1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 5 Chwefror 2020.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth
Diolch, Llywydd. Wrth drafod y gyllideb ddrafft ddoe, mi gafodd cryn sylw ei roi i'r testun pwysig iawn o ddadgarboneiddio. Beth ydy blaenoriaethau'r Llywodraeth o ran annog dadgarboneiddio mewn trafnidiaeth yng Nghymru?
Mae blaenoriaethau ein Llywodraeth mewn perthynas â datgarboneiddio yn cael eu llywio i raddau helaeth gan y cyngor a gawn gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, sydd, fel y dywedwch, yn cydnabod trafnidiaeth ochr yn ochr â thai fel y ddau faes y mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn gwneud ymdrech ynddynt. Felly, fe welwch ein bod wedi buddsoddi £430 miliwn eisoes—wel, erbyn diwedd y flwyddyn nesaf—ym metro de Cymru. Ac mae hynny'n sicr yn dangos cryn ymrwymiad i leihau carbon.
Bydd trenau sy'n rhedeg ar reilffyrdd i'r gogledd allan o Gaerdydd yn drenau tyniant trydan 100 y cant, gyda'r trydan yn dod o ffynonellau cwbl adnewyddadwy. Ac mae'r gyllideb, yn amlwg, yn parhau i fuddsoddi yn y seilwaith ceir trydan, er fy mod yn sylweddoli ei bod yn ddyddiau cynnar ar y gwaith hwnnw.
Ac at hynny dwi am droi, achos ydych, mi ydych chi ar gyfnod cynnar iawn, iawn yn y buddsoddiad ddylai fod yn digwydd ar raddfa eang mewn rhwydwaith y wefru ar gyfer ceir trydan. Dwi'n edrych ymlaen at gymryd rhan mewn dadl yma yn Siambr y prynhawn yma ar sut i annog cerbydau trydan drwy'r drefn gynllunio. Ond yn ein cytundeb ar y gyllideb ddwy flynedd yn ôl, mi wnaeth eich Llywodraeth chi gytuno i gais Plaid Cymru i fuddsoddi £2 filiwn mewn rhwydwaith wefru genedlaethol gyhoeddus. A gafodd hwnnw ei wario ac ar beth?
Bydd yn rhaid i mi roi sicrwydd i chi y byddaf yn trafod gyda fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, fod yr arian hwnnw wedi’i wario, ond, fel rydym wedi trafod eisoes, rwyf wedi dweud yn glir iawn wrth fy nghyd-Weinidogion fod angen iddynt roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Blaid Cymru ar y cynnydd tuag at yr eitemau hynny y cytunasom arnynt ar y cyd yn ein cyllideb, a byddaf yn ymdrechu i roi’r diweddariad hwnnw i chi.
Wir yr, mae'n rhaid i fi ddweud, mae wedi bod yn destun rhwystredigaeth mawr i fi, ar ôl llwyddo i gael y cytundeb yna, i weld arafwch mawr wrth wario'r arian. Mewn ateb ysgrifenedig ym mis Tachwedd ynglŷn â gwariant Llywodraeth Cymru yn y pum mlynedd diwethaf ar isadeiledd gwefru, rydym ni'n gweld bod ychydig dros £0.5 miliwn yn cael ei roi mewn grantiau i gynghorau Sir Gaerfyrddin, sir Benfro, ac Abertawe yn ôl ym mis Mai y llynedd a tua'r un faint, mymryn yn fwy, wedi'i ddyrannu ym mis Medi. Doedd £2 filiwn ddim yn llawer fel yr oedd hi, ond mi oedd yn bwysig iawn cael yr arian yna er mwyn rhoi hwb yn y sector yma.
Ond ydych chi'n derbyn bod llwyddo i wario dim ond hanner hynny drwy Gymru gyfan ar bwyntiau gwefru cyhoeddus hyd at ddiwedd y llynedd yn brawf o fethiant y Llywodraeth i droi addewidion gwariant yn realiti? Ac os mai dyna'ch agwedd chi tuag at y rhwydwaith gwefru, onid ydy hynny yn gofyn cwestiynau difrifol iawn ynglŷn â'r addewidion sy'n cael eu gwneud yn ehangach rŵan o ran taclo newid hinsawdd a pharodrwydd a gallu'r Llywodraeth i droi'r cynlluniau hynny i gyd yn realiti hefyd?
