3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Confensiwn ar ein Dyfodol Cyfansoddiadol

– Senedd Cymru am 3:10 pm ar 13 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:10, 13 Gorffennaf 2021

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar gonfensiwn ar ein dyfodol cyfansoddiadol, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Mick Antoniw.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Ym mis Mai, fe wnaethom ni ennill mandad gan bobl Cymru i gyflawni ein maniffesto ni, a oedd wedi ymrwymo i greu Cymru gryfach, wyrddach a thecach. Yn ein rhaglen lywodraethu, rydym wedi amlinellu ein cynlluniau i fynd i'r afael â heriau parhaus y pandemig, ein hymadawiad ni â'r Undeb Ewropeaidd, ac argyfwng newid hinsawdd. Ein blaenoriaeth gyntaf ni yw adferiad a chefnogi ein gwasanaeth iechyd, ein hysgolion a'n heconomi i wneud hynny—y cyfan mor hanfodol i lesiant ein pobl ni.

Yr hyn sy'n amlwg hefyd, o ganlyniad yr etholiad, yw'r gefnogaeth i'n maniffesto ni ar gyfer newid a chydnabyddiaeth o'r angen i ddiwygio a gwella ein perthynas gyfansoddiadol ni â Llywodraeth y DU a chenhedloedd eraill y DU. Felly, gadewch inni ddweud yn eglur o'r cychwyn cyntaf: mae angen diwygio er mwyn ein galluogi ni i gyflawni ein hymrwymiadau i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, datblygu economi ffyniannus, a mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb hyd eithaf ein gallu. I gyflawni polisïau sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru, mae'n rhaid cael cyfres gynhwysfawr o ddulliau i wneud y gwaith.

Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi amlygu diffygion ein setliad presennol, yn ogystal â thensiynau cynyddol o ran gwedd gyfansoddiadol ehangach y Deyrnas Unedig. Rydym wedi edrych ar ein cefnogaeth ni i Deyrnas Unedig a Theyrnas Unedig y mae'n rhaid iddi newid. Rydym yn parhau i arwain y ddadl yng Nghymru ac yn gwneud hynny gyda chynigion ymarferol ar gyfer newid cadarnhaol, yn fwyaf diweddar yn yr ail argraffiad o 'Diwygio ein Hundeb: Cyd-lywodraethu yn y DU'.

Llywydd, yn ein maniffesto, fe wnaethom ni addo sefydlu comisiwn i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru, ac fe fyddaf i'n nodi heddiw sut yr ydym ni'n bwriadu cyflawni'r addewid honno. O ystyried effaith uniongyrchol ein trefniadau llywodraethu ni ar fywydau pobl, rydym yn awyddus i weld y comisiwn yn arwain ymgysylltiad â'r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth a helpu i greu cytundeb cyhoeddus ehangach. Rydym yn awyddus i'r comisiwn ganfod barn pobl ar y materion hynny sydd fwyaf pwysig yn eu golwg nhw o ran y ffordd y mae'r cyfansoddiad yn gweithio a goblygiadau hynny i'r gwasanaethau y maen nhw'n eu gwerthfawrogi. Ac rydym yn dymuno i'r comisiwn lunio cytundeb gyda chymdeithas ddinesig ynglŷn â sut rydym ni am ddiwygio cyfansoddiad y Deyrnas Unedig i adeiladu Cymru sy'n gryfach a phartneriaeth sy'n gryfach ond yn fwy teg a chyfartal.

Fe fydd y comisiwn yn gynhwysol ac fe fydd yn ymestyn y tu hwnt i Gymru hyd at wledydd, rhanbarthau a chymunedau eraill y Deyrnas Unedig i ystyried sut y gallwn ni adeiladu partneriaeth gyfansoddiadol sy'n well. Rydym yn disgwyl i'r comisiwn fod yn wynebu tuag allan ac yn ymgysylltu â chymdeithas ddinesig a'r cyhoedd mor eang â phosibl, ar gyfer cynnal sgwrs wirioneddol genedlaethol am ddyfodol Cymru. Yn benodol, rydym yn dymuno i'r comisiwn estyn allan at y rhai na fydden nhw fel arall yn barod i gymryd rhan mewn dadl o'r fath, at y bobl a'r cymunedau hynny sydd wedi ymddieithrio oddi wrth wleidyddiaeth i raddau helaeth iawn, neu sydd wedi mynd yn amheus, yn hytrach, ynglŷn â'i pherthnasedd i'w bywydau nhw a bywydau eu teuluoedd nhw a'i gallu i wneud gwahaniaeth.

Byddwn yn sefydlu comisiwn o ddinasyddion. Byddai'r rhain yn bobl i gynrychioli'r amrywiaeth yn ein cymdeithas a'n cymunedau ni, ac yn cynnwys rhai sydd â'r sgiliau a'r galluoedd sy'n deillio o brofiadau gwirioneddol bywyd a fydd yn eu galluogi nhw i estyn allan ac ymgysylltu ag eraill. Eu tasg fydd ceisio nodi a meithrin cytundeb ynglŷn â'n gwerthoedd ni a'r Gymru yr hoffem ei gweld.

Fe fyddwn ni'n annog y comisiwn i ystyried sut y gall ei waith gefnogi'r saith nod llesiant, a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a gweithredu mewn ffordd sy'n gyson â'r pum ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf.

Fe fyddwn ni'n annog y comisiwn i nodi a dysgu o'r enghreifftiau gorau o ymgysylltu â dinasyddion a bod yn arloesol yn y ffordd y mae'n ymdrin â'i dasg. Mae'n rhaid iddo fod yn gomisiwn i'r bobl, gan gymryd rhan mewn sgwrs gyda phobl, gydag ymgysylltiad gwirioneddol ar lawr gwlad, a'r ffordd y byddwn ni'n cyflawni hynny fydd ein her fwyaf ni. Fe fydd angen inni ddatblygu ieithwedd newydd o ran ymgysylltu, un sy'n osgoi iaith gwleidyddiaeth a chyfansoddiadau yr ydym ni mor gyfarwydd â hi, ieithwedd sy'n ymdrin â'r pethau sy'n berthnasol i fywydau pobl yn uniongyrchol. Ond i wneud hyn, fe wyddom fod yn rhaid i waith y comisiwn gael ei lywio gan dystiolaeth a dadansoddiad cadarn.

Yn ogystal â'n galwad ni am dystiolaeth ac ymgysylltiad ag academyddion yn ôl ein harfer, rydym ni'n bwriadu sefydlu panel o arbenigwyr yn gyfochrog â'r comisiwn. Fe fydd y panel hwn yn ymgymryd ag ymchwil a dadansoddiadau y gall y comisiwn ddatblygu syniadau ac argymhellion ohonynt. Rydym yn rhagweld y bydd y panel yn cynnwys arbenigedd sefydledig o Gymru a thu hwnt. Fe fydd yn cynnig arbenigedd a data cadarn a gwybodaeth a fydd, rwy'n gobeithio, yn rhyddhau mwy o amser i'r comisiynwyr ar gyfer canolbwyntio ar y sgwrs fawr yr ydym ni'n awyddus i'w chychwyn.

