– Senedd Cymru ar 17 Mawrth 2021.
Eitem 9 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru, adolygiad o gyflogau'r GIG. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig. Rhun.
Cynnig NDM7655 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn condemnio argymhelliad Llywodraeth y DU i Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG am godiad cyflog cwbl annigonol o 1 y cant i nyrsys a staff eraill y GIG a fyddai'n golygu toriad mewn termau real yn eu cyflogau.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau pellach i Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG yn cefnogi galwadau penodol yr undebau llafur a chyrff eraill sy'n cynrychioli staff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru am godiad cyflog teg a haeddiannol i adlewyrchu'r aberth a wnaed yn ystod y pandemig.
3. Yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddarparu setliad cyflog a chadw diwygiedig ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys isafswm gwarantedig o £10 yr awr i weithwyr gofal i ddod â'r gwahaniaeth presennol rhwng iechyd a gofal i ben.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i agor y ddadl yma a chyflwyno'n ffurfiol y cynnig yn enw Siân Gwenllian. Faint ohonom ni sydd wedi dweud 'diolch' dros y flwyddyn ddiwethaf? Faint ohonom ni sydd wedi sefyll ar garreg drws yn curo dwylo?
Faint ohonom sydd wedi cofio dros y flwyddyn ddiwethaf pa mor bwysig yw dweud 'diolch' wrth y rhai sy'n gweithio mor anhunanol ar draws y sectorau iechyd a gofal i ofalu amdanom? Faint ohonom sydd wedi meddwl a sylweddoli nad digwydd ohono'i un y mae gofal? Rydym yn derbyn gofal oherwydd bod pobl—ein ffrindiau a'n cymdogion, pobl y cawsom ein magu gyda hwy, rhai yr aethom i'r ysgol gyda hwy—wedi penderfynu ymrwymo eu bywydau proffesiynol i ofalu fel nyrsys ac fel ffisiotherapyddion a gofalwyr yn y cartref a meddygon a therapyddion lleferydd ac iaith, ac mae'n rhestr mor hir, ni allwn byth mo'u henwi i gyd; llu o broffesiynau iechyd.
Ond mae'n rhaid i ddweud 'diolch' fod yn gymaint mwy na gweithred wrth fynd heibio. Ac felly, rydym yma heddiw yn sôn am rywbeth a ddylai fod yn cael ei dderbyn yn ganiataol. Dylai fod yn digwydd yn gyson: tâl ariannol teg am yr ymrwymiad, y gwaith caled, yr ymroddiad, y llafur, ac fel y dywedais, yr anhunanoldeb llwyr a ddangoswyd gan weithwyr iechyd a gofal ar unrhyw adeg, heb sôn am y flwyddyn COVID eithriadol hon a aeth heibio.
A gaf fi ddweud yma pa mor falch yr oeddwn o glywed y cyhoeddiadau hynod gyd-ddigwyddiadol yn gynharach heddiw gan Lywodraeth Cymru ynglŷn ag (a), sicrhau bod arian ar gael i gefnogi parhad talu'r cyflog byw gwirioneddol ar draws y GIG—unwaith eto, rhywbeth a ddylai fod yn digwydd yn ddigwestiwn; a (b), ariannu bonws i'r holl staff GIG a gofal, taliad net o tua £500 i'r rhan fwyaf, ac wrth gwrs, rwy'n croesawu unrhyw wobr a ddangosir am eu gwaith. Maent yn haeddu pob ceiniog. Ond gadewch imi fod yn glir y dylai tâl ariannol teg gael ei ymgorffori'n gadarn yn niwylliant ein gwasanaethau iechyd a gofal bob amser, ac na ddylent gael eu setlo drwy fonws untro. Ac er yn ddiolchgar am y cyhoeddiad, bydd blas braidd yn chwerw wedi'i adael ar ôl gan y ffaith bod hyn wedi'i wneud, a bod yn onest, oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi'i gwthio i gornel—gan gynnig gan Blaid Cymru yn y Senedd, fel y mae'n digwydd—ac felly'n teimlo rheidrwydd i wneud rhywbeth.
Does dim rhaid i mi egluro llawer am gynnwys y cynnig ei hun. Rydyn ni'n condemnio cynnig Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi codiad cyflog pitw o 1 y cant i nyrsys—dwi'n gweld y Gweinidog yn chwerthin; o bosib gaiff o egluro yn y munud am beth mae o'n chwerthin. Rydyn ni'n condemnio cynnig Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi codiad cyflog pitw o 1 y cant i nyrsys a staff eraill y gwasanaeth iechyd, fyddai’n golygu toriad mewn termau real yn eu cyflogau nhw, er mwyn ei gwneud hi'n gwbl glir na fyddwn ni'n derbyn setliad felly yma. Rydyn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau pellach i gorff adolygu cyflogau'r gwasanaeth iechyd, yn cefnogi cyflog teg i staff. Rydyn ni hefyd yn ehangu'r cynnig i gynnwys staff gofal. Mae Plaid Cymru eisiau integreiddio iechyd a gofal drwy wasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol. Mi fyddwch chi wedi fy nghlywed i'n siarad am hynny o'r blaen, ac mi wnaf i eto dros yr wythnosau nesaf, wrth i'r etholiad nesáu. Un o ganlyniadau hynny fydd dod â staff gofal i mewn i'r un graddfeydd cyflog â staff iechyd dros amser. Mae'r cynnig yma'n galw am wireddu cam cyntaf hynny o sicrhau uchafswm cyflog o £10 yr awr yn syth i weithwyr gofal i ddechrau cau'r gwahaniaeth.
