– Senedd Cymru am 3:19 pm ar 12 Ionawr 2021.
Eitem 4 ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â strategaeth frechu COVID-19. Rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi'r datganiad. Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ddoe, fe gyhoeddais i'r cynllun brechu COVID-19 cenedlaethol sydd gennym ni i Gymru. Fe gyhoeddwyd y cynllun ar yr un diwrnod ag y dechreuwyd adrodd yn ddyddiol ar nifer y brechlynnau a weinyddir yng Nghymru. Fore heddiw, roedd yna dros 91,000 o bobl ledled Cymru wedi cael eu dogn cyntaf nhw o un o'r ddau frechlyn COVID sydd wedi cael eu cymeradwyo. Mae hynny'n nodi cynnydd sylweddol o gofio mai dim ond ychydig dros fis sydd yna ers i GIG Cymru sbarduno'r rhaglen frechu fwyaf a welwyd erioed yn ein gwlad ni.
Mae'r cynllun yn adlewyrchu misoedd o gynllunio manwl ar y ddarpariaeth, ac yn nodi ein strategaeth a'n blaenoriaethau cenedlaethol ni ar gyfer y misoedd nesaf. Mae'r cynllun yn nodi tair carreg filltir allweddol. Erbyn canol mis Chwefror, fe fydd pob un sy'n preswylio mewn cartrefi gofal yn ogystal â'r staff, holl staff rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol, pawb dros 70 oed a phawb sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol neu'r rhai sydd ar y rhestr warchod wedi cael cynnig y brechlyn. Erbyn y gwanwyn, fe fydd brechu wedi cael ei gynnig i'r holl grwpiau eraill o flaenoriaeth yng ngham 1. Mae hynny'n golygu pawb dros 50 oed a phawb sydd mewn perygl oherwydd bod ganddyn nhw gyflwr iechyd sylfaenol. Fe fydd cwblhau hyn o ran pob grŵp a nodwyd yn flaenoriaeth yng ngham 1 yn diogelu'r grwpiau hynny y mae 99 y cant o'r holl farwolaethau y gellir eu hosgoi yn digwydd iddynt. Erbyn yr hydref, fe gaiff brechlyn ei gynnig i bob oedolyn arall sy'n gymwys yng Nghymru, yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Cyd-bwyllgor arbenigol annibynnol ar Frechu ac Imiwneiddio.
Erbyn yr hydref, y nod yw y bydd 2.5 miliwn o bobl Cymru wedi cael cynnig eu himiwneiddio—y cyfan o fewn ychydig fisoedd. Mae hon yn dasg enfawr i GIG Cymru. Mae'n werth nodi nad oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud ar gam 2 eto a sut i flaenoriaethu proses cyflwyno'r brechiadau ar gyfer y cam hwnnw. Serch hynny, fe fydd y JCVI yn rhoi cyngor ar y cam nesaf i'w ystyried gan bedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae'r cerrig milltir hyn yn y cynllun ar yr amod fod yna gyflenwad digonol o frechlynnau ar gael. Rydym wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd y cyflenwadau ar gael. Eto i gyd, yn y pen draw, mae hwn yn fater sydd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r cynllun yn cynnwys tri nod hefyd, ar rydym yn bwriadu eu cyflawni nhw fel rhan o'r daith tuag at gyflawni carreg filltir 1. Erbyn 18 Ionawr, bydd holl staff ambiwlans rheng flaen Cymru wedi cael cynnig eu dos cyntaf o'r brechlyn. Mae hyn yn rhan o'n nod ni i frechu'r holl staff iechyd a gofal rheng flaen cyn gynted â phosibl, o ystyried y pwysau sydd ar ein GIG ni a swyddogaeth hollbwysig ein staff iechyd a gofal ni yn y pandemig hwn. Erbyn diwedd mis Ionawr, fe fydd holl breswylwyr a staff cartrefi gofal wedi cael cynnig eu dos cyntaf o'r brechlyn. Er bod llawer o staff cartrefi gofal wedi mynd i'n canolfannau brechu am eu dos cyntaf o'r brechlyn yn ystod wythnosau cynnar y rhaglen, roedd allgymorth i gartrefi gofal yn anodd oherwydd yr heriau cyfarwydd iawn sy'n gysylltiedig â brechlyn Pfizer-BioNTech. Maen nhw'n destun blaenoriaeth nawr yn dilyn cyflwyno brechlyn Rhydychen-AstraZeneca yr wythnos diwethaf. A hefyd, erbyn diwedd mis Ionawr, ein nod ni yw y bydd o leiaf 250 o bractisau cyffredinol ledled Cymru yn rhan o'r model cyflenwi. Mae swyddogaeth gofal sylfaenol yn elfen hanfodol yn ein rhaglen ni: mae'r 250 o bractisau a fydd yn gweithredu ymhen ychydig wythnosau yn amlygu'r cyfleoedd o ran niferoedd y mae gofal sylfaenol yn eu cyflwyno. Un peth yw niferoedd, ond ystyriaeth allweddol arall yw hygyrchedd, ac fe fydd datrysiadau o ran gofal sylfaenol yn sicrhau bod y brechiadau yn cael eu cynnig yn nes adref i'r rhai sydd eu hangen fwyaf.
Mae'r cynllun yn nodi ein dull tymor canolig ni o frechu 2.5 miliwn o bobl yng Nghymru. Os yw'r flwyddyn ddiwethaf wedi dysgu unrhyw beth i ni, gwyddom y gall pethau newid. Fe fydd ein cynllun ni'n cael ei ddiweddaru o bryd i'w gilydd i adlewyrchu'r newidiadau hyn. Fe gaiff ei ddiweddaru hefyd wrth inni fynd o un garreg filltir i'r llall ac wrth i fwy o eglurder ddod i'r amlwg ar y camau nesaf, yn enwedig o ran cam 2 y rhaglen.
Serch hynny, mae angen imi atgoffa'r Aelodau a'r cyhoedd sy'n gwylio fod y sefyllfa yng Nghymru ar ddechrau 2021 yn parhau i fod yn un ddifrifol iawn. Mae achosion y feirws yn niferus iawn, ac mae'r math newydd, mwy heintus o goronafeirws—straen Swydd Caint—wedi dod i'r amlwg ledled y DU, ac mae'n ymledu ym mhob rhan o Gymru. Ras yn erbyn y feirws yw hon, ac mae'r rhaglen frechu yn destun gobaith mawr i ni. Bydd cyrraedd y llinell derfyn yn farathon o ymdrech dros y misoedd nesaf i ddod. Nid yw'r brechlyn yn ddatrysiad cyflym, ond rwy'n hyderus y bydd tîm GIG Cymru yn cyflwyno rhaglen frechu y bydd pawb ohonom ni'n ymfalchïo ynddi, ac fe fydd yn helpu i achub llawer o fywydau.
Yn union fel mae gan ein GIG ni, llywodraeth leol, cymorth y lluoedd arfog, a'n gwirfoddolwyr ni bob un eu rhan wrth ddarparu'r rhaglen frechu fwyaf erioed mewn hanes, mae gan bob un ohonom ni hefyd ein rhan wrth gadw Cymru'n ddiogel: dal ati i olchi ein dwylo'n rheolaidd, cadw pellter priodol oddi wrth bobl eraill nad ydynt yn byw ar ein haelwyd ni, a gwisgo masg wyneb lle bod angen, ac, ie, gwneud yn siŵr ein bod yn darparu awyru da lle bynnag y bo modd. Mae gan bob un ohonom ni ran wrth helpu i gadw Cymru'n ddiogel. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Fe hoffwn i ddiolch yn ddidwyll iawn ar goedd i bawb sy'n ymwneud â'r ymgyrch frechu, oherwydd mae'n rhaid bod hynny wedi golygu ymdrech enfawr, ac fe fydd hi'n parhau i fod yn enfawr ac yn anodd wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith.
