2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 11 Mawrth 2020.
Diolch. Trown yn awr at gwestiynau'r llefarwyr, a llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Cwpwl o gwestiynau ynglŷn â'r coronafeirws a'r paratoi am hynny. O ran y pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal yn benodol, a gawn ni ryw syniad gennych chi o'r math o drafodaethau sydd wedi bod yn digwydd rhwng y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chithau er mwyn sicrhau bod yr adnoddau priodol yn cael eu rhoi yn barod i'w rhannu, os nad oes eu hangen nhw ar hyn o bryd? Achos rydyn ni angen gwybod na fydd diffyg adnoddau yn rhwystr mewn unrhyw ffordd pan fydd y frwydr yn erbyn coronafeirws yn dwysau.
Rwyf wedi bod yn cael y trafodaethau hyn gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog iechyd, o ran sut rydym yn ymdrin â COVID-19, ac rwyf hefyd wedi cael trafodaethau gyda chymheiriaid o'r gwledydd datganoledig eraill, a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys hefyd. Rydym yn glir yng Nghymru na fydd cyllid yn rhwystro'r GIG rhag gallu mynd i'r afael â'r coronafeirws. Roeddem hefyd yn glir yn ein cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys y dylai cyllid sy'n dod gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r amgylchiadau eithriadol hyn gael ei ddarparu ar sail angen. Roeddwn yn awyddus iawn i bwysleisio'r ffaith bod gennym ni, yng Nghymru, boblogaeth hŷn yn ôl cyfran ac yn amlwg, mae hynny'n golygu y gallai fod mwy o berygl y bydd yn rhaid inni ofalu am bobl sy'n llawer salach. Felly, mae hwnnw'n rhywbeth y mae angen inni ei gofio wrth i gyllid gael ei ddyrannu ar draws y DU. Nid ydym yn gwybod eto sut y bydd y darlun yn datblygu yn y gwahanol ranbarthau o Gymru, felly mae hon yn sicr yn drafodaeth barhaus, ond rwyf eisiau rhoi'r sicrwydd hwnnw na fydd cyllid yn rhwystr i gefnogi'r GIG.
Diolch yn fawr iawn, ac mi fuaswn i'n gwerthfawrogi diweddariadau ar yr adnoddau sydd yn cael eu rhyddhau, ochr yn ochr â'r diweddariadau ar y camau o ran gwarchod iechyd. Mae'r pwynt yna'n gwbl ganolog, wrth gwrs: allwn ni ddim edrych ar ryw fodel a fyddai'n rhannu arian yn ôl poblogaeth, oherwydd mi allai gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig gael eu taro'n wahanol iawn gan COVID-19.
Yn symud o'r elfen iechyd at yr elfen economaidd, sydd wrth gwrs yn elfen sylweddol o'r consyrn wrth inni symud ymlaen, mae Llywodraeth Prydain yn y gyllideb heddiw wedi cyhoeddi pecyn o gymorth ar gyfer busnesau bach sydd, wrth gwrs, yn dod o dan bwysau. Un syniad ydy rhewi cyfraddau busnes ar gyfer rhai busnesau; mae yna sôn am gynllun benthyciadau ar gyfer busnesau sydd wedi cael eu heffeithio gan coronafeirws; ac mae yna hefyd addewid y bydd y Llywodraeth yn helpu cwmnïau efo taliad statudol ar gyfer salwch ar gyfer y rheini sy'n colli gwaith o ran coronafeirws.
Mae'n bwysig iawn bod y pecynnau yna yn cael eu hamlinellu gan Lywodraeth Prydain; mae'n bwysig iawn hefyd ein bod ni yn clywed gan Lywodraeth Cymru pa mor barod ydych chi i chwilio am ffyrdd gwahanol o leddfu pryderon busnes rŵan a bod yn barod i gamu i mewn. Dydyn ni ddim wedi clywed manylion cynlluniau felly hyd yn hyn, ac mi fyddai rŵan yn gyfle da i ni allu trafod hynny.
