– Senedd Cymru am 3:06 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar gyflawni'r strategaeth ryngwladol, a dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad. Mark Drakeford.
Llywydd, diolch yn fawr. Rwy'n croesawu’r cyfle hwn heddiw i adrodd i’r Senedd ar strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru. Ein bwriad yw meithrin cysylltiadau gyda gwledydd a rhanbarthau ar draws y byd er mwyn hyrwyddo allforion a buddsoddi yng Nghymru, ac felly cryfhau ein economi.
Ar yr un pryd, rydym yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o'r holl gryfderau sydd gennym fel gwlad a'r cyfraniad y gallwn ni ei wneud wrth ymateb i heriau fel newid hinsawdd a chynaliadwyedd. Mae'r gwaith yma yn fwy pwysig nag erioed wrth inni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ar ddiwedd y flwyddyn.
Lywydd, cafodd ein strategaeth ryngwladol ei llunio yng nghyd-destun Brexit. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu bod yn rhaid inni weithio hyd yn oed yn galetach i gynnal proffil ac enw da Cymru yn y byd. Nawr yn fwy nag erioed mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i godi proffil rhyngwladol Cymru, tyfu ein heconomi drwy gynyddu allforion a denu mewnfuddsoddiad, ac fel mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mynnu, sefydlu Cymru fel cenedl gyfrifol yn fyd-eang.
Ni allai neb fod wedi rhagweld beth fyddai'n digwydd ychydig wythnosau ar ôl i'n strategaeth ryngwladol gael ei chyhoeddi ym mis Ionawr. Dechreuodd COVID-19 ennill ei blwy ym mis Chwefror, ac wrth gwrs mae'r pandemig wedi cael effaith uniongyrchol ar gyflawniad ein huchelgeisiau rhyngwladol, ond rydym wedi gwneud defnydd cadarnhaol o'n rhwydweithiau tramor o hyd, gan gadw mewn cysylltiad â Llywodraethau ym mhob cwr o'r byd a chasglu gwybodaeth hanfodol am eu dulliau o fynd i'r afael â'r feirws. Fe wnaethant weithio i nodi ffynonellau o gyfarpar diogelu personol yn y dyddiau cynnar, pan oedd cyflenwadau'n brin. Chwaraeodd ein swyddfeydd yn Tsieina ran allweddol yn y gwaith o sicrhau bod cyfarpar gweithgynhyrchu masgiau llawfeddygol yn cael eu darparu i gwmni yng Nghaerdydd sy'n cynhyrchu hyd at filiwn o fasgiau wyneb y dydd i weithwyr allweddol yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Aeth ein rhaglen Cymru ac Affrica ati'n gyflym i gyhoeddi 26 o grantiau a ganolbwyntiai ar gymorth COVID-19.
Symudwyd ein rhaglenni rhyngwladol ar-lein a defnyddiwyd cysylltiadau a nodwyd yn y strategaeth ryngwladol i ddatblygu uchelgeisiau ar y cyd, nid yn unig i ganolbwyntio ar yr argyfwng uniongyrchol, ond i feithrin cadernid yn y dyfodol ac ailadeiladu ein heconomïau. Hyd yn oed yn nyfnder yr argyfwng, rydym wedi cynnal cyfarfodydd rhithwir a chyfarfodydd wyneb yn wyneb â llysgenhadon o Japan, yr Almaen, yr Undeb Ewropeaidd, Canada ac eraill.
Heddiw, Lywydd, rydym yn cyhoeddi pedwar cynllun gweithredu a ddeilliodd o'r strategaeth ryngwladol, wedi’u ffurfio gan gyd-destun y pandemig byd-eang ac sy'n adlewyrchu ein hymgysylltiad â ffrindiau ledled y byd. Hoffwn gofnodi fy niolch i Eluned Morgan am yr holl waith a wnaeth ar y strategaeth a'r cynlluniau tra oedd yn Weinidog cysylltiadau rhyngwladol. Mae'r dogfennau'n ymdrin â diplomyddiaeth gyhoeddus a chymell tawel, cysylltiadau a rhwydweithiau rhanbarthol, Cymru ac Affrica, a Chymry ar wasgar, ac maent yn deyrnged i'r ddawn a'r ymrwymiad a gyfrannodd Eluned i'r gwaith hwnnw.
Mae ein cynllun diplomyddiaeth gyhoeddus a chymell tawel yn nodi sut y bydd Cymru'n gwella ein proffil byd-eang. Mae'n nodi'r cyfraniad byd-eang y gallwn ei wneud fel cenedl gyfrifol, gan weithio'n rhyngwladol gyda phartneriaid ar lesiant, cynaliadwyedd, addysg ieuenctid, diwylliant, chwaraeon, gwyddoniaeth a hyrwyddo'r Gymraeg. Mae'n gwneud cysylltiadau â chefnogi economi Cymru, cryfhau masnach a thwristiaeth, fel y gwnaethom yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd y llynedd yn Japan. Ynghyd â'n rhaglen Cymru ac Affrica, mae'n ymateb i'r materion diweddar a amlygwyd gan ymgyrch Black Lives Matter i hyrwyddo ethos o degwch, cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae cynllun gweithredu Cymru ac Affrica hefyd yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda phartneriaid yn Affrica Is-Sahara ac yma yng Nghymru i gefnogi'r gwaith o gyflawni nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, a hynny mewn dau faes yn arbennig: newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd, lle byddwn yn plannu 25 miliwn o goed yn Uganda erbyn 2025, ac yn ail, hyrwyddo Cymru fel cenedl deg drwy gefnogi masnach deg a grymuso menywod.
Ar ôl llofnodi datganiad o fwriad gyda Llywodraeth Quebec yn gynharach eleni, mae ein cynllun perthnasoedd rhanbarthol sy’n cael blaenoriaeth yn canolbwyntio ar adeiladu a chryfhau cysylltiadau rhanbarthol allweddol, yn enwedig gyda thri rhanbarth Ewropeaidd—Llydaw, Gwlad y Basg a Fflandrys—yn ogystal â rhwydweithiau Ewropeaidd a rhyngwladol.
Llywydd, mae ein rhaglen rhyngwladol wedi symud ar-lein. Eleni, byddwn yn dathlu Diwali digidol am y tro cyntaf. Bydd hon yn raglen o ddigwyddiadau yng Nghymru ac India i ddathlu gŵyl y goleuni, yn ogystal â chysylltiadau busnes, addysgol a diwydiannol rhwng ein gwledydd. Y flwyddyn nesaf byddwn yn lawnsio Cymru yn yr Almaen 2021 i arddangos yr ystod eang o weithgaredd sy'n digwydd rhwng y ddwy wlad. Dyma'r gyntaf mewn cyfres o raglenni blynyddol fydd yn canolbwyntio ar ein perthynas gydag un partner allweddol bob blwyddyn dros y pum mlynedd nesaf.
A Llywydd, mae cyfle i'r diaspora Cymreig wneud cyfraniad pwysig i'r strategaeth drwy hyrwyddo enw da Cymru ar y llwyfan rhyngwladol. Wrth weithio gyda'n diaspora, byddwn yn cynnwys nid yn unig ein Cymry alltud ar draws y byd, ond hefyd pobl eraill sydd â chysylltiadau Cymreig ac sy'n awyddus i gyfrannu. Dyma'r bobl orau i adrodd stori Cymru ac i ledaenu'r stori honno. Ein targed yw recriwtio 0.5 miliwn o bobl at y gwaith erbyn 2025. Mae'r cynllun gweithredu diaspora yn amlinellu sut byddwn yn manteisio ar egni'r diaspora er mwyn codi proffil rhyngwladol Cymru.
Lywydd, fel rhan o'n dull ehangach o gefnogi twf busnesau Cymru, rydym yn parhau i feithrin cydnerthedd economi Cymru yn wyneb COVID-19 a chyfnod pontio'r UE drwy roi cyngor a chymorth i allforwyr Cymru drwy ein rhwydwaith o gynghorwyr masnach rhyngwladol, gweminarau a rhaglenni cymorth allforio eraill. Rydym wedi gwella cymorth ar-lein sy'n darparu teithiau masnach rhithwir i farchnadoedd sy'n cynnwys Singapôr, Qatar a Japan, ac rydym wedi lansio hyb allforio ar-lein newydd sy'n rhoi cyngor cynhwysfawr i allforwyr. Ar yr un pryd, rydym wedi parhau i gryfhau ein dealltwriaeth o ble mae gan Gymru allu dosbarth rhyngwladol, mewn meysydd fel lled-ddargludyddion, seiberddiogelwch a gwyddorau bywyd, gan weithio gyda rhanddeiliaid a rhwydweithiau i hyrwyddo'r asedau Cymreig hyn i gynulleidfa fyd-eang.