Felly, mae'r nod yn fan hyn yn syml iawn. Mi fyddwch chi i gyd, dwi'n meddwl, wedi derbyn e-bost gan Goleg Brenhinol y Nyrsys heddiw yn dweud eu bod nhw'n croesawu'r ddadl yma heddiw. Felly, dwi eisiau diolch iddyn nhw am gydweithio â mi dros fy nghyfnod i fel llefarydd iechyd Plaid Cymru, a dwi eisiau diolch, wrth gwrs, i'w haelodau nhw i gyd am eu gwaith drwy'r cyfnod diweddar. Mae'r e-bost hwnnw'n gofyn i ni i gyd fel Aelodau: beth ydyn ni'n mynd i'w wneud er mwyn dangos ein gwerthfawrogiad go iawn, a dangos ein cefnogaeth i setliad cyflog iawn ar gyfer ein staff iechyd a gofal ni? Un peth allwch chi wneud ydy cefnogi'r cynnig yma heddiw. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar Angela Burns, felly, i gynnig gwelliannau 1 a 3 yn enw Mark Isherwood. Angela Burns.
Gwelliant 3—Mark Isherwood
Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl 'Lywodraeth nesaf Cymru' a rhoi yn ei le
'i:
a) gweithredu argymhellion y corff adolygu cyflogau;
b) cyflwyno setliad cyflog a chadw diwygiedig ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol;
c) creu pecyn cymorth iechyd meddwl sylweddol ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol sy'n dioddef o effaith y pandemig.
Diolch i chi am eich ateb, Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliannau 1 a 3, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Mark Isherwood. Mae staff ein gwasanaeth iechyd gwladol, a'r rhai sy'n darparu gofal cymdeithasol i bobl Cymru, wedi bod ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn lledaeniad COVID-19. Maent wedi cadw gwasanaethau hanfodol i fynd, wedi dal dwylo na allai teuluoedd eu cyrraedd, wedi gweld marwolaeth a dioddefaint ar raddfa sy'n gysylltiedig fel arfer â gwrthdaro, ac wedi cefnogi cleifion a chydweithwyr tra'u bod o dan y pwysau mwyaf dwys. Rwy'n cydnabod eu gwaith caled.
Rwyf hefyd yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru allu i wobrwyo staff iechyd a gofal cymdeithasol yn briodol, a dyna pam fy mod yn ystyried gosodiad agoriadol y ddadl hon yn rhyfeddol gan Blaid Cymru, plaid y mae ei mantra'n dechrau ac yn diwedd gyda mynnu annibyniaeth oddi wrth y DU tra'n gwrthod cymryd cyfrifoldeb cyllidol. Dylent dderbyn ein gwelliant cyntaf, a chydnabod bod cyflogau'r GIG yng Nghymru wedi'u datganoli, a bod Llywodraeth Cymru wedi cael cynnydd ychwanegol o £2.1 biliwn yn eu cyllideb ar gyfer 2021-22, a bod gan y Llywodraeth allu i'w wario fel y dymunant. Yn wir, yn gynharach heddiw, clywais y Gweinidog cyllid yn honni'n groch nad blwch post ar gyfer penderfyniadau gwariant Llywodraeth y DU oedd Llywodraeth Cymru. Mae £2.1 biliwn yn llawer o bunnoedd, ac rwy'n annog Lywodraeth Lafur Cymru i'w ddefnyddio i gefnogi cynnydd yn nhâl nyrsys. Cofiwch, mae £5.85 biliwn wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ers mis Mawrth y llynedd, gyda £602 miliwn arall eto i'w ddyrannu. Mae hynny'n llawer o arian, ac mae arian ar gael i ailgydbwyso cyflogau gweithwyr iechyd proffesiynol.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi dweud y byddem yn gweithredu argymhellion y corff adolygu cyflogau yn llawn fel lleiafswm absoliwt, ond i'r rhai sy'n gwrthod clywed, gadewch imi ddweud hynny eto: os mai ni fydd yn ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gweithredu argymhelliad y corff adolygu cyflogau fan lleiaf. Byddai hynny'n cyd-fynd â'n hymrwymiad i gyflwyno setliad cyflog a chadw diwygiedig ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys polisi recriwtio, cadw ac ailhyfforddi, a lleiafswm cyflog o £10 yr awr i staff gofal.