Roeddwn yn falch o gyflwyno'r achos i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ddoe y dylid sicrhau bod pecyn cymorth i fusnesau yn y gyllideb hon, ac roeddwn yn falch o weld hwnnw'n cael ei ddarparu. Felly, fel y sonioch chi, bydd rhai pethau ynddo a fydd yn helpu i gefnogi pobl yn yr argyfwng uniongyrchol. Er enghraifft, bydd y tâl salwch yn cael ei dalu o ddiwrnod 1 ymlaen yn hytrach nag o ddiwrnod 4 ymlaen; mae'r Prif Weinidog eisoes wedi cyhoeddi hynny. Ond rwy'n credu bod pethau wedi mynd gam ymhellach heddiw, o ran tâl salwch statudol i bawb sy'n cael eu cynghori i aros gartref hyd yn oed heb symptomau. Bydd hynny'n digwydd, ac rwy'n credu bod hynny i'w groesawu'n fawr. Gall pobl gael y nodyn salwch drwy 111, a bydd pobl yn yr economi gig yn ei chael yn haws cael mynediad at fudd-daliadau; rwy'n credu bod hynny i'w groesawu'n fawr, er fy mod yn credu bod angen i ni weld mwy o'r manylion.
Deallaf y bydd y lwfans cyflogaeth a chymorth ar gael o ddiwrnod 1 ymlaen yn hytrach nag o ddiwrnod 8 ymlaen, a bod Llywodraeth y DU hefyd yn dileu'r isafswm incwm ar gyfer credyd cynhwysol dros dro ac yn llacio'r gofyniad i fynychu canolfan waith, felly mae'n bosibl cael cymaint o'r sgyrsiau hynny ar-lein neu dros y ffôn. Rwy'n credu bod hynny i'w groesawu'n fawr, ac rwy'n gobeithio, bron, y bydd y rheidrwydd hwnnw'n arwain at gamau i sicrhau bod credyd cynhwysol yn gweithio'n well i bobl, yn enwedig i bobl yng Nghymru.
Gallai cost statudol tâl salwch i fusnesau bach a chanolig eu taro'n galed, felly rwy'n falch iawn o glywed y cyhoeddiad gan y Canghellor heddiw y gall busnesau â llai na 250 o weithwyr hawlio cost tâl salwch yn ôl am hyd at 14 diwrnod, a bydd hwnnw'n cael ei ad-dalu'n llawn. Rwy'n credu bod hwnnw'n fesur pwysig i fusnesau. Roeddwn yn cyflwyno achos ddoe dros weld Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn ehangu'r gwasanaeth Amser i Dalu, ac unwaith eto, roeddwn yn falch o weld hynny'n cael ei adlewyrchu yn y cyhoeddiad heddiw.
Mae gan Lywodraeth y DU linell gymorth benodol, a gyhoeddwyd heddiw, ond wrth gwrs, mae honno gennym eisoes drwy Busnes Cymru, sydd yno i gefnogi busnesau yn yr amgylchiadau arbennig hyn.
Ac yn olaf, gan aros gyda'r gyllideb, a chyda'r Canghellor yn nodi y bydd Llywodraeth y DU yn lansio adolygiad sylfaenol o drethi busnes, rydym yn sicr o'r farn ein bod angen adolygiad sylfaenol, a hoffem pe gallem fod wedi symud yn gyflymach yng Nghymru. Rydym wedi cael adolygiad ar ôl adolygiad; rwy'n siŵr y dylai rhai camau fod wedi cael eu cymryd beth amser yn ôl. Fel rhan o'r adolygiad sylfaenol hwnnw, bydd Llywodraeth y DU yn ystyried cynlluniau i ddileu ardrethi busnes a sefydlu treth gwerth tir yn eu lle. Nawr, ar hyn o bryd, mae Plaid Cymru yn edrych ar sut y gallai treth gwerth tir weithio yng Nghymru; mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn edrych ar hyn ers peth amser. Onid yn awr yw'r amser i fanteisio ar y momentwm, i newid y cyd-destun, ac i Lywodraeth y DU gynhesu at y syniad efallai? Ac a fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar dreth gwerth tir yn fuan?
