4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: 'Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru'

– Senedd Cymru am 3:46 pm ar 23 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:46, 23 Mawrth 2021

Rŷn ni'n symud ymlaen, felly, i'r datganiad nesaf, sef y datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar 'Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru'. A dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i gyflwyno ei ddatganiad—Lee Waters.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:47, 23 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Ar 19 Mawrth, roeddwn yn falch o gyhoeddi strategaeth drafnidiaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru. Mae'n gosod yr hyn a ystyriwn yn weledigaeth newydd feiddgar ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru dros y ddau ddegawd nesaf. Ac mae cyd-destun y ddogfen yn glir iawn: rydym ni yng nghanol argyfwng hinsawdd, ac mae'n bryd—yn wir, mae'n fater brys—ein bod yn troi'r consensws eang sy'n bodoli nawr o ran gweithredu i fynd i'r afael ag ef yn fesurau ymarferol a radical ar gyfer newid, a dyma'n union y mae'r ddogfen yn ceisio'i wneud.

Gelwir y ddogfen yn 'llwybr newydd', oherwydd mae'n rhaid inni ddilyn llwybr newydd a gwahanol nid yn unig i leihau ôl troed carbon trafnidiaeth yng Nghymru, sy'n cynrychioli tua 17 y cant o gyfanswm ein hallyriadau, ond wrth wneud hynny creu system drafnidiaeth ddibynadwy a fforddiadwy o ansawdd uchel a all gefnogi ffyniant a chydraddoldeb. Dyna pam y mae newid dulliau teithio wrth wraidd ein strategaeth newydd. Ei nod yw mynd i'r afael â'r ddibyniaeth fawr ar geir sy'n ganolog i gymaint o fywyd modern drwy annog llai o deithio mewn ceir a thrwy gefnogi'r seilwaith a'r newidiadau sydd eu hangen i annog cyfran fwy o lawer o deithiau gan fathau cynaliadwy o drafnidiaeth.

Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar dair blaenoriaeth syml: yn gyntaf, lleihau'r angen i deithio; yn ail, caniatáu i bobl a nwyddau symud yn haws o ddrws i ddrws drwy fathau cynaliadwy o drafnidiaeth; ac, yn drydydd, annog pobl i wneud y newid i drafnidiaeth fwy cynaliadwy. Her unrhyw strategaeth newydd yw troi syniadau'n gamau gweithredu—newid y gall pobl ei weld a newid y gall pobl elwa arno. Dyna pam yr ydym ni'n cynnwys targedau clir ac uchelgeisiol ar gyfer cynyddu nifer y teithiau a wneir ar fws, rheilffyrdd ac, ar gyfer teithiau lleol, teithio llesol. Am y tro cyntaf, byddwn yn cynyddu cyfran y teithiau a wneir trwy'r dulliau cynaliadwy hyn o 32 y cant heddiw i 45 y cant erbyn 2040, a byddwn yn mynd ymhellach ac yn gyflymach lle gallwn ni, gan adolygu ac ymestyn y targedau hyn gydag amser er mwyn cefnogi ein taith tuag at y targedau hinsawdd sero-net yr ydym ni wedi'u gosod ar gyfer 2050.

Rydym ni eisoes wedi dechrau gweithio ar y gwaith gwerth £750 miliwn o drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd a fydd yn sylfaen i fetro de Cymru, rydym ni wedi dod â rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a'r gororau yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus, ac rydym ni'n cymryd mwy o reolaeth dros gynllunio ein rhwydwaith bysiau hanfodol, gyda deddfwriaeth newydd yn cael ei pharatoi i'r Llywodraeth nesaf ei hystyried. Ac efallai'r peth yr wyf fwyaf balch ohono: rydym ni yn buddsoddi mewn seilwaith teithio llesol o ansawdd uchel—mae £75 miliwn wedi'i ddyrannu yng nghyllideb Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf, i fyny o'r £5 miliwn a oedd wedi ei neilltuo ar ddechrau tymor y Senedd hon.

Nawr, byddai'r strategaeth hon wedi bod yn hanfodol cyn y pandemig. Ond mae COVID-19 wedi cynyddu'r brys am newid. Oherwydd, yn ogystal â'r tristwch a'r tarfu y mae'r coronafeirws wedi eu hachosi, mae wedi cyflymu llawer o'r newidiadau enfawr sy'n effeithio ar ein cymdeithas a'n heconomi yn sylweddol: bydd newid digidol, ail-lunio canol trefi, yn ogystal â natur gwaith ei hun, yn edrych yn wahanol iawn wrth ddod allan o'r pandemig hwn. Fel y bydd yr Aelodau wedi gweld, nod y strategaeth newydd hon yw sefyll ochr yn ochr â'n fframwaith datblygu newydd, 'Cymru'r Dyfodol', a mentrau fel ein gwaith trawsnewid trefi, wrth gefnogi adferiad ac ail-lunio ein heconomi ar ôl COVID.

Mae hefyd yn ategu'r uchelgais newydd a bennwyd gennym ni, Lywodraeth Cymru, i 30 y cant o bobl ledled Cymru weithio o bell. Yn wir, mae'r strategaeth gyfan wedi'i llunio i raddau helaeth yng nghyd-destun cefnogi Gweinidogion eraill ar draws y Llywodraeth a'r partneriaid ehangach i'n helpu ni i gyd i ddefnyddio trafnidiaeth fel modd o gyflawni ein cyd-flaenoriaethau ehangach.

Fel y gwela'r Aelodau o'r strategaeth, y llinyn euraid arall sy'n rhedeg drwyddo yw tegwch. Nid yw pump ar hugain y cant o bobl yng Nghymru yn berchen ar gar, ac mae gennym ni ddyletswydd i adeiladu system drafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy a dibynadwy o ansawdd uchel i gefnogi pob cymuned yng Nghymru. Yn wir, gall system drafnidiaeth o ansawdd uchel fod yn arf pwysig i helpu i gefnogi adfywio ac i leihau tlodi mewn llawer o gymunedau yng Nghymru sydd wedi cael eu taro'n galed gan 40 mlynedd o ddad-ddiwydiannu, a dyma yr ydym ni'n ei fwriadu.

Mae hyn yn nodi newid sylweddol mewn polisi trafnidiaeth yng Nghymru, Llywydd, un sy'n cydnabod na fydd dychwelyd i'r drefn arferol yn gwneud y tro os oes arnom ni eisiau lleihau allyriadau trafnidiaeth, cyflymu newid dulliau teithio a chyrraedd ein targedau uchelgeisiol ar gyfer newid hinsawdd, yr ydym ni i gyd wedi ymrwymo iddynt. Mae hynny'n golygu newid y ffordd yr ydym ni'n gwneud penderfyniadau buddsoddi ar draws y Llywodraeth. Wrth wraidd ein dull newydd mae'r hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy newydd, sy'n amlinellu trefn newydd o ran blaenoriaethau buddsoddi ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru.

Mae'n amlwg y bydd angen meddwl o'r newydd yng nghyd-destun y strategaeth newydd hon a'r hierarchaeth newydd honno. Ni fydd hi'n gyson dychwelyd at fodel rhagweld a darparu o adeiladu ffyrdd fel yr ateb cyntaf i dagfeydd. Yn wir, credaf fod gwaith diweddar comisiwn Burns yn dangos, gyda meddwl, cydweithio ac ewyllys, fod ffordd o greu ateb amgen, cydgysylltiedig. Ond, yn yr un modd, nid yw polisi cyffredinol o beidio ag adeiladu ffyrdd newydd yn ateb ychwaith. Bydd achos dros adeiladu o'r newydd mewn rhai amgylchiadau ac mae'n amlwg y bydd angen cyflawni'r ddyletswydd statudol sydd arnom ni ar hyn o bryd i gynnal y rhwydwaith ffyrdd presennol.

