6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cefnogaeth i ofal lliniarol yn ystod y pandemig

– Senedd Cymru ar 3 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Siân Gwenllian. 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:50, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Eitem 6 ar yr agenda yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, sef cefnogaeth i ofal lliniarol yn ystod y pandemig. Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7581 Mark Isherwood

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cofnodi 37,403 o farwolaethau yng Nghymru yn 2020.

2. Yn cydnabod effaith y pandemig COVID-19 ar y rhai sy'n darparu gofal diwedd oes a'r rhai sydd â salwch angheuol a'u hanwyliaid, yn enwedig o ystyried cyfyngiadau'r coronafeirws ar ymweliadau ag ysbytai, hosbisau a chartrefi gofal.

3. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol gofal lliniarol o ansawdd uchel a gwasanaethau cymorth profedigaeth o dan amgylchiadau o'r fath.

4. Yn nodi pryderon Coleg Brenhinol Nyrsys Cymru o ran nyrsys yn bod yn flinedig, o dan straen a bron ac wedi'u gorweithio'n llwyr oherwydd y pandemig a'r pwysau ychwanegol o ddarparu gofal diwedd oes.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) parhau i adolygu'r canllawiau sy'n gysylltiedig ag ymweliadau ag ysbytai, hosbisau a chartrefi gofal, fel bod teuluoedd a gweithredwyr yn gallu galluogi cyswllt diogel a thosturiol yn ystod gofal diwedd oes;

b) sicrhau bod y rhai sy'n nesáu at ddiwedd eu hoes, yn ogystal â'u hanwyliaid, yn gallu cael gafael ar ofal a chymorth emosiynol o ansawdd uchel;

c) cynyddu'n sylweddol y cymorth ariannol ar gyfer gofal lliniarol a gwasanaethau cymorth profedigaeth yn y flwyddyn ariannol nesaf i ddiwallu'r anghenion cynyddol a mwy cymhleth sy'n deillio o'r pandemig;

d) gweithredu cynllun hirdymor i gefnogi nyrsys a staff gofal i ddelio â straen wedi trawma a materion iechyd meddwl a achosir gan y gofyniad cynyddol am ofal lliniarol.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:50, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Wrth ganolbwyntio ar yr angen i gefnogi gofal lliniarol yn y pandemig, mae ein cynnig yn cydnabod effaith pandemig COVID-19 ar y rhai sy'n darparu gofal diwedd oes a'r rhai sydd â salwch angheuol a'u hanwyliaid, ac yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol gofal lliniarol o ansawdd uchel a gwasanaethau cymorth profedigaeth. 

Ni fu gofal lliniarol a gofal diwedd oes erioed mor bwysig ag y maent yn awr. P'un ag a ydynt yn marw o COVID-19 neu gyflyrau angheuol eraill a chyflyrau eraill sy'n byrhau bywyd, mae angen gofal lliniarol a gofal diwedd oes arbenigol ar bobl. Mae'r cynnydd difrifol yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â'r pandemig wedi cynyddu'r angen am ofal hosbis a gofal lliniarol, ar ben angen sydd eisoes yn cynyddu, gyda'r rhagamcanion eisoes y bydd marwolaethau blynyddol o dan amgylchiadau arferol yn cynyddu 25 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf. Fel y dywed Marie Curie, hyd yn oed cyn y pandemig nid oedd un o bob pedwar o bobl yn cael y gofal na'r cymorth roeddent eu hangen ar ddiwedd eu hoes. Mae pobl yn byw'n hirach gyda chyflyrau lluosog, ac erbyn hyn mae ein byd yn cynnwys feirws a allai orfodi unrhyw un ohonom i wynebu ein marwolaeth ein hunain yn gynt nag y disgwyliem. 

Fel y dywed Hospice UK, yn ystod y pandemig mae Cymru wedi gweld cynnydd o 10 y cant yn nifer y marwolaethau, a gallai pob person sy'n marw o COVID-19 elwa o ofal lliniarol a gofal diwedd oes. Mae hosbisau a gwasanaethau gofal lliniarol y GIG wedi darparu dilyniant gofal i bobl â chyflyrau angheuol a chyflyrau sy'n byrhau bywyd drwy gydol y pandemig. Mewn rhai achosion, mae staff rheng flaen hosbisau wedi bod ymhlith yr unig weithwyr iechyd a gofal proffesiynol sydd mewn cysylltiad â phobl wrth iddynt nesáu at ddiwedd eu hoes. Er bod llawer o bobl am farw yn eu cartrefi eu hunain, i rai, yr hosbis yw'r lle gofal y maent yn ei ddewis, ac i lawer, efallai na fydd yn bosibl nac yn ymarferol iddynt gael cefnogaeth i allu marw yn eu cartref eu hunain, gan amlygu pwysigrwydd unedau hosbis i gleifion mewnol hefyd. Drwy gydol y pandemig, mae hosbisau wedi mynd ati'n rhagweithiol i sicrhau bod mynediad gan gymunedau at eu gwasanaethau cleifion mewnol sy'n darparu gofal diwedd oes arbenigol neu ofal mewn argyfwng os bydd eu hangen arnynt. Newidiodd Hosbis Tŷ'r Eos yn Wrecsam ei broses atgyfeirio fel y gallai pobl neu eu teuluoedd hunangyfeirio i'w gofal, yn ogystal â chadw llwybrau traddodiadol atgyfeirio proffesiynol. Yn hytrach na chau, sicrhaodd yr hosbis fod mwy o fynediad at eu gofal i bob pwrpas.

