– Senedd Cymru am 3:49 pm ar 27 Ionawr 2021.
Eitem 6 ar ein hagenda yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar ofal a chymorth ar gyfer goroeswyr strôc, a galwaf ar Dai Lloyd i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7463 Dai Lloyd, Neil Hamilton, Huw Irranca-Davies, Adam Price, Andrew Davies, Nicholas Ramsay
Cefnogwyd gan Caroline Jones, Llyr Gruffydd, Mark Isherwood, Neil McEvoy
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod y Gymdeithas Strôc wedi cyhoeddi ymchwil i brofiadau goroeswyr strôc yn ystod pandemig COVID-19, a ganfu fod goroeswyr strôc a gofalwyr yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt.
2. Yn nodi bod derbyniadau mewn unedau strôc acíwt yng Nghymru wedi gostwng 12 y cant rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2020 o gymharu â 2019.
3. Yn credu, er gwaethaf pandemig COVID-19, y dylai goroeswyr strôc allu parhau i gael gafael ar y gofal acíwt, y gwasanaethau adsefydlu, y driniaeth iechyd meddwl a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i adfer cystal â phosibl.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod byrddau iechyd lleol yng Nghymru yn parhau â'u gwaith i wella gofal strôc yng Nghymru ac nad ydynt yn caniatáu i COVID-19 ohirio newidiadau strwythurol y mae mawr eu hangen.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer gwasanaethau strôc pan ddaw'r cynllun cyflawni presennol ar gyfer strôc i ben er mwyn sicrhau bod gofal i'r rhai y mae strôc yn effeithio arnynt yn cael ei gryfhau ledled Cymru yn y dyfodol.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar strôc, mae'n bleser gennyf gyflwyno'r cynnig hwn ar y modd y mae COVID-19 wedi effeithio ar y 70,000 o oroeswyr strôc yng Nghymru a'u gofalwyr. Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth Aelodau ar draws fy sgrin Senedd ac edrychaf ymlaen at eu cyfraniad, gan na allaf gynnwys pob elfen yn yr amser a roddwyd.
Nawr, mae'r grŵp trawsbleidiol ar strôc yn cyfarfod yn rheolaidd ac rwy'n synnu'n aml at nifer y bobl sy'n ei fynychu ac ehangder a rhagoriaeth profiad pawb sy'n bresennol, boed yn bobl sydd wedi goroesi strôc neu'n feddygon ymgynghorol mwyaf blaenllaw Cymru. Ac mae'r Gymdeithas Strôc nid yn unig yn rhoi cefnogaeth enfawr i'r grŵp trawsbleidiol, ond yn bwysicach, mae'n gwneud gwaith amhrisiadwy gyda goroeswyr strôc eu hunain, yn ogystal â chynnal yr ymchwil a amlinellodd effaith enfawr COVID ar oroeswyr strôc a'u gofalwyr. Mae'r sefyllfa'n enbyd a'r dioddefaint yn enfawr. Mae'r ffigurau yno, ac mae'n siŵr y cânt eu dyfynnu gan yr Aelodau. Mae eu gwaith gwirioneddol arwrol yn digwydd yn ein cymunedau a'n hysbytai, a drwodd a thro, roedd adolygiad ein grŵp trawsbleidiol dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf i agweddau amrywiol ar y ddarpariaeth strôc yn frith o hanesion epig am arwyr, am athrylith feddygol arloesol a dyfeisgar. Diolch i bawb sy'n cyfrannu at yr adolygiad manwl hwnnw.
Rydym ni wedi cael ein hysbrydoli gan brofiad y sawl sy'n goroesi strôc, gan eu hanesion dirdynnol a dioddefaint a thor calon, a chwilio am wasanaeth, a'r pwysau enbydus ar ofalwyr, a'r system gofal dan ormes, a'r nyrsys a'r meddygon yn mynd y filltir ychwanegol, a thriniaethau anhygoel fel thrombolysis a thrombectomi, ac wedyn daeth COVID, a'r heriau sylweddol o gael gafael mewn gwasanaeth mewn pandemig pan fo popeth wedi cau lawr, a cheisio cael gafael ar ffisiotherapi, therapi galwedigaethol a therapi lleferydd i wella o'r strôc tra bod y wlad mewn cyfnod cloëdig hirfaith. Mae cefnogaeth rithiol wedi cynyddu yn ystod y pandemig, ond mae'r gwasanaethau hybu adferiad strôc a chefnogaeth iechyd meddwl wedi dioddef yn enbyd yn wyneb COVID.
