– Senedd Cymru am 1:31 pm ar 19 Mai 2021.
Yr eitem nesaf yw eitem 3, sef y datganiad gan y Prif Weinidog ar y penodiadau i'r Cabinet. Prif Weinidog.
Lywydd, diolch yn fawr. Mae bron i bythefnos bellach ers i'n cyd-ddinasyddion yng Nghymru ddewis y bobl a fydd yn eu cynrychioli yma yn y Senedd dros y pum mlynedd nesaf. Yn nhymor y Senedd hon, gwn y bydd cael eistedd yn y Siambr hon yn fraint i bob Aelod a etholwyd, ac mae bod yn Brif Weinidog ein cenedl yn anrhydedd arbennig iawn yn wir. Serch hynny, pan ddeuthum yn Brif Weinidog ddwy flynedd a hanner yn ôl, pwysleisiais fy hoffter o arweinyddiaeth gyfunol a chydweithredol, gan fanteisio ar gronfa eang o dalent ac ymrwymiad. Gwneuthum hynny gan fy mod bob amser wedi meddwl mai arweinyddiaeth gyfunol o’r fath yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod pobl yn gweithio er budd ein cenedl. A chredaf hefyd fod hynny’n cyd-fynd â’r ffordd rydym yn gwneud pethau yma yng Nghymru. Rydym yn cynhyrchu mwy o gorau nag unawdwyr; rydym yn well am chwarae rygbi nag am neidio â pholyn. Nawr, mae'r ymagwedd honno wedi bod o fudd i ni, yn fy marn i, dros y 15 mis diwethaf wrth inni ymateb i bandemig byd-eang y coronafeirws, ymateb a alwai am ymdrech gan y Llywodraeth gyfan i helpu i gadw Cymru’n ddiogel.
Mae'r Cabinet newydd a ffurfiwyd yr wythnos diwethaf yn dîm llawn talent, uchelgais a phrofiad, tîm a fydd yn sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw dros y pum mlynedd nesaf, ac i'n helpu i wynebu'r heriau anochel a ddaw i'n rhan. Hoffwn dalu teyrnged heddiw i Ken Skates, sydd wedi penderfynu camu i lawr o’r Llywodraeth i weithio o'r meinciau cefn. Mae Ken wedi bod yn llais cryf dros ogledd Cymru yn y Llywodraeth, a gwn y bydd yn parhau i fod yn llais cryf dros ogledd Cymru o'r meinciau cefn. Byddwn yn gweld eisiau ei angerdd a'i egni o gwmpas bwrdd y Cabinet.
Llywydd, nid yw argyfwng coronavirus ar ben. Yn yr wythnos ers i ni ddod at ein gilydd yn y Cyfarfod Llawn, bydd pob un o'r Aelodau wedi clywed am yr amrywiolyn o India a'i effaith bosibl. Byddaf yn rhoi datganiad ar gyd-destun iechyd y cyhoedd yn nes ymlaen y prynhawn yma, ond bydd y Cabinet yn parhau i wneud penderfyniadau yn unol â'n cylch adolygu tair wythnos, ac yn rhannu cyfrifoldeb am y penderfyniadau hyn.
Cabinet a fydd yn cyflawni adferiad yw'r Cabinet newydd, a hynny ar gyfer y Gymru y tu hwnt i'r pandemig—y Gymru gryfach, wyrddach a thecach y mae fy mhlaid wedi ymrwymo i'w chyflawni: Cymru lle bydd pawb yn chwarae ei ran, Cymru lle na fydd neb yn cael ei ddal yn ôl a lle na fydd neb yn cael ei adael ar ôl.
Dyma Gabinet a grëwyd i gwrdd â heriau mawr ein hoes—colli bioamrywiaeth a'r newid yn yr hinsawdd. Nid yw'r argyfwng newid hinsawdd wedi diflannu tra ydym wedi bod yn delio â'r pandemig.
A dyna’r rheswm pam, wrth gwrs, Lywydd, y bydd y Llywodraeth newydd hon yn sicrhau bod yr amgylchedd, colli bioamrywiaeth a’r newid yn yr hinsawdd yn cael lle canolog yn ein penderfyniadau, wedi'u dwyn ynghyd mewn un weinyddiaeth, a fydd yn dod â'r holl brif ysgogiadau ym maes newid hinsawdd at ei gilydd. Gyda'i gilydd, bydd gan Weinidog a Dirprwy Weinidog—Julie James a Lee Waters—gyfrifoldeb am dai, trafnidiaeth, cynllunio, ynni a'r amgylchedd, gan fynd i’r afael â pheryglon y newid yn yr hinsawdd, ond gan wneud y gorau hefyd o’n hasedau naturiol aruthrol a chreu’r swyddi ar gyfer dyfodol Cymru.
Lywydd, rydym eisoes wedi dechrau ar y gwaith o ddatblygu rhaglen lywodraethu newydd a osodir ger bron y Senedd yn yr wythnosau nesaf. Bydd yn nodi ein cynlluniau i helpu ein gwasanaethau cyhoeddus i ymadfer ar ôl COVID. Bydd hynny'n cynnwys cynllun adfer brys ar gyfer y GIG a'r cynllun dal i fyny mwyaf ar gyfer pobl ifanc ers dechrau datganoli. Bydd yn nodi'r gwaith i ddatblygu gwarant newydd i bobl ifanc, gan roi'r cynnig o waith, addysg neu hyfforddiant i bawb o dan 25 oed.
Bydd yn amlinellu camau tuag at fargen deg ar gyfer gofal, gan gynnwys talu'r cyflog byw gwirioneddol i bawb sy'n gweithio yn y sector gofal. Bydd yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i wneud Cymru’n wlad wyrddach—diddymu mwy o blastig untro sy’n llygru a chreu coedwig genedlaethol a pharc cenedlaethol newydd i Gymru. Bydd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer cymunedau mwy diogel, gan gynyddu’r nifer o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ar ein strydoedd. A bydd yn amlinellu ble y byddwn yn creu swyddi newydd i Gymru drwy chwyldro adeiladu tai carbon isel, gan adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu.
Ond lle gallwn fynd ymhellach ac yn gyflymach, bydd y Llywodraeth hon bob amser yn agored i syniadau newydd. Lywydd, yr wythnos diwethaf, dywedais nad oes gan unrhyw blaid fonopoli ar ffyrdd da o symud Cymru ymlaen, a chynigiais weithio ar draws y pleidiau pan fo gennym ddiddordebau sy'n gyffredin. Rwyf wedi ysgrifennu at arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru i gadarnhau'r cynnig hwnnw. Ac ar draws y Senedd, gwn y bydd Aelodau newydd a rhai sy'n dychwelyd yn dod yma gyda’r bwriad o wneud y cyfraniad cadarnhaol hwnnw at ddyfodol ein cenedl, heriau heddiw a heriau yfory.
Fel y dywedais, nid oes unrhyw fater sy'n bwysicach na'r argyfwng hinsawdd a natur sy'n ein hwynebu. Dyna pam fod gweinyddiaeth newydd yng nghraidd y Llywodraeth hon. A thynnodd pob plaid a gynrychiolir yma sylw yn ystod yr etholiad, yn gwbl gywir, at yr angen am gamau mentrus i fynd i'r afael â'r argyfwng sy'n ein hwynebu. Nawr yw’r amser i drosi'r ymrwymiad hwnnw’n gamau ymarferol. O'r etholiad, ac o'r pandemig, gallwn weld Cymru gryfach, Cymru wyrddach a Chymru decach. Yr hyn sydd angen ei wneud yn awr yw sicrhau bod Cymru ar y llwybr tuag at adferiad, ac mae'r Cabinet rwyf wedi'i nodi y prynhawn yma yn barod i fynd ati i wneud yn union hynny. Lywydd, diolch yn fawr.
Diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Brif Weinidog. Ac rwy'n ymuno â chi i longyfarch yr Aelodau sy'n dychwelyd a’r Aelodau newydd, am y fraint o gael eistedd yn y Siambr hon i ddadlau, i drafod, a gobeithio, i lywio penderfyniadau polisi sy'n cael effaith ddramatig ar fywydau pobl er lles pawb yng Nghymru. Mae'n gyfnod cyffrous i fod yng Nghymru, a'r hyn sy’n bosibl inni ei wneud gyda'r pwerau sydd ar gael i Senedd Cymru, ac yn wir, mae’r ffordd rydych wedi adeiladu eich Llywodraeth, ar ôl y mandad a roddwyd i chi gan bobl Gymru, yn ategu cywair yr hyn rydych am ei wneud, yn enwedig ar newid hinsawdd a'r amgylchedd, fel y gwnaethoch ei bwysleisio mor gryf yn eich datganiad.