Buaswn yn anghytuno â hynny, gan y credaf, pan fyddwn yn gwneud addewidion, y dylem eu cadw. Felly, mae'r gyllideb hon rwyf wedi'i chyhoeddi yn cyflawni’r addewidion mawr a wnaethom yn yr etholiad diwethaf. Felly, mae’n cyflawni o ran darparu’r 100,000 o brentisiaethau i bob oedran yn ystod tymor y Cynulliad hwn; mae'n cyflawni o ran dyblu'r swm y gall pobl ei gadw cyn talu am ofal cymdeithasol; mae'n cyflawni o ran darparu cefnogaeth i fusnesau bach gyda’u hardrethi; ac mae'n cyflawni mewn perthynas â'r holl eitemau eraill a oedd yn addewidion allweddol gennym, ac felly gallwn fynd at y bobl y tro nesaf, a dweud ein bod wedi cyflawni mewn perthynas â'r addewidion hynny.
O ran cerbydau trydan, mae hwnnw’n fater pwysig iawn ac rwy'n falch eich bod wedi sicrhau'r ddadl ar hynny y prynhawn yma. Credaf fod llawer y mae angen i'r farchnad ei wneud o hyd. Felly, roedd Mike Hedges, yn y ddadl ddoe, yn ein hatgoffa y bydd angen gwahanol fathau o wefrwyr ar wahanol fathau o gerbydau. Nawr, yn amlwg, ymddengys i mi fod hynny’n broblem.
Yr wythnos hon, mae'r Undeb Ewropeaidd wedi cyflwyno deddf sy’n ei gwneud yn ofynnol i wefrwyr ffonau ar gyfer pa fath bynnag o ddyfais, boed yn ddyfais Android neu Apple, fod yr un peth. Mae hynny'n newyddion da i ddefnyddwyr. Nid wyf yn gwybod pam na allwn archwilio beth y gallem ei wneud a allai fod yn newyddion da i ddefnyddwyr i wneud hyn yn haws.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
Diolch, Lywydd. Ddoe, cafwyd dadl yn y Siambr hon ar y gyllideb ddrafft. Wrth gwrs, yr hyn sy’n allweddol er mwyn rhoi sylfaen well i economi Cymru yw cefnogi busnesau bach Cymru'n well. A allwch ddweud wrthym sut y mae'r gyllideb ddrafft hon yn cynnig helpu'r 95 y cant o fusnesau Cymru sy'n fusnesau bach a micro, ac sy’n cyflogi llai na naw o bobl yr un, mewn sawl achos?
Yn sicr. Mae'r gyllideb yn nodi ein hymrwymiadau i gefnogi busnesau, yn enwedig busnesau bach a chanolig, drwy ein cefnogaeth i ardrethi busnes. Fe wyddoch, yng Nghymru, nad yw oddeutu hanner y busnesau yn talu unrhyw ardrethi o gwbl diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, ac mae hynny'n cymharu'n ffafriol iawn â’r sefyllfa dros y ffin yn Lloegr, lle nad oes ond oddeutu traean yn unig yn cael y lefel honno o gefnogaeth.
Weinidog, rydych yn llygad eich lle yn dweud bod nifer o fusnesau'n osgoi talu unrhyw ardrethi o gwbl. Ymwelais â stryd fawr Cas-gwent yn ddiweddar, ac ar un stryd yno, ceir nifer o fusnesau nad ydynt yn talu ardrethi. Yn anffodus, ar yr un stryd, ceir busnesau hefyd sydd o faint tebyg iawn, ond mewn parth gwahanol o bosibl, sy'n gorfod talu ardrethi busnes uchel iawn o ystyried maint y busnes. Felly, a fyddech yn cytuno â mi bod dadl yma dros adolygu'r system gyfan i sicrhau ei bod yn decach?
