6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Ymchwiliad i effaith COVID-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 2 — Yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant

– Senedd Cymru am 3:57 pm ar 3 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:57, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Yr eitem nesaf ar ein hagenda yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon 'Ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 2—Yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig. Dai Lloyd.

Cynnig NDM7610 Dai Lloyd

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ei ymchwiliad i effaith Covid-19, a’r modd y mae’n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 2 - Yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:57, 3 Mawrth 2021

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dyma ein hail adroddiad ar effaith COVID-19 ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n canolbwyntio'n benodol ar iechyd meddwl a llesiant. Yn ogystal ag argymhellion manwl, daethom i un casgliad cyffredinol, sef mae’n bwysicach nawr nag erioed bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y gwelliannau angenrheidiol a nodwyd yn ein hadroddiad yn 2018 ar atal hunanladdiad ac yn adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef ‘Cadernid Meddwl’.

Mae COVID-19 wedi achosi sawl her o ran ei effeithiau corfforol, ond hefyd o ran ei effaith ar lesiant meddyliol ac emosiynol pobl. Mae bod heb gyswllt efo'ch teulu, eich ffrindiau a rhwydweithiau cymorth eraill am gyfnodau hir o amser wedi cael effaith sylweddol. Rydym yn gwybod bod mwy na hanner yr oedolion a thri chwarter y bobl ifanc yn teimlo bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Rydym hefyd yn hynod bryderus am lesiant preswylwyr cartrefi gofal, yn enwedig y bobl sydd efo dementia. Mae niwed sylweddol yn cael ei achosi gan fod ar wahân am gyfnodau hir yn sgîl y cyfyngiadau parhaus ar ymweliadau efo chartrefi gofal. Rydym yn deall y pryderon sy'n wynebu rheolwyr cartrefi gofal, wrth gwrs, ond rhaid cydbwyso'r risg o niwed yn sgîl y coronafeirws â'r risg i iechyd a llesiant preswylwyr sy'n deillio o fod ar wahân oddi wrth eu hanwyliaid am gyfnod mor hir.

Mae’r pandemig hefyd wedi cael effaith ddwys ar benderfynyddion ehangach iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys ffactorau economaidd, ffactorau cymdeithasol, ffactorau amgylcheddol a ffactorau addysgol. Mae wedi amlygu a dwysáu'r anghydraddoldebau mewn cymdeithas. Bydd llawer o amser yn mynd heibio cyn y deallir effaith lawn y pandemig ar iechyd meddwl ac iechyd emosiynol y genedl. Roedd yn amlwg bod gwasanaethau iechyd meddwl o dan bwysau sylweddol cyn COVID-19 hyd yn oed, a dim ond cynyddu a wnaiff y galw hwnnw.

Bydd anghenion pobl yn wahanol. Mae'r pandemig wedi gwaethygu'r ffactorau risg sy'n hysbys ar gyfer hunanladdiad a hunan-niweidio, fel unigrwydd, unigedd, diffyg ymdeimlad o berthyn a diffyg galwedigaeth ystyrlon. Efallai na fydd rhai pobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl parhaus wedi gallu cael gafael ar eu gwasanaethau arferol ers cryn amser, a bydd mwy o angen arnyn nhw nawr nag erioed o’r blaen. Bydd rhai pobl wedi cael profedigaethau yn ystod y pandemig, neu o ganlyniad iddo. Nid yw colli anwyliaid byth yn hawdd, ond mae’n siŵr bod mynd drwy hyn ar adeg pan na allwch fod gyda nhw ar ddiwedd eu hoes, ac nad oes modd bod yng nghwmni teulu a ffrindiau i gael cefnogaeth, yn effeithio ar allu pobl i ddygymod efo’u colled.

Efallai yr effeithir ar bobl eraill nad ydynt erioed wedi cael problemau iechyd meddwl o’r blaen gan y trawma ar lefel y boblogaeth yn gyffredinol. Teimladau o bryder, tristwch a cholled, mae’r rhain yn ymatebion naturiol i sefyllfa frawychus ac mae’n bwysig peidio â’u hystyried yn or-feddygol. Rhaid bod cefnogaeth briodol, fodd bynnag, ar gael i bawb sydd ei hangen. Rhaid i hyn gwmpasu’r amrywiaeth o anghenion iechyd meddwl, o gymorth lefel isel i gymorth ymyrraeth gynnar, i wasanaethau mwy arbenigol a gofal mewn argyfwng. Dylai hefyd gynnwys gwasanaethau hygyrch o ansawdd da mewn profedigaeth.