Ym mis Ebrill 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hyd at £6.3 miliwn i gefnogi gofal hosbis clinigol craidd parhaus, a datblygu gofal profedigaeth hosbisau, gan gydnabod y gofal hanfodol a ddarperir gan hosbisau pan nad oes darpariaeth GIG amgen ar waith, gofal a ariennir yn bennaf drwy roddion elusennol. Yn 2019, roedd angen i hosbisau godi £33.3 miliwn yn ychwanegol at y £5.7 miliwn a gawsant o ffynonellau statudol. Er i Lywodraeth Cymru ddyrannu £6.3 miliwn i gronfa argyfwng yr hosbisau, mae hyn yn llai hael na chronfeydd cyfatebol ym mhob un o wledydd eraill y DU, ac mae'n sylweddol is na'r cyfanswm a ddyrannwyd i Lywodraeth Cymru mewn cyllid canlyniadol o gymorth Llywodraeth y DU i hosbisau yn Lloegr. 

Ni chadarnhawyd unrhyw gymorth ychwanegol i hosbisau yng Nghymru i gynnal eu gwasanaethau hanfodol yn ystod 2020-21, ac maent yn wynebu diffyg cyfunol o £4.2 miliwn erbyn mis Mawrth, sef mis nesaf. Fodd bynnag, mae hosbisau a gwasanaethau gofal lliniarol cymunedol yn dal i ddarparu gofal wyneb yn wyneb hanfodol i bobl. Mae mwy o bobl yn derbyn gofal ar ddiwedd eu hoes yn eu cartrefi eu hunain, a hyn pan nad yw teuluoedd estynedig a ffrindiau yn gallu bod gyda hwy, gan roi teuluoedd agos o dan bwysau enfawr. Mewn cyferbyniad, ychwanegodd GIG Lloegr hyd at £125 miliwn at eu pecyn ariannu gwreiddiol ar gyfer y pum mis o fis Tachwedd 2020 i fis Mawrth 2021, sy'n cyfateb i hyd at £6 miliwn ychwanegol mewn cyllid canlyniadol i Lywodraeth Cymru. Unwaith eto, nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd gwasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru yn elwa ohono. At hynny, nid oedd unrhyw arwydd yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 o gymorth parhaus i hosbisau er mwyn cynnal eu gwasanaethau hanfodol, er gwaethaf eu diffyg cyfunol amcangyfrifedig o £6.1 miliwn yn ystod 2021-22.

Cyn y pandemig, cytunodd Llywodraeth Cymru i adolygu cyllid elusennol i hosbisau, gan gydnabod nad yw'r trefniadau presennol yn adlewyrchu angen y boblogaeth am ofal lliniarol yn gywir nawr, na'r cynnydd a ragwelir yn y dyfodol. Hyd yma, nid yw'r adolygiad hwn wedi dod i law. Mae'r holl wasanaethau hosbis i gleifion mewnol sy'n darparu gofal diwedd oes arbenigol neu ofal mewn argyfwng wedi parhau drwy gydol y pandemig, fel y mae timau hosbis a chwnsela profedigaeth, gyda llawer ohonynt hefyd yn cynnig gofal iechyd meddwl a phrofedigaeth arbenigol i staff iechyd a gofal lleol drwy'r pandemig. Wrth i gynllun cyflawni presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal diwedd oes ddod i ben, mae hosbisau yng Nghymru yn galw am gynllun cenedlaethol newydd sy'n arfer dull system gyfan ac sy'n ymateb i'r newid mewn marwolaethau yn y cartref drwy gydol y pandemig. Fel y mae'r pandemig wedi dangos, dylai pob person gael mynediad at ofal diwedd oes arbenigol ac urddasol ni waeth ble maent yn marw. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:57, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Rhun.

Gwelliant 1—Siân Gwenllian

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

(e) mynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad at ofal diwedd oes da.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:57, 3 Chwefror 2021

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n falch o allu cymryd rhan yn y ddadl yma. Ar lefel bersonol, dwi wedi cael boddhad o ddysgu mwy am y maes gofal diwedd oes yn y blynyddoedd diwethaf drwy weithio'n agos efo Marie Curie a Hospice UK yn benodol, ond digon prin, mewn difri, ydy'r cyfle inni gael neilltuo amser i drafod hyn yn y Senedd, felly dwi'n falch ein bod ni'n gallu gwneud hynny heddiw. Mae o'n faes mor, mor bwysig, wrth gwrs, ac mae hynny yn cael ei adlewyrchu yn faint o briefings ac ati sydd wedi cael eu hanfon ataf i ac eraill gan wahanol sefydliadau dros y dyddiau diwethaf. Dwi'n ddiolchgar am y rheini.