Brif Weinidog, un peth y gwyddom yw eich bod wedi dweud na fyddwch yn aros am dymor llawn fel Prif Weinidog. Felly, a allwch ddweud bod hwn yn Gabinet a fydd yn para tan ddiwedd eich tymor fel Prif Weinidog? Neu a yw'n rhywbeth y bydd yn rhaid i chi ei ailadeiladu wrth i dymor y Cynulliad fynd rhagddo? Oherwydd credaf fod honno'n sgwrs wirioneddol y mae pobl yn awyddus i’w deall—faint o egni'r Llywodraeth a fydd yn canolbwyntio ar bwy a allai eich olynu, yn hytrach, efallai, na’r mandad a osodwyd gennych i'ch cyd-Aelodau yn y Llywodraeth.
Yn ail, mae'n bwysig deall sut y bydd y polisïau hyn yn cael eu cyflawni yn y Llywodraeth, a chanolbwyntio ar yr uned gyflawni a oedd gan Carwyn Jones o'r blaen, a Swyddfa'r Cabinet a ddaeth yn ei lle, ac yn bwysig iawn, yr Ysgrifennydd Parhaol a newid Ysgrifennydd Parhaol fel y nodwyd. A allwch ddweud sut y mae'r gwaith recriwtio hwnnw'n mynd rhagddo gyda'r Ysgrifennydd Parhaol a sut y gallai'r newidiadau effeithio ar y gwaith o gyflawni penderfyniadau a chyfarwyddebau polisi'r Cabinet?
A allwch nodi hefyd y cynlluniau y tynnoch chi sylw atynt mewn perthynas ag amseroedd aros, dal i fyny, ffyrlo, targedau newid hinsawdd a thai, a phwysigrwydd sicrhau y bydd Gweinidogion yn cael eu dwyn i gyfrif am gyflawni'r targedau hynny, a pha ddulliau y byddwch yn eu defnyddio i'w dwyn i gyfrif? Oherwydd byddant yn gyfrifol am gyflawni'r pwyntiau rydych wedi'u gosod ar eu cyfer, a pha nodau rydych wedi'u gosod ar eu cyfer yn benodol ar gyfer amseroedd aros a dal i fyny, sy'n rhan mor bwysig o ailadeiladu ar ôl yr argyfwng COVID?
O ran deddfwriaeth, mae pob un ohonom wedi cytuno ar y Ddeddf aer glân, a'r Bil amaethyddiaeth yn enwedig sydd angen ei gyflwyno. A allwch chi nodi pryd y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno'r darnau pwysig hyn o ddeddfwriaeth fel y gall Senedd Cymru eu hystyried? Ac yn benodol, a allwch chi nodi'r polisi a gyhoeddwyd gennych ar y penwythnos ynghylch incwm sylfaenol cyffredinol? Oherwydd, o'r hyn a ddeallaf, dim ond lwfans a fydd yn cael ei roi i ofalwyr yw hwn. Ni waeth pa mor ganmoladwy yw hynny, nid yw’n gyfystyr â phrawf dilys o'r incwm sylfaenol cyffredinol y soniodd y Llywodraeth amdano dros y penwythnos. Felly, a allwch nodi pa gynlluniau a fydd gan y Llywodraeth i gyflwyno cynigion o'r fath yng Nghymru i brofi cynnig o'r fath mewn modd dilys, er fy mod cyfaddef nad yw ein hochr ni o'r Siambr hon yn ei gefnogi, ond os mai dyna fydd polisi'r Llywodraeth, mae’n bwysig ein bod yn deall sut rydych am ei gyflawni.
A hefyd, y sgwrs a ddechreuwyd gennych ddoe ynglŷn â mwy o wleidyddion etholedig. Ai polisi Llywodraeth Cymru bellach yw cefnogi safbwynt o’r fath, oherwydd deallaf eich bod yn siarad fel Prif Weinidog pan oeddech yn sôn am gynigion i gyflwyno gwleidyddion newydd ger bron yr etholwyr erbyn 2026? Felly, a ddylem gymryd bellach mai polisi swyddogol Llywodraeth Cymru yw cefnogi'r safbwynt hwnnw, er mai cyfrifoldeb y Senedd fydd cyflwyno'r cynigion hynny i'w hystyried yn eu cyfanrwydd? Diolch, Brif Weinidog.
Lywydd, diolch i arweinydd yr wrthblaid am ei holl gwestiynau ac am y ffordd y cyflwynodd ei sylwadau y prynhawn yma. Cytunaf ag ef fod hwn yn gyfnod cyffrous i fod yn rhan o ddyfodol Cymru, ac rwy’n ymrwymedig iawn i sicrhau ymdeimlad o frys yn y ffordd y bydd y Llywodraeth hon yn mynd i’r afael â’r heriau y gwyddom ein bod yn eu hwynebu.
Rwyf bob amser wedi bod o’r farn eich bod yn penodi cyd-Aelodau o’r Cabinet ac yna’n rhoi cyfle iddynt fynd i'r afael â'r materion y maent yn gyfrifol amdanynt. Credaf mai hyd yr amser cyfartalog y bydd Ysgrifennydd Gwladol yn San Steffan yn ei dreulio yn y swydd yw rhwng 15 a 18 mis. Ymddengys i mi mai ychydig iawn o amser y mae hynny’n ei roi ichi fynd i'r afael yn iawn â'r materion y mae eich adran yn eu hwynebu, ac yn aml, rydych wedi hen adael cyn gorfod wynebu canlyniadau'r penderfyniadau y gallech fod wedi’u gwneud. Drwy gydol datganoli, credaf fod Llywodraethau olynol wedi credu i’r gwrthwyneb. Mae’r Gweinidogion yma i gael yr amser sydd ei angen arnynt i gyflawni'r cyfrifoldebau sydd ganddynt ac i gael eu dwyn i gyfrif wedyn am y penderfyniadau a wnânt.
Pan fyddwn yn cyhoeddi’r rhaglen lywodraethu, bydd yr Aelod yn gweld rhai o'r cynigion sydd gennym ar gyfer peirianwaith y Llywodraeth i gefnogi ymdrech y weinyddiaeth newydd. Rwy'n bwriadu sicrhau y bydd swyddfa'r Prif Weinidog yn gyfrifol am nifer o ymrwymiadau allweddol. Felly, bydd gennyf ddiddordeb uniongyrchol yn y gwaith o oruchwylio cyflawniad yr amcanion hynny. Ond mae’r rhan fwyaf o weithredoedd y Llywodraeth yn digwydd, yn gwbl briodol, ar lefel portffolio, a rhaid rhoi awdurdod i Weinidogion fwrw ymlaen â'r gwaith y cawsant eu hethol a'u penodi i'w wneud, a phan fydd y rhaglen lywodraethu’n cael ei chyhoeddi, bydd yr Aelodau'n gweld yr eitemau y credaf fod angen awdurdod swyddfa Prif Weinidog y tu ôl iddynt i’w gyrru drwy'r Llywodraeth a'r nifer fwy o eitemau y bydd Gweinidogion yn eu datblygu ac yn atebol amdanynt yma yn y Senedd.