Wel, byddwch yn sicr yn gweld y ddogfen a gomisiynwyd gennym yn cael ei chyhoeddi'n fuan iawn, ac mae honno'n edrych ar oblygiadau treth gwerth tir a beth fyddai hynny'n ei olygu i Gymru. Mae'n rhan o gyfres o waith ymchwil a gomisiynwyd gennym sy'n edrych ar wahanol agweddau ar drethiant lleol, ar gyfer ardrethi annomestig ac ar gyfer y dreth gyngor. Rydym hefyd wedi cael gwaith sy'n edrych ar beth fyddai goblygiadau ail-werthuso, er enghraifft, a phwy fyddai'r enillwyr a'r collwyr yn y sefyllfa honno; beth fyddai'r effaith ddosbarthiadol o ran daearyddiaeth ledled Cymru? Yn ystod y gwanwyn hwn, bydd sawl darn o waith ymchwil yn cael eu cyhoeddi a fydd, gyda'i gilydd, yn darparu cyfres o dystiolaeth hynod o graff i bob un ohonom er mwyn ystyried y ffordd ymlaen.
Ond wrth gwrs, ardrethi busnes—ni ddylid eu diwygio er mwyn eu diwygio yn unig. Mae angen inni fod yn siŵr fod unrhyw ddiwygiadau'n cael eu gwneud mewn ffordd sy'n cyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn ehangach. Ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn falch iawn ynglŷn â'r cyhoeddiad heddiw fod Llywodraeth y DU, o'r diwedd, wedi dal i fyny yn awr, ac na fydd hanner busnesau Lloegr yn talu ardrethi busnes mwyach. Ond wrth gwrs, rydym wedi bod yn y sefyllfa honno yng Nghymru ers amser hir iawn.
Diolch. Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae Canghellor y Trysorlys heddiw, yn ei gyllideb, wedi cyhoeddi nifer o ymrwymiadau ariannu allweddol i fentrau bach a chanolig eu maint, yn ogystal ag i'r diwydiant lletygarwch a manwerthu, yng ngoleuni bygythiad COVID-19, a godwyd gan lefarydd Plaid Cymru yn awr. Mae'r cyhoeddiad heddiw hefyd yn cynnwys £360 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn i Lywodraeth Cymru, mwy o fuddsoddi mewn seilwaith a mwy o fuddsoddi mewn darlledu, fel S4C. Felly mae'n ymddangos bod cyni—y mae aelodau o'ch Llywodraeth wrth eu boddau'n siarad amdano—yn prysur ddod i ben. A wnewch chi gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio symiau canlyniadol Barnett sy'n deillio o addewidion y Canghellor i gyfateb i gymorth Llywodraeth y DU?
Wel, mae gennyf newyddion drwg i lefarydd yr wrthblaid, wrth gwrs, oherwydd yn sicr nid yw cyni wedi dod i ben. Os edrychwch ar y dogfennau sy'n cefnogi cyllideb Llywodraeth y DU, mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhoi darlun eithaf digalon o'r rhagolygon, hyd yn oed cyn ystyried COVID-19. Ac nid yw hynny'n syndod, o gofio agwedd ddiofal Llywodraeth y DU tuag at drafodaethau masnach gyda'n partner masnachu mwyaf a phwysicaf, yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi awgrymu ar unrhyw adeg yn y Senedd hon y bydd twf yn cyrraedd 2 y cant hyd yn oed, sy'n eithaf gwael yn hanesyddol. Felly nid wyf yn credu y gallwn ddweud bod cyni wedi dod i ben. A hyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol sy'n dod i Lywodraeth Cymru heddiw o ganlyniad i gyllideb Llywodraeth y DU, prin fod hynny'n mynd â ni'n ôl lle roeddem 10 mlynedd yn ôl. Felly, mae cyni yma o hyd, mae arnaf ofn.
Diolch yn fawr, Weinidog. Roeddwn yn bod yn ddrygionus pan ddywedais y gair 'cyni'—roeddwn yn gwybod y byddai'n cymell ymateb tebyg i hwnnw. Ac mae sail i rywfaint o'r hyn a ddywedwch o ran twf wrth gwrs, ac rydych yn iawn i dynnu sylw at y pethau hynny. Ond rwy'n credu bod angen inni edrych ar yr ochr olau hefyd. Ac mae newyddion da yn y gyllideb hon ar gyfer y DU, a gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru—ac mae hyn yn allweddol i fy nghwestiwn—yn gwneud defnydd o'r symiau canlyniadol sydd ar y ffordd er mwyn gwella'r sefyllfa yma yng Nghymru. Oherwydd mae gan Gymru ddwy Lywodraeth wrth gwrs.