Nodaf y bonws arfaethedig i staff heddiw ac rwy'n llawenhau bod Llywodraeth Cymru o'r diwedd wedi dysgu sut i gyfrifo treth. A oes unrhyw obaith y bydd gweithwyr gofal cartref, nad ydynt wedi cael digon o dâl gan Lafur, yn cael arian ychwanegol? Ac a yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hymateb i'r bwrdd adolygu cyflogau eto? Mae hyn yn hanfodol, oherwydd mae bonws i'w groesawu, ond nid yw'n cynnwys codiad cyflog o flwyddyn i flwyddyn.
Ar ddechrau fy nghyfraniad, soniais am y gwasanaeth eithriadol a gyflawnwyd gan gynifer, ond mae'r gwasanaeth eithriadol hwnnw wedi achosi straen di-ben-draw, ac mae wedi effeithio ar iechyd meddwl pobl. Rydym yn cydnabod hynny, a byddwn yn gweithio gyda'r staff, cyflogwyr, undebau a cholegau brenhinol i greu pecyn cymorth iechyd meddwl sylweddol ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol sy'n dioddef o effaith y pandemig.
Rwy'n cymeradwyo ein gwelliannau i'r Siambr, a Lywydd, os caf, gan mai hon fydd fy nadl olaf mae'n debyg ar y pwnc iechyd hwn, hoffwn ddweud diolch wrth y staff iechyd a gofal cymdeithasol allan yno. Rwy'n cydnabod eich ymrwymiad a'ch gwaith caled, ac rwyf am ddweud diolch o galon gennyf fi, gan y bobl rwy'n eu caru rydych wedi'u helpu eleni, gan fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig a fy etholwyr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Diolch.
Dai Lloyd. Na, mae'n ddrwg gyda fi. Y Gweinidog yn gyntaf i symud yn ffurfiol y gwelliant yn enw Rebecca Evans.
Gwelliant 2—Rebecca Evans
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi nodi'r safbwynt gwahanol i undeb llafur y GIG o ran yr hyn y credant sy'n godiad cyflog teg a fforddiadwy ac wedi cyflwyno sylwadau pellach i Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG i gadarnhau nad oes cap mympwyol wedi'i bennu.
Yn credu y dylai'r cyrff adolygu cyflogau adrodd yn annibynnol ar dâl sy'n deg ac yn fforddiadwy.
Yn cydnabod bod GIG Cymru yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol, bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Cyflog Byw Gwirioneddol fel lleiafswm cyfradd gyflog i weithwyr gofal cymdeithasol ac wedi sefydlu'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol sy'n edrych ar sut y gellir gwella telerau ac amodau yn y sector.
Yn cydnabod bod un o themâu allweddol 'Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol' yn canolbwyntio ar wobrwyo a chydnabod staff yn deg.
Yn ffurfiol, Lywydd.
Diolch. Dai Lloyd nesaf.
Diolch, Lywydd. Codaf o blaid cynnig Plaid Cymru—dim syndod yno—yn enwedig pwynt 1, sydd:
'Yn condemnio argymhelliad Llywodraeth y DU i Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG am godiad cyflog cwbl annigonol o 1 y cant i nyrsys a staff eraill y GIG a fyddai'n golygu toriad mewn termau real yn eu cyflogau.'
Dyna bwynt 1 cynnig Plaid Cymru, ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef. Ac ymhellach, rwy'n llwyr gondemnio gwelliant y blaid Geidwadol ac unoliaethol yma heddiw sy'n ceisio dileu'r pwynt 1 hwn yn gyfan gwbl. Yn amlwg, Lywydd, fe fyddwch yn ymwybodol o fy nghefndir meddygol—efallai fy mod wedi cyfeirio ato unwaith neu ddwy dros y blynyddoedd—ac mae gennyf aelodau o'r teulu sy'n gweithio yn y GIG heddiw. Mae cydweithwyr yng Nghymdeithas Feddygol Prydain, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a'r Coleg Nyrsio Brenhinol i gyd wedi mynegi pryderon enfawr am y codiad cyflog gwarthus hwn, a phryderon enfawr hefyd am gyhoeddiad cyllideb Llywodraeth y DU sy'n dadfuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn anwybyddu gofal cymdeithasol.
Ar ôl y flwyddyn bandemig rydym i gyd wedi'i chael, mae staff gofal a staff y GIG wedi blino, wedi ymlâdd, yn ddig ac yn brifo. Maent yn ysgwyddo cyfrifoldebau enfawr bob dydd dros faterion bywyd a marwolaeth, ac mae'n anodd amgyffred y lefel honno o gyfrifoldeb oni bai eich bod wedi teimlo'n bersonol eich hun yr arswyd llwyr hwnnw sy'n eich llyncu pan fydd eich penderfyniad meddygol—eich penderfyniad chi—wedi arwain at rywbeth yn mynd o'i le, gan niweidio person arall hyd at golli bywyd hyd yn oed. Ac mae mor eithriadol o brysur yn awr, ni allwch gynllunio'n ofalus na gofyn i'r rhai uwch eich pen os nad ydynt ar gael; nid oes gennych unrhyw reolaeth dros yr hyn sy'n digwydd. Roedd y gwasanaethau iechyd dan bwysau cyn y pandemig. Mae nyrsys a meddygon yn cael eu gyrru gan ymdeimlad dwfn o wasanaeth a dyletswydd tuag at eu cleifion, ond gall clefyd galwedigaethol fel COVID fod yn brawf difrifol ar gymhelliant. Mae cannoedd o staff y GIG a staff gofal wedi marw ledled y DU, a channoedd yn rhagor wedi'u llorio gan COVID hir.
