11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Amaethyddiaeth

– Senedd Cymru am 5:12 pm ar 29 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:12, 29 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Eitem 11 yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Amaethyddiaeth. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig. Lesley Griffiths.

Cynnig NDM7400 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Amaethyddiaeth, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 5:12, 29 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Cadeirydd, am y cyfle i egluro cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Cyflwynwyd y Bil Amaethyddiaeth i Senedd y DU yn gyntaf ar 16 Ionawr 2020, ac mae'n gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â materion datganoledig. Nodir darpariaethau sy'n ymwneud â Chymru yn Atodlen 5 i'r Bil, ond maent hefyd yn ymddangos drwy gydol y Bil. Argymhellaf fod Aelodau'r Senedd yn cefnogi cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth.

Wrth benderfynu a ddylid argymell cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn, rwyf wedi ystyried y sylwadau defnyddiol a godwyd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ystod eu gwaith craffu. Mae'r Bil Amaethyddiaeth yn cynnwys darpariaethau sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i barhau i ddarparu cymorth ariannol i sector amaethyddol Cymru drwy fersiwn ddomestig o gynllun taliadau sylfaenol y polisi amaethyddol cyffredin a chynllun taliadau datblygu gwledig. Credaf ei bod yn briodol cynnwys y darpariaethau hyn ym Mil Amaethyddiaeth y DU gan y bydd Gweinidogion Cymru yn gallu darparu sefydlogrwydd a pharhad y mae mawr ei angen i'r sector amaethyddol.

Bwriadwn ddefnyddio'r pwerau wrth drosglwyddo i system newydd o gymorth amaethyddol, yr ydym yn cynnig y bydd yn cael ei chynllunio ar sail egwyddorion rheoli tir cynaliadwy. Ar 31 Gorffennaf, lansiais y cynigion 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' i barhau a symleiddio cymorth amaethyddol i ffermwyr a'r ymgynghoriad ar yr economi wledig. Mae'r ymgynghoriad yn amlinellu cynigion ynghylch sut y gall Gweinidogion Cymru ddefnyddio'r darpariaethau parhad sy'n caniatáu cyflawni cynllun taliadau sylfaenol domestig newydd a chynllun taliadau datblygu gwledig. Mae'n nodi nifer o newidiadau bach ond effeithiol i'w gweithrediad yn ystod blwyddyn 2021 y cynllun. Daw'r ymgynghoriad ar y cynigion hyn i ben ar 23 Hydref.

Mae'r Bil Amaethyddiaeth hefyd yn cynnwys darpariaethau eraill ar gyfer sicrhau bod sectorau amaethyddol yn cael eu gweithredu'n effeithiol ledled y DU. Mae'r rhain yn cynnwys darpariaethau ar gyfer diwygio tenantiaethau amaethyddol, ailddosbarthu'r ardoll cig coch, sefydliadau bargeinio teg a chynhyrchu, ymyrraeth yn y farchnad a safonau marchnata, casglu a rhannu data, a nodi ac olrhain da byw, gwrteithiau a chynhyrchion organig. Mae'r cynigion cydsyniad deddfwriaethol sy'n nodi'r darpariaethau hyn wedi bod yn destun craffu gan y Senedd o'r blaen.

Mae'r Bil Amaethyddiaeth yn rhoi darpariaethau gwneud rheoliadau i'r Ysgrifennydd Gwladol i sicrhau bod y DU yn cydymffurfio â chytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar amaethyddiaeth yn dilyn ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd. Fel yr wyf wedi amlinellu i'r Senedd o'r blaen, mae'r rhain yn ddarpariaethau gweddol gymhleth y cododd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig bryderon yn eu cylch yn ystod ei waith craffu. Rwyf wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r darpariaethau hyn, ac i argymhelliad y pwyllgor arnynt yn eu hadroddiad ym mis Mai 2020. Rwy'n parhau i fod yn fodlon â'r cytundeb dwyochrog a wnaed rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar ddefnyddio'r pwerau hyn. Mae'r cytundeb yn darparu dulliau cryf i Weinidogion Cymru fynegi eu barn a sicrhau bod y farn honno'n cael ei hystyried gan y Senedd a chan Lywodraeth y DU wrth wneud a defnyddio rheoliadau mewn cysylltiad â'r ffordd y mae'r DU yn ymdrin â Sefydliad Masnach y Byd.

Yn argymhelliad 16 ei adroddiad, gofynnodd y pwyllgor am eglurder ynghylch a oeddwn yn credu y dylai'r Bil gynnwys mesurau diogelu i sicrhau nad yw safonau marchnata yng Nghymru yn dioddef yn sgil mewnforion mewn unrhyw drefniadau masnach yn y dyfodol. Ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol ar 12 Mehefin i nodi safbwynt Llywodraeth Cymru ar iechyd a lles anifeiliaid a materion sicrhau iechyd (pobl) anifeiliaid a phlanhigion allweddol mewn cysylltiad â chytundeb masnach yn y dyfodol. Mae diogelwch bwyd, ynghyd ag iechyd a lles anifeiliaid, yn faterion datganoledig, ac mae polisi Llywodraeth Cymru yn glir: sef bod yn rhaid cynnal safonau uchel diogelwch bwyd, lles anifeiliaid a safonau amgylcheddol yng Nghymru. Er bod Gweinidogion y DU yn parhau i fynnu eu bod yn benderfynol o gynnal y safonau uchel presennol o ran diogelwch bwyd a lles anifeiliaid, maent yn amharod i ganfod drafftio cyfreithiol priodol a fyddai'n eu galluogi i roi sicrwydd o'r fath mewn statud. Fel Llywodraeth, mae hyn yn ofid inni.

