– Senedd Cymru am 5:26 pm ar 20 Mai 2020.
Felly, gofynnaf i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno'r cynigion ar y ddwy set o reoliadau—Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig yn ffurfiol y ddwy set o reoliadau sydd ger ein bron heddiw, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau. Cyfeiriaf atynt fel rheoliadau 'Rhif 2' a 'Rhif 3', yn hytrach nag ailadrodd eu teitl hir yn llawn.
Bydd yr Aelodau'n cofio'r ddadl a gawsom ar 29 Ebrill am y ddwy set o reoliadau a ragflaenai'r rhai sy'n cael eu trafod heddiw. Y rhain oedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020, a wnaed ac a ddaeth i rym ar 26 Mawrth. Dyma'r prif reoliadau a oedd yn gosod cyfyngiadau ar ein symudiadau ac yn ei gwneud yn ofynnol i rai busnesau gau. Eu prif ddiben oedd lleihau'r graddau y mae pobl yn gadael eu cartrefi yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng er mwyn helpu i gyfyngu ar y coronafeirws, lleihau'r baich ar y gwasanaeth iechyd ac achub bywydau, wrth gwrs.
Gwnaed diwygiadau pellach yn y rheoliadau diwygio a ddaeth i rym ar 7 Ebrill. Cyflwynai'r rhain y gofyniad am fesurau cadw pellter cymdeithasol ym mhob man gwaith ac roeddent yn gwneud newidiadau pwysig mewn perthynas â chladdu ac amlosgi.
Wrth i'r cyfyngiadau barhau, mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu'r gofynion yn barhaus, ac rydym yn ymwybodol iawn o'r effaith y mae'r cyfyngiadau hyn yn ei chael ar bobl Cymru. Mae ein hadolygiad parhaus yn ychwanegol at y cylch adolygu 21 diwrnod, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu'r angen am gyfyngiadau a gofynion bob 21 diwrnod.
Fel gyda'r set o reoliadau sy'n eu rhagflaenu, cyflwynwyd y ddwy gyfres o reoliadau rydym yn eu trafod heddiw o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 drwy weithdrefnau brys i gefnogi ein dull o fynd i'r afael â'r coronafeirws yng Nghymru.
Yn rheoliadau Rhif 2, a ddaeth i rym ar 25 Ebrill, gwnaethom nifer o ddiwygiadau. Gwnaethom ddarpariaeth i ganiatáu ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd, os oes angen, oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd penodol, a'i gwneud yn glir fod ymweld â mynwent neu dir claddu neu ardd goffa arall i dalu teyrnged i rywun sydd wedi marw yn esgus rhesymol dros adael y fan lle rydych yn byw. Rydym hefyd yn ehangu'r diffiniad o 'unigolyn agored i niwed' i gynnwys grwpiau neu gyflyrau penodol eraill lle gallai pobl gael budd o gymorth, ac mae darparu nwyddau ar eu cyfer yn esgus rhesymol i rywun arall adael cartref, er enghraifft er mwyn cynorthwyo pobl â dementia. Roedd y newidiadau hyn yn ategu'r rheolau a oedd eisoes mewn grym ond fe'u gwnaed i ymateb i rai o'r heriau y gwyddom fod teuluoedd ledled Cymru yn eu hwynebu, gan sicrhau ar yr un pryd ein bod yn cadw'r nod o reoli lledaeniad coronafeirws.
Mae'r rheoliadau Rhif 2 hefyd yn sicrhau bod y gofynion i gadw pellter corfforol o 2m ar waith ar gyfer gwasanaethau clicio a chasglu, ac yn ymestyn y ddyletswydd i gynnwys caffis a ddefnyddir gan y cyhoedd mewn ysbytai, a'r rhai sy'n gyfrifol am ffreuturau mewn ysgolion a charchardai ac at ddefnydd y lluoedd arfog er mwyn sicrhau bod pob mesur rhesymol yn cael ei roi ar waith.
Yn y rheoliadau Rhif 3, rydym wedi cymryd camau, yn unol â thystiolaeth wyddonol ac iechyd y cyhoedd, i wella lles a chefnogi gweithgarwch economaidd. Rydym wedi codi'r terfyn ar ymarfer corff unwaith y dydd yn unig, ac wedi caniatáu i lyfrgelloedd agor, cyn belled ag y dilynir y gofynion cadw pellter. Mae neges 'aros gartref' yn dal i fod ar waith yng Nghymru, ac mae ein rheoliadau yn nodi'n benodol fod rhaid gwneud ymarfer corff o fewn ardal sy'n lleol i'r man lle mae unigolyn yn byw. Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn datgan y gall canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion agor yn amodol ar y gofynion cadw pellter cymdeithasol.
Felly, rydym wedi newid yr hyn sy'n esgus rhesymol at ddibenion adran 8(1) fel ei bod yn amlwg y gall unigolyn wneud defnydd o gyfleuster ailgylchu neu waredu gwastraff neu gasglu nwyddau a archebir o siop ar sail clicio a chasglu os oes angen iddynt wneud hynny. Rwy'n falch o weld bod canolfannau ailgylchu bellach yn ailagor ar sail wedi'i chynllunio ar draws Cymru.