Ac roedd cyfarpar diogelu personol yn gwbl annigonol yn y dyddiau cynnar, ac roedd y staff yn gwisgo bagiau bin i'w diogelu, gan beryglu eu bywydau a bywydau cleifion. Pan fydd staff yn marw oherwydd eu bod wedi dal COVID yn y gweithle fel clefyd galwedigaethol, ni all eu teuluoedd hawlio eu costau angladd. A chynnig cyflog gwarthus ar ben hynny i gyd. Gan fod Llywodraeth y DU wedi stocio degau o filiynau o eitemau o gyfarpar diogelu personol na ellid eu defnyddio, wedi'u cynhyrchu gan gwmnïau heb unrhyw brofiad yn y maes, gyda chontractau gwerth miliynau'n cael eu cynnig i ffrindiau'r Llywodraeth heb eu craffu a heb brofiad mewn cyfarpar diogelu personol, canfu'r Uchel Lys fod Llywodraeth Geidwadol ac unoliaethol y DU wedi torri'r gyfraith, ac wedi anwybyddu cwmnïau â phrofiad a gallu i ddarparu cyfarpar diogelu personol.
A'r £37 biliwn a wariwyd ar system brofi ac olrhain y DU, system breifat a sefydlwyd o ddim ochr yn ochr â'r hyn sydd gennym eisoes a hynny ynghanol pandemig, gan ddefnyddio pobl heb unrhyw brofiad ym maes iechyd a gofal. Hynny yw, beth allai fynd o'i le? Nid yw'r system £37 biliwn wedi gwneud unrhyw wahaniaeth yn ôl Aelodau Seneddol yn ddiweddar. Mae ystafell friffio newydd i'r wasg sy'n werth £2.6 miliwn newydd gael ei dadorchuddio yn Stryd Downing, a pheidiwch â sôn am gyflogau ac amodau staff gofal, oherwydd rwy'n dod at y diwedd, Lywydd—fe'ch gwelaf yn bryderus yno—oherwydd dyna bwynt 3 ein cynnig.
Yn olaf, mae staff iechyd yn gweld y cyfan rwyf wedi'i amlinellu. Maent yn gwybod hyn oll. Ni chânt eu twyllo gan glapio ffuantus Gweinidogion, ac mae'r codiad cyflog arfaethedig o 1 y cant yn dangos i staff cymaint y mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn gwerthfawrogi eu haberth anghredadwy. Peidiwch â diystyru'r dicter cyfiawn—cytunwch ar godiad cyflog priodol.
Mae fy mywyd blaenorol fel swyddog Unsain yng Nghymru yn hysbys iawn, ac rwy'n dal i fod yn falch iawn o'r ffaith fy mod yn rhan o'r tîm negodi a weithiodd mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur Cymru i gyflwyno'r cyflog byw i'r GIG yng Nghymru, cyn gweddill y DU, ar adeg pan oedd cymheiriaid yn y GIG yn Lloegr yn mynd ar streic yn erbyn Llywodraeth Dorïaidd anhyblyg y DU nad oedd am barchu argymhellion y corff adolygu cyflogau. Rwyf hefyd yn ddigon hen i gofio pam y sefydlwyd Corff Adolygu Cyflogau'r GIG. Daeth yn sgil anghydfod cyflog chwerw ar ddechrau'r 1980au ac roedd yn ymgais i edrych ar dâl yn annibynnol ac i dynnu gwleidyddiaeth allan ohono. A gweithiodd hynny'n dda, tan i Lywodraeth Dorïaidd y DU, unwaith eto, benderfynu ar bolisïau cyni a dod â gwleidyddiaeth yn ôl i mewn drwy ymyrryd ag annibyniaeth y corff adolygu cyflogau, a mynnu nad oeddent yn cynnig mwy nag 1 y cant, waeth beth fo'r dystiolaeth a allai eu harwain at gasgliad gwahanol. Wel, mae hanes yn ailadrodd ei hun, onid yw, oherwydd, unwaith eto, mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi dweud ei bod ond yn barod i ariannu cynnydd o 1 y cant, ni waeth pa dystiolaeth a gyflwynir i'r corff adolygu cyflogau a'r hyn y mae'n ei argymell. Mae hyn yn warthus, o ystyried beth mae'r GIG a gweithwyr rheng flaen eraill wedi bod drwyddo dros y flwyddyn ddiwethaf, felly rwy'n falch bod y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru wedi nodi'n glir iawn mewn tystiolaeth i'r corff adolygu cyflogau na ddylid cael cap mympwyol