Mae hynny i gyd yn golygu bod angen fframwaith newydd a deallus arnom ni er mwyn ystyried ym mha amgylchiadau y mae seilwaith newydd, gan gynnwys ffyrdd, yn cael ei ddatblygu ledled Cymru yng nghyd-destun ein targedau, y strategaeth newydd a'n hierarchaeth newydd. Ac rwyf wedi gofyn i swyddogion ddechrau gweithio gan ddatblygu'r fframwaith newydd hwnnw a chyfres o fetrigau a all fod yn sail i benderfyniadau ar gyfer seilwaith newydd yn y dyfodol. Byddwn yn gofyn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol weithio gyda ni yn rhan o hyn—a chredaf fod yn rhaid i bwyllgorau'r Senedd nesaf chwarae rhan bwysig wrth lunio'r gwaith hwn hefyd—i ddatblygu consensws ar sut y gellir defnyddio'r metrigau newydd hyn i gyrraedd y targed yr ydym ni i gyd wedi ymrwymo iddo o sero-net erbyn 2050.

Llywydd, mae 'Llwybr Newydd' yn llwybr newydd. Bydd cyflawni ein gweledigaeth yn heriol, ond bydd yn werth yr ymdrech, ac rwy'n falch o fod wedi bod â rhan yn hynny. Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:54, 23 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am y briff a roddodd i mi a llefarwyr eraill y gwrthbleidiau yr wythnos diwethaf a diolch i'w swyddogion hefyd am hynny? Mae gennyf rai cwestiynau penodol, yn amlwg, am y strategaeth, ond gwnaf rai sylwadau cyffredinol, oherwydd, wrth gwrs, dyma ddiwedd tymor penodol y Llywodraeth hon.

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:55, 23 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

O ran trafnidiaeth a seilwaith, nid wyf yn credu y byddai'r Dirprwy Weinidog yn synnu imi ddweud nad wyf yn credu bod y Llywodraeth hon wedi cyflawni o gwbl dros bobl Cymru. A sylwais fod y Dirprwy Weinidog wedi mynegi siom dros y penwythnos nad oedd y buddsoddiad o £200 miliwn yr oedd wedi'i gyhoeddi wedi cyrraedd y penawdau newyddion, ond rwy'n dyfalu bod y cyfryngau'n teimlo'r un fath â mi: mae £200 miliwn dros 20 mlynedd yn ddiferyn yn y môr o'i gymharu â'r hyn sydd ei angen, rwy'n credu, i fuddsoddi yn ein rhwydweithiau trafnidiaeth ac annog y newid ymddygiad y mae arno ei eisiau ac yr wyf innau eisiau ei weld hefyd.

Fel Llywodraeth Lafur, mae'n ddrwg gennyf ddweud eich bod wedi methu'n gyson o ran datrys tagfeydd ar yr M4, ar yr A55, ar yr A40. Rydym ni wedi cael 20 mlynedd o drafod ac ymgynghori ond ni chafwyd atebion ymarferol o hyd, ac, er y bu'r Llywodraeth yn petruso ac yn oedi ar unrhyw gynlluniau ystyrlon, mae traffig wedi cynyddu. A chredaf mai un o fethiannau mwyaf y weinyddiaeth hon yw peidio â darparu ffordd liniaru'r M4. Roedd eich pennaeth, Gweinidog yr economi, o blaid ffordd liniaru'r M4; nid oedd eich pennaeth arall, y Prif Weinidog, o blaid. Mae'n ddi-drefn ac yn ddigyswllt, ac, yn y broses honno, mae miliynau a miliynau o bunnoedd o arian y trethdalwyr wedi'i wastraffu. Felly, fe'i gwnaf hi'n glir i'r Dirprwy Weinidog a Llywodraeth Cymru fod fy mhlaid wedi ymrwymo i adeiladu'r ffordd liniaru honno i'r M4 o'r £1 biliwn o arian gan Lywodraeth y DU, ac, os ni fydd y Llywodraeth nesaf yng Nghymru, byddwn yn adeiladu ffordd liniaru'r M4, ac, yn wahanol i'r Llywodraeth Lafur, ni fyddwn yn cefnu ar ein hymrwymiad maniffesto a byddwn yn adeiladu ffordd liniaru'r M4.

Symudaf ymlaen at rai meysydd nawr lle gallaf gytuno â'r Dirprwy Weinidog efallai—gobeithio y gallaf ddod o hyd i rai meysydd y prynhawn yma i wneud hynny. Felly, mae gennyf amrywiaeth o gwestiynau am y strategaeth newydd. Yn sicr, rwy'n credu ei bod hi'n hen bryd cael y strategaeth; credaf i Ieuan Wyn Jones gyflwyno'r strategaeth flaenorol. Cyflwynwyd sawl cynllun o dan y strategaeth honno sydd—. Daeth yr un presennol i ben beth amser yn ôl, felly, yn sicr, mae hi'n hwyr glas o ran cyflwyno cynllun. Rydych chi wedi rhestru tri phwynt, pwyntiau syml iawn, yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw eich hun. Ni allaf i anghytuno â phob un ohonyn nhw, a phe bawn i'n Weinidog nesaf yr economi, byddwn yn hapus i fabwysiadu'r tri phwynt hynny; mae croeso mawr iddyn nhw, o'm safbwynt i.

Fe ddywedoch chi ar ddiwedd eich datganiad heddiw, Dirprwy Weinidog, y byddai cyflawni hynny yn heriol. Cytunaf yn llwyr fod hyn yn arbennig o heriol, yn enwedig y flaenoriaeth gyntaf. Y flaenoriaeth gyntaf, wrth gwrs, yw dod â gwasanaethau i bobl er mwyn lleihau'r angen i deithio. Gallaf gytuno â hynny, ond dim ond meddwl ydw i: 'beth mae hynny'n ei olygu?' Sut fyddwch chi'n cysylltu â chyd-Weinidogion y Llywodraeth ac awdurdodau lleol yng Nghymru ynghylch hynny? Roeddwn yn siarad â rhywun o Fachynlleth y diwrnod o'r blaen y mae'n rhaid iddyn nhw wneud taith gron 60 milltir i fynd â phethau i'w hailgylchu—oherwydd caeodd y cyfleuster ailgylchu ym Machynlleth—yr holl ffordd i'r Drenewydd. Roeddwn yn ymweld ag ysgol Yr Ystog ddoe—cerddais o amgylch y pentref, mae datblygiad tai newydd ar y gweill, mae'r plant i gyd yn cerdded i'r ysgol; yn union fel ar dudalen 10 eich strategaeth, dau blentyn yn cerdded i'r ysgol. Ond sut mae hyn yn mynd i weithio pan fo'r awdurdod lleol yn bwriadu cau'r ysgol honno, felly bydd y plant hynny sydd bellach yn cerdded i ysgol Yr Ystog yn awr yn teithio mewn car neu ar fws i gyrraedd yr ysgol agosaf? Felly, mae hyn yn fater enfawr. Mae dod â gwasanaethau'n agosach at bobl o ran cyfuno systemau cynllunio a systemau iechyd yn waith enfawr, tybed pa fath o gefnogaeth yr ydych chi'n credu sydd gennych gan adrannau eraill o Lywodraeth Cymru a gan awdurdodau lleol. A, Gweinidog, yn eich datganiad, rydych chi'n sôn am yr ymrwymiad i gefnu ar y car a throi at gerdded, ac rydych chi'n sôn am y gyfran bresennol o 32 y cant ac yn codi hynny i 45 y cant—felly, yn uchelgeisiol iawn. Sut gawsoch chi'r ffigur hwnnw? Beth yw eich dadansoddiad? Sut ddaethoch chi at y ffigur hwnnw? A hefyd ffigur 2040—pam y ffigur hwnnw hefyd? Dim beirniadaeth; rwy'n gofyn cwestiwn am y rhesymeg sy'n sail i hynny.

Ac fe wnaethoch chi sôn am gefnu ar y car preifat, a'm cwestiwn i yw: beth mae hyn yn ei olygu i'r Gymru wledig? Wel, rydych chi'n mynd i'r afael â hynny, felly croesawaf hynny yn eich strategaeth. Fe ddywedoch chi drwy gynyddu trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yn y Gymru wledig. Roeddwn yn falch iawn o glywed hynny—'yn enwedig yn y Gymru wledig'. 'Sut ydych chi'n mynd i wneud hynny?', mae'n debyg yw'r cwestiwn. Mae gennych chi gynlluniau bychain yn y strategaeth—

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:00, 23 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

A wnaiff yr Aelod ddirwyn i ben os gwelwch yn dda?

