– Senedd Cymru am 12:45 pm ar 24 Chwefror 2021.
Felly, heddiw mae'n bleser gen i alw'r Senedd ar y cyd i drefn, a hynny am yr eildro yn ein hanes ni—y ddwy sefydliad yn cwrdd gyda'n gilydd. Dwi eisiau estyn croeso arbennig i'r Aelodau o'r Senedd Ieuenctid sydd yn ymuno â ni heddiw ar gyfer y sesiwn arbennig yma sy'n nodi diwedd tymor cyntaf ein Senedd Ieuenctid ni. Mae'r tymor cyntaf yma o ddwy flynedd wedi bod yn arloesol wrth i chi fynd ati i drafod a deall y materion sy'n agos at galonnau pobl ifanc ein gwlad. Rŷch chi wedi cynrychioli llais eich cyfoedion yn angerddol, yn effeithiol ac yn aeddfed, ac yn enwedig yn ystod y pandemig sy'n dal i effeithio ar ein bywydau ni oll.
Ar ddiwedd eich tymor, rydych wedi cwblhau tri adroddiad a llu o argymhellion, ac wedi'u trafod a'u cyflwyno i Gadeiryddion ein pwyllgorau ni yn y Senedd a hefyd i Weinidogion y Llywodraeth. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr heddiw i glywed mwy am hyn ac am eich profiadau fel unigolion, fel Aelodau Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru. Felly, heb oedi mwy brynhawn yma, dwi'n galw ar y cyfrannydd cyntaf, Sandy Ibrahim, Aelod etholedig partner dros EYST Cymru, i ddechrau'r sesiwn. Sandy Ibrahim.
Os cawn aros am feicroffon Sandy Ibrahim. Ie, dyna chi—mae popeth yn barod ar eich cyfer, Sandy.
Mae rhai adegau mewn bywyd yn emosiynol iawn a phan mae’n anodd disgrifio teimladau mewn ychydig eiriau. Ar ôl dwy flynedd o weithio gyda Senedd Ieuenctid Cymru, mae’n bryd ffarwelio. Cefais i a phob un o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru y fraint o weithio gyda phob unigolyn ifanc ac oedolyn rydym wedi cyfarfod â hwy ar y siwrnai fythgofiadwy hon, a diolch yn fawr iawn am hynny. Yn bersonol, cefais y fraint o gael fy nghyflwyno gennych i’r wlad hon o Gyprus, sef fy mamwlad, i Gymru. Cefais amser hyfryd i weithio, ac roedd yn bleser datblygu fy Saesneg, fy sgiliau ac yn bwysicaf oll, fi fy hun fel unigolyn, gyda phob un ohonoch wrth fy ochr.
Pan gefais wybod am Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru fy ymateb cyntaf oedd, ‘Nid oes gobaith gennyf o fod yn rhan ohoni', gan fy mod yn dal yn newydd i'r wlad hon, nid oeddwn yn gyfarwydd iawn â’r iaith, ac nid oeddwn yn adnabod llawer o bobl. Felly, roeddwn yn meddwl na fyddai hyn yn digwydd. Ond gyda chefnogaeth fy mam a chefnogaeth ac anogaeth Jenny, maent wedi fy nghefnogi i newid fy meddwl yn llwyr, i gredu ynof fy hun, ac yn olaf, i gyflwyno fy enw ar gyfer etholiad. Bryd hynny, roedd hwn yn gam mor fawr i mi, ond diolch byth, fe lwyddais.
Drwy gydol y cyfnod a gawsom i ddechrau dod o hyd i bobl ifanc i bleidleisio drosom fel y gallem gael ein dewis, bûm dan gryn dipyn o straen gan nad oedd gennyf syniad sut i ddod o hyd i’r pleidleisiau hyn. Ond diolch byth, unwaith eto, roedd gennyf lawer o bobl wrth fy ochr—sef Jenny, Carol, Anna, Shahab ac un o fy athrawon arbennig iawn, Miss Bamsey. Fe wnaethant eu gorau glas i fy nghynorthwyo i gymryd y cam hwn yn llwyddiannus. Rwy'n diolch yn arbennig iawn i bob un ohonynt, oherwydd pe na baent wedi bod wrth fy ochr, ni fyddwn wedi bod yma heddiw.
Mae pob un o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn teimlo’n falch iawn ein bod yn rhan o rywbeth gwych a wnaeth sicrhau bod lleisiau pobl ifanc ledled Cymru wedi cael eu clywed ar y lefel uchaf. Mae pob un ohonom wedi cyfarfod â phobl anhygoel ac wedi gwneud ffrindiau am oes. Ac ni ddylem anghofio staff Senedd Ieuenctid Cymru, sef y rheswm pam y cafodd pob un ohonom brofiad anhygoel—diolch am bob munud y buoch yn ymwneud â ni. Rwy'n dymuno'r gorau i chi ar gyfer y dyfodol a phob hwyl gydag uchelgeisiau a breuddwydion pob un ohonoch. Gobeithio y daw dydd y gallwn i gyd gyfarfod eto. Diolch.
Diolch yn fawr, Sandy. Y siaradwr nesaf fydd Jonathon Dawes, Dyffryn Clwyd.
Diolch, Lywydd, a diolch am y cyfle anhygoel hwn i siarad yn y ddadl heddiw. Nawr, heddiw, wrth baratoi ar gyfer yr araith hon, siaradais â llawer o fy nghyd-Aelodau sydd, wrth gwrs, yn eistedd yma heddiw, ond hefyd â phobl ifanc o bob rhan o Gymru sydd wedi dilyn fy ngwaith yn agos dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac roedd y neges yn glir: mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi ailfywiogi ymgysylltiad pobl ifanc â gwleidyddiaeth ledled Cymru ac wedi sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed ar y lefel uchaf yn y Senedd, gyda chymaint o’r Aelodau yn eistedd yma heddiw. Mae Senedd Ieuenctid Cymru hefyd wedi dangos y pŵer sydd gan bobl ifanc i lywio’r agenda bolisi yng Nghymru—ar y Gymraeg, iechyd meddwl, newid hinsawdd, y bleidlais i bobl 16 oed, ac wrth gwrs, sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, rydym wedi gallu cael effaith.
Ond o'r holl sgyrsiau a gefais, roedd un yn sefyll allan i mi, ac roedd y sgwrs honno gyda rhywun a oedd yn yr ysgol gyda mi, y gallaf ei chofio’n dweud wrthyf dro ar ôl tro ei bod yn casáu gwleidyddiaeth. A dywedodd wrthyf, Lywydd, ‘Jonathon, mae dy angerdd di ac ymroddiad Senedd Ieuenctid Cymru yn ei chyfanrwydd wedi dangos y dylanwad y gall pobl ifanc ei gael yn eu cymuned, ac mae wedi fy ysbrydoli i wneud gwahaniaeth’. Ond nawr, yn fwy nag erioed, credaf fod y dyfyniad hwnnw’n dangos nid yn unig fod ein gwaith wedi ailfywiogi gwleidyddiaeth Cymru o ran ymgysylltiad pobl ifanc, ond ei fod wedi cysylltu’r rheini a arferai deimlo eu bod wedi’u difreinio â’r dadleuon hanfodol hyn sydd, yn y pen draw, yn mynd i effeithio ar eu dyfodol.
