– Senedd Cymru am 4:04 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Eitem 5 ar yr agenda yw datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar ddiwygio'r drefn ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat. Galwaf ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru—Ken Skates.
Dirprwy Lywydd, hoffwn yn gyntaf gydnabod y rhan hollbwysig y mae'r diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat yn ei chwarae yn ystod pandemig COVID. Mae llawer wedi parhau i weithio drwyddi draw ac wedi darparu cludiant i weithwyr allweddol, yn ogystal â darparu gwasanaethau sy'n amlwg wedi galluogi darparu nwyddau, bwyd a chyflenwadau meddygol hanfodol. Rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd yn ariannol i'r diwydiant, gyda chyfyngiadau'n golygu bod y galw arferol gan gwsmeriaid yn eithriadol o isel.
Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm ag undebau llafur a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf i mi am yr heriau presennol a wynebir gan y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat yn sgil y pandemig. Rydym wedi ceisio darparu cymorth drwy gydol y cyfnod hwn lle bo hynny'n bosibl. Yn ogystal â chynlluniau cymorth ariannol Llywodraeth y DU, rwyf wedi darparu cyllid drwy gam 3 ein cronfa cadernid economaidd gwerth £200 miliwn, sy'n cynnwys cynllun grant dewisol o £25 miliwn wedi ei weinyddu gan awdurdodau lleol ar gyfer cyfyngiadau symud.
Mae nifer o'r diwydiannau tacsis a cherbydau hurio preifat eisoes wedi elwa ar gronfa fusnes y cyfyngiadau symud a hefyd y gronfa cymorth dewisol. Hefyd, gallaf ddweud bod swyddogion yn archwilio dewisiadau ar frys i ddarparu cyfarpar diogelu personol o ansawdd uchel i gynorthwyo'r diwydiant i ddiogelu'r gyrwyr eu hunain a'u teithwyr rhag COVID-19. Rydym ni hefyd wedi sefydlu tudalen bwrpasol ar ein gwefan i roi cyngor i'r diwydiant ar ffyrdd o leihau trosglwyddiad y coronafeirws a'r cymorth ariannol sydd ar gael.
Mae swyddogion, Dirprwy Lywydd, wrthi'n datblygu nifer o gynlluniau treialu gydag awdurdodau lleol a fydd yn caniatáu i yrwyr brofi cerbydau dim allyriadau cyn eu prynu, fel y gallan nhw ddeall yn well y manteision ariannol ac amgylcheddol posibl. Ac maen nhw hefyd yn archwilio dewisiadau ar gyfer cynlluniau cymhelliant i gynorthwyo'r gyrwyr hynny sydd â diddordeb mewn defnyddio'r cerbydau hyn yn y tymor hwy.
Heb os, mae cerbydau tacsis a cherbydau hurio preifat yn fath hanfodol o drafnidiaeth gyhoeddus. Maen nhw'n cynnig ateb ar gyfer trafnidiaeth ymarferol ac uniongyrchol ac maen nhw'n darparu gwasanaeth hanfodol i bobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig lle gall mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus fod yn annigonol neu'n absennol yn wir; i economi'r nos, gan gefnogi llawer o'n busnesau lletygarwch; ac, wrth gwrs, i deithwyr ag anableddau, yn ogystal â chwarae rhan bwysig yn y gwaith o hwyluso cynhwysiant cymdeithasol. Am y rhesymau hyn mae ein Llwybr Newydd, strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru, a lansiwyd yr wythnos diwethaf, yn cynnwys cynllun ategol ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat.
Er hynny, mae'r ddeddfwriaeth bresennol ar dacsis a cherbydau hurio preifat wedi dyddio, gyda'r prif fframwaith yn dyddio'n ôl i 1847 a 1976. Mae'r fframwaith hwn wedi arwain at bolisïau, safonau ac amodau trwydded anghyson ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Mae rheoleiddio tacsis a cherbydau hurio preifat, wrth gwrs, bellach yn fater datganoledig o dan Ddeddf Cymru 2017. Rydym yn atebol ar hyn o bryd, ond hyd nes y byddwn yn deddfu, ni allwn orfodi unrhyw newid. Nawr, mae nifer o broblemau'n gysylltiedig â'r ddeddfwriaeth drwyddedu bresennol, sy'n cynnwys pryderon diogelwch i yrwyr a theithwyr, safonau trwyddedu anghyson, sy'n cyfrannu at broblemau llogi trawsffiniol, gwasanaeth cwsmeriaid gwael a dryswch cyhoeddus ynghylch mathau o gerbydau a strwythurau tocynnau. Ac mae'r problemau presennol, mae arnaf ofn, yn mynd i barhau i gynyddu wrth i'r diwydiant barhau i esblygu.
Nododd Llywodraeth y DU am y tro cyntaf fod angen diwygio yn ôl yn 2011 pan gynhaliodd Comisiwn y Gyfraith adolygiad o'r drefn bresennol. Ac yna hefyd, yn 2018, adroddodd grŵp gorchwyl a gorffen argymhellion ar gyfer gwella'r drefn trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat. Mae'r adolygiadau hyn wedi creu, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, disgwyliadau uchel iawn ymhlith rheoleiddwyr a'r diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat y bydd newid. Fodd bynnag, ar wahân i ychydig o welliannau bach a chyhoeddi safonau tacsis a cherbydau hurio preifat statudol yr Adran Drafnidiaeth yn ddiweddar, nid yw Llywodraeth y DU wedi diwygio deddfwriaeth tacsis mewn gwirionedd.
Ers datganoli rheoleiddio tacsis a cherbydau hurio preifat i Lywodraeth Cymru, rydym ni wedi cynnal dau ymgynghoriad mawr. Mewn ymateb i'r Papur Gwyn 'Gwella trafnidiaeth gyhoeddus', roeddem yn cydnabod bod cefnogaeth gyffredinol i'r cynigion yn ymwneud â safonau cenedlaethol, i bwerau gorfodi a rhannu gwybodaeth gwell. Ond, roeddem hefyd yn derbyn, o ganlyniad i'r ymgynghoriad, fod teimlad cryf nad oedd y cynigion yn mynd yn ddigon pell i fynd i'r afael yn effeithiol â'r heriau presennol a wynebir gan y diwydiant a rheoleiddwyr.
Felly, yn sgil hyn, fe wnes i ymrwymiad y byddai'r cynigion ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat yn cael eu datblygu ymhellach ac mae gwaith eisoes wedi dechrau ar ddrafftio cynigion polisi sy'n adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y Papur Gwyn. Canolbwyntiwyd y cynigion hyn ar wella pedwar maes: yn gyntaf oll, diogelwch, yn ail, cydraddoldeb, yn drydydd, safonau amgylcheddol ac yna, yn bedwerydd, gwasanaeth cwsmeriaid. A'n nod yw cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol sy'n cefnogi teithwyr yn ogystal â chefnogi'r diwydiant ei hun. Mae angen deddfwriaeth newydd i wneud tacsis a cherbydau hurio preifat yn ddiogel ac yn rhan o system drafnidiaeth integredig ledled Cymru ac i broffesiynoli'r diwydiant a sicrhau y gall gyrwyr wneud bywoliaeth dda a theg. Rydym yn ceisio cyflawni hyn drwy ddatblygu ac ymgynghori ar gynigion deddfwriaethol newydd a byddwn yn disodli'r cyfundrefnau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat dwy haen dryslyd gydag un gyfundrefn dacsis.
