7. Dadl ar ddeiseb P-05-1078, 'Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng'

– Senedd Cymru am 4:21 pm ar 10 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:21, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Ein heitem nesaf ar yr agenda yw'r ddadl ar ddeiseb P-05-1078, 'Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng'. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i wneud y cynnig hwnnw—Janet Finch-Saunders.

Cynnig NDM7624 Janet Finch-Saunders

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r ddeiseb P-05-1078, 'Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng' a gasglodd 5,159 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 4:21, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Felly, diolch am y cyfle i gynnal dadl ar y ddeiseb hon heddiw. Cyflwynwyd y ddeiseb gan Laura Williams, ar ôl casglu 5,159 o lofnodion. Mae'n galw am fwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwelliannau i ofal mewn argyfwng, ac mae'n dilyn deiseb flaenorol a gyflwynodd Laura i'n pwyllgor, a oedd hefyd yn ceisio gwella mynediad at gymorth iechyd meddwl. Cyhoeddodd y Pwyllgor Deisebau adroddiad ar y ddeiseb flaenorol honno yn 2019. Ynddo, gwnaethom nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gyda'r nod yn arbennig o wella llwybrau atgyfeirio a mynediad amserol at gymorth mewn argyfwng.

Wrth gyflwyno'r ddeiseb sydd ger ein bron heddiw, mae Laura wedi mynegi ei barn nad oes digon o gynnydd go iawn wedi'i wneud ar wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ers yr adeg honno. Mae'n pryderu'n arbennig am yr effaith y mae'r pandemig a'r cyfyngiadau symud wedi'i chael ar iechyd meddwl a llesiant pobl a gallu gwasanaethau i ymateb i anghenion pobl mewn modd amserol.

Nawr, nid yw'r pryderon hyn yn fater newydd i'r Senedd hon ac fel y clywsom yn ystod dadl yr wythnos diwethaf, mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi cyhoeddi ei adroddiad ei hun yn ddiweddar ar effaith yr argyfwng COVID-19 ar iechyd meddwl a llesiant. Felly, credaf y byddai Laura, a'r miloedd o bobl a gefnogodd ei deiseb, yn cymeradwyo'r argymhellion y mae'r pwyllgor iechyd wedi'u gwneud yng ngoleuni'r dystiolaeth fanwl y maent wedi'i chael yn ystod eu hymchwiliadau.

Fodd bynnag, yng ngweddill fy nghyfraniad y prynhawn yma, byddaf yn canolbwyntio ar nifer o faterion penodol y mae'r ddeiseb yn gofyn inni eu hystyried. Cyn imi wneud hynny, hoffwn nodi'n fyr nad yw'r Pwyllgor Deisebau wedi cael ymateb i'r ddeiseb hon gan y Llywodraeth hyd yma, er inni ofyn am un ddiwedd mis Tachwedd. Nid dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd mewn perthynas â deiseb am wasanaethau iechyd meddwl. Gallwch ddychmygu'r siom rydym ni fel pwyllgor yn ei deimlo. Mae'n siŵr y bydd y deisebwyr yn teimlo'r un fath.

Mae'r pwyllgor yn cydnabod yr heriau sydd wedi wynebu Llywodraeth Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf wrth gwrs, a'r angen i flaenoriaethu adnoddau. Fodd bynnag, credaf ei bod yn bwysig fy mod yn nodi'r her wrth inni geisio craffu'n briodol ar y Llywodraeth a darparu ymateb digonol i aelodau o'r cyhoedd sy'n cyflwyno deisebau os na ddaw ymatebion i law mewn cyfnod rhesymol o amser.

Gan symud ymlaen at alwadau penodol y ddeiseb hon, mae Laura wedi tynnu sylw at ei phryder am yr effaith y mae COVID-19 wedi ei chael ar iechyd meddwl pobl, yn enwedig drwy effaith cyfyngiadau symud ac arwahanrwydd cymdeithasol. Mae'n dal i bryderu ynghylch argaeledd gwasanaethau priodol i bobl sydd eu hangen, yn enwedig y graddau y darperir y rhain mewn modd amserol i bobl ar adegau o argyfwng.