A gaf i ofyn cyfres o gwestiynau, os gwelwch chi'n dda, Gweinidog, ynglŷn â'r cynllun y gwnaethoch chi ei gyflwyno ddoe a'r datganiad heddiw? Mae'r dystiolaeth yn hysbys iawn ein bod ni, yn anffodus, yma yng Nghymru, ar ei hôl hi o'n cymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Sut wnaiff y cynllun hwn ein galluogi ni i ddal i fyny a goddiweddyd rhannau eraill y Deyrnas Unedig wrth gyflwyno'r brechlyn, a pha wersi a ddysgwyd gennym ers dechrau'r ymgyrch? Fe glywsom ni ddoe fod dwy ran o bump o'r rhai sy'n 80 oed wedi cael eu brechu yn Lloegr. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni heddiw ynglŷn â nifer y rhai dros 80 oed sydd wedi cael eu brechu yma yng Nghymru? Oherwydd, yn sicr yn fy mlwch post i, rwy'n darllen am lawer o etholwyr o'r grŵp oedran penodol hwnnw yn mynegi eu pryderon oherwydd nad oes unrhyw un wedi bod mewn cysylltiad â nhw.
Ddoe, 5,121 o bobl yn unig oedd wedi cael brechiad yma yng Nghymru. Sut fydd y cynllun hwn yn caniatáu cyflymu cyflwyno'r brechlyn i gyrraedd niferoedd mwy na'r 5,121 yna sy'n digwydd yn feunyddiol? Ac a wnewch chi gadarnhau a yw gwasanaeth imiwneiddio Cymru ar waith erbyn hyn? Mae hyfforddiant i'r rhai sy'n gweinyddu'r brechlyn yn hollbwysig hefyd ac, wrth inni fwrw ymlaen, fe fydd yn hanfodol inni gael brechlynnau eraill ar waith i helpu yn yr ymdrech genedlaethol. A wnewch chi gadarnhau pa fesurau sydd wedi eu cymryd gennych i hwyluso'r gwaith o gyflymu hyfforddiant i'r rhai sy'n gweinyddu'r brechiadau ac, yn wir, a oes modd i weithwyr meddygol proffesiynol sydd wedi ymddeol ddychwelyd i'r gwasanaeth i helpu yn yr ymdrech genedlaethol?
Rydych chi'n cyfeirio at yr 'ail gam' yn eich datganiad. Rwy'n tybio mai ystyr hynny yw'r ail rownd o frechlynnau, ond fe hoffwn i'n fawr gael deall yn union beth yw ystyr yr 'ail gam' i chi. Rwy'n cymryd mai'r ystyr yw ail rownd o frechlynnau, a'r amseru o ran pryd y bydd pobl yn cael eu galw i gael y brechlynnau hynny. Felly, rwy'n tybio y bydd yn rhaid inni aros nes y bydd mwy o wybodaeth wedi dod i'r amlwg.
Fore heddiw, fe gysylltodd cartref gofal yn y Barri gydag Aelod etholaethol Bro Morgannwg a minnau, lle'r oedd y tîm brechu wedi cyrraedd heb fawr ddim cyfarpar diogelu personol ar gyfer gweinyddu'r brechiadau yn y cartref gofal hwnnw, ar wahân i fasgiau wyneb. A wnewch chi gadarnhau, o dan y cynllun, y bydd cyfarpar diogelu personol yn rhan annatod o fecanwaith cyflawni'r rhaglen frechu yng Nghymru a bod yna ddigonedd o gyfarpar diogelu personol, fel nad oes yna unrhyw reswm i dimau fod allan yn y gymuned yn gweinyddu'r brechiadau heb y cyfarpar hwnnw?
Mae'n bwysig, hefyd, deall faint o bobl mewn gwirionedd sy'n methu â bod yn bresennol ar ôl gwneud eu hapwyntiad eu hunain. A oes gennych rifau y gallech chi eu rhoi i'r Aelodau y prynhawn yma i ddangos y gyfradd honno sy'n methu eu hapwyntiadau mewn canolfannau brechu yma yng Nghymru? A phryd fydd yna ganolfan frechu ym mhob sir? Fe ofynnwyd i'r Prif Weinidog am hyn yn benodol yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac rwy'n nodi heddiw nad oes yna ganolfan yn y Barri, y dref fwyaf yng Nghymru, yn ardal cyngor Bro Morgannwg, ac nad oes canolfan ddynodedig yn sir Benfro. A ydych mewn sefyllfa i ddweud wrthym pryd y gellid llenwi'r bylchau ar y map fel y bydd gan bob sir yng Nghymru ganolfan frechu?
Ac yn olaf, fe gyfeiriwyd at hyn, y ffaith fod yna gyfle i frechu 24 awr y dydd er mwyn cyflymu'r rhaglen frechu. A yw hyn yn rhywbeth sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd o dan y cynllun, Gweinidog, ac os felly, a wnewch chi ddweud wrthym sut y gallai hynny gyflymu'r broses o weinyddu brechiadau ledled Cymru? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i'r Aelod am ei gyfres o gwestiynau. Mae'n ddrwg gennyf, mae problem wedi codi ar fy nghyfrifiadur i. Rwyf am gael gwared ar hwn.
Felly, o ran y gyfres o gwestiynau a ofynnodd ef, rwy'n credu ei fod wedi gofyn nifer o gwestiynau a oedd yn mynegi'r un cwestiwn mewn gwahanol ffyrdd. Fe fydd y cynllun a gyhoeddais i ddoe yn ein helpu ni, ac fe nodir ynddo sut y byddwn ni'n cyflymu'r broses o gyflwyno'r brechlyn, ac mae hynny, yn benodol, o ran defnyddio'r brechlyn Pfizer-BioNTech, ond brechlyn Rhydychen-AstraZeneca hefyd. Fe fydd y cynnydd sylweddol mewn gofal sylfaenol—ac fe ddylwn i ddweud fy mod wedi cael cyfarfod adeiladol iawn gyda Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn gynharach heddiw—yn caniatáu inni ymestyn ein gallu ni'n sylweddol o ran hygyrchedd a chyflymder. Ac fe fydd hynny'n dod ochr yn ochr nid yn unig â phythefnos gyntaf y brechlyn Rhydychen-AstraZeneca sydd gennym ni—ac fe glywsoch y Prif Weinidog yn dweud ein bod ni wedi cael ychydig dros 20,000 ar gyfer pob un o'r ddwy wythnos gyntaf—ond rydym ni'n disgwyl cynnydd llawer mwy yn y cyflenwad o frechlynnau ar gyfer y drydedd wythnos. Mae rhoi gofal sylfaenol ar waith yn bwysig iawn ar gyfer y drydedd wythnos honno lle bydd gennym ni gyflenwad llawer mwy. Rwyf wedi gweld rhai o'r pryderon sydd wedi bod gan rai darparwyr gofal sylfaenol y gallen nhw wneud mwy pe bai ganddyn nhw fwy ohono, ond rydym ni mewn gwirionedd yn defnyddio'r cyflenwad hwnnw o frechlyn Rydychen-AstraZeneca, y cyflenwadau a gawsom ni. Rwy'n credu y dylai pobl ym mhob rhan o Gymru gael rhywfaint o gysur yn y ffaith ein bod yn aros am gyflenwad llawer mwy sylweddol i ddod i Gymru, a gaiff ei weinyddu wedyn yng Nghymru o'r wythnos nesaf yn benodol.
