– Senedd Cymru am 4:10 pm ar 21 Hydref 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar y ddeiseb 'Mynnu Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi'i halogi'n radiolegol yn nyfroedd Cymru'. Dwi'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i wneud y cynnig. Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd, ar ran y Pwyllgor Deisebau, am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon ar y ddeiseb yn galw am gynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol i'r bwriad i waredu gwaddodion o'r tu allan i Hinkley Point i Fôr Hafren. Nawr, casglodd y ddeiseb hon dros 10,000 o lofnodion, ac nid oes angen imi wneud yr Aelodau'n ymwybodol o'r pryder a fynegwyd yn gyhoeddus am y mater hwn. Nid yw'r pryder hwnnw'n newydd, wrth gwrs. Mae'r ddeiseb hon yn dilyn un flaenoro, a gafodd ei hystyried yn fanwl gan ein pwyllgor a chafwyd dadl yn ei chylch yn 2018.
Bydd y gwaddod y bwriedir ei waredu yn cael ei garthu fel rhan o'r gwaith o adeiladu gorsaf bŵer niwclear newydd Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf. Gan fod y safle gwaredu enwebedig, a elwir yn Cardiff Grounds, yn nyfroedd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n penderfynu ar y broses drwyddedu ar gyfer gwaredu. Mae hyn yn cynnwys penderfynu a oes angen asesiad o'r effaith amgylcheddol. Fodd bynnag, yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd EDF ei fod wedi gwneud penderfyniad ei hun i gynnal asesiad, gan achub y blaen ar y penderfyniad hwnnw. Nawr, rwyf am gydnabod y cam a gymerwyd gan EDF fel rhan o'r ddadl hon. Dywedant eu bod wedi gwneud hynny er mwyn rhoi sicrwydd pellach i'r cyhoedd bod yr holl bryderon wedi cael sylw.
Ar 12 Hydref, cadarnhaodd CNC yn ffurfiol fod angen asesiad o'r effaith amgylcheddol. Mae CNC hefyd wedi ceisio sicrhau bod pob cais am drwydded forol yn cael ei asesu'n drylwyr ac yn gadarn i ddiogelu pobl, a'r amgylchedd yn wir. Mae'r ffaith y bydd asesiad o'r effaith amgylcheddol yn cael ei wneud yn ateb y prif alwadau a wneir yn y ddeiseb, ac rwyf am groesawu'r ffaith y bydd hyn yn digwydd. Mae'n amlwg fod pryder yn dal i fodoli ymhlith rhai aelodau o'r cyhoedd am effeithiau posibl y gwaith hwn ar yr amgylchedd ac ar iechyd. Mae'r pryderon hyn yn ymwneud yn bennaf â chynnwys y gwaddod, yn sgil cynhyrchu pŵer niwclear yn Hinkley Point o'r blaen. Mae'n hanfodol, felly, fod y broses drwyddedu'n cael ei chynnal mewn ffordd agored a thryloyw. Dyna'r unig ffordd y gallwch dawelu meddyliau pobl mai dim ond os yw'n ddiogel gwneud hynny y caiff y gwaddod ei waredu.
Rwyf hefyd am gydnabod bod CNC ac EDF yn darparu diweddariadau cyhoeddus rheolaidd ar y broses hon, ac yn wir maent wedi sefydlu tudalen we benodol. Mynegodd y Pwyllgor Deisebau bryder ynglŷn â chyfathrebu cyhoeddus yn ystod y camau cynnar y tro diwethaf, ac rwy'n falch iawn o gydnabod bod gwelliannau wedi'u gwneud a bod pobl wedi cael eu clywed. Mae CNC hefyd wedi addo ymgynghori'n gyhoeddus ar y cais llawn am drwydded y mae'n disgwyl ei dderbyn yn gynnar y flwyddyn nesaf. Mae hyn i gyd i'w groesawu.