Mi fyddwn ni'n cefnogi'r cynnig heddiw. Mae ein gwelliant ni, yn syml iawn, yn ymwneud â thrio sicrhau ein bod ni'n cydnabod yr anghydraddoldebau sydd yn bodoli o hyd mewn mynediad at ofal diwedd bywyd. Mae'r pandemig, wrth gwrs, wedi newid sut mae llawer o wasanaethau yn cael eu delifro, a dydy hynny ddim gwahanol yn y maes gofal diwedd oes. Rydyn ni'n gwybod bod rhyw 2,000 yn rhagor o bobl wedi marw gartref yn ystod y pandemig na mewn blynyddoedd diweddar, a thra ei bod hi wrth gwrs wastad wedi bod yn ddymuniad i allu cynnig i bobl allu marw gartref os mai dyna eu dymuniad nhw, dydyn ni ddim yn gwybod, wrth gwrs, os ydy safon y gofal mae'r rheini wedi'i dderbyn yn y misoedd diwethaf wedi bod yr hyn ddylai fo fod, a dwi'n amau, o bosib, na fu o o'r safon yr hoffem ni ei weld, a hynny oherwydd y pandemig. Mae'r pandemig hefyd, dwi'n meddwl, wedi amlygu'r anghydraddoldebau roeddem ni'n ymwybodol ohonyn nhw cynt, a hynny oherwydd bod y pandemig ei hun wedi dangos yn glir iawn pa mor anghyfartal ydy ein cymunedau ni, efo'i effeithiau anghymesur o ar gymunedau tlotach ac ar gymunedau lleiafrifol, er enghraifft.

Felly, sut ydyn ni'n ymateb i hynny? Yn gyntaf, rydyn ni angen cynllun newydd sy'n cymryd agwedd holistig, ac un sydd yn sicr yn sylweddoli'r gweithlu sydd ei angen er mwyn delifro gwasanaethau ym mhob rhan o Gymru. Yn ail, mae eisiau sylweddoli bod cartrefi gofal yn ddarparwyr gofal lliniarol, a sicrhau'r rheoliadau a pholisïau comisiynu sydd yn adlewyrchu hynny. Yn drydydd, mae eisiau edrych yn benodol ar faterion sy'n ymwneud â gofal lliniarol i blant a phobl ifanc, nid yn unig y gweithlu, efo rhyw 240 o nyrsys plant cymunedol yn brin yn y system ar hyn o bryd, ond hefyd drwy gynnig gwell cefnogaeth i deuluoedd ac i frodyr a chwiorydd. Ac, wrth gwrs, mewn dadl fel hon heddiw, mae'n gyfle i ni gael clywed mwy o syniadau yn cael eu rhoi gerbron.

Mi wnaf i orffen drwy ofyn ychydig o gwestiynau'n benodol i'r Gweinidog. Yn gyntaf, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd er mwyn cyllido gwasanaethau nyrsio plant cymunedol mewn ffordd gynaliadwy, un ai wedi'u darparu gan yr NHS neu wasanaethau hosbis i blant yn y cartref? Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i lenwi'r gap yn y gweithlu nyrsio cymunedol efo'r sgil a'r profiad sydd ei angen i ddarparu gofal lliniarol i blant ar ddiwedd oes? A sut y mae Llywodraeth Cymru yn dal byrddau iechyd lleol i gyfrif am y ffordd y maen nhw'n cynllunio a chyllido nyrsio plant cymunedol ar gyfer plant sydd ag anghenion gofal lliniarol? Diolch yn fawr.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:01, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Mae llawer o gyd-Aelodau yn y ddadl hon wedi canolbwyntio'n briodol ar effaith COVID-19 ar unigolion sydd angen gofal diwedd oes a'u teuluoedd a fyddai, mewn amgylchiadau arferol, wedi gallu eu cysuro a'u cefnogi ar yr adeg hon. Dros y flwyddyn ddiwethaf, cafwyd straeon dirdynnol am gleifion yn agosáu at ddiwedd eu hoes yn yr ysbyty neu mewn cartref gofal, lle na fu'r cariad a'r gefnogaeth deuluol naturiol honno'n bosibl—mater y cyfeiriodd Mark Isherwood ato'n gynharach wrth agor.

Yn araith rymus olaf y Farwnes Tessa Jowell i Dŷ'r Arglwyddi, disgrifiodd mor huawdl yr hyn y mae'n ei olygu i fyw gyda salwch sy'n byrhau bywyd, a gwnaeth ddatganiad dwfn am fywyd a marwolaeth, sy'n berthnasol i'r ddadl hon heddiw. Dywedodd,

Yn y pen draw, yr hyn sy'n rhoi ystyr i fywyd yw nid yn unig sut y caiff ei fyw, ond sut y mae'n dirwyn i ben.