Yn bwysig, mae'r rheoliadau Rhif 3 yn cynyddu trosolwg democrataidd drwy ddileu darpariaethau ynghylch terfynu gofynion neu gyfyngiadau drwy gyfarwyddyd Gweinidogion. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r holl newidiadau i'r prif reoliadau gael eu dwyn gerbron y Senedd. Lywydd, mae'r cyfyngiadau hyn yn eu lle er mwyn diogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad coronafeirws. Fodd bynnag, mae'r gyfraith yn glir mai dim ond cyhyd â'u bod yn angenrheidiol ac yn gymesur y dylid cadw'r cyfyngiadau hyn yn weithredol, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r ymdrechion eithriadol a wnaed gan gynifer o bobl ledled Cymru i helpu pob un ohonom i arafu lledaeniad y clefyd.
Mae ein cynllun, a gyhoeddwyd ar 15 Mai ac sydd newydd gael ei drafod, yn nodi camau penodol rydym yn eu hystyried wrth inni symud allan o'r cyfyngiadau symud. Fel rhan o'n dull pwyllog a chydlynol o lacio'r cyfyngiadau, byddwn yn ystyried a fyddwn yn cyflwyno rhagor o newidiadau rheoleiddiol yn ystod yr wythnosau nesaf, a sut y gwnawn hynny. Am heddiw serch hynny, ein neges i bobl Cymru yw glynwch at y cyngor i aros gartref, ac os oes angen i chi adael eich cartref am un o'r rhesymau a ganiateir, arhoswch yn lleol. Wrth wneud hynny, fe fyddwch yn diogelu ein GIG ac yn helpu pob un ohonom i achub mwy o fywydau. Diolch, Lywydd.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad—Mick Antoniw.
Diolch, Lywydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod y ddwy set o reoliadau'n diwygio'r prif reoliadau ar y cyfyngiadau coronafeirws, ac fe'u gwneir, fel y nodwyd gan y Gweinidog, o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984. Nawr, i roi cyd-destun, hoffwn amlinellu'n fras ddiben y prif reoliadau, a ddaeth i rym ar 26 Mawrth ac a gymeradwywyd wedyn gan y Senedd ar 29 Ebrill.
Mae'r rheoliadau hynny'n gosod cyfyngiadau ar symudiad unigolion, gan nodi amgylchiadau lle gallant adael y fan lle maent yn byw, ac atal grwpiau o fwy na dau o bobl ac eithrio mewn rhai amgylchiadau, ac unwaith eto, fel y nodwyd eisoes, maent yn ei gwneud yn ofynnol i gau rhai busnesau a gosod gofynion ar fusnesau eraill, yn ogystal â dyletswyddau i gau rhai llwybrau cyhoeddus a thir. Daeth y rheoliadau diwygio Rhif 2 i rym ar 25 Ebrill, a daeth y rheoliadau diwygio Rhif 3 i rym ar 11 Mai.
Darperir ein hadroddiadau ar y rheoliadau hyn gyda'r agenda, felly maent gerbron yr Aelodau. Nid oes unrhyw bwyntiau adrodd technegol yr hoffem eu codi yn y naill achos na'r llall, ond rwyf am ei gwneud yn gwbl glir ein bod wedi rhoi sylw manwl iawn i'r rheoliadau hyn. Rydym i gyd yn deall yn llawn y rhesymeg sy'n sail i'r pwerau. Mae'r Gweinidog ei hun wedi esbonio'r rhesymeg hefyd, ond serch hynny, mae'n bwysig cydnabod, mae'n debyg, mai dyma'r cyfyngiad mwyaf ar ryddid a hawliau sylfaenol a roddwyd ar waith ledled y DU ers yr ail ryfel byd. Felly, mae'n hanfodol fod y gwaith o gyflawni a gweithredu'r pwerau eithriadol hyn yn cael ei graffu'n rheolaidd gan bwyllgor a chan y Senedd hon, gan mai ni sy'n diogelu'r hawliau y maent yn eu cyfyngu, a sicrhau eu bod ond ar waith cyhyd ag y bo diogelwch y cyhoedd yn galw am wneud hynny a'u bod yn gyfyngiad sy'n gymesur â'r risg.
Nawr, mae ein rhwymedigaethau hawliau dynol hefyd yn hanfodol, felly mae'n bwysig fod y rhain yn cael eu hamlygu, a'r hyn yr hoffwn ei wneud yw canolbwyntio ar yr agweddau hawliau dynol ar y rheoliadau diwygio, y tynnwn sylw atynt yn yr adran ar rinweddau yn ein hadroddiad. Felly, nodasom fod yr erthyglau canlynol yn berthnasol i'r rheoliadau Rhif 2: erthygl 8, sef yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol; erthygl 9, sy'n ymwneud â rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd; erthygl 11, rhyddid i ymgynnull a chymdeithasu; ac erthygl 1 o'r protocol cyntaf, gwarchod eiddo. Nawr, mae pob un o'r rhain yn hawliau cymwysedig, y gellir ymyrryd â hwy cyn belled â bod cyfiawnhad dros yr ymyrraeth honno, fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi dynodi.
