– Senedd Cymru am 2:57 pm ar 23 Chwefror 2021.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf am frechiadau COVID-19. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad. Vaughan Gething.
Ar 11 Ionawr, fe gyhoeddais i ein strategaeth frechu ar gyfer Cymru. Mae llawer iawn wedi digwydd mewn ychydig dros chwe wythnos. Mae ein rhaglen ni wedi mynd o nerth i nerth. Yn ddiweddarach yr wythnos hon, fe fyddaf yn cyhoeddi diweddariad i'r strategaeth, i fwrw golwg yn ôl ar y cynnydd a rhoi rhagor o fanylion am ein blaenoriaethau presennol ni yn ogystal â'n blaenoriaethau i'r dyfodol.
Mae dros 860,000 o bobl yng Nghymru, sydd i gyd yn y grwpiau o bobl sydd fwyaf tebygol o ddioddef niwed difrifol oherwydd coronafeirws, wedi derbyn eu dos cyntaf nhw o'r brechlyn erbyn hyn. Hefyd, mae ail ddosau, sy'n bwysig ar gyfer amddiffyniad yn y tymor hwy yn arbennig, yn cael eu gweinyddu, gyda bron 50,000 o bobl wedi cael eu rhai nhw eisoes. Mae hon yn ymdrech anhygoel gan y tîm cenedlaethol. Rwy'n diolch i bawb sy'n gysylltiedig â'r GIG yng Nghymru, ein partneriaid ni yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, y gefnogaeth gan y lluoedd arfog, a'r llu o wirfoddolwyr sydd wedi dod i'r adwy. Rwy'n diolch i'r cannoedd o filoedd o bobl hefyd sydd wedi derbyn y cynnig a roddwyd iddyn nhw o'r brechlyn ac wrth wneud hynny maen nhw wedi chwarae eu rhan yn ein hymdrech genedlaethol ni i gadw Cymru'n ddiogel. Mae'r dystiolaeth yn parhau i ddod i'r amlwg, ond mae'r hyder yn magu yn y rhaglen frechu fel ffactor hollbwysig yn ein taith ni allan o'r cyfyngiadau symud ac ymlaen i ddyfodol sy'n fwy disglair.
Rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi gweld yr ymchwil galonogol iawn o'r Alban a Lloegr a ddaeth i'r amlwg ddoe. Mae llawer i'w wneud eto, ond mae'r dechrau arbennig o dda i'n rhaglen frechu ni wedi dod â gobaith i bob un ohonom ni. Mae'r Aelodau wedi gweld y cyhoeddiadau gan Lywodraeth y DU dros y dyddiau diwethaf ynghylch cyflymu'r broses o gyflwyno brechlynnau. Rydym ni wedi dweud bob amser y gallai ein rhaglen frechu ni gyflymu, ond mae hynny'n dibynnu ar gyflenwad mwy o frechlynnau y gellir ei ragweld. Yn hwyr neithiwr, fe gawsom ni gadarnhad y dylem weld rhai o'n cyflenwadau ni o frechlynnau yn cyrraedd yn gynt na'r disgwyl. Felly, rydym ni'n gweithio, fel mater o frys, ar gynlluniau i sicrhau bod ein capasiti ni i weinyddu yn cyfateb i'r cyflenwad a ragwelir nawr. Rydym ni'n awyddus i sicrhau y gellir brechu cymaint o bobl â phosibl cyn gynted ag y bydd y cyflenwadau cynharach nawr yn caniatáu hynny.
Fel y dywedaf, rydym wedi mynegi ers peth amser y gallem symud yn gynt pe byddai'r cyflenwad yn fwy. Rwy'n disgwyl y byddwn ni yma yng Nghymru yn gallu mynd ar yr un cyflymder â Lloegr wrth gyflwyno'r rhaglen frechu, ac fe ddylai pobl fod yn hyderus iawn o ran ein gallu i gyflawni hynny o ystyried llwyddiant rhaglen Cymru hyd yn hyn. Fe fydd gennyf i ragor i'w ddweud yn y dyddiau nesaf pan fydd fy swyddogion i a'r GIG yng Nghymru wedi cael amser i weithio drwy'r wybodaeth a gyflwynwyd neithiwr. Diolch, Llywydd.
Gweinidog, diolch yn fawr i chi am eich datganiad heddiw. Newydd da yw hwn yn amlwg. Nid wyf i'n defnyddio'r gair 'gwyrthiol' yn aml iawn, ond rwy'n credu bod cyflwyniad y brechlyn drwy'r holl DU, ym mhob un o'r pedair gwlad sydd ynddi, ac yng Nghymru, wedi bod yn gwbl wyrthiol. Rwy'n falch iawn o'ch clywed chi'n dweud y credwch y gallwch fynd ar yr un cyflymder â'r rhaglen frechu yn Lloegr, ac rwy'n awyddus iawn i ddweud diolch o galon, fel y gwnaethoch chi, wrth bawb sydd â rhan yn y rhaglen hon. Rwyf i o'r farn ei bod yn tystiolaethu i allu'r ddynolryw i wrthsefyll feirws sy'n awyddus iawn i achosi cymaint o niwed ag sy'n bosibl, ac rwy'n llongyfarch pawb sy'n gysylltiedig â hyn.
Dim ond ychydig o gwestiynau sydd gennyf i, a hynny mewn tri maes. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r ail ddos. Nid yw'n ymddangos bod unrhyw gysondeb o ran rhoi dyddiadau ar gyfer ail bigiadau. Fe gaiff rhai gynnig apwyntiad yn syth ar ôl cael y pigiad cyntaf, fe ddywedir wrth eraill y bydd rhywun yn cysylltu â nhw, ac mae'n ymddangos bod gwahaniaethau nid yn unig rhwng byrddau iechyd, ond o fewn byrddau iechyd unigol. Tybed a wnewch chi daflu rhywfaint o oleuni ar hynny. A beth sy'n digwydd pe bai rhywun yn methu ei ail ddos oherwydd iddyn nhw gael eu rhwystro ar ddiwrnod yr apwyntiad, ac mae wedi mynd yn hwyrach na'r cyfnod byr hwnnw o amser a bennwyd ar ein cyfer ni? A yw hynny'n broblem? A fyddai'n rhaid iddyn nhw ddechrau o'r dechrau? Cwestiynau yw'r rhain y mae nifer o bobl wedi eu codi gyda mi, a phe byddai gennych chi unrhyw eglurder y gallech chi ei gynnig yn hyn o beth, fe fyddwn i'n ddiolchgar iawn.
Mae ail faes fy ymholiadau yn ymwneud â thegwch. Mae gennym system eglur iawn o flaenoriaethau, ac rydym ni'n gweld dosau weithiau nad ydynt wedi eu defnyddio ar derfyn dydd, ac felly mae'r sefydliadau sy'n gweinyddu'r rhain yn ceisio dod o hyd i bobl i ddod i mewn i gael y dosau hynny. Wel, da iawn hynny wir. Eto i gyd, mae swyddogion yn heddlu Dyfed-Powys wedi dweud wrthyf i eu bod wedi cael e-bost mewnol gan eu heddlu nhw'n dweud nad oes hawl ganddynt i gael y brechlyn os nad ydyn nhw yn y grŵp priodol yn ôl y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, hyd yn oed pe bydden nhw'n cael eu galw i sesiwn lle mae'r dosau dros ben yn cael eu rhannu. Tybed a wnewch chi ymchwilio i hyn, oherwydd rwyf wedi clywed sawl adroddiad gan luoedd eraill yr heddlu yn mynegi safbwyntiau sy'n wahanol. Felly tybed a gawn ni rywfaint o eglurder, oherwydd fe wn i fod swyddogion yr heddlu'n teimlo eu bod nhw ar y rheng flaen, ac nid ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn iawn. Nid gofyn am flaenoriaeth y maen nhw—gofyn am degwch, ac os wyf i'n cael cerdded i mewn i ganolfan a chael cynnig dos sydd dros ben, pam na chaiff swyddog yn yr heddlu wneud hynny?
