– Senedd Cymru am 3:59 pm ar 17 Mawrth 2021.
Eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar ddeiseb P-05-1056, 'Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru', a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i gyflwyno'r cynnig—Janet Finch-Saunders.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar ran y Pwyllgor Deisebau. Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Osian Jones ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ar ôl casglu 5,386 o lofnodion. Mae'n codi mater sy'n peri pryder sylweddol mewn llawer o gymunedau ledled Cymru: argaeledd tai am brisiau sy'n fforddiadwy i bobl leol, yn enwedig i bobl ifanc sy'n ceisio dod o hyd i eiddo yn y gymuned y maent wedi'u magu ynddi. Dywed y deisebwyr mai'r cyd-destun i'r ddeiseb hon yw nifer yr ail gartrefi a chartrefi gwyliau mewn llawer o ardaloedd gwledig a thwristaidd yng Nghymru, sy'n lleihau'r stoc dai sydd ar gael ac yn codi prisiau tai.
Mae hwn yn fater o bryder gwirioneddol mewn llawer o gymunedau, ac yn un y gwn ei fod wedi cael ei drafod yn aml yn y Senedd. Mae'r deisebwyr yn tynnu sylw at y ffaith bod hon yn broblem arbennig o gronig mewn rhai mannau oherwydd lefel yr anghydraddoldeb rhwng incwm lleol, yn enwedig ymhlith y rhai sy'n dymuno prynu cartref cyntaf, a gallu ariannol pobl sy'n ceisio prynu ail gartrefi, cartrefi gwyliau neu fuddsoddi mewn eiddo. Er bod hon yn duedd hirdymor, mae'r deisebwyr yn honni bod sawl ffactor wedi gwaethygu'r broblem yn ddiweddar. Mae'r rhain yn cynnwys twf Airbnb a gwasanaethau tebyg, yn ogystal â newidiadau mwy diweddar a achoswyd gan bandemig COVID-19. Mae'n ymddangos bod y newid i weithio gartref ar raddfa fwy eang yn debygol o gael effeithiau parhaol, gan gynnwys, fel y clywsom yn y ddadl flaenorol, newid hirdymor yn nifer y bobl sy'n gweithio o bell.
Mae'r deisebwyr yn cyfeirio at enghreifftiau o bentrefi fel Abersoch yng Ngwynedd, lle mae cymaint o eiddo bellach yn gartrefi gwyliau neu'n ail gartrefi fel ei fod yn cael sgil-effeithiau ar gynaliadwyedd ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Maent hefyd yn mynegi pryder am yr effaith y bydd y newidiadau hyn yn ei chael ar y Gymraeg, a chymeriad a chynaliadwyedd cymunedau, yn enwedig oddi allan i'r tymor gwyliau.
Hoffwn bwysleisio bod y deisebwyr yn derbyn nad yw hwn yn fater syml i fynd i'r afael ag ef; maent wedi dweud wrth y Pwyllgor Deisebau eu bod yn deall nad oes atebion cyflym na syml i'r pryderon hyn. Yn eu gohebiaeth fanwl â'r pwyllgor, maent wedi cydnabod bod diwedd tymor y Senedd hon yn prysur agosáu ac y byddai angen ymgynghori a chraffu ar lawer o'u gofynion cyn y gellid eu gweithredu. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi gwneud pwyntiau tebyg yn ei hymatebion ei hun i'r ddeiseb.
Fodd bynnag, mae'r deisebwyr yn pwysleisio bod angen ymdeimlad o frys i ddechrau mynd i'r afael â'r problemau hyn. Maent wedi amlinellu'r camau y credant eu bod yn angenrheidiol yn y tymor byr ac yn hirdymor. Yn hirdymor, maent yn galw am ddiwygio deddfwriaethol—Deddf eiddo i Gymru—a fyddai'n darparu rheolaeth gymunedol ar y farchnad dai drwy gyfrwng yr awdurdodau lleol. Yn y cyfamser, maent yn galw am drafodaethau ystyrlon gydag awdurdodau lleol gyda'r nod o baratoi ar gyfer hyn ac i rannu arferion da. Mae'r deisebwyr yn cyfeirio at gynllun Simple Lettings yn Sir Gaerfyrddin fel un o'r rheini.