Nawr, er fy mod mor falch o'r holl waith rydym wedi'i wneud, yn enwedig fy ngwaith yn cynrychioli Dyffryn Clwyd, ac wrth gwrs, lleisiau'r bobl ifanc mewn addysg drwy fy ngwaith yn hyrwyddo sgiliau achub bywyd, ac wrth gwrs, sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, maes lle credaf fel grŵp ein bod wedi dangos cryfder ac undod yw yn ystod y pandemig COVID-19. O ddosbarthu parseli bwyd i sefydlu un o fy hoff bodlediadau, Young, Female & Opinionated—gwn fod y sylfaenydd ar yr alwad hon ac y bydd yn siarad yn nes ymlaen—drwy gydol y pandemig, mae Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru wedi dod ynghyd i wasanaethu eu cymuned. Rydym hefyd wedi cael cyfle drwy gydol y pandemig i godi materion sydd o bwys i bobl ifanc, yn enwedig mewn perthynas ag addysg, iechyd meddwl a'r adferiad gwyrdd i greu swyddi’r dyfodol, gyda llawer o'r Gweinidogion yma heddiw, gan roi llais i bobl ifanc, a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog a Gweinidogion eraill sydd wedi rhoi amser inni godi'r materion hyn.
Nawr, Lywydd, mae wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint anhygoel i mi fel unigolyn wasanaethu Dyffryn Clwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a hoffwn ddiolch o galon a thalu teyrnged i bawb sydd wedi cefnogi fy ngwaith dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac yn arbennig i chi, arwyr di-glod anhygoel tîm Senedd Ieuenctid Cymru, y bobl ifanc yma heddiw, a llawer o'r Aelodau yn y Siambr wrth gwrs. O drefnu sesiynau casglu sbwriel lleol i fod yn brif siaradwr yn nigwyddiad Cymru'n Cofio ochr yn ochr â chi, Lywydd, mae wedi bod yn bleser. Ond wrth gwrs, mae’n rhaid imi roi sylw arbennig i'r panel pleidleisio yn 16 y bu'r ddau ohonom yn eistedd arno ym mis Mehefin a fu, mae'n rhaid imi ddweud, yn brofiad ardderchog o'r dechrau i'r diwedd.
Nawr, dyma'r geiriau yr hoffwn gloi gyda hwy. Credaf ei bod yn deg dweud, fel grŵp o unigolion, fod gan bob un ohonom ein gwahaniaethau gwleidyddol, rhai yn fwy nag eraill, ond yn y pen draw, nid wyf erioed wedi cyfarfod â grŵp mwy ymroddedig, angerddol a phositif o unigolion na fy nghyd-Aelodau sy’n eistedd wrth fy ymyl heddiw. Mae eu hymrwymiad nid yn unig i gynrychioli pobl ifanc Cymru, ond i gynrychioli eu hetholaeth, yn rhagorol, a chredaf fod hynny’n sicr yn gosod cynsail i Seneddau Ieuenctid Cymru am flynyddoedd i ddod.
Nawr, drwy gydol y ddwy flynedd, rydym wedi rhoi ein gwahaniaethau gwleidyddol o’r neilltu ac wedi canolbwyntio ar y materion sy'n ein huno yn hytrach na'n rhannu, gan roi buddiannau pobl ifanc yn gyntaf bob amser, a dyna'r gwaddol rydym yn ei adael—undod yn hytrach nag ymraniad, a'r llall, sef pan fydd pobl ifanc wir yn defnyddio eu lleisiau ac yn sôn am y materion sy'n bwysig iddynt, gallant ysbrydoli newid gwirioneddol yng ngwleidyddiaeth Cymru. Diolch.
Diolch, Jonathon. Sophie Billinghurst sydd nesaf, a hi yw Aelod partner y Senedd Ieuenctid ar gyfer Talking Hands. Sophie Billinghurst.
Prynhawn da. Fy enw i yw Sophie Billinghurst a fi yw’r Aelod partner etholedig sy’n cynrychioli Talking Hands, sef yr elusen sy'n cefnogi pobl ifanc trwm eu clyw a'u teuluoedd yn Abertawe. Mae bod yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru wedi bod yn brofiad anhygoel. Mae wedi cael effaith fawr ar fy nealltwriaeth o wleidyddiaeth; cyn dod yn Aelod, prin oedd gennyf unrhyw ddealltwriaeth o wleidyddiaeth, ond bellach mae gennyf fwy o lawer. Roedd cael Aelodau o wahanol gefndiroedd a chanddynt safbwyntiau gwahanol yn golygu bod amrywiaeth ehangach o bobl yn gallu dweud eu dweud. Gweithiodd hyn yn dda, gan ei fod wedi caniatáu i gymunedau gael eu clywed pan nad oeddent yn cael eu clywed o'r blaen o bosibl, oherwydd pethau fel rhwystrau cyfathrebu yn y gymuned fyddar, ond roedd cael Aelodau etholedig fel fi yn golygu y gallem leisio eu barn.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi clywed llawer o areithiau pwerus a chymaint o straeon pwerus gan Aelodau eraill anhygoel. Mae pob un ohonom wedi gweithio gyda'n gilydd nid yn unig i gynrychioli gwahanol rannau o Gymru, ond i gynrychioli'r gwahanol sefydliadau yng Nghymru, i wneud gwahaniaeth mewn tri phwyllgor. Gobeithiaf y bydd gweld y gwaith rydym wedi'i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn grymuso pobl iau i ddal ati ac i wneud gwahaniaeth i'r genhedlaeth iau yng Nghymru. Diolch am wrando.
Diolch, Sophie. Angel Ezeadum yw'r siaradwr nesaf. Angel yw'r Aelod dros sefydliad partner Race Council Cymru. Angel Ezeadum.
Diolch, Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn fynegi fy niolch personol i’r Senedd Ieuenctid am fod mor gynhwysol drwy gydol ein tymor. Fel lleiafrif ethnig, mae'r gynrychiolaeth sydd gennym yn isel, ac o'r ychydig gynrychiolaeth a gawn, rydym yn aml yn cael ein portreadu mewn modd negyddol yn y cyfryngau a'r gymdeithas. Fodd bynnag, o'r llu o gyfleoedd a roddwyd i mi ac i Aelodau eraill a etholwyd o sefydliadau partner i gynrychioli ein grwpiau ar y cyrion, rydym wedi gallu gwneud cynnydd a sicrhau bod lleisiau lleiafrifoedd yn dal i gael eu clywed a'u gwerthfawrogi i’r un graddau â'r mwyafrif.
Ystyriwch y pandemig—roedd pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn sgil y feirws, felly roedd yn hynod bwysig dod o hyd i atebion ac i weithio ar y cyd ag aelodau o'r gymuned i fynd i'r afael â'r broblem. Cefais gyfle i dderbyn cwestiynau gan fy sefydliad partner, Race Council Cymru, ac yn benodol y fforwm ieuenctid BAME cenedlaethol, ynglŷn â phryderon pobl ifanc a lleiafrifoedd ethnig ynghylch COVID-19 i’w gofyn i'r Prif Weinidog. Roedd gallu cael trafodaeth bersonol â ffigwr mor bwysig yn wirioneddol wych, a phwysleisiodd bwysigrwydd a'r angen i sicrhau bod pob math o bobl, ni waeth beth fo'u hil, crefydd, rhywedd, oedran ac ati, yn rhan o drafodaethau dylanwadol sy'n effeithio ar eu bywydau.