Rhaid i’r gwasanaeth a’r gefnogaeth gywir hefyd fod ar waith ar gyfer staff iechyd, gofal cymdeithasol a staff rheng flaen eraill sydd wedi gweld llwyth gwaith cynyddol, prinder staff, trawma yn y gweithle a cholli ffrindiau, cydweithwyr a defnyddwyr gwasanaethau. Heb gefnogaeth eu hunain, maent mewn perygl o fynd yn sâl oherwydd straen neu anawsterau iechyd meddwl eraill o ganlyniad i gael eu llethu’n gorfforol neu yn emosiynol.

Nawr, fel pwyllgor, rydym wedi tynnu sylw dro ar ôl tro at yr angen am gydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol. Cyn y pandemig roeddem yn pryderu nad oedd cynnydd digonol yn cael ei wneud yn hyn o beth, ac rydym yn ofni na fydd COVID-19 ond yn ei rwystro ymhellach. Os ydym am sicrhau cydraddoldeb, rhaid i iechyd meddwl fod yn ystyriaeth allweddol wrth i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau a chynllunio ar gyfer adferiad. Mae hyn yn gofyn am ddull ar sail iechyd cyhoeddus o ymdrin ag iechyd meddwl sy’n ymwneud â hyrwyddo llesiant, atal salwch meddwl ac ymyrraeth gynnar, ac sy’n rhychwantu adrannau’r Llywodraeth a phob sector o’r gymdeithas. Mae angen inni weld cydweithio gwell a chyd-ddealltwriaeth glir ar draws y Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus ynghylch pwysigrwydd iechyd meddwl y cyhoedd a model cyllido sy’n cefnogi hyn.

Rydyn ni'n diolch i’r Gweinidog am ei hymateb i’n hadroddiad ni fel pwyllgor. Rydyn ni'n croesawu'r ffaith bod ein holl argymhellion wedi’u derbyn, naill ai’n llawn neu mewn egwyddor. Fodd bynnag, fel sy’n digwydd yn aml gydag ymatebion Llywodraeth Cymru, mae’r naratif yn dweud wrthym beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud eisoes yn hytrach na mynd i’r afael â’n hargymhellion penodol. Mewn ymateb i’n galwad am ddiweddariad ysgrifenedig ar weithredu ein hargymhellion ac argymhellion y pwyllgor plant, dywed yr ymateb, a dwi'n dyfynnu:

'bydd y Pwyllgor yn deall bod gweithredu’r argymhellion eang yn rhaglen waith sylweddol, a bod angen cydbwyso hynny â gweithredu ein hymatebion i adroddiadau cysylltiedig eraill y Pwyllgor a’r ymrwymiadau a nodir yn Law yn Llaw at Iechyd Meddwl—Cynllun Cyflawni. Dylid cydnabod bod y rhaglen waith i gyflawni’r gwelliannau yn mynd y tu hwnt i’r tymor hwn.'

Diwedd y dyfynnu.

Pan ddaw, rhaid i’r diweddariad ysgrifenedig fynd i’r afael â’n hargymhellion penodol. Rhaid iddo hefyd ddarparu amserlenni manwl fel y gallwn gael ymdeimlad clir o’r hyn a gyflawnwyd a beth arall sydd angen ei wneud, ac erbyn pryd. Byddem yn annog yn benodol i waith y grŵp gorchwyl a gorffen ar gadw golwg ar ddata atal hunanladdiad gael ei ddatblygu fel blaenoriaeth frys.

Rydym yn cydnabod bod y rhain yn amseroedd anodd iawn, ac nad tasg fach yw gweithredu rhai o’n hargymhellion, ond ni allwn fforddio peidio â gwneud hyn. Mae wedi bod yn amlwg ers amser maith beth sydd angen inni ei wneud i wella iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru. Mae’n rhaid i ni nawr wneud newidiadau er mwyn osgoi rhagor o ddioddefaint a marwolaethau diangen y gall fod modd eu hatal. Diolch yn fawr.

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:04, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddechrau drwy ganmol y pwyllgor? Nid wyf yn aelod ohono, ond rwy'n credu bod hwn yn adroddiad rhagorol, fel yr un blaenorol, ac rwyf hefyd yn cymeradwyo aelodau'r pwyllgor am y ffordd y maent wedi ceisio gweithio ar draws y sectorau a chael dull integredig iawn, a chredaf fod hynny wedi'i ddangos yn glir yn yr argymhelliad cyntaf, sy'n cyfeirio'n rymus iawn at adroddiad y pwyllgor plant, 'Cadernid Meddwl'. Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor plant ychwaith, ond yn fy marn i, rwy'n credu mai adroddiad 'Cadernid Meddwl', o'r holl adroddiadau rhagorol a gwblhawyd gan bwyllgorau yn y pumed Senedd, oedd y mwyaf dylanwadol a chredaf eich bod yn llygad eich lle yn cyfeirio ato.

