– Senedd Cymru am 4:42 pm ar 11 Chwefror 2020.
Eitem 6 ar yr agenda yw datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: yr wybodaeth ddiweddaraf am y grant cymorth tai. A galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae cael cartref eich hun wrth wraidd bywyd hapus a chynhyrchiol. Mae'r Llywodraeth hon yn credu y dylai pawb gael cartref cynnes a gweddus, ond i lawer nid dyna'r sefyllfa.
I lawer, mae digartrefedd a bygythiad digartrefedd yn real iawn. Gall poeni ynghylch sut i dalu eu rhent, sut i ymdrin â chais am fudd-dal neu sut i ddod o hyd i wely am noson achosi pryder a straen cyson. Mae'r achosion yn amrywiol ac yn gymhleth. Gallai fod yn ganlyniad i gyfnod yn y system ofal yn y gorffennol, heb rwydweithiau cymorth o deulu a ffrindiau, gallai fod o ganlyniad i newid mewn amgylchiadau, megis colli swydd neu chwalu perthynas. Gall trawma digartrefedd yn aml arwain at broblemau afiechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau neu waethygu problemau sy'n bodoli eisoes. Un o'r egwyddorion polisi allweddol sy'n sail i'n hymagwedd at atal digartrefedd yw ein bod yn mynd ati mewn modd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn seiliedig ar drawma er mwyn deall gwraidd y broblem ac atal digartrefedd rhag dod yn realiti.
Mae'r grant cynnal tai yn un o raglenni grant mwyaf sylweddol Llywodraeth Cymru, a'i nod yw mynd i'r afael â digartrefedd. Mae'n rhoi dros £126 miliwn yn nwylo awdurdodau lleol bob blwyddyn. Yn eu tro, maen nhw yn comisiynu miloedd o brosiectau, gan ddarparu gwasanaethau i ddegau o filoedd o bobl i leihau'r pryder a'r straen a wynebant, gan eu helpu i osgoi digartrefedd, a thrwy ddarparu cymorth parhaus lle y bo angen i sicrhau y gellir cynnal cartref yn y tymor hwy. Mae'n darparu gwasanaethau i atal digartrefedd lle bynnag y bo'n bosib a, lle nad oes modd gwneud hynny, mae'n sicrhau bod digartrefedd yn beth brin, yn fyrhoedlog ac yn rhywbeth nad yw'n digwydd eto.
Mae'r grant cymorth tai yn dwyn ynghyd dri grant a oedd yn bodoli'n barod: Cefnogi Pobl, elfennau o'r grantiau atal digartrefedd, a chyllid gorfodi Rhentu Doeth Cymru. Mae'n rhan o brosiect alinio cyllid ehangach sy'n ceisio creu rhaglenni mwy cydlynol sy'n lleihau biwrocratiaeth ac yn cynyddu arloesedd. Nodweddir y grant cymorth tai gan fanyleb fwy hyblyg, sy'n caniatáu i awdurdodau greu a mabwysiadu dulliau gweithredu newydd. Yn bwysig ddigon, mae'n rhoi rheidrwydd ar i awdurdodau ymateb i ddigartrefedd mewn modd cynhwysfawr—ymateb mewn modd sy'n canolbwyntio nid yn unig ar ddiffiniadau statudol o ddigartrefedd, ond hefyd ar yr achosion sylfaenol. Mae hyn yn hwyluso'r ymyriadau cynharaf, y gwyddom mai nhw yw'r rhai mwyaf effeithiol a'r rhai mwyaf darbodus.
Cynlluniwyd y grant cymorth tai i ddarparu effaith gynaliadwy a all fynd i'r afael â'r profiadau niweidiol yn ystod plentyndod sydd yn aml wrth wraidd yr agweddau sy'n arwain at ddigartrefedd. Drwy wneud hynny mae'n caniatáu i awdurdodau lleol ganolbwyntio ar waith atal gwirioneddol, y mae ei effaith yn lleihau'r galw ar wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a chyfiawnder troseddol. Fe'i cynlluniwyd i gefnogi'r egwyddorion polisi a nodir yn ein strategaeth ar gyfer atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd.
Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer y grant cymorth tai, a fydd yn newid y ffordd yr ydym yn ymdrin â'r gwasanaeth cyhoeddus pwysig hwn. Mae'r grant newydd yn seiliedig ar un system gynllunio strategol, sy'n adeiladu ar ddyletswydd bresennol awdurdodau lleol i gynhyrchu strategaeth ddigartrefedd. Mae hyn yn sicrhau y gellir cyfeirio adnoddau at y fan yn y system dai lle maen nhw'n cael yr effaith fwyaf. Rydym yn gwybod nad yw darparu cyllid yn unig yn ddigon; mae'n rhaid inni hefyd gael fframwaith sy'n caniatáu gwneud penderfyniadau da.
Mae'r ffydd sydd gennyf fod y grant cymorth tai yn darparu fframwaith o'r fath wedi ei gryfhau gan raddau'r ymgysylltu a fu â rhanddeiliaid. Rydym ni wedi gweithio'n galed i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio yn ysbryd pum ffordd o weithio deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Gellir disgrifio'r cyngor sy'n deillio o hynny fel cyngor a luniwyd ar y cyd ac felly y mae wedi rhoi prawf llawn ar y cwestiwn: a ellir cyflawni hyn yn ymarferol?
Mae'r cyngor hwn wedi arwain at fframwaith sy'n seiliedig ar integreiddio a chydweithredu. Mae'r canllawiau yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol ymgynghori â rhanddeiliaid yn sail i'w strategaeth leol. Mae hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol weithio ar y cyd ar draws eu rhanbarthau a chyda phartneriaid allweddol i gyflawni gweledigaeth draws-sector. Mae'r grwpiau cydweithredol cymorth tai rhanbarthol newydd yn cynnwys aelodaeth eang gan gynnwys comisiynwyr heddlu a throsedd, byrddau cynllunio ardal camddefnyddio sylweddau a defnyddwyr gwasanaethau. Mae hyn yn cydnabod bod digartrefedd yn broblem gwasanaeth cyhoeddus ac na ellir mynd i'r afael ag ef drwy dai yn unig. O ganlyniad bydd gwasanaethau'n gydgysylltiedig ac yn cynnig ymateb mwy di-dor i anghenion y defnyddiwr.
Rwy'n awyddus hefyd i sicrhau bod gennym ni sector darparu bywiog a chynaliadwy, ac nad yw'r berthynas bwysig rhwng y darparwr a'r defnyddiwr yn cael ei thorri heb bwrpas, a bod contractau'n adlewyrchu costau gwirioneddol darparu gwasanaethau. Rwy'n arbennig o falch bod y canllawiau'n adlewyrchu ein hegwyddorion gwaith teg. Mewn amgylchedd cyllido sydd wedi cael ei gyfyngu cymaint, caiff y pwysau yn aml ei deimlo yn nhelerau ac amodau'r gweithwyr ymroddedig sydd wrth galon gwasanaethau. Er fy mod i wedi ymrwymo i gynnig gwasanaethau i gynifer o bobl â phosib, rwy'n credu'n gryf mai economi ffug yw gwneud hynny ar draul cynnig cyflog byw i staff y gwasanaethau. Byddwn yn defnyddio'r grant cymorth tai fel cyfrwng arbrofi i ddangos y gall comisiynu a chaffael ddarparu gwaith teg.