Roedd profiad diweddar a nododd Laura drwy ei sylwadau i'r Pwyllgor Deisebau yn codi pryderon ynghylch diffyg gwasanaethau, atgyfeirio neu ddilyniant pan gafodd pryderon iechyd meddwl eu crybwyll yn ystod ymweliad ag adran damweiniau ac achosion brys. Mae'r ddeiseb hefyd yn cyfeirio at amseroedd aros am driniaeth a therapi, a'r hyn y mae Laura yn ei weld fel angen i wella gallu gwasanaethau i ymateb i'r galw sy'n bodoli yn ein cymunedau.

Fel y gwyddom i gyd, mae'r rhain yn bryderon hirsefydlog ynglŷn â'r cyfyngiadau ar gapasiti o fewn gwasanaethau iechyd meddwl yma yng Nghymru, ond efallai bod mwy byth o ffocws arnynt yn sgil amgylchiadau'r 12 mis diwethaf. Mae gwasanaethau lle'r oedd mwy o alw amdanynt na'r gallu i'w ddiwallu mewn llawer o achosion o'r blaen wedi gweld nifer y cleifion yn cynyddu, yn union fel y mae eu gallu i ddarparu gwasanaethau, yn enwedig rhai wyneb yn wyneb, wedi dod yn fwy cyfyngedig nag erioed.

Mae Mind Cymru wedi nodi eu pryderon eu hunain ynghylch mynediad at gymorth iechyd meddwl, gan ddweud bod bron i chwarter y bobl yr haf diwethaf wedi dweud nad oeddent yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt. A'r wythnos diwethaf, wrth gyflwyno dadl y pwyllgor iechyd ar y pwnc hwn, nododd ein cyd-Aelod Dai Lloyd AS fod mwy na hanner yr oedolion a thri chwarter y bobl ifanc yn teimlo bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau symud.

Credaf fod hwn yn fater y mae'n rhaid i bob un ohonom geisio mynd i'r afael ag ef fel blaenoriaeth. Yng Nghymru, gobeithiwn y gallwn barhau i gefnu ar y pandemig hwn, ond rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i osgoi pandemig iechyd meddwl pellach yn y dyfodol.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae iechyd meddwl wedi bod yn destun llawer iawn o waith a thrafodaeth drwy gydol y Senedd hon. Mae'n sicr wedi bod yn thema reolaidd mewn deisebau a gyfeiriwyd at ein pwyllgor dros y cyfnod hwnnw. Mae hynny'n amlygu'r ffaith bod llawer o'r cyhoedd o'r farn y gellid ac y dylid gwneud mwy, yn ogystal â phwysigrwydd cael gwasanaethau'n iawn, pwynt y credaf y gallwn i gyd gytuno ei fod yn arbennig o bwysig yn awr. Diolch yn fawr iawn. 

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:27, 10 Mawrth 2021

Gaf innau ddiolch i Laura Williams am gyflwyno y ddeiseb yma a llwyddo i gasglu cymaint o enwau arno fo, sef pam ein bod ni yn trafod hwn heddiw? Mae'n brawf bod hwn yn faes lle mae pobl eisiau gweld mwy o weithredu arno fo gan Lywodraeth. Mi ydym ni, dwi'n meddwl, mewn lle llawer gwell y dyddiau yma o ran ein parodrwydd ni i siarad am iechyd meddwl. Mae yna lot o'r hen stigma yn cael ei daclo yn araf bach, ond mae yna lot o ffordd i fynd hefyd, a dydyn ni yn dal ddim yn gallu dweud efo'n llaw ar ein calonnau bod iechyd meddwl yn cael ei drin yn hollol gyfartal efo iechyd corfforol go iawn, a beth sydd gennym ni yn fan hyn ydy galwad am ddau beth fyddai yn ein helpu ni i symud tuag at y cyfartaledd yna, sef rhagor o gyllid i wasanaethau iechyd meddwl a sicrhau llai o amser aros i bobl sydd yn wynebu argyfwng iechyd meddwl. Ond tra dwi'n cefnogi hynny, yn sicr, ac eisiau delifro hynny o dan Lywodraeth Plaid Cymru, dwi hefyd eisiau pwysleisio pwysigrwydd yr ataliol hefyd. Fel efo iechyd corfforol, mae ymateb yn fuan, neu hyd yn oed trio atal y problemau bach rhag troi yn rhai mwy difrifol, yr un mor berthnasol efo iechyd meddwl. Dyna pam dwi wedi amlinellu cynlluniau i sefydlu rhwydwaith o ganolfannau llesiant i bobl ifanc ar draws Cymru—canolfannau wrth galon ein cymunedau ni ar y stryd fawr lle mae pobl ifanc yn gallu galw i mewn iddyn nhw os ydyn nhw'n wynebu problemau emosiynol neu broblemau iechyd meddwl, pobl ifanc sydd ddim â phroblem sydd wedi cael ei hadnabod fel un digon difrifol i fod eisiau cyfeiriad at ofal iechyd neu gefnogaeth seiciatrig arbenigol, ond sydd angen cefnogaeth yn syth. Mae eisiau bod yn rhagweithiol yn y ffordd rydym ni'n ymateb i broblemau iechyd meddwl.