Os edrychwch ar dreth drafodiadau tir ar gyfer eiddo anfasnachol dros £1 filiwn ac ardrethi busnes, ymddengys bod y rhain yn fwy na’n cymheiriaid yn yr Alban a Lloegr ar hyn o bryd—mater a godais ddoe. Felly, a wnewch chi ymrwymo i edrych eto ar ardrethi busnes? Maent yn dreth, i bob pwrpas, ac maent yn effeithio ar lawer o'n busnesau arbennig o fach, sy'n asgwrn cefn yr economi.
Ar hyn o bryd, rydym yn edrych ar ddyfodol trethi lleol, felly rydym yn edrych ar ardrethi busnes a’r dreth gyngor, mewn partneriaeth, i archwilio a oes angen diwygio rhywfaint ar gyllid llywodraeth leol. Rydym wedi bwrw iddi ar sawl maes ymchwil i'n helpu gyda hynny, gan gynnwys edrych i weld beth fyddai'r goblygiadau pe baem yn newid i dreth gwerth tir, er enghraifft; edrych ar oblygiadau ailbrisio posibl, pwy fyddai'n ennill a phwy fyddai’n colli; a rhywfaint o waith sy'n edrych ar oblygiadau credyd cynhwysol, yn benodol ar ochr y dreth gyngor o drethiant lleol. Felly, rydym yn sicr yn dod â llawer o ymchwil at ei gilydd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, gan Brifysgol Bangor a mannau eraill, a byddwn yn ei chyhoeddi mewn cyfres o ddogfennau dros y tri mis nesaf, rwy’n credu, a byddant ar gael i'r holl gyd-Aelodau eu harchwilio i weld a oes ffordd well o weithredu trethi lleol. Yr hyn y byddaf yn ei ddweud yw nad ydym am ddiwygio er mwyn diwygio, ond yn sicr, credaf fod yna achos dros gyflwyno mwy o degwch a mwy o gydlyniad i'r system.
Buaswn yn dweud 'Dyna safbwynt Ceidwadol da: nid diwygio er mwyn diwygio', ond rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch yn y ffordd roeddech chi'n ei feddwl. Rwy'n falch fod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Fel y dywedais, ymwelais â stryd fawr Cas-gwent yn ddiweddar, lle roedd yn ymddangos i mi ei bod yn hynod annheg y gallwch gael busnesau gyferbyn â'i gilydd ar un stryd, oherwydd y ffordd y mae ardrethi busnes yn gweithio ac oherwydd y system barthau, neu drws nesaf at ei gilydd i bob pwrpas ar stryd, sydd naill ai ddim yn talu unrhyw gyfraddau o gwbl neu'n talu cyfraddau eithaf uchel. Felly rwy'n gobeithio y bydd hynny’n cael sylw.
Weinidog, gwnaeth Rhun ap Iorwerth, yn ei gwestiynau agoriadol, rai pwyntiau da iawn am yr economi werdd, yn enwedig mewn perthynas â gwefru trydan. Roeddech yn falch o ddweud ddoe fod eich cyllideb yn gyllideb werdd, a chredaf fod pob un ohonom am weld cyllideb werdd a chyllidebu gwyrdd effeithiol yng Nghymru. Fel rwyf wedi'i ddweud, i bob pwrpas, trethi yw ardrethi busnes ac mae angen inni sicrhau eu bod yn gystadleuol. A ydych yn credu, mewn cyfnod o newid tuag at bennu cyllidebau gwyrddach, fod hon yn adeg dda i edrych eto ar y ffordd y mae busnesau yng Nghymru yn cael eu trethu ac efallai i edrych mwy ar newid tuag at economi drethiant gwyrdd, lle rydym yn tynnu’r baich oddi ar fusnesau a allai fod yn fach ond a allai fod yn eithaf ecogyfeillgar ac yn ei roi ar fusnesau nad ydynt yn ecogyfeillgar o bosibl, er mwyn eu hannog i wneud yn well? O ran eich cyllideb ddoe, fe wnaethoch ei galw’n gyllideb werdd, ond nid wyf wedi gweld llawer o dystiolaeth eto eich bod yn edrych ar newid y ffordd y mae strwythurau fel ardrethi busnes a threthi eraill yn gweithio i sicrhau ein bod, ar lawr gwlad, yn helpu busnesau sy'n chwarae eu rhan dros yr amgylchedd.