Weinidog, mae'r Canghellor hefyd wedi cyhoeddi nifer o newidiadau i yswiriant gwladol a threth incwm, a fydd, gyda'i gilydd, yn golygu y bydd pobl sy'n ennill yr isafswm cyflog £5,200 yn well eu byd yn awr nag yn 2010. At hynny, mae'r doll ar gwrw a'r doll ar danwydd yn cael eu rhewi am flwyddyn arall, felly bydd gweithwyr yn gweld mwy o arian yn eu pocedi yn y ffordd honno.
Yma yng Nghymru, rydym wedi bod yn sôn am ddatganoli treth incwm, a chreu trethi newydd. A ydych yn teimlo bod y pwyslais yma bob amser ar greu trethi newydd a chodi trethi? Ond mae angen mynd i'r afael ag agenda torri trethi hefyd, ac mae gan Lywodraeth Cymru bŵer sylweddol at ei defnydd, mewn meysydd treth allweddol penodol, i ysgafnhau'r baich ar bobl weithgar yng Nghymru, ac i gynhyrchu mwy o incwm yn y tymor hwy drwy annog entrepreneuriaeth wrth gwrs, a rhoi mwy o arian i fusnesau allu buddsoddi. Rydym wedi clywed eich barn ar drethi eleni; a allech chi ddweud wrthym sut rydych yn rhagweld y caiff y pwerau trethu hynny eu defnyddio yn y dyfodol, i leihau'r baich trethi ar bobl yng Nghymru, ac i annog twf economaidd?
Ni chlywais unrhyw beth gan Lywodraeth y DU heddiw am newidiadau i dreth incwm. Gwn fod cyhoeddiad wedi'i wneud ynglŷn â'r cyflog byw cenedlaethol a'r trothwy yswiriant cenedlaethol, ond nid wyf yn cofio unrhyw beth yn cael ei ddweud am dreth incwm yn benodol. Oherwydd byddai hynny'n rhywbeth y byddem yn awyddus i'w archwilio, yn enwedig rhag ofn y byddai unrhyw oblygiadau i gyllid Llywodraeth Cymru. A dweud y gwir, ychydig iawn a oedd gan y Canghellor i'w ddweud am drethi heddiw. Ni ddywedwyd unrhyw beth am doll teithwyr awyr nac unrhyw beth am drethi tir gwag. Felly, dyna ddau beth roeddwn yn gobeithio eu gweld yn y gyllideb heddiw, ond ni chawsant eu crybwyll. Felly, nid wyf yn credu bod y Canghellor wedi manteisio ar gyfleoedd yn ei gyllideb, yn enwedig mewn perthynas â threthi, oherwydd nid oes llawer iawn ynddi.
Diolch yn fawr, Weinidog. Roeddech yn glyfar yn crybwyll y doll teithwyr awyr, gan wybod yn iawn fod yr ochr hon i'r Siambr yn cefnogi datganoli'r doll teithwyr awyr yn llawn. Felly mae rhai pethau rydym yn cytuno arnynt, ac mae pethau eraill nad ydym yn cytuno arnynt. Roedd y newidiadau treth incwm y soniwyd amdanynt yn ymwneud â throthwyon, ond mater arall yw hynny.