Lywydd, mae'r pandemig wedi atgyfnerthu pwysigrwydd ein cysylltiadau rhyngwladol. Nawr yn fwy nag erioed, mae'n rhaid inni werthfawrogi gwerth Cymru sy'n edrych tuag allan. Mae'n rhaid inni gefnogi ein hallforwyr a denu buddsoddiad i helpu ein heconomi ddomestig i wella. Mae'n rhaid inni ddefnyddio diwylliant, chwaraeon, addysg ac ymchwil a datblygu i gefnogi cydweithredu rhyngwladol. Mae ein brwdfrydedd ynghylch partneriaethau cryf, cydfuddiannol ag Affrica yn sail i'n huchelgeisiau i fod yn genedl gyfrifol yn fyd-eang. Dim ond drwy gydweithio â'n partneriaid rhyngwladol y gallwn helpu ein gilydd i ymadfer, ailadeiladu ac atgyfnerthu enw da Cymru fel cenedl sy'n edrych tuag allan, ac sy'n benderfynol o chwarae ein rhan yn y byd ac elwa, yn ei thro, o'r holl gyfoeth a ddaw yn sgil hynny. Lywydd, diolch yn fawr.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Nawr, mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at nifer o adroddiadau a gweithgarwch diddorol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygu gyda phartneriaid, ac fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, mae rhai datblygiadau wedi bod o ran gweithio gydag eraill i gryfhau ymateb Llywodraeth Cymru i ymladd COVID-19. Er enghraifft, mae'r cynllun gweithredu perthnasoedd a rhwydweithiau rhanbarthol sy’n cael blaenoriaeth yn amlinellu lle mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhannu gwybodaeth ag eraill mewn perthynas ag effaith y feirws, ac yn archwilio cyfleoedd ar gyfer y cyfnod adfer. Yn y tymor byr, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i rannu ei gwybodaeth â Llywodraethau rhanbarthol eraill ledled Ewrop, gan ganolbwyntio'n benodol ar gydnerthedd economaidd a lliniaru gwendidau. Felly, mewn ymateb i'r datganiad heddiw, efallai y gallai'r Prif Weinidog ddweud rhagor wrthym ynglŷn â pha wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chael gan Lywodraethau eraill hyd yma, a sut y mae hynny wedi cael effaith ar benderfyniadau a pholisïau Llywodraeth Cymru. Ac a all ddweud wrthym hefyd pa wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhannu gyda Llywodraethau rhanbarthol eraill mewn perthynas â COVID-19?
Wrth gwrs, mae'r datganiad yn dweud yn glir fod strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru wedi'i llunio'n wreiddiol mewn ymateb i Brexit a datblygu cydnerthedd i Gymru a'n heconomi. Mae yna ymrwymiad clir o ran cymryd rhan yn rhai o'r un rhwydweithiau Ewropeaidd a rhyngwladol y mae Cymru'n cymryd rhan ynddynt ar hyn o bryd, ac mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn glir fod cyfleoedd broceriaeth ar gyfer rhaglenni Ewropeaidd. Fodd bynnag, nid yw'r cynllun gweithredu perthnasoedd a rhwydweithiau rhanbarthol sy’n cael blaenoriaeth na'r cynllun gweithredu cysylltiadau rhyngwladol drwy ddiplomyddiaeth gyhoeddus a chymell tawel yn rhoi enghreifftiau pendant o'r hyn y mae'r cyfleoedd broceriaeth hynny wedi'i ddarparu i Gymru hyd yma mewn gwirionedd. Felly, wrth ymateb i'r datganiad heddiw, efallai y gall y Prif Weinidog gyhoeddi rhestr o'r cyfleoedd broceriaeth a amlygwyd yn y cynlluniau gweithredu hyn, ochr yn ochr â rhestr o ble y manteisiwyd ar y cyfleoedd hynny, a beth y mae hynny wedi'i ddarparu i bobl Cymru.
Wrth gwrs, bydd llawer o effaith Brexit yn dibynnu ar ba delerau y bydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac felly mae'n bwysicach nag erioed fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio lle gallant er budd pobl Cymru. Felly, yn dilyn cyfarfod diweddar cyd-bwyllgor y Gweinidogion yr wythnos diwethaf, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Prif Weinidog ddweud ychydig mwy wrthym am unrhyw benderfyniadau a wnaed yn y cyfarfod hwnnw, ac am ddiweddariad cyffredinol ar gysylltiadau rhynglywodraethol cyfredol ar hyn o bryd, gan y bydd cysylltiadau rhynglywodraethol cryf yn sicr yn allweddol bwysig i godi proffil rhyngwladol Cymru a'r DU ar ôl Brexit.
Mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at ddatblygiadau diddorol mewn perthynas ag ymgysylltiad â Chymry ar wasgar, ac mae'n amlwg o gynllun gweithredu 2020-25 fod Llywodraeth Cymru yn gwneud ymdrech sylweddol i ddatblygu ei rhwydweithiau Cymry ar wasgar a chenhadon er mwyn hyrwyddo Cymru ar y llwyfan rhyngwladol. Fodd bynnag, mewn perthynas â rhwydwaith busnes y Cymry ar wasgar a'r rhwydweithiau Cymry ar wasgar byd-eang a grybwyllir yn y cynllun gweithredu, nid oes llawer o fanylion am y contractwyr sydd â'r dasg o fynd i'r afael â'r rhwydweithiau, ac o ganlyniad, mae'n anodd gwerthuso unrhyw ganlyniadau cychwynnol yn briodol. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog ddweud ychydig mwy wrthym am y contractwyr a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru, a'r rhesymau dros eu penodi? Ac a all y Prif Weinidog ddweud wrthym hefyd sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwerthuso canlyniadau'r rhwydweithiau hynny'n briodol, a sut y mae'n pennu lefel eu llwyddiant?
Mae strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gomisiynu adolygiad annibynnol cyflym o weithgarwch iechyd rhyngwladol presennol a'r seilwaith iechyd rhyngwladol presennol yng Nghymru, ac mae'r adolygiad hwnnw'n arbennig o bwysig yng ngoleuni pandemig COVID-19 a bydd yn llywio cyfeiriad teithio Llywodraeth Cymru. Felly, a all y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad cyflym hwnnw, pryd y caiff ei gynnal a phryd y bydd casgliadau'r adolygiad hwnnw ar gael i'r cyhoedd?
Lywydd, mae'r datganiad heddiw'n cyfeirio at newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd, ac un ffordd y gallwn gyflawni hynny yw drwy fynd i'r afael â datgoedwigo, sy'n sbardun sylweddol iawn i newid yn yr hinsawdd a cholli cynefinoedd, yn ogystal â risg pandemig. Mae adroddiad 'Riskier Business' y WWF a'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yn dangos bod llawer o nwyddau sy'n gyrru datgoedwigo mewn lleoedd fel yr Amazon yn cael eu mewnforio i Gymru a'u defnyddio mewn eitemau bob dydd, gan gynnwys bwyd. Felly, a all y Prif Weinidog gadarnhau p'un a yw'n cefnogi galwadau Maint Cymru, WWF Cymru ac RSPB Cymru i sicrhau mai Cymru fydd y genedl dim datgoedwigo gyntaf? Os felly, a all roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud i gyflawni'r nod hwnnw?
I gloi, Lywydd, er bod yn rhaid i rai adrannau Llywodraeth ystyried datblygiadau a thueddiadau rhyngwladol, mae'r Prif Weinidog yn gwybod fy mod o'r farn mai Llywodraeth y DU ddylai fod yn gyfrifol am y strategaeth drosfwaol ar gyfer datblygu rhyngwladol, gyda chydweithrediad Llywodraeth Cymru. Yn fy marn i, caiff pobl Cymru eu gwasanaethu'n well o fod yn rhan o Deyrnas Unedig gref, ac rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn parhau i ddadlau mai gweithio gyda Llywodraethau ledled y DU, dan strwythur ar y cyd, sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru. Diolch.