Mae'r Gweinidog hefyd wedi cyfeirio at enghreifftiau, megis y ffordd y mae rhai cynghorau'n gwneud defnydd llawn o'r pŵer i godi premiymau'r dreth gyngor ar ail gartrefi, er enghraifft, Cyngor Sir Penfro, sydd wedi defnyddio'r enillion i gefnogi ymddiriedolaethau tir cymunedol. Fodd bynnag, oherwydd eu barn am frys y sefyllfa, mae'r deisebwyr yn dadlau bod angen cymryd camau pellach ar unwaith. Maent yn croesawu'r cynnydd yng nghyfradd y dreth trafodiadau tir ar gyfer ail gartrefi, ond yn cwestiynu pam nad yw'n fwy nag 1 y cant. Maent yn galw am ddiwygio'r rheolau ar gyfer cofrestru ail gartrefi fel eiddo masnachol, megis drwy gynyddu nifer y diwrnodau y mae'n rhaid eu gosod, er mwyn galluogi mwy o gynghorau i godi premiwm y dreth gyngor heb golli refeniw. Ac yn olaf, maent yn galw ar y Llywodraeth i roi cyngor brys i awdurdodau lleol ynghylch proses y cynllun datblygu lleol er mwyn pwysleisio eu hawliau i bennu amddiffyniadau mewn rhai cymunedau neu i ddefnyddio cymalau perchnogaeth leol.
Hoffwn nodi nifer o ddatganiadau diweddar a gwaith arall gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn sy'n ceisio cydnabod bod problem yn bodoli. Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi ystyried datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Gweinidog sy'n pennu cyfeiriad teithio, yn ogystal ag adroddiad diweddar gan Dr Simon Brooks o Brifysgol Abertawe, sy'n craffu ar bolisi presennol ar ail gartrefi. Rwyf hefyd wedi cyfeirio o'r blaen at newidiadau i'r dreth trafodiadau tir a phremiymau'r dreth gyngor. Y brif ddadl a wneir gan y deisebwyr yw nad yw'r camau hyn yn mynd yn ddigon pell er gwaethaf y croeso sydd iddynt. Maent yn galw ar y Llywodraeth i wneud mwy i ddangos ei hawydd i fynd i'r afael â'r broblem hon, ac i helpu i sicrhau bod pobl yn gallu fforddio cartref yn eu cymuned eu hunain.
I gloi, credaf y byddem i gyd yn cydnabod na fydd modd datrys y problemau sy'n cael sylw yn y ddeiseb hon drwy un ateb syml. Fodd bynnag, credaf fod y deisebwyr wedi argymell camau ymarferol i'w hystyried, ac rwy'n gobeithio y gall y ddadl hon fod yn gam ymlaen tuag at ystyriaeth bellach o beth arall y gellir ei wneud. Diolch yn fawr.
Mae'r sefyllfa ail gartrefi mewn rhai mannau o Gymru yn argyfyngus. Mae hon yn ddadl rŷn ni wedi dod gerbron y Senedd ar gymaint o achlysuron dros y blynyddoedd a misoedd diwethaf, ac mae'r sefyllfa yn un sydd yn gwaethygu. Hyd yn hyn, yn rhy aml, ymateb Llywodraeth Cymru ydy dweud bod angen mwy o ymchwil. Wel, mae hen ddigon o ymchwil wedi digwydd erbyn hyn nes ein bod yn mynd bron yn flinedig. Heb os, y prawf cliriaf o'r angen i weithredu ydy'r dystiolaeth ar lawr gwlad ac effaith ddinistriol problem sydd heb ei daclo yn rhy hir. Mae'r prawf yn y 5,000 o bobl sydd wedi arwyddo'r ddeiseb yma sydd yn gwybod yn iawn beth yw realiti y sefyllfa, a'r prawf ydy pobl sydd ddim yn gallu fforddio tai yn eu cymunedau nhw eu hunain. Dirprwy Lywydd, rwy'n cynrychioli Dwyrain De Cymru yn y Senedd hon, ac mae hon yn broblem ar gyfer trigolion fy ardal i hefyd. Dydw i ddim yn derbyn nad problem Cymru gyfan ydy hon. Mae gorddefnydd, di-reolaeth o ail gartrefi yn effeithio ar gymunedau ledled Cymru. Symptom o wladwriaeth sy'n sylfaenol anghyfartal ydy hwn, ac mae Cymru yn gaeth i'r broblem.
Dydyn ni ddim yn disgwyl i'r Ceidwadwyr gytuno, ond fe ddylai unrhyw Lywodraeth sosialaidd wybod bod sefyllfa lle mae 67,000 o bobl ar restr aros am dŷ, tra bod eraill yn gallu fforddio sawl tŷ, ddim yn iawn. Dylai hyn ein hysgogi ni i gyd i wneud rhywbeth ar frys, dim mwy o ymchwil. Beth sy'n syfrdanol yw nad yw Llywodraeth Cymru, er gwaetha'r geiriau cynnes rŷn ni wedi'u cael—dŷn nhw ddim wedi rhoi unrhyw arwydd clir o'r datrysiadau y byddan nhw'n eu rhoi ar waith. Mae gennym ni lawer o argymhellion, a chytunwn gyda deisebwr y ddeiseb hon bod yn rhaid rhoi rhagor o rymoedd i'n hawdurdodau lleol ym maes cynllunio—mae hynny'n rhywbeth allweddol—fel y mae Cyngor Gwynedd a sawl awdurdod lleol arall o dan arweiniad Plaid Cymru yn eu gwneud.
