– Senedd Cymru am 3:37 pm ar 21 Hydref 2020.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni, felly, yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod. Bil calonnau Cymru yw hwnnw, ac mae'r cynnig i'w wneud gan Alun Davies.
Cynnig NDM7427 Alun Davies, Rhun ap Iorwerth, Dai Lloyd, Andrew R.T. Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil calonnau Cymru i wella'r canlyniadau i bobl sy'n dioddef ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai gosod dyletswydd ar:
a) Gweinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth i wella canlyniadau ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty a datblygu llwybrau goroesi ar gyfer y wlad gyfan;
b) awdurdodau lleol i gynllunio i sicrhau mynediad digonol i ddiffibrilwyr cymunedol ym mhob rhan o'u hardal;
c) Gweinidogion Cymru i sicrhau bod hyfforddiant mewn CPR yn cael ei ddarparu i bobl ledled Cymru;
d) byrddau iechyd i gydweithio i baratoi llwybr goroesi rhanbarthol ar gyfer ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty; ac
e) Gweinidogion Cymru i gyflwyno adroddiad i'r Senedd ar gynnydd eu strategaeth yn erbyn amcanion bob blwyddyn.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy ddiolch i Dai Lloyd, Rhun ap Iorwerth ac Andrew R.T. Davies am eu cefnogaeth wrth gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol hwn. Ond Lywydd, hoffwn ddechrau hefyd drwy ddiolch i Thoma a Mike Powell, a achubodd fy mywyd drwy roi triniaeth adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) i mi; Tom, a feiciodd fel y gwynt i ddod o hyd i ddiffibriliwr; i'r holl bobl nad wyf yn gwybod eu henwau a helpodd pan oedd angen seibiant ar Thoma; i'r parafeddygon; wedyn, i Sean Gallagher a'i dîm gofal y galon yn ysbyty'r Mynydd Bychan. Wrth ddiolch i'r holl bobl hyn, rydym hefyd yn adrodd stori am ataliad y galon a'r bobl y mae angen iddynt allu achub bywydau.
Nawr, fi fyddai'r cyntaf i dderbyn nad wyf yn athletwr naturiol. Ond pan benderfynais fynd allan i redeg un noson yn y gwanwyn, nid oedd gennyf reswm dros gredu y gallai fod y peth olaf y byddwn i byth yn ei wneud. Nid oeddwn wedi profi unrhyw boen nac anghysur ar unrhyw adeg yn y dyddiau cyn i hyn ddigwydd. Nid oeddwn yn teimlo'n sâl ac nid oedd gennyf unrhyw broblemu isorweddol a wnâi i mi gredu fy mod mewn perygl arbennig. Roedd yn gwbl annisgwyl. Roedd toriadau ar fy wyneb oherwydd ei fod wedi digwydd mor sydyn. Ni lwyddais i dorri fy nghwymp hyd yn oed. Pan fydd hyn yn digwydd, mae angen help ar unwaith ar yr unigolyn: adfywio cardio-pwlmonaidd ar unwaith a defnydd o diffibriliwr. Ond gwyddom y gall y ddau beth fod yn frawychus i wylwyr. Roeddwn yn anymwybodol cyn i mi gael unrhyw ddealltwriaeth o'r hyn oedd yn digwydd i mi. Nid oes amser i alw am help.
Ysgrifennodd Tom e-bost ataf, a oedd yn esbonio'r hyn a ddigwyddodd. Gadewch i mi ei ddweud yn ei eiriau ef: 'Pan gyrhaeddais y fan, roeddent eisoes yn rhoi CPR i chi. Roedd pawb ar bigau'r drain ond yn drefnus. Er mwyn gwneud defnydd ohonof fy hun cynigiais gyfeirio'r ambiwlans i mewn. Dywedodd rhywun a oedd yn cerdded eu ci wrthyf na allent ddod o hyd i'r diffibriliwr yn ôl cyfarwyddyd y sawl a atebodd yr alwad 999. Roeddwn i'n gwybod bod lleoli'r diffibriliwr yn hollbwysig, felly ceisiais feddwl sut i ddod o hyd i un. Cefais un gan wraig garedig iawn wrth y ddesg ddiogelwch yn y coleg heb holi fawr o gwestiynau. Rhuthrais yn ôl wedi i mi ei gael. Roedd yr adrenalin yn llifo ac roeddwn yn rhy ofnus i'w wneud fy hun, ond roedd eich ffrind yn gwybod beth i'w wneud. Mae'n amlwg ei bod wedi cael hyfforddiant.' A'r hyfforddiant hwnnw, Lywydd, a achubodd fy mywyd ac sy'n fy ngalluogi i wneud yr araith hon heddiw.
Rwy'n cydnabod ac yn deall bod gan Gymru strategaeth atal y galon y tu allan i'r ysbyty, a lansiwyd yn ôl yn 2017, a deallaf ei bod yn darparu rhaglen waith gydweithredol ar gyfer gwella cyfraddau goroesi ac ôl-ofal. Mewn sawl ffordd, mae'r strategaeth hon yn cyffwrdd â'r prif faterion rwyf am fynd i'r afael â hwy y prynhawn yma. Rwy'n gwneud y cynnig deddfwriaethol hwn heddiw am nad wyf yn credu bod y cynllun wedi cael y cyrhaeddiad na'r effaith yr hoffai pawb ohonom eu gweld.