Mae'r grant cymorth tai yn newid y berthynas rhwng llywodraeth ganolog a llywodraeth leol mewn ffordd sy'n cefnogi newid diwylliannol o fewn awdurdodau. Mae'n creu'r lle iddyn nhw lunio ymateb y gwasanaeth i ddigartrefedd ac atal digartrefedd. Mae'r newid diwylliannol hwn yn dechrau gyda'r fframwaith ond bydd angen cymorth a her barhaus i'w wireddu. Bydd gwaith y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd yn darparu mewnbwn hanfodol i gefnogi'r newid hwn. Rwy'n gwybod y bydd Aelodau eisiau gwneud eu rhan yn y broses honno ac rwyf eisiau profi ein llwyddiant mewn perthynas â'n bwriad i wneud digartrefedd yn beth prin ac yn fyrhoedlog ac yn rhywbeth nad yw'n digwydd eto yng Nghymru. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad hwn? Maes polisi cyhoeddus pwysig iawn, rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno. Mae'r grant cymorth tai wedi'i groesawu gan lawer yn y sector hwn, a nodaf y bwriad i wario arian cyhoeddus yn fwy effeithiol drwy ddulliau mwy integredig a strategol, ac edrychaf ymlaen at asesiad llawn o'r dull hwn, gan ei fod yn amlwg yn eithaf dadleuol pan gynigiwyd ef yn wreiddiol. Ond rwyf yn credu bod cael y gwerth mwyaf posib o'r bunt Gymreig yn egwyddor bwysig iawn.
Sylwaf ar adroddiad diweddar gan Cartrefi Cymunedol Cymru, Cymorth Cymru a Cymorth i Ferched Cymru, ac mae'n datgan bod dros 60,000 o bobl yn cael cymorth ar hyn o bryd, yn ôl eu cyfrifiad nhw, drwy'r grant hwn er mwyn osgoi digartrefedd, dianc rhag camdriniaeth, byw â chymorth yn eu cartrefi eu hunain a ffynnu yn eu cymunedau. Mae hynny yn rhoi syniad ichi, rwy'n credu, o ba mor bwysig yw'r cynllun grant hwn. Fodd bynnag, mae'r sefydliadau hynny hefyd wedi pwysleisio maint y galw a'r angen, ac yn galw am fwy o wario yn wir ar y grant cymorth tai er mwyn, ac rwy’n dyfynnu:
darparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac yn seiliedig ar drawma.
Roeddwn yn falch o sylwi bod y Gweinidog wedi defnyddio'r iaith honno ynglŷn â'r dull sy'n seiliedig ar drawma wrth wneud y datganiad hwn. Rwy'n credu bod y canllawiau newydd yn pwysleisio'r angen am integreiddio a chydweithio i gyflawni strategaeth digartrefedd wedi'i chydgynhyrchu. Rwy'n gwybod fod fy nghyd-Aelod Mark Isherwood wedi mynd ar drywydd y mater hwn, sef bod yn rhaid i ni gynnwys y sector cyfan wrth lunio strategaeth effeithiol, ac mae cydgynhyrchu'n allweddol i hynny. Felly, unwaith eto, rydym yn croesawu hynny yn rhan o'r dull gweithredu.
Nid wyf yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd y nod o ran dull gweithredu tai yn gyntaf llawn ar gyfer rhoi terfyn ar ddigartrefedd; er, yn amlwg, gellir archwilio'r model hwnnw drwy'r grant. Ond rwy'n credu bod angen yr archwiliad systematig hwn o'r hyn yr ydym ni'n mynd i'w wneud i ddod â digartrefedd i ben. Dim ond yr wythnos diwethaf, o ganlyniad i'r arolwg diweddaraf, cawsom arwydd bod achosion o gysgu allan wedi cynyddu. Rwy'n croesawu'r ffaith ein bod yn ceisio gwella'r data, gyda llaw, gan nad oedd gennym ni ddarlun clir iawn o'r blaen, ond unwaith eto rwy'n credu y gallwn ni i gyd gytuno ein bod ni ymhell o lwyddo i wneud y trawsnewidiad yr ydym eisiau ei weld o ran atal digartrefedd.
Felly, rydym ni'n rhoi croeso gofalus i'r dull gweithredu, ond rwy'n credu bod angen tsar digartrefedd, ac rwy'n credu bod angen i'r awdurdodau lleol, pan fyddant yn llunio eu strategaethau digartrefedd, osod targedau i ddod â digartrefedd i ben, a dilyn yr esiampl a osodwyd gan Manceinion, lle mae Andy Burnham, y maer, wedi arwain gyda'r dull hwn, gan osod targed realistig—targed uchelgeisiol hefyd, ond nid un i'w gyflawni yfory.
Ond rwyf yn credu bod angen inni ganolbwyntio yn y modd yna ar y broblem ddybryd hon, gan fod rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn y diwedd, yn ogystal â'r gwendid hwnnw, yn cysgu allan, ac yn amlwg mae llawer mwy mewn tai lle mae amodau simsan iawn neu yn ddigartref. Yn wir, nid yw hyn yn rhywbeth y dylem ei oddef mewn cymdeithas fodern.
Diolch i David Melding am y sylwadau yna. Heddiw, rydym ni'n lansio'r canllawiau newydd o ddifrif, sy'n ymwneud â sut y mae'r system yn gweithio; nid yw'n ymwneud â swm y cyllid mewn gwirionedd. Nid oes amheuaeth, petai mwy o arian ar gael, yr hoffwn i allu ei roi yn y maes hwn, ond rwyf hefyd yn ymwybodol iawn bod y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd, o dan gadeiryddiaeth Jon Sparkes, yn gweithredu. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi gweithredu holl argymhellion y grŵp gweithredu ar gysgu allan ychydig cyn y Nadolig. Mewn gwirionedd, dim ond deuddydd ar ôl y cyfrif cysgu allan, felly dim digon i newid hynny, er bod y cyfrif cysgu allan, fel y mae David Melding wedi cydnabod, yn ffordd eithaf amrwd o ganfod pwy sy'n cysgu ar y strydoedd.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael eu hadroddiad nesaf yn ystod yr hanner tymor nesaf. Gobeithio, ychydig cyn hynny, ond rwy'n gwybod eu bod yn gweithio mor gyflym â phosib. Ni allaf bwysleisio digon bod hynny'n cynnwys rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector yn gweithio gyda'i gilydd i weld beth yw'r ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â digartrefedd. Rwy'n cytuno ar y dull tai yn gyntaf. Byddwn yn trawsnewid, drwy'r cyngor hwn ac eraill, i sefyllfa o ailgartrefu'n gyflym, ond nid yw'n gweithio i bawb, felly mae hi'n wirioneddol bwysig sicrhau bod y system yn gweithio i gynifer o bobl ag y bo modd, ac i fynd ati yn y modd hwnnw sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac sy'n gysylltiedig â thrawma.