Mae Andrew R.T. Davies yn llygad ei le, Lywydd, fod swydd yr ysgrifennydd parhaol newydd wedi’i hysbysebu ddydd Llun yr wythnos diwethaf. Credaf fy mod wedi dweud eisoes fod yr ansoddair 'parhaol' yn gamarweiniol bellach, gan fod ysgrifenyddion parhaol yn cael eu penodi am dymor sefydlog o bum mlynedd a bydd cyfnod yr ysgrifennydd parhaol presennol yn y swydd yn dod i ben ar ddechrau'r flwyddyn galendr nesaf. Credaf fy mod wedi dod i’r casgliad fod gan un o'r ffyrdd y mae rhai adrannau Whitehall yn gweithredu rywbeth i'w gynnig i ni yma, oherwydd mewn nifer o adrannau Whitehall, ochr yn ochr ag ysgrifennydd parhaol, mae ganddynt yr hyn a elwir yn 'brif swyddog gweithredu’. Swydd y prif swyddog gweithredu yw ymdrin â mecanwaith y ffordd y mae adran yn cael ei gweithredu: ymdrin â materion staffio, ymdrin â materion yn ymwneud â thelerau ac amodau, ymdrin â phwy sy'n cael parcio eu ceir ymhle—yr holl fathau hynny o bethau, sydd ar hyn o bryd, yn Llywodraeth Cymru, yn gyfrifoldebau i’r ysgrifennydd parhaol. Nawr, rwyf eisiau ysgrifennydd parhaol sydd ag amser ar gael i helpu i sicrhau bod y rhaglen lywodraethu'n llwyddo, a chredaf y byddai’n gymorth i’r unigolyn newydd pe bai ganddynt brif swyddog gweithredu ochr yn ochr â hwy i ymdrin mwy â mecanwaith Llywodraeth. A chefais gyfle i gael sgwrs hir gyda Simon Case, pennaeth Swyddfa'r Cabinet yn Whitehall, a chredaf fy mod wedi dysgu pethau defnyddiol o'r hyn a ddywedodd wrthyf ynglŷn â sut y gallem ddysgu rhai o'r gwersi hynny yma.
Fe fydd yna raglen ddeddfwriaethol, Lywydd, a bydd honno'n cychwyn ym mlwyddyn gyntaf y Senedd hon a byddaf yn gwneud y datganiad arferol ar y rhaglen ddeddfwriaethol yn ail hanner tymor yr haf hwn. Rwy'n ddiolchgar am yr hyn a ddywedodd Andrew Davies am y Bil amaethyddiaeth. Fe fydd yn cofio inni gytuno, yn y Senedd flaenorol, yn rhannol oherwydd sylwadau gan y gwrthbleidiau, y byddai'r pwerau a fyddai’n dod i ni drwy Fil amaethyddiaeth y DU yn gyfyngedig o ran amser—y byddai cymal machlud ar waith. Nawr, credaf mai dyna'r peth iawn i'w wneud, ond mae'n rhoi pwysau ar bob un ohonom yma i sicrhau y gallwn roi Bil amaethyddiaeth sy'n benodol i Gymru ar y llyfrau statud fel y gallwn barhau i wneud yr holl bethau y mae angen i ni eu gwneud i gynorthwyo ffermwyr ac eraill sy'n dibynnu ar yr economi wledig. Felly, mae hwnnw'n Fil y byddwn yn ei gyflwyno a gobeithiaf y gallwn weithio yn yr ysbryd cydweithredol y soniodd arweinydd yr wrthblaid amdano yn ei gyflwyniad.
O ran incwm sylfaenol cyffredinol, yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig yw'r hyn a ddywedasom yn ein maniffesto, sef arbrawf a chynllun peilot. Nid oes gennym yr holl bwerau a fyddai’n angenrheidiol, heb sôn am yr holl arian a fyddai’n angenrheidiol i gynnwys incwm sylfaenol cyffredinol i Gymru gyfan, ond credaf fod gennym y gallu i lunio arbrawf craff a fydd yn caniatáu inni brofi'r honiadau a wneir am incwm sylfaenol cyffredinol. Nawr, rwy’n gyfarwydd â'r honiadau hyn ers blynyddoedd lawer. Roedd fy nhraethawd doethuriaeth yn ymwneud â grŵp a oedd yn dadlau o blaid rhywbeth o'r enw 'credyd cymdeithasol' yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd. Mae credyd cymdeithasol yn fath o incwm sylfaenol cyffredinol. Roedd ganddynt grŵp yma yng Nghaerdydd a fu’n weithgar iawn yn hyrwyddo'r syniad ar y pryd. Felly, mae hwn yn syniad ag iddo hanes hir iawn, ond ychydig iawn o gymhwysiad ymarferol i ddysgu a yw'r pethau sy'n cael eu dweud amdano yn cael eu gwireddu ym mywydau'r bobl sy'n ei dderbyn. Ac os gallwn ddechrau gyda phobl ifanc sy'n gadael ein system ofal, credaf fod dadleuon cryf dros wneud hynny. Maent yn grŵp o bobl y gwyddom amdanynt—gallwn nodi pwy ydynt; gallwn ddarparu, nid yn unig incwm ar eu cyfer, ond y cymorth arall sydd ei angen arnynt i sicrhau eu bod yn dechrau eu bywydau gan anelu at ddyfodol llwyddiannus. Ac edrychaf ymlaen, ynghyd â llawer o Aelodau yn y Siambr sydd â diddordeb mewn incwm sylfaenol cyffredinol—edrychaf ymlaen at ddadlau amdano a'i drafod ag eraill sy’n awyddus i weld yr arbrawf hwnnw'n llwyddo fel arbrawf, lle byddwn yn dysgu a yw'n gweithio, neu'n cyflawni'r hyn sy'n cael ei honni yn ei gylch.
Ac o ran dyfodol y Senedd, fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid, mae’n sicr yn fater i'r Senedd yn bennaf, nid i'r Llywodraeth. Bydd cefnogaeth sylweddol ar yr ochr hon i’r Siambr, fel y bydd yr Aelodau wedi’i glywed yr wythnos diwethaf yn yr areithiau gan fy nghyd-Aelodau David Rees a Hefin David, wrth i’r ddau ohonynt gyfeirio at yr angen i fwrw ymlaen â'r cynigion yn adolygiad Laura McAllister, ac y byddai hynny'n rhan o'r hyn y byddent yn ceisio'i wneud pe byddent yn cael eu hethol yn Ddirprwy Lywydd. Felly, bydd cefnogaeth sylweddol ar y meinciau hyn i'r ymdrech honno, ond yn y pen draw, fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid, mater i'r Senedd ei hun, yn hytrach na'r Llywodraeth, yw arwain ar hyn.
Gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad, a hefyd am yr ysbryd o gydweithrediad a oedd yn plethu drwyddo, a dweud y gwir? Roeddech chi'n sôn am y traddodiad corawl Cymreig fel arwydd o'r ysbryd cydweithredol yn hynny o beth, ac wrth gwrs, mae'n rhaid cofio, rwy'n credu, mai'r term gwreiddiol ar gyfer Senedd Cymru, pan oedd Cymru Fydd wrthi, oedd creu cymanfa genedlaethol. Felly, mae'r syniad o geisio harmoni yn hytrach nag anghytgord, rwy'n credu, wastad yn fan cychwyn da yn ein trafodion ni fel Senedd. Gaf i, ar ran Plaid Cymru, groesawu'r cynnig yr oeddech chi, Prif Weinidog, wedi cyfeirio ato? Rŷn ni'n barod, wrth gwrs, bob amser, i geisio ffeindio tir cyffredin rhyngom er mwyn pobl Cymru, yntefe? Er mwyn mynd i'r afael â chynnig datrysiadau i'r problemau y buom ni wrthi yn trafod, wrth gwrs, yn ystod yr etholiad cyffredinol.
Gaf i jest cyffwrdd ar rai o'r rheini nawr, lle gobeithio y bydd modd ffeindio'r tir cyffredin hynny, ond lle rwy'n deall, wrth gwrs, y byddwch chi, maes o law, yn ystod yr wythnosau nesaf, yn cyhoeddi'ch rhaglen lywodraethu? Ond mae rhai o'r meysydd yma yn feysydd lle mae angen gweithredu ar fyrder, ac felly byddai fe'n dda i glywed mwy ynglŷn â bwriadau cychwynnol y Llywodraeth.
Gaf i jest cychwyn drwy gyfeirio at yr argyfwng tai? Dwi ddim yn credu y gallwn ni wadu bod yna argyfwng ym maes tai yng Nghymru erbyn hyn. Rŷch chi wedi addo gweithredu cyn, ar ôl ac yn ystod yr etholiad ynglŷn ag ail gartrefi. Allwch chi roi ychydig mwy o fanylion ynglŷn â'r camau y byddwch chi'n eu cymryd ar unwaith o ran hynny? Mae prisiau tai yng Nghymru yn gyffredinol yn mynd allan o reolaeth, gyda phrisiau tai yn cynyddu fan hyn yn llawer mwy nag ar draws y Deyrnas Unedig. Roedd tair elusen yn dweud dros y penwythnos mai breuddwyd gwrach yw perchen tŷ i nifer o bobl yng Nghymru heddiw, ac nad yw'r cynlluniau a oedd gennych chi fel Llywodraeth flaenorol yn gwneud digon i wneud gwahaniaeth i nifer fawr o bobl. Felly, fyddwch chi yn dod â chynllun gwirioneddol radical i fynd i'r afael â'r broblem hynny, sydd yn gynyddol broblem i gymaint o'n pobl ifanc yn ein cymunedau ni?