Gan fy mod wedi sôn yn flaenorol am bwysigrwydd cynrychiolaeth gadarnhaol, rwy'n dyheu, un diwrnod, am weld Senedd Cymru fwy amrywiol. Mae cymaint o bobl yn penderfynu rhoi’r gorau iddi cyn cychwyn, gan nad oes ganddynt unrhyw hunan-gred am nad ydynt yn gallu dychmygu eu hunain mewn rôl wleidyddol, yn anghredadwy, a dyna pam fod menter y sefydliad partner mor bwysig. Yn union fel rydym ni fel Aelodau yn amrywiol, felly hefyd y mae’r pynciau rydym wedi'u trafod. Rwyf wedi bod yn falch o wneud areithiau angerddol a rhoi sylw i ddarnau ar bynciau fel Mae Bywydau Du o Bwys a Mis Hanes Pobl Dduon, yr amgylchedd a throseddau cyllyll, ond ni fyddwn wedi gallu cyflawni dim o’r hyn rwyf wedi’i gyflawni heb waith cynnal llwyddiannus y staff.
Roedd gennyf ddau brif nod pan wneuthum ymgeisio i fod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru: darparu ar gyfer pawb a rhoi llais i’r rheini sydd heb lais, ac rwy'n gobeithio'n fawr fy mod wedi cyflawni hynny dros fy nhymor ac y gellir parhau â’r gwaith rydym wedi’i wneud yn y blynyddoedd i ddod er mwyn paratoi'r ffordd ar gyfer Cymru fwy cynhwysol ac amrywiol. Diolch.
Diolch, Angel. Ffion Griffith yw'r siaradwr nesaf—Ffion Griffith o Islwyn.
Diolch, Lywydd. O ddechrau ein hamser fel Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru, rydym wedi gweld pwysigrwydd ac arwyddocâd iechyd meddwl ym mywydau pobl ifanc ledled Cymru, gyda 36 y cant o'r bobl ifanc a ymatebodd i'n harolwg cyntaf un yn nodi cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl fel un o'u prif flaenoriaethau. Gyda chefnogaeth dros ddwy ran o dair o Senedd Ieuenctid Cymru, gwnaethom ffurfio ein pwyllgor cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl ar ôl ein cyfarfod preswyl cyntaf, ac mae'n cynnwys 26 o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru o bob rhan o Gymru. Ers sefydlu'r pwyllgor, rydym ni fel Aelodau wedi ymgysylltu â phobl ifanc, elusennau iechyd meddwl, arbenigwyr a gwleidyddion, gyda'r nod o bwysleisio'r angen am well cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl i bobl ifanc yng Nghymru.
Mae ein cyfarfodydd preswyl wedi rhoi cyfleoedd inni gael trafodaethau gyda rhai o'r bobl fwyaf dylanwadol ym maes iechyd meddwl yng Nghymru, ac maent hefyd wedi caniatáu inni glywed am y gwaith pwysig a wneir gan y Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc. Yn ogystal, rhoddodd y cyfarfodydd hyn le inni gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda phobl ifanc i dynnu sylw at yr angen am sgyrsiau ynghylch iechyd meddwl. Yna, bu modd inni barhau â'r drafodaeth hon wrth inni gynnal ein digwyddiad Gadewch i ni Siarad am Iechyd Meddwl yn ystod Wythnos Senedd Ieuenctid Cymru, gan roi cyfle i bobl ifanc rannu eu barn ar y ddarpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru. Bu’r wybodaeth hon, ynghyd â chanlyniadau ein harolygon cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, a gwblhawyd gan dros 1,400 o bobl ifanc ledled Cymru, o gymorth i lywio ein cyfarfodydd rhanbarthol a’n pwyllgorau. Ar draws pob un o'r pedwar rhanbarth, amlygwyd themâu allweddol stigma, hyfforddiant, gofal ataliol a chyfathrebu, gan ddangos yr angen am ddatblygiad a thwf o ran iechyd meddwl yng Nghymru. Yn y pen draw, ffurfiodd y themâu hyn sylfaen i’n hadroddiad a'n hargymhellion, a gyhoeddwyd ar 9 Hydref 2020.
Wedi'i rannu'n ddau gategori, un yn ymwneud â gwybodaeth ac ymwybyddiaeth a'r llall yn ymwneud â rhwystrau i gymorth, mae adroddiad ein pwyllgor, ‘Gadewch i ni Siarad am Iechyd Meddwl’, yn adleisio barn a phryderon pobl ifanc ledled Cymru. O wella ansawdd gwybodaeth i gynnig mwy o wasanaethau cymorth anhysbys a gwasanaethau gwell, mae ein hargymhellion yn cydnabod bod gan bob unigolyn ifanc iechyd meddwl. Er ein bod yn credu bod pob un o'n hargymhellion yr un mor bwysig o ran gwella iechyd meddwl ac iechyd emosiynol yng Nghymru i bobl ifanc, mae rhai argymhellion allweddol yr hoffem dynnu sylw atynt fel pwyllgor.
Mae ein pedwerydd argymhelliad yn crynhoi'r angen am siop un stop o wybodaeth, adnoddau a chymorth ynghylch iechyd meddwl. Rydym ni fel pwyllgor yn falch iawn o glywed am ymdrech Llywodraeth Cymru i ddatblygu hyn dros blatfform Hwb, gan ein bod yn credu bod hynny’n dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd iechyd meddwl pobl ifanc, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn. Serch hynny, hoffem bwysleisio ymhellach yr angen i hyrwyddo'r adnodd hwn yn well, gan sicrhau bod pob plentyn ledled Cymru nid yn unig yn ymwybodol o'i fodolaeth, ond yn teimlo'n gyfforddus i ddod o hyd i'r wybodaeth.
Hoffem dynnu sylw hefyd at ein chweched argymhelliad: yr angen i addysgu iechyd meddwl yn gyson ledled Cymru a gwneud hynny'n fwy mynych. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r cyfle i addysg iechyd meddwl ddod law yn llaw â datblygiad y cwricwlwm newydd, ond rydym yn pryderu ynghylch pa mor gyson y bydd y ddarpariaeth honno. Mae'n hanfodol fod gan bobl ifanc ledled Cymru fynediad at addysg iechyd meddwl o’r un ansawdd, ni waeth beth yw eu lleoliad neu eu cefndir, ac mae’n rhaid inni gwestiynu, felly, sut y gellir sicrhau bod hyn yn digwydd o fewn y cwricwlwm newydd. Mae’n rhaid i gysondeb fod wrth wraidd addysg iechyd meddwl ledled Cymru.
Yr argymhelliad olaf yr hoffem dynnu sylw ato yw'r angen am adolygiad brys o wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed a gwasanaethau cymorth iechyd meddwl eraill. Unwaith eto, mae'n wych clywed bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi bod yn gweithio ar y mater hwn, gan roi £8 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn i wella gwasanaethau CAMHS. Fodd bynnag, rydym ni fel pwyllgor yn galw am adolygiadau a diweddariadau cyson mewn perthynas â’n gwasanaethau iechyd meddwl yma yng Nghymru. Mae'n hanfodol nad ydym yn llaesu dwylo. Ni cheir un ateb syml i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, ac felly, mae dadansoddi ac adolygu cyson yn wirioneddol hanfodol i helpu i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc ledled Cymru.