A gaf fi ddiolch i Paul Davies am y cwestiynau hynny? Fe wnaf fy ngorau i fynd i'r afael â nifer ohonynt. Gofynnodd am rai enghreifftiau o'r ffordd y mae ein cysylltiadau mewn rhannau eraill o'r byd wedi bod o fantais i ni yn ystod y pandemig hwn. Wel, nodais yn fy sylwadau agoriadol y ffordd y gallem ddefnyddio ein cysylltiadau yn Tsieina i sicrhau offer pwysig iawn a phrin i gwmni yma yng Nghaerdydd, sydd wedi mynd ymlaen i wneud cyfraniad mawr mewn perthynas â chyfarpar diogelu personol, nid yn unig i Gymru ond i'r Deyrnas Unedig gyfan.
Gwn y bydd yr Aelod yn cofio'r awyrennau a ddaeth i Faes Awyr Caerdydd yng nghamau cynnar y pandemig, gan ddod â chyflenwadau o gyfarpar diogelu personol o rannau eraill o'r byd. Cawsom y cyflenwadau hynny—cawsom hwy i Gymru—oherwydd y presenoldeb sydd gennym yma ar lawr gwlad. Cawsom rodd o rai masgiau pwysig iawn o Fiet-nam yn gynnar, pan oeddent yn brin iawn. Cawsom hwy o Fiet-nam oherwydd yr ymweliad a wnaeth y Gweinidog addysg â Fiet-nam a'r cysylltiadau sydd wedi datblygu ers hynny â'r wlad honno ym maes addysg. Oherwydd y berthynas honno â Chymru, roeddem yn gallu sicrhau'r cyflenwad pwysig hwnnw.
Yn fwy cyffredinol, drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru a thrwy gysylltiadau ein prif swyddog meddygol, rydym wedi cael cyfres o drafodaethau gyda gwledydd eraill sydd wedi cael profiad gwahanol, a phrofiad mwy llwyddiannus mewn ffordd, o ymdrin â'r coronafeirws na llawer o wledydd Ewrop a'r wlad hon—felly, trafodaethau gyda De Korea a thrafodaethau gyda Seland Newydd, er enghraifft. Rydym yn ffodus iawn fod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gorff sy'n cael ei gydnabod yn dda iawn yn rhyngwladol fel ffynhonnell arbenigedd. Yn gyfnewid am hynny, rydym wedi gallu dysgu oddi wrth eraill.
Gofynnodd Mr Davies am y trefniadau broceriaeth sydd gennym a'r cyfleoedd rydym wedi'u cael o ganlyniad. Wel, Lywydd, gadewch i mi ganolbwyntio ar un o'r pedair perthynas ranbarthol sy'n cael blaenoriaeth a nodwyd gennym yn ein dogfennau, sef ein perthynas â Gwlad y Basg. Cefais lythyr heddiw gan Arlywydd Gwlad y Basg yn ein gwahodd i ymweld â Gwlad y Basg eto cyn gynted ag y gallwn yn 2021, ac i fynd â thaith fasnach i Wlad y Basg.
Roedd Gwlad y Basg wedi nodi Cymru fel un o'i phum cyrchfan ryngwladol â blaenoriaeth cyn i'n dogfennau ein hunain gael eu cyhoeddi. O ganlyniad i hynny, rydym wedi gallu dod o hyd i gyfleoedd i weithio gyda Mondragon, cyfres gydweithredol fwyaf y byd o fusnesau. Byddwn wedi elwa drwy ddod â Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles, y cwmni gweithgynhyrchu trenau, i Gasnewydd. Ymwelais â CAF fy hun pan oeddwn yng Ngwlad y Basg yn trafod materion trethiant gyda Llywodraeth Gwlad y Basg. Mae gennym gysylltiadau seiberddiogelwch â Gwlad y Basg; mae gennym gysylltiadau gwyddorau bywyd; mae gennym gysylltiadau bwyd-amaeth â Gwlad y Basg. A llwyddasom mewn ffordd gwbl wahanol, Lywydd, i gael trafodaeth gyda swyddogion Llywodraeth Gwlad y Basg yn gynharach yr hydref hwn am y ffordd roeddent yn gallu cynnal eu hetholiadau rhanbarthol ym mis Mehefin eleni ar anterth y pandemig coronafeirws, gan feddwl ymlaen at ein hetholiadau ein hunain ym mis Mai y flwyddyn nesaf, a chanfod sut y gallwn gynnal yr etholiadau hynny mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag y feirws a pharhau i gynyddu cyfranogiad pobl.
Felly, gallwn ailadrodd y rhestr honno mewn perthynas â'r rhanbarthau eraill rydym yn canolbwyntio arnynt, ond rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi syniad o'r manteision cadarn iawn sy'n deillio o'r cyfleoedd a ddaw i Gymru pan fyddwch yn sefydlu'r cysylltiadau hyn, o ran cyfnewid diwylliannol, o ran cysylltiadau economaidd, ac o ran cysylltiadau hirsefydlog.
Gofynnodd arweinydd yr wrthblaid am gysylltiadau rhynglywodraethol. Wel, nid wyf am ailadrodd y prynhawn yma, Lywydd, y nifer fawr o siomedigaethau a gafwyd wrth geisio perswadio Llywodraeth y DU i sefydlu cysylltiadau rhynglywodraethol o fewn y Deyrnas Unedig. Gadewch i mi fod yn gadarnhaol yn lle hynny a dweud ein bod yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU wrth hyrwyddo Cymru dramor. Rydym bob amser wedi cael gwasanaeth da iawn gan lysgenadaethau dramor pan fydd Gweinidogion Cymru yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd, dirprwyaethau masnach, a ffyrdd eraill o hyrwyddo Cymru mewn rhannau eraill o'r byd. Cefais y fraint, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, o gynrychioli Cymru mewn digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi ym Mrwsel ac ym Mharis. Ar y ddau achlysur hwnnw, cawsom ymgysylltiad cryf a chadarnhaol iawn â Llywodraeth y DU, gan ddefnyddio cysylltiadau ac adeiladau llysgenadaethau yn y prifddinasoedd Ewropeaidd hynny, ac ar yr agenda hon, yn wahanol i rai eraill, credaf y gallwn ddweud bod ein hymdrechion yno i ategu rhai o'r pethau y mae'r Deyrnas Unedig yn eu gwneud, ond hefyd i siarad yn uniongyrchol ar ran Cymru.
Un o'r pethau rwy'n credu y byddai arweinydd yr wrthblaid wedi ei nodi yw bod busnesau yng Nghymru yn troi at Lywodraeth Cymru yn arbennig i wneud y pethau hynny sy'n eu helpu i ddod o hyd i farchnadoedd ar gyfer eu cynnyrch a chyfleoedd economaidd newydd sy'n dod i bobl sy'n gweithio yng Nghymru drwy hyrwyddo Cymru ym mhopeth a wna. Pan oeddwn yn Japan fel rhan o Gwpan Rygbi'r Byd, cafwyd taith fasnach o Gymru yn Japan ar yr un pryd. Cawsom ddigwyddiad mawr yn y llysgenhadaeth yn Tokyo, a gynhaliwyd gan lysgennad y DU a minnau ar y cyd. Daeth cannoedd o bobl, yn llythrennol, i'r derbyniad, yn cynrychioli cyfleoedd economaidd Japan i Gymru, a dyna'r ffordd y mae ein strategaeth ryngwladol yn ein galluogi i weithredu ochr yn ochr â'r manteision busnes hynny yng Nghymru.
Rydym wedi tanddefnyddio'r Cymru ar Wasgar yma yng Nghymru, Lywydd. Nid wyf yn credu bod unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Fi oedd y prif siaradwr yn nigwyddiad croeso adref Belfast ym mis Hydref y llynedd. Cannoedd a channoedd o bobl o dras Gwyddelig, sy'n flaenllaw bellach yn yr Unol Daleithiau, yn dod adref i Belfast—unwaith eto, dathliad o gysylltiadau diwylliannol, a chyfleoedd busnes hefyd. Rydym wedi gweithio'n agos ers hynny gyda phobl sydd wedi helpu gweinyddiaeth Gogledd Iwerddon i fanteisio i'r eithaf ar ei diaspora ac rydym eisiau manteisio ar y cyfleoedd hynny nawr i wneud mwy yma yng Nghymru.
O ran gweithgarwch iechyd, rwy'n falch iawn ein bod, yr wythnos hon, wedi gallu llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth newydd gyda Sefydliad Iechyd y Byd, gan sicrhau unwaith eto fod y pethau y gallwn eu cynnig yn y byd yn cyd-fynd â'r hyn rydym yn ei ddysgu gan y byd yn gyfnewid am hynny, yn enwedig ym maes iechyd.