Byddwn yn parhau i weithio gyda llywodraeth leol i archwilio rhinweddau newidiadau i awdurdodau trwyddedu pan gaiff cerbydau weithredu'n genedlaethol, ac eithrio mewn parthau cyfyngedig lle mae tystiolaeth o orgyflenwad, er enghraifft, yma yng Nghaerdydd, a byddwn yn creu safonau trwyddedu cenedlaethol ar gyfer gyrwyr, cerbydau a gweithredwyr, gyda phwyslais ar sicrhau'r diogelwch cyhoeddus mwyaf posibl a phroffesiynoli'r diwydiant. Yn ogystal, bydd pwerau gorfodi yn cael eu cynyddu a'u cynorthwyo gan gronfa ddata a chofrestr genedlaethol.
Fel man cychwyn, cyn newid deddfwriaethol, mae swyddogion wedi gwneud gwaith gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynrychiolwyr awdurdodau lleol ledled Cymru i nodi meysydd polisi trwyddedu y gellir eu gwella a'u gwneud yn fwy cyson. Mae hyn wedi arwain at gytundeb ar gyfres o argymhellion ar gyfer alinio polisi tacsis. Mae cyfyngiadau ar y gwaith hwn, gan fod polisïau trwyddedu'n amrywio'n fawr ledled Cymru, ac roedd swyddogion yn ofalus i sicrhau na fyddai mabwysiadu'r argymhellion yn golygu unrhyw gost sylweddol i awdurdodau lleol nac, yn wir, i'r diwydiant cyn newid deddfwriaethol ehangach. Serch hynny, bydd yr argymhellion hyn yn gam tuag at safonau trwyddedu cenedlaethol a phroffesiynoli'r diwydiant, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gynnydd.
Gweinidog, a gaf i ddiolch ichi am eich datganiad heddiw? Rwy'n gyffredinol o blaid y diwygiadau a'ch dull gweithredu, os ydyn nhw, wrth gwrs, yn llwyddiannus o ran symleiddio ac addasu'r systemau rheoleiddio tacsis a hurio preifat. Yn gyffredinol, nid wyf yn cefnogi Llywodraeth Cymru pan fydd yn canoli pwerau a'u tynnu oddi wrth awdurdodau lleol, ond yn hyn o beth, credaf fod achos dros hyn, am nifer o resymau, ond fe wnaethoch chi nodi llawer ohonyn nhw yn eich datganiad eich hun.
Tybed pa adborth, cadarnhaol a negyddol, a gawsoch chi gan awdurdodau lleol, gyrwyr, gweithredwyr a theithwyr o ran eich cynigion i ganoli trwyddedu yng Nghymru. Byddai'n ddefnyddiol clywed y safbwyntiau hynny a gawsoch chi. Er bod creu'r awdurdod trafnidiaeth ar y cyd yn welliant, rydych wedi mynd ymhellach nag argymhelliad Comisiwn y Gyfraith a'r grŵp gorchwyl a gorffen wrth ymgynghori ar gyflwyno safonau cenedlaethol. Felly, pam ydych chi wedi dewis mynd y tu hwnt i argymhellion Comisiwn y Gyfraith a'r grŵp gorchwyl a gorffen yn hyn o beth?
Roedd papur ymgynghori Llywodraeth Cymru yn cynnig diddymu'r gwahaniaeth hwn rhwng cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat, ond mae'n ymddangos bod y cynnig hwn wedi ei dynnu'n ôl. Rwy'n deall bod 45 y cant o'r ymatebwyr wedi mynegi barn a oedd yn cytuno ag argymhellion Comisiwn y Gyfraith, gan ddweud y dylid cadw'r gwahaniaeth rhwng cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat. Nid oedd Comisiwn y Gyfraith ychwaith yn cefnogi cyflwyno gofynion cadw cofnodion ar gyfer gyrwyr tacsis, ac eithrio mewn cysylltiad â thacsis yn casglu teithwyr y tu allan i'w hardal drwyddedu. Fodd bynnag, mewn egwyddor, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o gadw cofnodion cywir ar gyfer gyrwyr tacsis, a tybed pam ydych chi wedi gwyro oddi wrth farn Comisiwn y Gyfraith, a pha anawsterau ymarferol ydych chi'n eu rhagweld wrth gofnodi'r data.
Mae yna hefyd fater ynghylch tacsis a cherbydau hurio preifat yn gweithio ar hyd y ffin â Lloegr; byddwch chi a fi'n gyfarwydd â hynny, drwy gynrychioli etholaethau ar y ffin. Ac mae'r materion yno yr un fath â'r rheswm pam rydych chi eisiau cymryd ymagwedd ganolog ledled Cymru, rwyf hefyd yn cytuno â'r ymagwedd honno, ond wedyn dyna fater y ffin. Felly, tybed a wnewch chi ehangu, yn hynny o beth, o ran pa drafodaethau yr ydych wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU a'r Adran Drafnidiaeth.
Ac yn olaf, deallaf eich bod wedi cynnig pennu ffioedd trwyddedu llogi preifat yn genedlaethol ond y bydd ffioedd trwyddedu tacsis yn parhau i gael eu pennu'n lleol. Roedd hwn yn gynnig amhoblogaidd yn ystod y broses ymgynghori ac roedd yn well gan awdurdodau trwyddedu lleol allu pennu ffioedd ar gyfer trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yn lleol, ond, gan arfer y swyddogaeth, i roi sylw dyledus i ganllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Tybed beth yw eich ymateb o ran yr adborth penodol hwn.
A gaf i ddiolch i Russell George am ei sylwadau, ei gwestiynau a dweud fy mod yn credu bod ei gyfraniad yn cyfeirio at y ffaith bod cytundeb cyffredinol ar draws y Siambr bod angen diwygio, bod angen moderneiddio a bod angen deddfwriaeth? Mae'r fframwaith presennol yn fwy na 150 mlwydd oed; fe'i diweddarwyd 44 mlynedd yn ôl. Mae'n hen bryd cyflwyno deddfwriaeth newydd sy'n cydnabod yr oes yr ydym bellach yn byw ynddi, y technolegau newydd sy'n cael eu cynnwys a'r gwahanol ffyrdd y mae pobl yn gweithredu.
O ran y cynigion, fe'u croesawyd yn gyffredinol, ac yn benodol o ran safonau cenedlaethol. Credaf eu bod yn gwneud synnwyr ac maen nhw'n mynd i'r afael â phryderon a godwyd drwy'r broses ymgynghori ar y Papur Gwyn. Mae dileu'r system ddwy haen yn angenrheidiol i Gymru yn fy marn i. Yn amlwg, gallai'r sefyllfa fod yn wahanol mewn mannau eraill. Yn Llundain, mae amgylchedd gwahanol iawn i gerbydau hacni weithredu ynddo, ond, yma yng Nghymru, credaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl yr ydym yn eu gwasanaethu yn ei chael yn anodd nodi'r gwahaniaethau rhwng cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat, ac mae cael system un haen yn gwneud synnwyr perffaith i'r teithiwr. Mae hefyd yn gwneud synnwyr perffaith i'r diwydiant ei hun. Byddem wedyn yn gallu defnyddio setiau cyson o gyfundrefnau ar draws pob math o gerbydau a gwasanaethau.
Wrth gwrs, bydd angen i ni fynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r Adran Drafnidiaeth ynglŷn â'r mater hwn, a byddwn yn cytuno â Russell George fod llawer o bobl sy'n gweithio ar ochr Lloegr i'r ffin sy'n dod â phobl i Gymru ac i'r gwrthwyneb. Mae yna bobl sy'n byw yng Nghymru sydd wedi'u cofrestru fel gyrwyr tacsis, gyrwyr cerbydau hurio preifat, dros y ffin yn Lloegr, ac, felly, fel rhan o'r gwaith ar y ddeddfwriaeth, byddwn yn cysylltu â'r Adran Drafnidiaeth, ac, yn wir, â rhanddeiliaid lleol dros y ffin yn Lloegr, i sicrhau bod cyflwyno deddfwriaeth yma yng Nghymru yn gydnaws â sut mae gwasanaethau tacsis a cherbydau hurio preifat yn gweithredu dros y ffin.
Ac yna o ran ffioedd, rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol bod y gyfundrefn ffioedd yn dryloyw, ei bod mor gyson â phosibl, a'i bod yn deg—sef nad yw'n arwain at ystumio ceisiadau i ffwrdd o un ardal benodol a ffafrio ardal arall oherwydd bod y ffioedd yn is, neu, yn wir, oherwydd bod y safonau'n is. Mae llawer o'r problemau presennol a welwn gyda'r system fel y mae'n gweithredu ar hyn o bryd yn ymwneud â'r anghysondebau hynny ymysg awdurdodau lleol, y gwahaniaethau hynny. Mae'r gofynion trwyddedu ledled Cymru yn wahanol am wahanol resymau, gan gynnwys yr hynaf y gall cerbyd trwyddedig fod, amlder profion cerbydau, y safonau profi cerbydau, y profion gwybodaeth gyrwyr a safonau meddygol gyrwyr, i enwi ond ychydig o wahanol ddulliau anghyson ledled Cymru. Felly, mae cael cymaint â phosib o gysondeb ledled Cymru yn gwneud synnwyr perffaith, yn enwedig i'r ardaloedd hynny lle mae cryn dipyn o weithgarwch yn y farchnad, megis yng Nghaerdydd a Chasnewydd, hefyd Abertawe ac yn Wrecsam a'r cyffiniau hefyd.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, ac, fel bob amser, am y copi ymlaen llaw, ac i roi cefnogaeth gyffredinol iddo gan Blaid Cymru am sylwedd y datganiad. I wneud fy sylwadau agoriadol, hoffwn gefnogi'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud am bwysigrwydd tacsis a cherbydau preifat. Mewn rhai cymunedau nhw yw'r unig fath o drafnidiaeth gyhoeddus, mewn gwirionedd, ac ni allai pobl ymdopi hebddyn nhw, ac rwy'n gwybod bod llawer o ddarparwyr tacsis a cherbydau hurio preifat wedi gwneud gwaith ychwanegol yn ystod y cyfyngiadau symud. Gwn fod cwmni tacsis cydweithredol Drive yng Nghaerdydd yn casglu presgripsiynau ac yn dosbarthu bwyd i bobl, a gwn fod hynny wedi'i adlewyrchu ledled Cymru.
Rwy'n gobeithio y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn bwysig iawn iddo gael cydweithrediad a chefnogaeth y sector er mwyn gallu cyflawni'r uchelgeisiau a nodir yn ei ddatganiad. Bydd, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r gwrthdystiad heddiw, y gwrthdystiad gan undebau llafur heddiw—ac un o'r arwyddion yn cyfeirio atyn nhw eu hunain, y diwydiant tacsis, yn fasnach anghofiedig weithiau, yn enwedig drwy'r pandemig. Nawr, mae'r Gweinidog wedi crybwyll bod cymorth ariannol ar gael drwy'r gronfa cadernid economaidd, y gronfa cymorth dewisol i fusnesau yn ystod y cyfyngiadau symud, ond tybed a all ddweud ychydig mwy am ei dybiaeth ynghylch faint o hynny sydd wedi cyrraedd pobl sy'n gweithio yn y diwydiant tacsis a hurio preifat. Efallai y bydd problemau, er enghraifft, o ran cael gafael ar wybodaeth. Mae llawer o'r bobl sy'n gweithio yn y diwydiant, er enghraifft, yng Nghaerdydd a Chasnewydd, yn bobl o wledydd eraill nad oes ganddyn nhw'r Gymraeg na'r Saesneg fel eu hiaith gyntaf o bosibl; efallai nad ydyn nhw'n gwybod ble i fynd i chwilio am y math hwn o gymorth. Croesawaf yr hyn a ddywedodd y Gweinidog heddiw am gyfarpar diogelu personol ar gyfer gyrwyr tacsis, ond wrth gwrs gwyddom, i lawer o bobl sy'n gweithio yn y sector hwnnw, ei bod yn llythrennol yn rhy hwyr. Mae hwn wedi bod yn sector lle mae llawer iawn o bobl sy'n gweithio ynddo wedi mynd yn sâl, felly a wnaiff roi amserlen inni ynghylch y gwaith hwnnw o ran cyfarpar diogelu? Oherwydd rwy'n credu bod hynny'n gwbl hanfodol i'r bobl hynny, fel y dywedodd ei hun, allu gweithio'n ddiogel ac er diogelwch eu teithwyr, wrth gwrs.
Cytunaf yn bendant fod angen deddfwriaeth, ac, fel y dywedodd y Gweinidog, mae'r fframwaith presennol yn hen ffasiwn iawn. Yn fy nhrafodaethau â chynrychiolwyr y sector, credaf eu bod, yn gyffredinol, yn gwerthfawrogi'r angen i ddiwygio, ond mae rhai pryderon. Dydw i ddim yn hollol siŵr a fyddwn i'n cytuno â'r Gweinidog pan ddywed nad yw pobl yn gwybod y gwahaniaeth rhwng tacsis a cherbydau hurio preifat. Rwy'n adnabod, er enghraifft, llawer o fenywod a fydd bob amser yn defnyddio tacsi yn hytrach na cherbyd hurio preifat oherwydd y canfyddiad, boed yn wir ai peidio, bod y safonau fetio yn golygu bod tacsi yn lle mwy diogel i fenyw os yw'n teithio ar ei phen ei hun. Mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn rhywbeth yr wyf bob amser yn argymell bod fy merch i yn ei wneud. Felly, mae pryder, drwy ddileu'r gwahaniaeth rhwng tacsis a cherbydau hurio preifat—. A all y Gweinidog fy sicrhau heddiw nad yw hynny'n mynd i arwain at leihad mewn safonau, a'n bod mewn gwirionedd yn mynd i weld y cerbydau hurio preifat yn cael eu codi i'r un safonau ag sy'n ofynnol yn awr i'r hyn yr ydym yn eu hystyried yn dacsis go iawn—mae'n debyg nad dyna'r ffordd gywir o'i ddisgrifio—oherwydd yn sicr ni fyddem am weld safonau'n gostwng? Felly, gobeithio y gwnaiff y Gweinidog ddweud ychydig mwy heddiw am y cyfiawnhad dros y newidiadau un haen. Credaf fod symlrwydd yn amlwg yn un ohonyn nhw, ond a all fod yn siŵr na chaiff safonau eu gostwng?