Wel, nid ydym yn argymell newidiadau mawr naill ai i’r dreth gyngor neu i ardrethi annomestig yn y flwyddyn ariannol nesaf. Yr hyn rydym yn ei gynnig yw casglu'r ymchwil a'r sylfaen dystiolaeth honno er mwyn llywio ein syniadau ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Ond mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn trafodaeth a gefais yn ddiweddar gyda’r grŵp trawsbleidiol ar siopau bach, a gadeiriwyd gan eich cyd-Aelod, Janet Finch-Saunders. Buom yn siarad am werth busnesau bach a chanolig, ac yn yr achos hwn, buom yn siarad yn benodol am y stryd fawr. Trodd y drafodaeth at yr hyn y buasem yn gofyn amdano pe baem yn edrych o'r newydd ar ardrethi busnes. A oes ffordd well o glymu ardrethi busnes â'r math o bethau sydd gennym yn ein contract economaidd? Sut y byddem, o bosibl, yn sicrhau ein bod yn ystyried gwaith teg neu ddatgarboneiddio ac ati? Nid ydym am greu system hynod lafurus, anodd a chymhleth, ond credaf ei bod yn deg meddwl am bethau'n wahanol, gan gynnwys mewn perthynas â’r agenda werdd hefyd.
Llefarydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Diolch, Lywydd. Gan gamu'n ôl o fanylion y gyllideb hon, a'r anawsterau penodol rydym wedi'u cael gydag amseriad cyllideb y DU mewn perthynas â'n cyllideb ein hunain, beth yw barn y Gweinidog Cyllid ynglŷn â sut y mae ein proses gyllidebol yn gweithio yn gyffredinol? Pa mor dda, neu fel arall, y mae'n cymharu â'r hyn y gallem ei ystyried yn arfer gorau gan ddeddfwrfeydd eraill, boed hynny yn y DU neu'n rhyngwladol? A yw hi o’r farn fod achos i’w gael, wrth i fwy a mwy o drethi gael eu datganoli ac wrth i’r sefydliad hwn aeddfedu, dros symud at broses cyllideb ddeddfwriaethol?
Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae'r Pwyllgor Cyllid yn casglu tystiolaeth arno ar hyn o bryd, ac edrychaf ymlaen at siarad yn fanwl yn sesiwn graffu’r pwyllgor ar hynny. Credaf fod rhai syniadau cynnar, mewn gwirionedd, yn ymwneud ag amseriad a'r ffordd y mae eleni wedi bod yn arbennig o anhrefnus, mae'n deg dweud, heb sôn am y gostyngiadau negyddol a gawsom wythnos cyn pennu ein hail gyllideb atodol ar gyfer eleni. Felly, mae wedi bod yn anhygoel mewn sawl ffordd.
Rydym eisoes wedi archwilio’r syniad o symud i system sy'n debycach i'r un a geir yn yr Alban, a fyddai fel rheol yn golygu cyhoeddi'r gyllideb ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei chyllideb hithau. Gwnaethom archwilio hynny gyda’r Pwyllgor Cyllid, a chredaf i’r Pwyllgor Cyllid ddod i’r casgliad, ac roeddem yn barod i gytuno â hynny, ei bod yn well ei chyhoeddi yn gynharach yn y flwyddyn i roi’r lefel o sicrwydd y gallwn ei rhoi i’n partneriaid.
Un o'r pethau rwy'n falch iawn ein bod yn gallu eu gwneud eleni—cyfarfu'r Gweinidog lywodraeth leol a minnau ag is-grŵp cyllid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y bore yma—yw gallu rhoi mwy o sicrwydd ynglŷn â rhai o'r grantiau mawr y mae awdurdodau lleol yn dibynnu arnynt. Credaf fod hynny wedi bod yn wers dda i ni o ran yr ymgysylltu a gawsom yno.