Roedd angen cynllun cyflawni newydd ar Gymru ar gyfer strôc cyn COVID; wedi'r cyfan, mae triniaeth gynnar yn allweddol i adferiad. Mae COVID wedi rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau strôc a oedd eisoes yn ei chael hi'n anodd wrth iddo ddatgelu cyflwr bregus y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a blingo'n ddidrugaredd ein staff a'n gofalwyr rhyfeddol sydd wedi'u rhaglennu'n reddfol i fynd y tu hwnt i'r galw dros gleifion strôc a chymaint o gyflyrau eraill.
Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod trefniadau i olynu'r cynllun cyflawni ar gyfer strôc. Rhaid i drefniadau o'r fath oresgyn yr her enfawr bresennol o ofalu am gleifion strôc, yn ogystal â bwrw ymlaen â'r datblygiadau meddygol aruthrol y mae'n rhaid i Gymru eu mabwysiadu. Rhaid i'r cynllun cyflawni newydd ar gyfer strôc gynnwys cynnydd ar unedau strôc hyper-acíwt—HASU—a datblygu arbenigedd thrombectomi 24/7 ar lefel Cymru gyfan.
Mae strôc yn costio dros £1 biliwn yng Nghymru heddiw. Bydd hynny'n codi i £2.8 biliwn y flwyddyn erbyn 2035. Mae gan Gymru gyfleoedd cyffrous o dan arweinyddiaeth newydd a goleuedig yr arweinydd clinigol cenedlaethol newydd ar gyfer strôc, Dr Shakeel Ahmad. Mae thrombectomi yn ddatblygiad gwych: bachu clot allan o wythïen yn yr ymennydd i drawsnewid parlys ac adfer swyddogaeth arferol—rhywbeth sy'n atgoffa o brofiad beiblaidd Lazarus, hollol ryfeddol, ac rydym yn gwneud ychydig ohono yng Nghymru nawr, ond mae angen inni wneud llawer mwy ohono, ac mae arnom angen rhwydwaith cynhwysfawr o unedau strôc hyper-acíwt ledled Cymru i wneud hyn, i sicrhau trawsnewid eglur mewn gofal strôc acíwt. Gallwn ei wneud.
Yn olaf, mae bron i 40 mlynedd ym maes iechyd wedi fy nysgu bod yna bob amser fwy nag un argyfwng ar unrhyw un adeg benodol. Rwy'n canmol ymdrechion arwrol ein staff. Ynghanol y pandemig enfawr hwn, ni all y Llywodraeth anghofio dyfodol gwasanaethau strôc: rhaid iddi weithredu argymhellion y grŵp trawsbleidiol. Cefnogwch y cynnig os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr.
Gall effaith strôc fod yn sylweddol, fel y mae Dr Dai Lloyd newydd egluro, nid yn unig i'r claf, ond hefyd i'w teulu, mewn ffyrdd a all fod yn heriol ac yn frawychus, yn enwedig—fel sydd newydd gael ei ddweud—ar yr adeg hon yn y pandemig a'r cyfyngiadau symud. Bydd llawer o bobl yn profi amrywiaeth o ganlyniadau ar ôl cael strôc: heriau corfforol blinder a pharlys yn yr achosion lle ceir amharu ar symudedd, newidiadau gwybyddol sy'n effeithio ar gof, cyfathrebu a chanolbwyntio, ac effaith seicolegol iselder a phryder. Mae llawer yn gwella, ond nid pawb, ac fel y gwyddom, mae'r effaith yn dibynnu ar yr ystod o ganlyniadau y mae unigolyn yn eu profi, ac am ba hyd y bydd yr heriau hynny'n parhau.