Ond nid yn unig y pwyntiau o ran hygyrchedd, rwy'n credu ei bod yn werth ymdrin â'ch pwyntiau chi ynglŷn â chanolfannau brechu. Rydym yn disgwyl y bydd gan bob awdurdod lleol ganolfan frechu torfol yn y pen draw, ond rwy'n credu efallai fod yna ddryswch rhwng y symbol a'r hygyrchedd gwirioneddol. Fe fydd darparu'r brechlyn drwy ofal sylfaenol gyda brechlyn Rhydychen-AstraZeneca yn golygu llawer mwy o hwylustod i bobl. Pan fydd gennych gannoedd o bractisau cyffredinol ar waith, os bydd hynny o'u hadeiladau nhw eu hunain, neu mewn mannau eraill yn gysylltiedig â nhw, yn enwedig gydag awdurdodau lleol a byrddau iechyd, fe fydd hynny'n golygu yn ymarferol y bydd hi'n haws o lawer. Nid wyf i o'r farn y bydd y cyhoedd yn poeni rhyw lawer a oes yna driongl ar fap yn eu hawdurdod lleol nhw neu a allan nhw gyrraedd lleoliad brechu yn hawdd pan fydd hi'n bryd iddyn nhw fynd i gael eu brechlyn. Bydd yn golygu pobl yn mynd i'r lleoliadau hynny, boed mewn canolfan iechyd leol, neu westy neu fwyty a addaswyd, pafiliwn bowlio, neu yn wir ganolfan frechu torfol. Rwy'n credu mai'r hyn y mae'r cyhoedd am ei wybod yw, 'Pryd y caf i fynd yn ddidrafferth ac yn rhwydd?' Mae hynny'n cynnwys ein darpariaeth ni, wrth gwrs, mewn cartrefi gofal.
O ran eich cwestiwn chi am wasanaeth imiwneiddio Cymru, ydy, mae hynny ar waith. Ni allaf roi ichi'r ffigurau o ran nifer y rhai a fethodd apwyntiadau heddiw, ac nid oes gennyf ffigur i'w roi i chi ar bobl dros 80 oed, ond pan fyddwn ni'n cyhoeddi ein dangosfwrdd wythnosol, fe fyddwn ni'n rhoi mwy o wybodaeth am rai o'r manylion yr ydych chi wedi gofyn amdanynt. Ac o ran y diffyg cysylltu, fe fydd pawb yn dechrau cael eu llythyrau o heddiw ymlaen, gan fyrddau iechyd a phartneriaid llywodraeth leol, sy'n disgrifio'r dull o weithredu'n lleol ac yn rhoi rhywfaint o sicrwydd felly i bobl nad yw'r gwasanaeth iechyd wedi anghofio amdanyn nhw.
O ran hyfforddiant i roi brechiadau, rydym wedi gweithio gyda phobl ym maes Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac ar draws y gwasanaeth i sicrhau ein bod ni'n gwneud pethau mor hawdd â phosibl. Rwyf wedi gweld rhai o'r pryderon hyn ym mhob gwlad yn y DU, gan gynnwys, wrth gwrs, yn Lloegr, lle mae pobl yn pryderu bod y broses yn rhy fiwrocrataidd, gan gynnwys y broses ar gyfer staff sydd wedi ymddeol sy'n dychwelyd i gynorthwyo gyda'r rhaglen. Felly, rydym ni'n edrych eto ar yr hyn sy'n bosibl ei wneud. Nawr, mae'n gwbl bosibl nad oes angen imi wneud un penderfyniad ynglŷn â hynny. Rwyf wedi bod yn glir iawn ynglŷn â'r gyfarwyddeb polisi i wneud hyn cyn gynted â phosibl ac mor hawdd â phosibl fel y gall staff dibynadwy, yn wirfoddolwyr neu beidio, weinyddu'r brechiadau. Pe byddai angen imi wneud dewisiadau gweinidogol, yna rwy'n fwy na pharod i wneud hynny i gyflymu'r rhaglen.
O ran cam 2, roeddwn i mewn gwirionedd yn cyfeirio at gam 2 o ran y rhestr flaenoriaethau. Rwy'n credu eich bod chi'n gofyn i mi am yr ail ddos yn eich cwestiwn chi, ac mae hynny'n ymwneud â'r cyflenwad yn rhannol. Felly, fe allwch chi ddisgwyl gweld yr ail ddos yn dechrau cael ei roi o ddifrif pan ddaw'n fis Mawrth, pan fydd mwy byth o bobl yn dechrau cael eu hail ddos, ac fe aiff hynny ymlaen i fis Ebrill hefyd, ac mae hyn yn rhan o'r hyn y byddwn ni'n ei wneud. Fe sylwch ein bod eisoes yn rhoi gwybod am faint o bobl sydd wedi cael eu dos cyntaf a'u hail ddos yn y cyfansymiau a ddarperir gennym. Felly, byddwn yn dryloyw o ran y cynnydd a wnawn ni.
Nid wyf yn ymwybodol o'r mater unigol am y cartref gofal yn y Barri yr ydych chi'n cyfeirio ato, ond mae cyflenwad o gyfarpar diogelu personol ar gael, mae digonedd ohono ar gael. Rwy'n credu y gall yr Aelodau o bob lliw gwleidyddol fod yn falch iawn o'r ffordd yr ydym ni wedi caffael a chyflenwi cyfarpar diogelu personol yma yng Nghymru drwy gydol y pandemig hwn, a chael gwerth da am arian, i bob un ohonom ni, i bob trethdalwr, heb unrhyw argoel o lwgrwobrwyo yn y dull o gyflenwi a chaffael y cyfarpar diogelu personol hwnnw.
O ran yr awgrym am 24 awr y dydd, mae hwnnw'n rhywbeth sy'n cael ei ystyried gan y byrddau iechyd. Nid wyf am osod nod ei bod yn rhaid i bawb gael model cyflawni 24 awr y dydd; fe hoffwn i weld y model gorau a chyflymaf sydd ar gael ar gyfer gwneud hynny. Pe byddem ni'n gosod nod i bawb ei gyflawni o ran 24 y dydd, efallai na fyddai hynny'n cyflawni'r diben. Rwy'n credu y bydd rhai byrddau iechyd yn treialu hyn i weld a fydd yn cyflymu'r gweinyddu yn ogystal â gwella hygyrchedd, ac rwy'n edrych ymlaen at ddysgu o hynny. Ni fyddwn ni'n gwybod yn y bôn nes inni roi prawf ar hynny, ond fel y dywedais, fy nghyfarwyddeb i i'r system yw gweithredu mor gyflym â phosibl, mor ddiogel â phosibl, ond gwneud hynny mewn modd y gallwn ni ofalu am ein staff a'n gwirfoddolwyr ni sy'n gweinyddu'r brechlynnau, a'i gwneud mor hawdd â phosibl i'r cyhoedd gael y brechlynnau hynny hefyd. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch i chi am y datganiad. Peth buddiol yw cael cyfle i roi ychydig o sylwadau a gofyn pedwar neu bump o gwestiynau hefyd. Rwy'n falch bod gennym ganllaw bras erbyn hyn o ran yr amserlen y mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio ei dilyn. Fe ysgrifennais i at y Gweinidog nos Sadwrn a gofyn iddo ef am dargedau inni allu mesur perfformiad yn eu herbyn. Ond a gaf i ychydig mwy o fanylion, os gwelwch chi'n dda? Rydych chi'n sôn am daro'r targed ar gyfer y grwpiau blaenoriaeth erbyn y gwanwyn. Pryd yn y gwanwyn, dywedwch? A ydym ni'n sôn am ddechrau'r gwanwyn neu ddiwedd y gwanwyn? Rwy'n credu bod angen ychydig mwy o fanylion ynglŷn â hynny.
Fe ddywedodd y Gweinidog wrthym y bydd yr wybodaeth ddiweddaraf am nifer y brechiadau dyddiol bellach yn cael eu rhoi, ond rwyf i o'r farn fod angen mwy na ffigur cyffredinol rheolaidd arnom ni. Fel y gofynnais i yn y llythyr hwnnw, mae angen diweddariad dyddiol o ran niferoedd pob math o'r brechlyn a dderbyniwyd, niferoedd pob math o'r brechlyn a ddosbarthwyd i bob bwrdd iechyd, y niferoedd a weinyddwyd, ac i ba grwpiau blaenoriaeth, ac ynglŷn ag ardaloedd byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Rwy'n falch o glywed eraill yn galw am ddata manwl hefyd, gan gynnwys Coleg Brenhinol y Ffisigwyr. Mae hyn yn bwysig iawn o ran rhoi canolbwynt i'ch gwaith chi ac wrth roi gwybod i'r cyhoedd, yn ogystal â ni, sydd â swyddogaeth wrth graffu ar y Llywodraeth—mae angen inni wybod ble rydym ni arni ac mae angen i ni fod yn hyderus ein bod ni ar y trywydd iawn.