Wrth argymell cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil, rydym yn cydnabod nad yw'n berffaith ac nid fel y byddem ni wedi'i ddrafftio. Fodd bynnag, mae'r Bil fel y'i diwygiwyd, at ei gilydd, yn dderbyniol. Rwyf eisiau sicrhau'r Siambr ein bod yn bwriadu gwrthwynebu'n gryf y cymalau ym Mil y farchnad fewnol a fyddai'n galluogi'r Llywodraeth hon neu unrhyw Lywodraeth yn San Steffan i danio'r gwn i gychwyn y ras i waelod safonau diogelwch bwyd a lles anifeiliaid.

Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, cynigiwn y bydd sector amaethyddol Cymru yn trosglwyddo i system newydd o gymorth amaethyddol. Mae ein cynigion yn glir: sef ei bod yn bwysig trosglwyddo i system o'r fath yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, i fynd i'r afael â'r diffyg cadernid economaidd ac amgylcheddol yn y sector, ac er mwyn diogelu enw da'r diwydiant. Mae'n amser maith ers cyflwyno'r Bil Amaethyddiaeth gwreiddiol i Senedd y DU ym mis Medi 2018. Gan ystyried hyn, ochr yn ochr â phryderon a godwyd gan y Senedd yn ystod gwaith craffu, deuthum i'r casgliad nad oedd yn briodol cynnwys y pwerau cymorth ariannol newydd y darparwyd ar eu cyfer yn wreiddiol yn y Bil hwn. Yn hytrach, fy mwriad yw gwneud darpariaethau priodol mewn Bil amaethyddiaeth (Cymru). Rydym yn bwriadu i'r Bil Cymru hwn roi darpariaethau i Weinidogion Cymru gynllunio a darparu system bwrpasol o gymorth i amaethyddiaeth, diwydiannau gwledig a chymunedau Cymru.

Yn ystod gwaith craffu, mynegodd pwyllgorau'r Senedd bryderon ynghylch absenoldeb cymal sy'n cyfyngu ar amser yn y Bil Amaethyddiaeth gwreiddiol. Er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon hyn, cyfarwyddais Lywodraeth y DU i gynnwys cymal machlud ar wyneb y Bil. Mae hyn bellach yn rhan o'r Bil yng nghymal 51, ac mae'n sicrhau bod darpariaethau yn Atodlen 5 yn dod i ben, ynghyd â nifer fach o ddarpariaethau cysylltiedig, ar ddiwedd 2024 yn unol â'r ddarpariaeth honno. Erbyn diwedd y flwyddyn hon, bwriadaf gyhoeddi Papur Gwyn a fydd yn nodi'r cyd-destun ar gyfer dyfodol ffermio yng Nghymru ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer cyflwyno Bil amaethyddiaeth (Cymru). Cynigiaf y cynnig i'r Siambr.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:19, 29 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog. Galwaf yn awr ar Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Mike Hedges.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd dros dro. Mae'r ddadl hon yn ein tynnu gam yn nes at gytuno ar drefniadau trosiannol ar gyfer y sector amaethyddol yng Nghymru. Mae wedi bod yn daith hir. Mae craffu ar Fil Amaethyddiaeth y DU wedi bod yn elfen ganolog o waith y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar Brexit. Cyhoeddwyd ein hadroddiad cyntaf mewn cysylltiad â Bil Amaethyddiaeth y DU yn ôl ym mis Ionawr 2019. Yn ystod y 18 mis diwethaf, rydym wedi cael y cwymp cyntaf ym Mil y DU oherwydd addoedi, a chyflwynwyd un arall yn sgil etholiadau'r DU. Rydym wedi adrodd ar dri achlysur gwahanol ar Fil Amaethyddiaeth y DU.

Mae tri mater allweddol wedi bod yn flaenllaw yn ein gwaith craffu ar y Bil hwn. Yn gyntaf, defnyddio'r weithdrefn gydsynio i ddeddfu ar faterion polisi arwyddocaol mewn meysydd datganoledig. Fel pwyllgor, rydym bob amser wedi cydnabod bod angen deddfwriaeth i barhau i ddarparu cymorth ariannol i'r sector amaethyddol yn syth ar ôl Brexit—y peth olaf y byddai unrhyw un eisiau ei weld yw atal llif yr arian. Ond rydym bob amser wedi dweud mai Bil Cymreig yw'r ffordd fwyaf priodol o ddeddfu ar bwnc mor arwyddocaol â dyfodol hirdymor amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthym dro ar ôl tro fod hyn yn amhosibl oherwydd prinder amser.

Rydym wedi gweld yn uniongyrchol gyfyngiadau'r weithdrefn gydsynio. Yn amlach na pheidio, ceir ymgynghori cyfyngedig â rhanddeiliaid yng Nghymru, craffu cyfyngedig ar ddarpariaethau Cymru—yn sicr dim byd tebyg i broses Bil y Senedd. Rydym wedi adrodd ar ddarpariaethau sydd wedi'u mewnosod, dim ond iddynt gael eu tynnu allan mewn camau diwygio dilynol. Mewn rhai achosion, mae Atodlenni cyfan wedi'u dileu. Hyd yn oed heddiw, gofynnir i'r Senedd roi ei chydsyniad tra bo'r Bil yn dal i fod yn y cyfnod diwygio yn y Senedd.

