12. Dadl Fer: Cymorth i fenywod sy'n dioddef anhwylder straen wedi trawma ôl-enedigol

– Senedd Cymru am 6:47 pm ar 14 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:47, 14 Gorffennaf 2021

Nawr, fe fyddwn ni'n symud ymlaen i'r ddadl fer, ac mae'r ddadl fer y prynhawn yma i'w chyflwyno gan Buffy Williams. Buffy Williams. 

Photo of Buffy Williams Buffy Williams Labour 6:48, 14 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Hoffwn roi munud o fy amser i Laura Anne Jones, Huw Irranca-Davies a Carolyn Thomas, os caf, os gwelwch yn dda. 

Mae anhwylder straen wedi trawma ôl-enedigol yn fater difrifol. Yng Nghymru yn unig mae dros 9,000 o fenywod yn dioddef, weithiau mewn distawrwydd. Mae mamau wedi cadw eu symptomau iddynt eu hunain felly mae'r cyflwr wedi aros yn anweledig, i raddau helaeth. Mae llawer o famau, yn anffodus, weithiau'n cael diagnosis anghywir o iselder ôl-enedigaeth, pan fo trawma genedigaeth anodd neu ddigwyddiadau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r enedigaeth neu gymhlethdodau ar ôl genedigaeth yn achosi i fam ddioddef anhwylder straen wedi trawma ôl-enedigol. Gall hyn gynnwys ôl-fflachiau o eiliadau trawmatig wrth esgor sy'n peri i fam ail-fyw ofn y trawma, breuddwydion a hunllefau sy'n peri gofid, symptomau gorbryder a diffyg awydd i drafod neu gael eu hatgoffa o'r digwyddiadau sy'n gysylltiedig â'r enedigaeth, yn ogystal â theimladau o arwahanrwydd ac anobaith.

Genedigaeth plentyn yw un o'r profiadau mwyaf dwys ac emosiynol ym mywyd menyw, ond weithiau gall y genedigaethau sydd wedi'u cynllunio orau ddod yn gyflym yn ddigwyddiad lle teimlir unrhyw beth ond llawenydd a hapusrwydd, yn anffodus. Gall anhwylder straen wedi trawma effeithio'n andwyol ar y cwlwm rhwng mam a'i baban, gan achosi gofid i'r fam a'r plentyn. Mae ymyrraeth gynnar yn hanfodol, ac rydym mor ffodus fod y bydwragedd a'r gweithwyr iechyd proffesiynol ymroddedig sy'n rhoi gofal i famau beichiog neu famau newydd yn allweddol i allu gwneud y diagnosis cynnar hwn. Dangosodd un astudiaeth fod 45 y cant o fenywod wedi profi genedigaeth drawmatig a bod hyd at 4.6 y cant o fenywod wedi datblygu anhwylder straen wedi trawma. Mae llawer o resymau dros enedigaeth drawmatig. Yn eu plith mae llawdriniaeth gesaraidd frys, ymyrraeth wrth esgor, esgor hir ac anafiadau a ddioddefwyd wrth roi genedigaeth.

Nid genedigaeth drawmatig oedd fy mhrofiad personol i, ond roedd y digwyddiadau a ddilynodd yn syth wedyn ac o ganlyniad uniongyrchol i'r enedigaeth yn drawmatig. Mae'r digwyddiadau hynny wedi effeithio ar fy mywyd bob dydd, ac maent yn dal i effeithio arno. Dywedwyd wrthyf dro ar ôl tro gan fydwragedd a meddygon ymgynghorol pa mor lwcus oeddwn i, lwcus fy mod wedi goroesi a lwcus i fod wedi cael bydwraig a oedd yn meddwl yn gyflym. 'Lwcus'—roedd lwcus yn air y deuthum i arfer â'i glywed dros y dyddiau, yr wythnosau a'r misoedd yn dilyn genedigaeth fy merch. Ond lwcus oedd y peth diwethaf a deimlwn: ofnus, wedi fy nhrawmateiddio, dryslyd, unig a phryderus; roedd y rhain yn eiriau mwy addas i ddisgrifio'r ffordd roeddwn yn teimlo. Mewn rhai ffyrdd, mae'n debyg fy mod yn lwcus; yn lwcus fod gennyf dîm o fydwragedd ymroddedig a ddaeth yn ffrindiau ymhen dim, a meddygon ymgynghorol a oedd yn ofalgar ac yn deall. Roedd y gofal a gefais yn yr ysbyty a phan ddychwelais adref yn y pen draw yn rhagorol; fodd bynnag, faint o famau newydd a mamau beichiog sydd ddim yn mynd i fod mor lwcus? Faint o famau a mamau sengl sy'n dioddef mewn distawrwydd? Faint o wŷr, partneriaid, teuluoedd a ffrindiau sy'n ceisio cefnogi a gofalu am fam wedi'i thrawmateiddio? Weithiau mae'r partner geni sy'n dyst i'r profiad gofidus hefyd yn dioddef eu siâr eu hunain o drallod a phryder heb fod yn yr enedigaeth; pwy sydd yno i'w cefnogi hwy?