Rydym ni'n cofio'n ôl i ddechrau y pandemig, pan wnaeth bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ddweud wrth bron i 1,700 o gleifion eu bod nhw'n cael eu tynnu oddi ar y rhestr aros am apwyntiad efo timau iechyd meddwl a bod yn rhaid iddyn nhw wneud cais eto i gael gweld rhywun, a hynny am fod y pandemig wedi dod ag amharu ar wasanaethau. Wrth gwrs, mi gafwyd ymddiheuriad. Doedd hynny ddim i fod wedi digwydd—rhywun yn rhywle oedd wedi camddeall cyfarwyddyd gan y Llywodraeth. Ond mae'r ffaith bod rhywun yn rhywle wedi meddwl am eiliad y byddai hi'n dderbyniol gwneud hynny yn dweud lot am y gwaith sydd ar ôl i'w wneud, dwi'n meddwl. Mi oedd beth welsom ni yn fanna yn gwbl groes, os oes yna ffasiwn beth, i fod yn rhagweithiol a trio cynnig cefnogaeth gynnar.

Enghraifft arall: dwi'n cofio'r Prif Weinidog Llafur diwethaf yn dweud mai'r rheswm bod rhestrau aros am wasanaethau CAMHS mor hir oedd bod lot o blant a phobl ifanc ar y rhestrau aros oedd ddim angen bod yno mewn difrif. Wel, beth sy'n digwydd mewn sefyllfa fel yna ydy bod y criteria wedyn ar gyfer pwy ddylai gael cefnogaeth yn cael eu tynhau er mwyn trio gwneud y rhestrau aros yn llai, yn hytrach na meddwl am ffyrdd o roi gwell triniaeth i fwy o blant a phobl ifanc.

Felly, diolch eto am ddod â'r ddeiseb yma o'n blaenau ni. Dwi'n gobeithio cael cyfle mewn Llywodraeth, fel Gweinidog Plaid Cymru, i gryfhau'r ddarpariaeth sydd ar gael mewn blynyddoedd i ddod.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:30, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Byddaf yn osgoi unrhyw agenda wleidyddol yma, oherwydd rwy'n credu bod Laura wedi codi'r cwestiwn hwn o bwysigrwydd yr agenda iechyd meddwl. Rwy'n falch o siarad yn y ddadl hon fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar iechyd meddwl. Yn aml, clywsom ddweud, 'Bydd un o bob pedwar ohonom yn y DU yn dioddef o gyflwr iechyd meddwl.' Eleni, yn fwy nag unrhyw flwyddyn arall, mae angen adolygu'r geiriau hyn, gan y bydd llawer mwy o bobl yn dioddef salwch meddwl o ganlyniad i'r camau a gymerwyd i reoli lledaeniad coronafeirws. Felly, does bosibl na ddylem gydnabod yn awr yr angen hanfodol i flaenoriaethu a sicrhau bod digon o arian ar gael i ddiwallu anghenion gwella iechyd meddwl a llesiant.