Yn ei hanfod, mae dwy brif elfen i'r cynnig hwn. Yn gyntaf oll, sicrhau ein bod yn cael cyfle i achub bywyd pan fydd rhywun yn dioddef ataliad y galon, ac yn ail, eu bod yn cael y gofal sydd ei angen arnynt i fyw bywyd normal wedyn. Rwy'n cydnabod bod Sefydliad Prydeinig y Galon, a llawer o Aelodau, wedi bod yn ymgyrchu ers rhai blynyddoedd o blaid darparu hyfforddiant CPR mewn ysgolion a cholegau. Rwy'n cytuno. Yn y cynnig hwn, rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod hyfforddiant o'r fath yn digwydd. Mae'r Llywodraeth wedi gwrthwynebu hyfforddiant ffurfiol mewn amgylchedd ysgol. Felly, mae gan y Llywodraeth gyfrifoldeb i amlinellu beth y mae am ei wneud yn lle hynny.
Mae lleoliad diffibrilwyr cymunedol hefyd yn hanfodol. Oni ellir dod o hyd i ddiffibriliwr a'i ddefnyddio o fewn munudau, bydd yn rhy hwyr. Roeddwn i'n lwcus iawn, ond rwy'n ymwybodol fod dyn ifanc wedi cael ataliad y galon ychydig flynyddoedd yn ôl yn agos at y fan lle cefais i un. Bryd hynny, ni ddaethpwyd o hyd i ddiffibriliwr, a bu farw'r dyn ifanc hwnnw. Fe'm hatgoffir hefyd o'r ymgyrch sy'n cael ei harwain gan deulu Justin Edinburgh, cyn reolwr clwb pêl-droed Casnewydd a fu farw ar ôl cael ataliad y galon mewn campfa lle nad oedd diffibriliwr ar gael. Ni allaf weld ffordd ymlaen oni bai ein bod yn ei gwneud yn ddyletswydd uniongyrchol ar lywodraeth leol i sicrhau bod y pethau hyn sy'n achub bywydau ar gael drwy bob un o'n gwahanol gymunedau.
Ail agwedd y cynnig hwn yw sicrhau bod byrddau iechyd yn cydweithio ac yn cydweithredu i greu llwybrau goroesi. Mae hyn yn golygu bod clinigwyr a rheolwyr y GIG yn cydweithio ar draws ffiniau byrddau iechyd nid yn unig i ddatblygu a darparu'r diagnosis a'r gofal gorau, ond i sicrhau'r canlyniad gorau i gleifion. Rwy'n ofni weithiau nad yw ein byrddau iechyd yn gweithio gyda'i gilydd cystal ag y dylent o bosibl. Nid oes diben cystadlu, na dyblygu adnoddau. Hoffwn weld yr uchelgeisiau a geiriau'r strategaeth bresennol yn dod yn realiti. A dyna pam fy mod am weld hyn ar y llyfr statud. Mae llawer i'w ddysgu o'r enghraifft hon, a llawer i'w ddysgu o leoedd eraill a gwledydd eraill.
Unwaith eto, yng ngeiriau Tom: 'Mae'n rhaid bod eich brest wedi teimlo'n gleisiog ac yn boenus. Gweithiodd nifer o aelodau o'r cyhoedd yn galed arnoch. Roedd yn stwff dramatig. Ar ôl ei weld yn cael ei wneud, os bydd byth yn digwydd eto, rwy'n teimlo'n hyderus y gallwn reoli'r sefyllfa.' Rwyf am weld yr hyder hwnnw a'r gred honno'n dod yn gyffredin yng Nghymru. Ym mis Ebrill, deuthum yn un o ddim ond 3 y cant o bobl sydd wedi goroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. Rwy'n teimlo'n gryf fod gan bob un ohonom gyfrifoldeb mawr yn awr i bawb na wnaeth oroesi i sicrhau y gallwn i gyd, yn y dyfodol, gael yr un cyfle i oroesi a byw. Diolch yn fawr iawn.
Alun, rwy'n falch iawn eich bod wedi dod â hyn i'r Siambr heddiw. Nid oes dim yn fwy pwerus na thystiolaeth bersonol, profiad personol sydd wedi eich ysbrydoli i geisio newid rhywbeth y mae gwir angen ei newid. Yn anffodus, fel y dywedoch chi, nid yw 97 y cant o'r bobl sy'n dioddef ataliad y galon yma i rannu tystiolaeth yn y ffordd rydych chi wedi gallu ei wneud.
Credaf fod eich galwad am strategaeth a llwybr wedi'i gwneud yn dda iawn. Yn bersonol, hoffwn ei weld ochr yn ochr â chynllun cyflawni newydd penodol ar gyflyrau'r galon. Nid yw cardioleg yn rhywbeth y gellir ei dorri a'i gau gyda chynlluniau cyflawni eraill, ac eto dylai'r hyn rydych yn sôn amdano fod yn rhan o hyn yn sicr, oherwydd nid yw ataliad y galon yr un fath â methiant y galon neu drawiad ar y galon. Gallwch fod mor heini â wiwer, fel y darganfuoch chi, a gallwch ddal i'w gael. Ni allwch baratoi ar ei gyfer, a dyna pam rwy'n mynd i gefnogi'r cynigion hyn.