Mae gan bob unigolyn ifanc iechyd meddwl, ac mae'n hanfodol fod polisïau ein Llywodraeth a'n Senedd yn y dyfodol yn adlewyrchu hyn. Mae'n rhaid inni barhau i baratoi'r ffordd ar gyfer gwell cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl i bobl ifanc ledled Cymru, ac fel pwyllgor, gobeithiwn y bydd gwaith Senedd Ieuenctid nesaf Cymru, Aelodau'r chweched Senedd a Llywodraeth newydd Cymru yn blaenoriaethu’r mater hwn. Diolch.
Diolch, Ffion. Ffion-Hâf Davies sydd nesaf. Ffion-Hâf Davies, Aelod Gŵyr.
Diolch, Llywydd. Ym mis Chwefror 2019, gwnaethon ni fel Senedd Ieuenctid ddewis sbwriel a gwastraff plastig fel un o'n prif faterion. Rydym ni fel Aelodau wedi bod yn siarad o fewn ein hetholaethau gyda sefydliadau partner, mewn eisteddfodau ac o fewn y cyfarfodydd preswyl a rhanbarthol i geisio deall barn pobl ifanc am y broblem. Yn anffodus, gwthiodd COVID bopeth ar-lein ac felly fe gasglom ni'n holl ddata yn ogystal â chreu'r adroddiad yn ystod y pandemig. Er gwaethaf hyn, fe wnaethom ddyfalbarhau yn rhithiol gyda digwyddiadau megis Wythnos y Senedd Ieuenctid, a bu'r Eisteddfod Genedlaethol yn ein helpu i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed.
Ym mis Tachwedd 2020, fe gyhoeddom ein hadroddiad fel pwyllgor a oedd yn cynnwys 10 argymhelliad. Galwom am fwy o bwyslais ar addysgu pobl ifanc ar draws Cymru am effeithiau negyddol sbwriel a gwastraff plastig, a sut gallai pobl ifanc helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn. Credwn y dylai awdurdodau lleol adolygu eu prosesau caffael er mwyn sicrhau bod y meini prawf sydd ar waith i ddewis cyflenwyr yn adlewyrchu amcanion amgylcheddol a llesiant. Mae hyn yn cynnwys ysgolion, er mwyn sicrhau y gall sefydliadau addysg gefnogi’r gwaith o gyflawni targedau cynaliadwyedd. Y nod yn y pen draw fydd i leihau cymaint o wastraff plastig untro â phosib. Galwn hefyd ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau sylweddol ar frys i roi diwedd ar gynhyrchu plastigau untro, gyda rhai eithriadau hanfodol, ac ystyried dulliau gweithredu fel gwahardd cynhyrchu plastigau untro megis cynllun dychwelyd ernes.
Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog dros yr amgylchedd am ei hymateb i’n hargymhellion. Dengys hyn i bobl ifanc ar draws Cymru bod ein lleisiau wir yn cael eu cymryd o ddifri. Er hyn, mae’r broblem blastig yn amlwg ddim drosodd, felly mae angen symud ymlaen efo'r agenda a sicrhau ei fod yn fater o bwys i'r Senedd nesaf. Mi fyddai hefyd yn wych i weld Senedd ddi-blastig—rhywbeth a fyddai eto'n pwysleisio pwysigrwydd ein gwaith ac a fyddai'n gosod esiampl i sefydliadau eraill ein dilyn. Galwn am weithredu pendant ac ar frys, o fewn y chwe mis i'r flwyddyn nesaf.
Yn olaf, hoffem hefyd alw ar y Senedd Ieuenctid nesaf i barhau i alw am newidiadau yn ôl ein hargymhellion ni. Rydym ond wedi cael tymor o ddwy flynedd, ond, yn yr amser hwn, rydym wedi sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed a bod y broblem blastig yn cael ei chymryd o ddifri. Ein hunig obaith nawr yw eich bod chi i gyd yn parhau i wella’r broblem a chadw ein gwaith yn fyw. Diolch.
Diolch, Ffion-Hâf. Harrison Gardner yw'r siaradwr nesaf—Harrison Gardner o Orllewin Clwyd.
Diolch yn fawr, Lywydd. Fel Aelod o bwyllgor sgiliau bywyd yn y cwricwlwm Senedd Ieuenctid Cymru, yn ffodus, bu modd inni gwblhau'r rhan fwyaf o'n gwaith cyn i'r pandemig daro. Gwnaethom ymgynghori â dros 2,500 o bobl ifanc, rhieni ac addysgwyr mewn sioeau haf a digwyddiadau pwyllgor Senedd Ieuenctid Cymru ledled Cymru, gan gyhoeddi ein canfyddiadau a’n hargymhellion yn ein hadroddiad, ‘Sgiliau Bywyd, Sgiliau Byw’. Gyda'r Cwricwlwm newydd i Gymru ar y ffordd, cynigiodd ein hymgynghoriad gipolwg ar y ffordd y mae sgiliau bywyd ac addysg bersonol a chymdeithasol yn cael eu haddysgu mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru.
Tynnodd ein hymgynghoriad sylw at sawl anghysondeb ym mhrofiadau pobl ifanc o ddysgu am bynciau pwysig, megis addysg wleidyddol, addysg rhyw, addysg ariannol a chymorth cyntaf, i enwi ond ychydig. Wrth i Lywodraeth Cymru barhau i fireinio'r cwricwlwm newydd, roedd ein hargymhellion yn nodi y dylent ddarparu rhestr gynhwysfawr i addysgwyr yng Nghymru o'r sgiliau bywyd y mae'n rhaid eu dysgu o fewn y chwe maes dysgu a phrofiad; sicrhau bod gan ysgolion ym mhob rhan o Gymru adnoddau i weithredu'r cwricwlwm newydd i'w lawn botensial; a sicrhau bod athrawon yn cael yr hyfforddiant cywir i allu addysgu nifer o bynciau newydd a fydd yn newydd iddynt fel rhan o'r cwricwlwm newydd.
Ers cyflwyno ein hargymhellion i’r Gweinidog Addysg yn y Siambr ym mis Hydref 2019, rydym wedi gallu parhau â’n gwaith craffu mewn cyfarfodydd gyda swyddogion y Llywodraeth, addysgwyr sy’n datblygu’r meysydd dysgu a phrofiad, a swyddogion yn Cymwysterau Cymru sy’n diwygio’r strwythur asesu yng Nghymru. Rydym hefyd wedi helpu i ddatblygu’r adnoddau addysgol ar gyfer pleidleisio yn 16 oed cyn etholiad y Senedd eleni.
Er ein bod ni, fel pwyllgor, yn gwerthfawrogi ymateb Llywodraeth Cymru i'n hargymhellion a'r rhesymau a roddwyd dros beidio â derbyn rhai ohonynt, hoffem achub ar y cyfle hwn i bwysleisio’r pryderon eraill sydd gennym. Rydym yn derbyn dadl Llywodraeth Cymru ei bod yn mynd yn groes i ysbryd y cwricwlwm newydd i gyhoeddi rhestr orfodol o bynciau i athrawon eu haddysgu, ac rydym yn cydnabod pryder Llywodraeth Cymru y byddai hyn yn gam yn ôl i'r hen gwricwlwm ‘ticio blychau’ y mae’r cwricwlwm newydd yn ceisio ymbellhau oddi wrtho.
