3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 23 Medi 2020.
Rwy'n troi yn awr at gwestiynau'r llefarwyr. Y cyntaf y prynhawn yma yw llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae problemau ariannol y sector celfyddydau yn sgil COVID yn parhau, a dwi'n credu eich bod chi'n cytuno efo fi bod gweithwyr llawrydd, yn benodol, felly, o dan bwysau mawr. Fe ddywedoch chi wrth bwyllgor diwylliant y Senedd nad oedd y £7 miliwn ar gyfer gweithwyr llawrydd yn y diwydiannau diwylliannol a chreadigol yn ddigonol. A dwi'n siŵr eich bod chi wedi gweld adroddiad cynhwysfawr tasglu llawrydd Cymru hefyd, sydd yn dod â nifer o argymhellion pwysig ymlaen. Mae'r adroddiad yma hefyd yn cynnwys nifer o bryderon ynghylch datblygiad gwaith cyfrwng Cymraeg yn y sector benodol yma. Felly, pa gynlluniau sydd gennych chi i sicrhau bod gan weithwyr llawrydd y gefnogaeth sydd ei hangen, ac a fyddwch chi'n fodlon gweithio efo'r tasglu yma, ac efo'r cyngor celfyddydau, a sefydliadau eraill, i weithredu ar argymhellion yr adroddiad? Pa gynlluniau penodol sydd gennych chi fel Llywodraeth i amddiffyn a thyfu'r sector cyfrwng Cymraeg yn ystod y pandemig?
Wel, mae'r sector cyfrwng Cymraeg, yn amlwg, mewn cenedl ddwyieithog yn swyddogol, ac mewn Senedd lle rydym ni'n cyfarfod heddiw lle mae'r ddwy iaith yn swyddogol, yn ganolog i'r cyfan rydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth. Felly, does dim cwestiwn nad ydym ni'n trin darpariaeth Gymraeg ar yr un lefel â'r ddarpariaeth Saesneg. Ac yn wir, mae darpariaeth mewn ieithoedd eraill sydd yn cael eu siarad gan ddinasyddion Cymru yn bwysig i ni hefyd.
Ond y pwynt arall i'w bwysleisio yn y fan hyn, dwi'n meddwl, sy'n allweddol, yw ein bod ni, wrth ddarparu ein cynlluniau fel Llywodraeth, yn sicrhau bod y cyllid sydd ar gael gennym ni—pa un ai ydy o'n dod o'n cyllidebau ni wedi ei aildrefnu, neu os ydy o'n dod o Lywodraeth y Deyrnas Unedig—bod y cyllid yna yn cael ei ddosbarthu cyn gynted ag y mae hi'n bosib, i sicrhau bod yna ymateb i'r anghenion. A dyna rydym ni wedi ei wneud, yn arbennig gyda'r £53 miliwn, ond yn wir, efo'r cyllid mewnol sydd wedi ei ailddosbarthu—mae o'n fwy na hynny—ar gyfer y celfyddydau.
Beth sy'n bwysig ydy bod ceisiadau yn dod drwodd yn gyflym—ac mae cyngor y celfyddydau, mae'n rhaid i mi ddweud, wedi bod yn ymateb yn gyflym iawn wrth weinyddu'r rhan o'r gyllideb y mae'n nhw yn ei gweinyddu. Ac mi fyddwn ni fel Llywodraeth Cymru hefyd yn gweinyddu ein cyllideb ni yn olynol i hynny. Mae'n bwysig bod yr unigolion yma yn cael sicrwydd bod yna gyfle iddyn nhw gynnal bywoliaeth, er wrth gwrs y bydd yn rhaid darganfod ffyrdd o berfformio ac o weithredu mewn gofod gwahanol i beth rydym ni wedi bod yn ei wneud yn y gorffennol tra mae'r afiechyd difrifol yma yn parhau.
Diolch yn fawr. Dwi'n sylwi nad ydych chi wedi ateb fy nghwestiwn i ynglŷn â'r tasglu llawrydd a'u hargymhellion nhw a'u hadroddiad nhw—
Dwi wedi darllen eu hargymhellion nhw, ond dwi ddim yn mynd i ymateb yn uniongyrchol i unrhyw dasglu, oherwydd tasglu hunanbenodedig, dwi'n credu, ydy hwn—dydy o ddim yn dasglu'r Llywodraeth.