Ond gwaith Llywodraeth ydy gweithredu argymhellion a chreu newid, ac mae gan ddarpar-Lywodraeth Plaid Cymru gyfan gynllun gweithredu cynhwysfawr, wedi ei gyhoeddi ym mis Medi y llynedd, yn barod i fynd ar ôl yr etholiad ym mis Mai. Mae hynny'n cynnwys newid dosbarthiadau defnydd cynllunio, ei gwneud yn ofynnol i gael caniatâd cynllunio cyn trosi tŷ annedd yn ail gartref, dyblu'r premiwm ail gartrefi eto, a chau'r bylchau yn y gyfraith sy'n caniatáu i rai beidio talu'r un geiniog o dreth ar rai ail gartrefi, a dod â thai o fewn cyrraedd pobl leol. Aros fyddwn ni i'r Blaid Lafur wneud rhywbeth, unrhyw beth cadarnhaol am y peth, felly mae'n rhaid pleidleisio dros newid mewn Llywodraeth ym mis Mai. Allwn ni ddim aros i San Steffan rannu cyfoeth yn deg a chreu gwlad fwy cydradd. Dyw e ddim am ddigwydd.
Mae angen newid yn y ffordd rŷn ni'n ystyried tai, buaswn i'n ei ddweud, i gloi, Dirprwy Lywydd. Nid llefydd ydyn nhw. Nid adeiladau gwag. Nid buddsoddiad. Lloches ydy tŷ. Lle i atgyfnerthu cymunedau. Fe ymddengys taw dim ond un blaid sydd eisiau gwireddau dyheadau pobl am aros yn eu cymunedau, a Phlaid Cymru ydy'r blaid honno.
Diolch yn fawr i Osian Jones a Chymdeithas yr Iaith am drefnu'r ddeiseb ac i bawb ddaru ei llofnodi hi. Mae sicrhau tai addas yn y llefydd iawn ar gyfer pobl leol yn allweddol. Yng Ngwynedd ar hyn o bryd, mae yna tua 160 o unigolion, sy'n gyplau ac yn deuluoedd hefyd, wedi eu lleoli mewn llety dros dro anaddas am nad oes ganddyn nhw ddim cartref iawn. Mae dros 2,000 o drigolion Gwynedd wedi cofrestru cais am dŷ cymdeithasol. Mae'r amser cyfartalog sydd angen ei ddisgwyl cyn cael tŷ cymdeithasol yn gyson dros 400 diwrnod. Mae llawer iawn o fy ngwaith achos i yn ymwneud â phobl leol yn byw mewn tai a fflatiau anaddas a thamp, mewn tai lle mae yno ormod o bobl, teuluoedd ifanc yn gorfod rhannu cartrefi eu rhieni, a rhai, wrth gwrs, ar y stryd.
Ochr arall y geiniog ydy tai moethus sy'n wag am rannau helaeth o'r flwyddyn. Mae'r stoc tai lleol yn crebachu wrth i eiddo gael ei brynu fel ail gartrefi neu ar gyfer llety gwyliau byr. Yng Ngwynedd erbyn hyn, mae yna 7,000 o ail gartrefi neu lety gwyliau yn y sir—11 y cant o'r stoc. Ar gyfartaledd, pris tŷ yng Ngwynedd yw £155,000. Gydag incwm cyfartalog o £26,000, y gymhareb fforddiadwyedd incwm i brisiau tai yn y sir yw 5.9:1. Mae hyn yn golygu, ar gyfartaledd, fod 60 y cant o bobl leol yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai.
Mae gan Blaid Cymru set o fesurau pwrpasol fyddai'n dechrau mynd i'r afael â'r argyfwng tai. Mae nifer o fudiadau, gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith, yn cyfeirio at fesurau priodol y gellid eu rhoi ar waith. Mae Simon Brooks hefyd wedi sôn am y math o bolisïau sydd angen eu rhoi ar waith. Mae yna gonsensws bod angen diwygiadau i bolisi a deddfwriaeth cyllid a diwygiadau i bolisi cynllunio, ond beth sydd yn gynyddol amlwg ydy mai dim ond un plaid sydd yn bwriadu gweithredu ar y polisïau yma. Geiriau gwag sydd yn dod gan Weinidogion Llafur. Mae'r broblem yn gymhleth, medden nhw. Wel, dydy'r ffaith bod rhywbeth yn gymhleth ddim yn esgus digon da dros beidio â gweithredu dros gymunedau.