Yn ail, bu tuedd sy'n peri pryder i Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol gynnwys darpariaethau sy'n rhoi pwerau sylweddol i Weinidogion Cymru gan osod ychydig iawn o ddyletswyddau arnynt. Rydym wedi dadlau'n gyson y bydd yr anghydbwysedd hwn yn cyfyngu'n ddifrifol ar allu'r Senedd i graffu ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i amaethyddiaeth ar adeg pan fo craffu effeithiol yn hanfodol.

Yn drydydd, mae Llywodraeth Cymru a'r DU wedi ei chael hi'n anodd datblygu perthynas waith effeithiol i ymdrin â her Brexit. Mae hyn yn rhywbeth sy'n ddealladwy; mae hyn yn rhywbeth sy'n newydd i bob un ohonom. Ni fu angen y strwythurau a'r fframweithiau sy'n angenrheidiol i gydweithio cyn hyn. Rydym wedi bod yn gyson wrth ddweud y bydd gadael yr UE yn golygu bod angen cydberthnasau rhynglywodraethol newydd ar lefel y DU. Wrth i Lywodraethau ganolbwyntio ar ddatblygu'r cysylltiadau rhynglywodraethol newydd hyn, y cwestiwn i Seneddau yn y pedair gwlad gyfansoddol yn y DU yw beth yw ein safle ni yn y tirlun newydd hwn. A fyddwn yn rhoi sêl bendith ar gynigion cydsyniad fel y gall Senedd y DU ddeddfu ar ein rhan? A gytunwn y gall Senedd y DU roi pwerau i Weinidogion Cymru, gan osgoi'r Senedd hon yn gyfan gwbl? Mae'r rhain yn gwestiynau allweddol.

Ond gan symud ymlaen a chanolbwyntio ar y pethau cadarnhaol, mae'r Gweinidog a swyddogion wedi ymgysylltu'n adeiladol ac yn gadarnhaol â'r pwyllgor drwy gydol y broses hon. Yn ein tri adroddiad, rydym ni wedi gwneud llawer o argymhellion, ac ymatebodd y Gweinidog yn adeiladol. Rydym wedi gweld y Gweinidog yn gweithredu o ganlyniad i'r argymhellion hyn. Mae darpariaethau Cymru yn y Bil yn edrych yn wahanol iawn heddiw nag yr oeddent ar ddechrau'r broses hon. Mae'r Gweinidog wedi sicrhau bod yr hyn a oedd bryd hynny'n Atodlen 3, a roddodd bwerau deddfu hirdymor sylweddol i Weinidogion Cymru wedi ei dileu. Yr hyn sy'n weddill yw pwerau trosiannol i raddau helaeth a gaiff eu disodli gan Fil Cymreig yn y dyfodol.

Mae'r Gweinidog wedi ymrwymo i gyhoeddi Papur Gwyn ar amaethyddiaeth cyn diwedd y Senedd hon, gyda'r bwriad o gyflwyno Bil Cymru yn y Senedd nesaf. Y cwestiwn i'r Senedd yw a yw'r darpariaethau'n briodol i hwyluso trosglwyddo llyfn i unrhyw system newydd o gymorth i amaethyddiaeth ar ôl i'r DU adael yr UE. Mae'r pwyllgor wedi nodi llawer o faterion manwl yn y Bil a oedd yn anfoddhaol—rhoddwyd sylw i rai ohonynt, mae rhai'n parhau. Ond rwy'n croesawu'n fawr y bydd dyfodol polisi amaethyddiaeth yn cael ei bennu yng Nghymru gan y Senedd, ar ffurf Bil Cymreig, yn amodol ar welliannau a gyflwynwyd gan Aelodau ar draws y Senedd hon, ac yr ymgynghorir yn helaeth â ffermwyr a rhanddeiliaid Cymru arnynt. 

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:23, 29 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar Mick Antoniw, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd dros dro. Dechreuodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ystyried Bil Amaethyddiaeth y DU yn union ddwy flynedd yn ôl ym mis Medi 2018, a bydd yr Aelodau'n gwybod bod fersiwn gyntaf Bil Llywodraeth y DU wedi cwympo yn 2019, pan ddiddymwyd Senedd y DU cyn etholiad cyffredinol y DU. Roeddem eisoes wedi cynhyrchu dau adroddiad wedi'u geirio'n gryf ar y fersiwn honno o'r Bil hwnnw ym mis Ionawr a mis Mehefin 2019. Ailgyflwynodd Llywodraeth bresennol y DU y Bil Amaethyddiaeth ganol mis Ionawr eleni, ac ers hynny rydym wedi gweld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno pedwar memorandwm cydsyniad deddfwriaethol—gosodwyd Rhif 3 ddydd Gwener diwethaf, a gosodwyd Rhif 4 brynhawn ddoe, sy'n golygu nad yw unrhyw un o bwyllgorau'r Senedd wedi craffu ar y naill na'r llall. Fodd bynnag, unwaith eto, rydym ni wedi cynhyrchu dau adroddiad ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol Rhif 1 a Rhif 2 gyda chasgliadau ac argymhellion sylweddol.