Ond yn sicr, credaf ei bod yn ddyddiau cynnar o ran y drafodaeth gyda'r pwyllgor, ac edrychaf ymlaen at archwilio hyn. Buaswn yn dweud hefyd, o ran y broses, ein bod yn awyddus i ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ymhellach yn ein proses o lunio'r gyllideb drwy gydol y flwyddyn. Felly, fe fyddwch yn gyfarwydd iawn bellach â'r cynllun treigl pum mlynedd i wella'r gyllideb, ac rydym wedi'i gyhoeddi am y tro cyntaf eleni i wella'r ffordd rydym yn cyflawni'r broses o bennu'r gyllideb.
O ran y ffordd y mae'r broses yn gweithio, gyda chyllideb ddrafft a chyfnod wedyn o sawl wythnos o leiaf o ymgynghori ymddangosiadol ac ystyried cynnwys y gyllideb ddrafft honno cyn i ni gyflwyno cyllideb derfynol wedyn i'w hystyried, tybed a yw'r broses honno'n rhoi'r argraff i bobl y tu allan i Lywodraeth Cymru yn arbennig a allai dderbyn neu elwa o gyllid fod mwy o gyfle i newid y gyllideb honno mewn ffordd fwy sylweddol nag y mae profiad yn awgrymu sy'n wir.
Tybed faint o newidiadau y mae'r Gweinidog Cyllid yn disgwyl eu gwneud i'r gyllideb ddrafft pan fydd yn cyhoeddi'r gyllideb derfynol. Er enghraifft, un maes y credaf y codwyd pryderon yn ei gylch ar sail drawsbleidiol yw'r gostyngiad mewn termau real yn y cymhorthdal bysiau. A yw hynny'n rhywbeth y mae'n realistig inni ddisgwyl bod y Gweinidog wedi clywed y sylwadau hynny ac wedi'i newid mewn ymateb iddynt, neu a yw'r broses yn caniatáu i bobl feddwl ac efallai i gael eu harwain i ddisgwyl mwy o bosibilrwydd o newid, effaith a dylanwad nag y mae'r broses gyllidebol yn caniatáu ar ei gyfer yn amlach na pheidio?
Credaf fod dadl i'w chael dros ymgysylltu'n gynharach yn y flwyddyn, ac roedd y ddadl a gyflwynodd y Pwyllgor Cyllid ar ôl eich sesiwn wrando yn addysgiadol iawn ac yn ddefnyddiol iawn. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth y buaswn yn awyddus i'w gyflwyno ar sail flynyddol, cael y ddadl yn gynnar yn y flwyddyn. Credaf fod rhywfaint o drafodaeth i'w chael gyda'r Pwyllgor Cyllid ynglŷn ag a ddylai'r Pwyllgor Cyllid arwain y ddadl ar ôl i'r pwyllgor wneud ei waith gwrando, neu a yw'n rhywbeth y byddai'n well gan y Pwyllgor Cyllid i'r Llywodraeth ei gyflwyno, ond rwy'n fwy na pharod i archwilio'r materion hynny gyda'r pwyllgor. Felly, credaf fod ymgysylltu cynnar yn bwysig iawn.
O safbwynt yr hyn a allai ddigwydd yn y gyllideb derfynol, rwy'n dal i ystyried beth y gallai'r opsiynau fod. Un o'r anawsterau mewn gwirionedd yw y bydd cyllideb y DU yn cael ei chyhoeddi'n fuan ar ôl hynny, a gallai newid pethau eto o bosibl. Gallwn ddyfalu na fyddai llawer o newid o ran refeniw ond efallai y byddai cyfalaf ychwanegol, felly credaf fod hon yn adeg i ni ac eraill ystyried beth fyddai ein blaenoriaethau pe baem yn cael cyllid ychwanegol. Ond os na allaf wneud dyraniadau pellach yn y gyllideb derfynol, yn sicr, buaswn yn awyddus i ddynodi i fy nghyd-Aelodau beth fyddai'r blaenoriaethau, pe bai cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu.