– Senedd Cymru am 5:37 pm ar 24 Mawrth 2021.
Eitem 20 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Archwilio datganoli darlledu: Sut all Cymru feddu ar y cyfryngau sydd eu hangen arni?' Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Bethan Sayed.
Diolch yn fawr iawn i chi, Dirprwy Lywydd, a hefyd, fel rhan o'm cyfraniad olaf, hoffwn i ddweud pob lwc i chi yn beth bynnag rydych chi'n ei wneud yn y dyfodol. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chi fel Dirprwy Lywydd ac fel Aelod o'r Senedd yma.
Mae'n bleser o'r mwyaf cael agor y ddadl heddiw ar ein hadroddiad sy'n edrych ar ddatganoli darlledu a sut all Cymru feddu ar y cyfryngau sydd eu hangen arni. Cyn imi ddechrau, mae'n rhaid i mi nodi mai dyma fydd fy nghyfraniad olaf fel Cadeirydd y pwyllgor hwn. Dwi eisoes wedi rhoi ar gofnod fy mod i wedi dweud diolch yn fawr iawn i'r holl staff ac i bawb sydd wedi cyfrannu i'r pwyllgor ar hyd y blynyddoedd, ond diolch eto i chi am eich holl waith. Hoffwn i roi hwnna ar y record yma heddiw eto.
Gan droi at yr adroddiad, dylid ystyried yr adroddiad yma fel penllanw'r pum mlynedd o waith y mae'r pwyllgor wedi'i wneud yn y maes hwn. Mae'r adroddiad yn un sy'n adeiladu ar adroddiadau blaenorol, a hefyd y gwaith sgrwtini rheolaidd a wnaethom ni gyda'r BBC, S4C, Ofcom ac eraill. Yn amlwg, mae'r pwyllgor yn adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol y prif bleidiau yn y Senedd, ond ar y cwestiwn pwysig yma, barn y pwyllgor oedd nid, 'A ddylid datganoli darlledu?' ond, 'Faint o ddarlledu y dylid ei datganoli?' Mae hwn yn newid sylweddol, yn fy marn i, o le roeddem ni cyn i'r pwyllgor penodol yma fodoli, a chyn i ni gael unrhyw fath o sgrwtini ar y cyfryngau yma yng Nghymru.
Yn ystod yr ymchwiliad, clywom ni fod y cynnwys sydd ar gael i Gymru yn y cyfryngau yn annigonol. Dyma oedd ein man cychwyn ar gyfer argymhelliad 1, sy'n galw am fwy o gyfrifoldebau dros ddarlledu i Gymru ac sy'n herio Llywodraeth Cymru, San Steffan ac Ofcom i nodi sut y gellir gwella'r cynnwys a ddarperir yn y cyfryngau i gynulleidfaoedd yng Nghymru.
Mae'r diffygion hyn hefyd yn ymestyn i gynnwys newyddion a materion cyfoes, ac fe glywom ni anfodlonrwydd eang am y cynnwys sydd ar gael i gynulleidfaoedd Cymru. Rydym ni gyd yn cytuno am y rôl hanfodol y mae'r cynnwys hwn yn ei chwarae mewn democratiaeth weithredol. O ganlyniad i'r casgliad hwn, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa ganolog barhaus i gefnogi newyddiaduraeth newyddion sy'n atebol ac sy'n cael ei darparu ar hyd braich. Roeddwn i'n falch iawn i dderbyn gohebiaeth ddoe gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, yn cadarnhau bod y Llywodraeth yn derbyn yr argymhelliad yma mewn egwyddor, gyda mwy o fanylion i ddilyn.
O ran datganoli S4C a darlledu gwasanaeth cyhoeddus iaith Gymraeg, fe glywom ni fod y degawd diwethaf wedi gweld gostyngiad mewn incwm o 37 y cant i’r sianel ers 2010. Ac efallai yn bwysicach na hynny, daeth y pwyllgor i’r casgliad ei bod yn sefyllfa anarferol iawn i bwerau dros S4C fod yn nwylo Gweinidogion yn Llundain, yn hytrach na Gweinidogion y wlad lle mae’r iaith sydd i’w chlywed ar S4C yn cael ei siarad. Felly, mae argymhelliad 4 yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatganoli i Gymru bwerau dros S4C a materion eraill sy’n ymwneud â darlledu gwasanaeth cyhoeddus iaith Gymraeg.