Credaf y bydd effaith tymor byr a hirdymor y pandemig ar iechyd meddwl yn sylweddol tu hwnt, a diolch i'r pwyllgor am ganolbwyntio ar faterion fel gofal profedigaeth. Credaf fod gennym lawer o blant yn awr na welodd eu neiniau a'u teidiau yn eu dyddiau diwethaf, a fyddai wedi ei chael hi'n anodd iawn prosesu ffeithiau'r colledion hynny hyd yn oed, a bydd hynny gyda hwy am flynyddoedd lawer, a bydd yn effeithio arnynt wrth iddynt ddod yn oedolion ac yn eu hagweddau at faterion byw a marw a marwolaeth. Rwy'n credu y bydd gofyn gwneud llawer o waith gofalus i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar y lefel o gymorth y byddant ei heisiau, a daw hyn â ni at ddull iechyd y cyhoedd o weithredu; rwy'n credu bod hynny'n gwbl briodol.

Credaf hefyd ei bod yn iawn i'r pwyllgor bwysleisio'r angen am gymorth llesiant i staff rheng flaen, yn enwedig staff y GIG, a gwn y byddai llawer o gyd-Aelodau yn y Senedd wedi cael eu diweddariadau briffio gan y gwahanol fyrddau iechyd. A phan oeddem yn cael—neu'n sicr yn fy rhanbarth i, roeddem yn gwasgu'n galed ar y bwrdd iechyd i amlinellu'r hyn roedd yn ei wneud i gefnogi staff, ac rwy'n ddiolchgar am y gwaith y maent wedi'i wneud, ond rwy'n credu y bydd hyn yn parhau gan fod COVID gyda ni am lawer o'r degawd nesaf, yn ôl pob tebyg, ac wrth inni ei reoli, efallai y cawn obeithio'n realistig y bydd yn llai difrifol, ond mae'n dal yn mynd i fod yn ffactor ac yn fygythiad gwirioneddol.

Rwy'n credu bod rhai pethau ehangach o ran y dull iechyd cyhoeddus hefyd, fel ffactorau cymdeithasol eraill, pwysigrwydd ymarfer corff, argaeledd neu fynediad at fannau agored, ac mae llawer o gymunedau heb fannau o'r fath; mae'r rhain wedi bod yn bethau niweidiol iawn i lesiant ac iechyd meddwl pobl. Yn ein gwaith cynllunio trefol a'n gwaith adfywio, rhaid inni sicrhau bod y mathau hyn o fylchau'n cael eu llenwi. Credaf mai atal hunanladdiad yw'r dull cywir o ran pwysleisio y gallwn atal llawer o'r achosion o hunanladdiad sy'n digwydd. Mae'r rhai sy'n dioddef yn sgil hunanladdiad yn haeddu'r math hwn o ddull, a hyd nes y gwnawn hynny, mae arnaf ofn y byddwn yn dioddef lefel o hunanladdiad sy'n adlewyrchu ar wasanaethau ehangach, ond hefyd ar y ffaith nad yw dull iechyd cyhoeddus o'r fath mor llawn ag y mae arnom angen iddo fod.

A gaf fi orffen drwy ddiolch i Lywodraeth Cymru am dderbyn yr holl argymhellion? Ond roeddwn yn cytuno i raddau â rhai o sylwadau Dai Lloyd ar y diwedd, o ran beth yw dyfnder yr ymrwymiad, ac rwy'n cyfeirio at argymhelliad 12, lle mae'r pwyllgor yn argymell bod cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22, sydd newydd ei chyhoeddi, yn dangos ymrwymiad cryf i wella iechyd meddwl y cyhoedd yng Nghymru. Rwy'n falch bod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw, ond wedyn, o dan 'goblygiadau ariannol', dywed Llywodraeth Cymru, 'dim yn ychwanegol'. Gyda'r sylw hwnnw, fe ddof â fy sylwadau i ben.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cyfle i wneud cyfraniad byr yn y ddadl hon, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n credu ei bod hi'n anodd gwneud cyfiawnder ag adroddiad mor eang yn y ddadl hon. Roeddwn am fynd ar drywydd rhai materion; yn gyntaf, y cyswllt clir iawn a wnaed yn yr adroddiad â'r angen parhaus i weld gweithredu ar 'Busnes Pawb', adroddiad atal hunanladdiad y pwyllgor iechyd, ac adroddiad 'Cadernid Meddwl' y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Roeddwn am gofnodi fy niolch eto i Dr Dai Lloyd am y bartneriaeth gref sydd wedi'i sefydlu rhwng y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a fy mhwyllgor i. Mae'n gwbl hanfodol nad ydym yn tynnu ein traed oddi ar y sbardun am eiliad ar gyflawni amcanion y ddau adroddiad. Mae'r ddau yn adroddiadau nodedig. Ymgynghorwyd yn eang ar y ddau, nid yn unig gyda phobl â phrofiad bywyd, ond â rhanddeiliaid arbenigol, a chredaf fod y ddau adroddiad wedi ennyn llawer iawn o gefnogaeth. Felly, byddwn yn annog pob cam posibl i barhau i flaenoriaethu'r ddau ohonynt.

