profiadau o'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Roedd rhai yn eithaf cadarnhaol, er nad oedd eraill, ac rwy'n siŵr y byddaf yn ymhelaethu ar hynny yma heddiw.
O'n hymchwiliadau ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, mae'n amlwg mai asesiad o anghenion sgiliau yn y dyfodol yw'r bwlch sydd angen i'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol ei lenwi, a dyna pam ein bod wedi argymell yng ngham gweithredu 10 na ddylai Llywodraeth Cymru ofyn i bartneriaethau sgiliau rhanbarthol—neu fyrddau cynghori ar sgiliau rhanbarthol, fel rydym yn argymell eu galw—wneud argymhellion gweithredol ar niferoedd dysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach o hyn ymlaen, hyd yn oed ar lefel bresennol y pwnc sector. Yn hytrach, dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau addysg bellach ystyried yr adroddiadau mwy strategol sy'n seiliedig ar wybodaeth y gallai'r bwrdd eu cynhyrchu yn lle hynny. Byddai hyn, wrth gwrs, yn grymuso ac yn cymell sefydliadau i ymateb i'r materion a nodwyd yn yr adroddiadau hynny. Ynghyd â'r argymhellion eraill, gellir ysgogi'r galw gan gyflogwyr am sgiliau uwch, gan ddechrau cau'r trapiau sgiliau isel a geir mewn rhannau o economi Cymru.
Ond er gwaethaf y dystiolaeth a'r mewnbwn a roddwyd i ni ar y pwyllgor gan randdeiliaid allweddol, mae'n siomedig iawn, fel y dywedwyd, fod Llywodraeth Cymru wedi dewis gwrthod cam gweithredu 10, gan ddatgan y byddai symud o gael y bwrdd cynghori ar sgiliau rhanbarthol i wneud argymhellion gweithredol i Lywodraeth Cymru, a dyfynnaf,
'yn gwanhau'r broses gynllunio a chyllido strategol newydd.'
Yn hytrach, maent yn mynnu canolbwyntio ar niferoedd dysgwyr, ac yn ôl ColegauCymru, mae'r dull hwn yn rhy rhagnodol a dwys, gan greu gwaith diangen nad yw'n arwain at enillion pendant. Drwy'r cwricwlwm newydd, canolbwyntir yn sylweddol ar feithrin ymddiriedaeth mewn arweinyddiaeth a gallu o fewn y system addysg cyn-16 mewn ysgolion. Nid yw Llywodraeth Cymru yn pennu lefel eu darpariaeth ôl-16. Yn yr un modd, nid yw Llywodraeth Cymru yn pennu fawr ddim mewn addysg uwch chwaith. Yn y cyfamser, mewn addysg bellach, buaswn yn dweud mai'r hyn sy'n ddiffygiol yw'r annibyniaeth a'r parch at y sector hwnnw. Nid yw hyn yn ymddangos yn iawn i mi ac nid yw'n ymddangos yn iawn i ColegauCymru. Pam fod angen chwistrelliad o ficroreolaeth mewn perthynas â'r niferoedd sy'n dilyn cyrsiau yma yn wahanol i'r hyn a geir ar unrhyw lefel addysgol arall?
Mae'n destun penbleth arbennig hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhelliad hwn gan nad ein hadroddiad ni yn unig a ddaeth i'r casgliad y dylai gweithgarwch cynllunio ddigwydd ar lefel fwy strategol, ond yr adroddiad a gomisiynwyd gan y Llywodraeth ei hun gan SQW hefyd, a ddaeth i'r un casgliad. Ar nodyn cysylltiedig, rwy'n mynegi rhwystredigaeth ynghylch amseriad yr adroddiad a gomisiynwyd gan y Llywodraeth gan iddo ddigwydd ym mis Mawrth 2019, fisoedd ar ôl i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ddechrau ei ymchwiliad ei hun. Gellid dadlau bod cost o £9,918 wedi'i wastraffu ar adroddiad a oedd mewn perygl o ddyblygu yn hytrach nag aros i glywed canfyddiadau penodol ein pwyllgor.
Gan ddychwelyd at rôl colegau a phartneriaethau sgiliau rhanbarthol, caiff safbwynt y colegau ei grynhoi'n eithaf da gan yr hyn a ddywedodd David Jones o Goleg Cambria wrthym, ac rwy'n dyfynnu:
Ni allwn adael i brifysgolion fwrw ymlaen a gwneud eu pethau eu hunain—oherwydd yn y pen draw mae arian cyhoeddus yn mynd i mewn i brifysgolion; o'r fan honno y daw yn y pen draw—a chanolbwyntio'n unig ar ryw fath o gynllunio rhanbarthol wedi'i yrru gan yr economi ar gyfer addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith yn unig. Mae'n wallus os ydych yn ei wneud yn y ffordd honno.