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, Dirprwy Lywydd, fe wnaf i hynny. Sut caiff y cynlluniau bychain hynny eu cyflwyno? A ydych chi'n mynd i fod yn datblygu'r rheini, neu ai'r rheini yw'r cynlluniau terfynol? Ac yn olaf, Dirprwy Weinidog, rydych chi'n sôn am gydgysylltu llawer o'r adroddiad hefyd, sut y cysylltodd eich gwaith ar y strategaeth â Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Lywydd, roedd yna nifer o sylwadau i fynd i'r afael â nhw yn y fan yna, ac mae'n amlwg fy mod yn ymwybodol mai dyma sesiwn olaf ond un y Senedd cyn yr etholiad, ac mae Russell George yn yr ysbryd etholiadol, ac rwy'n amlwg yn ystyried hynny yn fy ymateb. Russell George gwahanol sy'n cadeirio Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau gyda chonsensws mawr, a'r un Russell George a ymrwymodd i adroddiad a ddywedodd na ddylem ni fod yn adeiladu ffyrdd newydd, y dylem ni fod yn cynnal y rhai presennol. Felly, mae ei syniadau wedi datblygu'n eithaf cyflym yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Mae'n dweud nad ydym ni wedi cyflawni dros ei etholwyr, ac rwy'n sicr fy mod yn ei gofio'n croesawu ffordd osgoi'r Drenewydd, ond eto, datblygodd ei feddylfryd yn eithaf cyflym yn yr ychydig flynyddoedd ers hynny hefyd.

Mae'n anghywir dweud bod y £200 miliwn dros 20 mlynedd, nid yw hynny'n wir. Mae ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac rydym ni yn rhoi ein harian ar ein gair. Rydym ni'n buddsoddi yn y blaenoriaethau yn strategaeth drafnidiaeth Cymru ynghylch newid dulliau teithiol. Rydym ni'n blaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, ac rydym ni'n parhau i fynd ati lle mae gennym ni ymrwymiadau ar gyfer cynlluniau adeiladu ffyrdd hefyd. Mae hwn yn ddull cymysg.

Ond mae'n dweud, pe bai'n Weinidog, y byddai'n cyflawni'r tair blaenoriaeth yn y cynllun—cytunodd â'r pwyslais. Ond holl gynsail y cynllun yw cyflawni targedau newid dulliau teithio, yw lleihau'r defnydd o gar. Felly, mae'n cwyno ar y naill law nad ydym ni—. Mae'n dweud bod traffig yn cynyddu, mae'n dweud nad ydym ni wedi adeiladu'r seilwaith, mae'n dweud ei fod yn cytuno â'r cynllun i leihau'r defnydd o geir, ond yna'n ein beirniadu ni am beidio ag adeiladu mwy o ffyrdd. Felly, mae dryswch meddwl yn y fan yna, os nad oes ots ganddo i mi ddweud hynny. Nid yw'r pethau hynny'n gydnaws.

Os ydym ni am gyflawni targed o sero-net erbyn 2050, mae'r dystiolaeth yn glir iawn: rhaid inni leihau'r defnydd o geir. Mae'r ffigurau yn y strategaeth yn ymrwymo i ostyngiad o 5 y cant mewn milltiroedd ceir erbyn 2030. Nawr, mae hynny'n mynd i'r cyfeiriad arall i'r hyn yr ydym ni wedi bod yn teithio iddo, ond nid yw'n arbennig o radical o gofio bod Llywodraeth yr Alban dros yr un cyfnod yn chwilio am ostyngiad o 20 y cant yn y defnydd o filltiroedd ceir. Felly, bydd yn darged heriol i'w gyflawni, ond nid yw mor radical ag y gallasai fod. Buom yn edrych ar amrywiaeth o sefyllfaoedd, ac aethom am y mwyaf ceidwadol o'r sefyllfaoedd. Nawr, p'un a ellir cynnal hynny ai peidio yng ngoleuni'r dystiolaeth wrth i ni symud ymlaen ac wrth i ni gyrraedd ein targedau, bydd angen aros i weld, ond mae'n ein rhoi ar lwybr newydd, a dyna'r peth pwysig. Felly, mae'r ffigurau sydd gennym ni—mae'n gofyn sut y cawn ni'r ffigurau hynny—roedden nhw'n seiliedig ar ddadansoddiad sylweddol a roddwyd i ni o'r gwahanol lwybrau i gyrraedd nodau'r newid hinsawdd, a gwelwyd bod hyn yn gyraeddadwy, yn her, ond yn darged cyraeddadwy i'n cael ar y llwybr cywir.

Mae'n gofyn beth mae'n ei olygu i'r Gymru wledig; wel, rhoddais adroddiad iddo y bu i ni ei gomisiynu ar gyfres benodol o ddadansoddiadau ar gyfer y Gymru wledig a sut beth fyddai hyn, a byddwn yn hapus i ddarparu hynny i'r pwyllgor hefyd, er ei fod ychydig yn hwyr yn y dydd. Ond rwy'n credu ei fod yn dangos ein bod wedi rhoi llawer o ystyriaeth i sut y gallwn ni gyflawni'r llwybr hwn, ond bydd yn her i'r Senedd gyfan. Byddwn yn dweud wrth yr Aelodau, nid oes diben i'r un ohonom ni ymrwymo i dargedau newid hinsawdd ac yna cefnu ar effaith ymarferol y mesurau y mae angen inni eu rhoi ar waith i gyflawni hynny. Mae'n ddigon hawdd i ni geisio bod yn boblogaidd o ran cynlluniau lleol y mae dyheu amdanyn nhw ers tro byd mewn sawl rhan o Gymru, ond os ydym ni eisiau sefyll ar lwybr gwahanol, mae hynny'n golygu cyfres wahanol o ddulliau gweithredu, ac mae angen inni fod yn ddewr yn ein hargyhoeddiadau i ddwyn y maen hwnnw i'r wal. Mae'n ddrwg gennyf fod meddylfryd Russell George wedi datblygu cryn dipyn, os caf i awgrymu hynny, ond rwy'n credu bod ffordd i fynd os yw'n ddiffuant am gyflawni'r targedau y cytunodd â nhw.

Rwy'n credu efallai ein bod ni wedi colli cysylltiad. 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:04, 23 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

A gawn ni droi meicroffon Alun Davies ymlaen? Alun Davies.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, rwy'n croesawu'n fawr y datganiad yr ydych chi wedi'i wneud y prynhawn yma, ac yn croesawu'r cefndir iddo hefyd. Credaf fod y datganiad yn chwa o awyr iach sy'n sicr yn creu gweledigaeth wirioneddol ar gyfer y dyfodol.

Mae tri pheth yr hoffwn eu codi gyda chi ar ôl y datganiad. Ni fydd yn syndod ichi fy mod yn croesawu'n fawr yr arian ar gyfer gwella'r rheilffyrdd ar reilffordd Cwm Ebwy. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn dadlau drosto ac yn ymgyrchu drosto ers peth amser. Mae Llywodraeth y DU wedi cefnu ar ei chyfrifoldebau o ran y rheilffyrdd ers peth amser, ac mae'n dda gweld Llywodraeth Cymru yn camu i'r adwy ac yn gwneud gwaith y DU drosti, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr iawn. Byddai'n ddefnyddiol inni ddeall—efallai fod hyn yn rhywbeth yr hoffech chi ysgrifennu ataf fi ac Aelodau eraill yn ei gylch—sut y gwelwch y £70 miliwn yn arwain at ddatblygiadau pellach ar y rheilffordd dros y blynyddoedd nesaf, gan y gallwn ni bellach weld y symudiad tuag at bedwar trên yr awr, gwelliannau eraill fel yr orsaf yn Abertyleri a materion eraill, a sut y gwelwch chi'r rheilffordd yn datblygu dros gyfnod y Senedd nesaf.