Mae gofal diwedd oes nid yn unig yn bwysig i'r ffordd y mae unigolyn yn marw, ond sut y rhoddir ystyr i fywyd unigolyn; sut, yn rhannol, y caiff y bywyd hwnnw ei gofio. Mae nid yn unig yn ymwneud â gofal meddygol, ond â gofal personol hefyd. Mae cynnwys teulu a ffrindiau agos yn ganolog i hynny. Yr hyn a fu mor anodd i bobl a'u perthnasau dros y misoedd diwethaf yw absenoldeb yr hyn y byddid yn ei ddisgwyl fel arfer pan fo rhywun yn agosáu at ddiwedd eu hoes a'r trallod a fo ynghlwm wrth hynny i deuluoedd. Ac wrth gwrs, fel y clywsom, nid teuluoedd yn unig sydd wedi dioddef, mae staff wedi dioddef hefyd. Dyna pam y mae ein cynnig yn cynnwys yr effaith ar ein staff iechyd a gofal sydd wedi dangos y fath broffesiynoldeb a thrugaredd yn ystod y pandemig.

Mae angen gwasanaethau gofal lliniarol a chymorth profedigaeth o ansawdd uchel ar deuluoedd a staff, i gydnabod rhywfaint o drawma'r 10 mis diwethaf. Mae angen i ni ddeall yn well yr effaith ar ein staff a sut y mae profiadau'r pandemig hwn wedi llywio eu barn am eu rôl a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu, a beth y mae'r frwydr yn erbyn COVID yn ei olygu mewn perthynas â recriwtio staff iechyd a gofal y dyfodol.

Rydym i gyd yn gwybod bod ein staff iechyd a gofal yn gweithio mewn amgylcheddau anodd ar adegau arferol, ond ni allai neb fod wedi rhagweld rhai o'r amodau mewn wardiau ysbytai ac ystafelloedd cartrefi gofal dros y misoedd diwethaf, lle mae cynifer o bobl wedi colli eu bywydau. Mewn llawer o achosion, mae staff nid yn unig wedi bod yn gwneud eu gwaith ac yn darparu gofal lliniarol, ond maent wedi gweithredu fel teuluoedd dirprwyol lle na chaniatawyd i aelodau o'r teulu ymweld. Os ydym o ddifrif am ymateb i ganlyniadau'r pandemig hwn, mae angen inni ailystyried sut y darperir gwasanaethau profedigaeth a chymorth. Dyna pam rwy'n cefnogi ein galwad am fframwaith profedigaeth cenedlaethol a'n bod yn cydnabod bod angen digon o arian i sicrhau nad yw COVID-19 yn creu pandemig arall—pandemig salwch meddwl.

Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn sôn am yr heriau penodol a wynebir gan bobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor (MND) ledled Cymru—heriau y mae'r Gymdeithas MND wedi tynnu sylw atynt. Mae'r Gymdeithas MND wedi bod yn ymgyrchu i ganiatáu i gleifion MND gael budd-daliadau'n gyflymach dros gyfnod y pandemig. Ar lefel y DU, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi gorffen eu hadolygiad, a hoffwn glywed gan y Gweinidog yn nes ymlaen sut y gall Llywodraeth Cymru helpu dioddefwyr MND i gael cymorth yn gyflymach yn ystod camau olaf bywyd.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig hwn. Gadewch inni ymdrechu i helpu cleifion sydd â salwch hirdymor ac angheuol i gael y gofal sydd ei angen arnynt hwy a'u teuluoedd. Gadewch inni ymdrechu i sicrhau bod ein meddygon a'n nyrsys yn gallu manteisio ar rwydwaith cymorth priodol i'w helpu gyda'u lles emosiynol, a gadewch inni sicrhau bod pobl o bob rhan o Gymru yn gallu manteisio ar wasanaethau profedigaeth proffesiynol.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:04, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu cynnig y Torïaid, oherwydd rwy'n credu nad ydym yn siarad digon am farwolaeth, er ei fod yn ein hwynebu ni i gyd yn y pen draw. Rwy'n credu mai un o'r pethau gwaethaf am y pandemig yw pobl yn marw yn yr ysbyty heb fod eu hanwyliaid yno i afael yn eu llaw. Felly, rwy'n llwyr ganmol ymdrechion arwrol staff nyrsio a gofal cymdeithasol sydd wedi galluogi pobl i farw gydag urddas, hyd yn oed os nad ydynt wedi gallu ffarwelio â'u hanwyliaid, heblaw drwy ryw fath o ddyfais.

Mae'r rhan fwyaf o bobl eisiau marw gartref. Mae honno'n ffaith absoliwt. Rwy'n credu bod Syr Tom Moore—un o'r pethau sydd mor wych amdano yw ei fod wedi byw bywyd hollol lawn hyd y diwedd. Aeth ar wyliau olaf i Barbados ychydig cyn iddo farw, felly pob lwc iddo. Ond fe fu'n ddigon ffodus i gael byw gydag o leiaf ddwy genhedlaeth o'i deulu, a rhaid inni gydnabod, fel y mae'r gwelliant yn ei wneud, nad oes gan bawb deulu sydd â lle ar gyfer y genhedlaeth hŷn yn ogystal â'r genhedlaeth iau.