A gaf fi, yn fy nghwestiwn olaf, fynd yn ôl at rywbeth a gododd Rhun ap Iorwerth yn gynharach, yn bwysig iawn, sef sefyllfa COVID-19, y coronafeirws? Ac mae'r gyllideb hon yn cynnwys oddeutu £30 biliwn ychwanegol—rwy'n credu fy mod yn iawn yn dweud—i'r GIG, i fynd i'r afael â coronafeirws yn y DU, yn benodol yn Lloegr. A ydych wedi cael unrhyw drafodaethau—? Rwy'n gwybod bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal sawl trafodaeth gyda swyddogion yn y DU—rwy'n gwybod hynny gan wisgo fy het cyfrifon cyhoeddus. A allech chi ddweud wrthym p'un a ydych wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda'ch swyddog cyfatebol yn San Steffan ynglŷn â faint o arian a fydd yn dod i Gymru ar ben yr hyn sydd gennym yn y gyllideb i fynd i'r afael â coronafeirws? Rwy'n credu y byddem i gyd yn sylweddoli y byddwch o dan bwysau enfawr o bosibl, a bydd cyllideb y GIG o dan bwysau aruthrol os na chewch chi'r cymorth priodol i ymdopi â'r sefyllfa anarferol hon. Felly, pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am yr arian yn y gyllideb ac am unrhyw symiau canlyniadol a ddaw i chi ac i Gymru—. Ac a wnewch chi gadarnhau hefyd y bydd yr arian hwnnw'n cael ei glustnodi ac yn cael ei ddefnyddio o fewn cyllideb y GIG i'r diben a fwriadwyd?
Buaswn yn croesawu unrhyw gymorth y gall y Ceidwadwyr ei roi o ran gwneud yn siŵr fod eu cymheiriaid yn San Steffan yn sicrhau bod Cymru'n cael ei hariannu i'r graddau sy'n angenrheidiol mewn perthynas â'r coronafeirws. Roedd y Canghellor yn awyddus iawn yn ei sylwadau agoriadol i awgrymu nad yw coronafeirws yn fater gwleidyddol; mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i bawb ohonom ymdrin ag ef, ac mae'n rhaid inni gydweithio'n agos arno ar draws Llywodraethau. A buaswn yn cytuno ag ef o ran hynny.
O ran yr arian ychwanegol, cyhoeddodd y Canghellor gronfa ymateb i argyfwng gwerth £5 biliwn ar gyfer y GIG. Felly, nid ydym yn gweld unrhyw symiau canlyniadol ar gyfer hynny ar unwaith, ond rydym yn gwybod y byddai hwnnw'n gyllid a allai fod ar gael, pe bai ei angen wrth i'r coronafeirws ddatblygu. Felly, nid oes gennym ffigur eto, ac rwy'n credu ei bod yn gwbl gywir nad oes gennym ffigur eto, ond rydym angen i bobl weithio'n hyblyg a rhannu gwybodaeth i sicrhau ein bod yn cael yr arian yn ôl yr angen.
Llefarydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog cyllid egluro sut y mae ei strategaeth mewn perthynas â rhyddhad ardrethi busnes yng Nghymru yn wahanol i strategaeth Llywodraeth y DU? Cyhoeddasant heddiw fod y gostyngiad manwerthu o 50 y cant sydd ganddynt y flwyddyn nesaf yn codi i 100 y cant ac yn cael ei ymestyn i gynnwys meysydd hamdden a lletygarwch. A yw'r dull hwnnw o weithredu at ei dant?
Ac o ran yr ymdrechion eraill sydd ganddynt i gefnogi busnesau bach, mae'n ymddangos bod rhai ar y ffin o ran yr hyn sydd wedi'i ddatganoli a'r hyn nad yw wedi'i ddatganoli. Er enghraifft, maent yn cynyddu cronfa fenthyciad banc busnes Prydain ar gyfer dechrau busnes; o ran ei henw, rwy'n tybio bod busnesau yng Nghymru'n gymwys i gael hwnnw, ond nid wyf yn gwybod hynny'n bendant. Ac nid yw'r hyn a oedd yn swnio fel mesur rhyddhad ardrethi yn y gyllideb yn dod o dan y pennawd rhyddhad ardrethi busnes, mae'n dod o dan gyllid grant ar wahân ar gyfer busnesau bach, ond ymddengys ei fod wedi'i gyfyngu i Loegr gan fod taliad o £2.2 biliwn wedi'i wneud drwy awdurdodau lleol yn Lloegr ac yna maent yn rhoi £3,000 yn ôl i bob busnes sy'n elwa ar eu rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. I ymestyn y cyllid grant i fusnesau bach, a yw'n iawn y dylai Llywodraeth y DU wneud hynny ar sail Lloegr yn unig, o ystyried yr hyn sydd wedi'i ddatganoli yma?