Yn olaf, mae'n rhaid imi ddychwelyd at fater gofalwyr, oherwydd mae'r sefyllfa'n un ddryslyd. Ddoe, roeddech chi'n dweud y gellid rhoi gofalwyr di-dâl a phobl ag anableddau dysgu yng ngrŵp blaenoriaeth 6 ar gyfer brechlynnau, ond ar 2 Chwefror fe gawsoch chi eich dyfynnu gan BBC Wales yn dweud y byddai gofalwyr di-dâl yng ngrŵp blaenoriaeth 6, yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Nawr, mae'r ansicrwydd hwn yn peri pryder i bobl sy'n agored i niwed neu sy'n gofalu am bobl sy'n agored i niwed. Rwy'n sylwi bod y GIG yn Lloegr a'r Alban yn amlinellu canllawiau eisoes ar frechu gofalwyr di-dâl yng ngrŵp 6. Fe ysgrifennodd y GIG yn Lloegr at yr ymddiriedolaethau lleol ynglŷn â sut i'w hadnabod nhw ar 20 Chwefror, ac mae'r GIG yn yr Alban wedi diwygio eu canllawiau nhw yn ystod y 24 awr ddiwethaf. Rydych chi'n ymwybodol bod y llyfr gwyrdd ar imiwneiddio rhag clefydau heintus yn nodi y dylai brechu gofalwyr di-dâl yng ngrŵp blaenoriaeth 6 gynnwys
Y rhai sy'n gymwys i gael lwfans gofalwr, neu'r rhai sy'n unig ofalwr neu'n brif ofalwr i unigolyn oedrannus neu anabl sydd mewn mwy o berygl o farwolaeth oherwydd COVID-19.
Mae hwn yn egluro hefyd fod y rhai sy'n glinigol agored i niwed oherwydd COVID yn cynnwys plant â niwro-anableddau difrifol, y rhai a gaiff eu dynodi yn Glinigol Eithriadol o Agored i Niwed (CEV), oedolion sydd â chyflyrau iechyd isorweddol, a'r rhai sydd ag angen gofal oherwydd oedran mawr.
Felly, mae gofalwyr yn dweud wrthyf i fod y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn dweud yn glir iawn eisoes, os ydych chi'n cael lwfans gofalwr, mae yna ganiatâd ichi fod yng nghategori 6. Mae gofalwyr yn dweud, pan fyddan nhw'n mynd i ofyn i'r bwrdd iechyd, neu eu meddyg teulu lleol a allan nhw gael y brechiad, yr ateb yw, 'Na chewch, mae'n rhaid i ni aros am arweiniad, mae'n rhaid i chi aros am benderfyniadau gan Lywodraeth Cymru'. Fe wn i fod y Prif Weinidog wedi sôn y byddai rhywbeth yn dod i'r amlwg yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, ond mae gofalwyr, a dweud y gwir, yn teimlo eu bod wedi cael addewid, ac yna mae'r amodau wedi newid eto. A wnewch chi heddiw roi eglurder i ofalwyr—gofalwyr di-dâl sy'n cyflawni swyddogaeth mor hanfodol yn ein cymdeithas ni—a chynnig neges wirioneddol, gyson a chlir iddyn nhw o ran pryd y byddan nhw'n gallu cael eu brechu? Fe fyddwn i'n falch iawn pe byddech chi'n taflu rhywfaint o oleuni ar y pwnc hwn. Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.
Diolch. Rwyf am ddechrau gyda'r cwestiwn olaf oherwydd bydd gofalwyr di-dâl yn cael eu rhoi yng ngrŵp 6. Rwyf wedi ateb llawer o gwestiynau ynglŷn â hynny, ac rwy'n hapus iawn i ailddatgan y sefyllfa i geisio ymgodymu â rhywfaint o'r pryder a fydd gan rai, yn ddealladwy iawn. Felly, fe fu'n rhaid inni weithio trwy—ac rydym wedi gwneud hyn yn fwriadol gyda gofalwyr a sefydliadau cenedlaethol—ddull o ddiffinio gofalwyr di-dâl yn y fath fodd fel y gallwn sicrhau gwahoddiad i'r bobl hynny. Ac un o'r enghreifftiau a roddais i yw fy mod i'n mynd â nwyddau o'r siop at fy mam yn rheolaidd, felly rwy'n mynd â'r nwyddau i'w thŷ hi, ond ni fyddwn i'n ystyried bod y weithred honno'n golygu fy mod yn cael fy nghyfrif yn grŵp blaenoriaeth 6. Fe fyddaf i yng ngrŵp blaenoriaeth 6, ond y rheswm am hynny yw bod gennyf gyflwr cronig sylfaenol ar yr arennau. Felly, dyna'r rheswm pam y byddaf i'n cael fy ngwahodd yng ngrŵp blaenoriaeth 6. Felly, rydym wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau gofalwyr i geisio cytuno ar ddull sy'n gwneud synnwyr.
Nawr, yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn Lloegr yw ceisio nodi pobl yn ôl rhestrau'r meddygfeydd. Roedd hwnnw'n ddull a ystyriwyd gennym ni ond, yn y pen draw, rwyf wedi penderfynu peidio â gwneud hynny oherwydd fe fyddai'n golygu, yn ei hanfod, wrth edrych ar restrau meddygon teulu—gofynion ychwanegol ar feddygon teulu wedyn, ac fe allwch chi ragweld y galwadau ychwanegol niferus y byddai'r meddygon teulu yn eu cael. Nid wyf i o'r farn y byddai honno wedi bod yn ffordd synhwyrol ac effeithlon o gynnwys gofalwyr yn y grŵp. Felly, rwy'n disgwyl gallu cadarnhau rhywfaint o arweiniad yn fuan i ofalwyr di-dâl a'r byrddau iechyd ar gyfer cyflawni hynny, a mater o ychydig ddyddiau yw hynny, yn llythrennol, ac rwy'n disgwyl y caiff canllawiau eu cyhoeddi, ac fe ddylai hynny roi'r eglurder wedyn yn gyhoeddus i bawb sy'n gofyn amdano. Ond rwy'n ei gwneud hi'n eglur iawn : mae gofalwyr di-dâl yng ngrŵp 6, ac mae'n ymwneud â sut yr ydym am wneud yn siŵr eu bod yn cael eu gwahodd i'w hapwyntiadau yn hytrach nag os ydyn nhw'n cael eu gwahodd, ac mae hwnnw'n bwynt pwysig iawn i'w wneud.