Ac o ran datgoedwigo, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn gweithio'n agos iawn gyda'r sefydliadau a nododd Paul Davies. Drwy'r sefydliadau hynny rydym wedi datblygu cynllun plannu coed Mbale, y cyfeiriais ato yn fy sylwadau agoriadol—plannwyd 10 miliwn o goed eisoes yn y rhan honno o Uganda. Unwaith eto, cefais y fraint wirioneddol, cyn i argyfwng y coronafeirws ddechrau, o blannu coeden yma yng Nghaerdydd i nodi bod 10 miliwn o goed wedi cael eu plannu yn Uganda, ac i weld y bobl ifanc rydym mewn partneriaeth â hwy yn y rhan honno o'r byd, y brwdfrydedd enfawr y maent yn ei gyfrannu i'r prosiect hwnnw a'r ffordd y mae eu gwybodaeth am Gymru yn rhan o'u profiad bob dydd. Lywydd, un enghraifft yn unig yw honno o'r gwaith rydym yn ei wneud yn y maes hwnnw. Dyna ein cyfraniad at fater newid yn yr hinsawdd a datgoedwigo. Ac mae mwy, rwy'n siŵr, y byddwn eisiau ei wneud yn y dyfodol, gan gynnwys yn y meysydd y cyfeiriodd Paul Davies atynt.
A gaf fi ddiolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog am y datganiad hwn ar gyflawniad y strategaeth ryngwladol? Roeddwn am ganu clodydd Gwlad y Basg hefyd, ond o ystyried yr amser, nid wyf am ddweud cymaint, heblaw am grybwyll, yn amlwg, fod yr iaith Fasgeg, y Wyddeleg a'r Gymraeg bob amser mewn cystadleuaeth gyfeillgar o ran pa un yw'r iaith fyw hynaf yn Ewrop. Rydym mewn cystadleuaeth gyfeillgar drwy'r amser; dylid annog pob math o gystadlaethau rhyngwladol cyfeillgar o’r fath.
Nawr, yn amlwg, rydym wedi trafod y strategaeth ryngwladol o'r blaen. A gaf fi ddiolch i Eluned Morgan am yr holl gyfarfodydd ynghylch hynny yn ei rôl flaenorol? Rydym bellach yn symud ymlaen i gyflawni yn hytrach na disgrifio yn unig—mor bwysig yn y cyfnod cythryblus hwn. Felly, ceir un neu ddau o faterion penodol. O ran ymagwedd Cymru tuag fasnach a brand Cymru-Wales, mae'n dda gweld Llywodraeth Cymru yn gwthio brand Cymru-Wales. Yn amlwg, gyda Brexit ar y gorwel, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn mabwysiadu ymagwedd Gymreig unigryw tuag at fasnachu, rhywbeth sy’n cael ei golli'n rhy aml o lawer yn strategaeth Invest in GREAT Britain Llywodraeth y DU. Felly, a gaf fi ofyn pa rôl y mae'r Prif Weinidog yn credu y bydd busnesau bach a chanolig Cymru yn ei chwarae yn y strategaeth ryngwladol hon ar gyfer Cymru?
Gan symud ymlaen at y Cymry ar wasgar a’r rhan o'r strategaeth hon sy’n ymwneud ag ymgysylltu â Chymry ar wasgar, fe’i disgrifiwyd, fel y nododd y Prif Weinidog, fel ased a danddefnyddiwyd. Rwy’n sicr yn cytuno â hynny, yn sicr mewn perthynas ag Unol Daleithiau America. Credaf y bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod fy mab a fy ŵyr yn byw yn Oklahoma, fel oddeutu 2 filiwn o bobl eraill o dras Gymreig. Pan oeddwn allan yn yr Unol Daleithiau ddiwethaf, rwy'n cofio Llywodraethwr talaith Wisconsin yn arwain y dathliadau ar Ddydd Gŵyl Dewi i gydnabod cyfraniad 40,000 o drigolion Wisconsin—Wisconsin yn unig—a oedd o dras Gymreig. Gwnaed cryn dipyn o sioe o bopeth Cymreig ar 1 Mawrth. Nawr, flynyddoedd yn ôl, roedd 300 o gapeli Cymraeg eu hiaith yn Wisconsin. Cafodd Frank Lloyd Wright, y pensaer mawr ei fri, ei eni a'i fagu mewn teulu Cymraeg eu hiaith mewn cymuned wledig Gymraeg—nid yng Ngheredigion fel ei fam, ond yng nghefn gwlad Wisconsin.
Y gamp, felly, yw sut i droi hanes rhamantus yn rhagor o fasnach, gan ddefnyddio ein cysylltiadau hanesyddol. Yn ychwanegol at yr hyn a grybwyllir mewn cryn fanylder yn y dogfennau, mae gefeillio yn un ffordd. Rwyf wedi sôn am hyn o'r blaen wrth Eluned Morgan, ac yn amlwg, rydym wedi cael llawer o drefniadau gefeillio ffurfiol ac anffurfiol dros y blynyddoedd, yn cynnwys trefi a phentrefi, a dinasoedd, yn wir, yma yng Nghymru. Nawr, flwyddyn neu ddwy yn ôl, bu arweinwyr busnes o Oklahoma draw yma a chawsant gyfarfod ag Eluned Morgan a minnau, ac roeddent yn awyddus i greu cysylltiadau a mynd ar drywydd trefniadau gefeillio â Chymru—gefeilliodd Dinas Oklahoma â Chaerdydd, a gefeilliodd Tulsa, yr ail ddinas, ag Abertawe. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn rhagweld y bydd y Llywodraeth yn adeiladu ar gysylltiadau o'r fath wrth gyflawni’r strategaeth?
Gan ein bod yn trafod Cymry ar wasgar, yn amlwg, yn y ddogfennaeth, mae’r ymdrechion penodol ac wedi'u targedu i ymgysylltu â Chymry ar wasgar i’w croesawu’n fawr, ac rwy'n cydnabod y gwaith sy'n mynd rhagddo. Mae'n peri pryder i mi, serch hynny, fod Llywodraeth Cymru yn teimlo bod angen iddynt gontractio rhai o'r cyfrifoldebau i gyflawni'r rhwydwaith busnes Cymry ar wasgar a chynllun Cymry ar wasgar byd-eang i drydydd parti allanol. A yw’r Prif Weinidog yn cytuno â mi y byddai’n well pe bai’r cyfrifoldeb am ymgysylltu â'r Cymry ar wasgar o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru, er mwyn denu pobl yn ôl i Gymru i weithio neu i ymweld, yn ogystal â'u galluogi i weithredu fel llysgenhadon yn eu gwledydd mabwysiedig? Gallech efelychu croeso adref Belfast, efallai.
Trof at un neu ddau o gwestiynau olaf, cyn imi gloi, ar fod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Mae'r pwynt eisoes wedi'i wneud ynglŷn â datgoedwigo, ond mae hynny'n hanfodol bwysig. Mae cyfraniad Cymru i'r byd—. Mae pob un ohonom yn edrych tuag allan yn rhyngwladol. A ydych yn bwriadu cymryd camau, Brif Weinidog, ar ddatgoedwigo a chael gwared ar gynhyrchion mewn cadwyni cyflenwi byd-eang sy'n cael eu mewnforio i Gymru ac yn achosi niwed sylweddol i'r amgylchedd mewn mannau eraill, megis y datgoedwigo sy'n gysylltiedig â chynhyrchu blawd ffa soia ar gyfer da byw a’r olew palmwydd a geir mewn eitemau cyffredin mewn archfarchnadoedd? Mae'n ymwneud â mwy na phlannu coed yn rhywle arall; mae’n ymwneud hefyd â'r hyn a wnawn gyda chynhyrchion niweidiol.
Mae fy mhwynt olaf yn ymwneud â’r fasnach arfau. Mae'r cynlluniau gweithredu hefyd yn nodi bod Cymru yn anelu at ddod yn genedl noddfa, sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo hawliau dynol, fel rydych wedi'i ddweud, a hyrwyddo heddwch a masnach foesegol—heddwch yn enwedig ar ddiwrnod fel hwn, 11 Tachwedd. Ym mis Medi 2019, dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n adolygu presenoldeb Llywodraeth Cymru yn un o ffeiriau arfau mwyaf y byd. Felly, Brif Weinidog, a gaf fi ofyn i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â'r adolygiad hwnnw o'ch presenoldeb mewn ffeiriau arfau, a rhoi gwybod inni hefyd sut y byddwch yn sicrhau nad yw strategaeth ryngwladol Cymru ac economi Cymru yn gyffredinol yn cyfrannu at wrthdaro byd-eang neu at y fasnach arfau, sy'n achosi dinistr i gymunedau mewn rhannau eraill o'r byd?