Mae cynllun tai uchelgeisiol Cyngor Gwynedd yn dangos beth sy'n bosib dan arweiniad Plaid Cymru wrth i'r cyngor fwrw ati i greu stoc newydd o dai ar gyfer pobl y sir, efo premiwm yr ail gartrefi newydd yn cyfrannu at dalu am y cynllun yma. Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud hyn: 'Nid yw'r farchnad agored yn gweithio er budd cymunedau Cymru, a dyma sydd wrth wraidd yr argyfwng. Yr unig fodd y gallwn ddatrys y broblem, mewn gwirionedd, fydd drwy ddeddfu i drawsnewid polisi tai fel ei fod yn blaenoriaethu cartrefi nid cyfalaf.' Cymdeithas yr Iaith sydd yn dweud hynny, a dwi'n cytuno.
Mae angen i'r Aelod ddirwyn i ben yn awr neu fe fydd hi'n atal Aelodau eraill rhag siarad.
Dwi yn dod i ben, Dirprwy Lywydd. Mae yna fesurau y gellid eu rhoi ar waith yfory nesaf, efo'r ewyllys—
Na, na, rydych chi ymhell dros yr amser, felly os gallwch orffen gydag un frawddeg gyflym iawn, os gwelwch yn dda.
Yr ewyllys sydd ar goll ac, yn y cyfamser, mae'r argyfwng tai yn dwysáu a'n cymunedau ni yn gwegian.
Diolch. Mark Reckless.
Diolch, a diolch i'r Cadeirydd am gyflwyno'r ddadl. Rwy'n sicr yn meddwl, gyda chefndir y Cadeirydd, ei bod yn gwneud cryn dipyn i hyrwyddo byw mewn ardaloedd twristaidd yng Nghymru. Nid wyf yn siŵr a yw hynny ar gyfer ail gartrefi neu brif gartrefi, ond rhoddodd ddisgrifiad da iawn o'r ddeiseb hefyd yn fy marn i, sy'n fwy manwl nag a ddeallais o ddarllen y disgrifiad ysgrifenedig byrrach a gawsom. Siaradodd Siân yn awr am yr amgylchiadau penodol yng Ngwynedd a chyfeiriodd at gymhareb enillion a phrisiau tai o 5.9, ond y cyfartaledd ar gyfer y DU gyfan yw 8. Clywsom gan Delyth am anawsterau penodol gydag ail gartrefi a chartrefi gwyliau yn ne-ddwyrain Cymru a gynrychiolir gan y ddau ohonom, ond o edrych ar y data swyddogol, dim ond mewn nifer fach iawn o wardiau y ceir y berchnogaeth honno ar raddfa fawr yn ein rhanbarth.
Ac os edrychwch ar ardaloedd gwledig, byddwn yn dweud bod problem wedi bod ar draws rhannau helaeth o Ewrop mewn gwirionedd ers o leiaf ganrif o ran diboblogi gwledig, ac mae rhai o'r ardaloedd hynny wedi gweld lefelau cynyddol o berchnogaeth ail gartref, yn rhannol am fod rhai pobl yn gadael yr ardaloedd ond yn cadw eiddo yno, tra'n byw mewn mannau eraill hefyd. Ac rwy'n credu bod llawer o berchnogion ail gartrefi'n cael eu gwneud yn fychod dihangol, ac rydym wedi gweld rhywfaint o hynny yn ystod argyfwng COVID. Ond yma hefyd, mae geiriad y ddeiseb ysgrifenedig yn dweud bod prisiau y tu hwnt i gyrraedd pobl oherwydd bod yr holl berchnogion ail gartref hyn yn dod i mewn. Rwy'n siŵr bod hynny'n digwydd mewn rhai ardaloedd lleol penodol, ac rwy'n credu bod tai cymdeithasol, wedi'u gosod ar rent a rhanberchenogaeth, lle mae'n rhaid iddynt fod yn brif breswylfa, yn un ffordd o liniaru hynny. Ond mae ystod ehangach o faterion yn codi. Mae'n debyg bod y syniad y bydd awdurdodau lleol rywsut yn gallu rheoli'r farchnad dai yn dilyn trafodaethau brys gyda Llywodraeth Cymru yn afrealistig. Mae ystod eang o ddylanwadau economaidd yn digwydd ar y farchnad dai, ac mae llywodraeth leol ac eraill yn dylanwadu ar y farchnad honno mewn amrywiaeth o ffyrdd. Yng Ngwynedd, yr enghraifft a roddwyd, lle rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'r deisebwyr yn byw, mae llawer o bobl yn dweud yr hoffent gadw eu prif breswylfa, eu bod wedi tyfu i fyny yno, ond mewn gwirionedd, prinder cyfleoedd cyflogaeth sy'n arwain pobl, mewn llawer o achosion, i adael yr ardal, ac yna mae rhai o'r tai hynny wedyn yn cael eu prynu gan berchnogion ail gartrefi.