Fodd bynnag, rydym yn dal i bryderu fel pwyllgor y gallai diffyg arweiniad clir arwain at fwy o anghysondebau, a bod llwyddiant y meysydd dysgu a phrofiad fel y maent ar hyn o bryd yn rhy ddibynnol ar sut y mae ysgolion unigol yn eu dehongli. Yn ychwanegol at hynny, mae tlodi digidol yng Nghymru wedi dod yn fater amlwg oherwydd y pandemig—mater a fydd ond yn gwaethygu ac yn lleihau effaith y cwricwlwm newydd heb ymyriadau priodol. Felly, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried y mater hwn ymhellach wrth iddi gwblhau gwaith terfynol ar y cwricwlwm newydd.
Rydym hefyd yn eu hannog i ymrwymo cyllid i sicrhau bod disgyblion ym mhob rhan o Gymru yn cael cyfle i brofi pob elfen o'r cwricwlwm, ac i fuddsoddi mewn hyfforddiant ac adnoddau canolog i athrawon. Credwn yn gryf y byddai hyn yn arwain at brofiad dysgu ystyrlon i bob disgybl. Diolch.
Diolch, Harrison. Y siaradwr nesaf yw Gwion Rhisiart—Gwion Rhisiart o Ganol Caerdydd.
Diolch, Llywydd. Mae’n fraint gallu cynrychioli pobl ifanc Canol Caerdydd unwaith eto, ac mae’n eithaf anodd credu bod dwy flynedd wedi mynd heibio ers ein cyfarfod cyntaf cenedlaethol, lle dewison ni ein tair blaenoriaeth. Ers hynny, rydyn ni wedi codi nifer o faterion sydd o bwys i bobl ifanc er mwyn gallu gwneud Cymru yn lle gwell i dyfu lan fel person ifanc.
Fodd bynnag, ni fyddem ni wedi gallu gwneud hyn yn y pandemig heb help Aelodau’r Senedd a Gweinidogion Llywodraeth Cymru. Dros y misoedd diwethaf, mae’r Prif Weinidog, y Gweinidog Addysg, y Gweinidog iechyd a’r Cwnsler Cyffredinol i gyd wedi rhoi amser i gwrdd â ni yn rhithiol nifer o weithiau. Mae’r gallu i gwrdd â Gweinidogion a Chadeiryddion pwyllgorau, ynghyd â’r comisiynydd plant a chomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, wedi bod yn werthfawr iawn.
Mae’r gallu i ni fel Aelodau gwestiynu’r rhai sy’n ein cynrychioli am arholiadau, am gefnogaeth iechyd meddwl ac am gyfleoedd swyddi yn y pandemig yn meddwl ein bod ni'n gallu rhoi atebion i bobl ifanc sy’n bryderus am y dyfodol. Mae’r Gweinidog Addysg hefyd wedi rhoi cymaint o’i hamser er mwyn trafod goblygiadau gohirio arholiadau, ynghyd â chasglu ein barn ar ddysgu ar-lein. Eto, mae gallu lleisio barn pobl ifanc i Aelodau’r Senedd ac i Weinidogion yn galluogi eu barn i gael ei hystyried pan fod dewisiadau'n cael eu cymryd. Ar ran holl Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru, diolch o galon am eich amser.
Rydyn ni, fel Aelodau, hefyd wedi bod yn ffodus iawn i ymddangos ar gyfryngau amrywiol Cymru. Drwy gydol ein hoes fel Aelodau, fe wnes i a fy nghyd-Aelodau ymddangos ar Radio Cymru er mwyn trafod ein gwaith, o’n hargymhellion ar gyfer y cwricwlwm newydd i gefnogaeth iechyd meddwl i bobl ifanc. Mae hyn wedi bod yn allweddol wrth godi ymwybyddiaeth pobl ifanc o'n gwaith, ac er mwyn trafod materion gyda disgyblion, athrawon a rhieni o bob cwr o Gymru. Yn ogystal â hyn, mi roeddwn i'n hynod o lwcus i gael ymddangos ar Wales Live gyda Hannah Blythyn ac Andrew R.T. Davies er mwyn trafod pleidleisio yn 16 a chynrychiolaeth pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth. Yn olaf, mi wnes i a Betsan Angell fynd ar Heno pan wnaethon ni rhyddhau ein hadroddiad sgiliau bywyd yn y cwricwlwm. Roedd yn fraint gallu trafod ein hargymhellion a'n gobeithion ar gyfer y cwricwlwm newydd.
Felly, i gloi, hoffwn i ddiolch i'r holl newyddiadurwyr ac Aelodau'r Senedd sydd wedi helpu codi ymwybyddiaeth o'n gwaith. Rydym ni wir yn ei werthfawrogi. Gyda'n gilydd, rydym wedi llwyddo gweithredu er mwyn gwella bywydau pobl ifanc yng Nghymru wrth i ni adfer o'r cyfnod cythryblus yma. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Gwion. A'r siaradwr olaf o'r Senedd Ieuenctid fydd Maisy Evans o Dorfaen.
Mae pobl yn aml yn gofyn i mi a fyddwn yn newid unrhyw beth pe bawn yn gallu mynd yn ôl mewn amser. Ac yn syml, na fyddwn. Ddim o gwbl. Byddwn yn sefyll etholiad, a byddwn yn bachu ar bob cyfle dro ar ôl tro. Rwyf wir yn ei olygu pan ddywedaf mai'r ddwy flynedd ddiwethaf yn fy mywyd fu'r rhai gorau eto. Drwy gyfnodau da a rhai cyfnodau gwael, rwyf wedi cyfarfod â phobl anhygoel, wedi datblygu cyfeillgarwch y byddaf yn ei thrysori am byth gyda gwahanol bobl ac wedi cael profiadau bythgofiadwy.
Mae eleni wedi bod yn her fawr i bob un ohonom, yn bersonol ac yn broffesiynol. Mae COVID-19 wedi effeithio ar ein bywydau i raddau mwy nag y gallai unrhyw un fod wedi'i ddychmygu. A heb os, mae wedi bod yn anodd. Ond serch hynny, mae ein Senedd Ieuenctid Cymru—y gyntaf o'i bath—wedi dangos bod pobl ifanc yn rym er daioni yn ein gwlad ni a thu hwnt.
Hoffwn ddefnyddio’r foment hon i ddiolch i bob un ohonoch, fy nghyd-Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru, y staff y tu ôl i'n gwaith, y staff y tu ôl i'r dechnoleg hyd yn oed—ac yn enwedig heddiw—ac yn bwysicaf oll, pob un ohonoch chi, Aelodau ein Senedd.
Ar 26 Mehefin 2019, cynhaliwyd ein sesiwn gyntaf ar y cyd yn y Siambr, ac yn y sesiwn honno, cefais y fraint o roi’r sylwadau agoriadol, a darllenais ddatganiad i chi a fyddai’n siapio, ac sydd wedi siapio, ein perthynas. Rwy'n sicr y byddaf yn cofio’r diwrnod hwnnw am byth, ac mae'n foment rwy’n ymfalchïo'n fawr ynddi, a gwn y byddaf yn parhau i wneud hynny.
Unwaith eto, hoffwn dynnu eich sylw at rai o'r pwyntiau a amlinellir yn y datganiad hwnnw. Mae'n nodi y bydd Senedd Cymru a Senedd Ieuenctid Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod ein gwaith yn rhan annatod o’r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru, ac y bydd Senedd Cymru yn ymrwymo i hawliau pobl ifanc ac yn gweithredu ar egwyddorion didwylledd a thryloywder.