Diolch yn fawr i Dai Lloyd.
Rwyf ar fai am beidio â sôn am yr iaith mewn perthynas â Gwlad y Basg, gan fod rhai o'n cysylltiadau mwyaf hirsefydlog â'r wlad honno yn deillio o'r cymorth a roddodd Cymru i ddatblygiad Gwlad y Basg, ar ôl marwolaeth Franco, ym maes cynllunio ieithyddol. Nawr, mewn rhai ffyrdd, gallech ddadlau eu bod wedi cael mwy o lwyddiant mewn rhai ffyrdd ers adfywiad yr iaith Fasgeg. Ond bûm yn ddigon ffodus i ymweld â Mondrágon pan ddeuthum yn Aelod Cynulliad am y tro cyntaf, a phan oeddwn yn Vitoria, prifddinas Gwlad y Basg, cyfarfûm â grŵp o bobl roeddwn yn eu hadnabod o Gaerdydd, ac roeddent yno’n helpu Llywodraeth Gwlad y Basg gyda chynllunio ieithyddol, gan bwyso ar ein profiad yma yng Nghymru. Felly, dyna gysylltiad pwerus iawn arall rhyngom.
Gofynnodd Dr Lloyd am fusnesau bach a chanolig Cymru a'u rôl yn allforio a brand Cymru-Wales. Mae hwn yn gyfnod anodd iawn, iawn i fusnesau bach a chanolig Cymru. Mae’r coronafeirws wedi effeithio arnynt, ac maent bellach yn wynebu'r rhwystrau newydd enfawr a fydd yn cael eu rhoi yn eu ffordd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn enwedig os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y telerau gwannaf neu heb delerau o gwbl. Felly, mae'r cymorth y gallwn ei gynnig i'r cwmnïau hynny hyd yn oed yn bwysicach yn y ffordd honno. Ond bydd eu gallu i fasnachu, ac i fasnachu'n rhydd gyda'n marchnad fwyaf ac agosaf, wedi’i beryglu gan yr hyn sydd wedi digwydd, ac ni ellir gwadu hynny. Mae eu gwneud yn rhan o frand Cymru-Wales yn rhan o'n hymdrech i geisio gwneud iawn iddynt am y rhwystrau newydd sy'n cael eu rhoi yn eu ffordd mewn perthynas â'r cysylltiadau masnach hynny.
Diolch i Dr Lloyd am bopeth y tynnodd sylw ato mewn perthynas â'r profiad Cymreig-Americanaidd a'r ffordd rydym yn troi hanes yn gyfle. Rhoddaf un enghraifft nad yw’n cymharu efallai, ond sydd o leiaf yn ategu'r enghraifft a roddodd gyda Frank Lloyd Wright. Bydd llawer o’r Aelodau yma yn y Senedd yn gwybod am yr hyn a ddigwyddodd yn Birmingham yn Alabama yn ôl yn haf 1963, pan arweiniodd Dr Martin Luther King grŵp o blant i barciau cyhoeddus gwahanedig yn y ddinas honno, a sut y cafodd eglwys y Bedyddwyr yn Alabama ei bomio gan ymwahanwyr gwyn, gan ladd pedair merch ddu ifanc a oedd yn mynychu'r ysgol Sul. Cododd yr arlunydd o Gymro, John Petts, arian yma yng Nghymru, apêl a arweiniwyd yn rhannol gan y Western Mail, i greu ffenestr yn yr eglwys honno, ffenestr anhygoel gan bobl Cymru, fel y mae'n dweud ar y ffenestr.
Ymwelodd ein Gweinidog addysg â Birmingham, Alabama ym mis Medi y llynedd. Ymwelodd â'r eglwys. Rhoddodd feibl Cymraeg yn anrheg ar ran pobl Cymru i gyd-fynd â'r ffenestr Gymreig fel y’i gelwir, yn yr eglwys honno. Yn fuan iawn wedi hynny, cafwyd seremoni, seremoni fawr, yn yr eglwys ei hun i fyfyrio ar yr holl hanes hwnnw. Siaradodd arweinydd ein cenhadaeth yn yr Unol Daleithiau o’r platfform y prynhawn hwnnw, a phwy oedd yn rhannu'r platfform ag ef? Wel, y siaradwr arall yn y digwyddiad oedd neb llai na darpar-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden. A dyna sut, fel y dywedodd Dr Lloyd, y gallwn droi ein hanes yn gyfle. A gwn y bydd hwnnw’n floc adeiladu yn ein gallu i greu perthynas â'r weinyddiaeth newydd yn UDA.
Holodd Dai Lloyd ynghylch contractio'r gwaith ar y Cymry ar wasgar. Wel, wyddoch chi, Dai, daeth y syniad yn rhannol o fod yn nigwyddiad croeso adref Belfast, gan mai dyna sut y maent hwy’n ei wneud. Mae ganddynt gwmnïau yno a chanddynt arbenigedd gwirioneddol mewn adeiladu rhwydweithiau dramor, y modd rydych yn dod o hyd i bobl o dras Gymreig, sut i ennyn eu diddordeb mewn dod yn llysgenhadon dros Gymru mewn rhannau eraill o'r byd. A dyna rydym yn ceisio ei wneud. Rydym yn ceisio defnyddio arbenigedd sydd gan eraill ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, gan ein bod yn dechrau o le gwahanol, onid ydym, i’n cymheiriaid yn yr Alban neu Iwerddon.
Rydym am wneud mwy ym maes datgoedwigo. Rwy'n llwyr gydnabod y pwyntiau a wnaeth Dr Lloyd. Weithiau, mae'n rhaid inni fod yn realistig ynghylch y pwerau sydd gennym yn nwylo Llywodraeth Cymru i gymryd camau a all wneud gwahaniaeth o ran y materion a nodwyd gan Paul Davies ac yntau hefyd y prynhawn yma.
Ac yn olaf, ar y fasnach arfau, fe wnaethom gynnal adolygiad. Bydd ein presenoldeb mewn digwyddiadau o'r fath yn wahanol yn y dyfodol o ganlyniad i hynny. Ond mae'r term 'masnach arfau' weithiau'n cael ei ddefnyddio fel term cyffredinol i ddisgrifio ystod eang o weithgareddau, gyda rhai ohonynt yn chwarae rhan fuddiol yn y byd, drwy gynnig diogelwch i boblogaethau a fyddai fel arall yn agored i niwed gan eraill. Felly, mae pethau y gellir eu gwneud sy'n gadarnhaol ac yn werth chweil, ac mae yna weithwyr yng Nghymru sy'n ennill eu bywoliaeth yn y meysydd hyn. Rwyf am i Lywodraeth Cymru fod wedi’i halinio â'r dibenion cadarnhaol hynny, ac os bydd gennym bresenoldeb mewn ffeiriau masnach yn y dyfodol, bydd hynny er mwyn pwysleisio'r pethau y gellir eu gwneud ac a fyddai'n unol â'n hymagwedd foesegol, ac yn unol â’r ymagwedd a nodwyd gennym yn y cynlluniau gweithredu a gyhoeddwyd heddiw.
Brif Weinidog, yn gyntaf, a gaf fi ganmol y gwaith a wnaed gan Eluned Morgan yn datblygu ein strategaeth ryngwladol a Llywodraeth Cymru yn gyffredinol am gydnabod pwysigrwydd sylfaenol ymgysylltu rhyngwladol a chysylltiadau cymdeithasol, diwylliannol, ac economaidd, a hefyd yn cefnogi rhaglen Cymru o Blaid Affrica? Mae'r rhai ohonom sydd wedi bod yn ymwneud â’r rhaglen honno wedi gweld yr effaith sylweddol y mae wedi’i chael ar fywydau llawer o bobl yn Uganda. Ac rwy’n meddwl hefyd am y rheini sydd wedi cymryd rhan mewn rhaglen o Gymru. Mae elusen PONT, sydd wedi'i lleoli ym Mhontypridd fel y gwyddoch, wedi chwarae rhan arwyddocaol yn natblygiad y rhaglen honno, ac roeddwn yn arbennig o awyddus i gofnodi fy nghefnogaeth i'r gwaith gwych a wnânt.