Yn yr un modd, yng Ngwynedd, ceir polisi addysg Gymraeg lle ceir 100 o ysgolion prif ffrwd, ac mae'n dweud eu bod i gyd yn ddwyieithog, ond mewn gwirionedd, pan fyddant yn dweud dwyieithog, dyna sut y maent yn ei ddisgrifio; mewn mannau eraill yng Nghymru credaf y byddem yn galw'r rheini'n ysgolion cyfrwng Cymraeg. Yn ogystal, mae ganddynt bolisi o beidio â rhoi gwersi Saesneg i bobl nes eu bod yn saith neu wyth oed. Ac os ydych yn yr ardal honno a bod llawer o swyddi lle mae'r Gymraeg yn hanfodol mewn mannau eraill yng Nghymru, yna i raddau anghymesur bydd pobl sy'n dysgu Cymraeg yn yr ardaloedd hynny drwy'r ysgolion hynny—efallai y bydd nifer uwch o'r rheini'n symud i gymryd y swyddi hynny lle mae'r Gymraeg yn hanfodol mewn mannau eraill. Yn yr un modd, os oes gennych bobl sydd am gael addysg cyfrwng Saesneg i'w plant, ac nad ydynt yn gallu ei chael yng Ngwynedd—mae ganddynt eu prif breswylfa yno a chawsant eu dysgu drwy'r Saesneg eu hunain—bydd rhai o'r bobl hynny wedyn yn symud oddi yno, ac ni fydd ganddynt brif breswylfa yno mwyach, ac mae rhai o'r cartrefi hynny unwaith eto'n cael eu prynu gan berchnogion ail gartrefi. Bydd pobl eraill, sydd efallai'n symud i mewn o ardal drefol mewn mannau eraill, dros amser, yn awyddus i symud yno'n barhaol, ond mewn rhai achosion ni fyddant yn symud yno'n barhaol fel prif breswylfa nes bod eu plant wedi gorffen yr ysgol, oherwydd mae'n dipyn o rwystr i bobl ei oresgyn i'w plant orfod dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Ac rwy'n gwybod bod yna bum canolfan iaith Gymraeg lle mae pobl yn mynd am ddau i dri mis o drochi, ond nid yw hynny'n gweithio wedi blwyddyn 9, ac efallai y bydd llawer o bobl yn dewis peidio â gwneud hynny.
Felly, rwy'n credu bod angen i gyngor Gwynedd ac eraill hefyd edrych ar eu polisïau a'r effaith y maent yn ei chael—er yr hoffwn fod yn glir yn Diddymu ein bod yn credu y dylai awdurdodau lleol allu penderfynu ar eu polisïau ar gyfer y Gymraeg yn yr ysgol, ac rydym yn credu y dylid cael cyllid ar gyfer ysgolion rhydd i roi dewis i bobl a rhieni os ydynt yn dymuno gwneud penderfyniad gwahanol. Ond rwy'n credu bod hwn yn faes cymhleth. Rwy'n dymuno'n dda i'r deisebwyr, ond nid wyf yn credu ei bod yn iawn inni wneud perchnogion ail gartrefi'n fychod dihangol, ac rwy'n amheus y bydd y sefyllfaoedd y maent yn poeni amdanynt yn cael eu datrys gan y polisïau a gynigir.
Diolch am roi munud neu ddwy imi wneud cyfraniad byr—ac a gaf fi ddiolch i Osian Jones am drefnu'r ddeiseb? Yr hyn rwyf am ei wneud yw tynnu sylw at un o'r problemau sy'n ein hwynebu, sef y bwlch yn y gyfraith rwyf wedi sôn amdano droeon yma ac mewn mannau eraill, bwlch sy'n caniatáu i berchnogion ail gartrefi gofrestru eu cartrefi fel busnesau, ac wrth wneud hynny, osgoi talu'r dreth gyngor, ac osgoi talu unrhyw beth o gwbl trwy'r system rhyddhad ardrethi busnes.