O ran eich pwynt chi ynglŷn â thegwch o ran brechiadau sydd ar ôl ar derfyn dydd, wel, gwn eich bod wedi dweud, pe byddech chi'n cael cynnig brechlyn ar derfyn dydd, pam ddim un o swyddogion yr heddlu? Y rheswm am hynny yw eich bod chi, rwy'n amau, ryw ychydig bach dros eich hanner cant, felly rydych chi o fewn grwpiau blaenoriaeth o un i naw, Angela, ac ni fydd llawer iawn o swyddogion yr heddlu yn yr un sefyllfa. Yr hyn a wnaethom ni, er hynny, yw bod yn eglur iawn yn y canllawiau a ddosbarthwyd yn fewnol. Ac rwy'n credu bod Gill Richardson, yr uwch swyddog sy'n gyfrifol am y rhaglen frechu wedi dweud hynny'n gyhoeddus hefyd, ac wedi anfon nodyn yn fwy cyffredinol i ddweud ein bod ni mewn sefyllfa erbyn hyn lle mae grwpiau 5 i 9 yn gyfran helaeth o'n poblogaeth ni. Fe fyddem ni'n disgwyl i fyrddau iechyd allu rheoli'r garfan honno ac, yn sicr, ar hyn o bryd wrth fynd drwy grwpiau 5 i 9, i fod â grwpiau dros ben o bobl ar ddiwedd y dydd y gellir galw arnyn nhw, oherwydd, mewn gwirionedd, i bobl dros 50 oed, fe fydd llawer o'r rhain yn hyblyg ac yn gallu mynd i mewn ar fyr rybudd.
Os nad yw'n bosibl gwneud felly, yna rydym ni o'r farn ei bod hi'n briodol cynnig y brechlyn i bobl eraill ar derfyn y dydd i sicrhau nad oes dosau yn mynd yn wastraff. Nid wyf yn credu y gwelwn ni niferoedd uchel, ond ar gyfer ymdrin â chwe brechlyn o bosibl, i ddiffoddwr tân neu i swyddog heddlu neu i rywun arall, yna yn sicr nid yw Llywodraeth Cymru am ddweud, 'Nid yw'r brechlyn hwn ar eich cyfer chi—mae'n rhaid ei daflu i ffwrdd'. Mae'n amlwg nad yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr, ac nid ydym yn gwneud y safiad hwnnw. Ac, fel y dywedais, rydym wedi anfon nodyn allan i egluro hynny o fewn y system hefyd. Felly, nid wyf i o'r farn fod her y neges yr ydych chi'n cyfeirio ati yn adlewyrchiad cywir o'n safbwynt ni, ac ni ddylai hynny fod yn arfer ar lawr gwlad. Gobeithio bod hynny'n helpu i ddatrys y mater hwnnw, nid yn unig yn ardal Dyfed Powys ond yn fwy cyffredinol; rwyf wedi clywed chwedlau a phryderon o'r fath yn cael eu mynegi mewn mannau eraill hefyd.
Ynglŷn â'r ail ddos, rwy'n hapus i gadarnhau ein bod ni'n disgwyl y gellir parhau i weinyddu dosau'n hwyr. Felly, rydym ni i gyd yn deall y ceir gwahanol resymau mewn bywyd am golli apwyntiad am ail ddos; fe all rhywun fod yn sâl, efallai y bydd rheswm da arall pan na allan nhw fod yn bresennol ar yr amser penodedig. Fe ellir aildrefnu'r ail ddos hwnnw, a'm dealltwriaeth i yw nad oes unrhyw werth i'r unigolyn orfod dechrau eto gyda dos 1 ac ymlaen wedyn i ddos 2. Mewn gwirionedd, mae data cadarn ar gael bod cyfnod hwy rhwng dosau yn beth da mewn gwirionedd o ran lefel yr amddiffyniad a'i hirhoedledd. Felly, os bydd rhywun yn cael ei ail ddos yn ystod wythnos 13 yn hytrach nag wythnos 11 neu 12, ni ddylai hynny ynddo'i hun achosi problem o ran ei ddiogelu yn yr hirdymor. Yn yr un modd, pe byddech chi'n colli eich ail apwyntiad a bod angen ichi ad-drefnu, nid yw hynny'n golygu y bydd rhywun yn dweud wrthych chi am fynd yn ôl i ddechrau'r gêm—nid hwnnw yw ein dull ni o weithredu.
Ac yna, o ran cysondeb, fe gafodd nifer o apwyntiadau eu had-drefnu er mwyn cyflymu'r gwaith o gyflwyno'r dosau, yn arbennig felly i'r bobl hynny sy'n cael y pigiad Pfizer. Rwy'n disgwyl y bydd yna ddull cyson o weithredu ac y caiff pawb wybod yn uniongyrchol pa bryd y bydd eu hapwyntiad nhw. Mae rhai pobl wedi cael rhyw syniad o'u hail ddyddiad wrth gael eu brechlyn cyntaf. Yn gynyddol, serch hynny, rydym ni'n disgwyl rhoi gwybod i bobl, ar ôl iddyn nhw gael eu dos cyntaf, pryd y gweinyddir eu hail ddos. Rwy'n credu mai'r peth pwysicaf yw sicrhau nad yw pobl yn cael eu gadael ar ôl. Rwy'n cytuno â chi: mae hon wedi bod yn ymdrech aruthrol yng Nghymru. Mae'n hyfryd bod ar y blaen i wledydd eraill y DU, ond fe all pob un o bedair gwlad y DU ymfalchïo'n fawr yn y ffordd y mae ein gwasanaethau iechyd gwladol cyfunol ni wedi cyflwyno'r rhaglen hon.
Diolch. Diolch i chi am y datganiad ac, unwaith eto, fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd â rhan yn yr ymdrech gwbl ryfeddol i frechu ym mhob rhan o Gymru. Mae'r mater cyntaf yr wyf i'n awyddus i'w godi'n ymwneud â chyfathrebu. Fe ddywedodd y Prif Weinidog, wythnos yn ôl, ar raglen Today Radio 4, fod pobl dros 50 oed ar fin cael eu gwahodd ar gyfer eu brechlynnau. Fe ddywedodd ef, ac rwy'n dyfynnu,-
Fe fydd pobl dros 50 oed yn dechrau cael eu hapwyntiadau nhw wythnos nesaf... a bydd y rhain yn cael eu brechlynnau o ddydd Llun ymlaen.
Fe wyddom nad yw hynny wedi digwydd. Nid ydym wedi cyrraedd y grŵp yn eu 50au i raddau helaeth eto. Bydd y grwpiau blaenoriaeth yn cael eu trin yn eu tro. Nawr, rwy'n siŵr nad oedd y Prif Weinidog yn ceisio camarwain unrhyw un, ond achosodd dipyn o ddryswch, felly a gawn ni fod yn fwy gofalus gyda'n cyfathrebu?