Gaf i droi at faes arall, sef newyddiaduraeth? Hoffwn i wybod pa drafodaethau rydych chi wedi eu cael ynglŷn â dyfodol newyddiaduraeth print cyfrwng Saesneg yng Nghymru. Ydych chi wedi bod yn trafod efo Reach, er enghraifft? Hoffwn i wybod sut y gall y Llywodraeth ddarparu cefnogaeth—hyd braich, yn amlwg, ond cefnogaeth serch hynny—i'r cyfryngau print Saesneg.
Roedd fy nhrafodaeth gyntaf i, fel mae'n digwydd, nid efo Reach, nid efo'r cwmni, ond efo undeb y newyddiadurwyr. Dwi wedi cael trafodaeth efo nhw, ac mae yna drafodaeth bellach yn mynd i ddilyn. Byddaf yn trafod eto efo Reach. Ond beth dwi'n ei obeithio y gallwn ni ei sefydlu ydy model a fydd yn galluogi cynnig cyllid cyhoeddus i newyddiaduraeth Saesneg sydd yn cyfateb i'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd mewn cyhoeddi llenyddol a newyddiadurol yn Gymraeg. Oherwydd mae hi wastad wedi bod yn amlwg i mi, fel un sydd â diddordeb yn y ddau ddiwylliant a'r ddwy iaith, nad oedd yna gyfartaledd darpariaeth yn y sefyllfa yma. Ac felly dwi'n gobeithio y gallwn ni weithredu drwy Cymru Greadigol, oherwydd dyna'r asiantaeth newydd sydd gennym ni mewn Llywodraeth. Oherwydd y sefyllfa bresennol gyda'r pla yma sydd wedi effeithio arnom ni, dydyn ni ddim wedi gallu symud ymlaen mor gyflym â byddwn i'n dymuno, ond mae yna gyfarwyddwr i Cymru Greadigol bellach, ac mae o'n brofiadol iawn fel swyddog cyhoeddus, ac mi fyddwn ni'n gweithredu drwy Cymru Greadigol i sefydlu model o gyllid. Ond mi fydd o hyd braich oddi wrth y Llywodraeth, oherwydd dyna oedd yn bwysig i mi hefyd. Mae'n rhaid inni gael model tebyg i fodel cyngor y celfyddydau, lle mae'r penderfyniadau artistig a'r penderfyniadau newyddiadurol yn cael eu gwneud nid gan wleidyddion, ond gan gorff lled-annibynnol oddi wrth y Llywodraeth.
Diolch yn fawr. Edrychwn ymlaen, felly, at weld y gwaith yna yn dwyn ffrwyth, achos rydych chi'n cytuno, dwi'n siwr, bod y diwydiant papurau newydd a chael un ffyniannus yn hollbwysig i ddemocratiaeth a bywyd cyhoeddus yng Nghymru. Felly, dwi'n falch o glywed beth rydych chi'n ei ddweud heddiw ar hynny.
Gaf i droi jest at un maes arall i gloi, felly? Ddydd Iau diwethaf, dwi'n credu oedd hi, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi cronfa adfer chwaraeon a hamdden, gwerth £14 miliwn, sydd i'w groesawu, wrth gwrs, ond un o'r problemau mae pobl yn y maes yna yn sôn wrthyf i amdano fo ydy bod rhaid i beth o'r arian yma fynd at gynlluniau arloesi, ac maen nhw'n gweld hynny yn anodd iawn, achos, mewn gwirionedd, maen nhw angen llenwi bylchau sydd yn codi o ddiffyg incwm. Pam eich bod chi wedi dewis ffocysu ar gynlluniau arloesi, yn hytrach na chanolbwyntio ar helpu sefydliadau i oroesi'r diffyg incwm sydd o'u blaenau nhw ar hyn o bryd?