Rhaid bod ffordd i bartneriaethau sgiliau rhanbarthol gydweithio mewn modd mwy cyfartal ar draws y sectorau. Ni chymerodd y pwyllgor dystiolaeth a ddadleuai o blaid cefnu ar bartneriaethau—ond roeddwn yn teimlo rhywfaint o betruster rhag eu canmol yn ddiamod pan gawsom ein craffu—ond yn hytrach, fod corff cydgysylltu sgiliau rhanbarthol yn angenrheidiol ac yn ddefnyddiol. Felly, dyna'r elfen y gwelsant yn dda i'w hyrwyddo.
Mater arall y canolbwyntiodd y pwyllgor arno yw i ba raddau y mae'r partneriaethau yn cynrychioli'r cymdeithasau y maent yn byw ynddynt mewn gwirionedd a sut y gall pobl ryngweithio â'r partneriaethau sgiliau hynny. Mae'n amlwg nad ydynt yn cyrraedd eu potensial llawn. Mae rhai'n pwyso'n drwm ar fusnesau, rhai heb fod yn pwyso llawer ar golegau, a sut y mae hynny'n adlewyrchu'r cymdeithasau y maent yn byw ynddynt? Mae rhai yn wan iawn o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau ac nid yw rhai yn gynhwysol iawn o ran amrywiaeth y cymunedau y maent yn eu cynrychioli. Ceir diffyg ymgysylltu hefyd â nodau'r iaith Gymraeg, a chyrraedd targed Cymraeg 2050. A bu i ni holi llawer ohonynt am eu perthynas â bargeinion dinesig a bargeinion twf: sut y mae cynlluniau'r bargeinion twf yn cyd-fynd ag agenda sgiliau'r partneriaethau rhanbarthol?
Mae mwy o reswm i symud i ffwrdd oddi wrth y strwythur o'r brig i lawr a symud at ddull llorweddol. Ac fel yr awgrymwyd ymhellach gan Prifysgolion Cymru, gellid gweld gwelliant drwy ymgysylltu'n ehangach â data a gwneud defnydd arbenigol ohono. Mae angen gwneud mwy o waith i ymgysylltu â llais dysgwyr a graddedigion fel y gellir adlewyrchu profiadau a chymhellion y rhai sy'n ymuno â'r gweithlu yng Nghymru a'r rhai sydd eisoes yn rhan ohono. Un peth yw llywio eu hastudiaeth, ond efallai nad yw pennu eu hastudiaethau ar sail yr hyn sydd ei angen ar yr economi drwy'r amser yn gweddu i'r hyn y mae pobl am ei wneud yn eu gyrfaoedd addysgol mewn gwirionedd.
Felly, diolch i chi am y gefnogaeth a gawsom yn yr ymchwiliad pwyllgor hwn, ond eto, gan adlewyrchu'r hyn y mae'r Cadeirydd wedi'i ddweud, nid ydym mor hapus â rhai o'r ymatebion gan Lywodraeth Cymru ac rydym yn gobeithio y gallwn weithio'n gadarnhaol o hyn ymlaen.
Mae partneriaethau sgiliau rhanbarthol ar waith i ysgogi buddsoddiad mewn sgiliau drwy ddatblygu ymatebion yn seiliedig ar anghenion lleol a rhanbarthol. O gofio bod y Llywodraeth yn dweud mai eu cylch gwaith yn syml yw darparu ystadegau a gwybodaeth ac nid adnewyddu gwaith gweithredol na chynghori, a ydynt yn cyflawni fel y rhagwelwyd?
Deallwn fod tair partneriaeth sgiliau ranbarthol yng Nghymru ar gyfer de-ddwyrain Cymru, de-orllewin a chanolbarth Cymru a gogledd Cymru. Mae pob partneriaeth sgiliau ranbarthol yn cynhyrchu ac yn dadansoddi gwybodaeth am y farchnad lafur, yn ymgysylltu â chyflogwyr rhanbarthol, yn cynghori Llywodraeth Cymru ar y ddarpariaeth sgiliau yng ngoleuni mewnwelediad dan arweiniad cyflogwyr. Mewn geiriau eraill, ymgais y Llywodraeth yw hon i ganiatáu i ddiwydiant nodi gofynion sgiliau.