Felly, yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud gyda hyn yw newid y diwylliant oddi mewn i'r awdurdodau lleol a'r ffordd y maen nhw'n comisiynu'r gwasanaethau hyn. Yn gyntaf oll, sicrhau bod ganddyn nhw'r staff gorau ar lawr gwlad, sy'n fater sylweddol iawn, ac nad ydym ni ein hunain yn gyfrifol am gyflogaeth ansicr a chwalu perthynas drwy wthio amodau gwaith ansicr i'r union sector sy'n cynorthwyo pobl. Yn ail, sicrhau mai'r awdurdod lleol sydd yn y sefyllfa orau i wybod pa wasanaethau sydd ganddo ar hyn o bryd ac nad oes angen eu hatgyfnerthu, a pha wasanaethau y mae angen iddo eu rhoi ar waith yn eithaf cyflym i sicrhau y gallwn ni newid pethau. Felly, yr hyn sydd ei angen arnom ni yw cyfres o ganllawiau sy'n cael pobl i weithio'n rhanbarthol ac yn gydweithredol ac yn gydgynhyrchiol, gan wybod beth sydd ganddyn nhw eu hunain yn eu hardal ar lawr gwlad, heb inni geisio rhoi un ateb sy'n addas i bawb ledled Cymru, y gwyddom na fydd yn llwyddo.
Felly, rwy'n derbyn yr amheuon yr ydych chi wedi eu crybwyll. Yn amlwg, rydym yn trosglwyddo i'r system hon, ond byddaf innau hefyd yn edrych gyda chryn ddiddordeb i weld sut mae hynny'n gweithio, ac edrychaf ymlaen at gael adroddiad y grŵp gweithredu ar dai ar y camau nesaf hefyd, er mwyn inni allu cyplysu'r ddau beth gyda'i gilydd.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am rannu copi o ganllawiau ymarfer y grant cymorth tai cyn ei datganiad heddiw. Nawr, wrth gwrs, ni fyddai bwriadau da gan y Llywodraeth yn golygu fawr ddim oni bai fod y rhai sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau hanfodol sy'n helpu i fynd i'r afael â digartrefedd ar lawr gwlad yn cael eu hystyried, felly rwyf yn croesawu'r pwyslais a roddir ar sicrhau bod pawb yn cefnogi'r achos o fynd i'r afael â digartrefedd.
Efallai yr hoffai'r Gweinidog ystyried sut y gall y Llywodraeth bwysleisio'r neges hon, pan fo gennym ni, er enghraifft, gyngor Casnewydd, sydd dan reolaeth y Blaid Lafur, yn hel pobl ddigartref allan o faes parcio lle buont yn aros ac atafaelu eu heiddo prin. Nawr, rwy'n sicr y byddai hi'n gwrthwynebu mesurau o'r fath, felly byddwn yn ei hannog i ystyried beth gellir ei wneud er mwyn sicrhau bod y newid diwylliant hwn yn cael ei adlewyrchu ar bob lefel mewn awdurdodau lleol.
Gwyddom fod digartrefedd yn cynyddu bob blwyddyn. Mae ystadegau ciplun Llywodraeth Cymru yn dangos bod mwy o bobl yn cysgu ar y strydoedd. Mae'r ciplun yn dangos—ac eto, rwy'n siŵr ei bod hi'n gyfarwydd iawn â'r ffigurau—240 o bobl yn cysgu allan dros gyfnod o bythefnos yn 2015, ac mae hynny wedi cynyddu i 313 yn 2016, 345 yn 2017, 347 yn 2018, a 405 yn 2019. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cofnodi'r ystadegau hynny, oherwydd mae patrwm clir o gynnydd yna. A gwyddom fod gwir raddfa'r broblem yn debygol o fod yn llawer mwy, oherwydd mae'n ddiarhebol o anodd mesur digartrefedd. Ond mae'r ffaith bod Cyngor Caerdydd wedi cael 4,000 o geisiadau am gymorth gyda digartrefedd yn 2018—nid yw'r ffigurau hyn ond yn dechrau awgrymu beth yw maint y broblem.
Felly, nid oes dim yn natganiad y Gweinidog heddiw yr wyf yn anghytuno ag ef. Mae'n ymddangos bod y canllawiau a'r rheoliadau'n briodol, ond rwy'n credu y byddai'n esgeulus peidio â thrafod un o'r prif resymau dros y twf cyson mewn digartrefedd, sef, wrth gwrs, toriadau cyllid. Er bod y toriadau i les ers 2010 y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru, mae'r toriad o £37 miliwn i'r grant cymorth digartrefedd ers 2012 o fewn rheolaeth y Llywodraeth, ac mae cyllideb eleni unwaith eto yn sicrhau lleihad mewn termau real i'r gyllideb oherwydd effeithiau chwyddiant ar y gyllideb sefydlog.
Nawr, y dull ataliol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru yw'r un cywir—rwy'n cytuno ag ef—ond ni ellir ei gyflawni oni chaiff ei gefnogi gan ddigon o gyllid. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch sicrhau bod mynd i'r afael â digartrefedd yn flaenoriaeth, a chredaf fod y Gweinidog o ddifrif ynglŷn â hyn, rhaid adlewyrchu hyn mewn penderfyniadau cyllidebol.
Felly, mae Plaid Cymru yn llwyr gefnogi'r ymgyrch Materion Tai sy'n cael ei hargymell gan Cymorth, gan Cartrefi Cymunedol Cymru a chan Cymorth i Ferched Cymru, sydd o blaid cynyddu'r cyllid i'r grant cymorth tai, ac ategir eu galwad gan y dystiolaeth a gasglwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Canfu'r ymchwiliad nad yw'r gyllideb bresennol—unwaith eto, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o hyn, Gweinidog—ar gyfer y grant yn bodloni blaenoriaethau ymddangosiadol Llywodraeth Cymru ar gyfer digartrefedd, ac mae'n argymell cynyddu'r cyllid er mwyn cyflawni'r uchelgais pan fo digartrefedd 'yn beth prin ac yn fyrhoedlog ac yn rhywbeth nad yw'n digwydd eto'. Roeddent yn gweld ei bod yn amhosib cyflawni'r nod hwn yn wyneb toriadau blaenorol i'r gyllideb, ac yn wyneb y cynnydd yn y galw am wasanaethau a chymhlethdod.
O ran y mathau o effeithiau bywyd go iawn yr ydym yn sôn amdanyn nhw yn y fan yma, rwy'n siŵr bod y Gweinidog wedi edrych ar rai o'r astudiaethau achos ar wefan yr ymgyrch Materion Tai. Hoffwn ddarllen un ohonynt ar goedd i'r Siambr. Dyfyniad uniongyrchol yw hwn:
Drwy'r Grant Cymorth Tai, rydym yn ddiweddar wedi helpu unigolyn ifanc digartref sy'n defnyddio cadair olwyn i symud i lety dros dro, gan ei gynorthwyo i wneud cais am fudd-daliadau, arian brys, nwyddau gwynion, a chymorth cyn-denantiaeth wrth baratoi i symud i gartref parhaol.
Unwaith eto, gan edrych ar y ffordd gynhwysfawr o helpu unigolyn yn y sefyllfa ddyrys iawn hon. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn ymwybodol, wrth gwrs, o effaith y grant y mae hi'n gyfrifol amdano. Byddwn yn ei hannog yn daer i bwysleisio pwysigrwydd cynyddu'r gyllideb hon i'w chyd-Weinidogion yn y Cabinet, fel y caiff hynny ei adlewyrchu yn nyraniad y gyllideb derfynol, fel y gellir cefnogi pobl eraill fel yr unigolyn hwn a grybwyllais.