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Buffy Williams Buffy Williams Labour 6:51, 14 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Mae llawer o grwpiau a sefydliadau ar gael i gefnogi mamau drwy'r cyfnod anodd iawn hwn, ond pan fyddwch yn gadael gofal y gweithwyr meddygol proffesiynol, ac yn ôl yn yr uned deuluol, rydych yn dechrau poeni; poeni eich bod yn fethiant, poeni eich bod yn siomi pobl. Rydych chi'n teimlo na allwch ofyn am help heb gael eich beirniadu ac rydych chi'n dechrau teimlo, lle bynnag y trowch, nad oes neb yn deall mewn gwirionedd. Faint o famau sy'n teimlo felly ar hyn o bryd? Faint o famau a theuluoedd sy'n cael eu gadael i frwydro ar eu pen eu hunain? Faint o blant fydd yn teimlo'r effaith negyddol hon, neu'n tyfu i fyny â pherthynas dan straen yn yr uned deuluol?

Mae gwasanaethau cymorth ar gael i fenywod yng Nghymru sy'n dioddef anhwylder straen wedi trawma ôl-enedigol drwy dimau iechyd meddwl amenedigol a sefydlwyd ym mhob bwrdd iechyd lleol. Mae pob bwrdd iechyd lleol ledled Cymru'n cynnig lefelau amrywiol o gymorth i famau a theuluoedd sydd angen cymorth iechyd meddwl. Mae gofyn cael atgyfeiriad drwy feddyg teulu neu ymwelydd iechyd er mwyn cael mynediad at y gwasanaethau hyn. Yn anffodus, mae rhai mamau'n cael diagnosis anghywir o iselder ôl-enedigol; mae angen inni sicrhau bod ein meddygon teulu, ein bydwragedd a'n hymwelwyr iechyd yn cael yr adnoddau a'r hyfforddiant sydd eu hangen arnynt i ofalu yn y ffordd orau am y mamau mwyaf agored i niwed ar adeg yn eu bywydau pan ddylent deimlo'n ddiogel, yn fodlon a'u bod yn cael gofal.

Wedi dweud hynny, rwy'n croesawu'r uned newydd i famau a babanod ym mae Abertawe. Mae hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir mewn perthynas ag iechyd a lles mamau cyn ac ar ôl iddynt roi genedigaeth. Hyd yn hyn, byddai mamau sydd wedi bod angen gofal iechyd meddwl dwys yn cael eu derbyn i gyfleusterau iechyd meddwl acíwt heb eu babanod, neu byddai angen iddynt deithio i uned arbenigol y tu allan i Gymru. Rhaid inni wneud mwy i fynd i'r afael â stigma iselder ôl-enedigol ac anhwylder straen wedi trawma ôl-enedigol. Rhaid inni sicrhau bod hyder gan famau i ymddiried yn ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gwych. Credaf fod yr uned i famau a babanod ym mae Abertawe'n gwneud hyn, a dylid cael unedau tebyg iddi ar draws pob un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru.

