2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 24 Chwefror 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Weinidog, mi fyddwch chi'n ymwybodol bod grŵp o sefydliadau wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ynglŷn â mesurau i warchod gweithwyr iechyd a gofal rhag y feirws. Maen nhw'n dweud bod camau i leihau trosglwyddiad o'r feirws drwy'r awyr wedi bod yn annigonol ac maen nhw'n galw am wella safon awyru ac am newid canllawiau PPE er mwyn gwarchod y gweithlu. A wnewch chi fod yn rhagweithiol wrth ymateb i'r galwadau yna a chydnabod bod ein dealltwriaeth ni o drosglwyddiad drwy'r awyr wedi newid yn fawr iawn dros y flwyddyn ddiwethaf ac y dylai negeseuo iechyd cyhoeddus, yn ogystal â chanllawiau gwarchod staff, newid i adlewyrchu hynny, yn cynnwys rhoi mwy o bwyslais ar bwysigrwydd awyr iach?
Rwy'n hapus i ddweud ein bod, mewn negeseuon rheolaidd gan Lywodraeth Cymru, yn tynnu sylw at bwysigrwydd awyru da, a chaiff hynny ei wneud nid yn unig mewn cynadleddau i'r wasg a digwyddiadau eraill a wnaf, ond gan eraill—gan y prif swyddog meddygol, y dirprwy brif swyddog meddygol ac yn wir y Prif Weinidog, sydd wedi tynnu sylw at hyn hefyd. Gwn fod hynny wedi'i ystyried yn ymarferol. Er enghraifft, rydym wedi sicrhau bod gan fy mab haen ychwanegol o ddillad oherwydd bod ffenestri yn ei ystafell ddosbarth ar agor pan ddychwelodd i'r ysgol. Felly, mae'r neges yn cael ei lledaenu ar awyru mewn modd llawer mwy arwyddocaol a chyson nag y byddai wedi bod ar ddechrau'r pandemig, a bod yn deg.
Pan ddaw'n fater o adolygu pa mor ddigonol yw cyfarpar diogelu personol, mae hwnnw'n fater rydym yn ei adolygu'n rheolaidd. Y sawl sy'n arwain ar hynny yw'r dirprwy brif swyddog meddygol, yr Athro Chris Jones. Mae'n ymgysylltu'n rheolaidd â chymheiriaid eraill ledled y DU i sicrhau bod ein canllawiau'n cael eu diweddaru. Deallaf y pryderon sydd gan rai pobl o ran p'un ai fersiwn gyfredol o'r cyfarpar diogelu personol yw'r fersiwn gywir o gyfarpar diogelu personol, o gofio bod gennym amrywiolyn mwy trosglwyddadwy o'r feirws—amrywiolyn Caint—yn lledaenu fel yr amrywiolyn mwyaf cyffredin yng Nghymru, ond mae'r adolygiad diweddaraf yn dangos bod ein safonau presennol yn briodol, ac fel arfer, cânt eu hadolygu'n barhaus.
Diolch. Dwi am droi nawr at effaith hirdymor COVID-19. Mae'n wych bod y broses frechu yn datblygu'n dda, ond bydd yna lawer, wrth gwrs, yn aros yn hir iawn cyn cael brechiad, yn cynnwys pobl ifanc, ac mae hwythau yn agored i risg acíwt , difrifol, fel rydyn ni wedi'i weld yn y ffordd fwyaf poenus yn Ynys Môn dros y dyddiau diwethaf yn sgil marwolaethau dau ŵr ifanc, Kevin Hughes a Huw Gethin Jones. Dwi'n gwybod fy mod i'n siarad ar ran y Senedd i gyd wrth anfon ein cydymdeimlad at eu teuluoedd nhw heddiw. Ond i'r rheini fydd yn ddigon ffodus i beidio â datblygu salwch difrifol, rydyn ni'n dod i ddeall mwy a mwy o hyd am beryglon COVID hir.