I bobl nad oes ganddynt deulu o gwbl, gall cartrefi gofal ddarparu rhwydwaith cymdeithasol amgen da iawn i bobl sy'n ei chael hi'n anodd symud o gwmpas. Felly, credaf fod staff mewn cartrefi gofal wedi gwneud gwaith eithriadol yn ymdrin â'r heriau a wynebwyd ganddynt yn ystod y pandemig. Ond wrth inni gefnu ar y pandemig, hoffwn weld cartrefi gofal yn cael eu hintegreiddio'n well yn y cymunedau lle maent, ac yn dod yn fwy democrataidd o ran eu ffordd o weithredu.

Y peth gwaethaf am gartref gofal yn fy marn i yw'r perygl o arwahanrwydd oddi wrth weddill y gymdeithas. Gwn fod mentrau ardderchog yn bodoli i alluogi plant i fynd i gartrefi gofal a chanu caneuon neu siarad â phobl hŷn, ac mae'r rheini i gyd yn ganmoladwy. Ond mae llawer iawn mwy y gallem ei wneud, fel maent yn ei wneud mewn lleoedd fel Sgandinafia a'r Iseldiroedd i wneud cartrefi gofal yn rhan o'r gymuned—mannau lle mae bwyd a baratowyd gan y staff gyda'r preswylwyr yn cael ei werthu i'r cyhoedd wedyn.

Yn olaf, hoffwn ddweud fy mod yn credu bod y cynlluniau peilot nyrsio cymdogaeth—y gwerthusiad a wnaethpwyd ohonynt yn arwydd clir o'r llwybr yr hoffwn ein gweld yn ei ddilyn er mwyn sicrhau y gall pobl aros yn eu cartref eu hunain gyda'r gofal a'r cymorth sydd ei angen arnynt, cyhyd ag y bo modd. Dyna lle mae'n well gan bobl fod yn y rhan fwyaf o amgylchiadau. Felly, credaf fod llawer mwy y gallwn ei wneud i sicrhau bod diwedd oes yn adeg lawer mwy urddasol a hapus. 

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 4:08, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon, ac rydym yn cefnogi'r cynnig wrth gwrs. Marwolaeth yw un o'r unig bethau sy'n anochel mewn bywyd. Mae galluogi pob un ohonom i farw'n dda yn nodwedd o gymdeithas dosturiol. Yn anffodus, nid ydym bob amser wedi darparu'r gofal diwedd oes gorau, ac mae hyn wedi'i waethygu gan ddyfodiad feirws SARS-CoV-2.

Y llynedd, gwelsom fod nifer dinasyddion Cymru a gollodd eu bywydau wedi cynyddu dros 10 y cant i dros 37,000. Digwyddodd dros 6,000 o'r rheini yn sgil y clefyd ofnadwy hwn sydd wedi cyfyngu ar hyd oes anwyliaid ar draws y wlad. Cyn y pandemig, cafodd un o bob pedwar o'r rhai a oedd angen gofal lliniarol eu hamddifadu o'r lefel gywir o ofal.

Mae astudiaethau lluosog hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod gofal lliniarol digonol ac amserol yn llai hygyrch i bobl hŷn a phobl yn y gymuned ddu, Asiaidd, a lleiafrifoedd ethnig. Bydd yr anghydraddoldebau hyn wedi cynyddu o ganlyniad i COVID-19, sydd wedi effeithio'n anghymesur ar yr henoed ac aelodau eraill o'n cymuned.

Mae llawer gormod o bobl wedi cael eu gorfodi i wynebu diwedd eu hoes heb deulu a ffrindiau o'u cwmpas. Mae llawer gormod wedi marw ar eu pen eu hunain, a byddai mwy fyth wedi gwneud hynny oni bai am ein staff nyrsio anhygoel a staff y GIG yn gyffredinol. Ond mae hyn wedi gadael ei ôl. Fel y noda'r cynnig sydd ger ein bron heddiw, mae'r Pwyllgor Nyrsio Brenhinol wedi mynegi pryderon ynglŷn â nyrsys yn bod yn flinedig, o dan straen, a bron â bod wedi'u gorweithio'n llwyr oherwydd y pandemig a'r pwysau ychwanegol o ddarparu gofal diwedd oes. Mae hyn yn anghynaliadwy. Rhaid inni sicrhau bod gennym wasanaethau gofal lliniarol a phrofedigaeth ag adnoddau priodol, gwasanaethau sydd wedi'u trethu'n ddifrifol o ganlyniad i'r pandemig hwn. Ac mae'n anffodus na fu unrhyw gyllid ychwanegol yn y gyllideb sydd ar y ffordd ar gyfer hosbisau, ar gyfer gwasanaethau profedigaeth nac ar gyfer cymorth iechyd meddwl i nyrsys yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig hwn. Ac mae llawer o nyrsys a staff y GIG yn dioddef o straen oherwydd y pandemig hwn.