Ar gyfer rhan olaf yr araith hon, hoffwn gyfeirio at bryderon y deisebwyr ychydig yn fanylach. Mae llawer o'r rhain yn ymwneud â diogelwch y diwydiant ynni niwclear ynddo'i hun. Mae'n amlwg fod p'un a yw'r DU yn defnyddio cynhyrchiant pŵer niwclear ai peidio yn fater y tu hwnt i gwmpas y broses trwyddedu morol, ac yn wir y tu hwnt i bwerau Llywodraeth Cymru neu CNC. Fodd bynnag, mae gan y deisebwyr bryderon hefyd y gellir mynd i'r afael â hwy yma yng Nghymru drwy'r prosesau hyn. Yn bwysicaf oll, mae'n hanfodol fod profion a dadansoddiadau manwl yn cael eu cynnal ar y gwaddod hwn. Dyna'r unig ffordd o fod yn siŵr ei fod yn ddiogel i'w ollwng yn ôl i Fôr Hafren. Digonolrwydd samplu a phrofi oedd y prif faes a oedd yn peri pryder i'r Pwyllgor Deisebau y tro diwethaf, fel yr amlinellwyd yn ein hadroddiad yn 2018. Mae CNC wedi cymeradwyo cynllun samplu EDF y tro hwn, a bydd canlyniadau'r profion hynny'n hollbwysig wrth gwrs. Felly, gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi cadarnhad inni heddiw y bydd profion ar gyfer yr ystod lawn o ymbelydredd yn cael eu cynnal y tro hwn. Mae hefyd yn hanfodol fod canlyniadau'r profion a phroses yr asesiad o'r effaith amgylcheddol yn cael eu cyfleu'n agored ac yn dryloyw. Unwaith eto, dyna'r unig ffordd o gael cefnogaeth y cyhoedd ac iddynt gael yr hyder sydd ei angen arnynt ac y maent yn ei haeddu.
Y tu hwnt i'r brif alwad am asesiad o'r effaith amgylcheddol, mae'r ddeiseb hefyd yn rhoi gofynion manwl ynglŷn â'r hyn y dylai hynny ei olygu. Amlinellir proses yr asesiad o'r effaith amgylcheddol yn y gyfraith a rheoliadau, ond mae'n amlwg yn hanfodol y dylai gyflwyno asesiad llawn a chadarn o effeithiau a risgiau posibl gwaredu'r gwaddod yn y ffordd hon. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu ymateb i'r pwyntiau hyn heddiw a datgan hefyd ei hymrwymiad i geisio'r sicrwydd i'r cyhoedd y byddem i gyd yn hoffi ei weld ar y mater hwn rwy'n siŵr.
Edrychaf ymlaen yn awr at glywed cyfraniadau'r Aelodau eraill o'r Senedd hon yng ngweddill y ddadl. Diolch yn fawr.
Dwi'n meddwl bod y ffaith ein bod ni'n trafod hyn yn y Siambr heddiw yn tanlinellu bod yna bryderon real iawn ymhlith pobl yng Nghymru ynghylch y bwriad i ddympio mwd o Hinkley oddi ar arfordir de Cymru.
Dwi wedi ymgysylltu â gwyddonwyr ac ymgyrchwyr a'r ymgyrch Geiger Bay, wrth gwrs; pob un ohonyn nhw'n mynegi pryderon difrifol am yr effaith y bydd dympio o'r fath yn ei chael ar yr amgylchedd, ar fywyd morol ac, wrth gwrs, ar iechyd pobl yr ochr yma i aber yr afon Hafren. Dwi hefyd wedi bod mewn trafodaethau gyda'r corff rheoleiddio, Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth gwrs, i drafod y broses o gwmpas y cynigion yma. Mi ddywedais i'n glir yn fy nghyfarfod gyda nhw bod angen asesiad effaith amgylcheddol trylwyr a thryloyw fel rhan o'r broses yma. Ac os oes unrhyw gwestiynau arwyddocaol fydd heb eu hateb ar ddiwedd y broses honno, yna mae'n anhebygol y byddwn i, nac unrhyw un arall yn ei iawn bwyll, yn medru cefnogi'r bwriad i ddympio cannoedd o filoedd o dunelli o fwd a allai, wrth gwrs, fod wedi'i lygru, mewn dyfroedd Cymreig.
Efallai ei bod yn arwyddocaol fod EDF, y cwmni y tu ôl i'r prosiect, bellach wedi teimlo bod angen cynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol cyn i Cyfoeth Naturiol Cymru fynnu eu bod yn gwneud hynny. Credaf fod hynny'n gydnabyddiaeth o'r angen am ddadansoddiad cynhwysfawr a thrylwyr o samplau gwaddodion. Ac mae hyn yn mynd y tu hwnt i'r cynllun samplu cychwynnol, a oedd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus wrth gwrs. Hyderaf y bydd gwaith cwmpasu EDF yn gynhwysfawr, ac mae'n bwysig wrth gwrs fod y canfyddiadau'n cael eu cyhoeddi i bawb eu gweld.