Mi wnes i gyfarfod yr wythnos yma efo mudiad Long Covid Wales a thrafod yr angen am lawer mwy o fuddsoddiad mewn gofal COVID hir, sy'n wahanol i rehab ôl-COVID. Mae eisiau gofal iechyd i ddioddefwyr COVID hir. Dwi'n nodi heddiw, mae'n digwydd bod, bod yna £750,000 ychwanegol wedi'i glustnodi yn yr Alban ar gyfer gofal COVID hir. A gawn ni ymrwymiad o fwy o adnoddau i gynnig y gofal yma ac, yn allweddol, i sicrhau ei fod ar gael ym mhob rhan o Gymru? Achos ar hyn o bryd, rydych chi yn llawer mwy tebygol o gael unrhyw fath o ofal os ydych chi'n byw yn y de-ddwyrain.
Mae hwn yn fater rwy'n ei ystyried yn bwysig iawn. Gyda hyn, byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor iechyd mewn ymateb i lythyr y Cadeirydd ar ran y pwyllgor ar COVID hir gyda chyfres o gwestiynau. Byddwn yn nodi'r hyn rydym yn ei wneud a'r gwaith rydym yn ei wneud ar y llwybr COVID hir rydym wedi cytuno arno hefyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn deall, pan fyddwn yn sôn am COVID hir, ein bod yn sôn am amrywiaeth o effeithiau, oherwydd nid yw hwn yn gyflwr cyffredinol ei natur, yn yr ystyr y gallai'r symptomau amrywio. Efallai fod gennych bobl nad ydynt wedi bod yn yr ysbyty, ond nad ydynt wedi gwella'n llwyr ac sy'n profi symptomau cyson sy'n effeithio ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd. Efallai y bydd gennych hefyd bobl sy'n dioddef o effaith lawer mwy sylweddol ac efallai y bydd pobl yn dioddef niwed i wahanol organau, gyda chanlyniadau tymor hwy yn ogystal. Rydym yn awyddus i gael dull sy'n ystyried y gwahanol effeithiau ar wahanol bobl ac rydym yn cydnabod y bydd hyn yn galw am ddull amlddisgyblaethol o weithredu.
Mae'n rhan o'r rheswm pam rydym wedi gweithio gyda chymheiriaid mewn gofal sylfaenol, yn ogystal â gofal eilaidd, i ddeall sut i lunio llwybr ac i sicrhau bod gan gymheiriaid gofal sylfaenol allu i atgyfeirio pobl at y rhan briodol o'r llwybr hwnnw hefyd. Bydd hynny'n bwysig iawn ar gyfer y dyfodol, oherwydd y gwir amdani yw nad oes gennym ddigon o ddealltwriaeth heddiw i sefydlu llwybr triniaeth diffiniol a fydd yn gwneud y tro ar gyfer popeth ac unrhyw beth yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i ddysgu, a dyna pam ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn ymchwil ar COVID hir. Dyna pam y bydd angen i'r Llywodraeth nesaf ailasesu ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth beth bynnag fydd yn digwydd ar y dydd Iau cyntaf o fis Mai ac unwaith eto, bydd angen iddi ddychwelyd at y llwybr presennol sydd gennym ar waith i sicrhau ei fod yn dal yn briodol ac i ddeall pan fydd datblygiadau pellach mewn gofal a thriniaeth yn cael eu darparu. Felly, mae hwn yn ddarlun sy'n newid ond mae'n un rydym wedi ymrwymo i ddychwelyd ato, oherwydd rwy'n cydnabod y bydd hon yn un o effeithiau mwy hirdymor COVID. Mae'r ffaith bod cynifer o bobl wedi gwella yn arwydd o lwyddiant, ond bydd natur yr adferiad hwnnw'n amrywio a bydd nifer o bobl yn dioddef cyfnodau mynych o salwch.