Fe hoffwn i droi at y posibilrwydd o ehangu'r categorïau blaenoriaeth ar gyfer brechu. Unwaith eto, rwyf i wedi galw'n barhaus am gynnwys rhai sy'n gweithio mewn swyddi allweddol, mewn ysgolion, ym maes trafnidiaeth gyhoeddus, yr heddlu, gwasanaethau brys eraill ac yn y blaen ar y rhestrau blaenoriaeth. Mae eich Llywodraeth chi wedi dweud yn gyson, 'Na, rydym am lynu wrth gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu'. Ond a gaf i bwyso arnoch chi i ystyried dull gwahanol o weithredu? Nid oes dim o'i le o gwbl ar restrau blaenoriaeth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu; os ydych chi'n hŷn neu'n fregus eich iechyd, rydych chi mewn mwy o berygl fel unigolyn—rwy'n credu bod hynny'n ddigon amlwg. Ond mae yna ffactor risg arall, sef pa mor debygol yr ydych chi o fod mewn cysylltiad â'r feirws. Bwriwch fod gennych chi ddau unigolyn 45 oed, sy'n iach, heb fod yn y naw prif grŵp blaenoriaeth. Mae'r un sy'n mynd i lanhau neu i ddysgu neu i gynorthwyo mewn dosbarthiadau mewn ysgol sy'n llawn disgyblion a staff eraill yn wynebu mwy o risg o ddod i gysylltiad â'r feirws na'r unigolyn 45 oed sy'n gweithio, dywedwch, mewn swydd weinyddol ac o gartref. Yn fy marn i, mae'n gwneud synnwyr pur y dylid blaenoriaethu rhywfaint ar y cyntaf dros yr olaf.
Yn ogystal â hynny, a gaf i bwyso unwaith eto am newid yn fuan iawn yn y rheolau ynglŷn â brechu pobl ag anableddau dysgu? Rydym yn clywed sibrydion cadarnhaol. Rydym yn sôn am bobl a allai fod yn agored i niwed nid yn unig yn gorfforol ond yn agored i niwed o ran y gallu i ymdopi â dioddef COVID; mynnwch eu bod nhw'n cael mynd drwy'r system frechu, os gwelwch chi fod yn dda.
Ac o ran gofalwyr di-dâl hefyd, fe geir dryswch o hyd ynglŷn â hyn. Ydym, rydym ni'n gwybod bod gofalwyr di-dâl yng ngrŵp 6 ar y cyfan erbyn hyn, ond rydym yn awyddus iawn i gael y canllawiau cenedlaethol clir hynny fel bod pobl yn gwybod ble maen nhw'n sefyll.
Ac yn olaf, rwyf wedi bod mewn cysylltiad â pherchennog cartref gofal heddiw. Roedd yntau'n disgrifio twll yn y mur sy'n diogelu cartrefi gofal, gyda 6,000 o weithwyr gofal heb eu brechu, ac mae hynny'n destun gofid yn sicr. Ond y pwynt yr oedd ef yn awyddus i'w wneud gyda mi oedd bod tri o'i staff ef wedi cael gwybod na allan nhw gael eu brechu am nifer o wythnosau—mae hynny'n rhywbeth y byddaf i'n ei godi gyda'r bwrdd iechyd—ond mae e'n pryderu am nifer o'r staff nad ydyn nhw'n dymuno cael eu brechu oherwydd eu bod nhw wedi credu rhai o'r chwedlau gwrth-frechlyn sy'n frith mewn rhannau o'r cyfryngau cymdeithasol. Fe wn i eich bod chi'n pryderu am hyn hefyd. Fe ofynnais ichi'r wythnos diwethaf yn ystod sesiwn friffio pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyfathrebu gwybodaeth i danseilio'r chwedlau hynny, felly tybed a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith sy'n cael ei wneud yn y maes hwnnw. Diolch.
Fe wnaf i ymdrin â'r pwynt olaf yn gyntaf, oherwydd mae yna bryder gwirioneddol ynghylch y lefel o wybodaeth gyfeiliornus a'r anonestrwydd wrth geisio perswadio pobl i beidio â chael y brechlyn ac mae yna gasgliad o straeon arswyd sy'n cael eu hyrwyddo. Ac fe ddylwn i ddweud fy mod i'n ddiolchgar am y ffordd y mae'r Aelodau o bob lliw gwleidyddol wedi bod yn gyson iawn yn eu hanogaeth i bobl gael y brechlyn. Rydym wedi gweld nid yn unig enwogion yn mynd allan ac yn cymell pobl o grwpiau o darddiad du ac Asiaidd i gael y brechlyn, ond rydym wedi gweld gwleidyddion o bob argyhoeddiad gwleidyddol yn gwneud yr un fath hefyd. Fel arfer, ni fyddai Diane Abbott a James Cleverly yn cymeradwyo'r un genadwri, ond mae hyn wedi digwydd i raddau helaeth iawn.
Mae'r domen o wybodaeth gyfeiliornus sydd ar gael i'r cyhoedd yn bryder gwirioneddol i bob un ohonom ni, ac yn arbennig wrth inni fynd trwy'r grwpiau oedran, mae'r pryderon a fynegwyd yn fygythiad gwirioneddol i bob un ohonom ni. Felly, fe wyddom fod y cyflogwyr ym mhob un o'r meysydd hynny'n ategu'r genadwri honno, ac fe wyddom fod y meddygon teulu ac eraill, yn lleol, yn gwneud hynny, a hyd at y safle brechu mae sgyrsiau felly'n digwydd. Ond mae'n ymwneud mewn gwirionedd â faint o wybodaeth y gallwn ni ei chyfathrebu'n gynharach, mae hynny i ryw raddau oherwydd natur systemig ymlediad y straeon hyn, boed hynny drwy WhatsApp neu Facebook neu lwyfannau eraill yn y cyfryngau cymdeithasol, mae'n golygu gallu gwrthsefyll yr wybodaeth anghywir yn y mannau hynny hefyd. Fe welwch chi faint yr her, nid yn unig yn y Llywodraeth, ynglŷn â phwy sy'n cyfathrebu'r neges, oherwydd er y bydd rhai pobl yn credu'r hyn a ddywedaf pan wyf yn dweud fy mod i wedi siarad â'n prif swyddog meddygol ac mai dyma'r cyngor, ond mae llawer o bobl eraill y mae angen iddyn nhw gael clywed hynny'n uniongyrchol gan rywun arall. Felly, mae'n rhaid wrth lawer o leisiau, yn enwedig i'r bobl hynny sy'n dod o'r cymunedau sy'n peri fwyaf o bryder, a gweithwyr gofal eraill yn siarad am eu profiadau nhw ac yn benodol feddygon annibynnol, yn hytrach nag eraill. Ac fe fyddwch chi'n gweld ein bod ni'n hyrwyddo hynny ar lwyfannau Llywodraeth Cymru a llwyfannau eraill, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn ei chael hi'n ddigon hawdd dod o hyd i ffynonellau o wybodaeth os ydych chi'n clywed pryderon am hyn. Os oes gan Aelodau bryderon ynghylch ble mae'r wybodaeth honno ar gael, cysylltwch â mi ac fe fyddaf yn hapus i sicrhau bod rhywbeth yn cael ei anfon allan at yr Aelodau yn fwy cyffredinol i dynnu sylw pobl at ffynonellau dibynadwy o wybodaeth.
O ran eich pwynt cychwynnol ar eglurder o ran cyfathrebu, mae grwpiau 5 i 9 yn cynnwys pawb dros 50 oed a dyna'r pwynt yr oedd y Prif Weinidog yn ei wneud. Rydym ni'n gweithio drwy'r rhain o ran y blaenoriaethau. Rydym wedi cyrraedd grwpiau 5 a 6 yn barod, ac fe fydd pobl yn cael eu gwahoddiadau ac fe fyddan nhw'n cael mynd drwodd yn eu tro. Rwy'n disgwyl, fel y dywedais i'n gynharach, y byddwn o leiaf yn gallu mynd ar yr un cyflymder â'r cyflwyniad yn Lloegr, sy'n golygu y dylem ni allu gwneud hynny'n gynharach na diwedd mis Ebrill, sy'n newydd da i bawb, ac yna i ddechrau ar weddill y boblogaeth sy'n oedolion.
Ac mae hynny'n fy arwain i, rwy'n credu, at ateb y cwestiwn yn y canol, sy'n ymwneud ag ehangu blaenoriaethau'r brechlyn. Fe wn i eich bod chi'n dweud nad ydych chi'n ceisio dadflaenoriaethu pobl eraill, ond y gwir amdani yw, pe byddech chi'n ehangu'r categorïau ar gyfer brechu, pe byddech chi'n ychwanegu mwy o bobl at y grwpiau sydd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu i'w blaenoriaethu, yna fe fyddwch chi'n amddifadu pobl eraill o'r flaenoriaeth. Ac rwy'n deall eich pwynt chi ynglŷn â gofyn pwy yw'r unigolion hyn. Dewis yw hwn, felly—ac rydym ni wedi gofyn i'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu am gyngor—ynghylch a oes yna alwedigaethau penodol y dylid eu blaenoriaethu uwchlaw grwpiau oedran neu ynghyd â grwpiau oedran eraill. Ac yna efallai y bydd rhai cwestiynau anodd o ran ein gwerthoedd ni, oherwydd mewn gwirionedd, os ydych chi'n gweithio ym maes manwerthu, neu os ydych chi'n gyrru tacsi, neu os ydych chi'n gweithio yn swyddfa'r post, yna mae eich risgiau chi'n wahanol i risgiau pobl eraill, a gwn fod llawer o'r drafodaeth hon yn ymwneud ag athrawon neu'r heddlu, ond a oes yna grwpiau eraill â phroffil galwedigaethol mwy o ran caffael COVID. Felly, fe allem ni fod yn wynebu her—ac mae hyn yn dibynnu ar yr hyn a ddywed y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu—ynghylch a ydym ni'n cynnwys gweithwyr allweddol mewn categori neu weithwyr unigol, ac o fewn hynny, fe hoffwn i gael cyngor ynghylch pa mor benodol y gallai'r cyngor hwnnw fod a pha mor gyflym y gall ein rhaglen gyfan ni symud. Nawr, mae angen imi gael y cyngor hwnnw gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a'i ystyried, ac rwy'n disgwyl na fydd raid imi aros yn hir iawn, felly nid rhywbeth damcaniaethol fydd hyn am lawer mwy o amser. Fe fydd angen imi wneud penderfyniad gwirioneddol a chyn gynted ag y byddaf i wedi gwneud penderfyniad, fe fyddaf yn mynegi hwnnw'n eglur ac yn cyfathrebu hwnnw i'r cyhoedd yn ogystal ag i'r Aelodau, ac wrth gwrs, fe fyddwn yn gweithio ar sail y cyngor a gyhoeddir gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Felly, rwy'n deall y ddadl sydd gan yr Aelod. Ond rhaid dweud, heb eglurder am sut y byddai hynny'n gweithio a sicrhau ein bod yn amddiffyn y bobl sydd yn y perygl mwyaf cyn gynted â phosibl, nid yw'r safbwynt hwnnw'n un a fyddai'n effeithio ar grwpiau 5 i 9, sy'n parhau i symud ymlaen ar beth cyflymder.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Fe hoffwn i, unwaith eto, ddiolch i bawb sydd wedi gwneud y dasg enfawr hon yn bosibl a phawb a fydd yn gwneud y gwaith aruthrol o'n brechu ni i gyd yn ystod y misoedd nesaf. Rwy'n falch o ddweud, ddydd Iau diwethaf, ym Margam, fod 100 y cant wedi cadw eu hapwyntiadau, sy'n ganlyniad rhagorol.
Ymhen ychydig wythnosau, fe fyddwn ni wedi rhoi brechlynnau i bawb yn y grwpiau blaenoriaeth ac fe fyddwn ni'n symud ymlaen at weddill y boblogaeth. Felly, Gweinidog, sut ydych chi am fynd ati gyda'r rhaglen honno? A fydd yna restr blaenoriaeth? A ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i'r rhai sydd mewn mwy o berygl, ond nad ydyn nhw wedi eu cynnwys yn y rhestr gynharach o eiddo'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, fel dioddefwyr asthma ac oedolion ag anableddau dysgu, yn enwedig y rhai sy'n cael cymorth i fyw, yn ogystal â gofalwyr, yr wyf i wedi cael llawer iawn o negeseuon e-bost ganddyn nhw? Gweinidog, rwyf i am eich annog chi hefyd i ystyried blaenoriaethu'r rhai sydd yn y proffesiynau mwy peryglus, fel athrawon, swyddogion yr heddlu, diffoddwyr tân, swyddogion carchardai ac, wrth gwrs, y staff manwerthu sy'n wynebu cwsmeriaid.
Yn olaf, Gweinidog, mae yna rai sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal sy'n gwrthod cael eu brechu, ac mae hynny'n peri pryder. Er bod ganddyn nhw'r hawl i wrthod, ni allwn ganiatáu i'w dewisiadau nhw roi pobl eraill mewn perygl. Felly, a wnewch chi sicrhau bod staff sy'n dewis peidio â chael eu brechu yn cael eu hatal rhag cael cyswllt wyneb yn wyneb â chleifion sy'n agored i niwed hyd nes bydd y rhaglen frechu wedi dod i ben? Diolch yn fawr iawn. Diolch.
O ran y cwestiynau am y cam nesaf ar ôl inni gwblhau grwpiau blaenoriaeth 5 i 9, rwy'n credu fy mod i wedi ymdrin â'r rhain yn drylwyr iawn mewn ymatebion i Angela Burns a Rhun ap Iorwerth, gan gynnwys y pwynt am broffesiynau sydd mewn perygl a phobl ag anableddau dysgu yr wyf i wedi ymrwymo i ymdrin â nhw yn y dyfodol agos iawn. Rwy'n sicr yn gobeithio y byddaf i wedi ymdrin â phobl ag anableddau dysgu a sut i roi'r cyngor hwnnw ar waith cyn ateb cwestiynau yn y Siambr yfory. Fe gaiff yr Aelodau gyfle wedyn i ofyn cwestiynau i mi ynglŷn â dewis a fydd, rwy'n gobeithio, wedi cael ei wneud yn gyhoeddus erbyn hynny.
O ran y rhai sy'n gwrthod brechlynnau, mae hwn yn fater sydd braidd yn fwy dyrys, yn fy marn i. Rwy'n deall y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ynghylch pobl sydd wedi gwrthod brechlyn neu heb gael brechlyn, a gofyn a ddylid eu hatal nhw rhag bod mewn ardaloedd lle maen nhw'n dod wyneb yn wyneb â chleifion. Yma rydym yn mynd yn ôl i'r ddadl ynghylch a yw'r brechlyn, yn ei hanfod, yn rhywbeth a ddylai fod yn orfodol. Fe fyddai hynny, yn ei hanfod, yn gwneud y brechlyn yn orfodol i aelodau rheng flaen y staff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hwn yn fater yr ydym ni'n gweithio drwyddo nid yn unig o ran yr arweinyddiaeth yn yr ardaloedd hynny ond gydag undebau llafur ac eraill ynglŷn â'r hyn sydd ar waith yn foesegol, oherwydd nid oes gofyniad cyfreithiol i bobl gael y brechlyn. Mae angen inni feddwl, felly, am yr hyn y mae hynny'n ei olygu ac nid pwynt syml mohono.