Roeddwn am ganolbwyntio ar ddau argymhelliad penodol, mewn gwirionedd, sef argymhelliad 6 ac argymhelliad 7. Mae'r rhain yn ymdrin â'r ffaith bod y pwyllgor yn pryderu'n fawr fod yna ddiffyg cysylltiad rhwng y sicrwydd a roddwyd i'r pwyllgor fod gwasanaethau iechyd meddwl yn parhau yn ystod y pandemig a'r hyn a glywsom ar lawr gwlad. Dywedodd Gweinidogion a phennaeth y GIG yng Nghymru wrthym yn gyson fod gwasanaethau iechyd meddwl wedi'u dynodi'n wasanaethau hanfodol. Ond yr hyn a glywsom gan randdeiliaid ar lawr gwlad oedd bod pobl wedi cael trafferth cael mynediad at y gwasanaethau iechyd meddwl sydd eu hangen arnynt, felly rwy'n cytuno'n llwyr â chanfyddiadau'r pwyllgor fod gwir angen i Lywodraeth Cymru ymchwilio i hyn a sicrhau bod y dulliau sy'n cael eu defnyddio i wneud yn siŵr bod pobl yn cael gwasanaethau yn cynrychioli profiad bywyd pobl ar lawr gwlad mewn gwirionedd. Rwy'n talu teyrnged i sefydliadau fel Mind Cymru, sy'n gwneud llawer o waith ar gasglu profiadau bywyd, ond rwy'n credu ei bod hefyd yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar bobl sydd â phrofiad bywyd am eu profiad yn ystod y pandemig.

Fel rydym wedi dweud wedyn yn argymhelliad 7, rydym wedi galw am flaenoriaethu gwasanaethau iechyd meddwl. Un o nodau cyson y ddau bwyllgor oedd sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol. Ac eto, yr hyn a welsom yn y pandemig, sy'n eithaf dealladwy mewn argyfwng iechyd corfforol, oedd newid i wasanaethau iechyd meddwl ar unwaith, oherwydd symudodd popeth ar-lein, ac nid yw ar-lein yn gweithio i bawb. Nid yw galwadau ffôn yn gweithio i bawb, ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol wrth symud ymlaen ein bod yn sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd meddwl yn ddigon gwydn i sicrhau'r cydraddoldeb hwnnw yn y math o argyfwng a wynebwn.

Roeddwn eisiau dweud rhywbeth am ofal mewn argyfwng, oherwydd mae ymateb Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at yr adolygiad o fynediad brys, sy'n ddogfen ddiddorol iawn, 'Tu hwnt i'r alwad', a byddwn yn annog yr Aelodau i edrych arni. Mae'n disgrifio'r oddeutu 900 o alwadau y dydd a wneir i'r heddlu, damweiniau ac achosion brys, a gwasanaethau brys eraill i bobl sydd angen cymorth iechyd meddwl. Ond yr hyn y byddwn yn ei annog gan y Llywodraeth yw gweithredu brys ar ran arall y jig-so hwnnw, oherwydd os yw pobl yn ffonio'r heddlu ac yn mynd i'r adrannau damweiniau ac achosion brys mewn niferoedd o'r fath, rydym wedi methu'n druenus gyda darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer pobl yn gynharach. Ni allwn ddibynnu ar—

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:13, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Mae angen i'r Aelod ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour

(Cyfieithwyd)

—y gwasanaethau brys hynny i godi'r darnau, felly hoffwn pe gallai'r Gweinidog ddweud rhywbeth yn ei hymateb ynglŷn â pha bryd y mae'n disgwyl i'r rhan arall o'r adolygiad hwnnw, gwaith argyfwng y GIG a gwasanaethau gofal, gael ei chwblhau a'i gweithredu. Diolch yn fawr.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:14, 3 Mawrth 2021