Mae'r ail gwestiwn yn ymwneud â'r diwydiant bysiau. Rwy'n cytuno'n llwyr â dull Llywodraeth Cymru o ran ailreoleiddio bysiau. Credaf fod y dadreoleiddio yn yr 1980au wedi bod yn un o fethiannau mwyaf trychinebus a pharhaol Llywodraethau Thatcher, ond mae'r diwydiant bysiau ei hun yn ddiwydiant sydd ar y dibyn. Rydym ni wedi gweld nifer o wahanol gwmnïau'n methdalu ac yn cael eu rhoi yn nwylo'r gweinyddwyr dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gwario swm enfawr o gyllid ar wasanaethau bysiau. Ac mae'n ddigon posibl nad yw economi bysiau ar hyn o bryd yn gweithio, a byddai'n ddefnyddiol deall sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweld yr ail-reoleiddio yn nhermau economaidd ac nid dim ond o ran gwella gwasanaethau, oherwydd mae'n amlwg bod problem strwythurol yn economi gwasanaethau bysiau ar hyn o bryd y mae angen i ni fynd i'r afael â hi.

A'r cwestiwn olaf yw hwn ar deithio llesol. Cytunaf yn llwyr â byrdwn y polisi yn y maes hwn, ond ni fydd yn syndod i'r Gweinidog—rwyf wedi dwyn hyn i'w sylw o'r blaen—ei bod hi'n llawer haws beicio o amgylch dinas ar wastatir arfordirol nag ydyw i feicio o amgylch Blaenau Gwent ym Mlaenau'r Cymoedd. Lle rwy'n eistedd yma ar hyn o bryd, mae gennyf i allt Sirhywi ychydig i'r dwyrain ohonof, a phe bawn i eisiau ymweld â chofeb Aneurin Bevan, sydd fwy na thebyg rhyw 1.5 km o le rwy'n eistedd ar hyn o bryd, byddai'n golygu dringo bryn eithaf sylweddol i gyrraedd yno, a hefyd i gyrraedd fy archfarchnad agosaf. Felly, sut ydych chi'n sicrhau nad polisi ar gyfer dinasoedd a'r llain gymudo faestrefol yng Nghaerdydd, Abertawe neu Gasnewydd yn unig yw teithio llesol, a'i fod mewn gwirionedd yn rhywbeth y gall y rheini ohonom ni sy'n byw yn y Cymoedd—ac ym Mlaenau'r Cymoedd yn yr achos hwn—ei fwynhau hefyd, oherwydd ar hyn o bryd rwy'n poeni bod y polisi'n canolbwyntio gormod ar y dinasoedd, ac nid yn canolbwyntio digon ar drefi Cymru?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 4:08, 23 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Cyfres dda o gwestiynau heriol yn y fan yna. Rydym ni wrth ein bodd ein bod yn gallu darparu'r £70 miliwn i gyflymu'r broses o ddarparu rheilffyrdd Glynebwy, y gall gwasanaethau o'r diwedd fynd i Gasnewydd yn ogystal ag i Gaerdydd, ac roedd hyn, wrth gwrs, yn un o argymhellion allweddol adroddiad Burns. Rydym ni yn awyddus iawn nad yw adroddiad Burns yn adroddiad sy'n eistedd ar silff, bod gweithredu yn perthyn iddo, bod cyflymder a momentwm yn perthyn iddo. Ac yn y modd hwnnw, rwy'n falch iawn o allu dweud wrth y Senedd heddiw ein bod wedi creu bwrdd cyflawni, a'n bod wedi penodi Simon Gibson yn gadeirydd y bwrdd cyflawni hwnnw i'n dwyn i gyfrif. Yn sicr, nid yw'n ffrind anfeirniadol i Lywodraeth Cymru, ac mae wedi cael ei benodi'n fwriadol fel rhywun a fydd yn sicrhau y byddwn yn gweithredu'n gyflym. Ac rwyf hefyd yn falch iawn o ddweud bod Dr Lynn Sloman, a oedd yn aelod o gomisiwn Burns ac yn ymarferydd blaenllaw ym maes trafnidiaeth gynaliadwy, wedi cytuno i fod yn is-gadeirydd y bwrdd cyflawni hwnnw. Felly, credaf fod y ddau ohonyn nhw yn gyfuniad grymus iawn i sicrhau bod gweithredoedd ac argymhellion adroddiad Burns yn cael eu cyflawni. Rydym yn dechrau gyda phecyn sylweddol o fysiau trydan newydd, teithio llesol ac, wrth gwrs, gyda gwelliant Glynebwy nawr.

Dylwn i hefyd ddweud fod hyn yn gondemniad o Lywodraeth y DU. Nid yw'r seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli. Dylai'r gwelliannau yng Nglynebwy fod wedi'u hariannu gan Lywodraeth y DU. Rydym ni eisoes yn cael ein tangyllido'n fawr, fel y dangosodd y gwaith gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yr wythnos hon ar seilwaith rheilffyrdd, a thros y cyfnod rheoli 10 mlynedd nesaf mae Cymru'n cael £5 biliwn yn llai nag y dylem ni fod yn ei gael gan Lywodraeth y DU. Felly, mae'n codi gwrychyn ein bod, yn ychwanegol at y tangyllido presennol hwnnw, wedi gorfod troi at gronfeydd datganoledig i ariannu darn o waith nad yw wedi'i ddatganoli, ac o gofio'r hyn a ddywedwyd gan y Prif Weinidog yn gynharach am yr ystod o gyfrifoldebau yr ydym ni yn ymhel â nhw i wneud iawn am ddiffyg diddordeb Llywodraeth y DU yng Nghymru, pan fyddant yn dweud wrthym ni, fel Plaid Geidwadol, na fydden nhw bellach yn ariannu gweithgareddau nad ydynt wedi'u datganoli. Felly, dyma enghraifft arall eto lle na fyddai'r Torïaid yn ariannu'r mesur gwella hwn yng Nglynebwy, sy'n gyson â'u safbwynt polisi.

O ran bysiau, mae angen rhaglen ddiwygio sylweddol. Fel y soniais, bydd gan y Senedd nesaf ddrafft gan Lywodraeth Cymru, neu bydd gan Lywodraeth Cymru Fil y gallant ystyried bwrw ymlaen ag ef. Mae'r cynllun bysiau brys a gyflwynwyd gennym ni o dan COVID wedi ein galluogi i wneud cynnydd mawr o ran ein perthynas â'r diwydiant bysiau drwy'r gefnogaeth y bu'n rhaid i ni ei rhoi i atal y sector preifat rhag methdalu. Rydym ni wedi gallu sefydlu perthynas gyfnewidiol â nhw i sicrhau eu bod yn ymrwymo i gynnig pecyn ehangach o gyfrifoldebau am y cyllid y byddant yn ei gael, ac mae Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn dechrau darn o waith sylweddol ar gynllunio sut olwg fyddai ar rwydwaith yn y dyfodol. Felly, mae llawer o waith ar y gweill eisoes, ac mae llawer mwy i'w wneud i sicrhau y gallwn ni gael system drafnidiaeth integredig, y mae cryn sôn amdano. Felly, mae hynny'n rhan annatod o'r pecyn hwnnw.

Ac yna, yn olaf, ynghylch yr her teithio llesol, sydd, yn fy marn i, yn un ddealladwy, fe ddywedaf i ambell beth. Nid yw'n agenda drefol o gwbl. Mae'r gwaith sydd wedi llywio strategaeth drafnidiaeth Cymru yn dangos, er mwyn lleihau allyriadau carbon, y bydd ceir trydan yn gwneud eu rhan, wrth gwrs, ond ni allwn ni ddibynnu ar geir trydan; rhaid inni gael newid dulliau teithio, a bydd y baich hwnnw'n pwyso'n drwm ar drafnidiaeth gyhoeddus, bysiau yn bennaf, ond hefyd teithio llesol, ar gyfer y teithiau byr hynny. Mae deg y cant o deithiau mewn ceir o dan filltir. Mae rhywbeth fel hanner teithiau car o dan bum milltir. Nawr, i rai pobl—nid i bawb, ond i rai pobl—mae modd i'r teithiau hynny newid i deithio llesol.