Mae hwn yn gwestiwn ehangach hefyd, nid yn unig ar gyfer iechyd a gofal, ond ar gyfer ystod o broffesiynau eraill. Os yw pobl yn mynd yn ôl i'w gwaith ac nad oes modd cadw pellter cymdeithasol yno, beth mae hynny'n ei olygu? I roi enghraifft ichi, un o'r grwpiau galwedigaethol sydd wedi gweld cyfraddau marwolaeth sylweddol oherwydd COVID yw cogyddion a gweithwyr cegin. Os ydych chi'n cofio'r cyfnod pan oeddem ni'n gallu bwyta allan, roeddech chi'n gweld pobl mewn cegin yn aml ac nid oedd cadw pellter cymdeithasol yn bosibl bob amser iddyn nhw. Ac eto, mewn gwirionedd, os byddwn yn mynd yn ôl i allu ailagor y rhan honno o letygarwch, fe fydd rhai cyflogwyr yn meddwl am beth i'w wneud pe na fyddai pobl yn barod i gael y brechlyn.
Mae hwn yn gwestiwn anodd, ac fe fydd pobl yn mynegi rhyw gymaint o ddyhead neu amharodrwydd i weithio gyda phobl eraill. Nid yw hyn yn fater syml o ran gwneud i bobl ddatgelu pa driniaethau a gawsant neu beidio, ac mae'r brechiad yn rhan hanfodol o hyn. Felly, rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud. Ond nid wyf yn credu bod hynny mor syml â dweud, 'Ni chewch ymgymryd â dyletswyddau oni bai eich bod yn gallu profi eich bod wedi cael y brechlyn.' Rydym ymhell o ddatrys y ddadl hon, yn fy marn i.
Gweinidog, mae'r broses o gyflwyno'r brechlyn yn mynd rhagddi'n effeithiol ac yn effeithlon iawn, ac rydym ni i gyd yn ddiolchgar iawn am hynny ond, yn amlwg, mae angen i gymaint â phosibl fanteisio ar y brechlyn os ydym ni am ddiogelu Cymru fel y byddem ni'n dymuno ei wneud. Mae pethau'n mynd yn dda, yn gyffredinol, ond mae yna rai bylchau, ac rydych chi wedi cyfeirio eisoes at leiafrifoedd du ac ethnig, er enghraifft. Fe wn i fod gwybodaeth wedi dod i'r amlwg, o ran rhai o'n cymunedau mwy difreintiedig ni, nad ydyn nhw'n manteisio ar y cyfleoedd i frechu yn y niferoedd yr hoffem eu gweld. Rydych wedi sôn yn barod am batrymau ymddygiad, Gweinidog, a chyfathrebu a chenadwri. Wrth i'r wybodaeth hon ddod i'r amlwg, o ran y bylchau yn y niferoedd sy'n manteisio ar y brechlyn, sut wnewch chi fonitro ac ymateb i hynny, o ran addasu'r genadwri a'r cyfathrebu, a gweithio gyda'r rhai sy'n mynd â'r newydd allan i'r cymunedau hyn ac sy'n gallu helpu i wella'r sefyllfa wrth inni fwrw ymlaen â'r rhaglen hon?
Diolch am y cwestiwn. O ran y nifer sy'n manteisio ar y brechlyn, rydym ni eisoes yn gweld tystiolaeth o wahaniaeth yn y niferoedd sy'n manteisio ar y cyfle, yn ein cymunedau mwyaf breintiedig a lleiaf breintiedig fel ei gilydd. Felly, mae gan yr 20 y cant sydd dlotaf yn ariannol yn y boblogaeth niferoedd rhwng 5 y cant i 6 y cant yn llai na'r niferoedd sy'n manteisio ar y brechlyn yn grŵp poblogaeth mwyaf cefnog, ac rydym wedi gweld hynny yn grwpiau 1 i 4. Er hynny, rydym ni'n gweld gwahaniaeth hefyd sy'n fwy ymysg rhai grwpiau amrywiol. Mae gan bobl o dras Affro-Caribïaidd du a rhai grwpiau o dras Asiaidd niferoedd sy'n llawer llai. Nid yw'r data hynny'n gyflawn, ond fe wyddom fod yna wahaniaeth sylweddol. Felly, fe gafodd gwaith ei wneud eisoes, nid yn unig wrth y bwrdd crwn yr wyf i wedi ymuno ag ef, ond fe geir ystod eang o waith sy'n cael ei wneud mewn dull cadarnhaol a rhagweithiol.
Rydych wedi gweld meddygon Mwslimaidd yn ymgymryd ag ystod o waith ac wedi gweld arweiniad gan wahanol grwpiau ffydd hefyd. Ac rwy'n credu bod gan bob un ohonom ni ran yn y gwaith hefyd o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud, ac rwy'n edrych ymlaen at ymuno â chi a Jayne Bryant ar gyfer digwyddiad yr wythnos hon i drafod y brechlynnau yng Nghasnewydd. Rydym yn gweithio'n fwriadol gydag amrywiaeth o bobl yn y gymuned ffydd yn ogystal ag amrywiaeth o grwpiau gwirfoddol i gynyddu'r niferoedd sy'n manteisio ar y brechlynnau, oherwydd dyma'r peth gorau y gall pobl ei wneud er eu lles nhw eu hunain, eu teuluoedd, a'u cymunedau, sef cael triniaeth ddiogel ac effeithiol, ac un sydd wedi mynd drwy asesiad trwyadl. Felly, po fwyaf y gwnawn ni i hyrwyddo hynny, gorau i gyd, yn fy marn i. Wrth gwrs, mae gan y byrddau iechyd eu hunain weithwyr allgymorth hefyd. Mae gan bob bwrdd iechyd weithwyr allgymorth i weithio gyda gwahanol gymunedau yn ardal eu bwrdd iechyd nhw. Felly, yr allgymorth pwrpasol a chadarnhaol hwnnw, ynghyd â dulliau pobl eraill, a'n gallu ninnau hefyd i graffu ar y data i weld lle y gall bwlch fodoli o hyd ac ystyried yr hyn y gellid bod angen inni ei wneud. Felly, mae'n ddigon posibl y byddwch chi'n gweld cenadwri fwy uniongyrchol nid yn unig gan arweinwyr ffydd, ond y posibilrwydd o ddefnyddio rhai o'r lleoliadau hyn fel canolfannau brechu er mwyn annog mwy o bobl i ddod am eu brechiad.
Rwy'n llongyfarch pawb sydd wedi bod â rhan nid yn unig yng nghau'r bwlch a oedd ar y dechrau rhwng Cymru â Lloegr a'r Alban o ran gweinyddu'r dos cyntaf, ond wrth gau'r bwlch o ran yr ail ddos nawr hefyd. Felly, mae'n rhaid canmol hynny. Fe wn imi godi hynny gyda chi o'r blaen ac roeddech chi'n dweud y byddai newyddion da i ddod ac roeddech chi'n iawn. Felly, da iawn wir.