Bydd cyd-Aelodau hefyd yn siarad am yr ystod o ofal a chymorth sydd eu hangen ar y rhai sy'n cael strôc, a hynny'n gwbl briodol. Ond un o feysydd y ddadl hon sydd hefyd yn peri pryder i mi yw lefel y gefnogaeth i'r rhai sy'n wynebu sefyllfa gwbl annisgwyl o orfod gofalu am rywun annwyl sydd wedi cael strôc, yn enwedig o ystyried y cyfyngiadau presennol a'r anawsterau presennol i gael gafael ar gymorth, gan gynnwys therapi iaith. Mae'n anodd dychmygu'r ymdeimlad o sioc pan fydd aelod o'r teulu'n cael strôc, y teimlad o banig a phryder wrth i rywun fynd i'r ysbyty a gorfod wynebu bywyd yn y dyfodol gyda set o ddisgwyliadau a allai fod yn wahanol. Mae cael eich gwthio'n sydyn i rôl gofalwr, gorfod rheoli'r ystod o ganlyniadau y bydd anwyliaid yn eu profi, ynghyd â goblygiadau a allai newid bywydau'r teulu, pryderon ariannol—mae'r rhain i gyd yn effeithio ar deuluoedd dioddefwyr strôc. I aelodau o'r teulu gall fod yn wirioneddol frawychus, a dyna pam y mae'r gefnogaeth a gynigir gan grwpiau fel clwb strôc Cas-gwent yn fy etholaeth mor bwysig i gefnogi teuluoedd. Faint o bobl yng Nghymru sydd bellach yn gofalu am rywun sy'n byw gyda chanlyniadau strôc, a sut y cefnogwn anghenion y rhai na ellid darparu'r rôl ofalu honno hebddynt? A ydym yn darparu popeth a allwn yn ddigon da i'r rheini sy'n gofalu am rywun annwyl, ac os nad ydym, pam ddim?
Er fy mod yn gefnogol iawn i'r ddadl hon heddiw i'n galluogi i archwilio'r cymorth a'r gofal i'r rhai sy'n cael strôc, dylem gofio ei fod yn un o'r dangosyddion iechyd cyhoeddus mawr a ddylai beri pryder i ni. Mae nifer o ffactorau'n cyfrannu at strôc, fel y nodwyd—mae pwysedd gwaed uchel yn un ohonynt. Yn aml, mae hynny'n gysylltiedig â dewisiadau ynghylch ffordd o fyw, ac yn ystod y pandemig ar hyn o bryd, rydym yn gwybod am bwysigrwydd ymarfer corff i bobl a sicrhau eu bod yn cadw'n iach.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, rhaid inni wella ein hymateb i'r her iechyd cyhoeddus hon yn sylweddol. Os yw COVID wedi dysgu unrhyw beth inni, mae angen inni ddysgu gwersi o'r 10 mis diwethaf. Rhaid i iechyd y cyhoedd fod yn fwy o ffocws yn nhymor seneddol nesaf Cymru. Nid rhyddid heb ganlyniadau yw dewisiadau pobl ynglŷn â'u ffordd o fyw—rydym yn parhau i ddioddef effaith y penderfyniadau a wnawn am ein hiechyd ein hunain, ac yn anffodus, i lawer, strôc yw'r canlyniad hwnnw. Gadewch inni sicrhau ein bod yn darparu'r cymorth angenrheidiol i ddioddefwyr strôc a'u teuluoedd nawr wrth inni ddechrau cefnu ar y pandemig, gobeithio.
Mae'n bleser dilyn Nick a Dai, a gwaith y grŵp trawsbleidiol eleni, sydd wedi gweithio gyda chymorth y Gymdeithas Strôc, a ddarparodd y gefnogaeth i'r ysgrifenyddiaeth, i fynd allan a gwrando ar bobl sydd eu hunain wedi cael strôc yn ystod y pandemig, ond hefyd eu teuluoedd, eu ffrindiau, eu gofalwyr a'u hanwyliaid hefyd. Mae wedi bod yn anodd, ac mae'r ystadegau'n dangos pa mor anodd y bydd, ac fe drof atynt mewn munud. Ond yr hyn y mae'n ei ddangos yn glir, fel y bydd Dai a Nick ac eraill yn ei ddweud hefyd, wrth fy nilyn, yw bod arnom angen y cynllun cyflawni newydd hwnnw ar gyfer strôc yn awr, oherwydd, hyd yn oed cyn y pandemig, nid oedd gennym ddarpariaeth a oedd yn dda ac yn gryf drwyddi draw o wasanaethau cymorth a gofal strôc, heb sôn am unedau strôc hyper-acíwt ledled Cymru. Nid oeddem yn gweld y cynnydd roeddem am ei weld, felly, os yw'r pandemig wedi gwneud unrhyw beth, mae wedi dangos hyd yn oed yn fwy clir yr angen i symud ymlaen gyda'r mesurau hyn. Nid ydym wedi gweld cymaint o gynnydd ag y byddem yn dymuno ei weld, ac wrth gyflwyno cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer strôc, cynllun y mae cymaint o angen amdano—cynllun cyflawni—mae angen i'r unedau strôc hyper-acíwt fod yn rhan flaenllaw o hynny.