Nawr, dywed EDF ei fod yn bwriadu mynd ymhellach na'r gofynion rheoliadol arferol er mwyn rhoi sicrwydd ychwanegol i'r cyhoedd. Wel, mae hynny ynddo'i hun, rwy'n meddwl, yn fesur o effeithiolrwydd yr ymgyrch hyd yma, ac fe arhoswn i weld manylion ynglŷn â pha mor drylwyr a pha mor ddwfn fydd y profion, gan gynnwys profion ar gyfer gronynnau allyrru alffa pur a thritiwm.
Felly, i ddyfynnu EDF ar eu rheswm dros y penderfyniad unochrog i gynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol, maent yn dweud hyn:
Credwn ei bod yn iawn inni fynd y tu hwnt i ddadleuon technegol i roi'r hyder angenrheidiol i'r cyhoedd fod yr holl bryderon wedi cael sylw.
'Yr holl bryderon wedi cael sylw'—wel, byddwn yn gobeithio hynny hefyd, oherwydd ceir y fath lefel o ddiddordeb cyhoeddus yn hyn fel bod yn rhaid inni gadw hyder y cyhoedd hefyd. Ac mae hynny'n newyddion i'w groesawu gan na chynhaliwyd asesiad effaith o'r fath cyn y gwaredu cychwynnol yn 2018. Ac mae'n rhaid i mi ddweud nad oes gan y diwydiant niwclear hanes da iawn yn gyffredinol o fod yn agored ac yn dryloyw, ffaith a allai esbonio rhywfaint ar y gwrthwynebiad rydym yn edrych arno yma yng Nghymru i'r cynigion hyn.
Felly, mae Plaid Cymru yn cefnogi asesiad llawn a thryloyw o'r effaith amgylcheddol, sef prif fyrdwn y ddeiseb sydd ger ein bron heddiw, yn syml iawn oherwydd hanes y safle; mae wedi bod yn orsaf ynni niwclear ers dros hanner canrif. Mae gronynnau ymbelydrol o bibellau all-lif Hinkley Point A, a oedd yn weithredol rhwng 1965 a 2000, a Hinkley Point B, sydd wedi bod ar agor ers 1976, wedi'u fflysio i fae Bridgewater dros y 55 mlynedd diwethaf. Ac wrth gwrs, gwyddom fod plwtoniwm wedi gollwng o Hinkley Point A yn y 1970au, a allai hefyd fod wedi halogi'r mwd y maent am ei waredu nawr yn nyfroedd Cymru wrth gwrs. A'r cynnig newydd hwn, cofiwch, yw gwaredu wyth gwaith cymaint o fwd o'i gymharu â'r gwaredu olaf yn 2018. Mae'n 600,000 tunnell ciwbig, o'i gymharu ag 82,000 tunnell y tro diwethaf.
Mae digon o amser wedi mynd heibio i alluogi'r asesiad o'r effaith amgylcheddol y tro hwn i archwilio ac asesu'r hyn a ddigwyddodd i'r gwaddod a adawyd ar safle gwasgaru Cardiff Grounds yn 2018. A dylai'r asesiad o'r effaith amgylcheddol hefyd sicrhau bod lefelau ymbelydredd ar hyd arfordir deheuol Cymru yn cael eu mesur cyn unrhyw waredu pellach, a byddai hynny'n rhoi data llinell sylfaen i ni ar gyfer pennu unrhyw gynnydd mewn ymbelydredd o ganlyniad i unrhyw waredu pellach. Gyda'r amrediad llanw yn afon Hafren wrth gwrs, mae'n debygol iawn y bydd y mwd hwn yn gwasgaru'n bell ac yn eang a gellid golchi gronynnau ar y lan, a dylid mesur ac asesu effeithiau hyn hefyd ar bobl sy'n byw ar hyd yr arfordir ac yn defnyddio'r traethau, hyd yn oed y rhai sy'n bwyta bwyd môr.