Yr allwedd i sicrhau llwyddiant y comisiwn fydd ei gyfansoddiad. Fe fydd yn rhaid iddo fod yn fedrus ac yn annibynnol. Fe fydd yn rhaid iddo gynrychioli'r gymdeithas y bydd yn ymgysylltu â hi i'r graddau mwyaf posibl. Fe fydd hyn yn cynnwys cynrychiolaeth o amrywiaeth o gefndiroedd gwleidyddol a dinesig. Fe fydd yn rhaid iddo allu dangos ei arbenigedd hefyd, a bydd yn rhaid i'w aelodau gynrychioli pob oedran a'u tynnu o'r ystod ehangaf bosibl o sectorau mewn cymdeithas ddinesig: sefydliadau cyhoeddus, preifat, trydydd sector, dinesig a llawr gwlad yn ogystal â phartneriaid cymdeithasol.

Fe fydd swyddogaeth y cadeirydd neu'r cyd-gadeiryddion yn allweddol ac fe fydd angen iddi roi arweiniad wrth weithio tuag allan yn ogystal â meithrin cytundeb o fewn y comisiwn. Dros yr haf, fe fyddwn ni'n ystyried y materion yn fanylach ac yn cael trafodaeth bellach am y comisiwn gyda'r holl bleidiau a gynrychiolir yn y Senedd, ac rwy'n bwriadu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi yn ystod tymor yr hydref, a hynny cyn gynted â phosibl. Diolch, Llywydd.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 3:16, 13 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddweud fy mod i'n croesawu'r ffaith eich bod chi wedi gwneud y datganiad hwn i'r Siambr heddiw yn hytrach nag i'r cyfryngau yn gyntaf? Rwyf i o'r farn y gallai rhai o'ch cyd-Aelodau ddysgu llawer oddi wrthych, Gweinidog.

Fel rydym wedi dweud yn y gorffennol, nid ydym o'r farn fod yna unrhyw awydd ymhlith y cyhoedd i hon fod yn flaenoriaeth ar hyn o bryd, ond rydym ni'n derbyn bod gan Lywodraeth Cymru wahanol safbwyntiau, a dyna pam rydych chi wedi cyflwyno'r datganiad arbennig hwn. Rydym ni'n credu y dylai holl egni Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar flaenoriaethau eraill, fel mynd i'r afael ag adferiad economaidd, a sicrhau bod ein GIG yn gallu ymdopi â'r gwaith sydd wedi pentyrru ar hyn o bryd o ganlyniad i'r pandemig ac, yn wir, ar helpu ein hysgolion ni a'n system addysg ni i gael adferiad o COVID hefyd. Ond, o ystyried eich bod chi wedi gwneud y datganiad hwn, rwyf am ofyn nifer o gwestiynau heddiw. Yn gyntaf oll, roeddech chi'n dweud,

'O'r cychwyn cyntaf: mae angen diwygio er mwyn ein galluogi ni i gyflawni ein hymrwymiadau i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, datblygu economi ffyniannus, a mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb'.

Ac eto, y gwir amdani yw nad ydym wedi mynd i'r afael â thlodi, nad yw ein heconomi ni'n ffynnu mwy, nad yw ein gwasanaethau cyhoeddus ni gystal ag y dylen nhw fod, ond nid oes a wnelo hynny ddim â'r ffaith nad oes gan y Senedd hon y pwerau sydd eu hangen; ond oherwydd bod gennym ni Lywodraeth Lafur yng Nghymru sydd wedi methu â mynd i'r afael â'r materion penodol hyn dros y degawdau.

Nawr, rydych chi wedi sôn am bwysigrwydd y comisiwn hwn wrth symud ymlaen. A wnewch chi roi amserlen inni ar gyfer cwblhau ei waith? Fe gawsom restr faith gennych chi o sefydliadau unigol a rhanddeiliaid eraill yr ydych chi'n dymuno iddyn nhw fod â rhan yn y comisiwn. Beth fydd maint hwn? Faint fydd yn ei gostio? A fydd y swyddi hyn yn swyddi â thâl? Pa mor hir yw darn o linyn? Rwyf i o'r farn pe byddai'r comisiwn o faint sylweddol, fe fydd yn llawer rhy fawr ac yn llawer rhy anhylaw i allu cyflawni unrhyw ganlyniadau rhesymol.

Rydych chi wedi sôn am gael cadeirydd neu gyd-gadeiryddion o bosibl. Nid wyf i'n gwybod dim am y trefniadau y gallech chi eu rhagweld ynglŷn â gallu'r cadeiryddion i edrych ar y gwaith a chydlynu gwaith y comisiwn arbennig hwn, ond a yw hynny'n golygu cadeirydd a chyd-gadeirydd i'r panel arbenigol ac i'r comisiwn? Roeddech chi'n dweud eich bod chi'n dymuno cael comisiwn ag arbenigedd ganddo, ac eto rydych chi'n sefydlu panel arbenigol yn gyfochrog. A fydd hwnnw'n cystadlu ag ef o ran yr arbenigedd yr ydych chi'n disgwyl i'r comisiwn hwn ei gael? Yn eich barn chi, beth fydd allbwn y comisiwn hwn? Rwy'n cymryd yn ganiataol eich bod chi'n chwilio am restr o argymhellion i'r Llywodraeth eu hystyried, neu ai gwaith i'r Senedd hon fydd eu hystyried nhw yn eu cyfanrwydd?

Yn bwysig iawn, a fydd y comisiwn hwn yn edrych nid yn unig ar y trefniadau cyfansoddiadol ledled y DU gyfan, ond a fydd yn edrych ar y trefniadau datganoli a chyfansoddiadol yng Nghymru hefyd? A fydd yn rhoi ystyriaeth i'r galw yn ein hawdurdodau lleol ni a'n rhanbarthau ni yng Nghymru i weld datganoli mwy o gyfrifoldebau iddyn nhw—i'r gogledd, i'r gorllewin, i Abertawe ac ardal dinas Abertawe, fel mae Mike Hedges yn ein hatgoffa ni'n rheolaidd? Rwy'n credu bod y pethau hyn yn rhai na ddylid rhwystro'r comisiwn rhag eu hystyried, ac rwy'n credu fod yna awydd i ystyried y pethau hynny, ac, yn wir, os gwneir hynny, credaf y byddai honno'n sgwrs ddefnyddiol iawn i ni ei chael.

Pa fath o gwestiynau y byddwch chi'n gofyn i'r comisiwn eu hystyried? Mae'n rhaid bod gennych chi ryw syniad eisoes sut rai fyddan nhw. Mae'n amlwg eich bod chi wedi gosod stondin Llywodraeth Cymru eisoes yn eich papur, 'Diwygio ein Hundeb'. A fydd y comisiwn hwn yn edrych ar eich papur ac yn penderfynu a yw'r pethau hynny'n synhwyrol neu beidio, neu a fydd ganddo'r rhyddid yr wyf i'n credu y bydd ei angen ar unrhyw gomisiwn i allu gwneud rhywbeth defnyddiol na ellir ei wneud mewn ffyrdd eraill?