Gadewch imi roi rhai o'r ffeithiau a welsom drwy gyfrwng yr arolwg a wnaethom o bobl sy'n cael profiad o strôc. Dywedodd 65 y cant o oroeswyr strôc yng Nghymru wrth y Gymdeithas Strôc eu bod wedi cael llai o ofal a chymorth yn ystod y pandemig. Dangosodd hefyd, er bod 50 y cant—hanner y goroeswyr strôc—wedi gweld apwyntiadau therapi'n cael eu canslo, dim ond llai na chwarter a aeth ymlaen i gael therapi dros y ffôn neu ar-lein. Nawr, rhaid imi ddweud fy mod yn ddiolchgar fod gennym Gymdeithas Strôc wych yn fy ardal sydd, drwy'r blynyddoedd, wedi bod yn eithriadol o dda am ddarparu cymorth a chyfeirio at gymorth i bobl leol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, ond edrychwch ar beth sydd wedi digwydd yn ystod y pandemig. Nid yn unig fod y cymorth hwnnw'n deneuach, mae gallu gwasanaethau cymorth y Gymdeithas Strôc i gyfeirio hefyd wedi'i leihau. A'r effeithiau ar iechyd meddwl: mae bron i 70 y cant, saith o bob 10, o'r rhai a holwyd yn teimlo'n eithaf pryderus neu'n isel eu hysbryd, ac roedd bron i 57 y cant o ofalwyr yn teimlo eu bod wedi'u llethu neu'n methu ymdopi.
Felly, rwy'n credu bod y neges yn glir iawn: roedd gwasanaethau dan bwysau eisoes; yr unedau hyper-acíwt, nid ydym wedi gweld y cynnydd roeddem am ei weld; y gwasanaethau therapi nad oeddent yn gyson ac yn dda ym mhob man yng Nghymru. Felly, os rhywbeth yn awr, yn sgil gwaith y grŵp trawsbleidiol, yn sgil gwaith y Gymdeithas Strôc ac yn sgil y pandemig hwn, fel grŵp trawsbleidiol rydym yn galw ar y Llywodraeth i gyflymu'r gwaith hwn, ac i fyrddau iechyd lleol ddatblygu eu gwaith ar unedau hyper-acíwt hefyd, a chefnogi gwasanaethau. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Mae'r flwyddyn ddiwethaf, wrth gwrs, wedi bod yn anodd i bawb yn eu gwahanol ffyrdd ond i lawer o oroeswyr strôc yng Nghymru, mae wedi golygu gohirio eu hadferiad ac mae pobl sy'n awyddus iawn i adfer symudedd, annibyniaeth a ffitrwydd, fel y nododd Huw yn awr, wedi gweld sesiynau therapi'n cael eu canslo—roedd tua hanner y rhai a arolygwyd gan y Gymdeithas Strôc wedi profi hynny. Fel y soniodd hefyd, dywedodd mwy na dwy ran o dair eu bod wedi teimlo'n bryderus ac yn isel eu hysbryd ers y pandemig. Ni ddylai neb deimlo'n ddiobaith ar ôl strôc ac wrth gwrs, nid dim ond goroeswyr strôc sy'n cael eu heffeithio; mae gofalwyr goroeswyr strôc hefyd wedi teimlo'r effaith, gyda dwy ran o dair ohonynt yn dweud hefyd eu bod yn cyflawni mwy o ddyletswyddau gofalu yn ystod y cyfyngiadau symud.
Rhan fawr o'r broses o wella ar ôl strôc yw'r clybiau cymdeithasol a'r cyfarfodydd, fel y gall pobl rannu eu profiadau a helpu ei gilydd ar y ffordd tuag at wellhad. Roedd y rhain yn bwysig o ran therapi, oeddent, ond hefyd o ran cymdeithasu'n ehangach ac wrth gwrs, fel ffyrdd o godi arian ar gyfer y pethau bach ychwanegol a all wneud cymaint o wahaniaeth i alluogi goroeswyr strôc i wella. Nawr mae codi arian, wrth gwrs, wedi dod i ben yn ddisymwth, ac mae'r cymdeithasu wyneb yn wyneb i gyd wedi mynd ar-lein erbyn hyn, fel y mae pob un ohonom wedi'i wneud, ond yr hyn a ddywedwyd wrthyf yw bod llawer gormod o oroeswyr strôc, yn enwedig mewn rhannau gwledig o Gymru, yn canfod nad yw eu gwasanaeth band eang yn ddigon da ar gyfer gwneud galwad Zoom ac mae hynny'n cynyddu'r ymdeimlad o unigedd. Mae hynny'n arbennig o wir, wrth gwrs, pan fydd gennych nam ar y lleferydd o ganlyniad i'ch strôc, ac angen ymarfer er mwyn gwella.