Nawr, yn wreiddiol, nid oedd memorandwm esboniadol Llywodraeth Cymru yn nodi'r erthyglau penodol y mae'n ystyried eu bod yn berthnasol i'r rheoliadau hyn, felly nodasom fod y Llywodraeth wedi cyflwyno sylwebaeth gyfyngedig ar y cyfiawnhad dros ymyrryd ag arfer hawliau dynol o ganlyniad i'r rheoliadau, yn bennaf er mwyn atal clefydau heintus rhag lledaenu a diogelu iechyd y cyhoedd, ac mewn modd sy'n gymesur. Fodd bynnag, dylai wneud ei chyfiawnhad drwy gyfeirio at erthyglau penodol Deddf Hawliau Dynol 1998 sy'n berthnasol, ac mae dull o'r fath yn caniatáu i Lywodraeth Cymru esbonio'n gliriach yr ymarfer cydbwyso a gynhaliodd fel sy'n ofynnol dan gyfraith hawliau dynol pan fo hawl breifat yn gwrthdaro â budd cyhoeddus. Nid wyf yn dweud, wrth gwrs, fod hawliau dynol wedi'u torri; nid wyf ond yn pwysleisio, hyd yn oed ar adegau o argyfwng, na ddylid anghofio am hawliau dynol.
At hynny, rhaid inni ymwrthod bob amser â'r demtasiwn i ganiatáu i gyfyngu ar ryddid a hawliau gael ei normaleiddio mewn unrhyw fodd. Felly, rwy'n croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad. Yn ogystal â'r erthyglau y cyfeirir atynt yn ein hadroddiad, mae'n nodi bod erthygl 5, sef yr hawl i ryddid, ac erthygl 14, gwahardd gwahaniaethu, hefyd yn berthnasol. Mae hefyd yn darparu sylwebaeth fanylach sy'n cyfiawnhau ac yn esbonio'r ymyrraeth ar arfer hawliau dynol.
Gan droi yn awr at y rheoliadau Rhif 3, mae'r rheoliadau hyn yn gwneud nifer o bethau pwysig unwaith eto, fel yr amlinellodd y Gweinidog: caniatáu i lyfrgelloedd, canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion agor yn amodol ar ofynion i roi pob mesur rhesymol ar waith i sicrhau bod pellter o 2m yn cael ei gadw gan unigolion ar y safle ac unigolion sy'n aros i fynd i mewn i safle; pennu bod gadael y man lle rydych yn byw i gasglu nwyddau a archebir o siop sy'n gweithredu ar sail archebu a chasglu yn esgus rhesymol at ddiben rheoliad 8(1) o'r prif reoliadau; a chael gwared ar y cyfyngiad i ymarfer corff unwaith y dydd yn unig.
Nawr, o ran hawliau dynol, mae'r memorandwm esboniadol yn egluro bod erthyglau 8 ac 11 yn ogystal ag erthygl 1 o'r protocol cyntaf yn berthnasol i'r rheoliadau. Unwaith eto, darperir peth sylwebaeth ar gyfiawnhad dros ymyrryd â'r hawliau hyn. Yn fwyaf penodol, mae'r rheoliadau'n ychwanegu cymesuredd gofynion a chyfyngiadau fel ystyriaeth pan fydd Gweinidogion Cymru yn adolygu'r prif reoliadau coronafeirws. Yn ein hadroddiad, nodwn fod cymesuredd yn ystyriaeth sylfaenol wrth asesu'r cyfiawnhad dros ymyrryd â rhai hawliau unigol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 ac mae'n mynd at wraidd cyfreithlondeb y penderfyniad i ymyrryd â'r hawliau hynny. Felly, fel y cyfryw, rydym yn croesawu'r gwelliant hwn oherwydd ei fod yn cydnabod dyletswydd drosfwaol Gweinidogion Cymru i fod yn gymesur, fel y mae'r Gweinidog wedi cadarnhau, o dan Ddeddf iechyd y cyhoedd 1984, a hefyd eu cyfrifoldeb trosfwaol i sicrhau cydymffurfiaeth â'r Ddeddf Hawliau Dynol, ac rydym yn fodlon ei fod yn gwneud hynny. Diolch, Lywydd.