Rwyf am dawelu nawr am fy mod i wedi gofyn llawer o gwestiynau, Llywydd. Ond rwy'n croesawu'r ffaith eich bod chi wedi ymrwymo i ymgysylltu â phob plaid wleidyddol ynglŷn â hyn hefyd, ac rydym ni'n edrych ymlaen at allu cyfrannu mewn ffordd ystyrlon at ddatblygiad y comisiwn a'r gwaith pwysig yr ydych chi'n awyddus iddo ei wneud wrth symud ymlaen.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:21, 13 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, a gaf i ddiolch i Darren Millar am y datganiad cadarnhaol iawn ac adeiladol iawn a wnaeth ef, a'r llawer iawn o gwestiynau dilys iawn a ofynnwyd ganddo? Mae diwygio a darparu gwasanaethau, sy'n fater a gaiff ei godi yn y Siambr hon yn aml, yn un yr wyf i o'r farn fod yna gydnabyddiaeth eang nad yw'r ysgogiadau gennym i gyflawni rhai o'r polisïau y cawsom ein hethol i'w cyflawni mewn gwirionedd. Rydym wedi dadlau ers tro byd, er enghraifft, ym meysydd cyfiawnder—ystod eang o feysydd sydd o fewn ein cyfrifoldeb ni lle, er enghraifft, nad yw'r ysgogiadau allweddol gennym ni. Rydym ni'n ystyried meysydd cyfiawnder ieuenctid, y gwasanaeth prawf a'r teulu. Fe fyddai mor naturiol gweld y pethau hynny'n dod o dan yr un ymbarél lle mae rhai o'r ysgogiadau gyda ni, ond nid rhai o'r rhai allweddol. Ac mae cynnydd pellach yn y meysydd hynny'n ddigon rhesymol.

Rydym ni wedi edrych droeon hefyd ar faes yr heddlu. Ac, wrth gwrs, nid yn unig yr ydym yn gwneud cyfraniad ariannol sylweddol tuag at gost yr heddlu, a hefyd tuag at gost swyddogion cymorth cymunedol—a ddaeth i mewn, peidiwch ag anghofio, oherwydd y gostyngiadau yn niferoedd yr heddlu, felly bu'n rhaid inni gymryd y cam hwnnw—ond pan fyddwch chi'n trafod pethau fel diogelwch cymunedol a'ch bod chi'n sylweddoli nad yw rhai o'r ysgogiadau allweddol gennych chi i ymgysylltu â'r heddlu ac o ran cynllunio a chyfeiriad plismona cymunedol, yna mae'n amlwg fod yna broblemau gwirioneddol o ran yr ysgogiadau penodol hynny.

Fe geir ysgogiadau allweddol hefyd o ran cyllid sy'n cael effaith. Rydym wedi colli symiau sylweddol o arian o ran cyllid yn sgil ein hymadawiad ni â'r Undeb Ewropeaidd, ac ni ddaeth arian yn ei le yn ôl i'r fan hon, lle byddai'n ariannu rhaglen weithredu gynhwysfawr o ran ein hamcanion polisi cyhoeddus ni. Felly, mae'n amlwg fod yna faterion sy'n bwysig iawn, ac sydd ymhlith y materion niferus a fyddai'n llunio sylwedd yr hyn y byddem ni'n awyddus i'r comisiwn ei drafod.

O ran yr amserlen, rwyf wedi cyflwyno nifer o ddarlithoedd hyd yma i sôn am gysyniad cyffredinol y comisiwn, ac mae'n ymddangos i mi mai un o amcanion y comisiwn fyddai ceisio cwblhau'r gwaith o fewn tua 18 i 24 mis, ond i wneud argymhelliad hefyd o ran sefydlu comisiwn cyfansoddiadol hir sefydlog. Oherwydd, mewn gwirionedd, os ydyn nhw am gyflwyno cyfres o argymhellion a chynigion pwysig, os ydyn nhw am greu consensws ynghylch meysydd allweddol a allai sicrhau llywodraethu gwell yng Nghymru, yna mae angen dwyn y pethau hynny ymlaen y tu hwnt i'r cyfnod hwnnw. Ond nid y math o gomisiwn dinasyddion yr ydym ni'n sôn amdano ar hyn o bryd fyddai'r corff penodol hwnnw.

Ac, o ran cyd-gadeiryddion, wel, boed hynny'n gadeirydd ac is-gadeirydd i gefnogi, neu'n gyd-gadeiryddion, mae'r rhain yn ddewisiadau sydd ar gael i ystyried sut y gellid rhannu'r cyfrifoldeb o arwain comisiwn o'r fath, a sut y gellid rhannu cyfrifoldebau gyda gwell cydbwysedd rhwng y rhywiau ac yn y blaen.

O ran llywodraethu a datganoli yng Nghymru ei hun, credaf mai un o'r pethau y byddai am edrych arno fyddai llywodraethu, yn sicr, nid yn unig o ran gwaith y fan hon, ond o ran llywodraeth leol, datganoli polisi, a sut y gallai llywodraethu fod yn well, gan fod yn agosach at y bobl, a bod yn fwy effeithiol ac yn y blaen. Felly, rwy'n credu bod yr holl faterion hynny'n faterion a godais i ychydig yn ôl mewn cwestiynau pan ofynnwyd imi am hyn hefyd.

Ac, o ran panel o arbenigwyr, wel, wrth gwrs, wrth ystyried dewisiadau, mae angen edrych ar y data caled hefyd i lunio gwerthusiad priodol i brofi ac ymchwilio i rai o'r syniadau a all gael eu cyflwyno, rhai o'r pethau y gallai pobl eu hawgrymu. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig.

O ran y cylch gorchwyl gwirioneddol, yn fy marn i, pan fyddwn ni'n gallu canfod cadeirydd ac is-gadeirydd neu gyd-gadeiryddion, ac yn dechrau ar y gwaith o lunio rhestr o bobl a allai fod yn addas i'r comisiwn, yna fe fyddwn ni'n awyddus i ymgysylltu â'r bobl hynny i nodi a datblygu beth fyddai'r math o gylch gorchwyl a beth fyddai'r mecanweithiau i ganiatáu i'r comisiwn wneud ei waith. Felly, fel y dywedais, yr her fwyaf mewn gwirionedd fydd sut y byddwn ni'n datblygu rhaglen ymgysylltu a sut y byddwn ni'n ffurfio comisiwn sydd mor amrywiol a chynrychioliadol â phosibl.

Fe ofynnodd yr Aelod am ei faint; nid yw ei faint wedi ei bennu'n gyfan gwbl. Rwy'n amau y bydd hwn yn gomisiwn o tua naw i 11 o bobl, felly fe fydd yna ddewisiadau anodd, yn amlwg. Nid yw hwnnw'n rhif absoliwt, ond mae'n ymddangos i mi mai dyna'r math o strwythur gweithredol y byddem ni'n dymuno ei weld yn cael ei sefydlu.