Hoffwn dalu teyrnged i'r holl staff mamolaeth yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod y tîm a ofalodd amdanaf fi wedi mynd y tu hwnt i alwad dyletswydd. Ceir llawer o grwpiau cymorth, fel Mums Matter gan Mind Cymru, a thra'n bod yn dathlu cynnydd mewn gofal arbenigol ym maes iechyd meddwl amenedigol, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud mwy, mae'n hanfodol ein bod yn gwrando'n well, ac mae'n hanfodol ein bod i gyd yn gweithio i gael gwared ar yr holl stigma sy'n gysylltiedig ag unrhyw fathau o salwch meddwl. Rwy'n gobeithio y bydd mamau sy'n dioddef gydag unrhyw fath o anhwylder straen wedi trawma yn cael cryfder o wybod nad ydynt ar eu pen eu hunain. Estynnwch allan os gwelwch yn dda. Gofynnwch am help. Hoffwn annog y Gweinidog i adeiladu ar arferion da uned mamau bae Abertawe, a sicrhau bod mamau sy'n dioddef unrhyw fath o anhwylder straen wedi trawma neu iselder yn cael eu cefnogi'n well yn y dyfodol. 

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 6:55, 14 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddechrau yn gyntaf drwy ddiolch i Buffy am roi munud i mi yn y ddadl hon, a diolch iddi hefyd am godi'r mater pwysig hwn. Ddirprwy Lywydd, fel gyda llawer o gyflyrau iechyd, gwneir diagnosis anghywir o anhwylder straen wedi trawma ôl-enedigol yn aml. Efallai na chaiff ei gofnodi o gwbl hyd yn oed, neu caiff ei ddiystyru fel rhywbeth y byddwch yn dod drosto neu'n anghofio amdano. Rydym wedi dod yn bell yn y ffordd rydym yn siarad am gyflyrau iechyd meddwl ac yn eu cydnabod a'u trin, yn enwedig yn y Siambr hon, a rhwng yr amser er pan oeddwn yn yr ail Gynulliad a nawr, rydym wedi teithio'n bell o ran siarad yn agored am y pethau hyn. Felly, mae i chi roi eich—. Rwy'n mynd yn emosiynol fy hun. Mae'r ffaith eich bod chi'n rhoi eich profiad bywyd eich hun mor bwysig, Buffy, a gallwn newid polisi wrth i bawb ohonom roi ein profiadau bywyd go iawn fel hyn. Felly, rydym yn siarad dros y bobl sy'n dioddef mewn distawrwydd. 

Fel rhywun—. Mae'n ddrwg gennyf, arhoswch eiliad. Fel rhywun sydd wedi profi genedigaeth drawmatig ei hun, ond a oedd yn ddigon ffodus i beidio â chael—. Roedd fy symptomau ar ôl yr enedigaeth yn ffurf ysgafn iawn ar anhwylder straen wedi trawma ôl-enedigol. Roeddwn yn ffodus iawn i gael cefnogaeth ar unwaith, a siaradais amdano'n agored, ac roeddwn yn ddigon ffodus i gael partner yno, sy'n aml yn peri pryder i mi pan soniwn am holl gyfyngiadau COVID a phartneriaid nad ydynt yn bresennol adeg yr enedigaeth, a phethau felly, oherwydd aeth hynny'n bell i gefnogi'r holl deimladau a'r profiad yr euthum drwyddo, oherwydd gallwn siarad amdano gyda rhywun a oedd yn deall beth roeddwn i wedi bod drwyddo. Ond mae siarad am y pethau hyn mor hanfodol bwysig, felly da iawn. Nid oeddwn wedi bwriadu mynd yn emosiynol—nid oeddwn yn meddwl y byddwn i'n mynd yn emosiynol, ond rwy'n meddwl imi wneud hynny am eich bod chi wedi peri i mi fod, ac rwy'n falch eich bod wedi dangos yr emosiwn hwnnw. Nid oes dim i fod â chywilydd ohono, oherwydd mae'n bwysig ein bod yn cyfleu pwysigrwydd hyn, a sut y mae'n effeithio ar bobl nad ydych yn credu y bydd yn effeithio arnynt hyd yn oed. 

Felly, mae angen inni gydnabod yr oddeutu 1,000 o achosion o anhwylder straen wedi trawma ôl-enedigol sydd wedi digwydd yng Nghymru bob blwyddyn am yr hyn ydynt, a'u trin a'u rheoli'n briodol. Ochr yn ochr â'r effeithiau uniongyrchol, hyd yn oed ar ôl geni babi iach, gall fod effaith fwy hirdymor hefyd y gallai fod angen inni sicrhau ei bod yn cael y sylw y mae'n ei haeddu. Gall genedigaeth drawmatig, yn enwedig genedigaeth gyntaf, fel y dywedodd Buffy, beri i fenywod beidio â chael mwy o blant, a gall hyd yn oed olygu nad ydynt yn gallu cael mwy o blant yn gorfforol. Os yw'r fenyw honno bob amser wedi breuddwydio am deulu mawr, gall hynny gymell teimladau o alar am y teulu y maent wedi'i golli, rhywbeth a fydd yn aros gyda hwy, ac mae angen cefnogaeth briodol ar gyfer hynny hefyd.