Mae Bil Amaethyddiaeth y DU yn ddarn pwysig o gyfraith, ac er ei fod yn codi o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE, mae'n rhoi pwerau sylweddol i Weinidogion Cymru mewn maes polisi sydd wedi'i ddatganoli i'r Senedd ers dros 20 mlynedd. Yn ein hadroddiad ym mis Ionawr 2019, nodwyd ein siom bod y Gweinidog fel pe bai'n awgrymu bod y broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn rhoi cyfleoedd digonol i Aelodau'r Senedd graffu ar faes polisi datganoledig pwysig.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 5:25, 29 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'n bwysig bod yn glir ar y pwynt hwn. Nid yw craffu ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn rhoi'r un hawliau na chyfleoedd i Aelodau'r Senedd graffu o'u cymharu â Bil Cymreig a osodwyd gerbron y Senedd hon. Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gosod Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol atodol pellach ar brynhawn dydd Gwener a phrynhawn ddoe sy'n berthnasol i'r ddadl heddiw yn enghraifft glir o'r cyfyngiadau a roddir ar graffu yn ystod y broses cydsyniad deddfwriaethol.

Ysgrifennodd y Gweinidog hefyd at ein pwyllgor brynhawn ddoe mewn cysylltiad â'r pedwerydd Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, ac ailadroddodd bwysigrwydd y Bil. Felly, mae'n siomedig bod llythyr y Gweinidog hefyd yn cynghori bod Llywodraeth Cymru yn dal i ddadansoddi gwelliannau pellach a wnaed yng Nghyfnod Adrodd Tŷ'r Arglwyddi, hyd yn oed gyda'r cynnig hwn yn cael ei ystyried heddiw.

Prin iawn fu'r amser a gafwyd i adolygu'r pedwerydd Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, ond mae'n ymddangos bod y Bil bellach yn rhoi mwy o bwerau i Weinidogion Cymru; mae'n ymddangos bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cymryd pŵer cydamserol ychwanegol i wneud rheoliadau mewn maes datganoledig. Byddai craffu priodol wedi ein galluogi ni i ymchwilio gyda'r Gweinidog i'r rhesymeg dros y newidiadau munud olaf hyn. O ystyried pwysigrwydd y Bil ar gyfer ffermio yng Nghymru, mae'r sefyllfa hon yn anfoddhaol.

Hoffwn symud ymlaen at fater Bil i Gymru. Rydym wedi bod yn pryderu, fel y mae Mike Hedges a'i bwyllgor yn eu hadroddiad, nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ei Bil ei hun i'w graffu arno yn y Senedd. Dywedodd y Gweinidog wrthym ni a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig droeon nad oedd digon o amser ar gyfer Bil o'r fath. Fodd bynnag, mae dwy flynedd wedi mynd heibio ers cyflwyno Bil Amaethyddol gwreiddiol y DU i Senedd y DU. Rydym yn cydnabod bod edrych yn ôl yn hawdd iawn ac, efallai, yn anfaddeuol, ond dylem ystyried a fyddem wedi bod mewn gwell sefyllfa pe bai Bil Cymreig wedi'i ddilyn o'r cychwyn cyntaf.

Rydym yn cydnabod, yn dilyn pryderon a fynegwyd gennym am y dull deddfwriaethol a fabwysiadwyd, fod cymal machlud wedi'i gynnwys yn y Bil a bod pwerau i ganiatáu i Weinidogion Cymru weithredu neu drosglwyddo i gynlluniau newydd wedi'u dileu. Amlygodd ein hadroddiad ym mis Ionawr 2019 bryder cyffredinol hefyd ynglŷn â'r pwerau dirprwyedig sydd wedi'u cynnwys yn y Bil gwreiddiol. Mae'n siomedig na chafwyd gwybodaeth y gofynnwyd amdani am bwerau dirprwyedig yn ein hadroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mai eleni yn yr ail Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol a osodwyd ym mis Mehefin, a'n bod wedi gorfod aros tan y trydydd Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, a osodwyd ddydd Gwener diwethaf, am restr o'r darpariaethau yn y Bil sy'n cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, sylwaf na chafodd y cyfiawnhad dros gymryd pob pŵer y gofynnwyd amdano ei gynnwys.

Gan symud ymlaen at fater pwysig arall, mae Aelodau'n ymwybodol o'r anghytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch darpariaethau'r WTO—Sefydliad Masnach y Byd—yn y Bil, a pha un a ddylid bod wedi gofyn am gydsyniad. Wrth graffu ar fersiwn gwreiddiol y Bil, dywedodd y Gweinidog wrthym fod cymal 26, fel yr oedd bryd hynny, yn fater llinell goch i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, dywedodd y Gweinidog wrthym hefyd y gallai'r mater gael ei ddatrys drwy gytundeb rhynglywodraethol. Nawr, rydym yn cydnabod bod cytundebau o'r fath yn cael eu gwneud rhwng Llywodraethau. Fodd bynnag, mae ymrwymo iddynt fel ffordd o ddatrys materion o fewn Bil y DU sy'n gofyn am gydsyniad y Senedd, ac yna peidio â sicrhau bod y cytundeb hwnnw ar gael i'r cyhoedd mewn modd amserol, yn lleihau gallu'r Senedd a'i phwyllgorau i graffu'n llawn ar oblygiadau'r Bil Prydeinig hwnnw ar gyfer cymunedau Cymru.