Ychydig cyn y Nadolig, aeth fy ngŵr i'r ysbyty gyda COVID-19, a threuliodd bum wythnos yno. Gwelodd lawer o bobl na ddaethant allan yn eu holau. Gwelodd deuluoedd mewn trallod. Clywodd nyrsys dan straen go iawn oherwydd hyn. Felly, rhaid inni wneud yn well i staff ein GIG, rhaid inni wneud yn well fel y gall ein dinasyddion farw'n dda, ac fel nad yw'r rheini sy'n helpu i leddfu'r baich yn cael eu trawmateiddio gan y profiad. Cefnogwch y cynnig hwn. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:11, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Darren Millar. Mae angen i chi agor eich meic neu gael—

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

O'r gorau. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Nid ydym yn eich clywed. Dyna chi.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

A allwch chi fy nghlywed i nawr? Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod y ddadl y prynhawn yma yn hollbwysig. Fel y clywsom eisoes, mae effaith y pandemig ar weithwyr iechyd proffesiynol, yr unigolion y maent yn gofalu amdanynt, a phawb sydd wedi colli eu hanwyliaid—boed o COVID-19 neu o achosion eraill—wedi bod yn enfawr. Ac yn ddealladwy, mae'r risg o ledaenu'r feirws wedi arwain at newidiadau enfawr i'r ffordd y darperir gofal a chymorth ac wrth gwrs, i allu'r rhai sy'n wael ac ar ddiwedd eu hoes i gael y cyswllt personol y maent yn ysu amdano gyda'u hanwyliaid.

Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd cyswllt personol, corfforol â'n hanwyliaid. Mae llawer o bobl sy'n ffit ac yn iach ledled Cymru yn ysu am allu cofleidio anwyliaid neu i ddal eu llaw ar hyn o bryd, a dim ond y bobl sydd gartref, yn ffit ac yn iach, yw'r rheini. Ond dychmygwch y boen o wahanu i'r rhai nad ydynt wedi gallu gwneud y pethau hyn ac sydd ar ddiwedd eu hoes. Iddynt hwy, mae'r posibilrwydd o wybod efallai mai ar ddyfais fel ffôn symudol neu iPad y byddant yn gweld eu hanwyliaid am y tro olaf yn dorcalonnus. Ac nid torcalonnus iddynt hwy yn unig, ond i'w hanwyliaid hefyd—y mamau, tadau, meibion, merched, brodyr, chwiorydd a ffrindiau agos sy'n wynebu'r trawma o beidio â gallu bod yn bresennol yn y cnawd i ffarwelio am y tro olaf ac i roi'r cysur y maent ei eisiau wrth i'w bywydau ddirwyn i ben. Ar ben hyn, cawsom gyfyngiadau ar angladdau—mae'r rheini hefyd wedi gadael eu hôl, gyda llai o bobl yn gallu bod yn bresennol i gynnig gair caredig neu i fyfyrio'n bersonol pan fydd rhywun wedi marw. Ac i lawer, rwy'n credu bod y cyfyngiadau hyn wedi dwysáu'n fawr yr ymdeimlad o golled a galar y mae pobl wedi'i brofi.

Nawr, gwyddom fod staff yn ein hysbytai, cartrefi gofal a hosbisau wedi gweithio'n eithriadol o galed, ac maent wedi dangos tosturi mawr tuag at y rhai sydd yn eu gofal a thuag at eu teuluoedd, ond er gwaethaf yr ymdrechion hyn, ni fu'n bosibl goresgyn effaith enfawr y rheolau caeth iawn sydd ar waith. Ac ar ben y pwysau eraill y mae gweithwyr allweddol wedi'i wynebu fel milwyr rheng flaen, os mynnwch, yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws, mae'r profiadau hyn wedi cael effaith wirioneddol ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant, fel y mae siaradwyr eraill wedi dweud. Felly, nid yw'n syndod fod adroddiadau wedi bod am weithwyr iechyd proffesiynol yn dioddef o bethau sy'n debyg i anhwylder straen wedi trawma.

Ac am yr holl resymau hyn mae mynediad at ofal bugeiliol o ansawdd uchel, caplaniaeth, cwnsela a chymorth profedigaeth yn gwbl hanfodol. Mae gwaith y grŵp trawsbleidiol ar ffydd, y grŵp trawsbleidiol ar angladdau a phrofedigaeth, a'r grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol wedi tynnu sylw at lawer o'r gwasanaethau hyn yn ystod y pandemig, ac wedi ein hatgoffa ni i gyd pa mor werthfawr ydynt i'r rhai sy'n eu defnyddio. Ac er fy mod yn falch y bu rhywfaint o fuddsoddiad ychwanegol yn y gwasanaethau hyn yn ystod y pandemig, rwy'n credu ei bod yn gwbl glir i bawb fod angen mwy o gyllid a bod angen inni gynyddu gallu'r gwasanaethau hyn i ymdopi â'r galwadau cynyddol arnynt. Gwyddom y bydd angen y cymorth hwn yn y dyfodol. Mae'n mynd i fod yn hir i lawer o bobl—llawer mwy estynedig nag y byddai fel arall. Felly, mae angen i'r cymorth fod yn sylweddol ac yn rheolaidd yn y blynyddoedd i ddod. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried hyn yn sgil y ddadl heddiw, ac rwy'n annog pawb i gefnogi'r cynnig a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:15, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am ddod â'r mater pwysig hwn i'r Siambr heddiw ac i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar yr hyn a oedd gan y siaradwyr i'w ddweud. Ni fyddaf yn gallu ateb yr holl gwestiynau, ond byddaf yn dod at y rheini ar y diwedd. A dylwn ddweud ar y dechrau fy mod, ar y cyfan, yn cefnogi'r cynnig a'r gwelliant.