Wel, mi fuom ni'n ystyried y mater yma yn ofalus, ac un o'r pethau sydd wedi bod yn bwysig i mi, ar hyd y blynyddoedd, ydy os ydy pobl yn cael arian cyhoeddus bod o ddim yn arian am ddim, ac nad jest mater o lenwi bylchau ydy o, ond hefyd ein bod ni yn gallu canfod ffyrdd newydd o weithio yn greadigol i helpu i ddod â phobl drwy'r argyfwng yma yr ydym ni yn ei ganol. A dyna oedd wrth wraidd sicrhau bod yna ofynion creadigol, os leiciwch chi, ynglŷn â'r modd rydym ni'n defnyddio arian cyhoeddus. Nid ymgais i beidio â rhoi cyllid i unigolion nac i sefydliadau oedd hynny, ond doeddwn i ddim eisiau tywallt arian i mewn i hen sefydliadau creadigol sydd, efallai, ddim y math o sefydliadau y mae pobl neu gynulleidfaoedd newydd yn mynd i ymateb iddyn nhw. Ac felly dyna oedd hynna. A Cymru Greadigol fydd, eto, yn gyfrifol am roi trosolwg a chyngor inni yn y sefyllfa yma.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Jones.
Ddirprwy Weinidog, gwn fod llawer o'r Siambr, fel finnau, yn dilyn Joe Wicks ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'n siŵr ei fod yn arwr iechyd corfforol a meddyliol yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud cenedlaethol. Cyflwynodd fideo y bore yma ar sut y mae'r holl reoliadau coronafeirws a phethau felly'n effeithio arno'n feddyliol, ac roedd hynny'n ddewr iawn yn fy marn i, a dywedodd hefyd sut y mae gweithgarwch corfforol yn ei helpu gyda hynny.
Mae'r chwe mis diwethaf wedi gwneud niwed mawr i les corfforol a meddyliol pobl, rhywbeth a gafodd sylw yn gynharach yn natganiad y Prif Weinidog, a cheir llawer iawn o dystiolaeth sy'n awgrymu y gall gweithgarwch corfforol helpu iechyd meddwl. Felly, hoffwn ailadrodd galwadau cynharach Gweinidog yr wrthblaid dros iechyd a chwaraeon, Andrew R.T. Davies, am fwy o gymorth i chwaraeon hamdden ledled Cymru.
Roedd PE with Joe, sef yr hyn a wnâi Joe Wicks, yn gymaint o lwyddiant i deuluoedd cyfan o bob oed, a'u hiechyd meddwl a'u hiechyd corfforol yn ystod y cyfyngiadau symud, yn ogystal â'r fideos a oedd wedi'u teilwra ar gyfer yr henoed, yn enwedig y rheini a oedd ar y rhestr warchod. Nid wyf yn awgrymu eich bod chi a'r Prif Weinidog yn dechrau gwneud fideos ymarfer corff ar gyfer y genedl, Weinidog, ond mae'n rhywbeth da iawn, ac efallai y dylem edrych arno, oherwydd mae'n ffordd wych o fynd i mewn i dai pobl, eu helpu i wneud ymarfer corff, eu hannog i wneud ymarfer corff ac efallai ei fod yn rhywbeth y dylem edrych arno ar sail Cymru gyfan a hynny yn rhad ac am ddim.
Mewn ardaloedd lle mae gennym gyfyngiadau lleol, gwnaeth i mi feddwl sut rydym yn cyrraedd y bobl hynny. Oherwydd y cyfyngiadau amlwg sydd ar bobl yn awr, sut rydych chi'n sicrhau bod pobl yn dal i allu cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, a sut rydych chi'n eu hannog i wneud hynny?
Wel, mae gennyf gyfrifoldeb cyffredinol o fewn y Llywodraeth dros annog gweithgarwch corfforol, ac rwy'n dal i wneud hynny fy hun. Nid wyf am eich gwahodd i ddod i fy ffilmio yng nghaeau Llandaf. Rwy'n gwneud hynny, ond mae'n broses loncian araf. Ond rwy'n credu ei bod yn hanfodol ein bod ni, fel Llywodraeth, yn ailadrodd y negeseuon hyn, oherwydd un o'r pethau allweddol rwy'n chwilio amdano, wrth inni frwydro drwy'r pandemig, yw sut yr awn ati i ddatblygu arferion da a chyfathrebu gwell, fel bod y negeseuon rydym yn eu cyfleu, y negeseuon iechyd rydym yn eu cynhyrchu, yn rhai y mae pobl yn ei chael yn hawdd ymateb iddynt. Felly, rhaid iddo fod yn ddewis o ran y math o weithgarwch corfforol. Buom yn siarad yn gynharach am chwarae bowls; mae'n dibynnu ar ba fath o weithgarwch corfforol y mae pobl yn ei ddewis—nid un peth neu'r llall yn unig. Mae'n rhaid inni sicrhau bod cymaint â phosibl o'r gweithgareddau hyn ar gael, mewn cydweithrediad, yn amlwg, â'n prif gyllidwyr, sydd, drwy Lywodraeth Cymru—ei fod yn cyrraedd defnyddwyr gwasanaethau.