Rwy'n falch iawn o weld eich bod yn cefnogi cyhoeddi'r canllawiau. Nid yw heddiw'n ymwneud mewn gwirionedd â'r cwantwm a rown yn y grant cynnal; mae'n ymwneud â pha un a yw'r canllawiau yn ganllawiau cywir ac a fyddant yn sicrhau'r canlyniadau cywir.
Nid wyf yn anghytuno, wrth gwrs, y byddem yn hoffi rhoi mwy o arian n y grant cymorth tai. Mae cryn dipyn o feysydd lle hoffem ni roi mwy o arian ynddynt, ond mae'n rhaid i ni ei gymryd o rywle er mwyn gwneud hynny. Rydym ni newydd ddarparu'r setliad llywodraeth leol gorau ers naw mlynedd. Mae'r arian hwn yn mynd i lywodraeth leol hefyd, felly mae ceisio sicrhau bod y gwasanaethau'n cael cefnogaeth gynhwysfawr yn bwysig iawn.
Mae hefyd yn bwysig iawn gwneud yn siŵr bod y sector gwasanaethau cyhoeddus yn gydgysylltiedig. Felly, mae'r enghraifft yr ydych newydd ei darllen yn enghraifft dda iawn, oherwydd byddai angen cyfres gyfan o wasanaethau cyhoeddus i weithio gyda'i gilydd i gyflawni hynny. Dyna'n union yw hanfod y grant hwn a'i ganllawiau.
Felly, mae'r canllawiau hyn yn ymwneud ag awdurdodau lleol yn meddu ar strategaeth atal digartrefedd sy'n cwmpasu'r holl wasanaethau cyhoeddus angenrheidiol, ac yn dod â nhw at ei gilydd i wneud hynny, ac mae hynny'n cynnwys gwasanaethau i'r anabl a gwasanaethau tai, yn amlwg, ond strategaethau iechyd meddwl hefyd, strategaethau camddefnyddio sylweddau a chyngor ac arweiniad ar fudd-daliadau. Rydym ni hefyd yn rhoi llawer o arian i'n gwasanaeth cyngor ar fudd-daliadau—ni allaf gofio beth yw ei enw; y gronfa gynghori sengl, onid e—er mwyn gwneud hynny hefyd. Ond rydym ni'n brwydro yn erbyn problem gynyddol, mae arnaf ofn, oherwydd y ffordd y mae credyd cynhwysol yn cael ei gyflwyno, ac rwy'n gwybod nad ydym ni'n anghytuno ynghylch hynny ychwaith.
Yr hyn yr wyf yn gobeithio y bydd y canllawiau hyn yn ei wneud yw rhoi awdurdodau lleol yn y sefyllfa orau bosib er mwyn manteisio i'r eithaf ar ba bynnag arian a gawsant. Wrth gwrs, gan ddibynnu ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud o ran ei chyllideb, os bydd mwy o arian yna byddaf yn sicr yn gwneud fy ngorau glas i'w gael.
Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr iawn. Rwy'n croesawu cyfle arall eto i drafod cefnogi tai a'r grant cymorth tai, yr wyf wedi siarad amdanynt o leiaf bedair gwaith dros y pythefnos diwethaf mae'n debyg, ynghyd â David Melding ac eraill. Ond rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn. Dydw i ddim yn credu y gallwn ni orbwysleisio pa mor bwysig yw tai. Mae bod yn ddigartref yn un o ofnau mawr llawer ohonom ni, ac, wrth i ni fynd adref heno i dai cynnes, sych, meddyliwch am y rhai nad ydynt yn gwneud hynny. Ac rydym ni wedi gweld sut y bu'r tywydd yn ystod y dyddiau diwethaf. Dydw i ddim yn meddwl y byddai cysgu y tu allan ar frig unrhyw restr o bethau y byddem yn hoffi eu gwneud. Ond, yn anffodus, dyma'r realiti i lawer gormod o bobl.
Mae'n anhygoel o anodd cyfrif nifer y bobl sy'n ddigartref. Mae llawer o bobl, yn enwedig menywod, yn cysgu drwy'r dydd ac yn cerdded yn ystod y nos. Nawr, os ydych chi'n cerdded ar Stryd y Gwynt ar nos Sadwrn neu nos Sul, byddai unrhyw un yn ei chael hi'n anodd dros ben dweud pa un a ydych chi'n unigolyn digartref neu'n rhywun sydd dim ond allan am y noson. Felly, caiff wastad llai o fenywod eu cyfrif yn ddigartref. Ond y mae rhai dynion yn ei wneud hefyd; maen nhw'n credu ei bod hi'n beryglus i gysgu yn ystod y nos ac yn llawer mwy diogel i gysgu yn ystod y dydd.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog wedi dweud bod cael eich cartref eich hun yn ganolog i fywyd hapus a chynhyrchiol a bod y Llywodraeth yn credu y dylai pawb gael cartref cynnes a gweddus. Credaf fod hynny'n rhywbeth a fyddai'n cael ei ategu drwy'r Siambr gyfan.
Nod y grant cymorth tai yw mynd i'r afael â digartrefedd ac mae'n hynod o bwysig yn yr hyn y mae'n ei wneud wrth gomisiynu prosiectau i fynd i'r afael â digartrefedd, ond rydym ni hefyd yn gwybod bod rhoi cartref i rywun yn fesur dros dro yn unig os nad yw'n cael ei gefnogi. Mae ar rai pobl angen cefnogaeth. Mae eu bywydau yn anhrefnus; dydyn nhw ddim yn dod o gefndir sefydlog, p'un a ydyn nhw wedi bod mewn gofal neu wedi byw mewn cartref ansefydlog. Weithiau, soniwn am ofal, am y nifer o bobl ifanc sydd wedi gadael yr hyn a fu'n gartref ansefydlog iawn ac yn symud o un lle i'r llall yn barhaus, lle—. Ac rwy'n ymdrin ag ysgol yn fy etholaeth i lle, ar un adeg, roedd disgybl yno a fyddai'n mynd adref ac yn eistedd ar stepen o flaen tŷ i feddwl tybed pwy oedd yn mynd i'w chasglu ac ym mha gartref y byddai'n byw y noson honno. Rwy'n credu bod y problemau hyn gennym ni mewn gwirionedd. Ni fyddai hynny'n cael ei ganfod gan unrhyw rai o'ch arolygon chi nac unrhyw beth arall, ond dyna ichi rywun ifanc ac yn yr ysgol gynradd a oedd i bob pwrpas yn ddigartref.
Rwy'n credu yr hyn yr hoffwn i ei ddweud fel cwestiwn i'r Gweinidog yw hyn; rwy'n credu y gallwch chi fod yn sicr o gefnogaeth drawsbleidiol yma i ofyn am gyllid ychwanegol ar gyfer y maes hwn, ac os ydych chi eisiau gwybod o ble y mae angen i chi ei dynnu, rwy'n siŵr y gall llawer o bobl feddwl am nifer o feysydd sy'n ymddangos fel petaen nhw'n cymryd symiau mawr o arian ac nad ydynt yn ymddangos yn arbennig o gynhyrchiol. Ond rwy'n credu ei bod hi'n wirioneddol bwysig y caiff hyn ei ariannu'n ddigonol, ac os yw rhywun—. Os yw'r Gweinidog eisiau imi enwi rhai ohonyn nhw, fe wnaf i: yr economi, y mae'n ymddangos bod ganddi symiau mawr o arian i'w rhoi i gwmnïau i ddod yma am ein bod ni'n cynnig mwy o arian iddyn nhw na neb arall; maen nhw'n dod am gyfnod byr ac yna'n gadael. Dydw i erioed wedi meddwl y byddai hyn yn bolisi economaidd synhwyrol, ond mae'n sicr yn un drud iawn. Ond mae ymdrin â phobl sy'n ddigartref, rwy'n credu, yn uchel iawn ar agenda pawb, a byddwn yn gobeithio y deuir o hyd i arian ychwanegol.