Nawr, mae'r syniad o gronfa ddata a chofrestr genedlaethol yn rhywbeth y byddem yn ei groesawu ym Mhlaid Cymru, ac mae cryfhau pwerau gorfodi er budd diogelwch a safonau'r cyhoedd yn bwysig. Mae lleiafrif o bobl yn gweithio yn y maes hwn nad ydyn nhw'n cadw eu cerbydau'n lân, nad ydyn nhw'n bodloni'r safonau y byddem yn eu disgwyl, ac mae hynny wrth gwrs yn ddrwg i bawb sy'n gweithio yn y diwydiant. Ond rwyf wedi clywed pryderon ynghylch dileu unrhyw elfen leol yn gyfan gwbl. Siawns nad oes angen i awdurdodau lleol wybod faint o gerbydau sydd ar y ffordd yn eu hardal, ac os yw tacsis a cherbydau hurio preifat i fod yn rhan o'n cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus cyffredinol, mae angen inni wybod ble maen nhw ar lefel leol hefyd. Yn ei ymateb i Russell George, credaf fod y Gweinidog wedi sôn am y risg o orgyflenwi mewn rhai ardaloedd, ond byddwn hefyd yn awgrymu i'r Gweinidog fod perygl hefyd o dangyflenwi—sef os caiff tacsis eu cofrestru'n genedlaethol, byddant yn mynd i weithio lle mae'r gwaith, a gallai hynny olygu bod rhai cymunedau'n cael eu hamddifadu o wasanaeth. Felly, tybed a all y Gweinidog ddweud ychydig mwy am sut y mae'n bwriadu sicrhau bod gwasanaeth yn parhau i fod ar gael ledled y wlad. Un fantais o gofrestru fesul sir yw mai dyna'r sir y mae'n rhaid i chi weithio ynddi.
Felly, yn olaf, i ddod at y materion di-garbon, yn y strategaeth drafnidiaeth yr wythnos diwethaf fe wnaethoch chi sôn am yr angen i drosglwyddo i dacsis dim allyriadau, a chroesawais yr hyn a oedd gennych i'w ddweud am alluogi pobl i roi cynnig ar hynny, ond a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym, Gweinidog? Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn dweud ychydig mwy am y cynllun cymhellion sy'n cael ei ystyried. A fyddai, er enghraifft, o bosibl yn rhoi cymorth i alluogi gyrwyr i brynu cerbydau dim allyriadau, sydd, wrth gwrs, yn ddrutach ar hyn o bryd? Diolch.
A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am ei chyfraniad, a oedd, fel arfer, yn adeiladol? Rwy'n falch iawn o ateb y cwestiynau a gododd.
Byddaf yn dechrau gyda'r cwestiwn olaf hwnnw am y cymorth a allai fod ar gael ar gyfer tacsis gwyrdd yn y dyfodol. Wrth gwrs, cynllun treialu yw hwn, yn bennaf oll, a fydd yn galluogi gyrwyr tacsis, gweithredwyr, i brofi cerbydau gwyrdd cyn iddyn nhw eu prynu. Bydd cyllid cerbydau allyriadau isel iawn yn cael ei ddarparu ar gyfer nifer o gynlluniau treialu tacsis gwyrdd yn y flwyddyn ariannol hon. Rydym yn cynnig y bydd y cynlluniau treialu yn cael eu cynnal ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, yn sir Ddinbych, yn sir Benfro ac yng Ngheredigion, ac yna'n ymgorffori llawer o'r meysydd blaenoriaeth sydd wedi'u cynnwys yn y fenter trawsnewid trefi hefyd. Felly, rydym yn ceisio cysoni cryn dipyn o feysydd polisi yn hyn o beth.
Bydd cynlluniau tymor hwy ar gyfer cymell pobl i ddefnyddio tacsis a cherbydau dim allyriadau yn cael eu hymchwilio, megis cyfleoedd i gael grantiau, cyfleoedd ar gyfer gwella telerau cynlluniau prydlesu, ond mae'n mynd i ddibynnu'n fawr ar werthuso'r cynlluniau treialu, ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i mi ddweud y bydd y graddau y gallwn gynnig cymorth yn dibynnu ar yr adnoddau ariannol sydd ar gael. Ond rwy'n frwd iawn o ran y maes gwaith penodol hwn, a chredaf y gall y cynlluniau treialu hynny gynnig rhywfaint o wybodaeth werthfawr a fydd wedyn yn llywio maint yr ymyriad sydd ei angen.
Byddwn yn cytuno'n llwyr â Helen Mary Jones fod llawer o bobl yn dibynnu'n eithriadol o drwm ar dacsis a cherbydau hurio preifat, yn enwedig pobl nad oes mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus ar gael iddyn nhw mewn ardaloedd gwledig, er enghraifft, a hefyd, yn hollbwysig, pobl sy'n wynebu rhwystrau anablu mewn cymdeithas. Ac eto hefyd, ochr yn ochr â hyn, gwyddom, mewn rhai ardaloedd awdurdodau lleol, fod cyn lleied â 5 y cant o dacsis a cherbydau hurio preifat sy'n gallu cynnig mynediad i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Ac yn aml, gwyddom o'r adroddiadau a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, fod pobl sy'n wynebu rhwystrau oherwydd anableddau mewn cymdeithas yn aml yn wynebu heriau ychwanegol o ran gordalu, ac weithiau nid yw'r profiad gwasanaeth cwsmeriaid yr hyn y byddem yn sicr yn ei ddisgwyl. Ac felly mae llawer o rwystrau y mae'n rhaid i ni naill ai eu dileu neu eu goresgyn er mwyn sicrhau bod y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat yn diwallu anghenion pobl anabl.
O ran y sector ei hun a'n hymgysylltiad ni, fel y dywedais ychydig yn gynharach, cyfarfûm â TUC Cymru, ag Unite, â'r GMB yr wythnos diwethaf i drafod yr heriau y mae gyrwyr tacsis yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn ystod y pandemig. Ac, o ganlyniad i'r cyfarfod hwnnw, gofynnais i nifer o ddarnau o waith brys gael eu gwneud—un i gasglu'r data ynghylch trydydd cam y gronfa cadernid economaidd, oherwydd datblygwyd y trydydd cam gyda gyrwyr tacsis mewn golwg yn fwy na dim. Dyna pam wnaethom ni ddatblygu'r elfen grant dewisol honno o £25 miliwn. Ac felly rwyf wedi gofyn am adborth gan awdurdodau lleol ynghylch faint o grantiau y gwnaed cais amdanyn nhw gan yrwyr tacsis, ac i'r undebau eu hunain sicrhau bod eu haelodau'n cael gwybodaeth am y gwahanol gynlluniau cymorth sydd ar gael—y cynlluniau dewisol hynny, cynllun y gronfa cymorth dewisol, er enghraifft, y cynllun cymorth hunangyflogaeth, nad yw miloedd a miloedd o bobl hunangyflogedig yng Nghymru yn ei ddefnyddio o hyd. Felly fe gaiff y data hynny ei gasglu. Rwyf hefyd wedi gofyn i wahanol ddarnau eraill o waith gael eu gwneud, gan gynnwys wrth gwrs sut y gallwn ni gyflenwi cyfarpar diogelu personol gwerthfawr i yrwyr tacsi. Yr her fawr o ran cyfarpar diogelu personol yw nid yn gymaint sut yr awn ati i sicrhau digon ohono i'r diwydiant a gyrwyr, ond mewn gwirionedd sut ydym ni'n sicrhau bod y gyrwyr yn derbyn y cyfarpar yna—sut y maen nhw yn cael y cyfarpar diogelu personol hwnnw, y caiff ei ddefnyddio gan weithredwyr tacsis.