Ac nid wyf yn disgwyl i'r Gweinidog gyhoeddi ei phenderfyniadau am ryddhad ardrethi busnesau bach o fewn awr neu ddwy i gyllideb y DU yma, ond tybed a allai ddweud rhywbeth am ei strategaeth a'r canlyniadau a'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni drwy hynny a sut y mae hynny'n wahanol yng Nghymru ac yn Lloegr.
Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw ardrethi annomestig mewn perthynas â'n gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Maent yn cyfrannu mwy na £1 biliwn i lywodraeth leol a gwasanaethau'r heddlu, ac mae'r rheini'n wasanaethau y bydd pob busnes yn elwa arnynt mewn rhyw ffordd. Mae gennym agwedd wahanol yma yng Nghymru, gan fod ein sylfaen drethi yn wahanol. Felly, yng Nghymru, tua £20,000 yw'r gwerth ardrethol ar gyfartaledd, ond yn Lloegr mae oddeutu £32,000. Felly, mae'n iawn, rwy'n credu, fod ein hardrethi a'n rhyddhad yn adlewyrchu'r gwahaniaethau hynny a'r amgylchiadau unigryw sydd gennym yma yng Nghymru.
Mae mwy na 70,000 o drethdalwyr yng Nghymru yn cael rhyddhad ardrethi, felly mae hynny'n golygu nad yw hanner yr holl fusnesau'n talu unrhyw ardrethi o gwbl, felly dyna ble y mae Lloegr yn ceisio mynd. Felly, maent yn symud i'n cyfeiriad ni. Ac rwy'n deall pan fydd busnesau'n edrych dros y ffin ar wahanol fathau o ryddhad ardrethi, nid ydynt bob amser yn gwneud hynny yng nghyd-destun eu sefyllfa eu hunain. Felly, pan fydd eu gwerth ardrethol yn sylweddol is, mae'n bwysig ystyried y gyfran o gymorth y gallwn ei chynnig. Mae gennym ystod eang o ryddhad ardrethi ar gyfer busnesau ac rwy'n ystyried a oes angen inni ddechrau tynnu rhai o'r rhain at ei gilydd. Mae cynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr a manwerthu wedi'i ymestyn i'r flwyddyn nesaf. Felly, roedd hwnnw'n gyhoeddiad y llwyddais i'w wneud ym mis Ionawr ynglŷn â £26.6 miliwn yn ychwanegol ar gyfer cymorth gydag ardrethi annomestig ac mae hwnnw'n ychwanegol at y £230 miliwn rydym eisoes yn ei ddarparu drwy ein rhyddhad ardrethi presennol i helpu trethdalwyr gyda'u biliau. Ac mae hynny'n ymwneud â chefnogi'r holl fanwerthwyr sydd â gwerth ardrethol o hyd at £50,000, a bydd y cynllun hwnnw'n cefnogi tua 15,000 o dalwyr ardrethi. Felly, mae gennym amrywiaeth o gynlluniau wedi'u targedu at wahanol ddiwydiannau, ond yn amlwg, byddaf yn edrych yn ofalus ar unrhyw symiau canlyniadol a allai ddod a sut y gallent ddod.
Wrth gwrs, efallai fod dadl dros wneud hynny ychydig yn wahanol yng Nghymru, ond mae gennym swm canlyniadol o £360 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi'i gyhoeddi, ac mae'r busnesau manwerthu, yn ogystal â'r busnesau lletygarwch a hamdden, yn fusnesau sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â'r cyhoedd a byddem yn disgwyl iddynt gael eu heffeithio'n arbennig gan y coronafeirws a holl oblygiadau hynny. Ac mae'r hyn y mae'r Canghellor wedi'i gyhoeddi ar lefel y DU ar gyfer Lloegr yn ymddangos i mi yn ffordd eithaf effeithiol o gael arian i'r busnesau hynny, gan gynnwys y rhai na roesoch unrhyw farn arnynt, y rhai sy'n cael y rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn Lloegr, sy'n cael £3,000 i bob busnes drwy'r awdurdod lleol. Mae hynny'n mynd i wneud gwahaniaeth sylweddol iawn o ran lliniaru rhai o'r effeithiau i lawer o'r busnesau hynny. A buaswn yn annog y Gweinidog, wrth iddi amsugno'r hyn sydd wedi digwydd yn y gyllideb ar lefel y DU, ond hefyd wrth iddi ystyried y £360 miliwn a beth a ddaw o hwnnw, o gymharu â'r hyn roedd yn disgwyl ei weld neu'r hyn nad oedd yn disgwyl ei weld yn y gyllideb hon o bosibl, rwy'n gobeithio y bydd rhyddhad ardrethi busnes yn faes lle y gall ddefnyddio rhywfaint o'r arian hwnnw.