Sefydlodd profion yn Cumbria yn y 1980au gan ymchwilwyr o'r Sefydliad Ymchwil Ynni Atomig yn Harwell fod gwaddodion a waredwyd o waith gorsaf niwclear Sellafield wedi'u golchi ar y lan ac wedyn wedi'u chwythu sawl milltir i mewn i'r tir. Felly, dylai unrhyw asesiad effaith ar y cynnig hwn ganolbwyntio hefyd ar y posibilrwydd y caiff y mwd hwn ei olchi ar y lan a'i chwythu i mewn i'r tir o arfordir de Cymru. Mae deall i ba raddau y gwasgarir y mwd hwn, yn enwedig ar ein glannau, ac effaith yr union ronynnau a gynhwysir ynddo a all fod yn niweidiol i fywyd gwyllt ac i bobl yn hollbwysig. Dylai mesur cynhwysfawr hefyd olygu profion i ganfod allyrwyr alffa, nid dim ond allyrwyr gama, oherwydd mae allyrwyr alffa yn fwy peryglus pan gânt eu hanadlu.
Yn ystod fy nghyfarfod fis diwethaf gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, fe'i gwneuthum yn glir beth roeddwn yn ei ddisgwyl o'r broses hon cyn bod unrhyw bosibilrwydd o roi trwydded ar gyfer gwaredu pellach. Ac mae EDF yn cyflawni'r asesiad hwn o'r effaith amgylcheddol, ond wrth gwrs, ni ddylid caniatáu iddo farcio'i waith cartref ei hun. Mae angen iddo ddangos ei holl waith yn gyhoeddus fel y gallwn i gyd ymddiried yng nghadernid a dilysrwydd y broses. Os yw Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn mynd i olygu unrhyw beth, rhaid i'r egwyddor ragofalus fod yn berthnasol yma. Rhaid i'r baich cyfrifoldeb fod ar EDF a Cyfoeth Naturiol Cymru i brofi bod gwaredu mwd yn ddiogel y tu hwnt i amheuaeth ac nid dim ond gadael i ymgyrchwyr geisio profi nad ydyw, a dylai unrhyw fethiant yn hynny o beth olygu na waredir y mwd. Byddaf yn gwylio'r broses gyda llygad barcud, fel y gwn y bydd eraill rwy'n siŵr dros y misoedd nesaf i sicrhau ein bod yn cael y canlyniad cywir i'n hamgylchedd ac i iechyd a lles pobl Cymru wrth gwrs.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu yn y ddadl y prynhawn yma, fel rhywun a oedd ar y Pwyllgor Deisebau cyntaf yn ôl yng Nghynulliad 2007 i 2011, pan fabwysiadwyd yr egwyddor hon gennym i bobl allu dod â deisebau i'r Cynulliad, nid i'w gosod mewn sach y tu ôl i gadair y Llefarydd neu'r Llywydd fel sy'n digwydd yn San Steffan, ond i bwyllgor y Cynulliad eu craffu a dwyn Gweinidogion i gyfrif ac yn amlwg, sicrhau bod deisebwyr yn teimlo bod eu pryderon yn cael eu hateb. Felly, rwy'n croesawu sylwadau agoriadol y Cadeirydd a'r ffordd gadarnhaol y mae'r pwyllgor wedi ymwneud â'r broses hon, gan nodi mai hon yw'r ail ddeiseb i ddod, oherwydd, fel y dywedwyd yn gynharach, dyma'r ail gynllun i waredu mwd, os yw'n digwydd. Ac fel rhywun sy'n cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru, sydd ag arfordir mawr y gallai gwaredu'r mwd hwn effeithio arno, rwy'n amlwg wedi cael nifer o etholwyr yn lleisio eu pryderon.
Rwy'n dod ato o safbwynt ychydig yn wahanol gan fy mod yn cefnogi pŵer niwclear. Credaf ei fod yn rhan o'r cymysgedd ynni y mae angen inni ei weld, ac mewn gwirionedd rwyf wedi ymweld â safle adeiladu gorsaf bŵer Hinkley ac wedi nodi nifer y gweithwyr o Gymru sydd ar y safle hwnnw a'r bunt Gymreig a gafodd ei gwobrwyo gan fuddsoddiad o'r prosiect yn ei gyfanrwydd. Ond wedi dweud hynny, credaf ei bod yn hollbwysig i'r datblygwr gynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol ac mae'n mynd i'r afael â'r pryderon—y pryderon gwirioneddol—y mae pobl wedi'u dwyn i fy sylw i a llawer o'r Aelodau Cynulliad eraill a'r Pwyllgor Deisebau yn wir. Rwy'n croesawu parodrwydd y cwmni i gomisiynu asesiad o'r fath nawr cyn iddo gyflwyno ei dystiolaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru, a fydd, yn y pen draw, yn penderfynu ar y drwydded yn yr achos penodol hwn.