Edrychodd adroddiad Mind Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar, 'Rhy hir i aros', ar ffigurau amseroedd aros cyn ac yn ystod y pandemig ar gyfer mynediad at therapïau seicolegol. Ac fe wnaethant siarad â llawer o bobl sydd naill ai'n aros am gymorth mawr ei angen neu'n ei gael. Gall therapïau seicolegol ddarparu lle diogel i siarad yn agored heb farnu. Gallant ein helpu i wneud synnwyr o bethau, i ddeall ein hunain yn well, neu ein helpu i ddatrys teimladau cymhleth. Maent yn llythrennol yn cynnig achubiaeth i bobl. Dangosodd yr adroddiad fod problemau a oedd eisoes yn bodoli o ran mynediad at therapi seicolegol wedi gwaethygu, gyda llai o bobl yn cael eu derbyn ar y rhestrau aros, er bod mwy o bobl yn aros yn hwy am gymorth. Ac am 17 mis hyd at fis Awst y llynedd, roedd 80 y cant o'r rhai a oedd yn aros am therapïau seicolegol wedi bod yn aros yn hwy na'r targed 26 wythnos, ac mae'n sicr nad yw hyn wedi gwella, gan fod y pandemig wedi effeithio ar fwy o bobl.

Dros y 12 mis diwethaf, gofynnwyd inni gadw draw o'n systemau cymorth arferol. Rydym wedi gweld colli ein hanwyliaid a'n ffrindiau er mwyn eu diogelu. Mae gwella mynediad at therapïau seicolegol arbenigol yn un o ymrwymiadau allweddol strategaeth 10 mlynedd 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' Llywodraeth Cymru. Mae'n nod sy'n rhaid ei ailddatgan ym mhob un o'r strategaethau yn dilyn y cynllun cyflawni a chyda chamau gweithredu wedi'u hanelu at wireddu'r uchelgais hwn. Ac eto, mae gennym nifer fawr o bobl o hyd ar restrau aros heb y cymorth hwnnw ac sy'n aml yn teimlo eu bod wedi cael eu gadael ar ôl. Byddwn yn gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno bod angen blaenoriaethu'r uchelgais hwn cyn diwedd tymor y Senedd hon ac y bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn parhau i roi blaenoriaeth iddo.

Dros dymor nesaf y Senedd, rhaid inni ostwng y ffigur targed presennol o 26 wythnos. Rhaid inni weithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i sicrhau bod rhaglen recriwtio a hyfforddi gref yn bodoli i gynyddu nifer y therapyddion sydd ar gael, a rhaid inni sicrhau bod iechyd meddwl yn cael ei ystyried lawn cyn bwysiced ag iechyd corfforol. Weinidog, edrychaf ymlaen at eich ymateb ar fwrw ymlaen â'r agenda i helpu'r bobl sydd angen y cymorth hwnnw'n ddybryd.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:33, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, Eluned Morgan?

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

Wel, diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i, yn gyntaf, ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am eu hamser wrth ystyried y pwnc pwysig yma? Gaf i ymddiheuro nad yw'r pwyllgor na Laura wedi cael ymateb ffurfiol? Gwnaf i'n siŵr y bydd ymateb ffurfiol yn dod o fewn yr wythnos nesaf.

Mae gwella gwasanaethau iechyd meddwl yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth, ac rŷn ni wedi bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth ers inni gyflwyno'n strategaeth, 'Gyda'n Gilydd dros Iechyd Meddwl', yn 2012. Ac, wrth gwrs, mae effaith COVID-19, fel mae David Rees wedi amlinellu, a'r cyfyngiadau wedi rhoi mwy o sylw i'r mater yma, ac rŷn ni'n benderfynol o wella'n gwasanaethau ni i ymateb i'r gofyn. Ac, wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog wedi dangos ei ymrwymiad ef i'r mater yma drwy benodi Gweinidog i arwain, o'r Cabinet, yn y maes yma.