Ac mae'n bwynt diddorol y mae Helen Mary Jones yn ei wneud am y gwahaniaeth rhwng cerbydau hurio preifat a thacsis. Credaf fod Helen Mary Jones yn gwneud pwynt pwysig—y bydd rhai pobl yn amlwg yn gwybod beth yw'r gwahaniaethau ac y caiff safonau ar gyfer tacsis eu hystyried yn uwch nag ar gyfer cerbydau hurio preifat, ac yn enwedig o ran diogelwch y cyhoedd. Mae pryderon difrifol sy'n deillio o rai o'r adroddiadau a gomisiynwyd ynglŷn â'r ffordd y mae rhai pobl wedi cael eu trin. Er enghraifft, amlygodd adroddiadau Jay a Casey ar gamfanteisio ar blant yn rhywiol yn Rotherham bod enghreifftiau o yrwyr tacsis yn cael eu cysylltu'n uniongyrchol â phlant a oedd yn cael eu cam-drin, gan gynnwys achosion lle yr oedd plant yn cael eu casglu o ysgolion, cartrefi plant neu o gartrefi teuluol a'u cam-drin neu eu hecsbloetio'n rhywiol yn gyfnewid am deithiau tacsis am ddim. Ac felly gallaf sicrhau Helen Mary Jones a phob Aelod heddiw mai dim ond un ffordd y bydd y safonau'n mynd—cânt eu gwella. Ac mae hynny'n gwbl hanfodol er budd diogelwch y cyhoedd, yn enwedig y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Cododd Helen Mary Jones y cwestiwn hefyd am y gronfa ddata genedlaethol a'r safonau cenedlaethol. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol y caiff safonau eu cynnal ar y lefel uchaf bosibl ar sail genedlaethol fel nad ydym yn cael y math o broblemau trawsffiniol a brofwn yn awr. A chredaf y bydd elfen leol gref iawn i weithrediad y gyfundrefn fel yr ydym yn ei chynnig, yn enwedig ar lefel awdurdod lleol ond hefyd ar lefel cydbwyllgor corfforaethol. Ac mae awdurdodau lleol yn ymgysylltu'n llawn â'n hymgynghoriadau ac wrth lunio'r ddeddfwriaeth, ac wrth gwrs maen nhw wedi cymryd rhan lawn. Maen nhw wedi bod yn cyd-ysgrifennu'r argymhellion, yr enillion cyflym hynny a amlinellais. A chredaf, o ran cynnal gweithrediadau tacsis a hurio preifat mewn ardaloedd gwledig, fod rhywfaint o fethiant yn y farchnad eisoes mewn sawl rhan o'r Gymru wledig, a dyna pam mae cynlluniau trafnidiaeth gymunedol yn sicr wedi bod mor bwysig yn yr ardaloedd hynny. A byddwn yn parhau â'n hymrwymiad i drafnidiaeth gymunedol mewn ardaloedd gwledig fel ffordd hanfodol o alluogi pobl i gael gwaith a chael mynediad at wasanaethau hanfodol.
Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad gan y Gweinidog y prynhawn yma a chroesawaf yn fawr y cynigion y mae'n eu trafod ar gyfer diwygio'r sector. Credaf fod llawer o bobl yn edrych ymlaen at hyn, a gwn fod llawer o yrwyr tacsis eisiau gweld y math hwnnw o sicrwydd hefyd—maen nhw eisiau cael y fframwaith y gallant gynllunio eu busnesau oddi mewn iddo dros y blynyddoedd nesaf.
Mae hon wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd i yrwyr tacsis. Mae wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd i'r diwydiant cyfan, ac rydym ni wedi gweld llawer o bobl yn gadael gan na allan nhw fforddio parhau drwy'r pandemig hwn. Croesawaf yn fawr yr hyn a ddywedsoch chi, Gweinidog, am y gronfa ddewisol a'r gronfa cadernid economaidd, a gobeithiaf y gall cymaint o'r cyllid hwnnw ag sy'n bosibl gyrraedd gyrwyr tacsis sy'n cael, mae'n debyg, flwyddyn waethaf eu gyrfaoedd proffesiynol.
O ran bwrw ymlaen â hyn, credaf fod dau beth y mae angen inni eu gwneud er mwyn sicrhau bod tacsis yn rhan o'r darlun trafnidiaeth yn y dyfodol. Yn gyntaf oll, credaf fod angen i'r Llywodraeth wneud mwy i gydnabod tacsis fel rhan o'r rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus cyffredinol o amgylch gwahanol gymunedau. Rydych chi wedi siarad am ardaloedd gwledig a chymunedau gwledig yn yr ateb blaenorol, ond mae hyn yn wir yn y Gymru drefol hefyd. Er enghraifft, rydym ni wedi agor Ysbytu Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân dros yr wythnos ddiwethaf, a byddai'n ddefnyddiol pe bai tacsis, er enghraifft, yn rhan o'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cydnabyddedig sy'n cysylltu ein cymunedau a'n cleifion â'r ysbyty hwnnw, a hoffwn weld mwy ynghylch sut y bydd y Llywodraeth yn gwneud i hynny ddigwydd.
Ac yn ail, ac efallai'n bwysicach o ran y tymor hir, hoffwn weld cronfa datblygu tacsis yn cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i alluogi gyrwyr tacsis lleol i gystadlu â'r cewri technolegol sy'n dod yn flaenllaw yn y diwydiant. Mae'n mynd i fod yn amhosibl i yrwyr tacsi lleol gystadlu ag Uber yn y dyfodol oni bai bod ganddyn nhw gymorth a chefnogaeth, ac mae hynny'n golygu cronfa ddatblygu sy'n galluogi gyrwyr tacsis i fuddsoddi yn eu cerbydau, ond hefyd i fuddsoddi yn y math o dechnoleg a fydd yn eu cysylltu â'u cwsmeriaid yn y dyfodol hefyd.
Felly, gobeithiaf y gallwn ni ddatblygu'r ddau beth hyn a sicrhau bod gennym ni'r amgylchedd rheoleiddio, yr arian ar gael i sicrhau bod gyrwyr tacsis yn gallu goroesi'r pandemig, ac yna hefyd y datblygiad a fydd yn eu galluogi i ffurfio rhan o rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus y dyfodol. Diolch.
A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei gyfraniad? Unwaith eto, yn anhygoel o adeiladol—ni allwn anghytuno â dim o'r hyn y mae Alun Davies wedi'i amlinellu. Gwnaeth dri phwynt cryf iawn. Un, mae angen cymorth tymor byr i gael y sector drwy'r pandemig. Yn ail, mae angen cymorth pontio i sicrhau ein bod yn diogelu'r diwydiant yn y dyfodol, i'w wneud yn gystadleuol, er mwyn sicrhau y gall bontio a chystadlu ag elfennau sy'n amharu ar y diwydiant. Ac yna, yn drydydd, mae Alun yn gwneud y pwynt pwerus hwn, fod yn rhaid inni gydnabod bod tacsis a gwasanaethau cerbydau hurio preifat yn rhan annatod o'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yma yng Nghymru, a byddwn yn cytuno'n llwyr fod angen dangos hynny, a chaiff ei ddangos drwy'r ddeddfwriaeth y byddwn yn ei chyflwyno yn ail flwyddyn tymor nesaf y Senedd.