Yr hyn sydd gennyf yw copi o gylchlythyr y perchnogion ar gyfer Mawrth 2021 gan Menai Holiday Cottages Limited, sydd bellach yn eiddo i Sykes, un o'r cwmnïau llety gwyliau mwyaf yn y DU, ac mae un o'r penawdau'n sôn am godi'r dreth ar ail gartref yng Ngwynedd. Os darllenwch ymlaen, fe welwch hyn, 'Ym mis Ebrill 2021, bydd y premiwm treth ar ail gartrefi yng Ngwynedd yn codi i 100 y cant'. Wedyn mae'n esbonio bod 'yn awr yn adeg well na'r un i ystyried cofrestru eich ail gartref fel llety gwyliau wedi'i ddodrefnu er mwyn hawlio gostyngiad yn y dreth'. Nawr, nid yw'r e-bost hwnnw'n annog neb i dorri'r gyfraith; wedi'r cyfan, fel rwyf wedi dweud droeon, bwlch yn y gyfraith sy'n ei gwneud yn llawer rhy hawdd yn fy marn i, i eiddo gael ei gofrestru fel busnes llety gwyliau, gan arwain at dalu dim trethi lleol. A chofiwch, mae llawer o'r rhai sydd wedi mynd drwy'r broses honno wedi derbyn taliadau o filoedd lawer o bunnoedd o iawndal COVID eleni.
Rwy'n credu ei fod yn eithaf gwarthus; yma gwelwn un o fusnesau llety gwyliau mwyaf y DU yn mynd ati'n weithredol i annog perchnogion ail gartrefi i osgoi talu trethi lleol—y math o beth sy'n creu anghydraddoldebau cynyddol yn y sector tai. Fe'i gwnaf yn eithaf clir: mae llety gwyliau yn rhan bwysig o'n cynnig twristiaeth mewn lleoedd fel fy etholaeth i. Mae busnesau twristiaeth lleol sy'n cael eu rhedeg yn dda yn gwneud cyfraniad mawr i'r economi a dylid eu cefnogi. Yn wir, clywais am hyn gan berchennog busnes twristiaeth a oedd yn flin iawn am y peth. Mae bwlch yn y gyfraith, mae'n tanseilio ein stoc dai ac mae angen ei gau.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, Eluned Morgan.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am y gwaith ar y mater yma. Wrth nodi'r cynnig, dwi'n ymwybodol iawn o'r teimladau cryf, yn enwedig mewn rhai rhannau o Gymru, am ail gartrefi. Mae'n amlwg bod rhai o'r teimladau hyn yn fwy dwys o ganlyniad i Brexit, y pandemig ac, fel y nodwyd yn y ddeiseb, o ganlyniad i'r niferoedd sy'n rhentu trwy Airbnb.
Dwi'n siŵr y bydd Aelodau'r Senedd yn ymwybodol ein bod ni wedi cyhoeddi yn ddiweddar adroddiad Dr Simon Brooks ar y mater yma, ac mae'r adroddiad yn rhannu ein safbwynt ni bod hwn yn faes cymhleth, dyw hi ddim syml, ac nad oes yna un ateb i fynd i'r afael â'r broblem. Rŷn ni wedi gweithredu eisoes yn y maes yma, a dwi'n meddwl ei bod hi'n annheg i Siân Gwenllian ddweud nad ydyn ni wedi. Enghraifft o hyn yw cynyddu'r dreth ar drafodiadau tir. Ond rŷn ni wedi gwneud pethau eraill hefyd. Mae sawl agwedd i'r heriau yma: yr economi, twristiaeth, maes cynllunio a pha mor gynaliadwy mae ein cymunedau ni, yn arbennig ein cymunedau Cymraeg eu hiaith. Ers y pandemig, rŷn ni wedi gweld a chlywed pryderon cynyddol am yr effeithiau y gallai nifer uchel o ail gartrefi eu cael ar rai o'n cymunedau ni, yn enwedig y cadarnleoedd Cymraeg yna.
Fe wnaeth adroddiad Dr Brooks nifer o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, ond mae'r adroddiad hefyd yn annog awdurdodau lleol i ystyried y pwerau sydd eisoes ganddyn nhw ac i ddefnyddio'r darpariaethau presennol hynny. A dwi yn gobeithio, o ganlyniad i ddarllen yr adroddiad hwn, ein bod ni i gyd wedi cael gwell dealltwriaeth o'r pwerau sydd gyda ni. Gobeithio y bydd Delyth Jewell, er enghraifft, yn nodi yn adroddiad Dr Brooks y byddai fe'n anghytuno nad yw hon yn broblem sydd yn genedlaethol, ei bod hi yn nodweddiadol yn lleol, ac mae lot o ystadegau gydag e yn dangos hynny.