Felly, Ddirprwy Lywydd—mae'n ddrwg gennyf fy mod wedi mynd dros yr amser gyda fy emosiynau—gyda Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i wella cyflwr enbyd y ddarpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru, byddwn yn eu hannog i sicrhau bod darpariaeth briodol ar gael i fenywod ledled Cymru sy'n aml yn dioddef o'r cyflwr hwn mewn distawrwydd fel y nododd Buffy. 

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i Buffy, a hefyd i Laura am siarad mor ddewr, ac o brofiad personol, ac am ganiatáu i mi siarad i gefnogi eu galwadau'n llawn, a hefyd i grybwyll gwaith fy etholwr, Mark Williams, sydd wedi gwneud cymaint i ymgyrchu, wedi'i ysbrydoli gan ei wraig a'i brofiadau personol anodd ei hun, dros sicrhau bod lleisiau mamau a thadau'n cael eu clywed ym maes iechyd meddwl amenedigol ac ôl-enedigol, ac a fyddai am imi fod yma heddiw yn codi llais hefyd, i gefnogi galwad Buffy am fwy o gefnogaeth i fenywod sy'n dioddef anhwylder straen wedi trawma ôl-enedigol, ac i rai dynion a allai fod wedi'u heffeithio hefyd. Felly, yn yr amser cyfyngedig sydd ar gael, mae'n caniatáu imi gyfeirio pobl at y cymorth sydd ar gael gan eraill, fel Mothers for Mothers, y mae Mark yn falch o fod yn llysgennad ar eu rhan, a'r grŵp a sefydlodd ei hun, Fathers Reaching Out. Mae Buffy a Laura wedi bod yn ddewr heddiw wrth rannu eu straeon, ac os yw'n helpu un person yn unig i wybod nad ydynt ar eu pen eu hunain, a'i fod yn arwain at fwy o gefnogaeth i fenywod sy'n dioddef anhwylder straen wedi trawma ôl-enedigol, bydd y ddwy wedi gwneud gwasanaeth gwych i'r Senedd heddiw ac i'r cyhoedd rydym i gyd yn eu gwasanaethu. Diolch.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour 7:00, 14 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am godi hyn, y ddwy ohonoch. Rwy'n mynd i siarad am fy mhrofiad i a hefyd fy merch, sydd wedi rhoi—. Mae hi wedi dweud y caf siarad amdano. Mae hi hefyd yn meddwl ei fod yn bwysig iawn gan fod ganddi lawer o ffrindiau sy'n dioddef hefyd.

Ganwyd fy mhlentyn cyntaf yn yr ysbyty. Roedd hi'n fawr. Collais lawer o waed a bûm bron â llewygu wrth geisio ei chodi. Felly, cafodd yr ail ei enedigaeth ei hysgogi, ond y tro hwn nid oedd neb yn credu fy mod yn esgor mewn gwirionedd, a bu bron i mi roi genedigaeth yn nhoiled yr ysbyty. Cefais fy rhoi mewn cadair olwyn i fynd i'r ystafell esgor mewn panig. Roeddwn yn benderfynol na fyddai fy ngŵr yn methu genedigaeth y trydydd plentyn, cynlluniwyd genedigaeth gartref. Aeth hynny'n dda ond yn anffodus, roedd hi'n Nadolig. Cyrhaeddodd llu o ymwelwyr i weld y baban newydd-anedig. Roedd fy ngŵr yn sâl yn y gwely ac roeddwn i'n gresynu nad oeddwn yn yr ysbyty yn lle hynny, yn gorffwys. 