Ac o ran y gefnogaeth uniongyrchol i'r diwydiant, wel, hyd yma, rydym wedi sicrhau mwy na 100,000 o swyddi drwy'r gronfa cadernid economaidd, ac mae hynny'n ychwanegol at gefnogaeth Llywodraeth y DU i'r cynllun cymorth hunangyflogaeth a'r cynllun cadw swyddi, y gwn y bu o gymorth i'r sector, ond mae'n ymddangos, mewn llawer o achosion, yn enwedig yma yng Nghymru, mewn gwirionedd, nad yw gyrwyr unigol yn elwa ar hynny am ryw reswm neu'i gilydd. Yn seiliedig ar y trafodaethau yr ydym ni wedi'u cael gyda'r TUC a chydag undebau, credwn y gallai methu cael gafael ar wybodaeth fod yn ffactor allweddol o ran gyrrwyr ddim yn elwa ar gymorth priodol. Ac felly, fel y dywedais mewn ymateb i Helen Mary Jones, rydym yn gweithio gyda'r undebau i sicrhau y gellir dosbarthu a lledaenu gwybodaeth briodol ar draws y diwydiant, a bod yr undebau'n gweithio gydag awdurdodau lleol, ac wrth gwrs gyda Llywodraeth Cymru, i rannu gwybodaeth briodol. Oherwydd, fel y dywedais, fe wnaethom ni sefydlu'r trydydd cam hwnnw o'r Fframwaith, yn enwedig yr elfen gronfa grant dewisol o £25 miliwn, i gefnogi unig fasnachwyr megis gyrwyr tacsis, er mwyn goroesi'r cyfnod atal byr diweddar. Mae gyrwyr tacsis wedi gallu cael cymorth gan y cynllun grant dewisol hwnnw hyd yn oed os ydyn nhw wedi defnyddio'r cynllun cymhorthdal incwm hunangyflogaeth. Felly, mae'r arian wedi bod ar gael, mae'n ymddangos nad yw unigolion o fewn y sector wedi manteisio arno ar raddfa ddigonol, a dyna pam yr wyf wedi gofyn am atebion ynghylch pam mae hynny'n wir.
Ac yna, yn y tymor hwy, credaf fod Alun Davies yn gwneud pwynt eithriadol o bwysig sef ein bod yn wynebu nifer o ffactorau tarfu: y newid i gerbydau trydan; y newid tuag at gerbydau cwbl annibynnol o bosibl; gwahanol fodelau o drafnidiaeth gyhoeddus—felly, defnyddio ceir a rennir ac ubereiddio trafnidiaeth gyhoeddus; yr angen i ddatgarboneiddio; a gwahanol ffyrdd o weithio yn ogystal â mewn amgylchedd ôl-COVID, gyda chanolfannau gweithio o bell. Fe wnaethom ni sefydlu, drwy'r cynllun gweithredu economaidd, y galwadau i weithredu. Felly, rhaid i fusnesau sy'n ceisio cyllid o gronfa dyfodol yr economi wneud hynny ar sail un o'r pum pwynt yn y galwadau i weithredu, ac mae dau o'r rheini'n ymwneud â datgarboneiddio ac ymateb i her tarfu technolegol. Mae'n ffordd berffaith i'r sector allu cael gafael ar gyllid er mwyn goresgyn a herio'r technolegau aflonyddgar hynny a'r newid i economi sero-net. Unwaith eto, byddwn yn annog y sector i edrych ar y gronfa benodol honno fel cyfrwng priodol ar gyfer defnyddio cymorth ariannol er mwyn cael y cerbydau y bydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer y dyfodol.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Ac rwy'n gwbl sicr ein bod i gyd yn cytuno ei bod yn hen bryd diwygio tacsis a cherbydau hurio preifat.
Y prif bwynt yr hoffwn i ei wneud yw y dylid cael system unffurf ar draws y 22 o awdurdodau lleol Cymru. Byddai hyn yn sicrhau y byddai gan deithwyr well dealltwriaeth o'r taliadau a'r rheolau sy'n rheoli tacsis pe baen nhw'n unffurf ledled Cymru. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau mai hyn hefyd sydd bwysicaf yn ei feddwl?
Rwy'n argyhoeddedig y byddai symud i system un haen o fudd i deithwyr ac awdurdodau lleol fel ei gilydd. Dylid gosod mesurydd gyda thariffau cywir ac unffurf ar bob cerbyd, ac mae angen iddi fod yn glir mai dim ond o'r man codi i'r man gollwng y caiff y mesurydd weithredu. Dylai hyn atal gordaliadau. Ar hyn o bryd, mae cwmnïau ac unigolion sy'n rhedeg busnesau hurio preifat yn codi'r hyn a fynnant, cyn belled â bod y cwsmer yn derbyn hynny, ond rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn gwybod, mewn gwirionedd, ei fod yn 'fait accompli' o ran y teithiwr, gan ei fod ef neu hi wedi ymrwymo cyn gynted ag y mae'n mynd i mewn i'r tacsi.
Dylai'r rheolau newydd gynnwys y rheol y dylid cofnodi pob taith. Mae cadw cofnod o deithiau, yn y gorffennol, wedi bod o fudd i yrwyr dilys, awdurdodau lleol a'r heddlu. Mae hefyd yn bwysig, Gweinidog, y dylai cwmnïau sy'n ymdrin â manylion teithwyr fod yn destun rhyw fath o graffu o ran sut maen nhw'n casglu, rhoi a chadw gwybodaeth. Byddai hyn yn golygu y byddai llawer llai o berygl y cai data o'r fath ei gamddefnyddio. A wnewch chi gynnwys hyn yn y rhan hon o'ch deddfwriaeth?
Dylid glynu'n llymach wrth y prawf cymwys a phriodol ac, o bosibl, dylid datgelu pob euogfarn, gan hyd yn oed symud y tu allan i Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Ein dyletswydd ni yw sicrhau bod pob teithiwr sy'n mynd i dacsi yn teimlo y bydd yn cyrraedd ei gyrchfan yn ddiogel. Rhaid i'r rhai sy'n dewis teithio mewn tacsi allu teithio heb ofni y byddant mewn perygl oherwydd unrhyw unigolyn sy'n darparu'r gwasanaeth hwnnw.
Yn ogystal â'r system tariff genedlaethol, dylid cael prawf ansawdd cerbydau cenedlaethol hefyd. Fe wnaethoch chi sôn am hyn yn gynharach, Gweinidog. Mae'n dda darllen yn y datganiad fod gan y Gweinidog yr holl agweddau hyn mewn golwg, ac edrychaf ymlaen at yr adeg pan weithredir y rheoliadau newydd drwy ddeddfwriaeth. Felly, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei waith ar y mater trafnidiaeth pwysig hwn? A hoffwn ychwanegu bod llawer o gynnwys fy sylwadau yn dod o'r diwydiant ei hun.
A gaf i ddiolch hefyd i David Rowlands am ei sylwadau a'i argymhellion yn ei gyfraniad adeiladol heddiw?