A gaf i ofyn hefyd am dynhau'r blaenoriaethu o fewn y gweithlu iechyd a gofal, ar ôl adroddiadau bod rhai o'r staff nad ydyn nhw'n dod wyneb yn wyneb â chleifion wedi cael eu brechu? Fe wn i fod un bwrdd iechyd yn dweud mai'r rheswm am hynny yw bod brechlynnau wedi cael eu rhoi yn y diwedd i rai staff nad ydyn nhw'n wynebu cleifion fel nad oes unrhyw ddosau sy'n barod yn cael eu gwastraffu. Rwyf i wedi awgrymu efallai y dylem ni fabwysiadau model Israel, lle gellid cynnig dosau na ddefnyddiwyd i'r cyhoedd ar sail y cyntaf i'r felin, ar derfyn dydd. Rwyf wedi tynnu sylw hefyd at ddatblygiadau arloesol eraill yn Israel sydd wedi eu gwneud nhw'n arweinwyr byd-eang ym maes brechu, gan gynnwys gweithio saith diwrnod a chanolfannau brechu gyrru drwodd, er enghraifft. Rydych chi'n dweud efallai nad ydych chi'n dymuno gweld 24 awr y dydd; ond yn sicr mae angen saith diwrnod yr wythnos.
Fe hoffwn i wybod hefyd beth ydych chi'n ei wneud ar lawr gwlad i sicrhau bod eich rhestr flaenoriaethau chi eich hun yn cael ei defnyddio. Fe wn i, er enghraifft, fod meddygon teulu yn fy etholaeth i yn awyddus i ddilyn eich canllawiau chi, a sicrhau bod holl breswylwyr cartrefi gofal yn cael eu brechu mewn un diwrnod—i gyd ar yr un pryd, 500 ohonyn nhw; y nhw yw'r brif flaenoriaeth—ond yn hytrach, fe ddosbarthwyd dosau ar gyfer cyflawni rhyw gymaint o frechu cymunedol i bobl 80 oed a throsodd. Peidiwch â'm camddeall i, mae angen i'n dinasyddion hynaf ni yn y gymuned gael eu brechu ar fyrder mawr, ond nid yw hynny mewn gwirionedd yn cydymffurfio â'r rhestr flaenoriaethau y gwnaethoch chi ei rhoi inni. Efallai y gwnewch chi wneud sylw i ni ynghylch hynny. Os oes rhestr flaenoriaeth ar gael, mae angen strategaeth i gadw ati, siawns gen i.
Rwy'n clywed meddygon teulu eraill, mewn rhannau eraill o Gymru, yn mynegi eu rhwystredigaethau ynglŷn â'r hyn sy'n ymddangos iddyn nhw yn strategaeth wael—gan anfon brechlynnau i bob meddygfa yn ei thro, yn hytrach nag atgyfnerthu'r gallu drwy'r ardal i gyd. Rwy'n dyfynnu un sydd wedi gwneud sylwadau cyhoeddus yn ardal Hywel Dda:
Os ydych chi'n ddigon anlwcus i fod yn glaf yn un o'r cymorthfeydd sydd i gael ei dyraniad yn nes ymlaen yna fe fydd yn rhaid ichi aros am y brechlyn—hyd yn oed os ydych chi yn y grŵp blaenoriaeth uchaf.... Dylai hyn olygu grwpiau blaenoriaeth, nid codau post.
Ac yn olaf, fe geir blaenoriaethau eraill—gobeithio y byddech chi'n cytuno â mi yn hynny o beth—y tu hwnt i'r naw uchaf. Nid wyf i'n awgrymu diystyru unrhyw un o'r naw prif grŵp blaenoriaeth, ond o ran yr heddlu neu'r athrawon neu'r rhai eraill sy'n wynebu'r cyhoedd wrth weithio, a wnewch chi egluro sut ydych chi'n bwriadu ehangu'r rhestr flaenoriaeth honno i gynnwys rhai y mae angen eu hamddiffyn fwyaf, y tu allan i'r grwpiau blaenoriaeth sydd gennym ni nawr?
Rwyf am orffen gyda chymhariaeth o fyd chwaraeon. Mae pobl wedi cymharu sut mae pethau'n mynd gyda'r brechu yng Nghymru gyda gwledydd eraill y DU. Mae'n naturiol bod pobl yn gwneud hynny—rydym ni wedi bod ar ei hôl hi. Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud nad ras yw hon, mai marathon ydyw ac nid sbrint. Mae rhedwyr marathon eiddgar yn sbrintio o ddechrau'r ras, ac mae'r rhai sy'n fuddugol yn sbrintio am y 26 milltir i gyd, fwy neu lai. Nid sôn yr ydwyf i am ras i wneud yn well na gwledydd eraill—nid yw hynny yma nac acw—ond mae angen inni gael gwybod ein bod yn llamu ymlaen cyn gynted ag y gallwn ni, er lles dinasyddion Cymru, ac mae'r cyflymder yn hanfodol.
Diolch i chi am eich sylwadau a'ch cwestiynau. Er eglurder, rwyf wedi dweud dro ar ôl tro mai ras yn erbyn y feirws yw hon; marathon o ymdrech yw hi, dros fisoedd lawer, ac rydym i gyd yn dyheu am symud cyn gynted â phosibl. Nid wyf i'n credu y gallaf i fod yn fwy eglur o ran dull gweithredu Llywodraeth Cymru na'r cyfeiriad y mae ein gwasanaeth iechyd gwladol ni'n ei gymryd. Rwy'n credu mewn gwirionedd y dylai'r hyn y mae ein staff ni'n ei wneud—staff sydd dan bwysau—fod yn destun balchder i ni i gyd. Fel ym mhob achos, mae yna adegau pan fydd beirniadaeth o'r rhaglen yn achos gofid personol i'r staff. Rwy'n sylweddoli y bydd y rhan fwyaf o'r Aelodau yn dweud nad ydynt yn beirniadu'r staff, fy meirniadu i fel Gweinidog y maen nhw, ond mae angen ystyried y cwestiwn cwbl ddilys sydd gan yr Aelodau i mi ac i arweinwyr y byrddau iechyd ac effaith hynny ar ein staff ni sy'n gweithio dan bwysau aruthrol.
Gan droi at eich pwynt cyntaf chi ynglŷn â'r gwanwyn, tymor yw'r gwanwyn ac nid yw'n dymor sydd byth yn darfod. Felly, ni fydd gennych chi syniad fel hyn, fel yr awgrymodd David Jones pan oedd ef yn y Swyddfa Gymreig, fod y gwanwyn a'r haf yn para wedyn, rywsut, tan yr hydref a'r gaeaf. Y rheswm pam rydym ni wedi nodi'r gwanwyn fel amserlen amlinellol yw bod hynny'n rhan wirioneddol o'n sefyllfa ni o ran cyflenwad y brechlynnau. Pe bai gennyf i sicrwydd llwyr o'r cyflenwad o frechlynnau hyd at ddiwedd mis Ebrill, mae'n debyg y gallwn ni roi amserlen lawer cliriach ichi. Ond fe geir peth ansicrwydd ynglŷn â hyn. A bod yn deg, nid wyf i'n credu y byddai Llywodraeth y DU yn gallu rhoi gwarant cwbl gadarn imi ar hyn o bryd o bob cludiad a ddaw cyn diwedd mis Ebrill. Fe fyddwn ni'n rhoi mwy o fanylion, wrth inni adolygu'r cynllun, ynghylch pryd yn y gwanwyn y byddwn ni'n credu y gallwn gwblhau'r holl flaenoriaethau yng ngham 1. Ond, er mwyn rhoi rhywfaint o sicrwydd, rydym ni yn disgwyl gwneud hynny cyn diwedd y gwanwyn.