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r Aelodau o'r Senedd sydd wedi ymrwymo i ymgysylltu â ni, ac nid yn unig i glywed ein lleisiau, ond i wrando arnom. Yn ystod ein tymor, rydym wedi darparu llawer o argymhellion realistig i chi ar sicrhau bod pobl ifanc wedi'u paratoi ar gyfer eu bywydau, ar gymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, ac ar ddiogelu ein hunig blaned.
Mae'n hanfodol eich bod chi, fel Senedd Cymru, yn parhau i weithio gyda phobl ifanc o bob cwr o'r wlad. Gyda Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wedi'i ymgorffori yng nghyfraith Cymru, mae'n ddyletswydd arnoch i wrando ar ein barn. Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn dystiolaeth o'ch ymrwymiad i erthygl 12, sy'n nodi bod gan bobl ifanc hawl i fynegi eu barn yn rhydd, ac i'w barn gael ei hystyried o ddifrif.
Rwy'n ddiolchgar am gael y platfform i rannu fy marn, a hyd yn oed yn fwy diolchgar am y cyfle i ddylanwadu ar newid go iawn ar y lefelau uchaf posibl. Gyda'r oedran pleidleisio wedi cael ei ostwng i 16, gall pobl ifanc yng Nghymru wneud yn union hynny—dylanwadu ar newid go iawn. Mae'n gyffrous, bobl. Rwy'n annog pob person ifanc 14 oed ac yn hŷn i fynd ar-lein a chofrestru i bleidleisio, mewn munudau yn unig, achos, o'r diwedd, mae gennych chi'r cyfle i ddefnyddio'ch llais.
Wrth i Senedd Ieuenctid cyntaf Cymru ddod i ben, gobeithio eich bod chi i gyd yn barod i gwrdd â'r garfan nesaf o arweinwyr ifanc. A pheidiwch ag erioed anghofio ein bod ni, fel pobl ifanc, nid yn unig yn arweinwyr y dyfodol, ond yn arweinwyr heddiw. Diolch yn fawr iawn i bob un ohonoch chi, mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd pob tro. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Maisy, a diolch i bob un ohonoch chi sydd wedi siarad eisoes, ac sydd wedi cyfrannu mor enfawr yn ystod cyfnod y Senedd Ieuenctid.
Dwi'n galw nawr ar y Prif Weinidog i gyfrannu at y drafodaeth yma. Prif Weinidog.
Wel, Llywydd, diolch i holl Aelodau'r Senedd Ieuenctid am eich cyfraniadau y prynhawn yma, ond hefyd, fel dywedodd y Llywydd, am y cyfan yr ydych wedi ei wneud i sefydlu'r Senedd mewn ffordd mor llwyddiannus. Rydw i wedi elwa o gwrdd â nifer ohonoch yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn eithriadol hon. Mae clywed penllanw eich gwaith y prynhawn yma wedi bod yn bleser ac yn gyfle i ni i gyd i ddysgu. Mae eich cyfnod yn y swydd bellach yn dod i ben, fel y mae cyfnod y Senedd ei hun. Rwy'n siŵr bod pob Aelod o'r Llywodraeth yn dymuno'n dda i chi yn yr hyn sy'n dod nesaf yn eich bywydau, ac y bydd y camau nesaf hynny yn fwy llwyddiannus byth oherwydd y profiad unigryw yr ydych wedi ei gael fel sylfaenwyr y Senedd Ieuenctid.
Lywydd, nid wyf yn mynd i geisio ymateb i'r holl wahanol siaradwyr a glywsom, ond roedd Sandy yn llygad ei lle yn y cyfraniad cyntaf un, fod unrhyw ddiwedd yn adeg emosiynol yn ei hanfod, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n wir am yr holl Aelodau o’r Senedd Ieuenctid. Rhannodd Sandy ei stori gyda ni, a chredaf fod pob un ohonom yn falch o'i chlywed. Mae Cymru yn ffodus o'ch cael yma, yn union fel rydym wedi bod yn ffodus gyda'r holl bobl ifanc sydd wedi chwarae eu rhan yn y Senedd gyntaf un hon.
A gaf fi ganolbwyntio'n fyr ar dri pheth i mi eu nodi o'r holl gyfraniadau a glywsom? Yn gyntaf, y graddau y mae’r agendâu wedi gorgyffwrdd o ran y pethau rydych wedi bod yn sôn amdanynt yn y Senedd Ieuenctid a'r pethau rydym yn sôn amdanynt bob wythnos ar lawr y Senedd ei hun: iechyd meddwl, newid hinsawdd, addysg, y cwricwlwm newydd, sut y byddwn yn creu dyfodol sy'n well i bob un ohonom. Yn ail, pwysigrwydd plwraliaeth ac amrywiaeth: y ffordd y mae clywed gwahanol brofiadau a gwahanol leisiau yn newid natur y sgwrs, yn ei chyfoethogi, wrth gwrs, ond hefyd yn golygu ein bod yn gweld pethau mewn ffyrdd newydd a gwahanol. Roeddwn yn meddwl bod hynny'n amlwg iawn mewn cyfres o gyfraniadau. Ac yn olaf, yn y gwaith rydych yn ei wneud a'r gwaith rydym ni’n ei wneud, nid yw'r gwaith byth yn dod i ben. Nid ydym byth yn cyrraedd diwedd y dydd a gallu tynnu llinell o dan yr hyn rydym wedi bod yn ei drafod a meddwl, 'Wel, dyna hynny wedi’i wneud.' Mae'r gwaith bob amser yn parhau, mae heriau i’w cael bob amser nad ydym wedi meddwl amdanynt, mae cyfleoedd newydd bob amser i hyrwyddo achosion sy'n bwysig i ni fel unigolion ac fel cenedl. Ac wrth glywed am waith y pwyllgorau, rwy'n falch iawn fod cymaint o'r hyn rydych wedi'i gynnig wedi'i dderbyn gan y Llywodraeth, ac nid wyf yn synnu clywed bod pethau eraill y byddech yn awyddus i barhau i’w hyrwyddo, i ddadlau drostynt, a cheisio sicrhau newidiadau pellach yn y dyfodol.
So, diolch yn fawr unwaith eto i bob un ohonoch chi am bopeth rydych chi wedi'i wneud ac am y cyfle unwaith eto i gwrdd ac i glywed oddi wrthych chi i gyd y prynhawn yma.
Diolch. Ar ran y Ceidwadwyr, Laura Jones.
Diolch, Lywydd. Mae'n fraint dweud ychydig eiriau ar ran yr wrthblaid swyddogol, grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, yn dilyn cyfraniadau mor huawdl a meddylgar gan bob un o'n Haelodau etholedig o’r Senedd Ieuenctid.
Rwy'n teimlo cysylltiad cryf ag Aelodau ein Senedd Ieuenctid, gan mai fi oedd seneddwr ieuengaf y DU pan gefais fy ethol i'r Senedd, Cynulliad Cymru ar y pryd, yn ôl yn 2003 a minnau’n 24 oed. I mi, sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru yw cyflawniad mwyaf amlwg y tymor seneddol hwn a bydd yn sefyll allan fel un o lwyddiannau mawr Cymru ers 1999.