Hoffwn gofnodi fy mod yn credu bod Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi mynegi'n glir ac angerddol iawn y sylw angenrheidiol sy'n rhaid i ni ei roi i'n rhyddid a'n hawliau sylfaenol er gwaethaf y cyfnod anodd rydym ynddo ar hyn o bryd, ac felly, mae wedi datgan fy mhryderon ynghylch y rheoliadau parhaus hyn a'r ffordd y cânt eu trin a'u cyflwyno. Mae'r prif reoliadau hyn yn destun gwelliant cyson mewn nifer o feysydd am fod Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi ar wyneb y ddeddfwriaeth yn hytrach nag yn y canllawiau, a chredaf fod hynny'n dderbyniol. Ond mae'n golygu ein bod ni, Senedd Cymru, bob amser yn trafod y gwelliannau ar ôl iddynt ddigwydd, ac nid yw honno'n sefyllfa gwbl foddhaol yn fy marn i. Mae craffu'n iawn ar y rheoliadau hyn yn hollbwysig, ac er bod angen i'r Senedd eu cymeradwyo er mwyn i'r rheoliadau gael eu rhoi mewn grym am fwy na 28 diwrnod, ni all fod yn dderbyniol, er enghraifft, mai gerbron y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn unig y cyflwynwyd y rheoliadau hyn ar 18 Mai. Yn fy marn i, mae hyn yn gwadu cyfle i gael proses graffu glir, ac er ein bod yn byw mewn cyfnod anodd byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i adael i'w hunain fod yn ddarostyngedig i graffu priodol, a rhaid iddynt sicrhau nad ydynt yn caniatáu i'r amgylchiadau rydym ynddynt danseilio'r gwaith craffu hwnnw.
Mae arnom angen mwy o eglurder ynglŷn â'r rheoliadau a'r canllawiau sy'n cyd-fynd â hwy, oherwydd mae'r rheoliadau presennol yn ddryslyd ac mewn llawer o achosion i'w gweld yn gwrthddweud eu hunain. Nid yw pobl yn gwybod beth y maent yn ei olygu. Rwy'n gwybod bod fy mlwch post yn cynnwys llu o negeseuon e-bost gan etholwyr nad ydynt yn glir ynglŷn â'r ystyr sy'n sail i'r rheoliadau. A sylwais heddiw yn yr ateb gan y Prif Weinidog i Carwyn Jones, a oedd yn ceisio sicrhau eglurder pellach ynglŷn â'r rheoliadau, a bu'n rhaid iddo roi'r eglurder ychwanegol hwnnw. Dywedodd Alun Davies hefyd fod ei etholwyr yn gofyn am eglurder, felly nid wyf ar fy mhen fy hun.
Rwy'n falch fod y rheoliadau'n gosod gofyniad am gymesuredd i'r cyfyngiadau, ond rwyf am dynnu sylw'r Senedd at rai meysydd, felly, er enghraifft, rheoliad 8, sy'n cael ei ddiwygio i ganiatáu ymarfer corff rhesymol fwy nag unwaith y dydd. Nawr, dyma enghraifft o ba mor aneglur yw'r rheoliadau hyn: beth yw lleol? Nodaf fod Llywodraeth Cymru yn datgan nad oes unrhyw ddymuniad i ddiffinio 'lleol', gan y bydd gwahanol ystyron, yn dibynnu a ydych yng Nghaerdydd neu yng nghanolbarth Cymru. Felly, mae gennym sefyllfa lle gallwch yrru i'ch cwrs golff agosaf, a allai fod 30 munud i ffwrdd, ond ni chewch fynd i bysgota os na allwch gerdded neu feicio yno. Ac os ydych chi'n gyrru 10 munud i draeth i syrffio ar eich pen eich hun, gan gadw pellter cymdeithasol, fe gewch eich ceryddu a chael dirwy gan yr heddlu o bosibl. Gallwch ymarfer corff o'ch tŷ eich hun mewn stryd orlawn sy'n ei gwneud hi'n anodd cadw pellter cymdeithasol, ond ni chewch yrru am funud neu ddwy i fynd i dir comin i fyny'r mynydd o ble rydych chi'n byw. Gallwch fwyta tra'n cerdded erbyn hyn, ond mae awdurdodau lleol wedi atal mannau picnic rhag cael eu defnyddio, felly dyna anghysondeb arall. Mae hyn i gyd yn seiliedig ar y wyddoniaeth, dywedir wrthym. 'Dyna yw'r wyddoniaeth' yw mantra Llywodraeth Cymru, ac mae hynny'n iawn, ond sut felly ei fod mor amwys ac anghyson, ac fel y mae'r heddlu'n dweud wrthyf, yn anodd iawn ei orfodi?
Ceir llawer o anghysonderau eraill, enghreifftiau eraill yn y rheoliadau o ddiffyg eglurder, meysydd eraill sy'n ymddangos yn anghyson, ac nid oes gennyf ddigon o amser i fynd drwyddynt i gyd. Ond digon yw dweud y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi gwelliant 2 i gyfyngiadau coronafeirws y rheoliadau diogelu iechyd. Fodd bynnag, byddwn yn ymatal ar welliant 3 y rheoliadau y cyfeirir atynt uchod. Ac rwyf am eich rhybuddio chi a Llywodraeth Cymru, Weinidog, na fyddwn yn petruso rhag pleidleisio yn erbyn gwelliannau yn y dyfodol os nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu neu'n barod i wella eglurder gwelliannau pellach, ac egluro'r rhesymeg wyddonol a chymdeithasol sy'n sail i'r newidiadau pellach hyn i ni ac i'n hetholwyr, oherwydd rydym mewn cyfnod anodd yn wir, ond mae'n rhaid i ni bob amser, bob amser, roi sylw iawn i hawliau pobl i fywyd, i ryddid, i ryddid i symud, ac mae angen i chi egluro i ni yn glir iawn, oherwydd mae pobl mewn penbleth; maent yn poeni; maent yn ofni eu bod yn torri'r gyfraith.
Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn amlwg yn cefnogi'r rheoliadau hyn, er bod y bleidlais hon yn ôl-weithredol, fel y nodwyd eisoes, gan fod y rheoliadau yn eu lle, ac fel aelod o'r pwyllgor deddfwriaeth, yn naturiol rwy'n cefnogi sylwadau rhagorol ein Cadeirydd, Mick Antoniw. Fodd bynnag, mae'r gyfradd R yn dal yn rhy uchel i fentro ton arall o achosion, ac roeddem yn rhy araf yn dechrau'r cyfyngiadau symud, mae wedi costio bywydau ac mae'n golygu bod yn rhaid i ni aros dan gyfyngiadau am amser hirach. A dyna pam y mae angen ymagwedd fwy gochelgar arnom wrth lacio cyfyngiadau; yn y pen draw mae'n golygu peidio â gorfod eu hailosod. Ond mae gennym nifer o bryderon.
Yn gyntaf, mae cyfathrebiadau Llywodraeth Cymru wedi bod dros y lle ym mhobman yma. Caniateir i bobl wneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd bellach, fel y clywsom, ar yr amod nad ydynt yn gyrru, ond mae rhai pobl yn dal i fod yn ddryslyd ynglŷn â hyn i gyd, ac mae gennyf flwch post i'r perwyl hwnnw hefyd. Yn amlwg nid yw hyn wedi cael ei helpu gan y dirmyg y mae Llywodraeth y DU wedi'i ddangos at Gymru heb unrhyw ystyriaeth y byddai ei newidiadau i ganiatáu gyrru yn arwain yn anochel at bobl yn gyrru i fannau twristaidd yma yng Nghymru. Rydym hefyd yn pryderu am y methiant i atal llif o bobl rhag mynd i ail gartrefi. Nodwn fod achosion COVID newydd ar gynnydd yn Betsi Cadwaladr.
Nawr, gan symud ymlaen, rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei strategaeth ymadael gyda'i goleuadau traffig; mae yna ddiffyg manylder ynddi fodd bynnag, ac ni fydd llawer o bobl fawr callach ynglŷn â chwestiynau sylfaenol sy'n berthnasol i'w bywydau yn awr, fel pryd y gallant fynd â'u plant i weld eu neiniau a'u teidiau. Elfen allweddol er mwyn gallu ateb hyn i gyd wrth gwrs yw atal lledaeniad y feirws yn ein barn ni, ond yn lle hynny, yr hyn a gawn gan y ddwy Lywodraeth yw goslefau rheolwrol am liniaru a rheoli'r gyfradd R er mwyn atal ail don. Mae'r fathemateg yn syml: bydd ychydig wythnosau'n rhagor o ymdrechion diflino i gadw R o dan 0.5 yn esgor ar ganlyniadau llawer gwell na misoedd o geisio cadw ychydig bach o dan 1. Bydd profi ac olrhain cysylltiadau'n allweddol.
Nawr, arferai'r wlad hon fod â system ardderchog ar gyfer rheoli iechyd y cyhoedd a chlefydau trosglwyddadwy, gyda system o hysbysu am glefydau hysbysadwy ac olrhain cysylltiadau personol yn ymestyn yn ôl dros ddegawdau. Mae'r seilwaith iechyd cyhoeddus ac iechyd yr amgylchedd rhagorol hwnnw wedi'i ddifetha gan gyni a difaterwch Llywodraeth ynghylch y posibilrwydd o bandemig yn gyffredinol. Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn frwd ynglŷn â gosod haen newydd o brofion preifat a thechnoleg sy'n seiliedig ar apiau fel pe na baem ni wedi meddwl am olrhain cysylltiadau erioed o'r blaen yn ein bywydau. Mae angen i dimau iechyd cyhoeddus lleol adfer eu rheolaeth ar hyn. Mae olrhain cysylltiadau a phrofi, canfod achosion, ynysu a chwarantin yn fesurau iechyd cyhoeddus clasurol sydd bob amser wedi cael eu defnyddio i reoli clefydau trosglwyddadwy ers oes Fictoria, ers i Dr John Snow, mewn gwirionedd, ganfod mai'r pwmp dŵr ar Broad Street yn Soho yn Llundain yn 1854 oedd y ffynhonnell mewn epidemig colera.
