2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 15 Medi 2021.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i wella lles anifeiliaid yng Nghymru yn ystod tymor y Senedd hon? OQ56805
9. Pa fesurau y bydd y Gweinidog yn eu cynnig i gryfhau'r ffordd y caiff anifeiliaid eu hamddiffyn yng Nghymru yn ystod tymor presennol y Senedd? OQ56824
Lywydd, deallaf eich bod wedi caniatáu i gwestiynau 1 a 9 gael eu grwpio.
Mae sawl ymrwymiad yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi fy mwriad i gyhoeddi cynllun lles anifeiliaid i Gymru, a fydd yn ymestyn dros dymor y Llywodraeth hon.
Diolch, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o weld cyfraith Lucy, y gwaharddiad ar werthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti, yn dod i rym yn gynharach y mis hwn. Hoffwn dalu teyrnged i'r holl ymgyrchwyr a gefnogodd y gyfraith hon, a diolch i chi'n gyhoeddus am gyflawni'r ymyrraeth bwysig hon. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar yr ymgysylltu a gafwyd gyda busnesau, bridwyr ac ati, i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r rheolau newydd ac yn cydymffurfio â hwy?
Diolch yn fawr iawn. Wel, roeddwn innau'n sicr yn falch iawn o weld y rheoliadau a basiwyd ar 23 Mawrth, ac yna—. Yn amlwg, cawsom gyfnod pontio o chwe mis i sicrhau bod perchnogion siopau anifeiliaid anwes, er enghraifft, yn gallu ystyried model gweithredu gwahanol, fel y gallent liniaru unrhyw effaith bosibl. Ond roeddwn yn falch iawn o weld y ddeddfwriaeth yn dod i rym.
Er nad yw'r ddeddfwriaeth yn caniatáu i drydydd parti masnachol werthu cŵn bach a chathod bach o dan chwe mis oed, mae'n anodd plismona bridwyr sy'n bridio islaw'r trothwy hwnnw, felly credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i sicrhau y gall ein hawdurdodau lleol ddefnyddio eu disgresiwn, er enghraifft, i edrych ar achosion busnes a gyflwynir, fel y gallant brofi a yw bridwyr wedi bridio'r anifeiliaid eu hunain neu a ydynt yn eu gwerthu dros rywun arall, oherwydd yn amlwg, byddai hynny wedyn yn torri'r rheoliadau. Mae cwmpas y rheoliadau wedi'i nodi'n glir iawn yn y ddeddfwriaeth. Roeddwn yn meddwl bod hynny'n bwysig iawn.
Rydym wedi parhau i weithio mewn partneriaeth. Nid ydym wedi eistedd yn ôl ac aros i'r ddeddfwriaeth ddod i rym. Rydym wedi parhau i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Fe fyddwch yn gwybod am y prosiect peilot a gynhaliwyd gennym ar orfodaeth, a'r cyd-weithgor gyda Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru a Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru. Buom yn gweithio mewn partneriaeth wrth ddrafftio’r rheoliadau hynny. Rydym hefyd yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol ar y prosiect y cyfeiriais ato yn gynharach, er mwyn sicrhau nad oes rhwystrau posibl eraill i orfodaeth. Ac rydym unwaith eto—. Yn fy nghartref i, nid ydym yn cael defnyddio'r gair 'Nadolig' tan fis Rhagfyr, ond rwyf am hyrwyddo, unwaith eto, cyn y Nadolig, y byddwn ni fel Llywodraeth yn hyrwyddo Aros, Atal, Amddiffyn i sicrhau bod prynwyr yn meddwl yn ofalus iawn cyn prynu anifail anwes cyn y Nadolig.
Weinidog, mae'r cyfyngiadau symud yn sgil COVID wedi arwain at gynnydd yn nifer yr anifeiliaid anwes sy'n cael eu dwyn, ac wedi golygu y bydd herwgydio anifeiliaid anwes yn dod yn drosedd yn Lloegr. Ar hyn o bryd, mae dwyn anifail anwes yn cael ei drin fel colli eiddo'r perchennog o dan Ddeddf Dwyn 1968, ond nid yw hyn yn ddigon i gydnabod y trallod emosiynol enfawr y gall hyn ei achosi i'r perchennog, a'r anifail anwes hefyd. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd, Weinidog, i gadw'r gyfraith ar ddwyn anifeiliaid anwes yng Nghymru yn unol â'r gyfraith yn Lloegr i sicrhau bod perchnogion anifeiliaid anwes yma'n cael eu diogelu i'r un graddau â phobl dros y ffin? Diolch.
Mae dwyn anifeiliaid anwes yn amlwg yn weithred droseddol, ac mae'n fater a gedwir yn ôl, fel y dywedwch, o dan Ddeddf Dwyn 1968. Fe fyddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, o'r tasglu dwyn anifeiliaid anwes a gyflwynwyd gan DEFRA, felly mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'u swyddogion cyfatebol yn DEFRA i sicrhau y gallwn gydweithredu. Yn sicr, credaf ein bod wedi gweld mwy o achosion o ddwyn anifeiliaid anwes yn ystod y pandemig. Mae aelod o fy nheulu fy hun wedi cynyddu mesurau diogelwch yn eu cartref oherwydd eu pryderon ynghylch dwyn anifeiliaid anwes, felly credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i weithio ar y cyd â DEFRA.