Ond yr hyn sydd yr un mor bwysig yw nad ydynt yn marcio eu gwaith cartref eu hunain, fod y dystiolaeth a'r fethodoleg a'r holl waith yn cael ei ddangos yn berffaith glir fel y gellir ei brofi, oherwydd, yn amlwg, gallai hyn effeithio ar ran fawr o boblogaeth de Cymru, ac arfordir y gorllewin hefyd, drwy symud o fewn yr aber. Fy nealltwriaeth i yw bod yn rhaid i'r mwd aros o fewn yr aber oherwydd sensitifrwydd a natur y cyfyngiadau sydd ar y rhan benodol honno o Fôr Hafren, ac mae hwn yn un o ddau safle y gallant nodi ei fod yn addas i dderbyn mwd o'r safle rhyddhau.
Ond rwy'n derbyn bod sbectrwm eang o farn ar hyn. Yn wir, tynnodd Cadeirydd y pwyllgor sylw at hynny yn ei sylwadau agoriadol, pan ddywedodd fod yna gorff eang o farn sy'n pryderu am y mwd a allai gael ei waredu oherwydd gallai fod deunydd halogedig ynddo, a gobeithio y bydd yr asesiad o'r effaith amgylcheddol naill ai'n profi neu'n gwrthbrofi'r ddadl honno, ond yn yr un modd, ceir corff o farn sy'n gwrthwynebu ynni niwclear ac nad yw'n credu y dylem fod yn datblygu safleoedd niwclear. Nid wyf yn perthyn i'r categori o bobl sydd am atal pŵer niwclear, ac rwyf am fod yn onest ac yn dryloyw ynglŷn â hynny, ond rwy'n perthyn i'r categori sydd am sicrhau bod y datblygwyr yn cael eu dwyn i gyfrif, eu bod yn cael eu dal yn atebol a bod yr holl dystiolaeth a roddir gerbron Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn benodol, yr ysgogiadau sydd gan Lywodraeth Cymru at eu defnydd yn cael eu disbyddu i sicrhau bod yr holl ymholiadau hyn, y pryderon hyn yn cael sylw, fel y gallwn fod yn hyderus fod yr ail gynllun i waredu mwd yn cael ei wneud yn ddiogel, yn cydymffurfio â'r rheolau a osodir ac yn y pen draw, yn diogelu'r aber rhag unrhyw lygryddion a allai gael eu symud, pe bai unrhyw beth yn cael ei brofi pan fyddant yn dechrau cloddio'r mwd hwnnw.
Felly, rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y pwnc y prynhawn yma. Rwy'n croesawu'r gwaith y mae'r Pwyllgor Deisebau wedi'i wneud ond yn anad dim, rwy'n croesawu'r 10,000 a mwy o lofnodion sydd wedi'u cynnwys ar y ddeiseb hon a gyflwynwyd i'r Cynulliad, fel y gallwn chwarae ein rhan, gobeithio, yn sicrhau ein bod yn cael canlyniad teg, a chanlyniad sy'n cael gwared ar bryderon pobl.
Mae diogelwch y diwydiant ynni niwclear yn rhywbeth rwy'n pryderu amdano hefyd, ond nid wyf yn credu mai dyna rydym yn ei drafod yma. Rwy'n gwrthwynebu'r diwydiant ynni niwclear am nad oes dull diogel o waredu gwastraff niwclear, ond rwyf am bwysleisio nad ydym yn sôn am waredu gwastraff a allai fod yn wastraff niwclear oddi ar lannau Caerdydd. Felly, mae gwir angen inni fod yn glir ynglŷn â hynny, oherwydd mae set hollol wahanol o reoliadau ar gyfer gwaredu gwastraff niwclear, ac mae hynny'n gwbl ar wahân i'r broses sy'n cael ei disgrifio gan Janet Finch-Saunders.
Ceir pryderon yn wir, oherwydd mae rhai pobl dan yr argraff mai gwastraff niwclear yw hwn, ac nid wyf yn glir ar hyn o bryd a oes cyfiawnhad dros hynny, fel yr awgrymwyd gan Llyr Huws Gruffydd. Fodd bynnag, credaf y dylid bod wedi cynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol cyn i'r mwd gael ei waredu yn 2018, yn syml am fod y diwydiant niwclear yn gyfrinachol iawn yn y ffordd y mae'n mynd ati i gyflawni ei waith. Yn sicr, i fyny yn Sellafield a Windscale, mae hanes hir iawn o guddio'r hyn sydd wedi bod yn digwydd rhag y boblogaeth leol. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn gwybod nad yw'r hyn y bwriedir ei waredu oddi ar lannau Caerdydd yn mynd i effeithio mewn unrhyw ffordd ar iechyd ein dinasyddion.