Mae yna dal diffyg dealltwriaeth, dwi'n meddwl, o ba mor galed mae COVID yn gallu taro pobl. Hyd yn oed os nad ydy pobl yn gorfod mynd i'r ysbyty, mae'n gallu cymryd wythnosau lawer i rai pobl ddod dros y symptomau cychwynnol. Dwi wedi clywed am un ddynes yn benodol yn cael ei bygwth efo camau disgyblu gan ei chyflogwr oni bai ei bod hi nôl yn y gwaith o fewn pythefnos. Mae hi'n digwydd bod yn well erbyn hyn, ond mi gymerodd fis iddi. Mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr yn bod yn gyfrifol, ond efo pob math o straeon i'w clywed am weithwyr yn cael cais i ddefnyddio gwyliau blynyddol i hunanynysu neu i anwybyddu cais i hunanynysu yn llwyr, a wnewch chi fod yn gwbl gadarn ar y mater hwn a gwthio am gamau erlyn os oes angen—a allai fod mor ddifrifol â corporate manslaughter hyd yn oed, yn yr achosion mwyaf difrifol—os oes yna dystiolaeth glir bod cyflogwyr neu eraill yn gweithredu mewn ffordd sydd yn cyfrannu at ledaeniad y feirws?
Mae dau bwynt penodol yno. Yn gyntaf, nid yw Gweinidogion yn gwneud penderfyniadau erlyn. Ceir gwahanu pwerau eglur. Mae'n debyg ei fod yn beth da i bawb nad wyf, fel Gweinidog iechyd, mewn sefyllfa i gyfarwyddo'r gwasanaethau cyfiawnder troseddol i gynnal erlyniadau neu i beidio â gwneud hynny. Fodd bynnag, o ran y gyfraith a'n disgwyliadau, rydym yn gweithio ochr yn ochr â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Mae'n gorff a gadwyd yn ôl, ond maent yn glir iawn ynghylch pa ofynion cyfreithiol sydd mewn grym yma yng Nghymru a beth y mae hynny'n ei olygu mewn perthynas â busnesau nad ydynt yn cydymffurfio wrth ddilyn y rheolau hynny, boed hynny'n weithgareddau manwerthu neu weithgareddau eraill hefyd. Mae'r canllawiau a gyhoeddir gennym yn effeithio'n wirioneddol ar sicrhau bod gweithleoedd yn weithleoedd diogel yng ngoleuni'r ffaith bod salwch heintus yn dal i ledaenu'n eang ym mhob cwr o'r wlad. Rwy'n credu mai dyna'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud mewn gwirionedd, ynglŷn â sicrhau bod neges glir gan y Llywodraeth am safonau ymddygiad disgwyliedig gan gyflogwyr ac i beidio ag oedi cyn cefnogi'r camau a gymerir, boed hynny gan sefydliadau iechyd yr amgylchedd, safonau masnach neu'n wir, mewn meysydd nad ydynt wedi'u datganoli, er mwyn sicrhau bod gweithwyr yn cael eu cadw'n ddiogel.
Rydym yn cael y sgyrsiau hyn yn rheolaidd, nid yn unig yn y bartneriaeth gymdeithasol ond hefyd yn y fforwm iechyd a diogelwch cenedlaethol sydd wedi'i greu. Credaf ein bod yn glir iawn ynglŷn â'n disgwyliadau ar gyfer cyflogwyr mewn perthynas â sut y mae angen iddynt gadw eu busnesau'n ddiogel er mwyn cadw eu gweithwyr a'u cwsmeriaid yn ddiogel. Bydd angen i ni ddychwelyd at hyn eto, wrth i'n tystiolaeth, ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o COVID newid yn y dyfodol. Wrth i ni wella a chefnu ar argyfwng y pandemig, rwy'n gobeithio y byddwn yn sicrhau nad ydym yn llaesu dwylo mewn perthynas â'r mater hwn. Oherwydd ni fyddwn ychwaith am weld cyflogwyr yn rhoi camau byrbwyll ar waith yn erbyn pobl y byddwn o bosibl yn fy mywyd blaenorol wedi dwyn achos o gamwahaniaethu yn eu herbyn os yw'r rhain yn bobl yr effeithir yn sylweddol ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd gan salwch mynych. Mae'n ymddangos i mi fod hynny'n disgrifio llawer iawn o'r hyn y mae COVID hir yn ei olygu mewn gwirionedd i bobl sydd â'r cyflwr a'r tebygolrwydd o salwch yn y dyfodol. Gobeithio bod pob cyflogwr yn mabwysiadu ymagwedd lawer mwy ystyriol, oherwydd mae'r rhain yn faterion lle bydd ein dealltwriaeth yn parhau i ddatblygu ac rydym am i bobl ddychwelyd i'r gwaith a chyfrannu at ddyfodol ein heconomi.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Angela Burns.