Allwch chi ddweud, ynglŷn â thai fforddiadwy, sut ŷch chi'n mynd i ddelifro'r lefel mwy uchelgeisiol ar gyfer adeiladu? Mi oedd fy mhlaid i ac un o'ch grwpiau ymgynghorol yn awgrymu'r angen i greu capasiti newydd gydag asiantaeth benodol. Os nad ŷch chi'n mynd lawr y llwybr yma, sut ŷch chi'n mynd i ddelifro ar hynny?
Gaf i jest cyfeirio wedyn at dlodi plant, ac yn benodol, prydiau ysgol am ddim, a oedd yn thema fawr yn ein hymgyrch ni ym Mhlaid Cymru? Rŷch chi wedi sôn am yr adolygiad ynglŷn â phrydiau ysgol am ddim—allwch chi roi rhagor o fanylion ynglŷn â hynny?
Ym maes yr economi, mi oeddech chi wedi comisiynu—ac mae hwn yn ganolog i bob dim, nag yw e? Dyma'r sylfaen—mi oeddech chi wedi comisiynu adroddiad go swmpus a chynhwysfawr iawn, a dweud y gwir, gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd cyn yr etholiad, a oedd yn awgrymu creu capasiti newydd o ran delifro polisi economaidd yng Nghymru o fewn y gwasanaeth sifil, o fewn eich adran chi fel Prif Weinidog, ond hefyd creu asiantaeth datblygu economaidd. Ydy hynny dal yn rhywbeth rŷch chi'n ei gysidro fel Llywodraeth, achos rŷm ni ym Mhlaid Cymru yn meddwl bod angen capasiti newydd os rŷm ni'n mynd i gynyddu perfformiad economaidd Cymru?
Da gweld cyfeiriad at y Ddeddf amaeth. Wrth gwrs, dŷn ni'n dal yn erfyn arnoch chi i ailystyried o ran y sefyllfa gyda NVZs, sydd yn peri gofid mawr ar gyfnod hynod ansicr i amaethyddiaeth yn gyffredinol. A gaf i ofyn i chi—dwi wedi gweld y sylwadau gan y Gweinidog amaeth—a gaf i ofyn i chi fel Prif Weinidog ymateb i'r drafodaeth sydd wedi bod dros y dyddiau diwethaf ynglŷn â'r posibilrwydd o gytundeb masnach gydag Awstralia, a fydd yn gosod templad peryglus ofnadwy, a dweud y gwir, i holl ddyfodol amaethyddiaeth Cymru? Faint o ymwneud ac ymgysylltu sydd wedi bod gyda Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, ac ydych chi'n rhannu'r un farn â ni bod angen i ni sefyll yn unedig fel cenedl, a dweud y gwir, i wrthsefyll yr awgrym gorffwyll yma sydd yn dod gan Lywodraeth San Steffan ar hyn o bryd, mae'n debyg?
O ran pwerau'r Senedd, mi oeddech chi wedi dadlau yn ystod yr etholiad gyffredinol dros ragor o bwerau, ac wedi awgrymu creu comisiwn ynglŷn â hyn. A fyddech chi'n gallu rhoi mwy o fanylion ynglŷn â hwnna?
Ac, yn olaf, a gaf i ofyn i chi fel Prif Weinidog wneud datganiad heddiw o ran y sefyllfa ym Mhalesteina ac Israel, a mynnu bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn gwneud popeth i sicrhau bod yna gadoediad a bod yna gydymffurfio gyda chyfraith ryngwladol er mwyn gwarchod buddiannau'r bobl sydd yn dioddef yn enbyd yno ar hyn o bryd?
Llywydd, diolch yn fawr i Adam Price am y cwestiynau yna. Dwi ddim yn cofio i ni gael cymanfa ganu o flaen y Senedd, ond dyna syniad rŷm ni gyd yn gallu cytuno amdano. Dwi'n cofio'r Gweinidog Lesley Griffiths yn bwydo nôl i fi am y gymanfa ganu yn Builth Wells bob blwyddyn, so mae hwnna'n draddodiad rŷm ni'n gallu meddwl amdano.
Yn y maes tai, wrth gwrs rwy'n cytuno am bwysigrwydd y maes tai. Un o'r pethau wnes i pan oeddwn i'n dod i'r swydd fel Prif Weinidog oedd apwyntio rhywun ar lefel y Cabinet i fod yn gyfrifol am bolisi a phethau ymarferol y gallwn eu gwneud yn y maes tai, ac mae Julie James yn parhau gyda'r cyfrifoldebau yn y maes yna.
Pan rŷm ni'n siarad am ail gartrefi ac am brisiau tai a phobl ifanc sydd eisiau aros mewn pentrefi, ac yn y blaen, beth rydw i eisiau gwneud yw rhoi cynllun eithaf radical ymlaen. Mae uned newydd tu fewn i'r Llywodraeth sydd wedi bod yn gweithio yn y maes yma. Maen nhw'n siarad am gynllunio, maen nhw'n siarad am drethi, ond dyna un o'r meysydd, fel dywedais i wythnos diwethaf, ble dwi'n awyddus i weithio gyda phobl eraill i weld os oes yna fwy o syniadau, unrhyw beth effeithiol arall rŷm ni'n gallu meddwl ei wneud i helpu pobl ifanc yn y sefyllfa yna, ac wrth gwrs, i warchod dyfodol yr iaith Gymraeg.
Rydym wedi rhoi nifer uchelgeisiol o dai newydd rŷm ni eisiau adeiladu i'w rhentu, a rŷm ni'n mynd i wneud hwnna mewn nifer o ffyrdd. Ond gweithio gyda'r cynghorau lleol yw un o'r pethau rŷm ni'n awyddus i'w gwneud, ac i wneud mwy gyda nhw i roi yn eu lle yr adnoddau, y bobl gyda'r sgiliau, ac yn y blaen, i adeiladu tai am y dyfodol, tai ble rŷm ni'n gallu gwneud cyfraniad at ddelio gyda newid yn yr hinsawdd ar yr un amser.
Tlodi plant, fel rŷm ni wedi dweud o'r blaen, rŷm ni nawr yn defnyddio data newydd sydd wedi dod mas o'r system PLASC. Roedd hwnna'n dod i mewn pan oeddem ni gyd mas ar y stepen drws, ond mae swyddogion yn gwneud gwaith ar hyn o bryd, a bydd hwnna'n mynd at y Gweinidog newydd dros addysg. Dwi eisiau adeiladu ar adroddiad yr OECD i greu capasiti newydd i'n helpu ni ym maes yr economi. Dwi ddim eisiau gweld asiantaeth newydd tu fas i'r Llywodraeth am y ffordd i wneud hynny. Dwi ddim eisiau gweld Gweinidogion yn dod i'r Senedd i ddweud, 'Wel, dwi ddim yn gyfrifol am hynny—rŷm ni wedi rhoi y cyfrifoldeb am hynny i ryw fath o gwango newydd yma yng Nghymru.' So, dwi'n cytuno ei bod hi'n angenrheidiol i ni greu capasiti newydd, ond y ffordd i'w wneud e yw mewn ffordd sy'n atebol i'r Senedd.
Dwi'n cytuno am beth ddywedodd Adam Price am beth rŷm ni'n clywed am Awstralia a'r cytundeb y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn meddwl rhoi yn ei le. Ar lefel swyddogion, rŷm ni wedi bod yn siarad gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn gwneud y pwyntiau ar gyfer Cymru y bydd pobl yn y Senedd yn gallu meddwl. Ac mae cyfle gyda fi yn bersonol heno, pan fydd y cyfarfod sy'n mynd ymlaen bron bob wythnos nawr rhwng y Prif Weinidogion a Michael Gove, a dwi wedi rhoi neges yn barod i mewn i'w swyddfa ef i ddweud dwi eisiau codi beth rŷm ni wedi ei glywed heddiw ac i fod yn glir gyda fe am beth roeddem ni yng Nghymru yn meddwl am rai o'r syniadau yna.