Rydw innau'n falch iawn o fod wedi gallu chwarae rôl yn yr ymchwiliad pwysig iawn, iawn yma. Mae'r pandemig wedi achosi niwed ehangach na dim ond niwed corfforol, uniongyrchol COVID-19 ei hun, a dwi'n meddwl y gallwn ni ddisgwyl i effaith y pandemig ar iechyd meddwl i bara, o bosib, yn hirach na'r effaith ar iechyd corfforol. Mi glywsom ni yn yr ymchwiliad yma am effaith uniongyrchol y pandemig a'r cyfyngiadau ar iechyd meddwl pobl, o golli anwyliaid heb allu bod efo nhw ar yr oriau tyngedfennol, y teimladau yna o unigrwydd, teimladau o fod yn ynysig, a phobl yn methu â bod â rôl ystyrlon yn ystod y cyfnod yma.

Ond hefyd, wrth gwrs, mae yna effaith wedi bod ar fynediad pobl at wasanaethau iechyd meddwl, weithiau oherwydd cyfyngiadau a phwysau ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd, dro arall pobl ddim yn siŵr iawn lle i droi yn ystod y pandemig—ddim yn gyfforddus i siarad efo pobl ar y platfformiau digidol newydd yma am bethau sydd yn eu poeni nhw. Mi oedd yna hyd yn oed ansicrwydd ar y dechrau ynglŷn â pha wasanaethau oedd i fod i gael eu cynnig. Mi gawsom ni'r digwyddiad syfrdanol yna yn y gogledd pan gafodd bron iawn i 1,700 o bobl glywed eu bod nhw’n cael eu tynnu oddi ar y rhestrau aros am ofal iechyd meddwl. Do, mi gyfaddefwyd mai camgymeriad oedd hynny, ond mae o'n dweud rhywbeth bod rhywun yn rhywle wedi meddwl am eiliad y byddai hi'n dderbyniol i ddweud wrth bobl oedd ar y rhestrau aros am ofal iechyd meddwl y byddent yn gorfod cael eu tynnu oddi ar y rhestrau hynny. 

Rydyn ni wedi trafod yn ystod yr ymchwiliad yma hefyd y ffaith nad oes angen gorfedicaleiddio, os liciwch chi, pethau bob amser, bod angen bod yn ystyrlon o bethau sydd yn ymatebion naturiol, emosiynol—galar, tristwch, pryderon ynglŷn â'r sefyllfa gyffredinol, ac ati—a bod angen meddwl am ffyrdd eraill o edrych ar lesiant pobl. Dwi wedi bod yn awyddus iawn i wthio'r Llywodraeth i wneud popeth posib i ganiatáu ymarfer corff yn yr awyr agored, i ganiatáu i bobl fynd allan am awyr iach, y pethau yma sy'n feddal ond yr un mor bwysig. 

Mi edrychom ni ar yr effaith ar rai grwpiau yn benodol. Dwi'n ddiolchgar iawn i Bethan Sayed am y gwaith mae hi wedi'i wneud yn pwysleisio yr angen i feddwl am lesiant rhieni newydd. Mae hynny'n bwysig iawn. Ond mi wna i gloi jest drwy siarad yn sydyn iawn am ddau o'r grwpiau y gwnaethom ni edrych arnyn nhw yn benodol. Un yw'r gweithlu rheng flaen. Mae eisiau inni gofio amdanyn nhw, a'r dystiolaeth a glywsom ni'n glir iawn yw y bydd llawer yn teimlo effeithiau tebyg i PTSD, hyd yn oed, am gyfnod i ddod oherwydd hyn. Mi hoffwn i glywed gan y Gweinidog sylwadau'n benodol ynglŷn â'r camau fydd yn cael eu cymryd i sicrhau y math yna o gefnogaeth hirdymor i weithwyr iechyd a gofal sydd wedi bod drwy gymaint, ac wedi bod mor anhunanol yn ystod y cyfnod yma. 