Ond pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i'r etholwraig y mae ei merch hi'n bencampwraig y byd Paralympaidd F20 am daflu maen, sy'n gobeithio mynd i Tokyo i'r gemau Paralympaidd yn yr haf eleni, y gallai fod angen iddi fynd i'r gemau Ewropeaidd yng Ngwlad Pwyl ar ddiwedd mis Mai i fod yn gymwys ar gyfer Tokyo, ond sydd yng ngrŵp 6 o'r blaenoriaethau brechu, a heb gael ei brechiad eto. Mae ei mam yn dweud calon y gwir y byddai'n drueni mawr pe bai'n colli'r cyfle i fynd i Wlad Pwyl ac felly'n peryglu ei chyfle i ennill medal aur yn Tokyo am nad yw wedi ei brechu mewn digon o amser?
Ac yn ail ac yn olaf, sut ydych chi am ymateb i glaf o'r Waun a gysylltodd â mi ddoe, gan ddweud, yn groes i'r datganiad a wnaeth Llywodraeth Cymru bod pawb dros 70 oed wedi eu brechu ddiwrnod o flaen Lloegr, mai heddiw'n unig—hynny yw ddoe y gorffennodd meddygfa'r Waun roi'r dosau olaf o'r brechlyn cyntaf i bobl yn y categori hwn; ac mae pobl mewn grwpiau oedran iau a fyddai eisoes wedi eu brechu pe bydden nhw'n byw yn Swydd Amwythig, rhyw 100 llath i lawr y ffordd, yn wynebu aros am bythefnos i dair wythnos? Mae gwasanaeth brechu'r Waun yn rhagorol bob amser o ran brechlynnau ffliw, felly mae'n amlwg nad arnyn nhw y mae'r bai. Yn aml, nid yw'r ffiniau gwleidyddol yn yr ardal hon yn cyfateb i ffiniau eraill, fel y ffiniau rhwng practisau meddygon teulu, ac yn yr achos penodol hwn, y broblem yw'r cyflenwad o frechlynnau i feddygfa'r Waun, sydd yng Nghymru ac yn rhan o system GIG Cymru. Diolch.
Diolch. O ran eich pwynt cyntaf, fel y gwyddoch chi, roedd y cyfnod yn ystod yr wythnosau cyntaf, pan oedd y rhaglen i weinyddu brechlynnau yng Nghymru yn cael ei beirniadu, yn gyfnod pan oeddem ni'n adeiladu ein seilwaith ni, ac rwy'n credu i hynny gael ei gyfiawnhau. Fe wnaethom drefnu ffordd o gyflawni a oedd y golygu y gallem symud ar gyflymder gwirioneddol mewn modd cynaliadwy. Felly, dyna pam rydym ni'n parhau i fod ar y blaen yn y DU ar hyn o bryd o ran cyfran y boblogaeth sydd wedi cael y dosau cyntaf—mae mwy na thraean o'r boblogaeth oedolion wedi cael eu dos cyntaf nhw eisoes. Ac rydym ni yn yr ail safle ymysg gwledydd y DU, ychydig y tu ôl i Ogledd Iwerddon, o ran canran yr ail ddosau yr ydym ni wedi eu gweinyddu. A dyna'r cynnydd gwirioneddol a wnaed dros yr wythnos neu'r pythefnos diwethaf o ran gweinyddu mwy a mwy o ail ddosau.
O ran eich etholwraig chi a'i phryder bod ei merch yng ngrŵp 6 ac nad yw wedi cael ei brechlyn eto, rwy'n disgwyl y byddwn ni, fel y dywedais i, yn mynd ar yr un cyflymder â Lloegr lle maen nhw'n credu y gallan nhw gwblhau pob grŵp hyd at grŵp blaenoriaeth 9 erbyn canol mis Ebrill. Felly, nid wyf yn credu y bydd yn rhaid i'ch etholwraig aros llawer mwy eto. Fe fydd y cyflenwad ychwanegol y dywedwyd wrthym ei fod ar y ffordd yn ein galluogi ni i gyflawni'n gynt o lawer, oherwydd mae pob rhan o'n system ni wedi dweud, gyda mwy o sicrwydd ynghylch cyflenwad ac eglurder cyflenwad cynnar, y gallwn ni fynd yn gyflymach eto hyd yn oed. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny o gysur i'ch etholwraig chi a llawer un arall yn yr wythnosau i ddod. Ac o ran grwpiau 1 i 4, fe wnaethom ni addo y byddai pawb yng ngrwpiau 1 i 4 yn cael cynnig y brechlyn, ac felly yr oedd hi ym mhob gwlad arall yn y DU. Fe fydd yna rywfaint o ddal i fyny wedi bod o ran y ddarpariaeth wirioneddol.
O ran y cyflenwad o frechlynnau, wrth gwrs, mae hyn yn dibynnu ar y cyflenwadau yr ydym yn eu cael drwy gaffael yn y DU. Fe ddylwn i ddweud mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw caffael y brechlyn ar gyfer y DU gyfan, ond fe lwyddwyd yn dda iawn ar y cyfan o ran y cyfrifoldeb hwn. Rydym wedi cael llawer iawn o frechlynnau i'n helpu ni i fwrw ymlaen â'n gwaith ni o weinyddu'r brechlyn hwn. Rydym wedi gweld y cyflenwad o'r brechlyn yn gwastatáu ac yn gostwng ychydig yn ystod y pythefnos diwethaf. Cafodd hynny ei ragweld ac roedd hynny i'w ddisgwyl. Dyna pam rydym ni wedi gweld gostyngiad bach yn hynny o beth. Rwy'n credu y gallech chi, yng Nghymru, yn Lloegr, ym mhob gwlad, fod â chanolfannau gweinyddu brechlynnau sy'n cael cyflenwad ychydig yn wahanol o'u cymharu â'i gilydd, ond ar y cyfan, rydym ni'n mynd yn gyflym iawn. Nid wyf yn credu mai ystyried Cymru yn gyfrifol, rywsut, am y broblem gyda'r cyflenwad o frechlynnau yw'r ffordd gywir o fynd ati i ddisgrifio'r heriau sydd gennym, a beth bynnag, rwy'n credu bod cyflymder y cyflwyniad yng Nghymru, ac ym mhob gwlad arall yn y DU, yn rhywbeth y gallem ni i gyd ymfalchïo'n fawr ynddo.
Gweinidog, fe wnaethoch chi, mae'n debyg, fwynhau, fel y gwnes innau, wylio fideo Syr Gareth Edwards y diwrnod o'r blaen o'i ymweliad ef â'r ganolfan frechu ym Mhen-y-bont ar Ogwr y tu cefn i'r clwb rygbi yno. Fe ddywedodd ef yn y fideo nad oedd bob amser wedi mwynhau pob ymweliad â Maes y Bragdy ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mewn gwirionedd. Ond roedd honno'n neges ardderchog i'm hetholwyr i am y fantais fawr o gael gwahoddiad am frechiad ac ymateb i hynny a mynd i'w gael. Rwy'n edrych ymlaen hefyd, Gweinidog, at agor canolfan frechu gymunedol Maesteg yn y ganolfan hamdden ar 1 Mawrth. Mae hynny i'w groesawu'n fawr.