Dwi wedi bod yn siarad y bore yma gyda'r Cwnsler Cyffredinol newydd am y comisiwn, a bydd e eisiau dod lan gyda datganiad i'r Senedd cyn egwyl yr haf i roi mas rhai syniadau am sut ni'n gallu tynnu pobl ar draws y pleidiau, ond tu fas i bleidiau, eraill, i mewn i'r ddadl am y dyfodol a sut allwn ni feddwl am ddyfodol Cymru—ym marn fy mhlaid i—tu fewn i'r Deyrnas Unedig ond mewn Teyrnas Unedig sydd wedi cael ei hailwampio mewn ffordd sy'n gallu creu llwyddiant am y dyfodol.
Ac yn olaf, Llywydd, jest i ddweud dwi wedi rhoi datganiad mas yn barod am y pethau sy'n digwydd yn Palestine ac yn Israel, sydd yn tynnu sylw at y gyfraith ryngwladol ac sydd wedi cael ei gytuno gyda'r fforwm aml-ffydd sydd gyda ni yma yng Nghymru.
Brif Weinidog, fel eraill, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth Lafur wedi cael ei hailethol, yn ogystal â’r ffaith eich bod wedi eich ailbenodi’n Brif Weinidog a’r tîm o Weinidogion rydych wedi’u cynnull ynghyd i yrru Cymru ymlaen dros y pedair blynedd nesaf. Mae fy nghwestiwn y prynhawn yma’n ymwneud â sut y bydd hynny'n digwydd yn nhermau polisi ac am fecanwaith y Llywodraeth yn hytrach na phenodiadau’r Llywodraeth. Fe fyddwch yn cofio imi gadeirio tasglu'r Cymoedd yn y Senedd ddiwethaf, a chyn hynny, roedd gennym strwythurau a oedd wedi galluogi gwahanol feysydd polisi a Gweinidogion i weithio gyda'i gilydd i gyflawni polisi yn rhanbarth y Cymoedd. Rwy'n arbennig o bryderus, fel y byddech yn ei ddisgwyl, ynglŷn â sut rydym yn gwneud yn siŵr bod y gwaith o ddeuoli'r A465 yn sicrhau'r gwerth mwyaf posibl, a sut rydym yn sicrhau bod polisi’n dal i ganolbwyntio ar Flaenau’r Cymoedd. Felly, buaswn yn ddiolchgar, Brif Weinidog, pe gallech amlinellu eich syniadau ynglŷn â hyn ar hyn o bryd. Rwy'n croesawu cywair eich datganiad y prynhawn yma ar gydweithio, gweithio’n gydweithredol ac estyn allan er mwyn dod â phobl ynghyd, ac nid yn unig wrth i chi gynnull eich Llywodraeth ond wrth ichi reoli’r Llywodraeth hon wedyn, rwy'n gobeithio y gallwn weld y dull hwnnw'n cael ei ddefnyddio i gyflawni polisi yn rhai o rannau tlotaf y wlad hon.
Lywydd, diolch i Alun Davies am hynny ac rwy'n talu teyrnged i'r gwaith y bu’n rhan ohono, yn dod â syniadau a phobl ynghyd i sicrhau bod cymunedau'r Cymoedd yn rhannu popeth y gallwn ei gyflawni yma yng Nghymru. Mae gennym ni yn y Llywodraeth hon ddau Aelod sy'n cynrychioli cymunedau'r Cymoedd yn uniongyrchol, ac rwyf eisoes wedi siarad â hwy am y rôl y gallant ei chwarae yn sicrhau bod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo.
Lywydd, mae’r gwaith ar fecanwaith y Llywodraeth yn mynd rhagddo. Roedd yn wythnos eithaf llawn yr wythnos diwethaf, fel y gwyddoch, a bellach mae angen inni symud ymlaen a mynd i’r afael â rhai o'r materion sylfaenol eraill y mae angen i chi eu rhoi ar waith. Ond mae’r hyn y tynna Alun Davies sylw ato yn un o elfennau hollbwysig y Llywodraeth, sef sut y gwnawn yn siŵr fod gennym waith trawsbortffolio go iawn yn digwydd, ac os mai’r unig ffordd o ddatrys problem yn iawn yw drwy ddod â gwahanol Weinidogion ynghyd, ond nid yn unig gwahanol Weinidogion, ond yn aml iawn, partneriaid mewn mannau eraill, partneriaid mewn llywodraeth leol, partneriaid yn y trydydd sector—sut y gallwn sicrhau bod mecanwaith y Llywodraeth yn cefnogi'r ymdrech honno i weithio ar draws ffiniau a gwneud yn siŵr fod y gwahanol gyfraniadau sydd eu hangen oddi mewn i'r Llywodraeth, ond o'r tu hwnt i'r Llywodraeth hefyd, yn cael eu defnyddio i sicrhau cymaint o effaith â phosibl ar yr ardaloedd a'r bobl rydym yn ceisio eu gwasanaethu.
James Evans.
Diolch, Lywydd, a hoffwn gofnodi fy niolch i chi am gael eich ailbenodi i'ch swydd ac i'r Prif Weinidog hefyd am gael ei ailbenodi i'w swydd. Hoffwn hefyd nodi fy ngwerthfawrogiad a fy niolch i'm rhagflaenydd, Kirsty Williams, am ei gwaith a'i hymroddiad i bobl fy etholaeth ac i'r Senedd hon, ac i bobl Brycheiniog a Sir Faesyfed am fy ethol yn Aelod newydd o’r Senedd ar eu rhan. Diolch yn fawr iawn.
Brif Weinidog, yn fy etholaeth i ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed a ledled Powys, mae ysgolion bach fel Dolau, Llanbedr a Chradoc dan fygythiad o gael eu cau. Fel rhywun a gafodd ei addysg mewn ysgol fach wledig, rwy'n deall eu pwysigrwydd i’n cymunedau gwledig. Felly, Brif Weinidog, sut y byddwch chi a'ch Llywodraeth yn diogelu ysgolion gwledig ymhellach ac yn gwneud yn siŵr fod ganddynt gyllid digonol fel y gallwn sicrhau na fydd ysgolion bach gwledig yn cael eu cau?
Lywydd, hoffwn longyfarch yr Aelod newydd dros Frycheiniog a Sir Faesyfed ar gael ei ethol ac am achub ar y cyfle cynnar hwn i wneud ei gyfraniad cyntaf ar lawr y Senedd, ac am ddewis mater pwysig i dynnu sylw pawb ato. Fel y gŵyr, newidiodd ei ragflaenydd, fel yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, y polisi mewn perthynas ag ysgolion bach a gwledig i'w gwneud yn rhagdybiaeth o blaid cadw'r ysgolion hynny ar agor. Ac mae hynny'n newid yr her y mae awdurdodau lleol yn ei hwynebu wrth ymdrin â threfniadaeth ysgolion. Cyn hynny, nid oedd unrhyw ragdybiaeth o'r fath. Nawr, mae'n rhaid i awdurdodau lleol ddechrau o'r safbwynt, oni bai y gellir nodi rhesymau da dros beidio â chadw'r ysgolion hynny, y byddant yn parhau. Ac rwy'n gobeithio bod hynny wedi newid natur y ddadl. Yn sicr, mewn nifer o achosion, gwn fod hynny wedi rhoi mwy o rym i rieni sydd am ddadlau dros gadw ysgol ar agor mewn cymuned benodol.
Yn y tymor diwethaf hefyd, Lywydd, darparwyd cyllid ychwanegol i gydnabod rhai o'r costau ychwanegol anochel sy'n gysylltiedig â darparu addysg ar y raddfa lai honno. Nid oes dim o hyn yn golygu y bydd pob ysgol bob amser yn aros ar agor am byth, oherwydd weithiau gall awdurdodau lleol roi dadleuon da y byddai darpariaeth amgen o fudd i’r disgyblion a’r rhieni hynny. Ond credaf fod hyn wedi newid natur y ddadl ac nid oes gan y Llywodraeth hon unrhyw gynlluniau i newid y set newydd honno o amgylchiadau.
Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd, a diolch i'r Prif Weinidog am ei groeso i ninnau fel Aelodau newydd sbon.