Mae pwerau cynllunio wedi eu cyfeirio atyn nhw yn y ddeiseb ac yn adroddiad Dr Brooks. Y cyfraniad allweddol mae ein system cynllunio yn ei wneud i'r ffordd mae marchnadoedd tai lleol yn gweithio yw sicrhau bod cyflenwad digonol o safleoedd ar gael ar gyfer cartrefi i bobl lleol. Mae hyn yn gyfrifoldeb ar yr awdurdodau i asesu anghenion tai eu cymunedau lleol ac i ymateb i'r amgylchiadau penodol yn eu hardaloedd lleol a sicrhau eu bod nhw'n cyflawni'r cyfrifoldebau hyn. Mae hyn yn cael ei wneud mewn rhai awdurdodau eisoes. Er enghraifft, mae gan gynghorau Gwynedd ac Ynys Môn bolisi yn eu cynlluniau datblygu lleol gyda'r bwriad o gyfyngu mynediad i dai marchnad newydd mewn aneddiadau penodedig i bobl lleol. Mae'r polisi yma yn rhan o nodau polisi cymdeithasol ehangach y cynghorau o gynnal a chryfhau cymunedau Cymraeg eu hiaith.
Mae Dr Brooks yn argymell y dylai Gwynedd ac Ynys Môn ymestyn y cynlluniau hyn, a byddai gennym ddiddordeb mewn deall pam nad oes mwy o awdurdodau lleol yn datblygu polisïau lleol i fynd i'r afael â materion lleol, o ystyried y cyfeirio clir sydd yn 'Polisi Cynllunio Cymru'.
Rydym yn ymwybodol iawn o alwadau am newidiadau i ddeddfwriaeth gynllunio i reoli materion sy'n gysylltiedig ag ail gartrefi a llety gwyliau i'w gosod am gyfnodau byr. Er y gall y system gynllunio ddarparu mecanwaith cyflawni pellgyrhaeddol, mae arnaf ofn ei fod yn cyrraedd terfynau ei ddefnyddioldeb ar gyfer ail gartrefi, am fod y system cynllunio gwlad a thref yn rheoli'r defnydd o dir yn hytrach na pherchnogaeth, a gwn fod y Gweinidog llywodraeth leol wedi ymchwilio'n fanwl i hyn. Rwy'n gwybod ei bod wedi ystyried a oes gan y system cynllunio defnydd tir rôl yn rheoli nifer yr ail gartrefi fel rhan o adolygiad cynhwysfawr o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987, ond mae arnaf ofn fod yr adolygiad wedi nodi heriau ymarferol a chyfreithiol sylfaenol gyda diffinio ail gartrefi yn nhermau cynllunio.
Heb ddiffiniad clir o beth yw ail gartref, byddai gorfodaeth yn anodd iawn ac yn creu ansicrwydd, gan wneud deddfwriaeth gynllunio ar y mater hwn yn aneffeithiol, a dyna pam ein bod yn parhau i archwilio sut y gallwn ddiffinio ail gartrefi'n well. Ac mae arnaf ofn na fyddai newid y Gorchymyn dosbarthiadau defnydd, rhywbeth y mae nifer o bobl wedi'i awgrymu, yn opsiwn ymarferol ar gyfer rheoli ail gartrefi—yn rhannol am fod angen i ni wahaniaethu rhwng ail gartrefi a ddefnyddir yn bennaf gan eu perchnogion ac eiddo gwyliau sy'n cael eu gosod ar sail fasnachol, oherwydd mae'r ddau ddefnydd gwahanol yn effeithio'n wahanol ar gymunedau lleol ac felly dylid eu hystyried ar wahân.
Mae'n bosibl y gellid rheoli llety gwyliau i'w osod am gyfnodau byr drwy'r system gynllunio, ond byddai hynny'n galw am newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol. Mae Llywodraeth yr Alban wedi newid ei phrif Ddeddf gynllunio i helpu i fynd i'r afael â mater gosod llety gwyliau am gyfnodau byr, ac rydym yn monitro hyn i weld beth y gallwn ei ddysgu ganddynt. Yn amlwg, mater i bleidiau gwleidyddol fydd penderfynu beth y maent am ei roi yn eu maniffestos a'r hyn a ddaw nesaf. O safbwynt cynllunio, rydym yn glir fod addasu deddfwriaeth sylfaenol i egluro pryd y mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd yn rhywbeth y gellid ei ystyried yn nhymor nesaf y Senedd.