Rydym i gyd wedi wynebu rhwystredigaeth yn sgil byffro a chysylltiadau rhyngrwyd araf ar ryw adeg neu'i gilydd, ac rydym wedi profi hynny yn ein Cyfarfod Llawn y prynhawn yma, ond dychmygwch hynny pan fydd eich lleferydd eisoes yn aneglur a'ch ysbryd yn lluddedig. Mae'n ddigalon a dweud y lleiaf. Mae'r un peth yn wir am bobl sy'n gadael yr ysbyty heb allu manteisio ar wasanaethau oherwydd eu pellter daearyddol. Felly, mae fy ngalwad yn y ddadl hon yn syml: mae arnom angen gwasanaeth strôc sy'n cydnabod yr heriau penodol hyn mewn rhannau mwy anghysbell a llai cysylltiedig o'r wlad. Mae arnom angen gwasanaeth cydradd, oherwydd ers gormod o amser mae lefel uchel o amrywio wedi bod rhwng triniaethau a chymorth yn y gwahanol unedau strôc yng Nghymru.
Wrth gwrs, mae'r pandemig wedi creu sefyllfa eithriadol ar draws y gwasanaeth iechyd, ond gadewch i ni beidio â thwyllo ein hunain fod pethau'n berffaith i oroeswyr strôc cyn hynny. Wrth adfer gwasanaethau blaenorol a oedd ar gael i oroeswyr strôc, dylem hefyd geisio eu cryfhau gyda chynllun cenedlaethol newydd ar gyfer goroeswyr strôc. Mae bron i bedair blynedd wedi mynd heibio ers i'r Llywodraeth gael cynllun cyflawni ar gyfer strôc a gytunodd i ddarparu unedau strôc hyper-acíwt i wella'r gallu i oroesi, ac er gwaethaf rhywfaint o waith da gan Betsi Cadwaladr a byrddau iechyd eraill, nid oes yr un ohonynt wedi'u darparu hyd yn hyn gan nad oedd cyllid angenrheidiol ar gael i gyd-fynd ag ymrwymiad y Llywodraeth. Felly, mae'r unedau hyper-acíwt hyn yn dal i fod ar y cam cynllunio oherwydd diffyg arweiniad gan y Llywodraeth yn hynny o beth.
Felly, i gloi, er gwaethaf y pandemig ofnadwy hwn, gadewch inni sicrhau ein bod yn gweld rhywfaint o les yn dod o'r argyfwng, a gadewch inni sicrhau bod goroeswyr strôc yn cael y gwasanaethau y maent eu hangen ym mhob rhan o'r wlad, a'n bod o'r diwedd yn dechrau gwireddu dyheadau a strategaethau.
Mae'r pandemig coronafeirws wedi cael effaith eithafol ar ein systemau iechyd a gofal. Nid yn unig y mae amseroedd aros am driniaethau wedi ymestyn yn sylweddol, ond rydym hefyd wedi gweld llai o bobl yn gofyn am gymorth am eu bod yn ofni dal clefyd sydd wedi lladd miliynau o bobl dros y 12 mis diwethaf. Felly, er bod y clefyd wedi effeithio ar bob gwasanaeth, mae'n cael ei deimlo'n fyw iawn yn y gwasanaethau strôc.
Strôc yw un o'r prif achosion marwolaeth ac un o brif achosion anabledd ymhlith oedolion yng Nghymru. Bob blwyddyn, mae tua 7,500 o bobl yng Nghymru yn marw o strôc. Diolch byth, mae miloedd yn fwy na hynny'n goroesi, ac eto cânt eu gadael gydag anableddau sy'n cyfyngu ar eu bywydau, cyflyrau sy'n gofyn am lawer iawn o ofal a chymorth. A chredir bod ychydig dros 2 y cant o boblogaeth Cymru yn oroeswyr strôc, sef oddeutu 66,000 o bobl sydd angen gwasanaethau fel adsefydlu a chymorth iechyd meddwl.