Yn ystod yr ychydig dros ddwy flynedd ddiwethaf, mae Aelodau’r Senedd Ieuenctid wedi gwneud cyfraniad rhagorol i fywyd cyhoeddus yng Nghymru, ond yn fwy gweladwy na hynny, maent wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar ddeddfu yn y Senedd hon. Pan fuom yn trafod y Cwricwlwm newydd i Gymru yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y cyfraniadau mwyaf pwerus oedd y rhai gan bobl ifanc eu hunain, gennych chi, gan rai fel Jonathon, y gallaf ei weld ar fy sgrin yn awr. Mae eich gwaith craffu a'ch ymgyrchu ar rôl sgiliau bywyd yn y cwricwlwm wedi bod yn arbennig o symbylol, ac mae fy ngrŵp yn cytuno'n llwyr y dylid cynnwys sgiliau allweddol, fel cymorth cyntaf ac iaith arwyddion Prydain, yn y cwricwlwm.
Ar fater gwastraff plastig, fel yr amlinellwyd gan Ffion-Hâf, rydych wedi siarad dros gynifer o bobl ifanc sy'n galw am newid, ac wedi cynnig awgrymiadau rhagorol. Cawsom ein cymell gan ofid ynghylch yr hyn y mae bodau dynol yn ei wneud yn raddol i'r blaned hon. A ddoe ddiwethaf, dywedodd Syr David Attenborough ein bod eisoes yn rhy hwyr mewn rhai ffyrdd i atal rhai o effeithiau mwyaf newid hinsawdd, felly mae gwir angen inni weithredu nawr, ac rydych wedi gwneud hynny'n gwbl glir.
Fel yr amlinellwyd gan Ffion, rydych wedi gwneud ymyriadau ystyrlon ac wedi codi cwestiynau pwysig ar fater iechyd meddwl pobl ifanc hefyd, rhywbeth sydd wedi bod yn fater tabŵ ers gormod lawer o amser. Mae hwn yn destun cryn bryder i bob un ohonom nawr, fel y gwelwch o'n cyfraniadau yn y Senedd ar draws y pleidiau, wrth inni boeni am yr effaith y mae cyfyngiadau symud hirfaith, cau ysgolion a’r anallu i gymdeithasu â ffrindiau yn ei chael ar bobl ifanc.
Drwy gydol y pandemig hwn, mae plant a phobl ifanc wedi aberthu cymaint, yn bennaf er mwyn cadw pobl hŷn a phobl fwy agored i niwed yn ddiogel. Yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, wrth inni gefnu ar y pandemig hwn, mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i ad-dalu'r ddyled honno a gwneud mwy o lawer i gefnogi pobl ifanc a diwallu eu hanghenion yn well. Mae gennym ni fel Aelodau o’r Senedd gyfrifoldeb i weithredu ar y materion sydd o bwys i chi, ein cenhedlaeth ieuengaf.
I gloi, Lywydd, hoffwn ddymuno'n dda i 60 Aelod Senedd Ieuenctid Cymru ym mha gyfeiriad bynnag y mae eu gyrfaoedd yn y dyfodol yn mynd â hwy, a diolch o galon iddynt am bopeth y maent wedi'i wneud. Maent yn gynrychiolwyr rhagorol i’w cenhedlaeth. Dylai pob un ohonoch fod mor falch o'ch cyflawniadau mewn cwta ddwy flynedd. Mae pob un ohonom fel Aelodau o’r Senedd o bob plaid yn falch o bob un ohonoch. Mae'n amlwg fod gennych oll ddyfodol disglair o'ch blaenau, ac rydych i gyd wedi rhoi gobaith i ni, ac edrychwn ymlaen at gyfraniadau Seneddau Ieuenctid yn y dyfodol. Diolch.
Arweinydd Plaid Cymru nesaf—Adam Price.
'Llais democrataidd i bobl ifanc Cymru ar lefel genedlaethol ac yn eu grymuso i greu newid.'
Dyna sut roeddech chi, Llywydd, wedi disgrifio'r weledigaeth ar gyfer y Senedd Ieuenctid wrth ei lansio. A heb os, mae'r Senedd Ieuenctid wedi llwyddo i ymgyraedd â'r nod hwnnw a llawer mwy, a dwi'n falch iawn o gael cynnig cefnogaeth fy mhlaid i'r gwaith sydd wedi'i gyflawni hyd yma, a rhoi fy nghefnogaeth lwyr i'r Senedd Ieuenctid flodeuo ymhellach yn ystod oes y Senedd nesaf.
Wrth edrych ymlaen at y Senedd nesaf, wynebu'r dyfodol fyddwn ni. Ac mae'r ddadl heddiw ar sail y pynciau buoch chi'n rhoi sylw iddyn nhw yn ein gwahodd i edrych tua'r dyfodol tu hwnt i COVID, ac yn hoelio sylw ar heriau mawr ein gwlad a'n byd ac argyfyngau niferus ein hoes: yr argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth, fel dŷn ni wedi clywed; gweddnewid y system addysg er mwyn sicrhau trawsnewidiad cymdeithas a gwireddu potensial pawb sydd yn aelod ohoni; a newid agweddau tuag at a chryfhau darpariaeth iechyd meddwl. Ar sail eich llwyddiant chi fel pobl ifanc dros y blynyddoedd diwethaf, dwi'n ffyddiog y byddwn ni gyd yn llwyddo i adeiladu Cymru well. Eich pwysau chi fel pobl ifanc sydd wedi gwneud y gwahaniaeth i sicrhau bydd llesiant meddyliol wedi'i wreiddio fel mater o gyfraith gwlad ym mhob agwedd o'r cwricwlwm newydd.
Mae pobl ifanc wedi arwain newid ar draws y byd, ac yng ngwleidyddiaeth Cymru hefyd dros y blynyddoedd diwethaf—yr argyfwng hinsawdd a'r streiciau hinsawdd yn enghraifft o hyn, a'r sawl protest a gorymdaith a welon ni ar draws Cymru, gan gynnwys un wnaeth orffen ar risiau adeilad y Senedd ei hun. Mae newid yn bosib os mynnwn newid: dyna neges obeithiol greiddiol democratiaeth, a phobl ifanc, yn aml iawn, sydd yn arwain y newid hwnnw. Fe ddangosoch chi hynny unwaith eto ym mis Awst y llynedd, gan orfodi'r Llywodraeth i gydnabod yr amgylchiadau digynsail o ran effaith COVID ar eich addysg. Ac ar annibyniaeth, sef y newid mwyaf radical un, pobl ifanc Cymru sydd eto yn arwain y gad. Dwi yn mawr obeithio y bydd nifer ohonoch ryw ddydd yn cynrychioli'ch cenhedlaeth unwaith eto yn Senedd annibynnol y dyfodol—eich dyfodol chi fydd hi. Ac ar sail yr ysbryd o undod a chreadigaeth a phositifiaeth yr ydych chi wedi dangos, mae yna le i bob un ohonom ni gredu y bydd y dyfodol hynny yn un disglair iawn i ni gyd.