Fel y crybwyllodd Russell George a Bethan Sayed, ym mis Mawrth 2019, comisiynwyd SQW gan Lywodraeth Cymru i ystyried cysondeb y mewnwelediad a'r wybodaeth sgiliau a gesglir gan bartneriaethau sgiliau rhanbarthol a sut y cânt eu defnyddio a'u cyflwyno, a hefyd sut y mae partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn cyfrannu at, yn llywio, ac yn cael eu llywio, gan gynlluniau'r bargeinion dinesig a'r bargeinion twf. Cynhaliwyd yr ymchwil ym mis Mawrth a mis Ebrill, gan gynnwys ymgynghori â rheolwyr a chadeiryddion partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn ogystal â rhanddeiliaid ehangach. Roedd hefyd yn ystyried y dystiolaeth a ddarparwyd i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad Cenedlaethol ar y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, a redai'n gyfochrog â'r astudiaeth hon, yn rhyfedd iawn.
Gwelwn fod cam gweithredu 4 wedi'i dderbyn yn yr ystyr fod y Llywodraeth yn cydnabod bod adroddiad SQW wedi dweud bod angen rôl fwy strategol ar gyfer partneriaethau sgiliau rhanbarthol, a nodwn fod y Llywodraeth yn sefydlu cynlluniau cyflogaeth a sgiliau rhanbarthol tair blynedd. Yn ôl adroddiad SQW, ar hyn o bryd, ceir amrywiaeth rhwng y partneriaethau sgiliau rhanbarthol o ran dyfnder ac ehangder y cysylltiad uniongyrchol â chyflogwyr. Fodd bynnag, gan fod hyn yn greiddiol i gylch gwaith y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, ac o ystyried y ceir tystiolaeth o arferion da yn hyn o beth, a oes digon o waith yn cael ei wneud i annog croesbeillio rhwng partneriaethau sgiliau rhanbarthol?
Nid oes unrhyw amheuaeth nad yw'r syniad o strategaeth datblygu sgiliau dan arweiniad y diwydiant yn nod canmoladwy iawn, ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr nad yw'r nodau hyn yn cael eu llethu gan strwythur darparu gorgymhleth.
Diolch yn fawr. Galwaf ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.
Diolch. A gaf fi ddechrau fy ymateb drwy ddiolch i Russell George, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, ac aelodau'r pwyllgor am eu hadroddiad hynod o gadarnhaol ar bartneriaethau sgiliau rhanbarthol? Rwy'n arbennig o falch fod yr adroddiad yn cydnabod rôl bwysig partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn y tirlun sgiliau ehangach yng Nghymru. Argymhellodd y pwyllgor y dylai fod gan bartneriaethau sgiliau rhanbarthol ragolwg clir a strategol. Amlinellais y dull rhanbarthol o weithredu ar sgiliau pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg yn ôl yn 2014, gyda'r datganiad polisi ar sgiliau. Sefydlwyd partneriaethau sgiliau rhanbarthol fel mecanwaith i gyflogwyr a rhanddeiliaid rhanbarthol ddod at ei gilydd i drafod a hefyd i gytuno ar flaenoriaethau a fyddai, yn eu tro, yn dylanwadu ar y defnydd o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer sgiliau.
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r broses wedi aeddfedu a gwnaed llawer o waith ar fireinio'r system. Gall y tri rhanbarth yng Nghymru bennu eu blaenoriaethau drwy ymgysylltu â phartneriaid, yn rhanbarthol ac yn lleol, a thrwy gasglu safbwyntiau gan rwydweithiau busnes rhanbarthol, a galluogi dull mwy gronynnog yn seiliedig ar le drwy hynny, a symud oddi wrth y strategaethau cenedlaethol blaenorol a gâi eu harwain gan sectorau. Mae hon yn elfen hanfodol o'r cynllun gweithredu economaidd.
Mae partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn ganolog i'n system gynllunio strategol newydd ar gyfer darparu addysg a sgiliau ar draws addysg ôl-16. Rwy'n falch fod eu hargymhellion blynyddol ar gyfer newid wedi arwain at system sgiliau fwy ymatebol ac adweithiol yng Nghymru, wrth i golegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith gysoni'r ddarpariaeth i ddiwallu anghenion economaidd rhanbarthol. Mae'n bwysig fod partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn parhau i chwarae'r rôl strategol o gynghori Llywodraeth Cymru ar awdurdodau rhanbarthol, fel y nodir yn y cynlluniau amlinellol rhanbarthol. Dyma'r prif fecanwaith i gyflogwyr ddylanwadu ar arlwy'r cwricwlwm a wneir gan ddarparwyr prentisiaethau a cholegau addysg bellach.