Cyn y pandemig, roedd y gwasanaethau hyn eisoes yn ei chael hi'n anodd diwallu anghenion goroeswyr, ond ers i'r coronafeirws ledaenu yn y wlad hon, nid yw tua dwy ran o dair o oroeswyr wedi cael digon o ofal a chefnogaeth. Nid yw'n syndod, felly, fod dros ddwy ran o dair o oroeswyr mewn arolwg o oroeswyr strôc a'u gofalwyr wedi teimlo gorbryder neu iselder ysbryd, a bod bron i chwech o bob 10 gofalwr yn teimlo eu bod wedi'u llethu neu'n methu ymdopi—prin fod hynny'n syndod pan fydd hanner yr holl apwyntiadau wedi'u canslo. Nid oeddem yn gwneud yn wych cyn y pandemig, ond bellach mae gennym gyfle i adeiladu nôl yn well.
Rhaid inni gael cynllun cyflawni newydd ar gyfer strôc, a rhaid i'r cynllun newydd roi diwedd ar yr amrywio rhanbarthol sydd wedi bodoli ers cyflwyno'r cynllun cyflawni diwethaf. Ond yn bwysicach na hynny, rhaid inni sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar weithredu argymhellion y grŵp trawsbleidiol ar strôc er mwyn ad-drefnu ein hunedau presennol yn unedau strôc hyper-acíwt. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi hyn drwy gefnogi'r cynnig. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i Dai Lloyd a'r Aelodau am gyflwyno'r mater pwysig hwn i'r Siambr, ac am gyfraniadau'r Aelodau. Rwyf wedi gwrando ar yr hyn a oedd gan y siaradwyr i'w ddweud ac rwy'n gefnogol i'r cynnig at ei gilydd.
Fel y mae llawer o siaradwyr wedi nodi, rydym yn ymwybodol o'r effaith y mae COVID-19 wedi'i chael ar wasanaethau strôc ers dyddiau cynharaf y pandemig. Fe fyddwch yn cofio fy mod wedi tynnu sylw ar sawl achlysur at y gostyngiad yn nifer y bobl sy'n dod i mewn i'n hysbytai gyda strôc, nid am fod iechyd y cyhoedd wedi gwella'n gyflym ac yn wyrthiol, ond am fod pobl yn osgoi'r gwasanaeth. Rydym wedi gweithio'n ddiwyd gyda'n byrddau iechyd i arwain gweithgarwch cynllunio er mwyn ceisio lleddfu'r effaith hon.
Fis Mai diwethaf, yn ein canllawiau ar wasanaethau hanfodol, cydnabuwyd bod gwasanaethau strôc a phyliau o isgemia dros dro yn rhai hanfodol i'r boblogaeth yn wyneb y pwysau aruthrol ar ein GIG. Lluniwyd y fframwaith a ddarparwyd gennym er mwyn helpu sefydliadau a gwasanaethau i ddarparu gwasanaethau strôc yn ystod y pandemig a'r cyfnodau dilynol. Roeddem am gynnal cyfanrwydd gwasanaethau strôc a chanlyniadau i gleifion, ochr yn ochr â gofal COVID-19 acíwt. Mae'r fframwaith hwnnw'n cynnwys canllawiau ar gymorth ataliol eilaidd ac adsefydlu er mwyn lleihau anabledd hirdymor, cymorth i ofalwyr, ac yn wir, gwasanaethau bywyd ar ôl strôc. Rydym wedi darparu negeseuon cyson ar gyfer y cyhoedd i geisio annog pob un ohonom i barhau i fynychu adrannau achosion brys ar gyfer afiechydon difrifol neu salwch sy'n bygwth bywyd, megis strôc, drwy gydol y pandemig.
Wrth gwrs, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella'r cymorth i oroeswyr strôc, ac rydym yn croesawu adroddiad 'Stroke recoveries at risk' y Gymdeithas Strôc. Y llynedd, cyhoeddwyd £1.4 miliwn ychwanegol gennym ar gyfer gwasanaethau adsefydlu i bawb sydd mewn perygl o golli eu hannibyniaeth, a chyhoeddasom ein fframwaith adsefydlu i helpu sefydliadau i gynllunio ar gyfer gwasanaethau adsefydlu yn ystod pandemig COVID-19 a wedyn.