Nawr, mae'n bwysig i nodi bod deiseb Laura Williams ac eraill wedi cael ei harwain gan ddefnyddwyr o'n gwasanaethau, a gadewch imi ddechrau trwy ddweud fy mod i wedi sicrhau fy mod i wedi gwneud ymdrech i rili deall profiad pobl sy'n defnyddio'n gwasanaethau iechyd meddwl. Dwi wedi bod yn cyfarfod yn gyson â theuluoedd plant a phobl ifanc sydd yn defnyddio'n gwasanaethau. Fy nod i yw cael darlun cyflawn o brofiad ein defnyddwyr, ac nid jest cadw'r ffocws ar berfformiad amseroedd aros, achos dwi'n meddwl bod gwella ansawdd profiad y defnyddwyr hefyd yn allweddol. Felly, nid jest y mater o gyrraedd targedau amserol sy'n bwysig i ni—er fy mod i'n deall bod yn rhaid inni gyrraedd y targedau hynny—ond hefyd rhaid inni ganolbwyntio ar y math o driniaeth maen nhw'n ei derbyn pan fyddan nhw'n cyrraedd brig y rhestr aros.

Er bod ansicrwydd o hyd ynghylch gwir effaith y pandemig ar iechyd meddwl, yr hyn sy'n amlwg yw bod angen delio â'r sefyllfa mewn dull sydd yn aml-asiantaethol, ac mewn dull sy'n deall bod angen ymateb yn sensitif sy'n wahanol i bob unigolyn.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:35, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Nawr, mae'r ddeiseb yn sôn am yr angen i gynyddu'r cyllid ar gyfer materion iechyd meddwl, ac rwy'n falch iawn o adrodd, mewn perthynas â chyllid yn y flwyddyn ariannol nesaf, ein bod wedi sicrhau £42 miliwn arall i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl. Fodd bynnag, dylid ystyried hyn yng nghyd-destun y £780 miliwn a wariwn yn flynyddol ar wasanaethau iechyd meddwl, ac rwyf wedi dechrau gwaith ymchwil manwl i sicrhau ein bod yn gwario'r swm mwy hwnnw ar y pethau priodol.

Mae angen i ni hefyd sicrhau bod y cyllid a roddwn i mewn yn gwneud gwahaniaeth i gleifion, felly mae'n rhaid i ni fod yn ofalus nad ydym yn canolbwyntio'n unig ar faint rydym yn ei roi i gefnogi iechyd meddwl, ond yn hytrach, dylem sicrhau ein bod yn cadw llygad ar y canlyniadau rydym yn eu gweld o ganlyniad i'r buddsoddiad hwnnw. Rwyf wedi bod yn glir yr hoffwn weld yr adnoddau'n symud mwy tuag at atal a chymorth iechyd meddwl cynharach, yn aml cymorth nad yw'n feddygol, ac ailffocysu hynny tuag at anghenion plant a phobl ifanc, lle mae 80 y cant o broblemau iechyd meddwl yn dechrau.

Nawr, mae'r deisebydd hefyd yn sôn am bobl sydd angen cymorth iechyd meddwl mewn argyfwng, ac rwy'n siŵr bod y Pwyllgor Deisebau yn ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddwyd yn gynharach eleni gan y grŵp concordat gofal mewn argyfwng cenedlaethol, a ddadansoddodd y galw am ofal iechyd meddwl mewn argyfwng. Canfuwyd bod 950 o bobl y dydd yng Nghymru yn gofyn am gymorth gan y sector cyhoeddus ar gyfer pryderon iechyd meddwl neu lesiant, ac mae tua 300 o'r rheini ar gyfer argyfyngau. Y broblem yw bod y strwythur presennol sy'n cefnogi'r rhain yn aml yn wasanaethau brys, nad oes ganddynt bob amser wybodaeth ac arbenigedd i ymateb i'r sefyllfa iechyd meddwl benodol, er gwaethaf menter hyfforddi enfawr a gynhaliwyd gan yr heddlu a'r gwasanaethau ambiwlans. A dyna pam ein bod wedi clustnodi £6 miliwn ychwanegol i fynd i'r afael â'r mater hwn sy'n galw am sylw ar frys, yn enwedig mewn perthynas â chymorth y tu allan i oriau.