Yr wythnos y deuthum yn Aelod o'r Senedd, deuthum hefyd yn fam-gu. Fe wnaeth fy merch, athrawes, ddal COVID pan oedd hi 12 wythnos yn feichiog. Wythnos yn ddiweddarach, llewygodd sawl gwaith a chanfuwyd bod ganddi guriad calon afreolaidd, ac nid ydym yn gwybod a oedd hynny oherwydd y beichiogrwydd neu'r feirws. Daliodd yr eryr yn ddiweddarach. Cafodd y baban ei ysgogi'n gynnar am nad oedd yn symud digon. Roedd yn annisgwyl o fawr a threuliodd ddwy awr yn cael y pwythau roedd eu hangen i drin y niwed. Diolch byth, mae'r fam a'i baban yn iawn a bu'n rhaid i mi wneud yn siŵr eu bod eu dau'n iawn cyn dod i'r Senedd ar fy niwrnod cyntaf.

Nid ydych yn anghofio'r profiad o roi genedigaeth i'ch plant. Nid yw'n dilyn unrhyw drefn ragosodedig, ac mae'n dal i fod yn un o'r profiadau mwyaf trawmatig ac anodd, heb fawr o amser i wella, ac mae eich bywyd a'ch hunaniaeth yn cael eu meddiannu gan berson bach sydd angen eich sylw'n barhaus, ac mae pobl yn anghofio gofyn sut ydych chi. Pan welaf fy merch, byddaf bob amser yn gofyn iddi hi yn gyntaf sut mae hi cyn mynd i weld y babi.   

Photo of David Rees David Rees Labour 7:02, 14 Gorffennaf 2021

Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ymateb i'r ddadl, Lynne Neagle. 

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Buffy Williams am gyflwyno'r ddadl heddiw, a diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu. Mae'n bwnc sy'n agos at fy nghalon. Yn wir, un o'r pethau olaf a wneuthum yn y Siambr hon yn y Senedd flaenorol oedd helpu i gyflwyno dadl ar iechyd meddwl amenedigol. Mae'n bwnc sy'n haeddu lle pendant ar frig ein hagenda fel Llywodraeth, ac erioed yn fwy felly nag yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn. Rydym yn parhau i glywed am gynifer o deuluoedd newydd yn dechrau ar eu teithiau ar wahân a heb y gefnogaeth y gallent fod wedi'i disgwyl fel arall.

Rwy'n talu teyrnged i Buffy ac i Laura am rannu eu straeon a'u profiadau. Rwy'n gwybod nad yw'n beth hawdd i'w wneud. Mae rhan enfawr o fynd i'r afael yn briodol ag anhwylder ôl-enedigol ac anhwylder straen wedi trawma yn ymwneud â mynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig â hyd yn oed ei drafod. Felly, bydd yr hyn rydych yn ei wneud heddiw yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Clywn straeon di-rif yn ymwneud â staff meddygol, ffrindiau, teuluoedd a chydweithwyr sy'n llawn bwriadau da wrth iddynt dybio ar unwaith mai llawenydd yn unig a ddaw yn sgil genedigaeth newydd. Mae'n ei gwneud yn anodd, yn amhosibl, i rai ddweud 'na', nad oedd pethau'n iawn, eu bod yn parhau i beidio â bod yn iawn a bod angen help arnynt. Hyd yn oed pan fydd profiad anodd wedi'i gydnabod, fe glywch yn aml, fel y dywedodd Buffy, 'Onid oeddech chi'n lwcus?', pan fyddwch chi, mewn gwirionedd, yn teimlo'n unrhyw beth ond lwcus. 

Rhaid imi ddweud, mae hyn yn rhywbeth rwy'n ei adnabod fy hun, ar ôl profi genedigaeth gyntaf drawmatig. Roedd yn brofiad sy'n byw gyda mi hyd y dydd heddiw. Nid yw eglurder a thrawma'r munudau hynny, a'r dyddiau a'r wythnosau a ddilynodd, yn diflannu. Bydd y profiadau hynny a'r lleill y clywsom amdanynt heddiw yn llywio'r gwaith rwy'n ei wneud yn y maes hwn bob dydd, a dyma'r sylfaen y byddaf yn ei defnyddio i fesur y gwasanaethau sydd ar gael i fenywod yng Nghymru.