Nodaf y galwadau am gynllun cyflawni newydd ar gyfer strôc. Yn amlwg, nid yw'n bosibl datblygu cynllun o'r fath yn yr amser sydd ar ôl yn y cyfnod cyn yr etholiad, ac nid wyf yn credu'n onest y gallem ddibynnu ar Lywodraeth newydd sydd eto i'w ffurfio a'i phennu gan bleidleiswyr Cymru i fabwysiadu strategaeth a benderfynwyd cyn iddynt gael eu hethol. Mae'n bosibl y bydd Llywodraeth newydd am ganolbwyntio ar faterion mewn ffordd wahanol. Felly, mater i Lywodraeth newydd fydd hynny.
Rydym wedi ymestyn cyfnod y dull presennol o weithredu, ac mae hynny'n golygu bod y dull presennol yn weithredol. Golyga hynny ei fod wedi'i ymestyn hyd at fis Mawrth 2022, a byddai cynllun newydd yn barod ar ddechrau tymor newydd yn y Senedd, i fod yn barod i'w weithredu o fis Mawrth 2022 pan ddaw'r cynllun estynedig i ben. Bydd hynny'n caniatáu ystyriaeth o'r gwersi a ddysgwyd a'r modelau gofal newydd a ddefnyddir yn ystod y pandemig.
Rhaid iddo hefyd gydweddu â'r cyfleoedd a nodir yn 'Cymru Iachach', a manteisio arnynt hefyd yn fy marn i. Mae'r rhain yn cynnwys datblygu'r fframwaith clinigol cenedlaethol a swyddogaeth weithredol y GIG, ac rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth a roddodd Dr Lloyd i arweinydd clinigol gwasanaethau strôc yng Nghymru, gan ystyried y gwaith rhagorol a wnaeth ei ragflaenydd. A dylid rhoi ystyriaeth briodol hefyd i argymhellion y grŵp trawsbleidiol ar strôc, ac adroddiad 'Stroke recoveries at risk' y Gymdeithas Strôc.
Rwy'n croesawu'r ffocws y mae llawer o'r Aelodau wedi'i roi i ddiwygio'r gwasanaeth strôc, ac yn enwedig yr unedau hyper-acíwt. Mae gennym nifer o'r rhain eisoes yn eu lle ledled Cymru a'r her yw cael mwy ohonynt ar gyfer gweddill y wlad. Bydd hynny'n galw am arbenigedd a llai o unedau derbyn cleifion strôc yn y wlad, ond mae'r dystiolaeth yn glir y byddwn, drwy wneud hynny, yn gwella canlyniadau, a rhaid i arbenigedd fynd law yn llaw â'r gwelliant i wasanaethau cymunedol ehangach ac adsefydlu fel y mae pob siaradwr wedi'i gydnabod.
Felly, rwy'n croesawu'r ddadl, ac ar nodyn personol, hoffwn atgoffa'r Aelodau fod fy nhad fy hun wedi gwella o sawl strôc ac wedi colli ei fywyd i strôc yn y diwedd, felly rwy'n deall yr angen a'r budd o wella gwasanaethau strôc ymhellach. Er nad wyf yn gallu cefnogi'r cynnig yn ei gyfanrwydd, rwy'n sicr yn cefnogi'r teimladau sy'n sail iddo a lle mae Aelodau o bob rhan o'r Siambr am fynd yn wleidyddol. Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn ymatal yn y bleidlais yn nes ymlaen heddiw.
Diolch. Galwaf yn awr ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl. Rhun.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl bwysig iawn yma. Buaswn i'n licio diolch yn fawr iawn i'r Gymdeithas Strôc am y gwaith maen nhw wedi'i wneud dros y misoedd diwethaf. Mae'r ddogfen ar beryglu adferiad strôc gafodd ei chyhoeddi yn ôl ym mis Medi yn werthfawr iawn o ran mesur impact y pandemig ar wasanaethau.
Rydym ni'n gwybod bod y pandemig wedi ei gwneud hi'n anoddach i bobl sydd wedi'u heffeithio gan strôc i gael mynediad at y gwasanaethau maen nhw eu hangen. Rydym ni'n gwybod, wrth gwrs, pa mor bwysig ydy triniaeth effeithiol a thriniaeth gynnar, ac nid yn unig y mae'r anhawster yna i gael gofal yn effeithio ar ba mor dda y bydd pobl yn gwella'n gorfforol ar ôl y strôc, ond mae o yn cael effaith ar eu lles a'u hiechyd meddwl hefyd. Rŵan, mae'r sefyllfa wedi cael ei disgrifio'n dda iawn gan y rhai sydd wedi cyfrannu at y ddadl yma heddiw, a dwi'n diolch iddyn nhw.