Mae'r pandemig wedi tynnu sylw'n fwy nag erioed at y ffaith y gall gofal lliniarol da wneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd pobl sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes, gan eu helpu i fyw cystal ag sy'n bosibl, a phan ddaw'r amser, i farw gydag urddas. Gall hefyd wneud gwahaniaeth sylweddol i'r rhai sy'n cael eu gadael ar ôl a sut y maent yn ymdopi â'r galar o golli rhywun annwyl. Mae hefyd wedi pwysleisio'r effaith emosiynol y gall gweithio yn y sector gofal diwedd oes a/neu ofalu am rywun ar ddiwedd eu hoes ei chael.

Rydym yn parhau i fuddsoddi dros £8.4 miliwn bob blwyddyn i gefnogi gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol ledled Cymru. Mae llawer o'r arian hwn yn mynd i gefnogi hosbisau, sy'n ganolog i'n dull o weithredu gofal diwedd oes. Ni ellir tanbrisio'r cymorth y maent yn ei roi i gleifion, teuluoedd a gofalwyr. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r bwrdd gofal diwedd oes a'r byrddau iechyd dros y misoedd nesaf i adolygu'r cyllid a roddir i hosbisau oedolion a phlant, ac mae'n bwysig cydnabod rôl bwrpasol hosbisau plant yn yr adolygiad hwn. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dyrannu £6.3 miliwn o gyllid brys i gefnogi hosbisau drwy gydol y pandemig. Rwy'n falch o gyhoeddi y byddwn yn darparu £3 miliwn ychwanegol i gefnogi hosbisau hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, gan godi cyfanswm y buddsoddiad ychwanegol i hosbisau yn ystod y pandemig i £9.3 miliwn.

Rwy'n cydnabod yr effaith y gall marwolaeth rhywun annwyl ei chael ar unigolion, teuluoedd a chymunedau, yn enwedig yn sgil y cyfyngiadau a roddir arnom gan COVID-19. Mae galar yn rhan naturiol o'n hymateb i farwolaeth. Fodd bynnag, heb allu ymweld ag anwyliaid ar ddiwedd eu hoes neu gyflawni ein defodau a'n harferion cyfarwydd, gall y profiad o alar fod yn fwy cymhleth fyth. Gyda hyn mewn golwg, rydym wedi cyhoeddi canllawiau i sicrhau y caniateir i gleifion ar ddiwedd eu hoes, boed yn yr ysbyty, hosbis neu gartref gofal, gael ymweliad gan eu hanwyliaid, nid yn unig yn yr eiliadau olaf, ond yn wir, yn nyddiau olaf eu hoes. Mae cydbwyso hawliau pobl a chefnogi eu lles gydag awydd i ddiogelu pobl rhag y risg o haint yn parhau i fod yn heriol iawn. Gyda'n gilydd, rhaid inni ymateb i'r her honno a gwneud popeth yn ein gallu i gynorthwyo pobl i weld eu hanwyliaid mewn ffordd mor ddiogel â phosibl.

Mae gwaith ar ddatblygu fframwaith profedigaeth cenedlaethol yn mynd rhagddo'n dda. Bydd y fframwaith yn nodi egwyddorion craidd, safonau gofynnol ac ystod o gamau gweithredu i gefnogi cynlluniau rhanbarthol a lleol. Bydd yr ymgynghori'n parhau y gwanwyn hwn ac fe'i cefnogir gan £1 filiwn o gyllid ychwanegol o fis Ebrill 2021. Rydym hefyd wedi darparu £900,000 o gymorth ychwanegol i hosbisau a darparwyr gwasanaethau profedigaeth drwy gydol y pandemig i wella eu gofal a'u cymorth profedigaeth yn benodol.