Prynhawn da, Weinidog. Pryd rydych yn gobeithio cyflwyno cynllun cenedlaethol ar gyfer ymdrin â phroblem y rhestrau aros sydd gennym yma yng Nghymru?
Rwy'n disgwyl bod mewn sefyllfa i gyhoeddi cynllun adfer y GIG cyn diwedd mis Mawrth. Rwyf wedi nodi hyn o'r blaen. Bydd angen inni edrych ar adferiad yn gyffredinol, felly nid gwasanaethau gofal wedi'i gynllunio a gwasanaethau dewisol yn unig ond yn fwy cyffredinol hefyd. Mae angen inni ddisgrifio'r dull rydym yn ei gymryd a beth fydd hynny'n ei olygu i roi rhywfaint o gyd-destun i bawb am raddfa'r dasg fel y mae ac yna nodi sut rydym eisoes yn gweithio i'w gynllunio ac yna i allu ei gyflawni. Yr her o hyd fydd ein bod, erbyn diwedd mis Mawrth, yn annhebygol o fod â set ddiffiniol o gynlluniau cyflawni gan nad ydym yn rhagweld y byddwn yn ailagor ein holl wasanaethau o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol erbyn yr adeg honno, a bydd hynny'n effeithio ar raddfa'r broblem y bydd yn rhaid i unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol ei hwynebu a'i datrys. Ond rydym yn disgwyl y gallwn ddarparu canllawiau llawer cliriach ynglŷn â sut olwg fydd ar yr adferiad.
Rydych yn sôn am adferiad mewn ffordd gyffredinol, ac rwy'n derbyn hynny. Deallaf fod yn rhaid ichi edrych ar y GIG yn ei gyfanrwydd, ond rwy'n pryderu'n benodol am yr amseroedd aros am driniaeth. Bellach mae gennym dros 538,000 o bobl—dyna un o bob pump o'n poblogaeth—yn aros am ryw fath o driniaeth. Mae'n ddigon posibl nad oes cymaint o frys am bob un o'r triniaethau hyn—er y gallai'n hawdd fod brys i'r unigolyn sydd eu hangen—ond ceir llawer iawn o bobl, yn amrywio o bobl yn aros am driniaeth ddiagnostig i fenywod sy'n aros am driniaeth gynaecolegol, pobl sydd angen triniaeth ar gyfer eu llygaid fel nad ydynt yn colli eu golwg; mae'r rhain i gyd yn bobl y gallai aros am driniaeth yn hawdd effeithio'n ddifrifol ar ansawdd eu bywydau ac ar eu canlyniadau yn y pen draw. Rwy'n deall y sefyllfa rydym ynddi—rydym wedi bod drwy uffern ar y ddaear dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf—ond rwy'n awyddus iawn i gael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd cynllun wedi'i dargedu yn cael ei anelu'n benodol at hyn.
Y rheswm pam rwy'n gofyn i chi, Weinidog, yw oherwydd fy mod yn clywed byrddau iechyd yn dweud wrthyf eu bod yn mynd i gymryd hyd at ddegawd i ymadfer a dychwelyd at lle roeddent cyn i'r pandemig ddigwydd. Rwy'n ymwybodol fod llawer o fyrddau iechyd yn defnyddio byrddau iechyd eraill i ddarparu rhai gwasanaethau. Oni bai bod cynllun cenedlaethol unedig ar waith, gallai fod yn anodd iawn cael yr holl wasanaethau i ddechrau gweithredu ar eu gorau ar yr un pryd. Er enghraifft, yn Hywel Dda, nid oes triniaeth ar gyfer ceratoconws; rhaid ichi fynd i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Os nad yw'r bwrdd hwnnw'n penderfynu gwella'r broses mewn pryd, bydd pobl yn Hywel Dda yn parhau i aros. A allwch roi sicrwydd inni eich bod yn mynd i edrych ar hyn yn benodol, ac a allwch roi rhyw syniad inni sut y gallwch fynd i'r afael â'r broblem honno? Fel y dywedais, rwy'n deall yn iawn ei bod yn her sylweddol, ond mae angen inni hefyd fod yn ymwybodol o gyllid ac adnoddau. A ydych chi'n gallu rhoi unrhyw syniad i ni?