Ond wrth wneud hynny, Alun, gobeithio na fydd ots gennych ganiatáu imi eich atgoffa i gyd fy mod wedi cyflwyno cynigion deddfwriaethol tebyg iawn ar ddechrau'r broses pan oeddech yn gallu gwneud hynny. Ac un o elfennau'r cynigion hynny—oherwydd roedd llawer a oedd yn debyg i'r hyn y gofynnwch amdano heddiw—oedd y dylai sgiliau achub bywyd sylfaenol fod yn orfodol yn y cwricwlwm. Ar y pryd, roedd y Cynulliad o blaid hynny, a dyna pam rwy'n falch eich bod wedi nodi yn y ddadl heddiw yr angen i Lywodraeth Cymru egluro beth fyddai'n ei wneud yn lle hynny—rhywbeth a fyddai'n cyflawni'r un canlyniadau yr un mor effeithlon a chost-effeithiol. I fod yn onest, nid wyf yn siŵr a fyddai unrhyw beth mor effeithlon ac effeithiol i oresgyn problem gwylwyr a CPR, gan fod dwy awr o hyfforddiant bob blwyddyn mewn ysgolion yn amser byr iawn i'w dreulio arno. Ni chredaf fod dwy awr yn gorlenwi'r cwricwlwm. A'r hyn y mae'n ei wneud, wrth gwrs, yw cyflwyno neu greu'r gallu i gamu i mewn, yn union fel y bobl a gamodd i mewn i'ch achub chi. Ac nid wyf yn credu y bydd i hyfforddiant fod ar gael yn gyffredinol yn creu hynny'n llwyr.
Mae'r Aelodau o'r Senedd Ieuenctid yn deall hynny a dyna pam mai dyna yw eu prif ofyniad o ran y cwricwlwm—cyflawni addewid i roi sgiliau i bobl ifanc ar gyfer bywyd fel oedolion. Ac mae'n debyg mai'r cwestiwn sy'n deillio o hynny yw: pam y dylai cyflawni eu prif ofyniad fod yn loteri cod post fwy neu lai, lle mae'r Alban a Lloegr yn sicrhau bod eu plant yn gwybod sut i gamu i mewn ac achub bywyd? Mae Denmarc yn enghraifft dda o hyn—mae hyfforddiant gorfodol yn y cwricwlwm yn rhan o'r rheswm pam y maent mor dda am wneud hyn a pham y mae eu cyfraddau goroesi mor uchel.
Ond rwyf am orffen, os nad oes ots gennych, Lywydd, drwy ganmol ein holl gymunedau a roddodd eu harian lle mae eu calon. Fe fyddwch yn gwybod beth rwy'n ei olygu, Alun: mae cannoedd a'r gannoedd o bobl yn ein cymunedau wedi bod yn codi arian i roi diffibrilwyr mewn mannau lle gall y gymuned elwa arnynt. Ni fyddwn am i unrhyw gynigion deddfwriaethol leihau dim ar y cyfalaf cymdeithasol, ac rwy'n siŵr nad dyna yw eich bwriad. Gadewch i'n hetholwyr fod yn chwaraewyr gweithgar yn datrys problem, ac rwy'n siŵr y bydd unrhyw un sy'n gwylio heddiw yn fwy na pharod i gefnogi eich cynigion deddfwriaethol. Diolch. O, dim ond tair munud oedd gennyf.
Na, mae hynny'n iawn. Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n falch iawn o fod yn cefnogi'r cynnig deddfwriaethol yma heddiw. Mi glywsom ni Alun Davies yn dweud ei fod o'n ystyried ei hun yn ffodus iawn i fod yma. Dim ond 3 y cant sy'n cael ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty sydd yn goroesi, ac mae ymchwil yn dangos bod CPR ddim ond yn cael ei drio mewn rhyw 20 i 30 y cant o achosion. Felly, yn gyffredinol, mae yna waith i'w wneud i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle gorau i oroesi. Mae angen inni edrych ar pam fod pobl ddim yn fodlon mentro i roi CPR—efallai fod pobl ddim yn gwybod sut i'w wneud neu fod pobl yn ofn brifo rhywun, neu hyd yn oed fod pobl yn ofn trosglwyddo clefydau yn yr hinsawdd sydd ohoni.
Mae CPR a dysgu CPR, felly, mor, mor bwysig. Dwi wedi derbyn hyfforddiant fy hun, fel y mae llawer o Aelodau'r Senedd yma. Dwi wedi caniatáu defnyddio fy swyddfa etholaethol i ar gyfer cynnal dosbarthiadau CPR, ac mae eisiau ymestyn hyn allan i gymaint o bobl â phosib. Mae Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai CPR gael ei ddysgu mewn ysgolion, ond dydy o ddim yn orfodol, fel mae o yn Lloegr a'r Alban. Mae eisiau newid hynny.
Ond hefyd, wrth gwrs, nid dim ond mewn ysgolion y mae angen cynnig yr hyfforddiant. Mae yna gynlluniau gan Sefydliad Prydeinig y Galon, gan Ambiwlans Sant Ioan, y Groes Goch Brydeinig ac yn y blaen. Mae eisiau ymestyn y rheini, ac mae'n rhaid cael strategaethau wedyn, onid oes, i wneud yn siŵr bod hynny yn digwydd a bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan mewn hyfforddiant o'r fath?