Pe byddai yna her gyda'r cyflenwad o frechlynnau, pe byddai her o ran y gweinyddu, rydym ni am fod yn gwbl agored ynglŷn â hynny. Rydych chi'n cofio i ni gael achos o COVID yng nghanolfan frechu torfol Caerdydd. Fe wnaethom ni golli mwy na dau ddiwrnod o weinyddu, oherwydd fe fu'n rhaid ymdrin â'r achos hwnnw, fe fu'n rhaid glanhau'r safle a bu'n rhaid dod â staff i mewn nad oedd â chysylltiadau er mwyn parhau i redeg y ganolfan. Felly, mae'n bosibl bob amser i ddigwyddiadau ymyrryd, mae'n bosibl bob amser y bydd toriad yn y cyflenwad, ond pe byddai yna unrhyw her fel hynny, rydym ni am fod yn gwbl agored ynglŷn â'r sefyllfa honno ac, yn hollbwysig, ynglŷn â'r hyn y gallwn ni ei wneud er hynny i sicrhau parhad y rhaglen.
O ran y manylion sylweddol yr ydych yn gofyn amdanyn nhw o ran ffigurau dyddiol, nid wyf i o'r farn mai honno yw'r flaenoriaeth i ni bob dydd ar hyn o bryd. Fe fydd gennym ni fanylion wythnosol a fydd yn rhoi llawer mwy o fanylion o ran cyflwyniad y rhaglen, ac rwy'n siŵr, pan fydd pobl wedi dod yn gyfarwydd â'r gyfres wythnosol honno o ddata, y byddant yn barod i ofyn cwestiynau a chraffu ar yr hyn y mae'r data hyn yn ei gyfleu yn fanwl. Pe byddwn i'n ceisio dweud fy mod i'n dewis gweld y gyfradd honno o fanylder bob dydd, fe fyddai angen rhoi mwy o amser, egni ac ymdrech i hynny wrth olrhain y data a'u dadansoddi nhw i wneud cyfiawnder â'r gwaith, ac rwy'n amau y byddai'n rhaid inni roi amodau sylweddol ynglŷn â'r wybodaeth yn y pen draw. Mae'n rhaid gofyn ai'r dewis cywir yw buddsoddi mewn cofnodi data i fodloni gofynion yr Aelod ynglŷn ag ystadegau pob diwrnod unigol, neu a ydym yn dymuno gweld mwy o ganolbwyntio a blaenoriaeth o ran gweinyddu'r brechlyn. Ond fe fydd yna wybodaeth reolaidd yn wythnosol y byddwn ni'n ei darparu i Aelodau a'r cyhoedd yn fwy eang.
O ran eich pwynt chi am flaenoriaethu—fe ofynnwyd y cwestiwn hwn i mi sawl tro—mae'n ymddangos mai rhyw ddyrnaid o enghreifftiau ydyn nhw y mae'r byrddau iechyd wedi edrych arnynt i ddeall beth sy'n digwydd, yn fy marn i. Nid oes gennyf i unrhyw broblem o gwbl gyda dosau ar derfyn dydd, i sicrhau nad ydyn nhw'n cael eu gwastraffu, yn cael eu cynnig i staff iechyd neu ofal sydd o gwmpas, neu, yn wir, i'r cyhoedd. Nid wyf i o'r farn mai hwnnw yw'r cwestiwn mwyaf o ran polisi y mae angen imi fynd i'r afael ag ef fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am weinyddu brechlynnau. Fy ngwaith i yw sicrhau ein bod ni'n cadw at y rhestr flaenoriaethu sydd gennym ni, ein bod ni'n sicrhau nad oes gennym bobl yn sleifio i'r grŵp hwnnw, rywsut, drwy dwyllo'r system, sydd wedi bod yn ofid i mi. Mae rhai pobl wedi dweud wrthyf eu bod nhw, rywsut, wedi gallu neidio'r ciw mewn ffordd sydd â dim i'w wneud â dyrnaid o ddosau ar derfyn dydd, rhywbeth nad wyf i'n credu y bydd unrhyw un yn poeni'n arbennig amdano. Rwyf i wedi gofyn i'r byrddau iechyd unwaith eto, a'm dealltwriaeth i yw eu bod nhw'n dilyn y rhestr o flaenoriaethu mewn ffordd briodol. Ond mater i bob un ohonom ni yw ymddwyn yn egwyddorol, ac os oes yna ddolen yn cael ei chynnig ichi ar gyfer neidio'r ciw dros bobl eraill sy'n wynebu cleifion wrth eu gwaith, mae'r cyfrifoldeb arnoch chi i beidio â gwneud hynny a mynd o flaen pobl eraill sy'n rhoi eu hunain mewn perygl bob dydd ar ein rhan ni.
O ran gweithio am saith diwrnod yr wythnos, rydym yn gweld llawer o weithio dros benwythnosau eisoes, ac rwy'n disgwyl y bydd pob bwrdd iechyd yn gweithio am saith diwrnod o bryd i'w gilydd yn ystod y rhaglen gweinyddu brechlynnau. Rwy'n gobeithio bod hynny o fudd, i egluro hynny. Mae meddygon teulu yn gweithio gyda byrddau iechyd o ran cyflenwi o ran y blaenoriaethau. Maen nhw'n gweithio gyda llywodraeth leol hefyd. Fe fydd pob bwrdd iechyd a detholiad o bartneriaid llywodraeth leol yn cyfarfod dros y dyddiau nesaf, os nad ydyn nhw wedi cyfarfod yn barod, i fynd trwy fanylion eu rhaglen nhw. Fe fyddan nhw'n gallu mynd drwy'r hyn y gallan nhw ei wneud gyda gofal sylfaenol i sicrhau bod ganddyn nhw safleoedd sy'n addas, oherwydd, fel y dywedais i, fe fydd llawer o safleoedd gofal sylfaenol yn adeiladau addas at y diben o redeg canolfan frechu—un leol. Er hynny, efallai na fydd rhai ohonyn nhw—ac rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r meddygon teulu sy'n gweithio o feddygfa a addaswyd yn wreiddiol o res o dai teras—yn briodol fel lleoliad ar gyfer brechu. Ond mae hyn yn ymwneud â pha leoliadau addas sydd gennym ni mewn cymunedau lleol sy'n hygyrch i bobl fel y ceir cynnydd o ran niferoedd a chyflymder.
O ran y cwestiwn ynglŷn â grwpiau galwedigaethol a'r rhestr flaenoriaethau, rwy'n credu imi fod yn eglur iawn yn hyn o beth ac rwy'n hapus i egluro'r sefyllfa unwaith eto. Mae gennym ni restr o grwpiau blaenoriaeth oddi wrth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a gafodd ei gymeradwyo ganddo a fydd yn ein helpu ni o ran 99 y cant o'r marwolaethau y gellir eu hosgoi—dyna yw cam 1. Pe byddem ni'n ychwanegu at honno rai nad ydyn nhw ar y rhestr, yna fe fyddem ni'n amddifadu pobl sydd yn y grŵp mwyaf agored i niwed. Felly, o ran athrawon, swyddogion yr heddlu neu'n unrhyw grŵp arall, os rhoddir lle iddyn nhw ar gam 1, fe fyddai rhywun arall sydd â mwy o angen yn cael ei amddifadu. Meddyliwch chi am y peth fel hyn: os ydych chi'n drydydd ar ddeg yn y ciw, a'ch bod chi'n cael eich symud i'r degfed lle, ni allwch chi ddweud wedyn, 'Nid wyf i'n galw am amddifadu neb, dim ond i mi gael bod yn ddegfed.' Mae'r rhai a oedd o'ch blaen chi y tu ôl ichi erbyn hyn. A'r cyngor eglur iawn a gawsom ni yw pe byddem ni'n gwneud hynny, ar gyfer pa grŵp o weithwyr rheng flaen bynnag, yna fe fyddai hynny'n golygu y byddem ni'n gwneud dewis bwriadol a fyddai'n rhoi pobl eraill mewn perygl, ac fe fyddai hynny'n achosi anfon cleifion i'r ysbyty a marwolaethau y gellir eu hosgoi.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am godi'r pwynt, ac fe fyddwn innau'n ailadrodd mai dyna pam mai'r dull hwn sydd gennym ni. Nid penderfyniad mympwyol mohono, mae'n ymwneud mewn gwirionedd â diogelu'r cyhoedd ac achub bywydau. Fe wn i fod yr Aelod yn deall hynny ac y bydd ef yn cefnogi'r dull hwn; mae yna leisiau eraill, wrth gwrs, sy'n mynegi safbwynt arall ac wedi mynnu ein bod ni'n defnyddio dull hollol wahanol. Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau o bob lliw gwleidyddol yn deall mai hwnnw yw'r dewis yr ydym ni'n ei wneud. Dyna'r penderfyniad a wneuthum i yma yng Nghymru, ac nid wyf i'n mynd i wneud dewis arall a fyddai o bosibl yn cadw grŵp unigol o randdeiliaid yn hapus am ychydig funudau. Fe fyddai hynny, rwy'n siŵr, yn achosi llawer mwy o ofid a dryswch ac, a dweud y gwir, yn arwain at farwolaethau y gellid eu hosgoi.