Roedd ein hadroddiadau ar y Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil gwreiddiol, a'n hadroddiad cyntaf a gyhoeddwyd ym mis Mai ar y Bil presennol, yn manylu ar ein pryderon ynghylch defnyddio'r cytundeb dwyochrog sy'n ymwneud â'r hyn sydd bellach yn gymalau 40 i 42 yn y Bil presennol. Yn ein hadroddiad ym mis Gorffennaf ar yr ail Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, nodwyd bod Llywodraeth y DU bellach o'r farn bod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer y cymalau hyn. Gwnaeth ein hadroddiad ym mis Gorffennaf dri argymhelliad cyfatebol. Gofynnwyd i'r Gweinidog ddarparu gwybodaeth fanwl am sefyllfa ddiwygiedig Llywodraeth y DU; fe wnaethom ni ofyn hefyd i'r Gweinidog roi manylion y cytundeb a wnaed gyda'r Ysgrifennydd Gwladol i arfer y pwerau i wneud rheoliadau yn y cymalau hynny. Ysgrifennodd y Gweinidog atom ar 11 Medi. Fodd bynnag, nid yw'r ymateb yn darparu'r wybodaeth glir a manwl y gofynnwyd amdani.

Wrth ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol cyntaf ar gyfer fersiwn wreiddiol y Bil, awgrymodd y Gweinidog fod Bil Amaethyddiaeth y DU yn cefnogi datganoli, barn na wnaethom ac nad ydym yn ei rhannu. Heddiw rydym yn trafod a ddylid caniatáu i Senedd y DU ddeddfu ar ran Cymru mewn maes polisi hollbwysig ai peidio. Mae ein pwyllgorau hefyd wedi craffu ar Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Biliau pysgodfeydd, yr amgylchedd a masnach y DU. Ym mhob un o'n hadroddiadau ar y Biliau pwysig hyn, rydym wedi tynnu sylw at yr un pryderon neu bryderon tebyg. Er ein bod yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i fynd i'r afael â rhai o'n pryderon ym Mil Amaethyddiaeth y DU, mae rhoi caniatâd i Senedd arall ddeddfu ar y materion pwysig hyn yn benderfyniad anodd ac yn sicr ni ddylid ei wneud ar chwarae bach. Diolch, Llywydd dros dro.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:30, 29 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Galwaf nawr ar Janet Finch-Saunders.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd dros dro. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y Bil Amaethyddiaeth hwn. Mae'n cynnwys mesurau i alluogi parhad y cymorth amaethyddol presennol ac i sicrhau bod y sector yn gweithio'n effeithiol. Mae llawer o bethau cadarnhaol, megis yr ardoll cig coch, ac Atodlen 5 yn benodol, sydd nid yn unig yn galluogi Gweinidogion Cymru i barhau â thaliadau uniongyrchol yng Nghymru o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) ar ôl 2020 ond sydd hefyd yn helpu i symleiddio a gwella'r cynllun. 

Hefyd, mae Atodlen 5, Rhan 2 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud datganiad o ymyriad petai yna amodau marchnad eithriadol a fyddai'n debygol o gael effaith andwyol ar incwm cynhyrchwyr amaethyddol. Mewn cysylltiad â hyn, tynnodd Undeb Amaethwyr Cymru sylw at y ffaith y gallai fod gan Lywodraethau penodol yn y DU farn wahanol ar yr hyn sy'n gyfystyr ag amod eithriadol. Felly, croesawaf y ffaith, pan fydd mesurau o'r fath yn cael eu hystyried, y bydd pedair gweinyddiaeth y DU yn ymgynghori â'i gilydd drwy grŵp monitro marchnad amaethyddol y DU.

Mae cydweithredu â'r sector amaethyddol a gweithredu ar eu pryderon yn hanfodol. Felly, hoffwn ddweud ar goedd pa mor llawer yr wyf fod y Gweinidog yn derbyn argymhelliad 2 yn adroddiad y pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (CCERA) ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol atodol. Mae'r ddyletswydd i adrodd i'r Senedd ar ddiogelwch bwyd y DU yn hanfodol bwysig hefyd. Mae mawr angen hyn oherwydd erbyn hyn rydym dim ond 61 y cant yn hunangynhaliol o ran bwydydd tymherus.

Fel y Gweinidog, croesawaf welliant Llywodraeth y DU i gynyddu amlder yr adroddiadau o bob pump i bob tair blynedd. Codwyd pryderon o ran cymalau 32, adnabod ac olrhain anifeiliaid, a rheoleiddio cynhyrchion organig. Yn wir, nododd ein pwyllgor nad oeddent mewn sefyllfa i argymell i'r Senedd ei bod yn cydsynio â darpariaethau'r Bil oherwydd pryderon sydd gan Lywodraeth Cymru o hyd. Yn ôl ymatebion y Gweinidog i Gadeiryddion pwyllgor y CCERA a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, cytunwyd ar welliannau'r Llywodraeth yn ystod y Cyfnod Pwyllgor ac mae'r Gweinidog o'r farn bod hwn yn ateb boddhaol i'r pryderon sy'n weddill. Rwy'n cytuno ac yn croesawu gwelliannau perthnasol y Llywodraeth a nodir ym memorandwm Rhif 3.

Gwnaeth y Gweinidog bwynt pwysig hefyd yn ei llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn cysylltiad â chymalau 40 i 42. Mae'r cytundeb dwyochrog rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ym mis Mawrth 2019 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn gwneud rheoliadau gan ddefnyddio pwerau a roddwyd o dan y cymalau hynny. Fe'm sicrhawyd gan sylw'r Gweinidog fod y cytundeb hefyd yn nodi dull cadarn a thryloyw ar gyfer cynnwys Gweinidogion Cymru wrth weithredu'r rheoliadau.