Y llall ydy'r effaith ar bobl hŷn a pha gamau fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i'w cefnogi nhw—ie, y rhai sydd mewn cartrefi gofal, o bosib rhai sydd â'u hanwyliaid mewn cartrefi gofal. Mae'r unigrwydd sydd wedi cael ei deimlo gan lawer yn rhywbeth sydd yn mynd i olygu cefnogaeth a'r angen am gefnogaeth am amser hir i ddod. Ydy, mae hwn wedi bod yn argyfwng iechyd meddwl, yn ogystal ag iechyd corfforol. Mae'n bwysig bob amser ein bod ni'n cofio hynny. 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:18, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Galwaf yn awr ar y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, Eluned Morgan.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i'r Cadeirydd a'r pwyllgor am gymryd yr amser i ystyried y pwnc pwysig yma? Rwy'n croesawu'r adroddiad a'r canfyddiadau sydd ynddo. Dwi'n cefnogi ac yn derbyn neu'n derbyn mewn egwyddor holl argymhellion y pwyllgor. Mae lot fawr yn yr adroddiad, a dwi ddim yn meddwl y caf amser i fynd drwy bob peth y prynhawn yma, ond dwi eisiau cymryd y cyfle nid yn unig i ddiolch i chi, ond hefyd i ddiolch i'r holl staff ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi bod yn gweithio'n eithriadol o galed i drin a gofalu am nid yn unig y rheini sydd wedi bod yn dioddef o COVID-19, ond hefyd y rhai sy'n gofalu am gleifion eraill oedd ag anghenion brys, ac hefyd pobl eraill yn y sector iechyd oedd yn gofalu am y bobl mwyaf bregus yn ein cymunedau ni. 

Mae'r 11 mis diwethaf wedi bod yn ddi-baid, ac mae'r pandemig yn amlwg wedi cael effaith sylweddol ar ein cymunedau ni, ein cleifion a'n staff ni, a dwi'n cydnabod yn llawn y gofynion corfforol ac emosiynol anhygoel sydd wedi codi o ganlyniad i hyn. Rydym ni'n deall yn union yr effaith aruthrol sydd wedi bod ar iechyd meddwl y genedl, ond mae'n glir nad oes darlun llawn gennym ni eto o beth fydd yr effeithiau hirdymor a allai godi o ganlyniad i'r pandemig yn y maes iechyd meddwl. Dwi'n llwyr ddeall bod rhaid i effaith iechyd meddwl sy'n deillio o'r pandemig fod yn ganolog i'n hymateb ni i'r cynlluniau adfer, ac mae'n amlwg hefyd fod rhai wedi dioddef lot fwy nag eraill yn y sefyllfa yma, ac mae'n rhaid i ni fod yn sensitif i hynny hefyd.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:20, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Ers dechrau'r pandemig, rydym wedi rhoi trefniadau ar waith i ddeall y newidiadau yn y gofynion iechyd meddwl er mwyn datblygu ein gwaith cynllunio yn y maes hwn, ac mae'r trefniadau hyn yn cynnwys adolygiadau rheolaidd o'r dystiolaeth sydd ar gael, gan gynnwys arolygon poblogaeth, cyfarfodydd wythnosol gyda byrddau iechyd a chyfarfodydd rheolaidd gyda'r trydydd sector. Ond rwy'n cydnabod ac yn derbyn y pwynt a wnaeth Lynne Neagle am y datgysylltiad posibl a welsom, ac mae'n rhywbeth rwyf wedi bod yn pryderu'n fawr amdano—gan glywed un peth gan bobl o'r trydydd sector, a chlywed rhywbeth arall o ran y ffigurau a gewch mewn rhyw fath o ddogfen oer.

Mae'n bwysig iawn i mi fy mod yn cael gwell ymdeimlad o sut y mae'n edrych ar lawr gwlad. Rwyf wedi gwneud ymdrech wirioneddol i wrando ar y trydydd sector, i wrando ar bobl ifanc. Gwrandewais ar grŵp o bobl ifanc yr wythnos hon o Platfform. Fe wyddoch fy mod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y sefyllfa mewn perthynas â CAMHS—diweddariadau wythnosol ar hynny—ac mae'n amlwg yn rhywbeth sy'n eitem sefydlog ar ein hagenda yn y grŵp gorchwyl a gorffen. Felly, rwy'n ceisio cael gwell ymdeimlad o ble rydym arni. Os gall pobl barhau i roi enghreifftiau i mi o ble nad yw'n gweithio, rwy'n credu bod hynny'n bwysig; rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fy mod yn cael clywed am hynny fel y gallwn fynd i'r afael go iawn â'r broblem gyda'r systemau os mai dyna lle mae pethau'n methu.