A gaf fi ddweud hefyd fod y pedair blynedd diwethaf yn UDA wedi dangos i ni pa mor bwysig yw'r cysylltiadau hyn a pha mor bwysig yw ein sefydliadau rhyngwladol yw hynny—yr Undeb Ewropeaidd, y Cenhedloedd Unedig, Sefydliad Iechyd y Byd a'r rhwydweithiau amgylcheddol rhyngwladol, fel cytundeb Paris? Credaf y bydd ethol Joe Biden yn Arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau yn adnewyddu rhai o’n gobeithion a’n credoau mai drwy ymgysylltiad rhyngwladol a chwalu rhwystrau rhyngwladol y byddwn yn datrys rhai o broblemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol y byd er budd holl ddinasyddion y byd.
Nawr, fel rydych wedi dweud, mae gadael yr UE a'r amheuon ynghylch cytundeb masnach yn cyflwyno llawer o heriau economaidd. Felly, mae'n rhaid inni ddefnyddio’r holl ysgogiadau sydd ar gael at ein defnydd. Tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am statws cyfredol ein cysylltiadau â'r Undeb Ewropeaidd a sut y gallent ddatblygu? Mae ymgysylltu â Phwyllgor Rhanbarthau Ewrop yn hanfodol i Gymru a gwn fod trafodaethau'n mynd rhagddynt ar barhau â hynny wedi inni adael yr UE. Mae ein haelodaeth o Gynulliad Seneddol Cyngor Ewrop yn un arall. A tybed a allech roi diweddariad i ni, efallai, ar statws cyfredol Swyddfa Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae hwn yn gyfleuster hanfodol—mae'n llysgenhadaeth i Gymru mewn perthynas sydd, er ei bod yn wynebu rhwystr, yn cyflwyno llawer o gyfleoedd i Gymru yn y dyfodol serch hynny.
A fyddwch hefyd yn arwain dirprwyaeth i’r Unol Daleithiau pan fydd COVID yn caniatáu, i adeiladu ar ein proffil yno, ond hefyd i sicrhau ein bod yn ymgysylltu i’r graddau mwyaf posibl â busnesau Americanaidd, fel General Electric yn Cincinnati—wrth gwrs, busnes a diwydiant pwysig yn fy etholaeth i—ond hefyd i ymgysylltu â Llywodraeth newydd yr Unol Daleithiau i godi proffil Cymru yn ogystal â’r meysydd sy'n bwysig i ni ynghylch cytundeb masnach yn y dyfodol?
Tybed a wnewch chi ystyried hefyd sut i hybu cefnogaeth, pan fydd COVID yn caniatáu, i’n llysgenhadon diwylliannol adnabyddus—ein corau, ein ensemblau dawns a gwerin a’n bandiau, fel y Band y Cory, sy’n bencampwyr y byd—pan fyddant yn teithio’r byd i ddatblygu pecyn cynhwysfawr o gymorth sy'n cysylltu ag agendâu diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd?
Ac yna, yn olaf, ar y maes gwleidyddol rhyngwladol, y bwriad yn y flwyddyn newydd yw dadorchuddio plac i goffáu gweithredoedd arwrol y Cymro, y Capten Archibald Dickson, a achubodd filoedd o ddynion, menywod a phlant o’r blocâd ffasgaidd yn Alicante yn ystod rhyfel cartref Sbaen. Nawr, mae'r Capten Dickson yn cael ei goffáu yno fel arwr—yn Alicante—ond hyd yn hyn, nid yw yr un mor gyfarwydd yng Nghymru. Felly, y bwriad yw cynnal digwyddiad dinesig ar y cyd yng Nghymru, gyda Sbaen a Chymru. Yn Kiev, prifddinas Ukrain, mae stryd wedi'i henwi nawr ar ôl y newyddiadurwr o Gymru, Gareth Jones, a tybed a wnewch chi ystyried ffyrdd o gydnabod y ddau ddigwyddiad pwysig hwn, sydd mewn gwirionedd yn ficrocosm o rai o'r cyfraniadau pwysig y mae Cymru wedi eu gwneud i'r byd ac sy'n arwydd o faint yn fwy y gallwn ei wneud yn y dyfodol. Diolch, Brif Weinidog.
Lywydd, diolch i Mick Antoniw am bob un o'r pwyntiau diddorol a phwysig hynny. Credaf fod rhaglen Cymru o Blaid Affrica yn un o lwyddiannau di-glod hanes datganoli. Pan oeddwn yn Weinidog iechyd, cefais gyfres o gyfleoedd i gyfarfod â phobl: pobl a ddoi o Affrica i Gymru i gymryd rhan mewn digwyddiadau neu i gael eu hyfforddi mewn sgiliau penodol y gallent eu defnyddio wedyn yn yr arena iechyd, a hefyd i gyfarfod â'r bobl wych hynny, y grwpiau gwirfoddol hynny ym mhob rhan o Gymru a'r aelodau o'n gwasanaeth iechyd, sy'n rhoi eu hamser yn ystod eu gwyliau. Maent yn gweithio drwy'r flwyddyn yng ngwasanaeth iechyd Cymru ac maent yn defnyddio'r ychydig wythnosau o wyliau sydd ganddynt i fynd i Affrica ac i fynd â’u sgiliau ac i hyfforddi pobl eraill yno. Dyma rai o'r pethau gorau rydym yn eu gwneud, ac mae'r holl ymdrech wirfoddol honno drwy PONT a sefydliadau yn etholaethau'r holl Aelodau, rwy'n siŵr, yn enghraifft mor dda o’r ysbryd hael a welwn yma yng Nghymru.
Mae Mick Antoniw yn gwneud pwynt pwysig iawn, Lywydd, am y ffordd y mae'r pedair blynedd diwethaf wedi datgelu bregusrwydd rhai sefydliadau rhyngwladol allweddol roedd llawer ohonom wedi'u cymryd yn ganiataol, boed yn NATO neu'n Sefydliad Iechyd y Byd, neu gytgord hinsawdd Paris. A gadewch inni obeithio y gallwn edrych ymlaen at rywbeth llawer gwell na hynny yn y pedair blynedd i ddod.
Efallai fod Cymru yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond nid ydym yn gadael Ewrop, ac mae'r holl bethau a ddywedodd Mick Antoniw yn parhau i fod yn bwysig iawn i bobl yma yng Nghymru. Lywydd, ni soniais yn fy natganiad, ond gallwn fod wedi gwneud, am yr holl waith rhyngwladol a wneir ar ochr seneddol y Senedd, a phwysigrwydd hynny—ym Mhwyllgor y Rhanbarthau, drwy'r gymdeithas seneddol ac yn y blaen, fel y soniodd Mick. Bydd Swyddfa Cymru yn parhau i fod ar agor ym Mrwsel. Bydd yn parhau i fod yn ganolbwynt hanfodol i'n sefydliadau addysg uwch pan fyddant yn cymryd rhan mewn ymchwil gydweithredol â sefydliadau eraill yn Ewrop. Bydd yn lle y gall pobl fusnes fynd. Siaradais yno mewn cynhadledd i fusnesau seiberddiogelwch ychydig cyn i argyfwng y coronafeirws daro. Bydd yn parhau i fod yn fan lle gall y cawcws newydd rydym yn ei ddatblygu o seneddwyr yn Senedd Ewrop i ddangos diddordeb yng Nghymru gyfarfod a rhyngweithio â ni.
Yn yr Unol Daleithiau, mae'r cawcws yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr, y cawcws Cymreig, yn cael ei roi at ei gilydd o’r newydd unwaith eto, gan fod yr etholiadau newydd eu cynnal. Rydym yn ffodus iawn i gael cefnogaeth gref nifer o gyngreswyr. Ac fe chwaraeodd fy rhagflaenydd, Carwyn Jones, ran weithgar iawn fel y gwyddoch yn arwain dirprwyaethau i’r Unol Daleithiau, yn enwedig o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi, gan fanteisio ar lawer o gyfleoedd i sicrhau bod y Cymry ar wasgar sydd gennym yno eisoes yn cael cefnogaeth lawn y Senedd a Llywodraeth Cymru, a llysgenhadon diwylliannol, fel y dywedodd Mick Antoniw, yn y celfyddydau, ond ym maes chwaraeon hefyd. Am beth y mae Cymru'n adnabyddus ledled y byd? Rydym yn adnabyddus am ein llysgenhadon diwylliannol, boed yn unigolion neu’n sefydliadau fel Band y Cory neu Opera Cenedlaethol Cymru, ond yn y byd chwaraeon hefyd. Dyna'r pethau sy'n tynnu sylw’r byd at Gymru, ac mae ein strategaeth ryngwladol yn ymwneud â sicrhau cymaint o hynny â phosibl er budd Cymru gyfan.