Dwi'n credu bod e'n bwysig imi nodi yn y fan yma y byddai rhai ohonom ni ar y pwyllgor wedi mynd yn bellach, wrth gwrs, i ddatganoli mwy na S4C a materion yn ymwneud â'r iaith Gymraeg, ond dwi'n credu ein bod ni wedi dod yn bell gydag ennyn cefnogaeth drawsbleidiol ar y mater pwysig yma, a dyna pam mae'r adroddiad yma mor bwysig.
Gan droi at gystadleuaeth gan gwmnïau ffrydio, a throi at dueddiadau ehangach yn y tirlun darlledu, mae'n amlwg ein bod yn byw drwy gyfnod o newid strwythurol enfawr. Mae statws ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, y BBC ac ITV, a fu unwaith yn flaenaf yn y maes, dan fygythiad yn sgil cystadleuaeth gan ddarparwyr gwasanaethau fideo ar alw drwy danysgrifio fel Netflixes ac Amazons y byd. Ystyriodd ein hadroddiad y modelau ariannu a rheoleiddio ar gyfer ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn fanwl. Er nad yw'n bosibl ymdrin â'r rhain yn yr amser cyfyngedig sydd gennyf yma heddiw, roeddwn am dynnu sylw at ein hargymhelliad 7 sy'n edrych ar y berthynas rhwng darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a'r llwyfannau ffrydio ar-lein.
Mae natur anghymesur y gystadleuaeth, ynghyd â materion fel y lleihad yn yr amlygrwydd a roddir i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn y canllaw rhaglenni, wedi ein harwain i'r casgliad y dylai gwasanaethau ffrydio byd-eang gael eu rheoleiddio i gryfhau'r ecosystem cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Ac yn ein hargymhelliad 7, rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i ystyried codi ardollau ar gwmnïau ffrydio byd-eang mawr i ariannu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus, neu ofynion i ddarlledu mwy o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus.
Wrth gloi, mae'n amlwg fod newid ar y ffordd i dirwedd y cyfryngau ac mewn sawl ffordd mae'r newid hwn yn anochel. Fodd bynnag, yr hyn nad yw'n anochel yw'r modd y rheolir y broses o newid. Mae gennym gyfle i sicrhau ein bod yn rheoli'r newid hwn mewn ffordd sy'n adlewyrchu anghenion penodol Cymru a buddiannau ein gwlad fel cenedl fodern, ddwyieithog. Mae'r adroddiad hwn yn nodi rhai cynigion cadarn ar sut y gallwn sicrhau ein bod yn cael y cyfryngau rydym eu hangen ac yn eu haeddu drwy becyn o argymhellion. Heb weithredu, rydym yn wynebu'r risg y bydd sefyllfaoedd yn parhau i ddirywio yma yng Nghymru i gynulleidfaoedd ledled Cymru, ac nid ydym yn haeddu hynny.
Am y tro, mae'r ddadl heddiw hefyd yn nodi diwedd pennod bwysig yn stori'r Senedd hon. Mae'r pwyllgor hwn wedi tynnu sylw Aelodau o'r Senedd yn ehangach yn gyson at faterion sy'n ymwneud â darlledu a chyfathrebu. Rwy'n gobeithio ac yn disgwyl y bydd y pwyllgor hwn yn parhau yn y chweched Senedd, ac yn bwysicaf oll, y ceir atebolrwydd wrth fesur cynnydd, yn enwedig ym maes cyfathrebu lle nad yw llawer o'r elfennau hynny wedi'u datganoli, fel y gwyddom.
Felly, diolch gen i am y tro. Rwy’n edrych ymlaen at gyfraniadau Aelodau prynhawn yma, a hoffwn i gymeradwyo’r adroddiad hanesyddol yma heddiw i’r Senedd. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i Bethan am ei harweiniad rhagorol fel Cadeirydd y pwyllgor. Rydych wedi arwain y pwyllgor gydag egni, brwdfrydedd ac ymrwymiad, ac mae hynny'n amlwg yn yr adroddiadau rhagorol y mae'r pwyllgor wedi'u cynhyrchu. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i Helen Mary Jones, a helpodd mor fedrus yn ystod eich cyfnod mamolaeth.
Rwyf am wneud dau bwynt. Mae'r cyntaf, mewn gwirionedd, yn cyfeirio'n ôl at waith anhygoel Alexis de Tocqueville yn y 1830au, a edrychai ar weithrediad democratiaeth Americanaidd. Dywedodd fod gwasg rydd ac egnïol yn gwbl hanfodol er mwyn i ddiwylliant democrataidd ffynnu, a chredaf fod y syniad hwnnw'n parhau i fod mor wir heddiw ag ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Felly, mae angen newyddiaduraeth o ansawdd da yng Nghymru, ac mae angen mwy o newyddiaduraeth leol. Rwy'n cymeradwyo ymdrechion y BBC yn hyn o beth, ond mae angen mwy ohono. Nid yw'n syndod mai un o'r datblygiadau mawr yn ystod cyfnod COVID yw bod llawer o bobl wedi dechrau sylweddoli graddau pwerau Llywodraeth Cymru dros iechyd y cyhoedd ac iechyd yn ehangach. Mae hynny'n arwydd o'r bwlch a fu mewn gwirionedd yn y sylw a roddwyd i wleidyddiaeth Cymru, ac nid yw'n gwasanaethu ein dinasyddion o gwbl mewn gwirionedd. Mae darlledu, y prif gyfrwng y dyddiau hyn, er mai papurau newydd a geid o'r blaen yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn allweddol i gadw ein democratiaeth yn iach.
Rwy'n gwneud yr ail bwynt fel aelod o'r pwyllgor yn hytrach na llefarydd fy mhlaid ar ddarlledu. Rwyf bob amser wedi meddwl bod sefyllfa S4C a darlledu yn y Gymraeg yn anghyson. Nid oes llawer o wledydd yn y byd sydd ag ieithoedd cenedlaethol corfforedig nad ydynt yn iaith fwyafrifol, ac sydd â systemau llywodraethu datganoledig ond sydd wedyn yn cadw'r swyddogaeth ddarlledu iaith leiafrifol yn ôl ar lefel y wladwriaeth. Maent i gyd yn ei ddatganoli, am mai dyna lle mae'r penderfyniadau'n cael eu gwneud orau. Caiff pobl eu dwyn i gyfrif, ond hefyd mae'n cyd-fynd â pholisi iaith ehangach, ymhell y tu hwnt i ddarlledu. Felly, rwy'n credu o ddifrif ei bod yn bryd inni edrych ar hyn a phwyso am ddatganoli S4C a darlledu yn y Gymraeg yn gyffredinol. Rwy'n dweud am fy mhlaid fy hun—rwy'n gwybod oherwydd roeddwn yn rhan o beth o'r drafodaeth—fod y blaid wedi bod â diddordeb mawr yn hyn o'r blaen, ac yn sicr mae Llywodraethau Ceidwadol wedi archwilio'r posibilrwydd o ddatganoli S4C, gyda bwriad mai dyna oedd yr opsiwn gorau. Ni allaf siarad ar ran Llywodraethau blaenorol o dan Lafur ar lefel y DU, ond rwy'n tybio eu bod hwy wedi edrych arno hefyd. Felly, credaf ei bod yn bryd inni gyflawni hynny, neu o leiaf ofyn amdano, a darparu'r math hwnnw o wasanaeth, oherwydd mai'r Senedd a Llywodraeth Cymru all roi'r sylw a'r amser sydd ei wir angen er mwyn i ddarlledu yn y Gymraeg ffynnu. Gallem fod mor llwyddiannus â chenhedloedd llai o amgylch Ewrop o ran ein hallbwn creadigol, yn ogystal â gwella ansawdd newyddiaduraeth.
Hoffwn orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy dalu teyrnged i chi. Ers 22 mlynedd, rydych wedi gwasanaethu eich plaid yn deyrngar fel eiriolwr tra galluog a thra hael, ond hefyd yn fywiog iawn pan oedd angen i chi ymrafael â phen mwy garw deialog wleidyddol—ond bob amser gyda haelioni a hiwmor mawr. Rydych wedi dangos yr haelioni a'r hiwmor hwnnw, ac awdurdod, os caf ddweud, yn eich rôl fel Dirprwy Lywydd, a byddwn i gyd yn edrych yn ôl gyda phleser a diolch mawr am eich gwasanaeth yn y Senedd hon. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Prin y gallaf eich ceryddu am fynd dros yr amser wedi'r deyrnged hynod o hael honno, felly diolch yn fawr iawn. Ni ddywedaf ddim am y ffaith eich bod wedi mynd dros yr amser. Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n bwysicach nag erioed i sicrhau datganoli darlledu i Gymru, nid yn unig er lles ein democratiaeth, ond, fel mae'r pandemig wedi dangos, er lles ein hiechyd cyhoeddus hefyd. Mae Plaid Cymru felly yn croesawu'r adroddiad yma yn frwd iawn. Am y tro cyntaf yn hanes gwleidyddiaeth Cymru, mae gennym ni gonsensws trawsbleidiol o blaid datganoli o leiaf rhai elfennau o ddarlledu. Mae'n rhaid talu teyrnged arbennig i Bethan Sayed fel Cadeirydd y pwyllgor am ei harweinyddiaeth ar y mater penodol yma. Rwyt ti wedi bod yn gwthio'n galed dros hyn dros y pum mlynedd diwethaf, dwi'n gwybod. Diolch, Bethan, am dy angerdd, a diolch am dy ddyfalbarhad mewn sawl maes, ac yn benodol am dy rôl yn rhoi seiliau cadarn i'r pwyllgor yma fel rhan annatod o'n Senedd cenedlaethol i'r dyfodol.
Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro mai yn nwylo'r Senedd y dylai grym dros ddarlledu yng Nghymru fod, ac nid yn nwylo sefydliad San Steffan, sy'n gwybod braidd dim, ac yn poeni hyd yn oed yn llai am ein cymunedau ni. Ac i fod yn hollol glir, mi fyddai Llywodraeth dan arweiniad Plaid Cymru yn ymrwymo i geisio sicrhau'r pwerau dros ddatganoli darlledu. A fydd y pleidiau eraill yn ymrwymo i wneud yr un peth? Wel, cawn ni weld yn reit fuan. Mi fyddai datganoli darlledu yn helpu'r bobl sy'n byw yng Nghymru i ddeall yn well yr hyn sy'n digwydd yn eu gwlad eu hunain, a pheidio gorfod derbyn camwybodaeth gan gyfryngau San Steffan, sy'n methu'n deg â deall datganoli, fel rydyn ni wedi'i weld yn rhy aml dros gyfnod y pandemig, gwaetha'r modd. Mi fyddai hefyd yn rhoi’r cyfle sydd mawr ei angen arnom i adeiladu cyfryngau Cymreig amrywiol, sy'n adlewyrchu anghenion a buddiannau'r Gymru fodern fel democratiaeth sy'n aeddfedu.
Gan droi at S4C, oes yna unrhyw wlad arall yn y byd yn rhoi'r pŵer dros ei phrif sianel a darlledwr cyhoeddus i wlad arall? Roedd hi'n dda gweld David Melding yn egluro yn wir nad ydy hynny ddim yn digwydd mewn gwledydd eraill. Mae S4C yn gweithredu yn unol â chylch gwaith sy'n cael ei bennu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd â dyletswydd statudol i sicrhau bod S4C yn cael cyllid digonol. Mi ddywedodd y pwyllgor bod hynny yn sefyllfa anarferol—bod y pwerau dros S4C yn gorwedd yn Llundain yn hytrach nag yn ein gwlad ni ein hunain. Mi roedd sefydlu S4C nôl yn 1982 yn hwb aruthrol—yn hwb aruthrol i'n cenedl ni, i'n hunaniaeth ni, ac i'n diwylliant ni. Roeddwn i'n digwydd bod yn lwcus i fod yn rhan o'r ymgyrch honno nôl yn yr 1980au. Mae yna lawer mwy angen ei wneud, ac mae yna lawer o waith i adeiladu ar lwyddiant bodolaeth S4C. Ond mae'n rhaid inni gydnabod bod yr hinsawdd wleidyddol yn hynod o fregus, ac mae'n rhaid inni fod yn wyliadwrus iawn, iawn ynglŷn â'r sianel.
Yn ôl yr adroddiad, mi ddylai'r chweched Senedd gynnwys pwyllgor sy'n trafod polisi'r cyfryngau fel rhan ganolog o'i gylch gwaith. Ac mi fyddwn i'n meddwl, yn y pen draw, fod angen llawer iawn mwy na phwyllgor; mae angen corff annibynnol o Lywodraeth er mwyn cael y drafodaeth honno ynghylch y cyfryngau yng Nghymru, a thrafodaeth debyg ynglŷn â sefydlu corff. Mae honno'n drafodaeth i'r Senedd nesaf erbyn hyn—
Mae angen i'r Aelod ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.
Rwyf newydd orffen. Roeddwn am ddweud, Ann, fy mod yn dymuno'r gorau i chi yn y dyfodol, a diolch yn fawr i chi am eich cyfraniad i'r Senedd dros gynifer o flynyddoedd. Mae wedi bod yn amhrisiadwy.
A gaf i gymryd y cyfle hefyd i ddymuno'n dda i'r Dirprwy Weinidog, Dafydd Elis-Thomas, ar ei ymddeoliad o? Diolch yn ddiffuant iddo fo am ei gyfraniad pwysig wrth i'n democratiaeth ni wreiddio a ffynnu. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor diwylliant am y ddadl heddiw, ac am eu hymdrechion dros y pum mlynedd diwethaf dan gadeiryddiaeth Bethan Sayed. Rwy'n siŵr ei bod wedi bod yn Gadeirydd da iawn. Yn anffodus, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn anghytuno â'r adroddiad y maent wedi'i gynhyrchu. Er ei fod yn llawn bwriadau da, credaf fod yr adroddiad yn seiliedig ar gynsail ffug. Wedi'r cyfan, pwy sy'n penderfynu pa gyfryngau sydd eu hangen ar Gymru? Mae hon yn farn ar werth cyn inni ddechrau hyd yn oed. Pam y byddwn yn tybio nad oes gan Gymru y cyfryngau y mae eu hangen eisoes? Pe bai angen rhywbeth arall arni, byddai marchnad fasnachol amdano y byddai rhai darlledwyr eisoes wedi manteisio arni. Felly, mae gan Gymru'r union gyfryngau y mae pobl Cymru am eu cael mewn gwirionedd. Os rhowch rywbeth arall i bobl Cymru drwy ddictad y Senedd, byddwch yn rhoi rhywbeth iddynt y mae'r Senedd am iddynt ei gael, nid rhywbeth y mae pobl Cymru am ei gael mewn gwirionedd.
Mae gennym ormod o ymyrraeth wleidyddol eisoes â theledu yng Nghymru, os caf ganolbwyntio ar y teledu am eiliad, ac mae'r adroddiad hwn yn cynnig mwy fyth. Mae'r BBC yn sefydliad rhagfarnllyd, a oedd yn ffafrio 'aros' dros 'adael', ac sy'n ffafrio'r chwith dros y dde, ac yng Nghymru, mae ganddi duedd annymunol i gael ei stwffio'n llawn o genedlaetholwyr Cymreig. Y diwrnod o'r blaen, pwy gafodd ei phenodi'n bennaeth cynnwys BBC Cymru? Rhuanedd Richards, cyn brif weithredwr Plaid Cymru. Mae BBC Cymru'n ymdrechu'n daer i anwybyddu fy mhlaid i, Diddymu'r Cynulliad, drwy ein gadael allan o ddadleuon yr arweinwyr yn yr etholiad hwn, er bod arolygon barn yn ein gosod yn llawer uwch na'r Democratiaid Rhyddfrydol, y bwriadant eu cyflwyno o'n blaenau ni. Dyma fesur o'r rhwydweithio yn y dirgel rhwng BBC Cymru, y chwith gwleidyddol a chenedlaetholdeb Cymreig, sydd wedi bod yn tagu bywyd dinesig yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf. Llai o ymyrraeth wleidyddol sydd ei hangen ar y cyfryngau, nid mwy.
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud y dylem gael rhaglen newyddion sy'n canolbwyntio ar Gymru. Beth y byddai hynny ei olygu mewn gwirionedd? Os oes gennym News at Six sy'n canolbwyntio ar Gymru, beth yw diben hynny pan fo gennym Wales Today eisoes? Sut y byddai'n gweithio? Ar News at Six byddai gennym Lucy Owen yn siarad â Nick Servini yn sefyll y tu allan i Senedd y DU yn sôn am sut yr effeithiodd digwyddiadau'r dydd ar Gymru. Yna, ar Wales Today byddai gennym Jen Jones yn siarad â Teleri neu Ione a byddent yn chwilio'n ddyfal am ddeunydd. Yn y pen draw byddai gennym brif straeon am ddafad yn disgyn i lawr ochr y bryn yng Nghricieth. Neu byddem yn saethu at ddarllediad byw o gyfarfod cyffrous o'r pwyllgor materion cyfansoddiadol yma yn y Senedd, gyda chyfweliad hyd yn oed yn fwy cyffrous gyda Mick Antoniw wedyn. Y cyfan yn bethau cyfareddol i edrych ymlaen atynt, os yw'r pwyllgor diwylliant yn cael ei ffordd.
Dyma lle mae'r adroddiad yn methu mewn gwirionedd, oherwydd mae gwleidyddion yn ceisio barnu beth sy'n gwneud teledu da. Mae'n debyg bod rhaid gosod mwy o raglenni a wneir yng Nghymru yng Nghymru. Pam? Rhaid gofyn pa hawl sydd gan aelodau'r pwyllgor i ddweud wrthym beth y mae'r cyhoedd sy'n gwylio ei angen? Pe bai ei angen arnom, byddem eisoes yn ei gael. Gyda phob dyledus barch, mae'r adroddiad hwn yn nonsens llwyr a bydd Diddymu'n pleidleisio yn ei erbyn. Ond diolch i'r pwyllgor am ei ymdrechion yn gwbl ddiffuant, er fy mod yn anghytuno.
Diolch hefyd i'r Dirprwy Lywydd, Dafydd Elis-Thomas a Jane Hutt—a allai ddod yn ôl, wrth gwrs—ond os na welaf yr un ohonoch, diolch yn fawr i chi am eich cymorth yn ystod fy amser yn y Senedd. Diolch yn fawr iawn a hwyl fawr.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth?
Diolch yn fawr, Ann, a diolch am y fraint o gael fy llywyddu gennyt ti ar y diwrnod olaf yn y lle hwn. Mae'n cyfeillgarwch ni a'n perthynas ni yn y gogledd, a lot o gydweithio gwleidyddol wnawn ni ddim sôn amdano fo heddiw, yn mynd yn ôl am ddegawdau. Rwyt ti wedi bod yn seren yn ein plith ni, ac yn arbennig felly yn y swydd llywyddu.
Dwi'n croesawu adroddiad y pwyllgor. Dwi'n ddiolchgar iawn amdano fo. Rydym ni wedi gweld pwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus a darlledu yn arbennig yn ystod yr argyfwng rydym ni'n dal i weithio ein ffordd drwyddo fo. Ac rydym ni wedi gweld mor bwysig yw cael cyfryngau datganoledig a lleol sydd yn gallu adrodd am argyfyngau iechyd cyhoeddus i'r boblogaeth sy'n cael ei heffeithio. Mae'n bwysig ein bod ni ddim yn anghofio'r cyfraniad yna a'n bod ni yn adeiladu ar yr hyn sydd wedi digwydd y tro hwn.
Dwi hefyd yn ddiolchgar i'r cyfryngau am eu partneriaeth effeithiol gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r diwydiannau creadigol, oherwydd mae hynny yn allweddol i ni—bod y gwaith creadigol rydym ni wedi ei wneud yn gallu digwydd mewn perthynas agos gyda'r cyfryngau. A dyna sydd yn fy mhoeni i dipyn bach am y cynnig hwn ac am y sôn am ddarlledu. Dwi wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio'r gair 'darlledu' ers blynyddoedd, oherwydd y diweddar annwyl Euryn Ogwen, a ddysgodd lot o bethau i fi. Fo oedd y cyntaf a ddysgodd i fi bwysigrwydd y gair 'digidol'. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd y gair yn ei feddwl cyn i Euryn roi darlith gryno i fi am y peth. Ac ers hynny, dwi wedi ceisio edrych ar bob math o arwyddion diwylliannol sy'n cael eu gwneud ar draws llwyfannau a'u gweld nhw fel ffurfiau digidol sydd yn ddiwylliant newydd inni i gyd fod yn rhan ohono fo. Felly, dwi ddim yn meddwl bod yna ystyr mewn sôn am ddatganoli darlledu, ond mae yna ystyr mewn sôn am sicrhau fod yr holl fyd digidol a chyfathrebol yn gallu sicrhau lle i Gymru. Ac wrth gwrs, mae hynny'n haws erbyn hyn, yn y cyd-destun digidol, gan nad yw'r hen ddarlledwyr mawr gwladol—er bod gennym ni ddarlledwyr gwaeth rhyngwladol, efallai, na'r rhai gwladol—yn gallu cyrraedd y modd y mae pobl yn gallu cyfathrebu yn ddigidol.
Nawr, rydyn ni wedi bod yn gwneud ambell beth yn ystod y cyfnod yma i geisio sicrhau bod yna lais cryfach i Gymru ar lefel y Deyrnas Unedig. Mae gennym ni femorandwm o gyd-ddealltwriaeth gydag Ofcom ac ynglŷn â phenodiadau i Gymru. Ond y peth pwysicaf sydd wedi digwydd, wrth gwrs, yw cyhoeddiad chwyldroadol y BBC yr wythnos diwethaf ar y cynllun chwe blynedd i ail-greu'r BBC fel sefydliad gwirioneddol ddatganoledig sydd yn adlewyrchu, wel, diwedd y Deyrnas Unedig fel y gwyddom amdani—dyna sy'n digwydd, ac mae'r BBC yn fodlon arwain y ffordd ar hyn ac mae'r ymrwymiad cyhoeddus yma i'w groesawu. Felly, dwi'n edrych ymlaen am fwy a mwy o ddatganoli darlledu a datganoli'r byd digidol ac i Lywodraeth nesaf Cymru gyfrannu mwy hyd yn oed nag ydym ni wedi llwyddo ei wneud yn y blynyddoedd diwethaf i ddylanwadu ar ran pobl Cymru ar y cyfryngau y maen nhw'n eu gwylio a'u gweld. Diolch.
Diolch. Nid oes gennyf unrhyw Aelodau sydd wedi dweud eu bod yn dymuno gwneud ymyriad. Felly, galwaf ar Bethan Sayed i ymateb i'r ddadl. Bethan.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb, dwi'n credu, sydd wedi ymateb i'r drafodaeth yma heddiw.
Diolch i David Melding am eich cyfraniad ar y pwyllgor. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chi. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda phawb mewn gwirionedd, oherwydd mae wedi rhoi cyfle inni drafod y mater pwysig hwn mewn ffordd gydsyniol ac mewn ffordd lle gallwn geisio cyrraedd pwynt lle nad oedd yn rhaid inni gynhyrchu adroddiadau lleiafrifol neu lle nad oedd yn rhaid inni geisio gwneud hwn yn fater cynhennus, a gallai fod wedi bod felly'n hawdd. Felly, rwy'n gwerthfawrogi'r modd y gwnaethoch ymdrin â'r gwaith hwn ac yn bendant, byddwn yn cytuno ynghylch anghysondeb gwneud penderfyniadau ynglŷn ag S4C—ein darlledwr Cymraeg cenedlaethol—mewn man arall. Dylid gwneud y rheini yma yng Nghymru yn bendant. Ac er bod COVID wedi dangos ein bod wedi cael mwy o sylw yn y wasg, fel y dywedodd Siân Gwenllian, mae'n dal yn dameidiog ac mae llawer i'w wneud eto. Ond diolch eto am eich holl waith caled ac am gydnabod bod angen mwy o newyddion lleol arnom. Byddwn yn dweud wrth yr Aelodau o'r Senedd nad ydynt yn teimlo bod angen mwy o newyddion lleol yma yng Nghymru, wel, mae ei angen er mwyn craffu arnom fel y gallwn ddod yn fwy atebol i bobl Cymru ac fel y gallwn wedyn sicrhau bod y penderfyniadau rydym yn eu gwneud yn effeithiol ac yn rhai rydym yn eu gwneud yn ddifrifol iawn.
Siân Gwenllian, diolch yn fawr iawn i chi am eich gwaith chi ar y pwyllgor hefyd. Roeddech chi'n aelod o'r pwyllgor ac yn aelod diwyd hefyd, a dwi'n falch iawn eich bod chi wedi cael y cyfle i weithio gyda fi ar y pwyllgor yma. Pwerau dros ddatganoli darlledu—a fydd y pleidiau eraill yn dod i gefnogi hyn yn eu maniffestos? Wel, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni weld beth fydd yn digwydd yn y mis nesaf, ond, yn sicr, rwy wedi clywed yn iawn beth y mae Plaid Cymru yn mynd i'w wneud.
O ran S4C, dŷch chi'n dweud yr un peth â David Melding—mae'r pwerau angen bod yn ein gwlad ni ei hun, a hefyd yn sôn am gorff annibynnol a fyddai'n gallu gweithredu ar ôl y Senedd nesaf, petasai Plaid Cymru mewn pŵer. Wrth gwrs, bydd hwnna i'w weld nawr, os yw'r etholiad yn llwyddiannus i Blaid Cymru, ond diolch eto i chi am eich cyfraniad chi.