Elfen arall wedyn, wrth gwrs, ydy'r angen am fynediad digonol i ddiffibrilwyr. Mae yna waith gwych yn cael ei wneud gan ymgyrchoedd llawr gwlad, yn fy etholaeth i fel etholaethau llawer o Aelodau eraill yma, i sicrhau bod yna fwy o'r peirannau yma yn ein hetholaethau ni. Un peth ydy cael y peirannau, ond mae eisiau i bobl allu eu defnyddio nhw hefyd. Ond dwi yn arbennig o falch o allu tynnu sylw at y cymal yn y cynnig deddfwriaethol yma sy'n gofyn am sicrhau mynediad digonol i ddiffibrilwyr cymunedol ymhob rhan o Gymru. Allwn ni ddim dibynnu ar wirfoddolwyr brwd mewn rhai ardaloedd sydd am sicrhau bod eu pentref nhw neu eu rhan nhw o'r dref neu'r ddinas yn cael un—mae'n rhaid i hyn fod yn rhan o strategaeth genedlaethol.
Felly, oes, mae yna gynigion wedi cael eu gwneud o'r blaen, ac oes, mewn ffordd, mae yna bethau a all gael eu gwneud heb ddeddfwriaeth i gyflwyno rhai o'r newidiadau yma, ond cefnogwch y bwriad yn y cynnig yma i ddefnyddio pob un arf posib, yn cynnwys arfau deddfwriaethol, fel bod mwy o bobl yn cael yr ail gyfle a gafodd Alun.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon a'r cynnig sylfaenol sy'n sail iddi. Alun, pan glywsom y newyddion am yr hyn a ddigwyddodd i chi, achosodd sioc enfawr ac roedd yn arbennig o ingol i mi ar y pryd oherwydd bum mlynedd a hanner yn gynharach, cafodd fy ngwraig ataliad y galon ac fe fu farw. Roedd hi ar ei phen ei hun ar y pryd; rhoddais CPR am yr hyn a ymddangosai fel oes, ond credaf mai'r pwynt yw faint o deuluoedd y mae'n effeithio arnynt mewn gwirionedd a'r nifer wirioneddol o ataliadau'r galon sy'n digwydd.
I mi, un o'r materion na soniwyd amdano efallai ond a allai fod yn rhan o'r ddadl mewn gwirionedd yw'r angen, rwy'n credu, i sganio'n fwy rhagweithiol i nodi rhai o achosion ataliad y galon a sut y mae'n digwydd. Pan edrychwch yn ôl ar y sefyllfaoedd hyn, rydych yn meddwl tybed faint o fywydau y gellid bod wedi'u hachub pe bai hynny wedi digwydd.
Yn Nhonyrefail, mae grŵp gwych wedi cael ei arwain gan PC Steve Davies, ac yn Nhonyrefail bellach mae gennym y gyfradd uchaf o ddiffibrilwyr: mae ymhell dros 30 o ddiffibrilwyr o amgylch Tonyrefail ac mae sawl bywyd wedi'i achub gan y rheini eisoes. Ac mae'r grŵp hwnnw hefyd wedi darparu hyfforddiant a chymorth, gyda Sefydliad Prydeinig y Galon, mewn ysgolion ac yn y blaen, felly mae hyfforddiant yn bwysig iawn.
Un peth sy'n cael sylw, serch hynny, a allai fod yn rhan o hyn eto mewn perthynas â diffibrilwyr yw bod cymunedau'n dod at ei gilydd, maent yn codi cryn dipyn o arian i ddarparu'r diffibrilwyr—mae hyn yn ymwneud â chymunedau'n gweithio ar ran ei gilydd gyda'i gilydd, ond mae angen rhywfaint o gefnogaeth i hynny, pan fydd y diffibrilwyr yno, gan fod angen newid y batris o bryd i'w gilydd a gallai fod rhywfaint o waith cynnal a chadw ac yn y blaen. Ac rwy'n meddwl pan fyddwch wedi mynd i'r drafferth o roi'r diffibrilwyr hynny yn eu lle, rwy'n credu bod angen rhyw fath o gymorth i'w gwneud hi'n bosibl cynnal a chadw'r asedau hynny fel y maent. Felly, dyna fyddai un o'r pwyntiau allweddol yr hoffwn eu gweld yn cael eu datblygu a'u trafod.
Felly, diolch i Alun Davies am gyflwyno hyn—credaf fod llawer o deuluoedd o gwmpas wedi profi hyn yn ôl pob tebyg, ac fel y dywedwyd, nid yw'r rhan fwyaf sy'n profi ataliad y galon yn goroesi. Drwy gael y ddadl hon, ac o bosibl drwy ddefnyddio'r offer a deddfwriaeth efallai, gobeithio y gallwn leihau'r gyfradd fethiant honno yn y dyfodol. Diolch.
Nod y cynnig yma, fel rydyn ni wedi clywed, ar gyfer Bil calonnau Cymru ydy gwella'r canlyniadau i bobl sy'n dioddef ataliadau ar y galon y tu allan i'r ysbyty, ac rydw i'n cefnogi'r cynnig yn frwd. Ac mae'r pwyslais ar y tu allan i'r ysbyty: pan fydd rhywun yn syrthio'n ddiymadferth i'r llawr yn anymwybodol, ar ganol y stryd, mewn siop neu allan yn loncian a dim ond chi sydd yna, a fuasech chi'n gwybod beth i'w wneud?
A allaf i yn y lle cyntaf longyfarch Alun Davies—wnes i ei longyfarch o ddoe hefyd; mae hyn yn mynd yn habit nawr—ond a allaf i ei longyfarch o heddiw yn benodol am weithio mor ddygn a chaled y tu ôl i'r llenni i ddod â'r cynnig yma gerbron, a hefyd ei longyfarch o ar y ffaith ei fod o wedi goroesi'r ataliad ar ei galon ei hun, achos pur anghyffredin, fel rydyn ni wedi clywed, ydy hynna? Mae o'n wyrthiol. Rydyn ni wedi clywed ei gyfraniad huawdl o eisoes, a diolch am hynny; profiad gwerthfawr.