Mae gan Lywodraeth yr Alban Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am ddiwylliant ac un sy'n gyfrifol am chwaraeon. Mae gan Lywodraeth San Steffan Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol am ddiwylliant a chwaraeon. Ond, er gwaethaf eich sylwadau am ddiwylliant a chwaraeon ar ddechrau'r sesiwn hon, unwaith eto, yma yng Nghymru, Dirprwy Weinidog sydd yna gyda chyfrifoldeb dros ddiwylliant a chwaraeon. Pam mae diwylliant a chwaraeon yn llai pwysig i Lywodraeth Cymru nag ydynt i Lywodraethau eraill?
Llongyfarchiadau hefyd i Heledd Fychan am ei hethol i'r Senedd ac am siarad ar y llawr y prynhawn yma.
Pwrpas datganoli yw i roi dewisiadau am y ffordd orau o wneud pethau yn yr Alban yn nwylo pobl yr Alban, ac i wneud pethau sy'n ein siwtio ni yn ein dwylo ni. Mae'r ffordd rŷm ni'n gweithio fel Llywodraeth yn hollol wahanol i'r ffordd y mae'r Llywodraeth yn San Steffan yn gweithio.
Bydd llais pwerus yn y Llywodraeth gan y Gweinidog newydd sy'n gyfrifol am ddiwylliant a chwaraeon. Fel rŷm ni wedi ei wneud dros y blynyddoedd, y pwynt—. Nid yw am statws yn y maes yma; y pwynt yw y bydd Gweinidog gyda phob cryfder i siarad lan am ddiwylliant a chwaraeon. Dwi'n hollol hyderus y bydd hi'n llwyddiannus ac yn gallu cynrychioli pobl sy'n gweithio yn y meysydd yna, sy'n mwynhau mynd i weld pobl yn chwarae neu fynd i weld pobl yn y theatr, ac yn y blaen. Dyna beth sy'n fwy pwysig imi—effaith y person sy'n gwneud y gwaith, nid jest y statws.
Brif Weinidog, hoffwn eich llongyfarch ar y cydbwysedd rhwng y rhywiau yn eich Llywodraeth, sy'n amlwg yn rhywbeth rwy’n ei gymeradwyo'n llwyr. Rwy'n siomedig o weld nad oes unrhyw fenyw ar feinciau'r Ceidwadwyr yma y prynhawn yma. Yn amlwg, bydd angen gweithio’n galed i lenwi esgidiau pobl mor rhagorol â Suzy Davies ac Angela Burns, er enghraifft, y bydd colled fawr ar eu hôl.
Roeddwn yn awyddus i archwilio'r grantiau tai arloesol rydym wedi bod yn eu dyfarnu drwy gydol y ddwy Senedd ddiwethaf ac ar ba sail y mae hynny’n ein galluogi i sicrhau bod yr holl dai newydd yn cael eu hadeiladu yn unol â safonau di-garbon, nid yn unig y tai cymdeithasol rydych eisoes wedi cyfeirio atynt, ac felly pa gynlluniau a allai fod gan eich Llywodraeth i ddiwygio Rhan L i sicrhau nad yw adeiladwyr tai preifat yn adeiladu tai o safon is o lawer na'r hyn rydym yn ei adeiladu fel tai cymdeithasol i’w rhentu.
Un o'r ystyriaethau pwysicaf i fy etholwyr yw'r ffaith bod gennym lawer iawn o ddinasyddion Ewropeaidd yn byw mewn limbo oherwydd methiant y Swyddfa Gartref i roi statws preswylwyr sefydlog iddynt. Mae'n ymwneud â'r fenyw 94 oed sydd wedi byw bron i 60 mlynedd yn y wlad hon a thalu ei threthi ac sydd bellach yn ansicr a all fod yn siŵr o gael gofal y GIG ar ddiwedd ei hoes, sy'n gwbl warthus; mae a wnelo hefyd â’r niferoedd enfawr o bobl eraill sy'n ceisio gwneud cyfraniad i'r economi, ac mewn rhai achosion, dywedir wrthynt na allant fynd ar gyrsiau i'w galluogi i gymhwyso, er enghraifft, fel cynorthwywyr dysgu, oherwydd dywedir wrthynt nad oes ganddynt statws preswylydd sefydlog cywir o hyd. Felly, tybed a allech ddweud wrthym pwy yn eich Llywodraeth a all fynd at y Swyddfa Gartref a Llywodraeth y DU i ddarganfod pryd y byddant yn datrys yr achosion gwarthus hyn, sy'n barhad o sgandal Windrush yn ôl pob golwg.
Wel, Lywydd, rwy'n falch iawn o arwain Llywodraeth lle mae dwy ran o dair o'r Gweinidogion yn fenywod. Yn wir, bydd fy mhlaid yn parhau â thraddodiad y Senedd wrth sicrhau bod cynrychiolaeth yn y Senedd hon yn adlewyrchu’r Gymru rydym yn byw ynddi.
Rwy'n falch iawn fod gennym y grant tai arloesol ers sawl blwyddyn bellach. Yn anochel, pan fyddwch yn rhoi cynnig ar bethau am y tro cyntaf, bydd dulliau adeiladu arloesol yn costio mwy hyd nes y gallwch wneud iddynt ddigwydd ar raddfa fwy. Dyna pam fod gennym y grant. Ei nod yw galluogi arloesedd, ac yna i ddefnyddio'r arloesedd llwyddiannus ar y raddfa fwy honno. Dyna pam rydym yn hyderus y bydd yr 20,000 o dai rhent cymdeithasol y byddwn yn eu hadeiladu yn ystod tymor y Senedd hon yn dai ar gyfer y dyfodol, ac yn creu cymaint o ynni, er enghraifft, ag y maent yn ei ddefnyddio.
Nawr, gwnaethom ddechrau'r broses o ddiwygio'r rheoliadau tai yn nhymor diwethaf y Senedd, ac mae mwy i'w wneud. Bydd y Llywodraeth hon yn rhoi rhagor o gamau ar waith i sicrhau bod y safonau adeiladu tai yn cael eu cymhwyso'n gyffredinol ac nid mewn cyd-destun arloesol yn unig.
O ran y pwyntiau a wnaeth Jenny Rathbone am ddinasyddion Ewropeaidd sy'n byw yma yng Nghymru, rwy'n rhannu ei rhwystredigaeth yn llwyr, ac yn fwy na hynny, ynglŷn â'r ffordd y mae unigolion sydd wedi dewis byw yng Nghymru, pobl sydd wedi gwneud cyfraniadau enfawr i Gymru, bellach yn teimlo bod hynny oll wedi ei danseilio. Rydym wedi rhoi bron i £2 filiwn i gronfeydd Cyngor ar Bopeth yng Nghymru i roi cyngor i bobl ynghylch caffael statws preswylwyr sefydlog. Rydym wedi darparu bron i £0.5 miliwn i Newfields Law, cwmni arbenigol, i sicrhau, pan fo amgylchiadau pobl yn arbennig o gymhleth, eu bod yn cael lefel ychwanegol o gymorth i ddod o hyd i ffordd drwy'r drysni newydd y mae Llywodraeth y DU wedi'i greu ar eu cyfer.
Rwy’n annog y Swyddfa Gartref, fel rydym wedi’i wneud sawl tro, i fabwysiadu ymagwedd ddigon hyblyg a thrugarog tuag at hyn, yn hytrach na dal ati i bennu terfynau amser sy’n golygu bod pobl yn ofni y byddant ar yr ochr anghywir i ddyddiad mympwyol ac yn colli’r holl hawliau y maent wedi'u mwynhau’n gwbl briodol a chyfreithlon hyd yn hyn. Yma yng Nghymru, rydym yn dathlu'r ffaith bod gennym bobl o rannau eraill o'r byd sy'n dod yma ac yn gwneud eu dyfodol hwy’n rhan o'n dyfodol ninnau, ac yn sicr, mae unrhyw beth sy'n tanseilio'r teimlad hwnnw’n destun gofid.
Diolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog am annerch y Senedd y prynhawn yma, a llongyfarchiadau ar ffurfio Llywodraeth, ac i'r Llywydd am gael eich ailethol i'ch swydd yr wythnos diwethaf. Mae'n bleser pur cael annerch y Senedd am y tro cyntaf fel yr Aelod Ceidwadol cyntaf dros Ddyffryn Clwyd, a hoffwn ddiolch i fy rhagflaenydd, Ann Jones, am gynrychioli'r etholaeth ers 1999.