O ran y sgwrs ei hunan, wel, ni allwch fynd at bobl Cymru a dweud, 'Rydym yn mynd i gael trafodaeth am ddyfodol Cymru, llywodraethu Cymru, gwerthoedd Cymru' a cheisio pennu'r paramedrau ar gyfer cyflawni hynny—hynny yw, o ran eithrio safbwyntiau y byddai pobl yn awyddus i'w mynegi. Oherwydd os ydych yn mynd i ymgysylltu â phobl, fe fyddan nhw'n cynnig amrywiaeth eang o safbwyntiau, a phethau nad ydym ni erioed wedi meddwl amdanynt efallai, ond mae'n bwysig ei bod yn gynhwysol a'i bod yn sgwrs agored, ac yn sgwrs ddilys hefyd.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:26, 13 Gorffennaf 2021

Diolch yn fawr ichi, Cwnsler Cyffredinol, am eich datganiad, a diolch yn fawr hefyd i Mr Millar am ei gydnabyddiaeth y bydd ei blaid e'n fodlon cydweithio â'r confensiwn yma. Cwnsler Cyffredinol, fel cyd-gyfreithiwr, dwi'n croesawu'r confensiwn yma, dwi'n croesawu'r cyfle i drafod materion cyfansoddiadol, ond dim rhywbeth i'r nerds cyfreithiol ddylai hyn fod. Mae eisiau iddo fe gynnwys, fel rydych chi'n dweud, holl bobl Cymru, o wahanol gefndiroedd a gwahanol ddiwylliannau. Dwi'n cytuno â chi, honna sy'n mynd i fod y broblem fwyaf ichi. Nid gwaith un plaid, nid gwaith un carfan yw creu y Gymru newydd a'r Gymru radical rydym ni ei hangen.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:27, 13 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Yn hytrach, dylai hyn fod yn waith y genedl gyfan, gan gynnwys y Torïaid, ei holl bobl, ei safbwyntiau i gyd, yn gweithio gyda'i gilydd. Fe all confensiwn ddechrau'r gwaith o greu democratiaeth wirioneddol newydd i Gymru, rhywbeth y mae ei angen arnom yn fawr. Ni all hon fod yn siop siarad arall i'r henuriaid gynnal y status quo.

Felly, mae'n rhaid i annibyniaeth fod yn rhan o'r gymysgedd o ddewisiadau a gaiff eu hystyried. Ni ellir ysgubo o'r neilltu y cynnydd yn y gefnogaeth i annibyniaeth fel rhywbeth a wrthodwyd yn ôl y sylwadau syml bod hynny wedi cael ei wrthod yn y blwch pleidleisio. Ni chafodd annibyniaeth ei gwrthod, a beth bynnag, fel y soniwch, Cwnsler Cyffredinol, roedd yna gefnogaeth sylweddol i drosglwyddo rhagor o bwerau o San Steffan i Gymru yn yr etholiad, beth bynnag a honnir gan rai ar feinciau'r Ceidwadwyr.

Mae Plaid Cymru, yn y gorffennol, wedi galw am sefydlu cynulliad dinasyddion, i drafod materion cyfansoddiadol a'r argyfwng hinsawdd hefyd. Rwy'n falch bod eich datganiad chi'n crybwyll eich bod yn bwriadu edrych ar hynny ac edrych ar brofiadau blaenorol eraill. Fe gafwyd rhai enghreifftiau ardderchog o gynulliadau dinasyddion effeithiol. Mae'r profiadau yn Iwerddon wedi dangos eu bod nhw wedi gallu trafod materion hanesyddol a chymhleth mewn ffordd sy'n creu cyd-ddealltwriaeth a thir cyffredin. Ac fe fydd yr Aelod dros Flaenau Gwent yn falch fy mod i'n sôn am enghraifft y cynulliad hinsawdd yno ym Mlaenau Gwent: cynulliad llwyddiannus o ddinasyddion a drefnwyd gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol fel ffordd o greu cytundeb ar sut y gallwn wella cymdeithas Cymru gyda ffordd ymlaen o ran yr argyfwng hinsawdd. Mae dysgu o enghreifftiau o'r fath, enghreifftiau tramor ac enghreifftiau yma yng Nghymru hefyd, yn hollbwysig wrth inni ddechrau ar ein cam nesaf ni ar daith datganoli: trafodaeth ystyrlon a gobeithiol gyda phobl Cymru ynglŷn â dyfodol ein cenedl ni.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:29, 13 Gorffennaf 2021

Oherwydd dyw'r setliad datganoledig presennol ddim yn gynaliadwy. Mae e'n ddarostyngedig i fympwy Llywodraeth San Steffan. Dim ni sy'n sofran; Llywodraeth San Steffan sydd o hyd yn dweud eu bod nhw'n sofran. Dylai'r sofraniaeth fod fan hyn gyda phobl Cymru. Mae power grab Llywodraeth Boris Johnson yn gonsýrn i nifer ohonom ar draws y pleidiau. Roedd y TUC yn ddiweddar wedi dweud eu bod nhw'n cael comisiwn i edrych i gael rhagor o bwerau i Gymru, oherwydd bod consýrn mawr gyda nhw am y power grab o Lywodraeth San Steffan, a hynny yn tanseilio hawliau gweithwyr fan hyn yng Nghymru.

Rŷn ni'n gwybod, onid ydym, beth yw cynlluniau y Torïaid yn Llundain, a dwi'n gobeithio bod y Torïaid fan hyn yng Nghaerdydd yn mynd i sefyll lan a mentro i fod yn wahanol i'r Torïaid yn Llundain. Mae Mr Millar yn dweud y dylem ni ganolbwyntio ar faterion cyfansoddiadol, ond hynny o blaid yn Llundain sy'n gosod baner yr undeb dros wyth llawr yng nghanol Caerdydd, a hynny o blaid hefyd sydd yn beirniadu Llywodraeth Cymru am annog ei gweithwyr i ddysgu 'Bore da' a sut i ddweud 'Llanelli' yn iawn. Rŷn ni'n gwybod beth mae'r Llywodraeth yn San Steffan yn ceisio ei wneud; dyna pam fod rhaid inni gael confensiwn cryf fan hyn yn Nghymru i gryfhau ein setliad datganoli.

Ychydig o gwestiynau yn gyflym. Sut ydych chi'n mynd i sicrhau eich bod chi'n cael yr ystod eang iawn o bobl, sy'n cynnwys busnesau, undebau llafur ac aelodau o'r gymdeithas ffydd? I fod yn onest, dyna oedd methiant mawr comisiynau y gorffennol; doedden nhw ddim yn gynrychioladol o bobl Cymru. 

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:31, 13 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

O ystyried comisiynau'r gorffennol unwaith eto, gwahaniaeth enfawr gyda'r confensiwn hwn yw'r cylch gwaith eang. Roedd comisiwn Thomas yn eang iawn, ond roedd hwnnw ar gyfer ystyried y system gyfiawnder. Roedd comisiwn Richard ar gyfer diwygio yn y fan hon. Mae'r dasg mor enfawr, ac fe all hynny fod yn broblem. Beth ydych chi'n dymuno ei gael o'r confensiwn hwn?

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru

Sut ydych chi'n mynd i allu sicrhau, pan fydd pethau'n symud yn gyflym, bod y confensiwn yn aros yn berthnasol? 