Nawr, rydyn ni gyd yn gwybod am arbenigedd ein meddygon, llawfeddygon, nyrsys arbenigol ac ati yn ein hysbytai mawrion sy'n ymdrin efo clefyd y galon, llawdriniaethau arbenigol ar y galon, yn arloesi bob dydd o'r wythnos, ond pwyslais y cynnig hwn ydy triniaeth ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty a'r feddygfa, lle nad oes meddyg neu nyrs ar gael. Mae'n bwysig, fel rydyn ni wedi clywed, i gael yr hyder yn y lle cyntaf i ymyrryd, ac ar ben hynny y gallu i weithredu yn yr argyfwng yma. Mae profiad Denmarc yn dangos, os ydy pawb yn dysgu CPR yn yr ysgol, gellid arbed rhyw 200 o fywydau bob blwyddyn.
Nawr, o ddarganfod rhywun yn anymwybodol yn y stryd, rhaid sicrhau, wrth gwrs, taw ataliad ar y galon sydd wedi digwydd, a sicrhau bod anadl, chwilio am y pwls, a gwneud yn siŵr eich bod chi'n ddiogel, os taw chi sydd yn ymyrryd. Wedyn gweithredu CPR yn ddisymwth—dwy law ar y frest yn gadarn ac yn galed ac yn gyflym i gyfeiliant un ai 'Nellie the Elephant' neu 'Staying Alive' yn eich pen—ac anfon rhywun i ôl diffibriliwr a ffonio 999 i gael ambiwlans brys. Achos mae'r bobl yma wedi marw. Mae pobl yn poeni am wneud niwed, ond mae'r bobl yma wedi marw. Roedd Alun wedi marw. Allwch chi ddim gwneud y sefyllfa yn waeth. Tri y cant sydd yn goroesi. Mewn rhai achosion, mae 8 y cant yn goroesi. Tri y cant o bobl oedd wedi marw nawr yn fyw, ac mae Alun yn un o'r rheina. Dyna pam mai gwyrth yw e, ac mae eisiau pob clod i hynny. Ond, wrth gwrs, mae mwy o bobl yn goroesi mewn gwledydd lle mae yna fwy o hyfforddiant yn rhoi mwy o hyder i bobl i ymyrryd yn y lle cyntaf. Gyda'r hyder hynny, mi all mwy o bobl weithredu. Bydd pobl yn gwybod beth i'w wneud, bydd pobl yn peidio â mynd i banig, ac wrth wneud cymorth cyntaf a CPR, byddan nhw'n gwybod beth i'w wneud yn reddfol. Dyna pam y dylai fod yn orfodol yn yr ysgolion.
Ac i orffen, felly, mae'n rhaid gwella argaeledd defibrillators cymunedol. Rhaid iddyn nhw fod yn amlwg; rydyn ni'n gwybod eu bod nhw yna. Mae pobl wedi bod yn casglu arian—rydyn ni'n gwybod eu bod nhw yna. Mae eisiau rhagor ohonyn nhw. Mae'n rhaid iddyn nhw gael eu cofrestru, fel y dywedodd Mick Antoniw. Mae'n rhaid i rywun edrych ar eu holau nhw, achos does dim pwynt cael un sydd ddim yn gweithio. Rhaid inni wybod lle maen nhw, ac mae hefyd angen y gofrestr, ac mae'n rhaid iddyn nhw dderbyn cynnal a chadw cyson.
Mae pob munud yn cyfri yn y math o argyfwng y gwnaeth Alun Davies ei ddioddef. Dyna pam mae'n rhaid inni gael pobl sy'n fodlon ymyrryd, a'r defibrillators a'r ambiwlansys. Mae Alun wedi crisialu hynny'n berffaith yn ei gyfraniad ac yn ei hanes ysbrydoledig. Mae'n ofynnol i ni gyd chwarae ein rhan—cefnogwch y cynnig.
Galwaf ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Hoffwn ddechrau drwy ddweud 'diolch' wrth yr holl Aelodau a gyfrannodd at y ddadl, ond yn enwedig i Alun Davies a Mick Antoniw am rannu eu profiad personol. Yn yr un modd â'r wythnos diwethaf a'r ddadl ar endometriosis, credaf ei fod yn bwerus—nid yn unig i Aelodau eraill, ond i'r cyhoedd sy'n gwylio—pan fo Aelodau'n rhannu eu profiad eu hunain o'r materion sy'n cael eu trafod. Gwnaeth Suzy Davies hynny'n effeithiol iawn yr wythnos diwethaf, ac eto heddiw gydag Alun Davies a Mick Antoniw. Ac ar bwynt penodol Mick am waith cynnal a chadw—mae hynny'n cael ei gynnwys yn y gwaith rwy'n mynd i'w ddisgrifio'n fanylach, oherwydd mae'n iawn, mae'n ymwneud â mwy na chael rhagor o ddiffibrilwyr, mae'n ymwneud â sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a'u cadw'n briodol yn ogystal â'u bod yn gwbl hygyrch. Ac rwy'n wirioneddol falch, wrth gwrs, fod Alun yn un o'r 3 y cant sy'n goroesi. Mae pob un ohonom, ni waeth ble rydym yn eistedd yn y Siambr rithwir hon, am weld mwy o oroeswyr yn y dyfodol. Yr unig gwestiwn go iawn yw sut.