Mae'n wirioneddol ysbrydoledig gallu croesawu cynrychiolwyr y Senedd Ieuenctid i’r Cyfarfod Llawn hwn. Rwy'n siŵr y bydd rhai ohonoch yn dyheu am ddod yn wleidyddion y dyfodol. Felly, efallai y gallaf gynnig ychydig eiriau o rybudd os gwnewch hynny. Yn gyntaf, pa ymdrechion bynnag y byddwch yn rhan ohonynt, ceisiwch gadw meddwl agored bob amser. Ni waeth pa athroniaeth wleidyddol rydych yn ei mabwysiadu, byddwch yn barod bob amser i archwilio safbwyntiau a syniadau gwleidyddol eraill. Yn anad dim, rwy’n eich annog i wneud eich ymchwil. Peidiwch â bodloni ar dderbyn datganiadau’r prif gyfryngau neu hyd yn oed y cyfryngau cymdeithasol—ymchwiliwch yn ddyfnach a cheisiwch ymdrin â phob syniad a chynnig mor effeithiol â phosibl.
Mae'n rhaid imi longyfarch pob un ohonoch ar y gwaith rydych wedi'i wneud. Rydych wedi gwneud gwahaniaeth mawr iawn i'r ffordd y mae'r Senedd wedi gweithredu yn ystod dwy flynedd eich bodolaeth, ac rydych wedi gwneud yn gwbl sicr na fyddwn byth yn gallu anwybyddu llais pobl ifanc Cymru eto. Drwy greu'r sefydliad hwn, credaf fod Senedd Cymru wedi agor cyfle i bobl ifanc y wlad hon gymryd rhan ystyrlon mewn materion sy'n effeithio arnoch, ond peidiwch â chael eich siomi os caiff rhai o'ch awgrymiadau a'ch syniadau eu gwrthod neu os na chânt eu rhoi ar waith. Weithiau, ni ellir cyflawni'r hyn rydym yn dymuno’i wneud. Fodd bynnag, rwy'n teimlo y gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd y Senedd yn parchu ac yn ystyried yr holl safbwyntiau ac awgrymiadau rydych wedi'u cyflwyno. Wedi'r cyfan, dyna pam y cychwynnodd y Senedd Ieuenctid yn y lle cyntaf. Diolch i bob un ohonoch am gymryd rhan yn Senedd Cymru, ac rwy'n dymuno'n dda i chi ym mha yrfa bynnag y dewiswch ei dilyn. Diolch yn fawr, Lywydd.
Lynne Neagle sydd nesaf, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Lynne Neagle.
Diolch yn fawr, Lywydd. Un o uchafbwyntiau fy nghyfnod fel Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd oedd y cyfle i wylio'r Senedd Ieuenctid yn datblygu. Mae gweithio gyda'i Haelodau ar y gwaith craffu a wnawn fel pwyllgor ac fel Senedd wedi bod yn fraint wirioneddol, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth nad yw sefydlu'r Senedd Ieuenctid wedi cyfoethogi'r ddadl ar bynciau pwysig yn ystod y bumed Senedd.
Heddiw, rydym wedi clywed yn uniongyrchol gan y seneddwyr ieuenctid am bopeth y maent wedi'i gyflawni ers cael eu hethol. Nid yw’n ddigon ei alw’n drawiadol. Fel y clywsom, mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi ceisio dylanwadu ar feysydd polisi allweddol, gan gynnwys diwygio'r cwricwlwm, iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, a thaflu sbwriel a gwastraff plastig. Nid yw'r rhain yn faterion bach na hawdd. Mae fy mhwyllgor wedi mynd i’r afael â dau o’r pynciau hyn, felly yn sicr, gallaf ddweud hynny o brofiad. Rydym wedi bod yn hynod ddiolchgar am fewnbwn a mewnwelediad ymholiadau ac adroddiadau'r Senedd Ieuenctid yn y meysydd hyn.
Yr un mor rhyfeddol, serch hynny, fu ei gallu i ddarparu cyfraniadau ymatebol ac amserol i faterion sy'n datblygu. Er enghraifft, cyfrannodd y Senedd Ieuenctid safbwyntiau pwysig i'n gwaith craffu ar y Bil cosb resymol, a gwyddom eich bod wedi bod yn llais pwysig yn y trafodaethau parhaus ynglŷn â sut rydym yn rheoli ac yn adfer wedi’r pandemig.
Dro ar ôl tro, rydym fel pwyllgor wedi pwysleisio pwysigrwydd clywed yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc am eu profiadau. Blaenoriaeth allweddol i ni oedd sicrhau bod dull o weithredu yn seiliedig ar hawliau plant yn cael ei fabwysiadu ar gyfer pob agwedd ar bolisi, deddfwriaeth a chyllid. Fel y dywedodd Maisy Evans, mae Senedd Ieuenctid Cymru yn adlewyrchiad o hawliau plant ar waith. Mae effaith COVID-19 wedi pwysleisio’n gryfach nag erioed yr angen i sicrhau bod gan ein plant a’n pobl ifanc lais a bod y llais hwnnw’n cyrraedd pob agwedd ar fywyd cyhoeddus a gwneud penderfyniadau.
Hoffwn gloi fy sylwadau gyda thri phwynt terfynol. Yn gyntaf, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch o galon i'n 60 seneddwr ieuenctid yng Nghymru. Rydych wedi gosod esiampl a fydd yn anodd ei dilyn, ond rwy'n hyderus y bydd yn ysbrydoli eraill i ymgysylltu a chymryd rhan yn y dyfodol. Yn ail, hoffwn annog unrhyw blant a phobl ifanc sy'n gwrando i ystyried ymgeisio i fod yn rhan o’r genhedlaeth nesaf o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru. Fel y clywsoch heddiw, gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Yn olaf, hoffwn gofnodi fy niolch i dîm y staff yn y Senedd ac yn y sefydliadau partner sydd wedi gweithio mor galed i sefydlu a chefnogi gwaith y bobl ifanc hynod hyn. Mae'r flwyddyn ddiwethaf hon wedi bod yn her i bawb ym mhob ffordd, ond mae'r gwytnwch a ddangoswyd gan ein plant a'n pobl ifanc yng Nghymru, gan gynnwys Aelodau ein Senedd Ieuenctid gyntaf yng Nghymru, yn ysbrydoliaeth ac yn destun balchder i bob un ohonom. Diolch o galon ichi i gyd.
Diolch, Lynne. Ac yn union fel chi, Lynne, mae'r Senedd Ieuenctid wedi bod yn un o uchafbwyntiau fy nhymor fel Llywydd. Rydym yn treulio cryn dipyn o amser yn ein Senedd ar hyn o bryd yn trafod pigiadau mewn breichiau; mae'r Senedd Ieuenctid wedi bod yn bigiad o obaith yn fy mraich i dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwyf wedi dwli ar amrywiaeth eich cefndiroedd ac amrywiaeth eich safbwyntiau gwleidyddol, ond gan ddod at eich gilydd i geisio dod o hyd i dir cyffredin er budd eich cymunedau, eich cyfoedion, a’ch cenedl. Nid oes amheuaeth gennyf nad hwn fydd y cyfarfod Senedd olaf i rai ohonoch—bydd rhai ohonoch yn ôl ar ryw bwynt Ond yn y cyfamser,
diolch i chi am bopeth ŷch chi wedi ei gyfrannu.
Diolch am bopeth rydych wedi'i gyflawni yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a bydd eich gwaddol yn parhau yn y Senedd Ieuenctid nesaf, a thu hwnt.
Felly, diolch yn fawr iawn.
Rwy'n dod â'r rhan hon o'r cyfarfod i ben, ac fe wnawn ni atal y cyfarfod am ychydig funudau, cyn inni ailgychwyn yn ffurfiol fel un Senedd yn unig.
Diolch, bawb.