Ac yn olaf, dwi wedi codi'r pwynt am bwysigrwydd annibyniaeth yn rhan o'r cwestiwn. Faint o gefnogaeth ydych chi wedi'i chael oddi wrth eich plaid yn Llundain ac oddi wrth Lywodraeth San Steffan tuag at y confensiwn yma?

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:32, 13 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Mae sawl cwestiwn i'w ateb. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi dros fisoedd yr haf, a chyda phleidiau eraill, i lunio confensiwn a all adeiladu Cymru well, Cymru wyrddach, Cymru decach a Chymru fwy ffyniannus. Diolch yn fawr.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n diolch i'r Aelod am ei sylwadau ef. Mae'n iawn i ddweud bod rhai ohonom ni sydd â chefndiroedd cyfreithiol yn hoffi ymroi i fanylion cyfansoddiadau a hollti blew cyfreithiol. Er mor bwysig ydyn nhw o fewn gweithrediad senedd, a deddfwrfa yn arbennig felly, mae'n rhaid i hanfod newid, a hanfod penderfynu ar y math o newid y gallem ni ei ragweld i Gymru, sut y gallem lywodraethu yn well ac mewn ffordd amgen, fod yn rhywbeth sy'n eiddo i bobl Cymru. Mae'n rhaid iddo fod yn eiddo i bobl Cymru, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i'r iaith fod yn iaith sy'n ymwneud â bywydau pobl, neu fel arall nid wyf yn credu y byddan nhw'n ymgysylltu.

Rwyf wedi dweud o'r blaen fy mod i o'r farn, pan edrychwn ni ar lywodraethu, fod gennym ddemocratiaeth mewn argyfwng, lle mae cymaint o bobl wedi ymddieithrio oddi wrth brosesau gwleidyddol neu fod ganddyn nhw gyn lleied o hyder ynddyn nhw, fel rydym ni'n ei weld o niferoedd y rhai sy'n pleidleisio mewn etholiadau. Rwy'n credu bod y pwyntiau a wnewch chi'n hollol gywir o ran sut y byddwn ni'n llunio fframwaith, cylch gorchwyl, sy'n ddigon eang i ehangu cwmpas y dadleuon er mwyn i bobl ymgysylltu, a bod â rhan, i ystyried pob dewis, ond eto, serch hynny, fe fydd yn canolbwyntio ar nifer o bwyntiau allweddol. Sut Gymru yr hoffech chi ei gweld? Beth ddylai dyfodol Cymru fod? Beth yw ein gwerthoedd ni? Beth ddylai ein perthynas ni ag eraill fod yn y dyfodol? Efallai fod hynny o ran amrywiaeth eang o ganlyniadau. Beth ddylai ein perthynas ni â Llywodraeth y DU fod, ac â gwledydd eraill o'n hamgylch ni? Rwy'n credu bod y rhain i gyd yn faterion cymhleth iawn y mae angen eu rhoi at ei gilydd. Ac mae hwnnw'n orchwyl anodd iawn. Fel y dywedais i, dyma un o'r heriau mawr, oherwydd mae'n rhaid i'r confensiwn hwn, y comisiwn hwn, fod yn rhywbeth sy'n wahanol iawn. Dyma gam tuag at ddyfodol Cymru.

Rydych chi'n codi, a hynny'n gwbl briodol, enghreifftiau mewn mannau eraill, oherwydd nid ni yw'r unig rai. Mae llawer o wledydd eraill yn wynebu heriau o'r fath yn eu cymdeithas nhw, eu democratiaeth nhw, eu llywodraethu nhw. Roeddech chi'n sôn am yr Alban; mae gan yr Alban ddiddordeb mawr yng nghyhoeddiad buan yr adroddiad hir sefydlog yno o waith cynulliad dinasyddion yn yr Alban, a ariannwyd ac a gefnogwyd gan Lywodraeth yr Alban dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwy'n credu y daw gwersi i ni o'r fan honno, yn ddigon posibl. Yn sicr, fe ddaw gwersi o rai o'r prosesau yn Iwerddon a'r Ffindir, ac o sawl rhan arall o'r byd, mae'n siŵr. Mae'n ddiddorol iawn gweld datblygiadau yng Nghatalonia, yn Sbaen, lle maen nhw'n symud tuag at system lle maen nhw'n sôn am wneud hynny erbyn hyn, gyda'r bwriad o ymgysylltu â phobl ynglŷn â'r hyn y mae'r bobl yng Nghatalonia yn ei ddymuno mewn gwirionedd, gyda golwg ar refferendwm yn y fan honno, yn ddiamau. Ond y gwir amdani yw bod pobl yn dechrau dweud bod yn rhaid cael cydsyniad y bobl, mae'n rhaid cael cefnogaeth y bobl i weld newid sy'n wirioneddol radical a hir sefydlog.

Roeddech chi'n cyfeirio at gomisiwn TUC Cymru; rwy'n credu bod hwnnw'n gam cadarnhaol iawn, ac rwy'n credu ei fod yn dangos arweiniad effeithiol a deinamig iawn yn edrych ar yr holl faterion hynny, y mae cymaint ohonyn nhw wedi codi yn ystod COVID. Onid yw'n beth rhyfedd, mewn llawer o ffyrdd, mai un o'r amheuon ynglŷn â'n setliad datganoli yw cyfle cyfartal, pan fo cymaint o'n gwaith ni'n ymwneud â chydraddoldeb a chyfle cyfartal? Ar fater y cyfyng gyngor o ran y canfyddiad ledled y DU, roeddech chi'n sôn am enghraifft y baneri, ac nid wyf yn awyddus i gael y ddadl honno eto. Ond mae'n ymddangos i mi mai dyma'r neges: mae gennych adeiladau—dyweder, adeiladau treth, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi—a nodir fel 'Llywodraeth y DU yng Nghymru' neu 'Lywodraeth y DU yn yr Alban', ond yn Lloegr dim ond 'Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi' ydynt. Pam nad ydyn nhw'n cael eu nodi fel 'Llywodraeth y DU yn Lloegr'? Rwy'n credu bod hynny'n rhoi neges benodol, sy'n nodi rhan o'r broblem benodol honno.

Sut i adeiladu'r comisiwn a'i wneud yn gynrychioliadol? Nid wyf i'n hollol siŵr a ddylwn i ddefnyddio cyfatebiaeth o'r byd pêl-droed, ond rwy'n credu mewn gwirionedd ei fod yn fater o geisio gweithio allan sut mae adeiladu'r garfan y byddech chi'n ei dymuno, a beth yw maint y tîm yr ydych chi'n awyddus i'w gael i wneud hynny, a'r dulliau o ddewis. Rwy'n credu y bydd amrywiaeth y garfan yn debygol o fod yn briodol, ac mae'n amlwg y byddwn ni'n chwilio am sêr, fel Gareth Bale, yn ystod y broses ymgysylltu dinesig.