Nawr, gobeithio y bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wedi ymrwymo i wella gobaith pobl o oroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. Felly, i gefnogi'r nod hwnnw, ym mis Mehefin 2017 lansiais gynllun ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty ar gyfer Cymru. Roedd hwnnw'n gynllun uchelgeisiol i weld y cyhoedd, y trydydd sector, y gwasanaethau brys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cydweithio i ymateb i bobl sy'n cael ataliad y galon yn y gymuned. Mae'n ffaith drist, fel yr amlinellodd Alun, fod gobaith claf o oroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yn gostwng tua 10 y cant gyda phob munud sy'n mynd heibio. Mae cyfraddau goroesi yn isel, ond mae potensial gwirioneddol i achub llawer mwy o fywydau, fel y dangoswyd yn nifer y gwledydd sy'n cymryd camau gweithredol i wella pob cam yn yr hyn a elwir yn 'gadwyn oroesi'.
Mae'n werth ystyried hefyd mai'r man cychwyn fyddai pe gallem osgoi ataliad y galon yn y lle cyntaf, drwy wella ein hiechyd cyhoeddus ehangach. Ni ddylem anghofio'r dadleuon a gawn yma am ymarfer corff, am ysmygu, am alcohol a chario pwysau iach. Roeddwn yn falch o glywed Suzy Davies yn sôn am Ddenmarc: mae'n rhan o'r byd lle mae gennyf deulu, ac mae rhan o'r her o ddeall pam y ceir canlyniadau gwahanol iawn yn Nenmarc yn ymwneud yn rhannol â'r ddarpariaeth y tu allan i'r ysbyty, ond maent yn dechrau mewn lle gwahanol iawn yn ddiwylliannol, ond maent hefyd yn dechrau mewn lle gwahanol iawn gyda chanlyniadau iechyd cyhoeddus llawer gwell hefyd. Ac felly ein her yw dysgu o bob rhan sut y maent yn goroesi ataliad y galon yn well mewn rhannau eraill o'r byd. Ond rydym yn cydnabod bod angen inni gymryd camau ar y cyd i wella cyfraddau goroesi yma. Mae gwella canlyniadau yn galw am ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys gwybod yn gynnar beth sy'n digwydd a galw am gymorth i geisio atal ataliad y galon rhag digwydd—disgrifiodd Alun sut roedd pobl yn gwybod beth oedd yn digwydd a bod rhywun wedi galw am gymorth—darparu CPR yn gynnar i brynu amser i'r claf, diffibrilio cynnar i ailddechrau'r galon, wedyn y gofal ôl-ddadebru gorau posibl, sydd i gyd yn chwarae rhan i roi gofal o'r ansawdd gorau i bobl—y canlyniad gorau a'r potensial gorau am fywyd o ansawdd da wedyn. Rwy'n cydnabod bod y cynnydd yn arafach i ddechrau nag y byddwn i a'r Aelodau wedi'i hoffi, a bod y coronafeirws wedi effeithio arno, ond rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol serch hynny. Mae'r cynnydd yn cynnwys gwella llwybrau o fewn gwasanaeth ambiwlans Cymru a byrddau iechyd i sicrhau, pan ddaw galwad 999, fod pobl yn cael y cymorth angenrheidiol a'r gefnogaeth i gynyddu'r gobaith o oroesi cyn i'r parafeddyg gyrraedd y fan a chyn cludo'r claf i ysbyty priodol i gael triniaeth benodol.
Bu cynnydd cyson yn nifer y diffibrilwyr sydd wedi'u mapio yn y system anfon ambiwlansys yng Nghymru. Ar y cyfrif diwethaf sydd ar gael i mi, mae gennym bellach 5,042 o ddiffibrilwyr wedi'u cofrestru ledled Cymru ar gael i'r cyhoedd, a chofrestr ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty wedi'i sefydlu i fapio'n well y data sy'n ymwneud ag ataliadau'r galon y tu allan i'r ysbyty ar draws y llwybr cyfan o'r ataliad i driniaeth a rhyddhau o'r ysbyty—a gwn weithiau nad yw edrych ar ddata bob amser mor ddiddorol â hynny, ond mae'n bwysig iawn ar gyfer gwella'r system gyfan—a datblygu canllawiau Cymru gyfan ar gyfer hyfforddiant CPR a diffibrilio.
Sefydlais bartneriaeth Achub Bywyd Cymru ym mis Ionawr y llynedd, wedi’i chefnogi gan £586,000 o gyllid Llywodraeth Cymru dros ddwy flynedd. Lansiwyd y fenter honno yn Stadiwm Dinas Caerdydd, unwaith eto, oherwydd cafwyd ymrwymiad gan bobl ledled y ddinas a phrofiad hefyd o golli pobl o ataliad y galon. Ond rydym yn gweithio i adeiladu ar yr ymdrechion a wnaed eisoes gan y sefydliadau partner a ddisgrifiais eisoes yn y trydydd sector, ambiwlans Cymru, byrddau iechyd ac eraill. Mae partneriaeth Achub Bywyd Cymru bellach yn cydweithio mewn nifer o ffyrdd i ddeall sut y mae sefydliadau unigol o fewn y bartneriaeth yn gweithio—rhan o'n her yw nad yw pob un o'n partneriaid yn y trydydd sector yn ymwybodol o'r hyn y mae’r lleill yn ei wneud; nid yw pob un o feysydd ein system gyfan yn ymwybodol iawn o ble y gellir darparu cymorth—a gweithio gyda sefydliadau ieuenctid, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, gwasanaethau cyhoeddus, prifysgolion a chyflogwyr i edrych ar gyfleoedd i gydweithio. Ddydd Gwener diwethaf, lansiodd y bartneriaeth ymgyrch newydd, Cyffwrdd â Bywyd. Mae honno’n gosod y sylfaen ar gyfer achub bywydau ledled Cymru. Fel rhan o'r ymgyrch, crëwyd fideo hyfforddi ar-lein am ddim—rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau wedi cael cyfle i edrych arno, ond os nad ydynt, gobeithio y byddant yn gwneud hynny ar ôl y ddadl hon ac yn ei rannu. Mae Achub Bywyd Cymru yn annog pawb i dreulio ychydig funudau'n gwylio'r fideo hyfforddi a dysgu sut i achub bywyd rhywun.