O dan y ddeddfwriaeth bresennol, fel yr amlinellais eisoes, mae gennym ni 22 o awdurdodau lleol sy'n gweithredu gwahanol bolisïau trwyddedu ledled Cymru, ac mae hynny'n cynnwys, fel yr amlinellais, uchafswm oedran y cerbyd trwyddedig, hyd y drwydded, gwiriadau yswiriant y drwydded, a hefyd archwiliadau'r drwydded yrru. Credaf fod cael dull cenedlaethol cyson yn gwneud synnwyr perffaith i'r diwydiant ac i deithwyr, ac mae llawer o'r pwyntiau y mae David Rowlands wedi'u codi heddiw yn ymwneud nid yn unig â'r cynigion deddfwriaeth newydd, ond hefyd â'r argymhellion a ddaeth o'n gwaith gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac mae'r argymhellion yn anelu at wella safonau a chysondeb polisïau trwyddedu heb orfod creu costau afresymol i'r diwydiant tacsis nac awdurdodau lleol.
Felly, mae'r argymhellion yn cynnwys—a chredaf y byddai David Rowlands yn croesawu hyn—amodau gyrwyr a gweithredwyr safonol; protocolau gorfodi ar gyfer awdurdodiadau trawsffiniol; yn hollbwysig, hyfforddiant diogelu gyrwyr a chod ymddygiad gyrwyr; a hefyd meini prawf cymhwyso gyrwyr wedi'u safoni. Felly, gan y bydd mabwysiadu'r argymhellion yn sicrhau cydymffurfiaeth â llawer o safonau'r Adran Drafnidiaeth, bydd Llywodraeth Cymru yn monitro cydymffurfiaeth awdurdodau lleol â'r ddwy ddogfen, a chytunwyd ar y dull hwn, yn amlwg, gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth.
Ond yna wrth fynd ymlaen i'r tymor hwy, rhagwelir y bydd y Bil tacsis yn cael ei gyflwyno ym mlwyddyn 2 y Senedd nesaf ar hyn o bryd ac, fel y dywedais, mae gwaith eisoes wedi dechrau ar ddrafftio cynigion polisi sy'n adeiladu ar yr ymatebion i'r Papur Gwyn 'Gwella trafnidiaeth gyhoeddus'. Mae mwy o fanylion yn cael eu datblygu ynghylch safonau cenedlaethol, y cyfeiriodd David Rowlands atynt gan ddweud eu bod yn gwbl hanfodol, cofrestr genedlaethol a gwell gorfodaeth, a gynigir o dan y Papur Gwyn, ac, yn ogystal, mae cynigion newydd yn cynnwys cyflwyno system drwyddedu un haen symlach i ddileu'r gwahaniaeth hwnnw y soniais amdano'n gynharach, ac i greu'r awdurdod trwyddedu sengl ac i ganiatáu i dacsis weithredu ledled Cymru.
Mae'n rhaid i mi atgyfnerthu'r pwynt a wnes yn gynharach fod deddfwriaeth newydd yn gwbl hanfodol er mwyn mynd i'r afael yn effeithiol â'r materion a godwyd gan y diwydiant a rheoleiddwyr. Mae arnaf ofn na all newid effeithiol ddigwydd drwy ddefnyddio'r ddeddfwriaeth bresennol na thrwy fabwysiadu mesurau gwirfoddol.
Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am estyn allan at yr undebau i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r cynllun grant dewisol ar gyfer cyfyngiadau symud, oherwydd mae hyn yn rhywbeth yr oeddwn wedi'i godi gyda'r Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am leiafrifoedd ethnig a chydraddoldeb cyn diwedd y cyfyngiadau symud, ac, fel y crybwyllodd Helen Mary, nid oes gan lawer o'r gyrwyr tacsi hyn y Gymraeg na'r Saesneg fel eu hiaith gyntaf. Ac felly, ddiwedd yr wythnos diwethaf, gwn fod Unite wedi cyflwyno 1,000 o geisiadau y buon nhw'n helpu gyrwyr tacsis i'w cwblhau am eu bod yn ei chael hi'n anodd gwneud hynny ar eu pennau eu hunain; oeddent yn wir. Ac yn anffodus, mae llawer iawn o angen. Yng Nghaerdydd, bu llawer mwy o alw ar y gronfa nac o arian a oedd ynddi, felly rwy'n gobeithio bod rhywbeth y gallwn ei wneud ynglŷn â sicrhau nad yw'r ddeddf gofal gwrthgyfartal yn berthnasol i yrwyr tacsis, ac na fydd y rhai mwyaf anghenus, sydd angen y rhan fwyaf o gymorth i gael y dogfennau gyda'i gilydd, yn cael eu heithrio, heb unrhyw gymorth o gwbl.
Rwy'n cefnogi'n frwd eich ymdrechion i annog gyrwyr tacsis i fanteisio ar gerbydau di-garbon, fel y gallan nhw ddeall bod hyn mewn gwirionedd yn ffordd lawer glanach ac, yn y diwedd, yn ffordd fwy cost-effeithiol o redeg eu busnes. Ond, yn amlwg, bydd angen rhai cynlluniau benthyca wedi'u llunio'n ofalus iawn sy'n fforddiadwy, o ystyried bod y rhan fwyaf o yrwyr tacsis wedi gweld eu hincwm eleni yn plymio. Ond, yn amlwg, mae angen inni symud tuag at hynny, o gofio y bydd cerbydau petrol a cherbydau diesel yn cael eu dileu'n raddol beth bynnag.
A wnewch chi—? A wnewch chi derfynu, os gwelwch yn dda?
Gwnaf. Ni chaiff unffurfiaeth safonau olygu sefyllfa afreolus a dilywodraeth i bob gyrrwr tacsi mewn rhai ardaloedd a phrinder gyrwyr tacsis mewn ardaloedd eraill, ac mae gor-gyflenwad eisoes yng Nghaerdydd. Felly, sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu rheoleiddio nifer y tacsis sy'n gweithredu mewn unrhyw ardal benodol, gan ddefnyddio ffonau symudol o bosibl—
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
—i sicrhau nad ydym yn cael y sefyllfa afreolus hon sy'n achosi'r gorgyflenwad enfawr hwn?
A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am y cwestiynau y mae wedi'u codi, a hefyd am ei chyfraniad ehangach o ran tynnu sylw at yr effaith anghymesur y mae'r coronafeirws wedi'i chael ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, gan gynnwys, o ran y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat, pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig? Rydym yn cydnabod bod y pandemig wedi effeithio'n ddifrifol ar y diwydiant, yn enwedig pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe yn bennaf, sy'n cynrychioli cyfran uchel o'r diwydiant.
Fel yr wyf wedi'i ddweud wrth gyfranwyr eraill y prynhawn yma, mae'r wybodaeth sydd ar gael, o ran cymorth, yna ar-lein. Rydym wedi gofyn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru rannu'r wybodaeth honno â gyrwyr tacsis; rydym ni hefyd wedi gofyn i undebau llafur wneud hynny yn yr un modd. Credaf fod swyddogion wedi gweithio'n agos iawn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol i ddarparu atebion i faterion fel addasrwydd sgriniau diogelwch dros dro ar gyfer cerbydau. Ac, fel y dywedais eisoes, rydym yn ymchwilio i'r posibilrwydd o ddarparu cyfarpar diogelu personol o ansawdd uchel i yrwyr tacsi a cherbydau hurio preifat.