Nawr, er mwyn sicrhau bod gennym y fframweithiau prentisiaeth cywir a'r mewnbwn cywir gan gyflogwyr, sefydlwyd panel cynghori ar brentisiaethau Cymru. Y partneriaethau sgiliau rhanbarthol sy'n llywio gwaith y panel, gan ddarparu mewnwelediad rhanbarthol gwerthfawr yn seiliedig ar wybodaeth gan gyflogwyr. Ni ellid bod wedi sicrhau'r cyflawniadau hyn pe bai partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn gyrff gwneud penderfyniadau, a dyna pam nad wyf yn sicr y dylid ail-greu partneriaethau sgiliau rhanbarthol ar ffurf byrddau cynghori ar sgiliau rhanbarthol. Adeiladwyd ein llwyddiant hyd yn hyn ar y cynsail fod partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn gweithredu fel partneriaethau gwirfoddol annibynnol yn hytrach na bod ganddynt bwerau i wneud penderfyniadau yn eu hawl eu hunain. Roedd adroddiadau SQW a Graystone yn cydnabod cryfder cynnal partneriaethau sgiliau rhanbarthol fel partneriaethau annibynnol hyd braich, yn hytrach na'u sefydlu fel cyrff lled-Lywodraethol gyda phwerau i wneud penderfyniadau.
Ond gwrandewais ar yr Aelodau y prynhawn yma, yn enwedig yr achosion cymhellol a gyflwynwyd gan Russell George a Bethan Sayed ar gamau gweithredu 1 a 10. Mae wedi fy arwain i gredu bod angen ystyriaeth bellach yn y flwyddyn newydd, ac rwy'n ymrwymo i wneud hyn, yn enwedig gan fod yr Aelodau'n teimlo bod fy ymatebion yn annigonol. Mae'r dull presennol yn rhoi rôl glir i bartneriaethau sgiliau rhanbarthol yn system sgiliau Cymru a ddeellir gan bartneriaid a rhanddeiliaid. Ond rwy'n ymrwymo i adolygu trefn lywodraethu a statws cyfreithiol y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, fel yr argymhellwyd gan adroddiad y pwyllgor, yn ystod 2020.
Cododd y pwyllgor gwestiwn ynglŷn ag adnoddau hefyd, ac rwy'n cytuno'n llwyr. Mae angen inni adolygu'r lefelau o adnoddau ar draws y tair partneriaeth sgiliau ranbarthol. Unwaith eto, rwy'n ymrwymo i gynnal adolygiad trwyadl o ddarpariaeth adnoddau'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn 2020. Gallaf sicrhau'r Aelodau y byddwn yn ystyried y dulliau gweithredu gorau gan ddefnyddio'r mecanweithiau sydd ar gael i roi newidiadau ar waith a gwneud gwelliannau.
Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda phartneriaethau sgiliau rhanbarthol i wella'r data a sicrhau bod gennym yr adroddiadau cyflogaeth a sgiliau rhanbarthol gorau posibl. Mae'n ymwneud â mwy nag adroddiadau ffurfiol yn unig. Mae gwybodaeth feddal yn hanfodol bwysig hefyd, ac rwy'n falch fod partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn cymryd rhan weithredol yn ein grwpiau ymateb ar gyflogaeth ranbarthol a sefydlwyd i ddatblygu atebion cyflym ar draws ein rhanbarthau i gyflogwyr o ganlyniad i ansicrwydd yn sgil Brexit. A byddwn yn ymrwymo i weithio gyda phartneriaethau sgiliau rhanbarthol yn y gofod hwn dros y misoedd nesaf i weithredu newid ac i drafod y ffordd orau o gyflawni hyn.
Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am ailddatgan pwysigrwydd y Gymraeg, a ddylai fod yn ystyriaeth ar draws ein holl weithgarwch yn ddyddiol wrth i ni weithio. Byddaf yn gofyn i'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol weithio'n agos gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i sicrhau bod anghenion y Gymraeg ar draws y sector addysg uwch yn cael eu hadlewyrchu wrth ddatblygu eu cynlluniau cyflogaeth a sgiliau. Byddaf hefyd yn gofyn iddynt ddatblygu dull o gasglu gwybodaeth sy'n cefnogi ein dull gydol oes o wella cyfleoedd iaith Gymraeg yma yng Nghymru.