Felly, gyda'n gilydd, rydym yn benderfynol o wella canlyniadau pobl sy'n dioddef ataliad y galon. Mae gennym gynllun ar waith nad yw wedi dod i ben ei rawd eto, ac fel y nodais, mae cynnydd gwirioneddol ynddo. Felly, er bod gennyf lawer iawn o gydymdeimlad â'r cynnig ac am weld y gwelliannau'n cael eu gwneud, nid wyf yn credu ar hyn o bryd fod angen deddfu yn y maes hwn na gosod dyletswyddau statudol ychwanegol ar sefydliadau. Fodd bynnag, ni fydd y Llywodraeth yn diystyru deddfwriaeth yn y dyfodol na chamau deddfwriaethol yn y dyfodol os na welwn y gwelliannau rydym i gyd am eu gweld o ran achub bywydau. Felly, bydd y Llywodraeth yn ymatal heddiw, yn hytrach na gwrthwynebu'r cynnig, a bydd gan bob aelod o’r meinciau cefn sy’n cefnogi’r Llywodraeth bleidlais rydd. Ac rwyf am ddweud fy mod yn credu bod hwn wedi bod yn ymarfer defnyddiol o ran sut rydym yn treulio ein hamser yn y Senedd yn trafod mater a mwy o ymwybyddiaeth. Edrychaf ymlaen at ganlyniad y bleidlais, ond yn bwysicach, at ganlyniad ein cynnydd fel gwlad yn achub mwy o fywydau.
Galwaf ar Andrew R.T. Davies i ymateb i'r ddadl. Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon a gyflwynwyd gan Alun heddiw? Roeddwn yn falch iawn o gyd-gyflwyno'r cynnig. Byddaf yn dod ag ychydig o ysgafnder, os gallaf, i fy sylwadau agoriadol. Pan ffoniodd Alun fi ynglŷn â'r ddadl hon yr oedd yn bwriadu ei chyflwyno a gofyn am fy nghefnogaeth fel un o'r Aelodau Ceidwadol, roeddwn yn sefyll ynghanol sied fuches eidion yn hel llwyth o wartheg o amgylch y sied, yn ceisio rhoi trefn arnynt. Os bydd unrhyw beth yn codi eich pwysedd gwaed, fel unrhyw un sy'n deall amaethyddiaeth, hel gwartheg sydd tua 600 neu 650kg o bwysau, a naw gwaith allan o 10, maent yn dod amdanoch—. Ac yna cewch alwad ffôn yn sydyn gydag Alun Davies yn ymddangos ar y sgrin, ac rydych chi'n dechrau meddwl nad yw hynny'n mynd i wneud unrhyw les o gwbl i'ch pwysedd gwaed, a dweud y gwir wrthych. Felly, rwy'n ddiolchgar, ond ni wnaeth ffonio ar yr amser gorau, ac efallai mai dyna pam roedd y sgwrs mor fyr, 'Iawn, Alun, fe'i gwnaf. Diolch yn fawr iawn.'
Ond yn y cyfamser, rwyf wedi dysgu llawer iawn am yr hyn y gallwn ei wneud fel deddfwrfa i geisio gwella canlyniadau i gleifion ac yn wir, i bobl sy'n mynd drwy'r union brofiad y tynnodd Alun Davies a Mick Antoniw sylw ato yn eu cyfraniadau heddiw. Yn anffodus, i Mick nid oedd y canlyniad cystal â chanlyniad Alun, a nododd y ddau a gymerodd ran yn y ddadl hon—Alun a Mick—mai dim ond 3 y cant o'r bobl sy'n cael profiad cardiaidd y tu allan i'r ysbyty sy'n goroesi hynny. Dyna 97 y cant o bobl nad ydynt yn goroesi'r profiad hwnnw. Dylai hynny, ynddo'i hun, ein hannog i gyd i ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud.
Er fy mod yn cytuno â'r Gweinidog fod llawer o waith da yn mynd rhagddo, yn enwedig rhai o'r rhaglenni sydd wedi'u cyflwyno—ac roedd y Gweinidog yn ddigon gonest i dynnu sylw at y ffordd nad oedd yn credu bod y cynllun a gyflwynwyd ganddo yn gynharach yn ystod tymor y Cynulliad hwn wedi symud mor gyflym ag y byddai wedi hoffi—lle mae pethau'n methu, fel y nodwyd yn sylwadau agoriadol Alun, mae'n bwysig ein bod yn ceisio troi at ddeddfwriaeth i geisio rhoi hawliau pwysig i bobl a fydd yn gwella'r profiad yn y pen draw, gobeithio, lle bynnag rydych yn byw yng Nghymru.