Nawr, ynglŷn â sylw Alun Davies byddwn yn dweud dau beth. Rydych chi'n edrych yn ôl hanner canrif ym Mlaenau Gwent ac roedd cryn dipyn mwy o feicio nag y sydd yno nawr. Dydy'r bryniau ddim wedi ymddangos dros nos. Mae llawer o hyn yn ymwneud â chanfyddiad ac mae'n ymwneud â diwylliant ac mae'n ymwneud ag arfer, ac yn sicr mae ein cyflyrau iechyd wedi gwaethygu yn y cyfnod hwnnw, ac rwy'n credu bod y ddau beth hyn yn gysylltiedig. Yn wir, mae tystiolaeth gref i ddangos eu bod nhw. Ond rwy'n credu bod beiciau trydan yn cynnig ffordd ymarferol, wirioneddol ymlaen i lawer o ardaloedd, yn enwedig ardaloedd bryniog ac ar gyfer ardaloedd gwledig a lled-wledig. Rydym ni newydd gyhoeddi prosiect treialu, arbrofol, mewn gwirionedd, mewn ardaloedd bryniog, yn y Barri ac yn Abertawe yn y lle cyntaf, gan dargedu ardaloedd mwy difreintiedig, cynllun benthyciadau cost isel y mae Sustrans yn ei reoli ar ein rhan, gan dargedu cymunedau difreintiedig i geisio cael pobl i ddefnyddio beiciau trydan, ac yna prosiect tebyg gan ddefnyddio e-feiciau cargo i geisio cael busnesau bach i ddefnyddio beiciau trydan ar gyfer danfon nwyddau y filltir olaf honno yn Aberystwyth ac mewn un dref arall na allaf ei chofio ar hyn o bryd—ymddiheuriadau. Ond os bydd hynny'n llwyddiannus, yna credaf y dylem ni fod yn cyflwyno hynny i gymunedau fel Blaenau Gwent ac yn rhan—. Gyda'r seilwaith cywir ar waith i argyhoeddi pobl ei fod yn amgylchedd diogel, ynghyd â'r beiciau trydan, rwy'n credu bod potensial sylweddol ar gyfer newid dulliau teithio.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 4:13, 23 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Rydym ni eisoes wedi clywed, Gweinidog, sut mae adroddiad Burns yn cynnig glasbrint ar gyfer y math o system drafnidiaeth integredig y mae angen i ni symud tuag ati, ac rwy'n hoffi'r glasbrint hwnnw yn fawr. Rwy'n awyddus iawn i weld creu'r gorsafoedd rheilffordd newydd a fwriedir yn Nwyrain Casnewydd fel gorsaf rhodfa Magwyr, y gwn eich bod yn gyfarwydd â hi ac sy'n arloesol iawn, a hefyd yn Somerton a Llanwern. Gallwn gael cyfnewidfa fysiau yng ngorsaf drenau Casnewydd, a fydd hefyd yn helpu gyda newid dulliau teithio ac a fydd yn sylweddol iawn ac yn fuddugoliaeth gynnar bosibl, rwy'n credu, ac mae datblygiadau teithio llesol trawiadol o ran y trên. Felly, rwy'n credu ein bod yn gwneud yn eithaf da, Gweinidog, ond tybed a oes unrhyw ddiweddariad y gallech ei roi i ni, gan ddychwelyd at swyddogaeth Llywodraeth y DU, oherwydd mae arnom ni angen yr uwchraddio hwnnw i'r brif linell a'r llinellau rhyddhad os ydym ni mewn gwirionedd yn mynd i gael amlder y gwasanaeth a'r cyfle i bobl gyflawni'r newid dulliau teithio hwnnw yn y niferoedd ac i'r graddau y mae arnom ni eu hangen. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi unrhyw ddiweddariad i ni ar barodrwydd Llywodraeth y DU i wneud eu rhan.

O ran y pandemig, Gweinidog, a llygredd aer, rydym ni wedi gweld gostyngiad mewn llygredd aer. Mae pobl wedi gwerthfawrogi hynny'n fawr ac maen nhw wedi ailgysylltu â natur. Rwy'n credu bod hynny i gyd yn dda o ran cefnogaeth y cyhoedd i'r system integredig y mae arnom ni ei hangen. Tybed a allai fod rhywfaint o gyllid pellach gan Lywodraeth Cymru ar gyfer bysiau trydan—rydym ni wedi gweld niferoedd trawiadol yn cael eu defnyddio yng Nghasnewydd—a hefyd ar gyfer trosi fflydoedd tacsis i rai sy'n defnyddio tanwyddau allyriadau isel sy'n fwy ecogyfeillgar. Gan fod y tacsis hyn o amgylch canol ein trefi a'n dinasoedd drwy gydol y dydd a'r nos, a phe baent yn cael eu trosi i ddefnyddio tanwyddau mwy cyfeillgar, fel petai, credaf y byddai hynny'n gynnydd pwysig pellach yn ein hymdrechion i fynd i'r afael â llygredd aer.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 4:15, 23 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

I ateb y cwestiynau hynny o chwith, rydym ni wedi rhoi benthyciad o £2 filiwn i Fws Casnewydd brynu fflyd o fysiau trydan i'r ddinas i ddisodli eu fflyd sy'n heneiddio, sydd, yn fy marn i, i'w groesawu'n fawr. Ond yn amlwg, mae her fawr i'r holl ddiwydiant droi at fysiau trydan dros gyfnod y ddogfen hon, ac mae hynny'n her sylweddol iddyn nhw. Rydym ni'n ceisio cael cyswllt rhwng fy nghyfrifoldebau gweinidogol dros yr economi sylfaenol a meysydd eraill. Rydym ni'n edrych ar hyn fel cyfle i adeiladu'r bysiau hyn yng Nghymru. Gwyddom ein bod yn adeiladu trenau yng Nghasnewydd yn rhan o'r fasnachfraint newydd; hoffem fod yn adeiladu'r bysiau hefyd, ac mae cyfle i gydgasglu galw, fel y'i gelwir yn y jargon—ceisio dod â'r cwmnïau bysiau at ei gilydd i gytuno ar becyn gwaith, ac yna gallwn ddod o hyd i weithgynhyrchwyr o Gymru i gamu i'r adwy i greu swyddi'n lleol, yn ogystal â darparu'r newid angenrheidiol mewn technolegau y mae angen inni eu gweld i gyrraedd y targedau carbon. Felly, unwaith eto, mae cyfleoedd ar gyfer swyddi gwyrdd a lleol yn rhan o'r ymateb angenrheidiol hwn i'r hinsawdd hefyd.

O ran parodrwydd Llywodraeth y DU i wneud ei rhan i gyflawni adolygiad Burns, credaf fod hwnnw'n gwestiwn da; mae'n dal yn bwynt dadleuol. Rwyf yn nodi, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei gwestiynau, fod yr adolygiad o gysylltedd undebau gan Syr Peter Hendy, a ddaeth i'r amlwg yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn gadarnhaol iawn ynghylch adroddiad Burns. Ac yn sicr, yn y sgwrs a gafodd gyda'm cyd-Aelod Ken Skates, roedd yn ganmoliaethus iawn ynghylch gwaith comisiynwyr Burns a'r adroddiad a gynhyrchwyd ganddyn nhw. Roedd yn sicr yn canmol hefyd yr effaith y mae datganoli wedi'i chael, yn wahanol i Russell George, o ran darparu trafnidiaeth—dywedodd fod datganoli wedi bod yn beth cadarnhaol o ran darparu trafnidiaeth. Y cwestiwn o hyd yw pa archwaeth gweinidogol sydd yn San Steffan i gyflawni canfyddiadau'r adroddiad hwnnw. Nid oedd eu hymateb cychwynnol mor galonogol â hynny, gan eu bod wedi cefnu ar yr adroddiad ar unwaith ac wedi dechrau siarad am ffordd liniaru'r M4 er nad oedd yr adroddiad wedi dweud dim byd o gwbl am hynny. Felly, bydd Llywodraeth y DU, pan fydd yr etholiad ar ben, gobeithio, yn dygnu arni ac yn troi at y gwaith difrifol o gyflawni ac wynebu'r ffaith y buont yn osgoi eu cyfrifoldebau hyd yma.