O ran parhau i fod yn berthnasol a'r dibenion i'r dyfodol, rwy'n credu fy mod yn eglur iawn yn fy meddwl i nawr fod yn rhaid cael cam pellach, sef, pan fydd yr argymhellion wedi eu gwneud, pan gaiff yr adroddiad ei lunio, pan allwn weld casgliadau'r gwaith pwysig sydd wedi ei wneud, fe ddylid ystyried hefyd yr argymhellion ynghylch sut y gellir bwrw ymlaen â'r rhain—sut y gallech sefydlu, efallai, gomisiwn sefydlog a fyddai'n cyflawni'r argymhellion hyn mewn gwirionedd. Felly nid yw'n fater o gael proses o 18 i 24 mis ac anghofio amdani wedyn a cheisio, ymhen ychydig flynyddoedd, gwneud yr un peth eto. Mae'n rhaid i hon fod yn broses sy'n arwain at gasgliad yn y pen draw. Fel y dywedais, rwyf i o'r farn fod newid yn anochel, ac rwyf i o'r farn mai'r rhain yw'r mecanweithiau y gallwn eu defnyddio i greu consensws ar gyfer y newid hwnnw, a gwneud i newid ddigwydd.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 3:37, 13 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu sefydlu comisiwn cyfansoddiadol. Hyd yn hyn, dim ond Plaid Cymru, gydag annibyniaeth, a chefnogwyr diddymu sydd wedi bod yn gyson ac wedi cynnig man terfyn. Er gwaethaf hynny, mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru, ym mhob pôl piniwn a welsom, yn awyddus i barhau â datganoli fel ag y mae nawr, neu ymestyn rhywfaint arno. Rwy'n croesawu awgrym y cyd-gadeirydd. A gaf i atgoffa'r Gweinidog bod rhywun sydd wedi cael ei addysg yn Rhydychen, sydd wedi cael ei addysg mewn ysgol gyhoeddus ac sy'n fargyfreithiwr—boed yn wryw neu'n fenyw, neu os oes un o bob un, nid yw hynny'n rhoi amrywiaeth ichi; mae'n rhoi'r un cefndir yn union ichi.

Mae angen inni drafod man terfyn datganoli. Tri chwestiwn sydd gennyf i. Pa drafodaeth sydd wedi digwydd gyda meiri rhanbarthol Lloegr? Oherwydd ni allaf i weld datganoli'n gweithio pan yw Lloegr rhwng pump a chwe gwaith maint y tri arall gyda'i gilydd. Yn dilyn pwynt Darren Millar, mae datganoli bob amser wedi ymwneud â mynd â phethau i Gaerdydd, naill ai o'r awdurdodau lleol neu o San Steffan; a gawn ni rywfaint o drafodaeth ynglŷn â'r hyn y dylid ei ddatganoli i ranbarthau Cymru ac awdurdodau lleol Cymru, fel y gallwn weld rhywfaint o symudiad i'r cyfeiriad arall? Ac rwy'n gofyn cwestiwn eto yr wyf eisoes wedi ei ofyn i'r Prif Weinidog: a wnewch chi lunio rhestr o eitemau, fel arian cyfred, amddiffyn, diogelwch gwladol, na ddylid eu datganoli—y man terfyn? Fel arall, dim ond dau fan terfyn sy'n bosibl i ni: annibyniaeth neu ddiddymu.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:39, 13 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i Mike am y sylwadau yna. Maen nhw'n sylwadau perthnasol iawn. Mae'n hollol gywir; mae'n amlwg bod pobl, pan ofynnwch iddyn nhw am ddatganoli, yn awyddus i weld y prosesau sy'n gwneud penderfyniadau mor agos atynt â phosibl a chael gwybod y gallan nhw fod â chyfle i ddylanwadu ar y pethau hyn.

A gaf i ddweud hefyd fy mod i'n cytuno bod y ffordd yr ydym ni'n estyn allan ac yn meithrin ymgysylltiad ag eraill mewn gwahanol fathau o lywodraeth ddatganoledig, boed yn feiri rhanbarthol, boed yn genhedloedd eraill y DU, lawn cyn bwysiced? Mae hyn yn meithrin cynghreirio—yn adeiladu ac yn cydnabod buddiannau cyffredin. Rwy'n credu mai un o'r gwendidau o ran diwygio cyfansoddiadol yn y DU yw na fu yna unrhyw oruchafiaeth ddinesig ynglŷn â'r ffaith fod yna angen am newid, a bod gan bawb ddiddordeb cyffredin ynddo. Nid ymwneud yn unig â Chymru y mae hyn. Yn amlwg, rydym ni yma i ystyried dyfodol Cymru, a chael comisiwn i edrych ar hyn, ond mae hynny lawn cyn bwysiced, o ran democratiaeth ac ymgysylltu dinesig, yn Lloegr hefyd. Mae ein cytgord ni, ein hymgysylltiad ni â Lloegr a chenhedloedd eraill y DU yr un mor bwysig i ni â llawer o faterion eraill.

O ran llywodraethu, a'r mater y mae ef yn ei godi o ran datganoli pŵer ymhellach, dyna rywbeth yr wyf i wedi bod yn gefnogol iddo erioed. Ond pan ddywedais y byddai'n edrych ar lywodraethu yng Nghymru, mae'n rhaid i hynny gynnwys sut y gall llywodraethu fod yn well, a sut y gallai fod angen i lywodraethu fod yn agosach at y bobl. Rydym yn defnyddio'r dyfyniad hwn o eiddo Aneurin Bevan yn aml:

'Diben ennill grym yw gallu ei roi i eraill.'

Fe soniodd rhai am grebachu'r wladwriaeth dros lawer o flynyddoedd, ond mae'r pethau hyn i gyd yn mynd yn ôl at yr un peth: sut rydych chi'n mynd i roi mwy o rym i bobl a hynny mor agos at y bobl â phosibl?

Fe ddaw hynny â ni at y pwynt arall a gododd Mike, sy'n berthnasol yn uniongyrchol, ac mae hynny'n cydnabod ein rhyngddibyniaethau hefyd. Rwy'n credu, ni waeth beth fo'ch safbwynt chi, boed yn gadw'r undeb, yn ffederaliaeth, yn gydffederaliaeth, yn annibyniaeth neu ba fersiwn bynnag, gyda'r rhain i gyd fe ddowch chi'n ôl yn y pen draw i'r ffordd yr ydych chi'n ymgysylltu â'ch cymdogion, a pha fesur o gyd-ddibyniaeth sydd gennych chi ar faterion penodol, boed hynny'n gyllid, yn arian cyfred neu beth bynnag, ond beth ddylai'r mecanwaith fod i alluogi hynny i ddigwydd gyda chyfiawnder ymhlith yr holl gyfranogwyr. A dyna, mae'n ymddangos i mi, yw craidd y mater hwn, felly rwy'n cytuno â chi i raddau helaeth yn hynny o beth. 