Rwyf hefyd wedi gofyn i'r tîm twristiaeth yn Llywodraeth Cymru ystyried gofyn a allai'r Llywodraeth newydd fod eisiau ystyried sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried y syniad o grwpiau neu gynghorau cymunedol lleol yn prynu cartrefi gwyliau mewn ardaloedd sensitif, eiddo y gallent ei osod ar rent wedyn a rhoi'r arian yn ôl i'r cymunedau hynny drwy gynlluniau tai neu gynlluniau cymunedol, fel mai'r cymunedau eu hunain a fyddai'n elwa. Dyna syniad a grybwyllwyd gan Cynog Dafis yn ddiweddar. Mae'r newidiadau hyn rydym yn gweithio arnynt, gyda'r newid i'r Gorchymyn dosbarthiadau defnydd a chofrestru gorfodol ar gyfer eiddo i'w osod am gyfnodau byr, yn rhywbeth a allai helpu i reoli eiddo ar osod am gyfnodau byr yn ein barn ni. Ac er ein bod eisoes wedi darparu hyblygrwydd sylweddol i ymateb i'r llu o gwestiynau sy'n codi, rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy yn hyn o beth. Ond rwy'n ailadrodd: nid oes un ateb hawdd i'r heriau sy'n ein hwynebu.
Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i adeiladu ar ein hanes cryf o feithrin atebion tai fforddiadwy a nodi'r camau gweithredu mwyaf cytbwys ac effeithiol, sy'n allweddol, i'r heriau presennol. Rydym yn awyddus iawn i sicrhau y gall pobl ifanc barhau i fyw yn eu cymunedau lleol a chryfhau'r cymunedau hyn, a dyna pam mai un o'r pethau rydym wedi'i wneud yn ddiweddar, gan nodi'r pwynt a wnaeth Mark Reckless, yw sicrhau ein bod yn deall y cysylltiad rhwng pobl yn gallu aros yn eu cymunedau lleol a'r economi. Dyna pam y cawsom gynllun gweithredu yn ein cyfarfod bwrdd crwn ar yr economi yr wythnos diwethaf sydd bellach wedi'i ddatblygu i fynd i'r afael â datblygu'r economi yn y cymunedau gwledig. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn mynd i'r afael â'r mater hwn. Rydym eisoes wedi dechrau, ond mae'n amlwg bod mwy i'w wneud, ac rwy'n siŵr y byddwn i gyd am edrych ar hyn yn nhymor nesaf y Senedd. Diolch yn fawr.
Galwaf yn awr ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon heddiw a diolch i'r Gweinidog am ymateb. Hoffwn ddiolch hefyd i'r deisebwyr am ddefnyddio'r broses ddeisebu i dynnu sylw at rywbeth sy'n fater pwysig ac yn destun pryder mawr mewn sawl rhan o Gymru.
O ystyried yr amser byr iawn sydd ar ôl yn y Senedd hon, pwyllgor deisebau yn y dyfodol fydd yn ystyried y ddeiseb yn dilyn y drafodaeth heddiw. Ac er gwybodaeth i'r Aelodau ac aelodau o'r cyhoedd, dyma'r ddegfed ddeiseb ar hugain, a'r ddeiseb olaf i gael ei thrafod yn ystod tymor y Senedd hon. Mae llawer o'r rheini wedi digwydd ers cyflwyno'r trothwy ar gyfer cynnal dadl yn 2017. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, rwy'n gobeithio bod y gallu i drafod deisebau sy'n bwysig i bobl Cymru yn uniongyrchol wedi bod o rywfaint o werth i ddeisebwyr, pobl sydd wedi llofnodi deisebau ac Aelodau o'r Senedd dros y blynyddoedd diwethaf. Hoffwn gloi drwy gofnodi fy niolch ar ran y Pwyllgor Deisebau i bawb sydd wedi siarad yn y dadleuon hyn, ac i'r Pwyllgor Busnes am ein cynorthwyo i allu eu cyflwyno'n amserol. O ystyried pa mor brysur yw agendâu ein Senedd, gwn nad yw hyn bob amser yn hawdd.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r tîm clercio, yr holl dimau sydd wedi ein cynorthwyo yn ystod cyfnod COVID, yn staff y Comisiwn a TG, aelodau'r pwyllgor yn awr ac aelodau blaenorol o'r Pwyllgor Deisebau—fe wyddoch pwy ydych—ac yn olaf, diolch i bawb sydd wedi cyflwyno, llofnodi neu ddarparu tystiolaeth fel arall i'r Pwyllgor Deisebau. Hoffwn eich annog i barhau i wneud hyn. Rwy'n frwd iawn fy nghefnogaeth i'r Pwyllgor Deisebau; rwy'n credu ei fod yn fecanwaith gwych ar gyfer ymgysylltu â Senedd Cymru. Daliwch ati i wneud hynny. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw nodi'r ddeiseb. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, nid wyf yn gweld gwrthwynebiadau. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.