Felly, Brif Weinidog, mae Dyffryn Clwyd yng ngogledd Cymru, fel sawl rhan o Gymru, wedi cael eu taro’n galed gan y pandemig, yn enwedig mewn meysydd fel y sectorau twristiaeth, lletygarwch a hamdden. Fe ddywedwch eich bod yn Llywodraeth adferiad, ond nid ydych wedi penodi Gweinidog twristiaeth. Sut y gallwch roi sicrwydd i fy etholwyr y bydd eu busnesau’n cael y sylw a'r cymorth sydd ei angen arnynt i ymadfer wedi'r pandemig a ffynnu mewn Cymru ôl-COVID? Diolch yn fawr iawn.
Wel, hoffwn longyfarch a diolch i Mr Davies am yr hyn a ddywedodd, ac am achub ar y cyfle i siarad yn y Senedd y prynhawn yma. O ran ei bwynt penodol, rwyf wedi sicrhau bod twristiaeth yn un o gyfrifoldebau Gweinidog yr Economi, a gwneuthum hynny oherwydd y gydnabyddiaeth o bwysigrwydd twristiaeth i economi cymaint o rannau o Gymru, gan gynnwys gogledd Cymru. Credaf y bydd eu cael yng nghrombil injan economaidd y Llywodraeth hon o fudd i'r diwydiant twristiaeth a lletygarwch, gan sicrhau bod y cyfraniad y gall y diwydiant ei wneud i economïau'r rhannau hynny o Gymru yn y dyfodol yn cael ei gydnabod yn y cyfrifoldebau mawr a ysgwyddir gan fy nghyd-Aelod Vaughan Gething bellach.
Oni fyddai’n well cyflwyno, yn y 18 mis nesaf, ardoll Holtham i fynd i’r afael â’r argyfwng cynyddol mewn gofal cymdeithasol yn hytrach na chaniatáu i’n polisi gofal cymdeithasol gael ei lunio yn San Steffan?
Lywydd, nid oes unrhyw fwriad i ganiatáu i'n polisi gael ei lunio yn San Steffan, ond mae’r gwaith o lunio polisïau’n synhwyrol yng Nghymru yn dibynnu ar y rhyngwyneb rhwng cyfrifoldebau datganoledig a chyfrifoldebau heb eu datganoli, fel y mae adroddiad Holtham ar ofal cymdeithasol yn ei nodi’n gwbl glir. Gallai rhai penderfyniadau y gallai Llywodraeth y DU eu gwneud yn y system fudd-daliadau arwain yn syml at arian o Gymru yn cymryd lle arian gan Lywodraeth y DU. Ni fyddai hynny o fudd i unrhyw un, gan gynnwys y bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac yn dibynnu arno.
Sam Rowlands.
Diolch, Lywydd, a diolch am y cyfle i siarad heddiw fel Aelod newydd arall yma yn y Senedd. A llongyfarchiadau, Brif Weinidog, ac i chi, Lywydd, ar gael eich ailbenodi y tro hwn.
Diolch am eich datganiad, Brif Weinidog. Fel siaradwyr blaenorol, rwyf innau hefyd wedi nodi bod twristiaeth wedi’i hepgor o deitl unrhyw Weinidog yn eich Cabinet, ond diolch am egluro'r pwynt fod hynny'n gyfrifoldeb i Weinidog yr economi. Fodd bynnag, hoffwn ddweud ychydig eiriau am y diwydiant twristiaeth. Fel y gwyddoch, ac fel y nodoch chi yn eich ymateb i Gareth yn gynharach, mae'r diwydiant twristiaeth yn hynod bwysig i ogledd Cymru, y rhanbarth rwy’n ei gynrychioli, gan gyflogi oddeutu 40,000 o bobl yn y rhanbarth hwnnw’n unig, a chyfrannu oddeutu £3.5 biliwn y flwyddyn i'r economi leol. Felly, gyda hynny mewn cof, buaswn yn gofyn: pa fesurau y byddwch yn ceisio’u rhoi ar waith i sicrhau bod y sector hwn yn cael cymorth priodol i ymadfer wedi'r argyfwng COVID?
Wel, Lywydd, mae'n bleser croesawu Mr Rowlands i'r Siambr; edrychaf ymlaen at y cyfraniadau y bydd yn eu gwneud, yn enwedig o ystyried ei brofiad blaenorol fel arweinydd awdurdod lleol yng Nghymru. Gwn y bydd ganddo bethau pwysig y gall eu cyfrannu at y ffordd rydym yn meddwl am y berthynas honno ac yn gwneud iddi weithio i bobl Cymru yn y dyfodol. Roedd yn gyfrifol, wrth gwrs, am nifer o weithgareddau'n ymwneud â thwristiaeth pan oedd yn arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
A gaf fi annog yr Aelodau’n ofalus, Lywydd, i beidio â chamgymryd yr wyneb am y sylwedd? Nid yw'r label mor bwysig â'r hyn sydd yn y jar, ac mae hynny’r un mor wir am dwristiaeth yma ag yr oedd am y celfyddydau a chwaraeon, a godwyd yn gynharach. Y peth pwysicaf y gallwn ei wneud i'r sector yw creu amodau o amgylch y coronafeirws sy'n golygu y gall fod ar agor ac aros ar agor. Ac fel y bydd ef yn gwybod, o ddydd Llun yr wythnos hon ymlaen, mae modd ailagor pob rhan o dwristiaeth, ochr yn ochr â lletygarwch dan do. A'r peth mwyaf y gallwn ei wneud i'r sector yw sicrhau gyda'n gilydd fod yr amodau'n cael eu cynnal yng Nghymru lle gall hynny barhau i ddigwydd. Ond rwy'n llwyr gydnabod, fel y gwna’r Llywodraeth gyfan, er y gall rhannau o dwristiaeth a lletygarwch ailagor bellach, ni allant fasnachu yn yr un ffordd ag y byddent wedi'i wneud cyn y pandemig. Mae'r £66 miliwn y bu modd i mi ei gyhoeddi—y penderfyniad cyntaf a wneuthum ar ôl cael fy ailbenodi’n Brif Weinidog—yn flaendal ar y £200 miliwn rydym wedi'i neilltuo er mwyn parhau i gefnogi busnesau. Gwn fod y sector ei hun yn awyddus inni weithio gyda hwy yn awr i ddatblygu ffordd wedi'i thargedu'n well o sicrhau bod yr arian hwnnw'n mynd yn bennaf i'r busnesau nad ydynt wedi ailgychwyn masnachu ar gapasiti llawn eto.
Felly, roedd yn anochel, yn ôl ym mis Mawrth y llynedd neu fis Ionawr eleni, gyda chymaint o fusnesau ar gau, fod angen ffordd eithaf uniongyrchol o gael arian allan gan Lywodraeth Cymru i ddwylo llawer o fusnesau. Rydym mewn sefyllfa wahanol heddiw, ac rydym yn dymuno bod mewn sefyllfa wahanol—sefyllfa gryfach—yn y dyfodol, a bydd hynny'n golygu sicrhau bod mwy o'r cymorth y gallwn ei gynnig yn mynd i'r busnesau sy'n dal i ymadfer, a thrafodaethau gyda'r sector twristiaeth ac eraill fydd y ffordd y byddwn yn gallu llunio ein cymorth mewn ffordd sy'n cyrraedd y mannau lle mae ei angen fwyaf.
Brif Weinidog, mae'n amlwg eich bod wedi cynnull tîm o Weinidogion sy'n dangos eich bod yn benderfynol o fynd i'r afael â'r ddwy her fwyaf sy'n ein hwynebu yn awr, ac y byddwn yn parhau i'w hwynebu am flynyddoedd i ddod: yr argyfwng hinsawdd a'r angen am fwy o gyfiawnder cymdeithasol. A chredaf mai'r hyn y mae'r rhan fwyaf o bobl yn dyheu amdano mewn bywyd yw ymdeimlad o sicrwydd—sicrwydd cyflogaeth, cartref diogel, sicrwydd i'w teuluoedd, eu cymunedau a'r amgylchedd. Mae angen inni ddechrau mynd i’r afael â’r systemau a'r ymddygiad sy’n niweidio sicrwydd a sefydlogrwydd cymdeithas ym mywydau pobl, a gwn y bydd eich Llywodraeth yn gwneud hynny.