Fel y dywedodd Buffy, mae'n hanfodol cydnabod a chyfeirio at y cymorth sydd ar gael i unigolion pan fydd angen cymorth arbenigol arnynt. Yn dilyn diagnosis, bydd mamau'n cael cynnig amrywiaeth o ymyriadau yn dibynnu ar ddifrifoldeb eu hanghenion. Mae hyn yn cynnwys therapi gwybyddol ymddygiadol. Mae gwasanaethau'n gweithio gyda'r trydydd sector hefyd a gallant gyfeirio partneriaid at fudiadau gwirfoddol sy'n cynnig cymorth ar gyfer pobl sy'n dioddef yn sgil gweld digwyddiadau trawmatig yn digwydd i eraill. Ac mae'n hanfodol ein bod hefyd yn cydnabod effaith genedigaeth drawmatig ar bartneriaid ac eraill, a diolch, Huw, am eich sylwadau ac am hyrwyddo'r sefydliad yn eich etholaeth.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 7:05, 14 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Gall yr Aelodau fod yn sicr y byddaf yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y gallu i ddarparu'r cymorth hwn, a rhaid iddo fod ar gael mewn modd amserol a chynaliadwy. Gwyddom fod y pandemig wedi ei gwneud yn anos darparu'r cymorth bydwreigiaeth ac ymweliadau iechyd hanfodol gan unigolion penodol ar ôl rhoi genedigaeth. Byddaf yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â sut y mae hynny'n gweithio ar lawr gwlad yn awr, gan ddilyn y canllawiau mwy hyblyg a gyhoeddwyd bellach. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod bod profiadau wedi bod yn anos i gymaint o deuluoedd drwy gydol y pandemig, ac efallai eu bod wedi cynyddu'r risg o drawma geni i rai teuluoedd. Yn fwy nag erioed, mae angen i fenywod gael cyfle i drafod eu profiadau a'u trawma, er mwyn deall yn llawn beth a ddigwyddodd ac atal effaith fwy hirdymor. Mae cyfyngiadau ar ymweld ag unedau mamolaeth yn ystod y pandemig wedi bod mor anodd i rieni newydd, yn enwedig os yw'r enedigaeth wedi bod yn drawmatig. Mae'n ofynnol i fyrddau iechyd barhau i ystyried amgylchiadau unigol, gan gynnwys anghenion iechyd meddwl, ond mae angen inni fod yn siŵr fod hyn yn gweithio fel y dylai, ac felly gofynnwyd i fyrddau iechyd adolygu cyfyngiadau ymweld ar sail barhaus. Mae profion llif unffordd hefyd ar gael bellach mewn unedau mamolaeth i gefnogi gwell mynediad.

Serch hynny, er gwaethaf yr holl newidiadau lliniarol hyn, gwn y bydd profiadau'n anos i ormod o bobl. Byddai'n anghywir peidio â chydnabod hynny, ac mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod y gall effeithiau trawma geni ddigwydd ymhell ar ôl yr enedigaeth, yn bennaf oherwydd na fydd pob menyw yn cael diagnosis o anhwylder straen wedi trawma o fewn y ffrâm amser ar gyfer gwasanaethau amenedigol. Gwn fod pob bwrdd iechyd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i gynorthwyo menywod i drafod profiadau a'u hatyfeirio yn ôl yr angen, ond rwyf am weld hyn yn cael ei ddatblygu er mwyn edrych ar lwybrau ymarfer gorau i fenywod a theuluoedd yng Nghymru. Mae gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol, fel gwasanaethau iechyd meddwl eraill, wedi parhau drwy gydol y pandemig. Ledled Cymru, mae timau amenedigol cymunedol wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod cymorth ar gael er gwaethaf COVID-19, yn ddigidol a dros y ffôn, ond gwyddom fod darparu cymorth wyneb yn wyneb pan fo'i angen yn glinigol yn hanfodol. 