Rwyf hefyd am gydnabod y rôl hanfodol y mae nyrsys ardal yn ei chyflawni drwy ddarparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes gartref ac mewn cartrefi gofal, a'u cymeradwyo am gynnal gwasanaethau ymweld â'r cartref drwy gydol y pandemig. Fodd bynnag, fel yr Aelodau eraill, rhaid inni gydnabod bod angen ein cefnogaeth arnynt hwy a'n holl weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol a phartneriaid yn y trydydd sector hefyd. Rydym wedi darparu cyllid ychwanegol i wella'r gwasanaeth Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru, sy'n cynnig gwasanaeth cyfrinachol ac am ddim, model haenog o gymorth iechyd meddwl sydd ar gael i bawb sy'n gweithio, yn astudio ac yn gwirfoddoli i GIG Cymru. Mae amrywiaeth o adnoddau ar gael hefyd i gefnogi pawb sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ar wefan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Wrth orffen, Ddirprwy Lywydd, rwyf am ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bawb fynediad at ofal diwedd oes a chymorth profedigaeth o ansawdd uchel lle bynnag y bo angen. Byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn ystod yr wythnosau nesaf i ymateb i'r pwyntiau niferus a wnaethpwyd gan Aelodau yn y ddadl heddiw, ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd ehangach ym maes gofal diwedd oes. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:19, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi ofyn i Suzy Davies ymateb i'r ddadl yn awr? Suzy.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Fel y dywedodd Mark Isherwood ar y dechrau, nid yw erioed wedi bod mor bwysig inni drafod yr hyn rydym yn ei drafod heddiw.

Mae nifer o Aelodau wedi cyfeirio at y gobaith y byddwn i gyd yn marw'n dda, ac mae rôl gwasanaethau lliniarol yn hynny yn gwbl hanfodol. Rwy'n credu fy mod wedi nodi yn y ddadl heddiw efallai fod angen gwell integreiddio rhwng yr hosbisau yr ydym i gyd yn gyfarwydd â hwy ac yn deall eu rôl, ond gyda'r nyrsys ardal efallai, gyda'r ysbytai, fel y soniodd Jenny, ond hefyd y cartrefi gofal, y soniodd Jenny amdanynt—mae'r rhain i gyd yn rhan o'r stori o ddarparu gofal lliniarol da. Ac yn enwedig gyda chartrefi gofal, lle rydym wedi gweld 21 y cant o bobl yn marw, o'i gymharu ag 16 y cant mewn blynyddoedd blaenorol, mae arwydd yno o gryfder y rôl y mae cartrefi gofal yn ei chwarae yn helpu pobl i farw'n dda. A chredaf fod hyn yn bwysicach nag erioed o'r blaen, oherwydd fel y soniodd eraill, rydym wedi bod mewn amgylchiadau anodd iawn; ni chafwyd unrhyw gysylltiad personol â'r rhai sy'n agosáu at ddiwedd eu hoes. Ac ar ben y profiadau y mae pawb ohonom wedi'u cael, ceir haen o euogrwydd nad yw pobl yn gallu treulio amser gyda'u hanwyliaid wrth iddynt gyrraedd diwedd eu hoes, a haen o euogrwydd efallai nad oeddent yn gallu eu cael gartref dros fisoedd olaf eu bywyd. Ac oherwydd hynny, os ydym yn sôn am gynllun darparu gofal newydd neu fframwaith newydd, Weinidog—ac rwy'n ddiolchgar i chi am eich sylwadau heddiw—mae angen inni fod yn fwy ymwybodol o'r ymatebion cymhleth hyn i alar a sicrhau ein bod yn cynnwys ein nyrsys, ein meddygon, ein gweithwyr cartrefi gofal ac wrth gwrs, ein gwasanaethau profedigaeth, nad ydynt wedi cael llawer o sylw heddiw. 

Ac yna i orffen gennyf fi—Weinidog, diolch yn fawr ichi am y cyhoeddiad rydych wedi'i wneud heddiw am yr arian ychwanegol ar gyfer y gwasanaethau hyn cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod ychydig mwy o symiau canlyniadol yn dod gan Lywodraeth y DU ar gyfer y cyfnod hwn, ond fe sonioch chi am wasanaethau eraill sy'n ymwneud â chefnogi iechyd meddwl yn ystod y cyfnod hwn, ac efallai fod rhywfaint o'r arian wedi mynd tuag at hynny. Rwy'n rhannu pwynt Caroline Jones nad oes sôn yn benodol am wasanaethau galar a phrofedigaeth yn y gyllideb, felly mae eich sylwadau heddiw wedi fy helpu gyda hynny. 

Rwy'n tybio fy mod am orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy ddweud bod hwn yn un maes lle na ddylai fod rhaid inni graffu arno'n arbennig o drylwyr o ran cyllid a chyflawni. Mae'n faes lle dylem ragdybio bob amser a dylem fod yn dawel ein meddwl bob amser ein bod yn gwneud pethau'n iawn. Ac felly, os caf orffen drwy ddiolch i aelodau'r ddau grŵp trawsbleidiol sydd wedi helpu i lywio'r ddadl heddiw ac wedi gwneud i bawb ohonom feddwl ychydig mwy am yr hyn sy'n bwysig i ni. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:22, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau, felly mae'r cynnig—. O mae'n ddrwg gennyf. Rhun, a ydych wedi codi eich llaw, oherwydd mae ychydig oddi ar y camera? Iawn. Rwy'n gweld gwrthwynebiad. Ydw, rwy'n gweld gwrthwynebiad, felly gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.