Diolch, Weinidog. Mae galluogi pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon yn ystod misoedd y gaeaf yn gwbl hanfodol. Mae bob amser wedi bod yn hanfodol, ond mae'n fwy hanfodol nag erioed yn awr yn ystod y pandemig hwn. Mae ardaloedd gwledig, sy'n aml yn cael eu hystyried yn gefnog gan Lywodraeth Cymru, yn ddifrifol o dlawd mewn llawer o ardaloedd o ran cyfleusterau chwaraeon, yn enwedig y rhai y gellir eu defnyddio yn ystod misoedd y gaeaf i sicrhau y gall pobl a chlybiau barhau â'u gweithgareddau chwaraeon drwy gydol y misoedd oeraf a mwyaf glawog. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd, Weinidog, i sicrhau bod gan bawb ar draws pob rhan o Gymru fynediad at gyfleusterau chwaraeon pob tywydd yn eu cymunedau eu hunain, fel nad oes raid iddynt deithio?
Fe wnaf nodi hynny, oherwydd mae'n amlwg yn rhywbeth y mae angen inni sicrhau ein bod yn ei ddarparu ac yn ymateb iddo'n iawn. Rwy'n cael fy nhemtio i ddweud y dylem sicrhau cyflenwadau digonol o ddillad thermol i bawb, ond efallai na fyddai'n briodol i hynny ddod o fy nghyllideb i; wel, nid oes gennyf lawer o gyllideb beth bynnag. Ond i'r graddau y gallem wneud hynny, rwy'n credu mai'r peth amlwg yw gwneud i bobl deimlo'n gyfforddus i wneud ymarfer corff yn yr hinsawdd ddiddorol ac amrywiol sydd gennym yng Nghymru.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Yn olaf, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn wynebu cryn anhawster ariannol oherwydd y coronafeirws. Dywedir eu bod yn wynebu colledion o tua £200 miliwn o ganlyniad i'r pandemig, ac maent wedi gorfod adolygu pob agwedd ar eu helusen i wneud arbedion ym mhob maes gweithgaredd bron iawn. Un atyniad o'r fath sydd mewn perygl ar hyn o bryd yw'r tŷ crwn yn y Cymin, sy'n atyniad pwysig i dwristiaid yn yr ardal, gan ddenu 65,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Mae'r ymddiriedolaeth wrthi'n ymgynghori ar gau'r tŷ crwn, a fyddai'n ergyd fawr i'r economi leol. A wnewch chi gadarnhau bod y swm llawn o arian a ddarperir gan Lywodraeth y DU i gefnogi sefydliadau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio at y diben a fwriadwyd, a pha gamau y gallwch eu cymryd i sicrhau bod safleoedd o bwysigrwydd hanesyddol, fel y tŷ crwn, yn cael eu cadw ar agor?
Rwyf wedi ymweld â'r Cymin. Credaf ei fod yn un o'r eiddo cynnar—credaf mai yn 1902 y cafodd ei roi'n rhodd i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae'n safle unigryw iawn. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae fy uwch swyddogion, yn enwedig pennaeth Cadw, wedi cael trafodaethau gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rwy'n credu mai'r ffordd o ymateb i'ch cwestiwn yw drwy eich sicrhau fy mod eisiau cael partneriaeth gryfach rhwng Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru a Cadw, oherwydd credaf fod hwn yn gyfle yn awr inni gydweithredu, wrth inni ailagor, neu wrth inni ailagor safleoedd o'r math hwn yn raddol, gobeithio.
Yn amlwg, ni allwn ariannu'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel pe bai'n ddim ond ymgeisydd arall, ond os oes gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gynigion difrifol, a fyddai'n cynnwys partneriaeth â Llywodraeth Cymru, byddwn yn gryf o blaid hynny. Rwy'n byw yng nghanol eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y gogledd; dylwn ddatgan buddiant. Er, nid yw'r bwthyn sydd gennym ei hun yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol; nid wyf yn credu y byddai'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ei eisiau.
Diolch. Cwestiwn 3, Russell George.
Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd, cefais drafferth yn gynharach y prynhawn yma.