Amlygodd Rhun ap Iorwerth a Dai Lloyd a Suzy Davies yn eu cyfraniadau y meincnodau eraill y gallwn fesur ein hunain yn eu herbyn. Ac yn wir, cyfeiriodd y Gweinidog atynt hefyd. Pan edrychwch ar Ddenmarc, er enghraifft, a'r safon aur sy'n bodoli yn Nenmarc—. Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedodd y Gweinidog; mwy na thebyg fod gwahaniaethau diwylliannol yn arbennig wedi sbarduno rhai o'r dangosyddion perfformiad sy'n dangos pa welliant y gallwch ei wneud pan fyddwch yn ei gael yn rhan annatod o gymdeithas, sgiliau achub bywyd. Ond i mi, sylw Dai Lloyd—ac mae'n debyg fod hyn wedi'i seilio ar ei brofiad meddygol—eu bod, wyddoch chi, yn Nenmarc, yn achub 200 o fywydau'r flwyddyn a mwy drwy gael y profiad hwnnw o achub bywydau yn eu cymdeithas fel norm, nid yw hynny'n rhywbeth y dylem edrych arno'n ysgafn, a dweud y gwir yn onest.
Y pwynt a wnaeth yr holl Aelodau a gyfrannodd yn y ddadl hon oedd yr ysbryd cymunedol gwych, yn arbennig, o ran gosod diffibrilwyr. Credaf i'r Gweinidog dynnu sylw at y ffaith bod bron i 6,000—credaf mai dyna'r ffigur y cyfeiriodd ato—wedi'u gosod bellach ledled Cymru. Rwyf fi, yn ardal fy nghartref yn y Rhws wedi cael y fraint a'r pleser o weithio gyda grwpiau cymunedol a chyfrannu at osod tri diffribiliwr yn ystod y 18 mis diwethaf yn yr ardal honno. Ond yn anffodus, byddai llawer o unigolion anwybodus heb wybod yn union ble mae'r diffibrilwyr hynny. Mae ymwybyddiaeth ac ymgyrchu o'r fath i sicrhau bod y diffibrilwyr, pan gânt eu gosod, yn cael eu gwasanaethu'n rheolaidd, yn elfen hanfodol o sicrhau bod pobl yn deall bod y diffibrilwyr hynny'n bodoli yn y gymuned y maent yn byw ynddi ac y gellir eu defnyddio.
Gwnaeth pob cyfrannwr unigol y pwynt am ddysgu'r sgiliau i ddefnyddio'r offer, oherwydd nid oes diben eu gosod os nad yw pobl yn teimlo'n ddigon hyderus i ddefnyddio'r diffibrilwyr. Rhaid imi fod yn onest fy hun: mae'n debyg, hyd yn oed ar ôl—fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth—cynnal sesiynau yma yn y Cynulliad neu'n wir, yn ein swyddfeydd etholaethol neu ranbarthol, ni fyddwn o reidrwydd yn teimlo mor hyderus â hynny ynglŷn â defnyddio diffibriliwr. Ar ôl y ddadl hon heddiw, byddaf yn bendant yn gwneud yn siŵr fy mod yn gwella fy sgiliau yn hynny o beth, oherwydd pwy a ŵyr pryd y gallem fod yn cerdded yn y parc ac yn gweld yr hyn a ddigwyddodd i Alun Davies, er enghraifft, a gallu camu i mewn ac achub bywyd, gobeithio.
Rwy'n gobeithio y bydd aelodau meinciau cefn Llafur a holl aelodau'r pleidiau yma heddiw—boed yn Blaid Cymru, y Ceidwadwyr neu'r aelodau annibynnol—yn cytuno â'r cynnig sydd ar y papur trefn heddiw. Oherwydd mae'n sicr yn gynnig ar hyn o bryd. Deallaf bwynt y Gweinidog, pan ddywed y bydd y Llywodraeth yn ymatal. Ond rydym yn mynd i mewn i gyfnod etholiad, ac mae'n ddyletswydd ar Aelodau, os ydynt yn credu mewn gwella gwasanaethau cardiaidd ledled Cymru, eu bod yn rhoi pwysau ar eu pleidiau unigol i roi hyn yn eu maniffestos. Oherwydd cymryd y geiriau y mae pobl yn eu siarad yn y Siambr hon a'u gwireddu sy'n gwneud gwelliannau yn ein cymdeithas a'n cymunedau ledled Cymru.
Felly, rwy'n gobeithio y daw cefnogaeth o bob rhan o'r Siambr i gynnig Alun, a diolch iddo am y ffordd huawdl a gwybodus y cyflwynodd ei sylwadau agoriadol heddiw. Mae'n bleser ei weld ar y sgrin fel un o'r dim ond 3 y cant o unigolion—. Ac fe ailadroddaf fod—. Gallaf weld y Llywydd yn edrych arnaf gyda'r marciau coch—[Torri ar draws.] Ond gwnaf y pwynt hwn i'r holl Aelodau: dim ond 3 y cant o bobl sy'n goroesi profiad cardiaidd y tu allan i'r ysbyty. Mae hynny'n golygu nad yw 97 y cant yn goroesi. Dylai hynny, ynddo'i hun, wneud i bawb ohonom fod eisiau ymdrechu'n galetach i wneud y gwelliannau hynny, a thrwy bleidleisio dros y cynnig hwn y prynhawn yma, gallwn wneud y gwahaniaeth hwnnw. Diolch, Lywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad ac felly dwi'n gohirio'r bleidlais tan yr eitem yn y cyfnod pleidleisio.