O ran y sylw cyntaf am ddatblygu'r seilwaith rheilffyrdd, ymunais, ar ei wahoddiad, â chyfarfod â grŵp gorsaf rhodfa Magwyr y mis diwethaf ac fe wnaeth y gwaith yr oeddent wedi'i wneud fel mudiad cymunedol argraff fawr arnaf i gyflwyno'r achos dros orsaf unigryw nad oedd ganddi gyfleusterau parcio ceir, oherwydd ei bod o fewn milltir i'r rhan fwyaf o boblogaeth Magwyr ar y brif reilffordd yn barod. Roeddwn yn awyddus iawn inni gefnogi'r prosiect hwnnw, ac, mewn gwirionedd, mae'n un o'r pecynnau gwaith y mae uned gyflawni Burns yn ei gwmpasu ar hyn o bryd, ynghyd â Somerton a Llanwern, y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw. Credaf fod pecyn cyffrous o waith i bobl Casnewydd gan gomisiwn Burns i gyflawni'r hyn y dylai dinas o faint Casnewydd, a dweud y gwir, fod wedi'i gael yn y lle cyntaf, sef rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus modern.

Ond mae hyn, mae arnaf ofn, yn adlewyrchiad o'r math o danfuddsoddiad a gawsom ni mewn rheilffyrdd ers nifer o flynyddoedd, sy'n gadael dinas Casnewydd heb y seilwaith sylfaenol i ganiatáu i bobl wneud teithiau bob dydd ar drafnidiaeth gyhoeddus. Dyna'r hyn y mae'n rhaid inni ei gywiro, a chredaf mai dyna y mae'n rhaid inni ei ddangos i bobl Casnewydd—y byddwn yn ei gymryd o ddifrif ac y byddwn yn gwneud hynny'n gyflym a heb laesu dwylo. Rhaid i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan yn hynny, a hyd yn hyn, nid yw hi'n gwneud hynny.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 4:19, 23 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Hefyd, a gaf i gydnabod ymrwymiad personol Lee Waters a Ken Skates i achos trafnidiaeth ddi-garbon? Ni ellir amau nad yw'r nodau a amlinellir yn yr adroddiad hwn, yn wir, yn nodau canmoladwy. Rydym ni i gyd eisiau gweld mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, mwy o deithio llesol a llai o ddefnydd o geir, a lle nad yw'n bosibl disodli trafnidiaeth ceir, dylai cynifer â phosibl fod yn drydanol. Yn wir, mae fy nghyd-Aelod Caroline Jones newydd ddangos ei hymrwymiad drwy brynu cerbyd o'r fath. Mae'n gysur gweld y bydd cefnogaeth ariannol sylweddol tuag at gyflawni'r nodau uchelgeisiol hyn. Croesawaf yn arbennig y benthyciad di-log o £70 miliwn i gyngor bwrdeistref Blaenau Gwent i wneud gwelliannau i reilffordd Glynebwy, ond a gaf i ofyn a fydd y benthyciad hwn yn cael ei neilltuo?

Fel y gwelir, hoffwn gefnogi'r uchelgeisiau hyn yn eu cyfanrwydd. Fodd bynnag, a gaf i roi gair o rybudd? Rhaid i'r newid o gar i fathau amgen o drafnidiaeth fod yn raddol. Rhaid annog pobl i wneud y newid, nid eu cosbi am beidio â gwneud hynny. Mae llawer na fyddant byth yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus at ddibenion gwaith, a llawer mwy y tu allan i ardaloedd trefol na fyddant yn gallu newid i'r beic i gael mynediad i'w gwaith. Felly, mae'n hanfodol bod yn rhaid i unrhyw gosbi y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i helpu i weithredu eu huchelgeisiau ystyried y ffactorau hyn. A wnaiff y Gweinidog, os gwelwch yn dda, fynd i'r afael â hyn?

Rhaid inni gofio bod llawer mewn cymdeithas a fyddai'n mwynhau'r cyfle i newid i gar trydan newydd sbon, ond sy'n llawer rhy dlawd yn ariannol i allu gwneud hynny. Rhaid inni dderbyn y bydd llawer o hen geir ar ein ffyrdd am beth amser i ddod, dim ond oherwydd na all llawer ohonyn nhw fforddio rhai gwell ond y bydd yn rhaid iddyn nhw eu defnyddio o hyd ar gyfer hamdden a gwaith. Gan ganolbwyntio ar geir trydan, bydd yn rhaid inni gael cynnydd sylweddol mewn cyfleusterau gwefru ar draws nid yn unig Cymru ond y DU gyfan os ydym ni eisiau gweld cynnydd mawr yn eu defnydd. Rhaid inni hefyd ymgodymu â'r ffaith na fydd y system grid yng Nghymru—

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:22, 23 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Mae angen i'r Aelod ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

[Anghlywadwy.]—defnyddio cerbydau trydan. A yw Llywodraeth Cymru wedi gofyn am gymorth gan Lywodraeth y DU i weithredu'r rhain?

Un sylw olaf. Ni fydd lleihau'r terfyn cyflymder mewn ardaloedd trefol i 20 m.y.a yn helpu i leihau allyriadau carbon ond, fel y mae ffigurau'r weinyddiaeth drafnidiaeth yn profi, bydd yn cynyddu allyriadau carbon. Pam mae Llywodraeth Cymru yn anwybyddu'r paradocs hwn gyda'r bwriad i weithredu'r terfynau hynny ledled Cymru? Unwaith eto, Llywydd, diolch.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Roeddech chi'n gwneud mor dda yn y fan yna. Hyd at y sylw olaf, fe'm calonogwyd. Pryd bynnag y clywaf David Rowlands yn croesawu nodau canmoladwy, rwy'n aros am 'ond' mawr, a chawsom yr 'ond' ar y diwedd gyda'i ymgyrch yn erbyn ein hymdrech i geisio achub bywydau plant rhag cael eu lladd yn ddiangen ar y ffordd. Yn sicr, nid oedd y dystiolaeth a ddeilliodd o'n hadolygiad ein hunain ar derfynau cyflymder trefol diofyn o 20 mya yn cefnogi'r farn eu bod yn cynyddu allyriadau'n sylweddol.

I ymdrin â rhai o'r sylwadau eraill, cytunwyd ar y benthyciad gyda chyngor Blaenau Gwent, mae wedi ymrwymo i'r dasg dan sylw, ac rydym yn gweithio'n agos gyda nhw. Rwyf yn cytuno â'i sylw o ran gwneud y newid graddol o ddefnyddio ceir tuag at ddewisiadau eraill, ac mae'n amlwg nad yw'n rhywbeth sy'n berthnasol i bob taith. Nid ydym yn dweud na ddylai pobl fyth ddefnyddio ceir eto. Yn amlwg, y car yw'r dewis mwyaf ymarferol ar gyfer rhai teithiau, ond, ar gyfer y rhan fwyaf o deithiau—mae'r ymchwil yn eithaf clir ynglŷn â hyn—mae trafnidiaeth gynaliadwy yn ddewis realistig, ar yr amod bod y seilwaith ar waith, bod gwasanaethau ar waith, a bod yr wybodaeth a'r cymhellion ar waith i annog pobl i wneud y newid hwnnw. Mae llawer o dystiolaeth a phrofiad o ble y gall hynny ddigwydd. Ceffyl da yw ewyllys. Nid oes angen iaith sy'n sôn am gosbi pobl; nid yw hwn yn ymwneud â dewis cosbi. O'i wneud yn iawn, gall hyn gyfoethogi a gwella bywydau pobl a gwella teithiau pobl, lleihau straen pobl a gwella iechyd pobl—mae defnyddwyr bysiau'n cerdded mwy na defnyddwyr ceir. Felly, mae'n dda i ystod eang o dargedau iechyd cyhoeddus sydd gennym ni. Mae'n iawn i ddweud na fydd yn addas i bawb, ond nid oes angen i bawb wneud hynny i gyflawni ein targedau. Fel y dywedais, rydym yn sôn am ostyngiad o 5 y cant mewn milltiroedd ceir erbyn 2030; nid yw hyn y tu hwnt i'r hyn y gellir ei gyflawni, yn sicr.