Nid oes unrhyw ffordd y caniateir i EDF farcio ei waith cartref ei hun, oherwydd bydd yn rhaid i CNC benderfynu ar sail yr asesiad o'r effaith amgylcheddol a yw hyn yn bodloni'r meini prawf ar gyfer gwaredu gwastraff oddi ar lannau Caerdydd ai peidio. Felly, CNC fydd yn gwneud y penderfyniad hwnnw, a hefyd cânt eu llywio gan y grŵp arbenigol a sefydlwyd o dan gadeiryddiaeth Jane Davidson, y deallaf ei fod wedi cyfarfod bedair gwaith i drafod y mater, ac mae'n drueni mewn ffordd ein bod yn trafod hyn heddiw heb gael adroddiad gan y grŵp arbenigol hwnnw i ddweud wrthym a oes unrhyw arwydd o gwbl nad yw gwaredu'r gwastraff hwn yn briodol yn y ffordd y gwnaed cais am y drwydded. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad ydym yn codi sgwarnog heb fod un yn bodoli. Mae angen inni edrych ar y dystiolaeth, mae angen inni ddibynnu ar y gwyddonwyr sy'n deall beth sy'n niweidiol a beth nad yw'n niweidiol, a sicrhau mai gwaredu deunydd nad yw'n achosi unrhyw berygl i iechyd ein dinasyddion a wnawn.
Hoffwn ddiolch i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb hon. Rwyf wedi gwrthwynebu gwaredu gwaddodion a garthwyd o safle gorsaf bŵer niwclear Hinkley C yn y gorffennol oherwydd yr ansicrwydd ynghylch diogelwch gwaddodion. Efallai fod y gwaddod a garthir yn cael ei waredu yn rhanbarth Canol De Cymru, ond mae hefyd yn effeithio ar fy rhanbarth i, sy'n gartref i rai o draethau gorau'r byd ac yn hafan i fflora a ffawna morol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer ohonom yn y Siambr hon wedi lleisio pryderon am ddiogelwch y gwaddod, a diolch i'r ffaith ein bod wedi mynegi'r pryderon hynny, a diolch i ymdrechion y ddeiseb hon, mae EDF bellach wedi cydsynio i asesiad llawn o'r effaith amgylcheddol ac wedi penodi CEFAS i gynnal profion radiolegol dwfn.
Rwy'n gobeithio y bydd CEFAS hefyd yn gwneud profion am ystod ehangach o radioniwclidau. Dengys ymchwil a gynhaliwyd mewn mannau eraill fod crynodiadau uwch o radioniwclidau i'w canfod ar ddyfnderoedd mwy nag 1m. Gwyddom hefyd fod 16 gwaith yn fwy o radioniwclidau wedi'u cynhyrchu gan adweithyddion niwclear nag y cynhaliwyd profion amdanynt. Cynhaliodd yr arolygon gwaddodion brofion ar gyfer caesiwm-137, cobalt-60 ac americiwm-241, ond beth am blwtoniwm neu gwriwm? Pam na chafwyd profion ar gyfer y rhain? Beth am strontiwm neu dritiwm? Onid yw'r radioniwclidau hyn yn creu risg i iechyd pobl? Wrth gwrs eu bod, ond ni chafwyd profion ar eu cyfer, nac ar gyfer y 50 o radioniwclidau eraill y gwyddys eu bod yn bresennol yn yr hyn a ollyngir o'r hen orsafoedd niwclear hyn. Mae angen i CEFAS gynnal profion ar gyfer y rhain.