Diolch. Rydym ni wedi cael dau gwestiwn ac mae dwy ran o dair o'r amser a neilltuwyd ar gyfer y datganiad wedi mynd, felly a gaf i atgoffa' pobl yn garedig am yr angen i gynnwys pawb. Mae gen i gryn dipyn o siaradwyr. Alun Davies.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Mae gennyf i ddau gwestiwn. Mae'r cyntaf yn ymwneud â pha mor gyflym y bydd y rhai dros 70 oed sydd â chyflwr sy'n eu gwneud nhw'n agored i niwed clinigol yn cael cynnig brechlyn oherwydd fe fyddan nhw, yn amlwg, mewn mwy o berygl, ac mae'n bwysig ein bod ni'n gallu ymdrin â'r rhain. Ond hefyd y bobl hynny sy'n rhannu aelwyd â'r bobl hynny na fydden nhw'n perthyn i un o'r grwpiau agored i niwed hynny, ond, yn amlwg, mae'r aelwyd yn un uned deuluol, ac os ydym am frechu un rhan o'r uned honno, mae'n ymddangos ei bod yn gwneud synnwyr yn reddfol i frechu'r uned deuluol gyfan honno er mwyn diogelu'r unigolyn sy'n agored i niwed.
Mae'r ail gwestiwn yn ymwneud â gofalwyr nad ydyn nhw'n cael eu talu. Mae pawb ohonom yn gwybod mai gofalwyr nad ydyn nhw'n cael eu talu yw'r fyddin enfawr o bobl sy'n gofalu am rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn y wlad hon. Beth yw safle'r gofalwyr di-dâl? Yn fy marn i, os oes yna fwlch yn y strategaeth hon, mae'n golygu'r rheini sy'n gofalu bob dydd am oedolion a phlant sy'n agored i niwed.
Ac yn olaf, Gweinidog, aelodau staff mewn ysgolion arbennig. Fe nodais eich bod chi'n dweud y bydd y staff sy'n darparu gofal—gofal personol—a chymorth i blant a phlant sy'n arbennig o agored i niwed mewn ysgolion arbennig yn cael eu cynnwys ar y rhestr flaenoriaeth. Tybed beth fyddai eu safle nhw ar y rhestr honno, a phryd y gallen nhw ddisgwyl cael eu brechu. Diolch.
Diolch i chi am y cwestiynau.
Felly, ynglŷn ag amseriad y rhai dros 70 oed a'r rhai sy'n agored iawn i niwed yn glinigol, sef y bobl a warchodir, rydym ni'n disgwyl cynnig brechlyn i bawb ohonynt erbyn canol mis Chwefror. Mae hynny ar eu cyfer nhw yn hytrach na'u haelwyd gyfan. Rydym ni wedi holi, ac aeth nifer o gwestiynau yn ôl i'r JCVI ynglŷn â'r bylchau, gan gynnwys y cwestiwn am ofalwyr di-dâl. Fe fyddan nhw'n parhau i edrych ar y dystiolaeth o ran sut y gallwn ni wneud y buddiant mwyaf o ran osgoi niwed a marwolaethau. Ond rwy'n deall yn llwyr yr achos a wneir ynghylch gofalwyr di-dâl. Mae'n gwbl bosibl y byddwn ni'n gweld rhywfaint o gyngor diwygiedig, oherwydd dyna'n union a ddigwyddodd gyda staff ysgolion arbennig sy'n rhoi gofal personol: fe wnaethom ni ailystyried. Ac maen nhw'n gyfatebol, yn y bôn, i staff gofal cymdeithasol sy'n rhoi gofal personol hefyd. Felly, fe fyddan nhw'n cael blaenoriaeth o fewn y grŵp cam cyntaf hwn, ac fe fyddwn ni'n ceisio sicrhau eu bod nhw'n cael y cynnig i gael eu brechu. Mae hwn yn grŵp ar wahân o staff, a hynny oherwydd bod eu gofal nhw'n cyfateb yn uniongyrchol â'r gofal y byddech chi'n disgwyl i rai gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen ei roi.
Fe fyddaf i'n holi'r prif swyddog meddygol eto ynglŷn â'r ddau gwestiwn yr aethom yn ôl â nhw i'r JCVI, ond fy nealltwriaeth i yw y byddan nhw, o ran gofalwyr di-dâl, yn cael eu cynnwys mewn grwpiau blaenoriaeth; fe allan nhw gael blaenoriaeth wahanol ac fe fyddan nhw'n mynd i'r ail gam. Fe fydd nifer o'r gofalwyr hynny, os ydyn nhw'n perthyn i gategorïau eraill yn y cam cyntaf, yn cael eu brechu yn ôl y categori hwnnw. Fe wyddom fod nifer o ofalwyr di-dâl mewn gwirionedd o fewn y proffiliau oedran yr ydym ni'n ymdrin â nhw yng ngham 1 ar hyn o bryd, ond nid pob un ohonyn nhw. Felly, rydym yn ystyried a oes yna ffordd o'u disgrifio mewn modd y bydd pobl yn ei ddeall, ac y bydd y GIG yn gallu ei fodloni a'i ateb, a rhoi'r sicrwydd y gwn y mae'r Aelod yn ei geisio ac yn gofyn amdano ar ran ei etholwyr, a hynny'n briodol iawn.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog, ac fe hoffwn i gymryd ennyd i ddiolch i'r holl wyddonwyr a'r gwirfoddolwyr sydd wedi ei gwneud hi'n bosibl inni allu trafod y rhaglen frechu hon. Ddoe, roedd yn flwyddyn i'r diwrnod ers y farwolaeth gyntaf erioed o COVID-19, ac mewn dim ond 12 mis rydym wedi cymeradwyo tri brechlyn. Mae hyn yn wirioneddol ryfeddol. Gweinidog, sut fyddwch chi'n monitro effeithiolrwydd y brechlyn dros amser, yn enwedig gan fod y cyfnod rhwng dosau yn wahanol iawn i'r hyn a gynhaliwyd yn ystod treialon cam 3?
Rwyf innau hefyd yn pryderu am wastraffu brechlynnau oherwydd nad yw pobl yn cadw at apwyntiadau, felly rwy'n pryderu o ran pa gynlluniau sydd gennych chi i leihau'r gwastraff. A ydych chi wedi ystyried cael rhestr o bobl, yn enwedig athrawon neu swyddogion yr heddlu, y gellid eu galw nhw i mewn i gael eu brechu ar derfyn dydd, gan sicrhau nad oes yr un dos o'r adnodd gwerthfawr hwn yn mynd yn wastraff?
Yn olaf, Gweinidog, sut ydych chi am sicrhau y bydd pobl sy'n cael eu hail ddos yn cael yr un brechlyn â'u dos cyntaf? Mae'n rhaid inni sicrhau bod gennym ddigon o gyflenwad o bob brechlyn unigol i warantu na fydd brechlynnau amrywiol yn cael eu cymysgu. Ac yn olaf, sut ydych chi am fonitro hyn a pha drefniadau a wnaethoch chi gyda Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr fod yna ddosau ychwanegol o frechlyn penodol pe byddai angen? Diolch yn fawr. Diolch i chi.