Pan fyddwn yn cyhoeddi cynllun adfer y GIG, byddwn yn mynd i'r afael o'i fewn â'r ffaith y bydd angen adnoddau ar gyfer hyn nid yn unig mewn blwyddyn, ond dros y tymor cyfan. Rwyf wedi nodi o'r blaen fy mod yn credu y bydd yr adferiad yn cymryd tymor seneddol llawn fan lleiaf. Dyna faint y broblem sydd gennym. Mae'n debyg nad yw'n llawer o gysur i bobl yma yng Nghymru, ond fe welwch raddfa enfawr yr her ym mhob rhan o'r DU, oherwydd y flwyddyn ddiwethaf rydym i gyd wedi byw drwyddi. Rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud nid yn unig am y cynnydd yn y niferoedd a'r ôl-groniad sydd wedi datblygu, ond y ffaith y gallai hynny olygu fod niwed na ellir ei wrthdroi yn cael ei achosi. Mae hynny'n rhan o'r anhawster o orfod gwneud dewisiadau drwy'r pandemig hwn ac am bwyso a mesur a chydbwyso'r effaith ar wahanol bobl.
Fodd bynnag, dylwn ddweud nad yw'n wir fod un o bob pump o bobl Cymru ar restr aros. Bydd nifer o'r bobl sy'n aros yn cael apwyntiadau ar wahanol restrau, ac mae'n rhan o'r her o gael trafodaeth gywir am y raddfa. Y niferoedd y mae'r Aelod yn eu dyfynnu yw nifer yr apwyntiadau sydd eto i'w cynnal mewn amrywiaeth o feysydd, fel y nodwyd ganddi, o gleifion allanol i weithgaredd mwy difrifol hefyd. I mi, mae hynny'n atgyfnerthu pwysigrwydd parhau i ymladd y coronafeirws a pheidio â cholli rheolaeth ar y feirws eto, oherwydd byddai hynny'n golygu aflonyddu pellach a mwy fyth o niwed ac ôl-groniad. Ond fe allwch ddisgwyl cynllun sy'n cwmpasu amrywiaeth o wahanol feysydd, gan gynnwys cydbwysedd rhwng dewisiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Efallai nad fi fydd y Gweinidog sy'n gorfod gwneud y dewisiadau cenedlaethol hynny, ond bydd angen i bwy bynnag sy'n dychwelyd fel Gweinidog iechyd ar ôl yr etholiad ym mis Mai fod yn barod i wneud dewisiadau cenedlaethol i adeiladu ar y cynllun a gyhoeddir erbyn diwedd mis Mawrth, oherwydd bydd hyn, fel y dywedais, yn ymrwymiad sylweddol i'r wlad gyfan.
I ddychwelyd at yr ystadegau hynny, fe ddaethant o wybodaeth y Llywodraeth, ond rwy'n fodlon mynd yn ôl i adolygu hynny, oherwydd roedd yn eithaf clir mai un o bob pump ydoedd. Un o'r meysydd a welodd gynnydd astronomegol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yw maes gwasanaethau gynaecolegol. Roedd gennym lai na 1,000 o fenywod yn aros dros 36 wythnos; nawr mae gennym dros 13,000 o fenywod yn aros am ryw fath o driniaeth. Mae hynny, wrth gwrs, yn mynd â ni ôl at anghydraddoldebau iechyd, onid yw? Bydd pob un o'r pleidiau wedi derbyn llythyr yn ystod yr wythnos ddiwethaf gan Goleg Brenhinol y Meddygon ar ran 30 o sefydliadau yn sôn am anghydraddoldebau iechyd. A fydd y Llywodraeth yn gallu gwneud unrhyw ymrwymiad nad dull cyffredinol o weithredu yn unig a geir yn y cynllun adfer hwn, ond y byddwch yn edrych ar anghydraddoldebau iechyd allweddol i sicrhau bod grwpiau fel menywod, sydd yn draddodiadol wedi dioddef anghydraddoldeb iechyd mewn grŵp eang o feysydd, yn cael eu cynnwys ar yr un pryd? Nid menywod yn unig wrth gwrs; mae llawer o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn profi anghydraddoldebau iechyd penodol. A fyddwch yn gwrando'n astud iawn ar y sylwadau sy'n cael eu gwneud gan Goleg Brenhinol y Meddygon a'u tebyg i geisio sicrhau nad ydym yn caniatáu i'r pandemig hwn ehangu'r anghydraddoldebau iechyd sydd gennym eisoes yma yng Nghymru?