Yn dilyn saga Geronimo, yr alpaca, a'r holl ffys fuodd am ddifa un alpaca pan fydd yna 10,000 o wartheg yn cael eu difa am yn union yr un rheswm yng Nghymru bob blwyddyn—mae yna 10,000 o Geronimos yng Nghymru yn cael eu lladd bob blwyddyn, i bob pwrpas—ydych chi'n cytuno bod hynny, efallai, yn dweud llawer wrthym ni ynglŷn â'r diffyg dealltwriaeth sydd yna ymhlith y cyhoedd ynglŷn â realiti bovine TB? Ydy e hefyd yn awgrymu i chi efallai bod pobl dim cweit yn gwerthfawrogi pa mor anodd yw taclo TB yng Nghymru, a bod hynny'n golygu cymryd penderfyniadau anodd ynglŷn â delio â'r clwyf mewn bywyd gwyllt?
Credaf ei fod fel unrhyw beth arall mewn bywyd: os ydych yn ymwneud yn agos â mater, yn amlwg, mae eich dealltwriaeth yn well. Yn sicr, bu cryn dipyn o ddiddordeb yn y cyfryngau, fel y dywedwch, yn achos Geronimo. Mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i wneud popeth a allwn i gael gwared ar y clefyd ofnadwy hwn.
Byddaf yn adnewyddu'r rhaglen dileu TB. Fel y gwyddoch, rwy’n adrodd yn flynyddol i’r Siambr hon bob blwyddyn ar ein rhaglen dileu TB, ac rwy'n credu y byddaf yn gwneud datganiad i’r Siambr hon ym mis Tachwedd. Dros yr haf, manteisiais ar y cyfle i gyfarfod â Glyn Hewinson, academydd ym Mhrifysgol Aberystwyth y gwn fod Llyr Huws Gruffydd yn gwybod amdano, i glywed nid yn unig am yr ymchwil ond am frechu gwartheg, er enghraifft. Pan gyfarfûm â Glyn am y tro cyntaf, roedd bob amser yn dweud wrthyf fod brechu gwartheg yn erbyn TB 10 mlynedd i ffwrdd. Credwn bellach ei fod oddeutu pedair blynedd i ffwrdd, felly gallwch weld y cynnydd rydym yn ei wneud.
Gall unrhyw un nad yw wedi ei wahardd gan lys brynu anifail. Nid oes unrhyw brofion ar gyfer perchnogaeth, dim cyfarwyddiadau statudol ar sut i edrych ar ôl anifeiliaid. A yw'n syndod fod cymaint o anifeiliaid yn cael eu trin yn wael, nid bob amser am fod pobl eisiau eu trin yn wael, ond oherwydd anwybodaeth? A wnaiff y Llywodraeth gyflwyno cyfarwyddiadau a phrofion ar-lein i'r rheini sy'n dymuno prynu gwahanol anifeiliaid fel anifeiliaid anwes, y byddai'n rhaid eu pasio cyn prynu, fel bod pobl yn gwybod beth y maent yn ei wneud wrth brynu anifail? Ac efallai, weithiau, y byddant yn penderfynu peidio â'i brynu oherwydd faint o waith y mae'n ei olygu.
Yn amlwg, mae perchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid yn rhywbeth y mae gennym gryn dipyn o ddiddordeb ynddo fel Llywodraeth, a gwn fod hyn yn flaenoriaeth i grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru. Nid wyf yn siŵr mai gosod profion i bobl sy'n prynu anifeiliaid yw'r dull cywir o fynd ati. Tybed pwy fyddai'r gynulleidfa darged, er enghraifft. Tybed pwy fyddai’n plismona hynny. Yr hyn sy'n bwysig yn fy marn i yw ein bod yn edrych ar reoleiddio, yn edrych ar orfodi lles anifeiliaid.
Yr wythnos diwethaf, ymwelais â chyfleuster newydd y Dogs Trust yng Nghaerdydd, lle lansiais y gwaharddiad ar werthiant masnachol cŵn a chathod bach gan drydydd parti, ac roedd gennyf gryn ddiddordeb mewn gwybod—. Roeddwn yn gwybod bod y Dogs Trust, pe baech yn cael ci ganddynt—pe baent yn ailgartrefu ci gyda chi—yn parhau i gynnig cymorth. Yr hyn nad oeddwn yn ei sylweddoli oedd eu bod yn agored i gefnogi unrhyw un sy'n rhoi cartref i anifail anwes wedi'i ailgartrefu am oddeutu pedair wythnos, rwy'n credu yw hyd y cwrs. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn manteisio ar gynlluniau o'r fath hefyd.
Soniais am yr ymgyrch y byddwn yn ei chynnal ar y cyfryngau cymdeithasol cyn y Nadolig eto eleni; rwy'n credu mai hwn fydd y trydydd Nadolig inni wneud hyn. Unwaith eto, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn atgoffa darpar brynwyr fod angen iddynt wneud rhywfaint o ymchwil cyn prynu eu ci bach neu unrhyw anifeiliaid anwes eraill. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio ar y cyd, yn enwedig gyda sefydliadau'r trydydd sector—soniais am y Dogs Trust, ond rydym yn gweithio, yn amlwg, gydag elusennau a sefydliadau eraill—ac yn sicrhau bod gwybodaeth ac ymchwil ragorol ar gael i'r cyhoedd.