ar y cynnig a wneir i weithwyr y GIG; dylai fod yn gynnig sy'n adlewyrchu eu gwerth i'r wlad, a rhaid i Lywodraeth y DU ei ariannu'n llawn. Wedi'r cyfan, fel y mae Dai Lloyd eisoes wedi bod yn dweud wrthym, maent wedi dod o hyd i arian yn ystod y pandemig hwn ar gyfer llawer o bethau eraill: biliynau ar gyfer system olrhain wedi'i phreifateiddio ond sydd wedi methu i raddau helaeth; codiad cyflog sylweddol i Dominic Cummings; ac a yw'n dal i fod yn dri ffotograffydd swyddogol i'r Prif Weinidog? Ac wrth gwrs, £2 filiwn ar gyfer ystafell y wasg yn Stryd Downing. Ac ar y pryd, roedd gweithwyr y GIG yn gweithio ymhell y tu hwnt i'w dyletswydd yn achub bywydau ac yn ein cadw'n ddiogel. Gwnaethant achub bywyd y Prif Weinidog Boris Johnson hyd yn oed, ac fe fu yntau'n curo dwylo cyn cau'r drws yn glep arnynt. Mae cynnig cyflog o 1 y cant yn warth ar y rhai a wnaeth y penderfyniad hwnnw, ond rwy'n gobeithio y cânt eu cywilyddio i wneud yn well, oherwydd fe allwn ni wneud yn well, fel y mae ein Llywodraeth yng Nghymru wedi dangos heddiw drwy gyhoeddi bonws o £500 i holl staff y GIG a gofal cymdeithasol, i gydnabod eu hymdrechion yn ystod y pandemig.
Lywydd, a gaf fi ddweud hefyd fy mod yn falch nad yw Llywodraeth Cymru, yn wahanol i Lywodraeth y DU, wedi anghofio'r gweithlu gofal cymdeithasol a'i bod yn gweithio gydag undebau llafur a'r sector i sicrhau gwelliannau i bobl sy'n gofalu am ein hanwyliaid pan fyddant fwyaf agored i niwed? Yn fy mhrofiad i, gwn y bydd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, y Gweinidog iechyd a'r undebau llafur yn cydweithio i ddangos bod Cymru'n genedl decach, yn genedl a fydd yn gwobrwyo'r rhai a'n helpodd drwy'r adegau mwyaf tywyll yn diweddar. Ond gadewch inni beidio â'i gwneud yn hawdd i Lywodraeth y DU am un funud. Hwy sy'n dal llinynnau'r pwrs ar gyfer hyn, a rhaid eu dwyn i gyfrif a'u gwneud i dalu. Bydd gweithredu'n siarad yn llawer uwch nag unrhyw eiriau.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Rwyf am ddechrau drwy wneud rhywbeth nad wyf fel arfer yn ei wneud, sef dyfynnu geiriau person arall, ac rwy'n mynd i ddyfynnu geiriau Helen, sy'n nyrs o Lanelli. Rwy'n ei hadnabod hi a'i gwaith ers amser maith. Mae wedi anfon negeseuon e-bost ataf ynglŷn â nifer o faterion gofal iechyd, ond hoffwn ddyfynnu'n fyr rai o'r pethau y mae'n eu dweud am gyflogau nyrsys: 'Ar gyflogau nyrsys, mae angen herio gwybodaeth anghywir a ffugio ffeithiau am godiadau cyflog blaenorol a bod y mwyafrif llethol o nyrsys ar gyflogau o dros £30,000 fel y mae Llywodraeth San Steffan yn ei bedlera. Yn achos llawer o nyrsys, hwy yw'r prif enillwyr cyflog yn eu teulu, ac nid yw eu hincwm yn eilradd i un y gŵr. Nid dim ond yn ystod argyfwng COVID y mae'r rhai sy'n darparu iechyd a gofal cymdeithasol mewn gwasanaethau sylfaenol, eilaidd ac annibynnol wedi bod yn gwasanaethu ein cymuned' meddai. 'Mae sefyll y tu allan a chlapio cyn cynnig codiad cyflog is na chwyddiant yn sarhaus. Bydd cadw staff iechyd a gofal yn hanfodol i ddiwallu anghenion y rhai sydd wedi wynebu oedi mewn diagnosteg a thriniaethau, ac nid yw 1 y cant pitw yn cynnig llawer o gymhelliant i aros yn y byd nyrsio.' Mae hi'n dweud wedyn, 'Rwy'n ymddiheuro am ei dweud hi, ond mewn 40 mlynedd nid wyf erioed wedi gweld morâl mor isel ac nid wyf fi'n bersonol erioed wedi teimlo fy mod yn cael fy sarhau a fy niraddio i'r fath raddau.'