Os caf ymdrin â'r pwynt am y ffigurau yn gyntaf, ac ymdrin wedyn â'ch pwynt am anghydraddoldebau iechyd, ar y ffigurau, mae'r ffigurau'n gywir o ran nifer yr apwyntiadau sydd eto i'w cynnal, ond nid oes un rhan o bump o'r bobl yn aros am apwyntiad oherwydd bydd rhai o'r rheini'n unigolion ar fwy nag un rhestr, a dyna'r pwynt rwy'n ei wneud. O ran nifer y bobl sy'n aros mewn gwirionedd, nid yw'n un o bob pump o'r boblogaeth mewn gwirionedd. Mae'r ffigur a ddyfynnwch yn ffigur cywir ar gyfer nifer yr apwyntiadau unigol. Gwn fy hun y gallwn fod ar ddwy restr aros o bosibl, at ddibenion y ddadl, pe bawn yn glaf newydd gyda'r ddwy broblem unigol y mae'r GIG yn rhoi gofal rheolaidd i mi gyda hwy. Felly, dyna'r pwynt rwy'n ei wneud o ran cael trafodaeth gywir am faint yr her sy'n ein hwynebu.
Ar eich pwynt am anghydraddoldebau gofal iechyd, rydym yn cydnabod bod y pandemig wedi gwaethygu anghydraddoldebau gofal iechyd ac wedi eu gwneud hyd yn oed yn fwy amlwg nag yr oeddent o'r blaen. Mae lefel y niwed, y niwed gwahanol sydd wedi'i greu gan y coronafeirws—. Nid yw'n taro pawb i'r un graddau. Y realiti yw bod niwed yn digwydd i'r cymunedau, i'r teuluoedd, i'r unigolion gyda'r nifer fwyaf o anghydraddoldebau iechyd ar ddechrau'r pandemig hwn.
Rhaid inni sicrhau bod yr adferiad yn rhoi ystyriaeth briodol i hynny yn y ffordd rydym yn blaenoriaethu pobl sydd â'r angen clinigol mwyaf, y ffordd rydym yn cyrraedd y bobl hynny'n gyntaf, a'r ffordd rydym yn sicrhau nad yw ein hadferiad yn gwaethygu, unwaith eto, yr anghydraddoldebau gofal iechyd sy'n bodoli. Mae hynny'n golygu na all fod mai'r lleisiau mwyaf croch sy'n gwthio drwy'r system gyflymaf. Mae'n ymwneud mewn gwirionedd â sut rydym yn mynd ati'n fwriadol i gynllunio adferiad sy'n ystyried yr holl anghydraddoldebau gofal iechyd, a bydd hynny'n anodd oherwydd maint yr her sydd gennym. Ond rwy'n credu y bydd ein dull gofal iechyd darbodus a gofal iechyd sy'n seiliedig ar werthoedd yn ein helpu i wneud hynny, i'w gynnwys yn ein system. Mae hyn i gyd yn gwbl gyson â'r dull 'Cymru Iachach' sydd gennym, lle byddwch, wrth gwrs, yn cofio o ddechrau'r tymor hwn, o'r adolygiad seneddol i gael 'Cymru Iachach', fod anghydraddoldebau gofal iechyd wrth wraidd y cynllun hwnnw yn bendant iawn, a bydd angen iddynt fod wrth wraidd ein dull adfer hefyd.