Photo of Hefin David Hefin David Labour 3:42, 13 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cefnogi dull y Cwnsler Cyffredinol o ymdrin â hyn yn llwyr. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth beiddgar, a Chymru sy'n arwain y ffordd. Ni allem fod wedi gofyn am unrhyw beth mwy na hynny. Ond rwy'n teimlo rhywfaint o siom hefyd gan mai cynllun tymor hwy yw hwn, sy'n dibynnu ar gytundeb gan bobl eraill, tra bod cyfle i raddau helaeth o fewn cyrraedd Llywodraeth Cymru i gynhyrchu 'Senedd sy'n Gweithio i Gymru'. Fe wnaed y gwaith hwnnw eisoes, ac nid yw'r Gweinidog wedi gwneud unrhyw ddatganiad ynglŷn â hynny yn yr hyn a ddywedodd ef. Felly, a gawn ni weld rhywfaint o symudiad gyda hynny, os gwelwch chi'n dda? Fe fydd yn rhaid i blaid wleidyddol arwain y ffordd. Pam na all Llafur Cymru wneud hynny?

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae'n rhaid imi ddweud, nid wyf yn hollol siŵr beth oedd y cwestiwn oddi mewn i hynny. Roeddwn i'n ddiolchgar am y sylwadau a wnaethoch chi ynglŷn â Chymru yn arwain y ffordd, ac rwy'n credu eich bod chi'n sôn am ddiwygio'r Senedd hefyd, sy'n fater, yn amlwg, a fydd yn ystyried sut y bydd Senedd i Gymru yn gweithio mewn gwirionedd, sut y gall weithio'n well, a'r holl faterion sy'n ymwneud â hynny. Yr hyn yr wyf i am ei ddweud yw hyn: yn ystod yr haf, fe fyddaf i'n ceisio ymgysylltu ag Aelodau, ac â phleidiau gwleidyddol, a llawer o rai eraill y tu allan, i geisio safbwyntiau wrth inni ddechrau llunio cylch gorchwyl ynghylch yr hyn a ddylai fod yn llunio'r fframwaith yr ydym ni'n dymuno arwain arno. Mae yna wrthdaro; ar y naill law rydych chi'n awyddus i greu comisiwn annibynnol, ond ar yr un pryd rydych chi'n awyddus iddo allu gweithio'n effeithiol o fewn fframwaith, a bod yr arbenigwyr yr ydych chi'n eu dwyn ynghyd yn gallu cynnig y math o gymorth a chefnogaeth sydd ei angen yn y meysydd penodol hynny. Rwy'n gobeithio bod hynny'n ateb—. Nid wyf yn gwybod a wnes i golli rhan o'r cwestiwn. Os na wnes i, fe fyddaf i'n sicr yn ymdrin yn ysgrifenedig ag unrhyw faterion eraill sydd gennych chi.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:44, 13 Gorffennaf 2021

Cyn dod at y cwestiwn, gyda'ch caniatâd, Llywydd, liciwn i ddweud gair amboutu Elystan Morgan. Mi gollon ni Elystan yn ystod yr wythnos diwethaf, ac mi oedd e, wrth gwrs, yn un o gewri'r Blaid Lafur, y mudiad Llafur, ond hefyd gwleidyddiaeth Cymru. Un peth oedd yn gyson gan Elystan drwy gydol ei fywyd oedd ei gred yn ein democratiaeth ni a hawl i Gymru i lywodraethu ei hun. Rwy'n ei gofio fe yn sôn, mewn cynhadledd Llafur, rai blynyddoedd yn ôl, amboutu sut mae hynny yn symud ymlaen, sut dŷn ni'n symud ymlaen o ddatganoli. Dwi'n ei gofio fe'n sôn amboutu rhoi statws dominiwn i Gymru, ac roedd e'n sôn am y Statute of Westminster. Mae rhai pobl wedi fy nghlywed i'n dweud hynny yn y Siambr yma. Dwi'n credu ei fod e'n bwysig ein bod ni yn dod â phobl at ei gilydd, ac un o'r pethau roedd Elystan yn gallu ei wneud, wrth gwrs, oedd dod â phobl at ei gilydd. Dwi'n mawr obeithio y buasai fe wedi croesawu'r datganiad yma gan y Gweinidog.

Liciwn i ofyn ichi, Gweinidog, fel rydych yn symud ymlaen gyda'r gwaith yma—a dwi'n croesawu hyn, a dwi'n croesawu sylwadau Darren Millar hefyd, achos os rydyn ni'n creu Cymru newydd, Cymru wahanol, Cymru'r dyfodol, mae'n rhaid iddi fod yn Gymru i bawb, pob un ohonom ni, lle bynnag rydyn ni'n byw ac ym mha bynnag ran o'r Siambr rydym ni'n eistedd. A dwi'n mawr obeithio, Gweinidog, y gallwch chi greu strwythur fan hyn fydd yn creu y fath o Gymru rydyn ni i gyd eisiau ei gweld, fydd yn creu lle i bob un ohonom ni i fynegi'r fath o Gymru rydyn ni eisiau ei gweld yn y dyfodol, ond hefyd Cymru sy'n rhan ohonom ni gyd. 

Dwi'n tueddu i feddwl—a dwi'n dod at y cwestiwn nawr, Llywydd. Dwi'n tueddu i feddwl bod datganoli wedi marw. Mae cyfnod datganoli drosodd. Mi oedd hi drosodd llynedd pan wnaeth Llywodraeth San Steffan benderfynu anwybyddu barn y Senedd yma. So, mae'n rhaid inni symud ymlaen ac mae'n rhaid inni greu democratiaeth newydd. A dwi'n gobeithio y gallwn ni sicrhau, pan ydyn ni'n gwneud hynny, ein bod ni'n trafod rôl ein rhanbarthau yng Nghymru, rôl Cymru a rôl ein cymdogion ar draws Clawdd Offa, achos os ydyn ni'n mynd i lwyddo, trwy eich gwaith chi, Gweinidog, mae'n rhaid i bob un ohonom ni deimlo'n gyfforddus gyda'r cyfeiriad rydyn ni'n mynd iddo fe. 

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:46, 13 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch am y sylwadau yna. Ac, wrth gwrs, nid drwy fy ngwaith i ond trwy ein gwaith ni a gwaith llawer o bobl eraill y daw llwyddiant i'n rhan. Os caf i grybwyll Elystan Morgan, fe gefais i'r fraint fawr o weithio gydag Elystan Morgan am sawl mis yn ystod y cyfnod cyn refferendwm datganoli 1979, ynghyd ag eraill. Ac roedd ef yn un o blith cenhedlaeth ddisglair o wleidyddion yng Nghymru: Cledwyn Hughes, Jim Griffiths, John Morris—mae Elystan Morgan yn y grŵp hwnnw, ac mae llawer o rai eraill hefyd. Ond fe ddangosodd Elystan, yn sicr yn ystod yr ymgyrch honno, nid yn unig ei sgiliau areithio anhygoel, ond ei ddawn i ennill calonnau a meddyliau pobl i dderbyn syniad. Yn anffodus, fel y gwyddom, gyda'r refferendwm, nid oedd refferendwm 1979 yn ymwneud â datganoli i Gymru mewn gwirionedd, ond yn hytrach roedd yn ymwneud â diwedd y Llywodraeth Lafur yn y cyfnod arbennig hwnnw. Dyna'r adeg waethaf a fu erioed o bosibl i gynnal refferendwm. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gydnabod a chofio'r etifeddiaeth honno. Ac fe gefais gyfle i siarad gydag ef pan ddaeth i gynhadledd y Blaid Lafur ychydig flynyddoedd yn ôl, ac roedd ei feddwl yn dal i fod mor chwim a threiddgar ag erioed wrth ganolbwyntio ar y materion hyn ac am ddyfodol Cymru. Roedd yn bendant yn wladgarwr Cymreig mawr, yn sicr yn sosialydd ymroddedig iawn, ac yn ddyn nobl iawn i fod yn ei gwmni. Felly, gorffwys mewn hedd, Elystan.