Gweinidog, a gaf i ofyn i chi—? Fe wyliais i gynhadledd Prif Weinidog y DU i'r wasg neithiwr, a oedd yn canmol, fel y gwna pawb ohonom ni, y cyflymder anhygoel wrth gyflwyno'r brechiadau ledled y DU gyfan, gan gynnwys yma yng Nghymru. Ond, weithiau, mae ganddo duedd i edrych ychydig yn rhy bell i'r dyfodol ac addo gormod a methu â chyrraedd y nod. Fe glywsom ni neithiwr y gallem ni, o ddiwedd mis Mai, fod yn edrych ar deithiau awyr rhyngwladol ar gyfer twristiaeth a gwyliau, ac y byddai clybiau nos yn agor ar 21 Mehefin ar ôl cynnal profion torfol ar bobl yn y ciwiau cyn iddyn nhw gael mynediad.
A wnewch chi, Gweinidog, roi eich sylwadau chi ar y cyhoeddiadau hynny, sydd wedi cynyddu disgwyliadau yn sylweddol oherwydd darllediad y BBC ledled y DU, y bydd y clybiau nos yn agor, y bydd teithiau awyr yn hedfan o ddiwedd mis Mai ac yn y blaen? Pa mor hyderus y gallwn ni fod, Gweinidog, mor gynnar â hyn, nad oes yna berygl inni ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol o fynd yn rhy gyflym o lawer unwaith eto, yn enwedig gan Lywodraeth y DU, a chyflwyno mathau newydd o'r feirws o bob cwr o'r byd, a'n bod ni'n osgoi gweld y feirws dinistriol hwn yn ailgodi a mathau newydd yn ymledu drwy gydol y gaeaf nesaf? Gadewch inni fod yn ofalus, gam wrth gam, ac mewn rhai ffyrdd, beidio ag addo gormod ond gwneud yn well na'r disgwyl.
Diolch am y cwestiwn. Do, fe welais i'r clip o Syr Gareth Edwards, un o fawrion y genedl, yn siarad â'r Prif Weinidog. Rwy'n credu bod hynny'n beth cadarnhaol iawn o ran ei brofiad ef ei hun a'r hyn yr oedd hynny'n ei olygu i bobl Cymru. Rwy'n gobeithio bod pobl eraill wedi cael cyfle i wylio'r clip hwnnw, ac y bydd hynny'n eu hannog nhw i wneud yn siŵr eu bod yn mynd i gael y brechlyn hefyd ac yn cael croeso cynnes ym Maes y Bragdy.
O ran cynhadledd Prif Weinidog y DU ddoe, rwy'n credu mai'r pwynt cyntaf i'w wneud yw ei bod yn well o lawer cael sgwrs am yr hyn y byddwn ni'n gallu ei wneud yn y dyfodol, yn hytrach na siarad am y pethau na allwn ni eu gwneud nhw heddiw. Fe ddylem ni i gyd gael teimlad o obaith ynglŷn â'r dyfodol, ond nid yw'r dyfodol yn sicr. Rydym wedi gwneud dewis bwriadol i lynu'n dynn wrth y dystiolaeth wyddonol a'r cyngor iechyd cyhoeddus a gawn ni, a dyna pam mae gennym ni ddull gwahanol o agor ysgolion yng Nghymru. Mae hynny'n cyd-fynd yn uniongyrchol â'r dystiolaeth a'r cyngor a gawsom ni. Maen nhw wedi gwneud dewis polisi gwahanol yn Lloegr, ac mae'r hawl ganddyn nhw i wneud hynny. Felly, maen nhw'n dal yn ôl nes cael 'clec fawr' ar 8 Mawrth, os hoffech chi. Nid oedd y cyngor a gawsom ni yn dweud y dylem wneud hynny. Dewis Gweinidogion Lloegr yw gwneud hynny, ac mae ganddyn nhw'r hawl i wneud hynny, ond mae ein harchwaeth ni am risg yn un gwahanol, a dyna pam rydym ni'n dilyn y cyngor.
Pan fyddaf yn meddwl am deithio rhyngwladol, dyma un o'r pethau sy'n fy ngofidio i'n fawr ynglŷn â'r dyfodol ac ailgyflwyniad posibl, oherwydd erbyn mis Mai, ni fyddwn wedi cwblhau rhoi'r dos cyntaf i'r boblogaeth gyfan o oedolion, heb sôn am ail ddos. Rwy'n cofio profiad haf y llynedd yn dda iawn, pan newidiais i'r rheolau ynglŷn â'r cwarantîn a'r hyn y gallai pobl ddisgwyl ei wneud pan oedd awyren o Zante yn yr awyr. Fe wnaethom hynny oherwydd bod y dystiolaeth yn cynyddu bryd hynny o ran ailgyflwyno'r coronafeirws, pan oedd gennym ni lefelau isel iawn o'r coronafeirws. Fe gofiwch mai lefelau o ddau hyd dri ym mhob 100,000 oedd gennym ni ar un amser yn ystod yr haf, ac rydym ni'n sôn erbyn hyn fod y lefelau'n is o lawer pan fyddwn ni wedi cyrraedd 80 ym mhob 100,000. Felly, fe fydd yn rhaid bod yn ofalus iawn i'r dyfodol.
Efallai eich bod wedi clywed y dirprwy brif swyddog meddygol ar Radio Wales fore heddiw yn egluro'r pwynt yn dda iawn na allwn ragweld misoedd lawer i'r dyfodol beth fydd y sefyllfa o ran ymlediad y coronafeirws gydag amrywiad llawer mwy ffyrnig, yn yr ystyr o'i allu i drosglwyddo rhwng pobl, fel y gallai fod yn llawer mwy tebygol o ymledu. Nid wyf i o'r farn, rywsut, fod gosod cynllun cadarn, gyda dyddiadau ac nid data, sy'n ymestyn hyd yr haf, yn ddull addas o gyflawni hyn. Rwy'n credu bod angen inni reoli disgwyliadau pobl, a deall bod y rhan fwyaf o bobl yn ofalus, ac yn dymuno cael sicrwydd nad ydym ni, wrth ddod allan o hyn, yn troedio'n simsan i'r dyfodol ac yna'n gorfod troedio yn ôl i lawr yn simsan i gyfyngiadau symud, os oes modd o gwbl osgoi hynny.
Nid wyf i'n credu ei bod yn realistig agor y clybiau nos ym mis Mehefin yn y ffordd a gaiff ei disgrifio. Fe fyddwn i'n falch o fod yn anghywir, ond mae gennyf i lawer mwy o ddiddordeb mewn diogelwch Cymru, a chadw pobl yn fyw ac yn iach, na gorfod cyflwyno mesurau llawer mwy cyfyngol i gyfyngu ar fywyd cenedlaethol, gyda'r holl niwed i iechyd y cyhoedd y byddai'n rhaid i chi ei osgoi wrth wneud hynny, ond hefyd y niwed economaidd y byddech chi'n ei achosi o ran ailgychwyn sectorau o'r economi yr ydym ni'n gobeithio eu hagor mewn modd cynaliadwy. Felly, fe fyddwn ni'n dal ati i ymdrin â'r ffordd yr ydym ni am gadw Cymru'n ddiogel mewn ffordd ofalus sy'n cael ei harwain gan dystiolaeth.
Diolch i'r Gweinidog.