Rwy’n falch iawn, Brif Weinidog, eich bod wedi cadw rôl Gweinidog gogledd Cymru, ac rwy’n falch iawn wir fod fy ffrind a fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths wedi derbyn y rôl honno. Ac rwy'n hyderus, Brif Weinidog, y bydd y Llywodraeth hon o dan eich arweiniad yn un ddiymhongar ond uchelgeisiol, yn wylaidd ond yn fentrus, mewn modd sy'n uno ond sydd hefyd yn bwrpasol, ac yn anad dim, yn ddewr. Brif Weinidog, roedd yn bleser gwasanaethu yn eich Llywodraeth yn y weinyddiaeth flaenorol. A wnewch chi ategu fy niolch i'r gweision sifil sydd wedi, ac a fydd yn parhau i wasanaethu’r Gweinidogion mor dda? Mae eu hymdrechion yn ystod y pandemig wedi bod yn arwrol. Ac yn olaf, i'r holl Weinidogion, y bûm yn gweithio gyda sawl un ohonynt yn y weinyddiaeth flaenorol, au revoir, pob lwc a gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ôl eich hunain er mwyn gallu edrych ar ôl y wlad.
Wel, Lywydd, mae’n bleser clywed gan ein cyd-Aelod Ken Skates yn ei gyfraniad cyntaf o'r meinciau cefn. Diolch iddo am yr hyn a ddywedodd, am dynnu sylw at y ffaith mai newid hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol yw'r prif elfennau newydd yn y ffordd y lluniwyd y Llywodraeth hon, ac adlewyrchu'r ymdeimlad o her ac o ddiogelwch a sefydlogrwydd y mae angen inni eu cymell ym mywydau pobl.
Rwy'n rhannu’r hyn a ddywedodd am yr ymdrechion a wneir gan weision sifil, y tu ôl i’r llenni yn aml, ac nid yw'n ffasiynol diolch iddynt am yr hyn a wnânt, ond pan feddyliaf am y £2 biliwn, pan oedd yn Weinidog yr economi, a ddarparwyd o goffrau Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol i fusnesau yng Nghymru, ni fyddai hynny wedi bod yn bosibl oni bai am dimau o weision sifil a fu’n gweithio nid yn unig yn ystod yr wythnos, ond ar benwythnosau ac yn hwyr fin nos i lunio'r systemau a oedd yn caniatáu i hynny ddigwydd. Un enghraifft yn unig yw hon o'r ffordd y mae’r ymdeimlad hwnnw o wasanaeth cyhoeddus yma yng Nghymru o fudd mawr i ni.
Diolch iddo hefyd am yr hyn a ddywedodd am ogledd Cymru. Hoffwn adeiladu ymhellach ar bopeth a wnaeth fel Gweinidog gogledd Cymru, gan fod maniffesto fy mhlaid yn cynnwys cymaint o bethau cyffrous ar gyfer dyfodol gogledd Cymru, o'r ysgol glinigol yng ngogledd-orllewin Cymru, i’r parc cenedlaethol newydd a fydd yn cynnwys, rwy’n credu, rhannau o etholaeth yr Aelod, i’r gwaith o ailadeiladu Theatr Clwyd, yr adeilad eiconig hwnnw ar gyfer gogledd Cymru, i bopeth sy’n digwydd yn Wrecsam i greu dyfodol i'r dref honno a’i gwneud yn ganolfan ar gyfer y pethau y gwyddom fod ei phoblogaeth yn eu gwerthfawrogi gymaint. Mae cymaint y mae'r Llywodraeth hon yn dymuno ei wneud ar ran gogledd Cymru, ac roedd Gweinidog yno i sicrhau bod holl bortffolios y Cabinet yn chwarae eu rhan i gyflawni hynny’n rhywbeth roeddwn yn awyddus iawn i'w gadw.
Yn olaf, John Griffiths.
Diolch, Lywydd. Hoffwn longyfarch y Prif Weinidog ar gael ei ailbenodi a'i benodiadau gweinidogol, ac rwy'n croesawu hefyd yr ymdeimlad o frys a bwysleisiodd o ran llywodraethu Cymru a rhoi'r rhaglen lywodraethu ar waith. Credaf fod y ffaith fod gennym bellach Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ogystal ag adran newid hinsawdd gwerth chweil, yn cynnwys trafnidiaeth a thai, yn cyd-fynd yn fawr â'r hyn y mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud am ailgodi'n decach ac yn wyrddach, drwy'r pandemig a thu hwnt. Credaf fod hynny’n argoeli’n dda ar gyfer y dull tecach a gwyrddach o weithredu, ond rwy'n croesawu'n fawr yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog am yr angen am frys wrth fynd i’r afael â’r heriau sydd mor bwysig i’n cymunedau ledled Cymru.
A hoffwn rywfaint o eglurder efallai gan y Prif Weinidog o ran cyfrifoldeb dros faterion rhyngwladol. Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ynglŷn â’i ddatganiad ar y sefyllfa ym Mhalesteina ac Israel. Mae cymunedau yn Nwyrain Casnewydd, yn enwedig cymunedau Mwslimaidd, yn bryderus iawn am yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd. Maent yn dymuno gweld cadoediad, maent yn dymuno gweld heddwch parhaol a phendant, ac maent yn dymuno gweld sgyrsiau a thrafodaethau’n ailddechrau cyn gynted â phosibl tuag at y nod hwnnw. Maent yn nodi cryfder milwrol llethol Israel o'i gymharu â Phalesteina, a chredant fod hynny'n galw am gyfrifoldeb mawr i fod yn fwy gofalus na'r hyn a welwn ar hyn o bryd gyda’r marwolaethau yn Gaza yn arbennig. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Prif Weinidog yn codi llais ar y mater, a hoffwn gael sicrwydd ganddo y bydd yn parhau i wneud sylwadau ar faterion rhyngwladol pan fo hynny mor bwysig i’n cymunedau yma yng Nghymru.
A gaf fi ddiolch i John Griffiths am y cyfraniad olaf pwysig hwnnw, Lywydd? Diolch iddo am yr hyn a ddywedodd ynglŷn â’r ffordd y mae'r Llywodraeth hon wedi'i llunio i gyflawni'r Gymru decach a gwyrddach y bu ef a minnau’n ymgyrchu drosti yn ystod cyfnod yr etholiad. Mae yna frys i sicrhau bod Cymru’n dod yn ôl ar y trywydd iawn yn sgil y coronafeirws. Effeithiodd ar gymaint o fywydau. Rwy'n gwybod sawl gwaith y mae'r Aelod wedi siarad ar lawr y Senedd yma am anghenion ein plant a'n pobl ifanc mewn addysg a'r hyn y maent wedi'i golli o ganlyniad i'r pandemig. Mae brys, onid oes, i fwrw ymlaen â'r pethau rydym wedi addo eu gwneud, y rhaglen ddal i fyny wych honno rydym am ei gweld ar waith fel nad yw'r golled y mae'r bobl ifanc hynny wedi'i dioddef yn nodwedd barhaol o'u bywydau. Roeddwn yn awyddus i ddiolch iddo am gydnabod hynny.
Yn ystod yr ymgyrch etholiadol, cefais y fraint o fod gyda John Griffiths yn Nwyrain Casnewydd, mewn rhan o'r ddinas lle roedd y gymuned y cyfeiriodd ati i'w gweld yn amlwg iawn. Cawsom lawer o gyfleoedd y bore hwnnw i drafod barn pobl am Gymru, ei dyfodol a'u rhan hwy yn y dyfodol hwnnw. Mae'n llygad ei le; mae’r digwyddiadau yn y dwyrain canol sy'n peri pryder i bob un ohonom yn arbennig o berthnasol i rai o'n cyd-ddinasyddion. Rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd John Griffiths am yr angen am ddatrysiad i’r hyn rydym wedi’i weld o fewn fframwaith cyfraith ryngwladol, yn seiliedig ar ddiplomyddiaeth yn hytrach na gweithredu milwrol. Pan fydd materion mewn rhannau eraill o'r byd yn effeithio'n uniongyrchol ar ddinasyddion Cymru, wrth gwrs y dylem sicrhau ein bod yn rhoi llais i'w pryderon.
Diolch yn fawr i'r Prif Weinidog. Byddwn ni nawr yn cymryd toriad byr ar gyfer caniatáu rhai newidiadau yn y Siambr. Os gall yr Aelodau sy'n gadael wneud hynny yn sydyn fel y gallwn ni lanhau'r Siambr ar gyfer derbyn Aelodau newydd i mewn i'r Siambr. Toriad byr, felly.