Diolch am y cwestiynau. O ran bod yr ail ddos yn defnyddio'r un math o frechlyn â'r dos cyntaf, yn sicr dyna yw ein bwriad ni. Fe welais i awgrym braidd yn ddi-fudd yn y New York Times y gellid eu cymysgu nhw, ac ni fu hynny erioed yn fwriad yng Nghymru, ac ar hyn o bryd, nid oes gennym broblem gyda chyflenwad. Pe byddai angen gwneud felly, yna rwy'n fwy na bodlon, parod ac abl i fynd at Weinidog brechlynnau y DU i sicrhau ein bod yn cael y swm cywir o'r cyflenwad ar gyfer rhoi'r ail ddos. Fe fyddwn yn gallu cael yr wybodaeth honno, nid yn unig yn gyflym, ond i roi dosau o'r brechlyn yn ddiogel drwy wasanaeth imiwneiddio Cymru, unwaith eto, a adeiladwyd o'r newydd gan ein gweithwyr ni yma yng Nghymru.
O ran gwastraff, mae yna drefn galw i mewn eisoes yn bodoli, felly mae gan y byrddau iechyd ddull wrth gefn eisoes ar derfyn dydd pe bai yna wastraff diangen. Yn wir, mae ein ffigurau ni'n dda iawn o ran gwastraff, ac rwy'n disgwyl y bydd hynny'n rhan o'r wybodaeth wythnosol y byddwn ni'n ei rhoi. Rydym yn credu y gallwn ddarparu ffigur defnyddiol ar wastraff ac fe ddylai hwnnw ddangos lefelau gwastraff isel iawn, ac, unwaith eto, mae hynny'n glod i'r staff sy'n cyflwyno'r rhaglen.
O ran bod â mwy i'w ddysgu ac effeithiolrwydd y brechlynnau ymhen amser, wel, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n dysgu llawer wrth inni eu defnyddio. Rydym yn credu, o'r dystiolaeth a gawsom, pan fyddwn wedi rhoi'r brechlyn i bawb sydd yn y grŵp o bobl yn y cam cyntaf y bydd hynny'n ymdrin â 99 y cant o'r achosion o gleifion yn cael eu derbyn i ysbyty a'r marwolaethau y gellir eu hosgoi. Fe fydd hynny, ynddo'i hunan, yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'n sefyllfa ni. Fe fyddwn ni'n dysgu mwy wedyn am hirhoedledd y brechlyn a'r materion sy'n ymwneud â throsglwyddiad, os ydych chi wedi cael y brechlyn neu beidio, gyda threigl amser. Ond, fel bob amser, nid yw ein sylfaen wybodaeth yn gyflawn eto. Gallwn fod yn hyderus bod gennym frechlynnau sy'n effeithiol, ac sy'n cynnig amddiffyniad uchel yn y dos cyntaf, ond mae gan bob un ohonom ni lawer i'w ddysgu eto yn y misoedd i ddod.
Gweinidog, rwyf am fynd â chi yn ôl at flaenoriaethu cam 2 os caf i, gan na wnaethoch ateb cwestiwn Andrew R.T. ynglŷn â hyn. Nid wyf yn credu bod unrhyw un ohonom ni'n awgrymu y dylid ail-flaenoriaethu'r broses o gyflwyno cam 1 mewn unrhyw ffordd, ond rwy'n awyddus i wybod a ydych chi'n bersonol yn cydymdeimlo â'r ddadl y dylai staff ysgol fod o fewn y blaenoriaethu cam 2 ochr yn ochr â'r rhai yr ydym eisoes wedi cael rhyw syniad ohonyn nhw. Rwy'n gwerthfawrogi'r hyn a ddywedwch chi am y JCVI, ond tua diwedd y rhestr flaenoriaeth honno, mae'n ymddangos ei bod yn ymwneud ag oedran yn bennaf. Mae pob Llywodraeth yn dweud mai ysgolion ddylai fod y rhai diwethaf i gau a'r cyntaf i agor, felly fe fyddwn i'n falch o gael clywed rhywbeth gennych chi am hynny.
Ac yna'n ail, yn gyflym, gyda'r cwestiwn a gododd Alun Davies am staff yn rhoi gofal personol i ddisgyblion mewn ysgolion arbennig, a wnewch chi ddweud wrthym a oedd yna reswm pam na chafodd hyn ei gyflwyno mewn ysgolion prif ffrwd lle mae'n rhaid i'r staff roi gofal personol i'r plant hynny sydd ei angen yn y fan honno hefyd? Diolch.
Diolch am y cwestiynau. A bod yn deg, rwy'n credu bod y cwestiwn am gyflwyno cam 2 yn ddryslyd ar y dechrau, ac o ran cyflwyno cam 2 a'r cwestiwn am staff ysgol, wrth gwrs rwy'n cydymdeimlo ag amrywiaeth o grwpiau galwedigaethol sy'n gweithio fel gweithwyr allweddol i gadw pob un ohonom yn ddiogel. Yn benodol, er ein bod ni'n aros gartref, rydym yn dibynnu ar grwpiau o bobl i gynnal rhywfaint o normalrwydd yn y cyfnod eithriadol hwn. Mae gennyf i gydymdeimlad hefyd â phobl sy'n gweithio yn yr heddlu a gwasanaethau eraill, ond mae'r rhestr flaenoriaeth yn ymwneud â sut yr ydym ni'n achub bywydau.
O ran cam 2, fel y dywedais i'n eglur yn fy natganiad i, nid ydym eto wedi cael cyngor gan y JCVI na'n prif swyddogion meddygol ni ar flaenoriaethu yn ystod yr ail gam hwnnw. Ac fe fydd y dystiolaeth ynglŷn â sut y gallwn ni osgoi'r niwed mwyaf, a sut y gallwn fwrw ymlaen cyn gynted â phosibl i ddiogelu'r boblogaeth oedolion o ddiddordeb mawr i mi. Ond i roi syniad i chi o'r cyfraddau gwahaniaethol yr ydym yn ymdrin â nhw ar hyn o bryd, fe ddywedodd y dirprwy brif swyddog meddygol, Jonathan Van-Tam, wrth Weinidogion ar draws y pedair gwlad mewn galwad nid mor bell yn ôl â hynny y byddai 43 o frechiadau i breswylwyr cartrefi gofal yn arbed un bywyd, mae'n debyg, a byddai tua 100 o frechiadau i bobl dros 80 oed yn achub un bywyd; i achub bywyd un athro sydd dan 30 oed heb fod yn agored i unrhyw niwed ychwanegol, mae angen brechu 62,000 o bobl. Felly, mae hyn yn tanlinellu pam mai'r grwpiau sydd gennym ni ar hyn o bryd sy'n cael eu blaenoriaethu. A phan fyddwn ni'n dechrau ar yr ail gam, gallwn fod yn hyderus ein bod ni'n brechu pobl lle mae risg yn bodoli o hyd, ond risg sy'n llawer llai. Ac felly dyna pam mae gennym restr flaenoriaeth a dyna pam rydym ni'n mabwysiadu'r dull o flaenoriaethu staff o fewn hwnnw.
Allaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a hefyd llongyfarch a thalu teyrnged i holl staff y gwasanaeth iechyd sy'n darparu'r gwasanaethau hollol sylfaenol yma sy'n mynd ymlaen? Diolch iddyn nhw i gyd. Mae'r sefyllfa'n ddifrifol, fel y mae'r Gweinidog wedi dweud, a dwi'n credu bod angen gwthio'r brechlyn i mewn i filoedd o bobl fel mater o argyfwng, fel mater o frys. Mae lefel y feirws yn parhau yn uchel iawn yn ein cymunedau. Mae angen gweithredu ar garlam, felly, a sicrhau bod Cymru yn cael ei chyfran deilwng o frechiadau hefyd, achos mae yna ddelwedd allan yna fod Cymru ar ei hôl hi efo'r brechlyn yma, a phobl yn poeni bod y lefelau uchel o'r feirws yn mynd i esgor ar amrywiadau newydd eto o'r feirws fel y mae'r amser yn mynd ymlaen a'r lefelau uchel o'r feirws yn parhau. Mae'n bwysig gweithredu ar garlam felly; a fyddai'r Gweinidog yn cytuno?