Ac, wrth gwrs, mae gennym y grŵp cynghori, a sefydlwyd ac sydd wedi bod yn cyfarfod ers mis Ebrill eleni, i ystyried y nifer anghymesur o farwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID-19 ymhlith pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae gwaith yn mynd i barhau i ddatblygu argymhellion i sicrhau bod diogelwch gweithwyr o'r pwys mwyaf, a'n bod yn helpu i leihau nifer y marwolaethau, yn enwedig o fewn sectorau allweddol lle mae pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi eu cynrychioli'n fawr. Felly, yn amlwg, bydd y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat yn un o'n pryderon allweddol ni.
Byddwn yn dweud eto wrth Jenny Rathbone ei bod yn llygad ei lle wrth ddweud mai mater trawsffiniol yw'r mater pwysicaf y mae angen inni ei oresgyn efallai, y mae angen inni ei herio. Oherwydd o ganlyniad uniongyrchol i faterion trawsffiniol roedd llawer o yrwyr tacsis, yn enwedig yng Nghaerdydd lle mae gorgyflenwi, yn cael taliadau isel—cyflogau isel—cyn y pandemig, ac o ganlyniad, hyd yn oed os oedden nhw'n gallu sicrhau cyllid drwy'r cynllun cymorth hunangyflogaeth, ar 80 y cant yn unig, prin ei fod yn ddigon i fyw arno. Dyna pam y mae'r gronfa cymorth dewisol wedi bod mor bwysig. Dyna pam y mae'r cynllun grant dewisol wedi bod mor bwysig—y £25 miliwn. Ond rydym ni eisiau parhau i edrych i weld sut y gallwn ni helpu'r sector mewn unrhyw ffordd bosibl.
Ac yn olaf, o ran tacsis gwyrdd, rwyf eisoes wedi amlinellu'r cynlluniau treialu sy'n cael eu cynnal a sut y bydd y cynlluniau treialu hynny wedyn yn llywio maint y cymorth y bydd ei angen er mwyn trawsnewid y diwydiant tuag at ein huchelgeisiau sero-net. Ac, wrth gwrs, bydd rhan i'w chwarae, yn amlwg, gan Lywodraeth y DU yn hyn o beth. Mae wedi cyhoeddi bod y dyddiad ar gyfer dod â chynhyrchu cerbydau motor tanio mewnol i ben wedi'i ddwyn ymlaen i 2030, felly rydym yn aros hefyd—yfory o bosibl—am unrhyw arian ychwanegol y gellir ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU i helpu i sicrhau y gellir bodloni'r uchelgais hwnnw, y targed hwnnw.
Yn olaf, Mick Antoniw.
Gweinidog, cytunaf â llawer o'r sylwadau sydd eisoes wedi'u gwneud, ac nid ailadroddaf y rheini. A gaf i ddweud ar goedd, yn gyntaf, fy mod yn cydnabod bod y gwasanaeth tacsis, yn enwedig yn y Cymoedd, wedi gwneud cyfraniad mor bwysig wrth ymdrin â phandemig COVID, wrth gludo, er enghraifft, staff y GIG i'r gwaith mewn ardaloedd lle mae gwasanaethau bysiau'n wael beth bynnag? Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod hynny—a'r sylw a wnaeth Alun Davies am y gwasanaeth tacsis yn rhan bwysig iawn o wasanaeth trafnidiaeth integredig. Mae'r pwynt a wnaeth am ffiniau gweithredu yn bwysig, yn enwedig, er enghraifft, i gymunedau'r Cymoedd, oherwydd i ryw raddau mae'r gorgyflenwad, fel y gwnaethoch chi grybwyll, mewn lleoedd fel Caerdydd mewn gwirionedd yn tanseilio datblygiad gwasanaeth tacsis yn rhai o gymunedau'r Cymoedd, oherwydd gorfodir gyrwyr tacsis i fynd i un ardal a thanseilio'r sail economaidd y mae'r gallu i ddarparu'r gwasanaeth tacsis wedi ei seilio arni mewn gwirionedd.
Mae dwy agwedd ar safonau a diogelwch. Mae un safon, yn amlwg, yn cynnwys hyfforddiant hefyd. Mae diogelwch ar gyfer teithwyr, ond mae hefyd ar gyfer gyrwyr tacsis, y mae llawer ohonyn nhw'n dioddef ymosodiadau yn ystod eu gwaith. Pe bai gweithwyr eraill yn y sector cyhoeddus yn profi ymosodiadau i'r fath raddau, byddem yn ei ystyried yn fater difrifol iawn. Felly, rwy'n credu ei fod yn ymwneud â chydnabod y sefyllfa honno a'r swyddogaeth. Un o'r materion y mae'r cwmnïau tacsis wedi'i godi gyda mi yw nifer y platiau a'r angen i roi cap ar blatiau i sicrhau nad oes gorgyflenwad. Mae hynny'n amlwg yn gorgyffwrdd â'r mater ffiniau hefyd. A gaf i wedyn godi mater—
Na. Allwch chi ddirwyn i ben, os gwelwch chi'n dda?
Byddaf i'n ddirwyn i ben—o ran Uber, sydd, yn y bôn, wedi datblygu ras i'r gwaelod o ran y gwasanaethau tacsi. Mae'n bwysig mewn unrhyw ddatblygiad nad ydym yn caniatáu i'r gwasanaeth tacsis ddilyn yr un drefn ag Uber—bod yn rhaid iddo gael sail fasnachol gadarn i oroesi a bod yn rhan o wasanaeth trafnidiaeth integredig.
A gaf i ddiolch i Mick Antoniw am y pwyntiau y mae wedi'u codi a'r cwestiynau y mae wedi'u gofyn? Mae'n hollol iawn i ddweud bod angen inni osgoi unrhyw ras i'r gwaelod. Wrth wneud hynny, rhaid inni sicrhau bod y safonau hynny y soniais amdanyn nhw'n gynharach o'r ansawdd uchaf, a sicrhau y gallwn ni gystadlu â'r newydd-ddyfodiaid hynny i'r farchnad ar sail safonau a diogelwch. Rhaid dweud bod gormod o gyflenwyr tacsis wedi achosi cyflogau is. Felly, o ran gweithredu'n groesffiniol, nid oes amheuaeth nad yw'r ddeddfwriaeth a fydd yn cael ei chyflwyno yn y tymor nesaf, yn hanfodol bwysig o ran codi lefelau cyflog gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat.
Wrth gwrs, mae Mick Antoniw yn tynnu sylw at y rhan hanfodol y mae tacsis a gyrwyr cerbydau hurio preifat wedi'i chwarae yn ystod y pandemig cyfan, gan sicrhau bod modd i weithwyr allweddol ac offer y GIG gael eu cludo'n ddiogel ac yn ddibynadwy. Rwyf i'n hynod ddiolchgar i'r diwydiant am chwarae ei ran wrth ymateb i'r ymdrech genedlaethol. Rwy'n gwybod bod Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i fod i wneud datganiad heddiw ynghylch gweithgareddau o fewn tasglu'r Cymoedd. Bydd hynny'n digwydd ar 8 Rhagfyr, ac rwy'n siŵr y bydd ganddo rywbeth i'w ddweud bryd hynny am rai o'r cynlluniau peilot sydd wedi bod yn digwydd o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Gan gydnabod y rhan hanfodol y mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn ei chwarae yn y Cymoedd, rwy'n siŵr y bydd ganddo rywbeth i'w ddweud am y gwasanaethau y maen nhw'n eu gweithredu yn y cymunedau hynny y mae Mick Antoniw ac Aelodau eraill yn eu cynrychioli mor dda.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.