Wel, diolch yn fawr iawn am hynny, Mike Hedges. Hynny yw, rwy'n cytuno â rhan fawr iawn o'r hyn a ddywedsoch chi, a dim ond i bwysleisio bod y grant cynnal tai yn seiliedig ar ddull cynllunio strategol unigol sy'n adeiladu ar y dyletswyddau sydd eisoes yn bodoli i awdurdodau lleol gynhyrchu'r strategaeth ddigartrefedd. Ac mae newydd grybwyll yr angen am system integredig i adnabod pobl fel yr unigolyn a ddisgrifiodd, y byddai angen gwasanaeth integredig rhwng y gwasanaeth addysg ysgolion, y system ofal, y system cymorth i deuluoedd, y system dai ac ati er mwyn gallu ymdrin â'r unigolyn hwnnw.
Rydym yn cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus, y gobeithiaf y bydd yr Aelodau wedi ei gweld, sef 'Dyma yw digartrefedd', sy'n dangos pobl yn gwneud yr union bethau hynny—yn eistedd mewn caffis neu'n cysgu ar soffas pobl. Mae unrhyw un nad oes ganddo le y byddai'n ystyried yn gartref diogel i adael ei bethau, yn dechnegol yn ddigartref, a'r hyn yr hoffem ei weld yw pobl yn dod ymlaen mor gynnar â phosib yn y broses honno fel y gallan nhw gael gwasanaethau grant cynnal tai, a holl ddiben hynny yw cadw pobl sy'n agored i niwed—eu helpu i ganfod a chadw cartref neu lety ac i fyw mor annibynnol â phosib, a gwneud cyfraniad sylweddol at eu cynnal yn y cartref diogel hwnnw.
Felly, ni allaf bwysleisio digon i'r Siambr mai'r hyn y mae canllawiau'r grant cynnal tai yn ei wneud i awdurdodau lleol yw sôn am y ffyrdd ymarferol y disgwylir i bob awdurdod lleol gyfrannu at y cynllunio strategol cynhwysfawr hwnnw ar gyfer y gwasanaethau hyn sydd mor bwysig yng Nghymru i atal digartrefedd.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad? Mae tai yn faes blaenoriaeth allweddol yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb'. Yn y gorffennol, rydym ni wedi beirniadu Gweinidogion y Llywodraeth hon yng Nghymru am barhau doed a ddelo yn hytrach na gwrando ar y rhai sy'n darparu gwasanaethau hanfodol. Felly, mae'n briodol cydnabod ymdrechion y Gweinidog, sy'n amlwg wedi gwrando ar gyngor Cymorth Cymru, ymhlith eraill, ac wedi gweithredu ar y cyngor hwnnw, ac sy'n gweithio gyda nhw i gyflawni'r hyn a fydd, gobeithio, yn wasanaeth gwell o lawer i'r rhai sydd, yn anffodus, am ba bynnag reswm, yn cael eu hunain heb gartref, neu efallai'n bwysicach, sydd angen cymorth i gadw eu cartref, gan osgoi digartrefedd yn y lle cyntaf.
Derbynnir, heb gymorth rhwydweithiau, ei bod hi'n amlwg na all rhai pobl ymdopi â phwysau bywyd modern. Er y cafwyd gwrthwynebiad ar y dechrau gan randdeiliaid, erbyn hyn fe ymddengys y bu hi'n llwyddiannus sefydlu cyfundrefn lle caiff nifer y grantiau sydd ar gael eu lleihau i ddim ond dau rwy'n credu. Mae'r cydweithio rhwng y Llywodraeth a'r sefydliad ambarél, Cymorth Cymru, er nad yw'n llwyr fodloni Cymorth Cymru a darparwyr gwasanaethau eraill, yn sicr yn welliant sylweddol ar y sefyllfa flaenorol. Sefydlu dwy system grantiau tai, grant tai ac—[Anghlywadwy.]—grant tai, yn ôl pob golwg, yw canlyniad y cydweithio hwn. Mae'n dileu'r ansicrwydd ynghylch gallu landlordiaid i fenthyca arian er mwyn datblygu llety â chymorth ar gyfer pobl sy'n agored i niwed.
Dylai fod yn brif nod gan unrhyw weinyddiaeth i sicrhau y gall pobl gael cartref ac i atal pobl agored i niwed rhag colli eu cartrefi, ond hefyd i roi cymorth a chefnogaeth i'r rhai a allai golli eu cartrefi o hyd a helpu i ddatblygu'r sgiliau a'r hyder i fyw eu bywydau'n annibynnol. Rydym yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn y rheng flaen ac yn ymgynghori â'r holl randdeiliaid i'w hysbysu ynghylch eu strategaeth leol, gan gydweithio ar draws eu rhanbarthau gyda phartneriaid allweddol. Fodd bynnag, y tro yn y gynffon, Gweinidog, yw bod y setliad ar gyfer y grant tai yn dangos ei fod yn aros yn sefydlog ar £126.8 miliwn, sydd, i bob pwrpas, yn lleihad mewn termau real. Fel y crybwyllwyd gan David Melding a Delyth Jewell, mae Cymorth Cymru wedi datgan na fydd y setliad hwn yn 2020 yn ddigon i gyflawni uchelgeisiau ar y cyd Llywodraeth Cymru, landlordiaid a darparwyr cymorth. Gweinidog, o ran dyraniad y gyllideb, ydych chi'n rhannu eu pryderon?
Diolch am y croeso. Rwy'n credu ei bod hi'n gywir dweud, fel yr ydych chi wedi cydnabod, ein bod wedi gweithio'n galed iawn gyda rhanddeiliaid i gynhyrchu canllawiau y mae pawb yn credu eu bod yn addas at y diben, ac rwyf yn wirioneddol gredu y bydd yn cynhyrchu'r gwasanaethau cyhoeddus cydgysylltiedig sydd eu hangen arnom ni yn y maes hwn.
Rwyf yn credu o ran yr arian, mae hi yn bwysig dweud, yn wyneb setliadau cyni milain iawn dros naw mlynedd, ein bod wedi cynnal hyn; ni fu cwtogi ar hyn. Felly, mae'r syniad ein bod ni nawr yn cael ein difrïo rywsut am beidio â'i gwtogi pan gafodd popeth arall ei gwtogi, rwy'n ei chael hi'n anodd iawn ei dderbyn. Wrth gwrs, hoffem roi mwy o arian iddo, ond rhaid i'r arian hwnnw ddod o rywle. Os oes arian ychwanegol o ganlyniad i setliadau cyllideb y DU, yna byddwn yn hapus iawn i drafod gyda'm cydweithiwr, Rebecca Evans, gan roi rhywfaint o'r arian hwnnw at atal digartrefedd.