Ceir rhai themâu ehangach a datblygiadau mwy hirdymor y credaf y bydd gan Aelodau ddiddordeb ynddynt hefyd. Er enghraifft, rydym yn buddsoddi yn Straen Trawmatig Cymru, menter sy'n anelu at ddiwallu anghenion rhieni sydd wedi profi trawma. Mae rhywfaint o'r gwaith hwn wedi'i gyflymu oherwydd y pandemig. Mae pecyn hyfforddi sefydlogi emosiynol hefyd wedi'i ddatblygu i'w ddefnyddio ar draws sectorau. Nod yr hyfforddiant yw cynorthwyo pobl i deimlo'n fwy hyderus i helpu pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan drawma, ac rwy'n falch o ddweud, fel rhan o'r gwaith hwn, fod ffrwd waith arbenigol yn cael ei datblygu ar iechyd meddwl amenedigol. Bydd hyn yn gwella effeithiolrwydd therapïau seicolegol i bobl sy'n profi trawma ac ofn wrth roi genedigaeth. Mae ymwelwyr iechyd, bydwragedd, staff newyddenedigol a'r trydydd sector i gyd yn cyfrannu at sut y bydd hyn yn gweithio yn y dyfodol, gyda'r nod o ddatblygu llwybr trawma amenedigol. Rydym i gyd am wella'r pontio rhwng gwasanaethau o fewn y llwybr, yn ogystal â chynyddu capasiti gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol ac anarbenigol.

Mae £42 miliwn ychwanegol wedi'i glustnodi ar gyfer cymorth iechyd meddwl eleni, gyda £7 miliwn o'r arian hwnnw wedi'i dargedu at wella meysydd blaenoriaeth allweddol, gan gynnwys iechyd meddwl amenedigol. Fel y soniodd Buffy yn ei haraith, mae agor yr uned arbenigol i famau a babanod ym mae Abertawe yn gam sylweddol ymlaen. Bydd yn helpu mamau newydd i gael y cymorth arbenigol y mae ganddynt hawl i'w ddisgwyl yn nes adref. Mae agor yr uned yn gam sylweddol tuag at ddarparu gwell cymorth iechyd meddwl amenedigol i famau yng Nghymru, a byddwn yn monitro'n ofalus y newid i ddarparu gwasanaeth amenedigol i gleifion mewnol yn ne Cymru er mwyn sicrhau bod yr uned yn cyflawni fel y dylai.

Rwyf wedi ymrwymo'n bersonol i ysgogi'r gwaith pellach sydd ei angen i sicrhau bod y ddarpariaeth hon hefyd ar gael i famau sy'n byw yng ngogledd Cymru. Bu ymgysylltu sylweddol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a GIG Lloegr ynghylch uned ar y cyd i gynnig darpariaeth i fenywod yng ngogledd Cymru. Bydd rhwyddineb mynediad i fenywod o ogledd Cymru ac anghenion y Gymraeg yn allweddol i'r datblygiad hwn.

Rwyf hefyd yn falch o roi gwybod i'r Aelodau fod byrddau iechyd bellach wedi ailddechrau eu gwaith yn gwella cymorth amenedigol cymunedol. Torrodd y pandemig ar draws yr ymdrech i gyrraedd safonau a osodwyd gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion, ond mae'r gwaith gwella hanfodol hwnnw bellach yn parhau. Mae gennym hefyd raglen dreigl o archwiliadau gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion i ddeall cydymffurfiaeth ac i ddeall lle mae angen gwneud mwy o waith.

Yn rhy aml, nid yw lleisiau menywod wedi cael eu clywed ar faterion sy'n ganolog i'w bywydau. Ni allwn adael i'r pandemig grebachu'r cynnydd rydym wedi dechrau ei wneud, yn enwedig ym maes iechyd meddwl amenedigol. Rwy'n benderfynol o'n gweld yn dal i fyny ac nad ydym yn gadael unrhyw riant ar ôl yn ein dyletswydd i gefnogi ac amddiffyn teuluoedd pan fyddant yn fwyaf agored i niwed. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i Buffy am gyflwyno'r ddadl hollbwysig hon heddiw. Gwn y bydd mamau dirifedi a theuluoedd cyfan yn ddiolchgar am ei harweiniad yn rhoi hyn ar yr agenda heddiw a chwalu'r rhwystrau i drafod. Yn bersonol, byddaf yn falch iawn o'i gweld yn parhau i roi pwysau arnaf fi a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r mater hwn. Diolch yn fawr.

Photo of David Rees David Rees Labour 7:11, 14 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Weinidog, a diolch i'r holl gyfranwyr heddiw ar fater sydd bob amser yn emosiynol, ond fe wnaethoch yn dda, bob un ohonoch.

Photo of David Rees David Rees Labour

Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Gobeithio y cewch chi wyliau a thoriad braf.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:11.