A fydd yr adroddiad a'r asesiad o'r effaith amgylcheddol yn barnu bod y gwaddod yn ddiogel i bobl, bywyd gwyllt a'r amgylchedd? Oherwydd ni allwn fentro gwneud niwed di-ben-draw i'n hecosystem a bygwth hyfywedd rhai o draethau gorau'r byd, fel Rhosili, bae'r Tri Chlogwyn a bae Rest. Rhaid inni fod yn agored ac yn dryloyw. Pan fydd y gwaredu'n dechrau, pwy all ddweud a fydd hynny'n agor y drysau i waredu gormodol o fwy a mwy o fwd, mwy nag a awgrymwyd? Rwy'n llwyr gefnogi'r deisebwyr ac yn diolch iddynt unwaith eto am yr hyn y maent yn ei wneud i ddiogelu amgylchedd morol Cymru. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr am y cyfle i ymateb i'r ddadl heddiw, sy'n dilyn deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu asesiad o'r effaith amgylcheddol mewn perthynas â Hinkley. Yn gyntaf, fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, hoffwn innau hefyd gydnabod y cyhoeddiad diweddar a wnaed gan EDF Energy a'i fwriad i gynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol llawn i roi sicrwydd i aelodau'r cyhoedd ynglŷn â'i weithgarwch arfaethedig. Mae dyfroedd Cymru yn adnodd a rennir ac yn ased pwysig i bob un ohonom. Maent yn gartref i amrywiaeth eang o gynefinoedd a rhywogaethau ac yn cael eu defnyddio gan lawer i gefnogi eu bywoliaeth. Rwy'n deall y pryderon ynghylch y bwriad i waredu gwaddodion morol sy'n gysylltiedig â datblygiad Hinkley yn nyfroedd Cymru, ac rwyf wedi gwrando'n astud iawn ar y pwyntiau a godwyd heddiw. Gallaf sicrhau'r Aelodau fod gennym ddeddfwriaeth trwyddedu morol gadarn ar waith i sicrhau bod yr amgylchedd ac iechyd pobl yn cael eu diogelu rhag effeithiau posibl gweithgareddau a reoleiddir ar y môr. Mae trwyddedu morol yn seiliedig ar dystiolaeth, ac mae'n un o'r arfau allweddol a ddefnyddir i reoli dyfroedd Cymru'n gynaliadwy. Mae'r broses wedi'i hen sefydlu, yn llwyr gefnogi gofynion deddfwriaeth Cymru a'r DU, ac yn sicrhau na wneir penderfyniadau yn groes i gyfraith ryngwladol.
Fel y gŵyr yr Aelodau, mae CNC yn gweinyddu ac yn penderfynu ar geisiadau trwyddedau morol ar ran Gweinidogion Cymru. Rwy'n hyderus ei fod yn cydymffurfio'n llawn â'i rwymedigaethau cyfreithiol, ac mae'n parhau i weithredu o fewn ysbryd y cyfarwyddyd blaenorol, a gyhoeddais yn 2018, mewn perthynas â'r drwydded forol sydd bellach wedi dod i ben. Mae CNC yn darparu gwell tryloywder o ran y broses trwyddedu morol, ac yn rhoi mwy o gyfle i'r Aelodau o'r Senedd a'r cyhoedd gymryd rhan yn y broses, lle mae'n briodol gwneud hynny, mewn perthynas â'r prosiect hwn.
Gweinidogion Cymru yw'r corff apêl ar gyfer trwyddedu morol, felly rhaid i mi gofio'r ddyletswydd gyfreithiol hon a pheidio â gwneud sylwadau manwl heddiw ar fanylion asesiad o'r effaith amgylcheddol mewn perthynas â Hinkley. Fodd bynnag, gallaf siarad yn fwy eang am asesiadau o'r effaith amgylcheddol. Yn ôl y gyfraith, rhaid i asesiadau o'r fath gael eu cynnal gan berson cymwys, ac felly fe'u cyflawnir fel arfer gan ymarferwyr asesu amgylcheddol achrededig. Mae asesiadau o'r effaith amgylcheddol yn asesu effaith amgylcheddol debygol gweithgaredd, yn gadarnhaol ac yn negyddol, gan ystyried materion fel bioamrywiaeth ac iechyd pobl. Mae Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 yn sefydlu'r broses asesu effaith amgylcheddol ac yn nodi'r seiliau cyfreithiol dros ddod i benderfyniad ynglŷn ag a oes angen asesiad o'r effaith amgylcheddol a'r wybodaeth sy'n rhaid ei chynnwys yn y datganiad amgylcheddol, dogfen a gynhyrchir fel rhan o'r asesiad o'r effaith amgylcheddol i gyflwyno ei ganfyddiadau.