Mewn cysylltiad ag Atodlen 3 a thenantiaethau amaethyddol, nododd Undeb Amaethwyr Cymru a  Chymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad (CLA) Cymru fod lle i Fil Cymreig ar wahân. Cytunaf hefyd ag NFU Cymru na ddylai Llywodraeth Cymru symud ymlaen i weithredu polisïau newydd i ddisodli'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) nes bod yr effeithiau ar y sector tenantiaid yn cael eu deall yn iawn. Yn wir, mae'r sector yn cyfrif am 30 y cant o'n tir ffermio yng Nghymru. Dylem i gyd gael ein calonogi gan ymateb y Gweinidog i argymhelliad 20 y bydd diwygio polisi tenantiaeth amaethyddol yng Nghymru yn cael ei ystyried fel rhan o'r gwaith o ddatblygu Papur Gwyn amaethyddiaeth (Cymru).

Nodaf y sylwadau yn adroddiad pwyllgor y CCERA ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol bod rhanddeiliaid wedi galw ar y Bil i gynnwys mesurau diogelu i sicrhau nad yw safonau bwyd yn cael eu gostwng gan fewnforion mewn cytundebau masnach. Mae Llywodraeth y DU wedi ei gwneud hi'n glir dro ar ôl tro na fydd yn cyfaddawdu ar safonau uchel y DU. Ac mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol yn wir wedi sefydlu'r Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth i gynghori Gweinidogion ar ddull y DU o ymdrin â chytundebau masnach ar ôl Brexit. Croesawaf y comisiwn hwn, ond mae gan Lywodraeth Cymru ei hun ran i'w chwarae o ran hyrwyddo ein cynnyrch o Gymru hefyd. Er enghraifft, mae arnom angen targed clir a diamwys o ran pryd y bydd oes silff cig oen Cymru yn cael ei wella, fel y gall gystadlu'n well â Seland Newydd ar y llwyfan byd-eang; datblygu a gweithredu siarter bwyd lleol i sicrhau caffael y lefel fwyaf posibl o gynnyrch o Gymru; a chefnogaeth i addewid gwlân Cymreig y Ceidwadwyr Cymreig.

Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio o blaid rhoi caniatâd, oherwydd mae gwneud hynny'n gam cadarnhaol tuag at sefydlogrwydd ac yn ddyfodol cryfach i'n ffermio yng Nghymru. Fodd bynnag, hoffwn egluro ein bod yn gwneud hynny ar y sail, os bydd gwelliannau'r tu allan i'r Llywodraeth yn aros yn y Bil, y caiff dadl bellach ei chyflwyno, fel yr addawyd yn y llythyr a gyhoeddwyd gennych, Gweinidog, atom ddoe. Diolch yn fawr.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 5:36, 29 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'n dda gennyf glywed bod Janet Finch-Saunders yn dweud bod y Ceidwadwyr yn cefnogi diogelwch bwyd, ond yn anffodus, hyd yma, maent wedi gwrthod rhoi cymalau penodol ar ddiogelwch bwyd yn y Bil Amaethyddiaeth. Ac mae hynny'n destun pryder.

Nawr, mae Tŷ'r Arglwyddi wedi cyflwyno gwelliant cadarn iawn yn y Bil yr wythnos diwethaf sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r holl gynhyrchion bwyd a fewnforir o dan gytundebau masnach yn y dyfodol fodloni neu ragori ar safonau diogelwch domestig bwyd, labelu a lles anifeiliaid. Yr allwedd, serch hynny, yw'r hyn sy'n mynd i ddigwydd i'r cymal hwnnw pan fydd yn mynd yn ôl i Dŷ'r Cyffredin, a dyna pam yr wyf yn rhannu amheuon Mick Antoniw a Mike Hedges ynghylch pasio'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn pan nad ydym yn gwybod eto beth fydd ffurf derfynol y Bil.

Cafwyd ail welliant hefyd a oedd yn bwysig iawn, sef sicrhau'r gwaharddiad ar ddefnyddio plaladdwyr ger cartrefi ac adeiladau cyhoeddus megis ysgolion ac ysbytai. Mae hynny'n ymddangos i mi'n fesur anhygoel o bwysig i iechyd y cyhoedd. Felly, hoffwn glywed gan y Llywodraeth pa fesurau diogelu sydd ar gael inni wrthsefyll cyw iâr clorin a'i holl waith ofnadwy os bydd Llywodraeth y DU yn tynnu'r ddau gymal pwysig iawn hyn a fewnosodwyd gan Dŷ'r Arglwyddi pan ddaw'n ôl i Dŷ'r Cyffredin yn ddiweddarach yr wythnos hon. A yw'n rhoi cyfle arall inni ddweud ein bod nawr yn atal ein cytundeb? A wnewch chi ysgrifennu at y Gweinidog amaeth yn Llywodraeth y DU a dweud ein bod yn rhoi ein caniatâd ar yr amod y bydd y cymalau hyn yn aros i mewn, neu beth yw'r sefyllfa? Oherwydd, fel y mae eraill wedi dweud, mae gwir angen ein Bil amaethyddiaeth ein hunain arnom ni os nad ydym eisiau i'n ffermwyr a'n cyhoedd fod ar eu colled o ran y mater pwysig iawn o safonau bwyd.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:38, 29 Medi 2020