Tybed a gaf fi ofyn am Fanc Datblygu Cymru hefyd? Soniais am gronfa fenthyciad Banc Busnes Prydain ar gyfer dechrau busnes a gallaf gadarnhau y byddant yn gymwys i bob busnes yn y DU—y benthyciadau dechrau busnes a'r cynnydd. Ond sut y maent yn cysylltu â'r hyn sydd ar gael gan fanc datblygu Cymru? A oes llawer o orgyffwrdd? A all busnesau elwa o'r ddwy ffynhonnell neu a oes rhaid iddynt ddewis y naill neu'r llall? A pha rôl y mae hi'n ei gweld ar gyfer banc datblygu Cymru ar gyfer lliniaru effaith y coronafeirws? Dylai'r busnesau y mae ganddo berthynas â hwy eisoes fod mewn sefyllfa dda i ddarparu cymorth cyfalaf gweithio pan fo hynny'n angenrheidiol. Ond beth sy'n digwydd i'w fenthyciadau datblygu eiddo sylweddol iawn, sydd wedi cael eu hailgylchu dro ar ôl tro ac sydd wedi bod yn eithaf llwyddiannus hyd yma, os yw datblygwyr yn ei chael hi'n anodd gwerthu'r eiddo hwnnw ymlaen? Onid oes perygl y bydd yr arian hwnnw'n cael effaith lai cadarnhaol ar yr economi ar yr un adeg yn union ag y mae coronafeirws yn taro, os nad yw'r datblygwyr hynny ar gael i ailgylchu a thalu'r arian yn ôl mor gyflym ag y byddent wedi'i wneud fel arall? Ac a oes unrhyw rôl i fanc datblygu Cymru yn cefnogi busnesau eraill yn benodol ar gyfer coronafeirws ac anghenion cyfalaf gweithio pan nad oes ganddo'r berthynas fusnes honno'n barod na gwybodaeth am eu hanghenion cyfalaf gweithio?
Wel, mae banc datblygu Cymru yn rhan o bortffolio fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr economi, ond rwy'n gwybod ei fod wedi gwneud gwaith rhagorol yn helpu i gynorthwyo busnesau i baratoi ar gyfer Brexit. Ac mewn sawl ffordd, mae hyn yn ymwneud â helpu busnesau i baratoi ar gyfer rhywbeth anodd, felly gallwn ddysgu rhai o'r un gwersi.
Mae wedi bod yn bwysig iawn o ran y benthyciadau datblygu eiddo hynny, ond hefyd o ran cymorth i ficrofusnesau i'w cynorthwyo i dyfu, os ydynt yn dymuno tyfu. Felly, credaf fod cyfleoedd i ddefnyddio'r cysylltiadau hynny sydd gennym â'r busnesau unigol hynny i gynnig cymorth a chyngor, o bosibl, a dyma un o'r pethau da am fod yn genedl fach ar adegau anodd, sef bod gennych y cysylltiadau unigol hynny a'r cyfleoedd hynny i rannu gwybodaeth a chyngor.
Ond rwy'n gwybod y bydd Ken Skates yn edrych yn ofalus ar ba rôl y gall banc datblygu Cymru ei chwarae yn cefnogi busnesau wrth inni wynebu coronafeirws. A gwn y bydd gan gyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth fwy i'w ddweud am eu cyfraniadau unigol eu hunain i'r ymdrech maes o law.