Rydym ni hefyd—fel y dywedais mewn ymateb i Mike Hedges, rwy'n credu, a Delyth, a phawb, mae'n debyg, David Melding hefyd—wedi sicrhau bod y grŵp gweithredu tai yn gweithio'n galed iawn i ni, ac rwyf eisiau bod yn sicr y gallaf weithredu'r cynigion a ddaw o'r grŵp hwnnw. Nid wyf yn gwybod beth ydyn nhw eto, ond mae hwnnw'n grŵp traws-randdeiliad ledled Cymru, ac rwy'n siŵr y bydd ganddyn nhw nifer o bethau i'w dweud wrthym ni ynghylch y ffordd orau i wneud ein gwasanaethau digartrefedd a'n gwasanaethau tai weithio gyda'i gilydd. Ac rwyf eisiau bod yn sicr y byddwn yn gallu gweithredu'r rheini mewn modd amserol hefyd.
Croesawaf eich datganiad heddiw, Gweinidog, a chyhoeddiad canllawiau'r grant cynnal tai i awdurdodau lleol. Fel y gwyddoch chi, mae'r pwyllgor cydraddoldeb yr wyf i'n ei gadeirio wedi bod yn gwneud llawer o waith ar gysgu allan, ac yn benodol, yn ein gwaith diweddar, rydym ni wedi ymdrin â materion ac anhwylderau sy'n cyd-fodoli yn ymwneud â chomisiynu. Yn wir, byddwn yn trafod yr adroddiad hwnnw yma yn y Siambr yfory.
Ond rwy'n croesawu'n fawr y ffaith fod y canllawiau'n ei gwneud hi'n glir bod comisiynu'n sbarduno caffael, oherwydd bu hynny'n thema drwy holl waith y pwyllgor ar y pwnc hwn, ac rydym yn credu y dylai comisiynu effeithiol arwain at wasanaethau effeithiol sy'n bodloni anghenion y bobl sy'n eu defnyddio. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod y canllawiau'n pwysleisio pwysigrwydd cynnwys ac ymgysylltu â phobl sy'n defnyddio pob agwedd ar y gwasanaethau a ariennir—y cynllunio, y caffael, y monitro a'r gwerthuso. Mae hynny'n amlwg yn bwysig iawn. Rwy'n arbennig o falch bod y canllawiau yn amlygu pwysigrwydd ystyried hyd contractau yng nghyd-destun sefydlu amgylchedd sefydlog sy'n galluogi recriwtio a chadw staff, a sefydlogrwydd, wrth gwrs, i bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau. Gwelsom yr amlygwyd y graddau presennol o ansefydlogrwydd yn y sector dro ar ôl tro fel rhwystr i sefydlu perthynas effeithiol gyda'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hanfodol hynny.
Er fy mod yn croesawu llawer o'r canllawiau, rwy'n dal yn pryderu am faint o gyllid sy'n y system. Fel y gwyddoch chi, galwodd ein pwyllgor am gynnydd yn y grant cymorth tai yn rhan o'n gwaith craffu ar y gyllideb, ac ynghyd â chydweithwyr o bob rhan o'r Siambr, galwyd eto am hyn yr wythnos diwethaf yn ystod y ddadl ar y gyllideb ddrafft. Seiliwyd ein hargymhelliad ar ein gwaith o graffu ar y gyllideb ac ar y gwaith rydym ni'n ei wneud ar hyn o bryd. Rydym ni wedi derbyn gohebiaeth gan Cymorth Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru a Cymorth i Ferched Cymru yn dweud nad yw'r setliad ar ffurf arian parod yn y gyllideb yn ddigon, gyda gwasanaethau wedi cyrraedd sefyllfa dyngedfennol.
Felly, er ei bod hi'n amlwg yn hanfodol sicrhau y comisiynir gwasanaethau yn briodol, mae'n hanfodol hefyd bod digon o arian ar gael i sicrhau bod y gwasanaethau cywir yn cael eu darparu yn y lle cywir ac, wrth gwrs, mewn modd amserol. Clywais yr hyn a ddywedsoch chi yn gynharach, Gweinidog, a sylwaf fod y Gweinidog cyllid, wrth ymateb i gwestiynau yr wythnos diwethaf, wedi awgrymu, petai cyllid ychwanegol yn cael ei ddyrannu i Lywodraeth Cymru, y gallai hynny ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer y grant cynnal tai. Felly, rwy'n croesawu'n fawr yr hyn a ddywedsoch chi yn gynharach am y trafodaethau hynny, ac edrychwn ymlaen at glywed y canlyniad.
Ond byddai'n ddefnyddiol hefyd pe baech yn egluro pa ystyriaeth sydd wedi'i rhoi i ailddyrannu cyllid i ddarparu'r cynnydd angenrheidiol i'r grant cymorth tai, oherwydd, wrth gwrs, nid ydym yn gwybod y bydd arian ychwanegol yn cael ei roi gan Lywodraeth y DU. Diolch yn fawr.
Diolch ichi am hynny, John Griffiths, rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Mae Pennod 7, sef y bennod ar gomisiynu a chaffael gwasanaethau grantiau cymorth tai, yn adlewyrchu gwaith y pwyllgor ar gaffael a chomisiynu, felly rwy'n falch iawn o'ch clywed yn ei groesawu. Rwy'n credu bod llawer o'r hyn sydd wedi'i nodi yn y bennod hon yn rhywbeth y byddem i gyd yn ei ystyried yn arfer a chaffael moesegol da. Felly, dim ond pwysleisio hynny a wnaf. Er enghraifft, rydym yn falch iawn, yn y canllawiau, o nodi ein hegwyddorion gwaith teg a dweud na ddylai pobl sy'n darparu'r gwasanaethau hyn gael eu gwthio i waith ansicr, annheg oherwydd yr angen i sicrhau'r adnoddau mwyaf, gan fod hynny mewn gwirionedd yn cael effaith hollol groes i'r hyn a ddymunwn. Rwy'n gwybod bod y pwyllgor wedi dod i gasgliadau tebyg.
Hoffwn bwysleisio un peth byr, sef ei fod yn dweud hefyd fod yn rhaid i gynlluniau comisiynu adlewyrchu'r dulliau mwyaf priodol o ddatblygu'r farchnad a chaffael yn yr ardal leol, gan gynnwys gwahanol ffurflenni contract, grantiau neu ddarpariaeth fewnol. Felly, nid ydym ni—. Wrth ddweud canllawiau comisiynu, term cyffredinol yn unig yw hwnnw ynghylch sut y cewch y gwasanaethau hyn yn eu lle; nid yw'n golygu ein bod o reidrwydd yn eu cael drwy un strwythur penodol. Ac ni allaf bwysleisio digon y bydd pob awdurdod lleol yn gwybod beth yw'r ddarpariaeth yn ei ardal, a bydd yn gymysgedd o drefniadau mewnol, y trydydd sector a'r sector preifat. A dylent fod yn sicrhau, drwy'r grant hwn a'r canllawiau hyn, y cyfuniad gorau posib o'r gwasanaethau hynny i ddarparu'r gwasanaeth gorau ar lawr gwlad, yn union fel y gofynnwyd inni gan adroddiad y pwyllgor.