Mae ei sylw bod ceir trydan yn ddrud hefyd yn un cadarn. Dyna pam yr ydym ni eisiau sicrhau bod dewis amgen fforddiadwy a realistig drwy drafnidiaeth gyhoeddus. Credaf mai'r hyn yr ydym ni eisiau ei weld mewn gwirionedd yw i bobl beidio â bod angen sawl car fesul cartref. Felly, mae pethau fel clybiau ceir a rhannu ceir, er enghraifft, yn hytrach nag ail neu drydydd car ar aelwyd, yn bethau realistig a all ddod â phobl gyda ni ar hyd y sbectrwm newid ymddygiad mewn ffordd nad yw'n teimlo ei fod yn cyfyngu ar eu dewisiadau. Yn wir, mae'n rhoi dewisiadau ychwanegol iddyn nhw ac yn rhyddhau arian ar eu cyfer, oherwydd car yw'r ail beth drutaf y bydd deiliad tŷ yn ei brynu, ar ôl tŷ, fel y mae Caroline Jones newydd ei ddarganfod, rwy'n siŵr.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:25, 23 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Credaf fod yr adroddiad hwn yn gwbl ragorol. Mae mor gydlynol ac yn cyd-fynd mor dda â chynllun adfer y GIG a'r egwyddor 'canol trefi yn gyntaf'. Felly, rwyf yn eich llongyfarch ar hynny. Hoffwn wneud ambell sylw, ar ôl gwrando'n astud ar yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud wrth siaradwyr cynharach eraill. Nid mewn ardaloedd gwledig yn unig y mae pobl heb fysiau. Mae rhannau, hyd yn oed, o'm hetholaeth ganol dinas i nad oes ganddyn nhw unrhyw fysiau sy'n gwasanaethu pobl oedrannus sy'n methu cerdded milltir i ddal bws. Felly, mae gennym ni dipyn o her y tybiaf mai dim ond ar ôl i ni reoleiddio'r gwasanaethau bysiau y gellir datrys y gwasanaethau bysiau, oherwydd fel arall, y cwbl sy'n digwydd yw bod pobl yn dewis a dethol yr un llwybrau llewyrchus. Os ydym ni yn ystyried adeiladu'r bysiau sydd eu hangen arnom ni yn y dyfodol yng Nghymru, yr wyf yn ei gefnogi'n llwyr, a fyddech yn ystyried gwahanol feintiau o fysiau ar gyfer llwybrau llai poblogaidd, llai poblog? A beth fyddai'r tanwydd y byddech yn ystyried ei ddefnyddio ar gyfer yr holl fysiau hyn? Ai trydan neu hydrogen? Mae'n ymddangos i mi, yn rhan o'n haddewidion di-garbon, fod angen inni feddwl nawr am hyn. A'r ail sylw yr oeddwn eisiau eich holi amdano, mewn gwirionedd, yw sut yr ydym ni'n mynd i gyflawni'r newid diwylliannol sydd ei angen fel bod yn rhaid inni dybio y bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gallu beicio i'r ysgol mewn lle trefol fel Caerdydd.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 4:27, 23 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf i dalu teyrnged ddiffuant iawn i Jenny Rathbone am yr ymgyrchu y mae wedi'i wneud ar yr agenda hon drwy gydol ei hamser yn Aelod o'r Senedd? Mae hi wedi bod ar flaen y gad yn eiriolwr parhaus dros yr angen i symud i drafnidiaeth gynaliadwy, ac felly rwy'n falch ei bod hi yma i groesawu'r adroddiad hwn fel modd o wireddu llawer o'r themâu y mae wedi bod yn galw ar Lywodraethau olynol Cymru i'w defnyddio. Rwy'n falch ar ei rhan ei bod yn gallu bod yma i fod yn rhan o'r gyd-ymdrech hon.

O ran ei sylwadau ar y rhwydwaith bysiau, fel y dywedais, mae dau beth yn digwydd. Un ohonynt yw bod Trafnidiaeth Cymru yn modelu sut olwg fyddai ar rwydwaith bysiau lleol cynhwysfawr, a byddwn yn llunio hynny, gobeithio, yn nhymor y Llywodraeth nesaf—gobeithio y byddwn yn cynnwys hynny yn y masnachfreintiau fel y'i cynlluniwyd, er mwyn sicrhau bod darpariaeth ar gyfer yr ardal gyfan, fel ei bod yn ddewis amgen realistig i'r rhan fwyaf o bobl. Ond yn y cyfuniad hwnnw mae'r cysyniad hwnnw o sut olwg sydd ar wasanaeth bws modern, ac rydym ni yn arbrofi, fel y gŵyr Jenny Rathbone, gyda'n gwasanaeth bws Fflecsi sy'n ymateb i'r galw. Rydym yn gwneud hynny yng Nghasnewydd ac rydym yn ei wneud mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru, rhai gwledig, lled-wledig a threfol, i weld sut mae'n ymateb mewn gwahanol leoliadau. Mae hynny'n ymwneud â chael bws nad yw wedi'i drefnu, bws ar alw, a all wedyn naill ai fynd yn uniongyrchol o ddrws i ddrws neu sy'n gallu cyfrannu at wasanaeth sydd wedi ei amserlennu. Rydym ni wedi gweld hynny drwy brosiect Bwcabus ers rhai blynyddoedd yng ngogledd Sir Gaerfyrddin a de Aberteifi. Mae'n diweddaru'r cysyniad hwnnw gyda thechnoleg fodern, ac mae canlyniadau cynnar y cynlluniau treialu yn galonogol iawn. Yn wir, mae'n rhy boblogaidd i'r gwasanaeth sydd gennym ni ar waith. Felly, credaf y bydd y syniad o sut olwg sydd ar wasanaeth bws yn esblygu'n eithaf cyflym, a chredaf ein bod ar flaen y gad o ran datblygu rhai o'r modelau gwahanol hynny. O ran pa danwydd y maen nhw'n ei ddefnyddio, mae hwnnw'n gwestiwn da. Yn amlwg, byddem ni eisiau lleihau effaith tanwydd, felly rydym ni yn edrych ar fysiau trydan, rydym ni yn edrych ar fysiau llai, a chredaf fod biodanwydd hefyd yn rhan o'r cyfuniad mewn rhai lleoliadau. Mae hi'n cyfeirio'n briodol y profwyd bod hydrogen yn gludwr ynni sy'n ddefnyddiol ar gyfer storio mewn batris, ac mae hynny'n rhan o'r gwaith yr ydym ni yn ei ddatblygu drwy ein cynllun hydrogen.