Wrth gloi, hoffwn ailddatgan fy ymrwymiad i'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol a chryfhau'r rôl sydd ganddynt i'w chwarae yng Nghymru. Mae adroddiad y pwyllgor wedi tynnu sylw at nifer o feysydd y bydd angen inni eu hystyried yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, a cheisiaf ailedrych ar y camau gweithredu hynny, yn enwedig 1 a 10, a'u hailystyried. Rwy'n falch ein bod eisoes yn symud ymlaen mewn meysydd sy'n parhau i adeiladu rôl strategol y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, ac rwy'n hyderus y gallwn wella'r system sgiliau yng Nghymru ymhellach er mwyn hybu twf economaidd ar draws rhanbarthau Cymru yn eu tro er mwyn gwella ein ffyniant fel cenedl.
Diolch, Weinidog. Galwaf nawr ar Russell George i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd dros dro. Roedd ein hargymhellion a'n hadroddiad yn ymwneud ag ail-egnïo'r ymdrechion, mewn gwirionedd, i fynd i'r afael â'r trapiau sgiliau isel a rhoi i Gymru y sgiliau sydd eu hangen arni. Dyna oedd diben ein hadroddiad, a thynnodd fy nghyd-Aelod Oscar Asghar sylw at yr angen i dorri'r trapiau sgiliau isel hynny. Rwy'n credu bod hynny'n hanfodol er mwyn cynyddu ffyniant a chreu swyddi o ansawdd uchel. Dyna sydd angen inni ei wneud. Deallwn mai dyma un o'r tasgau mwyaf heriol sy'n wynebu ein heconomi o bosibl. Dylwn ddweud nad oeddem yn esgus o gwbl y bydd ein hadroddiad yn datrys y broblem hon, ond roeddem hefyd yn credu'n bendant na fydd gwneud dim yn gwneud hynny chwaith.
Rwy'n credu hefyd y dylwn ddweud fy mod yn diolch i fy nghyd-Aelodau, Bethan Sayed a David Rowlands, am ymhelaethu ar rai o'r pwyntiau a godais yn fy sylwadau agoriadol ac am ymdrin â rhai meysydd eraill hefyd. Fel y dywedodd Bethan, mae diffyg cynrychiolaeth ar y byrddau, a cham gweithredu 3 y pwyllgor oedd y dylid cael mwy o gynrychiolaeth a chydbwysedd rhwng y rhywiau, ac roedd hi'n siomedig fod y Llywodraeth wedi gwrthod yr agwedd honno.
Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig fy mod yn ychwanegu at yr hyn a ddywedodd Bethan Sayed o ran diolch i'r rhanddeiliaid niferus a roddodd dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig i'n pwyllgor. Rwy'n pryderu bod llawer ohonynt—a dweud y gwir, rwyf wedi cael adborth yn barod—yn teimlo'n siomedig ynglŷn ag ymateb y Llywodraeth, gan eu bod wedi rhoi llawer o amser ac ymdrech i gyflwyno dadleuon a thystiolaeth i ni. Roeddem yn siomedig nid yn unig gyda'r ymateb gwreiddiol i'n hargymhellion, ond hefyd ynghylch ansawdd yr ymateb, y credem ei fod, mae'n ddrwg gennyf ddweud—yn sicr, dyna roeddwn i'n ei gredu—wedi'i ddrafftio'n wael ac wedi'i ddrafftio'n ddiofal. Rwy'n credu bod y pwyllgor, y Senedd a'r rhanddeiliaid a roddodd eu hamser i ni yn sicr yn haeddu gwell na hynny.
Ond rwy'n falch iawn fod y Gweinidog, ar ôl clywed y drafodaeth heddiw, gennyf fi ac Aelodau eraill, wedi dweud ei fod yn barod i edrych ar hyn eto. Diolch o galon i'r Gweinidog am hynny. Os gallwn edrych ar hyn eto, efallai yn y flwyddyn newydd, os yw'r Gweinidog yn hapus i ail-ymgysylltu â'r pwyllgor, rwy'n credu y gallwn ail-archwilio rhai o'r problemau ac edrych ar rai o'n hawgrymiadau ac edrych ar ymateb y Llywodraeth a gweld a allwn ddod o hyd i dir cyffredin rhyngom. Felly, rwy'n ddiolchgar am ymateb y Gweinidog yn hynny o beth. Diolch i'r Aelodau am eu hamser a'u cyfraniadau i'r ddadl hon y prynhawn yma.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.