Edrychaf ymlaen yn fawr at fod yn bresennol pan gaiff y plac i'r Capten Dickson ei ddadorchuddio. Mae wedi cymryd gormod o amser i sicrhau bod hynny'n digwydd, ond o’r diwedd, gyda chefnogaeth gref nifer o'r Aelodau o'r Senedd, gan gynnwys Mick Antoniw a minnau, fe welwn ni hynny—cofeb go iawn i rywun a ddangosodd yn eu bywyd eu hunain yr holl rinweddau rydym wedi bod yn sôn amdanynt ac sy'n gwneud Cymru yn rym cadarnhaol er daioni yn yr arena ryngwladol.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Rwyf wrth fy modd fod y DU ar fin dod yn wlad sofran annibynnol, a chroesawaf y wybodaeth ddiweddaraf ar y strategaeth a fydd yn parhau â'r daith i roi Cymru ar fap y byd, a'i chadw yno.
Hoffwn godi mater brandio. Gwn fod hen frand Awdurdod Datblygu Cymru hefyd yn cael ei ystyried yn frand Cymru, ond nid wyf erioed wedi gweld na deall sut olwg sydd ar frand Cymru mewn gwirionedd, ers ei dranc. Ac os nad wyf i’n gwybod, sut y bydd busnesau a phobl ar ochr arall y byd yn gwybod? Felly, fy nghwestiwn cyntaf yw: beth y mae eich strategaeth yn ei olygu ar gyfer brand i Gymru?
Credaf fod chwaraeon yn faes allweddol bwysig, lle gallwn adeiladu ar ein henw da am ragoriaeth. Ond mae angen inni fod yn barod i fachu ar gyfleoedd annisgwyl, yn enwedig nawr, yn y cyfnod ar ôl y pandemig.
Soniais yn y Siambr hon ychydig wythnosau yn ôl am fuddugoliaeth debygol Elfyn Evans yng nghyfres Pencampwriaeth Rali'r Byd. Mae hyn, yn fy marn i, yn un o'r cyfleoedd annisgwyl hynny y mae angen bachu arnynt. Yn wir, cefais ateb gan y Gweinidog ar ddyfodol Rali Cymru GB y flwyddyn nesaf, ond roedd mor anymrwymol nes ei fod yn ddiystyr mewn gwirionedd. Brif Weinidog, a yw eich strategaeth yn caniatáu i Gymru fod yn chwim ac i allu ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau a buddugoliaethau a allai ddigwydd yn annisgwyl? Rwy'n gwerthfawrogi'r ffocws ar Gymru fel cenedl o greadigrwydd, arloesedd a thechnoleg. Fodd bynnag, ymddengys nad yw cau Inner Space yng Nghasnewydd, sefydliad a grëwyd i fonopoleiddio'r union feysydd hyn, yn cyd-fynd yn dda â'r rhan hon o'r strategaeth. Felly, sut y byddwch yn sicrhau bod penderfyniadau polisi yn gydgysylltiedig ac yn bodloni holl ofynion eich Llywodraeth, fel cenedlaethau'r dyfodol, cynaliadwyedd a'r amgylchedd? Mae Cymru, am y tro, yn dal i fod yn rhan annatod o'r Deyrnas Unedig, ac mae pedair Llywodraeth yn cystadlu yn yr un gofod, pob un, rwy'n dychmygu, yn gwneud honiadau tebyg am dirwedd, diwylliant a hanes. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gyda Llywodraethau eraill y DU i sicrhau bod pob gwlad yn cael cyfran deg o sylw? Ac fel arall, pa gamau rydych yn eu cymryd i ddod o hyd i bwynt gwerthu unigryw ar gyfer Cymru?
Brif Weinidog, gwelais y cyhoeddiad diweddar ynghylch y llysgennad i'r Emiraethau Arabaidd Unedig. Rwy'n canmol yr ymagwedd hon yn fawr. Ymddengys bod gennym bobl drawiadol a chanddynt gymwysterau rhagorol yn chwifio'r faner, yn llythrennol, dros Gymru. Fy nghwestiwn olaf, Brif Weinidog, yw sut y bydd eich Llywodraeth yn asesu effeithiolrwydd eich strategaeth? Byddai'n dda gennyf wybod sut olwg sydd ar lwyddiant i chi a'ch Llywodraeth ar hyn o bryd. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Mandy Jones am ei chwestiynau. Wel, credaf mai Cymru yw'r brand, ac mai'r ymagwedd rydym yn ei mabwysiadu tuag at frand Cymru-Wales yw hynny’n union—defnyddio Cymru ei hun fel y brand rydym yn ei ddefnyddio i gyfathrebu â gweddill y byd. Rwy'n fwy na pharod i ddarparu’r deunydd diweddaraf rydym yn ei ddefnyddio i wneud hynny i’r Aelod.
Cytunaf â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am allu chwilio am gyfleoedd lle maent yn codi. Yn sicr, gwnaethom hynny mewn perthynas â beicio, er enghraifft, camp arall lle mae cynnydd Cymro i amlygrwydd rhyngwladol ar ôl ennill y Tour de France wedi rhoi cyfleoedd newydd inni sicrhau bod Cymru'n adnabyddus yn y gamp honno, a’r dimensiwn rhyngwladol ar y gamp honno. Rydym wedi dod â mwy o ddigwyddiadau beicio yma i Gymru. Rydym yn trafod a oes cyfleoedd pellach y gallem eu defnyddio, fel yr awgrymodd Mandy Jones, i edrych am y cyfleoedd hynny wrth iddynt godi. Mae'n rhaid inni weithio gydag eraill, mae hynny'n sicr. Cyfeiriais at y groeso adref Belfast; cydweithrediad oedd hwnnw a gawsom gydag aelod o'r—wel, nid oedd Gweithrediaeth ar y pryd, ond rhywun a oedd wedi bod yn aelod o Weithrediaeth Gogledd Iwerddon. Ac rydym wedi cael trafodaethau gyda'r Alban. Er enghraifft, mae gennym bresenoldeb mewn rhai rhannau o'r byd lle nad oes ganddynt hwy; yn yr un modd mae ganddynt hwythau bresenoldeb mewn rhai rhannau o'r byd lle nad oes swyddfa gan Gymru. Rydym wedi sôn ynglŷn â sut y gallwn ddefnyddio'r pethau hynny yn gydweithredol i hyrwyddo gwaith ein gilydd lle byddai hynny'n gwneud synnwyr i'r ddwy wlad.
Diolch am yr hyn a ddywedoch chi am fenter cennad Cymru. Credaf y bydd cyd-Aelodau sy'n edrych ar y rhestr o enwau yn gweld, er bod rhai ohonynt yn bobl sy'n dod o Gymru, wedi eu magu yng Nghymru, a bellach mewn rhannau eraill o'r byd, fod rhai ohonynt yn bobl sy'n dod o rannau eraill o'r byd ond wedi gweithio yma yng Nghymru, ac mae'r ymdeimlad hwnnw o fod yn Gymry ar wasgar yn bwysig iawn. Nid ydym yn sôn am bobl sy'n dod o Gymru eu hunain. Rydym yn sôn am bobl sy’n hoff o Gymru, sydd â chysylltiad â Chymru, sydd â diddordeb mewn gallu hyrwyddo Cymru mewn rhannau eraill o'r byd. Pan oeddwn yn Tokyo ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd, cyfarfûm â llywydd Clwb Hiraeth. Grŵp o bobl fusnes o Japan yw Clwb Hiraeth sydd wedi treulio rhan o'u gyrfaoedd yma yng Nghymru. Maent bellach yn ôl yn Japan. Mae'r llywydd yn ei 80au a bu’n gweithio yn Sony ym Mhen-y-bont ar Ogwr 40 mlynedd yn ôl, ond roedd ei atgofion melys o fod yng Nghymru yn gwbl amlwg, ac mae ei lywyddiaeth ar Glwb Hiraeth yn enghraifft o sut y gallwn ddefnyddio nid yn unig pobl o Gymru mewn rhannau eraill o'r byd, ond pobl mewn rhannau eraill o'r byd sydd â phrofiad o fod yma yng Nghymru ac sy'n awyddus oherwydd hynny i hyrwyddo a gweithio ochr yn ochr â ni, a bydd ein cenhadon yn dod—bydd rhai ohonynt yn dod o’r grŵp hwnnw hefyd.