O ran y sylwadau eraill a wnaethoch, Cymru i bawb, dyna yw diben hyn yn y pen draw. Cymru i bawb, Cymru lle'r ydym yn meithrin cytundeb ar gyfer bawb. Ac rwy'n dweud 'cytundeb' oherwydd, pan fyddwn ni'n codi terminoleg benodol allan o'n sgyrsiau, mae gennym faes mor enfawr o gydsyniad cyffredin, ac mae'n troi'r farn gyffredin honno'n broses o newid. Ac fe fydd hynny'n rhan o'r her wirioneddol wrth hanfod y gwaith hwn. Nid wyf i'n bychanu'r anawsterau a'r peryglon sy'n bodoli, oherwydd rwy'n credu ein bod ni'n gwneud rhywbeth gwahanol iawn, ac wrth gwrs mae'r heriau yno. Nid oes canllawiau ar gael ar gyfer proses ymgysylltu fel hon. Rydym yn edrych ar wledydd eraill, enghreifftiau eraill, ond ar ddiwedd y dydd mae cyflawni hyn yn ein dwylo ni.

Fe wnaethoch chi—. Y pwynt olaf, mewn gwirionedd, pan wnaethoch ddweud bod datganoli wedi marw, credaf mai'r hyn sydd wedi digwydd yw mai proses o ddatganoli pwerau a chyfrifoldebau gweinyddol o San Steffan oedd datganoli yn wreiddiol. Yr eiliad y daeth yr Alban a Chymru yn ddeddfwrfeydd a'r eiliad y daeth hon yn senedd ddeddfwriaethol, fe symudodd sofraniaeth i'r bobl. Yn anffodus, y broblem ar hyn o bryd yw nad yw ein cyfansoddiad ni fel y mae'n bodoli yn ymarferol wedi dal i fyny eto â'r hyn a olygir gan sofraniaeth mewn gwirionedd, a hynny yw pŵer y bobl yn cael ei ymarfer drwy gyfrwng eu cynrychiolwyr etholedig. 

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae materion cyfansoddiadol yn cyfrif. Yn ôl yn 2015 yn San Steffan, nodwyd wyth can mlynedd ers y Magna Carta gyda chyfres o ddigwyddiadau. Ystyrir y Magna Carta gan lawer o bobl yn eiliad ddiffiniol o ran y cyfansoddiad a'r gyfraith ym Mhrydain Fawr, y Deyrnas Unedig ac mewn llawer o wledydd eraill. Mewn gwirionedd, mae llawer un arall wedi dweud mai man cychwyn yn unig oedd hyn. Wrth gwrs, fe dorrodd y brenin ei addewid o fewn wythnosau os nad dyddiau wedi'r cytundeb ac fe'i dilynwyd gan ddigwyddiadau fel merthyron Tolpuddle; ganrifoedd lawer yn ddiweddarach fe gafwyd mudiad y Siartwyr, gweithredoedd etholfreintwragedd ac yn y blaen.

Y pwynt yw, mae materion cyfansoddiadol yn cyfrif, ac maen nhw'n symud ymlaen hefyd wrth ymateb i addasu'r cyfansoddiad yn ôl anghenion y bobl y mae'n eu gwasanaethu yn ôl y dydd, ac mewn gwirionedd mae'r datganiad hwn y gwnaethoch chi ei gyflwyno yn dangos hynny'n eglur iawn. Ond mae'n eithriadol o uchelgeisiol, oherwydd mae'n ceisio annog sgwrs gan ddinasyddion, comisiwn i'r bobl sy'n ymgysylltu â sgwrs pobl. Mae'n dipyn o ymrwymiad; mae'n wahanol i'r hyn sydd wedi digwydd o'r blaen. Felly, y cyfan yr wyf i am ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog ei wneud erbyn diwedd yr haf hwn yw—fel y dywedodd, mae wedi codi'r cwestiynau heddiw, sut, pryd, pam—ond mewn gwirionedd, erbyn diwedd yr haf, fe fyddwn yn gofyn iddo ddod yn ôl a thrafod y posibiliadau; sut rydym ni am wneud hyn, ble mae'r gefnogaeth arbenigol a fydd yn cyflawni'r fenter anarferol hon, sy'n fenter ddewr a radical, a chanolbwyntio ar y dinasyddion—ac nid ar yr elît na'r gwleidyddion—a nodi'r cerrig milltir hefyd ar gyfer cyfnod cyflawni'r gwaith hwn a'r hyn y bydd yn rhagweld y bydd yn ei gynhyrchu. Ond mae'n dilyn traddodiad da. Fe fyddem yn wleidyddion rhyfedd iawn, a dweud y gwir, pe byddem yn dod yma heb ymboeni am gyfansoddiad Cymru a'r DU heddiw o ran ei fod yn ateb anghenion y dinasyddion sydd wedi ein hanfon ni yma i'w gwasanaethu. Mae hon yn daith dda i fod arni.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:52, 13 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n diolch am y sylwadau a'r safbwyntiau hynny, ac mae bob amser yn bleser clywed rhywun yn dyfynnu am y Magna Carta ac am sofraniaeth a gwreiddiau sofraniaeth. Rwy'n sylwi ar eisteddle'r Llywydd, a dyna ble mae'r byrllysg, symbol o sofraniaeth. Wrth gwrs, arf oedd y byrllysg, sy'n dangos, mae'n debyg, o ble y daeth sofraniaeth yn wreiddiol: y sawl oedd â'r arf mwyaf. Ond nid awn ar ôl hynny. Y pwynt yr ydych chi'n ei wneud o ran sut, pryd a pham: dyna'r heriau gwirioneddol. A gwrandewch, fe fyddwn i'n ffŵl i ddweud, 'Mae gennyf yr holl atebion nawr, a'r darlun cyflawn o sut yn union y bydd hyn yn gweithio.' Mae ystyriaeth ddofn yn digwydd yma; fe fydd yna lawer o ymgysylltu â chi yn y fan hon unwaith eto, ac rwy'n sicr yn cytuno, erbyn diwedd yr haf neu erbyn inni ddychwelyd i'r fan hon, y byddwch chi'n disgwyl imi allu cyflwyno darlun sy'n gwneud cyfiawnder â'r holl egwyddorion a'r ymrwymiadau a nodais i heddiw, a hynny'n gwbl briodol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Ac fe fydd yn rhaid i mi gofio hynny—mai arf yw'r byrllysg. Fe allai fod o ddefnydd ryw dro. [Chwerthin.] Fe gymerwn ni seibiant nawr ar gyfer gwneud newidiadau yn y Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:53.

Ailymgynullodd y Senedd am 16:02, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.