Dwi yn meddwl bod y Bil yma'n amlygu popeth sy'n anghywir ynglŷn â'r broses o gydsynio deddfwriaethol a'r setliad cyfansoddiadol, fel y mae ar hyn o bryd. Rŷn ni'n ystyried yr LCM, fel rŷn ni wedi clywed, ar Fil sydd dal yn cael ei newid. Dŷn ni wedi cael pedwar LCM gan y Llywodraeth, gan gynnwys y trydydd dydd Gwener diwethaf a'r diweddaraf bore ddoe. Mae yna welliannau wedi cael eu derbyn, fel rŷn ni wedi clywed, y bydd Aelodau yn eu cefnogi, ac y bydd yn sicr o gael eu tynnu allan pan fydd y Bil yn mynd nôl i San Steffan. Ac felly mi fydd yr Aelodau hynny, yn amlwg, fel rŷn ni wedi clywed, am newid eu meddyliau.

Felly, er bod cymaint yn anghywir yn y Bil yma, mae rhywun yn teimlo bod ein dwylo ni wedi'u clymu, oherwydd, wrth gwrs, heb gydsynio i'r Bil yma ddigwydd, fydd gan Weinidogion Cymru ddim y pwerau i gefnogi'n uniongyrchol ffermwyr Cymru drwy gymorthdaliadau. Felly, pa fath o ddewis yw hwnna? Naill ai mae gennym ni'r dewis o gydsynio i ddeddfwriaeth sydd, yn fy marn i, â rhannau ohoni yn gwneud niwed i'r sector ond o leiaf yn amddiffyn ein hawl ni i roi cymorthdaliadau, neu, wrth gwrs, i wrthod cydsyniad yn y gobaith y gallwn ni amddiffyn y sector rhag rhai o'r bygythiadau dwi'n eu gweld yn y Bil, ond, drwy wneud hynny, golli'r hawl i gefnogi'r sector drwy gymorthdaliadau. Felly, dyw e'n fawr o ddewis, mewn gwirionedd. A'r eironi pennaf yn hyn, wrth gwrs, yw—a does neb wedi ei ddweud e eto, dwi ddim yn meddwl—y gwir yw, beth bynnag wnawn ni benderfynu, mi fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd hefyd yn gweithredu, yn y cyd-destun yma, fel Llywodraeth Lloegr, wrth gwrs, yn gwneud beth fynnon nhw beth bynnag. Dyna'r gwir amdani.

Ond o ran rhai o'r manylion penodol, dwi wrth gwrs yn croesawu'r cymal machlud rŷn ni wedi clywed amdano fe; mae'n rhywbeth dŷn ni wedi galw amdano fe er mwyn sicrhau y bydd yna Fil amaeth i Gymru a bod y Gweinidogion ddim jest yn parhau i ddefnyddio'r pwerau ychwanegol maen nhw wedi eu cael am byth, o bosib. Dwi'n falch hefyd fod trefniadau'n cael eu rhoi yn eu lle er mwyn sicrhau rhannu tecach ar y levy cig coch, a dwi'n falch hefyd fod y dryswch o'r posibilrwydd y byddai AHDB yn ymwneud â materion y mae Hybu Cig Cymru ac EIDCymru eisoes yn gyfrifol amdanyn nhw yn cael ei dacluso, a bod hynny'n ddibynnol, wrth gwrs, ar yr angen am ganiatâd Gweinidogion Cymru.

Ond yn ei hanfod, dyna un o'r gwendidau mawr dwi'n gweld fan hyn, sef, wrth gwrs, methiant y Bil yma i roi yn eu lle drefniadau rhynglywodraethol clir a chadarn, nid dim ond o ran polisi a sicrhau bod yna fframwaith cyhyrog yn ei le sy'n hwyluso marchnad fewnol y Deyrnas Unedig ar un llaw, tra, wrth gwrs, yn caniatáu dargyfeirio polisi ar draws y Seneddau datganoledig, ond hefyd y trefniadau ynglŷn â sut mae adnoddau ariannol yn cael eu rhannu yn deg ymhlith Llywodraethau'r Deyrnas Unedig—sut y gallwn ni sicrhau bod pob gweinyddiaeth ddatganoledig yn cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol, yn ogystal, wrth gwrs, â sicrhau trefniadau i ddatrys anghydfod. A dwi'n ofni bod y trefniant sydd wedi cael ei roi yn ei le, neu'r cytundeb anffurfiol yma, efallai, rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru yn gwbl annigonol. Dwi ddim yn gweld Llywodraeth Cymru yn bartner cydradd fel y dylai fod yn y trafodaethau hynny, oherwydd mi fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ar ddiwedd y dydd, yn medru gwneud fel y mynnan nhw, beth bynnag y byddwn ni yn ei ddweud.