Mae'r cynnig sydd o'n blaenau ni yn galw am sicrhau bod byrddau iechyd yn cael eu cefnogi i gynnal eu gwasanaethau strôc ar yr amser anodd yma, yng nghyd-destun y pandemig. Ond mae'r brif alwad ar Lywodraeth Cymru yn ddigon clir: mae angen cynllun strôc cenedlaethol newydd. Achos beth mae'r pandemig wedi'i wneud, mewn difrif, ydy rhoi mwy fyth o bwysau ar wasanaethau a oedd o dan bwysau yn barod, a rŵan, yn fwy nag erioed, mae eisiau cynllun sy'n dangos y ffordd ymlaen i wneud yn siŵr bod pobl, lle bynnag y maen nhw yng Nghymru, yn gallu cael mynediad at wasanaethau strôc o safon uchel.
Dwi'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei sylwadau. Dwi'n cydnabod hefyd, wrth gwrs, y pwysau enfawr yr oedd o'n cyfeirio ato fo oedd yna ar wasanaethau yn sgil y pandemig, a bod hynny, yn anochel, wedi cael impact. Dwi wrth gwrs yn nodi hefyd fod y Llywodraeth a'r Gweinidog wedi dweud wrthym y bydd y cynllun presennol yn cael ei ymestyn tan 2022 oherwydd COVID, a bod gwaith yn parhau ar fath o barhad o hynny ar ôl hynny. Ond dwi ddim yn clywed bod gwaith yn cael ei wneud rŵan i baratoi am gynllun cenedlaethol newydd o'r math rydym ni ei angen, i gael ei weithredu gan bwy bynnag, wrth gwrs, fydd mewn Llywodraeth. Ac mi fyddwn i'n dymuno gweld consensws yn cael ei adeiladu ar draws y pleidiau gwleidyddol, ac y gall gwaith ddechrau ar y cynllun hwnnw rŵan. A dyna'r math o ymrwymiad y byddwn i wedi licio ei glywed gan y Gweinidog presennol, sydd, dwi'n cymryd, yn gobeithio y gall fod yn Weinidog ar ôl yr etholiad hefyd. Mae eisiau cynllun newydd, rhywbeth mwy cadarn o ran ymrwymiad, yn hytrach na pharhad, os liciwch chi, y tu hwnt i 2022.
Ddirprwy Lywydd, mae'r grŵp trawsbleidiol wedi gwneud cryn dipyn o waith ar hyn. Mae bron i flwyddyn ers i'r grŵp ymgynghori ar sut y mae'r cynllun strôc presennol wedi cael ei ddelifro ac fe gafodd yr adroddiad hwnnw ei gyhoeddi wedyn ym mis Ebrill. Dydy'r ffaith bod ein prif sylw ni bryd hynny ar yr ymateb cyffredinol i'r pandemig oedd newydd daro ddim yn tynnu oddi ar bwysigrwydd yr adroddiad hwnnw a'r casgliadau gafodd eu cyrraedd gan yr ymchwiliad. Do, mi wnaeth o adnabod arferion da iawn, elfennau o'r cynllun presennol sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn, yn enwedig, rhaid dweud, o ran y gwaith ataliol, ond mae yna'n dal ormod o anghysondeb ar draws y gwasanaeth. Mi oedd hi'n amlwg bod yna gryn waith i'w wneud i gryfhau strwythurau llywodraethiant mewn cysylltiad â delifro gwasanaethau strôc.
Ac unwaith eto heddiw, rydyn ni wedi clywed pa mor bwysig ydy hi fod gêr arall yn cael ei chodi yn y gwaith i sicrhau bod dioddefwyr strôc yng Nghymru yn cael y gefnogaeth y maen nhw ei hangen. Dwi'n hyderus bod y Gweinidog—sydd yn cytuno, yn gyffredinol, fel y dywedodd o, â bwriad y cynnig yma, er ddim wedi cweit rhoi'r atebion y byddem ni eu heisiau—wedi clywed y dadleuon yn glir. Unwaith eto, mae'n bwysig iawn eu bod nhw'n cael eu gwyntyllu yma yn y Senedd.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwy'n gweld gwrthwynebiad; felly, fe bleidleisiwn o dan yr eitem hon yn ystod y cyfnod pleidleisio.