Nawr, fel y dywedais, rwy'n adnabod Helen, ac mae ei hymrwymiad a'i hymroddiad wedi bod yn ysbrydoledig, ac mae clywed cymaint y mae'n teimlo ei bod wedi'i diraddio a'i sarhau yn fy ngwneud yn gandryll. Ac mae cannoedd o Helenau ym mhob un o'n hetholaethau—miloedd ohonynt ym mhob un o'n hetholaethau a'n rhanbarthau ledled Cymru. Nid yw recriwtio nyrsys, wrth gwrs, erioed wedi bod yn broblem fawr iawn. Mae cymaint o bobl sy'n barod i wasanaethu ac sy'n barod i hyfforddi, er bod yna heriau. Ond mae cadw nyrsys wedi bod yn broblem ers amser maith, ac mae nifer o resymau am hyn. Mae diffyg hyblygrwydd yn un ohonynt; mae prinder cyfleoedd i gamu ymlaen mewn gyrfa yn un arall. Ond mae cyflogau isel yn rhan o'r darlun hwn. Gan ychwanegu at y straen bron yn annioddefol o weithio o dan amodau COVID, rwy'n wirioneddol bryderus y byddwn yn gweld y nyrsys hyn a gweithwyr proffesiynol medrus eraill yn llifo allan o'n GIG i waith asiantaeth, neu allan o iechyd a gofal yn gyfan gwbl, wedi'i achosi gan amodau gwaith annioddefol a sarhad enfawr y cynnig cyflog hwn ar y diwedd. Mae hynny'n fy ngwneud yn wirioneddol bryderus ynghylch cynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau. Gwyddom fod angen i ni ddarparu mwy o wasanaethau yn agos at gartrefi pobl, ond os nad yw'r gweithwyr proffesiynol gennym, sut y gallwn gadw ysbytai fel Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli neu Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro i fynd a darparu'r gwasanaethau rhagorol a gynigir ganddynt?
Felly, beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i hyn? Wel, y bonws—mae croeso mawr iddo, ond nid pat achlysurol ar y cefn y mae'r staff iechyd a gofal y siaradais â hwy yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli ei eisiau. Yr hyn y mae arnynt ei eisiau a'i angen yw cyflog teg am ddiwrnod teg o waith, wythnos ar ôl wythnos. Ac ymateb y Llywodraeth i'n cynnig? Wel, y 'dileu bron bopeth, ac mae popeth rydym yn ei wneud yn iawn' arferol. Wel, nid yw'n iawn. I mi, Lywydd, dyma enghraifft arall eto o pam y gallai datganoli fod yn well na dim byd o gwbl, ond pam hefyd nad yw'n ddigon. Credaf yn gryf fod y rhan fwyaf o bobl Cymru am weld ein staff iechyd a gofal yn cael eu talu'n briodol a hynny'n gyson.
Ond er bod iechyd a gofal wedi'u datganoli, mae ein gweithwyr iechyd a gofal yn dal i gael eu tristáu gan rethreg sarhaus Llywodraeth Geidwadol na wnaethom bleidleisio drosti. A hyd yn oed os yw Llywodraeth Cymru am ddarparu setliad cyflog mwy hael, efallai y byddant yn ei chael hi'n anodd fforddio gwneud hynny. Mae Angela Burns yn iawn i ddweud, wrth gwrs, fod hwn yn fater sydd wedi'i ddatganoli, ond mae cwestiynau'n codi ynglŷn ag adnoddau. Mae ein staff iechyd a gofal a'r rhai sy'n defnyddio eu gwasanaethau—pob un ohonom, Lywydd—yn haeddu gwell. Yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, mae angen inni fod yn wlad annibynnol gyda Llywodraeth a all adlewyrchu ein gwerthoedd a'n blaenoriaethau o ddifrif ac yn llwyr—penderfyniadau sy'n effeithio arnom ni a wnaed gennym ni.
Yn y cyfamser, rhaid inni wneud popeth yn ein gallu, gan gynnwys talu o leiaf £10 yr awr i bob gweithiwr gofal. Ar ôl mis Mai, bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud yn union hynny. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig heb ei ddiwygio i'r Senedd.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyfrannu i'r ddadl—Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig gwelliant Llywodraeth Cymru yn enw Rebecca Evans. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am ddewis y pwnc hwn ar gyfer dadl fer heddiw, gan ei bod yn caniatáu i mi ailadrodd barn glir Llywodraeth Cymru ar gyflogau'r GIG, a'r gwrthgyferbyniad uniongyrchol rhyngom ni a Llywodraeth Geidwadol y DU.