O dan y rheoliadau hyn, CNC yw'r awdurdod priodol a'r rheoleiddiwr. Felly, mae asesiad o'r effaith amgylcheddol yn fater technegol a rheoliadol i CNC. Nid mater i Weinidogion Cymru yw mynnu asesiad o'r effaith amgylcheddol. Rhaid dilyn y prosesau cyfreithiol. Gallaf sicrhau'r Aelodau y bydd CNC yn mynnu proses gadarn a thrylwyr ar gyfer asesu'r effaith amgylcheddol i gefnogi cais am drwydded forol, a fydd yn amodol ar ymgynghoriad ag arbenigwyr technegol CNC ac aelodau o'r cyhoedd. Ni fydd CNC yn rhoi trwydded forol i waredu gwaddodion morol oni cheir penderfyniad ffafriol mewn perthynas â'r asesiad o'r effaith amgylcheddol, a dim ond os yw'r profion gwaddodion angenrheidiol, a gynhelir yn unol â safonau rhyngwladol, yn pennu'n glir fod y deunydd yn ddiogel ac yn addas i'w waredu yn y môr, ac nad yw'n peri unrhyw risg sylweddol i iechyd yr amgylchedd na phobl.
Y llynedd, cyhoeddais gynllun morol cenedlaethol Cymru, yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a biolegol amrywiol. Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol sy'n gam mawr ymlaen yn y ffordd rydym yn rheoli ein dyfroedd ac yn sicrhau dyfodol cynaliadwy. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod cynaliadwyedd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau a bod gennym broses trwyddedu morol yng Nghymru sy'n deg i bawb, yn addas i'r diben, yn gadarn ac yn dryloyw, gyda phenderfyniadau'n seiliedig ar wyddoniaeth gadarn. Mae hyn yn sicrhau bod ein dyfroedd gwerthfawr yn lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Yn olaf, fel y gŵyr yr Aelodau ac fel y nododd Jenny Rathbone, sefydlwyd grŵp cyfeirio rhanddeiliaid arbenigol allanol yn gynharach eleni, ar gais y Prif Weinidog. Bydd y grŵp, dan gadeiryddiaeth Jane Davidson, yn rhoi cyngor i Weinidogion ar oblygiadau datblygiad Hinkley i lesiant Cymru. Mae'r grŵp wedi cyfarfod sawl gwaith ac er mwyn sicrhau tryloywder ar y materion a ystyrir gan y grŵp, cyhoeddir crynodebau o'i drafodaethau ar wefan Llywodraeth Cymru, lle mae cylch gorchwyl y grŵp a dulliau gweithio hefyd ar gael i unrhyw un eu gweld. Diolch.
Galwaf nawr ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ymateb i'r ddadl hon mewn modd cynhwysfawr iawn. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau. Wrth gloi'r ddadl heddiw, hoffwn ddiolch yn arbennig i'r deisebwyr, sydd, unwaith eto, wedi lleisio'u pryderon, wedi dod â hwy gerbron y Senedd hon gan arwain at ddadl, lle cafwyd ymyrraeth weinidogol, cafwyd ymyrraeth gan Aelodau, a chafwyd yr hyn y byddwn yn ei alw'n waith craffu a herio da iawn. Ond nid dyna ddiwedd y mater eto.
Mae'r ddadl hon wedi ein galluogi i drafod materion pwysig iawn, a bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried y rhain ymhellach. Ond cyn i mi gloi, rwyf am nodi elfen bwysig arall o'r ymagwedd agored y siaradais amdani'n gynharach. Credaf y dylai unrhyw un sy'n teimlo'n bryderus iawn am y gwaith sydd i'w wneud ddefnyddio'r cyfle a ddaw o'r hyn y soniodd y Gweinidog amdano—y grwpiau rhanddeiliaid, yr ymgynghoriadau. Credaf fod gwir angen iddynt hwythau hefyd fod yn rhan o'r broses barhaus fel eu bod yn teimlo'n fwy sicr ynglŷn â diogelwch—diogelwch y cyhoedd a hefyd unrhyw effaith ar ein hamgylchedd morol.
Rydym wedi pwysleisio pa mor bwysig yw gallu disgwyl i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau fod yn agored ac yn dryloyw, ac rwy'n obeithiol iawn a byddwn yn pwysleisio bod yn rhaid dilyn pob proses, fod asesiad llawn o'r dystiolaeth yn cael ei wneud cyn dod i unrhyw benderfyniad, a phan wneir yr asesiadau a'r penderfyniadau, gobeithio y bydd gan bobl hyder yn y penderfyniadau hynny. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? A oes unrhyw wrthwynebiad?
Na, ni welaf unrhyw wrthwynebiad.
Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Bydd yna nawr egwyl fer cyn inni ailgychwyn gydag eitem 8. Felly, egwyl fer nawr.
Trefn. Trefn. Mae'r Senedd yn ôl yn eistedd.