Byddwn, fe fyddwn i, diolch, a diolch yn arbennig i chi am sôn, unwaith eto, am ein staff ni, sy'n gweithio dan bwysau anhygoel i roi'r brechlyn a diogelu'r cyhoedd hefyd, ond, yn ogystal â hynny, o ran y gofal a'r triniaethau parhaus i bobl sy'n gleifion COVID ac afiechydon eraill hefyd heblaw am COVID. Ac yn sicr nid oes prinder o faterion brys o fewn ein gwasanaeth iechyd gwladol ni a'r sefydliadau partner ar gyfer y dasg dan sylw. Rwy'n deall fod yna rywfaint o bryder o ran 'A yw Cymru ar ei hôl hi neu beidio?' Rwyf i'n credu, pan edrychwch chi ar y cynnydd sydd wedi bod dros yr wythnos ddiwethaf, fe aethom ni ati'n gynt na'r Alban o ran niferoedd y pen yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ond nid mor gyflym â Lloegr na Gogledd Iwerddon. Pan ddown ni'n ôl i ystyried hyn eto ganol mis Chwefror ac yna cyn y Pasg, rwy'n credu y bydd pobl yn wirioneddol falch o'r hyn y bydd Cymru wedi ei gyflawni. Rwy'n hyderus y bydd tîm Cymru yn cyflawni dros bob un ohonom o ran diogelu'r cyhoedd yn fwy eang.
O ran eich pwynt chi am yr heriau sy'n codi ynghylch amrywiolion newydd, mae gennym amrywiolion De Affrica a Swydd Caint y gwyddom eu bod nhw'n ymledu'n llawer cyflymach, ac mae hynny wedi achosi problem ddirfawr ym mhob rhan o'r DU. Felly, rydych chi'n ymwybodol, fel y mae pob Aelod arall a oedd yn bresennol yn y briff ar gyfer aelodau'r pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol heddiw, fod yna filoedd o amrywiolion o'r coronafeirws wedi dod i'r amlwg, a'u bod nhw'n cael eu monitro rhwng y gwahanol asiantaethau iechyd cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig. Ac nid yw'r amrywiolyn yn peri pryder oni bai iddo fod ganddo agweddau anodd neu drafferthus. Dyna pam rydym ni mor bryderus am amrywiolyn De Affrica ac amrywiolyn Swydd Caint. Rydym yn trafod y rhain ac yn trafod amrywiolyn mincod Denmarc, ond nid ydym yn trafod y miloedd o amrywiolion eraill sydd wedi codi oherwydd eu bod wedi diflannu. Felly, ie, yr achosion mwy mynych, rwy'n deall pam y gall fod mwy o bryder oherwydd hynny, ond mewn gwirionedd mae gennym system gymharol dda o wyliadwriaeth, ac yn achos pob un amrywiolyn sy'n peri pryder mae'r un mesur o reolaeth yn gweithio: cadw eich pellter, golchi eich dwylo, gwisgo gorchudd ar eich wyneb lle bo hynny'n bosibl, awyru digonol ac, yn hollbwysig, osgoi cymysgu ag aelwydydd eraill. Dyna'r mesur gorau o reolaeth y gallwn ni i gyd ei gymryd. Ac fe fydd hynny'n ein helpu ni i gael dyfodol gwahanol iawn gyda chymaint ohonom â phosibl ar ddiwedd y daith hon gyda'n gilydd, pan fydd y brechiadau yn darparu ar gyfer y boblogaeth gyfan yn cael ei chynnwys a'i hamddiffyn.
Rhianon Passmore.
Mae'n flin gen i, Ann Jones, nid oes cwestiwn gen i.
O, iawn. Diolch. Mark Isherwood.
Diolch. Diolch yn fawr am fy ngalw i. Yn dilyn fy nghwestiwn i'r Trefnydd yn gynharach, pan awgrymodd hi y gallwn i godi'r rhain gyda chi nawr, yn gyntaf, o ystyried eich cyfeiriad chi at yr heddlu yn benodol, sut fyddech chi'n ymateb i alwad Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru am ystyried rhoi rhyw gymaint o flaenoriaeth i'r heddlu ar raglen frechu COVID-19. Fel y dywedodd eu hysgrifennydd wrthyf yn ysgrifenedig ddoe, 'O ddydd i ddydd, mae swyddogion yr heddlu yn peryglu eu diogelwch, eu hiechyd a'u lles nhw eu hunain wrth geisio amddiffyn pob un ohonom ni. Yn anffodus, yn y gogledd rydym wedi gweld llawer o gydweithwyr yn sâl gyda COVID-19, a rhai ohonynt angen triniaeth mewn ysbyty, a llawer mwy yn gorfod hunanynysu.'
Ac yn olaf, sut ydych chi'n ymateb i'r etholwr a ysgrifennodd ataf i yn galw am roi rhywfaint o flaenoriaeth i oedolion awtistig hefyd ar y rhaglen brechu COVID? Mae ei brawd hi'n byw yn y gogledd, ac mae ganddo anabledd dysgu ac awtistiaeth. Fe gyfeiriodd hi at ymchwil ddiweddar gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr a ganfu fod cyfradd y marwolaethau oherwydd COVID chwe gwaith yn uwch ymysg pobl ag anabledd dysgu na'r boblogaeth yn gyffredinol.
Credaf, o ran eich pwynt olaf, fod hynny'n rhywbeth y gwn i fod y prif swyddog meddygol a'n prif nyrs yn pryderu'n benodol yn ei gylch, oherwydd mae ffigurau ar gael ynglŷn â chyfradd marwolaethau fwy sylweddol ymhlith pobl ag anabledd dysgu. Ein her yw canfod ai'r anabledd dysgu ei hun sy'n gyfrifol mewn gwirionedd neu a oes cyflyrau iechyd eraill sy'n bodoli eisoes, ac, mewn gwirionedd, pan fyddwch yn meddwl am hyn, ymhlith y rhan fwyaf o'n hoedolion ag anabledd dysgu mae mwy o bobl sydd â'r hawl i gael pigiad ffliw'r GIG, ac felly, mewn gwirionedd, byddant yn cael eu cynnwys yn y cyfnod cyntaf. Os ydych chi fel fi, ac mae gennych chi hawl i gael pigiad ffliw'r GIG oherwydd cyflwr iechyd sy'n bodoli'n barod, nid oherwydd eich oedran—er y daw'r amser hwnnw, gobeithio, maes o law—yna mae hynny'n golygu eich bod mewn lle gwahanol ar y rhestr o gymharu â ble byddwn i pe bawn i'n cael fy nhrin yn ôl fy mhroffil oedran. Felly, mae amrywiaeth o gategorïau eraill a fydd, yn fy marn i, yn amlygu eu hunain i sicrhau bod y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn cael eu gweld yn ôl trefn blaenoriaeth.
A phan ddaw'n fater o amddiffyn yr heddlu, rydym ni eisoes yn treialu profion llif unffordd fel amddiffyniad ychwanegol i'r heddlu i helpu pobl i hunanynysu os ydyn nhw'n asymptomatig ac i ddiogelu ein gweithlu yn yr heddlu. Mae hwnnw'n arbrawf y mae pob heddlu yng Nghymru gyfan yn ei gefnogi. O ran galwad ffederasiwn yr heddlu i gael eu gosod yn uwch ar y rhestrau blaenoriaeth, rwy'n credu fy mod wedi ymdrin â hynny'n helaeth ddoe yn y gynhadledd i'r wasg ac yn gynharach heddiw. Mae effaith wirioneddol ar symud grwpiau staff galwedigaethol o gwmpas, ac effaith ar atal y nifer fwyaf bosibl o farwolaethau.
Diolch i'r Gweinidog.