I gloi, mae aberth personol enfawr wedi'i wneud wrth i bobl ymroi i'r cyfyngiadau er mwyn atal y feirws. Nid ydym wedi dod allan ohoni eto. Mae achosion o haint COVID yn dal i fod ar gynnydd mewn rhannau o Gymru. Nid yw pleidleisio yn erbyn unrhyw un o'r rheoliadau hyn heddiw yn gwneud unrhyw synnwyr, oherwydd bydd fel troi'r cloc yn ôl i beidio â chaniatáu ymweliadau â chanolfannau garddio, a pheidio â chaniatáu mwy o ymarfer corff—pethau sydd eisoes wedi'u cychwyn. Mae hynny oherwydd natur ôl-weithredol y ddadl rydym yn ei chael a'r pleidleisio y byddwn yn ei wneud cyn hir. Felly, byddwn yn cefnogi'r rheoliadau. Diolch yn fawr.
Mae'n bleser dilyn Dai Lloyd, ac rwy'n diolch iddo am ei sylwadau yno. Rwy'n gyfarwydd iawn â stori John Snow gan fy mod, 25 mlynedd yn ôl, yn arfer byw mewn fflat uwchben tafarn John Snow, yn edrych allan ar y pwmp hwnnw sydd wedi'i gadw yn yr hyn a elwir bellach yn Broadwick Street.
Rydym i gyd yn pwysleisio'r materion iechyd y cyhoedd, mae pob un ohonom yn pryderu am y materion iechyd eraill, a siaradodd fy nghyd-Aelod, Mandy Jones, yn fedrus iawn am y rheini yn y ddadl yn gynharach. Rwy'n credu bod angen inni roi rhywfaint o ystyriaeth i'r economi hefyd, yn anad dim am na fyddwn yn gallu cyllido iechyd os na fydd gennym adnoddau i wneud hynny.
Rydym yn pleidleisio yn erbyn y ddwy set o reoliadau heddiw. Rheoliadau gwelliant 2—gwelliannau eithaf bach ynddynt; testun rhyfeddod i mi yw y gall y Gweinidog eu cymeradwyo fel rhai brys, mewn rhai achosion fan lleiaf. Mae gennym newidiadau dadleuol i'r gofyniad unwaith y dydd i ganiatáu i rai grwpiau gael eu heithrio o hynny, ond mae'r gofyniad unwaith y dydd na ddylai fod wedi bod yno yn y lle cyntaf wedi cael ei ddileu eisoes gan y rheoliadau Rhif 3 a ddaeth i rym cyn inni gael cyfle i'w hystyried. Y rheoliadau Rhif 2, mae'n bwynt hynod o fach: gofyniad, mae'n ymddangos,
'er mwyn dileu tawtoleg cael “angen i gael angenrheidiau sylfaenol”'.
Hynny yw, onid oes gan Lywodraeth Cymru ddim byd gwell i'w wneud? Sut ar y ddaear y gall hynny fod yn fater brys, Weinidog? Ac nid yn unig ei fod yn bedantig, ond mae'n anghywir. Bydd p'un a oes arnoch angen angenrheidiau sylfaenol ai peidio yn dibynnu'n rhannol ar p'un a ydynt gennych chi eisoes ai peidio.
Y trydydd maes o'r rhain lle ceir newid—rwy'n petruso rhag dweud arwyddocaol, ond mae'n eu hymestyn, yw'r gofyniad i roi cadw pellter cymdeithasol o 2m mewn deddfwriaeth, sy'n destun rhyfeddod pur i mi. Beth yw'r dystiolaeth wyddonol sydd gan Lywodraeth Cymru, a neb arall, ymddengys, mai 2m yw'r penderfynydd allweddol? Pam eu bod yn meddwl y byddai'r penderfynydd allweddol yr un fath y tu mewn ag y mae tu allan? Pam y credant fod gan wledydd yn Ewrop, fel yr Almaen, sydd ag 1.5 m, neu Ffrainc a'r Eidal, sydd ag 1m rwy'n credu—? Mae hyd yn oed Sefydliad Iechyd y Byd, nad wyf yn derbyn popeth y mae'n ei ddweud fel efengyl yn sicr, yn dweud 1m. Pam ein bod ni yng Nghymru yn gwybod yn well?
A yw'r 2m wedi ei drosglwyddo o dempled Seisnig a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU? Ond wrth gwrs nid ydynt wedi rhoi hynny mewn cyfraith. Maent yn gweithio'n synhwyrol gyda busnesau, diwydiannau a sectorau i feddwl sut orau i'w cael yn ôl i'r gwaith mewn ffordd sy'n lleihau'r risg mewn ffordd synhwyrol tra'n sicrhau bod yr economi'n gwella. Mae'n llawer anos gwneud hynny yng Nghymru am fod y ddeddfwriaeth yn dweud 2m ac mae'n cyfeirio at 'unigolion a chanddynt gyfrifoldeb am fusnesau'. Mae hynny'n ei gwneud yn ofynnol i fusnes benderfynu pwy yn y busnes hwnnw sy'n gyfrifol yn gyfreithiol. Ac efallai nad yw'r person sy'n gyfrifol ac sydd fel arfer yn gwneud pethau am gael ei enwi fel y person sy'n gyfrifol ac efallai'n euog o'r drosedd hon a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, ac felly ni chaiff y busnes ailagor pan allai wneud hynny fel arall.