O ran y cwantwm, rwy'n credu, fel y dywedais mewn ymateb i nifer o bobl eraill, wrth gwrs y byddem yn hoffi cael mwy o arian; hoffem gael mwy o arian ar gyfer bron pob gwasanaeth, neu bob gwasanaeth—nid wyf yn gwybod pam yr wyf yn dweud 'bron pob'—pob gwasanaeth yn y Llywodraeth. Rwy'n falch ein bod wedi gallu gwneud yr hyn y dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n ei wneud, sef diogelu iechyd, a'r ail ddymuniad oedd diogelu llywodraeth leol. Rydym ni newydd gyflawni'r setliad llywodraeth leol gorau ers naw mlynedd, rwy'n falch iawn o hynny, ac, wrth gwrs, mae'r arian hwn yn mynd i awdurdodau lleol i ddarparu'r gwasanaethau hynny. Felly, mae'n rhaid ei weld o fewn y setliad gorau hwnnw.
Ond, yn amlwg, os oes arian ychwanegol o ganlyniad i'r cylch setliad cyllideb terfynol a hefyd oherwydd bod gennym ni'r sefyllfa hon sydd braidd yn anarferol, ddywedwn ni, gyda chyllideb wythnos ar ôl ein cyllideb ni, os yw hynny'n esgor ar unrhyw arian ychwanegol, yna, yn amlwg, mae digartrefedd yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Ond o'm rhan i, i roi hynny yn ei gyd-destun, tai yw'r brif flaenoriaeth, hefyd, oherwydd mae hyn yn fwy na rheng flaen digartrefedd; mae a wnelo hyn ag adeiladu'r tai cymdeithasol angenrheidiol i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor. Felly nid yw'n ymwneud â'r rheng flaen yn unig. Ac yna, ar y rheng flaen, wrth gwrs rydym ni wedi rhoi £20 miliwn ychwanegol ar ben y grant cymorth tai ar gyfer atal digartrefedd eleni. Byddwch yn gwybod ein bod wedi gwneud hynny mewn ymateb i'r grŵp gweithredu ar dai dros y Nadolig, ac fel y dywedais wrth ymateb i David Rowlands, rydym yn aros am adroddiad nesaf y grŵp gweithredu ar dai.
Gweithiais gyda darparwyr cymorth tai cyn dod i'r fan yma, a thrwy gydol fy amser yma, ers 2003, rwyf wedi gweithio ar bob ymgyrch—nid dyma'r un cyntaf—ar gyfer Materion Tai bob blwyddyn, cyn hynny cawsom yr ymgyrch Gadewch i ni Barhau i Gefnogi Pobl gan Cymorth Cymru. Yn anffodus, mae hyn wedi dod yn dipyn o ddefod flynyddol. Fel arfer, bu newyddion da ar y diwedd, ac rwy'n gweddïo y bydd yr un peth yn wir yn yr achos hwn.
Rydych chi'n dweud ein bod yn gwybod nad yw'n ddigon i ddarparu cyllid, ond rydym yn gwybod, heb ddigon o gyllid, na fydd y grant newydd yn adeiladu ar ddyletswydd bresennol awdurdodau lleol i lunio strategaeth ddigartrefedd. Fel y clywsom ni, wrth ymateb i'r setliad arian parod ar gyfer y grant yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, cwtogiad mewn termau real, rhybuddiodd Cymorth Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru a Cymorth i Ferched Cymru bod gwasanaethau sy'n atal digartrefedd ac yn cefnogi byw'n annibynnol wedi cyrraedd sefyllfa dyngedfennol erbyn hyn. Ac yn y gogledd dywedodd darparwr gwasanaethau byw â chymorth yr ymwelais ag ef yn ddiweddar mai'r canlyniadau fyddai mwy o bwysau ar wasanaethau'r GIG, unedau damweiniau ac achosion brys a'r gwasanaethau brys.
Fe wnaethoch chi ddweud, a hynny'n ddealladwy, y byddai rhoi mwy o arian i hyn yn golygu bod arian yn cael ei gymryd o rywle arall, ond pam na wnaiff Llywodraeth Cymru yr hyn y mae'n ei ddweud o ran yr agenda ymyrryd ataliol a chydnabod nad yw hyn yn ymwneud â chymryd arian o rywle arall, mae'n ymwneud ag arbed llawer mwy o arian i feysydd arall drwy dynnu pwysau oddi ar wasanaethau statudol? Bydd cyllidebu doeth yn y maes hwn, gan ddiogelu cyllidebau yn y maes hwn, yn arbed cannoedd o filiynau yn fwy ar gyfer gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a rhai gwasanaethau allweddol eraill.
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd ar gyfer ei hailddosbarthu arfaethedig o'r grant cymorth tai? Mae darparwyr allweddol yn y gogledd yn dweud wrthyf y byddai'r cynlluniau y maen nhw'n deall sydd ar waith yn peri i bum awdurdod lleol yn y gogledd golli rhwng 25 a 40 y cant o'u harian grant cymorth tai. A yw hynny'n dal yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried? Os nad ydyw, beth yw ei safbwynt presennol o ran yr ailddosbarthu y cyfeiriodd ato'n flaenorol?
Fel y dywedodd David Melding, fe wnaethoch chi gyfeirio at gydgynhyrchu. Rydych yn sôn am ymgysylltu â rhanddeiliaid ac y gellir disgrifio'r cyngor fydd yn deillio o hynny fel cyngor sydd wedi ei lunio ar y cyd, ond yna rydych yn gwrth-ddweud hynny drwy ddweud bod y canllawiau yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol ymgynghori â rhanddeiliaid yn sail i'w strategaeth leol; ymgynghori yw'r gwrthwyneb i gydgynhyrchu ac mae i fod yn esblygiad i fynd â ni y tu hwnt i hynny. Felly, os yw hwn yn mynd i gael ei gyd-gynhyrchu, sut bydd y canllawiau'n sicrhau bod darparwyr cymorth tai'r trydydd sector, y darparwyr allweddol o waith ymyrryd ataliol yn y maes hwn, yn gorfod helpu i lunio a chyflawni'r strategaeth leol gyda phartneriaid yn greiddiol i hynny, fel y gallwn ni fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau eraill a godwyd?
Yn olaf, sut ydych chi'n ymateb i'r alwad gan Cymorth i Ferched Cymru i sicrhau bod comisiynu'r grant cymorth tai yn cwmpasu pob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn hytrach na, fel y dywedant, rhagdybiaeth gychwynnol y bydd canolbwyntio ar gam-drin yn diwallu anghenion amrywiol pawb sy'n goroesi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol?
Fel y dywedaf, nid heddiw yw'r diwrnod yr ydym yn trafod y gyllideb. Heddiw oedd y diwrnod yr oeddem yn trafod y canllawiau, sydd wedi'u cyd-gynhyrchu a'u croesawu gan y sector yn ei gyfanrwydd.