Wrth gwrs, mae ymateb i anghenion iechyd meddwl yn galw am ddull amlasiantaethol ac amlochrog o weithredu, ac nid yw'n rhywbeth y gall neu y dylai'r GIG ei wneud ar ei ben ei hun. Yr hyn a wnaethom oedd cryfhau ein camau gweithredu ar draws y Llywodraeth yn y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', gyda phwyslais mwy ar yr agweddau cymdeithasol a'r agweddau economaidd sy'n rhaid inni eu cadw mewn cof drwy'r amser—felly, edrych ar bethau fel iechyd a dyled a thai, addysg a chyflogaeth. Mae'r gêm hon ymhell o fod drosodd. Ni wyddom beth sy'n mynd i ddigwydd pan ddaw ffyrlo i ben. Sut olwg fydd ar hynny? Mae pobl yn pryderu'n fawr ynglŷn â beth fydd eu hamgylchiadau economaidd, a gwyddom fod cydberthynas uniongyrchol rhwng diweithdra a phroblemau iechyd meddwl, felly mae'n rhaid i ni fod yn sensitif i'r hyn a allai ein hwynebu. Cefais gyfle'n ddiweddar i drafod hyn gyda fy nghyd-Weinidogion yn y Cabinet—effaith economaidd-gymdeithasol y pandemig ar iechyd meddwl—ac roeddem i gyd yn cytuno bod yn rhaid inni gael dull cydweithredol ar draws y Llywodraeth i atal yr hyn a allai fod yn ymchwydd posibl yn y galw am wasanaethau iechyd meddwl.

Un o'r pethau rwy'n awyddus iawn i'w wneud yw rhoi mwy o bwyslais a mwy o gefnogaeth a mwy o arian i gymorth haen 1, cymorth haen 0, a chefnogi'r trydydd sector o ddifrif, gan ddadfeddygoli'r problemau sydd ynghlwm wrth iechyd meddwl lle gallwn wneud hynny. Rydym wedi bod yn rhoi mesurau eraill ar waith, fel therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein, ac mae'n wych gweld bod dros 9,000 o bobl eisoes wedi gwneud defnydd o'r math hwn o gymorth. Roedd Rhun yn gofyn i ble mae pobl yn mynd am wybodaeth. 

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:23, 3 Mawrth 2021

Mae hwn yn rhywbeth roeddwn i'n rili keen i'w wneud. Roeddwn i'n awyddus iawn i weld beth fyddwn i'n ei wneud yn y sefyllfa yna. Ble byddech chi'n mynd os nad oeddech chi'n deall y system? Felly, rŷm ni wedi sicrhau bod pob awdurdod iechyd nawr wedi gorfod dangos yn glir ar eu gwefannau yn union beth yw'r gwasanaethau sydd ar gael yn y maes yma.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:24, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Rydych wedi clywed bod ymrwymiad ychwanegol wedi'i wneud o £42 miliwn. Mae'n ddrwg gennyf, David, nad oedd hynny'n cael ei gydnabod yn yr effaith ariannol, ond roedd yno, felly mae'r arian yno ac mae hynny'n golygu ein bod bellach yn gwario cyfanswm o oddeutu £783 miliwn yn flynyddol ar iechyd meddwl. Mae hynny'n bwysig iawn i mi. Rwy'n profi ar hyn o bryd i weld a ydym yn ei wario yn y mannau cywir. Rwy'n pryderu braidd fod angen i ni edrych o ddifrif i weld a ydym yn gwario'r arian hwnnw yn y mannau cywir. Byddwn yn sicr am weld pwyslais cliriach—gan wybod bod 80 y cant o broblemau iechyd meddwl yn dechrau pan fydd pobl yn blant a phobl ifanc, hoffwn weld ailgydbwyso cyllid yn mynd i'r perwyl hwnnw.

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor cyn bo hir am y cynnydd ar gyflawni ein hymateb ar iechyd meddwl amenedigol ac atal hunanladdiad, felly nid af i fanylion hynny yma. Ond rwyf wedi cydnabod y gwaith sylweddol sy'n mynd rhagddo eisoes ar draws Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'n rhaglen 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Un o'r pethau rwyf am ei wneud yw cadw llygad ar gyflawniad. Dai, roeddech yn gofyn ynglŷn â chyflawniad—wyddoch chi, beth yw ein hamserlen. Yr hyn rwyf wedi'i wneud yn awr yw cynnull bwrdd cyflawni a throsolwg gweinidogol i Gymru, ac fe wnaethom gyfarfod am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf. Dyna beth rwy'n ceisio'i wneud—cael ymdeimlad llawer gwell o'r hyn sy'n mynd i gael ei wneud ar ba bwynt ac a ydym ar y trywydd iawn. Oherwydd nid oes unrhyw bwynt datblygu rhaglen newydd oni bai ein bod wedi cyflawni'r rhaglen hon. Felly—

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:25, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Mae angen i'r Gweinidog dynnu ei sylwadau i ben, os gwelwch yn dda.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae gennyf gymaint mwy y gallwn ei ddweud, ond rwyf am ddweud rhywbeth am y gweithlu i gloi. Rydym wedi rhoi llawer o fesurau ar waith. Rwy'n bryderus iawn—rwyf wedi cyfarfod â Choleg Brenhinol y Nyrsys, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a chyda meddygon teulu, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn sefyll gyda'r bobl hyn sydd wedi bod ar y rheng flaen. Fel yr awgrymodd Rhun, mae pobl wedi bod drwy drawma yma ac mae angen inni sefyll gyda hwy ac efallai y bydd yn cymryd amser i hynny i gyd ddod drwodd. Felly, mae angen inni fod yno ar eu cyfer.