Ac yna ei sylw ar y newid diwylliannol sydd ei angen ar gyfer beicio i'r ysgol. Os edrychwch chi ar y cyhoeddiad rydym ni wedi'i wneud ar deithio llesol eleni, efallai mai'r gwaith ysgolion yw'r pwysicaf a'r mwyaf heriol, ac mae cael adrannau addysg ac adrannau trafnidiaeth i weld hyn fel ymdrech ar y cyd yn her i ni. Yn draddodiadol, nid yw hynny'n rhywbeth y mae addysg wedi bod â diddordeb i'w wneud, ac mae angen i hynny newid. Rhaid imi dalu teyrnged i Gyngor Caerdydd. O dan arweiniad Huw Thomas a Caro Wild, maen nhw wedi bod yn gwneud gwaith rhagorol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf—mewn gwirionedd, yr awdurdod mwyaf blaenllaw yng Nghymru ar hyn—gan roi—. Nid yn unig y maen nhw wedi llwyddo i ddenu cyllid gan Lywodraeth Cymru, ond i roi cyllid sylweddol eu hunain, a chyflwyno mesurau caled—y mesurau seilwaith—ochr yn ochr â'r mesurau meddal, yr ymyriadau newid ymddygiad, yn enwedig mewn ysgolion. A bydd hynny, rwy'n credu, yn talu ar ei ganfed, oherwydd mae angen i chi gael y caled a'r meddal gyda'i gilydd. Dyna un o wendidau a heriau dull gweithredu Llywodraeth Cymru. Mae'n anoddach i ni ddod o hyd i gyllid refeniw nag ydyw i ddod o hyd i gyllid cyfalaf yn y maes hwn, a gwyddom na fyddwn ni, heb y ddwy elfen yna, yn gallu cyflawni'r hyn yr ydym ni eisiau ei gyflawni. Felly, gobeithiwn eleni y byddwn yn gallu neilltuo tua 10 y cant o'r £75 miliwn tuag at waith newid ymddygiad, ond mae angen iddo fod yn fwy na hynny yn y dyfodol i ateb yr her y mae Jenny Rathbone wedi'i gosod yn briodol.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:31, 23 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, diolch ichi am eich datganiad ac am eich barn ar sut y gallwn ni hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus well a mwy cynaliadwy yn y dyfodol. Gyda llaw, fe wnaethoch chi sôn am feiciau trydan yn gynharach yn eich datganiad ac fe'm hatgoffwyd o daith feicio yr aeth y ddau ohonom arni i lawr Dyffryn Gwy rai blynyddoedd yn ôl, pan oeddech chi'n gweithio gyda Sustrans. Rwy'n cofio i ni siarad bryd hynny am y potensial yn y dyfodol i foderneiddio'r seilwaith beicio, felly rwy'n falch eich bod wedi parhau â'r angerdd hwnnw yn y Llywodraeth.

Dau faes, os caf i: a gaf i hefyd groesawu adolygiad Burns ac ymrwymiad y Gweinidog i leihau allyriadau carbon? Rydych chi wedi sôn yn helaeth am Gasnewydd, ac mae wedi cael ei godi, mewn gwirionedd, gan lawer o Aelodau, ac rydych chi wedi dweud bod angen seilwaith trafnidiaeth modern arni ac mae wedi aros yn rhy hir am hynny. Byddwn i'n sicr yn cytuno â hynny, a byddai pobl Casnewydd yn cytuno â hynny. Ond hefyd mae angen seilwaith ar ardaloedd gwledig hefyd. Mae fy etholaeth i ychydig i'r gogledd o Gasnewydd, ond mae'n cael ei gwasanaethu'n arbennig o wael gan wasanaethau bysiau, yn sicr; gwasanaethau trên—dim ond un sydd gennym, y brif linell i Henffordd. Ar ôl 6.00 p.m., mae'n anodd iawn dychwelyd o orsaf Casnewydd, os ydych chi eisiau cymudo o orsaf Casnewydd i'm hetholaeth i. Rwyf wedi codi hyn gyda Gweinidog yr economi, gyda Ken Skates, droeon, felly fe'i codaf gyda chi hefyd: lle ydym ni arni o ran datblygu'r rhwydwaith metro ac o bosibl datblygu canolfan yn y Celtic Manor fel y gallwn ni wella cysylltiadau o Gasnewydd i ardaloedd gwledig dyfnach yn fy etholaeth i a thu hwnt ar ôl 6.00 p.m. fel y gall pobl os ydyn nhw eisiau cymudo ar drafnidiaeth gyhoeddus, wneud hynny?

Ac yn ail, ceir trydan: ie, rydych chi'n iawn fod ceir yn briodol ar gyfer rhai teithiau. Mewn ardaloedd gwledig, maen nhw'n arbennig o bwysig. Gwn beth yr ydych chi'n ei olygu wrth ddymuno peidio â chael aelwydydd aml-gar, a byddai'n ddymunol cael un car fesul cartref yn unig, ond, mewn ardaloedd gwledig, mae hynny'n aml yn anodd iawn, yn enwedig i rai o'r teuluoedd mwy. Felly, beth ydych chi'n ei wneud i wella'r seilwaith ceir trydan mewn ardaloedd gwledig? Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl, cynlluniwyd ar gyfer gorsaf gwefru trydan newydd—cyflwynwyd cais cynllunio ar gyfer un yn Nhrefynwy, a gwrthodwyd hwnnw, rwy'n credu, ar sail anghytuno ynghylch nodyn cyngor technegol 15 ar y pryd. Rwy'n credu bod angen i'r system gynllunio gydnabod bod angen y seilwaith gwefru ceir trydan hwn arnom ni, ond mae angen iddo sicrhau nad oes rhwystrau i atal datblygu hynny, fel y gallwn ni o ran trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith y system ceir trydan wrth symud ymlaen barhau'r â'r gwaith o ddarparu seilwaith trafnidiaeth mwy cynaliadwy, mwy cadarn a glanach.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 4:34, 23 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, ac mae'r cyfraniad yna'n tanlinellu rwy'n credu, gymaint y byddwn yn colli naws resymegol a rhesymol cyfraniadau Nick Ramsay o feinciau'r Ceidwadwyr, a dymunaf yn dda iddo.

Dim ond i fynd i'r afael â'i bwyntiau: mae'r her wledig yn un go iawn, ond mae'n un gwbl gyraeddadwy. Felly, fel y dywedais i, rydym wedi comisiynu darn o waith, y byddwn yn hapus i'w gyhoeddi, ar sut olwg fydd ar becyn o fesurau gwledig, oherwydd bydd yn wahanol i fesurau trefol, yn sicr, ond mae'n dal yn gyraeddadwy, ac, os edrychwch chi ar yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yng nghefn gwlad yr Almaen, yng nghefn gwlad y Swistir, lle mae rhwydwaith bysiau lle mae gan bob pentref wasanaeth bob awr, dyna y dylem ni fod yn anelu ato. Yn amlwg, rydym ni ymhell o gyflawni hynny, ond, os ydym ni am gyflawni'r strategaeth hon dros oes y cynllun hwn, yna mae'n rhaid inni anelu at hynny, a bydd hynny'n gofyn am symud adnoddau tuag at drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cyrraedd y targed newid moddol. Felly, mae cyfres o fesurau y gallwn ni eu gwneud, ac, unwaith eto, mae teithio llesol a beiciau trydan yn rhan o hynny, fel y mae gwasanaeth bws Fflecsi sy'n ymateb i'r galw. Felly, mae amrywiaeth o fesurau realistig a phrofedig a all weithio mewn lleoliad gwledig i gyrraedd y targedau hyn yno hefyd.

O ran y gwaith ar y metro, mae hwnnw'n parhau'n gyflym, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau—. Yn amlwg, mae COVID wedi cael rhywfaint o effaith ar hynny, ond mae'n dal ar y trywydd iawn. Dydw i ddim yn siŵr beth yw statws cyfnewidfa Celtic Manor, ond byddaf yn hapus i anfon nodyn ato ar hynny. Yna, o ran trydan, rydym ni newydd gyhoeddi ein cynllun gwefru trydan, sydd â'r nod o sicrhau bod pob car yng Nghymru yn gallu defnyddio'r seilwaith gwefru erbyn 2025, sy'n her sylweddol, o ystyried o ble yr ydym ni'n dechrau. Swyddogaeth Llywodraeth y DU, unwaith eto, yw darparu'r seilwaith hwn. Mae Llywodraeth Cymru, fel y gwnawn ni ynghylch llawer o'r pethau hyn, yn edrych i weld ymhle y gallwn ni ddarparu ymyriadau mewn bylchau, ond lle'r—. Nid yw hwn yn faes sydd wedi'i ddatganoli. Mae cyllid yn mynd drwy'r cynllun cerbydau allyriadau isel iawn ar hyn o bryd, ond rydym ni'n wynebu her sylweddol. Felly, er enghraifft, dim ond er mwyn rhoi ymdeimlad o'r her i chi, erbyn 2030 mae angen cynyddu ein seilwaith gwefru cyflym rhwng 10 a 20 gwaith. Mae hynny mewn naw mlynedd. Felly, mae'n rhaid inni dorchi llewys i gael y seilwaith yn ei le i roi hyder i bobl newid i geir trydan. Fel y dywedais i, mae ein strategaeth yn nodi sut y bwriadwn ni wneud hynny, a gobeithiwn y bydd Llywodraeth y DU yn ychwanegu gwerth ymhellach.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:37, 23 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Weinidog.