Soniodd Mark Isherwood am rai ymgyrchoedd blaenorol y bu'n ymwneud â nhw, a gwn ei fod wedi cymryd rhan yn yr ymgyrchoedd hynny, ond roedd un ohonynt, er enghraifft, yn ymwneud ag atal diddymu Cefnogi Pobl, ond mewn gwirionedd mae'r sector yn croesawu'n fawr iawn y ffordd y mae'r grant cymorth tai newydd yn gweithio, ac er fy mod yn deall eu pryderon ar y pryd, nawr mae'n amlwg iawn y buom ni'n gywir yn gwneud yr hyn a wnaethom ni a bod hon yn system lawer mwy effeithlon ac effeithiol. Felly, nid yw cynnal pob ymgyrch—er fy mod yn deall pryderon y sector—wastad y peth gorau i'w wneud, oherwydd mewn gwirionedd roedd yn llawer gwell cyfuno'r grantiau a chael system sy'n golygu bod y grant cymorth tai ar gael yn llawer mwy hyblyg. Felly byddaf yn defnyddio hynny i ddangos bod newid weithiau'n cael ei wrthsefyll oherwydd ei fod yn newid, ac mewn gwirionedd, y canlyniad yw ei bod yn well sefyllfa na'r hyn a oedd gennym ni yn y lle cyntaf. Felly, mae hyn yn amlwg yn un o'r adegau hynny.
O ran gweddill sylwadau Mark Isherwood, wrth gwrs ein bod yn sôn am gyd-gynhyrchu'r canllawiau, ac rydym ni hefyd yn sôn am y strategaeth ddigartrefedd, y mae'n rhaid ymgynghori yn ei chylch yn rhan o'r Ddeddf ddigartrefedd wreiddiol. Mae'n ddrwg gennyf; yn sydyn mae gen i gosi yn fy ngwddf. Mae'n bwysig peidio â chyfuno'r ddau. Nid wyf yn awgrymu eich bod chi, Mark Isherwood, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn deall mai'r hyn yr ydym yn sôn amdano yn y fan yma yw'r canllawiau a'r ffordd y mae'r canllawiau'n cael eu llunio, ac wedyn yr hyn y mae'n rhaid i'r awdurdodau ei wneud er mwyn comisiynu'r gwasanaethau sy'n deillio ohonynt, a'r ffordd y mae hynny'n gweithio ynghyd â'r strategaeth atal digartrefedd yn gyffredinol. Fe orffennaf yn y fan yna felly.
A wnewch chi? Ydych chi'n siŵr? Rhianon Passmore.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, rwy'n croesawu yn fawr iawn y canllawiau strategol hyn ar gyfer awdurdodau lleol a'r £20 miliwn ar gyfer digartrefedd. Mae'n bwysig bod gwasanaethau tai a digartrefedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn gallu diwallu anghenion amrywiol pobl, gan gynnwys y rhai ag anifeiliaid anwes.
Mae'r dull tai yn gyntaf yn cael ei gydnabod bellach yn ddull arloesol a blaengar yng Nghymru ac yn un y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi. Rwy'n falch iawn o weld y pwyslais yn y canllawiau strategol newydd hyn ar yr angen i wasanaethau fod wedi eu llywio gan seicoleg, a phwysigrwydd meithrin perthynas ymddiriedus â phobl, yn enwedig o ystyried y trawma y mae llawer wedi ei gael yn gynharach yn eu bywydau. Ac rwyf i hefyd yn croesawu'r pwyslais ar ddarparu cymorth therapiwtig i staff sy'n gwneud swyddi anhygoel o anodd bob un dydd wrth gefnogi pobl i oresgyn trawma a digartrefedd. Rwyf hefyd yn gwybod bod cyni dwfn wedi ei gwneud yn hynod anodd i awdurdodau lleol a darparwyr cymorth gael yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i sicrhau bod gwasanaethau yn gwbl ganolog ac yn cael eu llywio gan seicoleg.
Mae credyd cynhwysol, y dreth ystafell wely a thoriadau a chyfyngiadau lles eraill yn cyfrannu at y cynnydd mewn digartrefedd, ac mae hyn yn ffaith sy'n cynyddu digartrefedd a galw. Felly, Gweinidog, a wnewch chi hefyd roi sicrwydd i mi—ac rydych eisoes wedi rhoi rhywfaint i mi heddiw—pe byddai arian ychwanegol ar gael cyn cyllideb derfynol Cymru, neu ar ôl cyllideb Llywodraeth y DU ym mis Mawrth, y byddwch yn dyrannu hyn i'r grant cymorth tai pwysig iawn hwn, fel bod gan awdurdodau lleol a darparwyr cymorth yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i ddarparu'r gwasanaethau sy'n wirioneddol yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac wedi eu llywio gan drawma, y mae'r canllawiau hyn yn eu hamlinellu yn strategol ac yn gyfannol?
Diolch yn fawr iawn i Rhianon Passmore am ei sylwadau. Rwy'n credu bod gwerth i ni atgoffa ein hunain, o ganlyniad i'w sylwadau, beth yw diben y grant cymorth tai mewn gwirionedd. Nid bwriad y grant hwn yw gwneud pob dim posibl yn y maes tai. Grant yw hwn sy'n benodol yno i atal digartrefedd a chefnogi pobl i fod â'r gallu, yr annibyniaeth, y sgiliau a'r hyder i gael gafael ar a/neu gynnal cartref sefydlog ac addas.
Felly, nid yw hyn yn ymwneud â rheng flaen cysgu ar y stryd—er y gall helpu yn y maes hwnnw—mae hyn yn ymwneud yn fwy o lawer â chadw pobl yn y math iawn o lety. Felly, wrth edrych ar y strategaeth tai yn gyntaf, er enghraifft, un peth yw rhoi rhywun i mewn i dŷ, ond mae'n rhaid iddyn nhw hefyd fod â'r sgiliau i allu rhoi trefn ar eu budd-daliadau a thalu eu biliau a rhoi rhywfaint o ddodrefn yn y tŷ a byw yn y tŷ hwnnw a bwydo eu hunain a chael bywyd cymdeithasol a'r holl fathau hynny o bethau. A bydd angen llawer iawn o gymorth ar lawer o bobl sy'n agored i newid i allu gwneud hynny, a gobeithio y bydd y cymorth hwnnw'n lleihau wrth iddyn nhw ddod yn fwy cyfarwydd ag ef, ond gallai fod angen i'r cymorth hwnnw barhau am flynyddoedd lawer. Felly, mae'n bwysig iawn gwneud yn siŵr bod gennym ni'r strwythurau grant cywir ar waith a bod y darparwyr cywir ar waith a all ddarparu'r cymorth hirdymor hwnnw i rywun allu cynnal y cartref diogel hwnnw, a pheidio â'u cael yn disgyn o'r system i fod yn ddigartref dro ar ôl tro. Felly, rwy'n cytuno yn llwyr.
O ran y cyllid, rwyf i wedi dweud llawer am y cyllid yn barod, ond dywedaf un peth olaf amdano. Mae yna bethau eraill yn ymwneud â thai a digartrefedd yr ydym ni'n eu hystyried, ac rwyf i yn atgoffa'r Aelodau y bydd adroddiad y grŵp gweithredu ar gyfer tai yn cael ei gyflwyno i ni yn fuan, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn awyddus i edrych yn fanwl iawn ar gynigion y grŵp gweithredu, a byddwn yn annog y Llywodraeth i'w hystyried nhw hefyd. Felly, yn ystod trafodaethau gyda fy ngyd-Aelod, y Gweinidog cyllid, ac unrhyw beth a ddaw o'r gyllideb, byddwn yn awyddus i gofio hynny hefyd.
Diolch yn fawr, Gweinidog.