Rwy'n ei chael hi'n anodd gwybod beth i'w ddweud am gyfraniad Gareth Bennett. Cawsom lawer o sesiynau tystiolaeth gan bobl â diddordebau penodol yn y cyfryngau. Cawsom bobl a oedd yn academyddion, pobl sy'n gweithio yn y sector. Nid rhestr ddymuniadau gan bwyllgor y Senedd yw hon. Mae'n seiliedig ar dystiolaeth real—gwaith caled, o un diwrnod i'r llall. Mae undebau llafur hefyd wedi gofyn inni edrych ar y mater oherwydd roeddent yn dweud eu bod am siarad am ddatganoli darlledu ond maent yn ei chael hi'n anodd codi'r materion hyn gyda'u penaethiaid yn Llundain. Ceir pryderon gwirioneddol ynghylch pobl yn gorfod mynd i Lundain ar drenau a bysiau i gyfweliadau er mwyn cymryd rhan mewn pethau fel Casualty sy'n cael ei ffilmio yma yng Nghymru. Wyddoch chi, mae arnom angen mwy o newyddion am ein heconomi leol, oherwydd mae papurau newydd lleol wedi dod i ben dros y blynyddoedd, ac mae lleoedd fel Port Talbot wedi'u gadael yn dlotach o'r herwydd. Mae angen mwy o newyddion arnom fel y gellir craffu ar bobl fel chi yn y penderfyniadau a wnewch, fel na fydd Plaid Diddymu Cynulliad Cymru, gobeithio, yn cael unrhyw Aelodau o'r Senedd yn nhymor nesaf y Senedd. Felly, dyna pam rwy'n dweud bod ein pwyllgor yn bwysig. Efallai eich bod yn meddwl ei fod yn nonsens, ond rwy'n gwneud llawer o waith caled tu hwnt ar hyn, felly nid nonsens yw'r hyn rwy'n ei wneud a hoffwn i chi wybod hynny ar ddiwedd tymor y Senedd hon. Peidiwch â dweud bod pobl sydd wedi gweithio'n galed ar hyn yn gwneud nonsens. Rwy'n falch o fy ngwaith a gwaith Aelodau eraill y grŵp trawsbleidiol ar y pwyllgor hwn, ac rydych yn ffôl yn ei farnu yn y ffordd hon ar ddiwedd y tymor hwn.
Diolch i'r Gweinidog Dafydd Elis-Thomas am ei gyfraniad. Diolch ichi am amlinellu'r ffaith bod pethau wedi newid ar ran Llywodraeth Cymru a'ch meddylfryd yn y maes yma, ac, fel dywedais i ar y cychwyn, mae Lee Waters wedi ysgrifennu atom ni fel pwyllgor ddoe yn dweud y byddan nhw'n cefnogi yr hyn yr ydym ni'n gofyn amdano mewn egwyddor, o ran creu y fund yna ar gyfer newyddiaduraeth yma yng Nghymru, i sicrhau bod twf.
Yn sicr dydyn ni ddim yn gofyn am unrhyw beth sydd yn mynd i gael ei ddylanwadu gan Lywodraeth Cymru; mae angen i bopeth fod yn hyd braich, ond dwi'n credu ei bod hi'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y gwaith yma, er nad yw elfennau o ddarlledu wedi cael eu datganoli. Yn sicr mae yna fomentwm nawr; mae newid. Mae yna femorandwm o gyd-ddealltwriaeth rhwng y BBC, Ofcom, ITV yma yng Nghymru. Maen nhw'n fodlon dod i'r pwyllgor i gyfrannu, i drafod gyda ni. Hoffwn i orffen drwy ddiolch iddyn nhw am ddod i mewn atom, a gobeithio'n wir y bydd pwyllgor o'r fath yn bodoli yn y Senedd nesaf. Mae'r pwyllgor hwn wedi cael Lord Hall a Tim Davie i mewn i roi tystiolaeth ac wedi eu dwyn nhw i gyfrif am yr hyn maen nhw'n ei wneud yma yng Nghymru.
Ar ddiwedd y dydd, mae ein democratiaeth ni yn weddol newydd, ond mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cael ein dwyn i gyfrif, bod pobl Cymru yn cael y wasg maen nhw'n ei haeddu a'u bod nhw'n gallu darllen am eu bywydau bob dydd yn y wasg hynny. Mae'n rhaid inni weithredu, a dyna pam dwi mor falch o gyflwyno'r adroddiad yma ichi heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? A wyf i'n gweld gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Ydw. Mae'n ddrwg gennyf, rhaid imi barhau i edrych o amgylch yr oriel o wynebau. Iawn, rydym yn gweld gwrthwynebiad, felly fe ohiriwn y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.