Fel y mae llawer ohonoch wedi sôn, rydym yn dweud yn rheolaidd gymaint y gwerthfawrogwn staff ein GIG am eu hymroddiad a'u tosturi, yn enwedig yn wyneb y feirws ofnadwy a diymwared hwn. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn ddi-baid. Mae'r pandemig yn parhau i effeithio'n sylweddol ar gleifion a staff. Rwy'n cydnabod y gofynion corfforol ac emosiynol anhygoel a wynebir gan ein gweithlu o ganlyniad. Maent wedi wynebu niwed er mwyn cadw pob un ohonom yn ddiogel. Fe wnaethom beintio enfysau, fe wnaethom ddiolch ac fe wnaethom guro dwylo yn y strydoedd. Ac ymateb Llywodraeth Geidwadol y DU i gydnabod y gwasanaeth eithriadol hwnnw yw ymgais i gyfyngu codiad cyflog y GIG i 1 y cant. Mae'n anghredadwy. Gall Llywodraeth Geidwadol y DU ddod o hyd i arian trethdalwyr i'w chwistrellu dros ymgynghorwyr preifat ar brofi ac olrhain yn Lloegr; y cwestiynau heb eu hateb ar gyfarpar diogelu personol a'r llwybr i'r breintiedig; tîm o ffotograffwyr ar gyfer y Prif Weinidog; ac ystafell newydd ar gyfer briffio'r cyfryngau rydym eisoes wedi clywed amdani heddiw. Ac eto, o ran y GIG, mae'r coffrau'n wag. Ni ddylai neb fychanu'r ymdeimlad o ddicter a brad y mae staff y GIG yn ei deimlo. Mae'n gic yn y dannedd gan y Torïaid. Rwy'n deall cryfder teimladau staff a'u cynrychiolwyr yn yr undebau llafur. Cyfarfûm ag undebau llafur, fel y gwnaf yn rheolaidd, ddydd Gwener ar ôl cyhoeddiad Llywodraeth y DU, a chlywais drosof fy hun pa mor siomedig a chlwyfedig y teimlant.
Rwyf wedi bod yn glir iawn ers y cyhoeddiad hwnnw gan y Torïaid nad yw'r Llywodraeth hon o dan arweiniad Llafur Cymru wedi gosod cap mympwyol ar gyflogau'r GIG. Ysgrifennais at gyrff adolygu cyflogau'r GIG ar 11 Mawrth i gadarnhau nad ydym wedi gosod cap ar gyflogau'r GIG. Rydym am gael cyngor annibynnol gan gyrff adolygu cyflogau ar godiad teg a fforddiadwy i weithwyr y GIG yma yng Nghymru, yn unol â'r cylch gorchwyl a osodais ym mis Ionawr. Mae'r cyrff adolygu cyflogau i fod i adrodd ym mis Mai, a bydd yn rhaid i staff y GIG a'r cyhoedd benderfynu a ydynt am gymeradwyo dirmyg y Torïaid tuag at ein GIG yn y blwch pleidleisio. Ni allai'r gwrthgyferbyniad â blaenoriaethau a gweithredoedd Llafur Cymru fod yn gliriach. A gwneir y taliadau bonws a gyhoeddwyd heddiw yn ychwanegol at ddyfarniad cyflog teg, nid i gymryd lle hynny. Roeddwn yn falch o gadarnhau'r taliad hwn heddiw ar ôl wythnosau o waith gyda'n rhanddeiliaid, ac mae'n amlwg yn chwerthinllyd i awgrymu bod y bonws rywsut yn ymateb munud olaf i'r cynnig hwn.
Rwyf yr un mor falch bod GIG Cymru yn gyflogwr cyflog byw, ac amlinellodd Dawn Bowden ei rôl fel swyddog undeb llafur yn negodi hynny gyda Llywodraeth dan arweiniad Llafur Cymru, ac yn ddiweddar rwyf wedi penderfynu gweithredu'r gyfradd cyflog byw gwirioneddol newydd o £9.50 yr awr ar gyfer staff ein GIG o 1 Ebrill. Mesur dros dro yw cyllid Llywodraeth Cymru i gyflawni hyn wrth i ni aros am argymhellion y corff adolygu cyflogau newydd. Mae gennym ymrwymiad ers amser maith i'r cyflog byw gwirioneddol fel lleiafswm cyfradd gyflog ar gyfer ein gweithlu gofal cymdeithasol. Ddoe, nodais ein gwaith ar dalu am ofal a'n blaenoriaeth i godi cyflogau staff gofal cymdeithasol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau gwelliannau hirdymor i'r sector sy'n cynnwys datblygiad cyflog ac mae hwnnw'n mynd y tu hwnt i'r lleiafswm hwn.
Mae gofal cymdeithasol yn gymhleth, gyda dros 1,000 o gyflogwyr a gwasanaethau ar draws y sector preifat, y trydydd sector a'r sector cyhoeddus. Mae cyflwyno gwelliannau hirdymor yn golygu bod angen i ni weithio mewn partneriaeth, a dyna pam y gwnaethom sefydlu fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol. Mae cyflog yn ystyriaeth allweddol ar gyfer gofal cymdeithasol, ond felly hefyd y mae trefniadau, telerau ac amodau cytundebol da yn y broses o greu sector sefydlog lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Nid ydym am weld cyflwyno cyflog gwell a gaiff ei wrthbwyso wedyn gan delerau ac amodau gwaeth. Comisiynir y rhan fwyaf o'r gofal a'r cymorth, ac mae'r trefniadau presennol yn tueddu i arwain at gyflogau isel, lleiafswm cyflog ar gyfer ein gweithlu rheng flaen. Dyna pam ein bod yn cynnig dull gweithredu newydd yn ein Papur Gwyn, 'Ailgydbwyso gofal a chymorth'. Ac ynddo, rydym yn nodi sut y bydd fframwaith cenedlaethol newydd yn sicrhau y dylai ansawdd a gwerth, yn hytrach na phris, ddod yn benderfynyddion llwyddiant allweddol mewn marchnad sy'n darparu gofal.
Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw ac anfon neges glir i ddangos faint rydym yn gwerthfawrogi ein staff, a neges glir i'r Blaid Geidwadol hefyd.
Rhun ap Iorwerth nawr i ymateb i'r ddadl. Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch i'r Gweinidog am ei ymateb i'r ddadl yma ac i bawb sydd wedi cymryd rhan—i Dai a Helen am atgyfnerthu'r hyn sydd yn y cynnig yma o'n blaenau ni heddiw. Diolch i Aelodau o bob plaid a Llywodraeth sydd wedi datgan, fel mater o egwyddor, pa mor bwysig ydy hi ein bod ni yn gwobrwyo ein staff yn iawn ac yn eu talu nhw yn iawn o fewn iechyd a gofal. Ond, wrth gwrs, beth rydym ni yn ei wneud sydd yn bwysig yn y pen draw, yn hytrach na beth rydym ni yn ei ddweud. Dwi'n croesawu geiriau llefarydd y Ceidwadwyr, eto, yn cefnogi cyflogau teg. Ond, ar yr un pryd, dwi yn sicr yn cytuno efo Dawn Bowden ynglŷn â track record gywilyddus y Ceidwadwyr yn San Steffan o ran cyflogau a thelerau ac amodau i staff iechyd a gofal, a'r cynnig 1 y cant pitw yma ar gyfer staff yn Lloegr, wrth gwrs, ydy'r cefndir ar gyfer y cynnig yma sydd o'n blaenau ni heddiw.
Tra'n cyfeirio at y sylwadau gan Angela Burns, hefyd mi lwyddodd hi i droi hyn yn rhywbeth ynglŷn â chyfansoddiad ac annibyniaeth, yn dweud ein bod ni'n chwilio am annibyniaeth i Gymru ond ddim yn fodlon cymryd cyfrifoldeb ffisgal. Os caf i gywiro a dweud, yn llythrennol, gofyn am gyfrifoldeb ffisgal ydym ni drwy fynnu annibyniaeth i Gymru, er mwyn gallu rhoi iechyd a gofal a'r holl wasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru ar seiliau mwy cadarn.
Fel rydym ni'n ei ddweud, beth rydym ni'n ei wneud sy'n bwysig yn fan hyn, ac wrth gwrs mae gweithred fel cynnig bonws i staff iechyd a gofal yn rhywbeth mae Llywodraeth yn gallu ei wneud fel one-off, ac mae o'n dâl fydd yn cael ei werthfawrogi, heb os, gan staff sydd wedi blino ar draws iechyd a gofal. Ond fel dywedodd yr RCN y prynhawn yma:
Gadewch i ni fod yn glir: nid bonws COVID-19 untro yw'r codiad cyflog mawr a sylweddol y buom yn galw amdano ar gyfer ein staff nyrsio. Yr hyn rydym am ei gael gan Lywodraeth Cymru yw ymrwymiad i sicrhau cyflog teg am nyrsio, cyflog teg sy'n mynd i'r afael â'r 1,600+ o swyddi gwag yng Nghymru, cyflog teg sy'n annog nyrsys i aros yn y proffesiwn a chyflog teg sy'n sicrhau y darperir gofal rhagorol i gleifion.
Dyna yr ydym ni eisiau ei ddelifro o fewn iechyd a gofal yng Nghymru, ac rydym ni eisiau sicrhau bod ein staff gofal ni yn cael eu gwobrwyo am eu gwaith nhwythau. Mae gwelliannau'r Llywodraeth yn tynnu hynny allan o'r cynnig yma heddiw. Mae'r Llywodraeth yn dweud eu bod nhw eisiau talu cyflog byw go iawn, ond yn tynnu oddi wrth ein cynnig ni yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud mewn Llywodraeth, o gynnig lleiafswm o £10 yr awr i weithwyr gofal. Peidiwch â phleidleisio, Aelodau Llafur, dros eich gwelliant chi heddiw. Wedi'r cyfan, wrth groesawu datganiadau o egwyddor gan Aelodau o bob plaid yn y Senedd heddiw ar wthio am gyflog gwell i staff iechyd a gofal, dwi'n eich gwahodd chi i gefnogi cynnig sydd yn mynnu hynny. Felly, dyma fi'n eich gwahodd chi unwaith eto: cefnogwch y cynnig yma heddiw, efallai.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly fe adawn ni y cynnig yna tan y cyfnod pleidleisio.
Rydym ni'n cyrraedd yr amser pleidleisio nawr, ond fe gymerwn ni doriad byr cyn cychwyn y bleidlais er mwyn paratoi ar gyfer y dechnoleg o hynny. Toriad byr, felly.