Ond os yw pobl yn wynebu argyfwng, mae'n golygu bod methiant wedi bod yn y system yn gynharach. O ran iechyd meddwl, mae ymyrraeth gynnar yn gwbl allweddol, ac rwy'n berffaith glir nad yw hyn yn golygu bod yn rhaid iddi fod yn ymyrraeth feddygol bob amser. Y bore yma, siaradais â Chynghrair Iechyd Meddwl Cymru, gan gynnwys Mind, i ddeall a chytuno bod angen ymateb i'r problemau cymdeithasol ac economaidd a all achosi problemau iechyd meddwl, ac sy'n debygol o ddod yn fwy gweladwy wrth inni ddod allan o'r cyfyngiadau symud. A dyna pam rwyf wedi clustnodi £4 miliwn ychwanegol i gynyddu ein gallu i ddarparu ymyrraeth gynnar fwy amserol, gwasanaeth nad oes angen cyfeirio pobl ato drwy feddyg teulu, a gwasanaeth y gellir ei ddarparu y tu allan i'r gwasanaeth iechyd gan grwpiau trydydd sector arbenigol. Felly, y nod yw sicrhau bod amrywiaeth o gymorth ar gael yn hawdd ar gyfer problemau iechyd meddwl lefel isel ledled Cymru, ac adeiladu ar y cymorth rydym eisoes wedi'i roi ar waith yn ystod y pandemig, gan gynnwys therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein.

Nawr, os cawn yr ymyrraeth gynnar yn iawn, byddwn yn osgoi'r gofal mewn argyfwng a fyddai'n angenrheidiol yn ddiweddarach. Ac mae'n bwysig iawn er mwyn ymateb i anghenion newidiol y boblogaeth mewn cyfnod lle cafwyd digwyddiad sydd wedi achosi trawma cymdeithasol, a lle mae'n amlwg fod lefelau uwch o orbryder yn ein poblogaeth.

Mae ysgrifennu rhaglen a sicrhau cefnogaeth yn anodd, a dyna beth rydym wedi ceisio'i wneud gyda 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', ond mae sicrhau bod y partneriaid yn ein helpu i gyflawni hynny a bod gennym gyfrifoldeb yn fwy o her mewn gwirionedd. Ac er mwyn cyrraedd y targedau rydym wedi eu gosod yn ein strategaeth, rwyf wedi sefydlu bwrdd cyflawni a goruchwylio gweinidogol newydd ar iechyd meddwl yng Nghymru, a chyfarfu'r bwrdd am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf. Ac er fy mod yn deall y pwysau ar y system, rwy'n gwbl glir ynglŷn â fy ymrwymiad i hybu cynnydd gwaith sy'n ymwneud ag iechyd meddwl. Felly, rwy'n gobeithio bod yr hyn rwyf wedi'i ddweud heddiw yn rhoi sicrwydd am ein hymrwymiad i anghenion iechyd meddwl sy'n newid, wedi'i ategu gan gyllid ychwanegol sylweddol.

Hoffwn ddiolch i'r bobl a gyflwynodd hyn ger bron y Senedd ac am dynnu sylw at y mater pwysig hwn. Gobeithio y byddwch yn cytuno ein bod wedi ymateb i'r cais am fwy o gyllid a'n bod yn rhoi mesurau clir iawn ar waith i wella amseroedd aros i bobl mewn argyfwng. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:40, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl?

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon, gan gynnwys y Gweinidog am ymateb. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn hefyd i Laura Williams am barhau i ymgyrchu ar y mater hollbwysig hwn. Mae arnom angen i bobl fel Laura barhau i godi llais a dweud wrthym pan gredant fod angen i bethau newid. Hoffwn gofnodi ein diolch i Laura hefyd am ei dewrder yn dweud ei stori bersonol ei hun wrthym.

Felly, o ystyried yr amser byr sydd ar ôl yn nhymor y Senedd hon, Pwyllgor Deisebau yn y dyfodol a'r Senedd nesaf fydd yn mynd ar drywydd y ddeiseb hon yn dilyn y ddadl heddiw. Yn y cyfamser, gwn y bydd staff sy'n gweithio ym maes gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru yn parhau i wneud eu gorau glas dros bobl sydd angen cymorth, ac rwyf am gloi drwy ddiolch yn fawr iddynt hwythau hefyd am y gwaith a wnânt. Rhaid inni eu cynorthwyo i gyflawni ein nodau gorau. Diolch yn fawr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:41, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cynnig yw nodi'r ddeiseb. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, felly, derbynnir y ddeiseb yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.