Ond os caf orffen drwy ddweud diolch yn fawr iawn i'r pwyllgor am y gwaith hwn ac i roi sicrwydd i chi ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gyflawni yn yr amgylchiadau gwirioneddol anodd hyn.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:26, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Nid oes gennyf Aelod sydd wedi dweud eu bod am wneud ymyriad. Felly, gofynnaf i Dai Lloyd ymateb i'r ddadl.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Wel, dyma ddadl wych. Buaswn i, fel y mae eraill wedi ei grybwyll, wedi hoffi petai'r ddadl yn gallu mynd ymlaen yn hirach, ond rydyn ni lle rydyn ni, fel rydym yn ei ddweud. Mae hwn wedi bod yn adroddiad manwl iawn; roedd yna gryn dipyn o waith wedi mynd i mewn i'r adroddiad yma a'r adroddiadau eraill yr oedden ni wedi cyfeirio atyn nhw—adroddiadau blaenorol y pwyllgor iechyd, yn enwedig ar atal hunanladdiad, ac, wrth gwrs, yr adroddiadau bendigedig gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o dan gadeiryddiaeth fendigedig Lynne Neagle. Hoffwn dalu teyrnged i waith Lynne Neagle fel Cadeirydd y pwyllgor hwnnw. Mae'r cydweithio wedi bod yn arbennig a dwi'n credu bod y ddau bwyllgor wedi gallu cyflawni llawer mwy na'r ddau bwyllgor ar wahân, megis, wrth gydweithio yn yr un un meysydd, ond gyda gwahanol oedrannau. Achos doedd yna ddim modd, y rhan fwyaf o'r amser, i'r pwyllgor iechyd ymgymryd â gwaith i wneud efo phlant a phobl ifanc. Roedd hi'n bwysig bod rhywun yn gwneud hynna, a dwi'n ddiolchgar iawn i Lynne Neagle a'i phwyllgor am hynna.

Wrth gwrs, mae'r her iechyd meddwl, o ganlyniad i'r pandemig yma, yn her enfawr—rydyn ni'n deall hynna. Ond mae eisiau pwysleisio hynna, achos dydyn ni ddim wedi gweld ei hanner e mor belled. Yn ogystal, wrth gwrs, mae yna lefel o bryder naturiol mewn unrhyw gymdeithas sy'n deillio o ryw drychineb torfol sydd wedi digwydd. Dyna beth rydyn ni'n ei wynebu rŵan; mae yna drychineb torfol yn dal i ddigwydd. Yn naturiol, mae yna lefel o bryder mewn unrhyw unigolyn, sydd ddim, o reidrwydd, yn mynd ymlaen i aflonyddu ar ei iechyd meddwl, ond mae angen delio efo fo ta beth, a'r ffordd naturiol o wneud hynny, fel mae eraill wedi'i ddweud—a diolch i David Melding am ei gyfraniad urddasol, aeddfed ynglŷn ag edrych yn ehangach yn nhermau iechyd cyhoeddus, ymarfer corff, ac ati—yw i ddelio efo'r lefel o bryder yna sydd ddim yn cwympo i mewn i ddiffiniad 'afiechyd meddwl' hefyd. Mae pawb yn teimlo hynna. Dwi'n diolch i Rhun ap Iorwerth hefyd am ei gyfraniad doeth, fel arfer, ac am bob cefnogaeth fel aelod o'r pwyllgor.

I grynhoi ac i gloi, dwi'n diolch i Eluned Morgan, y Gweinidog, am ei chyfraniad ac am ei doethineb hithau hefyd wrth ymateb mor ystyrlon i'n hargymhellion ni. Dwi hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, yn croesawu ei phenodiad hi yn y lle cyntaf, sydd yn adlewyrchiad o bwysigrwydd yr agenda hon. Mae'n bwysig ein bod ni'n mynd i'r afael efo'r holl heriau. Gaf i gloi drwy ddiolch i'n clercod a'n hymchwilwyr am eu gwaith dygn a manwl, diflino bob amser? Mynd i'r afael—mae'r casgliadau hynny'n barod o'n hadroddiadau blaenorol ni fel pwyllgor, a phwyllgor Lynne Neagle, ac mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw. Diolch yn fawr iawn i bawb. Cefnogwch y cynnig.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:29, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.