Hoffwn innau hefyd ddathlu gwaith Eluned Morgan a'n rhaglen wych, Cymru o Blaid Affrica. Felly, un o gyflawniadau Eluned oedd sicrhau marchnad Gymreig ar gyfer mentrau cydweithredol tyfwyr coffi Mount Elgon yn rhanbarth Mbale yn nwyrain Uganda, a dywedir wrthyf fod 6,000 kg o'u coffi eisoes ar werth yn siop Fair Do's yn eich etholaeth chi. Dyna pam roedd yn fraint i mi a sawl un arall gael cyfarfod â Jenipher Wetaka Sambazi, a oedd yn un o arweinwyr y mentrau coffi cydweithredol o'r ardal honno, yn y Senedd ym mis Chwefror yn ystod Pythefnos Masnach Deg. Mae'n teimlo fel amser maith yn ôl.
Ond nid ffermwr coffi yn unig yw hi, mae hi'n arweinydd cymunedol, fel cadeirydd ei menter gydweithredol lleol, ac yn ystod yr ymweliad hwnnw, siaradais â hi am urddas mislif a'r ymgyrch a oedd gennym yn y wlad hon. Rhoddais rai cynhyrchion misglwyf y gellir eu hailddefnyddio iddi hefyd, yn y gobaith y gallai rhai o'r menywod o'i chymuned eu hatgynhyrchu i'w gwerthu gan fenywod yn Uganda. Ers hynny rwyf wedi dysgu bod sefydliad arall y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ef, Teams4U, yn ymwneud â dosbarthu padiau y gellir eu hailddefnyddio a wnaed yn lleol i ysgolion yn Uganda. Felly, tybed a allwch ddweud ychydig mwy ynglŷn â sut y gallem ymestyn y gwaith hwnnw, gan ei fod yn agwedd mor eithriadol o bwysig o ran pam y mae merched yn gadael ysgol ac yn un o'r ffyrdd y gallwn atal hynny rhag digwydd.
Yn ail—
Mae'n ddrwg gennyf, rydym ymhell dros yr amser ar hyn yn barod—
Iawn, ond rhoddwyd dros dair munud i Mandy Jones a dim ond un pwynt arall sydd gennyf.
Nid wyf yn mynd i fargeinio gydag Aelodau unigol ynglŷn â faint o amser a gewch i ofyn eich cwestiwn. Rydych eisoes ddwy funud i mewn i gwestiwn a oedd i fod yn gwestiwn un funud
Wel, roedd yn—
Byddwn yn eistedd nawr, pe bawn i'n chi. Diolch, Jenny Rathbone. Brif Weinidog.
Wel, Lywydd, diolch i Jenny Rathbone am gyfeirio at rannau pwysig iawn o raglen Cymru o Blaid Affrica. Roedd yn fraint cyfarfod â Jenipher a'i thîm pan oeddent yn y Senedd, ac mae'n wych gweld coffi gan y cwmni cydweithredol y mae'n ei arwain ar werth yma yng Nghaerdydd bellach. Ond mae cydraddoldeb rhywiol a grymuso menywod bob amser wedi bod yn thema annatod o raglen Cymru o Blaid Affrica. Mae'n sicr yn un roedd gan Eluned Morgan ddiddordeb arbennig yn ei hyrwyddo. Mae Hub Cymru Affrica wedi derbyn grant peilot yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i barhau i weithio gyda menywod a merched yn Uganda a Lesotho. Mae'n canolbwyntio ar y pethau bob dydd sy'n gwneud gwahaniaeth ym mywydau menywod ifanc yn y rhan honno o'r byd yn yr union ffordd y soniodd Jenny, ac mae'r rhaglen bob amser yn edrych am ffyrdd newydd y gallwn sicrhau bod y diddordeb sydd gennym yma yng Nghymru yn canolbwyntio ar raglenni rhyw a chydraddoldeb yn y gwledydd hynny. Rwy'n siŵr y bydd yr awgrym y mae Jenny wedi'i wneud y prynhawn yma o ddiddordeb i eraill sy'n ymwneud â'r rhaglen, a byddaf yn gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddwyn i'w sylw.
Yn olaf, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Lywydd. Dim ond ychydig eiriau gennyf fi fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol rhyngwladol Cymru, ac rydym wedi canfod fel grŵp fod cynifer o agweddau, fel y mynegwyd gan y Prif Weinidog heddiw, ar gysylltiadau rhyngwladol Cymru—chwaraeon, diwylliannol, dyngarol—cynifer o gysylltiadau â'r hyn y gallem ei alw'n gymell tawel, ac wrth gwrs, y Cymry ar wasgar. Rwy'n falch o glywed y Prif Weinidog yn cyfeirio at bob un o'r rheini. O ran y Cymry ar wasgar, roeddwn braidd yn eiddigeddus o'n cefndryd Gwyddelig, gan edrych ar Arlywydd etholedig newydd yr Unol Daleithiau fel un o ddisgynyddion mewnfudwyr o Iwerddon. Efallai nad yw o linach Gymreig, ond mae'n adnabod digon o bobl sydd, gan ei fod yn hanu o Scranton ynghanol Pennsylvania'r Cymry, ac rwy'n sicr yn gyffrous ynglŷn â'r posibiliadau o feithrin cysylltiadau agosach byth â'r Unol Daleithiau yn dilyn ei ethol. Fel cynifer o bobl sy'n pwyso am annibyniaeth Cymru ac yn ymgyrchu drosti, rwy'n ystyried fy mod yn gydwladolwr, ac er nad ydym wedi perswadio'r Prif Weinidog yn llwyr yn hynny o beth, mae'n dda clywed ei benderfyniad heddiw i adeiladu ar y cysylltiadau rhyngwladol sydd gan Gymru er budd cenedlaethau i ddod yma yng Nghymru.
Diolch i Eluned Morgan am ei gwaith fel Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol. Mantais cael Gweinidog penodol yw'r amser y gellir ei neilltuo i hynny, felly wrth ddiolch iddi, a gaf fi ofyn am sicrwydd gan y Prif Weinidog y bydd yn sicrhau y gall neilltuo'r amser sydd ei angen i adeiladu'r cysylltiadau rhyngwladol hyn a fydd mor bwysig inni yn y blynyddoedd i ddod wrth inni barhau i ffynnu fel cenedl?
Llywydd, diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth am y sylwadau yna.
A diolch iddo ef ac aelodau eraill y grŵp trawsbleidiol am bopeth a wnânt yn y maes hwn hefyd. Fel y clywsom y prynhawn yma, Lywydd, mae cymaint o agweddau ar berthynas Cymru â'r byd. Rwy'n gwybod ein bod ymhell dros amser, ond rwy'n siŵr y gallem fod wedi treulio hyd yn oed yn hirach yn archwilio ystod eang o bethau rydym wedi cyffwrdd â hwy y prynhawn yma.
Edrychaf ymlaen yn fawr at allu bwrw ymlaen â'r agenda hon. Ni fu erioed adeg bwysicach i atgyfnerthu Cymru fel cenedl sy'n edrych tuag allan gyda rhan i'w chwarae yn y byd, ac er ein bod, wrth gwrs, yn drist fod Eluned wedi gorfod symud i'n helpu gyda her fawr arall a wynebwn yn ein gwasanaethau iechyd meddwl a'n hymateb i'r coronafeirws yn y ffordd honno, wrth fynd â'r cyfrifoldebau rhyngwladol i swyddfa'r Prif Weinidog—ac roeddwn yn awyddus iawn i wneud y datganiad hwn fy hun y prynhawn yma—gobeithio bod hynny'n anfon neges i'r Aelodau yma, ond i eraill y mae gennym ddiddordeb ynddynt drwy ein strategaeth, fod cysylltiadau rhyngwladol a Chymru yn y byd yn ganolog i Lywodraeth Cymru. Drwy fy swyddfa i, gallwn ddwyn ynghyd y gwahanol gyfraniadau niferus y mae pob cyd-Weinidog yn eu gwneud i'r agenda hon i'w hatgyfnerthu, i danlinellu ei harwyddocâd, ac fel y clywsom y prynhawn yma, i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'r cyfraniad y gallwn i gyd ei wneud gyda'r holl filoedd o bobl eraill sydd â lle i Gymru yn eu calonnau ac sy'n barod i siarad drosom ar y llwyfan rhyngwladol. Rwy'n gobeithio fod y ddadl neu'r drafodaeth y prynhawn yma yn atgyfnerthu ymhellach ein penderfyniad ar y cyd i barhau i wneud hynny. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Prif Weinidog.