Mae yna lawer sydd ddim yn y Bil y byddwn i'n hoffi ei weld yn y Bil; mae yna lawer sydd yn y Bil y byddwn i'n awyddus i'w newid, ond, wrth gwrs, dŷn ni ddim yn cael y cyfle i wneud hynny. Ac ar ddiwedd y dydd, y peth pwysig yw ein bod ni'n cael y grymoedd er mwyn sicrhau bod Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i barhau i gefnogi yn uniongyrchol y sector amaeth yng Nghymru. Ond mae'n rhaid i fi ddweud, dwi erioed wedi teimlo mor ddigalon yn pleidleisio o blaid cynnig yn y Senedd yma o'r blaen.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Cadeirydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn ystod y ddadl hon. Credaf imi ddweud yn fy sylwadau agoriadol na fyddem, yn sicr, pe baem ni wedi bod yn ei ddrafftio, wedi'i ddrafftio fel hyn, ond rwyf eisiau ailadrodd y pwynt y byddai'n well gennym fod wedi cyflwyno ein Bil amaethyddiaeth ein hunain, Bil pwrpasol, ar gyfer y sector amaethyddol yma yng Nghymru. Ac rwyf wedi ymrwymo i gyflwyno Papur Gwyn drafft cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Hyd yn oed gyda'r holl gyfnodau anodd ar hyn o bryd gyda pandemig COVID-19, gallaf sicrhau'r Aelodau bod y Papur Gwyn drafft ar y trywydd iawn i'w gyhoeddi cyn diwedd eleni.

Mae'r Bil hwn—wyddoch chi, nododd sawl Aelod ei fod wedi cymryd amser hir i ddod. Cawsom y Bil cyntaf ddwy flynedd yn ôl, ym mis Medi 2018, ac yn amlwg cwympodd hwnnw pan alwodd Llywodraeth y DU etholiad cyffredinol y llynedd. Felly, rwy'n credu ei bod yn iawn tynnu sylw at y ffaith bod cryn ailadrodd yma. Ond rwyf wedi gweithio'n agos iawn gyda'r Ysgrifennydd Gwladol, ac mae swyddogion wedi gweithio'n agos iawn hefyd.

Hoffwn ddiolch i ddau Gadeirydd y pwyllgor—Mike Hedges a Mick Antoniw—am eu sylwadau. Ac rwy'n credu bod edrych yn ôl yn beth gwych, ond dymunwn i ni allu dod o hyd i'r amser yn y rhaglen ddeddfwriaethol i gyflwyno ein Bil, fel y dywedais. Ond mae'n rhaid i ni edrych ar y Bil hwn, oherwydd bydd y darpariaethau sy'n ymwneud â Chymru yn ein galluogi i roi sefydlogrwydd a pharhad hanfodol i'r sector amaethyddol wrth i ni drosglwyddo o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n gyfnod hynod o annifyr i'r sector amaethyddol, ond bydd hwn yn darparu rhywfaint o'r sefydlogrwydd hwnnw.

Soniodd sawl Aelod am y llinellau coch pan fynychais y pwyllgor, a byddwch yn ymwybodol bod Sefydliad Masnach y Byd yn sicr yn un maes a oedd yn llinell goch glir iawn i mi, oherwydd roeddem wedi egluro'n glir iawn i Lywodraeth y DU nad oeddem yn derbyn bod cymal Sefydliad Masnach y Byd wedi'i gadw'n gyfan gwbl. Ond erbyn hyn mae gennym y cytundeb dwyochrog hwn rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac mae hynny'n cael ei lywio gan yr egwyddorion a nodir yn y cytundeb rhynglywodraethol, felly mae'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig a cheisio bwrw ymlaen drwy gytundeb cyn cyflwyno unrhyw reoliadau. Felly, roeddwn eisiau gwneud y pwynt hwnnw eto, Cadeirydd, i dawelu meddwl yr Aelodau.

Fel y dywedodd Llyr Huws Gruffydd, rydym yn sicr wedi ystyried yr argymhellion. Cafwyd llawer o sylwadau defnyddiol gan bwyllgorau, ac mae'r cymal machlud yn enghraifft dda, ac mae hynny wedi'i gyflwyno ar fy nghais.

Janet Finch-Saunders, rwyf bob amser wedi bod yn eiriolwr dros gynnyrch o Gymru a sector amaethyddol Cymru ers i mi fod yn y portffolio hwn. Mae'n rhan o gyfansoddiad ein sector amaethyddol gwych. Rwy'n credu bod mwy y gallwn ei wneud o ran caffael, fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef hynny, a byddaf yn sicr yn bwrw ymlaen â hynny. Ac, unwaith eto, ynghylch tenantiaeth, rydych chi'n llygad eich lle—tenantiaid yw nifer sylweddol o'n ffermwyr yng Nghymru, ac mae'n bwysig iawn inni gael ein hymgynghoriad ar hynny ac, yn amlwg, hefyd, pan fyddwn yn cyflwyno ein Bil, rwyf eisiau gwneud mwy i gefnogi'r ffermwyr tenant sydd gennym.

Roeddwn hefyd eisiau dweud, am y broses Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, nid wyf yn anghytuno nad yw'n broses anodd. Mae'n ofynnol i ni osod Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Senedd fel arfer ddim hwyrach na phythefnos ar ôl i welliannau gael eu cyflwyno neu eu cytuno, ond, oherwydd cyfnod datblygedig y Bil ac, felly, y diffyg amser sydd ar gael ar gyfer craffu arferol gan y Senedd, fe ysgrifennais at bwyllgorau ac Aelodau'r Senedd i amlinellu'r gwelliannau sydd wedi'u gwneud. Yn olaf, Cadeirydd, hoffwn dawelu meddwl yr Aelodau, os yw'r Bil yn edrych yn wahanol iawn, y byddaf, wrth gwrs, yn dod yn ôl i'r Senedd allu craffu'n fanylach arno.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:47, 29 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:47, 29 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Bydd toriad byr nawr i ganiatáu ar gyfer newid drosodd yn y Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:47.

Ailymgynullodd y Senedd am 17:52, gyda'r Llywydd yn y Gadair.