Bydd llawer iawn o fusnesau mawr sy'n gweithredu ar draws y DU, ac mewn llawer o achosion y tu hwnt i hynny, sy'n ailagor llawer o'u mannau busnes yn Lloegr, yn edrych ar hyn ac yn meddwl, 'Wel, a dweud y gwir, mae'n mynd i fod yn drosedd os gwnawn hynny yng Nghymru, a rhaid inni fod yn sicr nad ydym yn cyflawni'r drosedd honno, ac mewn gwirionedd, hyd yn hyn, nid oes gennym unrhyw arbenigwyr ar gyfraith Cymru ar ein staff, ac mae'n anodd mynd allan i gael cyngor allanol, ac nid ydym eisiau'r risg o fynd yn groes i'r gofyniad rheoleiddio hwnnw', felly nid ydynt yn ailagor. Nid wyf yn credu bod hon yn ffordd synhwyrol o fynd ati.
Rheoliadau gwelliant 3: roeddwn yn meddwl llawer o'r hyn a ddywedodd Angela am hynny. Rwy'n credu iddi siarad yn dda iawn, ac nid wyf am wneud nifer o'r pwyntiau am y weithdrefn ar gyfer ymarfer corff am ei bod hi wedi eu gwneud yn barod. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd y Ceidwadwyr yn ymatal ar y rheoliadau gwelliant 3 hyn. Mae'n bryd i ni weld o leiaf rywfaint o wrthwynebiad ganddynt i'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud a'u penderfyniad i fod yn wahanol er mwyn bod yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr.
Am y tro cyntaf, rydym yn gweld y gofyniad mewn perthynas ag ymarfer corff yn lleol mewn cyfraith. Wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog yn dweud pethau sy'n wahanol iawn. Mae'n dal i fynd yn ei flaen am ymarfer corff sy'n gorfod dechrau a gorffen gartref, ond nid yw hynny mewn cyfraith a phan edrychais i ddiwethaf, ni allwn ddod o hyd iddo yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru beth bynnag. Fodd bynnag, roeddent yn dweud na fyddai lleol, pe baech yn byw yng Nghaerdydd, yn golygu mor bell â Phorthcawl, felly rwy'n gobeithio bod rhai pobl yn cael hynny'n ddefnyddiol, os ydynt yn gyrru i ymarfer corff ond nad ydynt yn gyrru mor bell â hynny, maent o leiaf yn cydymffurfio â'r elfen honno o'r canllawiau. Rwy'n credu ei bod yn anodd iawn barnu beth y caiff pobl ei wneud. Clywsom Dai Lloyd, rwy'n meddwl, yn dweud na fyddech yn cael gyrru, ond rwyf wedi clywed pobl eraill yn dweud y cewch wneud hynny mewn rhai amgylchiadau. A'r gofyniad deddfwriaethol y byddwn ni—neu eraill o leiaf, rwy'n ofni—yn cytuno iddo yw y dylai fod yn lleol, rhywbeth sydd heb ei ddiffinio.
Ond ein rheswm cryfaf dros bleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn yw eu bod yn dileu'r gofyniad i Weinidogion Cymru gael gwared ar gyfyngiadau os nad oes eu hangen. Mae'n destun rhyfeddod pur i mi y gallwch gael y cyfyngiadau hyn ar fywydau pobl, er mor eithafol ydynt, ystyried nad ydynt yn angenrheidiol mwyach, ond newid y gyfraith fel y gallwch eu cadw beth bynnag am hyd at chwe mis. Ac mae'r Gweinidog iechyd yn ddigon digywilydd i ddweud wrthym mai cynyddu trosolwg democrataidd yw hynny. Yr hyn y mae'n ei wneud yw rhoi dannedd iddo. Mae'n gwreiddio'r cyfyngiadau hyn. Gall Gweinidogion eu cyflwyno pryd bynnag y byddant yn dymuno gwneud hynny, honni bod angen dirfawr amdanynt a'u gwneud yn gyfraith, heb i'r Cynulliad gytuno arnynt—fel y cawn gyfle i'w wneud yma, yn rhy hwyr—ond pan na fydd eu hangen mwyach, gallant eu cadw. Rwy'n credu bod hynny'n anghywir. 'Rhesymol', 'cymesur', mae'r rheini i gyd yng nghyfraith y DU. Mae'n warthus fod Llywodraeth Cymru yn newid y gyfraith fel y gall gadw cyfyngiadau pan fyddant yn ddiangen. Felly, yn lle hynny, gallant eu rhoi drwy eu profion cydraddoldeb Corbynaidd a'u dethol ar y sail honno. Nid yw'n sail briodol ar gyfer cadw'r mathau hyn o gyfyngiadau, a byddwn yn pleidleisio yn erbyn y ddwy set o reoliadau.
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd. Mae'n bwysig cydnabod nad yw'r rheoliadau hyn ond yn rhan o ymateb cynhwysfawr i reoli'r achosion o coronafeirws sy'n parhau yma yng Nghymru yn effeithiol, a'n bod yn gwneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â'r pandemig ac i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Diolch i'r ymdrechion a wnaed gan bobl ledled Cymru rydym wedi helpu i arafu lledaeniad y clefyd, amddiffyn ein GIG ac achub bywydau.
Rydym yn gwybod bod y cyfyngiadau parhaus yn effeithio ar iechyd a lles pobl yn ogystal â'n heconomi. Er hynny, rydym yn dechrau ar gyfnod hollbwysig yn awr. Byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y dystiolaeth, cyfarwyddyd a chyngor gwyddonol a gawn gan y prif swyddog meddygol o ran sut y symudwn ymlaen i ddiffinio sut y gellir llacio'r cyfyngiadau sy'n weithredol ar hyn o bryd mewn gwahanol rannau o fywyd yng Nghymru.
Erbyn hyn, mae'r crynodeb o'r cyngor gwyddonol hwnnw sy'n mynd i ddigwydd bob dydd Mawrth yn cael ei gyhoeddi'n rheolaidd, felly mae'r cyhuddiad a wnaed gan Mr Reckless yn arbennig, nad oes tystiolaeth o beth yw'r cyngor—rydym yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ynglŷn â beth ydyw. Mae'n tanlinellu'r dewisiadau y mae Gweinidogion yn eu gwneud. Mae hefyd yn bwysig tanlinellu'r diben a'r angen i gael y rheoliadau a helpu i lywio'r drafodaeth gyhoeddus barhaus.
Wrth gwrs, rydym o ddifrif ynglŷn â'r pwyntiau a wnaed gan nifer o siaradwyr am yr eglurder, a phwynt a phwrpas y rheoliadau, beth yw ystyr hynny o fewn y rheoliadau, ac anelwn i ddarparu hynny yn ein canllawiau. Wrth gwrs, byddwn yn bwrw ymlaen â hynny fel rhan o'r adolygiad nesaf. Bydd angen i ni edrych eto ar bwynt a phwrpas y rheoliadau. Rwy'n anghytuno; nid wyf yn cytuno'n arbennig ag ymgais led-gyfreithiol Mr Reckless i ddiffinio beth sy'n digwydd gyda'r pwerau. Mae'n dal i fod rhaid inni gael rheoliadau sy'n angenrheidiol ac yn gymesur. Mae'n dal i fod rhaid inni gael cyngor gan y prif swyddog meddygol i wirio bod y rhain yn rheoliadau a ddylai fod ar waith er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng cyhoeddus, y digwyddiad unwaith mewn canrif y mae pawb ohonom yn byw drwyddo.
Gwyddom na allwn drechu'r feirws heb fynd ati ar y cyd, felly rydym am annog y sgwrs barhaus honno gyda'n holl bartneriaid, a'r pwysicaf ohonynt o hyd yw pobl Cymru. Y sgwrs ynglŷn â sut rydym yn gwneud dewisiadau y mae angen inni eu gwneud, gyda'r hyblygrwydd cyfyngedig sydd gennym, i lacio'r cyfyngiadau rheoleiddiol presennol, ac nad ydym yn peryglu bywydau a lles pobl ledled Cymru. Mae'r rhain yn ddewisiadau anodd a byddant yn parhau i fod yn ddewisiadau anodd. Bydd angen i gydbwysedd yr hyn y dewiswn ei wneud yn y rheoliadau adlewyrchu'r realiti—fod y dewisiadau hynny ynddynt eu hunain yn anodd—ac yna mae angen inni ystyried eu heffaith gronnol, a gallu ei hesbonio mewn ffordd sy'n wirioneddol argyhoeddiadol i bobl Cymru. Ond rwy'n cydnabod, yn y ddadl flaenorol, fod cefnogaeth eang o hyd i'r ymagwedd bwyllog sydd gennym, a dyna yw ymagwedd y Llywodraeth o hyd.
Gwnaed y diwygiadau i'r rheoliadau rydym wedi'u trafod heddiw mewn ymateb i farn rhanddeiliaid, er mwyn helpu i hyrwyddo gweithgarwch economaidd pellach a chefnogi teuluoedd ledled Cymru. Ar gyfer heddiw, rhaid i'r rheoliadau aros yn eu lle yn ein barn ni gan eu bod yn gymesur â'r bygythiad rydym yn ei wynebu, ac ni fyddant yn weithredol yn hwy na'r angen.
Felly, rwy'n gofyn i'r Senedd gefnogi'r rheoliadau hyn a chytuno eu bod yn fesurau angenrheidiol i ymateb i'r pandemig ac i ddiogelu iechyd y cyhoedd yma yng Nghymru.
Y cynnig cyntaf, felly, yw derbyn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, rwy'n gweld gwrthwynebiad ac felly gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Yr ail gynnig yw derbyn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ie, unwaith eto, mae yna wrthwynebiadau ac felly gohiriwn y pleidleisio ar y rheoliadau hynny tan y cyfnod pleidleisio.